Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

Daeth i ben ar 14 Ebrill 2023
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

10. Y Clystyrau

Map yn danogos y diagram allweddol I’r CDLl

Ffigur 8

10.1 Mae ffigur 8 uchod yn dangos y diagram allweddol ac yn nodi sut y caiff ardaloedd y cynllun eu hisrannu'n glystyrau dynodedig, gyda phob un yn cynnwys aneddiadau cydrannol fel y diffinnir yn y fframwaith aneddiadau ym Mholisi Strategol SP16. Mae'r clystyrau wedi isrannu ardal y cynllun yn chwe ardal ddaearyddol, y mae gan bob un ohonynt brif ganolfan neu ganolfan wasanaethau neu wedi'i gefnogi gan rwydwaith o aneddiadau eraill.

10.2 Mae'r clystyrau a ddiffinnir, yn eu trefn, fel a ganlyn:

  1. Caerfyrddin a'i hardaloedd gwledig
  2. Llanelli a Gwendraeth Isaf
  3. Aman a Gwendraeth Uchaf
  4. Teifi
  5. Tywi Uchaf
  6. Gorllewin Sir Gaerfyrddin

Caerfyrddin a'i Hardaloedd Gwledig

10.3 Mae clwstwr Caerfyrddin a'i Hardaloedd Gwledig wedi'i nodweddu gan ardal wledig ac mae'r aneddiadau yn amrywio o ganolfan ranbarthol Caerfyrddin i drefi marchnad a phentrefi bach a mawr mewn ardaloedd gwledig. Lleolir yr aneddiadau mewn tirweddau gwledig lle mai amaethyddiaeth yw'r brif economi.

10.4 Mae'n ganolog i'r Sir a'r rhanbarth, ac mae wedi'i leoli ar gyfres o lwybrau priffyrdd a rheilffyrdd strategol sydd wedi'u canoli ar dref farchnad hanesyddol Caerfyrddin. Fel canolfan ranbarthol gyda'i swyddogaethau cysylltiedig, mae Caerfyrddin yn dal i fod yn ffocws ar gyfer darparu tai a swyddi newydd ac fel canolfan adwerthu fywiog, ac mae'r sector cyhoeddus yn gyflogwr craidd. Bydd cyfleoedd twf yn y dyfodol yn canolbwyntio ar ddarparu cymysgedd ac amrywiaeth ehangach o safleoedd datblygu. Rhagwelir y bydd cyfran fawr o ddatblygiad y clwstwr wedi'i lleoli yng Nghaerfyrddin. ,

10.5 Mae rôl Caerfyrddin ar draws y rhanbarth ac mewn perthynas â'i chefnwlad yn cael ei hadlewyrchu drwy ei nodi fel 'ardal dwf ranbarthol' yn Cymru'r Dyfodol [42].

10.6 O amgylch y dref mae nifer o bentrefi gwledig â chysylltiadau da sy'n ymwneud â Chaerfyrddin fel yr anheddiad mwy, yn rhinwedd cysylltiadau ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, a mynediad at wasanaethau a chyfleusterau. Mae'r rhain yn gwneud cyfraniad pwysig at y clwstwr ehangach gan weithredu'n aml fel mannau lle mae pobl yn byw ac yn gweithio.

10.7 Ceir llawer o ymwelwyr â'r ardal, ac mae ganddi nifer o atyniadau i ymwelwyr, gan gynnwys Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne, Fforest Brechfa lle ceir llwybrau beicio mynydd a cherdded, Rheilffordd Stêm Gwili, a thraeth a chastell Llansteffan.

Ardal Llanelli a De Cwm Gwendraeth

10.8 Mae'r clwstwr hwn ar hyd morlin Llanelli yn cadw ffocws datblygiadol cryf, ac mae ei botensial adfywio'n cael ei gydnabod yn y Strategaeth Trawsnewidiadau, y Fargen Ddinesig a'r CDLl Mabwysiedig presennol yn ogystal â Cymru'r Dyfodol sydd wedi nodi Llanelli ac ardal gydgysylltiedig ehangach fel rhan o 'ardal dwf genedlaethol'.

10.9 Mae wedi'i lleoli yn ne-ddwyrain y Sir, sydd o natur drefol yn bennaf. Mae ganddi fynediad uniongyrchol i'r M4 a chysylltiadau rheilffyrdd cryf. Mae ei lleoliad ar lwybrau seilwaith allweddol, ei safle daearyddol a'i hagosrwydd at Abertawe yn sicrhau ei phwysigrwydd strategol nid yn unig i Sir Gaerfyrddin ond hefyd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

10.10 Mae Llanelli yn dal i fod yn ffocws ar gyfer darpariaeth yn yr ardal hon, ynghyd â phentrefi ar gyrion y dref. Mae'r canolfannau gwasanaethau sy'n rhan o'r clwstwr hwn yn elfennau allweddol yn y gwaith o ddarparu tai a swyddi newydd o ystyried eu perthynas gyffredinol â gweddill y clwstwr. Mae gan y clwstwr hwn y dwysedd poblogaeth uchaf yn y sir.

10.11 Er gwaethaf y cymeriad trefol ac ôl-ddiwydiannol sy'n aml yn gysylltiedig â'r ardal hon, mae cefndir gwledig iddi ac mae llawer o'r aneddiadau mwy yn darparu canolbwynt ar gyfer swyddi, gwasanaethau a thai yn ogystal â chefnogi'r aneddiadau a chymunedau gwledig hynny. Yn hyn o beth mae 'Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen'[43] yn nodi Cydweli fel un o'r deg tref wledig ym Mhennod 3. Mae hyn yn adlewyrchu nid yn unig rôl yr anheddiad ond yr amrywiaeth sy'n nodweddu ardal y clwstwr.

10.12 Mae'r ardal yn gyfrannwr cryf o safbwynt adwerthu, ac mae'r ddarpariaeth adwerthu yn amrywio o ran maint o fewn yr aneddiadau ac o fewn y clwstwr. Mae ei photensial o ran twristiaeth hefyd wedi'i nodi, gyda chyfranwyr allweddol megis Cae Rasio Ffos Las yn Nhrimsaran, Llwybr Arfordirol y Mileniwm a Pharc Gwledig Pen-bre. .

10.13 Llanelli sydd â'r rhan fwyaf o gyfleoedd cyflogaeth mawr. Mae'r sector gweithgynhyrchu traddodiadol yn parhau i fod yn amlwg yn yr ardal hon, ond mae'r swyddi cyferbyniol a gynigir yn y Bynea, Dafen ac ardaloedd yn Ne Llanelli yn adlewyrchu'r modd y mae sectorau'r ardal yn ehangu.

Aman a Phen Uchaf Cwm Gwendraeth

10.14 Er ei bod yn bennaf yn drefol ac yn ôl-ddiwydiannol, gellir nodweddu'r ardal yn rhannol gan gyfres o aneddiadau cydgysylltiedig. Mae'r broses o ddarparu tai a swyddi newydd wedi cael ei ganoli ar goridor yr A48, ac mae Cross Hands ac aneddiadau cyfagos yn ffocws allweddol. Mae hyn yn adlewyrchu ei safle ar ran allweddol o'r rhwydwaith strategol sy'n cysylltu Sir Gaerfyrddin â gweddill gorllewin Cymru a Sir Benfro, ond hefyd, yn allweddol, â Chaerdydd, Abertawe a Chanolbarth Cymru. Mae wedi tyfu fel canolfan gyda ffocws ar fuddsoddi mewn swyddi, tai, a gwasanaethau.

10.15 Mae Rhydaman yn ganolfan sefydledig yn sgil cael ei sefydlu fel sylfaen ddiwydiannol. Yn dilyn y dirywiad yn ei sylfaen cyflogaeth mae ei rôl wrth gefnogi'r cymunedau cyfagos wedi datblygu. Bellach mae'n chwarae rôl bwysig fel canolfan wasanaeth trwy ddarparu cyfleusterau adwerthu, cyflogaeth, addysg a hamdden lleol.

10.16 . Caiff aneddiadau mwy eraill a chanddynt gysylltiadau da eu nodi ym mhapur Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen[44] sy'n nodi Cwmaman (yn cynnwys aneddiadau Glanaman a'r Garnant) a Cross Hands fel dwy o'r deg 'tref wledig' y cyfeirir atynt ym Mhennod 3.

10.17 Datblygodd Glanaman/y Garnant o gwmpas y gweithgareddau diwydiannol a oedd yn gysylltiedig â'r gwaith tunplat a'r pyllau glo yn yr ardal. Fodd bynnag, mae'r anheddiad wedi'i leoli mewn cyd-destun gwledig yn bennaf rhwng y Mynydd Du a Mynydd y Betws.

10.18 Mae Cross Hands, sef hen gymuned lofaol, wedi datblygu yn ystod y degawdau diweddar drwy ei safle ar lwybr trafnidiaeth strategol yr A48. Fodd bynnag, mae hanes gwledig iddi ac ynghyd ag aneddiadau eraill sy'n rhan o Brif Ganolfan Rhydaman/Cross Hands (Polisi Strategol SP3) a'r rhai ar draws y clwstwr, mae'n rhyngweithio â'r cymunedau a'r aneddiadau gwledig.

10.19 Mae ardaloedd ôl-ddiwydiannol Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth (uchaf) yn cael eu hystyried yn gadarnleoedd ieithyddol allweddol o ran y Gymraeg ac maent yn elfennau allweddol o ran diffinio'r ymdeimlad o le a hunaniaeth ddiwylliannol. Mae'r aneddiadau hyn yn y Cymoedd yn cyflawni swyddogaeth fel canolfannau gwasanaethau lleol yn hytrach na bod yn brif ffocws ar gyfer datblygiadau newydd. Mae amgylchedd naturiol yr ardal yn cyfrannu at ei chymeriad hefyd, ac mae prosiect Caeau'r Mynydd Mawr yn elfen annatod o ran cyfryngu a chydbwyso galwadau croes.

Dyffryn Teifi

10.20 Adlewyrchir cymeriad yr ardal sy'n wledig yn bennaf a'i dwysedd poblogaeth is wrth ddosbarthu'r aneddiadau yn yr ardal. Er nad yw'n cynnwys Prif Ganolfan haen 1, adlewyrchir y cyfraniad pwysig yn y Sir wrth nodi clwstwr ar draws yr ardal. Cydnabyddir bod gan ardaloedd gwledig o'r fath a'u haneddiadau rôl bwysig o ran darparu tai a swyddi a darparu gwasanaethau i'w cymunedau.

10.21 Mae Castellnewydd Emlyn yn cyflawni rôl fel canolfan wasanaethau bwysig ar gyfer yr ardal (yn enwedig o ran addysg, cyflogaeth a adwerthu lleol) yn hytrach na bod yn ffocws ar gyfer datblygiadau newydd. Nodir perthynas drawsffiniol agos yr ardal â'r cymunedau hynny yng Ngheredigion, ac felly hefyd rôl aneddiadau megis Llandysul, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi i gymunedau yn yr ardal hon. Cydnabyddir y berthynas hon mewn gwahanol ddogfennau polisi, ac mae'n ystyriaeth allweddol wrth ddosbarthu a chyflenwi tai yn yr 2il CDLl Adneuo. Cydnabyddir bod nifer o'r aneddiadau yn y clwstwr hwn yn dibynnu ar Gaerfyrddin fel y brif ganolfan ar gyfer adwerthu, gweinyddu, iechyd a chyfleoedd gwaith y tu allan i'r rhai sy'n aml yn gysylltiedig ag ardaloedd gwledig. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn amharu ar ei botensial i ddatblygu i wasanaethu anghenion ei gymuned.

10.22 Mae safle gofodol yr ardal, ei chyfyngiadau ar ddatblygu a'i hanghenion o ran tai, yn adlewyrchu amrywiaeth y sir gyfan. Yn hyn o beth, mae'r cymeriad gwledig yn gofyn am ddull gwahanol o ddarparu tai a swyddi o gymharu â'r ardaloedd hynny sy'n fwy trefol yn bennaf. Mae'r cynllun yn ceisio ymateb i'r gwahaniaeth hwn a rôl yr ardal o ran derbyn twf.

10.23 Castellnewydd Emlyn a Llanybydder yw dwy o'r deg 'tref wledig '[45] sy'n adlewyrchu rôl a swyddogaeth yr aneddiadau a'u cyfraniad o fewn y gymuned ehangach ac ardal y clwstwr. Caiff Castellnewydd Emlyn a Llanybydder eu cydnabod fel Canolfannau Gwasanaeth Trefol a Gwledig yng Nghynllun Datblygu Lleol Ceredigion 2007-2022.

10.24 Mae Afon Teifi yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afonol ddynodedig y mae Canllawiau CNC ar lefelau ffosffad yr afon yn effeithio'n uniongyrchol arni. Mae hyn o ganlyniad wedi effeithio ar allu'r system gynllunio i roi caniatâd i rai datblygiadau o fewn dalgylch yr afon ac o ganlyniad mae'n effeithio ar gynnwys y CDLl Diwygiedig. Mewn ymateb mae'r Cynllun yn nodi ymateb strategol ac integredig cadarnhaol ar lefel Cynllun (dylid cyfeirio at CCH4: Ansawdd Dŵr a Diogelu Adnoddau Dŵr).

Dyffryn Tywi Uchaf

10.25 Adlewyrchir cymeriad yr ardal sy'n wledig yn bennaf a'i dwysedd poblogaeth is wrth ddosbarthu'r aneddiadau yn yr ardal. Er nad yw'n cynnwys Prif Ganolfan haen 1, adlewyrchir y cyfraniad pwysig yn y Sir wrth nodi clwstwr ar draws yr ardal. Yn hyn o beth cydnabyddir bod gan ardaloedd gwledig o'r fath a'u haneddiadau rôl bwysig ar draws sir amrywiol o ran darparu tai a swyddi a darparu gwasanaethau i'w cymunedau.

10.26 Llandeilo, Llanymddyfri a Llangadog sy'n cyflawni'r rolau allweddol fel canolfannau gwasanaeth, ac maent yn cefnogi darpariaeth gymdeithasol, cyflogaeth, addysg, ac adwerthu lleol ar gyfer yr aneddiadau llai. Mae'r ardal wedi'i chysylltu'n dda â'r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach trwy'r A40, yr A476 a Rheilffordd Calon Cymru.

10.27 Gall ystyried safle gofodol yr ardal, y cyfyngiadau ar ddatblygu (e.e. perygl llifogydd ac ansawdd y dirwedd) ac anghenion tai fod o gymorth i ddeall a llywio unrhyw ran y gallai'r ardal ei chwarae yn y dyfodol yn nhermau datblygu. Mae lleoliad deniadol yr ardal yn cael ei ffurfio gan ddyffryn yr afon.

10.28 Er bod llawer o'r aneddiadau yn y clwstwr hwn yn dibynnu ar Gaerfyrddin neu Rydaman/Cross Hands fel y canolfannau mawr ar gyfer darpariaeth fwy o ran adwerthu a chyflogaeth, mae rôl a swyddogaeth Llandeilo a Llanymddyfri fel y nodwyd ym Mhennod 3 o 'Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen' fel dwy o'r deg 'tref wledig', yn adlewyrchu eu cyfraniad at ddarparu gwasanaethau, tai, a swyddi wrth wasanaethu'r gymuned ehangach ac ardal y clwstwr. [46]

10.29 Mae Afon Tywi yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afonol ddynodedig y mae Canllawiau CNC ar lefelau ffosffad yr afon yn effeithio'n uniongyrchol arni. Mae hyn o ganlyniad wedi effeithio ar allu'r system gynllunio i roi caniatâd i rai datblygiadau o fewn dalgylch yr afon ac o ganlyniad mae'n effeithio ar gynnwys y CDLl Diwygiedig. Mewn ymateb mae'r Cynllun yn nodi ymateb strategol ac integredig cadarnhaol ar lefel Cynllun (dylid cyfeirio at CCH4: Ansawdd Dŵr a Diogelu Adnoddau Dŵr).

Gorllewin Sir Gaerfyrddin

10.30 Adlewyrchir cymeriad yr ardal sy'n wledig yn bennaf a'i dwysedd poblogaeth is wrth ddosbarthu'r aneddiadau yn yr ardal. Er nad yw'n cynnwys Prif Ganolfan haen 1, adlewyrchir y cyfraniad pwysig yn y Sir wrth nodi clwstwr ar draws yr ardal. Yn hyn o beth cydnabyddir bod gan ardaloedd gwledig o'r fath a'u haneddiadau rôl bwysig ar draws sir amrywiol o ran darparu tai a swyddi a darparu gwasanaethau i'w cymunedau.

10.31 Gyda'i gysylltiadau â gorllewin Cymru, mae datblygu yn y clwstwr hwn wedi canolbwyntio ar aneddiadau Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf yn draddodiadol. Yr aneddiadau hyn yn bennaf sy'n cyflawni rolau'r canolfannau gwasanaethau allweddol yn y clwstwr hwn, ac maent yn cefnogi'r ddarpariaeth gymdeithasol a'r ddarpariaeth o ran cyflogaeth, addysg, ac adwerthu lleol ar gyfer yr aneddiadau llai. Mae'r ardal wedi'i chysylltu'n dda â'r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach trwy'r A40, yr A477 a rheilffordd Llundain – Abergwaun. Hefyd mae gan ardal ogledd-orllewinol y clwstwr gysylltiadau da ar yr A478 â Cheredigion a Sir Benfro, gan integreiddio â'r rhanbarth ehangach.

10.32 Mae ei pherthynas â Sir Benfro yn golygu bod darpariaeth gref i dwristiaid wedi datblygu o fewn yr aneddiadau, gyda Thalacharn a Phentywyn yn gwneud cyfraniad pwysig i'r economi ymwelwyr. O ran twristiaeth, mae'r hyn a gynigir yn yr ardal gymeriad hon (sy'n seiliedig ar yr arfordir) at ei gilydd yn wahanol i'r dwristiaeth seiliedig ar weithgareddau a geir yn ardal wledig gogledd y Sir a'r atyniadau hynny ar raddfa fwy yn ardal Llanelli a De Cwm Gwendraeth.

10.33 Er bod llawer o'r aneddiadau yn y clwstwr hwn yn dibynnu ar Gaerfyrddin, neu dros y ffin i Sir Benfro, ar gyfer darpariaeth fwy o ran adwerthu a chyflogaeth, mae rôl a swyddogaeth Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf yn cael eu hadlewyrchu yn 'Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen' fel dwy o'r deg 'tref wledig' a nodwyd.[47] Mae hyn yn cydnabod eu cyfraniad at ddarparu gwasanaethau, tai a swyddi wrth wasanaethu'r gymuned ehangach ac ardal y clwstwr.


[42] Cymru'r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040 https://gov.wales/sites/default/files/publications/2021-02/future-wales-the-national-plan-2040.pdf

[43] Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen (Mehefin 2019): Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin. https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-sir-gâr-wledig-ymlaen/

[44] Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen (Mehefin 2019): Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin. https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-sir-gâr-wledig-ymlaen/

[45] Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen (Mehefin 2019): Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin. https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-sir-gâr-wledig-ymlaen/

[46] Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen (Mehefin 2019): Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin. https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-sir-gâr-wledig-ymlaen/

[47] Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen (Mehefin 2019): Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin. https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-sir-gâr-wledig-ymlaen/

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig