Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin
(1) 13. Geirfa – I DDILYN AR WAHÂN
Mabwysiadu |
Cadarnhad terfynol yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) o'r cynllun datblygu fel ei bolisi cynllunio defnydd tir. |
Cynllun Mabwysiedig |
Dyma gam olaf y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol - lle daw'r Cynllun Datblygu Lleol yn Gynllun Datblygu statudol, at ddibenion y Ddeddf. |
Tai fforddiadwy |
Tai a ddarperir i'r rheiny nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y farchnad agored. Dylai tai fforddiadwy: fodloni anghenion aelwydydd cymwys, gan gynnwys eu bod ar gael ar gost ddigon isel iddynt allu eu fforddio, ac a bennir gan ystyried incwm lleol a phrisiau tai lleol; ac yn cynnwys darpariaeth i wneud i'r cartref aros yn fforddiadwy ar gyfer aelwydydd cymwys yn y dyfodol, neu os yw cartref yn peidio â bod yn fforddiadwy neu fod y perchnogion yn cynyddu cyfran eu perchentyaeth fel eu bod yn berchen ar y cartref yn llawn, yn gyffredinol dylid ailddefnyddio unrhyw gymhorthdal i ddarparu tai fforddiadwy eraill. Caiff hyn ei rannu'n ddau is-gategori: tai rhent cymdeithasol - a ddarperir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lle mae lefelau rhent yn ystyried rhenti canllaw a rhenti meincnod y Llywodraeth; a tai canolradd - lle mae'r prisiau neu'r rhenti yn uwch na'r rheiny ar gyfer tai rhent cymdeithasol ond islaw prisiau neu renti tai ar y farchnad. Gall hyn gynnwys cynlluniau rhannu ecwiti (er enghraifft Cymorth Prynu). Mae tai canolradd yn wahanol i dai cost isel y farchnad, nad yw Llywodraeth Cymru yn ystyried eu bod yn dai fforddiadwy at ddibenion y system cynllunio defnydd tir. (TAN 2: Geirfa). |
Ardal Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) |
Lleoliadau a nodwyd lle mae'r Cyngor yn credu nad yw'n debygol y bydd amcanion ansawdd aer cenedlaethol yn cael eu cyflawni a lle mae angen gwelliannau. Mae'r Cyngor dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgan drwy orchymyn safleoedd o'r fath fel Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer. |
Meysydd Gwersylla Moethus Amgen |
Dull moethus o wersylla heb fod yn barhaol. |
Amwynder |
Elfen gadarnhaol neu elfennau sy'n cyfrannu at gymeriad cyffredinol ardal neu'r mwynhad a geir ohoni. Er enghraifft, tir agored, coed, adeiladau hanesyddol a'r gydberthynas rhyngddynt, neu ffactorau llai diriaethol megis llonyddwch. |
Treulio Anerobig |
Prosesau lle mae bacteria yn torri deunydd organig i lawr yn niffyg aer, gan gynhyrchu bio-nwy. |
Coetir Hynafol |
Tir y bu gorchudd coetir parhaus arno ers i fapiau cywir gael eu cynhyrchu am y tro cyntaf. |
Ategol |
Lle mae'r defnydd o dir neu adeiladau yn wahanol i'r defnydd sylfaenol ac yn llai pwysig ac yn cael ei ganiatáu oherwydd eu cysylltiad â'r prif ddefnydd. |
Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) |
Bydd hyn yn asesu i ba raddau y mae polisïau yn y cynllun datblygu lleol yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus (Rheoliad 37 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005). |
Llinell Sylfaen/Llinell Sylfaen Cyn Newid |
Disgrifiad o gyflwr presennol ardal y dylid mesur newid yn ei erbyn. |
Bioamrywiaeth |
Yr amrywioldeb ymhlith organebau byw o bob ffynhonnell gan gynnwys anifeiliaid, planhigion, adar, pryfed a physgod, a'r cynefinoedd y maent yn rhan ohonynt. |
Tir llwyd |
Gweler y diffiniad ar gyfer Tir a Ddatblygwyd o'r Blaen |
Safle Ymgeisio |
Safleoedd Ymgeisio yw'r rheiny a enwebir gan unrhyw un i'w hystyried gan yr ACLl fel dyraniadau mewn CDLl sy'n datblygu. |
Cofrestr Safleoedd Ymgeisio |
Cofrestr o safleoedd ymgeisio a baratowyd yn dilyn galwad gan yr ACLl am safleoedd ymgeisio. |
Cymeriad |
Term sy'n ymwneud ag Ardaloedd Cadwraeth neu Adeiladau Rhestredig, ond hefyd ag ymddangosiad unrhyw leoliad trefol neu wledig o ran ei dirwedd, ei drefwedd neu gynllun strydoedd a mannau agored, yn aml gan roi i leoedd eu hunaniaeth unigryw eu hunain. |
Dinas-ranbarth |
Gweler Dinas-ranbarth Bae Abertawe. |
Newid yn yr Hinsawdd |
Newidiadau hirdymor mewn tymheredd, dyodiad, gwynt a phob agwedd arall ar hinsawdd y ddaear. Yn aml ystyrir eu bod o ganlyniad i weithgarwch dynol a'r defnydd o danwydd ffosil. |
Cyfuno |
Uno neu gyfuno dau anheddiad ar wahân, neu gyfuno gwahanol rannau o anheddiad. |
Ymrwymiadau |
Tir heb ei ddatblygu sydd â chaniatâd cynllunio cyfredol neu dir sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. |
Cymuned |
Pobl sy'n byw mewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig, neu sy'n rhannu buddiannau eraill ac sydd felly'n ffurfio cymunedau o fuddiant. |
Yr Ardoll Seilwaith Cymunedol |
Tâl cynllunio yw'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, a gyflwynwyd gan Ddeddf Cynllunio 2008 fel modd i awdurdodau cynllunio lleol helpu i ddarparu seilwaith i gefnogi datblygiad eu hardal. Daeth i rym ar 6 Ebrill 2010 trwy Reoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010. Tâl y gall awdurdodau lleol ei godi ar ddatblygiadau newydd yn eu hardal i ariannu seilwaith strategol i gefnogi'r datblygiad. |
Cynllun Cynnwys Cymunedau |
Mae'n nodi cynllun a pholisïau prosiect yr ACLl ar gyfer cynnwys cymunedau lleol, gan gynnwys busnesau, wrth baratoi cynlluniau datblygu lleol. Cyflwynir y Cynllun Cynnwys Cymunedau i Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Cytundeb Cyflawni i gytuno arno. |
Swm Cyfnewid |
Symiau yw'r arian a dderbynnir gan ddatblygwyr ac a glustnodwyd i'w ddefnyddio, ar gyfer datblygu neu i wneud gwaith cynnal a chadw ar/oddi ar y safle. Er enghraifft, darparu seilwaith, darparu a chynnal a chadw mannau agored, ac ati. |
Cwblhau |
Caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd wedi'i adeiladu neu sydd bellach yn cael ei ddefnyddio'n weithredol. |
Adeiladu Consensws |
Proses o gynnal deialog gynnar gyda grwpiau buddiant a dargedir er mwyn deall safbwyntiau perthnasol a chytuno ar gamau gweithredu. |
Ardal Gadwraeth |
Ardal a ddynodwyd gan yr ACLl o dan ddeddfwriaeth sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y dymunir cadw neu wella ei chymeriad neu ei hymddangosiad. |
Ymgynghori |
Proses ffurfiol lle gwahoddir sylwadau ar bwnc penodol neu gyfres o bynciau, neu ddogfen ddrafft. |
Tir Halogedig |
Yn ôl y diffiniad yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, Adran 78A(2): 'Unrhyw dir y mae'n ymddangos i'r awdurdod lleol lle mae wedi'i leoli ei fod yn y fath gyflwr, oherwydd sylweddau yn y tir, ar y tir neu o dan y tir, fod niwed sylweddol yn cael ei achosi neu fod posibilrwydd sylweddol y bydd niwed o'r fath yn cael ei achosi; neu fod dyfroedd rheoledig yn cael eu llygru neu'n debygol o gael eu llygru. |
Dangosydd Cyd-destunol |
Dangosydd a ddefnyddir i fonitro newidiadau yn y cyd-destun y caiff y cynllun ei weithredu neu ei baratoi ynddo. |
Dyfroedd Rheoledig |
Mae'n cynnwys afonydd, llynnoedd, pyllau, nentydd, camlesi, dyfroedd arfordirol, aberoedd a dŵr daear. |
Cefn Gwlad |
Tir sydd y tu allan i'r aneddiadau diffiniedig, fel y'i nodir ar y Map Cynigion, ac mae'n cynnwys grwpiau bach o anheddau sydd wedi'u gwasgaru ar draws y Sir. |
Aneddiadau Diffiniedig |
Yr aneddiadau hynny a nodwyd ym Mholisi Strategol SP3: Dosbarthu Cynaliadwy – Fframwaith Aneddiadau. |
Cytundeb Cyflawni |
Dogfen sy'n cynnwys amserlen yr ACLl ar gyfer paratoi'r CDLl ynghyd â'i Gynllun Cynnwys Cymunedau, a gyflwynir i Lywodraeth Cymru er mwyn cytuno arni. |
Dwysedd |
Yn achos datblygiad preswyl, mesuriad naill ai o nifer yr ystafelloedd y gellid byw ynddynt fesul hectar (neu erw) neu nifer yr anheddau fesul hectar (neu erw). |
Adneuo |
Y term a ddefnyddir ar gyfer y broses o gyhoeddi polisïau manwl y Cynllun a'r cynigion ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd. Gosod y Cynllun "ar adnau". |
Dogfennau Adneuo |
Mae'r rhain yn cynnwys y CDLl adneuo, neu'r CDLl adneuo diwygiedig, yr Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd Integredig, yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, yr adroddiad ymgynghori cychwynnol, y gofrestr safleoedd ymgeisio, yr Adroddiad Adolygu (os yn briodol), ac unrhyw ddogfennau ategol perthnasol. |
Datganiad Dylunio a Mynediad |
Mae'r gofyniad i gael Datganiad Dylunio a Mynediad a chynnwys dogfennau o'r fath yn ffurfio rhan o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016. Mae Datganiadau Dylunio a Mynediad yn cyd-fynd â rhai ceisiadau a rhaid iddynt, ymhlith pethau eraill, esbonio'r egwyddorion a'r cysyniadau dylunio a gymhwyswyd i'r datblygiad, dangos y camau a gymerwyd i arfarnu cyd-destun y datblygiad a sut y mae dyluniad y datblygiad yn rhoi ystyriaeth i'r cyd-destun hwnnw, yn esbonio'r polisi neu'r dull a fabwysiadwyd o ran mynediad a sut y caiff polisïau sy'n ymwneud â mynediad yn y cynllun datblygu eu hystyried, ac egluro sut yr aethpwyd i'r afael â materion penodol a allai effeithio ar fynediad i'r datblygiad. |
Terfynau Datblygu |
Llinell a dynnir er mwyn diffinio ardal anheddiad lle mae datblygu'n dderbyniol mewn egwyddor, yn amodol ar roi ystyriaeth fanwl i'r amgylchedd, amwynder, mynediad, darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ac ystyriaethau eraill. Ystyrir ardaloedd y tu allan i'r terfynau fel cefn gwlad agored. |
Uniongyrchol Gysylltiedig |
Safleoedd sy'n gysylltiedig yn ffisegol, yn swyddogaethol ac yn weledol ag anheddiad a ddiffinnir ym Mholisi Strategol SP3. |
Gwytnwch Ecosystemau |
Gallu ecosystemau i ymdopi â phwysau, aflonyddwch a newid – naill ai trwy wrthsefyll, adfer neu addasu. Mae cyflawni gwytnwch ecosystemau yn ymwneud â gweithio ar raddfeydd mwy, hyrwyddo cysylltiadau swyddogaethol rhwng mannau naturiol, sicrhau bod ganddynt amrywiaeth naturiol uchel, eu bod mewn cyflwr da ac yn cynyddu mewn maint. Mae bioamrywiaeth yn elfen sylfaenol hanfodol o bob ecosystem wydn. Mae gan bob ecosystem weithredol a gwydn fioamrywiaeth nodweddiadol sy'n iach ac sy'n fynych yn gyfoethog. |
Tir Cyflogaeth |
Tir a ddefnyddir at ddibenion cyflogaeth gan un neu fwy o'r canlynol: swyddfeydd, gweithgynhyrchu, ymchwil a datblygu, storio a dosbarthu (gweler hefyd Dosbarthiadau Defnydd). |
Ymgysylltu |
Proses sy'n annog ystyriaeth sylweddol mewn cymuned. Ymgais ragweithiol i gynnwys unrhyw grŵp penodol o bobl/rhan o'r gymuned. |
Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA) |
Gwerthuso canlyniadau amgylcheddol tebygol datblygiad ac ystyried sut y gellid lleihau difrifoldeb yr effeithiau. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ar gyfer mathau penodol o ddatblygiad, sy'n aml yn gynlluniau mwy o faint, gyflwyno Datganiad Amgylcheddol i gyd-fynd â chais cynllunio, er mwyn nodi canfyddiadau'r broses Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol fel y gellir penderfynu a ddylid rhoi caniatâd ar sail fwy gwybodus. |
Sylfaen Dystiolaeth |
Dehongli gwybodaeth sylfaenol neu wybodaeth/data arall i ddarparu'r sail ar gyfer polisi'r cynllun. |
Afonol |
Yn ymwneud â chwrs dŵr megis afon, ffrwd neu nant. |
Llifogydd Afonol |
Llifogydd o afonydd. |
Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 |
Cafodd ei baratoi gan Lywodraeth Cymru o dan ddarpariaethau Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Mae Cymru'r Dyfodol yn amlinellu fframwaith defnydd tir 20 mlynedd i Gymru ac mae'n cymryd lle Cynllun Gofodol Cymru.[RJJ4] |
Geoamrywiaeth |
Yr amrywiaeth o ddeunyddiau, ffurfiau a phrosesau sy'n ffurfio ac yn siapio'r Ddaear. Mae'n cynnwys daeareg, creigiau a'u proses o newid a geomorffoleg, tirffurfiau a thopograffeg. |
Daearegol |
Yn ymwneud â strwythur a sylwedd ffisegol y ddaear. |
Geomorffolegol |
Nodweddion ffurf neu arwyneb y ddaear |
Seilwaith Gwyrdd a Glas (SGG) |
Y rhwydwaith o ofod gwyrdd aml-swyddogaethol, sy'n cwmpasu tir a dŵr (gofod glas). Mae ardaloedd Seilwaith Gwyrdd a Glas yn cynnwys nodweddion presennol a rhai newydd (wedi'u creu) mewn ardaloedd gwledig a threfol fel ei gilydd. Mae rhwydwaith y Seilwaith Gwyrdd a Glas yn darparu amrywiaeth eang o Wasanaethau Ecosystem gan gynnwys manteision amgylcheddol ac ansawdd bywyd i gymunedau lleol. |
Datganiad Seilwaith Gwyrdd |
Gofyniad ar gyfer cais cynllunio am unrhyw ddatblygiad mawr sy'n dangos sut mae datrysiadau cynllunio SGG wedi cael eu hystyried a'u cynnwys yn rhan o'r datblygiad arfaethedig. |
Safle maes glas |
Tir na adeiladwyd arno erioed. |
Dŵr daear |
Dŵr sydd wedi treiddio i mewn i'r strata tanddaearol, gan gynnwys priddoedd, a gall ffurfio pyllau neu nentydd tanddaearol (h.y. dyfrhaenau) a all ollwng uwchlaw'r ddaear ond yn is i lawr y dalgylch. |
Cynefin |
Ardal sydd o ddiddordeb o safbwynt cadwraeth. |
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd |
Mae'r broses o fynd ati'n briodol i sgrinio ac asesu'r opsiynau sy'n ofynnol o dan Ran 6 a Phennod 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (y Rheoliadau Cynefinoedd) yn broses ailadroddol gydnabyddedig sy'n helpu i bennu'r effeithiau tebygol ar gynllun neu raglen a (lle bo'n briodol) asesu effeithiau andwyol ar uniondeb safle Ewropeaidd (Natura 2000). Mae'n ofynnol i'r asesiad gael ei gynnal gan awdurdod cymwys gyda golwg ar gynlluniau neu brosiectau sy'n debygol o gael effaith arwyddocaol (ar eu pennau eu hunain ac yn gyfunol â chynlluniau a phrosiectau eraill) ar "safle Ewropeaidd" (gweler paragraff 5.1.2 o TAN 5). Mae'r DU wedi'i rhwymo gan delerau Cyfarwyddebau Adar a Chynefinoedd y Gymuned Ewropeaidd a Chonfensiwn Ramsar. Mae Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol ac ati) 1994 (y Rheoliadau Cynefinoedd) a Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol ac ati) 2007 yn cyfeirio at "Safleoedd Ewropeaidd" a "Safleoedd Morol Alltraeth Ewropeaidd". Er y cafwyd newidiadau i'r Rheoliadau Cynefinoedd ar ôl Brexit, nid yw'r sefyllfa gyfreithiol na'r dyletswyddau i gyflawni/cynnal statws cadwraeth ffafriol wedi newid. |
Pentrefannau a grwpiau o anheddau |
Ystyr pentrefan neu grŵp o anheddau (a ddiffiniwyd at ddibenion y CDLl) yw clwstwr bach o anheddau gyda chraidd o 6 annedd o leiaf. |
Tai Amlfeddiannaeth |
Mae tŷ amlfeddiannaeth yn eiddo a feddiennir gan dri neu fwy o denantiaid nad ydynt yn byw gyda'i gilydd fel aelwyd teulu unigol, sy'n rhannu amwynderau sylfaenol megis cegin, ystafell ymolchi neu gyfleusterau toiled ond sydd ag ystafelloedd gwely ar wahân. Mae'r term yn ymwneud ag ystafelloedd gwely, fflatiau heb fod yn hunangynhwysol, tai a rennir a thai llety. |
Datblygiad Mewnlenwi |
Datblygu bwlch bach rhwng adeiladau sy'n bodoli eisoes. I fod yn gymwys fel datblygiad mewnlenwi, rhaid i'r datblygiad arfaethedig fod yn unol â maint a chymeriad yr anheddiad. |
Seilwaith |
Mae'n cynnwys gwasanaethau fel ffyrdd, cyfleusterau trafnidiaeth, cyflenwadau dŵr, carthffosiaeth a'r cyfleusterau trin dŵr gwastraff cysylltiedig, cyfleusterau rheoli gwastraff, cyflenwadau ynni (trydan a nwy) a rhwydweithiau dosbarthu a seilwaith telathrebu. Mae seilwaith meddal yn cynnwys TGCh a thelathrebu. |
Y Strategaeth Gymunedol Integredig |
Mae'n ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Rhan 2: Adrannau 37-46) gyda'r nod o wella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd eu hardaloedd. Cyfeirir ati hefyd fel "Cynllun Integredig Sengl". |
Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) |
Offeryn ar gyfer arfarnu polisïau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu amcanion datblygu cynaliadwy (h.y. ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd). Mae'r dull hwn yn bodloni'r gofynion o ran Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol ar y cyd, ochr yn ochr â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20, ac ystyriaethau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, drwy un ACI anghynhwysfawr sy'n galluogi asesiad mwy tryloyw, cyfannol a chyflawn o oblygiadau cynaliadwyedd yr opsiynau twf, amcanion, polisïau a'r cynigion a gynhwysir yn y CDLl diwygiedig. |
Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd Integredig (Adroddiad ACI) |
Dogfen sy'n cynnwys y gofynion o ran adroddiad amgylcheddol fel rhan o broses yr Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol i ddisgrifio ac arfarnu'r effeithiau sylweddol tebygol ar gynaliadwyedd (h.y. ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd) yn sgil gweithredu'r CDLl, yn ogystal â gofynion/ystyriaethau eraill (gweler y diffiniad o ACI). |
Landmap |
Asesiad tirwedd Cymru gyfan a drefnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Cymru. Cyflwynwyd yn 1997 a chafodd ei ddiweddaru yn 2003. Mae methodoleg a phroses sicrhau ansawdd LANDMAP yn sicrhau adnodd sy'n gyson yn genedlaethol ar gyfer cynllunio tirweddau a gwneud penderfyniadau. Caiff gwybodaeth LANDMAP ei chasglu mewn ffordd strwythuredig a thrylwyr sy'n cael ei diffinio gan bum pennod methodolegol, sef y Dirwedd Ddaearegol, Cynefinoedd y Dirwedd, y Dirwedd Weledol a Synhwyraidd, y Dirwedd Hanesyddol a'r Dirwedd Ddiwylliannol. |
Tirwedd |
Ardal y mae ei chymeriad yn ganlyniad i weithredu a rhyngweithio rhwng ffactorau naturiol a/neu ddynol. |
Adeiladau Rhestredig |
Caiff adeiladau eu 'rhestru' oherwydd eu bod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac o ganlyniad, fod angen mesurau arbennig i'w diogelu. Mae rhestru yn diogelu'r adeilad cyfan, y tu mewn a'r tu allan, ac o bosibl yr adeiladau cyfagos hefyd os cawsant eu hadeiladu cyn 1af Gorffennaf 1948. Y prif ddiben yw diogelu'r adeilad a'r hyn sydd o'i gwmpas rhag newidiadau, a fyddai'n peri newid o bwys o ran pwysigrwydd hanesyddol neu bensaernïol arbennig yr adeilad neu ei union leoliad. |
Ardal Leol ar gyfer Chwarae (LAP) |
Mannau agored ar gyfer plant ifanc sy'n agos i'r man lle mae'r plant yn byw. |
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) |
Y cynllun datblygu statudol gofynnol ar gyfer pob ardal awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Cynllun defnydd tir sy'n destun archwiliad annibynnol, a fydd yn ffurfio'r cynllun datblygu statudol ar gyfer ardal awdurdod cynllunio lleol at ddibenion y Ddeddf. Dylai gynnwys gweledigaeth, strategaeth, polisïau ar draws yr ardal ar gyfer mathau o ddatblygiadau, dyraniadau tir, a pholisïau a chynigion ar gyfer ardaloedd allweddol o newid a gwarchodaeth lle bo angen. Rhaid dangos polisïau a dyraniadau yn ddaearyddol ar y Map Cynigion sy'n rhan o'r cynllun. |
Ardal Leol â Chyfarpar ar gyfer Chwarae (LEAP) |
Ardal chwarae (a hamdden anffurfiol) â chyfarpar. |
Cymhwysedd o ran Angen Lleol |
Bydd yr holl dai fforddiadwy newydd sydd ar gyfer angen lleol yn cael eu cyfyngu i'r rheiny sy'n gallu dangos bod angen iddynt fyw yn ardal y Cyngor Tref neu Gymuned a bod angen tŷ fforddiadwy arnynt. Yn ymarferol rhaid i'r preswylydd fodloni un o'r meini prawf canlynol:
|
Awdurdod Cynllunio Lleol |
Awdurdod cynllunio sy'n gyfrifol am baratoi CDLl. |
Cynllun Llesiant Lleol |
O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, cafodd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eu sefydlu ar gyfer pob ardal awdurdod lleol ac maent yn paratoi'r Cynllun Llesiant. Mae'r cynlluniau hyn yn disodli'r Cynllun Integredig Sengl (gweler isod). |
Cynllun Morol |
Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a baratowyd o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. |
Tai'r Farchnad |
Tai preifat i'w rhentu neu eu gwerthu lle caiff y pris ei osod ar y farchnad agored. (TAN2: Geirfa). |
Lliniaru |
Mesurau i osgoi, lleihau a/neu wrthbwyso effeithiau andwyol. |
Hierarchaeth Lliniaru |
Offeryn sy'n hybu cyfyngu ar effeithiau negyddol/andwyol (cyn belled ag y bo modd). Mewn trefn ddilynol, rhaid i gynigion ystyried osgoi effeithiau yn gyntaf, yna ffyrdd o leihau effeithiau, ac yn olaf lliniaru effeithiau y gellid eu cael ar fioamrywiaeth a/neu'r amgylchedd ehangach. |
Defnydd Cymysg |
Datblygiadau neu gynigion sy'n cynnwys mwy nag un math o ddefnydd ar un safle. |
Maes Chwarae Amlddefnydd |
Ardal amlbwrpas yn yr awyr agored wedi'i gwneud o facadam, arwyneb polymerig, neu laswellt artiffisial ac mae wedi'i chynllunio i'w defnyddio ar gyfer amrywiaeth o wahanol chwaraeon a gemau gan gynnwys pêl-droed, hoci, rygbi, criced, a thenis. |
Gwarchodfa Natur Genedlaethol |
Ardal sydd wedi'i dynodi oherwydd ei phwysigrwydd cenedlaethol i gadwraeth natur ac a gaiff ei rheoli drwy gytundebau gwarchodfa natur ar y cyd â thirfeddianwyr ac ati. |
Adnoddau Naturiol |
Deunyddiau sydd i'w cael yn naturiol sy'n ddefnyddiol i ddyn. Maent yn cynnwys mwynau, coed, tir, ecosystemau, ac ati. |
Ardal â Chyfarpar Cymdogaeth ar gyfer Chwarae |
Lle chwarae â chyfarpar (a hamdden anffurfiol) a darpariaeth i blant a phobl ifanc. |
Aneddiadau Gwledig Anniffiniedig |
Aneddiadau gwledig anniffiniedig yw'r rheiny sy'n cynnwys grŵp o dai annedd presennol sy'n ffurfio pentrefan/anheddiad nad yw wedi'i ddiffinio ym Mholisi SP3. |
Amcan/Amcan Strategol |
Datganiad o'r hyn a fwriedir, gan nodi'r cyfeiriad a ddymunir ar gyfer newid mewn tueddiadau. |
Mannau Agored |
Pob gofod o werth cyhoeddus, gan gynnwys ardaloedd wedi'u tirweddu'n gyhoeddus, meysydd chwarae, parciau a mannau chwarae, ac sydd nid yn unig yn cynnwys tir, ond hefyd ardaloedd o ddŵr megis afonydd, camlesi, llynnoedd a chronfeydd dŵr, sy'n gallu cynnig cyfleoedd ar gyfer chwaraeon a hamdden neu sydd hefyd yn gallu gweithredu fel amwynder gweledol a hafan i fywyd gwyllt. |
Cyrsiau Dŵr Cyffredin |
Yr holl gyrsiau dŵr nad ydynt yn brif afon ddynodedig ac y mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol yn gyfrifol am eu rheoleiddio. |
Partneriaid |
Adrannau lleol/awdurdodau Parc Cenedlaethol eraill a chyrff statudol lle bydd y CDLl yn helpu i gyflawni rhai o amcanion eu strategaethau. Efallai y bydd disgwyl i bartneriaid gyfrannu at lunio rhannau perthnasol o'r CDLl. |
Llunio lleoedd |
Proses ac offeryn i ddylunio a rheoli'r amgylchfyd cyhoeddus ar y cyd i greu mannau o ansawdd y mae pobl am fyw a gweithio ynddynt, sy'n apelgar, yn hygyrch, yn ddiogel ac yn cefnogi rhyngweithio cymdeithasol ac amwynderau. |
Cyfnod y Cynllun |
Y cyfnod o amser y mae'r cynllun yn ei gwmpasu sef 2018 hyd at 2033. |
Rhwymedigaeth Gynllunio |
Cytundeb cyfreithiol rhwng ymgeisydd a'r awdurdod cynllunio lleol i sicrhau bod datblygiad yn cael ei wneud mewn ffordd benodol. Cyfeirir ati hefyd fel Cytundeb Adran 106. |
Polisi Cynllunio Cymru |
Mae Polisi Cynllunio Cymru yn pennu polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru. Caiff ei ategu gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol. Darperir cyngor gweithdrefnol drwy gylchlythyrau a llythyrau egluro polisi. |
Meysydd Chwarae |
Tir sydd wedi'i osod yn llain neu'n lleiniau ar gyfer gemau. |
Glawog |
Yn ymwneud â glawiad - cynnydd mewn glaw, sy'n gallu achosi llifogydd dŵr wyneb cyn mynd i mewn i gyrsiau dŵr a'r system ddraenio. |
Llifogydd glaw |
Llifogydd o ddŵr wyneb. Mae hyn yn digwydd pan fydd glaw trwm yn dirlenwi systemau draenio ac ni allant dderbyn rhagor o ddŵr. |
Dogfennau Cyn-adneuo (CDLl) |
Mae'r rhain yn cynnwys y weledigaeth, yr opsiynau strategol, y strategaeth a ffefrir, polisïau allweddol, yr Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd Integredig, y gofrestr o safleoedd ymgeisio, Adroddiad Adolygu (os yn briodol). |
Cam Cyn-adneuo |
Yn y Llawlyfr CDLl, y cyfeirir ato fel yr Opsiynau Strategol a'r cam Strategaeth a Ffefrir o baratoi CDLl. |
Tir a Ddatblygwyd o'r Blaen |
Gweler y diffiniad o dir a ddatblygwyd o'r blaen a geir ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 11 – tudalen 37. |
Rhywogaethau a Warchodir |
Rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid a gaiff eu diogelu o dan ddeddfau a rheoliadau penodol. |
Hawliau Tramwy Cyhoeddus |
Llwybrau y mae gan y cyhoedd hawl i'w tramwyo. Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cynnwys llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd. |
Safle Ramsar |
Safle gwlyptir sydd o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer cadwraeth natur. Mae'r dynodiad yn cael ei alluogi gan Gonfensiwn Ramsar. |
Safleoedd Daearegol / Geomorffolegol o Bwysigrwydd Rhanbarthol (RIGs) |
Safleoedd gwyddor daear a ddynodwyd yn lleol, sy'n cael eu dewis gan ddefnyddio meini prawf y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. |
Ynni Adnewyddadwy |
At ddibenion polisi cynllunio, diffinnir ynni adnewyddadwy fel y ffynonellau ynni hynny, ac eithrio tanwydd ffosil neu danwydd niwclear, sydd ar gael yn yr amgylchedd yn barhaus ac mewn modd cynaliadwy. Mae'r rhain yn cynnwys gwynt, dŵr, haul, ynni geothermol a deunydd o blanhigion (biomas). Ynni carbon isel yw'r term a ddefnyddir i ymdrin â thechnolegau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon (ond nid yw'n cynnwys niwclear). |
Gwastraff Gweddilliol |
Mae gwastraff gweddilliol yn parhau ar ôl i ddeunydd y gellir ei ailgylchu neu ei gompostio gael ei dynnu o'r ffrwd wastraff. |
Adroddiad Adolygu |
Yr adroddiad statudol gofynnol o dan Adran 69 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a/neu Reoliad 41 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2015; i ddod i gasgliad ynghylch y weithdrefn adolygu CDLl sydd i'w dilyn yn seiliedig ar asesiad clir o'r hyn a ystyriwyd a'r hyn sydd angen ei newid a pham, yn seiliedig ar dystiolaeth. |
Datblygiad Hirgul |
Estyniad llinellol aneddiadau, gan gynnwys datblygiadau ar y tu blaen ar hyd ffyrdd dynesu, gan arwain at fod datblygiadau yn ymwthio'n ddiangen i gefn gwlad. |
Coridor Afonol |
Ardal gerllaw corff dŵr (e.e. afon, llyn, aber) sy'n dylanwadu ar yr ecosystem ddyfrol, ac sy'n cynnwys cymunedau planhigion ac anifeiliaid. |
Menter Wledig |
Busnesau sy'n gysylltiedig â'r tir gan gynnwys amaethyddiaeth, coedwigaeth a gweithgareddau eraill sy'n cael eu mewnbynnau sylfaenol o'r safle, megis prosesu cynhyrchion amaethyddol, coedwigaeth a mwynau ynghyd â gweithgareddau rheoli tir a gwasanaethau ategol (gan gynnwys contractio amaethyddol), twristiaeth a mentrau hamdden. |
Heneb Gofrestredig |
Safleoedd archaeolegol neu adeiladau hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol, a gaiff eu hamddiffyn rhag newid anawdurdodedig drwy ddeddfwriaeth sylfaenol. |
Cytundeb Adran 106 |
Gweler Rhwymedigaethau Cynllunio. |
Cynllun Integredig Sengl |
Cyflawni dyletswyddau statudol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ("Cydamcanu – Cydymdrechu", LlC 2012), gan gynnwys Strategaethau Cymunedol; a gaiff eu paratoi gan Fwrdd Gwasanaethau Lleol. Gweler "Cynlluniau Llesiant Lleol" sydd i ddisodli Cynlluniau Integredig Sengl. |
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) |
Caiff Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig eu hysbysu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o dan ddeddfwriaeth i roi amddiffyniad i blanhigion, anifeiliaid a nodweddion daearegol neu ffisiolegol o ddiddordeb arbennig. |
Dyraniadau Safle-benodol |
Dyraniadau safleoedd (cynigion) ar gyfer defnydd penodol neu ddefnydd cymysg neu ddatblygiad. Bydd polisïau yn nodi unrhyw ofynion penodol ar gyfer cynigion unigol gyda'r dyraniadau a ddangosir ar fap cynigion y CDLl. |
Cadernid |
Er mwyn i Gynllun Datblygu Lleol gael ei fabwysiadu, rhaid i'r Arolygydd sy'n ei archwilio benderfynu ei fod yn 'gadarn' (Adran 64 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004). Nodir profion cadernid yn y Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu. |
Datganiad Ardal De-orllewin Cymru (2020) |
Un o'r 7 datganiad ardal a grëwyd gan CNC fel ymateb cydweithredol i'r Polisi Adnoddau Naturiol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017, sy'n amlinellu'r prif heriau a'r cyfleoedd o ran rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy i'r dyfodol. |
Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) |
Safleoedd o bwysigrwydd cadwraeth a ddynodwyd o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd (Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC) (a droswyd yn gyfraith genedlaethol drwy Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y'u diwygiwyd) a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019. Yn ogystal, ceir safleoedd ymgeisio ACA a ddylai, fel mater o bolisi'r Llywodraeth, gael eu hystyried fel ACA llawn wrth archwilio effeithiau defnydd tir. |
Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) |
Safleoedd o bwysigrwydd cadwraeth o dan y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt (Cyfarwyddeb 2009/147/EC) (a droswyd yn gyfraith genedlaethol drwy Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y'u diwygiwyd), Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau Morol Alltraeth 2017 (fel y'u diwygiwyd) a Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) (Ymadael â'r DU) 2019). |
Polisïau Penodol |
Cyfres o bolisïau yn seiliedig ar feini prawf a fydd yn sicrhau bod pob datblygiad yn yr ardal yn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y Strategaeth. |
Rhanddeiliaid |
Sefydliadau a phartïon sydd â diddordeb sy'n cymryd rhan trwy gyrff cynrychioliadol yn gyffredinol. |
Datganiad o Dir Cyffredin |
Diben Datganiad o Dir Cyffredin yw sefydlu'r prif feysydd lle ceir cytundeb rhwng dau neu ragor o bartïon ar fater penodol. |
Cynllun Datblygu Strategol |
Gwneir darpariaeth o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu Strategol ar lefel ranbarthol. Bydd y Cynllun Datblygu Strategol yn ystyried y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ac yn ymateb ar lefel ranbarthol i faterion strategol. |
Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) |
Term a ddefnyddir yn rhyngwladol i ddisgrifio asesiad amgylcheddol fel y caiff ei gymhwyso i gynlluniau a rhaglenni. Mae proses AAS yn deillio o ddeddfwriaeth Ewropeaidd a chaiff ei diffinio ar lefel Ewropeaidd -Cyfarwyddeb 2001/42/EC. Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (Rheoliadau AAS) yn gofyn am "asesiad amgylcheddol ffurfiol o gynlluniau a rhaglenni penodol, gan gynnwys y rheiny ym maes cynllunio a defnydd tir". |
Amcanion Strategol |
Cyfres o fwriadau cyffredinol sy'n ymhelaethu ar y Weledigaeth ac sy'n canolbwyntio ar gyflawni'r Cynllun. |
Canllawiau Cynllunio Atodol |
Maent yn ffurfio dogfen/gwybodaeth atodol mewn perthynas â'r polisïau mewn CDLl. Nid yw Canllawiau Cynllunio Atodol yn ffurfio rhan o'r cynllun datblygu ac nid ydynt yn destun archwiliad annibynnol ond rhaid iddynt fod yn gyson â'r Cynllun ac â pholisi cynllunio cenedlaethol. Gellir eu datblygu i ystyried agweddau unigol neu thematig ar y Cynllun a dyrannu safleoedd gan gynnwys prif gynlluniau. |
Arfarniad Cynaliadwyedd |
Offeryn ar gyfer arfarnu polisïau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu amcanion datblygu cynaliadwy (h.y. ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd). Mae'n ofynnol i bob ACLl, yn ôl Adran 62 (6) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, ymgymryd ag Arfarniad Cynaliadwyedd o'r CDLl. Mae'r math hwn o Arfarniad Cynaliadwyedd yn ymgorffori gofynion y Rheoliadau AAS yn llawn. |
Nodiadau Cyngor Technegol (TAN) |
Dogfen yn seiliedig ar bynciau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i ategu Polisi Cynllunio Cymru. |
Gweledigaeth |
Mae'n diffinio diben craidd y Cynllun. |
Cynllun Gofodol Cymru |
Cynllun a baratowyd ac a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Adran 60 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, sy'n nodi fframwaith strategol i lywio datblygiadau ac ymyriadau polisi yn y dyfodol, p'un a yw'r rhain yn ymwneud â rheoli cynlluniau defnydd tir yn ffurfiol ai peidio. O dan Adran 62 (5) (b) o Ddeddf 2004, rhaid i awdurdod cynllunio lleol roi sylw i Gynllun Gofodol Cymru wrth baratoi CDLl. |
Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC) 2019 |
Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC) 2019 a gafodd ei baratoi a'i fabwysiadu o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. |