Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

Daeth i ben ar 14 Ebrill 2023
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

7. Amcanion Strategol (AS)

7.1 Cafodd amcanion strategol y CDLl Mabwysiedig presennol eu defnyddio fel man cychwyn i nodi'r amcanion strategol ar gyfer y CDLl Diwygiedig.

7.2 Roedd ymddangosiad amrediad o ysgogwyr cyd-destunol a pholisi ers 2014, yn fwyaf nodedig Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, gweithio rhanbarthol gan gynnwys llofnodi Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn 2017 a darpariaethau Cymru'r Dyfodol a gwaith datblygol y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, yn golygu bod angen adolygu amcanion strategol y CDLl Mabwysiedig. Roedd hefyd angen sicrhau bod amcanion strategol y CDLl diwygiedig yn cydblethu â'r materion allweddol a'r weledigaeth.

7.3 Mae amcanion llesiant Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin wedi cael eu defnyddio i grwpio Amcanion Strategol y CDLl Diwygiedig. Mae hyn yn sicrhau bod dehongliad lleol o lesiant yn cael ei blethu yn yr amcanion llesiant a strategaeth y Cynllun o'r dechrau. Er nad ydynt yn cael eu nodi'n uniongyrchol fel amcanion strategol y CDLl diwygiedig yn eu rhinwedd eu hunain, mae amcanion llesiant y Cyngor, fel y'u hamlinellir o fewn Strategaeth Gorfforaethol 2018 – 2023 (Diweddarwyd 2021) wedi chwarae rôl bwysig[36].

7.4 Mae amcanion strategol y CDLl Diwygiedig yn ddigon uchelgeisiol ond mae modd hefyd eu cyflawni yng nghyd-destun cynllunio gofodol. Maent wedi'u seilio ar faterion allweddol y Cynllun ac yn ymateb iddynt, ac maent yn darparu platfform ar gyfer gwireddu'r weledigaeth. Maent yn darparu llwyfan ar gyfer cynllun cadarn, yn arbennig o ran eu haddasrwydd, priodoldeb a chyflawnadwyedd [37]

7.5 Mae'r amcanion strategol yn cael eu croesgyfeirio â mater perthnasol y CDLl Diwygiedig ac maent hefyd yn destun dadansoddiad o ran a ydynt yn amcanion CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol).

7.6 Mae amcanion strategol y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig isod.

Arferion Iach - Mae gan bobl ansawdd bywyd da, ac maen nhw'n gwneud dewisiadau iach ynglŷn â'u bywydau a'r amgylchedd.

AS1 Sicrhau bod yr amgylchedd naturiol, gan gynnwys cynefinoedd a rhywogaethau, yn cael ei ddiogelu a'i wella.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

6, 7, 12, 13, 26, 32 UCI 1, UCI 3, UCI 4

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

ydyn

Uchelgeisiol a Synhwyrol

ydyn

AS2 Cynorthwyo i ehangu a hyrwyddo cyfleoedd llesiant trwy fynediad i gyfleusterau cymunedol a hamdden yn ogystal â chefn gwlad.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

10, 11, 12, 15, 22, 26, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

ydyn

Uchelgeisiol a Synhwyrol

ydyn

AS5 Diogelu a gwella'r amgylchedd adeiledig a hanesyddol a hyrwyddo'r arfer o ailddefnyddio adeiladau segur yn briodol.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

8, 26, 27, 30, 32, UCI 5

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

ydyn

Uchelgeisiol a Synhwyrol

ydyn

Ymyrraeth Gynnar - Sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn; pan fydd ei angen arnynt.

AS3 Helpu i ehangu a hyrwyddo cyfleoedd am addysg a hyfforddiant sgiliau i bawb.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

11, 15, 16, 22, 25, 26, 32, UCI 5

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

ydyn

Uchelgeisiol a Synhwyrol

ydyn

AS4 Sicrhau bod egwyddorion cyfle cyfartal a chynhwysiant cymdeithasol yn cael eu cynnal drwy hyrwyddo mynediad i wasanaethau cyhoeddus, gofal iechyd, siopau, cyfleusterau hamdden a chyfleoedd gwaith amrywiol ac o ansawdd uchel, yn ogystal â chanol trefi bywiog.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

2, 3, 9, 11, 14,16,18, 22, 25, 26, 32, UCI2

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

ydyn

Uchelgeisiol a Synhwyrol

ydyn

Cysylltiadau Cadarn – Pobl, llefydd a sefydliadau sydd wedi'u cysylltu'n gadarn ac sy'n gallu addasu i newid.

AS6 Sicrhau bod egwyddorion cynaliadwyedd gofodol yn cael eu cynnal trwy gyfeirio datblygiadau i leoliadau cynaliadwy sydd â mynediad i wasanaethau a chyfleusterau, a rhoi anogaeth i ailddefnyddio tir a ddatblygwyd o'r blaen lle bynnag y bo hynny'n bosibl.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

5, 7,13, 22, 23, 26, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

ydyn

Uchelgeisiol a Synhwyrol

ydyn

AS7 Gwneud cyfraniad sylweddol tuag at fynd i'r afael ag achos Newid yn yr Hinsawdd ac addasu ei effeithiau, gan gynnwys hyrwyddo ynni adnewyddadwy a'r defnydd effeithlon o adnoddau a'u diogelu.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

5, 7,13, 24, 26, 32, 33, UCI 3, UCI 4

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

ydyn

Uchelgeisiol a Synhwyrol

ydyn

AS8 Cyfrannu at ddarparu system drafnidiaeth integredig a chynaliadwy sydd ar gael i bawb, gan gynnwys cysylltiadau â dulliau trafnidiaeth amgen.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

22 ,23 , 24, 26, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

ydyn

Uchelgeisiol a Synhwyrol

ydyn

Pobl a Lleoedd Ffyniannus - Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i bobl a lleoedd yn ardaloedd trefol a gwledig ein sir.

AS9 Diogelu a gwella cymeriad amrywiol, nodweddion unigryw, diogelwch a bywiogrwydd cymunedau'r Sir drwy hyrwyddo dull o greu lle ac ymdeimlad o le.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

8, 26, 28, 31, 32, UCI 2, UCI 5

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

ydyn

Uchelgeisiol a Synhwyrol

ydyn

AS10 Darparu cymysgedd a nifer priodol o dai o ansawdd ledled y Sir, yn seiliedig ar egwyddorion datblygu economaidd-gymdeithasol cynaliadwy a chyfleoedd cyfartal.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

3, 17, 18,19, 20, 21, 22, 23, 26,28, 29, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

ydyn

Uchelgeisiol a Synhwyrol

ydyn

AS11 Helpu i warchod, gwella a hyrwyddo'r Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol unigryw'r Sir ynghyd â'i hasedau a'i gwead cymdeithasol.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

3, 17, 18, 20, 26, 28, 29, 31, 32, UCI 5

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

ydyn

Uchelgeisiol a Synhwyrol

ydyn

AS12 Annog buddsoddiad ac arloesedd mewn ardaloedd gwledig a threfol trwy sicrhau darpariaeth ddigonol i ddiwallu'r angen am waith a chyfrannu ar lefel ranbarthol tuag at gyflawni Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

1, 2, 3, 4, 15, 16, 23, 25, 26, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

ydyn

Uchelgeisiol a Synhwyrol

ydyn

AS13 Darparu ar gyfer mentrau twristiaeth cynaliadwy o ansawdd uchel drwy gydol y flwyddyn.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

4, 25, 26, 32, UCI 2

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

ydyn

Uchelgeisiol a Synhwyrol

ydyn

AS14 Adlewyrchu'r gofynion sy'n gysylltiedig â chyflwyno datblygiadau newydd, o safbwynt seilwaith caled a meddal (gan gynnwys band eang).

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

23, 24, 25, 26, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

ydyn

Uchelgeisiol a Synhwyrol

ydyn

Tabl2

CDLl Diwygiedig – Drafft gweledigaeth a phroses. Diagram llif sy'n dangos sut y cafodd y weledigaeth ddrafft ei chreu a'i chymryd ymlaen i'r CDLl Adneuo Diwygiedig.

Ffigur 6


[36] Mae'r Papur Pwnc – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion yn cynnwys asesiadau cydnawsedd rhwng amcanion strategol y CDLl Diwygiedig ac amcanion llesiant y Cyngor, ac amcanion strategol y CDLl Diwygiedig yn erbyn fframwaith yr Arfarniad Cynaliadwyedd.

[37] Llawlyfr Cynllun Datblygu Lleol Llywodraeth Cymru – Rhifyn 3

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig