Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

Daeth i ben ar 14 Ebrill 2023
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

6. Gweledigaeth ar gyfer 'Un Sir Gâr'

6.1 Mae angen tanategu'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig gyda gweledigaeth a strategaeth gryno a hirdymor. Er mwyn cyflawni hyn, mae gweledigaeth glir wedi'i datblygu sydd wedi'i hadeiladu ar sail consensws. Mae'r Weledigaeth Strategol yn nodi sut y bwriedir datblygu, newid neu warchod y sir hyd at 2033.[34]

6.2 Mae gweledigaeth y CDLl Diwygiedig yn cynnwys y weledigaeth a nodir yn Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor 2018 – 2023 (Diweddarwyd 2021)[35]. Er nad oes gweledigaeth i fanteisio ar Gynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin, mae gweledigaeth y CDLl Diwygiedig yn adlewyrchu ei bedwar amcan llesiant, sef (1) Arferion Iach (2) Ymyrraeth Gynnar (3) Cysylltiadau Cryf a (4) Phobl a Lleoedd Ffyniannus.

6.3 Mae testun ategol Amcan Llesiant 4 wedi'i ymgorffori yng ngweledigaeth y CDLl Diwygiedig oherwydd pwyslais yr amcan hwn ar "wneud y gorau o gyfleoedd i bobl a lleoedd mewn rhannau trefol a gwledig o'n sir fel ei gilydd". Mae hyn yn ymateb i'r pwyslais cryf ar gydnabod ardaloedd gwledig o fewn y sgyrsiau a geir ynghylch nodi materion. Mae gweledigaeth y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn cydnabod ac yn dathlu'r ffaith fod ein sir yn gyferbyniol a'i bod yn ysbrydoli ymdeimlad o le.

6.4 Mae ymagwedd "Un Sir Gâr" yn cydnabod yr angen i gydbwyso gofynion a buddiannau sy'n tynnu'n groes i'w gilydd ac yn darparu cyfle ar gyfer consensws a pherchenogaeth a rennir ar y CDLl Diwygiedig. Mae gweledigaeth y CDLl Diwygiedig hefyd yn cydnabod y cyfleoedd a ddaw yn sgil amrywiaeth y Sir a'i chymunedau ynghyd â'r uchelgeisiau adfywio a nodir trwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, gan osod y cywair cadarnhaol a chyraeddadwy ar gyfer y Cynllun yn ogystal â chaniatáu uchelgais priodol.

Un Sir Gâr

Bydd Sir Gaerfyrddin 2033 yn lle i ddechrau, byw a heneiddio'n dda mewn amgylchedd iach, diogel a ffyniannus, lle caiff ei nodweddion diwylliannol ac amgylcheddol cyfoethog (gan gynnwys yr iaith Gymraeg) eu gwerthfawrogi a'u parchu gan drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Bydd gan y Sir gymunedau llewyrchus, cydlynol a chynaliadwy a fydd yn darparu mwy o gyfleoedd, ymyriadau a chysylltiadau ar gyfer pobl, lleoedd a sefydliadau yn rhannau gwledig a threfol ein Sir fel ei gilydd.

Bydd ganddi economi gref sy'n adlewyrchu ei safle fel ysgogwr hyderus ac uchelgeisiol ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe.


[34] Polisi Cynllunio Cymru, Rhifyn 11 a Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol Llywodraeth Cymru – Rhifyn 3 – Mawrth 2020

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig