Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

Daeth i ben ar 14 Ebrill 2023
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

11. Polisïau

11.1 Yn yr adrannau a ganlyn, nodir y Polisïau Strategol a fydd yn sail i'r fframwaith ar gyfer gweithredu a chyflawni'r CDLl. Mae'r fformat a'r strwythur yn adlewyrchu elfennau craidd cynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy, a'r pedwar amcan llesiant neu'r themâu a nodir yng Nghynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn golygu bod modd croesgyfeirio'r Polisïau Strategol i'r amcanion strategol a nodir yn y ddogfen hon, yn ogystal â'r nodau Llesiant perthnasol. Bydd y polisïau strategol felly wedi'u seilio ar y themâu a ganlyn:

Ymyrraeth Gynnar - Sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn; pan fydd ei angen arnynt.

Pobl a Lleoedd Ffyniannus - Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i bobl a lleoedd yn ardaloedd trefol a gwledig ein sir.

Arferion Iach - Mae gan bobl ansawdd bywyd da, ac maen nhw'n gwneud dewisiadau iach ynglŷn â'u bywydau a'r amgylchedd.

Cysylltiadau Cryf - Pobl, lleoedd a sefydliadau y mae cysylltiad cryf rhyngddynt, sy'n gallu addasu i newid.

11.2 Cydnabyddir y bydd rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y themâu unigol a'u polisïau ac felly dylent gael eu darllen ar y cyd â'i gilydd. Mae testun esboniadol gyda phob polisi strategol.

Ymyrraeth Gynnar - Sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn; pan fydd ei angen arnynt.

11.3 Cydnabyddir y goblygiadau o ran llesiant unigolion, eu teuluoedd a'u cymunedau o fewn y Cynllun drwy ganolbwyntio ar greu lleoedd cynaliadwy a chynhwysol. Mae'r ymagwedd gysylltiedig hon ar draws yr holl themâu yn galluogi datrysiadau hirdymor er mwyn sicrhau bod cyfleoedd ar gael i gynnal a gwella llesiant.

11.4 Mae'n cydnabod bod lleoedd cynaliadwy yn cael eu creu drwy gydbwyso nodweddion ecogyfeillgar, economi ffyniannus a chynhwysiant cymdeithasol sy'n anelu i fod o fudd i genedlaethau'r dyfodol yn ogystal â thrigolion presennol.

11.5 Cydnabyddir bod y themâu a'r polisïau a ddyrennir iddynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd, ond nodwyd y canlynol o dan y thema Ymyrraeth Gynnar:

  • Polisi Strategol - SP 1: Twf Strategol
  • Polisi Strategol - SP 2: Canolfannau Adwerthu a Chanol Trefi

11.6 Mae'r polisïau a ganlyn yn ceisio cefnogi cyflawniad amcanion strategol y Cynllun, ond hefyd yn creu cysylltiadau lefel uchel ac yn sicrhau y cydymffurfir yn fras â'r Nodau Llesiant.

Polisi Strategol – SP1: Twf Strategol

Bydd y CDLl yn darparu ar gyfer twf economi gynaliadwy a gofynion tai yn y dyfodol drwy ddarparu:

  1. 9,704 o dai newydd i fodloni'r gofyniad tai a nodwyd o 8,822.
  2. Dyrannu isafswm o 71.21ha o dir cyflogaeth.

Mae'r ffocws ar adfywio a thwf yn adlewyrchu uchelgeisiau strategol craidd y Cyngor gan ddosbarthu datblygiad mewn modd cynaliadwy sy'n gyson â'r strategaeth ofodol a'r fframwaith aneddiadau.

11.7 Yr hyn sydd wrth wraidd y CDLl Diwygiedig hwn yw creu Sir gytbwys a chydlynol. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n cydnabod bod rôl y Sir fel sbardun cryf ac economaidd ar gyfer twf yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol yn rhoi lle canolog i Sir Gaerfyrddin mewn Cymru ffyniannus a chynaliadwy. Mae strategaeth twf y Cynllun wedi'i seilio ar egwyddorion datblygu cynaliadwy ac yn gyson â nodau a dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae strategaeth y Cynllun hefyd yn adlewyrchu arwyddocâd Llanelli fel rhan o Ardal Dwf Genedlaethol Bae Abertawe a Llanelli a nodwyd ym Mholisi 28 o'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a Chaerfyrddin fel ardal ar gyfer twf rhanbarthol fel y nodwyd ym Mholisi 29 - Ardaloedd Twf Rhanbarthol - Caerfyrddin a Threfi'r Daugleddau.

11.8 Mae'r ymagwedd strategol yn adeiladu ar y pwyslais corfforaethol ar adfywio a'r cyfleoedd a gyflwynir drwy'r Fargen Ddinesig a thrwy gyfleoedd adfywio a buddsoddi eraill. Ar yr un pryd, y mae hefyd yn cydnabod y cyfleoedd a geir drwy'r economi wledig ac anghenion amrywiol cymunedau ledled y Sir. Mae'r strategaeth yn cydnabod rôl cyflogaeth o ran creu Sir ffyniannus - gyda thwf priodol o ran tai ynghyd â chyfleoedd am swyddi a chyflogaeth.

11.9 Yn rhan o'i bolisi corfforaethol, adfywio yw prif amcan y Cyngor. Adlewyrchir hyn drwy:

  • Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022–2027;
  • Cynllun Adfer a Chyflawni Economaidd Sir Gaerfyrddin (2021);
  • Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: Strategaeth Gorfforaethol Newydd y Cyngor 2018–2033;
  • Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen (2019);
  • Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru (2021);
  • Cynllun Rhanbarthol De-orllewin Cymru ar gyfer Adfywio;
  • Bargen Ddinesig Bae Abertawe (2017);
  • Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe 2013-2030; a
  • Trawsnewidiadau: Cynllun Adfywio Strategol ar gyfer Sir Gaerfyrddin 2015–2030.

11.10 Mae'r ffocws hwn ar greu swyddi a buddsoddi yn seiliedig ar leoliad strategol Sir Gaerfyrddin a'i swyddogaeth ranbarthol o ran yr economi. Mae'r strategaeth hon yn ceisio cydnabod ac adlewyrchu hyn, a'r amcanion corfforaethol, trwy gefnogi a chreu lle sy'n ddeniadol i weithwyr a buddsoddwyr.

11.11 Drwy sicrhau bod ein gofynion o ran twf tai yn adlewyrchu, ac yn cefnogi, ein huchelgeisiau economaidd, mae'n galluogi ymagwedd gydgysylltiedig ac integredig er mwyn sicrhau na chaiff y gyd-swyddogaeth o sicrhau twf economaidd ei hystyried ar wahân i dai, ac fel arall.

11.12 Mae'r dull hwn yn gofyn am ddatblygu set gytbwys o amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd sy'n datblygu ar egwyddorion amcanestyniadau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar 2018. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod cyflenwad digonol o dai i gefnogi cyflawni ein huchelgeisiau economaidd a bodloni anghenion ein cymunedau.

11.13 Mae'r tueddiadau poblogaeth ac aelwydydd, a bennwyd drwy amcanestyniadau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar 2018, yn dilyn patrymau demograffig twf is tebyg amcanestyniadau blaenorol Llywodraeth Cymru. Nid ydynt fodd bynnag yn adlewyrchu uchelgeisiau cadarnhaol y Sir a'r Rhanbarth dros gyfnod y cynllun. Yn ogystal â hyn, mae'n rhaid ystyried cyfraddau cwblhau tai dros y blynyddoedd cynt, sydd yn llawer uwch na gofynion amcanestyniad 2018 Llywodraeth Cymru. Bwriedir i'r strategaeth hon a'i lefelau twf fod yn uchelgeisiol ond yn gyflawnadwy, ac adlewyrchu amcanion ehangach na'r CDLl Diwygiedig hwn yn unig.

11.14 Bydd y Strategaeth hon yn ceisio dosbarthu twf drwy hierarchaeth aneddiadau cynaliadwy sy'n deillio o'r opsiwn gofodol a ffafrir. Mae'n cydnabod yr amrywiaeth ar draws y Sir a chyfoeth ei rhinweddau o ran yr amgylchedd, bioamrywiaeth a'i thirlun naturiol ac adeiledig. Wrth gyflawni'r strategaeth hon, mae hefyd yn cydnabod cyfraniad ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin a'i hardaloedd trefol tuag at gyflawni ei gweledigaeth ar gyfer 'Un Sir Gâr'.

11.15 Byddwn yn cydweithio'n agos â phartneriaid, darparwyr seilwaith, datblygwyr, buddsoddwyr a chymunedau i gyflawni'r CDLl Diwygiedig a'i strategaeth, polisïau, a chynigion.

SG1: Adfywio a Safleoedd Defnydd Cymysg

Darperir ar gyfer dyraniadau defnydd cymysg ar y safleoedd a ganlyn:

Cyf. Safle.

Lleoliad a Defnyddiau Arfaethedig

PrC1/MU1

Gorllewin Caerfyrddin, Caerfyrddin

Cymysgedd o ddefnyddiau, yn cynnwys defnydd preswyl (darpariaeth ar gyfer 700 o dai newydd o fewn cyfnod y cynllun hwn), cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol ac amwynder. Roedd Ffordd Gyswllt Gorllewin Caerfyrddin yn ddangosydd cyflawnadwyedd allweddol. Mae'r ffordd hon bellach wedi'i chwblhau ac ar agor.

PrC1/MU2

Pibwr-lwyd, Caerfyrddin

Yn cynnwys cymysgedd o ddefnyddiau sy'n adlewyrchu ei leoliad strategol a'i gyfraniad at Gaerfyrddin. Mae'r defnydd yn cynnwys cyflogaeth, hamdden masnachol, addysg yn gysylltiedig â Choleg Sir Gâr a phreswyl (ceir darpariaeth ar gyfer 247 o dai newydd).

PrC2/MU1

Cyn Safle Gwaith yr Hen Gastell, Llanelli

Cymysgedd o ddefnyddiau yn canolbwyntio ar yr economi ymwelwyr, treftadaeth a hamdden. Dim darpariaeth breswyl wedi'i gwneud.

PrC2/MU2

Porth Trostre, Llanelli

Cymysgedd o ddefnyddiau sy'n adlewyrchu ei leoliad amlwg a'i hanes cynllunio.

PrC2/MU3

Hen Adeilad yr YMCA, Stryd Stepney, Canol Tref Llanelli

Cymysgedd o ddefnyddiau mewn lleoliad yng nghanol tref, gyda darpariaeth ar gyfer 8 uned breswyl

PrC3/MU1

Gwaith Brics Emlyn, Pen-y-groes

Darpariaeth i adfywio safle a ddatblygwyd o'r blaen. Mae Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands yn ddangosydd cyflawnadwyedd allweddol, ac yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd. Ceir darpariaeth i gyflawni datblygiad sy'n canolbwyntio ar y gymuned ynghyd â 177 o dai newydd.

SeC4/MU1

Glannau Porth Tywyn

Cymysgedd o ddefnyddiau sy'n canolbwyntio ar ddarpariaeth adwerthu briodol, ynghyd â defnyddiau masnachol / twristiaeth cysylltiedig. Dim darpariaeth breswyl wedi'i gwneud.

SeC16/MU1

Beechwood, Llandeilo

Yn cynnwys cymysgedd o ddefnyddiau sy'n adlewyrchu ei leoliad strategol a'i gyfraniad at Landeilo. Yn cynnwys cymysgedd o ddefnyddiau cyflogaeth, masnachol a adwerthu priodol. Mae'r safle yn rhan o ardal fwy a nodwyd yn barth perygl llifogydd C2. Bydd angen i geisiadau fodloni'r holl ofynion o ran hyn.

SeC20/MU1

Parc Gwyliau Talacharn

Cymysgedd o ddefnyddiau sy'n canolbwyntio ar gynigion twristiaeth a hamdden ac sy'n gysylltiedig ag ailddatblygu Parc Gwyliau Talacharn.

PrC1/MU3

Safle adfywio a Defnydd Cymysg Nant-y-caws

Safle mewn man strategol a ddefnyddir eisoes i reoli gwastraff mewn modd cynaliadwy. Mae'n cynnig cyfle yn y dyfodol i ddefnyddio ynni sy'n deillio o wastraff, a gweithgareddau cysylltiedig sy'n seiliedig ar gyflogaeth. Gellid nodi cyfleoedd i'r dyfodol drwy ddatblygu prif gynllun ar gyfer y safle.

Tabl 3: Adfywio a Defnydd Cymysg

11.16 Bydd yr uchod a'r defnyddiau a nodwyd, lle bo'n briodol, yn cael eu hystyried ymhellach drwy'r Canllawiau Cynllunio Atodol ar ffurf briffiau datblygu. Bydd y briffiau hyn yn ymdrin yn fanylach â datblygu'r safleoedd, mewn modd cynhwysfawr a chydgysylltiedig, gan sicrhau bod cynigion wedi'u hintegreiddio o ran trefnu gwahanol elfennau fesul cam a darparu sbardunau cyflawnadwyedd allweddol fel seilwaith.

SG2: Safleoedd wrth Gefn

Bydd Safleoedd Wrth Gefn yn cael eu rhyddhau i'w datblygu os na fydd y safleoedd a ddyrannwyd (a nodwyd o dan bolisïau HOM1, EME1 ac SG1) yn cyfrannu yn ôl y disgwyl at gyflawni strategaeth y Cynllun, neu lle bo angen ymateb i newid perthnasol a sylweddol i'r cyd-destun - gan gynnwys newidiadau i'r Polisi Cynllunio Cenedlaethol ymhlith newidiadau eraill.

Yr Awdurdod Cynllunio Lleol fydd yn penderfynu rhyddhau safle neu ddileu safle presennol sydd wedi'i ddyrannu oherwydd diffyg cyflawniad, a hynny'n unol â'r fframwaith monitro ac Adroddiad Adolygu'r CDLl yn y dyfodol.

Cyf. Safle:

Disgrifiad

SG2/1

Hen Lofa Morlais, Llangennech

Mae cyfraniad strategol posibl y safle, gan gynnwys cynigion yn seiliedig ar ddatblygiadau cyflogaeth a phreswyl yng nghyd-destun safle Bae Abertawe a Llanelli yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sydd ar ddod.

SG2/2

Tir ger Teras Arian, Porth Tywyn

Mae'r wefan yn cynnig potensial i ddarparu gofod cyflogaeth sy'n cynnwys elfen byw/gwaith.

SG2/3

Parth Cyflogaeth Cross Hands

Safle mewn man strategol yn gyfagos â chanolfan gyflogaeth sefydledig a all gynnwys unrhyw alw yn y dyfodol am unedau mawr sy'n fwy na 10,000 metr sgwâr. Mae'r safle'n agos at y cyfleusterau yn Cross Hands ac at y rhwydwaith priffyrdd strategol.

SG2/4

Hen Safle Ennis Caravans, Cross Hands

Mae'r safle hwn yn y Brif Ganolfan yn Cross Hands yn safle a ddatblygwyd o'r blaen ac yn cynnig cyfleoedd am ddatblygiadau preswyl yn y dyfodol. Mae'r penderfyniad i beidio â'i gynnwys fel dyraniad yn adlewyrchu amheuon ynghylch y gallu i gyflawni arno ar unwaith. Fodd bynnag, bydd yn cael ei fonitro a'i adolygu, a bydd ei gyfraniad yn y dyfodol yn cael ei ystyried yn unol â'r polisi hwn.

Tabl 4: Safleoedd wrth Gefn

Mae'n rhaid i gynigion i ddatblygu ar Safleoedd Wrth Gefn, gan gynnwys yn rhan o ddatblygiad defnydd cymysg:

  1. Gael eu cyflwyno'n unol â phrif gynllun cytunedig, a chan gydymffurfio â darpariaethau'r Cynllun hwn, a chynnwys yr holl Safle Wrth Gefn, a
  2. Pheidio ag arwain at or-ddarpariaeth a fyddai'n peryglu'r gallu i gyflawni ar safleoedd wedi'u dyrannu ac ar safleoedd cyflawnadwy.

11.17 Pwrpas y Polisi hwn yw sefydlu'r egwyddor o ddatblygiad defnydd cymysg (gan gynnwys tai) ar y safleoedd hyn a sbarduno'r farchnad i ddatrys materion a chyflwyno'r safleoedd lle bo angen.

11.18 Dylid darparu tystiolaeth benodol sy'n dangos yn glir, fel bo'r awdurdod cynllunio lleol yn fodlon, fod cynigion datblygu'n gyson â'r polisïau a ganlyn o fewn y CDLl:

  • PSD1: Atebion Dylunio Effeithiol: Cynaliadwyedd a Chreu Lleoedd
  • PSD2: Egwyddorion Prif Gynlluniau - Creu Cymdogaethau Cynaliadwy
  • PSD3: Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas
  • PSD4: Seilwaith Gwyrdd a Glas - Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd
  • TRA1: Gwelliannau i'r Seilwaith Trafnidiaeth a Phriffyrdd
  • TRA2: Teithio Llesol
  • SP9: Seilwaith
  • INF1: Rhwymedigaethau Cynllunio
  • CCH6: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel mewn Datblygiadau Newydd

11.19 Bydd yr angen am safleoedd wrth gefn yn cael ei fonitro'n agos drwy'r defnydd o safleoedd wedi'u dyrannu yn rhan o fframwaith monitro'r Cynllun hwn, ac adroddir ar hynny drwy'r Adroddiad Monitro Blynyddol. Os na fydd y safleoedd sydd wedi'u dyrannu (a nodwyd o dan bolisïau HOM1, EME1 ac SG1) yn cyfrannu yn ôl y disgwyl at gyflawni strategaeth y Cynllun, yna bydd y penderfyniad i ddefnyddio Safle Wrth Gefn yn cael ei wneud fel rhan o adolygiad ffurfiol o'r cynllun.

11.20 Mae angen nodi amrywiaeth o safleoedd wrth gefn er mwyn sicrhau bod strategaeth y CDLl yn rhoi digon o hyblygrwydd os bydd datblygiad ar dir wedi'i ddyrannu ac ymrwymiadau presennol yn dod i stop. Bydd sylw yn cael ei roi i ofynion Cymru'r Dyfodol a'r gwaith sydd ar y gweill o baratoi Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer y rhanbarth.

SG3: Penrhyn Pen-bre

Cefnogir cynigion sy'n cyfrannu at ddatgloi potensial y Penrhyn fel cyrchfan ar gyfer gwyliau, gweithgareddau a gwaith os ydynt yn parchu rôl a swyddogaeth yr ardal a'i hymdeimlad o le.

Dylai cynigion adeiladu ar ddefnyddiau a nodweddion sy'n bodoli o fewn yr arfordir helaeth hwn er mwyn cydnabod rhinweddau naturiol yr ardal a'i rhinweddau adeiledig hanesyddol.

11.21 Mae'r Penrhyn yn cynnwys tua 1,780 o hectarau ar hyd ffordd yr A484 a choridor trafnidiaeth Llinell Reilffordd Llundain i Abergwaun. Mae'n ymestyn o gyrion tref hanesyddol Cydweli wrth geg Gwendraeth Fach tua'r gogledd. Mae'r A484, Llinell Reilffordd Llundain i Abergwaun a gwastatir Pinged yn ffinio â dwyrain y safle. Mae Parc Arfordirol y Mileniwm yn ffinio â de/de ddwyrain y safle.

11.22 Er bod y Penrhyn mewn lleoliad da i ddenu pecyn integredig a strategol o gynlluniau adfywio a buddsoddi, y mae hefyd mewn ardal ecolegol sensitif sy'n destun amrywiaeth o ystyriaethau o ran datblygu.

11.23 Mae amrywiaeth gyferbyniol o ddefnyddiau a nodweddion yn creu'r cyd-destun ar gyfer y naws am le. Mae'r rhain yn cynnwys Parc Gwledig Pen-bre i'r de, a'r cylchffordd rasio cerbydau modur a maes awyr i'r gogledd.

11.24 Mae'r ardal yn parhau i fod yn adodd allweddol i breswylwyr, ymwelwyr a bioamrywiaeth fel ei gilydd. O ran hynny, ni ellid cefnogi cynigion datblygu a fyddai'n amharu'n ormodol ar barhad yr adnodd i genedlaethau'r dyfodol.

11.25 Bydd y Cyngor yn llunio Canllawiau Cynllunio Atodol er mwyn ymhelaethu ar ddarpariaethau'r polisi hwn a chyfleoedd ar y Penrhyn yn y dyfodol.

Polisi Strategol - SP 2: Adwerthu a ChanolTrefi

Bydd cynigion am ddatblygiadau adwerthu ac at ddefnydd arall yn chanol trefi yn cael eu hystyried yn unol â'r hierarchaeth adwerthu a ganlyn a'r darpariaethau isod:

Is-ranbarthol - Canol Tref Lefel Uwch

Caerfyrddin

Canol Trefi Lefel Ganol

Llanelli

Rhydaman

Canol Trefi Lefel Is

Porth Tywyn

Llandeilo

Llanymddyfri

Castellnewydd Emlyn

Sanclêr

Hendy-gwyn ar Daf

  1. Caniateir cynigion ar gyfer adwerthu a defnyddiau canol tref priodol eraill o fewn ffin canol tref Caerfyrddin (gan gynnwys defnydd hamdden, dinesig, diwylliannol, addysg, busnes, iechyd a phreswyl (ar loriau uchaf)) sy'n cefnogi twf Caerfyrddin fel canol tref adwerthu is-ranbarthol lle maent yn cynnal ac yn gwella bywiogrwydd, hyfywedd ac apêl Canol Tref Caerfyrddin. Ni ddylai cynigion:
    1. danseilio swyddogaeth adwerthu canol y dref, neu amharu ar fywiogrwydd neu hyfywedd yr ardal; na
    2. chreu crynodiad o ffryntiau nad ydynt yn rhai adwerthu ar loriau gwaelod sy'n amharu ar gymeriad a swyddogaeth adwerthu yr ardal.
  2. Bydd bywiogrwydd, hyfywedd ac apêl ein canolfannau adwerthu yn cael ei gynnal a'i wella ynghyd â'r ystod o ddefnyddiau presennol ynddynt, gan gynnwys marchnadoedd lleol. Cefnogir cynigion o fewn ffiniau canol y dref sy'n ehangu ystod y defnyddiau ac yn annog cyfleoedd siopa, gwasanaethau, gwasanaethau cyhoeddus a chyfleusterau a chyflogaeth/busnes cyfleus a hygyrch.
  3. Bydd cynigion ar gyfer siopau cyfleustra y tu allan i ffin canol tref ddiffiniedig yn destun:
    1. Cyflwyno asesiad effaith i ddangos na fyddai'r cynnig yn cael unrhyw effaith andwyol ar fywiogrwydd a hyfywedd y ganolfan adwerthu bresennol;
    2. Tystiolaeth o fod wedi cymhwyso prawf dilyniannol wrth ddewis y safle;
    3. Tystiolaeth o angen meintiol ac ansoddol am y datblygiad; a,
    4. Thystiolaeth o hygyrchedd y safle i ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy.
  4. Bydd cynigion ar gyfer adwerthu a defnyddiau canol tref eraill o fewn ffin canol y dref yn cael eu cefnogi a fydd, lle bo hynny'n berthnasol:
    1. Yn darparu cyfleoedd i'r sectorau adwerthu a masnachol annibynnol;
    2. Yn cefnogi a pheidio â thanseilio parhad swyddogaeth canol trefi lefel uwch a lefel ganol fel canolfannau adwerthu;
    3. Hyrwyddo ac arallgyfeirio addysg, hamdden, cyfleusterau diwylliannol a'r economi gyda'r nos;
    4. Darparu ar gyfer creu gofodau cyhoeddus o ansawdd a gwelliannau amgylcheddol gan gynnwys gwarchod a gwella cymeriad lleol unigryw yr amgylchedd adeiledig hanesyddol a naturiol, ac ymrwymiad i ddylunio o ansawdd uchel;
    5. Gwella lleoedd i gerddwyr, beicwyr a phobl anabl, gan wella trafnidiaeth gyhoeddus, hygyrchedd, mynediad i gyfleusterau cyhoeddus, mannau parcio i geir, arwyddion a'r strydlun; a,
    6. Gwarchod, gwella ac integreiddio â'r rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas.

Y tu allan i'r ffiniau canol tref uchod gellir caniatáu'r mathau canlynol o ddarpariaeth adwerthu a defnyddiau canol tref eraill:

  1. Unedau warws adwerthu newydd nad ydynt ar gyfer bwyd (gan gynnwys canolfannau garddio, neuaddau arddangos ceir a chyfleusterau ategol), cyfleusterau hamdden priodol mewn parciau adwerthu dynodedig a defnyddiau canolfan fasnachu ar safleoedd cyflogaeth, ble maent yn cael eu cefnogi gan y dystiolaeth berthnasol a nodir isod:
    1. asesiad effaith yn dangos na fyddai'r cynnig yn niweidio canol trefi sefydledig;
    2. tystiolaeth o fod wedi mabwysiadu ymagwedd ddilyniannol sy'n dangos nad oes safleoedd addas a chynaliadwy ar gael mewn lleoliadau oddi mewn i ganol trefi diffiniedig neu'n union wrth eu hymyl;
    3. tystiolaeth o angen meintiol, ansoddol ac/neu angen arall perthnasol am y datblygiad;
    4. tystiolaeth o hygyrchedd y safle i ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy.
  2. Cynigion am gyfleusterau siopa cyfleustra lleol mewn ardaloedd gwledig a threfol o fewn y ffiniau datblygu os yw eu graddfa'n briodol i'r anheddiad hwnnw. Bydd cynigion am ddatblygiadau adwerthu gwledig yn cael eu hystyried yn unol â pholisi RTC2.

11.26 Mae'r polisi'n ceisio cydnabod patrwm cyffredinol y ddarpariaeth mewn hierarchaeth draddodiadol o ganolfannau, sy'n amrywio rhwng mân ddarpariaeth leol a'r canolfannau mwy sy'n darparu dewis mwy dros ystod ehangach o gynnyrch. Mae'r canolfannau mwy hefyd yn gweithredu fel lleoliadau ar gyfer gweithgareddau cysylltiedig ym maes hamdden ac adloniant, gan gynnwys sinemâu a bwytai ac ati, ac ar gyfer defnydd swyddfa masnachol, gan gynnwys cyfreithwyr, cyfrifwyr a gwerthwyr tai ac ati.

11.27 At ei gilydd, mae'r ddarpariaeth leol yn cynrychioli nwyddau a gwasanaethau sydd eu hangen o ddydd i ddydd (eitemau cyfleustra), ac y gall trigolion wneud teithiau byr mynych i'w nôl, tra bo'r canolfannau mwy nid yn unig yn darparu'r cyfleusterau hynny, ond hefyd yn darparu eitemau mwy arbenigol (nwyddau cymharu) y bydd siopwyr yn chwilio amdanynt yn llai aml ac yn barod i deithio ymhellach i'w prynu. Yn draddodiadol, mae darpariaeth siopa wedi esblygu yn hierarchaeth o ganolfannau gyda dalgylchoedd yn gorgyffwrdd y naill a'r llall i adlewyrchu eu maint a'u pwysigrwydd.

11.28 O ran darpariaeth adwerthu, dyma'r patrwm sy'n nodweddu Sir Gaerfyrddin, gyda chanolfannau mwy Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman yn gwasanaethu dalgylchoedd mwy yn y gorffennol, gan gynnig ystod eang ac arbenigol o nwyddau ac eitemau.

11.29 Wrth ddiffinio hierarchaeth adwerthu, rhoddwyd sylw i rolau a swyddogaethau perthynol y trefi mwy a'r pentrefi bach. Cydnabyddir, yn hyn o beth, er bod ystod y ddarpariaeth siopa ar hyd a lled yr hierarchaeth yn chwarae rhan hanfodol, ym Mhrif Ganolfannau Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman y ceir ffocws gweithgarwch adwerthu canol tref. Y canolfannau hyn yw'r prif gyrchfannau siopa am nwyddau cymharol (nid bwyd) ac maent yn darparu ar gyfer siopa am brif fwyd a swmp-brynu bwyd a siopa am fwydydd (groser). Mae gan ganol trefi llai eraill ystod a dewis cyfyngedig o siopau nwyddau cymharol ac maent yn darparu'n bennaf ar gyfer siopa am fwyd ychwanegol a siopa am fwydydd (groser). Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd fod pob un o'r canolfannau hyn yn cyflawni gwahanol rolau yng nghyd-destun eu cymunedau a'u swyddogaethau daearyddol ehangach. O ran hynny, mae canol tref Caerfyrddin yn cyflawni swyddogaeth is-ranbarthol tra bo canol trefi Rhydaman a Llanelli yn canolbwyntio mwy ar wasanaethu'r cymunedau o'u hamgylch. Fodd bynnag, mae'r polisi hefyd yn ceisio cydnabod yr effaith y mae Covid-19 a'r newid mewn patrymau siopa wedi'i chael ar ein stryd fawr a chanol ein trefi. Yn hyn o beth, mae'r polisi yn ceisio adlewyrchu eu swyddogaeth adwerthu gynhenid gan gydnabod rôl amlswyddogaethol newydd ar gyfer canolfannau o'r fath.

11.30 Cydnabyddir fodd bynnag, er gwaethaf y gwahaniaethau cynhenid rhyngddynt, fod pob canol tref yn profi gwahanol heriau wrth i rôl y stryd fawr newid mewn ymateb i bwysau amrywiol y byd adwerthu. Yn hyn o beth, mae TAN4 yn cynnwys darpariaeth i gymhwyso polisïau priodol i'r canolfannau hynny ar sail eu nodweddion a'u cynaliadwyedd. Wrth ymateb i'r ymagwedd hon a gaiff ei hysgogi'n lleol, bydd amrywio'r hyn a ystyrir yn ganolfan lefel uwch a lefel is yn golygu bod modd ymateb yn fanylach ond yn fwy hyblyg ar sail eu gwahanol raddfeydd a nodweddion. Y mae hefyd yn galluogi'r Cynllun i ymateb i newid mewn amgylchiadau economaidd, a cheisio ymdrin ag amrywio mewn gweithgarwch adwerthu.

11.31 Wrth ddisgrifio nodweddion canolfannau adwerthu a masnachol lefel uwch, nodir yn TAN4 eu bod yn hygyrch i nifer fawr o bobl, a bod graddfa ac ystod amrywiol y defnyddiau sy'n bresennol yn adlewyrchu anghenion y boblogaeth - sydd fel arfer yn cynnwys mwy na'r gymuned leol. Nodweddir y canolfannau hynny fel arfer gan gyfuniad o siopau, swyddfeydd, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, sefydliadau bwyd a diod, gwestai, cyfleusterau addysg, adloniant a hamdden, sefydliadau amhreswyl yn ogystal â phreswyl. (TAN4 paragraff 4.2).

11.32 Ar y llaw arall, nodweddir canolfannau lefel is gan ddarpariaeth ar raddfa lai a llai o ddefnyddiau, gyda'r bwriad o wasanaethu anghenion y gymuned leol yn bennaf. Bydd y rhain fel arfer yn cynnwys siopau, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, bwyd a diod, sefydliadau amhreswyl sydd ar lefel briodol, ond gall gynnwys defnyddiau eraill yn ddibynnol ar y ganolfan (TAN4 paragraff 4.3).

11.33 O ystyried statws blaenorol Llanelli a Rhydaman, mae eu strydoedd mawr wedi profi cyfnodau heriol ac mae'r naill a'r llall wedi cynnal eu swyddogaeth bwysig fel canolfannau adwerthu, er bod y swyddogaeth honno wedi gwanio rhywfaint. Wrth roi ystyriaeth bellach i'r posibiliadau ar eu cyfer hwy, ynghyd â Chaerfyrddin, o ran hierarchaeth adwerthu'r dyfodol, y mae'n bwysig ystyried sut y byddant yn datblygu a'u rôl yn y dyfodol, yn ogystal â'r modd y mae'r Cynllun yn ceisio ymateb i ddirywiad posibl yng nghanol y dref.

11.34 Mae gan Gaerfyrddin rôl is-ranbarthol hirsefydlog ac yn draddodiadol mae wedi bod â phresenoldeb cenedlaethol cryf ar ei stryd fawr ynghyd ag amrywiaeth o siopau lleol. Fodd bynnag, mae Covid-19 wedi cael effaith amlwg ar natur ei darpariaeth adwerthu gyda nifer o gwmnïau cenedlaethol wedi tynnu'n ôl yn sgil yr heriau ariannol a'r ad-drefnu o fewn y sector adwerthu. O ganlyniad, er bod y ganolfan yn gwasanaethu amrywiaeth o anghenion ar gyfer y boblogaeth y tu hwnt i'w chymuned leol a bydd yn parhau i wneud hynny, rhaid i natur ei darpariaeth a'r ystod o ddefnyddiau o fewn y craidd adwerthu traddodiadol allu addasu wrth gadw'r sylfaen adwerthu draddodiadol honno. Mae'r ganolfan yn parhau i fod yn un y gellir ei galw'n rhwydd yn ganolfan adwerthu lefel uwch ar sail y darpariaethau uchod.

11.35 O ran Llanelli a Rhydaman, ceir llai o gwmnïau cenedlaethol yng nghanol y dref, ac i raddau cynyddol mae'r cynnig yng nghanol y dref yn adlewyrchu canol tref sy'n gwasanaethu cymuned fwy lleol. Mae hyn, ynghyd â'r heriau'n gysylltiedig â throsiant unedau adwerthu, a phroblemau o ran cyfraddau unedau gwag, yn golygu bod angen ailwerthuso eu statws blaenorol fel canol trefi lefel uwch. Mae canol trefi Rhydaman a Llanelli, y naill a'r llall, wedi denu ymyraethau sylweddol o ran adfywio, ac mae Tasgluoedd wedi cael eu sefydlu i wynebu rhai o'r heriau a welir yn y ddwy ganolfan. Cafodd Gorchymyn Datblygu Lleol manwl hefyd ei greu ar gyfer canol tref Llanelli, sydd bellach wedi darfod. Mae Gorchmynion Datblygu Lleol pellach am amser cyfyngedig wedi'u mabwysiadu ar gyfer Canol Trefi Caerfyrddin a Rhydaman fel rhan o fentrau adfywio i helpu'r adferiad ar ôl Covid-19 ac i adfywio canol trefi. Bydd rôl y rhain yn y dyfodol a'r posibilrwydd o gael Gorchymyn Datblygu Lleol arall ar gyfer Canol Tref Llanelli arall yn cael eu hadolygu ymhellach er mwyn helpu i weithredu'r CDLl Diwygiedig hwn.

11.36 Yn sgil y ddynameg newidiol yn narpariaeth adwerthu'r naill ganolfan a'r llall ceir mwy o ffocws ar yr angen i'r hierarchaeth a'r polisïau adwerthu gynnig ymateb wedi'i ysgogi'n lleol i'w problemau. O ganlyniad i hyn, mae'r hierarchaeth wedi cael ei sefydlu gyda pholisïau priodol er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol fathau o gyd-destunau adwerthu a masnachol yn nhair Prif Ganolfan y Cynllun. Bydd y rhain yn caniatáu ymagwedd fwy hyblyg o ran y modd y bydd y canolfannau hyn yn datblygu yn y dyfodol.

11.37 Mae trefi llai neu drefi marchnad Castellnewydd Emlyn, Llandeilo a Sanclêr, er enghraifft, gyda'u dalgylchoedd llai fel arfer yn bodloni anghenion lleol gyda rhywfaint o ddarpariaeth arbenigol. Bydd pentrefi mwy yn aml yn ychwanegu at hyn, gan ddarparu eitemau hanfodol i fodloni anghenion o ddydd i ddydd. Bydd ystyriaeth wedi'i rhoi i oblygiadau cynigion ar gyfer siopau cyfleustra newydd y tu allan i'r canolfannau Lefel Uwch, Lefel Ganolig a Lefel Is a nodwyd (a ddiffinnir o fewn y Polisi) ar ganolfannau adwerthu diffiniedig o fewn awdurdodau cyfagos. Dylid cyflwyno asesiad cadarn o'r effaith ar adwerthu i gyd-fynd â chynigion a allai gael effaith andwyol.

11.38 Mae strategaeth adwerthu'r CDLl yn adlewyrchu egwyddorion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol datblygu cynaliadwy sy'n tanategu'r Cynllun. Y mae hefyd yn ceisio adlewyrchu natur newidiol adwerthu a'r angen i ganol trefi traddodiadol addasu i gyd-fynd â'r newidiadau hynny. Mae'r Strategaeth yn ceisio:

  1. Gwarchod a gwella rôl canolfannau adwerthu er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn atyniadol fel canol trefi, cyrchfannau siopa, masnachol a hamdden, a gwarchod darpariaeth adwerthu leol sydd wedi'i sefydlu yn y sir, yn ogystal â'r busnesau lleol sydd wrth wraidd y ddarpariaeth honno.] Yr her fydd cynnal eu cyfran o'r farchnad a sicrhau eu bod yn dal i allu cystadlu, gan ddeall anghenion pob canolfan a'i rôl a'i chyfraniad perthynol yn nhermau adwerthu;
  2. Lleoli darpariaeth adwerthu a'i llywio tuag at fannau cynaliadwy sy'n hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ar lwybrau teithio llesol er mwyn lleihau'r angen i deithio;
  3. Mewn canolfannau lefel is llai, sicrhau bod gan gymunedau lleol fynediad rhesymol at ystod foddhaol o gyfleusterau a gwasanaethau stryd fawr, yn enwedig nwyddau cyfleustra (bwyd a hanfodion beunyddiol eraill); ac,
  4. Yn y pentrefi mwy, cynnal hyfywedd siop y pentref a chyfleusterau lleol eraill.

11.39 Mae'r Astudiaeth Adwerthu Gyfredol (2022) ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn archwilio materion adwerthu, hamdden a chanol trefi ar draws y Sir, ac yn asesu'r capasiti ar gyfer twf ar draws y sectorau adwerthu, bwyd/diod a hamdden masnachol. Caiff ei llunio er mwyn darparu tystiolaeth yn gysylltiedig â ffurfio polisi, ac i fod yn sail ar gyfer pennu hierarchaeth adwerthu ar gyfer ardal y Cynllun er mwyn llywio penderfyniadau, fel sy'n ofynnol ym Mholisi Cynllunio Cymru. O ganlyniad i hynny, defnyddir yr egwyddor "canol trefi yn gyntaf" ar y cyd â dull dilyniannol o ddewis safleoedd i hyrwyddo canol trefi fel prif leoliadau cyfleusterau adwerthu, swyddfa, hamdden ac iechyd newydd. Nod hynny fydd creu mwy o resymau pam y dylai pobl ymweld â'r canolfannau, a chynnydd wedyn mewn gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd a fydd yn cynnal eu hyfywedd.

11.40 Gan ganiatáu amrywio o fewn yr hierarchaeth, bydd disgwyl i adwerthu barhau fel y prif weithgarwch ym mhob un o'r tair canolfan is-ranbarthol a chanolig. Fodd bynnag, nid yw hyn ond un o'r ffactorau a fydd yn cyfrannu at eu llesiant. Ni ellir gwahanu polisïau adwerthu oddi wrth swyddogaethau ehangach y trefi mwy fel canolfannau ar gyfer gwasanaethau a chyfleusterau eraill, gan gynnwys sefydliadau bwyd a diod (caffis, bwytai, tafarndai ac ati) a datblygiadau hamdden masnachol. Mae'r asesiad o anghenion adwerthu, bwyd/diod a hamdden yn yr Astudiaeth Adwerthu Gyfredol yn awgrymu y gallai fod yna rywfaint o le ar gyfer datblygiadau adwerthu yn y dyfodol ac y dylai unrhyw dwf a ragwelir geisio ail-lenwi gofod llawr gwag o fewn canol trefi lle bo modd. Fodd bynnag, mae yna botensial i wella'r sectorau bwyd/diod a hamdden masnachol. Mae'r defnyddiau amrywiol hyn mewn yng nghanol trefi o gymorth i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn hyfyw ac - yn enwedig o ran defnyddiau hamdden a phreswyl - yn cyfrannu at fywiogrwydd economi lwyddiannus yn y nos, ac at eu rôl fel canol trefi byw.

11.41 Mae'r CDLl Diwygiedig yn ceisio cael cydbwysedd rhwng diogelu cymeriad adwerthu cyffredinol canol y trefi a darparu ar gyfer amrywiaeth briodol o ddefnyddiau sy'n adlewyrchu eu safle o fewn yr hierarchaeth. Wrth wneud hynny, cydnabyddir bod eu cymeriad a'i hunaniaeth yn cael ei ategu gan bresenoldeb masnachwyr annibynnol sy'n draddodiadol yn gweithredu o'r strydoedd mwy ymylol ac mewn lleoliadau ac y gall hynny fod yn agored i gystadleuaeth. Fodd bynnag, cydnabyddir bod arallgyfeirio yn ei gwneud hi'n bosibl i ychwanegu defnyddiau eraill economaidd a buddiol sy'n ategu'r darpariaeth adwerthu, ac i gynnal adeiladwaith ac ymddangosiad strydoedd ac adeiladau a fyddai fel arall mewn perygl o ddirywio.

11.42 Mae'r potensial am arallgyfeirio priodol o fewn canol y trefi a alluogir drwy'r polisi hwn, yn cydnabod eu cyfraniad at gynyddu eu hapêl yn gyffredinol. Gall cyflwyno darpariaeth adwerthu, hamdden a busnes ategol ac ati gyfrannu at apêl ehangach. Serch hynny, mae'r polisi'n cydnabod pwysigrwydd cael elfen adwerthu gref, ac yn ceisio cynnal bywiogrwydd a hyfywedd darpariaeth adwerthu'r trefi.

11.43 Bydd darpariaeth y tu allan i'r canolfannau is-ranbarthol a chanolig, gan gynnwys siopau pentref lleol, yn gwneud cyfraniad pwysig at swyddogaeth adwerthu Sir Gaerfyrddin. Yn hyn o beth, mae'r canolfannau hynny sy'n bodloni angen am ddarpariaeth adwerthu gyfleus a mân anghenion siopa o ddydd i ddydd yn creu amrywiaeth sy'n gyson â'r amcanion o gynnal cymunedau a lleihau'r angen i deithio hyd yr eithaf. Gall yr aneddiadau hyn a'u cynnig adwerthu ategu swyddogaeth adwerthu aneddiadau sydd yn uwch i fyny'r hierarchaeth a chyfrannu hefyd at weithredu Strategaeth y Cynllun. Gall fod yn ofynnol i gynigion adwerthu cyfleustra y tu allan i ffiniau canol y dref mewn canolfannau o'r fath ddangos tystiolaeth briodol o'r angen am ddarpariaeth adwerthu er mwyn sicrhau nad ydynt yn tanseilio'r gweithgarwch adwerthu yng nghanol y trefi.

11.44 Mae polisïau'r CDLl hefyd yn ceisio sicrhau bod datblygiadau adwerthu, datblygiadau nad ydynt yn rhai adwerthu a datblygiadau hamdden wedi'u lleoli yn y lleoliadau mwyaf priodol. Fel arfer, bydd y lleoliadau mwyaf priodol mewn canolfannau presennol, sy'n hygyrch drwy amrywiaeth o fathau o drafnidiaeth, a gallant hyrwyddo teithiau cysylltiedig i ddefnyddiau eraill yn y ganolfan. Bydd yn ofynnol i ddatblygwyr chwilio'n fanwl am safleoedd mewn canolfannau cyn ystyried safleoedd mewn ardaloedd llai canolog.

11.45 Ceir arweiniad pellach o ran y polisi cynllunio cenedlaethol ym Mholisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11 - Pennod 4 Lleoedd Actif a Chymdeithasol ac yn TAN4 Adwerthu a Chanol Trefi.

11.46 Nid yw Canol Trefi bob amser yn gallu cynnwys siopau adwerthu neilltuol neu ddefnyddiau canol tref eraill fel nwyddau swmpus, gan fod angen safleoedd ac adeiladau mawr ac oherwydd y goblygiadau o ran creu traffig a pharcio. O ganlyniad, caniatawyd lleoliadau y tu allan i ganol y dref ar gyfer safleoedd gwerthu o'r fath, yn unol â chanllawiau cenedlaethol, naill ai ar ffurf unedau unigol neu gyda'i gilydd mewn parciau adwerthu. Os yw'r pwysau am safleoedd gwerthu o'r fath yn parhau, yna mae'r CDLl Diwygiedig yn ceisio ymdrin â pharciau adwerthu ac yn diffinio'r meini prawf y dylid eu cymhwyso i ddatblygiadau arfaethedig. Yn hyn o beth, mae'r polisïau yn gysylltiedig â pharciau adwerthu yn hyrwyddo cydleoli cyfleusterau adwerthu priodol a lleihau casgliadau ar wahân o gyrchfannau adwerthu o fewn y Sir, ar yr amod bod y profion o'r angen, profion o'r effaith a phrofion dilyniannol yn cael eu bodloni. Mae strategaeth o'r fath yn fwy cynaliadwy o ran trafnidiaeth, a bydd yn galluogi busnesau adwerthu i elwa ar apêl cydleoli darpariaeth.

11.47 Mae'r Cynllun yn cydnabod nad yw lleoliadau mewn canol trefi o bosibl yn addas i gynnwys rhai mathau o gyfleusterau adwerthu a hamdden, ac y gall Canolfannau Rhanbarthol (Parciau Adwerthu) gyfrannu at fodloni'r angen hwn. Fodd bynnag ni ddylai graffa, natur na lleoliad datblygiad adwerthu danseilio apêl, bywiogrwydd a hyfywedd canol trefi presennol.

11.48 Dylid mabwysiadu dull dilyniannol sy'n golygu y dylid ffafrio lleoliadau mewn canol trefi presennol i ddechrau, fel y cânt eu rhestru yn yr hierarchaeth adwerthu ac, ar ôl hynny safleoedd sy'n union am y ffin â chanol trefi. Os nad oes safleoedd addas ar gael yn y lleoliadau hyn, dim ond wedyn y ceir ystyried datblygu mewn lleoliadau ar ymyl canol y dref, ac yn dilyn hynny'r canolfannau rhanbarthol presennol (parciau adwerthu) a ganlyn ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

11.49 Canolfannau Rhanbarthol: (Parciau Adwerthu)

11.50 Mae Caerfyrddin a Llanelli yn cynnwys darpariaeth adwerthu sylweddol ar barciau adwerthu y tu allan i'r canol trefi perthynol. Prif barciau adwerthu Caerfyrddin yw Heol Steffan a Pharc Pensarn, sy'n cynnwys safleoedd gwerthu amrywiaeth o nwyddau swmpus a nwyddau eraill.

11.51 Parc Trostre a Pharc Pemberton sy'n gwasanaethu Llanelli, ac mae Parc Trostre yn cynnwys nifer fawr o unedau wedi'u meddiannu'n bennaf gan siopau sy'n lluosogi'r stryd fawr. I'r gwrthwyneb, ffocws pennaf Parc Pemberton yw DIY, nwyddau trydanol a dodrefn, sy'n adlewyrchu cyfyngiad ar nwyddau swmpus nad yw'n weithredol ym Mharc Trostre.

11.52 Er bod y parc adwerthu yn Cross Hands yn llai na pharciau Caerfyrddin a Llanelli, mae'n cyflawni rôl bwysig drwy ategu'r ddarpariaeth canol tref yn Rhydaman, drwy gynnig nwyddau DIY, trydanol a dodrefn yn bennaf.

11.53 Lle cynigir datblygiad adwerthu y tu allan i ffiniau canol y dref, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno asesiad effaith i ddangos na fyddai'r cynnig yn niweidio canol trefi sefydledig. Dylai'r asesiad hefyd ystyried effeithiau cronnus datblygiadau a gwblhawyd yn ddiweddar â safleoedd lle bo caniatâd cynllunio yn dal yn weithredol. Dylai'r asesiad amlinellu'r math o ddarpariaeth adwerthu a gynigir gan yr ymgeisydd, a'r modd y gallai hyn effeithio ar ddarpariaeth adwerthu sy'n cystadlu mewn canol trefi cyfagos, ac a allai arwain at wyro masnach o ganol y dref.

11.54 Mae Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11 yn rhoi cydnabyddiaeth benodol i rôl siopau lleol, siopau pentref a thafarndai mewn cymunedau a'r effaith bosibl yn sgil eu colli. O ganlyniad i hynny, dylid cyfeirio at bolisi RTC2 isod.

11.55 Dylid ystyried cynigion am weithgarwch adwerthu yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin yn unol â pholisi RTC2.

RTC1: Diogelu siopau a chyfleusterau lleol

Ni fydd cynigion a fyddai'n arwain at golli siop, gwasanaeth neu gyfleuster cymunedol lleol (gan gynnwys Tafarndai) y tu allan i Ganol Trefi a nodwyd ym Mholisi Strategol SP2 ond yn cael eu caniatáu yn yr achosion a ganlyn:

  1. Pe na bai'r golled honno'n niweidio ffabrig cymdeithasol ac economaidd y gymuned;
  2. Os oes siop neu wasanaeth o ddefnydd cydnaws tebyg ar gael i gwsmeriaid o fewn yr anheddiad neu o fewn pellter cerdded cyfleus.

Os na cheir darpariaeth arall, ni chaiff cynigion a fydd yn arwain at golli siop neu wasanaeth lleol ond eu caniatáu os yw pob ymdrech resymol i werthu neu osod y busnes dros gyfnod o 12 mis wedi methu.

11.56 Wrth geisio diffinio a chreu cymunedau cynaliadwy, mae'r Cynllun yn nodi ac yn cydnabod cyfraniad gwasanaethau lleol. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleusterau fel siopau, swyddfeydd post, tafarndai, gorsafoedd petrol, a fydd yn cyfrannu at hyfywedd aneddiadau a chymunedau yn y dyfodol, o ran darparu gwasanaeth ond hefyd drwy gynnig 'mannau cyfarfod' lle gall y gymuned ryngweithio a lle gellir cynyddu'r ymdeimlad o gymuned. Ar ben hynny, mae'r CDLl yn cefnogi darpariaeth adwerthu leol a'r budd economaidd a ddaw yn ei sgil yn y cymunedau.

11.57 Mae'r Cyngor hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol os ceir dibyniaeth gref arnynt yn lleol. Mae gwasanaethau o'r fath yn hollbwysig i sicrhau llesiant economaidd cymunedau a hefyd yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, yn enwedig ymhlith aelodau llai symudol y gymuned.

11.58 Cydnabyddir mai'r aneddiadau gwledig yw'r rhai sydd yn fwyaf agored i golli'r cyfleusterau hynny. Bydd ffactorau fel y galw am dir preswyl a gwerth uchel tir preswyl mewn ardaloedd gwledig yn aml yn arwain at bwysau gan berchnogion eiddo i newid neu ailddatblygu'r cyfleusterau hynny i ddibenion preswyl, hyd yn oed lle bo busnes yn ffynnu. Gall yr incwm o siop neu weithgarwch arall fod yn llai na'r hyn y gellir ei ennill o fath arall o ddatblygiad. Mae'r polisi hwn yn ceisio cymedroli'r pwysau i newid drwy sicrhau na chaniateir colli siop neu gyfleuster os yw'n ddichonadwy a bod lefel y rhent yn briodol, onid oes cyfleusterau eraill rhesymol ar gael.

11.59 Er bod y polisi yn ceisio gwarchod rhag colli cyfleusterau, ceir darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau hynny lle gellir dangos nad oes angen y cyfleusterau hynny mwyach, neu lle nad ydynt yn ddichonadwy.

11.60 I dibenion y polisi hwn, mae pellter cerdded yn unol â'r hyn a nodir yn y Llawlyfr Strydoedd: Yr Adran Drafnidiaeth/Cymunedau a Llywodraeth Leol/Llywodraeth Cynulliad Cymru - 2007[48]. Nodir yn y Llawlyfr mai'r hyn sydd fel arfer yn nodweddu cymdogaethau cerddadwy yw ystod o gyfleusterau o fewn 10 munud (hyd at tua 800m) o bellter cerdded o ardaloedd preswyl, y gall preswylwyr eu cyrraedd yn rhwydd ar droed.

11.61 Gellir diffinio marchnata eiddo i ddibenion y polisi hwn fel hysbysebu mewn cyhoeddiad o fewn y diwydiant priodol neu, lle bo'n briodol, drwy werthwyr tai lleol am gyfnod rhesymol o amser ac am bris rhesymol.

RTC2: Adwerthu mewn Ardaloedd Gwledig

Caniateir cynigion am siopau graddfa fach ategol neu estyniadau ar siopau presennol y tu allan i ffiniau datblygu os ydynt yn cydymffurfio â'r canlynol:

  1. Os ydynt yn cynrychioli elfen sy'n israddol i weithgarwch busnes presennol ar y safle;
  2. Os na fyddant yn niweidio hyfywedd siopau pentref cyfagos i raddau sylweddol;
  3. Os na fyddant yn cael effaith andwyol ar gymeriad, gosodiad ac ymddangosiad yr ardal a'r dirwedd a, lle bo'n briodol, y dreflun, gyfagos;
  4. Os ydynt yn hygyrch drwy ddulliau teithio cynaliadwy; a,
  5. Os yw'r trefniadau mynediad a pharcio yn dderbyniol ac na fydd y datblygiad yn amharu ar ddiogelwch priffyrdd i raddau sylweddol.

11.62 Yn aml gall cynigion am siopau newydd mewn ardaloedd gwledig sy'n ychwanegol at ddefnyddiau eraill wneud cyfraniad pwysig i'r economi wledig. Bydd darpariaeth o'r fath, boed hynny ar ffurf siopau fferm (a fydd o gymorth i fodloni'r galw am gynnyrch ffres), siopau crefft a siopau'n gysylltiedig â gorsafoedd petrol, nid yn unig yn bodloni gofynion lleol ond hefyd yn ffynhonnell i greu swyddi.

11.63 Er bod potensial i'r ddarpariaeth honno wasanaethu cymunedau gwledig, mae'n rhaid iddi adlewyrchu ei chyd-destun gwledig. Yn hynny o beth, dylai'r siop fod yn gysylltiedig â busnes presennol ac yn israddol i'r busnes hwnnw, ac ni ddylai fod â mwy na 200 metr sgwâr gros o ofod llawr.

11.64 Cydnabyddir y gall siopau mewn ardaloedd gwledig greu cyfleoedd am swyddi ychwanegol a chefnogi arallgyfeirio economaidd yng nghefn gwlad yn ogystal â darparu gwasanaeth i gymunedau lleol.

11.65 Caiff y Cyngor geisio defnyddio amodau cynllunio i gyfyngu ar ystod y nwyddau a werthir neu i gyfyngu ar yr arwynebedd llawr lle bo'n briodol, er mwyn atal unrhyw niwed sylweddol i weithgarwch adwerthu cyfagos. Yn ogystal â hyn, bydd yn rhaid ystyried y potensial i'r cynnig weithredu ar sail dymhorol os nad yw'n ddymunol iddo weithredu drwy gydol y flwyddyn.

11.66 Fel y nodwyd, gall siopau sy'n ategol i ddefnyddiau eraill, fel siopau fferm a fydd o gymorth i ateb y galw am gynnyrch ffres, siopau crefft a siopau'n gysylltiedig â gorsafoedd petrol, chwarae rôl bwysig mewn ardaloedd gwledig drwy ddarparu ffynonellau newydd ar gyfer swyddi a gwasanaethau. Fodd bynnag, wrth asesu'r cynigion hynny bydd yn rhaid ystyried yr effaith bosibl ar ganolfannau adwerthu a masnachol cyfagos, ac yn enwedig ar siopau pentref[49]. Ystyrir defnyddio amodau cynllunio i gyfyngu ar ystod y nwyddau a werthir neu gyfyngu ar arwynebedd y llawr os yw hynny'n galluogi bwrw ymlaen â'r datblygiad.

Pobl a Lleoedd Ffyniannus - Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i bobl a lleoedd yn ardaloedd trefol a gwledig ein sir.

11.67 Cydnabyddir y problemau economaidd gymdeithasol gan gynnwys tlodi ac amddifadedd yn wynebu rhannau gwledig a threfol ein Sir yng ngweledigaeth "Un Sir Gâr" y Cynllun hwn. I'r perwyl hwn, mae'r Cynllun yn ceisio mynd i'r afael â'r problemau hyn drwy sicrhau bod pawb yn cael cymaint o gyfle ag sy'n bosibl i gynnal neu gynyddu eu ffyniant a'u hymdeimlad o lesiant.

11.68 Mae'r cyfleoedd hyn yn cynnwys darparu ar gyfer tai newydd, gan gynnwys tai fforddiadwy, a swyddi, yn ogystal â llywio buddsoddiad newydd a blaenoriaethau o ran seilwaith, gan barchu ffabrig cymdeithasol y Sir ar yr un pryd, gan gynnwys y Gymraeg, diwylliant Cymreig a'i naws am le.

11.69 Cydnabyddir bod y themâu a'r polisïau a ddyrennir iddynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd, ond nodwyd y canlynol o dan y thema hon:

  • Polisi Strategol – SP3: Dosbarthu Cynaliadwy – Fframwaith Aneddiadau
  • Polisi Strategol – SP 4: Darparu Tai Newydd
  • Polisi Strategol – SP 5: Tai Fforddiadwy
  • Polisi Strategol – SP 6: Safleoedd Strategol
  • Polisi Strategol – SP 7: Cyflogaeth a'r Economi
  • Polisi Strategol – SP 8: Y Gymraeg a Diwylliant Cymru
  • Polisi Strategol – SP 9: Seilwaith
  • Polisi Strategol – SP 10: Darpariaeth i Sipsiwn a Theithwyr
  • Polisi Strategol – SP 11: Yr Economi Ymwelwyr
  • Polisi Strategol – SP 12: Gwneud Lle, Cynaliadwyedd a Dylunio o Ansawdd Uchel

11.70 Mae'r polisïau a ganlyn yn ceisio cefnogi cyflawniad amcanion strategol y Cynllun, ond hefyd yn creu cysylltiadau lefel uchel ac yn sicrhau y cydymffurfir yn fras â'r Nodau Llesiant.

Polisi Strategol – SP 3: Dosbarthu Cynaliadwy – Fframwaith Anheddu

Bydd y ddarpariaeth o dwf a datblygiad yn cael ei chyfeirio at leoliadau cynaliadwy yn unol â'r fframwaith gofodol canlynol.

Clwstwr 1

Clwstwr 2

Clwstwr 3

Clwstwr 4

Clwstwr 5

Clwstwr 6

Haen 1 – Prif Ganolfan

Caerfyrddin

  • Llanelli
  • Rhydaman/

Cross Hands

Haen 2 – Canolfan Gwasanaethau

  • Pont-iets/

Meinciau/

Pont-henri

  • Glanyfferi
  • Cydweli
  • Porth Tywyn
  • Pen-bre
  • Yr Hendy / Fforest
  • Llangennech
  • Trimsaran/
  • Carwe
  • Brynaman
  • Glanaman /

Y Garnant

  • Pontyberem /

Bancffosfelen

  • Castellnewydd Emlyn
  • Llanybydder
  • Pencader
  • Llanymddyfri
  • Llandeilo / Rhos-maen / Ffair-fach
  • Llangadog
  • Sanclêr / Pwll-trap
  • Hendy-gwyn ar Daf
  • Talacharn

Haen 3 – Pentrefi Cynaliadwy

  • Cynwyl Elfed
  • Llan-y-bri
  • Llansteffan
  • Bronwydd
  • Cwmdwyfran
  • Cwm-ffrwd
  • Llangyndeyrn
  • Brechfa
  • Llan-gain
  • Idole / Pentre-poeth
  • Peniel
  • Alltwalis
  • Llanpumsaint
  • Llandyfaelog
  • Rhydargaeau
  • Llanarthne
  • Capel Dewi
  • Nantgaredig
  • Pont-ar-gothi
  • Llanddarog
  • Porth-y-rhyd
  • Cwmduad
  • Mynyddygarreg
  • Pum-hewl / Horeb
  • Llan-saint / Broadway
  • Carmel
  • Cwmgwili
  • Foelgastell
  • Ystradowen
  • Llannon
  • Llanedi
  • Dre-fach / Felindre
  • Waungilwen
  • Llangeler
  • Pentre-cwrt
  • Saron/Rhos
  • Llanllwni
  • Cwm-ann
  • Capel Iwan
  • Llanfihangel-ar-arth
  • Tre-lech
  • Pontyweli
  • Cenarth
  • New Inn
  • Caio
  • Ffarmers
  • Llansawel
  • Talyllychau
  • Cwrt-henri
  • Llanfynydd
  • Llanwrda
  • Cwmifor
  • Salem
  • Abergorlech
  • Llanboidy
  • Glandy Cross
  • Efail-wen
  • Llangynin
  • Meidrim
  • Bancyfelin
  • Llangynog
  • Pentywyn
  • Llanddowror
  • Llanmilo

Clwstwr 1

Clwstwr 2

Clwstwr 3

Clwstwr 4

Clwstwr 5

Clwstwr 6

Haen 4 – Pentrefi Gwledig

(Dim terfynau datblygu)

  • Hermon
  • Aber-nant
  • Blaen-y-coed
  • Bancycapel
  • Nant-y-caws
  • Croesyceiliog
  • Crwbin
  • Felin-gwm Uchaf
  • Felin-gwm Isaf
  • Llanegwad
  • Pontantwn
  • Nebo
  • Talog
  • Pen-y-bont
  • Felin-wen
  • Pontnewydd
  • Pont-ar-sais
  • Cynheidre
  • Pedair-hewl
  • Pen-y-mynydd
  • Capel Seion
  • Derwydd
  • Heol Ddu
  • Maes-y-bont
  • Milo
  • Pant-llyn
  • Pentregwenlais
  • Temple Bar
  • Cefn-bryn-brain
  • Rhosaman
  • Dre-fach (Llandyfan)
  • Stag and Pheasant
  • Mynyddcerrig
  • Pen-boyr
  • Drefelin
  • Cwm-pen-graig
  • Cwmhiraeth
  • Pentrecagal
  • Gwyddgrug
  • Dolgran
  • Banc-y-ffordd
  • Bryn Iwan
  • Pencarreg
  • Ffaldybrenin
  • Crug-y-bar
  • Cwm-du
  • Ashfield Row
  • Felindre (Llangadog)
  • Cynghordy
  • Llwyn Aur
  • Derwen-fawr
  • Trap
  • Maenordeilo
  • Pen-y-banc
  • Felindre, (Dryslwyn)
  • Dryslwyn
  • Rhydcymerau
  • Waun Ystrad Meurig
  • Bethlehem
  • Capel Isaac
  • Llangathen
  • Llansadwrn
  • Rhandir-mwyn
  • Porth-y-rhyd
  • Pumsaint
  • Cil-y-cwm
  • Cwmfelinmynach
  • Cwm-bach
  • Blaen-waun
  • Llanglydwen
  • Cwmfelin-boeth
  • Cross Inn
  • Llansadyrnin
  • Broadway
  • Rhos-goch
  • Llanfallteg

Tabl 11: Hierarchaeth Aneddiadau

11.71 Mae'r Cynllun yn ceisio dosbarthu twf a datblygu yn ofodol ar draws y sir, gan ddyrannu aneddiadau i un o 6 chlwstwr yn yr hierarchaeth. Mae'r dull sy'n seiliedig ar glystyrau yn hyblyg wrth ddosrannu twf newydd ac mae'n osgoi unrhyw dybiaeth bod yn rhaid i bob anheddiad ym mhob haen gyfrannu at dwf. Rhoddwyd ystyriaeth hefyd i aneddiadau sy'n croesi ffiniau, a sut maent yn effeithio ar rôl a swyddogaeth aneddiadau ffiniol Sir Gaerfyrddin. Mae'r rhain yn cynnwys: Pontarddulais, Llanbedr Pont Steffan, Adpar, Arberth a Llandysul. Cyfeirir at y sylfaen dystiolaeth mewn perthynas â dosbarthiad tai.

11.72 Er y bydd y rhan fwyaf o'r datblygiadau'n cael eu cyfeirio at haenau uchaf yr hierarchaeth aneddiadau, cydnabyddir amrywiaeth y Sir a rhoddir ystyriaeth i dai mewn ardaloedd gwledig a gwerth ardaloedd o'r fath i'r Sir. O fewn pentrefi gwledig (Haen 4) ac aneddiadau heb eu diffinio, bydd datblygiadau tai newydd yn gyfyngedig i gyfleoedd ar raddfa fach. Cyfeirir at Bolisi HOM3 a HOM4 o'r Cynllun hwn.

11.73 Er bod yr uchod yn cyfeirio'n benodol at dwf preswyl, bydd y fframwaith aneddiadau, ar y cyd â pholisïau penodol, hefyd yn arwain y gwaith o ystyried lleoliadau cynaliadwy priodol - gyda mynediad at wasanaethau a chyfleusterau - a maint datblygiadau eraill (gan gynnwys cyflogaeth).

11.74 Mae'r canlynol yn rhoi amlinelliad dangosol o natur y datblygiadau sy'n debygol fesul haen, gan gynnwys eu maint a'u math.

Prif Ganolfannau

Safleoedd Strategol

Ardaloedd cyflogaeth mawr a bach

Dyraniadau tai

Safleoedd tai bach (llai na 5 cartref);

Darpariaeth Tai Fforddiadwy ar safleoedd sy'n cynnwys 5 neu fwy o unedau

Cyfleoedd tai ar hap-safleoedd

Canolfannau Gwasanaeth:

Ardaloedd Cyflogaeth Graddfa Fach

Dyraniadau Tai

Darpariaeth Tai Fforddiadwy ar safleoedd sy'n cynnwys 5 neu fwy o unedau

Safleoedd tai bach (llai na 5 cartref);

Cyfleoedd tai ar hap-safleoedd

Pentrefi Cynaliadwy:

Dyraniadau Tai

Tai fforddiadwy ar safleoedd tai sy'n cynnwys 5 neu fwy o unedau.

Safleoedd tai bach (llai na 5 cartref);

Cyfleoedd tai ar hap-safleoedd

Cynlluniau Eithriedig Gwledig Graddfa Fach ar gyfer Tai Fforddiadwy sy'n ffinio ag anheddiad

Pentrefi Gwledig (dim terfynau datblygu):

Safleoedd bach - tai ar safleoedd mewnlenwi neu estyniadau/rowndio

Cynlluniau Eithriadau Gwledig Bach ar gyfer tai fforddiadwy

Aneddiadau Gwledig heb eu Diffinio:

Tai i ddiwallu anghenion lleol a Chynlluniau Eithriadau Gwledig Bach ar gyfer tai fforddiadwy.

SD1: Terfynau Datblygu

Caiff Terfynau Datblygu eu diffinio ar gyfer yr aneddiadau hynny sy'n cael eu nodi fel Prif Ganolfannau, Canolfannau Gwasanaeth a Phentrefi Cynaliadwy o fewn Polisi Strategol SP3.

Bydd cynigion o fewn Terfynau Datblygu a ddiffinnir yn cael eu caniatáu, yn amodol ar bolisïau a chynigion y Cynllun hwn, polisïau cenedlaethol ac ystyriaethau cynllunio eraill perthnasol.

11.75 Wrth baratoi'r Cynllun hwn, mae terfynau datblygu wedi'u diffinio ar draws yr holl aneddiadau o fewn Haenau 1, 2, a 3, er mwyn:

  • Atal datblygu amhriodol yng nghefn gwlad a rhoi sicrwydd ac eglurder ynghylch lle y gellir ystyried bod cynigion eithriadau (yn gyfagos i derfynau) yn briodol;
  • Atal cyfuno aneddiadau (neu rannau ar wahân o'r un anheddiad), datblygiad hirgul annerbyniol neu ddatblygiad tameidiog.
  • Nodi'r ardaloedd hynny lle byddai cynigion datblygu yn cael eu caniatáu (gweler uchod); a
  • Hyrwyddo defnydd effeithiol a phriodol o dir sy'n canolbwyntio twf o fewn aneddiadau diffiniedig.

11.76 Nid yw pob tir ar Fap Cynigion a Mapiau Mewnosod wedi ei nodi ar gyfer datblygiad penodol, nac yn destun polisi penodol. Gall ardaloedd sylweddol o dir ymddangos fel tir heb ei anodi yn y Cynllun. Bydd cynigion datblygu yn cael eu hystyried ar sail eu rhinweddau unigol yn erbyn darpariaethau'r CDLl hwn, ac ystyriaethau perthnasol eraill.

Polisi Strategol – SP4: Dull Cynaliadwy o Ddarparu Cartrefi Newydd

Er mwyn sicrhau bod y gofyniad tai cyffredinol o 8,822 o dai dros gyfnod y cynllun yn cael ei fodloni, darperir ar gyfer 9,704 o dai newydd yn unol â'r fframwaith aneddiadau er mwyn hyrwyddo creu a gwella cymunedau cynaliadwy.

Mae'r dull cynaliadwy o ddarparu tai newydd yn adlewyrchu'r egwyddorion a ganlyn:

  1. Creu lleoedd drwy'r fframwaith aneddiadau a nodwyd gan adlewyrchu cymeriad a chyd-destun y clwstwr neu'r anheddiad dan sylw;
  2. Dyrannu safleoedd ar gyfer tai newydd mewn aneddiadau sefydledig;
  3. Cefnogi datblygiadau preswyl ar hap-safleoedd priodol o fewn aneddiadau, gyda ffocws ar ailddefnyddio tir a ddatblygwyd o'r blaen;
  4. Darparu cyfleoedd am dai fforddiadwy er mwyn bodloni angen a nodwyd yn lleol.

Caniateir cynigion o fewn y ffiniau datblygu diffiniedig yn amodol ar bolisïau a chynigion y Cynllun hwn. Ceir rhagdybiaeth yn erbyn datblygiadau tai amhriodol y tu allan i'r ffiniau diffiniedig onid ydynt yn ddarostyngedig i bolisïau eraill y Cynllun hwn.

11.77 Nod y Cynllun yw hwyluso'r gwaith o ddarparu'r nifer a'r dewis o dai newydd sy'n ofynnol. Bydd y rhain yn bodloni'r anghenion am dai a nodwyd ac yn hyrwyddo cymunedau cydlynus sydd yn ddeniadol, yn hygyrch, yn ddiogel, wedi'u cysylltu'n dda ac yn cynnig mynediad at gyfleusterau diwylliannol a hamdden, gwasanaethau cymunedol a chyfleoedd am gyflogaeth.

11.78 Cafodd Strategaeth y Cynllun a'i dull cynaliadwy o ddarparu tai newydd ei seilio ar egwyddorion datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn gyson â nodau a dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a pholisi cynllunio cenedlaethol[50]. Mae'n canolbwyntio ar fodloni anghenion tai ar draws cymunedau amrywiol y Sir mewn modd sy'n gynaliadwy, yn parchu rhinweddau amgylcheddol y Sir a'i nodweddion o safbwynt diwylliant a'r Gymraeg.

11.79 Mae'r Cynllun hwn yn cyfrifo nifer o gydrannau cyflenwi tai er mwyn bodloni'r angen am dai, ynghyd â hyblygrwydd (cynnydd) er mwyn sicrhau y bydd nod cyffredinol y polisi strategol i ddarparu tai newydd yn cael ei gyflawni. Mae'r cyflenwad tai yn cynnwys y cydrannau a ganlyn:

  • Dyraniadau Tai (5+ cartref)
    •  Ymrwymiadau banc tir
    • Anheddau wedi'u Cwblhau
  • Darpariaeth ar gyfer hap-safleoedd
    • Cydran Safleoedd Bach (llai na 5 cartref)
    • Cydran ar Hap-safleoedd (5+ Cartref)
  • Hyblygrwydd (+10%)

Dyraniadau Tai

11.80 Cydran fwyaf y cyflenwad tai yw safleoedd a ddyrannwyd i'w datblygu'n breswyl. Caiff dyraniadau tai eu nodi mewn polisïau tai penodol neu eu cynnwys yn rhan o ddyraniadau defnydd cymysg.

11.81 Bydd y polisïau penodol yn ystyried y datblygiadau sydd wedi cael eu cychwyn neu yr ymrwymwyd iddynt ers dyddiad sylfaen y CDLl diwygiedig, a byddant yn cael eu monitro'n barhaus drwy'r Taflwybr Tai (Atodiad 7).

Hap-safleoedd

11.82 Mae'r ddarpariaeth ar gyfer hap-safleoedd wedi'i seilio ar y ffactorau a ganlyn:

  1. Cyfraniadau posibl o safleoedd sy'n cynnwys llai na phum annedd (safleoedd bach)
  2. Lwfans annisgwyl trwy safleoedd o bum annedd neu fwy sydd yn draddodiadol wedi gwneud cyfraniad pwysig at gyflenwi tai yn Sir Gaerfyrddin.

11.83 Bydd datblygiadau ar hap-safleoedd yn cael eu hystyried ar sail eu rhinweddau unigol, ac yn erbyn polisïau a chynigion y Cynllun hwn. Cydnabyddir nad yw hi bob amser yn ymarferol nac yn briodol dyrannu pob safle i'w ddatblygu. Yn aml ceir safleoedd sy'n addas i'w datblygu nad ydynt wedi'u pennu fel dyraniadau, a bydd eu cyfraniad at y cyflenwad o dir ar gyfer tai wedi'i nodi drwy'r ddarpariaeth hap-safleoedd.

HOM1: Dyraniadau Tai

Dyrennir tir ar gyfer datblygiadau preswyl ar y safleoedd canlynol. (* yn dynodi safleoedd 100% fforddiadwy)

Cyf. Safle

Enw'r Safle

Cyfanswm yr Unedau yng Nghyfnod y Cynllun

Cyfanswm yr Unedau Fforddiadwy yng nghyfnod y Cynllun

Amserlen Darparu
Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Unedau y tu hwnt i Gyfnod y Cynllun

Clwstwr 1

Caerfyrddin

PrC1/h2

Heol Maesyffynnon

29

8.7

Blwyddyn 6-10

PrC1/h3

*113 Heol y Prior

37

37

Blwyddyn 1-5

PrC1/h4

Tir oddi ar Barc y Delyn

17

1.7

Blwyddyn 11-15

PrC1/h5

I'r dwyrain o Lôn Devereaux

10

5

Blwyddyn 6-10

PrC1/h7

Fferm Penybont, Heol Llysonnen

9

0

Blwyddyn 1-5

PrC1/h8

*Heol Llansteffan

50

50

Blwyddyn 6-10

PrC1/h9

Mounthill

5

0

Blwyddyn 1-5

PrC1/h10

Brynhyfryd

20

2.4

Blwyddyn 6-10

PrC1/h11

Estyniad Rhiw Babell

12

0

Blwyddyn 1-5

PrC1/h12

Heol Castell Pigyn, Abergwili

35

4.2

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

PrC1/h14

Heol Bronwydd (de)

44

2

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

PrC1/h15

Gerllaw Tyle Teg, Ffordd Llysonnen

7

2

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

PrC1/h16

Rhiw Babell

9

1.5

Blwyddyn 6-10

PrC1/h17

4-5 Heol y Cei

5

0

Blwyddyn 6-10

PrC1/h18

Castell Howell

7

2.1

Blwyddyn 6-10

PrC1/h19

Tir gerllaw Ty Gwynfa

10

10

Blwyddyn 1-5

PrC1/h20

5-8 Heol Spilman

12

12

Blwyddyn 6-10

PrC1/h21

Clos Tawelan

18

18

Blwyddyn 1-5

PrC1/MU1

Gorllewin Caerfyrddin

700

84

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

291

PrC1/MU2

Pibwr-lwyd

247

61.75

Blwyddyn 11-15

Pont-iets / Y Meinciau / Pont-henri

SeC1/h1

Heol Pisgwydd

19

3.8

Blwyddyn 6-10

SeC1/h3

Tir yn ffinio â Chapel y Tabernacl

11

1

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

SeC1/h4

Cae Canfas, Heol Llanelli

8

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10

SeC1/h5

Tir yn 8 Heol Llanelli

6

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10

SeC1/h6

Tir oddi ar Heol Llanelli

10

2

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SeC1/h7

Tir oddi ar Heol Glyndwr

9

2

Blwyddyn 6-10

Glanyfferi

Sec2/h1

Llys Caradog

12

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

Sec2/h2

Tir y tu ôl i Barc y Ffynnon

12

1.2

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Cynwyl Elfed

SuV1/h1

Gerllaw Fron Heulog

8

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SuV1/h2

Tir ger Lleine

13

1.3

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Llansteffan

SuV3/h1

Tir y tu ôl i Faesgriffith

16

5

Blwyddyn 6-10

Bronwydd

SuV4/h1

Tir ar fferm Troed Rhiw

6

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10

Cwm-ffrwd

SuV5/h1

Tir ym Maesglasnant

20

4

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

Llan-gain

SuV8/h1

I'r de o Ddôl y Dderwen

36

10.8

Blwyddyn 6-10

Peniel

SuV10/h1

I'r de o Pentre

9

1

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

SuV10/h2

Aberdeuddwr/Pantyfedwen

38

4.56

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Alltwalis

SuV11/h1

*Tir yn Ysgol Alltwalis

12

12

Blwyddyn 6-10

Llanpumsaint

SuV12/h1

Ger Gwyn Villa

20

2.4

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SuV12/h2

Llandre

8

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Rhydargaeau

SuV14/h1

Fferm Cefn

36

3.7

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Llanarthne

SuV15/h1

Ysgol Llanarthne

8

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5

Capel Dewi

SuV16/h1

Heol Llwynddewi

8

Cyfraniadau Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

Nantgaredig

SuV17/h1

Cefn yr Hen Waith Saer, Heol yr Orsaf

35

4.2

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Pontargothi

SuV18/h1

Tir oddi ar yr A40, Pontargothi

15

1

Blwyddyn 6-10

Llanddarog

SuV19/h1

Tir gyferbyn â Neuadd y Pentref

16

3.2

Blwyddyn 6-10

SuV19/h2

Tir ger Haulfan a'r tu ôl i Haulfan

10

1

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Porth-y-rhyd

SuV20/h1

Tir ger Fferm Llwynhenri

6

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Clwstwr 1 Cyfanswm

1690

Clwstwr 2

Llanelli

PrC2/h1

Beech Grove, y Pwll

10

1

Blwyddyn 6-10

PrC2/h2

Hen Labordy Lôn Pen y Fai

13

2

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

PrC2/h3

Parc y Strade

94

0

Blwyddyn 1-5

PrC2/h4

Doc y Gogledd

210

42

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

PrC2/h6

107 Heol yr Orsaf

7

0

Blwyddyn 1-5

PrC2/h7

13 Heol yr Orsaf

9

0

Blwyddyn 1-5

PrC2/h9

*3-5 Heol Goring

8

8

Blwyddyn 1-5

PrC2/h10

Tir ger The Dell, Ffwrnes

13

1.3

Blwyddyn 6-10

PrC2/h12

*Llys yr Hen Felin, Canol y Dref

26

26

Blwyddyn 1-5

PrC2/h13

*Tir oddi ar Rodfa Frondeg

29

29

Blwyddyn 1-5

PrC2/h14

Cefn 22c, 22d a 22e Heol Llwynhendy

6

0

Blwyddyn 1-5

PrC2/h15

Heol Maesarddafen / Erw Las, Llwynhendy

94

18.8

Blwyddyn 6-10

PrC2/h16

Ynys Las, Llwynhendy

33

6.6

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

PrC2/h18

*Dylan, Trallwm

32

32

Blwyddyn 1-5

PrC2/h19

Genwen, y Bryn

240

48

Blwyddyn 1-5

PrC2/h20

*Harddfan

6

6

Blwyddyn 6-10

PrC2/h21

*Maes y Bryn, y Bryn

34

34

Blwyddyn 1-5

PrC2/h22

Cwm y Nant, Dafen

202

40.4

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

PrC2/h23

Porth Dwyrain Dafen

150

45

Blwyddyn 6-10

PrC2/h24

Clos Ffordd Fach

13

0

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

PrC2/h25

*Tir oddi ar Clos-y-Berllan

20

20

Blwyddyn 6-10

PrC2/h26

Gerllaw Rhif 19 Heol Llwynhendy

6

1

Blwyddyn 6-10

PrC2/h27

42 Stryd Stepney

8

0

Blwyddyn 1-5

PrC2/h28

Heol Y Graig, Llwynhendy

5

Cyfraniadau Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

PrC2/MU3

Hen Adeilad yr YMCA, Stryd Stepney, Canol Tref Llanelli

8

8

Blwyddyn 1-5

PrC2/SS1

Pentre Awel

240

60

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Cydweli

SeC3/h2

Tir oddi ar Stryd y Prior

20

2.4

Blwyddyn 11-15

SeC3/h3

Llys Felin

24

1.5 + Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

SeC3/h4

Tir yn Dinas Yard gynt

71

5

Blwyddyn 6-10

Porth Tywyn

SeC4/h1

Fferm Gwdig

105

21

Blwyddyn 1-5

SeC4/h2

Harbwr Porth Tywyn

364

72.8

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SeC4/h3

*Teras Glanmor

32

32

Blwyddyn 1-5

Pen-bre

SeC5/h1

*Garreglwyd

14

14

Blwyddyn 1-5

SeC5/h2

Awel y Mynydd

100

20

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

Yr Hendy / Fforest

SeC6/h1

Llwyngwern

20

5

Blwyddyn 1-5

SeC6/h2

Tir rhwng Heol Clayton a Dwyrain Heol Bronallt

20

2.2

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

SeC6/h3

Coed y Bronallt

6

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

SeC6/h4

Ger Clos Benallt Fawr, Fforest

35

4

Blwyddyn 1-5

Llangennech

SeC7/h1

Box Farm

7

1.4

Blwyddyn 6-10

SeC7/h3

Golwg yr Afon

50

25

Blwyddyn 6-10

SeC7/h4

Gyferbyn â Pharc Morlais

32

3.84

Blwyddyn 6-10

SeC7/h5

*Maesydderwen

5

5

Blwyddyn 6-10

Trimsaran / Carwe

SeC8/h1

Ffos Las

159

10

Blwyddyn 1-5

SeC8/h2

Cae Linda

45

5.4

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SeC8/h3

Golwg Gwendraeth

141

14

Blwyddyn 6-10

Mynyddygarreg

SuV22/h1

Gerddi Gwenllian

25

5

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

SuV22/h2

Tir ger Tŷ Newydd, Heol y Meinciau

8

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Pump-hewl / Horeb

SuV23/h1

Clos y Parc

16

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5

SuV23/h2

Ger Little Croft

25

3

Blwyddyn 11-15

Clwstwr 2 Cyfanswm

2840

Clwstwr 3

Rhydaman (gan gynnwys y Betws a Phen-y-banc)

PrC3/h1

Tir y tu ôl i 16-20 a 24-30 Heol y Betws

9

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 11-15

PrC3/h2

Hen Orsaf Betrol, Stryd y Gwynt

6

6

Blwyddyn 1-5

PrC3/h3

*Tir yng Ngwynfryn Fawr

28

28

Blwyddyn 1-5

PrC3/h4

Fferm Tirychen

150

37.5

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

PrC3/h5

Yr Hen Felin, Heol Pontaman

6

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5

PrC3/h6

Tir sy'n ffinio â Maes Ifan, Ffordd Maescwarrau

18

1.8

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

PrC3/h33

Llys Dolgader

9

0

Blwyddyn 1-5

PrC3/h36

Glofa'r Betws

66

0

Blwyddyn 11-15

Castell y Rhingyll

PrC3/h34

Clos y Gât

5

0

Blwyddyn 1-5

Cefneithin

PrC3/h8

Tir oddi ar Heol y Parc

18

1.8

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Cross Hands

PrC3/h9

Tir ger Maesyrhaf

5

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10

PrC3/h11

*Ffordd y Neuadd a Clos yr Eithin

60

60

Blwyddyn 1-5

PrC3/h12

Tir sy'n ffinio â'r A48 a Heol y Parc

9

0

Blwyddyn 6-10

PrC3/h13

Tir ar Heol Cae Pownd

135

4

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

Dre-fach (Tymbl)

PrC3/h14

*Nantydderwen

33

33

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

PrC3/h15

Tir oddi ar Heol Caegwyn

7

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

PrC3/h16

Uwch Gwendraeth

6

1

Blwyddyn 1-5

Gors-las

PrC3/h18

Tir yn ffinio â Brynlluan

29

3.48

Blwyddyn 11-15

Llandybïe

PrC3/h19

Tir oddi ar Lys y Nant

9

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5

PrC3/h20

Tir i'r gogledd o Faes Piode

45

5.4

Blwyddyn 6-10

PrC3/h21

*Maes Piode

8

8

Blwyddyn 1-5

PrC3/h37

*Clos Felingoed

24

24

Blwyddyn 6-10

Pen-y-groes

PrC3/h22

Ger Pant y Blodau

79

8

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

PrC3/h23

Tir ar Heol Waterloo

13

0

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

PrC3/h24

Tir rhwng 123 a 137 Heol Waterloo

7

0

Blwyddyn 1-5

PrC3/h25

*Tir oddi ar Heol y Gât

8

8

Blwyddyn 1-5

PrC3/h35

Clos Penpont

9

0

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

PrC3/MU1

Gwaith Brics Emlyn

177

44.25

Blwyddyn 11-15

Saron

PrC3/h26

Tir oddi ar Barc-y-Mynydd

15

1.5

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

PrC3/h27

Tir oddi ar Heol Nant-y-Ci

18

1.8

Blwyddyn 11-15

Y Tymbl

PrC3/h28

Tir ar safle Ffatri rhwng 22 a 28 Heol Bethesda

30

3.6

Blwyddyn 6-10

PrC3/h29

Garej Central

24

5

Blwyddyn 1-5

Tŷ-croes

PrC3/h31

Tir yn Fforest-fach

17

1

Blwyddyn 1-5

PrC3/h32

*Tir i'r de o Heol Tŷ-croes

37

37

Blwyddyn 1-5

Brynaman

SeC9/h2

Heol y Gelynnen

8

8

Blwyddyn 11-15

Glanaman / y Garnant

SeC10/h1

Ysgol Gynradd Gymunedol y Garnant, Heol Ysgol Newydd

12

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5

SeC10/h2

Tir yn gyfagos ag 13 Heol yr Esgob

8

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

Pontyberem / Bancffosfelen

SeC11/h1

Tir oddi ar Heol Llan-non

15

1.5

Blwyddyn 11-15

SeC11/h2

Tir yn Ffynnon Fach

19

2

Blwyddyn 1-5

Llan-non

SuV25/h1

Tir i'r gogledd o Glos Rebecca

47

3

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

Llanedi

SuV26/h1

Y tu ôl i 16 Y Garreg Lwyd

11

1.1

Blwyddyn 6-10

Carmel

SuV27/h1

Tir ger Tŷ Newydd

5

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10

Cwmgwili

SuV28/h1

Ger Coed y Cadno

18

2

Blwyddyn 1-5

Ystradowen

SuV30/h1

Tir oddi ar Bant y Brwyn

5

5

Blwyddyn 6-10

Clwstwr 3 Cyfanswm

1267

Clwstwr 4

Castellnewydd Emlyn

SeC12/h1

Trem y Ddôl

17

1.7

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SeC12/h2

Heol Dewi

14

0

Blwyddyn 1-5

SeC12/h3

Tir y tu ôl i Ddolcoed

20

3.4

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Llanybydder

SeC13/h1

Ger Y Neuadd

10

1

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SeC13/h4

Bro Einon

9

2

Blwyddyn 6-10

Pencader

SeC14/h1

Garej Blossom

20

3.4

Blwyddyn 6-10

SeC14/h2

Tir ger Maescader

24

2.88

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Waungilwen

SuV32/h1

Gyferbyn â Springfield

6

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

Llangeler

SuV33/h1

Tir gyferbyn â Brogeler

5

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Saron/Rhos

SuV35/h1

Tir ger Arwynfa

6

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10

Llanllwni

SuV36/h1

Cae Pensarn Helen

6

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SuV36/h2

*Tir ym Mryndulais

16

16

Blwyddyn 6-10

Cwm-ann

SuV37/h2

Tir i'r de o Cae Coedmor

20

2.4

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SuV37/h3

Tir gerllaw Lleinau

10

1

Blwyddyn 6-10

Capel Iwan

SuV38/h1

Maes y Bryn

6

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10

Llanfihangel ar arth

SuV39/h1

Ger Yr Hendre

7

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Pont-tyweli

SuV41/h2

Cilgwyn Bach

14

2

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

New Inn

SuV43/h1

Blossom Inn

8

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

Clwstwr 4 Cyfanswm

218

Clwstwr 5

Llanymddyfri

SeC15/h1

Tir i'r gogledd o Dan y Crug

61

12

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SeC15/h2

Tir ger Bryndeilog, Rhodfa Tywi

8

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 11-15

Llandeilo

SeC16/h1

Chwarter Gogleddol Llandeilo

27

3.24

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Llangadog

SeC17/h1

Tir gyferbyn ag Ysgol Gynradd Gymunedol Llangadog

16

1.6

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SeC17/h2

Tir oddi ar Heol Pendref

8

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SeC17/h3

*Ger yr Ysgol

21

21

Blwyddyn 1-5

Llanfynydd

SuV49/h1

Awel y Mynydd

13

2

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

Cwmifor

SuV51/h1

Gyferbyn â Neuadd y Pentref

8

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 11-15

Clwstwr 5 Cyfanswm

162

Clwstwr 6

Sanclêr / Pwll Trap

SeC18/h1

Ger Brittania Terrace

60

12

Blwyddyn 11-15

SeC18/h2

*Hen Ffatri Fenyn

45

45

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

SeC18/h3

Tir ger Cefn Maes

100

20

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SeC18/h4

Tir ar Heol Llaindelyn

6

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SeC18/h5

Tir ger Gwynfa, Heol yr Orsaf

8

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SeC18/h6

Tir y tu ôl i Heol yr Orsaf

25

3

Blwyddyn 11-15

SeC18/h7

Tir ger Caeau Gardde

8

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SeC18/h8

Tir yng Nghae Glas

5

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 11-15

SeC18/h9

Tir i'r gorllewin o'r Stryd Fawr (Heol Fawr)

64

5

Blwyddyn 6-10

Hendy-gwyn ar Daf

SeC19/h1

Tir yn Park View, Trefechan

8

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SeC19/h2

Tir yn Hufenfa Hendy-gwyn ar Daf

48

5.76

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

SeC19/h3

Gerddi Lingfield

57

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

SeC19/h4

*Parc y Dressig

15

15

Blwyddyn 1-5

Talacharn

SeC20/h1

Pludds Meadow

24

2

Blwyddyn 1-5

SeC20/h2

Ger Ysgol Talacharn

42

12.6

Blwyddyn 11-15

SeC20/h3

Tir oddi ar Clifton Street

6

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 11-15

Glandy Cross

SuV55/h1

Tir y tu ôl i Faes-glas

9

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10

SuV55/h2

Tir i'r gogledd o Dafarn Cross Inn

6

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Efail-wen

SuV56/h1

Tir y tu ôl i Dalar Wen

6

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Meidrim

SuV58/h1

*Tir ger Lôn Dewi

10

10

Blwyddyn 6-10

SuV58/h2

Tir oddi ar Heol Drefach

15

1.5

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Bancyfelin

SuV59/h1

Maes y Llewod

17

4

Blwyddyn 1-5

SuV59/h2

I'r gogledd o Faes y Llewod

19

1.9

Blwyddyn 6-10

Llangynog

SuV60/h1

Tir yn College Bach

6

Cyfraniad Swm Cyfnewid

Blwyddyn 6-10
Blwyddyn 11-15

Pentywyn

SuV61/h1

Tir ar Fferm Nieuport

10

1

Blwyddyn 6-10

Llanmilo

SuV63/h1

Tir yn Woodend

28

4

Blwyddyn 1-5
Blwyddyn 6-10

Clwstwr 6 Cyfanswm

647

Tabl 5: Tabl Dyrannu Tai

11.84 Mae'r tir a ddyrannwyd ar gyfer tai a nodwyd drwy'r polisi hwn a thrwy ddarpariaethau eraill y Cynllun hwn yn ceisio bodloni'r gofynion tir ar gyfer tai yn y Sir. Wrth eu dosbarthu, cafodd y dyraniadau hynny eu llywio at aneddiadau mewn modd a oedd yn gyson â strategaeth gyffredinol y Cynllun. Fodd bynnag, mae'r Cynllun yn ceisio cyflawni hyn drwy hierarchaeth strwythuredig a thrwy ddosbarthu twf mewn modd sy'n golygu bod mwyafrif y tir sydd ei angen ar gyfer y tai yng nghanolfannau cynaliadwy Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman/Cross Hands. Mae dyraniadau pellach wedi'u dosbarthu ar draws gweddill yr hierarchaeth.

11.85 Bwriedir i'r niferoedd ar safleoedd a amlygwyd ym Mholisi HOM1 fod yn niferoedd dangosol, ac iddynt gael eu hystyried fesul safle. Rhoddir ystyriaeth bellach i'r niferoedd hynny wrth gyflwyno ceisiadau. Bydd yn rhaid rhoi ystyriaeth hefyd i bolisïau a darpariaethau'r cynllun hwn, ac i egwyddorion dylunio eraill perthnasol.

11.86 I gyd-fynd â chynigion i ddatblygu safleoedd a ddyrannwyd ar gyfer tai a gyflwynir mewn ceisiadau am Ganiatâd Cynllunio Llawn neu ganiatâd ar gyfer Materion a Gadwyd yn Ôl, dylid cyflwyno cynllun o'r safle sydd wedi'i ddyrannu yn ei gyfanrwydd, er mwyn sicrhau bod y safle'n cael ei ddatblygu'n unol â'i botensial llawn, ei fod yn darparu cymysgedd o dai o wahanol fathau, maint a deiliadaeth, a'i fod yn diwallu anghenion y boblogaeth leol. Dylid cyfeirio hefyd at bolisi PSD2 yn gysylltiedig â gofynion prif gynlluniau.

11.87 I ategu'r Cynllun ceir Cynllun Cyflawni Seilwaith sy'n rhoi manylion pellach ynghylch amserlennu, ariannu a chyflawni seilwaith sydd ei angen ar gyfer pob safle allweddol. Yn hyn o beth, bydd yn ofynnol hefyd i gynigion liniaru yn erbyn unrhyw effeithiau polisi posibl sy'n gysylltiedig â'i ddatblygiad.

HOM2: Tai o fewn Terfynau Datblygu

Caniateir cynigion am ddatblygiadau tai ar safleoedd heb eu dyrannu o fewn ffiniau datblygu anheddiad diffiniedig yn Haenau 1, 2 a 3, ar yr amod eu bod yn gyson â'r egwyddorion yn strategaeth, polisïau a chynigion y Cynllun.

11.88 Mae safleoedd a all gynnwys pum neu fwy o anheddau wedi'u cynnwys fel safleoedd tai wedi'u dyrannu yn y Cynllun (gweler Polisi HOM1). Fodd bynnag, o fewn ffiniau datblygu aneddiadau diffiniedig gallai cyfleoedd godi i ddatblygu ar safleoedd heb eu dyrannu. O fewn yr hierarchaeth aneddiadau, gelwir tir nad yw wedi'i ddyrannu yn hap-safle yn gysylltiedig â datblygiad tai. Dylai cynigion adlewyrchu cymeriad yr ardal a bod yn gyson â darpariaethau'r Cynllun.

HOM3: Cartrefi mewn Pentrefi Gwledig

Yn yr aneddiadau hynny a nodir yn bentrefi gwledig o dan Bolisi SP3, caniateir cynigion am 1 i 4 annedd ar gyfer y canlynol:

  • safle mewnlenwi bach neu fwlch bach rhwng y ffurf adeiledig bresennol; neu,
  • estyniadau rhesymegol ac/neu gwblhau'r patrwm datblygu mewn modd sy'n cydweddu â chymeriad ffurf a thirlun y pentref; neu
  • addasu neu isrannu anheddau mawr.

Bydd ystyriaethau cynllunio eraill manwl a nodir ym mholisïau'r CDLl yn berthnasol wrth drafod y cynigion hynny.

Cyfeirir at y canllawiau ar blotiau derbyniol ym mhentrefi gwledig y Sir (gweler isod).

Ni chaiff cynigion sydd yn fwy na'r cap o 10% yn ychwanegol at nifer y tai presennol yn yr anheddiad, ar ddyddiad sylfaen y CDLl, onid ydynt yn cydymffurfio â Pholisi AHOM1 o ran darparu tai fforddiadwy.

11.89 Mae'r fframwaith aneddiadau ar gyfer ardal y Cynllun a nodir ym Mholisi Strategol SP3 yn cydnabod ac yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal a'i chymunedau. Wrth nodi'r Pentrefi Gwledig, mae'r Cynllun yn ceisio darparu ar gyfer yr aneddiadau hynny sy'n gwneud cyfraniad pwysig o fewn eu cymunedau a chynnig cyfleoedd ar gyfer tai newydd addas ac ar raddfa fach mewn lleoliadau gwledig.

11.90 Mae'r rhan hon o fframwaith polisi gwledig y Cynllun yn ceisio sefydlu ymagwedd hyblyg ond rheoledig at ddarparu tai newydd o fewn yr aneddiadau hynny. Mae'r Cynllun yn defnyddio asesiad seiliedig ar feini prawf i ddiffinio cyfleoedd tai ar raddfa fach mewn pentrefi gwledig ac i ddiwallu'r angen am dai newydd mewn rhannau gwledig o Sir Gaerfyrddin, ar raddfa ac mewn lleoliadau sy'n cynnal cymeriad hanfodol cefn gwlad.

11.91 Er mwyn adlewyrchu'r cymeriad gwledig ac atal lefelau twf annerbyniol a allai fod yn niweidiol, caniateir cap o 10% yn ychwanegol at nifer y tai presennol yn yr anheddiad, ar ddyddiad sylfaen y Cynllun.

11.92 Cyhoeddir canllawiau pellach ar ffurf Canllaw Cynllunio Atodol er mwyn cynorthwyo i ddehongli a chymhwyso'r uchod, a'r polisi. Bydd y canllaw yn rhan o gyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol i gynorthwyo gydag ystyriaethau ynghylch dylunio a lleoli yn gyffredinol, ac yn galluogi cynigion i gyfrannu at ddatblygu cymunedau cydlynus a chynaliadwy, ac integreiddio'n effeithiol iddynt.

Canllawiau ar Leiniau Derbyniol

  1. Bydd safleoedd mewnlenwi o fewn y pentrefi gwledig hyn yn cael blaenoriaeth dros leoliadau eraill;
  2. Lle bo'n briodol, bydd safleoedd sy'n ffinio â phentref gwledig hefyd yn dderbyniol. Bydd yn ofynnol i safleoedd o'r fath ffinio ag un eiddo sy'n rhan o grŵp y pentref gwledig. Bydd yn ofynnol i bob cynnig sy'n ffinio â grŵp (yn wahanol i safleoedd mewnlenwi) ddangos y canlynol:
    • nodwedd ffisegol neu weledol bresennol sy'n creu ffin i'r grŵp - gan leihau pwysau am ddatblygiad hirgul neu flerdwf trefol annerbyniol;
    • os nad oes nodwedd o'r fath yn bodoli, gellid darparu nodwedd o'r fath ar yr amod ei bod yn cyd-fynd â chymeriad y grŵp o ran graddfa ac ymddangosiad;
  3. Ni fydd cynigion mewn caeau agored sy'n ffinio â grŵp, nad oes ganddynt unrhyw nodweddion ffisegol i'w hamgylchynu yn cael eu hystyried yn dderbyniol;
  4. Ni chaiff cynigion y tu hwnt i nodweddion ffisegol clir sy'n creu ffiniau cryf o amgylch grŵp (ee, priffyrdd, lleiniau sylweddol o goed, afonydd ac ati) yn cael eu hystyried yn dderbyniol.

HOM4 - Tai mewn Aneddiadau Gwledig Anniffiniedig

Caniateir cynigion am dai sengl newydd mewn aneddiadau, pentrefannau a grwpiau o anheddau (fel y'u diffinnir yn y eirfa) nad ydynt wedi'u dynodi o dan Bolisi Strategol SP3 os ydynt yn bodloni angen lleol am dai fforddiadwy ac yn cydymffurfio â'r canlynol:

  1. Ei fod yn ddatblygiad mewnlenwi sensitif mewn bwlch bach mewn ffryntiad adeiledig sydd fel arall yn ddi-dor; neu, mae'n cwblhau'r patrwm datblygu mewn modd addas;
  2. Bod y datblygiad ar raddfa sy'n gyson â chymeriad yr ardal ;
  3. Na fydd y cynnig yn arwain at ddatblygu i'r dirwedd mewn modd ymwthiol, ac na fydd yn cyflwyno patrwm datblygu tameidiog,
  4. Bod maint yr eiddo yn adlewyrchu'r angen penodol am annedd fforddiadwy yn nhermau maint y tŷ a nifer yr ystafelloedd gwely;
  5. Bod deiliadaeth yr annedd wedi'i chyfyngu i rai ac arnynt angen annedd fforddiadwy, wrth feddiannu am y tro cyntaf ac am byth wedi hynny.

11.93 Ceir nifer nodedig o aneddiadau bach neu grwpiau o anheddau ledled y Sir nad ydynt wedi'u diffinio o fewn y fframwaith aneddiadau, ac fel y cyfryw nid oes ganddynt derfynau datblygu.

11.94 Nodir hefyd fod angen cyflenwi'r ddarpariaeth honno yn erbyn agenda genedlaethol sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd â chreu lleoedd yn rhan greiddiol o hynny. Yn hyn o beth, cyfeirir at ddarpariaethau Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol arfer rheolaeth lem dros bob datblygiad preswyl nad yw wedi'i leoli ger aneddiadau presennol. Gan adlewyrchu darpariaethau polisi cenedlaethol, mae'r polisi felly'n mynnu bod anheddau i fodloni angen lleol am dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig yn cael eu cyfyngu i grwpiau sefydledig o anheddau.

11.95 Er bod sylfaen gadarn o dystiolaeth i gefnogi'r CDLl Diwygiedig, cydnabyddir bod manylion anghenion tai yn newid dros amser. Ar gyfer cynigion am dai fforddiadwy, bydd yn ofynnol cyflwyno tystiolaeth i ddangos yr angen penodol lleol a sicrhau bod y cynnig yn darparu tai o'r maint, o'r math ac o'r ddeiliadaeth sydd ei hangen. Ni chaiff cynigion i fodloni angen lleol tybiannol eu hystyried. Yn lle hynny, dylent fod yn gysylltiedig ag angen a nodwyd gan unigolion/teuluoedd o fewn yr ardal benodol.

11.96 Lle bônt ar gael, dylid defnyddio arolygon anghenion tai lleol i ddarparu'r dystiolaeth hon. Fel arall, gellir ystyried bod ffurfiau eraill ar dystiolaeth yn briodol, gan gynnwys Asesiadau Ardal Marchnad Dai Strategol, a chofrestrau anghenion/gosod tai lleol.

11.97 Bydd mesurau'n cael eu gorfodi i reoli meddiannaeth, er mwyn sicrhau bod manteision fforddiadwyedd yn cael eu cadw am byth i feddianwyr dilynol. Ceir diffiniad o Aneddiadau Gwledig Anniffiniedig a Thai sy'n Bodloni Anghenion Lleol yn y Rhestr Termau.

HOM5: Addasu neu Isrannu Anheddau Presennol

Caniateir cynigion i addasu neu isrannu anheddau priodol yn fflatiau neu'n anheddau amlbreswyl, os:

  1. Na fydd hynny'n arwain at or-ddwysáu'r defnydd;
  2. Oes mannau parcio addas ar gael, neu os darperir hynny;
  3. Bydd ansawdd pensaernïol, cymeriad ac ymddangosiad yr adeilad yn cael ei warchod, lle bo'n berthnasol, ac na chaiff ei leoliad ei niweidio i raddau annerbyniol.

11.98 Mae'r polisi hwn yn ceisio adlewyrchu potensial cyfleoedd i addasu anheddau presennol priodol yn lle adeiladu o'r newydd. Yn aml gall cyfleoedd o'r fath greu ystod a deis ychwanegol o fewn y stoc tai, a chynnig opsiynau eraill i berchnogion eiddo, lle nad yw meddiannaeth unigol mewn anheddau mwy yn briodol mwyach.

11.99 Dylai estyniadau fod yn israddol i'r annedd bresennol, a cydweddu â maint, math a chymeriad yr annedd bresennol, a pheidio ag achosi gorddatblygu (dylid cyfeirio at bolisi PSD10: Estyniadau). Lle bo'n briodol, anogir ailddefnyddio deunyddiau yn rhan o unrhyw ddatblygiad mewn cynigion.

11.100 Fel rhan o unrhyw gynnig datblygu, dylid cyfeirio at Bolisi PSD1 o'r Cynllun hwn sy'n ymwneud ag Atebion Dylunio Effeithiol: Cynaliadwyedd a Chreu Lleoedd.

HOM6: Tai Arbenigol

Caniateir cynigion am ddatblygiadau cartref gofal newydd ac estyniadau i gyfleusterau tai arbenigol sefydledig oddi mewn i derfynau datblygu aneddiadau diffiniedig presennol (Polisi SP3) neu'n ffinio â hwy os:

  1. Ydynt yn adlewyrchu anghenion y meddianwyr arfaethedig o ran sicrhau bod ganddynt fynediad diogel a chyfleus at siopau, gwasanaethau, cyfleusterau cymunedol a thrafnidiaeth gyhoeddus neu lwybrau teithio llesol; ac,
  2. Ydynt yn darparu llety addas a phriodol o ran ansawdd, dyluniad a math, yn ogystal â lefel briodol o gymorth a gofal i'r meddianwyr arfaethedig

Caniateir cynigion am dai arbenigol y tu allan i'r terfynau datblygu diffiniedig a heb fod yn ffinio â hwy dim ond os gellir dangos eu bod yn hyfyw ac yn gynaliadwy a:

  1. Lle mae'r cynnig yn ychwanegiad at gartref gofal presennol, a'i raddfa heb fod yn anghymesur; neu,
  2. Os yw'n golygu addasu eiddo presennol mewn modd priodol, sydd yn cyd-fynd ag anghenion y meddianwyr arfaethedig, ac yn gyson â maen prawf a) a b) uchod.

11.101 Gallai proffil oedran newidiol y Sir a'r symudiad parhaus a ragwelir dros gyfnod y cynllun tuag at boblogaeth sy'n heneiddio gynyddu'r angen am Dai Arbenigol. Bydd modd bodloni rhai gofynion am ddarpariaeth byw gyda chymorth neu anghenion cymorth drwy addasu tai presennol neu drwy gyfleusterau presennol. Er hynny, cydnabyddir bod angen i'r Cynllun gynnwys darpariaeth i ystyried yr angen am gartrefi gofal newydd. Gan hynny, mae'r polisi hwn yn ceisio darparu fframwaith ar gyfer ystyried cynigion, er mwyn sicrhau ystyriaeth briodol o anghenion y rhai y mae angen gofal arnynt.

11.102 I ddibenion y polisi hwn, mae'r diffiniad o Dai Arbenigol yn gysylltiedig â chartrefi nyrsio, tai gwarchod, cartrefi gofal ychwanegol neu ofal agos (warden), cyfleusterau ymddeol sy'n adlewyrchu anghenion gofal parhaus, a chyfleusterau eraill lle darperir gofal. Pan gynigir cartref gofal ar safle sydd wedi'i ddyrannu at ddefnydd preswyl yn y Cynllun, rhoddir ystyriaeth i natur y cynnig a'i addasrwydd ar gyfer y lleoliad arfaethedig. Bydd lefel annibyniaeth y preswylwyr yn ystyriaeth bwysig, ac ni fydd tai 'drws caeedig' fel arfer yn cael eu hystyried yn briodol.

11.103 Bydd cynnwys cartrefi gofal oddi mewn i'r terfynau datblygu neu sy'n ffinio â hwy yn sicrhau bod preswylwyr yn cael cyfle i integreiddio i'r gymuned a bod y datblygiadau yn rhan o'r ffurf drefol neu adeiledig. Mae hygyrchedd y seilwaith a'r cyfleusterau hynny yn elfen bwysig ymhlith anghenion pobl.

HOM7: Adnewyddu Adeiladau Adfeiliedig neu Adawedig

Caniateir cynigion i adnewyddu anheddau adfeiliedig neu anheddau wedi'u gadael y tu allan i Derfynau Datblygu anheddiad diffiniedig (Polisi SP3) os:

  1. Gellir dangos bod rhan sylweddol o'r strwythur gwreiddiol yn gadarn ac yn ddigon cyfan, gan olygu nad oes angen ond ychydig o waith adfer strwythurol;
  2. Bod yr adeilad yn arddangos ac yn cadw nodweddion pensaernïol o ansawdd digonol a deunyddiau traddodiadol heb golli gormod o gymeriad a hygrededd y strwythur gwreiddiol;
  3. Na cheir unrhyw effaith andwyol ar leoliad na hygrededd yr amgylchedd hanesyddol.

Mewn achosion eithriadol lle gellir dangos bod yr annedd wreiddiol wedi chwarae rhan gydnabyddedig a sylweddol yn hanes, diwylliant a datblygiad Sir Gaerfyrddin, gellir derbyn ffotograffau neu ddogfennau yn dystiolaeth o fanylion gwreiddiol yr annedd.

11.104 Drwy adnewyddu anheddau wedi'u gadael, gellir gwneud cyfraniad bach ond pwysig at anghenion ardal. Bydd gwerth pensaernïol nifer o anheddau adfeiliedig neu anheddau wedi'u gadael yn aml yn adlewyrchu'r arddull draddodiadol gynhenid, a dylid cydnabod hynny wrth gyflwyno cynigion ar eu cyfer. Dylai estyniadau, gofynion mynediad neu unrhyw agweddau eraill sy'n gysylltiedig â'r cynnig fod yn ystyriol o gymeriad yr adeilad gwreiddiol a'r tirlun. Bydd cynigion sy'n ceisio gwneud cyfraniad cadarnhaol at rinweddau tirweddol yr ardal yn cael eu hannog.

11.105 Os na fydd cynigion yn bodloni'r uchod (gan gynnwys ailadeiladu), fe'u hystyrir yn ddatblygiad mewn ardal o gefn gwlad agored, a gwneir penderfyniad yn eu cylch yn unol â hynny.

HOM8: Carafanau Preswyl

Caniateir cynigion ar gyfer carafanau preswyl dros dro os:

  1. Oes angen y garafán fel llety i weithiwr hanfodol, mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth neu gyflogaeth arall briodol, y mae'n rhaid iddo fyw ar y safle yn hytrach na mewn anheddiad cyfagos; neu,
  2. Os oes angen y garafán yn gysylltiedig â gwaith adeiladu annedd sengl ar lain hunanadeiladu, neu wrth adeiladu annedd sy'n cael ei chodi yn lle annedd flaenorol; a,
  3. Bydd y garafán neu'r cartref symudol wedi'i leoli'n agos at adeiladau eraill lle bo modd, ac na fydd yn achosi unrhyw broblemau sylweddol o ran mynediad, parcio, seilwaith neu amwynder; ac,
  4. Na fydd yn cael effaith andwyol annerbyniol ar amcanion ehangach o ran y dirwedd neu gadwraeth natur.

11.106 Bydd amodau'n cael eu gosod ynghylch lleoli carafán/cartref symudol sydd ei angen yn gysylltiedig â'r uchod, er mwyn sicrhau y bydd yn cael ei symud o'r safle pan na fydd angen ei defnyddio mwyach. Asesir hyd unrhyw ganiatâd dros dro yn erbyn manylion neilltuol pob cais. Bydd yr hyn a benderfynir o ran yr amserlen angenrheidiol ar gyfer lleoli carafanau / cartrefi symudol yn gysylltiedig ag adeiladu annedd hunanadeiladu wedi'i seilio ar hyd y gwaith adeiladu disgwyliedig.

HOM9: Datblygiad Preswyl Ategol

Cefnogir cynigion am lety preswyl ategol ar ffurf rhandy os:

  1. Bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan berthynas annibynnol yn unig, neu gan unigolyn sy'n ddibynnol ar yr aelwyd, lle bwriedir rhoi elfen o annibyniaeth; gan ddibynnu'n rhannol ar gyfleusterau'r brif annedd;
  2. Yw'n ategu'r brif annedd, gyda chyfyngiadau llym arno o ran maint, graddfa ac arwynebedd llawr er mwyn adlewyrchu anghenion y defnyddiwr;
  3. Yw wedi'i leoli ar gwrtil presennol y brif annedd, heb unrhyw ardal ar wahân o ardd, mynedfa ar wahân i gerbydau na man parcio ar wahân;
  4. Yw wedi'i gynllunio i fod yn israddol i'r brif annedd, ac yn parchu ac yn gwella cymeriad y brif annedd, ac na fyddai'n orddatblygiad i'r ardd a/neu'r cwrtil.

Na fydd y llety ond yn cael ei ganiatáu os bydd y berchnogaeth arno yr un peth â pherchnogaeth y brif annedd. Bydd meddiannaeth yn y dyfodol yn gysylltiedig â pherchnogaeth fuddiol y brif annedd drwy gyfrwng cytundeb Adran 106.

11.107 Gall llety preswyl ategol fod o ddefnydd werthfawr gan alluogi perthynas i fyw gyda'i deulu gan gadw rhywfaint o annibyniaeth. Fodd bynnag, mae angen lefel o reolaeth dros y llety hwnnw er mwyn sicrhau bod ei swyddogaeth o natur ategol, ac nad arwain at greu annedd hunangynhaliol ar wahân.

11.108 Dylai unrhyw gynnig adlewyrchu ei swyddogaeth ategol a pheidio cynnwys yr ystod lawn o gyfleusterau a gysylltir ag annedd annibynnol. Ni ddylid ychwaith ei ddylunio mewn modd a fyddai'n golygu y gellir ei addasu neu ei feddiannu fel annedd annibynnol. Dylid dylunio cynigion i adlewyrchu anghenion hanfodol a nodwyd gan y meddiannydd, gyda'r darpariaethau syml yn adlewyrchu natur ategol y rhandy. Ar gyfer un preswylydd byddai hyn fel arfer yn cynnwys un ystafell wely en-suite ac ardal fyw gyda chegin fach.

11.109 Bydd yn ofynnol i berchnogaeth y rhandy fod yr un peth â pherchnogaeth y brif annedd, a dylid cynnwys manylion ei feddianwyr gydag unrhyw gais, gan gynnwys perthynas y meddianwyr hynny ac/neu eu dibyniaeth â meddianwyr y brif annedd, a manylion ynghylch perchnogaeth y rhandy.

11.110 Bydd yn rhaid ystyried angen y deiliad mewn perthynas â maint unrhyw adeilad allanol y cynigir ei drawsnewid. Yn hyn o beth, mae'n bosibl na fydd hi ond yn dderbyniol addasu rhan o'r adeilad er mwyn sicrhau nad yw'r rhan sy'n cael ei haddasu ond yn darparu cyfleusterau cyfyngedig sy'n gymesur â'i phwrpas ategol.

11.111 Ni ddylai'r rhandy ddisodli defnydd presennol a fyddai'n golygu bod angen codi adeilad arall fel bo modd parhau â'r defnydd hwnnw. Ni ystyrir rhandy ar wahân wedi'i adeiladu o'r newydd ond os dangosir i raddau boddhaol nad yw estyniad nac addasu yn briodol nac yn bosibl, ac ni chaniateir hyn mewn lleoliadau y tu allan i ffiniau anheddiad diffiniedig.

Polisi Strategol – SP 5: Strategaeth Tai Fforddiadwy

Bydd y Cynllun yn sicrhau bod cymaint o dai fforddiadwy ag sy'n bosibl yn cael eu darparu hyd at 2033, drwy ddarparu isafswm o 1,900 o dai fforddiadwy. Bydd hyn o gymorth i ddatblygu a gwella cymunedau cynaliadwy a chytbwys.

11.112 Mae tai fforddiadwy yn fater allweddol i'w ystyried wrth baratoi'r CDLl Diwygiedig, yn enwedig er mwyn cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy, cytbwys a chydlynus.

11.113 Mae'r polisi hwn yn ceisio adlewyrchu'r gofynion a nodir yn TAN 2 - Cynllunio a Thai Fforddiadwy (2006) sy'n ceisio sefydlu trefniadau diogel 'er mwyn sicrhau eu bod o fewn cyrraedd i'r rheini sydd heb fod yn gallu fforddio tai ar y farchnad agored, gan gynnwys pobl sy'n eu meddiannu gyntaf a'r bobl sy'n dod ar eu hôl'.              

11.114 Ceir dau brif fath o dai fforddiadwy, fel y'u diffinnir yn TAN2:

  • Tai Rhent Cymdeithasol: wedi'u darparu gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig; a
  • Thai Canolradd: lle bo'r prisiau neu'r rhent yn uwch na thai rhent cymdeithasol ond yn is na thai'r farchnad[51].

11.115 Wrth asesu'r angen am anheddau fforddiadwy, rhoddir sylw i'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA) diweddaraf ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Yn LHMA 2019, nodir ymraniad 76% / 24% rhwng yr aelwydydd ac arnynt angen tai ar y farchnad a'r aelwydydd hynny ac arnynt angen tai fforddiadwy. I ddibenion yr LHMA, mae'r Sir wedi cael ei rhannu i 4 Ardal Gweithredu ar Dai Fforddiadwy, ac mae cyfran sylweddol o'r aelwydydd ac arnynt angen tai fforddiadwy yn Ardal Weithredu Llanelli (47%). Mae'r LHMA hefyd yn nodi math a maint y tai sydd eu hangen drwy'r Sir, ac mae gan Lanelli amrediad cyson o angen ar draws cartrefi 1, 2 a 3 ystafell wely. Yn gyffredinol ar draws yr Ardaloedd Gweithredu eraill, mae angen datblygu tai 2 a 3 ystafell wely er mwyn bodloni'r angen am dai fforddiadwy. Wrth ddadansoddi'r data hyn, gwelir cydberthynas gref rhwng lleoliad yr angen am dai fforddiadwy a dosbarthiad y twf tai arfaethedig a nodir yn strategaeth y CDLl a'r fframwaith aneddiadau (gweler polisi SP3).

11.116 Er bod y CDLl a'r system gynllunio yn ceisio cefnogi darparu tai fforddiadwy, nid yw ond un ymhlith amryw o fecanweithiau a ddefnyddir i fodloni'r angen hwn. Adlewyrchir hyn yng Nghynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy y Cyngor, sy'n pennu gweledigaeth pum mlynedd ar gyfer darparu tai fforddiadwy. Nodir cyfraniad y CDLl at y targed yn SP5 drwy:

  • Ddarparu tai fforddiadwy ar-safle fel canran o'r holl ddatblygiad, neu ar safleoedd a gaffaelir gan ddarparwyr tai cymdeithasol;
  • Tai fforddiadwy oddi ar y safle yn lle darpariaeth ar-safle;
  • Darpariaeth o hap-safleoedd mawr
  • Cyfraniadau ar ffurf symiau cyfnewid gan drydydd partïon i gefnogi'r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy a
  • Thai i fodloni Anghenion Lleol.

11.117 Cyfeirir hefyd at Astudiaeth Anghenion Gwledig Sir Gaerfyrddin 2019 sy'n nodi bod cyfran uwch o anheddau mwy yn yr ardaloedd gwledig, a bod hynny'n cyfrannu at brisiau tai uwch. [52] Mae'r CDLl yn ceisio cefnogi twf unedau mwy fforddiadwy mewn cymunedau gwledig, er mwyn hyrwyddo datblygiadau i brynwyr tro cyntaf neu rai ar aelwydydd incwm isel.

AHOM1: Darparu Tai Fforddiadwy

Cyfraniadau Ar-safle

Bydd angen cyfraniad ar-safle at dai fforddiadwy ar bob safle a ddyrannwyd ar gyfer tai'r farchnad ac ar hap-safleoedd sy'n cynnwys 10 neu fwy o dai, er mwyn bodloni'r targed ar gyfer tai fforddiadwy a nodwyd ym Mholisi SP5. Mae'r targed canrannol ar gyfer tai fforddiadwy yn seiliedig ar raddfa'r datblygiad:

  • bydd yn ofynnol i safleoedd sy'n cynnwys 10 - 19 o gartrefi ddarparu cyfraniad tai fforddiadwy o 10%
  • bydd yn ofynnol i safleoedd sy'n cynnwys 20 - 50 o dai ddarparu cyfraniad tai fforddiadwy o 12%
  • bydd yn ofynnol i safleoedd sy'n cynnwys 51 - 100 o dai ddarparu cyfraniad tai fforddiadwy o 20%
  • bydd yn ofynnol i safleoedd sy'n cynnwys 101 o dai neu fwy ddarparu cyfraniad tai fforddiadwy o 25%.

Mae'r ganran targed tai fforddiadwy a nodir yn darged i'w defnyddio fel man cychwyn ar gyfer trafodaethau tai fforddiadwy

Pan fydd cynigion preswyl cyfagos a chysylltiedig yn peri bod cyfanswm y niferoedd yn cyrraedd neu'n mynd heibio'r trothwyon uchod, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau elfen o dai fforddiadwy sy'n seiliedig ar gymhwyso'r canrannau targed uchod i gyfanswm yr anheddau.

Bydd yn ofynnol i gynigion sicrhau bod yr annedd yn parhau i fod yn fforddiadwy am byth i'r holl feddianwyr dilynol.

Symiau Cyfnewid


Bydd angen swm cyfnewid tuag at dai fforddiadwy ar gyfer cynigion sy'n cynnwys 1 - 9 annedd. Bydd taliadau swm cyfnewid yn seiliedig ar arwynebedd y llawr (cost fesul metr sgwâr).

Bydd cynigion am anheddau sengl yn y categori annedd 3 ystafell wely i 4 unigolyn neu lai, sy'n cynnwys llai nag 88 metr sgwâr, wedi'u heithrio.

Lle na ellir bodloni'r gofynion uchod oherwydd eu heffeithiau ar hyfywedd ariannol y cynnig, gellir cytuno ar amrywiad fesul achos unigol.

11.118 Nod polisïau AHOM1 ac AHOM2 yw cynorthwyo'r Cyngor i fodloni ei angen am dai, ac yn enwedig i fodloni'r angen am dai fforddiadwy a nodwyd ym Mholisi SP5.

11.119 Mae'r polisi'n pennu'r cyfraniadau y dylid eu darparu ar gyfer tai fforddiadwy. Mae gofynion y polisi yn adlewyrchu canfyddiadau Astudiaeth Hyfywedd barhaus y CDLl Diwygiedig ac yn ystyried ffactorau eraill fel yr LHMA, cyfraddau darparu yn y gorffennol a'r angen am hyblygrwydd er mwyn caniatáu amrywio rhwng safleoedd.

11.120 Mae gofynion y Polisi ar gyfer cyfraniadau ar-safle yn berthnasol i bob datblygiad tai arfaethedig sydd wedi'i leoli o fewn ffiniau anheddiad, a chanddo'r capasiti i sicrhau cynnydd net o 10 neu fwy o anheddau newydd. Bydd y safleoedd hynny sydd y tu allan i ffiniau'r anheddiad yn ddarostyngedig i ofynion Polisi AHOM2.

11.121 Mae gofynion y polisi am symiau cyfnewid yn berthnasol i holl gynigion arfaethedig y farchnad agored sy'n creu cynnydd net o 1 - 9 o anheddau newydd, ac eithrio anheddau sengl sydd wedi'u cynnwys yn y categori tai 3 ystafell wely, 4 unigolyn nad yw ei arwynebedd llawr mewnol trigiadwy yn fwy nag 88 metr sgwâr.

11.122 Bydd y gymysgedd o anheddau y mae angen ei darparu ar bob safle o ran maint, math a deiliadaeth, yn amrywio yn ôl anghenion penodol yr ardal leol wrth gyflwyno'r cais. Yn rhan o hyn, bydd angen ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf am anghenion tai o'r LHMA, ynghyd ag unrhyw wybodaeth leol berthnasol, fel rhestr aros y Cyngor ac unrhyw unedau tai fforddiadwy a ddarparwyd yn ddiweddar o fewn yr ardal.

AHOM2: Tai Fforddiadwy - Safleoedd Eithriadau

Mewn amgylchiadau eithriadol, caniateir cynigion ar gyfer datblygiadau 100% o dai fforddiadwy ar safleoedd sy'n ffinio â Therfynau Datblygu aneddiadau diffiniedig (Haenau 1-3 ym Mholisi SP3), os ydynt yn bodloni gwir angen a nodwyd yn lleol (fel y diffinnir yn y Rhestr Termau) ac:

  1. Lle bo'r safle'n cynrychioli estyniad rhesymegol i'r ffiniau datblygu, ac ar raddfa sy'n briodol ac yn cydweddu â chymeriad yr anheddiad;
  2. Lle cedwir y budd yn gysylltiedig â'r fforddiadwyedd cychwynnol i'r holl feddianwyr dilynol;
  3. Lle bo maint, graddfa a dyluniad yr annedd yn gyson ag annedd fforddiadwy ac ar gael i bobl mewn grwpiau incwm isel neu ganolig;
  4. Nad oes unrhyw gynlluniau tai marchnad o fewn yr anheddiad ar gael, neu y rhagwelir y byddant ar gael, sy'n cynnwys gofyniad am dai fforddiadwy.

11.123 Rhoddir caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amodau a rhwymedigaethau cynllunio sy'n sicrhau bod y tai fforddiadwy yn parhau i fod ar gael i fodloni'r angen lleol am dai fforddiadwy yn y dyfodol.

11.124 Rhaid i annedd fforddiadwy fod yn gydnaws â safonau Gofyniad Ansawdd Dylunio Llywodraeth Cymru i gyfyngu ar ei faint, ei raddfa a'i ddyluniad i sicrhau bod yr annedd yn dod o fewn cost annedd fforddiadwy rhesymol a derbyniol ar gyfer deiliaid yn y dyfodol. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir ystyried ei bod yn briodol gwyro o'r safonau hyn lle maent i ddiwallu anghenion y deiliad a lle ceir tystiolaeth a chyfiawnhad clir drostynt.

11.125 Gall y Cyngor ddileu neu gyfyngu ar hawliau datblygu a ganiateir i osod cyfyngiadau ar welliannau i faint, graddfa a dyluniad yr annedd i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn fforddiadwy i ddeiliaid dilynol.

11.126 Ni fydd safleoedd eithriadau ond yn cael eu caniatáu os oes tystiolaeth foddhaol ar gael i gefnogi'r ddarpariaeth. Ni chaiff cynigion i fodloni angen lleol tybiannol eu hystyried. Yn lle hynny, dylent fod yn gysylltiedig ag angen a nodwyd gan unigolion/teuluoedd o fewn yr ardal benodol.

11.127 Fel arfer, ni ddylid ystyried safleoedd eithriadau mewn anheddiad lle mae dyraniadau presennol yn cael eu cyflwyno, a lle bo elfen o fforddiadwyedd yn cael ei ddarparu yn rhan o'r datblygiad hwnnw. Bydd angen tystiolaeth i ddangos nad oes disgwyl i unrhyw gynlluniau ar safleoedd wedi'u dyrannu ddechrau o fewn cyfnod rhesymol.

11.128 Darperir gwybodaeth bellach drwy'r polisi cenedlaethol ar ffurf PCC, TAN2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy a TAN6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy. Bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol sydd ar ddod yn ymhelaethu ac yn rhoi arweiniad pellach ar weithredu a dehongli tai fforddiadwy.

Polisi Strategol – SP 6: Safleoedd Strategol

Gan adlewyrchu eu cyfraniad at ofynion twf Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol, ac fel cydrannau allweddol ym Margen Ddinesig Bae Abertawe, mae dau Safle Strategol wedi cael eu nodi fel safleoedd sy'n gwneud cyfraniad pwysig at ddarparu twf yn gyffredinol dros gyfnod y Cynllun:

Pentre Awel, Llanelli (PrC2/SS1); a'r Egin - Clwstwr Digidol Creadigol, Caerfyrddin (PrC1/SS1)

Pentre Awel, Llanelli

11.129 Bydd Pentre Awel yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau sy'n hyrwyddo a gwella llesiant, yn integreiddio datblygiad busnes, addysg, gofal iechyd, hamdden, twristiaeth, cymorth llesiant ac ymchwil i wyddorau bywyd mewn un lleoliad, ac yn creu budd cymdeithasol ac economaidd gweddnewidiol.

11.130 Bydd Pentre Awel yn cynnwys sefydliad gwyddor bywyd sy'n cynnig lle i ddatblygu ac ymchwilio i ddyfeisiau meddygol a thechnolegau gofal iechyd newydd. Bydd y sefydliad hefyd yn cynnig gofodau swyddfa, labordy a gofodau clinigol ar gyfer cwmnïau rhanbarthol newydd sy'n tyfu yn ogystal â chyfleoedd i gychwyn busnes.

11.131 Ceir canolbwynt llesiant a fydd yn cynnwys canolfan hamdden, cyfleusterau chwaraeon awyr agored, cyfleoedd hamdden yn ogystal â gweithgareddau sy'n hyrwyddo llesiant. Ceir llety byw gyda chymorth, cartref gofal a thai penodol (o dan ddosbarth defnydd C3) ar gyfer pobl â nam gwybyddol neu sy'n cael eu hailsefydlu'n feddygol.

11.132 Ceir canolfan gwyddor bywyd a llesiant a fydd yn cynnwys ystod o wasanaethau llesiant o'r sector iechyd, y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector fel eu bod ar gael mewn un lleoliad. Bydd y ganolfan hefyd yn cynnwys cyfleoedd hyfforddi a ddatblygir mwyn ymateb i brinder sgiliau. [53]

11.133 Bydd y datblygiad hwn sy'n arwain y byd wedi'i leoli ar hyd arfordir Llanelli. Dyma fydd y prosiect adfywio mwyaf erioed yn Ne-orllewin Cymru, a'i nod yw gwella iechyd a llesiant pobl ledled y rhanbarth, gan greu hyd at 2,000 o swyddi o ansawdd uchel sy'n talu'n dda a rhoi hwb o £467 miliwn i'r economi dros 15 mlynedd. Bydd yn cael ei gydgysylltu a'i integreiddio o fewn y dirwedd naturiol, o amgylch llyn dŵr croyw, ac o fewn pellter cerdded Parc Arfordir y Mileniwm.[54]

11.134 Wrth nodi'r cyd-destun strategol, mae'r prosiect hwn yn parhau i fod wedi'i ymwreiddio'n ddwfn mewn gwaith i hyrwyddo llesiant ar raddfa leol.

Darlun yn dangos detholiad o brif gynllun dangosol ar gyfer Pentre Awel, Llanelli

Ffigur 9: Cyngor Sir Caerfyrddin - detholiad o brif gynllun dangosol ar gyfer Pentre Awel, Llanelli

Yr Egin - Clwstwr Digidol Creadigol, Caerfyrddin

11.135 Clwstwr digidol a chreadigol yw Canolfan S4C Yr Egin, ar gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin.

11.136 S4C yw'r tenant allweddol ac mae nifer o fusnesau newydd a busnesau bach yn y sector digidol a chreadigol wedi'u lleoli gyda'i gilydd yn yr ardaloedd swyddfa hyblyg sydd ar gael yn yr adeilad.

11.137 Nod Yr Egin yw bod yn gatalydd ar gyfer creu clwstwr creadigol bywiog yn y rhanbarth drwy ysbrydoli cydweithio a datblygu talent, yn ogystal â chryfhau'r Gymraeg.

11.138 Cynigir cyfleoedd amrywiol gan y prosiect hwn gan fod gan yr adeilad eiconig awditoriwm, cysylltedd cyflym iawn, ardaloedd swyddfa o'r radd flaenaf a chyfleusterau ôl-gynhyrchu ar gyfer gweithgareddau proffesiynol a chymunedol. Rhagwelir y bydd yn cynnal rôl Caerfyrddin fel canolfan allweddol i'r sector creadigol yn Ne-orllewin Cymru.[55]

11.139 Mae prosiect arall (Egin Cam 2) yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd y prosiect yn ategu ac yn cefnogi llwyddiant Egin Cam 1 a bydd yn seiliedig ar ganlyniadau ymarfer Gwersi a Ddysgwyd Cam 1 yn ogystal â dadansoddiad o'r galw gan y sector creadigol.

Darlun yn dangos uwchgynllun dangosol ar gyfer Yr Egin.

Ffigur 10: Cyngor Sir Caerfyrddin – Prif Gynllun Safle'r Egin

Polisi Strategol – SP 7: Cyflogaeth a'r Economi

Mae digon o dir wedi'i ddyrannu ar gyfer darparu 71.21 hectar o ddarpariaeth cyflogaeth ar gyfer cyfnod y Cynllun yn unol â Fframwaith Anheddau'r Cynllun (Polisi SP3) ac egwyddorion cynaliadwyedd.

Mae'r dull cynaliadwy o ddarparu tir cyflogaeth yn adlewyrchu'r canlynol:

  1. Dyrannu a chyflawni:
    • Pentre Awel, Llanelli ac
    • Yr Egin - Clwstwr Digidol Creadigol, Caerfyrddin;
  2. Dyrannu tir cyflogaeth mewn lleoliad cynaliadwy sy'n cyd-fynd ag egwyddorion cynaliadwyedd y Cynllun;
  3. Diogelu safleoedd cyflogaeth presennol – cydnabod eu cyfraniad fel rhan o'r portffolio cyflogaeth wrth ddiwallu'r angen parhaus;
  4. Cefnogi datblygiadau a mentrau cyflogaeth gynaliadwy ar raddfa fach mewn aneddiadau ar haen is.
  5. Sicrhau bod cefnogaeth yn cael ei ddarparu i entrepreneuriaeth fel rhan o greu economi amrywiol sy'n tyfu;
  6. Caniatáu cyfleoedd cyflogaeth priodol ar raddfa fach a mentrau gwledig yng nghefn gwlad i gefnogi cymunedau gwledig ac i ddarparu economi wledig amrywiol a chynaliadwy.

Bargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe

11.140 Dylai'r gwaith o ddatblygu safleoedd cyflogaeth yn y dyfodol, ac yn wir datblygiad economaidd y sir yn y dyfodol, gael ei ystyried yn y cyd-destun ehangach. Llofnodwyd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn 2017, gan sicrhau £1.24 biliwn ar gyfer cynghorau Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Rhagwelir y bydd y Fargen Ddinesig yn trawsnewid tirwedd economaidd yr ardal, yn cynnig hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol, ac yn creu bron i 9,000 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.

11.141 Bydd y Fargen yn golygu tri phrosiect penodol ar gyfer Sir Gaerfyrddin - gyda dau ohonynt yn gysylltiedig â datblygiadau ffisegol. Y rhain yw Pentre Awel, Llanelli a phrosiect diwydiant creadigol yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin. Mae'r trydydd prosiect yn ymwneud â menter sgiliau a thalentau sydd wedi'i chanoli yn Sir Gaerfyrddin, ac sy'n cefnogi datblygiad sgiliau yn y rhanbarth. Gan gyfeirio at y 3 phrosiect hyn sy'n benodol i Sir Gaerfyrddin, dylid nodi mai nod y 'prosiect Cartrefi yn Orsafoedd Pŵer' yw darparu cartrefi clyfar, carbon isel, ynni-effeithlon trwy ddull a gydlynir ar draws y Dinas-ranbarth, tra bod nodau'r prosiect 'Seilwaith Digidol' yn cynnwys cefnogi economi ddigidol ffyniannus ar draws y Dinas-ranbarth.[i]

Tystiolaeth am angen cyflogaeth y dyfodol

11.142 Mae'r Cyngor wedi casglu tystiolaeth i ddarparu dealltwriaeth am yr angen o ran cyflogaeth yn y dyfodol, yn anad dim yn y naw sector y rhoddir blaenoriaeth iddynt gan Lywodraeth Cymru.[56] Paratowyd tystiolaeth bellach ar y cyd â Chyngor Sir Penfro i sefydlu dadansoddiad meintiol o'r galw a ragwelir am safleoedd cyflogaeth ar lefel mwy na lleol. Ategwyd yr Astudiaeth Dwy Sir hon gan dystiolaeth o'r farchnad a chan gyflogwyr mewn perthynas â'r galw yn y farchnad. Yn ogystal, gwnaed gwaith mewn perthynas â'r cysylltiadau rhwng cydraddoli lefelau tir cyflogaeth a swyddi gyda'r gofyniad am dwf tai newydd i'r Sir.

11.143 Mae Astudiaeth y Ddwy Sir yn ceisio taro cydbwysedd rhwng ateb gofynion Nodyn Cyngor Technegol 23 ar Ddatblygu Economaidd (Chwefror 2014), a gosod pwyslais cryf ar hyblygrwydd, gwireddu twf sectorau a'r gallu i ateb y galw ar raddfa ranbarthol.

11.144 Mae TAN 23 yn ystyried 'efallai y bydd y targedau darparu tir yn uwch na'r galw disgwyliedig', i ddarparu ar gyfer y siawns i ateb y galw. Mae'r Canllawiau Ymarfer sy'n cyd-fynd â'r Nodyn Cyngor Technegol (Awst 2015) yn ystyried, lle gellir cyfiawnhau hynny, efallai y bydd y targedau darparu tir yn uwch na'r galw disgwyliedig, i ddarparu ar gyfer y siawns bod yr asesiadau'n rhy isel ac i sicrhau nad oes unrhyw gyfleoedd yn cael eu colli. Wrth gydnabod pwysigrwydd peidio â dibynnu dim ond ar ragolygon cyflogaeth pan eir ati i adnabod portffolio o dir cyflogaeth, mae Astudiaeth y Ddwy Sir yn pwysleisio galw a hyder busnesau brodorol i aros a thyfu, a dyhead gan randdeiliaid i warchod manteision lleoliadol ac asedau strategol ar gyfer twf yn y dyfodol.

11.145 Gan gydnabod yr uchod, mae Astudiaeth y Ddwy Sir wedi adnabod portffolio o safleoedd yn ardal yr astudiaeth yr ystyrir eu bod yn cynnig manteision strategol a chyfle i dyfu a chreu swyddi.

Ymyrraeth gan y Sector Cyhoeddus

11.146 Roedd adroddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020 [57]i lywio'r Cynllun Cyflenwi Eiddo newydd yn tynnu sylw at y ffaith, tra bod y gwaith o ddarparu adeiladau diwydiannol a swyddfeydd yn cael ei arwain yn gyffredinol gan y sector preifat, mae yna seiliau cryf dros ymyrraeth gan y sector cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys ymateb i dystiolaeth o'r galw am gapasiti newydd neu ychwanegol, denu a chadw buddsoddiad na fyddai fel arall yn dod i ardal, neu drwy ddylanwadu ar benderfyniadau masnachol, er enghraifft trwy ddod â gweithgarwch economaidd newydd i safle segur.

Isadeiledd Cyfathrebu

11.147 Mae'r Cyngor yn cydnabod bod profiadau amlwg yn deillio o'r pandemig Covid 19 sydd â goblygiadau mawr i arferion gwaith yn y dyfodol ac anghenion gweithle yn y dyfodol (gan gadarnhau pwysigrwydd hyblygrwydd); Yn y cyd-destun hwn, maes allweddol yw pwysigrwydd seilwaith cyfathrebu o ansawdd uchel (band eang, derbyniad ffonau symudol a'r gallu i ddiogelu/uwchraddio yn y dyfodol). Mae hyn yn bwysig i drigolion a busnesau, yn enwedig yng nghyd-destun mwy o weithio o bell a'i rôl wrth fynd i'r afael â natur ymylol yr ardaloedd gwledig (dylid cyfeirio at Bolisi EME5: Gweithio Gartref a Pholisi INF3: Band Eang a Thelathrebu).

Hierarchaeth Cyflogaeth

11.148 Er bod y ffocws strategol yn gysylltiedig â Bargen Ddinesig Bae Abertawe a chamau posibl i greu swyddi 'â gwerth ychwanegol', bydd y CDLl Diwygiedig yn darparu ystod o safleoedd a chyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddi ac adleoliadau posibl. Mae hyn yn cynnwys safleoedd posibl i gyflogwyr mwy, yn ogystal â safleoedd i ddarparu ar gyfer defnydd busnes newydd ar raddfa lai a busnesau newydd o fewn y fframwaith polisi. .

11.149 Rhoddwyd sylw pellach hefyd i ystod o ystyriaethau i sicrhau bod lefel y ddarpariaeth dir yn adlewyrchu nid yn unig ystod o safleoedd y gellir eu cyflawni ond hefyd ei bod yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn o'u cymeriad ac ardaloedd y safleoedd.

11.150 Mae'r pwyslais ar y Prif Ganolfannau nid yn unig yn adlewyrchu eu rhinweddau cynaliadwyedd ond hefyd eu hetifeddiaeth hanesyddol. Mae dosbarthiad y tir cyflogaeth hefyd cyd-fynd yn dda â'r lleoliadau cynaliadwy yn y Sir sy'n hygyrch gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu lwybrau teithio llesol sy'n lleihau i'r eithaf yr angen i deithio.

11.151 Mae'r tabl canlynol yn nodi'r ddarpariaeth tir cyflogaeth yn y polisi ac yn nodi lefelau cwblhau a safleoedd lle mae caniatâd cynllunio dilys.

A. Dyraniad CDLl

B. Cwblhawyd

C. Cwblhawyd ond heb ffurfio rhan o'r ffigur a ddyrannwyd.1

D. Ymrwymedig

E. Cyflenwad Gweddilliol

(A-B-D=E)

PC1 - Caerfyrddin

18.687

0

0

2.18

16.507

PC2 - Llanelli

17.489

0

0

1.90

15.589

PC3 – Rhydaman / Cross Hands

28.118

9.91

18.598

Canolfannau Gwasanaeth

6.916

3.53

3.225

Pentrefi Cynaliadwy

0

0

0

0

0

Pentrefi Gwledig

0

0

0

0

0

Cyfanswm

71.21

17.29

53.92

Tabl 6: Darpariaeth Tir Cyflogaeth

11.152 Dylid nodi bod y ddarpariaeth safleoedd cyflogaeth wedi'u dyrannu'n cynnwys tir nad yw'n weithredol gyda chyfle ar gyfer tirlunio, clustogfeydd a defnyddiau eraill tebyg.

EME1: Cyflogaeth - Diogelu Safleoedd Cyflogaeth

Bydd safleoedd a nodwyd at ddibenion cyflogaeth trwy bolisi SP7 a safleoedd cyflogaeth presennol yn cael eu diogelu ar gyfer y defnyddiau hynny (B1, B2, B8 a'r rhai a adnabuwyd trwy ddarpariaethau polisi perthnasol).

Yn eithriadol, bydd cynigion sy'n arwain at eu colli'n cael eu caniatáu dim ond lle gellir dangos:

  1. Nad oes angen y safle neu'r adeiladau mwyach neu nad yw'n addas mwyach ar gyfer defnydd cyflogaeth;
  2. Na allai'r defnydd arfaethedig gael ei leoli'n rhesymol yn rhywle arall yn unol â pholisïau'r Cynllun hwn;
  3. Bod tir neu adeiladau cyflogaeth sy'n ddigonol o ran eu nifer, eu hansawdd a'u hamrywiaeth y gellir eu dwyn ymlaen i ddiwallu anghenion cyflogaeth y Sir a'r ardal leol;
  4. Nad oes unrhyw ddefnyddiau cyflogaeth diwydiannol na busnes sy'n hyfyw yn economaidd ar gyfer y safle a'r adeiladau;
  5. Bod defnydd cyflogaeth yn anghydnaws â defnyddiau cyfagos/yn yr ardal o amgylch;
  6. Lle y bo'n berthnasol bod y defnyddiau arfaethedig yn ategu prif ddefnydd cyflogaeth yr ardal o amgylch ac na fydd yn achosi effaith annerbyniol ar weithrediadau busnesau presennol.

11.153 Mae'r polisi hwn yn ceisio sicrhau bod safleoedd cyflogaeth presennol yn cael eu gwarchod rhag defnyddiau eraill. Er mwyn cynnal cyflenwad digonol o dir cyflogaeth sy'n darparu ar gyfer ystod a dewis o ddefnyddiau posibl, mae'r polisi hwn yn ceisio gwarchod ardaloedd cyflogaeth diffiniedig rhag defnyddiau nad ydynt yn ymwneud â chyflogaeth a ddylai fod mewn lleoliadau sy'n well ac, o bosibl, yn fwy priodol.

11.154 Gan gydnabod y pwysau ar ardaloedd cyflogaeth o du defnyddiau eraill (nad ydynt yn perthyn i Ddosbarth B), mae'r polisi'n derbyn y gall fod angen rhywfaint o hyblygrwydd mewn rhai achosion. Mae defnyddiau o'r fath yn aml yn ddefnyddiau dosbarth B rhannol sy'n cyfuno elfen adwerthu ar raddfa fach â defnydd busnes, diwydiannol neu storio yn bennaf, neu'n ddefnyddiau sui generis. Derbynnir hefyd, wrth ddiwallu anghenion defnyddiau o'r fath, bod ardaloedd cyflogaeth yn aml yn debygol o fod yn fwy derbyniol na lleoliadau eraill megis ardaloedd preswyl, neu hyd yn oed canol trefi. Bydd disgwyl i unrhyw elfen adwerthu fod yn atodol i'r prif ddefnydd, ac at ddibenion masnach yn hytrach na'r cyhoedd.

11.155 Lle y bo angen, bydd yn ofynnol i gynigion datblygu ymgorffori mesurau priodol i warchod amwynder eiddo cyfagos neu gerllaw. Gall mesurau o'r fath gynnwys nodi clustogfeydd a chynigion tirlunio addas.

11.156 Lle y bo'n briodol, bydd amodau cynllunio'n cael eu gosod i atal cyflogaeth rhag cael ei cholli fel y prif ddefnydd.

EME2: Cyflogaeth – Estyniadau a Dwysáu

Bydd cynigion ar gyfer estyniadau i fentrau cyflogaeth presennol a/neu i ddwysáu'r mentrau hynny'n cael eu caniatáu ar yr amod:

  1. Nad yw'r cynigion datblygu'n debygol o achosi niwed amgylcheddol na pheryglu cynigion ailddatblygu eraill;
  2. Nad yw'r cynnig yn estyn a/neu'n dwysáu defnydd neu weithgarwch a allai arwain at faterion sy'n niweidiol i amwynderau defnyddiau cyfagos, neu nad ydynt yn gydnaws â'r defnyddiau hynny o bosibl;
  3. Bod y cynigion datblygu ar raddfa a ffurf briodol sy'n gydnaws â'u lleoliad;

Bydd cynigion i ehangu mentrau gwledig presennol yn cael eu cefnogi yn amodol ar y darpariaethau uchod a pholisïau a chynigion y Cynllun hwn.

11.157 Ni fydd cynigion sy'n ceisio estyn a/neu ddwysáu defnydd neu weithgaredd yn cael ystyriaeth ffafriol os nad ydynt yn gydnaws â defnyddiau o'u hamgylch, neu os ydynt yn debygol o arwain at faterion sy'n niweidiol i amwynder a fyddai'n peryglu cynigion ailddatblygu eraill.

11.158 Gall datblygiadau priodol i ehangu busnesau presennol gyfrannu'n sylweddol at yr economi leol, a bydd cefnogaeth i ailddatblygu safleoedd presennol lle bydd yn gwella ansawdd arwynebedd llawr cyflogaeth yn enwedig i ddiwallu anghenion cyflogaeth modern.

11.159 Mae'r polisi hwn yn cefnogi'r economi wledig ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer ehangu mentrau gwledig sefydledig yn briodol.[58] Dylid cyfeirio hefyd at Bolisi Cynllunio Cymru a TAN23 Datblygu Economaidd.

EME3: Cynigion Cyflogaeth ar Safleoedd Dyranedig

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau cyflogaeth B1, B2 a B8 yn cael eu caniatáu ar y safleoedd cyflogaeth dyranedig canlynol lle maent yn cydymffurfio â'r defnydd arfaethedig o'r safle:

Cyf. Safle:

Enw'r Safle:

Lleoliad:

Dosbarth Defnydd:

Ha:

PrC1/E1

Ystad Ddiwydiannol Cillefwr

Caerfyrddin

B1, B2, B8

4.167

PrC1/E1 (i)

Tir i'r gorllewin o Heol Cillefwr (Gorllewin).

2

PrC1/E1 (ii)

Tir i'r gogledd o Heol Allt-y-cnap

1.215

PrC1/E1 (iii)

Tir i'r de o Heol Allt-y-cnap

0.952

PrC1/MU1

Gorllewin Caerfyrddin

Caerfyrddin

B1, B2, B8

4.53

PrC1/MU2

Pibwr-lwyd

Caerfyrddin

B1,B2, B8

8.95

PrC1/SS1

Yr Egin

Caerfyrddin

B2

1.04

PrC2/E2

Dafen

Llanelli

B1,B2,B8

17.489

PrC2/E2 (i)

Tir i'r dwyrain o Calsonic

4.723

PrC2/E2 (ii)

Tir i'r gorllewin o Gestamp Tallent

1.547

PrC2/E2 (iii)

Tir ar Heol Aur

1.657

PrC2/E2(iv)

Tir i'r gorllewin o Heol Gors

1.449

PrC2/E2 (v)

Tir ar Heol Croppin

0.355

PrC2/E2 (vi)

Tir i'r gorllewin o'r Goleudy

1.881

PrC2/E2 (vii)

Tir i'r dwyrain o'r Ganolfan Ambiwlans Awyr

1.316

PrC2/E2 (viii)

Tir ym Mhorth Llanelli, oddi ar Heol Aur

3.755

PrC2/E2 (ix)

Tir i'r gorllewin o Llys Aur

0.806

PrC3/E1

Dwyrain Cross Hands

Rhydaman / Cross Hands

B1,B8

8.31

PrC3/E2

Parc Bwyd Gorllewin Cross Hands

Rhydaman / Cross Hands

B1,B2,B8

5.647

PrC3/E2(i)

Tir i'r gorllewin o Castell Howell

1

PrC3/E2(ii)

Tir i'r de o Heol Parc Mawr

2.712

PrC3/E2(iii)

Tir i'r gogledd o Dunbia

1.935

PrC3/E3

Parc Busnes Cross Hands

Rhydaman / Cross Hands

B1,B2,B8

4.76

PrC3/E3 (i)

Heol Stanllyd (Gorllewin)

2

PrC3/E3 (ii)

Heol Stanllyd (De)

2.156

PrC3/E3 (iii)

Heol Stanllyd (Dwyrain)

0.604

PrC3/E6

Ystad Ddiwydiannol Capel Hendre

Rhydaman / Cross Hands

B1,B2,B8

0.538

PrC3/E7

Parc Hendre, Capel Hendre1

Rhydaman / Cross Hands

B1,B2,B8

8.112

PrC3/E7(i)

Parc Hendre (Gorllewin)

2.165

PrC3/E7(ii)

Parc Hendre (Gogledd)

1.955

PrC3/E7(iii)

Parc Hendre (Dwyrain)

1.05

PrC3/E7(iv)

Parc Hendre (De)

2.942

PrC3/E8

Ystad Ddiwydiannol Cilyrychen

Cilyrychen

B1,B2,B8

0.751

SeC4/E1

Dyfaty

Porth Tywyn

B1,B2,B8

3.036

SeC16/E1

Ystad Ddiwydiannol Beechwood

Llandeilo / Rhos-maen

B1,B2,B8

0.289

SeC16/MU1

Beechwood

Llandeilo / Rhos-maen

0.755

SeC16/E2

Hen Neuadd y Farchnad

Llandeilo

B1

0.2

SeC18/E1

Parc Busnes Sanclêr

Sanclêr

B1,B8

0.421

SeC19/E1

Ystad Ddiwydiannol Hendy-gwyn ar Daf

Hendy-gwyn ar Daf

B1,B8

0.489

SeC19/E2

Tir i'r De o'r Hen Hufenfa

Hendy-gwyn ar Daf

B1,B2,B8

1.321

SeC13/E1

Hen Ffowndri

Llanybydder

B1,B8

0.405

Cyfanswm

71.21

Tabl 7: Cynigion Cyflogaeth ar Safleoedd Dyranedig

11.160 Mae'r cyfanswm yn y tabl uchod yn cynnwys ffigyrau tybiannol ar gyfer cyflogaeth defnydd B ar safleoedd Defnydd Cymysg (Polisi SG1) a safleoedd Strategol (Polisi SP6).

11.161 Lle bo'n briodol bydd defnyddiau cyflogaeth eraill a defnyddiau atodol cysylltiedig nad ydynt yn rhai dosbarth B yn cael eu caniatáu ar safleoedd cyflogaeth dyranedig lle mae'r datblygiad arfaethedig yn ategu ac yn gwella rôl y safle fel a nodir yn y tabl Dyrannu Safleoedd Cyflogaeth. Rhaid ystyried amwynder defnyddiau cyflogaeth cyfagos a'u bod yn gweithredu'n ddiogel i osgoi gwrthdaro rhwng gwahanol ddefnyddiau tir.

11.162 Mae'r Polisi hwn hefyd yn ei gwneud yn bosibl darparu defnyddiau cyflogaeth atodol sydd y tu allan i'r dosbarthiadau defnydd B lle mae hyn yn gwella hyfywedd y safle ac yn ei gwneud yn bosibl datblygu safleoedd newydd. Mae defnyddiau atodol a allai fod yn ategol yn cynnwys meithrinfeydd dydd, canolfannau hyfforddi, ailgylchu gwastraff ac atgyweirio cerbydau. Bydd defnyddiau adwerthu'n cael eu hystyried yn erbyn polisïau adwerthu'r CDLl.

EME4: Cynigion Cyflogaeth ar Safleoedd Nas Dyrannwyd

Bydd cynigion ar gyfer datblygu cyflogaeth ar safleoedd nas dyrannwyd, ond sydd o fewn terfynau datblygu anheddiad diffiniedig yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. lle dangosir na all unrhyw safleoedd cyflogaeth presennol neu ddyranedig addas arall neu dir a ddatblygwyd yn flaenorol yn rhesymol dderbyn y cynnig;
  2. lle mae'r cynigion datblygu ar raddfa a ffurf briodol, a lle nad ydynt yn niweidiol i briod gymeriad ac edrychiad y treflun/ y dirwedd;
  3. lle mae'r datblygiad yn gydnaws â'i leoliad ac â defnyddiau cyfagos.

Bydd cynigion cyflogaeth y tu allan i derfynau datblygu anheddiad diffiniedig (Polisi SP3) yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Lle mae'r cynnig yn uniongyrchol gysylltiedig ag anheddiad neu bentrefan; neu
  2. Lle caiff y cynnig ei ategu gan achos busnes sy'n dangos bod cyfiawnhad dros ei leoliad; a
  3. Lle mae'r cynnig o raddfa, maint a dyluniad priodol.

11.163 Mae'n amlwg na fydd safleoedd cyflogaeth dyranedig yn briodol ar gyfer pob cynnig cyflogaeth. Felly mae Polisi EME4 yn cefnogi'r economi trwy ei gwneud yn bosibl, mewn ardaloedd trefol a gwledig, i ddarparu cyfleoedd economaidd ar safleoedd heb eu dyrannu. Mae hyn yn bwysicach o ganlyniad i'r pandemig Covid-19 a'r goblygiadau tebygol o ran tueddiadau gweithio/gweithfannau yn y dyfodol, yn ogystal â'r angen am fand eang dibynadwy cyflym iawn (dylid cyfeirio at Bolisi INF3: Band Eang a Thelathrebu).

11.164 O fewn terfynau datblygu aneddiadau diffiniedig, mae'r polisi'n ei gwneud yn ofynnol i gynigion ddangos eu gofyniad lleoliadol trwy ddull dilyniannol o ddethol safleoedd. Yn y lle cyntaf, rhaid iddynt ystyried dyraniadau arfaethedig a phresennol i ddiwallu'r angen o ran cyflogaeth. Dim ond wedyn y dylid ystyried safleoedd heb eu dyrannu.

11.165 Ar gyfer cynigion y tu allan i derfynau datblygu anheddiad diffiniedig, rhaid iddynt ddangos eu bod yn uniongyrchol gysylltiedig ag anheddiad neu bentrefan, neu'n cael eu hategu gan achos busnes sy'n cyfiawnhau eu lleoliad. Mae'r Cynllun yn cydnabod bod gan fentrau ar raddfa fach rôl hanfodol yn yr economi wledig a'u bod yn cyfrannu at gystadleurwydd a ffyniant lleol a chenedlaethol. Gall nifer o weithgareddau masnachol a gweithgynhyrchu ysgafn gael eu lleoli'n briodol mewn ardaloedd gwledig heb darfu mewn modd annerbyniol neu achosi unrhyw effeithiau niweidiol eraill. Yn hyn o beth, byddai datblygu busnesau bach yn mynd i'r afael ag unrhyw angen lleol am adeiladau cyflogaeth.

11.166 Cyfeirir at bolisïau RD3 Arallgyfeirio ar Ffermydd, RD4 Addasu ac Ailddefnyddio Adeiladau Gwledig ar gyfer Defnydd Amhreswyl ac EME5 Busnesau wedi'u Lleoli Gartref i gael gwybodaeth am gyfleoedd pellach ar gyfer ymgymeriadau cyflogaeth y tu allan i derfynau datblygu.

EME5: Busnesau wedi'u Lleoli Gartref

Bydd cynigion ar gyfer busnesau wedi'u lleoli gartref (lle mae caniatâd cynllunio'n ofynnol) yn cael eu caniatáu lle gellir dangos y byddai'n gydnaws â defnyddiau tir cyfagos, ac na fyddai'n achosi unrhyw effeithiau niweidiol ar amwynder lleol a/neu gymeriad yr ardal.

11.167 Mae'r polisi'n ymwneud â busnesau bach sy'n gweithredu gartref gan ddarparu ar gyfer ystyriaethau sy'n deillio o'r duedd gynyddol ar gyfer gweithio gartref (yn awr ac yn y dyfodol).

11.168 Mae'r Cynllun hwn yn cydnabod y gall busnesau o'r fath fod â rôl bwysig o ran datblygu a chefnogi economi amrywiol ledled ardal y Cynllun. Cydnabyddir bod nifer o fusnesau bach yn cael eu dechrau gan unigolion sy'n gweithio yn eu cartrefi eu hunain, a bod achosion o'r fath yn debygol o gynyddu wrth i arloesi technolegol gynyddu. Wrth ystyried gweithio gartref yng nghyd-destun cynllunio, cydnabyddir nad yw'n ofynnol cael caniatâd cynllunio o anghenraid. Er enghraifft, ni fydd caniatâd cynllunio'n ofynnol fel arfer lle nad yw defnydd arfaethedig o ran o'r tŷ at ddibenion busnes yn achosi newid i gymeriad cyffredinol yr eiddo a'i ddefnydd fel annedd.

11.169 Ar y cyfan mae'r gofyniad am ganiatâd cynllunio'n deillio lle mae'r gweithgaredd busnes yn peidio â bod yn atodol i'w ddefnydd fel annedd neu lle mae cymeriad preswyl yr eiddo'n cael ei addasu. Lle mae busnesau o'r fath ar raddfa a dwyster sy'n golygu y byddai caniatâd cynllunio'n ofynnol, bydd y Cyngor yn rhoi ystyriaeth i oblygiadau'r cynnig ar gyfer eiddo cyfagos ac ar gyfer y trefniadau mynediad a pharcio tebygol a fyddai'n deillio o natur y cynnig.

11.170 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn rhoi anogaeth i dyfu hunangyflogaeth a microfusnesau mewn ardaloedd gwledig. Mae'r polisi'n ceisio mabwysiadu ymagwedd gefnogol tuag at weithio gartref a chynigion lle mae'n ofynnol cael caniatâd cynllunio (gan gynnwys newid defnydd).

11.171 Wrth ystyried cynigion ar gyfer mentrau gwledig dylid rhoi ystyriaeth i ddarpariaethau polisi cenedlaethol ar ffurf Polisi Cynllunio Cymru a TAN6 a Pholisi EME4.

Polisi Strategol – SP 8: Y Gymraeg a Diwylliant Cymru

Mae'r Cynllun yn cefnogi cynigion datblygu sy'n diogelu, yn hyrwyddo ac yn gwella buddiannau'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn y Sir. Ni fydd cynigion datblygu sy'n cael effaith anfanteisiol ar fywiogrwydd a hyfywedd y Gymraeg a diwylliant Cymru'n cael eu caniatáu oni bai y gellir lliniaru'r effaith. Bydd disgwyl i'r holl gynigion datblygu y mae WL1 yn berthnasol iddynt nodi mesurau sy'n gwella buddiannau'r Gymraeg a diwylliant Cymru.

11.172 Mae gan y Gymraeg a diwylliant Cymru rôl bwysig ym mywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd preswylwyr ag ymwelwyr â Sir Gaerfyrddin. Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn sylweddol uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru ac, oherwydd hyn, mae'n rhan sylweddol o ffabrig cymdeithasol cymunedau'r sir, gan gynnig ymdeimlad o le a hunaniaeth gref.

11.173 Ystyrir Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd yn ardal o sensitifrwydd ieithyddol. Mae Cyfrifiad 2011 yn dynodi bod 19.0% o boblogaeth Cymru'n gallu siarad Cymraeg, tra bo'r ffigwr cyfatebol yn Sir Gaerfyrddin yn 43.9%. O ran dadansoddiad daearyddol o gyfran y siaradwyr ledled y Sir, mae ar ei hisaf yn ward etholiadol Glan-y-môr lle mae 19.2% yn siarad Cymraeg, ac ar ei huchaf yn Chwarter Bach lle mae 68.7% yn siarad Cymraeg. Mae cyfran y siaradwyr Cymraeg yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ar draws pob ward yn y Sir, ac am y rheswm hwn yn bennaf y mae Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd yn cael ei hystyried yn sensitif yn ieithyddol. Hefyd, mae data'r Cyfrifiad diwethaf wedi dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg ledled y Sir sy'n dangos natur fregus yr iaith yn Sir Gaerfyrddin.

11.174 Nod y cynllun yw 'hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant' [59] [60]ac mae hefyd yn ymrwymedig i gyfrannu at nod hirdymor Llywodraeth Cymru o sicrhau 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. I gyrraedd y nod hwn bydd y Cyngor yn cefnogi, hyrwyddo a gwella'r Gymraeg fel iaith gymunedol hyfyw trwy sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth a thai digonol a chymesur i gynnal cymunedau gwledig a threfol yn y Sir a thrwy roi fframwaith monitro effeithiol ar waith. Wrth wneud hynny, mae'r Cynllun yn ceisio sicrhau bod y boblogaeth leol yn cael y cyfle i aros yn Sir Gaerfyrddin yn hytrach na gadael i chwilio am gyfleoedd gwaith a thai, yn ogystal â'r cyfle i ddychwelyd. Trwy amcanu at dwf cynaliadwy, bydd y Cynllun hefyd yn cynyddu i'r eithaf y cyfleoedd i siaradwyr di-Gymraeg sy'n symud i mewn i'r Sir gael eu hintegreiddio i fywyd cymunedol ar raddfa a chyflymder na fydd yn tanseilio bywiogrwydd a hyfywedd y Gymraeg a diwylliant Cymru.

11.175 Mae'r angen i ddiogelu, hyrwyddo a gwella'r Gymraeg yn berthnasol i ddatblygiadau a gynigir ledled y Sir ac nid yw'n gyfyngedig i ardaloedd penodol yn y Sir. Bydd yn ofynnol i gynigion datblygu gydnabod statws swyddogol y Gymraeg ac ymrwymo i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

11.176 Mae polisïau penodol yn darparu canllawiau pellach i sicrhau bod datblygiadau ar raddfa ac o fath a chymeriad priodol yn cael eu cyflawni i ddiwallu anghenion y cymunedau. Yn ogystal â hyn, bydd y CDLl Diwygiedig yn ceisio sicrhau bod datblygu'n mynd rhagddo ar raddfa y gellir ei derbyn a'i chymhathu heb niweidio cymeriad y gymuned.

11.177 Mae'r Cynllun hefyd yn ceisio diogelu, hyrwyddo a gwella'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin trwy amcanion polisi perthnasol eraill, sef trwy ddarparu tai a thai fforddiadwy, hybu economi ffyniannus a chyfleoedd cyflogaeth a darparu a chadw cyfleusterau cymunedol, ymhlith eraill.

WL1: Y Gymraeg a Datblygiadau Newydd

Bydd yn ofynnol i bob cynnig datblygu ledled Sir Gaerfyrddin ddiogelu, hyrwyddo a gwella'r Gymraeg.

Bydd yn ofynnol i'r cynigion datblygu canlynol gyflwyno Cynllun Gweithredu Iaith, a hwnnw'n nodi'r mesurau a fydd yn cael eu cymryd i ddiogelu, hyrwyddo a gwella'r Gymraeg:

  1. Datblygiadau preswyl o 5 neu fwy o anheddau a fydd yn unigol neu gyda'i gilydd yn darparu mwy na'r ddarpariaeth tai ddangosol a nodir ar gyfer yr anheddiad ym Mholisïau HOM1 a HOM3; neu
  2. Datblygiad preswyl o 5 neu fwy o anheddau ar safleoedd wedi'u dyrannu neu hap-safleoedd nad ydynt yn mynd i'r afael â thystiolaeth o angen a'r galw am dai a gofnodwyd mewn Asesiad o'r Farchnad Dai neu ffynonellau tystiolaeth lleol eraill sy'n berthnasol; neu,
  3. Datblygiadau adwerthu, masnachol neu ddiwydiannol â chyfanswm arwynebedd llawr o 1,000 metr sgwâr neu fwy ar arwynebedd safle sy'n fwy nag 1 hectar.

Mae'n ofynnol i gynigion ar hap-safleoedd nas rhagwelwyd ar gyfer datblygiad tai ar raddfa fawr neu ddatblygiad cyflogaeth ar raddfa fawr a fyddai'n arwain at lif gweithlu sylweddol gyflwyno Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg a fydd yn nodi sut y bydd y datblygiad arfaethedig yn diogelu, yn hyrwyddo ac yn gwella'r Gymraeg.

Bydd yn ofynnol bod cynigion nad ydynt yn gyson â dosbarthiad tai'r Cynllun (Atodiad 7) yn darparu cynllun fesul cyfnod sy'n nodi'r graddfeydd amser ar gyfer darparu'r tai a gynigir ar y safle, a dangos na fyddent yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg na ellir ei lliniaru.

11.178 Mae'r Cynllun Gweithredu Iaith Gymraeg yn nodi'r mesurau a fydd yn cael eu cymryd i ddiogelu, hyrwyddo a gwella'r Gymraeg. Dylai'r Cynllun Gweithredu Iaith Gymraeg nodi hefyd sut y mae'r datblygiad yn cynnig gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at grwpiau iaith Gymraeg y gymuned. Gallai hyn, ymhlith mesurau eraill, gynnwys rhoi cymorth a chyllid i sefydliadau a chyrff sy'n darparu gweithgareddau, cyfleusterau ac addysg ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, a chymorth a chyllid tuag at ddosbarthiadau Cymraeg. Bydd yn ofynnol bod Asesiadau o'r Effaith ar y Gymraeg yn nodi effeithiau disgwyliedig y datblygiad arfaethedig ar y Gymraeg yn y Sir. Mae Canllawiau[61] Cynllunio Atodol y Gymraeg yn rhoi canllawiau pellach ynghylch pryd mae angen Asesiadau o'r Effaith ar y Gymraeg, gan egluro beth yw datblygiad ar raddfa fawr, yn ogystal â sut i lunio Asesiadau o'r Effaith ar y Gymraeg.              

11.179 Er y gellir darparu cymorth ar gyfer prosiectau drwy gyfraniadau ariannol, gellid hefyd ddarparu cymorth drwy ddulliau eraill hefyd. Bydd caniatâd cynllunio'n cael ei roi gydag amodau neu'n amodol ar gytundebau cyfreithiol i sicrhau bod y mesurau lliniaru a gwella a gynigir yn y Cynllun Gweithredu'n cael eu rhoi ar waith. Bydd canllawiau pellach ar gynnwys Cynlluniau Gweithredu Iaith Gymraeg yn cael eu darparu trwy Ganllawiau Cynllunio Atodol.

11.180 Mae dosbarthiad tai'r CDLl wedi'i nodi yn Atodiad 7 y Cynllun. Mae effeithiau graddfa, lleoliad a chyfradd datblygu wedi cael eu hasesu yn unol â'r dosbarthiad y cytunwyd arno. O ganlyniad nid yw cynigion ar gyfer datblygiadau nad ydynt yn gyson â graddfeydd amser y dosbarthiad yn cael eu hasesu'n llawn. Felly bydd angen i gynigion o'r fath gael eu hategu gan gynllun fesul cam sy'n nodi nifer yr anheddau a fydd yn cael eu cyflawni ym mhob blwyddyn ariannol. Mewn achosion o'r fath, gellir rhoi caniatâd cynllunio gydag amod i sicrhau bod anheddau'n cael eu cyflawni yn unol â'r cynllun fesul cam lle ystyrir bod hynny'n angenrheidiol. Gall ymgeiswyr hefyd gynnig lliniaru'r effeithiau disgwyliedig trwy ddulliau heblaw cyflawni'r datblygiad fesul cam; bydd rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar fesurau lliniaru yn cael eu hamlinellu trwy Ganllawiau Cynllunio Atodol.

11.181 Mae Strategaeth y Cynllun yn darparu ar gyfer twf organig ar raddfa fach o fewn y Pentrefi Gwledig ac mae polisïau HOM1 ac HOM3 yn adeiladu ar hyn gan ganiatáu datblygu ar raddfa briodol ac mewn lleoliadau priodol. Ystyrir bod datblygiad bob yn dipyn ar y raddfa hon yn gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at dwf cynaliadwy'r Gymraeg mewn cymunedau gwledig, a bod unrhyw effeithiau negyddol yn debygol o gael eu hamsugno gan y gymuned. Efallai nad yw datblygiad nas rhagwelwyd ar raddfa sylweddol nas caniateir ym mholisïau'r Cynllun yn gydnaws â Strategaeth y Cynllun, ac felly mae ei effeithiau heb eu hasesu ac yn anhysbys. Os caiff cynigion o'r fath eu cyflwyno i gael eu hystyried, bydd angen cyflwyno asesiad llawn gyda hwy sy'n nodi eu heffeithiau tebygol ar y Gymraeg.

11.182 Mae'n ofynnol bod yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer y CDLl yn asesu effeithiau tebygol y CDLl ar y Gymraeg. Gwneir hyn yn ailadroddol ar adegau allweddol trwy gydol y broses o gynhyrchu'r Cynllun. Caiff yr effeithiau disgwyliedig tebygol eu cyflwyno yn yr adroddiad ar yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael o fewn sail dystiolaeth y CDLl.

11.183 Mae'r CDLl yn darparu canllawiau pellach ynghylch darparu hysbysebion dwyieithog ym Mholisi PSD9 – Hysbysebion. Er mwyn hybu hunaniaeth ddiwylliannol ac i ddiogelu cymeriad ieithyddol lleol Sir Gaerfyrddin, bydd y Cyngor yn rhoi anogaeth i farchnata datblygiadau tai a masnachol newydd yn ddwyieithog yn ogystal a rhoi anogaeth i roi enwau Cymraeg i strydoedd a datblygiadau. Caiff canllawiau ychwanegol ynglŷn â darparu enwau strydoedd Cymraeg eu darparu ym Mholisi Enwi a Rhifo Strydoedd Sir Gaerfyrddin.

Polisi Strategol – SP 9: Seilwaith

Bydd datblygiadau'n cael eu cyfeirio i leoliadau cynaliadwy lle mae'r seilwaith, y gwasanaethau a'r cyfleusterau yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i gyflawni a chefnogi'r cynnig datblygu ar gael, neu'n gallu cael eu darparu.

Bydd angen i gynigion datblygu ddangos bod digon o gapasiti yn y seilwaith presennol i gyflawni a chefnogi'r datblygiad arfaethedig. Lle na ellir cyflawni hyn, bydd angen i gynigion ddangos bod trefniadau addas a chyllid yn eu lle i ddarparu'r capasiti o ran seilwaith yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol i gyflawni a chefnogi'r datblygiad.

Caiff cynigion ar gyfer datblygiadau atodol i'r seilwaith cyfleustodau eu caniatáu

  1. Os ydynt yn rhoi sylw i'w lleoliad;
  2. Os ydynt yn ymgorffori gwaith tirweddu;
  3. Os nad ydynt yn gwrthdaro â phriodweddau'r ardal o ran yr amgylchedd adeiledig, hanesyddol a diwylliannol, cadwraeth natur a'r dirwedd.

Rhaid cyflawni seilwaith newydd neu well, neu gyfleusterau neu wasanaethau eraill i gefnogi gofynion y safle, mewn modd amserol i ddiwallu anghenion cymunedau cyn, neu o ddechrau, camau perthnasol.

11.184 Mae darparu seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau priodol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod polisïau a chynigion y cynllun yn cael eu cyflawni. Mae seilwaith priodol yn allweddol i hwyluso'r gwaith o ddatblygu ond mae hefyd yn angenrheidiol i gefnogi anghenion a galwadau parhaus datblygiadau a chymunedau Sir Gaerfyrddin.

11.185 Efallai y bydd amrywiaeth o seilwaith yn ofynnol, a bydd y rhain yn amrywio'n fawr yn ôl y natur neu fath, graddfa, lleoliad a darpariaeth bresennol o ran seilwaith. Wrth ystyried anghenion cynigion datblygu, gall y seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau canlynol fod yn ofynnol:

  • Ffyrdd a chyfleusterau trafnidiaeth eraill, gan gynnwys trafnidiaeth gynaliadwy, trafnidiaeth gyhoeddus, llwybrau cerdded a beicio
  • Ysgolion a chyfleusterau addysgol a hyfforddi eraill
  • Tai Fforddiadwy
  • Darpariaeth Iechyd
  • Mannau Agored cyhoeddus a seilwaith gwyrdd a glas
  • Amddiffynfeydd Llifogydd
  • Hamdden a Chwaraeon
  • Gwasanaethau cyfleustod,
  • Bioamrywiaeth a diogelu a gwella'r amgylchedd
  • Cyfleusterau cymunedol
  • Seilwaith Digidol
  • Cefnogi'r Gymraeg
  • Ansawdd ac effeithlonrwydd dŵr
  • Uwchraddio a gwella cyfleusterau a seilwaith Trin Dŵr Gwastraff.
  • Cyfleusterau a gwasanaethau eraill yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol

11.186 Mae'r Cynllun yn ceisio sicrhau bod y seilwaith, y gwasanaethau a'r cyfleusterau y mae eu hangen i gefnogi datblygu'n cael eu cyflawni mewn modd amserol cyn dechrau, neu ar ôl dechrau'r datblygiad, neu lle y bo'n briodol yn cael eu cyflawni fesul cam trwy'r broses ddatblygu. Mae'r cynllun yn annog bod y gwaith o ddarparu seilwaith yn cael ei gynnal mewn ffordd gydlynol, gan amharu i'r graddau lleiaf posibl ar gymunedau presennol.

11.187 Bydd cyfraniadau tuag at seilwaith yn cael eu sicrhau trwy amodau neu Rwymedigaethau Cynllunio yn unol â'r fframwaith deddfwriaethol a pholisi a ddarperir.[62] Dylid cyfeirio at Bolisi INF1: Rhwymedigaethau Cynllunio.

11.188 Dylai datblygwyr ystyried Atodiad 7: Taflwybr Tai a'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar weithredu a chyflawni sy'n darparu gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â gofynion safleoedd allweddol y CDLl o ran cyflawni a seilwaith. Dylid rhoi ystyriaeth hefyd i ofynion Polisi PSD2: Uwchgynllunio. Anogir datblygwyr i gychwyn deialog gynnar gyda'r Cyngor er mwyn adnabod y seilwaith sy'n ofynnol i gyflawni a chefnogi cynllun arfaethedig.

11.189 Cyfeirir at baratoi Cynlluniau Draenio a Rheoli Dŵr Gwastraff fel y'u paratowyd gan Dŵr Cymru. Rhagwelir y bydd y Cynlluniau Draenio a Rheoli Dŵr Gwastraff yn ategu'r broses o weithredu'r CDLl hwn drwy reoli'r rhwydwaith draenio a charthffosiaeth.

INF1: Rhwymedigaethau Cynllunio

Pan fydd angen, gofynnir am rwymedigaethau cynllunio i sicrhau yr ymdrinnir yn llwyr ag effeithiau datblygiadau er mwyn gwneud y datblygiad yn dderbyniol. Bydd angen cyfraniadau i gyflawni neu gyllido gwelliannau i isadeiledd, cyfleusterau cymunedol a gwasanaethau a chyfleusterau eraill i fynd i'r afael â gofynion neu effeithiau sy'n deillio o ddatblygiadau newydd.

Lle bo'n berthnasol, gofynnir hefyd am gyfraniadau tuag at waith cynnal a chadw darpariaeth o'r fath yn barhaus ac yn y dyfodol.

Mewn achosion lle ceir anghydfod ynghylch materion sy'n ymwneud â hyfywedd ariannol cyflawni'r gofynion, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd dalu costau'r Cyngor am sicrhau arfarniad / asesiad annibynnol o hyfywedd ariannol.

11.190 Bydd y rhwymedigaethau cynllunio sydd eu hangen yn cael eu hystyried fesul achos yn ddarostyngedig i natur y cynnig a'r gofynion sy'n codi ohono. Gall fod achosion lle na ellir sicrhau'r holl rwymedigaethau sy'n ofynnol oherwydd eu heffaith ar hyfywedd ariannol y cynllun. Mewn achosion o'r fath, bydd angen nodi'r blaenoriaethau seilwaith ar gyfer y safle hwnnw. Er bod y blaenoriaethau'n gallu amrywio yn ôl anghenion penodol pob safle a'u cymunedau, dylid nodi y bydd gofynion Polisi NE4 Datblygiad o fewn Ardal Canllawiau Cynllunio Atodol Caeau'r Mynydd Mawr yn cael eu blaenoriaethu uwchlaw cyfraniadau eraill mewn perthynas â safleoedd o fewn Ardal y Canllawiau Cynllunio Atodol. Ym mhob achos arall, ystyrir yn gyffredinol mai'r flaenoriaeth i'r Awdurdod fydd darparu tai fforddiadwy ac yn y rhan fwyaf o achosion bydd ei ddarpariaeth yn cael ei blaenoriaethu uwchben cyfraniadau eraill.

11.191 Bydd gofynion y rhwymedigaethau cynllunio yn ystyried hyfywedd ariannol datblygiad arfaethedig. Mewn achosion lle ceir anghydfod ynghylch yr effaith y mae'r gofynion yn ei chael ar hyfywedd ariannol y cynllun, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno Arfarniad Hyfywedd Datblygu o'r safle i ddeall ei hyfywedd ariannol. Bydd yr arfarniad yn cael ei ddadansoddi gan drydydd parti, gyda'r holl gostau yn cael eu talu gan yr ymgeisydd. Darperir rhagor o wybodaeth yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol y Rhwymedigaethau Cynllunio.

INF2: Cymunedau Iach

Byd cynigion ar gyfer datblygiadau sy'n darparu ar gyfer teithio llesol, mannau gwyrdd a seilwaith defnyddiadwy hygyrch, ac sy'n ceisio lleihau anghydraddoldebau iechyd trwy annog pobl i ddilyn ffyrdd iach o fyw, gan fynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd a darparu cyfleusterau gofal iechyd hygyrch yn cael eu cefnogi.

Bydd yn ofynnol i gynigion ar gyfer datblygu a nodir o fewn y testun ategol isod gyflwyno Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn unol â'r dull dilyniannol.

11.192 Caiff y cysylltiadau rhwng iechyd a llesiant a chynllunio eu hadlewyrchu mewn deddfwriaeth a pholisi cynllunio cenedlaethol. Yn hyn o beth mae Polisi Cynllunio Cymru yn ceisio darparu fframwaith i gyflawni cyfres o Ganlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy. Mae'r dull cyfannol hwn o gynllunio a dylunio datblygiadau a mannau'n adlewyrchu ffocws ar ganlyniadau cadarnhaol sy'n hybu ffyniant, iechyd, hapusrwydd a llesiant pobl. Mae hybu iechyd a llesiant corfforol a meddyliol fel Canlyniad Hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach yn adlewyrchu'r cysylltiadau hyn rhwng iechyd, llesiant a chynllunio a'r angen i adlewyrchu unrhyw effeithiau posibl a all godi o'r broses gynllunio.

11.193 Gall Asesiad o'r Effaith ar Iechyd wneud cyfraniad gwerthfawr wrth gynnig neu wneud penderfyniadau ynghylch datblygiadau newydd. Gall tystiolaeth o'r effeithiau ar iechyd helpu'r system gynllunio i ddatblygu dulliau cryfach a mwy cydlynol o gynyddu iechyd a llesiant i'r eithaf. [63] Mae Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 yn nodi darpariaethau ar gyfer gwneud gwelliannau i iechyd gan gynnwys bod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi strategaeth genedlaethol ar drechu gordewdra ac yn gwneud rheoliadau ynglŷn â chwblhau asesiadau o'r effaith ar iechyd gan gyrff cyhoeddus.

11.194 Mae Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd yn asesu effaith unrhyw newid neu ddiwygiad i bolisi, gwasanaeth, cynllun, gweithdrefn neu raglen ar iechyd y boblogaeth ac ar ddosbarthiad yr effeithiau hynny o fewn y boblogaeth, yn enwedig o fewn grwpiau agored i niwed. Mae cynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn cynhyrchu gwybodaeth am y modd y gellir lleihau effeithiau negyddol ar iechyd a rhoi anogaeth ar gyfer manteision i iechyd. Gall tystiolaeth o'r fath o effeithiau ar iechyd helpu'r system gynllunio i ddatblygu dulliau cryfach a mwy cydlynol o gynyddu iechyd a llesiant i'r eithaf.

11.195 Mae'n bwysig bod cynigion yn ystyried ystod eang o ffactorau sy'n gysylltiedig ag iechyd a llesiant fel rhan o lunio a pharatoi unrhyw gynllun neu ddatblygiad. Mae'n bwysig bod y rhain yn cael eu hystyried o'r dechrau un. O ganlyniad, anogir datblygwyr i ymgysylltu â'r awdurdod cynllunio lleol a rhanddeiliaid eraill, megis y Bwrdd Iechyd Lleol mor gynnar â phosibl yn y broses o baratoi cynigion datblygu. Dylid darparu Asesiad o'r Effaith ar Iechyd gydag unrhyw gais ar gyfer mwyngloddio brig.

Cymunedau Iach: Rhestr Wirio Ddilyniannol ar gyfer Asesu'r Effaith ar Iechyd

11.196 I helpu i hybu iechyd a llesiant corfforol a meddyliol, dylai'r dull dilyniannol canlynol gael ei ystyried gan ddatblygwyr i bennu'r gofyniad am Asesiad o'r Effaith ar Iechyd a chwmpas a chynnwys posibl hyn. Mae'r gofyniad hwn yn berthnasol i ddatblygiadau mawr a ddiffinnir mewn deddfwriaeth cynllunio fel:

  • Datblygiadau preswyl o 10 annedd neu fwy neu 0.5 hectar neu fwy;
  • Darparu adeilad neu adeiladau lle mae'r arwynebedd llawr a fydd yn cael ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu fwy; neu
  • Datblygiad ar safle sydd ag arwynebedd o 1 hectar neu fwy

11.197 Mae'r dull dilyniannol canlynol o ystyried yr angen i gwblhau Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn adlewyrchu'r canllawiau a nodir yn Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd – Canllaw Ymarferol.[64]

  • CAM 1: Sgrinio – Penderfynu a ddylid cynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd

    Mae sgrinio yn bwrw golwg gychwynnol ar effeithiau posibl y cynnig ar y boblogaeth leol ac unrhyw grwpiau agored i niwed penodol a ddiffiniwyd ynddi. Dylai amlygu unrhyw risgiau neu fanteision posibl i iechyd ac unrhyw grwpiau y gallai'r cynnig effeithio'n arbennig arnynt. Mae canlyniad y broses sgrinio'n benderfyniad a ddylid cynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd ai peidio ac, os felly, pa fath o Asesiad o'r Effaith ar Iechyd sy'n ofynnol. Dylai hefyd ddarparu esboniad o'r modd y daethpwyd i'r penderfyniad.

  • CAM 2: Ymarfer Cwmpasu – Pennu'r ffocws, dulliau a chynllun gwaith. Mae'r cam hwn yn golygu gofyn nifer o gwestiynau a gwneud nifer o benderfyniadau i gadarnhau'r amodau gorchwyl, rolau a chyfrifoldebau a'r cynllun y cytunwyd arno ar gyfer yr Asesiad o'r Effaith ar Iechyd.
  • CAM 3: Arfarniad o'r Dystiolaeth – Adnabod yr effeithiau ar iechyd. Hwn yw'r cam allweddol yn yr asesiad o'r effaith ar iechyd. Y diben yw casglu gwybodaeth am natur, maint, tebygolrwydd a dosbarthiad posibl effeithiau'r cynnig ar iechyd. Mae hefyd yn gyfle i awgrymu ffyrdd posibl o gynyddu i'r eithaf y manteision i iechyd a lleihau'r risgiau i'r eithaf, yn enwedig i'r rhai sydd â'r iechyd mwyaf bregus o bosibl neu'r grwpiau mwyaf difreintiedig yn y boblogaeth. Mae hefyd yn gyfle i adnabod ac awgrymu camau gweithredu a allai fynd i'r afael â 'bylchau' yn y cynnig neu'r cynllun.

    Er nad yw Asesiad o'r Effaith ar Iechyd ynddo'i hun yn ddull ymchwil, mae'n tynnu ar ystod o ffynonellau gwybodaeth a dulliau o gasglu a dadansoddi data, y bydd rheolau a gweithdrefnau methodolegol priodol yn berthnasol iddynt.

  • CAM 4: Adrodd ac Argymhellion – Unwaith y mae'r dystiolaeth a'r data wedi cael eu casglu, dylid datblygu set o argymhellion, a'r rheiny wedi'u goleuo gan gamau blaenorol yr Asesiad o'r Effaith ar Iechyd. Dylai'r argymhellion hyn geisio cynyddu i'r eithaf unrhyw fanteision posibl i iechyd a llesiant a lliniaru effeithiau negyddol posibl. Gallant fod yn gyfle i 'lenwi' unrhyw fylchau a ganfuwyd yn y cynnig a mynd i'r afael o'r newydd ag unrhyw anghydraddoldebau iechyd (neu eraill) a all gael eu hachosi.

Mae angen i argymhellion fod:

  • Yn eglur a chryno
  • Yn realistig
  • Yn rhai y gellir eu cyflawni
  • Yn hydrin o ran eu nifer
  • Yn ddiduedd
  • Yn rhai sy'n adlewyrchu'r holl dystiolaeth a barn yr holl gynrychiolwyr
  • Yn rhai y cytunwyd arnynt drwy gonsensws

Dylid cyfeirio at ganllawiau ar ffurf Canllawiau Cynllunio Atodol.

INF3: Band Eang a Thelathrebu

Bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r diwydiant telathrebu a'r corff rheoleiddio cyfathrebu Ofcom i gynyddu i'r eithaf fynediad at fand eang cyflym iawn, llecynnau diwifr ac argaeledd darpariaeth symudol gwell ar gyfer yr holl breswylwyr a busnesau, gan eu cynorthwyo (lle y bo'n briodol) i gyflawni eu cynlluniau buddsoddi i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion mewn seilwaith.

Dylai datblygiadau newydd gynnwys darparu seilwaith band eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd Gigabit o'r cychwyn cyntaf.

Rhaid i ddatblygiadau pwysig newydd gael eu gwasanaethu gan gyswllt band eang cyflym iawn a dibynadwy â'r adeiladau.

Dylai datblygiadau llai ddarparu mynediad at y cyswllt cyflym iawn mwyaf hyfyw yn ogystal â dwythellau ychwanegol ar gyfer Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad (FTTP) neu ddarpariaeth arall yn y dyfodol.

Bydd eithriadau'n cael eu gwneud lle mae ymgeiswyr wedi dangos trwy ymgynghori â darparwyr seilwaith band eang na fyddai hyn yn bosibl, yn ymarferol nac yn hyfyw yn economaidd. Mewn achosion o'r fath, gellid ceisio cyfraniad cyfwerth gan ddatblygwr tuag at waith oddi ar y safle a allai wneud mwy o fynediad yn bosibl yn y dyfodol.

11.198 Mae'r polisi'n ceisio adlewyrchu galwadau Cymru fodern ar gyfer rhwydweithiau cyfathrebu cyflym a chapasiti uchel dibynadwy. Yn hyn o beth mae'n ategu amcan Llywodraeth Cymru i gynnig band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru ac i roi cymorth i roi seilwaith symudol ar waith ledled y wlad.[65] Mae'n ceisio adlewyrchu cyd-destun seilwaith band eang fel gwasanaeth hanfodol ac un a all helpu i gefnogi a datblygu'r economi leol yn ogystal â chymunedau ffyniannus a chynhwysol. Mae'r polisi'n adlewyrchu darpariaethau Cymru'r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040 sy'n cefnogi'r gwaith o ddarparu seilwaith digidol sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd Gigabit i ddatblygiadau newydd lle mae pobl yn bresennol, er enghraifft tai, adeiladau busnes a masnachol newydd, ac adeiladau cyhoeddus.

11.199 Wrth roi'r polisi ar waith, dylid nodi bod BT Openreach a darparwyr eraill yn cynnig cyswllt band eang cyflym iawn ar gyfer pob datblygiad newydd, naill ai'n rhad ac am ddim, neu fel rhan o bartneriaeth a ariennir ar y cyd gan gynnwys partneriaethau a ariennir gan gymunedau. Bydd cysylltiad ffeibr i'r adeilad (FTTP) yn cael ei ddarparu am ddim i ddatblygiadau tai gan BT Openreach yn seiliedig ar eu trothwyon bryd hynny. Efallai y bydd rhaid i ddatblygiadau llai na hyn ddarparu cyfraniadau i sicrhau cysylltiad ffeibr i'r adeilad, neu efallai y byddant yn cael cysylltiadau copr am ddim.

11.200 Wrth roi cymorth i gyflawni ffeibr llawn, mae BT Openreach wedi pennu targedau ledled y DU, ac maent yn rhoi arweiniad a chymorth i ddatblygwyr ynghylch adeiladu rhwydweithiau FTTP llawn ar safleoedd preswyl neu breswyl/masnachol cymysg newydd.

11.201 Mae'r polisi hefyd yn cydnabod, mewn cyfran fach o achosion, na fydd yn bosibl darparu band eang ar gyfer datblygiadau newydd oherwydd eu lleoliad gwledig iawn. Felly mae'r polisi'n cynnwys y potensial i ddarparu swm o arian i gyfrannu tuag at ddatrysiad arall. Fodd bynnag, lle bynnag y bo'n bosibl dylai'r datrysiad gynnwys bod y datblygiad yn trefnu darpariaeth angenrheidiol ar gyfer seilwaith ar y safle i hwyluso'r gwelliannau.

11.202 Bydd darparu band eang cyflym iawn a dibynadwy mewn ardaloedd gwledig o gymorth i gyflawni strategaeth y Cynllun trwy ddarparu cyfleoedd ychwanegol i hybu'r economi wledig ac arallgyfeirio economaidd.

INF4: Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Llanelli - gwaredu dŵr wyneb y dalgylch

Bydd cynigion sy'n draenio i Waith Trin Dŵr Gwastraff Llanelli ac sy'n cael eu diffinio fel rhai mawr o dan Erthygl 2 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 yn ddarostyngedig i ofyniad ar gyfer gwaredu swm mesuradwy o ddŵr wyneb o'r system garthffosiaeth gyfun fel y nodir yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Cilfach Tywyn.

11.203 Yn nalgylch Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Llanelli, mae pryderon y byddai cysylltu llifoedd dŵr budr a gynhyrchir gan ddatblygiad newydd yn cyflwyno'r risg o ddirywiad yn ansawdd dŵr Safle Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin. Y rheswm am hyn yw bod y rhan fwyaf o'r systemau carthffosiaeth yn nalgylch Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Llanelli yn rhai cyfun (llifau dŵr wyneb a dŵr budr).

11.204 Er bod Dŵr Cymru wedi cadarnhau bod digon o gapasiti yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Llanelli i gyflawni'r twf a nodir yn y Cynllun hwn, maent hefyd wedi gofyn am wneud datblygiadau perthnasol yn nalgylch Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Llanelli yn ddarostyngedig i ofyniad i gymryd mesur cydbwyso i dynnu dŵr gwastraff o'r system fel rhan o roi caniatâd cynllunio. Wrth nodi'r cyfeiriad penodol at Dŵr Cymru yn y paragraff hwn, dylid nodi bod y materion hyn yn amodol ar ddull amlasiantaeth sy'n cynnwys Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin. Mae Dinas a Sir Abertawe hefyd wedi'u cynnwys mewn trafodaethau ynghylch Cilfach Tywyn. Bydd y Datganiad o Dir Cyffredin yn cyd-fynd â Pholisi INF4 ac yn cefnogi'r gwaith o'i weithredu ynghyd â'r Canllawiau Cynllunio Atodol ategol.

11.205 Ceir pryder y gall cyflwyno llif ychwanegol o ddŵr budr arwain at orlwytho'r gwaith trin dŵr gwastraff, yn ogystal â chynyddu amlder yr arllwysiadau o garthffosydd cyfun fydd yn gorlifo allan i Safle Morol Ewropeaidd Bae Caerfyrddin a'r Aberoedd yn ystod glaw sylweddol. Gall y materion hyn arwain at broblemau llifogydd lleol hefyd.

11.206 Paratowyd Canllawiau Cynllunio Atodol Cilfach Tywyn i ddarparu canllawiau penodol ynghylch ystyried cynigion datblygu perthnasol sydd wedi'u lleoli yn nalgylch Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Llanelli. Er bod Llanelli (Prif Ganolfan) a Phorth Tywyn (Canolfan Wasanaethau) wedi'u hadnabod fel ffocws ar gyfer twf yn y Cynllun hwn, maent hefyd yn ddarostyngedig i ystyriaethau amgylcheddol lefel uchel, yn anad dim ansawdd dŵr Safle Morol Ewropeaidd Bae Caerfyrddin a'r Aberoedd. Gellir cyfeirio hefyd at bolisi CCH4 yn y CDLl: Ansawdd Dŵr a Diogelu Adnoddau Dŵr.

11.207 Mae Canllawiau Cynllunio Atodol Cilfach Tywyn wedi'u seilio ar gonsensws ac yn ceisio darparu sicrwydd ar gyfer rhanddeiliaid a datblygwyr fel ei gilydd. Eu prif swyddogaeth yw cynorthwyo i gyflawni twf fel y nodir yn y Cynllun hwn. Maent yn darparu mecanwaith ar gyfer y gofyniad i ddatblygiadau perthnasol gymryd mesurau cydbwyso i dynnu dŵr wyneb. Mae hyn wedi'i fwriadu i alluogi datblygiadau i gyfrannu tuag at wella'r sefyllfa ar y cyfan, gan leddfu pryderon y bydd cynigion yn cael eu gwrthwynebu gan randdeiliaid allweddol – yn anad neb Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.

11.208 Ceir dull partneriaeth sydd wedi hen ennill ei blwyf mewn perthynas â'r mater hwn, gan gynnwys Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth. Mae Polisi INF4 yn adlewyrchu'r dull partneriaeth hwn wrth symud ymlaen. Dylid cyfeirio at baragraff 11.203 gyda golwg ar y cyfeiriad at y Datganiad o Dir Cyffredin.

11.209 Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol hefyd yn rhoi eglurhad ar achosion pan mai Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r ymgeisydd neu'r tirfeddiannwr a'i fod yn ceisio defnyddio gwelliant dros ben y mae wedi'i gronni'n flaenorol ar y gofrestr tynnu dŵr wyneb.

INF5: Dyraniadau Gwledig y tu allan i Ddalgylchoedd Systemau Carthffosiaeth Gyhoeddus

Bydd cynigion ar gyfer darparu safleoedd o 5 neu fwy o anheddau mewn aneddiadau lle nad oes cysylltiad â'r garthffos gyhoeddus yn cael eu cefnogi lle mae'n cael eu gwasanaethu gan un system breifat. Caniateir cynigion o'r fath lle nad yw'n cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd naturiol, defnyddiau cyfagos neu amwynder lleol.

11.210 Mae pryder bod amlhau carthffosydd preifat yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd. Nod y polisi hwn yw annog datblygiad i beidio â chael carthffosydd preifat unigol ac yn hytrach annog defnydd o system garthffosiaeth breifat ar y cyd.

Polisi Strategol – SP 10: Darpariaeth Sipsiwn a Theithwyr

Mae'r safleoedd canlynol yn yr Awdurdod Lleol wedi'u dyrannu i ddiwallu'r angen dynodedig am Lety Sipsiwn a Theithwyr ac i alluogi Aelwydydd Sipsiwn a Theithwyr i ehangu yn y dyfodol:

Cyf. Safle:

Lleoliad

Math o Angen

PrC2/GT1

Tir ym Mhenyfan, Trostre, Llanelli

Preswyl

PrC/GT2

Pen-y-bryn (estyniad), Bynea, Llanelli

Preswyl

Tabl 8: Darpariaeth Sipsiwn a Theithwyr

11.211 Er mwyn ystyried y ddarpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol, mae'r Cyngor Sir wedi ymgymryd â dau Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr sy'n nodi'r angen sydd heb ei ddiwallu ar hyn o bryd ar gyfer lleiniau Sipsiwn a Theithwyr yn y Sir. Cynhaliwyd yr adroddiad cychwynnol yn 2015 i gwmpasu'r cyfnod hyd at 2031, tra bod diweddariad 2019 yn sicrhau bod y Cynllun yn cael ei lywio gan anghenion Sipsiwn a Theithwyr ar gyfer cyfnod y Cynllun hyd at 2033.

11.212 Mae'r Asesiadau yn ystyried y fethodoleg a amlinellir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru, ac mae'n amlinellu dau fath o asesiadau angen: mae'r cyntaf yn ystyried 5 mlynedd gyntaf cyfnod yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr; ac mae'r ail yn ystyried cyfnod llawn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr o 15 mlynedd.

11.213 Yn seiliedig ar asesiad Sipsiwn a Theithwyr 2019, mae'r angen presennol sydd heb ei ddiwallu ar gyfer 19 o leiniau, ac amcangyfrifir bod darpariaeth Sir Gaerfyrddin am y 5 mlynedd gyntaf ar gyfer 23 o leiniau ychwanegol. Mae cyfran uchel o'r angen hwn yn deillio o bobl sy'n byw mewn cartrefi brics a mortar, a thwf aelwydydd newydd o fewn yr aelwydydd hyn. Mae'r angen hwn wedi'i ganolbwyntio yn Llanelli, lle roedd nifer sylweddol o'r aelwydydd hyn yn byw ar y safle cyhoeddus ym Mhen-y-bryn yn y gorffennol

11.214 Mae rhagamcan wedi'i wneud hefyd o ran aelwydydd sipsiwn a theithwyr newydd a fydd yn dod rhwng Blwyddyn 6 a Blwyddyn 15 yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, oedolion ifanc sy'n byw ar safleoedd presennol a fydd, mewn amser, yn ffurfio eu haelwydydd eu hunain, sy'n golygu y byddai angen lleiniau personol arnynt. Mae'r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr yn rhagweld y bydd angen 8 o leiniau ychwanegol rhwng Blwyddyn 6 a Blwyddyn 15, sy'n golygu cyfanswm o 31 o leiniau hyd at 2033.

11.215 Fe wnaeth yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr hefyd edrych ar anghenion llety siewmyn teithiol o fewn Sir Gaerfyrddin. Roedd yr elfen hon o'r asesiad yn nodi 9 o leiniau a awdurdodwyd neu a oddefir ar gyfer siewmyn teithiol yn y sir. Wrth ystyried yr amcanestyniad ar gyfer y dyfodol, mae asesiad 2019 yn nodi bod angen 4 llain ychwanegol yn ystod pum mlynedd gyntaf yr asesiad.

11.216 Bydd y gofyniad am leiniau a'r defnydd ohonynt yn cael ei fonitro'n agos hefyd fel rhan o fframwaith monitro'r cynllun hwn ac adroddir ar hynny drwy drefniadau'r Adroddiad Monitro Blynyddol.

GTP1: Llety Sipsiwn a Theithwyr

  1. Bydd cynigion ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd, neu estyniadau i safleoedd awdurdodedig presennol o fewn terfynau datblygu anheddiad diffiniedig yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:
    1. Lle mae'r ystod angenrheidiol o gyfleusterau a gwasanaethau, gan gynnwys darpariaethau cymunedol, cymdeithasol ac addysgol presennol, a thrafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch neu'n gallu cael eu darparu'n rhwydd;
    2. Lle na fydd y cynnig yn cael unrhyw effeithiau niweidiol sylweddol ar amwynder preswylwyr a defnyddiau tir cyfagos;
    3. Lle mae'r safle'n gallu cael gwasanaethau dŵr, trydan, carthffosiaeth a gwaredu gwastraff;
    4. Lle nad oes effaith niweidiol ar ei amgylchoedd, y dirwedd/treflun na lleoliad a chyfanrwydd yr amgylchedd hanesyddol.
  2. Bydd safleoedd awdurdodedig newydd neu estyniadau i safleoedd awdurdodedig presennol y tu allan i derfynau datblygu aneddiadau diffiniedig yn cael eu caniatáu yn unol â'r uchod, lle gellir dangos nad oes unrhyw leiniau addas ar gael ar safleoedd awdurdodedig presennol, o fewn terfynau datblygu anheddiad diffiniedig, neu lle nad oes cyfle i estyn y safleoedd hynny'n briodol.

Bydd cynigion ar gyfer safle tramwy neu deithiol yn cael eu hystyried lle mae ganddynt gysylltiadau da â'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol.

11.217 Mae'r polisi'n darparu'r fframwaith a'r cyd-destun ar gyfer ystyried ac asesu cynigion ar gyfer safleoedd newydd, ac estyniadau i safleoedd Sipsiwn a Theithwyr (ac ar gyfer Siewmyn Teithiol) gan adlewyrchu'r darpariaethau a ddiffinnir mewn deddfwriaeth sylfaenol[66].

11.218 Bydd yn ofynnol bod dyluniad unrhyw safleoedd yn rhoi ystyriaeth i darpariaethau'r Canllawiau Dylunio priodol gan Lywodraeth Cymru[67].

11.219 Bydd y canllawiau hyn yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ynghylch unrhyw geisiadau cynllunio a gyflwynir. Mewn perthynas ag unrhyw safle a ddatblygir gan gorff cyhoeddus, gan gynnwys yr awdurdod lleol, bydd darpariaethau Canllawiau Llywodraeth Cymru: Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn berthnasol.

11.220 Rhaid i gynigion ystyried mynediad ar gyfer cerbydau o'r briffordd gyhoeddus; yn ogystal â darpariaeth ar gyfer parcio, troi a gwasanaethau ar y safle; a diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer meddianwyr ac ymwelwyr.

11.221 Dylid gwneud gwaith tirlunio a phlannu coed a llwyni priodol er mwyn i safleoedd gydblethu â'u hamgylchoedd, rhoi strwythur a phreifatrwydd, a chynnal amwynder gweledol. Dylid osgoi tirlunio caled, waliau uchel, neu ffensys gormodol gan bod y rhain yn gallu ynysu safle oddi wrth y gymuned ehangach. Yn sgil y clefyd coed ynn, ni ddylid cyflwyno unrhyw goed ynn.

11.222 Bydd angen i gynigion roi sylw i seilwaith lleol a dangos bod y safle'n gallu darparu digon o gyfleusterau a mynediad at gyfleustodau. Dylai graddfa cynigion fod yn gymesur â'u hamgylchoedd ac â'r gymuned leol. Dylid ceisio arweiniad pellach o Ganllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.

11.223 Bydd disgwyl i geisiadau gynnwys tystiolaeth i ddangos bod y safle newydd neu'r estyniad i safle presennol yn ofynnol yn y lleoliad hwnnw. Dylai gwybodaeth o'r fath gynnwys tystiolaeth sy'n dangos diffyg argaeledd lleiniau parhaol neu dramwy addas ar safleoedd presennol, neu gyfle i estyn y safleoedd hynny i ddiwallu'r angen gofynnol.

11.224 Gwnaeth Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr 2015 a 2019 asesu'r angen am safleoedd tramwy neu fannau aros brys ar gyfer y Gymuned Deithiol sydd naill ai'n teithio'n barhaol neu'n teithio am ran o'r flwyddyn. Gwnaeth yr asesiadau geisio dadansoddi cofnodion o safleoedd a gwersylloedd anawdurdodedig a chafodd data o'r Cyfrifiad Carafanau Teithwyr ei ystyried hefyd. Dangosodd dadansoddiad fod nifer cofnodedig y carafanau awdurdodedig ac anawdurdodedig yn Sir Gaerfyrddin wedi gostwng.

11.225 Cyflwynodd Llywodraeth Cymru fecanwaith monitro newydd i olrhain a chanfod gwersylloedd tramwy anghyfreithlon. Gwnaeth Adroddiad Monitro Blynyddol 2021/2022 nodi nifer o wersylloedd anghyfreithlon, ond nid oedd yr un ohonynt ar ddibenion tramwy. O ganlyniad, nid yw'r data'n dynodi unrhyw batrwm clir eto sy'n gofyn am ymyrraeth trwy nodi safle tramwy. Dylid cyfeirio at fframwaith monitro'r cynllun.

11.226 Mewn perthynas â'r anghenion sy'n codi ar gyfer Siewmyn Teithiol fel a ddynodir trwy'r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr, ar hyn o bryd nid oes cydberthynas ofodol â'r angen hwnnw a fyddai'n ei gwneud yn bosibl adnabod safle mewn lleoliad addas. Mae'r cynllun yn ceisio darparu'r hyblygrwydd priodol i ddiwallu'r angen hwnnw trwy ddarpariaethau'r polisi uchod a chyswllt â'r gymuned i adnabod unrhyw angen lleoliadol penodol.

Polisi Strategol – SP 11: Yr Economi Ymwelwyr

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau sy'n gysylltiedig â'r economi twristiaeth ac ymwelwyr yn cael eu cefnogi lle maent:

  1. yn arddangos egwyddorion dylunio a chreu lleoedd o ansawdd uchel;
  2. yn cyfrannu at ddiogelu a gwella'r amgylchedd naturiol;
  3. yn ychwanegu gwerth at ein heconomi ymwelwyr;
  4. mewn lleoliad cynaliadwy a phriodol.

11.227 Mae twristiaeth yn elfen allweddol o economi Sir Gaerfyrddin. Mae'n ffynhonnell bwysig o gyflogaeth a refeniw. Mae'n cynhyrchu oddeutu £400 miliwn - £500 miliwn o refeniw i economi'r Sir yn flynyddol.[68]

11.228 Mae'r Sir yn gartref i ystod eang o atyniadau, gan gynnwys Cae Rasio Ffos Las, yr Ardd Fotaneg Genedlaethol a Pharc Gwledig Pen-bre. Sir Caerfyrddin yw "hwb beicio Cymru", ac mae'r Strategaeth Feicio yn mynegi dyheadau'r cyngor i fod yn arweinydd cenedlaethol o ran darparu digwyddiadau a datblygiadau seilwaith beicio.[69]

11.229 Mae twristiaeth yn ddiwydiant dynamig sydd â sylfaen ddemograffig / cwsmeriaid eang. Mae Sir Gaerfyrddin mewn sefyllfa dda i fanteisio ar botensial y sector o ystyried ei lleoliad yng nghyd-destun y DU. .. Mae'r ddarpariaeth dwristiaeth yn Sir Gaerfyrddin yn amrywio o'r nodweddion naturiol hynny megis hawliau tramwy / cerdded i atyniadau cenedlaethol uchel eu bri sydd wedi hen ennill eu plwyf. Mae twristiaeth treftadaeth a gweithgareddau'r Sir yn uchel ei bri, tra gallai ei hamgylchedd naturiol neilltuol apelio at y sector twristiaeth iechyd.

11.230 Mae SP11 yn pennu'r fframwaith ar gyfer dull polisi o fewn y CDLl Diwygiedig sy'n ddigon ymatebol a hyblyg i alw'r farchnad hyd at 2033, gan hefyd geisio gwarchod yr union gymunedau, tirwedd a threflun sy'n gwneud Sir Gaerfyrddin yn lle gwych i ymweld ag ef ac i'w fwynhau. Tra bod y polisi strategol yn darparu'r cyd-destun cyffredinol, mae polisïau penodol yn darparu manylder. Mae hyn yn cynnwys egluro unrhyw rôl sydd gan derfynau anheddu aneddiadau diffiniedig o ran goleuo penderfyniadau ynghylch cynigion.

11.231 Wrth ddehongli SP11, dylid nodi bod datblygiadau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn cynnwys cyfleusterau newydd, yn ogystal ag estyniadau i gyfleusterau presennol.

11.232 Dylai estyniadau i'r cyfleusterau presennol fod yn israddol o ran eu graddfa a'u swyddogaeth mewn perthynas â'r cyfleuster presennol a dylai cynigion sy'n cynnwys estyniadau sylweddol gael eu dehongli fel datblygiadau newydd.

Ychwanegu Gwerth

11.233 Gall cynigion ychwanegu gwerth at economi ymwelwyr y sir drwy gyfrannu at greu cyrchfan a llety amrywiol, o ansawdd uchel, trwy gydol y flwyddyn. Gallai'r buddion economaidd amrywio o gynnydd yn nifer yr ymwelwyr a diwrnodau ymwelwyr a chreu swyddi, a allai oll gyfrannu at gymysgedd ehangach o fathau o lety ac atyniadau. Mae'r rhain yn cefnogi'r tymor twristiaeth y tu hwnt i fisoedd yr haf. Mae cyfleoedd i gynigwyr geisio alinio â'r blaenoriaethau corfforaethol hynny sy'n dod i'r amlwg, a'u cefnogi, gan gynnwys dyheadau'r cyngor o ran beicio. Derbynnir y bydd gwerth ychwanegol yn gymesur â graddfa a natur y cynnig. Mae cynigion sy'n cyfrannu at ddatblygu rhwydwaith ehangach o atyniadau o fewn y Sir yn cynyddu'r ddarpariaeth gyffredinol a'r cyfnod aros/gwario, ac felly'n cynnig potensial clir i ychwanegu gwerth.

Parchu gwead cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y sir

11.234 Mae gan holl rannau'r sir rinweddau sy'n cyfrannu at yr ymdeimlad cyffredinol o le. Mae'r rhain yn cynnwys tirwedd, cadwraeth natur, ffabrig cymdeithasol a'r amgylchedd adeiledig. Mae'r rhain yn asedau y mae'n rhaid eu diogelu ar gyfer ein cenedlaethau yn y dyfodol ac ni ellir eu peryglu yn ormodol gan ddatblygiadau sy'n ymwneud â thwristiaeth.

11.235 Dylai fod yna bwyslais hefyd ar ddarparu ansawdd ym mhob agwedd ar gynnig. Wrth ystyried pa mor dderbyniol yw cynigion, rhoddir ystyriaeth o ran eu lleoliad, y safle a bennir, dyluniad a graddfa, mynediad at y rhwydwaith o brif ffyrdd a ffyrdd craidd, ac effaith unrhyw draffig canlyniadol. Yn ogystal â hyn, mae'r graddau o ran pa mor hygyrch yw'r safle ar drafnidiaeth gyhoeddus a thrwy gerdded a beicio yn ystyriaethau pwysig. Dylai cynigion adlewyrchu cymeriad ac ymddangosiad yr ardal, gyda defnydd priodol o dirweddu a sgrinio yn ôl y gofyn.

Lleoliad cynaliadwy

11.236 Wrth gydnabod galw'r farchnad, dylai datblygiadau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth gael eu cyfeirio at leoliadau cynaliadwy. Dylid ystyried strategaeth ofodol y Cynllun Datblygu Lleol wrth benderfynu ar briodolrwydd unrhyw leoliad, yn ogystal â'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy ar gyfer Cynllunio[70]. . Mae'r polisïau penodol yn darparu canllawiau pellach ynghylch rhoi'r dull gofodol hwn ar waith.

11.237 Dylai cynigion mewn perthynas â thwristiaeth adlewyrchu cymeriad yr ardal a'r effeithiau ar gyffiniau'r safle fel rhan o ddull sy'n seiliedig ar greu lleoedd. Dylai cydnabyddiaeth o'r ymdeimlad o le o fewn cyffiniau'r cynnig fod ymhlyg o fewn cyd-destun y dull sy'n seiliedig ar glystyrau, sy'n grwpio'r fframwaith aneddiadau. Yn nhermau gofodol, byddai hyn yn dangos bod y cynigion twristiaeth ar raddfa fwy hynny, sy'n cynhyrchu llawer o deithiau, yn addas i gael eu lleoli yn ne'r sir lle mae'r seilwaith ar waith i'w cefnogi.

11.238 Wrth nodi'r cynnig sefydledig, sy'n arfordirol yn bennaf, sy'n nodweddu ardal dde-orllewin y Sir, bydd angen rhoi sylw dyledus i unrhyw effaith ar y dirwedd o ganlyniad i unrhyw bosibilrwydd o'i defnyddio'n rhy ddwys.

11.239 Mae ardaloedd gwledig y sir mewn sefyllfa dda i dderbyn cynigion cynaliadwy o ansawdd uchel sydd ar raddfa briodol. Dylai cynigion barchu asedau'r sir wrth gefnogi cymunedau gwledig bywiog ar yr un pryd.

11.240 Mae'n rhaid i rai datblygiadau sy'n ymwneud â thwristiaeth, oherwydd eu natur, gael eu lleoli yng nghefn gwlad. Mae'n bwysig nad yw'r datblygiadau hyn yn cael unrhyw effaith negyddol sylweddol ar y dirwedd, yr amgylchedd naturiol neu amwynderau. O ran y polisïau manwl ar gyfer y CDLl Diwygiedig, mae'r pwyslais ar egluro'r ddwy her a'r cyfleoedd nodedig sy'n wynebu'r economi ymwelwyr yn Sir Gaerfyrddin sef atyniadau (rhywle i fynd) a llety (rhywle i aros).

VE1: Atyniadau a Chyfleusterau Ymwelwyr

  1. Bydd cynigion ar gyfer atyniadau a chyfleusterau o ansawdd uchel ar gyfer ymwelwyr, gan gynnwys estyniadau priodol i gyfleusterau presennol, yn cael eu caniatáu lle maent wedi'u lleoli mewn, neu lle maent yn uniongyrchol gysylltiedig ag, anheddiad diffiniedig (Polisi SP3).
  2. Bydd yr holl gynigion eraill sy'n ymwneud ag atyniadau a chyfleusterau o ansawdd uchel ar gyfer ymwelwyr nas ystyriwyd dan Bwynt 1 uchod yn cael eu caniatáu, lle maent yn amlwg yn ddibynnol ar briodoleddau penodol y safle / lleoliad yng nghefn gwlad. Dylai cynigion ddangos bod y dull dilyniannol canlynol wedi cael ei ddefnyddio lle mae addasu ac ailddefnyddio adeilad presennol wedi cael ei ystyried yn y lle cyntaf; yna tir a ddatblygwyd yn flaenorol; yna lleoliad maes glas.

Dylai'r holl gynigion adlewyrchu a pharchu rôl a swyddogaeth yr ardal, yn ogystal â'i hymdeimlad o le, yn anad dim o ran graddfa, math, cymeriad, dyluniad, cynllun ac ymddangosiad.

Lle y bo'n briodol, dylai cynigion fod yn hygyrch gan ddefnyddio amryw ddulliau trafnidiaeth – yn enwedig dulliau trafnidiaeth cynaliadwy – megis cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.

11.241 Mae'r polisi hwn yn cydnabod y cyfleoedd economaidd a gynigir gan y sector twristiaeth ond mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cynnal cyfanrwydd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y Sir. Ni ddylai fod unrhyw niwed cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o ganlyniad i'r cynnig a rhaid bod lefelau hygyrchedd yn foddhaol.

11.242 Gall darparu amrywiaeth a dewis o atyniadau a chyfleusterau helpu i ddatgloi potensial economi ymwelwyr y Sir, megis, atyniadau 'diwrnod glawog' sy'n cynnig potensial arbennig i wrthsefyll materion tymhorol. Mae cyfleusterau defnydd deuol – h.y. atyniadau sydd ar agor i deithwyr dydd a'r gymuned leol – yn cynnig manteision ehangach posibl. Mae cynigion sy'n ceisio cyd-fynd â rhwydwaith ehangach o atyniadau yn y Sir yn cynnig potensial i ehangu'r ddarpariaeth ar y cyfan yn ogystal â chynyddu hyd arosiadau a swm y gwariant ariannol yn economi ymwelwyr Sir Gaerfyrddin.

11.243 Dylai cynigion nad ydynt wedi'u lleoli o fewn, neu nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig ag, anheddiad a ddiffinnir ym Mholisi SP3 ddangos bod y lleoliad penodol yn hanfodol o ran hyfywedd a dichonoldeb y datblygiad. Bydd angen i'r ymgeisydd ddangos pam fod y lleoliad penodol yn hanfodol a pham fod y cynnig yn dibynnu i raddau helaeth ar briodoleddau'r safle. Gellid gwneud hyn trwy egluro sut y mae'r safle / cynnig wedi'i gysylltu'n weledol, yn swyddogaethol ac yn ofodol â nodwedd ddiffiniedig. Gallai hyn gynnwys nodweddion naturiol, hanesyddol, neu wedi'u gwneud gan ddyn (e.e. cyfleuster sefydledig).

11.244 Dylai cynigion nad ydynt wedi'u lleoli o fewn, neu nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig ag, anheddiad a ddiffinnir ym Mholisi SP3 roi ystyriaeth yn gyntaf i ailddefnyddio neu estyn adeiladau presennol. Os na fydd unrhyw adeilad presennol i dderbyn y cynnig newydd, dylid defnyddio tir a ddatblygwyd yn flaenorol, gyda safleoedd maes glas yn olaf.

11.245 Lle y bo'n berthnasol, bydd y Cyngor yn gofyn i ymgeiswyr gyflwyno datganiad ategol twristiaeth. Mae datganiad o'r fath yn darparu mecanwaith i'r ymgeisydd ddangos aliniad polisi'r cynnig. Gall datganiad hefyd roi'r cyfle i ymgeisydd ddangos nodweddion economaidd y cynnig yn llawn (fel sy'n gymesur â maint/graddfa ac ati).

VE2: Llety Gwyliau

  1. Bydd cynigion ar gyfer llety gwasanaeth o ansawdd uchel, gan gynnwys estyniadau priodol i lety presennol, yn cael eu caniatáu lle maent wedi'u lleoli o fewn, neu lle maent yn uniongyrchol gysylltiedig ag, anheddiad diffiniedig (Polisi SP3).
  2. Bydd cynigion ar gyfer llety â gwasanaeth a llety hunanarlwyo sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r lleoliadau uchod yn cael eu caniatáu dim ond lle maent yn cynnwys ailddefnyddio ac addasu (gan gynnwys trosi) adeiladau presennol ar y cyd â pholisi RD4.

Dylai'r holl gynigion a nodir uchod adlewyrchu a pharchu rôl a swyddogaeth yr ardal a'i hymdeimlad o le, yn anad dim o ran graddfa, math, cymeriad, dyluniad, cynllun ac ymddangosiad – yn ogystal â'r defnyddiau hynny sydd eisoes wedi'u lleoli yng nghyffiniau'r safle.

11.246 Mae'r polisi hwn yn cydnabod manteision arlwy llety amrywiol o ran darparu ystod a dewis o leoedd i aros. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i amrywiaeth o wahanol fathau o lety, o westai mawr o ansawdd uchel i lety gwely a brecwast bach. Caiff carafanau statig, chalets a safleoedd glampio parhaol eraill eu hystyried o dan bolisi VE4. . Gall hyn gynnig ystod o fanteision economaidd, gan hefyd ganiatáu i'r Sir ehangu ei darpariaeth ac apelio at seiliau demograffig / cwsmeriaid ehangach, a chyfrannu at fwy o wariant.

11.247 . Lle rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer llety gwyliau parhaol, bydd y Cyngor yn ystyried atodi amodau sy'n cyfyngu ar y defnydd fel mai defnydd fel llety gwyliau yn unig ydyw. Gellir defnyddio amodau meddiannaeth dymhorol hefyd i atal llety o'r fath rhag cael ei feddiannu'n barhaol ar sail breswyl. Yn ogystal, mewn ardaloedd lle mae'n hysbys fod nifer yr achosion o ail gartrefi a thai haf yn fater difrifol mewn cymunedau, bydd y Cyngor yn ystyried gosod cyfyngiadau ar hawliau datblygu a ganiateir i newid anheddau sy'n bodoli eisoes i gartrefi gwyliau ac ail gartrefi.

11.248 At ddefnydd adeiladau gwledig at ddibenion twristiaeth, yn gyffredinol ni fydd adeiladau nad ydynt yn cyrraedd y safon ofynnol a / neu sydd o ymddangosiad anghydweddol yn cael eu hystyried yn briodol i'w troi'n llety gwyliau. Yn hyn o beth, ni fydd cynigion ar gyfer adeiladau wedi'u hadeiladu'n fodern megis unedau ffrâm porthol neu strwythurau dros dro yn cael eu hystyried yn briodol i'w troi'n llety gwyliau. Dylid cyfeirio hefyd at Bolisi RD4: Addasu ac Ailddefnyddio Adeiladau Gwledig at Ddefnydd Amhreswyl.

11.249 Lle y bo'n berthnasol, bydd y Cyngor yn gofyn i ymgeiswyr gyflwyno datganiad ategol twristiaeth. Mae datganiad o'r fath yn darparu mecanwaith i'r ymgeisydd ddangos aliniad polisi'r cynnig.

11.250 Cyfeirir at Bolisi RD3: Arallgyfeirio ar Ffermydd sy'n darparu'r fframwaith polisi ar gyfer prosiectau arallgyfeirio ar ffermydd sy'n ceisio gwneud cyfraniad cadarnhaol at yr economi wledig a'i chryfhau.

VE3: Carafanau Teithiol, Gwersylla a Safleoedd Gwersylla Eraill nad ydynt yn barhaol

Bydd cynigion ar gyfer safleoedd newydd, ac ar gyfer estyniadau, gwelliannau neu ddwysáu safleoedd presennol, yn cael eu caniatáu lle maent yn adlewyrchu ac yn parchu rôl a swyddogaeth yr ardal a'i hymdeimlad o le, yn ogystal â'r canlynol:

  1. lle maent o ansawdd uchel o ran dyluniad, cynllun ac ymddangosiad, a lle na fyddant yn cael effaith niweidiol annerbyniol ar y dirwedd, morwedd a/neu'r drefwedd amgylchynol;
  2. lle na fyddant yn arwain at ardal ormodol o arwyneb solet, a lle gall yr unedau llety gael eu symud yn rhwydd oddi ar y safle;
  3. lle na fyddant yn arwain at or-grynodiad o safleoedd yn yr ardal;
  4. lle maent wedi'u lleoli'n addas mewn perthynas â'r prif rwydwaith priffyrdd a lle gellir darparu mynediad digonol heb niweidio'r amgylchedd naturiol ac adeiledig;
  5. lle defnyddir y llety at ddibenion teithio yn unig, gyda meddiannaeth yn gyfyngedig i ddefnydd ar gyfer gwyliau.

Dylai cynigion sy'n cynnwys angen am strwythurau atodol ddangos bod dull dilyniannol wedi cael ei ystyried, gan ddechrau ag ailddefnyddio adeiladau presennol, gyda'r angen i godi adeiladau newydd yn dilyn wedyn.

Bydd adeiladau newydd yn cael eu caniatáu dim ond lle maent yn briodol o ran eu lleoliad ar y safle, yr angen amdanynt a'u graddfa.

11.251 Mae'r polisi hwn yn cydnabod y dylid cefnogi cynigion priodol sydd o ansawdd uchel. Mae hyn yn cydnabod yr angen i ddarparu arlwy llety amrywiol o ran darparu ystod a dewis o leoedd i aros yn y Sir.

.

11.252 Wrth ymateb i dueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn y sector, mae'r polisi hwn yn darparu ar gyfer ystyried gwersylla moethus amgen neu unedau llety glampio. Efallai na fydd y rhain yn debyg i bebyll traddodiadol ac maent hefyd yn annhebygol o gyd-fynd â'r diffiniad statudol o garafán. Er mwyn i uned o'r fath gael ei hystyried yn un nad yw'n barhaol, dylai fod ag angoriad / cyswllt ffisegol cyfyngedig â'r llawr a dylai fod yn dramwy a chreu effaith fach. Dylai'r uned fod yn hawdd i'w symud oddi ar y safle. Ni ystyrir bod defnyddio sylfeini concrit yn briodol, tra dylai unrhyw lwyfannau neu ddecin pren allu cael eu symud yn rhwydd oddi ar y safle.

11.253 Bydd y Cyngor yn ystyried defnyddio amodau – gan gynnwys cyfyngu'r defnydd i ddefnydd fel llety gwyliau yn unig, neu gyfyngu ar gyfnod gweithredol y safle. Ceir disgwyliad bod y safle'n gallu cael ei adfer i'w gyflwr gwreiddiol a bod unrhyw unedau llety'n cael eu symud oddi ar y safle pan fo ar gau.

11.254 Er bod natur amharhaol cynigion a gaiff eu hystyried dan y polisi hwn yn golygu eu bod yn debygol o gael llai o effaith ar y dirwedd a'r amgylchedd nag unedau sefydlog, mae'n dal yn ofynnol iddynt gyd-fynd yn foddhaol â'r dirwedd a/neu'r drefwedd. Bydd angen i'r Cyngor fod wedi'i argyhoeddi nad oes unrhyw effaith niweidiol, yn enwedig o safbwynt capasiti'r dirwedd. Dylai fod pwyslais ar gynigion sydd wedi'u sgrinio'n dda lle gall unedau gael eu cymhathu'n rhwydd â'r dirwedd heb yr angen am ormod o nodweddion o waith dyn megis arwyneb solet a ffensys. Dylid rhoi sylw dyladwy i bolisïau'r CDLl SP12: Creu Lleoedd a Lleoedd Cynaliadwy a PSD1: Dylunio Cynaliadwy ac o Ansawdd Uchel.

11.255 Lle y bo'n berthnasol, bydd y Cyngor yn gofyn i ymgeiswyr gyflwyno datganiad ategol twristiaeth. Mae datganiad o'r fath yn darparu mecanwaith i'r ymgeisydd ddangos aliniad polisi'r cynnig. Yng nghyd-destun y polisi hwn, mae'n debygol y bydd y Cyngor yn ceisio cynllun tirlunio er mwyn gallu arfarnu'r lleoliad, cynllun y safle, a sgrinio. Bydd hefyd yn caniatáu i'r ymgeisydd ymhelaethu ar fanteision economaidd y cynnig (fel sy'n gymesur â'i faint/graddfa ac ati).

VE4: Safleoedd Carafanau Sefydlog a Chalets a Safleoedd Gwersylla Parhaol Eraill.

  1. Bydd cynigion ar gyfer Safleoedd Carafanau Sefydlog a Chalets newydd yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:
    1. lle maent o fewn anheddiad diffiniedig neu'n uniongyrchol gysylltiedig ag ef (Polisi SP3), neu lle maent wedi'u lleoli mewn cyfleuster neu atyniad twristiaeth presennol perthnasol neu'n dangos perthynas ofodol a swyddogaethol â chyfleuster neu atyniad o'r fath;
    2. lle maent o ansawdd uchel yn ôl dyluniad, cynllun ac ymddangosiad, a lle na fyddant yn cael effaith niweidiol annerbyniol ar y dirwedd a/neu'r drefwedd o amgylch;
    3. lle na fyddant yn arwain at ddwysâd sylweddol ac annerbyniol yn y safleoedd a ddarperir yn yr ardal leol;
  2. Bydd cynigion i wella ac estyn safleoedd presennol yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:
    1. lle bydd yn cynyddu bywiogrwydd, cynaliadwyedd ac ansawdd amgylcheddol y safle;
    2. lle na fyddant yn arwain at gynnydd annerbyniol yn nwyster unedau a/neu raddfa'r safle ar y cyfan.
    3. lle na fydd yn creu niwed annerbyniol i'r dirwedd, y morwedd a / neu'r drefwedd o amgylch;
    4. lle mae'n darparu (lle y bo'n briodol) ar gyfer gwelliant sylweddol yn ansawdd, ymddangosiad a lleoliad y safle ar y cyfan.

11.256 Mae'r polisi hwn yn cydnabod y dylid cefnogi cynigion priodol sydd o ansawdd uchel. Mae hyn yn cydnabod yr angen i ddarparu arlwy llety amrywiol o ran darparu ystod a dewis o leoedd i aros yn y Sir.

11.257 Bydd y Cyngor yn ystyried cymhwyso amodau – gan gynnwys cyfyngu'r defnydd i ddefnydd fel llety gwyliau yn unig a / neu gyfyngu ar gyfnod gweithredol y safle.

11.258 Lle y bo'n briodol, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr safleoedd gynnal cofrestr gyfoes o enwau holl berchnogion/meddianwyr unedau sefydlog a'u prif gyfeiriad cartref er mwyn sicrhau nad yw'r unedau gwyliau'n dod yn brif fan preswylio'r perchennog/meddiannwr.

11.259 Yr egwyddor ddylunio danategol y dylid ei dilyn ar gyfer llety ymwelwyr sefydlog yw ansawdd da – yn anad dim o ran cynllun ac ymddangosiad. Dylai cynigion fod wedi'u lleoli mewn lleoliadau anymwthiol sydd wedi'u sgrinio'n addas gan nodweddion presennol y dirwedd a/neu lle gall yr unedau gael eu cymhathu'n rhwydd â'r dirwedd mewn ffordd nad yw'n achosi niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd, y morwedd neu'r drefwedd. Dylid rhoi sylw dyladwy i bolisïau CDLl SP12: Creu Lleoedd a Lleoedd Cynaliadwy a PSD1: Galluogi Dylunio.

11.260 Dylai dangos perthynas ofodol a swyddogaethol â chyfleuster neu atyniad twristiaeth presennol perthnasol fod yn gymesur â maint a natur y cynnig. Ystyrir bod cynigion ar gyfer llety gwyliau sefydlog sydd o natur wasgaredig a digysylltiad yn hynod annhebygol o allu dangos y berthynas ofynnol.

11.261 Mae llawer o unedau sefydlog presennol wedi'u lleoli mewn ardaloedd sy'n sensitif yn weledol, yn enwedig ar hyd morlin Sir Gaerfyrddin. Mae'r polisi'n ceisio hybu gwelliannau ac uwchraddio safon llety ymwelwyr ar safleoedd presennol, a lleihau effaith y safleoedd hyn ar y dirwedd / morwedd. Dylai cynigion o'r fath fodloni polisïau a darpariaethau'r Cynllun yn ei gyfanrwydd.

11.262 Mae'r polisi'n ceisio adlewyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn yr ystyr ei fod yn cydnabod y risgiau a achosir gan berygl llifogydd a / neu erydiad sy'n deillio o newid arfordirol. I'r perwyl hwn, dylid cyfeirio at bolisi CDLl NE7: Ardal Rheoli Newid Arfordirol gyda golwg ar y posibilrwydd o adleoli carafannau sefydlog, chalets neu unedau llety ymwelwyr parhaol eraill.

11.263 Lle y bo'n berthnasol, bydd y Cyngor yn gofyn i ymgeiswyr gyflwyno datganiad ategol twristiaeth. Mae datganiad o'r fath yn darparu mecanwaith i'r ymgeisydd ddangos aliniad polisi'r cynnig. Yng nghyd-destun y polisi hwn, mae'n debygol y bydd y Cyngor yn ceisio cynllun tirlunio er mwyn gallu arfarnu'r lleoliad, cynllun y safle, a sgrinio, yn ogystal â chynllun gwella ar gyfer estyniadau. Caiff materion capasiti'r dirwedd eu nodi hefyd. Dylai'r datganiad roi cyfle i'r ymgeisydd ymhelaethu ar fanteision economaidd y cynnig hefyd (fel sy'n gymesur â'i faint/graddfa).

11.264 At ddibenion y polisi hwn mae llety gwersylla amgen parhaol yn golygu unedau na ellir eu symud o'r safle pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, oherwydd y graddau y maent wedi'u cysylltu'n ffisegol â'r ddaear ac oherwydd y ffordd y maent wedi'u dylunio.

Polisi Strategol – SP 12: Creu Lleoedd a Lleoedd Cynaliadwy

Er mwyn hwyluso datblygu cynaliadwy, rhaid i ddatblygiadau newydd gydnabod arwahanrwydd lleol ac ymdeimlad o le, a gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd a darparu manteision net i fioamrywiaeth.

I gyflawni hyn, bydd pob datblygiad yn:

  1. Cyfrannu at greu lleoedd a mannau cyhoeddus deniadol, cydlynol, diogel sy'n gwella iechyd a llesiant neu ansawdd bywyd trigolion a chymunedau, gan gynnwys diogelu amwynder, tirweddu, y parth cyhoeddus a darpariaeth mannau agored a hamdden;
  2. Dylai dyluniad, cynllun a chyfeiriadedd yr adeilad(au) arfaethedig a'r mannau rhyngddynt ac o'u hamgylch, greu amgylchedd deniadol, eglur, iach, hygyrch a diogel;
  3. Cadw a gwella'r rhwydwaith o seilwaith gwyrdd a glas amlswyddogaethol a bioamrywiaeth yr ardal gan gynnwys ymgorffori cyfleoedd newydd i ddarparu manteision net ar gyfer bioamrywiaeth, a gwella cysylltedd a gwytnwch ecolegol (gan gynnwys ymgorffori nodweddion lleol);
  4. Gallu addasu i newid hinsawdd a sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd ar gyfer technegau adeiladu cynaliadwy, effeithlonrwydd adnoddau a chyfrannu tuag at leihau allyriadau carbon a sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy.
  5. Defnyddio deunyddiau ac adnoddau sy'n briodol i'r ardal y mae wedi'i leoli ynddi;
  6. Arddangos dealltwriaeth glir o'r cyd-destun tirweddol lleol presennol, y dreftadaeth naturiol ac adeiledig, y cymeriad lleol, a'r ymdeimlad o le;
  7. Cyfrannu at, neu greu cyfleoedd ar gyfer Teithio Llesol a mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus;
  8. Ystyried a lle bo'n briodol ymgorffori cysylltiadau newydd, a/neu wella cysylltiadau presennol â seilwaith cymdeithasol hanfodol a chyfleusterau cymunedol;
  9. Bod yn hygyrch ac yn integredig gan alluogi hydreiddedd a rhwyddineb symud sy'n hybu buddiannau cerddwyr, beicwyr a thrafnidiaeth gyhoeddus sy'n sicrhau rhwyddineb mynediad i bawb;
  10. Ystyried materion cynhyrchu, trin a chael gwared ar wastraff; a
  11. Rheoli dŵr mewn modd cynaliadwy, gan gynnwys ymgorffori systemau draenio trefol cynaliadwy.

11.265 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn pennu polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru. Ei brif nod yw hyrwyddo a darparu fframwaith ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru.

11.266 Mae un o elfennau allweddol yr agenda bolisi genedlaethol hon, a'r amcanion datblygu cynaliadwy sy'n ei thanategu, yn ymwneud â'r angen i gofleidio creu lleoedd fel rhan o'r broses o wneud cynlluniau a gwneud penderfyniadau. Mae'r polisi cynllunio cenedlaethol yn nodi Lleoedd Cynaliadwy fel nod y system cynllunio defnydd tir yng Nghymru. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi mai allbwn y system gynllunio yw Lleoedd Cynaliadwy yn hytrach na'r broses o'u cyflawni. Dylai'r holl benderfyniadau ynglŷn â datblygu, naill ai trwy ddewisiadau polisi cynlluniau datblygu neu benderfyniadau unigol ynglŷn â rheoli datblygu, geisio cyfrannu tuag at greu lleoedd cynaliadwy a llesiant gwell[71].

11.267 Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo ffurfiau mwy cynaliadwy o ddatblygu, ac mae ei chynllun datblygu cynaliadwy, Cymru'n Un: Un Blaned[72] (2009), yn amlinellu ei dull o ran datblygu cynaliadwy. Drwy'r system gynllunio yng Nghymru, gellir defnyddio dylunio da i chwarae rôl fawr wrth gyflawni ffurfiau cynaliadwy o ddatblygu. Mae'r CDLl Diwygiedig wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â'r agenda creu lleoedd cynaliadwy drwy ei bolisïau, sy'n cydnabod y rôl y gall datblygiadau newydd ei chael o bosibl wrth gyfrannu tuag at wneud lleoedd a gwella rhinweddau'r ardal. Mae'r dull gweithredu yn ceisio cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, cyfle cyfartal a mynediad i bawb yn ogystal ag iechyd a llesiant ein cymunedau.

11.268 Mae cyflawni dyluniad da a chreu ymdeimlad o le effeithiol yn mynnu dealltwriaeth o'r berthynas rhwng holl elfennau'r amgylchedd naturiol ac adeiledig. Mae dylunio yn gydran hanfodol wrth greu datblygiadau cynaliadwy, sydd ei hun ar flaen y gad o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

11.269 Mae'r Ddeddf yn golygu bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus megis awdurdodau lleol weithio i sicrhau y dylai datblygiadau gydnabod a cheisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ardaloedd.

11.270 Mae'r polisi'n integreiddio elfennau allweddol o greu lleoedd cynaliadwy sy'n cyfrannu at wireddu Gweledigaeth y Cynllun, sef creu cymunedau llewyrchus, cydlynol a chynaliadwy. Mae hefyd yn cydnabod y rôl y mae nodweddion amgylcheddol a hanesyddol a diwylliannol unigryw'r Sir yn ei chwarae wrth ddiffinio amgylchedd iach, diogel a ffyniannus. Mae rôl y Seilwaith Gwyrdd a Glas a'i rwydwaith o fannau agored amlswyddogaethol yn elfen bwysig yn ogystal â'i darpariaethau ar gyfer iechyd a llesiant a chyfleoedd gwell ar gyfer Teithio Llesol. Cydnabyddir natur amlswyddogaethol y Seilwaith Gwyrdd a Glas ac mae'n cynnwys tirwedd, treftadaeth, amwynder, iechyd a llesiant, rheoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy, ynghyd ag addasu i'r hinsawdd a gallu ei gwrthsefyll.

11.271 Mae manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ynghlwm wrth greu datblygiad sydd wedi'i ddylunio'n dda. Mae amgylchedd cynaliadwy sydd wedi'i ddylunio'n dda yn elfen hanfodol i gyflawni ffyniant economaidd gan y bydd yn fwy deniadol i fuddsoddwyr posibl yn ogystal â bod yn fwy apelgar i gwsmeriaid, gweithwyr allweddol a thwristiaid. Yn yr un modd, bydd adeiladau a mannau gweithio sydd wedi'u dylunio'n well yn arwain at weithwyr mwy cynhyrchiol. Ar yr un pryd, bydd cymdogaethau sydd wedi'u cynllunio'n well yn creu cymunedau hapusach ac iachach a fydd yn fwy ymroddedig i gynnal eu hamgylchiadau. Efallai y bydd y manteision economaidd yn cynnwys llai o lygredd drwy leihau traffig, amddiffyn neu wella bioamrywiaeth, a chadw'r dreftadaeth adeiledig. Mae'r holl fuddiannau hyn yn ganolog ar gyfer cyflawni datblygu cynaliadwy a ffyniant economaidd hirdymor ardal.

11.272 Nod y polisi hwn yw sicrhau y gall cynigion datblygu gyflawni canlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol cadarnhaol, a lleihau rhai niweidiol. Bydd hyn, ynghyd â'r polisïau mwy manwl a fydd yn cael eu datblygu fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo, yn ffurfio sail yr holl benderfyniadau cynllunio, a bydd dangosyddion yn cael eu datblygu fel rhan o fframwaith monitro'r cynllun er mwyn dangos effeithiolrwydd y polisïau. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol pellach yn cael eu paratoi i ychwanegu at Bolisi SP12.

11.273 Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Atodlen 3)[73] yn sefydlu Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i ddatblygiadau newydd gynnwys nodweddion Systemau Draenio Cynaliadwy sy'n cydymffurfio â safonau cenedlaethol.

11.274 Er bod y broses gydsynio ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy yn rhan o gyfundrefn reoleiddiol ar wahân i gynllunio, mae'r Cynllun hwn yn cydnabod pwysigrwydd cynnwys ystyriaeth i Systemau Draenio Cynaliadwy fel rhan o'r cysyniad dylunio o'r dechrau un fel rhan o ddull creu lleoedd. Yn hyn o beth, mae'r Cynllun yn cydnabod bod Systemau Draenio Cynaliadwy yn gallu cael eu defnyddio'n effeithiol mewn ardaloedd gwledig a threfol i gefnogi datblygu ac ailddatblygu newydd, gan hefyd leihau perygl llifogydd dŵr wyneb a chreu cyfleoedd ar gyfer ansawdd dŵr gwell, cynefinoedd cyfoethog bio-amrywiol a mannau hamdden cymunedol newydd.

11.275 Cynghorir datblygwyr i gysylltu â Chorff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy y Cyngor ar adeg amserol er mwyn egluro a chwmpasu'r gofynion. [74]

PSD1: Atebion Dylunio Effeithiol: Cynaliadwyedd a Chreu Lleoedd

Dylai cynigion datblygu ddangos bod amcanion dylunio a chynaliadwyedd penodol i safleoedd yn cael eu cyflawni'n effeithiol. Dylai datblygiadau gyflawni datrysiadau dylunio o ansawdd sy'n briodol i'r safle penodol, yr ardal leol a natur y datblygiad.

Dylai cynigion ddangos y canlynol yn glir:

  1. Bod y datblygiad yn adlewyrchu'r cyd-destun lleol drwy ystyried y dirwedd; yr amgylchedd adeiledig; a nodweddion hanesyddol a diwylliannol, gan gynnwys:
    1. cynllun y safle a chynllun dylunio'r dirwedd;
    2. ffurf, graddfa, dimensiynau, deunyddiau a manylion yr holl elfennau adeiledig ac arwynebau.

    Sicrhau bod cynigion datblygu yn cadw cysylltiad â'r 'ymdeimlad o le' lleol ac yn ychwanegu ato.

  2. Datrysiadau dylunio o ansawdd uchel sy'n darparu:
    1. ffurf adeiledig sy'n integreiddio egwyddorion dylunio adeiladau cynaliadwy yn effeithiol er mwyn sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl ar gyfer lleihau carbon, effeithlonrwydd ynni a hyblygrwydd o ran defnydd.
    2. defnydd effeithlon o arwynebedd y safle, gan wneud y mwyaf o gadw, amddiffyn ac integreiddio elfennau a nodweddion tirwedd ac ecolegol presennol, fel asedau Seilwaith Gwyrdd a Glas.
    3. cynllun safle effeithiol, diogel, a chynhwysol sy'n hyrwyddo iechyd, llesiant ac amwynder trigolion, defnyddwyr, ac ymwelwyr.
    4. cyfraniad cadarnhaol i amgylchfyd cyhoeddus effeithiol a deniadol trwy integreiddio ffurf adeiledig gyda gofod digonol wedi'i ddiffinio'n glir ar gyfer amwynderau preifat a chyhoeddus
  3. Na fydd y datblygiad yn arwain at effeithiau niweidiol sylweddol i amwynder defnyddiau tir, eiddo a phreswylwyr cyfagos na'r gymuned; a bod unrhyw effeithiau niweidiol posibl wedi cael eu hosgoi, eu lleihau i'r eithaf a'u lliniaru.
  4. Atebion dylunio tirweddau o ansawdd sy'n:
    1. gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer; gwella ansawdd a maint elfennau a nodweddion tirwedd ac ecolegol presennol, a chreu rhai newydd, fel asedau Seilwaith Gwyrdd a Glas.
    2. gwella amwynder gweledol a chymeriad tirwedd i sefydlu ymdeimlad clir ac eglur o le a chyfrannu at amgylchfyd cyhoeddus deniadol
    3. lleihau, a lliniaru yn erbyn effeithiau andwyol posibl ar y dirwedd ac effeithiau gweledol.
  5. Atebion dylunio effeithiol sy'n ystyried amodau presennol y ddaear ac yn defnyddio topograffi presennol y safle i fynd i'r afael â sefydlogrwydd ti; lleihau gwaith cloddio a llenwi gymaint ag y bo modd; cyflawni Polisi PSD5 (Datblygu a'r Economi Gylchol) i'r graddau gorau posibl; a lleihau effeithiau ar y dirwedd ac effeithiau gweledol.
  6. Bod y datblygiad yn cyflawni neu'n cyfrannu at y canlynol:
    1. cysylltiadau diogel ac effeithlon â rhwydweithiau mynediad presennol gan gynnwys Teithio Llesol a'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus;
    2. llwybrau mynediad priodol ac arwynebau sy'n hybu hygyrchedd effeithiol ar gyfer pawb a rhwyddineb symud i mewn i'r safle a thrwyddo;
    3. darparu safonau priffordd priodol ar y safle gan gynnwys parcio a gwasanaethau.
  7. Bod y datblygiad yn cyflawni mesurau cynaliadwy a chydnerth ar gyfer trin a gwaredu dŵr wyneb a dŵr budr; sydd wedi'u hintegreiddio'n llawn â chynllun y safle ac yn cynyddu i'r eithaf y cyfleoedd i ddarparu gwerth ychwanegol trwy swyddogaethau sy'n cyflawni amcanion polisi ar gyfer y dirwedd, ecoleg a seilwaith gwyrdd a glas.
  8. Bod atebion dylunio yn cael eu cyflawni trwy gydol oes y datblygiad arfaethedig trwy gynigion cynnal a chadw a rheoli effeithiol
  9. Ei fod yn cynnwys, lle bo hynny'n berthnasol, ddarpariaeth ar gyfer rheoli a chael gwared ar rywogaethau ymledol yn briodol.

11.276 Mae'r cynllun hwn a'r polisi'n ceisio sicrhau bod cynigion datblygu'n arddangos egwyddorion dylunio cynaliadwy ac o ansawdd da sy'n adlewyrchu'r cyd-destun lleol. Mae dylunio o ansawdd da'n ganolog i'n huchelgeisiau ar gyfer creu cymunedau llewyrchus, cydlynol a chynaliadwy. Rhan bwysig o hyn yw sefydlu dull adfywio seiliedig ar ddylunio sy'n darparu ar gyfer datblygiadau a dyluniadau o ansawdd da mewn ffordd sy'n cydnabod unigrywiaeth lleol, a'r berthynas rhwng y ffurf adeiledig bresennol a datblygiadau newydd.

11.277 Mae'r Cynllun yn ceisio adlewyrchu darpariaethau polisi cenedlaethol a'r ffaith bod datblygu cynaliadwy wedi'i wreiddio o fewn y cynllun, gan gydnabod y dylai tai a datblygiadau newydd gael eu darparu mewn ffordd sy'n gyson ag egwyddorion cynaliadwyedd. Mae materion megis cynllun, graddfa, ffurf, trwch, uchder, dwysedd, deunyddiau a manylion penodol (gan gynnwys y paled lliwiau) yn elfennau pwysig. Fodd bynnag, cydnabyddir nad yw'r rhain yn gallu bod yn gyfarwyddol ac y byddant yn amrywio ar draws datblygiadau ac ardal y Cynllun.

11.278 Ni ddylai creu dyluniad da fod yn gyfyngedig i ymddangosiad ffisegol adeiladau yn unig ac ni fydd manylion strwythurol penodol ar eu pennau eu hunain yn creu lle cynaliadwy. Yn hytrach, mae'r cymysgedd posibl o ddefnyddiau mewn datblygiad a/neu adeiladau, mannau (gan gynnwys bylchau a golygfeydd pwysig) a'r gymuned ehangach yn berthynol i'w gilydd yr un mor bwysig er mwyn i'r datblygiad gyflawni'r ymdeimlad o le a ddymunir.

11.279 Mae'r polisi hwn ar y cyd ag SP12: Creu Lleoedd a Lleoedd Cynaliadwy, PSD3: Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas a PSD2: Egwyddorion Uwchgynllunio – Creu Cymdogaethau Cynaliadwy ynghyd â pholisïau eraill yn y cynllun yn pennu fframwaith cyffredinol ar gyfer ansawdd dylunio da mewn cynigion datblygu, cadwraeth a gwella yn y Sir.

11.280 Dylai adeiladau hanesyddol, trefwedd a thirwedd y Sir gael eu trin fel ased a'u gwarchod a'u gwella'n gadarnhaol er budd preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Ceir canllawiau pellach ynghylch datblygu a gwarchod hunaniaethau hanesyddol a diwylliannol ym Mholisi Strategol SP14.

11.281 Dylai cynigion adlewyrchu'r angen i warchod nodweddion yr ardal ac amwynder y rheiny sy'n ymweld â'r ardal, sy'n gweithio ynddi, a/neu sy'n byw ynddi. Dylai lleoliad adeiladau ar y safle a natur defnyddiau gael eu hystyried yng ngoleuni eu potensial i achosi niwsans annerbyniol. Gall ystyriaethau i amwynder ymwneud â phob math o ddatblygiad ledled y Sir. O ganlyniad, mae'r polisi'n ceisio parchu a, lle y bo'n briodol, gwarchod amwynder trigolion presennol.

11.282 Bydd lleoliad adeiladau ar y safle, cynllun a dyluniad manwl datblygiad yn aml yn hollbwysig i lwyddiant ymdrechion i ddarparu dewisiadau gwirioneddol yn lle teithio mewn car. Gall lleoliadau da ar gyfer safleoedd a datblygiadau wedi'u dylunio'n dda gynyddu eglurder safleoedd a mynediad at lwybrau cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus gan felly leihau maint traffig a chyflymder ceir. Mae'r Cynllun hwn, a strategaethau eraill, yn sicrhau bod datblygiadau newydd yn cyflawni cynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan greu lleoedd sy'n gydlynol ac yn gymdeithasol gynhwysol sy'n atgyfnerthu hunaniaeth leol.

11.283 Mae dyluniad o ansawdd gwael nid yn unig yn gallu tanseilio cymeriad, nodweddion ac ymddangosiad ardal, ond mae hefyd yn gallu effeithio ar amwynder preswylwyr presennol a'u hansawdd bywyd. Dylai datrysiadau dylunio ystyried effeithiau o'r fath mewn perthynas ag: effaith weledol, colli golau, edrych drosodd/preifatrwydd, aflonyddwch a goblygiadau tebygol symudiadau traffig neu ystyriaethau gweithredol.

11.284 Dylai cynigion ystyried ansawdd bywyd meddianwyr posibl y datblygiad hefyd. Ystyrir bod maint mannau byw yn bwysig hefyd o ran cynnal safon byw briodol gan gynnwys darparu ar gyfer amgylcheddau iach a deniadol i fyw ynddynt. Dylid nodi y bydd ystyriaethau o'r fath yn berthnasol i addasiadau lle mae potensial ar gyfer gor-ddwysáu defnydd a hynny'n arwain at amodau byw cyfyng.

11.285 Lle y bo'n briodol, dylid cyflwyno Datganiad Dylunio a Mynediad gyda cheisiadau cynllunio. Dylai'r Datganiad Dylunio a Mynediad gynnwys y manylion sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y cais a'r ystyriaethau dylunio ar gyfer unrhyw ddatblygiad yn cael eu mynegi'n llawn gan roi sylw i ddarpariaethau polisi a'u cyd-destun.

11.286 Bydd yn ofynnol i gynigion ar gyfer datblygiadau sydd â thros 50 o dai roi sylw i ddarpariaethau Polisi PSD2: Egwyddorion Uwchgynllunio – Creu Cymdogaethau Cynaliadwy. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn ymhelaethu ymhellach ar y polisi gan gynnwys arweiniad penodol ar Egwyddorion Creu Lleoedd a Dylunio. Bydd Seilwaith Gwyrdd a Glas a'i rwydwaith o fannau agored amlbwrpas yn rhan annatod o unrhyw ddatrysiad dylunio effeithiol. O ganlyniad bydd disgwyl i gynigion roi sylw dyledus i Bolisi PSD3: Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas.

11.287 Mae gwyliadwriaeth naturiol yn ystyriaeth bwysig wrth sicrhau lleoedd diogelach a datblygiadau a chymunedau mwy cynhwysol.

11.288 Mae'r Cynllun yn cydnabod y gall tir ansad ddigwydd am nifer o resymau, er eu bod yn aml yn perthyn i'r categorïau canlynol:

  1. Effeithiau ceudodau tanddaearol – boed â tharddiad naturiol neu o ganlyniad i waith cloddio neu beirianneg sifil;
  2. Llethrau ansad – gall y rhain fod yn naturiol (e.e. morlinau sy'n erydu) neu o waith dyn (megis chwareli, trychfeydd neu argloddiau) neu,
  3. Cywasgiad tir – gall hyn fod â tharddiad naturiol oherwydd priddoedd mawn, llifwaddodol, aberol neu forol; neu o ganlyniad i weithgareddau dynol e.e. tir gwneud, tirlenwi neu lofeydd brig wedi'u hadfer; a thir sy'n symud o ganlyniad i gleiau sy'n crebachu ac yn chwyddo.

11.289 Yn yr ardaloedd hynny lle mae ansadrwydd tir yn hysbys, rhaid cyflwyno adroddiad cwmpasu gyda chynigion datblygu, a hwnnw'n nodi natur yr ansadrwydd (posibl). Dylai'r adroddiad fod yn ddigon manwl i'r awdurdod lleol ac unrhyw asiantaeth statudol arall allu cadarnhau:

  1. nad oes bygythiad posibl i ddatblygiad fynd yn ei flaen;
  2. na ellir goresgyn problemau ansadrwydd; neu
  3. y gellid rhoi mesurau ar waith i oresgyn problemau dynodedig. Bydd yn ofynnol cyflwyno adroddiad sadrwydd manwl gyda'r cais sydd:
    1. Wedi'i lunio gan "berson cymwysedig", yn fwyaf priodol arbenigwr geotechnegol sy'n gallu dangos profiad arbenigol perthnasol o asesu a gwerthuso ansadrwydd; ac
    2. Yn nodi'r mesurau sy'n ofynnol i liniaru'r risg(iau) a ddynodwyd.

11.290 Mae'n bwysig bod cynigion yn cael eu dylunio ar gyfer oes y datblygiad. Dylai cynigion nodi cyfrifoldeb am gynnal a chadw, a'r trefniadau cyllido ar gyfer cynnal a chadw dros oes y datblygiad arfaethedig.

PSD2: Egwyddorion Uwchgynllunio – Creu Cymdogaethau Cynaliadwy

Ar gyfer cynigion lle mae'r datblygiad yn un ar gyfer 50 o dai neu fwy, bydd gofyniad i gyflwyno 'uwchgynllun' cynhwysfawr ac integredig ar gyfer y safle cyfan a hwnnw'n dangos dull cydlynol a chydgysylltiedig o greu cymdogaethau yn unol ag egwyddorion creu lleoedd a dylunio da. Lle bo'n briodol, rhoddir ystyriaeth i'r egwyddorion arweiniol canlynol

  1. Dadansoddiad o ddwyseddau ar draws y safle sy'n adlewyrchu nodweddion ffisegol y safle a chymeriad ac ymddangosiad y gymuned o amgylch. Bydd disgwyl i ddatblygiadau dwysedd uwch ddwyn perthynas uniongyrchol â choridorau trafnidiaeth gyhoeddus ac adlewyrchu safle'r anheddiad yn y fframwaith aneddiadau (Polisi Strategol SP3);
  2. Sut y byddant yn cyfrannu at ddarparu dewisiadau trafnidiaeth cynaliadwy gan gynnwys teithio llesol a hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus;
  3. Sut y mae'r cynnig yn integreiddio ac yn cysylltu'n effeithiol â'r gymuned o amgylch gan gynnwys cysylltiadau o fewn a thrwy'r safle ar gyfer dewisiadau trafnidiaeth gynaliadwy. Dylai cynigion geisio sefydlu eglurder a chysylltedd da o fewn y safle ac o ran cysylltu â'r ardal ehangach;
  4. Darparu cyfleusterau i ddiwallu anghenion cymdeithasol a chymunedol y datblygiad a, lle y bo'n briodol, y gymuned ehangach;
  5. Cynnwys datrysiadau ymatebol sy'n adlewyrchu'r cyd-destun lleol a'r cyfleoedd ar gyfer technegau adeiladu cynaliadwy;
  6. Integreiddio'r rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas, a mannau agored i ddarparu amgylchedd cydlynus ac integredig i bobl a bioamrywiaeth, a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer hamdden ac amwynderau eraill;
  7. Integreiddio ffurf y dirwedd, bioamrywiaeth a nodweddion adeiledig a hanesyddol o fewn ac o amgylch y safle i mewn i'r datblygiad mewn modd sympathetig. Bydd disgwyl i gynigion edrych tuag at allan y tu hwnt i ffiniau'r safle (ac nid dim ond o fewn y safle) i ddatblygu cymdogaethau cynaliadwy o ansawdd da;
  8. Cynllun fesul cyfnod ar gyfer cyflawni'r datblygiad ynghyd â darparu seilwaith ategol mewn modd amserol;
  9. Adlewyrchu hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol y Sir a chyfrannu tuag at ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg;
  10. Cynnwys atebion arloesol a chreadigol mewn perthynas ag effeithlonrwydd adnoddau megis rhwydweithiau gwresogi ardal, datblygiadau carbon isel a chynhyrchu ynni adnewyddadwy;
  11. Integreiddio nodweddion y safle sy'n codi o Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) fel rhan o'r datblygiad ac ystyried y gwerth neu'r swyddogaethau ychwanegol y gall y rhain eu darparu.
  12. Lle mae diddordebau bywyd gwyllt sylweddol yn gysylltiedig â'r safle, rhaid sicrhau bod Seilwaith Gwyrdd a Glas yn darparu rhwydwaith cydnerth, sy'n amddiffyn ac yn gwella'r ddiddordebaubywyd gwyllt perthnasol yn ddigonol.

11.291 Mae'r polisi'n nodi uwchgynllunio fel un o'r gofynion ar gyfer datblygiadau o ran cyflawni dull creu lleoedd cyfannol ar gyfer yr holl safleoedd dyranedig a hapsafleoedd â 50 neu fwy o dai. Bydd angen cytuno ar uwchgynllun ar gyfer yr holl safleoedd a ddyrannwyd ar gyfer 50 o dai neu fwy cyn rhoi caniatâd cynllunio mewn perthynas â'r safleoedd hynny.

11.292 Mae'r polisi'n cydnabod y manteision a all godi o uwchgynllunio effeithiol nid dim ond o ran ansawdd yr amgylchedd a'r ymdeimlad o le y gall ei greu, ond hefyd fel cyfle i integreiddio'r holl ystyriaethau a gofynion datblygiadol perthnasol yn un mynegiad ar y ffurflen gynigion.

11.293 Dylai cynigion fynegi mewn ffordd eglur a chydlynol sut y gall ffactorau megis seilwaith newydd neu wella seilwaith presennol ychwanegu gwerth ar gyfer preswylwyr presennol a darpar breswylwyr. Bydd hyn yn helpu i ffurfio ac arwain darpariaeth yn y dyfodol. Bydd dull o'r fath yn darparu mwy o sicrwydd ac yn integreiddio cyfleoedd ar gyfer byw cysylltiedig, strydoedd eglur, dilyniant o fannau agored a Seilwaith Gwyrdd a Glas a datblygiadau sy'n cyd-fynd â'u hamgylchoedd.

11.294 Dylai cynigion uwchgynllunio ystyried a chynllunio ar gyfer cyflwyno'r datblygiad fesul cyfnod mewn modd effeithiol ac integredig gan ystyried gwahanol gymysgeddau o ddeiliadaethau a darpariaeth addas o ran cyfleusterau ar adegau priodol yn natblygiad safle. Bydd hyn yn sicrhau bod datblygiad yn cael ei gynllunio'n gynhwysfawr gyda chymunedau cydlynol a chynaliadwy'n ganolog iddo. Lle bo'n ymarferol, dylid gwarchod llystyfiant presennol/a gaiff ei gadw drwy gydol y cyfnod adeiladu. Lle caiff cynefin newydd ei greu, dylid ystyried y llinell amser sydd ei hangen er mwyn i'r cynefin ddod yn weithredol.

11.295 Dylid ystyried yr uwchgynllun ar y cam cais cynllunio amlinellol gan gytuno ar ei baramedrau a'i gynnwys, a ddylai fod yn cyd-fynd â cheisiadau materion a gedwir yn y dyfodol.

PSD3: Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas

Bydd cynigion datblygu yn dangos atebion dylunio Seilwaith Gwyrdd a Glas effeithiol sy'n:

  1. Cadw, amddiffyn, ac integreiddio asedau Seilwaith Gwyrdd a Glas presennol i'r graddau gorau posibl a blaenoriaethu'r rheiny sydd o'r gwerth, yr ansawdd, a'r cyflwr gorau o fewn ac ar ffiniau'r safle datblygu;
  2. Gwireddu gwelliannau cyffredinol i werth, ansawdd, a chyflwr; ac ehangder, amrywiaeth, a chysylltedd y rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas o fewn ac ar ffiniau'r safle datblygu;
  3. Integreiddio'n effeithiol a gwneud y mwyaf o gysylltedd ag asedau Seilwaith Gwyrdd a Glas presennol wrth ymyl ffiniau'r safle datblygu a chyda'r rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas ehangach;
  4. Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i fod yn amlswyddogaethol trwy integreiddio swyddogaethau Seilwaith Gwyrdd a Glas i gyflawni amcanion cyfunol sydd o fudd i Fioamrywiaeth, Newid yn yr Hinsawdd a Chynaliadwyedd, Iechyd a Llesiant, Ymdeimlad o Le, a'r Economi; a,
  5. Chynnwys cynigion rheoli a chynnal a chadw hirdymor i sicrhau bod atebion dylunio Seilwaith Gwyrdd a Glas effeithiol yn cael eu cyflawni ar gyfer oes y datblygiad arfaethedig.

Bydd ceisiadau cynllunio yn gofyn am gyflwyno arolygon ac asesiadau sy'n briodol i safle a natur y datblygiad, er mwyn sefydlu llinell sylfaen ar gyfer atebion dylunio Seilwaith Gwyrdd a Glas.

Bydd yn ofynnol i bob cais cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr gyflwyno Datganiad Seilwaith Gwyrdd a Glas i ddangos sut mae atebion dylunio Seilwaith Gwyrdd a Glas wedi cael eu hystyried a'u lletya fel rhan o'r datblygiad arfaethedig.

11.296 Nod y polisi hwn yw sicrhau bod asedau Seilwaith Gwyrdd a Glas yn cael eu gwerthfawrogi, eu diogelu, eu gwella, a'u rheoli drwy rwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas. Ar raddfa tirwedd, gall asedau Seilwaith Gwyrdd a Glas gynnwys ecosystemau cyfan megis gwlyptiroedd, coetiroedd, rhostiroedd a dyfrffyrdd. Ar lefel leol, gallai gynnwys parciau, caeau, llwybrau cerdded, Hawliau Tramwy Cyhoeddus, llwybrau beicio, tir comin, tir mynediad agored, camlesi, mannau tyfu cyhoeddus, rhandiroedd, mynwentydd, tiroedd wedi'u tirlunio, a gerddi. Ar raddfeydd llai, gall ymyriadau trefol unigol megis coed stryd, lleiniau ymyl ffordd a thoeau gwyrdd oll gyfrannu at rwydweithiau seilwaith gwyrdd a glas.

11.297 Bydd ceisiadau cynllunio yn gofyn am gyflwyno arolygon ac asesiadau sy'n briodol i safle a natur y datblygiad, er mwyn gallu gwerthuso lleoliad, ansawdd, a chyflwr yr holl asedau Seilwaith Gwyrdd a Glas presennol ar ffin y safle ac yn agos iddo. Gall y wybodaeth hon gynnwys Arolygon Coed neu Goedyddiaeth, Arfarniadau Ecolegol Rhagarweiniol ac arolygon rhywogaethau a warchodir. Rhaid i atebion dylunio Seilwaith Gwyrdd a Glas:

  1. Nodi'r holl effeithiau andwyol posibl i asedau Seilwaith Gwyrdd a Glas presennol ar y safle ac yn gyfagos i'r safle, a dangos sut y bydd yr effeithiau'n cael eu hosgoi, eu lleihau, a'u lliniaru cyn belled ag y bo modd (yn unol â'r hierarchaeth liniaru) trwy fesurau dylunio ac amddiffyn penodol;
  2. Nodi effeithiau anochel i asedau Seilwaith Gwyrdd a Glas presennol ar, ac yn gyfagos i'r safle a dangos sut y mae'r effeithiau wedi'u lliniaru, neu sut y gwneir iawn amdanynt o fewn y cynllun datblygu arfaethedig a thrwy gynlluniau dylunio tirwedd ac ecolegol; a
  3. Gwneud y mwyaf o gyfleoedd i wella ansawdd a maint asedau Seilwaith Gwyrdd a Glas presennol, a galluogi'r gwaith o greu asedau Seilwaith Gwyrdd a Glas newydd, i wella cysylltedd ac aml-ymarferoldeb rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas.

11.298 Rhaid i geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr gynnwys Datganiad Seilwaith Gwyrdd sy'n dangos sut y mae atebion dylunio Seilwaith Gwyrdd a Glas wedi cael eu hystyried a'u cynnwys fel rhan o'r datblygiad arfaethedig. Rhaid i'r Datganiad Seilwaith Gwyrdd fodloni'r gofynion penodedig a nodir ar gyfer atebion dylunio Seilwaith Gwyrdd a Glas a amlinellir yn y paragraff a grybwyllir uchod (i,ii,iii).

11.299 Pan gaiff Seilwaith Gwyrdd a Glas ei gynllunio, ei ddylunio a'i reoli'n briodol, mae ganddo'r potensial i ddarparu ystod eang o nwyddau cyhoeddus a manteision i bobl, bioamrywiaeth, yr hinsawdd ac i fywyd gwyllt. Trwy ystyried y swyddogaethau lluosog y gall asedau naturiol eu darparu ar yr un pryd, gall leihau costau yn sylweddol ar gyfer unigolion, busnesau, a chyrff cyhoeddus, gan wella ansawdd bywyd ac iechyd trigolion, gweithwyr, ac ymwelwyr i Sir Gaerfyrddin.

11.300 Mae'r swyddogaethau hyn y gall Seilwaith Gwyrdd a Glas eu darparu wedi'u cynnwys yn fras o dan y themâu canlynol:

Diagram sy'n dangos cydrannau seilwaith gwyrdd a glas fel bod: Bioamrywiaeth; Newid yn yr Hinsawdd; Iechyd a Llesiant; Ymdeimlad o Le; Economi.

Ffigur 11: Seilwaith Gwyrdd a Glas

Bioamrywiaeth: Gall Seilwaith Gwyrdd a Glas wella cysylltiadau rhwng ardaloedd natur presennol, atal y broses o ddarnio a cholli cynefinoedd a gwella cydnerthedd ecolegol. Bydd cynigion datblygu yn gwarchod ac yn gwella bioamrywiaeth ar y safle, a rhwydweithiau cynefinoedd o fewn ac yn gyfagos i'r safle. Bydd angen i unrhyw gais i fanylu ar sut y bydd y datblygiad yn darparu cadwraeth a gwelliant o'r fath. Bydd hyn yn cynnwys nodi ffyrdd o leihau neu wrthdroi darnio cynefinoedd, a gwella cysylltedd cynefinoedd trwy hyrwyddo coridorau bywyd gwyllt a nodi cyfleoedd i adsefydlu tir, rheoli tirwedd a chreu cynefinoedd newydd neu well.

Ymdeimlad o le: Mae ymgorffori nodweddion Seilwaith Gwyrdd a Glas mewn datblygiad newydd yn elfen bwysig o ddull creu lleoedd Llywodraeth Cymru a gall gyfrannu at yr ymdeimlad unigryw o le mewn ardal neu anheddiad. Mae cadw nodweddion presennol mewn cynigion yn helpu i greu lleoedd sy'n unigryw ac yn gallu helpu i leddfu effaith newid trwy greu ymdeimlad o barhad sy'n cydnabod hunaniaeth leol. Mae Seilwaith Gwyrdd a Glas yn hanfodol i greu lleoedd ac felly rhaid iddo fod yn rhan o'r broses o ddylunio datblygiad o'r dechrau un, yn hytrach na chael ei ddarostwng i dir 'dros ben'.

Newid yn yr Hinsawdd: Gall Seilwaith Gwyrdd a Glas chwarae rhan hollbwysig mewn ymdrechion i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, ei liniaru ac addasu iddo, a bydd ganddo rôl fwyfwy pwysig i ddiogelu ardaloedd trefol a gwledig rhag y newid yn yr hinsawdd. Gall cynyddu gorchudd gwyrdd ein trefi a dinasoedd ddarparu nifer o fuddion wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae'r rhain yn cynnwys dal a storio carbon, lliniaru gwres a lleihau'r perygl o lifogydd yn ogystal â lliniaru'r dirywiad mewn ansawdd aer a dŵr yn sgil newid yn yr hinsawdd. Bydd cynigion datblygu'n manteisio i'r eithaf ar y manteision hyn, a dylid ystyried blaenoriaethu manteision yn y meysydd canlynol:

  1. O fewn ardaloedd yr ystyrir eu bod mewn perygl o lifogydd o unrhyw ffynhonnell, darparu capasiti ar gyfer storio dŵr pe bai llifogydd;
  2. O fewn y Prif Ganolfannau, darparu rhyddhad o dymheredd uchel trwy orchudd canopi cynyddol a gwneud defnydd effeithlon o arwynebau i sicrhau'r ddarpariaeth fwyaf posibl o Seilwaith Gwyrdd a Glas gan gynnwys trwy gyfrwng toeau gwyrdd a waliau gwyrdd;
  3. Mewn ardaloedd lle mae iechyd y trigolion ar gyfartaledd yn wael, darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol; a/neu
  4. O fewn Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, gwaredu llygryddion aer trwy blannu coed a deiliant addas.

Bydd cynigion datblygu hefyd yn integreiddio Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) naturiol i ddyluniad Seilwaith Gwyrdd a Glas, a dylent, cyn belled ag y bo modd, sicrhau bod y ddarpariaeth SuDS yn amlswyddogaethol.

Iechyd a Llesiant: Gall seilwaith gwyrdd a glas fod yn ffordd effeithiol o wella iechyd a llesiant, trwy gysylltu anheddau, gweithleoedd a chyfleusterau cymunedol a darparu mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd uchel. Dylai datblygiadau geisio cynyddu'r manteision i'r eithaf a, lle y bo'n briodol, defnydd y cyhoedd o seilwaith gwyrdd a glas, gyda phwyslais ar hybu cymunedau iachach. Bydd cynigion datblygu'n cyrraedd safonau lleol o ran hygyrchedd, ansawdd a maint mannau agored, a byddant wedi'u dylunio fel eu bod yn diwallu anghenion y gymuned. Bydd cynigion datblygu yn cynnal ac yn gwella ansawdd a chysylltedd rhwydweithiau mynediad, gan integreiddio llwybrau teithio llesol (gan gysylltu gweithleoedd, ysgolion, cyfleusterau cymunedol a hybiau trafnidiaeth gyhoeddus) a llwybrau hamdden mewn seilwaith gwyrdd a glas.

Yr Economi: Gall diogelu a buddsoddi mewn Seilwaith Gwyrdd gefnogi llwyddiant economaidd a thwf cynaliadwy. Gall Seilwaith Gwyrdd ddenu buddsoddiad o'r tu allan, gan wneud ardal leol yn fwy deniadol i fusnesau ac ymwelwyr. Gall hefyd ddarparu arbedion cost i ddatblygwyr gan fod gan asedau Seilwaith Gwyrdd a Glas y potensial i fodloni nifer o ofynion mewn datrysiad amlswyddogaethol (e.e. darparu mannau agored a SuDS). I'r perwyl hwn dylai datblygiadau geisio nodi a gwneud y mwyaf o ansawdd, defnydd a natur amlswyddogaethol darpariaeth seilwaith gwyrdd a glas ar y safle.

11.301 O ganlyniad, bydd canllawiau pellach ar Seilwaith Gwyrdd a Glas fel rhan o ddatblygiad yn cael eu paratoi fel Canllawiau Cynllunio Atodol i gefnogi'r agenda creu lleoedd a hyrwyddo amgylcheddau byw bioamrywiol.

PSD4: Seilwaith Gwyrdd a Glas - Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd

Bydd cynigion ar gyfer datblygu yn:

  1. Cadw, amddiffyn, ac integreiddio coed, coetiroedd a gwrychoedd presennol i'r graddau gorau posibl a blaenoriaethu'r rheiny sydd o'r gwerth, yr ansawdd, a'r cyflwr gorau o fewn ac ar ffiniau'r safle datblygu trwy broses ailadroddol o ddylunio cynllun safle sy'n osgoi effeithiau posibl;
  2. Lleihau effeithiau posibl i goed, coetiroedd a gwrychoedd a gaiff eu cadw trwy ddylunio safleoedd yn benodol, datganiadau dull a mesurau amddiffyn.
  3. Gwneud gwaith plannu priodol i wneud iawn am golled anochel coed, coetiroedd, a gwrychoedd i ddarparu gwelliannau cyffredinol i ehangder a gorchudd. Dylid ystyried cyfleoedd i drawsleoli gwrychoedd presennol lle bo'n ymarferol;
  4. Darparu digon o le a chyfaint gwreiddio o fewn cynllun y safle ac mewn perthynas â defnyddiau tir cyfagos i alluogi coed, coetiroedd, a gwrychoedd presennol a rhai sydd newydd eu plannu i dyfu'n effeithiol i aeddfedrwydd ac i osgoi heriau posibl i'w cadw drwy gydol oes y datblygiad;
  5. Nodi a darparu gwaith rheoli i wella gwerth, ansawdd a chyflwr coed, coetiroedd, a gwrychoedd presennol o fewn ac ar ffiniau'r safle datblygu; a
  6. Phlannu coed, coetiroedd, a gwrychoedd ychwanegol sy'n briodol i'r safle a'r math o ddatblygiad a fydd yn sicrhau manteision tirwedd hirdymor a buddion net i fioamrywiaeth.

11.302 Mae'r polisi yn cydnabod y cyfraniad pwysig y gall coed, coetiroedd a gwrychoedd eu gwneud i'r amgylchedd ac i'n cymunedau. Mae coed a choetiroedd yn chwarae rhan bwysig yn ardal y cynllun ac maent yn gynhenid i'r dirwedd a chymeriad trefol gan ddarparu cynefin a chynyddu'r gallu i wrthsefyl newid yn yr hinsawdd. Gall gwaith plannu coed, coetiroedd a pherthi wedi'i ddylunio'n dda helpu i fynd i'r afael â'r Argyfyngau Hinsawdd a Natur, fel y datganodd Llywodraeth Cymru a'r Cyngor.

11.303 Cydnabyddir eu cyfraniad o fewn y ffurf drefol yn arbennig. Gallant helpu i fynd i'r afael â llygryddion aer, llifogydd, a llygredd sŵn, a darparu nifer o fanteision eraill gan gynnwys darparu cysgod ac amwynder gweledol. Maent hefyd yn darparu rhannau helaeth o gynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, yn enwedig coed aeddfed. Mae rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas Sir Gaerfyrddin yn adlewyrchu eu pwysigrwydd yn yr amgylchfyd trefol ac o fewn ein trefi a'n pentrefi - mewn mannau cyhoeddus a phreifat, ar hyd llwybrau llinol, a dyfrffyrdd, ac mewn ardaloedd amwynderau.

11.304 Ystyriwn bod eu cadw a phlannu rhai newydd ychwanegol yn rhan bwysig o greu cymunedau cydlynus ac iach o fewn cyd-destun gwledig a thirweddol gwerthfawr a bioamrywiol. Dylai pob cais cynllunio gynnwys arolwg o goed lle mae coed yn bresennol ar y safle. Dylai hyn gynnwys mesurau amddiffyn, lliniaru, a rheoli. Rhaid gweithredu mesurau rheoli tymor hir a thymor byr priodol i ddiogelu coed, coetiroedd, a/neu wrychoedd sydd newydd eu plannu a rhai presennol. Gellir cyfeirio at Bolisi CCH7.

11.305 Mae'r polisi'n adlewyrchu'r cysylltiadau trwy greu lleoedd o ansawdd a Seilwaith Gwyrdd a Glas o ansawdd. O ganlyniad bydd canllawiau pellach ar goed a phlannu fel rhan o ddatblygiadau newydd yn cael eu paratoi fel Canllawiau Cynllunio Atodol i ategu'r agenda creu lleoedd a chreu amgylcheddau byw bioamrywiol o ansawdd da.

11.306 Dylai coed newydd a gaiff eu plannu fod o rywogaeth sy'n frodorol i'r safle, ac o aeddfedrwydd sy'n briodol i'r safle a hynny wrth fodd y Cyngor. O ran y cyfeiriad yn y polisi at golled anochel, bydd y Cyngor yn disgwyl i'r ymgeisydd wneud pob ymdrech resymol i gadw nodweddion presennol, ac o'r herwydd dylid ystyried eu cadw (lle bo'n briodol) yn rhan annatod o ddyluniad y safle datblygu arfaethedig o'r cychwyn cyntaf.

PSD5: Datblygu a'r Economi Gylchol

Bydd yn ofynnol i gynigion datblygu ddangos, trwy gyflwyno cynllun rheoli deunyddiau naturiol, sut y sicrhawyd bod y gwastraff a gynhyrchwyd mor isel â phosibl a bod unrhyw wastraff wedi cael ei reoli i gadw adnoddau mewn defnydd am gyhyd â phosibl:

  1. cynllun a dyluniad y datblygiad;
  2. unrhyw gyfnod dymchwel ac adeiladu;
  3. o ran unrhyw gyfleoedd i ddefnyddio gwastraff ar gyfer ailddefnyddio ac ailgylchu;
  4. o ran unrhyw gyfleoedd i ddefnyddio gwastraff gweddilliol fel ffynhonnell o danwydd.

11.307 Un o elfennau allweddol Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11 yw'r symudiad tuag at gynnwys economi fwy cylchol yng Nghymru. Mae economi gylchol yn un sy'n ceisio parhau i ddefnyddio deunyddiau, cynnyrch a chydrannau gyhyd â phosibl. Ceir manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd o weithredu yn y ffordd hon, yn fwyaf nodedig y cynnydd mewn gwerth a chynhyrchiant deunyddiau, arbedion ariannol i'r sector adeiladu ac atal gwastraff.

11.308 Er mwyn hwyluso gofynion y polisi hwn, bydd angen cyflwyno cynllun rheoli deunyddiau naturiol gyda chynigion datblygu. Dylai'r Cynllun nodi'r holl ddeunyddiau naturiol ar y safle cyn y datblygiad, gall y rhain fod yn adeiladau presennol i'w dymchwel neu'r tir naturiol y byddir yn tarfu arno. Dylai esbonio sut y bwriedir cyfyngu i'r eithaf ar y gwastraff a fydd yn cael ei gynhyrchu o'r deunyddiau hyn a bod y dyluniad a'r cynllun wedi rhoi ystyriaeth lawn i'r angen i sicrhau bod y cydbwysedd rhwng torri a llenwi mor agos â phosibl at fod yn niwtral.

11.309 Anogir cynigion datblygu sy'n cynnwys deunyddiau a nodweddion cynllunio sy'n galluogi hyblygrwydd a'r gallu i addasu drwy gydol oes cynllunio'r adeilad ac a fydd yn galluogi'r deunyddiau i gael eu hailddefnyddio pan fydd yn cael ei ddadadeiladu.

11.310 Lle bo hynny'n briodol, anogir defnyddio deunyddiau o ffynonellau lleol, amgen, neu ddeunyddiau sydd wedi eu hailgylchu, gan gynnwys ailddefnyddio ac ailgylchu deunyddiau agregau eilaidd, deunyddiau adeiladu, deunyddiau dymchwel a gwastraff cloddio, lludw gwaelod llosgwyr a deunyddiau priodol eraill sydd wedi eu hailgylchu.

11.311 Mae'n anochel bod angen rhywfaint o weithrediadau peirianyddol tyrchu a llenwi ar safleoedd adeiladu. Yn rhan o waith trin y safle, dylid asesu'r cydbwysedd torri a llenwi o ddeunyddiau sy'n cael eu cloddio er mwyn osgoi creu gwastraff na ellir ei ailddefnyddio yn effeithiol oherwydd diffyg cyfleusterau storio addas. Yn rhan o'r cynllun rheoli adnoddau naturiol, dylai datblygwyr ddylunio cynigion i sicrhau cydbwysedd o ran cloddwaith sy'n ceisio sicrhau cyn lleied â phosibl o dorri a llenwi neu a all ddarparu ar gyfer adfer tir mewn mannau eraill yn yr ardal.

11.312 Bydd yr Awdurdod Cynllunio yn annog dulliau arloesol o ailgylchu, yn enwedig y rhai sy'n cynnig llawer o fanteision fel lleihau costau ynni ac allyriadau cysylltiedig. Gall hyn gynnwys yr arfer o ailgylchu ar y safle ar safleoedd mwynau ac ailgylchu gwastraff adeiladu a dymchwel ar y cyd â defnyddiau addas eraill, fel mewn iardiau cyflenwyr adeiladwyr.

11.313 Mewn amgylchiadau lle nad oes modd ailddefnyddio neu ailgylchu'r gwastraff, bydd angen i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i ddangos ble y bydd y gwastraff gweddilliol yn cael ei waredu. Ymhlith yr opsiynau a fydd yn cael eu hannog y mae'r potensial i ddefnyddio'r gwastraff fel ffynhonnell tanwydd, megis mewn adfer ynni effeithlon iawn o wastraff, o bosibl yn gysylltiedig â systemau gwresogi ardal.

PSD6: Cyfleusterau Cymunedol

Bydd cynigion ar gyfer cyfleusterau cymunedol newydd a gwell, gan gynnwys cyfleusterau iechyd ac addysg, yn cael eu cefnogi lle maent yn cyd-fynd â'r canlynol:

  1. Byddai'n hygyrch iawn i'r gymuned leol y bwriedir iddo'i gwasanaethu gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio;
  2. Mae o fewn, neu'n uniongyrchol gysylltiedig ag anheddiad a nodwyd ym Mholisi SP3: Dosbarthu Cynaliadwy;
  3. Ni fyddai'n creu niwed gormodol i'r amwynderau gerllaw eiddo preswyl;
  4. Ni fyddai'n amharu ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal;
  5. Ni fydd yn arwain at broblemau parcio neu draffig annerbyniol;
  6. Caiff ei ddylunio gyda hyblygrwydd a chyfaddaster priodol i ddarparu ar gyfer defnyddiau cymunedol ychwanegol heb beryglu ei brif ddefnydd bwriadedig.

11.314 Mae darparu ystod o gyfleusterau cymunedol sy'n hygyrch i gynifer o bobl â phosibl yn hanfodol o ran sicrhau cymunedau cynaliadwy. Mae cyfleusterau o'r fath yn werthfawr nid dim ond o ran yr amwynder y maent yn ei ddarparu, ond maent hefyd yn bwysig o ran creu cyflogaeth a denu pobl i fyw mewn ardal. Mae cyfleusterau cymunedol yn cyfrannu'n sylweddol at lesiant, ansawdd bywyd, mwynhad a chynwysoldeb aneddiadau a chymunedau o fewn y Sir. Yn hyn o beth, dylai'r posibilrwydd o'u colli gael ei ystyried yn ofalus o gofio'r effeithiau canlyniadol o ran cynaliadwyedd a hunaniaeth gymunedol. Lle bynnag y bo'n ymarferol, dylid ystyried diogelu a chadw cyfleusterau cymunedol a mabwysiadu dulliau ymatebol i helpu i'w cadw.

11.315 Mae'r polisi uchod hefyd yn cydnabod y potensial y bydd datblygu lle mae'n digwydd yn rhoi straen ar gyfleusterau presennol. O ganlyniad, mae digonolrwydd cyfleusterau presennol fel gofal iechyd yn ystyriaeth bwysig. O ganlyniad, mae'r polisi yn ceisio sicrhau bod cyfleusterau digonol yn cael eu darparu i ateb galwadau cymunedau lleol yn y dyfodol.

11.316 Mae'r polisi yn ceisio hybu'r potensial ar gyfer defnydd deuol o gyfleusterau, yn enwedig lle byddai'r gweithgarwch ychwanegol yn helpu i ehangu'r ddarpariaeth gwasanaethau a gwella hyfywedd a defnydd. Gallai cadarnhau hyfywedd cyfleuster, yng nghyd-destun nodweddion demograffig cyfnewidiol, cyflwr a gwaith cynnal a chadw a phatrymau newidiol o ran y galw olygu nad yw rhai cyfleusterau yn ateb y gofynion mwyach. Mewn amgylchiadau o'r fath, gallai ffurfiau amgen o ddarpariaeth a defnydd fod yn briodol. Dylai penderfyniad o'r fath gael ei oleuo, lle y bo'n briodol, gan dystiolaeth leol, y darparwr cyfleuster/gwasanaeth a'r gymuned leol.

11.317 Mae hybu hygyrchedd i hamdden ac adloniant ffurfiol ac anffurfiol yn ystyriaeth bwysig ar gyfer y CDLl. Mae meysydd chwaraeon, rhandiroedd, parciau ac amwynderau naturiol ehangach fel dyfrffyrdd a choetiroedd yn darparu cyfleoedd ar gyfer manteision iechyd posibl ac yn ychwanegu at yr ymdeimlad o le mewn cymuned, yn ogystal ag integreiddio seilwaith gwyrdd a glas yn y ffurf drefol. Bydd cefnogaeth hefyd yn cael ei roi i ddarparu toiledau cyhoeddus hygyrch.

11.318 Mae ganddynt hefyd y potensial i liniaru achosion ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, a gallant ddarparu mannau ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol. Dylid cyfeirio at bolisi PSD7 mewn perthynas â Hamdden a Mannau Agored.

11.319 Mae'r berthynas rhwng mynediad at gyfleusterau gofal iechyd a datblygiadau newydd yn cael ei chydnabod a dylid cyfeirio at Bolisi INF2: Cymunedau Iach.

11.320 Bydd y gwaith o ddarparu cyfleusterau cymunedol yn cael ei gefnogi lle mae'n cyd-fynd â Pholisi Strategol SP3: Dosbarthu Cynaliadwy – Fframwaith Aneddiadau. Caiff lleoliad cynigion ar gyfer darparu cyfleusterau addysgol ac iechyd newydd ei gefnogi ar safleoedd sydd o fewn ac yn uniongyrchol gysylltiedig â therfynau aneddiadau diffiniedig lle maent yn gyson â strategaeth a pholisïau'r CDLl hwn.

11.321 Gall y Cyngor geisio cyfraniadau gan ddatblygwyr trwy rwymedigaethau cynllunio i liniaru effeithiau datblygiadau penodol, ac i hwyluso'r broses o gyflawni polisïau a chynigion y Cynllun.

PSD7: Diogelu Mannau Agored

Bydd darpariaeth yn cael ei gwneud i ddiogelu mannau agored a, lle bo'n bosibl, i wella'u hygyrchedd.

Bydd cynigion sy'n arwain at golli mannau agored presennol yn cael eu caniatáu dim ond dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Os dangosir bod darpariaeth sydd o leiaf o werth cyfatebol ar gael o fewn yr anheddiad, neu leoliad sy'n ddigon hygyrch; a,
  2. Lle na fyddai'n achosi nac yn gwaethygu diffyg mannau agored; neu,
  3. Lle byddai ail-ddatblygu rhan fach o'r safle yn ei gwneud yn bosibl cadw a gwella'r rhan fwyaf o'r cyfleuster; neu,
  4. Lle mae cyfraniad ariannol boddhaol at ddarpariaeth gydbwyso yn cael ei ddarparu fel cyfleuster arall derbyniol.

11.322 Rhoddir diffiniadau o fannau agored ac eglurhad o safonau hygyrchedd y Sir yn Asesiad Mannau Agored Sir Gaerfyrddin a cheir gwybodaeth ychwanegol hefyd yn Asesiad Seilwaith Gwyrdd Sir Gaerfyrddin. At ddibenion y cynllun hwn, diffinnir mannau agored fel ardaloedd sy'n cynnwys caeau chwarae, ardaloedd chwarae plant â chyfarpar, cyfleusterau chwaraeon awyr agored, hamdden anffurfiol a mannau amwynder neu chwarae (h.y. mannau gwyrdd naturiol, mannau chwarae a mannau agored cyhoeddus).

11.323 Mae'r ddarpariaeth mannau agored a nodwyd yn y Sir yn cael ei mapio a'i hasesu yn Asesiad Mannau Agored Sir Gaerfyrddin. Dylid nodi, fodd bynnag, y gall fod ardaloedd ychwanegol o fannau agored nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn yr Asesiad sy'n gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at ddarparu mannau agored o fewn y gymuned. Er na chaiff yr ardaloedd hyn eu mapio fel rhan o'r CDLl, byddent yn cael eu diogelu serch hynny o dan y polisi hwn os ystyrir bod hynny'n briodol.

11.324 Er bod diogelu mannau agored presennol yn agwedd allweddol ar y polisi uchod, mae hefyd yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd. Mae'n bosibl y bydd ystyried nodweddion demograffig cyfnewidiol, cyflwr a bywiogrwydd y ddarpariaeth bresennol, ac unrhyw batrymau newidiol mewn angen, yn golygu nad yw mannau agored presennol yn ateb y gofynion mwyach. Efallai y bydd darpariaeth dros ben yn cael ei nodi neu gall fod cyfle i wella'r ddarpariaeth bresennol i ddiwallu anghenion y gymuned leol drwy ddatblygiad. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae'r polisi yn ceisio darparu ar gyfer gwella neu newid darpariaeth o fewn yr anheddiad fel a lle y bo'n briodol.

11.325 Lle bo gan gynigion y potensial i gael effaith sylweddol a niweidiol ar y ddarpariaeth bresennol, bydd angen i'r ymgeisydd ddangos bod darpariaeth arall ar gael i gyrraedd y safonau hygyrchedd. Dylid cyfeirio at yr Asesiad Mannau Agored at y diben hwn; dylid ystyried nifer y mannau agored, eu lleoliad a'u math wrth nodi darpariaeth amgen o 'werth cyfatebol'. O ran y patrymau newidiol mewn angen a defnydd, dylid ystyried ymgynghori â Chyngor Chwaraeon Cymru, ochr yn ochr â Gwasanaethau Hamdden a Pharciau'r Cyngor, y Cynghorau Tref a Chymuned perthnasol, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau a sefydliadau eraill sydd â chyfrifoldeb am ddarparu a chynnal a chadw mannau agored yn yr ardal. Dylid nodi mai cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd darparu digon o wybodaeth i ddangos bod y cynnig yn cydymffurfio â'r polisi hwn.

11.326 Mae'r mannau agored hyn yn gwneud cyfraniad pwysig i Seilwaith Gwyrdd a Glas y Sir trwy ddarparu ardaloedd ar gyfer hamdden, lleihau effaith y newid yn yr hinsawdd, gwella iechyd a llesiant a gwella bioamrywiaeth a chysylltedd, ymhlith manteision eraill. Dylid ystyried Polisi PSD3: Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas a'r angen i gynyddu i'r eithaf y seilwaith gwyrdd a glas o fewn safle a chyflawni natur amlswyddogaethol trwy ddod â'u swyddogaethau at ei gilydd.

PSD8: Darparu Mannau Agored Newydd

Bydd angen i bob datblygiad preswyl newydd â 5 neu fwy o dai gyfrannu at fannau agored yn unol â safonau mannau agored y Cyngor.

Os na ellir bodloni'r safonau ar y safle, neu os oes digon o ddarpariaeth bresennol eisoes ar gael i wasanaethu'r datblygiad, yna gwneir cais am swm cyfnewid lle y bo'n briodol.

11.327 Mae Asesiad Mannau Agored Sir Gaerfyrddin yn nodi'r ddarpariaeth bresennol o ran mannau agored ledled ardal y cynllun a'r safonau y dylai'r cyngor a datblygwyr anelu at eu cyflawni. Mae'r polisi hwn yn fodd i gyflawni'r safonau hyn sy'n ystyried maint, swyddogaeth a hygyrchedd y ddarpariaeth. Ceir manylion pellach yn yr Asesiad Mannau Agored.

11.328 Wrth benderfynu a oes angen cyfraniad, bydd angen ystyried maint, hygyrchedd, ansawdd a'r math o ddarpariaeth mannau agored. Lle y bo diffyg presennol o fewn cymuned a bod y datblygiad arfaethedig yn debygol o waethygu'r sefyllfa yna bydd angen cyfraniad. Yn yr un modd, bydd angen cyfraniad mewn amgylchiadau lle byddai'r datblygiad arfaethedig yn arwain at ddiffyg.

11.329 Yn ogystal â'r safonau meintiol a hygyrchedd, dylid ystyried ansawdd y ddarpariaeth bresennol, gan ystyried ei chyflwr, ei gofynion ar gyfer cynnal a chadw yn y dyfodol a'i haddasrwydd ar gyfer pob aelod o'r gymuned.

11.330 Mewn sefyllfaoedd lle gellir bodloni'r safonau drwy ddarpariaeth bresennol o ran mannau agored sydd o ansawdd addas, yna bydd angen datganiad ategol gan yr ymgeisydd i ddangos tystiolaeth o hyn. O dan amgylchiadau o'r fath, gall y Cyngor ofyn am swm cyfnewid tuag at gynnal a chadw neu uwchraddio darpariaeth mannau agored gerllaw sydd eisoes yn bodoli lle ystyrir bod angen hynny.

11.331 Mae'n bosibl y bydd sefyllfaoedd lle na ellir bodloni'r safonau, er enghraifft, lle na all y safle ymdopi'n ymarferol â darparu mannau agored ar y safle oherwydd cyfyngiadau ffisegol neu ddylunio, neu lle byddai hynny'n golygu bod y datblygiad yn gwbl anymarferol. O dan amgylchiadau o'r fath, dylai'r datblygwr ddarparu datganiad ategol i egluro pam na ellir cadw at y safonau ar y safle a gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol geisio symiau gohiriedig tuag at gynnal a chadw'r man agored presennol yn lle hynny. Dylid cyfeirio at Bolisi INF1 o ran rhwymedigaethau cynllunio a chyfraniadau datblygwyr.

11.332 Cydnabyddir y gall fod ardaloedd ychwanegol o fannau agored nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn yr Asesiad sy'n gwneud cyfraniad gwerthfawr at ddarparu mannau agored o fewn y gymuned, a gall hyn fod yn arbennig o berthnasol i ardaloedd a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau hamdden anffurfiol. Yn ogystal, er bod ardaloedd o fannau agored wedi'u categoreiddio fel mathau penodol o ddarpariaeth, cydnabyddir eu bod ar adegau yn gallu cyflawni swyddogaethau mathau eraill o fannau agored. O dan amgylchiadau o'r fath, gellir ystyried eu bod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at sawl math o fan agored.

11.333 Pan fo darparu mannau agored yn rhan o gais cynllunio, dylai'r ymgeisydd nodi sut y cafodd y gwaith o reoli a chynnal a chadw unrhyw ddarpariaeth mannau agored yn y dyfodol ei ystyried. Dylid cyfeirio at Bolisi PSD1 am arweiniad pellach.

PSD9: Hysbysebion

Bydd cynigion ar gyfer hysbysebion (sy'n ddarostyngedig i reolaeth gynllunio) yn cael eu rheoli'n llym a disgwylir iddynt gydymffurfio â'r canlynol:

  1. Bod eu dyluniad, eu graddfa, eu deunyddiau, a'u lleoliad ar y safle yn rhoi ystyriaeth lawn i'r adeilad, y strwythur, a/neu'r tir lle cânt eu harddangos;
  2. Nad oes unrhyw effeithiau niweidiol ar y dirwedd / treflun, na lleoliad a chyfanrwydd yr amgylchedd hanesyddol;
  3. Nad ydynt yn beryglus i ddiogelwch y cyhoedd, yn enwedig pan ydynt wedi'u lleoli ar ffyrdd;
  4. Eu bod yn diogelu'r Gymraeg ac yn ei hyrwyddo'n gadarnhaol trwy ddarparu arwyddion dwyieithog. Dylid hefyd ystyried darpariaethau Polisi SP8 – Y Gymraeg.

Ni ddylai cynigion ar gyfer hysbysfyrddau posteri ac arwyddion hysbysebion arwain at luosogi neu grynhoi arwyddion sy'n dderbyniol yn unigol yng nghefn gwlad.

Bydd disgwyl i ddatblygiadau a strydoedd newydd fod ag enwau Cymraeg.

11.334 Er mwyn hybu hunaniaeth ddiwylliannol ardal y Cynllun, bydd y Cyngor yn cefnogi a hybu darpariaeth arwyddion gwybodaeth, hysbysfyrddau a byrddau gwybodaeth, arddangosiadau ac arwyddion hysbysebu dwyieithog Cymraeg a Saesneg ar gyfer atyniadau a chyfleusterau twristiaeth. Bydd datblygwyr preifat cyfleusterau twristiaeth a hamdden hefyd yn cael eu hannog i roi cyhoeddusrwydd i'w mentrau busnes trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd yn ofynnol i hysbysebion ddarparu brand neu enw'r cwmni yn ddwyieithog; fodd bynnag, bydd yn ofynnol i'r holl eiriau ategol neu ychwanegol a ddarperir ar arwyddion yn y parth cyhoeddus a gynigir mewn cais cynllunio gael eu darparu'n ddwyieithog.

11.335 Bydd arwyddion dwyieithog a chynigion hysbysebu sy'n ceisio cyfuno nifer o hysbysebion hanfodol o fewn un arwydd yn cael eu hannog. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu paratoi i ategu Polisi PSD9.

PSD10: Estyniadau

Bydd cynigion ar gyfer estyn anheddau preswyl presennol / dosbarth defnydd C3 (y mae caniatâd cynllunio yn ofynnol ar eu cyfer) boed yn adeiladau, yn strwythurau eraill neu'n ddefnydd tir penodol yn gorfod cydymffurfio â'r canlynol:

  1. Mae maint yr estyniad arfaethedig yn isradd i, neu'n gydnaws â, maint, math a chymeriad y datblygiad presennol, ac nad yw'n arwain at or-ddatblygu'r safle, nac yn arwain at ardaloedd parcio, ardaloedd amlbwrpas, ardaloedd troi ar gyfer cerbydau, ardaloedd amwynder neu ardaloedd gerddi sy'n llai ac annigonol;
  2. Mae ymddangosiad allanol (gan gynnwys deunyddiau a ddefnyddir) yr estyniad arfaethedig o ran dyluniad yn cyd-fynd ag ymddangosiad y datblygiad presennol ac yn ei ategu;
  3. Nid oes unrhyw effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd naturiol, y dirwedd / trefwedd na lleoliad a chyfanrwydd yr amgylchedd hanesyddol;
  4. Mae'n hybu egwyddorion creu lleoedd fel a nodir ym mholisi SP12;
  5. Nid yw'r estyniad arfaethedig yn effeithio'n niweidiol ar yr amgylchedd lleol ac amwynderau datblygiadau cyfagos;
  6. Mae'r defnydd y bwriedir ei wneud o'r estyniad arfaethedig yn gydnaws â'r adeilad, strwythur neu ddefnydd tir presennol.

11.336 Dylai cynigion fod yn rhai o safon uchel o ran dyluniad ac yn barchus o ran eu lleoliad ar y safle, eu maint a'r defnydd o ddeunyddiau i ategu cymeriad ac ymddangosiad yr adeilad neu'r strwythur presennol a'i amgylchoedd ac yn briodol i ddefnydd yr adeilad presennol.

11.337 Lle mae dyluniad y datblygiad presennol yn wael, bydd y Cyngor yn mynnu bod ansawdd dyluniad a/neu ddeunyddiau unrhyw estyniad yn well. Dylid ystyried darpariaethau Polisi SP12: Creu Lleoedd a Lleoedd Cynaliadwy a PSD1: Atebion Dylunio Effeithiol: Cynaliadwyedd a Chreu Lleoedd.

PSD11: Llygredd Sŵn

Bydd cynigion a fydd yn arwain at effaith niweidiol o lygredd sŵn yn cael eu caniatáu lle gellir dangos y bydd mesurau lliniaru priodol yn cael eu gweithredu, a'u hymgorffori yn y datblygiad i leihau'r effeithiau andwyol.

Bydd datblygiadau sensitif i sŵn yn cael eu caniatáu lle na fydd defnyddiau cynhyrchu sŵn presennol yn effeithio'n andwyol arnynt.

11.338 Mae'r cysyniad o seinweddau yn cydnabod y rôl gadarnhaol y maent yn ei chwarae wrth greu ymdeimlad o le, yn hytrach na chanolbwyntio ar sŵn fel math o lygredd yn unig.[75]

11.339 Dylai'r pwyslais fod ar ystyried effaith bosibl seinweddau ar ddatblygiadau arfaethedig (ac yn eu tro effaith bosibl datblygiadau arfaethedig ar seinweddau) yn gynnar. I'r perwyl hwn, mae'r Cynllun hwn yn rhoi pwyslais ar fod rhanddeiliaid yn rhoi ystyriaeth ddyledus i'r materion hyn fel rhan annatod o'r broses ddylunio o'r cychwyn cyntaf. O'r herwydd, ni ddylid ystyried y materion hyn fel ystyriaethau 'technegol' sy'n cael eu hystyried ar wahân neu fel rhywbeth 'ychwanegol' yn ddiweddarach ar y cam dylunio / yn y cais cynllunio.

11.340 Mae'r Cynllun hwn yn cofleidio'r egwyddor asiant newid sydd wedi'i hymgorffori mewn polisi cenedlaethol [76]. I'r perwyl hwn, mae'r Cynllun hwn yn cydnabod pwysigrwydd y cychwynnwr newid gan ystyried effaith bosibl y cynnig datblygu ar dderbynyddion newid.

11.341 Wrth nodi'r budd economaidd posibl o gynigion sy'n gysylltiedig â'r economi gyda'r nos, ni ddylid cyfaddawdu iechyd a llesiant trigolion yn ormodol. Gall dull creu lleoedd, sy'n ceisio meithrin consensws yn gynnar, ddarparu modd i gyfryngu'r buddiannau hyn a allai fod yn gwrthdaro.

11.342 Ar ben hynny, dylai datblygiadau sensitif i sŵn fel tai, ysgolion, ac ysbytai sydd wedi'u lleoli ger seilwaith trafnidiaeth, lle bynnag y bo modd, gael eu cynllunio i gyfyngu ar lefelau sŵn o fewn, ac o amgylch y datblygiad [77]. Lle bo'n briodol, dylid gweithredu mesurau lliniaru effeithiol a phriodol, a'u hymgorffori yn y datblygiad i leihau'r effeithiau.

11.343 Gall Seilwaith Gwyrdd a Glas weithredu fel clustog sain effeithiol a bod yn ffordd werthfawr o wella iechyd a llesiant, drwy gysylltu anheddau, gweithleoedd a chyfleusterau cymunedol a darparu mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd uchel. Dylid cyfeirio at Bolisi PSD3: Rhwydweithiau Seilwaith Gwyrdd a Glas.

11.344 Gall newidiadau i seinweddau hefyd gael effeithiau ar rywogaethau sy'n sensitif i aflonyddwch sŵn. Fel bob amser, dylai cynigion fodloni polisïau a darpariaethau'r Cynllun yn ei gyfanrwydd. Gellir cyfeirio'n benodol fodd bynnag at Bolisi Strategol 13 – Cynnal a Gwella'r Amgylchedd Naturiol (yn fwyaf arbennig mewn perthynas â safleoedd o bwys rhyngwladol i gadwraeth natur, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, cynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth Adran 7 a'r gofyniad cynnal a gwella).

PSD12: Llygredd Golau ac Aer

Bydd cynigion a fydd yn arwain at effaith niweidiol o lygredd golau a/neu aer yn cael eu caniatáu lle gellir dangos y bydd mesurau lliniaru priodol yn cael eu gweithredu, a'u hymgorffori yn y datblygiad i leihau'r effeithiau andwyol.

Golau

11.345 Mae polisi cenedlaethol yn cydnabod yr effeithiau negyddol y gall llygredd golau eu cael ar bobl, bioamrywiaeth, a gwytnwch ecosystemau. Yn hyn o beth, mae Polisi Cynllunio Cymru yn mynnu bod awdurdodau yn mabwysiadu polisïau o ran goleuadau a rheoli llygredd [78]golau. Dylid ystyried yr effeithiau negyddol y gall llygredd golau eu cael ar gymeriad tirwedd ac amwynder gweledol. Yn hyn o beth dylai cynigwyr datblygiadau gan gynnwys cynlluniau goleuo ystyried yn ofalus yr angen am y mathau o oleuadau a gynigir ac a allai'r cynnig fynd ymlaen heb y goleuadau a nodwyd. Lle bynnag y bo modd dylid ystyried cyfleoedd i liniaru effeithiau cronnus posibl ar awyr y nos.

11.346 Mae rhannau o Sir Gaerfyrddin yn parhau heb eu datblygu i raddau helaeth, gydag effaith gyfyngedig gan oleuadau ar awyr y nos. Wrth ddehongli'r polisi hwn, dylid cynllunio unrhyw oleuadau yn ofalus a'u hystyried i leihau'r effaith ar ardaloedd cyfagos. Dylid cyfeirio at Fap[79] Ardaloedd Tawel Cymru.

11.347 Ym mhob datblygiad (ac mewn mannau cyhoeddus yn enwedig) dylid rheoli golau mewn modd sensitif, a dylid cadw cysylltiad â llygredd yn yr awyr mor isel ag y bo'n rhesymol ymarferol. Bydd yr Awdurdod yn paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol ar oleuadau a'r effeithiau ar awyr y nos.

11.348 Gall llygredd golau gael effeithiau negyddol ar rywogaethau a chynefinoedd, yn ogystal ag iechyd a llesiant pobl. Dylai unrhyw gynlluniau datblygu ymgorffori cynlluniau goleuo sy'n sicrhau ychydig iawn neu ddim arllwysiad golau ar Seilwaith Gwyrdd a Glas yn enwedig cynefinoedd llinellol fel gwrychoedd, coetir, neu goridorau nant llysieuol, yn ogystal ag unrhyw glwydi ystlumod, eu mannau mynediad neu linellau hedfan hysbys. Gall hyn gynnwys yr angen am glustogfa rhwng datblygiad a nodweddion ecolegol bwysig. Cyfeirir yn benodol at Bolisi Strategol 13 – Cynnal a Gwella'r Amgylchedd Naturiol (yn fwyaf arbennig mewn perthynas â safleoedd o bwys rhyngwladol i gadwraeth natur, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, cynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth Adran 7 a'r gofyniad cynnal a gwella.)

11.349 Ceir cyfleoedd i gydnabod a chofleidio Seilwaith Gwyrdd a Glas fel rhan o ddull gwneud lleoedd, yn ogystal â ffordd effeithiol o sgrinio ardaloedd ecolegol sensitif o lygredd golau. Yn hyn o beth, dylid cyfeirio at Bolisi PSD3: Rhwydweithiau Seilwaith Gwyrdd a Glas.

Aer

11.350 Cydnabyddir ansawdd aer a'i oblygiadau o ran yr amgylchedd, iechyd ac ansawdd bywyd drwy ganllawiau cenedlaethol[80]. Mae hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu o fewn amcanion yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac adroddiad sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

11.351 Ers 2022, mae tair Ardal Rheoli Ansawdd Aer yn y Sir (Llandeilo, Llanelli, a Chaerfyrddin). Gellir cyfeirio at Gynllun(iau) Gweithredu'r Cyngor, tra bod ffiniau'r Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer hyn yn cael eu dangos ar Fap Cyfyngiadau'r Cynllun hwn.

  • Llandeilo
  • Llanelli
  • Chaerfyrddin

11.352 Dylai datblygwyr fod yn ymwybodol o bwysigrwydd ymgysylltu'n gynnar â'r Cyngor, yn enwedig o ran y gofyniad posibl ar gyfer cynnal Asesiad Ansawdd Aer. Er nad yw'r Cynllun hwn yn ragnodol mewn perthynas â'r achosion lle bydd angen asesiad o'r fath, ystyrir bod graddfa a lleoliad y cynnig yn benderfynyddion allweddol yn hyn o beth.

11.353 Dylai unrhyw Asesiad Ansawdd Aer dynnu sylw at y mesurau lliniaru gofynnol fel bod unrhyw risgiau i amwynder, bioamrywiaeth ac iechyd yn cael eu cyfryngu'n addas. Dylai nodi mesurau lliniaru o'r fath geisio adlewyrchu'r cyfleoedd a ddarperir gan seilwaith gwyrdd a glas fel rhan o ddull creu lleoedd. Dylid cyfeirio at Bolisi PSD3: Rhwydweithiau Seilwaith Gwyrdd a Glas.

11.354 Dylid nodi nad yw'r gofyniad posibl ar gyfer cynnal Asesiad Ansawdd Aer yn gyfyngedig i safleoedd o fewn neu'n gyfagos i Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer y Sir. Bydd cynigion yn destun ystyriaeth fesul achos, fodd bynnag ar gyfer cynigion sydd wedi'u lleoli o fewn yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer mae Swyddogion Rheoli Datblygu'r Cyngor yn debygol o ymgynghori ag Ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor yn rheolaidd. Cynghorir ymgysylltu'n amserol â'r Cyngor a chyfeirir at ganllawiau perthnasol fel y bo'n briodol.

11.355 Mae'r Cynllun hwn yn cydnabod y gydberthynas bosibl rhwng ansawdd aer a chyfanrwydd safleoedd y Sir sydd o bwysigrwydd rhyngwladol i gadwraeth natur. Mae llawer o'r safleoedd hyn yn cynnwys cynefinoedd sy'n sensitif i ddirywiad mewn ansawdd aer.

11.356 Gall mwy o amaethyddiaeth ddwys a dwyseddau da byw arwain at fwy o lwytho maetholion ac allyriadau amonia (ymysg llygryddion eraill), gan effeithio ar aer a dŵr. Rhaid i gynigion ystyried gwastraff sy'n codi, effeithiau cronnus, ac ansawdd dŵr (Cyfeirnod CCH4: Ansawdd Dŵr a Diogelu Adnoddau Dŵr), a phob effaith andwyol ar gynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth, yn enwedig mewn perthynas â'r rhai sy'n sensitif i lygredd amonia.

11.357 Bydd gofyn i gynigion a fyddai'n debygol o arwain at lwytho maetholion uwch i'r amgylchedd, fel unedau da byw dwys, asesu'r effeithiau posibl o ran ansawdd dŵr ac aer, er mwyn sicrhau nad ydynt yn effeithiau amgylcheddol andwyol ac nad yw allyriadau mewn ardaloedd gwledig yn effeithio'n ormodol ar iechyd a llesiant pobl (h.y. aroglau niwsans). Dylid cyfeirio at ganllawiau priodol Cyfoeth Naturiol Cymru gan gynnwys GN020 [81] (Asesu effaith amonia a nitrogen o unedau da byw dwys newydd ac sy'n ehangu ar safleoedd dynodedig) a GN021 [82] (Unedau Dofednod: caniatâd cynllunio ac asesu amgylcheddol).

11.358 Gellir cyfeirio'n benodol fodd bynnag at Bolisi Strategol 13 – Cynnal a Gwella'r Amgylchedd Naturiol (yn fwyaf arbennig mewn perthynas â safleoedd o bwys rhyngwladol i gadwraeth natur, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Adran 7 Cynefinoedd a Rhywogaethau Blaenoriaeth a'r gofyniadcynnal a gwella) yn ogystal â Pholisi INF 2 - Cymunedau Iach. Ceir cyfleoedd i gydnabod a chofleidio Seilwaith Gwyrdd a Glas fel rhan o ddull creu lleoedd. Yn hyn o beth, dylid cyfeirio at Bolisi PSD3: Rhwydweithiau Seilwaith Gwyrdd a Glas.

PSD13: Tir Halogedig

Caniateir cynigion lle y dangosir y gall unrhyw risg wirioneddol neu bosibl o dir halogedig gael ei lliniaru'n briodol fel nad oes unrhyw effaith niweidiol weddillol ar iechyd pobl a'r amgylchedd.

11.359 Mae gan Sir Gaerfyrddin etifeddiaeth ddiwydiannol gyfoethog ac amrywiol, yn cynnwys ystod eang o ddiwydiannau megis mwyngloddio, gweithgynhyrchu tunplat, gweithfeydd nwy, a thanerdai. Gall yr holl brosesau o'r fath fod wedi halogi'r tir, y dyfroedd daear neu dderbynyddion sensitif eraill. Mae'r Cyngor wedi nodi nifer o safleoedd lle gallai halogiad fod yn parhau, neu lle nad oes tystiolaeth i gadarnhau bod camau adfer digonol wedi digwydd. Yn yr ardaloedd hyn, gall ymchwiliad pellach fod yn angenrheidiol.

11.360 Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i adnabod tir halogedig a sicrhau ei fod yn cael ei reoli mewn modd priodol, fel y nodir yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

11.361 Bydd angen i'r Cyngor fod wedi'i argyhoeddi bod y risgiau mewn perthynas â'r safle datblygu arfaethedig wedi cael eu deall yn llawn a bod modd adfer y safle i'r safonau angenrheidiol. [83] Ni ddylai gwaith ddechrau ar y safle hyd nes bod cam adfer priodol fel y cytunwyd arno wedi'i gwblhau. Bydd yr effeithiau posibl ar amgylcheddau hanesyddol a naturiol yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar unrhyw gynnig, a dylid cyflwyno gwybodaeth briodol gydag unrhyw gais.

11.362 Lle bo'n briodol, rhoddir sylw dyledus i effaith unrhyw weithrediad adfer ar amgylcheddau naturiol a hanesyddol gyda'r manteision cymharol a'r angen am y cynnig yn cael eu pwyso a'u mesur yn erbyn pwysigrwydd cymharol diddordeb hanesyddol neu naturiol y safle.

11.363 Cynghorir ymgeiswyr i ymgysylltu'n amserol â'r Cyngor wrth nodi unrhyw ofynion fel rhan o gynigion datblygu, o ran adnabod risg a mesurau rheoli / lliniaru.

Arferion Iach - Mae gan bobl ansawdd bywyd da, ac maen nhw'n gwneud dewisiadau iach ynglŷn â'u bywydau a'r amgylchedd.

11.364 Cydnabyddir bod y themâu a'r polisïau a ddyrennir iddynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd, ond nodwyd y canlynol o dan y thema hon:

  • Polisi Strategol – SP 13: Datblygu Gwledig
  • Polisi Strategol – SP 14: Cynnal a Gwella'r Amgylchedd Naturiol
  • Polisi Strategol – SP 15: Diogelu a Gwella'r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol

11.365 Mae'r polisïau a ganlyn yn ceisio cefnogi cyflawniad amcanion strategol y Cynllun, ond hefyd yn creu cysylltiadau lefel uchel ac yn sicrhau y cydymffurfir yn fras â'r Nodau Llesiant.

Polisi Strategol – SP 13: Datblygu Gwledig

Mae'r Cynllun yn cefnogi cynigion datblygu a fydd yn cyfrannu at gynaliadwyedd cymunedau gwledig y Sir. Dylai cynigion datblygu mewn ardaloedd gwledig ddangos eu bod yn cefnogi rôl aneddiadau gwledig yn yr hierarchaeth aneddiadau er mwyn bodloni anghenion tai, cyflogaeth a chymdeithasol cymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin.

Bydd cynigion datblygu yng nghefn gwlad y tu hwnt i'r aneddiadau dynodedig yn cael eu cefnogi lle maent yn cyd-fynd â pholisïau'r Cynllun hwn.

11.366 Mae gan aneddiadau gwledig y sir ran bwysig i'w chwarae o ran gwella cynaliadwyedd yr ardal ddaearyddol ehangach lle y maent wedi'u lleoli, yn ogystal â chynaliadwyedd cyffredinol y sir. Mae strategaeth a hierarchaeth aneddiadau'r cynllun yn adlewyrchu'r rôl sylweddol y mae cymunedau gwledig yn ei chwarae trwy gefnogi twf ar raddfa gymesur sy'n gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at gynaliadwyedd hirdymor yr economi a chymunedau gwledig.

11.367 Gall datblygu cymesur ac ystyriol sicrhau'r lefel o dwf sydd ei hangen i gynnal a gwella'r gwasanaethau a'r cyfleusterau a ddarperir yn aneddiadau gwledig y sir. Mae hefyd yn gallu gweithredu i ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg mewn ardaloedd gwledig a gwella cyfleoedd i gael swydd mewn ardaloedd gwledig. Er hynny, mae'r cynllun yn ceisio sicrhau nad yw datblygu a thwf yn effeithio'n negyddol ar gynaliadwyedd cymuned. Mae sicrhau nad yw datblygiad yn cael ei gymeradwyo ar raddfa neu gyfradd a fyddai'n effeithio ar allu cymuned i amsugno ac addasu i dwf a newid yn allweddol i hyn. Mae hyn yn hanfodol wrth ystyried yr effeithiau y gall datblygiad eu cael ar y seilwaith lleol, bywiogrwydd y Gymraeg, a chynaliadwyedd cefn gwlad a'r amgylchedd naturiol.

11.368 Yn hanesyddol mae polisi cynllunio cenedlaethol wedi ceisio cyfyngu ar ddatblygiadau diangen mewn lleoliadau cefn gwlad, yn bennaf er mwyn atal twf gwasgaredig ac anghynaliadwy ac i wneud y defnydd gorau o seilwaith, adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael yn fwy cyffredin mewn ardaloedd trefol sefydledig.

11.369 Er bod yr egwyddor hon yn dal i fod yn berthnasol a chymwys, mae mwy o gydnabyddiaeth i gefn gwlad fel lle gwaith, fel cartref i lawer, a lle i ymweld ag ef i eraill ac ecosystem hanfodol i bawb. Mae'r Cynllun yn ymrwymedig i fynd i'r afael â chymunedau gwledig a diogelu eu hanghenion. I'r perwyl hwn sefydlodd y Cyngor Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig gyda'r nod o asesu anghenion cymunedau gwledig a chymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r rhain. Mae'r Cynllun yn cefnogi nodau a chanlyniadau'r Grŵp Gorchwyl yn bennaf trwy bolisïau sy'n ymwneud â darparu tai a thai fforddiadwy; yr economi a chyflogaeth; y Gymraeg a'r amgylchedd naturiol. Bydd angen i gynigion datblygu ddangos eu bod yn cyd-fynd â'r polisïau hyn yn ogystal â darpariaethau polisïau cynllunio cenedlaethol.

11.370 Mae Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11 yn cydnabod bod cefn gwlad yn adnodd dynamig ac amlbwrpas. Mae'n nodi, yn unol â datblygu cynaliadwy a'r egwyddorion cynllunio cenedlaethol, y dylid ei warchod a'i wella lle y bo'n bosibl. Fodd bynnag, mae hefyd yn adlewyrchu'r angen i gydbwyso hyn yn erbyn anghenion economaidd, cymdeithasol a hamdden cymunedau lleol ac ymwelwyr.

11.371 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y bydd meithrin y gallu i addasu a chydnerthedd yn nod allweddol ar gyfer lleoedd gwledig yn wyneb her sylweddol cynnal ffyniant cymunedau ac argaeledd gwasanaethau yn ogystal â chyfrannu at y nod llesiant cenedlaethol Cymunedau Cydlynus.

11.372 Ceir cydnabyddiaeth glir bod ardaloedd gwledig yn arddangos heriau o ran mynediad at ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy a'r disgwyliad ym Mholisi Cynllunio Cymru o ran mynediad at gysylltiadau teithio llesol a chysylltiadau swyddogaethol cynaliadwy. Caiff hyn ei adlewyrchu yn natblygiad yr hierarchaeth aneddiadau yn gyffredinol.

11.373 Mae'r ddealltwriaeth hon am amrywiaeth yn cael ei hadlewyrchu ym Mholisi Cynllunio Cymru yn yr ystyr ei fod yn ystyried gofynion trafnidiaeth gynaliadwy. Mae'n cydnabod bod angen adlewyrchu gwahanol ddulliau o ymdrin â thrafnidiaeth gynaliadwy wrth ddiffinio twf mewn aneddiadau gwledig.

11.374 Mae'r CDLl Diwygiedig hwn yn cydnabod yr amrywiaeth a geir yn Hwn Sir a'r angen i adlewyrchu hyn yn ei ymagwedd strategol. Mae'r Strategaeth Ofodol yn nodi hierarchaeth aneddiadau ond yn ei gosod o fewn fframwaith aneddiadau sydd wedi'i grwpio o dan chwe chlwstwr. Bydd y clystyrau hyn a'r dosbarthiad twf yn canolbwyntio ar egwyddorion cynaliadwy, ond byddant hefyd yn cydnabod rôl, swyddogaeth a chyfraniad aneddiadau o fewn clystyrau penodol.

Yr Economi Wledig

11.375 Mae polisi cenedlaethol yn cydnabod bod economi wledig gref yn hanfodol er mwyn cynnal cymunedau gwledig cynaliadwy a bywiog. Yn hyn o beth, mae sefydlu mentrau newydd ac ehangu busnesau presennol yn hanfodol i dwf a sefydlogrwydd ardaloedd gwledig.

11.376 Dylid rhoi sylw i effaith datblygiadau o'r fath, ond fel a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru, gellir lleoli llawer o weithgareddau gweithgynhyrchu masnachol ac ysgafn mewn ardaloedd gwledig heb achosi aflonyddwch annerbyniol neu effeithiau niweidiol eraill.

11.377 Er bod ffocws o hyd ar nodi neu ddyrannu safleoedd i ddiwallu angen am gyflogaeth, cydnabyddir hefyd y bydd angen cyfleoedd ar gyfer cynigion ar raddfa fach lle nad yw'r angen yn cael ei ddiwallu gan ddyraniadau penodol. Mae'r mentrau ar raddfa fach hyn yn gyfrannwr pwysig i'r economi wledig (dylid cyfeirio at Bolisi EME4: Cynigion Cyflogaeth ar Safleoedd Nas Dyrannwyd, EME5: Busnesau wedi'u lleoli Gartref, a Pholisi INF3: Band Eang a Thelathrebu).

11.378 Dylid cyfeirio at ddarpariaethau polisi SP7 a'i fynegiant o ddosbarthiad cynaliadwy darpariaeth tir cyflogaeth.

Anheddau Mentrau Gwledig

11.379 Fel a nodir trwy bolisi cenedlaethol mae angen annedd menter wledig lle mae'n 'galluogi gweithwyr mentrau gwledig i fyw yn eu gweithle neu ger eu gweithle'. Mae hyn yn cynnwys annog pobl iau i reoli busnesau fferm a chefnogi arallgyfeirio ar ffermydd sefydledig.

11.380 Nid rôl na bwriad y CDLl Diwygiedig yw ailadrodd darpariaethau polisi cynllunio cenedlaethol. O ganlyniad, dylid cyfeirio at ddarpariaethau Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 6 (TAN6)[84] wrth benderfynu ar geisiadau ar gyfer anheddau menter wledig newydd. Mae polisi cenedlaethol yn datgan yn glir y dylid archwilio cynigion o'r fath yn ofalus i sicrhau bod gwir angen.

11.381 Dylai ceisiadau ar gyfer anheddau menter wledig gael eu hategu gan arfarniad o anheddau menter wledig, a dim ond os yw'n darparu tystiolaeth bendant o'r angen am yr annedd y caiff caniatâd ei roi.

11.382 Er mwyn sicrhau bod anheddau menter wledig yn cael eu cadw at y diben a fwriadwyd mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol bod amod sy'n cyfyngu ar feddiannaeth ar yr eiddo yn cael ei ddefnyddio a bod yr annedd yn cael ei dosbarthu fel tŷ fforddiadwy (diffiniad a nodir yn TAN 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy). Lle y bo'n briodol rhoddir ystyriaeth hefyd i ddefnyddio cytundeb cyfreithiol (adran 106) fel modd i gadw diben yr eiddo fel Annedd Menter Wledig. Bydd hyn yn sicrhau bod yr annedd yn parhau i fod ar gael i ddiwallu'r angen lleol am dai fforddiadwy pe bai ei chyfiawnhad gwreiddiol yn dod i ben.

11.383 Mewn amgylchiadau lle ceir cais cynllunio i godi amodau meddiannaeth amaethyddol presennol neu lle cymerir camau gorfodi am beidio â chydymffurfio â'r amod, rhoddir ystyriaeth i ddisodli amod meddiannaeth amaethyddol gyda'r amod annedd menter wledig a nodir yn TAN6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy[85].

11.384 Bydd yn ofynnol bod cynigion ar gyfer Datblygiadau Un Blaned yng nghefn gwlad yn darparu ar gyfer anghenion sylfaenol y meddianwyr o ran incwm, bwyd, ynni a thrin gwastraff dros gyfnod o 5 mlynedd[86]. Dylai unrhyw gynnig gael ei ategu gan gynllun rheoli seiliedig ar dystiolaeth; yn yr achosion hynny lle na ellir dangos hyn, caiff unrhyw gynnig ei ystyried yn erbyn polisïau a darpariaethau'r CDLl hwn a'r polisi cenedlaethol mewn perthynas â datblygiadau yng nghefn gwlad. Cyfeirir at ddarpariaethau TAN6 ac mewn perthynas â gofynion y Canllaw Ymarfer Datblygiadau Un Blaned. [87]

11.385 Wrth asesu addasrwydd safle ar gyfer Datblygiad Un Blaned, bydd disgwyl i'r ymgeisydd ystyried ei effaith bosibl ar y dirwedd a bioamrywiaeth, y gallu iddo gael ei sgrinio'n effeithiol yn ogystal â bod yn ddigon agos at Lwybrau Teithio Llesol neu drafnidiaeth gyhoeddus.

RD1: Anheddau Newydd yn lle un bresennol mewn Cefn Gwlad Agored

Caniateir cynigion i ddisodli anheddau presennol yng nghefn gwlad ar yr amod:

  1. nad yw'r annedd bresennol yn ffermdy, bwthyn nac adeilad arall traddodiadol sy'n bwysig i gymeriad gweledol a chynhenid y dirwedd;
  2. nad yw'r annedd wreiddiol wedi cael ei dymchwel, ei gadael nac wedi mynd â'i phen iddi ac nad yw bellach yn ymddangos fel annedd;
  3. bod dyluniad yr annedd newydd o ffurf, swmp, maint a graddfa sy'n parchu ei lleoliad;
  4. nad yw'r cynnig yn gofyn am estyniad annerbyniol i'r ardd breswyl sefydledig bresennol;

Dylai'r cynigion ar gyfer unrhyw dai allan fod yn gymedrol o ran maint ac wedi'u lleoli'n sensitif a dylai fod modd cyflawni garej a lle storio ategol digonol ar gyfer yr annedd.

Caniateir cynigion mewn perthynas â disodli ffermdy, bwthyn neu adeilad arall traddodiadol sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau maen prawf a) uchod dim ond lle mae'r ymgeisydd yn rhoi digon o dystiolaeth i ddangos nad yw ailddefnyddio'r adeilad yn hyfyw yn economaidd neu ei fod mewn cyflwr strwythurol sy'n rhwystr i'w ailddefnyddio'n effeithiol.

11.386 Mae'r polisi'n cydnabod ac yn adlewyrchu cymeriad gwledig y Sir ac ystod a chyflwr y stoc dai. Mae'n ceisio rhoi cyfle a chwmpas i ddarparu anheddau newydd mewn ffordd sy'n sicrhau bod y Sir yn cadw ei chymeriad traddodiadol, gan hefyd beidio â thanseilio nodweddion arbennig Sir Gaerfyrddin wledig.

11.387 Dylid rhoi ystyriaeth benodol i dderbynioldeb effaith weledol cynigion ar y dirwedd. Yn hyn o beth, ni ddylai ei raddfa a'i ddyluniad (gan gynnwys maint y cwrtil preswyl) fod yn anfanteisiol i gymeriad ac ansawdd yr ardal.

RD2: Addasu ac Ailddefnyddio Adeiladau Gwledig at Ddefnydd Preswyl

Caniateir cynigion ar gyfer addasu ac ailddefnyddio adeiladau gwledig addas at ddefnydd preswyl lle:

  1. mae'r defnydd presennol wedi dod i ben, ac ni fyddai ei ail-ddefnyddio yn arwain at yr angen am adeilad ychwanegol;
  2. mae'r dyluniad a'r deunyddiau o ansawdd uchel, ac mae ffurf a swmp y cynnig, gan gynnwys unrhyw estyniadau, cwrtil a threfniadau mynediad yn addas i ac yn parchu: y dirwedd o gwmpas, cymeriad gwledig yr ardal ac ymddangosiad yr adeilad gwreiddiol;
  3. Dylai cynigion ar gyfer estyniadau fod yn gymesur ac yn adlewyrchu graddfa, cymeriad ac ymddangosiad yr adeilad gwreiddiol;
  4. mae'r adeilad gwreiddiol yn strwythurol gadarn ac nid yw unrhyw waith ailadeiladu, sy'n angenrheidiol oherwydd amodau strwythurol gwael a/ neu'r angen am agoriadau newydd mewn waliau, yn cynnwys ailadeiladu sylweddol;
  5. lle bo'n berthnasol, bydd ansawdd pensaernïol, cymeriad ac ymddangosiad yr adeilad yn cael ei warchod, ac na chaiff ei leoliad ei niweidio i raddau annerbyniol.

Yn gyffredinol, ni fydd cynigion sy'n ymwneud ag adeiladau sydd o adeiladwaith ffrâm porthol modern yn cael eu hystyried yn briodol i'w haddasu at ddefnydd preswyl.

11.388 Dylai cynigion i addasu adeiladau gwledig addas at ddefnydd preswyl fod o ansawdd uchel o ran dyluniad a'r deunyddiau sy'n cael eu defnyddio. Nid pwrpas y polisi yw caniatáu cynigion lle mae adeilad presennol yn anaddas i'w addasu heb newid helaeth, ailadeiladu, neu estyniad, neu os byddai creu cwrtil preswyl yn cael effaith niweidiol ar gymeriad cefn gwlad. Bydd cynigion o'r fath yn cael eu hystyried fel tŷ newydd yng nghefn gwlad agored.

11.389 Gellir ystyried cynigion preswyl yn ffafriol lle maent yn rhan o gynllun arfaethedig ar gyfer ailddefnyddio at ddefnydd busnes. Gellir gosod amodau sy'n mynnu bod y gwaith sy'n angenrheidiol ar gyfer sefydlu'r busnes/menter wedi'u cwblhau cyn meddiannu'r elfen breswyl. Ar ben hynny, gellir defnyddio amod neu rwymedigaeth gynllunio sy'n clymu'r uned breswyl i weithrediad menter hefyd fel y bo'n briodol.

11.390 Yn gyffredinol, ni fydd cynigion ar gyfer adeiladau adeiladwaith modern fel unedau ffrâm porthol neu strwythurau dros dro yn cael eu hystyried yn briodol i'w haddasu. Yn gyffredinol, ni fydd cynigion ar gyfer adeiladau o fewn y cwrtil preswyl a adeiladwyd yn ategol i'r prif eiddo e.e. garejis yn cael eu hystyried i'w haddasu o dan y polisi hwn.

11.391 Bydd angen i'r Cyngor fod yn fodlon y gellir cyflawni gofod byw a storio digonol (gan gynnwys garej) heb yr angen am estyniadau sylweddol i'r adeilad. Yn gyffredinol, ni fydd cynigion ar gyfer ehangu unedau yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn briodol. Yn yr un modd, bydd y Cyngor yn ystyried tynnu'n ôl hawliau datblygu arferol a ganiateir i adeiladu estyniadau ac adeiladau ategol.

11.392 Dylid cyfeirio at y Canllawiau Cynllunio Atodol mewn perthynas ag Addasu ac Ailddefnyddio Adeiladau Gwledig.

RD3: Arallgyfeirio ar Ffermydd

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau arallgyfeirio ar ffermydd sy'n cryfhau'r economi wledig yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Mae'n gydnaws â phrif weithgareddau amaethyddol y fferm weithiol bresennol, ac yn eu hategu a'u cefnogi;
  2. Mae ar raddfa ac o natur sy'n briodol i weithrediad presennol y fferm;
  3. Mae'n rhoi sylw priodol i'r seilwaith priffyrdd a thrafnidiaeth;
  4. Ni fyddai'n cael effaith niweidiol ar gymeriad, lleoliad ac ymddangosiad yr ardal a'r dirwedd amgylchynol.

Dylai cynigion roi blaenoriaeth i addasu adeiladau presennol addas ar y fferm weithiol. Lle gellir cyfiawnhau hynny, caniateir adeiladau newydd os ydynt wedi'u hintegreiddio â'r fferm weithiol bresennol, neu'n gysylltiedig â hi, a heb fod yn anfanteisiol i briod gymeriad ac ymddangosiad yr ardal a'r dirwedd o'i hamgylch.

11.393 Mae arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig yn aml yn gallu ychwanegu at ffrydiau incwm a hyfywedd economaidd ffermydd, cryfhau'r economi wledig ac ychwanegu at gyfleoedd cyflogaeth ehangach.

11.394 Bwriedir i gynigion arallgyfeirio ar ffermydd ategu a chefnogi parhad y gweithgarwch ffermio presennol. Ynghyd â'r cynigion, dylid cyflwyno tystiolaeth sy'n rhoi manylion y cyfiawnhad dros y defnydd a'i berthynas â'r gweithgarwch ffermio presennol.

11.395 Lle mae cynnig yn cynnwys siopau fferm, yn aml mae'n rhaid iddynt fewnforio nwyddau sy'n dod o bosibl oddi wrth gyflenwyr lleol eraill. Wrth benderfynu ar gynigion a wneir o dan y polisi hwn, rhoddir ystyriaeth i gyfyngu ar y mathau eang o gynnyrch a werthir ac i'r nifer a werthir. Rhoddir ystyriaeth hefyd i raddfa'r gweithrediad, yn arbennig lle byddai defnydd anghyfyngedig yn arwain at effaith anffafriol ar fywiogrwydd a hyfywedd gweithgareddau adwerthu cyfagos.

11.396 Wrth ystyried cynigion ar gyfer arallgyfeirio ar ffermydd, cydnabyddir bod eu cyd-destun gwledig yn golygu na allant gael eu gwasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus bob amser. O ganlyniad, er y bydd ei argaeledd yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth ystyried natur a graddfa'r cynnig, cydnabyddir y potensial ar gyfer cynigion arallgyfeirio penodol na ellir ond eu cyrraedd mewn car preifat. Dylai cynigion o'r fath ystyried yr hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy.

11.397 Lle y bo'n briodol, bydd cytundebau cyfreithiol yn cael eu defnyddio i glymu adeiladau amaethyddol wrth y tir os yw ailddefnydd yn gysylltiedig ag arallgyfeirio ar ffermydd lle mae'n debygol y bydd yr uned amaethyddol yn cael ei darnio.

RD4: Addasu ac Ailddefnyddio Adeiladau Gwledig at Ddefnydd Amhreswyl

Bydd cynigion i addasu adeiladau gwledig at ddefnydd busnes yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. lle mae'r adeilad yn ymarferol addas ar gyfer y defnydd penodol;
  2. lle mae digon o dir a lle storio ynghlwm ar gyfer anghenion swyddogaethol y defnydd arfaethedig (gan gynnwys darpariaeth parcio);
  3. lle na fyddai ei addasu a'i ddefnydd arfaethedig, neu'r defnydd o dir cyfagos ar gyfer darparu mynediad, cyfleusterau parcio, adeileddau atodol, cyfleusterau neu le storio ar y safle yn arwain at effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal, defnyddiau cyfagos neu effaith ar hyfywedd defnyddiau tebyg o fewn yr ardal leol;
  4. lle mae'r adeilad presennol yn gadarn yn strwythurol;
  5. lle mae unrhyw estyniad yn adlewyrchu graddfa'r adeilad gwreiddiol.

11.398 Mae Polisi Cynllunio Cenedlaethol yn cydnabod cyfraniad hanfodol economi wledig gref i gefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy a ffyniannus. Mae'n ceisio darparu agenda gadarnhaol ar gyfer y potensial i ailddefnyddio adeiladau presennol mewn ardaloedd gwledig at ddibenion busnes.

RD5: Cyfleusterau Marchogol

Bydd cynigion datblygu ar gyfer stablau, cyfleusterau marchogol neu ddefnyddio tir ar gyfer gweithgareddau marchogol yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. lle mae'r cyfleuster wedi'i grwpio o fewn cyfadeilad fferm presennol, neu wedi'i leoli mor agos â phosibl at adeiladau presennol;
  2. lle bydd y defnydd arfaethedig o ddwyster sy'n briodol i'w amgylchedd a'i leoliad;
  3. lle na fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar y dirwedd nac ar fuddiannau cadwraeth natur; a
  4. lle gellir darparu mynediad a lleoedd parcio addas ar gyfer blychau ceffylau a'r lefel o arfaethedig o weithgarwch masnachol;
  5. lle mae gan gyfleusterau masnachol fynediad addas at y rhwydwaith priffyrdd.

11.399 Mae cynigion ar gyfer stablau a chyfleusterau marchogol cysylltiedig fel arfer yn gysylltiedig â lleoliad cefn gwlad. Fel arfer bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu stablau, oni bai bod y ceffylau'n rhan o'r gweithgarwch amaethyddol, neu fod y stabl o fewn cwrtil annedd (sy'n adlewyrchu hawliau datblygu a ganiateir posibl).

11.400 Bydd cynigion nad ydynt yn cael unrhyw effaith niweidiol ar y dirwedd a/neu effaith amgylcheddol niweidiol yn cael eu cefnogi. Yn hyn o beth, bydd disgwyl i gynigion ddangos sut y mae'r datblygiad yn cyd-fynd â'i leoliad cefn gwlad a'r sylw y mae'n ei roi i'r fframwaith aneddiadau a'i leoliad, gan gynnwys adeiladau presennol.

11.401 Dylai codi ménage ar gyfer defnydd domestig preifat gael ei ddylunio fel nad yw'n cael effaith niweidiol ar y dirwedd, ei fod yn dwyn perthynas dda ag adeiladau presennol, a'i fod ar raddfa briodol.

11.402 Ystyrir bod stablau a ménages masnachol yn briodol fel busnesau gwledig lle gellir darparu ar eu cyfer heb niwed i gymeriad yr ardal, a'u bod yn cael eu hystyried yn dderbyniol yn nhermau priffyrdd.

Polisi Strategol – SP 14: Cynnal a Gwella'r Amgylchedd Naturiol

Rhaid i gynigion datblygu ddiogelu a gwella amgylchedd naturiol y Sir.

Rhaid i gynigion adlewyrchu'r rôl sydd gan agweddau a nodweddion yr amgylchedd naturiol ac amgylchedd sydd wedi'i chysylltu'n ecolegol wrth ddiogelu a gwella bioamrywiaeth, diffinio'r dirwedd, cyfrannu at Lesiant ac egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Rhaid ystyried pob cynnig datblygu yn unol â gofynion Polisi Cenedlaethol a deddfwriaethol lle byddai cynnig ar gyfer datblygu yn arwain at effaith andwyol sylweddol ar safleoedd dynodedig, gan gynnwys safleoedd Ewropeaidd, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a chynefinoedd a rhywogaethau blaenoriaeth.

Dylai unrhyw gynnig datblygu gyfrannu at nod cyffredinol Datganiad Ardal De-orllewin Cymru (CNC, 2020) wrth feithrin gwytnwch ein ecosystemau a gwella'r buddion a ddarperir ganddynt. Ni fydd datblygiad a fyddai'n arwain at effeithiau amgylcheddol andwyol annerbyniol neu sydd ddim yn arwain at wella bioamrywiaeth yn cael ei ganiatáu.

Ni ddylai datblygiad achosi unrhyw golled sylweddol o gynefinoedd neu boblogaethau o rywogaethau (yn lleol a/neu'n genedlaethol) a rhaid iddo ddarparu buddion net i fioamrywiaeth. Lle na chynigir gwella bioamrywiaeth fel rhan o gynnig ar gyfer datblygu, rhoddir pwysau sylweddol i'w absenoldeb, ac oni bai bod ystyriaethau perthnasol arwyddocaol eraill yn nodi fel arall bydd angen gwrthod caniatâd.

11.403 Mae gan Sir Gar amgylchedd naturiol cyfoethog ac amrywiol, gyda nifer o safleoedd wedi'u dynodi a rhywogaethau gwarchodedig. Mae'r polisi yma yn ceisio adnabod safon a gwerth yr amgylchedd naturiol a thirweddau ar draws ardal y Cynllun, a'i rôl sylfaenol yn diffinio hunaniaeth, cymeriad a gwahanolrwydd y Sir. Ymhlyg yn hyn mae cydnabyddiaeth o rinweddau sylweddol seilwaith gwyrdd a glas ar gyfer lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd, ar gyfer dal a storio carbon ac ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth a rhwydweithiau ecolegol. Cyfeirir at bolisi Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas PSD3.

11.404 Mae amddiffyn a gwella'r elfennau hyn yn ffurfio rhan bwysig o'r strategaeth, sy'n ceisio adlewyrchu nid yn unig y dynodiadau rhyngwladol a chenedlaethol hynny, ond hefyd cyfraniad safleoedd a thirweddau ar y lefel leol. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol hefyd yn ceisio cadw a gwella adnoddau naturiol megis geoamrywiaeth, dŵr, pridd ac ansawdd yr aer.

11.405 This policy also recognises the often-interconnected components of the natural environment and their contribution towards maintaining and enhancing biodiversity, as well as the creation of attractive and cohesive spaces for communities, and the well-being of Carmarthenshire's population. Those natural environment aspects and features cited in the policy would include geology, landform, soils, land cover and hydrology.

11.406 Mae diogelu a gwella cysylltedd, a'r cyfraniad mae'n ei wneud i ansawdd tirwedd, amgylchedd a bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin yn ystyriaeth bwysig. O ganlyniad i hyn, bydd effaith bosibl y cynllun, ei bolisïau a'i gynigion ar fuddiannau cadwraeth natur, gwerth amwynderau, ansawdd dŵr/pridd/aer, hydroleg, daeareg a chyfundrefnau geomorffolegol yn parhau i lywio'r broses gynllunio.

11.407 Cynhaliwyd Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd er mwyn asesu effeithiau'r cynllun ar safleoedd a ddiogelir dan gyfraith Ewrop, gan gynnwys y rheiny sy'n cael eu hystyried i'w dynodi.

11.408 Er bod y Cynllun yn cydnabod yr angen am ddatblygiadau newydd at ddibenion cymdeithasol ac economaidd, bydd y Cyngor yn diogelu nodweddon amgylcheddol Sir Gaerfyrddin. Mae'r Cynllun hefyd yn ceisio sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei amddiffyn a'i wella drwy bolisïau manwl. Mae'r polisi yn adlewyrchu cynnwys llythyr y Prif Swyddog Cynllunio dyddiedig 23 Hydref 2019 ar Sicrhau Gwelliannau Bioamrywiaeth. Cyfeirir hefyd at Ddatganiad Ardal De-orllewin Cymru (2020) yn hyn o beth.

11.409 Yn ogystal â hyn, ac wrth adlewyrchu'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol, mae'r Cynllun yn ystyried y dynodiad Parc Cenedlaethol a'r pwrpas y cafodd ei ddynodi ar ei gyfer, lle y gallai hyn effeithio ar y broses o ystyried cynigion cynllunio. Yn ogystal, mae asedau diwylliannol, treflun a thirwedd (gan gynnwys Ardaloedd Cadwraeth, Adeiladau Rhestredig, a Henebion Cofrestredig) hefyd yn gysylltiedig yn anorfod â'r amgylchedd naturiol ac, felly, cyfeirir at Bolisi Strategol – SP 15: Gwarchod a Gwella'r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol.

NE1: Dynodiadau Rhanbarthol a Lleol

Bydd cynigion datblygu a fydd yn arwain at effeithiau andwyol i Warchodfeydd Natur Lleol, Safleoedd Pwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC), a/neu Safleoedd Daearegol/Geomorffolegol o Bwysigrwydd Rhanbarthol (RIGS) ond yn cael ei ganiatáu lle y gellir dangos:

  1. Bod camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r holl effeithiau andwyol yn unol â'r hierarchaeth liniaru;
  2. Pan nad yw hyn yn ymarferol, sicrhau fod mesurau digolledu digonol yn cael eu rhoi ar waith sy'n mynd i'r afael â'r holl effeithiau andwyol posibl ar y safleoedd hyn sy'n deillio o'r cynnig; neu
  3. Mewn amgylchiadau eithriadol, lle mae'r rhesymau dros y datblygiad a/neu'r newid mewn defnydd tir yn amlwg yn drech na'r angen i ddiogelu buddion cadwraethol y safle.

Ni ddylai cynigion datblygu achosi unrhyw golled sylweddol o gynefinoedd neu boblogaethau o rywogaethau, yn lleol neu'n genedlaethol, a rhaid iddynt ddarparu buddion net i fioamrywiaeth.

11.410 Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol a Safleoedd Daearegol/Geomorffolegol o Bwysigrwydd Rhanbarthol yn nodi ardaloedd sydd o bwysigrwydd lleol ar gyfer cadwraeth natur a gwerth daearegol (yn y drefn honno) a gallant gynnwys amrywiaeth o fathau o gynefinoedd a/neu gefnogi ystod o rywogaethau. Gall gwarchod y safleoedd hyn wneud cyfraniad pwysig i ddyletswydd y Cyngor o dan Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r nodweddion hyn hefyd yn werthfawr o ran eu cyfraniad i ansawdd yr amgylchedd lleol ac o ran ei gwneud yn bosibl addasu a bod yn gydnerth yn wyneb y newid yn yr hinsawdd.

11.411 Mewn amgylchiadau lle gallai'r angen am ddatblygiad orbwyso'r angen i ddiogelu safle penodol, yna bydd yr effaith yn cael ei hosgoi, ei lleihau, a'i lliniaru cyn belled ag y bo modd (yn unol â'r hierarchaeth liniaru). Pan fydd effeithiau gweddillol yn parhau, caiff mesurau eu rhoi ar waith i sicrhau bod darpariaeth cynefinoedd bywyd gwyllt amgen neu fesurau creu cynefinoedd yn cael eu darparu i sicrhau nad oes colled net yng ngwerth cadwraeth yr ardal neu'r nodwedd ar y cyfan. Lle y bo'n briodol, bydd yr awdurdod yn ystyried defnyddio amodau a/neu rwymedigaethau cynllunio i ddarparu mesurau lliniaru a/neu gydbwyso priodol.

11.412 Mae Safleoedd Pwysigrwydd Cadwraeth Natur yn cynnig potensial sylweddol fel adnodd bioamrywiaeth. Er nad oes unrhyw Safleoedd Pwysigrwydd Cadwraeth Natur wedi'u nodi yn ardal y Cynllun, mae mynd ati'n frwd i archwilio dynodiadau o'r fath yn dal yn un o amcanion yr awdurdod. Bydd unrhyw ddynodiad ar gyfer Safleoedd Pwysigrwydd Cadwraeth Natur yn y dyfodol yn cael ei wneud yn unol â'r Canllawiau Cynllunio Atodol sy'n dod i'r amlwg ac sy'n nodi'r fethodoleg ddiwygiedig ar gyfer eu hadnabod. Bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol hyn yn cael eu llunio ar yr un pryd ag y bydd y Cynllun yn cael ei fabwysiadu.

NE2: Bioamrywiaeth

Rhaid i gynigion datblygu gynnal a gwella bioamrywiaeth yn unol ag Adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Ni chaniateir cynigion lle byddent yn arwain at effaith andwyol ar rywogaethau a chynefinoedd â blaenoriaeth, a nodweddion o bwysigrwydd cydnabyddedig i warchod bioamrywiaeth, ac eithrio lle gellir dangos:

  1. Bod camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r holl effeithiau andwyol yn unol â'r hierarchaeth liniaru;
  2. Pan nad yw hyn yn ymarferol, sicrhau bod mesurau digolledu digonol yn cael eu rhoi ar waith sy'n mynd i'r afael â phob effaith andwyol bosibl ar fioamrywiaeth sy'n deillio o'r cynigion; ac
  3. Mewn amgylchiadau eithriadol, lle mae'r rhesymau dros y datblygiad a/neu'r newid mewn defnydd tir yn amlwg yn drech na'r angen i ddiogelu buddion bioamrywiaeth a chadwraeth natur y safle.

Ni ddylai cynigion datblygu achosi unrhyw golled sylweddol o gynefinoedd neu boblogaethau o rywogaethau, yn lleol neu'n genedlaethol, a rhaid iddynt ddarparu buddion net i fioamrywiaeth.

11.413 Mae'r polisi hwn yn ceisio sicrhau bod y cynefinoedd a'r rhywogaethau a nodir yn Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cael eu diogelu'n addas rhag datblygu niweidiol a bod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaeth i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau. Dylid cyfeirio'n llawn at Ganllawiau Cynllunio Atodol Cadwraeth Natur a Bioamrywiaeth, Pennod 6 Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11 a llythyr y Prif Swyddogion Cynllunio (2019) ar sicrhau Gwelliannau Bioamrywiaeth.. Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol hyn yn cynnwys canllawiau i ddatblygwyr a dylent fod o gymorth i weithredu'r polisi hwn a'r CDLl. Lle y bo'n berthnasol, bydd rôl cynefinoedd ac ardaloedd cysylltiedig fel llwybrau cysylltedd, 'rhwydweithiau ecolegol' neu 'rwydweithiau coridor anifeiliaid' yn cael ei hystyried (dylid cyfeirio at Bolisi NE3).

11.414 Lle y bo angen, dylai cynlluniau rheoli sy'n manylu ar faterion megis mesurau lliniaru gael eu cynhyrchu fel rhan o unrhyw gais, a chytuno arnynt gyda'r awdurdod cyn y rhoddir caniatâd. Dylai trefn fonitro y cytunwyd arni gael ei chyflwyno gyda'r mesurau lliniaru arfaethedig. Gall mesurau lliniaru gynnwys dylunio ac amserlennu gwaith yn ofalus, gan ystyried datblygu fesul cam fel bod amseriad unrhyw waith yn tarfu gyn lleied â phosibl.

11.415 Dylai cynigion datblygu geisio gwella bioamrywiaeth. Pan fo angen gwella bioamrywiaeth a lle na chynigir hynny fel rhan o gais, rhoddir pwysau sylweddol ar ddiffyg hynny, ac oni bai bod ystyriaethau perthnasol sylweddol eraill yn nodi fel arall bydd angen gwrthod caniatâd[88]. Bydd yn ofynnol bod cynigion datblygu'n asesu priodoleddau cydnerthedd ecosystemau yn unol â'r fframwaith a amlinellir ym mharagraff 6.4.9 o Bolisi Cynllunio Cymru 11 a bydd disgwyl iddynt ddiogelu a gwella'r priodoleddau hyn ar ôl datblygu.

11.416 O dan amgylchiadau eithriadol, gallai'r angen am ddatblygiad wrthbwyso'r angen i ddiogelu safle penodol. Mewn achosion o'r fath, bydd effaith yn cael ei hosgoi, ei lleihau i'r eithaf a'i lliniaru hyd y bo'n bosibl (yn unol â'r hierarchaeth liniaru) a phan fydd effeithiau gweddillol yn parhau, caiff mesurau eu rhoi ar waith i sicrhau bod darpariaeth cynefinoedd bywyd gwyllt amgen neu fesurau creu cynefinoedd yn cael eu darparu er mwyn sicrhau nad oes colled net ym mioamrywiaeth yr ardal neu'r nodwedd ar y cyfan.

11.417 Bydd lleoliad a graddfa datblygiad, gan gynnwys natur y cynefinoedd ar y safle a'r ardal gyfagos yn ystyriaeth yn natur unrhyw reolaeth y mae ei hangen.

11.418 Dylai effeithiau posibl datblygiad, naill ai'n unigol neu'n gronnol, gael eu hystyried yn ofalus wrth benderfynu ar unrhyw gynnig. Yn hyn o beth, gall effaith sŵn, dirgryndod, draenio, goleuadau, traffig ac ystyriaethau o ran ansawdd aer ddwyn goblygiadau yn ystod y broses adeiladu neu ar ôl cwblhau unrhyw ddatblygiad.

11.419 Bydd y defnydd o amodau cynllunio a/neu rwymedigaethau cynllunio yn cael ei ystyried lle bo hynny'n briodol.

NE3: Coridorau, Rhwydweithiau a Nodweddion Unigryw

Bydd disgwyl i gynigion datblygu gynnal a gwella coridorau ecolegol, rhwydweithiau, a nodweddion arbennig. Bydd cynigion sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer cadw a rheoli nodweddion o'r fath yn briodol yn cael eu cefnogi.

Bydd cynigion sy'n arwain at effaith andwyol ar gysylltedd neu gyfanrwydd coridorau ecolegol, rhwydweithiau neu nodweddion arbennig ond yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Bod camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r holl effeithiau andwyol yn unol â'r hierarchaeth liniaru;
  2. Pan nad yw hyn yn ymarferol, sicrhau bod mesurau digolledu digonol yn cael eu rhoi ar waith sy'n mynd i'r afael â phob effaith andwyol bosibl ar fioamrywiaeth sy'n deillio o'r cynigion; a
  3. Mewn amgylchiadau eithriadol, lle mae'r rhesymau dros y datblygiad a/neu'r newid mewn defnydd tir yn amlwg yn drech na'r angen i ddiogelu buddion bioamrywiaeth a chadwraeth natur y safle.

Ni ddylai cynigion datblygu achosi unrhyw golled sylweddol o gynefinoedd neu boblogaethau o rywogaethau, yn lleol neu'n genedlaethol, a rhaid iddynt ddarparu buddion net i fioamrywiaeth.

11.420 Mae'r polisi hwn yn ceisio sicrhau bod coridorau, rhwydweithiau a nodweddion unigryw ecolegol yn cael eu diogelu a'u rheoli'n briodol. Mae'r rhain yn cynnwys nodweddion sydd, oherwydd eu strwythur llinol a pharhaus neu eu swyddogaethau fel 'camau graddol' neu 'goridorau bywyd gwyllt', yn hanfodol ar gyfer lleihau darniad cynefinoedd a rhoi anogaeth ar gyfer mudo a gwasgariad ecolegol neu gyfnewid genetig. Gall diogelu'r nodweddion hyn wneud cyfraniad pwysig i ddyletswydd y Cyngor o dan Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r rhain hefyd yn werthfawr o ran eu cyfraniad i ansawdd yr amgylchedd lleol ac o ran ei gwneud yn bosibl addasu a bod yn gydnerth yn wyneb y newid yn yr hinsawdd.

11.421 Mae'r nodweddion a fydd yn cyfrannu yn cynnwys: llwyni, ffosydd a chloddiau, waliau cerrig, nentydd, lleiniau cysgodi o goed, coetiroedd, hen goed, parcdiroedd, lonydd gwyrdd, coridorau afonydd, llynnoedd, pyllau, ymylon ffyrdd, neu fosaig cynefinoedd neu rwydweithiau o gynefinoedd eraill sy'n bwysig yn lleol gan gynnwys corsydd mawn, gweundir, gwlypdiroedd, morfeydd heli, twyni tywod a glaswelltiroedd sy'n gyforiog o rywogaethau.

11.422 Mae darparu cysylltedd ecolegol yn un o wasanaethau ecosystemau pwysig y Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas ac mae ei ddiogelu a/neu ei wella yn gyson â Pholisi PSD3 Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas. Wrth nodi'r nodweddion hyn ac wrth weithredu'r polisi hwn, dylid cyfeirio at yr Asesiad Seilwaith Gwyrdd a Glas a mapiau cysylltiedig[89].

NE4: Datblygiad o fewn Ardal Canllawiau Cynllunio Atodol Caeau'r Mynydd Mawr

Caniateir cynigion datblygu lle maent yn unol ag ymrwymiad y Cyngor i hyrwyddo a chyfrannu at y gwaith o gyflawni Amcanion Cadwraeth Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau'r Mynydd Mawr yn unol â'r Rheoliadau Cynefinoedd. Bydd yn ofynnol i gynigion sydd wedi'u lleoli yn Ardal y Canllawiau Cynllunio Atodol gyfrannu tuag at gynyddu ansawdd a maint y cynefin sydd ar gael ar gyfer Britheg y Gors o fewn Ardal y Canllawiau Cynllunio Atodol.

Er mwyn cyflawni'r Amcanion Cadwraeth, ac i wneud iawn am golli cynefin cynhaliol posibl a chysylltedd ar gyfer Britheg y Gors a allai ddigwydd o ganlyniad i'r datblygiad, bydd y Cyngor (lle bo'n berthnasol) yn ceisio sicrhau Rhwymedigaethau Cynllunio (yn unol â pholisi INF1 y CDLl a darpariaethau'r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau'r Mynydd Mawr) gan ddatblygiadau perthnasol yn ardal y Canllawiau Cynllunio Atodol.

11.423 Gall datblygiadau fynd ymlaen yn ardal Canllawiau Cynllunio Atodol Caeau'r Mynydd Mawr ar yr amod na fydd unrhyw effaith sylweddol debygol amlwg ar Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau'r Mynydd Mawr (ACA Caeau'r Mynydd Mawr). I'r perwyl hwn, bydd y Cyngor (lle bo'n briodol) yn ceisio cyfraniadau gan ddatblygwyr i ariannu gwaith y Cyngor i gyflawni prosiect rheoli cynefinoedd y Cyngor yn ardal y Canllawiau Cynllunio Atodol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol Caeau'r Mynydd Mawr (Canllawiau Cynllunio Atodol ACA Caeau'r Mynydd Mawr) a fydd yn cael eu mabwysiadu ar yr un pryd â'r Cynllun. [90]

11.424 Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol yn darparu mecanwaith i ddatblygwyr geisio lliniaru effaith eu cynigion ar yr ACA trwy gyfrannu at brosiect rheoli cynefinoedd Caeau'r Mynydd Mawr y Cyngor. I sicrhau bod y CDLl yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Cynefinoedd, bydd y Cyngor (lle y bo'n briodol) yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau rhwymedigaethau mewn perthynas ag ACA Caeau'r Mynydd Mawr ar gyfer cynigion sydd wedi'u lleoli o fewn Ardal Canllawiau Cynllunio Atodol Caeau'r Mynydd Mawr.

11.425 Caiff y Canllawiau Cynllunio Atodol eu llywio gan sylfaen dystiolaeth gadarn. Mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol yn nodi rhestr codi tâl sy'n ffurfio'r man cychwyn ar gyfer pob trafodaeth ynghylch y cyfraniad sy'n ofynnol gan ddatblygwyr. Dylid cyfeirio at y Canllawiau Cynllunio Atodol o ran unrhyw gyfraniadau arfaethedig 'mewn da' a gynigir gan ddatblygwyr.

11.426 Caiff Ardal Canllawiau Cynllunio Atodol Caeau'r Mynydd Mawr ei nodi ar y Map Cynigion.

NE5: Rheoli'r Arfordir

Bydd cynigion ar gyfer cynlluniau rheoli arfordirol yn cael eu caniatáu, ar yr amod:

  1. Bod cyfiawnhad priodol dros yr angen am y datblygiad;
  2. Bod y datblygiad yn gydnaws â'r amgylchedd o'i gwmpas;
  3. Ei fod yn diogelu, yn gwella ac, os yw'n briodol, yn creu cysyllteddau cerdded â Llwybr Arfordir Cymru a'r rhwydwaith llwybrau troed;
  4. Na fydd y cynllun yn arwain at gynnydd mewn erydiad, llifogydd nac ansadrwydd tir;
  5. Eu bod yn gwarchod ac yn gwella'r dirwedd, y forwedd a'r amgylchedd hanesyddol, ac mae ganddynt fanteision net i fioamrywiaeth.

Bydd cynigion yn cael eu hannog i ddarparu llwybrau Teithio Llesol ychwanegol i gysylltu cymunedau a llwybrau presennol â Llwybr Arfordir Cymru.

11.427 Mae gan gynlluniau amddiffyn yr arfordir rôl bwysig o ran diogelu poblogaeth, asedau ac adnoddau'r Sir rhag llifogydd llanwol ac erydu. Mae'r polisi hwn yn ceisio sicrhau bod cynlluniau rheoli arfordirol yn cael eu llunio mewn lleoliadau priodol, ac nad ydynt yn cael effaith niweidiol ar y dirwedd o'u hamgylch. Bydd yn ofynnol i gynlluniau roi sylw i ddiogelu rhywogaethau a chynefinoedd yn unol â Pholisi Strategol SP13.

11.428 Bydd anogaeth yn cael ei rhoi i gynnwys cyfleusterau hamdden a mynediad cyhoeddus priodol o fewn cynlluniau.

11.429 Ni fydd cynlluniau rheoli arfordirol newydd na gwelliannau i gynlluniau sydd eisoes yn bodoli yn cael eu caniatáu at ddibenion galluogi datblygiadau newydd mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd neu erydiad arfordirol.

11.430 Bydd disgwyl i gynigion ystyried cynnwys Cynllun Rheoli Traethlin De Cymru (Trwyn Larnog i Benrhyn y Santes Ann) (SMP2). Mae'r Cynllun Rheoli Traethlin hwn yn ceisio lleihau'r peryglon hyn i bobl ac i'r amgylcheddau datblygedig, hanesyddol a naturiol, ac yn nodi sut y dylid rheoli'r arfordir yn y dyfodol trwy nifer o bolisïau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol hirdymor cynaliadwy ar gyfer yr arfordir.

11.431 Cyfeirir yn benodol at Bolisi NE7: Ardal Rheoli Newid Arfordirol a'i gyd-destun mewn perthynas â datblygiadau o fewn, neu yr effeithir arnynt gan, bolisïau 'dim ymyriad gweithredol' ac 'adlinio a reolir' yn y Cynllun Rheoli Traethlin.

11.432 Mae'r cynigion sydd yn y CDLl hwn wedi'u paratoi gan roi sylw dyledus i'r polisïau a nodir yn SMP2.

NE6: Datblygu'r Arfordir

  1. Bydd cynigion ym mhob lleoliad arfordirol yn cael eu caniatáu dim ond ar yr amod:
    1. Eu bod wedi cymryd i ystyriaeth faterion sy'n gysylltiedig â newid arfordirol;
    2. Na fyddant yn niweidio'r forwedd mewn modd annerbyniol trwy raddfa, màs a dyluniad amhriodol.
  2. Bydd cynigion datblygu mewn lleoliadau arfordirol sydd heb eu datblygu yn cael eu caniatáu dim ond ar yr amod:
    1. Bod angen eu lleoli mewn lleoliad arfordirol;
    2. Eu bod yn rhan o gynllun rheoli arfordir angenrheidiol;
    3. Nad ydynt yn cynyddu'r risg o erydu, llifogydd neu ansadrwydd tir;
    4. Na fyddent yn arwain at yr angen am fesurau newydd i ddiogelu'r arfordir;
    5. Eu bod yn gwarchod ac yn gwella'r dirwedd, y forwedd, a'r amgylchedd hanesyddol, ac mae ganddynt fanteision net i fioamrywiaeth. .

11.433 Mae gan Sir Gaerfyrddin ardal helaeth o forlin, sy'n ymestyn o aber Afon Llwchwr i Marros. Gellir diffinio'r ardal arfordirol fel ardaloedd lle mae'r tir a'r môr cyfagos yn cael eu hystyried yn gyd-ddibynnol ar ei gilydd.

11.434 Anaml y bydd yr arfordir sydd heb ei ddatblygu yn cael ei ystyried fel y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer datblygu, a dylai unrhyw gynigion ystyried cynnwys SMP2, yn ogystal â pholisïau eraill y Cynllun.

11.435 Mae materion sy'n gysylltiedig â newid arfordirol yn cynnwys: risgiau erydu, llifogydd, ansadrwydd tir, y dulliau a ffefrir i fynd i'r afael â risgiau o'r fath, a'r effeithiau ar fioamrywiaeth a chydnerthedd ecolegol.

11.436 Cyfeirir at bolisi NE7: Ardal Rheoli Newid Arfordirol a'i gyd-destun mewn perthynas â datblygiadau o fewn, neu yr effeithir arnynt gan, bolisïau 'dim ymyriad gweithredol' ac 'adlinio rheoledig' SMP2.

NE7: Ardal Rheoli Newid Arfordirol

Mae'r Ardal Rheoli Newid Arfordirol wedi'i diffinio fel yr ardaloedd hynny lle mae SMP2 yn nodi polisi o 'ddim ymyriad gweithredol' ac 'adlinio rheoledig'.

Ni ddylai cynigion datblygu sydd wedi'u lleoli o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol a nodwyd gael effaith niweidiol ar gyfraddau newid arfordirol mewn mannau eraill, a byddant yn amodol ar y canlynol:

1. Datblygiad Preswyl Newydd

Ni chefnogir cynigion ar gyfer unrhyw ddefnydd preswyl o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol.

2. Adleoli Anheddau Preswyl Presennol

Bydd cynigion i adleoli anheddau preswyl presennol o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol yn cael eu caniatáu o dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Lle mae'r datblygiad yn disodli annedd barhaol yr effeithir arni neu a fygythir gan erydiad a/neu berygl llifogydd arfordirol o fewn 20 mlynedd i ddyddiad y cynnig; a
  2. Lle mae'r annedd a adleolwyd wedi ei lleoli o fewn pellter priodol i'r tir o ran yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol a gwybodaeth arall yn y Cynllun Rheoli Traethlin, ac lle mae mewn lleoliad sydd:
    1. yn achos annedd amaethyddol, o fewn y daliad fferm neu o fewn neu'n ffinio ag aneddiadau presennol, neu
    2. o fewn neu'n ffinio ag aneddiadau presennol yn agos at y lleoliad y cafodd ei dadleoli ohono;
    3. yn achos carafán/carafanau sefydlog, caban(nau) gwyliau neu uned(au) llety ymweld parhaol eraill - o fewn, gerllaw neu o fewn pellter derbyniol i'r safle presennol.
  3. Bod safle'r annedd bresennol yn cael ei glirio o unrhyw adeiladau neu daclau preswyl ac yn cael ei wneud yn ddiogel; a,
  4. Bod yr annedd newydd yn debyg o ran maint i'r hyn y mae wedi'i bwriadu i'w ddisodli; a,
  5. Bod y cynnig yn cydnabod y priod ymdeimlad o le o fewn yr ardal ac na ddylai gael effaith niweidiol ar dirwedd, trefwedd, morwedd a/neu fioamrywiaeth yr ardal, a

3. Adeiladau Amhreswyl

Bydd cynigion ar gyfer y mathau canlynol o ddatblygiadau amhreswyl newydd yn cael eu caniatáu o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol a ragwelir fel rhai sydd mewn perygl o newid arfordirol, yn amodol ar Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd ac Asesiad Sadrwydd derbyniol:

  1. datblygiad sy'n gysylltiedig yn uniongyrchol â'r ardal arfordirol (e.e., cytiau traeth, caffis, ystafelloedd te, siopau, gweithgareddau hamdden); a
  2. datblygiad sy'n darparu buddion economaidd a chymdeithasol sylweddol i'r gymuned; a
  3. lle gellir dangos na fydd mwy o risg i fywyd, nac unrhyw risg sylweddol i eiddo.

Caniateir ailddatblygu, neu estyniadau i, eiddo amhreswyl presennol neu ddwysáu defnydd tir amhreswyl presennol ar safleoedd o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol, lle gellir dangos trwy Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd ac Asesiad Sadrwydd addas na fydd risg fwy o gwbl i fywyd, nac unrhyw risg sylweddol i eiddo (lle y bo'n briodol).

4. Estyniadau i Anheddau a Seilwaith Presennol

Bydd cynigion ar gyfer y mathau canlynol o ddatblygiadau yn cael eu caniatáu yn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol, yn amodol ar Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd a/neu Asesiad Sadrwydd addas:

  1. Estyniadau preswyl cyfyngedig sydd â chysylltiad agos â graddfa bresennol yr eiddo;
  2. Datblygiad atodol o fewn cwrtil preswyl anheddau presennol;
  3. Bydd seilwaith cymunedol a seilwaith arall allweddol (gan gynnwys ffyrdd), y mae'n ofynnol eu lleoli o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol i ddarparu'r budd a fwriadwyd ar gyfer y gymuned ehangach, yn cael eu caniatáu lle mae cynlluniau clir i reoli effaith newid arfordirol ar y cynnig a'r gwasanaethau a ddarperir ganddo.

Ni ddylai cynigion datblygu achosi unrhyw golled sylweddol o gynefinoedd neu boblogaethau o rywogaethau, yn lleol neu'n genedlaethol, a rhaid iddynt ddarparu buddion net i fioamrywiaeth.

11.437 Fel gyda pholisi NE6, dylid ystyried SMP2 sy'n gosod ystod o bolisïau ar gyfer y morlin, sef 'cadw'r llinell', 'dim ymyriad gweithredol' neu 'adlinio rheoledig', fesul cyfnod polisi (sef: hyd at 2025, 2026 - 2055, a 2056 - 2105).

11.438 Gellir gweld yr SMP2 yn www.southwalescoast.org. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y dylai Awdurdodau Lleol helpu i leihau perygl llifogydd ac effaith erydu arfordirol trwy osgoi datblygu amhriodol mewn ardaloedd sydd dan fygythiad.

11.439 Mae'r Ardal Rheoli Newid Arfordirol yn cynrychioli lle mae'r polisi SMP2 a dderbynnir ar gyfer 'dim ymyriad gweithredol' neu 'adlinio rheoledig' yn ystod cyfnod y cynllun.

11.440 Nid ystyrir bod datblygiad preswyl newydd yn addas yn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol. Mae hyn yn adlewyrchu lefel y perygl o erydu arfordirol a llifogydd yn yr ardaloedd hyn. Bydd gweithredu'r dull hwn yr un mor berthnasol i gynigion i newid defnydd adeiladau parhaol eraill i lety preswyl ac anheddau yn lle rhai blaenorol, ac mae'n rhan o ymagwedd ragofalus a arweinir gan yr ystyriaethau polisi a nodir yn SMP2.

11.441 Mae'r math o ddefnydd preswyl y mae hyn yn berthnasol iddo yn cynnwys anheddau unigol, fflatiau uwchlaw eiddo masnachol presennol, tai gwarchodol, llety myfyrwyr, hosteli, tai a rennir i bobl anabl, cartrefi nyrsio a chartrefi gofal, addysg breswyl, carafannau sefydlog a chabannau gwyliau (gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â hamdden a thwristiaeth) lle maent wedi'u cysylltu â seilwaith ac yn rhan o safle a chanolfannau hyfforddi sefydledig a wasanaethir yn llawn.

11.442 Bydd amodau cynllunio yn cael eu cymhwyso, neu bydd rhwymedigaeth gynllunio yn cael ei sicrhau lle bo angen: cyfyngu ar fywyd cynlluniedig datblygiad neu ddefnydd tymhorol; dileu datblygiad sydd â therfyn amser arno neu anheddau presennol pan ddaw'r defnydd i ben; adolygu caniatadau cynllunio perthnasol; rheoli meddiannaeth ar annedd a adleolwyd.

11.443 Er mwyn galluogi cymunedau arfordirol i addasu i newid arfordirol, mae'r Polisi yn hwyluso adleoli a disodli anheddau parhaol i leoliadau amgen sy'n ddiogel rhag erydu arfordirol. Mae'n ceisio sicrhau bod cymunedau arfordirol yn parhau i fod yn gynaliadwy trwy gynnal lefelau'r stoc dai a lleihau'r risg i bobl ac eiddo.

11.444 Lle y mae angen caniatâd ar gyfer estyniad i eiddo preswyl, fe'i cefnogir lle gellir dangos bod y manteision i berchennog y cartref yn drech nag unrhyw gynnydd yn y risg i'r eiddo. Fodd bynnag, rhaid ystyried llesiant y meddianwyr, y perygl i fywyd o ganlyniad i lifogydd, neu erydiad.

11.445 Bydd datblygiadau amhreswyl yn amodol ar yr amserlen a ragwelir ar gyfer colli'r eiddo o ganlyniad i erydu arfordirol. Byddai hyn yn berthnasol i gynigion ar gyfer defnyddiau megis cyfleusterau cymunedol, defnydd busnes, meysydd chwaraeon a chaeau chwarae. Dylai'r asesiad risg ystyried y buddiannau'n llawn yn erbyn y risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio eiddo a allai fod yn gyfyngedig ei oes.

11.446 Lle y bo'n briodol, gellir defnyddio caniatâd cynllunio am gyfnod cyfyngedig i reoli oes arfaethedig datblygiad newydd. Byddai hyn yn caniatáu rheolaeth dros ddyfodol y datblygiad a'r perygl posibl i eiddo a phobl lle bo hynny'n briodol.

Polisi Strategol – SP 15: Diogelu a Gwella'r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol

Dylai cynigion datblygu ddiogelu neu wella amgylchedd adeiledig a hanesyddol y sir, ei hasedau diwylliannol, trefweddol a thirweddol, a, lle bo hynny'n briodol, eu lleoliad.

Disgwylir i gynigion hybu dyluniad o ansawdd da sy'n atgyfnerthu cymeriad lleol ac yn parchu a gwella'r priodweddau diwylliannol a hanesyddol ardal y cynllun.

11.447 Mae gan Sir Gaerfyrddin dreftadaeth adeiledig hanesyddol a diwylliannol gyfoethog ac amrywiol, gydag amrediad o Ardaloedd Cadwraeth, Adeiladau Rhestredig a Henebion Cofrestredig. Mae cydnabod treftadaeth adeiledig ardal y cynllun a'i diogelu yn hanfodol, gan ddarparu teimlad o hanes, cymeriad ac ymdeimlad o le.

11.448 Mae ardal y Cynllun hefyd yn cynnwys safleoedd a nodweddion archeolegol sydd wedi'u darganfod, ac sydd eto i'w darganfod. Nod y Polisi a'r Cynllun, ynghyd â deddfwriaeth sylfaenol ar yr amgylchedd adeiledig ac adeiladau hanesyddol, yw diogelu cyfanrwydd aneddiadau hanesyddol, nodweddion ac adeiladau o fewn ardal y Cynllun. Lle bo'n berthnasol, mae hefyd yn ceisio cyfrannu at wella'r amgylchedd hanesyddol ac adeiledig. Mae hyn yn cydnabod bod ein hasedau hanesyddol yn adnoddau unigryw, a bod eu gwarchod yn darparu manteision cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol.

11.449 Dylai adeiladau, trefwedd a thirwedd hanesyddol y sir gael eu hystyried yn asedau a'u diogelu a'u gwella mewn modd cadarnhaol er budd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Nid newid ac esgeulustod yn unig sy'n effeithio ar y rhain ond hefyd newidiadau i'w lleoliad. O'r herwydd, mae'n bwysig ystyried hyn wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â chynigion mae'n bosibl y byddant yn cael effaith.

11.450 Mae llawer o elfennau o amgylchedd adeiledig a hanesyddol y Sir yn cael eu diogelu trwy ddeddfwriaeth neu ddarpariaethau polisi eraill, a chan hynny nid oes angen polisïau i ymdrin â hwy yn y CDLl diwygiedig. Felly nid yw'r Cynllun yn cynnwys polisïau mewn perthynas â nodweddion ar y dreftadaeth adeiledig megis Henebion Cofrestredig gan eu bod yn cael eu diogelu'n ddigonol mewn mannau eraill.

11.451 Fodd bynnag, ceir agweddau sy'n ymwneud â diogelu'r amgylchedd hanesyddol y gellir mynd i'r afael â hwy drwy'r CDLl diwygiedig, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â nodweddion lleol ac adeiladau lleol.

11.452 Mae canllawiau a deddfwriaeth eglur mewn perthynas â'r canlynol i'w cael ym Mholisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11 – Pennod 6: Gwarchod yr Amgylchedd Hanesyddol, a Pholisi Strategol SP14 – Cynnal a Gwella'r Amgylchedd

11.453 Naturiol sy'n cydnabod pwysigrwydd ardaloedd a nodweddion o'r fath yn y Sir:

  • Parciau a Gerddi Hanesyddol[91] - Mae llawer o barciau a gerddi yn hanesyddol arwyddocaol ac wedi'u rhestru yn y Gofrestr Parciau a Gerddi Hanesyddol yng Nghymru. Mae'r ardaloedd hyn hefyd wedi'u diffinio ar Fap Cynigion y CDLl;
  • Tirweddau Hanesyddol[92]
  • Olion Archaeolegol[93]
  • Datblygiadau Galluogi[94] - mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi'r darpariaethau y byddai cynnig galluogi yn cael ei ystyried drwyddynt
  • Henebion Cofrestredig – caiff y rhain eu diffinio ar y Map Cynigion

11.454 Bydd yr awdurdod yn paratoi Canllawiau Cynllunio Atodol fel y bo'n briodol a lle bo angen mewn perthynas â'r Amgylchedd Hanesyddol ac Adeiledig, yn ogystal ag Archaeoleg.

Polisi BHE1: Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth

  1. Dim ond pan fyddant yn cyd-fynd â'r canlynol y caniateir cynigion mewn perthynas ag adeilad rhestredig:
    1. Bydd angen i gynigion ar gyfer newid a/neu ymestyn adeilad rhestredig, neu ei gwrtil, sicrhau bod y cymeriad pensaernïol arbennig, neu'r diddordeb hanesyddol, yn cael ei gadw neu ei wella;
    2. Dim ond pan fydd yn cyfrannu at gadw adeilad neu at ei ailddefnyddio mewn modd cynaliadwy y caniateir newid defnydd adeilad rhestredig, neu ei gwrtil, a hynny gan osgoi effaith niweidiol ar ei gymeriad, ei ddiddordeb arbennig neu ei uniondeb strwythurol;
    3. Caniateir cynigion ar gyfer dymchwel adeilad rhestredig yn llwyr neu'n sylweddol dim ond pan fo'r cyfiawnhad cryfaf a thystiolaeth argyhoeddiadol bod y cynnig yn angenrheidiol;
    4. Mae'n rhaid i gynigion sydd â pherthynas â lleoliad adeilad rhestredig, neu sy'n effeithio ar ei leoliad, sicrhau bod y lleoliad yn cael ei warchod neu ei wella.
  2. Caniateir datblygiadau o fewn neu'n gyfagos at ardal gadwraeth, lle y byddent yn gwarchod neu'n gwella cymeriad neu ymddangosiad yr ardal gadwraeth, neu ei lleoliad.
  3. Dylai datblygiadau newydd mewn ardaloedd cadwraeth fod â dyluniad o safon uchel sy'n ymateb i nodweddion a phriodweddau arbennig yr ardal.

11.455 Lle mae cynnig yn un ar gyfer adeilad newydd o fewn ardal gadwraeth, dylai roi sylw i'r canlynol:

  • Golygfeydd, fistâu, strydluniau, toeau, coed, mannau agored, bylchau a nodweddion eraill pwysig sy'n cyfrannu at gymeriad neu ymddangosiad yr ardal gadwraeth;
  • Ffiniau hanesyddol arwyddocaol neu elfennau eraill sy'n cyfrannu at y ffurf sefydledig ar ddatblygu;
  • Y berthynas â'r adeiladau, mannau presennol, a ffurf anheddu sydd eisoes yn bodoli;
  • Graddfa, taldra a dwysedd, dyluniad pensaernïol, a deunyddiau.

BHE2: Cymeriad y Dirwedd

Dylai cynigion datblygu ymwneud â thirwedd benodol a nodweddion gweledol yr ardal leol, gan sicrhau y cynhelir cyfanrwydd cyffredinol cymeriad y dirwedd trwy:

  1. nodi, diogelu a, lle y bo'n briodol, gwella'r dirwedd unigryw a'r dreftadaeth hanesyddol, ddiwylliannol, ecolegol a daearegol, gan gynnwys elfennau naturiol a rhai o waith dyn sy'n gysylltiedig â chymeriad presennol y dirwedd;
  2. diogelu dynodiadau tirwedd rhyngwladol a chenedlaethol gan gynnwys Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a'u lleoliadau;
  3. gwarchod arbenigrwydd, ymdeimlad o le a lleoliad lleol;
  4. parchu a gwarchod nodweddion penodol ar y dirwedd, ac integreiddio egwyddorion creu lleoedd a seilwaith gwyrdd a glas;
  5. gwarchod golygfeydd a fistâu allweddol o'r dirwedd.

11.456 Nodweddir Sir Gaerfyrddin gan adnoddau tirwedd amrywiol ac o ansawdd uchel ac ardaloedd o werth gweledol nodedig. Mae hefyd yn cynnwys neu'n ffinio ag amrywiaeth o ddynodiadau tirwedd, gan gynnwys Bannau Brycheiniog a Pharciau Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Penrhyn Gŵyr.

11.457 Mae priodoleddau tirwedd allweddol y Sir yn amrywiol ac yn cynnwys ardaloedd ucheldirol, gwastatiroedd arfordirol a dyffrynnoedd afonydd o werth tirwedd a phwysigrwydd ecolegol uchel. Mae'r rhain yn darparu manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol sylweddol ac yn helpu i greu ymdeimlad o le.

11.458 Mae'r Polisi yn ceisio diogelu, cynnal, a (lle y bo'n briodol) gwella cymeriad ac ansawdd tirwedd Sir Gaerfyrddin gyda'r nodweddion hynny sy'n cyfrannu at gymeriad unigryw'r Sir yn cael mesurau gwarchod ar lefelau priodol gyda'u harwyddocâd yn cael ei amlygu gan ddefnyddio adnodd LANDMAP CNC. Sylwer: Adnodd tirwedd sy'n seiliedig ar System Gwybodaeth Ddaearyddol yw LANDMAP lle caiff nodweddion tirwedd, ei phriodweddau a dylanwadau ar y dirwedd eu cofnodi a'u gwerthuso i greu set ddata sy'n gyson yn genedlaethol.

11.459 Bydd y polisi yn cael ei ategu gan Asesiad o Gymeriad y Dirwedd a Chanllawiau Cynllunio Atodol. Bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol hyn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed a'r darpariaethau polisi o ran Creu Lleoedd a Seilwaith Gwyrdd a Glas wrth ddatblygu cyfres integredig o ddogfennau canllaw i lywio cynigion datblygu.

11.460 Bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol hyn yn nodi ac yn disgrifio ardaloedd a mathau o gymeriad tirwedd nodedig ledled ardal y cynllun.

11.461 Yn hyn o beth pwrpas y polisi yw adlewyrchu hynodrwydd, nodweddion a sensitifrwydd penodol cydrannau tirwedd y sir.

Cysylltiadau Cryf - Pobl, lleoedd a sefydliadau y mae cysylltiad cryf rhyngddynt sy'n gallu addasu i newid

11.462 Mae'r CDLl Diwygiedig hwn yn ceisio deall a chydnabod rôl cymuned ac ymdeimlad o le trwy geisio dosbarthu datblygiadau newydd mewn modd sy'n cydnabod ac yn parchu rôl a swyddogaeth ein aneddiadau.

11.463 Trwy ddosbarthu twf mewn modd cynaliadwy mae'n cydnabod gwerth cysylltedd. Mae'r Cynllun yn ceisio helpu i greu cymunedau cysylltiedig sy'n gydnerth, yn ffyniannus ac yn gallu meithrin llesiant ymysg trigolion.

11.464 Trwy greu Sir gydnerth, gysylltiedig a chynaliadwy, mae'r Cynllun yn ceisio adlewyrchu'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau a'r angen i ymateb yn gadarnhaol. Mae'n pennu fframwaith i gyfrannu at fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac yn datblygu strategaeth ac agenda bolisi sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cynaliadwy, gan gydnabod amrywiaeth y Sir ar yr un pryd.

11.465 Cydnabyddir bod y themâu a'r polisïau a ddyrennir iddynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd, ond nodwyd y canlynol o dan y thema hon:

  • Polisi Strategol – SP 16: Newid yn yr Hinsawdd
  • Polisi Strategol – SP 17: Trafnidiaeth a Hygyrchedd
  • Polisi Strategol – SP 18: Adnoddau Mwynol
  • Polisi Strategol – SP19: Rheoli Gwastraff

11.466 Mae'r polisïau a ganlyn yn ceisio cefnogi cyflawniad amcanion strategol y Cynllun, ond hefyd yn creu cysylltiadau lefel uchel ac yn sicrhau y cydymffurfir yn fras â'r Nodau Llesiant.

Polisi Strategol – SP 16: Newid yn yr Hinsawdd

Bydd cynigion datblygu'n cael eu cefnogi os ydynt yn ymateb i newid yn yr hinsawdd neu'n addasu iddo, yn cynyddu'r gallu i'w wrthsefyll, ac yn lleihau ei achosion a'i effeithiau. Rhaid i gynigion:

  1. Gyfrannu at leihau allyriadau carbon trwy adlewyrchu egwyddorion trafnidiaeth gynaliadwy a lleihau'r angen i deithio, yn arbennig mewn ceir modur preifat;
  2. osgoi, neu pan fo'n briodol, lleihau'r risg o lifogydd yn cynnwys ymgorffori mesurau megis SuDS a dyluniad cydnerth mewn perthynas â llifogydd);
  3. Hyrwyddo fframwaith ynni trwy leihau'r galw am ynni, hyrwyddo effeithlonrwydd ynni a chynyddu cyflenwad ynni adnewyddadwy;
  4. Ymgorffori atebion cynllun ymateb priodol i'r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys cyfeiriad, cynllun, dwysedd ac atebion carbon isel (gan gynnwys dulliau cynllunio ac adeiladu) a defnyddio dulliau adeiladu cynaliadwy pan fo hynny'n ymarferol; a/neu
  5. Cyfrannu tuag at ddiogelu a gwella asedau Seilwaith Gwyrdd a Glas a rhwydweithiau ecolegol cydnerth fel dalfeydd carbon.

Ni fydd cynigion datblygu sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd sydd yn wynebu risg llifogydd yn cael eu caniatáu oni bai eu bod yn cydymffurfio â darpariaethau Polisi Cynllunio Cymru TAN 15.

11.467 Mae'r angen i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn peri her sylfaenol os bwriedir cyflawni datblygu cynaliadwy a'r rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Mae'r goblygiadau economaidd, cymdeithasol, ac amgylcheddol sy'n deillio o newid yn yr hinsawdd yn ddwys a chânt eu cydnabod yn Natganiad Ardal De-orllewin Cymru ac yn y datganiad o argyfwng hinsawdd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.

11.468 Bydd yr hinsawdd sy'n newid a'r effeithiau ar Gymru a ragwelir gan Raglen Effeithiau Hinsawdd y DU yn peri heriau difrifol ar gyfer y system gynllunio gyfredol. Wrth fynd i'r afael â nhw, mae Polisi Cynllunio Cymru yn amlinellu cyfres o amcanion y dylid eu hystyried wrth baratoi cynllun datblygu.

11.469 Mae'r CDLl yn categoreiddio aneddiadau yn ôl hierarchaeth sy'n adlewyrchu eu cynaliadwyedd cymharol ac yn ystyried yr hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy. Mae dyhead y cynllun i leihau'r angen i deithio, yn enwedig mewn ceir modur preifat, a'i rôl o gyfrannu at y gwaith o hwyluso strategaeth drafnidiaeth integredig, yn ceisio cyfeirio datblygiadau at leoliadau priodol sy'n helpu i gyflawni hyn.

11.470 Mae effaith bosibl perygl llifogydd yn fater pwysig i'w ystyried wrth asesu priodoldeb safleoedd i'w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Yn hyn o beth, bydd dull rhagofalus yn cael ei ddefnyddio i nodi safleoedd i'w cynnwys yn y cynllun. Wrth ystyried unrhyw gynigion yng nghyd-destun llifogydd, rhoddir sylw i ddarpariaethau Polisi Cynllunio Cymru a TAN15: Datblygu a Pherygl Llifogydd, sy'n rhoi cyngor ar asesu datblygiadau lle mae perygl llifogydd.

11.471 Bydd yn ofynnol i gynigion sy'n cael eu heffeithio gan berygl llifogydd gyflwyno asesiad canlyniadau llifogydd fel rhan o unrhyw gais cynllunio a bydd y cyngor yn ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru. Lle mae rhan o safle'n cael ei heffeithio gan berygl llifogydd, bydd angen i'r datblygwr ystyried effaith perygl llifogydd ar ddatblygu gweddill y safle. Lle bo hynny'n briodol, dylai gynnal yr holl waith tystiolaeth angenrheidiol (gan gynnwys asesiad canlyniadau llifogydd) at foddhad Cyfoeth Naturiol Cymru. Dim ond datblygiadau llai agored i ddifrod fydd yn cael eu caniatáu ym Mharth C2. Dylid ystyried Polisi CCH4: Rheoli ac Osgoi Perygl Llifogydd fel y'i ceir o fewn y Cynllun hwn.

11.472 Disgwylir i ddatblygiadau ddangos egwyddorion dylunio da i hybu defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon, gan gynnwys lleihau gwastraff a llygredd, a chynyddu effeithlonrwydd ynni a'r defnydd effeithiol o adnoddau eraill cymaint â phosibl. Dylid cyfeirio at Bolisi Strategol PS 19 mewn perthynas â gwastraff, yr hierarchaeth gwastraff a lleihau gwastraff.

11.473 Disgwylir i gynigion datblygu ddefnyddio tir yn llawn ac mewn modd priodol. Rhaid i effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd fod yn ganolog i'r broses ddylunio, gan gynnwys y cyfraniad y gall y lleoliad, y dwysedd, y cynllun a'r ffurf adeiledig ei wneud tuag at ddatblygiadau sy'n ymateb i'r newid yn yr hinsawdd. Wrth fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd, bydd disgwyl hefyd i ddyluniad datblygiadau adlewyrchu'r Argyfwng Natur a darparu buddion net i fioamrywiaeth.

11.474 Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau i ddatgarboneiddio'r sector cyhoeddus, a chyflawni statws carbon sero net erbyn 2030. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio'r system gynllunio i fanteisio i'r eithaf ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y gall awdurdodau cynllunio lleol wneud cyfraniad cadarnhaol trwy ystyried y cyfraniad y gall eu hardal ei wneud tuag at ddatblygu a hwyluso ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel[95]. Mae targedau ynni adnewyddadwy wedi cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru ac yn cynnwys Cymru sy'n cynhyrchu 70% o'i defnydd trydan o ynni adnewyddadwy erbyn 2030 [96].

11.475 Bydd cynigion, defnydd tir ac arferion rheoli tir yn cael eu hannog lle maent yn helpu i sicrhau a diogelu dalfeydd carbon (gan gynnwys mawndiroedd). Gall dull o'r fath wella'r gallu i wrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd a lleihau achosion hynny trwy ddiogelu dalfeydd carbon.

11.476 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn gosod canllawiau clir mewn perthynas â'r gofynion ar gyfer datblygiadau sy'n ymateb i'r hinsawdd ac adeiladau cynaliadwy. Dylid cyfeirio at y Canllaw Ymarferol – Cynllunio ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy (Llywodraeth Cymru, 2014).

CCH1 - Ynni Adnewyddadwy o fewn Ardaloedd a Aseswyd o flaen llaw ac Ardaloedd Chwilio Lleol

Bydd cynigion ar gyfer ffermydd gwynt ar raddfa fawr o 10MW a throsodd yn cael eu caniatáu o fewn ardaloedd a nodwyd ac a aseswyd o flaen llaw ar gyfer Ynni Gwynt, fel y nodir yn "Cymru Dyfodol", yn amodol ar eu bod yn bodloni'r meini prawf a bennir isod.

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau solar o 5MW a mwy yn cael eu caniatáu mewn Ardaloedd Chwilio Lleol a nodwyd, ar yr amod nad ydynt yn cael effaith annerbyniol ar amwynder gweledol na chymeriad y dirwedd a'u bod yn bodloni'r meini prawf a bennir isod.

  1. Na fydd y datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar ddiogelwch ffyrdd, rheilffyrdd neu awyrennau; ymyriant electromagnetig annerbyniol i osodiadau cyfathrebu, systemau radar neu reoli traffig awyr, systemau cyfathrebu'r gwasanaethau brys, neu unrhyw systemau telathrebu eraill;
  2. Na fydd y cynigion yn achosi risg neu niwsans afresymol i, ac effaith ar, amwynder preswylwyr cyfagos neu aelodau eraill o'r cyhoedd, ac na fydd yn arwain at golli hygyrchedd cyhoeddus i'r ardal i raddau annerbyniol;
  3. Dylid cyflwyno mesurau lliniaru priodol gyda chynigion lle bo hynny'n ofynnol, gan gynnwys adfer tir yn foddhaol ar ôl datgomisiynu.

CCH2: Ynni Adnewyddadwy y tu allan i Ardaloedd a Aseswyd o flaen llaw ac Ardaloedd Chwilio Lleol

Bydd cynigion ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy a charbon isel a seilwaith cysylltiedig yn cael eu caniatáu ar yr amod eu bod yn cyd-fynd â'r canlynol:

  1. Na fydd y datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar amwynder gweledol neu gymeriad tirweddol trwy: nifer, graddfa, maint, dyluniad a lleoliad tyrbinau a seilwaith cysylltiedig;
  2. Na fydd y datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar ardaloedd sydd wedi'u dynodi oherwydd eu gwerth tirweddol;
  3. Ni ddylai datblygiadau tyrbinau gwynt gael effeithiau cronnus annerbyniol mewn perthynas â chydrannau tyrbinau gwynt presennol, y rhai sydd wedi cael caniatâd neu sy'n cael eu cynnig;
  4. Ni fydd y datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar ddiogelwch ffyrdd, rheilffyrdd neu awyrennau; ymyriant electromagnetig annerbyniol i osodiadau cyfathrebu, systemau radar neu reoli traffig awyr, systemau cyfathrebu'r gwasanaethau brys, neu unrhyw systemau telathrebu eraill;
  5. Na fydd y cynigion yn achosi risg neu niwsans afresymol i, ac effaith ar, amwynder preswylwyr cyfagos neu aelodau eraill o'r cyhoedd, ac na fydd yn arwain at golli hygyrchedd cyhoeddus i'r ardal i raddau annerbyniol;
  6. Dylid cyflwyno mesurau lliniaru priodol gyda chynigion lle bo hynny'n ofynnol, gan gynnwys adfer tir yn foddhaol ar ôl datgomisiynu.

11.477 Mae Polisi CCH1 a Pholisi CCH2 yn berthnasol i bob datblygiad ynni adnewyddadwy a charbon isel y mae angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer, ac yn nodi'r meini prawf y bydd cynigion yn cael eu hasesu yn eu herbyn. Gall y datblygiadau hyn gynnwys ffermydd gwynt ar y tir, tyrbinau gwynt, technoleg solar, biomas, ynni o wastraff, pŵer trydan dŵr a gwres a phŵer cyfunedig.

11.478 Mae'r Polisi hwn yn ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil ac i fynd ati i reoli'r newid i economi carbon isel.

11.479 Bydd cymorth penodol yn cael ei roi i brosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel sy'n cael eu datblygu gan gymunedau, neu a fydd o fudd i'r gymuned sy'n eu cynnal. Bydd gofyn i gynlluniau o'r fath gyd-fynd â darpariaethau'r polisïau uchod.

11.480 Bydd datblygiadau seilwaith cysylltiedig sydd yn ofynnol i helpu i gyflawni cynlluniau adnewyddadwy a charbon isel yn cael eu cefnogi, er enghraifft seilwaith grid a chyfleusterau storio ynni newydd, ar yr amod eu bod yn cyd-fynd â pholisïau'r Cynllun.

11.481 Mae Llywodraeth Cymru yn nodi Ardaloedd a Aseswyd ymlaen llaw ar gyfer Ynni Gwynt yn "Cymru'r Dyfodol". O fewn yr ardaloedd hyn, mae rhagdybiaeth o blaid datblygu ynni gwynt ar raddfa fawr, gan gynnwys ailbweru, yn amodol ar eu bod yn bodloni'r meini prawf a nodir ym Mholisi 18 Cymru'r Dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi modelu'r effaith debygol ar y dirwedd yn yr ardaloedd hyn, ac wedi gweld eu bod yn gallu cynnwys datblygiad mewn ffordd dderbyniol. Dosbarthir datblygiadau ynni ar raddfa fawr fel Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS). Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol ac maent yn cynnwys:

  • Pob cynhyrchu wynt ar dir o 10MW neu fwy.
  • Safleoedd cynhyrchu ynni eraill sydd â phŵer cynhyrchu rhwng 10MW a 350MW.

11.482 O fewn Meysydd a Aseswyd o flaen Llaw ar gyfer Ynni'r Gwynt, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad i nodi'r ardaloedd hyn er mwyn rhoi sicrwydd, mewn egwyddor, lle byddai cynlluniau ynni gwynt ar raddfa fawr yn dderbyniol.

Asesiad Ynni Adnewyddadwy

11.483 Cwblhawyd Asesiad Ynni Adnewyddadwy i lywio a darparu tystiolaeth ar gyfer Polisïau CCH1 a CCH2 ac er mwyn nodi'r potensial ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn yr ardal. Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r dull y mae'r Asesiad Ynni Adnewyddadwy wedi'i ddilyn, a bydd ei gynnwys yn dangos sut y gall y Cynllun gynorthwyo i gyrraedd targedau cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae'r Asesiad Ynni Adnewyddadwy yn cynnwys asesiad strategol lefel uchel o'r potensial ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel o wahanol fathau mewn gwahanol leoliadau.

11.484 Daw tablau 9 a 10 o'r Asesiad Ynni Adnewyddadwy ac maent yn manylu ar y cyfraniadau ynni adnewyddadwy realistig y gellid eu gwneud tuag at fodloni cyfran o gyfanswm y galw am ynni o fewn yr Awdurdod.

Technoleg Ynni

Ffactor Capasiti Tybiedig

Potensial Mwyaf* 20033

Presennol

Targed Ychwanegol** 2033

Cyfanswm y Capasiti Gosodedig 2033 (MW)

Cyfanswm yr Ynni a Gynhyrchir 2033 (MWh)

Capasiti Trydanol (MWe)

Ynni a Gynhyrchir (MWh)

Capasiti Gosodedig (MW)

Ynni a Gynhyrchir (MWh)

Capasiti Gosodedig (MW)

Ynni a Gynhyrchir (MWh)

Ynni Gwynt (presennol yn cynnwys Ardaloedd Chwilio Strategol)

0.27

935.4

2,212,408

164.1

388,129

588.5

1,391,979

752.6

1,780,109

Cnwd Ynni Biomas (Gwres a Phŵer Cyfunedig)

0.9

18.4

144,857

0

0

0

0

0

0

Ynni o wastraff gyda Gwres a Phŵer Cyfunedig

0.9

0.7

5,751

0

0

0

0

0

0

Ynni Dŵr

0.37

6.7

21,860

6.6

21,304

0.1

417

6.7

21,721

Nwy Tirlenwi

0.6

2.3

11,826

2.3

11,826

0

0

2.3

11,826

Ffermydd Solar Ffotofoltäig

0.1

24,768.6

21,697,316

126.5

110,851

305.2

267,311

431.7

378,162

Arall gan gynnwys gwastraff bwyd, slyri anifeiliaid, sbwriel dofednod, slwtsh carthion a nwy carthion (Treulio Anaerobig gyda Gwres a Phŵer Cyfunedig)

0.42

3.3

12,046

1.0

3,679

1.3

4,857

2.3

8,536

Adeilad Integredig

0.1

52.7

46,133

29.4

25,792

4.6

4,068

34.1

29,860

Cyfanswm

-

25,788

24,151,498

330

561,534

900

1,668,633

1,230

2,230,214

Galw am ynni trydanol 2008

923,148

Galw rhagamcanol am ynni trydanol

917,389

Canran y galw am drydan a atebir gan adnodd ynni adnewyddadwy

61%

243%

* Dyma'r adnodd mwyaf, mae'n cynnwys capasiti presennol a 100% o'r potensial.

** Targedau wedi'u seilio ar ganran y potensial mwyaf namyn yr hyn sy'n cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd.

Tabl 9: Crynodeb o'r Adnoddau ar gyfer Trydan Adnewyddadwy

Technoleg Ynni

Ffactor Capasiti Tybiedig

Potensial Mwyaf* 2033

Presennol

Targed ** Ychwanegol 2033

Cyfanswm y Capasiti Gosodedig

Cyfanswm yr Ynni a Gynhyrchir

Capasiti Gwres

(MWt)

Ynni a Gynhyrchir (MWh)

Capasiti Gosodedig (MWt)

Ynni a Gynhyrchir (MWh)

Capasiti Gosodedig (MWt)

Ynni a Gynhyrchir (MWh)

2033 (MW)

2033 (MWh)

Biomas Presennol (Gwres a Phŵer Cyfunedig)

0.5

36.7

160,953

0

0

0

0

0

0

Boeleri Biomas, Coed

0.5

36.3

159,197

0

0

0

0

0

0

Ynni o wastraff gyda Gwres a Phŵer Cyfunedig

0.5

1.5

6,390

0

0

0

0

0

0

Arall gan gynnwys slyri anifeiliaid, sbwriel dofednod, slwtsh carthion a nwy carthion (Treulio Anaerobig gyda Gwres a Phŵer Cyfunedig)

0.5

3.7

15,990

0.2

986

2.0

8,736

2.2

9,722

Nwy Tirlenwi (gyda Gwres a Phŵer Cyfunedig)

0.5

0

0

0

0

0

0

0

0

Adeilad Integredig

0.2

89.9

157,440

35.0

61,292

11.0

19,230

46.0

80,522

Cyfanswm

35.2

62,278

13.0

27,966

48.2

90,244

Galw am ynni gwres 2008

2,130,266

Galw rhagamcanol am ynni trydanol

1,493,795

Canran y galw thermol a atebir gan adnodd ynni adnewyddadwy

3%

6%

* Dyma'r adnodd mwyaf, mae'n cynnwys capasiti presennol a 100% o'r potensial.

** Targedau wedi'u seilio ar ganran y potensial mwyaf namyn yr hyn sy'n cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd.

Tabl 10: Crynodeb o'r Adnoddau ar gyfer Gwres Adnewyddadwy Ardaloedd Chwilio Strategol

Ardaloedd a Aseswyd o flaen llaw ar gyfer Ynni'r Gwynt

Ardaloedd Chwilio Lleol

11.485 Mae'r Asesiad Ynni Adnewyddadwy wedi asesu'r potensial i'r Awdurdod ddarparu ynni adnewyddadwy, ac wedi dod i'r casgliad y gallai cynhyrchu trydan ar raddfa fwy o ynni solar fod yn hyfyw mewn rhannau o'r Awdurdod. Mae'r ardaloedd hyn wedi'u nodi yn yr Asesiad Ynni Adnewyddadwy, ac maent wedi'u anodi ar y Map Cynigion fel Ardaloedd Chwilio Lleol. Nodir Ardaloedd Chwilio Lleol drwy gymhwyso cyfres o ragdybiaethau a thrwy wneud ymarfer mapio a oedd yn defnyddio haenau o gyfyngiadau. Ystyrir mai'r ardaloedd hyn yw'r ardaloedd â'r lleiaf o gyfyngiadau o fewn yr Awdurdod er mwyn darparu ynni.

11.486 Mae tair Ardal Chwilio Leol ar gyfer Ynni Solar Ffotofoltäig wedi'u nodi fel rhai addas ar gyfer cynlluniau sy'n fwy na 5MW. Nodir Ardaloedd Chwilio Lleol er mwyn annog datblygwyr i ymchwilio ymhellach i'r potensial ar gyfer ffermydd solar yn yr ardaloedd hyn. Bydd angen rhagor o asesiadau penodol i safleoedd er mwyn cynorthwyo unrhyw gais cynllunio ar gyfer datblygiadau o'r fath.

11.487 Ni fydd tir o fewn Ardaloedd Chwilio Lleol yn cael ei ddiogelu ar gyfer cynhyrchu ynni; fodd bynnag, bydd yna flaenoriaeth ar gyfer datblygiadau o'r fath lle ceir buddiannau sy'n cystadlu ar yr un pryd. Bydd angen i ddatblygiadau leihau effeithiau ar y dirwedd ac effeithiau gweledol.

Ardal Chwilio Leol

Arwynebedd yr Ardal Chwilio Leol (KM2)

Capasiti Gosodedig Posibl (MW)

Lleoliad

A

3.31

72.9

I'r gogledd-ddwyrain o Farmers

B

0.90

23.8

Mynydd Pencarreg

C

0.99

30.3

I'r gorllewin o Dalyllychau

Technolegau Eraill

11.488 Er bod yr Asesiad Ynni Adnewyddadwy yn cydnabod mai technolegau gwynt a solar sydd â'r potensial mwyaf i gyflenwi ynni adnewyddadwy o fewn y Sir, bydd cynigion ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy eraill, gan gynnwys biomas, ynni o wastraff, pŵer trydan dŵr a nwy tirlenwi hefyd yn cael eu hystyried yn ffafriol, yn amodol ar fodloni darpariaethau'r polisïau hyn.

Ystyriaethau Lleoliadol

11.489 Wrth asesu effaith gronnol cynigion, bydd unrhyw niwed annerbyniol i'r dirwedd, effaith weledol, sŵn, ecoleg a dŵr wyneb a dŵr daear hefyd yn cael ei ystyried yn erbyn datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel eraill.

11.490 Dylid ystyried amwynder preswylwyr a meddianwyr eiddo cyfagos, a dylid lleihau unrhyw niwsans posibl sy'n deillio o'r datblygiad a'i seilwaith cysylltiedig i'r eithaf. Ni chaniateir cynigion a fyddai'n arwain at niwsans annerbyniol o ganlyniad i weithredu datblygiad o'r fath, megis sŵn, risg i ddiogelwch, ymyrryd â signalau radio, telathrebu neu awyrennau, cysgodion symudol o dyrbinau gwynt a phelydrau a golau tanbaid o baneli solar.

11.491 Bydd angen i gynigion sicrhau nad ydynt yn achosi problemau o ran diogelwch ar y priffyrdd nac yn cael effaith niweidiol ar y rhwydwaith priffyrdd o ganlyniad i draffig adeiladu a chynnal a chadw. Wrth leoli datblygiad, dylid diogelu llwybrau ceffylau, llwybrau beicio a llwybrau troed presennol heb unrhyw golled barhaol i'w hyd a'u hansawdd. Bydd angen dargyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus yn briodol dros dro yn ystod y gwaith adeiladu. Rhoddir anogaeth i wella cyfleusterau hamdden presennol a darparu rhai newydd. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio i ymhelaethu ar ddarpariaethau Polisi CCH1 a Pholisi CCH2.

Polisi CCH3 – Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

Bydd yn ofynnol i gynigion datblygu gynnwys gosod soced trydan sy'n addas ar gyfer gwefru cerbydau trydan

  1. Datblygiad Preswyl

Tai

Lle darperir garej, dreif neu fan parcio wedi'i neilltuo gyda thai, dylid darparu un Uned Gwefru Cerbyd Trydan* i bob annedd.

Fflatiau (mannau parcio heb eu neilltuo)

Os oes gan ddatblygiad fflatiau fannau parcio integredig (dan do neu mewn cwrt parcio), dylai'r cynigion gynnwys o leiaf un man parcio pwrpasol gydag Uned Gwefru Cerbydau Trydan yn Gyflym (fel lleiafswm) i wasanaethu'r datblygiad.

  1. Datblygiadau Amhreswyl

Ar gyfer datblygiadau amhreswyl lle darperir mannau parcio ceir, dylai o leiaf 10% o'r mannau hynny fod â phwynt gwefru Cerbyd ag Allyriadau Isel Iawn. Dylid darparu pwyntiau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan lle mae'r rhwydwaith trydan lleol yn gallu cefnogi hyn yn dechnegol.

11.492 Mae polisi cenedlaethol ar ffurf Polisi Cynllunio Cymru'n gosod agenda sy'n ceisio symud tuag at newid i ddulliau trafnidiaeth ar y ffyrdd sy'n cynhyrchu allyriadau isel neu ddim allyriadau. Yn hyn o beth, mae'n cydnabod rôl pwyntiau gwefru trydanol o ran cyflawni'r newid hwnnw[[1]].

11.493 Wrth arddel y farn hon mae'n argymell mabwysiadu ymagwedd gynaliadwy sy'n cydbwyso anghenion byrdymor yn erbyn amcanion hirdymor mewn perthynas ag ystyriaethau megis lleihau amlygiad y cyhoedd i lygredd yn yr awyr, llygredd sŵn ac ati fel rhan o'r gwaith o baratoi cynlluniau datblygu.

11.494 Fel yr adlewyrchir yn ffigur 12 isod, mae polisi Llywodraeth Cymru yn nodi hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy mewn perthynas â datblygiadau newydd. Mae'r hierarchaeth hon yn cydnabod rôl Cerbydau ag Allyriadau Isel Iawn o ran datgarboneiddio trafnidiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig[[2]].

Diagram sy'n dangos yr hierarchaeth gynaliadwy ar gyfer cynllunio mewn trefn: Cerdded a Beicio, trafnidiaeth gyhoeddus, cerbydau allyriadau isel iawn, cerbydau modur preifat eraill.

Ffigur 12: Yr Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy ar gyfer Cynllunio

11.495 Mae'r CDLl hwn yn cydnabod amrywiaeth cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin gan nodi'n arbennig y nodweddion gwledig yn bennaf sy'n nodweddu llawer o'i hardal. Fel yr adlewyrchir ym Mholisi Cynllunio Cymru, mae ardaloedd o'r fath yn aml yn galw am wahanol ymagweddau lle mae trafnidiaeth gynaliadwy yn y cwestiwn ac mae angen i ddatblygiadau newydd adlewyrchu amgylchiadau lleol. Er enghraifft, wrth ddatblygu strategaeth y CDLl, rhoddwyd ystyriaeth i'r potensial ar gyfer twf mewn ardaloedd gwledig ac mae'r broses o nodi safleoedd wedi rhoi sylw i'r hierarchaeth, gan gynnwys mesurau i annog y defnydd o Gerbydau ag Allyriadau Isel Iawn. Yn hyn o beth, mae'r polisi uchod yn rhoi ffocws clir ar fynediad i gerbydau o'r fath fel amcan polisi cadarnhaol ar gyfer datblygiadau ledled yr awdurdod, gan gynnwys mewn cymunedau gwledig.

11.496 Mae'r Cynllun yn cydnabod effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a'r newid i ddatgarboneiddio gyda'r angen i hybu mynediad at ddulliau trafnidiaeth amgen yn unol â darpariaethau polisi cenedlaethol. Mae 35% o drigolion Sir Gaerfyrddin yn byw mewn ardaloedd gwledig gyda 65% o'r arwynebedd tir wedi'i ddynodi'n wledig. Mae natur wledig llawer o Sir Gaerfyrddin felly wedi bod yn ystyriaeth allweddol wrth ddatblygu'r strategaeth a dosbarthiad y twf.

11.497 Mae natur wledig yn her arbennig ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, gyda'r poblogaethau gwasgaredig yn y rhan fwyaf o ardaloedd a chymunedau gwledig, yn cael eu gwasanaethu gan wasanaeth amlder isel.

11.498 Er y cydnabyddir y gall hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy ac yn wir datgarboneiddio trafnidiaeth yn y pen draw gael ei gyflawni mewn llawer o ardaloedd trefol rhaid iddo beidio â datgymalu'r cysylltiadau rhwng cymunedau trefol a gwledig ymhellach[[3]]. Mewn perthynas â'n cymunedau o fewn ardaloedd gwledig mae'r Cynllun yn ceisio cyflawni datblygu cynaliadwy mewn ffordd sy'n cyfeirio at ddulliau trafnidiaeth newydd ac amgen ac yn eu hintegreiddio gan gynnwys hyrwyddo cerbydau ag allyriadau isel iawn. Dylai cynigion ar gyfer Fflatiau (mannau parcio nad ydynt wedi'u neilltuo) ddarparu pwyntiau gwefru cyflym lle mae'r rhwydwaith trydan lleol yn dechnegol yn gallu cefnogi ei ddarpariaeth a lle nad yw'n golygu bod y datblygiad yn anhyfyw.

11.499 Lle mae gan gartref fan parcio wedi'i neilltuo ar ffurf garej neu ddreif/man parcio, fel gofyniad lleiaf dylid darparu soced 16 Amp naill ai mewn garej neu'n agos at fan parcio penodol wedi'i neilltuo ar gyfer ceir. Os nad oes garej, dylid darparu soced allanol ar y wal.

11.500 Dylai cynigion ar gyfer datblygiadau amhreswyl a masnachol gynnwys, fel y gofyniad lleiaf, bwyntiau gwefru ar gyfer 10% o'r mannau parcio ceir. Wrth weithredu'r gofyniad hwn, rhoddir sylw i ddarpariaethau Polisi Cynllunio Cymru, Rhifyn 11: Paragraff 4.1.39. Noder: soced 32 Amp. Mae unedau gwefru annibynnol masnachol yn darparu 2 wefrydd.

11.501 Mae darpariaeth y polisi hwn yn ceisio diogelu tai newydd ar gyfer y dyfodol fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd sydd wedi'i ddatgan. Fodd bynnag cydnabyddir, wrth i gapasiti wella ar draws y grid, y gallai fod amgylchiadau lle nad yw'n gallu cyfredol a rhagamcanol yn gallu bodloni'r gofynion sy'n codi o'r polisi mewn perthynas â datblygiad penodol. Yn y fath amgylchiadau dylid cyflwyno tystiolaeth gadarn gyda'r cais sy'n manylu ar unrhyw faterion o'r fath gan gynnwys goblygiadau hyfywedd wrth ymgymryd ag unrhyw welliannau seilwaith ar gyfer y datblygiad. Dylid cyfeirio at y Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer gofynion Cerbydau Allyriadau Isel Iawn mewn datblygiadau newydd.

CCH4: Ansawdd Dŵr a Diogelu Adnoddau Dŵr

Rhaid i gynigion datblygu wneud defnydd effeithlon o adnoddau dŵr a, lle bo hynny'n briodol, gyfrannu tuag at welliannau o ran ansawdd dŵr. Caniateir cynigion lle nad ydynt yn cael effaith andwyol ar adnoddau dŵr, ansawdd dŵr, pysgodfeydd, cadwraeth natur, mynediad i'r cyhoedd, neu ddefnydd hamdden sy'n gysylltiedig â dŵr yn y Sir.

Lle bo'n briodol, rhaid gweithredu Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) ac mae angen cymeradwyaeth drwy'r Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB).

Bydd cynigion yn cael eu cefnogi os ydynt yn hyrwyddo diogelu cyrsiau dŵr trwy glustogfeydd ecolegol neu goridorau, gan warchod agweddau megis cynefinoedd a rhywogaethau torlannol, ansawdd dŵr, a darparu ar gyfer capasiti gorlifdir.

Dim ond os gellir dangos nad oes effaith andwyol ar gyfanrwydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol sensitif i ffosfforws y bydd datblygiad yn cael ei ganiatáu. Yn y dalgylch hydrolegol a ddynodwyd ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol, bydd angen i ddatblygiadau sy'n creu gollyngiadau dŵr gwastraff ddangos nad oes cynnydd mewn lefelau ffosfforws yn yr Ardal Cadwraeth Arbennig. Gellir cyflawni hyn drwy weithredu mesurau lliniaru a chanllawiau cynllunio atodol cysylltiedig. Pan fo tystiolaeth yn dangos y gellir osgoi neu wrthbwyso effeithiau andwyol ar gyfanrwydd Ardal Cadwraeth Arbennig afonol trwy ddefnyddio mesurau lliniaru, rhaid cytuno â'r rhain gyda'r Cyngor fesul achos, mewn ymgynghoriad â CNC.

11.502 Mae dŵr fel adnodd yn hynod werthfawr ac mae materion megis llygryddion, atal llifogydd, dŵr daear ac amddiffyn a gwella ecosystemau dyfrol i gyd yn ystyriaethau pwysig a adlewyrchir gan ddeddfwriaeth a chanllawiau. Mae'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (2000/60/EC) (WFD) yn nodi'r gofynion mewn perthynas â'r amgylchedd dŵr a dylid rhoi sylw llawn i'w chynnwys.

11.503 Gall llygredd dŵr ac o ganlyniad ansawdd dŵr gwael fod o un ffynhonnell, neu o ffynonellau gwasgaredig, megis o ddŵr ffo amaethyddol a threfol. Mae'r Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr wedi rhoi'r cyfle i weithio gyda sefydliadau partner, yn enwedig Cyfoeth Naturiol Cymru, i gydnabod yr angen i wella'r amgylchedd dŵr cyfan a hybu'r defnydd cynaliadwy o ddŵr er budd pobl a bywyd gwyllt. Paratowyd Cynlluniau Rheoli Basn Afonydd (RBMP) sy'n nodi amcanion a safonau amgylcheddol, a rhaglen o fesurau er mwyn eu cyflawni.

11.504 Mae Dŵr Cymru yn gyfrifol am gyflenwi a thrin dŵr yn y Sir. Mae Dŵr Cymru yn parhau i ateb y galw cynyddol am wasanaethau carthffosiaeth drwy fecanweithiau deddfwriaethol a rheoleiddiol, a buddsoddiad mewn cyflenwi/galw fel y nodir yn y Rhaglen Rheoli Asedau. Bydd buddsoddiad y Rhaglen Rheoli Asedau yn cefnogi twf ac adfywio yn y dyfodol.

11.505 Gyda golwg ar Safle Morol Ewropeaidd Bae Caerfyrddin a'r Aberoedd, dylid cyfeirio at Bolisi INF4. Mae Canllawiau Cynllunio Atodol Cilfach Tywyn wedi'u paratoi i ymhelaethu ar y Cynllun hwn. Mae'n ceisio cydbwyso ystyriaethau amgylcheddol a datblygiadol gyda'r bwriad o hwyluso'r broses o gyflawni twf o fewn y CDLl diwygiedig hyd at 2033.

11.506 Mae ystyried yr amgylchedd yn un o gysyniadau allweddol datblygu cynaliadwy. O ystyried bod effaith dyraniadau ac ymrwymiadau'r Cynllun eisoes wedi'i hystyried gan yr Awdurdod a bod y gallu i'w gyflawni wedi'i sefydlu, mae'r Polisi hwn yn darparu modd o archwilio materion ar lefel prosiect neu ar lefel cais fesul safle unigol, fel a lle bo'n briodol. Mae'r Polisi hwn yn ceisio darparu modd i'r Awdurdod ystyried rhinweddau cynigion sy'n dod ymlaen yn ystod cyfnod y Cynllun nad ydynt yn cael eu nodi o fewn y Cynllun ar hyn o bryd.

11.507 Gellir gwella ansawdd dŵr trwy fesurau megis dylunio effeithiol, adeiladu a gweithredu systemau carthffosiaeth, defnyddio Seilwaith Gwyrdd a Glas megis gwlyptiroedd neu wyrddfannau ar gyfer lliniaru llifogydd, a defnyddio SuDS. Byddai hyrwyddo arferion amaethyddol da a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy hefyd yn cyfrannu at welliannau mewn ansawdd. Pan fo hynny'n addas ac yn berthnasol i'r system gynllunio, mae'r Cynllun hwn yn nodi mesurau y gellir eu dwyn ymlaen. Cyfeirir at adfer fel un o brif egwyddorion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, megis defnyddio peirianneg werdd i adfer cyflwr naturiol a gweithrediad y system afonydd trwy gael gwared ar gwlferi i helpu i gefnogi bioamrywiaeth, hamdden, rheoli llifogydd a datblygu tirwedd.

11.508 Dylai cynigion geisio ymgorffori technegau cadwraeth dŵr lle bynnag y bo modd gan gynnwys cynaeafu dŵr glaw ac ailgylchu dŵr llwyd.

11.509 Caiff gofynion adnoddau dŵr Sir Gaerfyrddin eu bodloni'n gyfan gwbl gan Dŵr Cymru, ac mae'r sir wedi ei lleoli o fewn system defnydd cysylltiol Tywi (Parth Adnoddau Dŵr Tywi). Mae Cynllun Rheoli Adnoddau diweddaraf Dŵr Cymru yn rhagfynegi y bydd gan Barth Adnoddau Dŵr Tywi gyfenwadau dros ben drwy gydol cyfnod y CDLl, yn seiliedig ar y cynnydd o 14.6% a ragfynegir mewn niferoedd aelwydydd yn Sir Gaerfyrddin rhwng 2014 a 2039, a chynnydd o 82,751 i 89,532 rhwng 2018 a 2033. Mae'r rhagolwg twf cyffredinol hwn yn fwy na'r twf y darperir ar ei gyfer yn y CDLl.

11.510 Dylai datblygiad geisio cysylltu â'r prif rwydwaith seilwaith dŵr gwastraff presennol yn y lle cyntaf. Mewn achosion eithriadol, er mwyn datblygu lle nad yw'n ymarferol cysylltu â gwaith trin dŵr gwastraff cyhoeddus, bydd angen i unrhyw gynigion o'r fath gyfiawnhau pam nad yw creu cysylltiad yn ymarferol a dangos eu bod yn cydymffurfio â Chylchlythyr Llywodraeth Cymru 008/2018 a chanllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer cysylltiadau â gwaith trin preifat/tanciau septig. Rhaid i gynigion datblygu newydd sy'n rhoi pwysau ar gapasiti'r cyflenwad dŵr presennol a'r seilwaith trin dŵr a charthffosiaeth sicrhau bod y seilwaith angenrheidiol yn ei le neu y bydd yn cael ei ddarparu i'w gwasanaethu o fewn Rhaglen Rheoli Asedau briodol. Mae'r pwysau cynyddol ar y seilwaith ac ar fyd natur yn ystyriaeth bwysig a bydd disgwyl i ddatblygiad newydd ddangos bod ystyriaeth ddigonol yn cael ei rhoi i gadwraeth adnoddau dŵr a diogelu ansawdd dŵr.

11.511 Mae ystyriaethau ychwanegol yn berthnasol i ddatblygiad newydd lle gall cynnydd mewn ffosfforws, yn enwedig oherwydd gollyngiadau dŵr gwastraff, gael effaith andwyol ar gyfanrwydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afon Cleddau, Afon Teifi, Afon Tywi ac Afon Gwy, yn unol â Rheoliadau Cynefinoedd 2017 (fel y'u diwygiwyd).

11.512 Gall cynnydd mewn llifoedd i brif gyflenwad gwaith trin dŵr gwastraff arwain at gynnydd mewn maetholion mewn cyrsiau dŵr oherwydd gollyngiadau o'r gwaith. Mae'r polisi hwn yn ceisio rheoli gollyngiadau dŵr gwastraff sy'n deillio o ddatblygiad newydd i sicrhau cydymffurfiaeth â Rheoliadau Cynefinoedd 2017 (fel y'u diwygiwyd) a chyfyngiadau hysbys ar waith trin dŵr gwastraff. Mae'n berthnasol i'r holl Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol yn Sir Gaerfyrddin gan gynnwys eu llednentydd.

11.513 Ym mis Ionawr 2021 pennodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) safonau ffosfforws newydd ar gyfer Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol. O ran Sir Gaerfyrddin, darganfu profion cydymffurfio a wnaed gan CNC fod methiant i gyrraedd y safonau newydd hyn yn Afon Cleddau ac Afon Teifi.

11.514 Er mwyn hwyluso i gyflawni datblygiadau y gallai'r polisi hwn effeithio arnynt, mae'r Cyngor wedi paratoi 'Strategaeth Lleihau Ffosfforws Afon Tywi ac Afon Teifi'. Mae'r ddogfen yn nodi'r dull strategol o ddarparu gostyngiadau ffosfforws yn y dalgylchoedd hyn gan hwyluso twf y CDLl hefyd a dangos bod modd lliniaru yn ymarferol. Mae'r ddogfen yn nodi ystod o fesurau, y cytunwyd arnynt drwy ymgynghori â CNC. Mae 'Strategaeth Lleihau Ffosfforws Afon Tywi ac Afon Teifi' yn ddogfennau byw a fydd yn datblygu yn ystod oes y CDLl, mewn ymgynghoriad â CNC.

11.515 Bydd cynlluniau i gyflawni 'Strategaeth Lleihau Ffosfforws Afon Tywi ac Afon Teifi' yn cael eu cefnogi gan Fyrddau Rheoli Maetholion Afonydd Tywi, Teifi a Chleddau sydd wedi'u sefydlu. Bydd gan y Byrddau hyn ddyletswyddau ehangach gyda'r nod ehangach o ddarparu'r atebion tymor hir ar sail dalgylch, i fynd i'r afael â mater ffosfforws gormodol mewn afonydd, a gynhyrchir o weithgareddau a defnyddiau tir presennol yn y dalgylch ehangach, ac i nodi mesurau y gellid dibynnu arnynt i sicrhau buddion ehangach a gostyngiadau net ar draws y dalgylch. Mae'r mesurau hyn y tu allan i gwmpas y CDLl a chynllunio ond maent yn bwysig ar gyfer dull cadarn o leihau ffosfforws yn Ardal Cadwraeth Arbennig afonol Sir Gaerfyrddin. Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu llunio i gefnogi'r dulliau polisi a lliniaru a nodwyd ac i ymhelaethu ymhellach ar rôl cyfraniadau s106 a chyfraniadau datblygwyr.

11.516 Bydd angen monitro materion sy'n ymwneud ag echdynnu a chyflenwad dŵr yn barhaus, er mwyn sicrhau bod y twf a nodwyd o fewn y CDLl hwn yn gymesur ag argaeledd yr adnodd, yn ychwanegol at yr amddiffyniad a ganiateir trwy'r polisi hwn. Dylid cyfeirio at Strategaeth Trwyddedu Echdynnu Dŵr Bae Caerfyrddin (2014).

11.517 Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda CNC ac yn ymgynghori â CNC a Dŵr Cymru ar gynigion datblygu fel y bo'n briodol. Bydd y Cyngor hefyd yn ymgynghori ymhellach â CNC ynghylch cynigion datblygu yng nghyffiniau coridorau ac aberoedd afonydd. Dylai darpar ddatblygwyr ofyn am gyngor a chydsyniad CNC pan fo hynny'n briodol. Dylid ymgorffori'r gofyniad am glustogfa briodol sy'n ffinio â'r ddwy lan mewn unrhyw gynigion i ddiogelu ac annog bioamrywiaeth leol. Y gofyniad yw 8 metr lle mae cynigion yn ymwneud â phrif afon, a 7 metr lle mae cynigion yn ymwneud â chwrs dŵr cyffredin. Os yw cynigion yn ymwneud â phrif afon neu gwrs dŵr cyffredin, dylid ymgorffori'r gofyniad am glustogfa briodol sy'n ffinio â'r ddwy lan mewn unrhyw gynigion i ddiogelu ac annog bioamrywiaeth leol. Mewn rhai amgylchiadau, bydd angen caniatâd ar weithgarwch ger cyrsiau dŵr, gan gynnwys Trwyddedau Gweithgareddau Risg Llifogydd (FRAP) gan CNC ar y prif afonydd a/neu Gydsyniadau Atal Llifogydd gan yr LLFA ar gyrsiau dŵr cyffredin.

11.518 Rhaid i gynigion fodloni polisïau a darpariaethau'r Cynllun yn ei gyfanrwydd. Gellir cyfeirio'n benodol fodd bynnag at Bolisi Strategol 13 – Cynnal a Gwella'r Amgylchedd Naturiol, yn fwyaf arbennig mewn perthynas â safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol i gadwraeth natur. Ceir cyfleoedd i gydnabod a chofleidio Seilwaith Gwyrdd a Glas fel rhan o ddull creu lleoedd.

11.519 Dylid cyfeirio at baragraff 11.536 o Bolisi PSD12 mewn perthynas â chynigion sy'n arwain at gynnydd mewn llwytho maetholion i'r amgylchedd ac o bosibl effeithio ar ansawdd dŵr ac aer.

CCH5: Rheoli ac Osgoi Perygl Llifogydd

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir cynigion ar gyfer datblygiadau sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle ceir perygl llifogydd dynodedig, sef:

  1. Mewn ardaloedd sy'n wynebu perygl llifogydd afonol, glaw, arfordirol ac o gronfeydd dŵr, lle gellir dangos bod y datblygiad yn bodloni'r profion cyfiawnhau a nodir mewn Polisi Cenedlaethol a lle caiff ei ategu gan ddatganiad tystiolaethol technegol cadarn. [97] Fodd bynnag, dim ond datblygiadau llai agored i ddifrod fydd yn cael eu caniatáu ym Mharth C2.
  2. Lle na fyddai'n cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd amddiffynfeydd presennol rhag llifogydd afonol, glaw neu arfordirol, neu na fyddai'n rhwystro mynediad at amddiffynfeydd presennol ac amddiffynfeydd yn y dyfodol at ddibenion cynnal a chadw a gwaith brys;
  3. Lle na fyddai'r datblygiad yn arwain at gynnydd annerbyniol mewn perygl llifogydd ar y safle neu yn rhywle arall; neu,
  4. Mewn ardaloedd sy'n wynebu perygl llifogydd o ffynonellau lleol, caiff strategaeth ddraenio ei chyflwyno sy'n dangos wrth fodd y Cyngor y gellir rheoli neu leddfu'r effeithiau.

Dylai cynigion geisio ymgorffori mesurau lliniaru perygl llifogydd sy'n effeithiol ac yn gydnaws â'r amgylchedd, fel SuDS.

Dylid ymgorffori cynigion lle mae'r posibilrwydd o ailgysylltu gorlifdiroedd yn y datblygiad i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar gyfleoedd, ac na cheir effaith niweidiol ar y gallu i storio a llif dŵr mewn gorlifdiroedd.

11.520 Mae'r mwyafrif o aneddiadau yn Sir Gaerfyrddin wedi eu lleoli ger afonydd neu'r arfordir. Mae hyn yn adlewyrchu'r patrwm datblygu hanesyddol ac er na all y Cynllun ddylanwadu ar batrymau gofodol y gorffennol, gall helpu i lywio'r penderfyniadau gyda llesiant cenedlaethau'r dyfodol mewn golwg.

11.521 Er bod dealltwriaeth am lifogydd afonol a llanwol a chydnabyddiaeth iddynt wedi bod yn ymhlyg mewn arfer cynllunio ers blynyddoedd lawer, ceir ymwybyddiaeth gynyddol bellach o ffynonellau llifogydd eraill – yn enwedig dŵr wyneb. Gall y ffynonellau eraill hyn effeithio ar aneddiadau nad ydynt yn agos at afon neu'r arfordir.

11.522 Mae'r polisi, a chyfeiriad strategol y Cynllun, yn cydnabod ac yn adlewyrchu'r angen am ddull cynaliadwy o ymdrin â pherygl llifogydd. Gan hynny, mae'r Cynllun hwn yn blaenoriaethu diogelu'r gorlifdir annatblygedig neu ddirwystr rhag datblygu ac yn ceisio atal effeithiau cronnol datblygiad cynyddrannol[98]. Fodd bynnag, mae hefyd yn ceisio cydnabod bod dynameg perygl llifogydd yn gymhleth ac yn ymestyn y tu hwnt i'r goblygiadau ar y safle o ran lleoli datblygiad unigol.

11.523 Mae'r Cynllun yn rhoi sylw i ddarpariaethau polisi cynllunio cenedlaethol ar berygl llifogydd a defnyddiwyd dull rhagofalus wrth lunio polisïau sy'n nodi dynodiadau defnydd tir a chynigion safle benodol. Mae'r Cynllun hefyd yn ceisio cydnabod natur ddynamig perygl llifogydd ond hefyd eu cyfraniad hanfodol i nodweddion amgylcheddol, bioamrywiaeth, rhwydwaith seilwaith gwyrdd a glas, a gwerth tirwedd cynhenid y Sir.

11.524 Cydnabyddir cyfraniad prosesau sianeli naturiol ac mae'r polisi'n rhoi anogaeth i ailgysylltu gorlifdiroedd. O ganlyniad, dylid cynllunio datblygiadau, yn arbennig seilwaith newydd, mewn ffordd nad yw'n arwain at golled net yng ngallu storio gorlifdiroedd, yn rhwystro llifoedd dŵr nac yn cynyddu perygl llifogydd mewn mannau eraill[99]. Dylid rhoi sylw i Weithio gyda Photensial Ail-gysylltu Gorlifdiroedd Prosesau Naturiol (WWNP)[100].

11.525 Nodir polisi cenedlaethol mewn perthynas â pherygl llifogydd yn Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd (2004). Nodir yr ardaloedd lle ceir perygl llifogydd afonol a llanwol ar y Mapiau Cyngor Datblygu sy'n cyd-fynd â'r nodyn. Caiff yr ardaloedd hyn eu categoreiddio'n 4 parth, sef Parth A, Parth B, ac yn fwyaf nodedig Parthau C1 ac C2 sy'n fwy tueddol o brofi llifogydd.

11.526 Bydd datblygiadau mewn ardaloedd lle ceir perygl mawr o lifogydd yn cael eu hystyried dim ond lle gellir dangos y gall y safle gydymffurfio â'r gofynion cyfiawnhau ac asesu a nodir yn TAN 15. Lle cynigir datblygiad mewn ardal o berygl llifogydd dynodedig, rhaid cyflwyno datganiad technegol i gyd-fynd ag ef er mwyn bodloni darpariaethau TAN15 a dangos yn glir y bydd y datblygiad newydd yn lliniaru bygythiad a chanlyniadau llifogydd.

CCH6: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel mewn Datblygiadau Newydd

Caiff cynigion datblygu sy'n cysylltu â ffynonellau ynni adnewyddadwy presennol, rhwydweithiau gwresogi ardal, neu sy'n defnyddio technoleg carbon isel eu cefnogi.

Bydd yn ofynnol i gynigion datblygu sy'n cynnwys: datblygiad preswyl o 100 o dai neu fwy; neu ddatblygiad gyda chyfanswm arwynebedd llawr o 1000metr sgwâr neu fwy; gyflwyno Asesiad Ynni i benderfynu ar ddichonoldeb ymgorffori cynllun o'r fath, a lle y bo'n ymarferol, byddai'n ofynnol iddynt weithredu'r cynllun.

Bydd datblygiadau mawr sy'n defnyddio ynni sylweddol yn cael eu hannog i hwyluso'r broses o ddatblygu Rhwydweithiau Gwresogi ac Oeri Ardal arfaethedig, a/neu gysylltu â hwy.

11.527 Mae'r polisi hwn yn ceisio rhoi anogaeth i ymgorffori ynni adnewyddadwy a charbon isel ym mhob datblygiad newydd.

11.528 Bydd Asesiad Ynni yn ymchwilio i'r potensial i ymgorffori a defnyddio technoleg carbon isel, neu i ddefnyddio ffynonellau presennol ynni adnewyddadwy neu rwydweithiau gwresogi ardal. Bydd yn ofynnol bod asesiadau'n dangos sut y gall y datblygiad wneud cyfraniad tuag at lefelau uwch o gynhyrchu ynni o ffynonellau adnewyddadwy neu garbon isel.

11.529 Bydd arweiniad pellach yn cael ei ddarparu yn y Canllawiau Cynllunio Atodol Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel.

CCH7: Newid yn yr Hinsawdd – Fforestydd, Coetiroedd a Phlannu Coed

Rhoddir cefnogaeth i gynigion sy'n ceisio creu a diogelu coetir, coedwigoedd, lleiniau a choridorau coed newydd (neu wella rhai presennol), a lle maent yn hyrwyddo'r gwaith o gyflawni'r targedau datgarboneiddio cenedlaethol a lleol.

Bydd cefnogaeth yn cael ei rhoi i gynigion a fydd yn sicrhau'r manteision lluosog sy'n gysylltiedig â choed, coetiroedd, a choedwigoedd sydd wedi'u cynllunio'n dda ac a reolir yn dda (e.e. dal a storio carbon, lliniaru llifogydd, gwelliannau mewn ansawdd aer a dŵr, lliniaru maetholion, bioamrywiaeth ac adfer natur, tirwedd, iechyd a llesiant, a gwerth amwynder).

Dylai cynigion ystyried effeithiau andwyol posibl ar yr amgylchedd, treftadaeth ddiwylliannol, cymunedau, a thirwedd, a, lle bo hynny'n briodol, dilyn yr hierarchaeth liniaru.

11.530 Yn 2021 nodwyd targed gan Lywodraeth Cymru i gynyddu coetiroedd yng Nghymru o leiaf 5,000 hectar y flwyddyn i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd [101]. Mae'r polisi hwn yn adlewyrchu'r amcan cenedlaethol hwn a'r ymrwymiad i greu coedwig genedlaethol. Ceir cyfleoedd i greu cysylltiadau â Seilwaith Gwyrdd a Glas, ymgorffori cyfleusterau teithio llesol a gwella cyfleoedd twristiaeth a hamdden, yn ogystal â hyrwyddo gwell bioamrywiaeth, cysylltedd, a chydnerthedd ecosystemau. Gall gwaith plannu coetir wedi'i gynllunio'n dda fynd i'r afael â'r Argyfyngau Hinsawdd a Natur, fel y datganodd Llywodraeth Cymru a'r Cyngor.

11.531 Cydnabyddir bod gan goed fanteision lluosog, fel yr amlinellir yn Natganiad Ardal De-orllewin Cymru[102] a Strategaeth Coetiroedd a Choed Llywodraeth Cymru [103]. Mae coed, coedwigoedd a choetir yn darparu ystod o wasanaethau i'r ecosystem, megis gwella ansawdd aer, cael yr effaith o oeri a darparu cysgod yn yr haf, lleihau sŵn, dal a storio carbon a chynyddu'r gallu i wrthsefyll i newid yn yr hinsawdd. Mae coed, coedwigoedd a choetiroedd hefyd yn cynnig gwerth esthetig ac amwynder, a gallant fod yn nodweddion pwysig yn ein haneddiadau a'n cefn gwlad agored. Gallant gyfrannu at gadwraeth natur a chynyddu bioamrywiaeth, ac yn aml mae ganddynt werth hanesyddol ac at ddibenion hamdden. Maent hefyd yn helpu i greu teimlad o 'lesiant' ac mae ganddynt fudd economaidd.

11.532 Gall plannu coed, coetiroedd a choedwigoedd helpu i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â pherygl llifogydd, gan ddarparu datrysiad peiriannu meddal y gellir ei wneud ar wahân neu ar y cyd â seilwaith caled (strwythurau wedi'u gwneud gan ddyn). Bydd disgwyl i gynigion ddangos sut y byddant yn cyfrannu at leddfu risg llifogydd.

11.533 Bydd cynigion plannu sydd wedi'u cynllunio i greu coetiroedd a choedwigoedd a reolir gan ddefnyddio systemau coedamaeth nad ydynt yn dibynnu ar lwyrgwympo, ac a fydd yn cael eu rheoli gan ddefnyddio systemau effaith isel neu orchudd parhaus, yn cael eu cefnogi.

11.534 Rhaid i gynigion fod yn briodol i gymeriad diwylliannol ac ecolegol yr ardal leol, yn ogystal â'r dirwedd ehangach. Mae'r Cynllun yn cefnogi gwaith plannu sydd o fath, graddfa, dyluniad, a chymysgedd rhywogaethau sy'n briodol i'r ardal leol. Lle bo'n briodol, gellir rhoi cymorth hefyd tuag at newid defnydd tir ar gyfer cynigion sydd wedi'u cynllunio i liniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd a chael buddion lluosog (fel yr amlygwyd uchod). Gan y dylai cynigion ystyried effeithiau andwyol posibl ar y dirwedd, cadwraeth natur, a'r amgylchedd hanesyddol yn unol â'r hierarchaeth liniaru, cyfeirir yn benodol at NE1, NE2, a BHE2.

Polisi Strategol – SP 17: Trafnidiaeth a Hygyrchedd

Mae angen i rwydwaith trafnidiaeth cynaliadwy, diogel, effeithlon, dibynadwy, hwylus ac integredig fod yn sylfaen i ddatblygiad cynaliadwy a chyflawniadwy. Felly mae'r Cynllun yn cyfrannu at gyflawni system drafnidiaeth gynaliadwy a seilwaith cysylltiedig trwy:

  1. Leihau'r angen i deithio, yn arbennig mewn car modur;
  2. Mynd i'r afael â chynhwysiant cymdeithasol drwy fwy o fynediad at gyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau;
  3. Cefnogi, a phan fo'n gymwys, gwella dewisiadau amgen i'r car modur, megis trafnidiaeth gyhoeddus (yn cynnwys cyfleusterau parcio a theithio ac annog mabwysiadu cynlluniau teithio) a theithio llesol trwy feicio a cherdded;
  4. Atgyfnerthu swyddogaeth a rôl aneddiadau yn unol â'r fframwaith aneddiadau;
  5. Hyrwyddo defnyddio'r rhwydwaith trafnidiaeth yn effeithlon;
  6. Gwella hygyrchedd i leoedd cyflogaeth, cartrefi, gwasanaethau, cyfleusterau, a chynigion eraill sy'n cynhyrchu teithiau sylweddol mewn lleoliadau sydd â mynediad at seilwaith trafnidiaeth priodol;
  7. Ymgorffori datrysiadau dylunio a mynediad mewn datblygiadau er mwyn hyrwyddo mynediad;
  8. Darparu llwybrau cerdded a beicio, gan gysylltu â rhwydweithiau teithio llesol a seilwaith gwyrdd a glas;
  9. Darparu datrysiadau technolegol newydd trwy Bwyntiau Gwefru Cerbydau Allyriadau Isel Iawn mewn datblygiadau newydd; a,
  10. Mabwysiadu ymagwedd gynaliadwy tuag at ddyluniad, swyddogaeth a chynllun datblygiadau newydd, yn cynnwys darparu lefelau priodol o barcio.

11.535 Mae'r CDLl a'r Polisi yn cydnabod y rôl y mae symud, cysylltedd, eglurder, a'u cysylltiadau trafnidiaeth cysylltiedig yn ei chwarae, yn enwedig ar draws sir mor amrywiol â Sir Gaerfyrddin. Mae strategaeth y CDLl yn adlewyrchu ac yn hyrwyddo egwyddorion cynaliadwyedd a mynediad at wasanaethau a chyfleusterau hanfodol, gyda'r nod o gyflawni aneddiadau hyfyw, hunangynhaliol a chymunedau cynaliadwy, ac o ganlyniad cynyddu cynhwysiant a chydlyniant cymdeithasol ac amrywiaeth a ffyniant economaidd. Mae'r fframwaith aneddiadau yn adlewyrchu cynaliadwyedd aneddiadau a'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy trwy leoli datblygiadau lle mae gwasanaethau, swyddi, siopau a chyfleusterau hamdden wedi'u lleoli, ond gan hefyd gydnabod amrywiaeth y Sir a'i chymunedau gwledig gan gynnwys yr ardaloedd gwledig. Mae rhwydwaith trafnidiaeth y Sir yn amrywiol, gan gysylltu pobl a gwasanaethau trwy briffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, llwybrau cerddwyr a beiciau, a hawliau tramwy cyhoeddus (gan gynnwys llwybrau ceffylau).

11.536 Wrth gyflawni'r uchod, mae'r strategaeth yn ystyried y rhwydwaith priffyrdd a rheilffyrdd, ynghyd â mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a'r potensial ar gyfer twf aneddiadau sy'n adlewyrchu eu lefelau hygyrchedd. Mewn aneddiadau trefol adlewyrchir natur eu cysylltedd a'u hamlder trafnidiaeth trwy'r hierarchaeth aneddiadau. Fodd bynnag, hyd yn oed o fewn rhai o'r aneddiadau hyn ceir anghysondeb o ran argaeledd rhwydwaith teithio llesol. Ar draws yr ardaloedd mwy gwledig a'u cymunedau, mae diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a'r cysylltiadau a gynigir drwy rwydweithiau teithio llesol yn anochel yn fwy tameidiog; o ganlyniad mae angen cydbwyso hyn yn erbyn cyfraniad posibl datblygiad tuag at gynnal y gymuned honno ac economi wledig yr ardal.

11.537 Bydd y Cynllun yn ceisio rhoi arweiniad i leoli datblygiadau yn rhannau gwledig y Sir o fewn aneddiadau diffiniedig ac yn ffinio â hwy, yn hytrach na lleoliadau gwasgaredig yng nghefn gwlad ac eithrio lle mae hynny'n unol â pholisïau'r cynllun hwn.

11.538 Mae'r Polisi yn tynnu sylw at yr angen i wella ac ehangu Teithio Llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus fel rhan o gynigion ar gyfer datblygu. Mae hyn yn adlewyrchu'r symudiad i ffwrdd o ddefnyddio'r car modur preifat. Fodd bynnag, mae'r Polisi hefyd yn ceisio adlewyrchu'r potensial o leihau allyriadau niweidiol trwy gyflwyno pwyntiau gwefru Cerbyd Allyriadau Isel Iawn mewn datblygiadau newydd (dylid cyfeirio at Bolisi: CCH3).

11.539 Mae hyn yn rhannol yn ceisio ymateb i amrywiaeth y Sir, ei hygyrchedd a'r nod o leihau'r angen i deithio (a lleihau allyriadau CO2) ac mae hyn yn parhau i fod yn her i ran fawr o Sir Gaerfyrddin. Mae'r her hon yn arbennig o amlwg wrth roi sylwi i'r angen i gynnal ardaloedd gwledig, a sicrhau nad yw eu cymunedau'n profi allgáu cymdeithasol. Rhaid bod hyn hefyd yn gysylltiedig â bod yn realistig wrth dderbyn y ffaith fod y car modur yn parhau i fod yn ffordd bwysig o deithio mewn ardaloedd o'r fath.

11.540 Mae'n bosibl hefyd y gellir lleihau teithio trwy strategaeth drafnidiaeth integredig a datblygu cymunedau hunangynaliadwy (gan gynnwys argaeledd gwasanaethau a chyfleusterau) ac argaeledd opsiynau amgen trwy fentrau priodol megis 'Bwcabus'. Cydnabyddir y bydd datblygu trafnidiaeth gyhoeddus fel dewis amgen hyfyw a chredadwy i ddefnyddio'r car preifat o gymorth i leihau tagfeydd ar goridorau trafnidiaeth allweddol. Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd, wrth i dechnoleg ddatblygu, y bydd effaith bosibl y car preifat ei hun, neu ddiffyg effaith, yn newid.

11.541 Mae'r CDLl yn ceisio hyrwyddo datrysiadau sy'n annog mynediad at newidiadau technolegol mewn modd cadarnhaol, gan gynnwys pwyntiau gwefru trydanol, hyrwyddo lleihau allyriadau niweidiol, a gwella cynhwysiant cymdeithasol a hygyrchedd.

11.542 Lle nodir bod cynllun yn gofyn am astudiaethau dichonoldeb a gwaith dylunio a pharatoi pellach, nid yw'n cael ei nodi o fewn y CDLl. Mae hyn yn adlewyrchu'r posibilrwydd nad oes arwyddion clir o'r modd y bydd yn cael ei gyflawni.

11.543 Cydnabyddir rôl y Sir fel canolfan ar gyfer beicio yng Nghymru, a bydd Strategaeth Feicio'r Cyngor yn cael ei hystyried a, lle bo hynny'n briodol, ei hadlewyrchu wrth i'r CDLl fynd rhagddo. Yn hyn o beth, cydnabyddir rôl y rhwydwaith beicio fel ysgogydd economaidd ac ased hamdden a thwristiaeth. Yn yr un modd, cydnabyddir hefyd ei gyfraniad at hyrwyddo hygyrchedd a buddion i'n cymunedau, yn ogystal â chyfraniad y rhwydwaith llwybrau cyhoeddus a llwybrau ceffylau.

11.544 Mae'r tabl canlynol yn nodi'r rhwydwaith prif ffyrdd, gan gynnwys cefnffyrdd, a'r rhwydwaith craidd. Nodir y llwybrau hyn ar y map cyfyngiadau fel coridorau ar gyfer symud.

Rhwydweithiau Prif Ffyrdd a Ffyrdd Craidd

Y Rhwydwaith Prif Ffyrdd (yn cyfateb i'r rhwydwaith Strategol a nodwyd):

M4

A484

A40 (T)

A48

A476

B4310

A4138

A477 (T)

B4335

A474

A4878

B4336

A483 (T)

A4069

B4459

A48 (T)

A482

B4039

A486

A485

B4317

Y Rhwydwaith Ffyrdd Craidd (yn cyfateb i'r rhwydwaith Priffyrdd a nodwyd):

A4066

B4304

B4556

A4068

B4306

B4301

B4299

B4300

B4303

B4333

B4328

B4314

B4310

B4312

B4297

B4337

B4308

B4302

B4368

TRA1: Gwelliannau i'r Seilwaith Trafnidiaeth a Phriffyrdd

Bydd llwybrau trafnidiaeth, gwelliannau i drafnidiaeth a chyfleusterau seilwaith cysylltiedig sy'n cyflawni amcanion blaenoriaethau'r Cynllun Trafnidiaeth ar y Cyd ar gyfer De-orllewin Cymru (2015 – 2020) yn cael eu cefnogi.

Bydd y gwelliannau i'r seilwaith priffyrdd fel rhan o Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands yn cael eu diogelu gyda'r llwybr wedi'i nodi ar y map cynigion.

Bydd cynigion sy'n cynnal ac yn gwella'r rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy integredig hefyd yn cael eu cefnogi pan fyddant yn cyd-fynd â pholisïau a darpariaethau'r Cynllun hwn. Caniateir cynigion datblygu nad ydynt yn peryglu gweithrediad effeithlon unrhyw welliant neu gynllun a nodwyd.

11.545 Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nodi bod Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands yn brosiect cysylltedd Trawsnewidiol ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

11.546 Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran darparu Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands gyda Cham 1 yn agor fel rhan o hwyluso Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands. Mae cam pellach rhwng Heol Llandeilo a Phen-y-groes bron â chael ei gwblhau. Mae'r cam rhwng Heol y Llew Du a Phen-y-groes, sy'n gyfle i hwyluso datblygiad pellach ar hen safle Gwaith Brics yr Emlyn ym Mhen-y-groes, bellach ar agor.

11.547 Bydd y Ffordd Gyswllt Economaidd yn lleddfu tagfeydd ar Gylchfan yr A48 yn Cross Hands sy'n rhan o'r Rhwydwaith Traws-Ewropeaidd (TENS) yn ogystal â gwella diogelwch ar y gyffordd "chwe ffordd" yng Ngors-las. Bydd y cynllun yn darparu cyswllt allweddol ar y rhwydwaith priffyrdd â Llandeilo fel rhan o'r gefnffordd rhwng Abertawe a Manceinion.

11.548 Agorwyd y ffordd gyswllt newydd o ffordd ddeuol yr A40 i Ffordd y Coleg ger Parc Dewi Sant a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant ym mis Mawrth 2019. Gwnaeth hyn alluogi mynediad i safleoedd addysg a chyflogaeth yn ogystal â darparu seilwaith ar gyfer twf tai yn y dyfodol a hwyluso datblygiad Yr Egin (S4C) (gweler Polisi SP6: Safleoedd Strategol).

11.549 Mae 2il Gam Ffordd Ddosbarthu Rhydaman wedi'i nodi fel rhan o gynnig hirdymor i gynorthwyo adfywio economaidd ardaloedd ehangach Rhydaman a Dyffryn Aman. Er nad yw'r CDLl yn diogelu nac yn nodi'r llwybr hwn, mae'n cydnabod ei statws o fewn y Cynllun Trafnidiaeth ar y Cyd a bydd y Cyngor yn monitro unrhyw gynnydd tuag at ei gyflawni. Mae diffyg arwyddion clir o gyflawni ac aliniad diffiniedig yn golygu nad yw'n cael ei nodi o fewn y Cynllun nac ar y map cynigion.

11.550 Mae cynlluniau pellach a nodwyd o fewn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer Sir Gaerfyrddin 2015 – 2020 yn cynnwys y cynlluniau hynny a restrwyd ar gyfer 2020 – 2030 a byddant yn cael eu hadolygu wrth ystyried y diweddariadau ar gynnydd sy'n deillio o'r Cynllun Trafnidiaeth ar y Cyd a strategaethau yn y dyfodol:

  • Seilwaith Adfywio Economaidd Rhydaman (Stryd y Gwynt/Tir-y-dail) – Gwelliannau i'r gyffordd (cwblhawyd 2019)
  • Coridorau a Chyfnewidfeydd Trafnidiaeth Strategol Sir Gaerfyrddin - gwelliannau parhaus i'r prif Goridorau Bysiau.
  • Cysylltiadau Cerdded a Beicio Sir Gaerfyrddin – Datblygiad parhaus rhwydwaith cynhwysfawr o Gysylltiadau Cerdded a Beicio fel Llwybr Beicio Dyffryn Aman, llwybrau cyflogaeth Sir Gaerfyrddin a'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol i wella mynediad at gyflogaeth, addysg a gwasanaethau eraill yn ogystal â rhoi anogaeth ar gyfer twristiaeth a ffyrdd iach o fyw.
  • Mynediad yr A4138 i Lanelli sy'n cynnwys cyfleuster Parcio a Theithio/Rhannu Llanelli/M4 – yn amodol ar ddylunio pellach a gweithredu'r opsiynau a ffefrir o 2019/20.
  • Coridor Trafnidiaeth Dyffryn Tywi (Llwybr Beicio Dyffryn Tywi) - Llwybr beicio gyda chysylltiadau ag atyniadau allweddol gan gynnwys trefi marchnad Caerfyrddin a Llandeilo gyda dull graddol o weithredu a'r cam cychwynnol wrthi'n cael ei adeiladu.
  • Cyfnewidfa Drafnidiaeth Integredig Llanelli – yn ardaloedd Heol yr Orsaf/Heol Copperworks, mae hwn yn ganolbwynt allweddol ar gyfer cyfnewid trafnidiaeth rhwng nifer o ddulliau gan gynnwys gorsaf reilffordd y Dref, llwybrau bysiau masnachol allweddol a chyfleuster parcio a theithio (rheilffyrdd).
  • Canolfannau Teithio Cynaliadwy – gall gynnwys seilwaith gwefru cerbydau trydan, parthau cartrefi wedi'u targedu, gwelliannau i gyfnewidfeydd, rheseli beiciau a llwybrau teithio cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth.
  • Mynediad i Barc Gwledig Pen-bre – Adnewyddu/uwchraddio'r ffordd un lôn bresennol dros y Bont Reilffordd sy'n gwasanaethu Parc Gwledig Pen-bre ar hyn o bryd.

TRA2: Teithio Llesol

Bydd cynigion sy'n gwella mynediad ar gyfer cerddwyr a beicwyr trwy ymgorffori'r canlynol yn y safle, a/neu wneud cyfraniadau ariannol tuag at ddarparu gwasanaethau oddi ar y safle, yn cael eu cefnogi:

  1. Llwybrau cerdded a beicio hydraidd, eglur, uniongyrchol, cyfleus, deniadol a diogel sy'n cysylltu'r datblygiad ag: aneddiadau cyfagos; nodau trafnidiaeth gyhoeddus; cyfleusterau cymunedol; ardaloedd masnachol a chyflogaeth; cyfleusterau twristiaeth; a chyfleoedd hamdden;
  2. Gwelliannau, cysylltiadau a/neu estyniadau i: y rhwydwaith llwybrau troed a hawliau tramwy cyhoeddus presennol (gan gynnwys llwybrau ceffylau); y rhwydwaith a llwybrau beicio; Llwybrau Diogel i'r ysgol; a llwybrau sy'n rhan o'r Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a Glas; a
  3. Cyfleusterau sy'n annog pobl i gerdded a beicio, gan gynnwys: arwyddion priodol; mannau diogel a chyfleus i barcio beiciau; a chyfleusterau newid a chyfleusterau cysylltiedig.

Bydd disgwyl i gynigion sy'n cael effaith andwyol sylweddol ar hawliau tramwy cyhoeddus neu lwybrau presennol a nodwyd trwy Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 gyfrannu at gyflawni Cynllun Teithio Llesol y Cyngor.

11.551 Rhaid i gynigion datblygu geisio sicrhau'r hygyrchedd mwyaf posibl wrth gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, trwy roi blaenoriaeth i ddarparu seilwaith priodol ar y safle a, lle y bo angen, lliniaru effeithiau trafnidiaeth trwy ddarparu mesurau oddi ar y safle, megis datblygu llwybrau teithio llesol, seilwaith sy'n rhoi blaenoriaeth i fysiau a chymorth ariannol i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus[104].

11.552 Mae'r Cynllun yn ceisio hyrwyddo hygyrchedd dulliau trafnidiaeth amgen er mwyn helpu i leihau'r defnydd o geir, ac i gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i ddatblygu, gwella a chynnal rhwydweithiau cerdded a beicio lleol. Anogir cynigion i ddefnyddio Safonau arfer da, gan gynnwys Safonau Dylunio'r Ddeddf Teithio Llesol a chanllawiau perthnasol eraill i sicrhau bod yr egwyddorion dylunio yn adlewyrchu ac yn cyflawni Teithio Llesol. Dylid hefyd ystyried Canllaw Dylunio Priffyrdd y Cyngor.

11.553 Wrth ddefnyddio'r polisi hwn dylid rhoi sylw i ddarpariaethau'r CDLl o ran creu lleoedd a seilwaith gwyrdd a glas. Yn hyn o beth, mae'r Cynllun yn pwysleisio ymrwymiad i amgylcheddau a dylunio o ansawdd, gyda theithio llesol a cherdded a beicio yn gydrannau pwysig.

11.554 Dylai cynigion mewn ardaloedd gwledig adlewyrchu'r deilliannau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol a, lle y bo'n bosibl, cynnig cysylltiadau teithio llesol da â chanol aneddiadau er mwyn lleihau'r angen i deithio mewn car ar gyfer siwrneiau lleol[105].

TRA3: Rheilffordd Gwili

Bydd cynigion yn cael eu caniatáu lle nad ydynt yn peryglu'r canlynol mewn perthynas â rheilffordd Gwili:

  1. Proposed Gwili Railway Extension (1)Proposed Gwili Railway Extension (2)Estyn rheilffordd Gwili tua'r Gogledd i Lanpumsaint;
  2. Darparu gorsaf newydd yng Nglangwili, Caerfyrddin.

11.555 Bydd cynigion ar gyfer Rheilffordd Gwili yn cael eu hystyried yng ngoleuni eu heffaith ar amodau traffig lleol, ar ansawdd yr amgylchedd a'r gofynion o ran seilwaith.

11.556 Mae Rheilffordd Gwili yn atyniad pwysig i dwristiaid a bydd y Cyngor yn cefnogi'r cynigion hirdymor i estyn y rheilffordd tua'r Gogledd i lanpumsaint yn y pen draw a darparu gorsaf newydd fel a nodir o fewn y Polisi.

11.557 Dangosir yr ardaloedd a'r llwybrau a ddiogelir ar y Map Cynigion.

TRA4: Coridorau Rheilffyrdd Segur

Cefnogir cynigion ar gyfer datblygiadau nad ydynt yn peryglu ailddefnyddio coridorau rheilffyrdd segur at ddibenion datblygiadau hamdden a rheilffyrdd posibl yn y dyfodol.

Dylai cynigion hefyd gydnabod pwysigrwydd coridorau rheilffyrdd segur fel coridorau bywyd gwyllt a chyfleoedd i ehangu'r rhwydwaith seilwaith gwyrdd a glas.

11.558 Mae gan ardal y Cynllun nifer o hen reilffyrdd sy'n cynnig manteision sylweddol o ran gweithgareddau hamdden gan gynnwys llwybrau beicio, llwybrau troed a llwybrau ceffylau. Mae hefyd angen ystyried y posibilrwydd o ailddefnyddio llwybrau rheilffyrdd yn y dyfodol wrth ystyried cynigion, a allai effeithio ar barhad ac argaeledd y llwybr.

TRA5: Safonau Priffyrdd a Mynediad mewn Datblygiad

Bydd cynigion ar gyfer datblygu yn cael eu caniatáu lle maent:

  1. Yn ymgorffori'r safonau mynediad angenrheidiol sy'n adlewyrchu dosbarthiad ac amodau'r ffordd;
  2. Yn cynnwys llain gwelededd priodol a nodweddion dylunio sy'n angenrheidiol i sicrhau diogelwch ar y briffordd a bod rhwyddineb symud yn cael ei gynnal, a'i wella lle y bo'n ofynnol;
  3. Yn peidio â chreu lefelau annerbyniol o draffig sy'n cael effaith anfanteisiol ar y rhwydwaith ffyrdd cyfagos, ar ddiogelwch ar y briffordd, neu a fyddai'n achosi niwed sylweddol i amwynder preswylwyr.
  4. Yn peidio ag arwain at dagfeydd oddi ar y safle o ran parcio neu ddarparu gwasanaethau.

11.559 Lle y mae cynnig datblygu yn debygol o godi materion sy'n ymwneud â chapasiti priffyrdd y rhwydwaith, mae'n bosibl y bydd angen cyfraniadau i hwyluso gwaith priodol fel rhan o roi unrhyw ganiatâd.

11.560 Wrth ddefnyddio'r polisi hwn, dylid cyfeirio hefyd at Bolisi PSD1: Dylunio Cynaliadwy ac o Ansawdd Da ac at gynnwys y Canllaw Dylunio Priffyrdd a fydd yn cael ei fabwysiadu fel Canllawiau Cynllunio Atodol.

Polisi Strategol SP 18: Adnoddau Mwynol

Caiff adnoddau mwynol y Sir eu rheoli'n gynaliadwy trwy:

  1. Sicrhau cyflenwad digonol o fwynau, gan gynnwys cynnal banc tir digonol o gronfeydd agregau a ganiateir (o leiaf 10 mlynedd ar gyfer creigiau mâl caled, ac o leiaf 7 mlynedd ar gyfer tywod a graean) trwy gydol cyfnod y cynllun;
  2. Annog y defnydd effeithlon a phriodol o fwynau o ansawdd uchel, a manteisio i'r eithaf ar y potensial i ailddefnyddio ac ailgylchu mwynau addas yn lle ddefnyddio agregau sydd wedi cael eu mwyngloddio o'r newydd;
  3. Diogelu seilwaith mwynau, ac ardaloedd sy'n gorchuddio mwynau o bwysigrwydd economaidd ble gellid cloddio amdanynt yn y dyfodol er mwyn sicrhau na fydd adnoddau a seilwaith o'r fath yn cael eu sterileiddio yn ddiangen gan fathau eraill o ddatblygu;
  4. Defnyddio clustogfeydd i leihau'r gwrthdaro rhwng datblygu mwynau a datblygiadau sensitif;
  5. Sicrhau gwaith adfer priodol a all gyflwyno buddion amgylcheddol a chymunedol penodol.

Mae 'Ardal Chwilio' ar gyfer tywod a graean wedi'i diffinio ar y Map Cynigion a fydd yn ffurfio'r sail i archwilio a chynhyrchu yn y dyfodol er mwyn bodloni'r gofynion isranbarthol ehangach. [106]

11.561 Bydd y CDLl yn ceisio sicrhau bod y Sir yn darparu'n gadarnhaol ar gyfer gweithio am adnoddau mwynol i ddiwallu anghenion y gymdeithas, a bod adnoddau a seilwaith mwynau o'r fath yn cael eu diogelu rhag eu sterileiddio. Wrth wneud hyn, mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ceisio cydbwysedd priodol rhwng y gofyniad sylfaenol hwn, yr angen i sicrhau bod yr adnoddau cyfyngedig hyn yn cael eu defnyddio mewn modd darbodus, a bod mwynderau cyfredol a'r amgylchedd yn cael eu diogelu.

11.562 Mae gan Sir Gaerfyrddin amrediad eang o adnoddau mwynau o ganlyniad i'w daeareg gymhleth. Y brif nodwedd yn ne'r sir yw ehangder helaeth brigiad yr haenau glo, wedi'u hymylu i'r gogledd gan galchfaen Carbonifferaidd. Mae chwarelu calchfaen yn un o'r diwydiannau tynnu mwyaf yn y sir. Mae rhannau gogleddol y sir uwchben creigiau hŷn o'r oes Ordofigaidd a'r oes Silwraidd, yn bennaf tywodfeini, cerrig clai a llechi. Mae arwyddocâd economaidd y rhain yn amrywiol.

11.563 Mae'r Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a De Cymru – Ail Adolygiad (RTS2) (Medi 2020) yn nodi'r cyfraniad y dylai pob awdurdod lleol cyfansoddol ei wneud tuag at fodloni'r galw rhanbarthol am agregau (creigiau mâl caled, a thywod a graean).

11.564 Ar gyfer creigiau mâl, mae Sir Gaerfyrddin yn rhan o Is-ranbarth Dinas Abertawe, ynghyd ag awdurdodau lleol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Er nad yw Abertawe ar hyn o bryd yn gallu dangos anallu i ddiwallu dosraniadau RTS2, mae mwy na digon o gronfeydd wrth gefn o fewn Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin i wneud y dosraniad ar y cyd o fewn y cyfnod hwn heb arwain at danddarpariaeth. Lluniwyd datganiad cydweithio is-ranbarthol (SSRC) sy'n dangos sut mae'r Awdurdodau cyfansoddol yn bodloni gofynion RTS2 mewn perthynas â darpariaeth creigiau wedi'u malu yn y dyfodol.

11.565 O ran darparu tywod a graean, rhaid nodi bod yr Adolygiad Cyntaf o'r RTS (RTS1) wedi awgrymu y byddai gwerth mewn datblygu dull cyfun o ddosraniadau a dyraniadau yn y dyfodol rhwng Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Er bod Sir Gaerfyrddin mewn is-ranbarth ar wahân (oherwydd y farchnad ar gyfer creigiau mâl yn ardal Abertawe yn bennaf), argymhellir yn RTS2 y dylai'r trefniadau cydweithio hyn [a awgrymir yn RTS1] barhau, o ran tywod a graean. Felly, mae dull ar y cyd yn cael ei ddilyn gan Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ar gyfer darparu'r gofyniad dyrannu ar gyfer 3.626 miliwn tunnell dros y cyfnod hyd at 2038.

11.566 Os na fydd y dyraniadau ar gyfer tywod a graean yn y tri awdurdod cyfansoddol yn ddigonol i fodloni'r 3.626 miliwn tunnell dros y cyfnod hyd at 2038, nodwyd 'ardal o chwilio' ar gyfer tywod a graean ar y map cynigion (gydag ardaloedd pellach yn cael eu nodi gan Sir Benfro a Cheredigion yn eu CDLlau Diwygiedig priodol). Ymhellach, mae datganiad o gydweithio is-ranbarthol (SSRC) yn cael ei lunio a fydd yn dangos sut y bydd yr Awdurdodau cyfansoddol yn bodloni gofynion RTS2 mewn perthynas â darpariaeth tywod a graean yn y dyfodol.

11.567 Gyda golwg ar gloddio am yr adnodd yn yr ardal chwilio, ni fydd hyn yn cael ei wneud o fewn 100m o eiddo preswyl. Bydd angen i gynigion ar gyfer cloddio hefyd gyd-fynd â'r meini prawf a nodir ym Mholisi MR1 Cynigion Mwynau. Ar yr elfennau hynny o'r ardal chwilio sy'n cynnwys tir amaethyddol gradd 3a, bydd yr angen i gloddio yn cael ei ystyried yn unol â pharagraff 3.59 o Bolisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11.

11.568 Mae cyfarwyddyd clir gan Lywodraeth Cymru i osgoi parhau i gloddio a defnyddio tanwyddau ffosil. Felly, nid yw'r Awdurdod yn cynnig diogelu adnoddau glo. Mae'n ofynnol i'r Cyngor hysbysu Llywodraeth Cymru os ceir cynigion ar gyfer gweithrediadau glo neu betrolewm nad yw o blaid eu gwrthod.

MR1: Cynigion Mwynau

Caniateir cynigion ar gyfer cloddio am fwynau lle mae yna angen cenedlaethol, rhanbarthol neu leol profedig am y mwynau na ellir ei ddiwallu o ffynonellau presennol nac o ddeunydd eilaidd neu wedi'i ailgylchu, a lle na fyddent yn arwain at unrhyw effeithiau niweidiol sylweddol ar iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd, amwynder lleol a'r rhwydwaith trafnidiaeth lleol. Caiff ceisiadau ar gyfer cynigion mwynau eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

  1. Mae llwybrau mynediad a thrafnidiaeth addas wedi'u hadnabod ac mae'r potensial ar gyfer cludo mwynau drwy ddulliau heblaw ar y ffordd wedi'i asesu'n ddigonol;
  2. Dangosir bod sŵn o fewn lefelau derbyniol;
  3. Mae'r dulliau ymarferol gorau wedi'u nodi i reoli llwch, mwg, mygdarth ac i sicrhau nad yw gweithrediadau'n achosi dirywiad mewn ansawdd aer yn lleol nac yn cael effaith annerbyniol ar iechyd y cyhoedd;
  4. Mae ffrwydro'n cael ei reoli o fewn lefelau derbyniol;
  5. Mae effeithiau posibl ar adnoddau dŵr daear, adnoddau dŵr wyneb a chyflenwadau dŵr wedi'u nodi a dangoswyd nad ydynt yn achosi effeithiau andwyol a'u bod o fewn lefelau derbyniol;
  6. Nid oes unrhyw effeithiau niweidiol annerbyniol ar safleoedd o bwysigrwydd cadwraeth natur a nodweddion ecolegol, ac mae effeithiau niweidiol ar safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol, diwylliannol a thirwedd wedi'u nodi a phrofwyd eu bod yn fach iawn;
  7. Mae mesurau lliniaru effeithiol a gynigir i leihau i'r eithaf unrhyw effeithiau posibl o ganlyniad i ymsuddiant neu dir ansad wedi'u nodi a'u dangos mewn ffordd sydd wrth fodd y Cyngor;
  8. Nid yw effaith niweidiol ar gymeriad y dirwedd ac amwynder gweledol yn sylweddol;
  9. Mae cyfleoedd i ailddefnyddio a/neu ailgylchu gwastraff mwynau yn cael eu cynyddu i'r eithaf;
  10. Mae cynigion boddhaol wedi'u cyflwyno ar gyfer adfer y safle, ei dirweddu, ei ddefnyddio a gofalu amdano ar ôl y gweithrediadau cloddio.
  11. Dylai mesurau effeithiol sicrhau bod seilwaith cyfleustodau yn cael ei ddiogelu.

11.569 Diben y polisi yw cadw cydbwysedd rhwng ateb galw cenedlaethol, rhanbarthol a lleol am fwynau a lleihau'r effeithiau niweidiol posibl a allai ddeillio o weithrediadau o'r fath. Gall cloddio am fwynau gael effaith gadarnhaol ar ardaloedd a chymunedau lleol trwy ddarparu ffynhonnell cyflogaeth a chyfrannu at yr economi leol, ond ar yr un pryd rhaid rhoi mesurau ar waith i ddiogelu iechyd ac amwynder lleol a'r amgylchedd rhag unrhyw effeithiau negyddol a allai ddeillio o hynny. Dylid rhoi ystyriaeth arbennig i'r posibilrwydd o effeithiau ar ddŵr daear ac adnoddau dŵr a hefyd i iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd (gan gynnwys y dirwedd/trefwedd a dynodiadau hanesyddol), amwynder lleol, y rhwydwaith trafnidiaeth lleol a pharamedrau amgylcheddol eraill.

11.570 Mae'n hanfodol cynllunio gweithrediadau mwynau sy'n amgylcheddol dderbyniol o'r cychwyn cyntaf. Gall y defnydd o reolaethau cynllunio, megis amodau, rhwymedigaethau cyfreithiol, a monitro a gorfodi sicrhau rheolaeth effeithiol ar weithrediadau ar safleoedd mwynau. Dylid defnyddio'r rheolaethau lle maent yn angenrheidiol ac yn berthnasol i'r amgylchiadau unigol dan ystyriaeth. Bydd lefelau derbyniol o effaith yn amrywio ar wahanol safleoedd mwynau a byddant yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Yr awdurdod fydd yn penderfynu ar y rhain mewn perthynas â phob cais cynllunio unigol.

MR2: Clustogfeydd Mwynau

Gwnaed darpariaeth ar gyfer Clustogfeydd o amgylch pob safle sydd â chaniatâd cynllunio presennol ar gyfer cloddio am fwynau.

Fel arfer, ni chaniateir datblygiadau sensitif newydd nad ydynt yn ymwneud â mwynau o fewn y clustogfeydd a nodwyd. Mae'r holl glustogfeydd wedi'u nodi ar y map cynigion.

11.571 Defnyddir clustogfeydd i ddarparu ardaloedd gwarchod o amgylch gweithfeydd mwynau a ganiateir a rhai a gynigir lle dylid gwrthsefyll datblygiadau newydd a fyddai'n sensitif i effeithiau niweidiol, gan gynnwys ardaloedd preswyl, ysbytai ac ysgolion. Bydd dynodi clustogfeydd yn sicrhau bod canllawiau clir ar agosrwydd gweithrediadau mwynau at ddefnyddiau tir sensitif, a bod effaith bosibl gwaith mwynau yn cael ei gydnabod ac y cynllunnir ar ei chyfer yn yr ardal o gwmpas y gweithrediadau mwynau presennol ac arfaethedig.

11.572 Nodir pellteroedd clustogfeydd o 200m (o leiaf) o amgylch chwareli creigiau caled a 100m (o leiaf) o amgylch safleoedd cloddio tywod a graean yn MTAN1: Agregau,[107] a nodir clustogfeydd o 500m o amgylch safleoedd cloddio glo yn MTAN2: Glo. [108] Caiff eithriadau i'r pellteroedd hyn eu hystyried yn unol â'r darpariaethau a nodir yn MTAN 1 a 2.

MR3: Ardaloedd Diogelu Mwynau

Ni roddir caniatâd cynllunio ar gyfer cynigion datblygu lle byddent yn sterileiddio adnoddau agregau a nodwyd yn yr ardaloedd diogelu mwynau ar y map cynigion yn barhaol oni bai:

  1. Y gall yr ymgeisydd ddangos bod cloddio'r mwynau yn anymarferol, yn aneconomaidd neu'n amgylcheddol annerbyniol (gan gynnwys peryglu amwynder ac ystyriaethau cymdeithasol); neu
  2. Mae'r adnodd mwynau eisoes wedi cael ei gloddio; neu
  3. Gellir cloddio'r mwynau yn foddhaol cyn i'r datblygiad ddigwydd; neu
  4. Mae'r datblygiad o natur dros dro a gellir ei gwblhau ac adfer y safle o fewn yr amserlen y mae'n debygol y bydd angen y mwynau; neu,
  5. Ni fyddai natur a lleoliad y datblygiad yn cael unrhyw effaith sylweddol ar y posibilrwydd o gloddio'r adnodd.

11.573 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd diogelu adnoddau mwynol sy'n diwallu anghenion cymdeithas yn awr ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw hyn o reidrwydd yn awgrymu rhagdybiaeth o blaid gweithio'r dyddodion mwynol, dim ond bod lleoliad y mwynau'n hysbys. Mae'r ardaloedd wedi'u diogelu a nodir ar y Map Cynigion yn ymwneud â Map Diogelu Agregau Arolwg Daearegol Prydain ar gyfer De-orllewin Cymru.

11.574 Dim ond os gall y datblygwr fodloni unrhyw un o'r meini prawf uchod y caniateir i ddatblygiadau fynd rhagddynt ar ardaloedd a ddiogelir. O'i ystyried gyda pholisïau perthnasol eraill yn y Cynllun (yn arbennig MR1), ni fydd mwyngloddio'n briodol o fewn nac ar bwys terfynau datblygu aneddiadau. Fodd bynnag, mewn achosion lle cynigir mathau eraill o ddatblygiadau mewn ardaloedd o'r fath (a bod adnodd mwynau sy'n deilwng o gael ei ddiogelu wedi'i adnabod), dylid ystyried cloddio'r adnodd ymlaen llaw fel rhan o'r cais gan sicrhau nad yw unrhyw weithrediad yn cael unrhyw effeithiau niweidiol annerbyniol ar yr amgylchedd, iechyd dynol ac amwynder lleol.

11.575 O ran agregau (creigiau caled, a thywod a graean) a nodwyd ac a ddiogelwyd ar y map cynigion, ni fydd cloddio am adnoddau mwynol yn dderbyniol yn gyffredinol o fewn 200 metr i aneddiadau a nodwyd yn y CDLl (ar gyfer craig galed) ac o fewn 100 metr (ar gyfer tywod a graean).

11.576 Ar hyn o bryd nid oes unrhyw lanfeydd morol o fewn y Sir. Bydd cynigion posibl ar gyfer y dyfodol, lle y bônt yn dderbyniol, yn cael eu gwarchod i ddiogelu llwybr(au) cyflenwi tywod a graean yn yr ardal. Caiff safle gweithredol Llanelli Sands ym Mhorth Tywyn (ynghyd â'r 'safle glanio morol' cysylltiedig) ei ddynodi ar y Map Cynigion, ac yn Atodiad 4 (Safleoedd Mwynau), a'i ddiogelu yn unol â hynny.

Polisi Strategol – SP 19: Rheoli Gwastraff yn Gynaliadwy

Gwneir darpariaeth i hwyluso trefniadau rheoli gwastraff yn gynaliadwy trwy:

  1. Ddyrannu tir priodol digonol i ddarparu rhwydwaith integredig o gyfleusterau rheoli gwastraff;
  2. Cefnogi cynigion ar gyfer rheoli gwastraff sy'n cynnwys rheoli gwastraff yn unol â'r drefn a nodir yn yr hierarchaeth wastraff;
  3. Cefnogi cynigion sy'n ystyried cysyniad y gosodiad priodol agosaf ac egwyddorion agosrwydd a hunan-gynhaliaeth[109];
  4. Cefnogi cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff mewn adeiladau mewn safleoedd diwydiannol presennol a rhai a ddyrennir (defnydd B2), sydd yn addas ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff;
  5. Cydnabod efallai nad oes angen i fathau penodol o gyfleuster gwastraff fod wedi'u leoli y tu allan i derfynau datblygu aneddiadau;
  6. Sicrhau bod darpariaeth yn cael ei wneud ar gyfer rheoli gwastraff yn gynaliadwy ym mhob datblygiad newydd, yn cynnwys sicrhau cyfleoedd i leihau cynhyrchu gwastraff.

Rhaid i gynigion datblygu sicrhau:

  1. Nad oes unrhyw effeithiau niweidiol, sylweddol ar iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd, amwynder lleol na'r rhwydwaith trafnidiaeth lleol;
  2. Bod y cynnig yn gydnaws ag unrhyw ddefnyddiau neu weithgareddau cyfagos.

Bydd cydleoli cyfleusterau rheoli gwastraff er mwyn gallu datblygu rhwydweithiau gwres yn cael ei gefnogi, yn amodol ar y meini prawf uchod; a

Rhaid i gynigion sy'n ymwneud â gwastraff gael eu hategu gan Asesiad Cynllunio Gwastraff priodol.

11.577 Nodir y materion cynllunio y mae'n rhaid eu hystyried wrth baratoi ceisiadau ar gyfer datblygiadau gwastraff yn Atodiad C o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 21 Gwastraff (2014). Bydd angen i geisiadau ddangos sut y bydd y cynnig yn cyfrannu at gyflawni'r amcanion yn y Strategaeth Wastraff Genedlaethol Tuag at Ddyfodol Diwastraff a'r Cynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd. Dylid cyflwyno Asesiad Cynllunio Gwastraff gyda phob cais am gyfleuster gwastraff a ddosberthir yn gyfleuster gwaredu, adfer neu ailgylchu. Dylai'r Asesiad Cynllunio Gwastraff fod yn briodol ac yn gymesur â natur, maint a graddfa'r datblygiad arfaethedig. Mae rhagor o gyngor i'w gael yn Atodiad B o TAN 21 Gwastraff.

11.578 Bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut mae eu cynnig datblygu wedi mynd i'r afael â'r hierarchaeth wastraff. Bydd angen cyfiawnhau gwyro oddi wrth yr hierarchaeth wastraff trwy ddefnyddio Asesiad Cylch Oes. Bydd angen dogfennu hyn fel rhan o'r Asesiad Cynllunio Gwastraff a gyflwynir gan yr ymgeisydd.

11.579 Er ei bod yn anodd rhagweld yn gywir beth fydd yr anghenion yn y dyfodol o ran trin ac adfer gwastraff cymysg gweddillol, a gwaredu gwastraff, mae'r Cynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd yn nodi'r angen parhaus bod mwy o wastraff cymysg gweddillol na ellir ei ailgylchu yn cael ei adfer. Felly, mae angen datblygu mwy o gyfleusterau trin ac adfer gwastraff gweddillol a sicrhau y cynhelir digon o gapasiti gwaredu ar lefel sy'n briodol i gefnogi nodau cyffredinol Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Cyfeirir at yr Adroddiadau Monitro Cynllunio Gwastraff blynyddol ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru (fel a nodir yn TAN 21) sy'n rhoi gwybodaeth ac argymhellion ar weithio trawsffiniol, yn enwedig o ran sut y mae gwastraff gweddillol y rhanbarth yn cael ei reoli ac a oes digon o gapasiti tirlenwi ar ôl.

11.580 Gall safleoedd cyflogaeth cyffredinol (defnyddiau B2) fod yn addas ar gyfer llawer o'r cyfleusterau gwastraff 'mewn adeiladau' yn y dyfodol. Byddai'r cyfleusterau hyn yn darparu ar gyfer gwastraff diwydiannol a masnachol yn ogystal â gwastraff a gesglir gan yr awdurdod lleol. O gofio'r angen i ddargyfeirio gwastraff i ffwrdd o safleoedd tirlenwi, caniateir y cyfleoedd a gynigir gan gyfleusterau ynni o wastraff mewn adeiladau i harneisio ynni ar gyfer gwres a/neu bŵer o wastraff trefol gweddillol ar yr amod eu bod yn gydnaws â defnyddiau cyfagos ac yn bodloni'r meini prawf a nodir uchod. Rhoddir anogaeth ar gyfer cynigion sy'n cynnwys gwres a phŵer cyfunedig a allai gyfrannu tuag at gynlluniau gwresogi ardal ar gyfer datblygiadau mawr. Rhestrir y safleoedd hynny sydd â'r potensial i ddarparu ar gyfer cyfleusterau gwastraff mewn adeiladau ym Mholisi: SP6. Mae hyn yn ychwanegol at y cyfleusterau rheoli gwastraff presennol o fewn y Sir sydd wedi eu rhestru yn Atodiad 8. Mae llawer o'r rhain, megis safle rheoli gwastraff Nant-y-caws, wedi hen ennill eu plwyf ac yn debygol o barhau i chwarae rhan o fewn cyfnod y Cynllun.

11.581 Rhoddir anogaeth ar gyfer cynigion sy'n ymwneud ag ailgylchu ac ailddefnyddio gwastraff adeiladu a dymchwel anadweithiol yn ogystal â gwastraff mwynol a diwydiannol. Safleoedd mwynau gweithredol presennol (a nodir ar Fapiau Cynigion y CDLl, ac a restrir yn Atodiad 4), neu safleoedd adeiladu priodol, fydd y lleoliadau a ffefrir. Gallai dyraniadau tir cyflogaeth B2 fod yn opsiynau hefyd, er enghraifft lle y gall gorsafoedd trosglwyddo gwastraff neu gyfleusterau adfer deunyddiau mewn adeiladau sy'n gallu ymdrin â gwastraff o'r fath weithredu. Bydd cydnawsedd â defnyddiau cyflogaeth presennol yn ffactor tyngedfennol wrth asesu cynigion ar gyfer ailgylchu gwastraff anadweithiol ar safleoedd B2.

11.582 Nid yw safleoedd cyflogaeth B2 yn lleoliadau addas ar gyfer mathau penodol o weithrediadau gwastraff 'awyr agored', yn enwedig tirlenwi neu gompostio rhes agored. Mae mathau eraill o gyfleusterau gwastraff, megis safleoedd amwynder dinesig, hefyd weithiau yn fwy addas ar gyfer lleoliadau i ffwrdd o ardaloedd adeiledig. Gellir ystyried bod cynigion ar gyfer compostio rhes agored yn addas fel rhan o gynlluniau arallgyfeirio ar ffermydd.

WM1: Rheoli Gwastraff yn Gynaliadwy a Datblygiadau Newydd

Rhaid i gynigion datblygu sicrhau y gwneir darpariaeth ar gyfer rheoli gwastraff mewn modd cynaliadwy ym mhob datblygiad newydd, gan gynnwys storio, ailgylchu a thrwy sicrhau cyfleoedd i leihau'r gwastraff a gynhyrchir.

11.583 Mae gan ddatblygiadau newydd y cyfle i wneud cyfraniad tuag at gyrraedd y targedau a nodir yn Strategaeth Wastraff Genedlaethol Cymru Tuag at Ddyfodol Diwastraff trwy ymgorffori cyfleusterau a mannau digonol ar gyfer casglu, compostio ac ailgylchu deunyddiau gwastraff yn eu dyluniad. Bydd defnyddio dull o'r fath hefyd yn helpu i annog pobl i ailgylchu yn y cartref, yn y gwaith ac mewn mannau cyhoeddus.

11.584 Mae nifer o faterion allweddol y bydd angen mynd i'r afael â hwy mewn cysylltiad â rheoli gwastraff sy'n berthnasol i bob math o ddatblygiad:

  • Gwahanu gwastraff ar gyfer ei ailgylchu: bydd ymgorffori cyfleusterau ailgylchu yn helpu i sicrhau bod dargyfeirio gwastraff yn hawdd ac yn gyfleus i'w weithredu;
  • Mynediad: Mae'n bwysig cynllunio mynediad hawdd a chyfleus ar gyfer defnyddwyr cyfleusterau gwastraff a'r rhai sy'n casglu gwastraff. Bydd hyn hefyd yn helpu i hyrwyddo ailgylchu ac yn gwneud darparu gwasanaethau gwastraff mewn modd darbodus yn fwy cyraeddadwy;
  • Llygredd: Mae'n hanfodol bod unrhyw ddyluniad a chynllun yn ystyried effaith bosibl y cyfleusterau hyn ar eiddo cyfagos, o ran arogleuon posibl, sŵn a denu fermin;
  • Diogelwch: Rhaid mynd i'r afael â diogelwch yn ystod y cam dylunio er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith negyddol ar iechyd pobl;
  • Effaith weledol: Mae'n bwysig lleihau effaith weledol biniau gwastraff ac ailgylchu a sicrhau nad ydynt yn amharu ar ansawdd amwynder a thirwedd yr ardal.

11.585 Mae'r Cyngor yn awyddus i weithio gyda datblygwyr i weld dulliau arloesol o reoli gwastraff (gan gynnwys triniaeth ar y safle lle y bo'n ymarferol) yn cael eu hymgorffori mewn datblygiadau preswyl newydd a datblygiadau eraill.

11.586 Dylai datblygwyr sicrhau bod digon o le wedi'i ymgorffori yn eu datblygiad ar gyfer lleoli cynwysyddion gwastraff ar ymyl y palmant ar ddiwrnodau casglu, ac nad oes grisiau, cyrbau na rhwystrau eraill ar y llwybr rhwng yr ardal storio a'r man casglu. Rhaid i safonau dyluniad a chynllun ffyrdd ystyried gofynion mynediad y Cyngor o ran cerbydau casglu gwastraff.

11.587 Mae'n ofynnol i bob busnes fod â chyfleusterau gwahanu a storio digonol ar gyfer gwastraff. Rhaid i'r man storio ateb gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer mynediad, golau ac awyru a hefyd bod yn ddiogel i atal fandaliaeth a thipio anghyfreithlon. Argymhellir hefyd y dylid datblygu unrhyw fannau storio mewn ymgynghoriad â'r darparwr gwasanaethau arfaethedig. Bydd disgwyl i safleoedd masnachol ailgylchu hefyd, felly mae'n debygol y bydd angen biniau/cynwysyddion storio lluosog.

WM2: Cynigion Tirlenwi

Dim ond os gallant gyd-fynd â'r canlynol y caiff cynigion ar gyfer safleoedd tirlenwi newydd eu caniatáu:

  1. Mae angen capasiti ychwanegol o fewn rhanbarth Canolbarth a De-orllewin Cymru (rhaid darparu tystiolaeth i ddangos o ble y daw'r deunydd):
  2. Mae'r cynnig yn cydymffurfio â'r hierarchaeth wastraff, cysyniad y gosodiad priodol agosaf a hunangynhaliaeth;
  3. Ni fyddai unrhyw effaith niweidiol sylweddol ar y canlynol:
    1. Y dreftadaeth naturiol, a'r amgylchedd diwylliannol a hanesyddol;
    2. Daeareg a hydroddaeareg y safle;
    3. Dyfroedd a reolir, gan gynnwys ansawdd a maint dŵr;
    4. Amwynderau meddianwyr cyfagos, gan gynnwys effeithiau symudiad traffig a chynhyrchu sŵn, llwch, mygdarth ac arogleuon;
    5. Y rhwydwaith priffyrdd lleol, gan gynnwys mynediad, a diogelwch ar y briffordd;
    6. Diogelwch y cyhoedd, iechyd a llesiant;
    7. Amwynder gweledol y safle a'r cyffiniau;
    8. Seilwaith a gwasanaethau cyfleustodau cyhoeddus; a
    9. Thir amaethyddol o ansawdd da (Graddau 1, 2 neu 3a)

Bydd angen i'r dull adfer ac ôl-ofal, a'r defnydd ar ôl tirlenwi fod yn rhan o'r cynnig tirlenwi a chael ei gwblhau o fewn oes unrhyw ganiatâd a roddir.

11.588 Nod hirdymor Llywodraeth Cymru yw dileu tirlenwi i'r graddau mwyaf posibl. Mae Tuag at Ddyfodol Diwastraff yn pennu terfynau ar gyfanswm y gwastraff trefol gweddillol a'r gwastraff diwydiannol a masnachol a anfonir i safleoedd tirlenwi. Fodd bynnag, cydnabyddir y bydd gwaredu i safleoedd tirlenwi yn parhau yn y tymor byr a chanolig. Mae hyn yn rhannol oherwydd y ffordd y mae gwastraff yn cael ei gasglu, capasiti'r seilwaith sydd ar waith ar hyn o bryd i ymdrin â gwastraff, a bodolaeth gwastraff etifeddol (fel asbestos) a gweddillion llosgi, lle nad oes unrhyw ddewis diogel arall yn bodoli ar hyn o bryd heblaw gwaredu i safleoedd tirlenwi yn y pen draw.

11.589 Bob blwyddyn, cynhyrchir Adroddiad Monitro Cynllunio Gwastraff ar gyfer rhanbarth Canolbarth a De-orllewin Cymru sy'n nodi faint o gapasiti tirlenwi (lle gwag) sy'n weddill o fewn y rhanbarth yn ei gyfanrwydd. Y lefel (a nodir yn TAN 21 Gwastraff) o le gwag ym mhob rhanbarth yr ystyrir ei bod yn ddigonol ac y dylid ei chynnal yw 5/7 o flynyddoedd. Er bod yr Adroddiad Monitro Cynllunio Gwastraff diweddaraf (ar gyfer cyfnod 2018/19) yn nodi capasiti digonol, os bydd y sefyllfa'n newid yn ystod blynyddoedd dilynol, yna bydd angen ystyried lleoliadau posibl ar gyfer safle tirlenwi newydd a fyddai'n bodloni gofynion y rhanbarth.

11.590 Mae gan y safle tirlenwi olaf sy'n dal i fodoli yn Sir Gaerfyrddin, yn Nant-y-caws, gapasiti ar ôl ond nid yw'n weithredol ar hyn o bryd. Nid yw'n glir a fydd na phryd y bydd y sefyllfa hon yn newid yn ystod cyfnod y Cynllun. O ran gwastraff a gesglir gan yr awdurdod lleol, mae'r elfen weddillol yn cael ei gwaredu ar hyn o bryd mewn safleoedd tirlenwi, a chyfleusterau trin gwastraff eraill, y tu allan i'r Sir (o fewn a'r tu allan i ranbarth Canolbarth a De-orllewin Cymru).

11.591 Caiff cynigion ar gyfer safleoedd tirlenwi newydd eu gwerthuso yng nghyd-destun y meini prawf a nodir uchod a chan roi sylw i ystyriaethau cynllunio manwl a nodir yn TAN 21 Gwastraff – Atodiad C. Caiff y cynigion eu hasesu'n ofalus i sicrhau nad yw safleoedd tirlenwi yn peri risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd a defnyddiau cyfagos.

11.592 Lle y bo hynny'n briodol ac yn ymarferol, efallai y bydd yn ofynnol i ddatblygwyr ymrwymo i Gytundeb A106 i sicrhau bod y cynigion yn cynnwys mesurau i gynhyrchu ynni o nwy tirlenwi lle y gallai methan ddianc i'r atmosffer fel arall. Bydd gwneud yn siŵr bod y broses o adfer ac ôl-ofalu am safle (neu gell) tirlenwi yn cael ei chwblhau i safon y cytunwyd arni gan y Cyngor yn cael ei sicrhau trwy gytundeb A106 hefyd. Rhaid cwblhau'r gwaith tirlunio terfynol erbyn dyddiad terfyn y caniatâd cynllunio.

11.593 Rhaid cyflwyno Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ar gyfer pob cais sy'n dod o dan Atodlen 1 o'r Rheoliadau Asesu'r Effaith Amgylcheddol a, lle y bo'n briodol, gofynnir am hynny ar gyfer unrhyw ddatblygiad sy'n dod o fewn Atodlen 2.

WM3: Tir Amaethyddol - Gwaredu Gwastraff Anadweithiol

Caniateir cynigion ar gyfer dyddodi deunyddiau gwastraff anadweithiol a fewnforiwyd i wella tir amaethyddol o radd isel dim ond dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Lle gellir dangos bod y gwelliant a geisir yn rhesymol angenrheidiol at ddibenion amaethyddiaeth o fewn y daliad;
  2. Lle mae swm y gwastraff i'w ddodi yn cyfateb â'r lleiafswm y mae ei angen i gyflawni'r gwelliant a geisir;
  3. Lle mae trefniadau ar waith i wahanu a gwaredu unrhyw wastraff nad yw'n anadweithiol, neu briddoedd halogedig, a gafwyd mewn camgymeriad;
  4. Lle mae maint, trwch a thriniaeth wyneb terfynol y dyddodiad yn gydnaws â'r dirffurf o'i gwmpas.

11.594 Diben gwaredu gwastraff anadweithiol trwy ei ddodi ar dir fferm a mannau eraill yn y gorffennol, ar sawl achlysur, fu gwaredu gwastraff yn y ffordd rataf bosibl ac osgoi talu treth tirlenwi, yn hytrach na gwella ansawdd tir amaethyddol neu hwyluso datblygiadau angenrheidiol eraill.

11.595 Y prif ddiben y dylai'r cynnig ei ateb yn amlwg yw gwella ansawdd tir yn hytrach na gwaredu gwastraff. Yn hyn o beth, dylai swm y gwastraff i'w ddodi gyfateb â'r lleiafswm sydd ei angen i gyflawni'r gwelliant arfaethedig. Lle nad yw hyn yn wir, bydd y Cyngor yn ystyried y cynnig o dan Bolisi WM1 uchod.

11.596 Yn gyffredinol, daw gwastraff anadweithiol o weithrediadau adeiladu, dymchwel a chloddio a gall gynnwys deunyddiau fel priddoedd, briciau a choncrit. Gellir categoreiddio defnydd buddiol o'r gwastraff hwn ar gyfer gwella tir amaethyddol, lle bo angen hynny, fel gweithrediad adfer gwastraff. Gellir diffinio adfer gwastraff fel unrhyw weithred y mae ei brif ganlyniad yn golygu sicrhau bod gwastraff yn ateb diben defnyddiol trwy ddisodli deunyddiau eraill a fyddai fel arall wedi cael eu defnyddio i gyflawni swyddogaeth benodol, neu baratoi gwastraff i gyflawni'r swyddogaeth honno, yn y gwaith neu'r economi ehangach.

11.597 Dylai'r ymgeisydd ddangos wrth fodd yr Awdurdod bod y datblygiad gwastraff arfaethedig yn 'weithred adfer'. Bydd yr Awdurdod yn penderfynu a oes gwir angen am y datblygiad, ynteu a yw'r gweithgaredd mewn gwirionedd yn un ar gyfer 'gwaredu' gwastraff i dir am unrhyw reswm arall. Yr ystyriaeth allweddol ar gyfer 'gweithrediadau adfer' yw y byddai'r datblygiad wedi digwydd beth bynnag, hyd yn oed pe na bai'r gwastraff ar gael. Os nad yw hyn yn wir, yna byddai'r gweithrediad yn cael ei ddosbarthu fel gweithrediad gwaredu.

11.598 Rhaid i'r cynnig ddangos bod swm y gwastraff a gaiff ei ddefnyddio'n cyfateb â'r lleiafswm y mae ei angen ac y byddai unrhyw newidiadau i'r dirffurf o ganlyniad yn gydnaws â'r ardal. Dylai'r datblygiad barchu buddiannau cadwraeth natur ac amwynder y safle a'r ardal gyfagos, gan gynnwys cymeriad y dirwedd ac amwynder gweledol.


[49] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11

[50] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11

[51] Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy 2006 – Paragraff 5.2

[52] Astudiaeth Anghenion Gwledig Sir Gaerfyrddin 2019

[53]https://www.bargenddinesigbaeabertawe.cymru/prosiectau/pentref-gwyddor-bywyd-a-llesiant/ /

[54] https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/datblygu-a-buddsoddiad/llynnoedd-delta/#.XeQ8_3d2tPY

[57]Eiddo Masnachol: Dadansoddiad o'r Farchnad ac Ymyriadau Posibl (Mawrth 2020)

[58] (TAN 6 Para 3.1.3)

[59] Amcanion Llesiant Sir Gaerfyrddin 2017-18

[60] Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg, Llywodraeth Cymru (2017)

[61] Cyngor Sir Caerfyrddin (2014), Canllawiau Cynllunio Atodol: Y Gymraeg

[62] Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y'u diwygiwyd); Polisi Cynllunio Cymru; Cylchlythyr Swyddfa Cymru 13/97 Rhwymedigaethau Cynllunio

[63] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11

[64] Health Impact Assessments A Practical Guide - Wales HIA Support Unit

[65] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11

[66] Deddf Tai (Cymru) 2014

[67] Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 005/2018: Cynllunio ar gyfer Safleoedd Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn

[70] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11 - Adran 4

[71] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11

[75] Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru: Cynllun gweithredu sŵn a seinwedd 2018-2023

[76]Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11 (paragraff 4.3.44 a 6.7.5)

[77] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11

[78] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11.

[79] https://datamap.gov.wales/layers/inspire-nrw:NRW_TRANQUIL_AREAS_2009

[80] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11

[83] Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11

[85]TAN6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy - Paragraff 4.13.1

[86] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11

[88] Llythyr y Prif Swyddog Cynllunio - Canllawiau ar sicrhau gwelliannau bioamrywiaeth mewn cynigion datblygu 2019.

[90]Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau'r Mynydd Mawr: Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft https://www.carmarthenshire.gov.wales/media/1223332/caeau-mynydd-mawr-special-area-of-conservation-draft-spg-2020.pdf

[91] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11 – Paragraffau 6.1.18 a 6.1.19. Mae rhagor o wybodaeth am ystyried parciau a gerddi hanesyddol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gael yn Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol (https://gov.wales/topics/planning/policy/tans/tan-24/?lang=en) a chanllawiau arferion gorau Cadw: Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru (http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/ historicenvironment/20170531Managing%20Change%20to%20Registered%20Historic%20Parks%20&%20Gardens%20in%20Wales%20 26922%20EN.pdf).

[92] Mae rhagor o wybodaeth am y gofrestr tirweddau hanesyddol a'i defnydd wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gael yn Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol. https://gov.wales/topics/planning/policy/tans/tan-24/?lang=en

[93] Ceir mwy o wybodaeth am ystyried olion archeolegol drwy'r broses gynllunio, gan gynnwys asesiad desg, gwerthuso maes ac ystyried olion archeolegol annisgwyl, yn Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol. https://gov.wales/topics/planning/policy/tans/tan-24/?lang=en

[94] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11 – Paragraffau 6.1.30 - 6.1.32.

[95]Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11 (paragraff 5.9.1)

[[1]] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11

[[2]] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11

[[3]] Re-energising Wales: Decarbonising Transport in Wales – Sefydliad Materion Cymreig (Mehefin 2018)

www.iwa.wales/wp-content/uploads/2018/06/IWA_Decarbonising_Transport-1.pdf

[97] Fel y nodwyd yn Nodyn Cyngor Technegol 15 (2004) – Mapiau Cyngor ar Ddatblygu

[98] Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11

[99] Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11

[100] http://lle.gov.wales/catalogue/item/WWNPFloodplainReconnectionPotentialWales/?lang=en

[104] Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11

[105] Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11

[106]Fel y nodwyd yn y Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Gweithgorau Agregau Rhanbarthol Gogledd Cymru a De Cymru– Ail Adolygiad (RTS2) (Medi 2020).

[107]Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregau

[108]Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2: Glo

[109] Erthygl 16 o Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yr UE, 2008

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig