Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin
(2) 9. Strategaeth Newydd
9.1 Mae'r strategaeth yn anelu at gyflawni'r weledigaeth a'r amcanion strategol a mynd i'r afael â'r materion allweddol a nodwyd yn Strategaeth a Ffefrir y CDLl. Bydd y CDLl Diwygiedig, wrth iddo fynd rhagddo i gael ei fabwysiadu, yn amlinellu sut y bydd y newidiadau yn Sir Gaerfyrddin dros gyfnod y cynllun yn cael eu rheoli a sut y cynllunnir ar eu cyfer. Drwy ei bolisïau a'i gynigion, bydd y CDLl Diwygiedig yn ceisio darparu ar gyfer y newidiadau hyn a'r lefelau perthynol o dwf, a nodi lle y bydd twf o'r fath yn dderbyniol. Caiff hyn ei gyflawni drwy nodi safleoedd ar gyfer defnyddiau tir penodol wrth warchod a gwella buddiannau amgylcheddol, tirwedd ac adeiladau hanesyddol cyfoethog y sir.
9.2 Mae'r broses o baratoi'r 2il CDLl Adneuo hwn wedi'i llywio gan arweiniad cenedlaethol a rhanbarthol, gyda chynlluniau a strategaethau ar bob lefel yn cyfrannu, lle yr 2ilhon bo'n briodol, at ddatblygu sylfaen dystiolaeth a gwybodaeth ddatblygol. Mae ymgysylltu hefyd wedi chwarae rhan ganolog wrth baratoi'r CDLl Diwygiedig.
Dull Gweithredu Gofodol Newydd
9.3 Mae'r CDLl Diwygiedig yn cydnabod yr amrywiaeth a geir yn y Sir a'r angen i adlewyrchu hyn yn ei ymagwedd strategol. Mae'r Strategaeth Ofodol yn nodi hierarchaeth aneddiadau ond yn ei gosod o fewn fframwaith aneddiadau sydd wedi'i grwpio o dan chwe chlwstwr. Bydd y clystyrau hyn a'r dosbarthiad twf yn canolbwyntio ar egwyddorion cynaliadwy ond byddant hefyd yn cydnabod rôl, swyddogaeth a chyfraniad pob anheddiad yn ei glwstwr penodol. Caiff twf ei ddosbarthu yn unol â hynny i ganolfannau a nodwyd, ac mae rôl aneddiadau llai yn Sir Gaerfyrddin o ran sicrhau twf lleol a chynaliadwy hefyd wedi cael ei nodi.
9.4 Mae'r ardaloedd twf strategol yn adlewyrchu'r ffurf drefol gyfredol yn Llanelli, Rhydaman/Cross Hands a Chaerfyrddin gyda'u cymwysterau cynaliadwyedd priodol ac ysgogwyr economaidd cryf o safbwynt galw yn y farchnad a chyflenwi. Mae'r tair ardal dwf hyn wedi'u dynodi'n brif ganolfannau ac er y byddant yn derbyn cyfran briodol o'r twf a ragwelir, bydd ymagwedd gytbwys at y dosbarthiad.
9.5 Bydd ardaloedd eraill yn cynnwys ffocws ar Dwf Lleol ac Arallgyfeirio. Mae'r ardaloedd hyn yn rhai lle y bydd twf yn adlewyrchu'r gymuned wrth ddeall y disgwyliadau cyflawni ehangach sy'n gysylltiedig â llunio Cynllun (e.e. polisi ac arweiniad cenedlaethol). Yn aml, drwy ymgorffori ardaloedd sy'n fwy gwledig o ran cymeriad, mae ardaloedd o'r fath yn chwarae rôl gyfannol, nid yn unig o ran bywyd bob dydd eu cymunedau, ond maent hefyd yn hanfodol i Sir Gaerfyrddin fywiog a llewyrchus.
9.6 Mae adfywio a chreu swyddi yn elfennau pwysig ar draws y Sir. Bydd safleoedd a ddynodwyd a'r defnydd o bolisïau yn darparu fframwaith ar gyfer darparu cyfleoedd cyflogaeth a chreu swyddi. Bydd hyn yn ceisio darparu dull gweithredu cadarnhaol i helpu'r ardaloedd hyn i ddiwallu eu potensial llawn ac adeiladu ar y cyfleoedd o fewn holl gymunedau Sir Gaerfyrddin. Felly mae'r strategaeth wedi'i gwreiddio'n gadarn o fewn ethos "Un Sir Gâr" fel yr amlinellir yn y weledigaeth.
9.7 Bydd y Cynllun yn defnyddio dyraniadau a chyfyngiadau datblygu lle y bo'n briodol, yn ogystal â defnyddio polisïau a meini prawf i sicrhau bod y datblygiad cywir yn y man cywir, yn ychwanegol at atal datblygiadau annerbyniol o fewn cymunedau Sir Gaerfyrddin.
9.8 Ar draws ardal y cynllun, bydd cyffredinedd polisïau, ond gallai fod amrywiadau penodol i ganiatáu ar gyfer dull gweithredu polisi ymatebol.
Twf Cyflawnadwy
9.9 Mae'r Strategaeth newydd yn ceisio sicrhau twf cytbwys sy'n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion ein cymunedau ac yn cyflawni amcanion strategol ac adfywio'r Cyngor a'r rhanbarth.
(1) 9.10 Bydd y CDLl hwn yn rhoi'r cyfle i gyflenwi 8,822 o dai dros gyfnod y Cynllun. Mae hyn yn cyfateb i 588 o dai y flwyddyn o 2018 i 2033. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer darparu tai newydd mewn ffordd gynaliadwy sy'n cefnogi dyheadau ein cymunedau ac yn darparu hyblygrwydd priodol i ymateb i amcanion tai fforddiadwy'r cyngor. Bydd yr agenda hon ar gyfer Sir Gaerfyrddin, sy'n uchelgeisiol ond yn gyflawnadwy, yn caniatáu i'r Cynllun adeiladu ar oddeutu'r 588 o dai sy'n cael eu darparu y flwyddyn o dan y CDLl mabwysiedig presennol[39].
(1) 9.11 Drwy ddarparu nifer y tai a nodir uchod, mae'r Strategaeth a Ffefrir hon yn cynnwys hyblygrwydd ychwanegol fel rhan o'i chyflenwi (ymgodiad) i sicrhau twf cynaliadwy a goresgyn unrhyw broblemau cyflawni annisgwyl posibl. Mae 10% o hyblygrwydd drwy 882 o dai pellach wedi'i gynnwys. Mae hyn yn cyfateb i gyflenwad tai o 9,704 o anheddau i gyflenwi'r 8,822 o gartrefi.
9.12 Mae'r strategaeth newydd yn sicrhau bod digon o gyfle i ddarparu cynifer o dai fforddiadwy â phosibl i gefnogi anghenion gwledig a threfol, wrth ddarparu sail gref ar gyfer darpariaeth marchnad dai gyflawnadwy.
9.13 Mae'r strategaeth newydd yn rhoi cyfle i wrthbwyso demograffeg y Sir drwy'r posibilrwydd o gadw ac ymfudo oedolion iau i'r sir, a mynd i'r afael â rhai o'r problemau y gellid eu canfod o boblogaeth sy'n heneiddio.
9.14 Bydd dull gweithredu o'r fath yn cael ei gefnogi gan amgylchedd economaidd cryf ac mae cyflenwi isafswm o 4,140 o swyddi dros gyfnod y Cynllun yn elfen bwysig ohono. Mae hyn yn cefnogi uchelgeisiau strategol y Cyngor, yn ogystal ag uchelgeisiau strategol y rhanbarth o ran twf a chreu swyddi. .
9.15 At hynny, bydd cefnogi dull gweithredu cadarnhaol tuag at dwf yn Sir Gaerfyrddin yn darparu cyfle pellach i'r demograffig iau fyw a gweithio yn y Sir.
Cymunedau Gwledig
9.16 Mae gan aneddiadau ac agweddau gwledig y Sir ran bwysig i'w chwarae o ran gwella cynaliadwyedd ardal ddaearyddol ehangach y Sir. Mae strategaeth a fframwaith aneddiadau'r cynllun yn adlewyrchu'r rôl sylweddol y mae cymunedau gwledig yn ei chwarae trwy gefnogi twf ar raddfa gymesur sy'n gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at gydlyniant a chynaliadwyedd hirdymor cymunedau gwledig a'r economi wledig.
9.17 Fodd bynnag, mae'r cynllun yn cydnabod bod angen i leoliad a lefel y twf mewn ardaloedd a chymunedau gwledig fod yn gymesur ac yn briodol, ac y byddai lefel ormodol o ddatblygiad yn niweidiol i ardaloedd o'r fath. Wrth roi sylw i rai o'r effeithiau hyn yn y CDLl Diwygiedig, mae'r Cyngor wedi cynnal Asesiad o Anghenion Tai Gwledig sy'n ceisio cydbwyso twf yn erbyn rhai o'r materion allweddol sy'n wynebu aneddiadau gwledig. Mae'r Cynllun felly yn ceisio darparu lefel o dwf sy'n ofynnol i gadw a gwella'r gwasanaethau a'r cyfleusterau a ddarperir yn aneddiadau gwledig y Sir a darparu lefel a dewis addas o opsiynau tai ar gyfer y boblogaeth leol yn wyneb heriau lleol megis marchnad dai heriol a nifer yr ail gartrefi a thai gwyliau.
9.18 Mae'r Cynllun hefyd yn cydnabod y gall datblygu, os caiff ei leoli a'i gyflawni ar y raddfa briodol, hefyd hyrwyddo'r Gymraeg a gwella cyfleoedd cyflogaeth mewn ardaloedd gwledig.
9.19 Bydd y Cynllun yn ceisio rheoli graddfa neu gyfradd y twf i sicrhau bod yr effeithiau ar y seilwaith lleol ac ar fywiogrwydd y Gymraeg yn cael eu hymgorffori a'u lleddfu'n foddhaol. Bydd y Cynllun hefyd yn ceisio gwarchod a gwella'r gefn gwlad a'r amgylchedd naturiol.
Yr Economi Wledig
9.20 Mae cydnabyddiaeth glir bod economi wledig gref yn hanfodol er mwyn cynnal cymunedau gwledig cynaliadwy a bywiog.
9.21 Mae mentrau newydd ac ehangu busnesau sy'n bodoli eisoes yn bwysig o ran cyfrannu at dwf a sefydlogrwydd ardaloedd gwledig. Gellir cynnal llawer o weithgareddau masnachol a gweithgynhyrchu ysgafn mewn ardaloedd gwledig heb beri aflonyddwch annerbyniol nac effeithiau andwyol eraill. Fodd bynnag, mae'n rhaid i raddfa defnydd o'r fath fod yn briodol hefyd. Mae'r cynllun yn ceisio cydnabod y gwerthoedd hyn.
9.22 Mae 'Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen' yn garreg filltir arwyddocaol i'r Awdurdod, gan osod strategaeth i adfywio ein cymunedau gwledig. Canlyniad uniongyrchol ei hargymhellion yw'r fenter 'Deg Tref' sy'n cefnogi adfywiad economaidd a thwf trefi gwledig ledled y Sir, gan gynnwys datblygu cynlluniau twf economaidd i hyrwyddo agenda o newid ar gyfer pob un o'r trefi perthnasol a'u cefnwlad ehangach: Cross Hands, Cwmaman, Cydweli, Talacharn, Llandeilo, Llanymddyfri, Llanybydder, Castellnewydd Emlyn, San Clêr a Hendy-gwyn ar Daf.
Adfywio a'r Economi
9.23 Mae Sir Gaerfyrddin yn sir sy'n ystyried adfywio a thwf economaidd fel rhan annatod o'i huchelgeisiau strategol. Mae ei hanes llwyddiannus o ysgogi a denu buddsoddiad wedi arwain at ddenu cyfres o ddatblygiadau sylweddol i'r Sir, yn enwedig y rhai mwyaf diweddar sef Pentre Awel yn Llanelli a datblygiad Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin.
9.24 Yn ogystal ag ysgogi gwelliannau yn y canolfannau cyflogaeth traddodiadol, mae'r cyfleoedd hyn hefyd wedi cyfrannu at ddatblygiadau masnachol sylweddol, cyfleoedd creu lleoedd newydd, gwelliannau i adeiladau a seilwaith newydd, gan wella darpariaeth a gwead cymunedau'r Sir.
9.25 Er bod llawer o'r ymyriadau hyn wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol o ran creu sir gynaliadwy ac amrywiol yn economaidd, mae'n golygu nad oes unrhyw gyfleoedd i'r Sir orffwys ar ei rhwyfau, ac yn wir mae effeithiau Covid yn un mater sydd wedi'i gwneud yn ofynnol i'r awdurdod fyfyrio ac ymateb. Yn dilyn hynny cyhoeddodd y Cyngor ei Gynllun Adfer Economaidd ym mis Ebrill 2021. Roedd hwn yn nodi rhyw 30 o gamau gweithredu i gefnogi adferiad economi Sir Gaerfyrddin yn sgil effeithiau cymdeithasol ac economaidd y pandemig COVID-19 a Brexit. Mae'n amlinellu blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer cefnogi Busnesau, Pobl a Lleoedd gan bennu'r cymorth sydd ei angen i sicrhau bod yr economi yn ymadfer cyn gynted â phosibl i ddod yn un sy'n fwy cynhyrchiol nag yr oedd o'r blaen, yn fwy cyfartal, yn fwy gwyrdd, yn iachach, a chyda chymunedau mwy cynaliadwy.
9.26 Mae'r amgylchedd heriol ym maes adwerthu sy'n effeithio ar rai o'n canol trefi yn golygu bod angen amrywio'r dull gweithredu gan adlewyrchu newid i ganolfannau 'byw' ac amrywiol. Caiff yr heriau ôl-Covid-19 hynny eu hadlewyrchu'n glir ym mhapur Adeiladu Lleoedd Gwell Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 16 Gorffennaf 2020 ac sy'n nodi blaenoriaethau polisi cynllunio yn y cyfnodau adfer ar ôl Covid-19 – mae elfen allweddol o hyn yn ymwneud ag adfywio canol trefi. Mae'r ddogfen yn amlinellu'r angen am ddatblygiadau da o ansawdd uchel sy'n cael eu harwain gan egwyddorion creu lleoedd. Mae'n cydnabod bod darparu lleoedd da ar hyn o bryd yn ei gwneud yn ofynnol i Gynllunwyr fod yn greadigol ac yn ddynamig.
9.27 Caiff hyn ei grisialu yn y dull rhagweithiol a gymerwyd yn wreiddiol yng nghanol tref Llanelli lle mae gwaith y Tasglu fel rhan o ddull ehangach sy'n canolbwyntio ar adfywio wedi arwain at gyflwyno Gorchymyn Datblygu Lleol. Tra bod yr enghraifft hon yn Llanelli bellach wedi dod i ben mae'r dull wedi cael ei efelychu yng Nghanol Trefi Caerfyrddin a Rhydaman gan adlewyrchu'r uchelgeisiau adfywio ehangach. Caiff yr uchelgeisiau hyn eu cyfleu yn Strategaethau Adfywio Canol Tref y Cyngor ar gyfer Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.
9.28 Bydd y cynllun yn adlewyrchu cyfraniad pwysig canolfannau adwerthu sefydledig mwy o faint ond hefyd y swyddogaeth bwysig y mae darpariaeth nwyddau cymharol a chyfleus lai yn ei chyflawni ar draws set amrywiol o aneddiadau a chymunedau.
9.29 Bydd y Cynllun yn ceisio darparu cyfleoedd i sicrhau bod cymaint o fuddsoddiad a chynifer o swyddi â phosibl yn cael eu creu ar draws amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys cyflogaeth draddodiadol, yn ogystal â'r sectorau twristiaeth a gwasanaethu. Yn hyn o beth mae'r cynllun yn ceisio darparu fframwaith cadarnhaol ar gyfer creu sylfaen economaidd well gyda chyfleoedd priodol ar gyfer twf masnachol a chyflogaeth.
9.30 Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddefnyddio dulliau cadarnhaol megis Gorchmynion Datblygu Lleol lle bo hynny'n briodol, i hwyluso a galluogi cyfleoedd adfywio a datblygu economaidd.
Datblygu Cynaliadwy, Llesiant a'r Newid yn yr Hinsawdd
9.31 Mae'r Cynllun yn ceisio adlewyrchu a hyrwyddo egwyddorion Datblygu Cynaliadwy ac ymgorffori'r dyletswyddau sy'n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Mae gan y system gynllunio gefndir hirsefydlog o hyrwyddo Datblygu Cynaliadwy ac, o ran hynny, bydd y CDLl yn ceisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cymunedau. Yn dilyn targed Llywodraeth Cymru o ddod yn sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030, datganodd Cyngor Sir Caerfyrddin argyfwng hinsawdd yn 2019 gan ymrwymo i gyrraedd y targedau hyn erbyn 2030. Fel rhan o'r agenda hon bydd y Cynllun yn chwarae ei ran mewn mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau Newid yn yr Hinsawdd gan adlewyrchu cyfraniad y system gynllunio yn gyfan gwbl
9.32 Mae'r CDLl yn ceisio rhoi fframwaith polisi ar waith sy'n mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau Newid yn yr Hinsawdd o fewn ein cymunedau drwy fabwysiadu egwyddorion a datblygu cynaliadwy.
9.33 Bydd y CDLl yn hyrwyddo egwyddorion cynaliadwyedd drwy wneud y canlynol:
- Diogelu a gwella bioamrywiaeth, trefluniau a thirweddau.
- Lleihau'r galw a'r defnydd o ynni drwy hwyluso cyflenwi adeiladau a chartrefi carbon niwtral, gan gynnwys hyrwyddo'r defnydd effeithlon o adnoddau, gan gynnwys cyfeirio datblygiad i dir a ddatblygwyd yn flaenorol, lle bynnag y bo'n bosibl.
- Dosbarthu a lleoli datblygiad yn unol â'r fframwaith aneddiadau gyda golwg ar leihau dibyniaeth heb ei hangen ar geir modur preifat. Bydd yn hyrwyddo dewisiadau teithio amgen 'gwyrdd' a chynaliadwy, gan adeiladu ar ddatblygiadau mewn technoleg, ac yn hyrwyddo hygyrchedd dulliau teithio amgen.
- Hyrwyddo rheoli gwastraff yn gynaliadwy.
- Hyrwyddo rheoli dŵr yn gynaliadwy (gan gynnwys sicrhau cyflenwad cynaliadwy o adnoddau dŵr ac ansawdd dŵr, hyrwyddo dulliau draenio cynaliadwy a mynd i'r afael â phroblemau llifogydd). Mae hyn yn cynnwys lleihau bregusrwydd cymunedau drwy sicrhau nad yw gwaith datblygu yn cael ei leoli mewn ardaloedd mewn perygl o lifogydd.
- Hyrwyddo gwella llesiant a chynhwysiant cymdeithasol drwy gefnogi cymunedau iach, hygyrch a chydlynol.
- Cefnogi'r gwaith o ddatblygu economi wydn a hwyluso twf priodol yn y dyfodol. a
- Hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg a'i diwylliant.
- Datgarboneiddio'r gymdeithas, datblygu economi gylchol a gwneud datblygiadau'n rhai sy'n gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd.
Creu Lleoedd, Seilwaith a Chymunedau Cydlynus
9.34 Mae twf ein cymunedau yn cynnig cyfle cadarnhaol i ddatblygu a chyflwyno cyfres gydlynol wedi'i chynllunio o ddatblygiadau sy'n canolbwyntio ar anghenion cymunedau a darparu lleoedd lle bydd pobl, yn y pen draw, yn byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser hamdden.
9.35 Mae'r CDLl yn ceisio cynnal a gwella cymunedau presennol yn ogystal â chreu datblygiadau newydd a chynaliadwy. Mae'r cysyniad hwn o greu lleoedd wedi'i sefydlu ym Mholisi Cynllun Cymru a bydd yn egwyddor arweiniol allweddol o ran twf ein sir a'i chymunedau yn y dyfodol. Yn y cyswllt hwn dylid ystyried creu lleoedd yn rhan o agenda gynaliadwy sy'n cynnwys pawb sydd â diddordeb proffesiynol neu bersonol yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau, gwneud penderfyniadau a darparu datblygiadau sy'n cyfrannu at greu a gwella lleoedd cynaliadwy[40].
9.36 Mae'r Cynllun yn cydnabod y canlynol:
Beth yw Creu Lle
Ffordd holistig o fynd ati i gynllunio a dylunio datblygiadau a lleoedd yw “creu lle”, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau positif. Mae’n tynnu ar botensial ardal I greu datblygiadau a mannau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n hyrwyddo ffyniant, iechyd, hapusrwydd a llesiant pobl y neu hystyr ehangaf.
Mae “creu lle” yn ysturied y cyd-destun, y swyddogaeth a’r berthynas rhwng safle’r datblygiad a’I gyffiniau, hynny y nachos datblygiadau mawr sy’n creu lleoedd Newydd yn ogystal â datblygiadau bach sy’n cael eu creu mewn lle ehangach.
Ni ddylai “creu lle” ychwanegu at gostau datblygiad ond rhaid wrth feddwl clyfar, amiddimensiwn ac arloesol a’I ystyried cyn cynhared yn y broses â phosib. Mae “creu lle” yn ychwanegu gwerth cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol at y datblygiad gan arwain at fuddiannau sy’n fwy na’r ffiesegol a chryfhau penderfyniaday cynllunio.
Ffigur 7 [41]
9.37 Mae Sir Gaerfyrddin yn un o lofnodwyr y Siarter Creu Lleoedd. Mae hyn yn cydnabod ymrwymiad y Cyngor i gefnogi'r gwaith o greu lleoedd ym mhob maes perthnasol o'n gwaith a hyrwyddo'r chwe egwyddor creu lleoedd wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd newydd a lleoedd sy'n bodoli eisoes.
9.38 Mae'r Sir yn cefnogi rhwydwaith mannau gwyrdd eang, sy'n hanfodol ar gyfer llesiant economaidd, amgylcheddol a chymunedol. Mae Seilwaith Gwyrdd a Glas yn cyfeirio at ddefnyddio elfennau o'r amgylchedd naturiol, megis nodweddion ecolegol, mannau gwyrdd, mannau agored a systemau rheoli dŵr er budd cymdeithasol, economaidd ac iechyd amgylcheddol ardal. Er bod y dull Seilwaith Gwyrdd a Glas yn nodi'r amgylchedd naturiol fel ased y gall datblygwyr ei ddefnyddio i sicrhau twf economaidd, mae hefyd yn darparu'r modd i allu diogelu a gwella'r 'asedau' hyn. Mae'r cynllun yn ceisio gosod agenda gadarnhaol y gellir cydnabod gwerth seilwaith gwyrdd a glas i'r Sir a'i chymunedau drwyddi. Yn hyn o beth ystyrir bod systemau seilwaith gwyrdd a glas yn elfen allweddol wrth sicrhau datblygu cynaliadwy.
9.39 Mae enghreifftiau o 'asedau' seilwaith gwyrdd a glas yn cynnwys, er enghraifft, parciau a gerddi, mannau gwyrdd amwynder (e.e. mannau chwarae a chaeau chwaraeon), mannau tyfu cymunedol, rhandiroedd, mynwentydd, mannau gwyrdd trefol, coridorau gwyrdd a glas (e.e. afonydd, camlesi, llwybrau beicio), safleoedd o werth ecolegol, daearegol a thirwedd, a mannau gwyrdd swyddogaethol megis systemau draenio trefol cynaliadwy a mannau storio llifogydd.
9.40 Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn darparu cyd-destun ar gyfer darparu seilwaith gwyrdd a glas amlswyddogaethol. Gall gyfrannu'n sylweddol at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac yn arbennig o ran cynnal a gwella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau.
9.41 Mae Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 11 yn pwysleisio y dylai'r system gynllunio ddiogelu a gwella asedau a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd a glas. Mae'r cynllun yn mabwysiadu dull strategol a rhagweithiol o ymdrin â seilwaith gwyrdd a glas a bioamrywiaeth drwy lunio stocrestrau a mapiau cyfredol o'r seilwaith gwyrdd a glas presennol ac asedau a rhwydweithiau ecolegol, ac integreiddio polisïau yn y Cynllun.
9.42 Mae'r Cynllun yn ceisio cydnabod amrywiaeth gyfoethog Sir Gaerfyrddin gan gydnabod y gall hyn hefyd beri heriau o ystyried nodweddion gwledig y sir. Bydd y cynllun yn cymryd golwg gytbwys, gan roi sylw priodol i rinweddau'r anheddiad o ran cynaliadwyedd, neu fel arall, yn ogystal â'r seilwaith addas sydd ar gael, gan gynnwys mannau agored a darpariaeth hamdden. Lle mae'r seilwaith yn annigonol ar hyn o bryd, neu fod yr ansawdd yn wael, nid yw hyn bob amser yn gyfiawnhad dros wrthwynebu datblygiad. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, gall datblygiad newydd fod y ffordd fwyaf realistig o fynd i'r afael â diffygion neu anghydraddoldebau o'r fath.
(2) 9.43 Bydd y Cyngor yn defnyddio rhwymedigaethau cynllunio ynghyd â threfniant cydweithredol agos â darparwyr seilwaith, i weithio gyda datblygwyr i sicrhau dull cydgysylltiedig o ddarparu'r seilwaith ategol angenrheidiol.
9.44 Mae effaith hygyrchedd trafnidiaeth a chyfyngiadau yn y rhwydwaith trafnidiaeth ffyrdd yn ystyriaeth bwysig wrth greu cymunedau cydlynus a chynaliadwy. Mae hygyrchedd i ddulliau teithio cynaliadwy gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, llwybrau beicio, a llwybrau troed yn rhoi cyfle i gymunedau ddewis dulliau Teithio Llesol a dulliau mwy cynaliadwy. Gall hyn helpu i sicrhau bod cysylltedd ar gael ond ei fod yn cael ei ystyried yng nghyd-destun sir wledig a gofodol amrywiol yn bennaf. Nodir y gydnabyddiaeth y bydd ardaloedd o'r fath yn parhau i ddibynnu'n fawr ar gar preifat, ond cydnabyddir y gall y cynllun hwn ddarparu ymyriadau i helpu i hwyluso newid i ymagwedd fwy cynaliadwy at drafnidiaeth. Yn hyn o beth, caiff y gwelliannau mewn technoleg ar gyfer Cerbydau Allyriadau Isel Iawn eu nodi a'u hadlewyrchu yn y cynllun hwn.
9.45 Mae'r berthynas rhwng trafnidiaeth a phroblemau llygredd yn ystod yr oriau brig mewn ardaloedd penodol wedi cael ei chydnabod drwy ddynodi Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer. Bydd ystyriaethau o'r fath ac agweddau ehangach ar lygredd yn cael eu hystyried drwy ddarpariaethau'r cynllun hwn a byddant yn ystyriaethau mewn cynigion datblygu.
9.46 Mae sicrhau bod systemau telathrebu modern, cyflym, diogel a fforddiadwy ar gael yn rhan fwyfwy hanfodol o fywydau modern. Yn benodol, mae'r cynllun hwn yn nodi ac yn cydnabod yr effaith y mae mynediad gwael i fand eang cyflym a diogel yn ei chael ar gynwysoldeb a chreu cymunedau ffyniannus ac economaidd hyfyw. Yn wir, mae hyn yn cael ei gydnabod yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.
(1) 9.47 Mae Dŵr Cymru yn gyfrifol am gyflenwi a thrin dŵr yn y Sir. Mae Dŵr Cymru yn fodlon ar lefel y twf a nodir yn y cynllun hwn, ond mae wedi gofyn ei bod yn ofynnol i ddatblygiadau mwy yn ardal Llanelli gymryd camau lliniaru i gael gwared ar ddŵr wyneb o'r system garthffosiaeth fel rhan o'r broses o roi'r caniatâd cynllunio. O ganlyniad, mae'r cynllun hwn yn cynnwys ymyriad polisi penodol i'r perwyl hwn. Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff y polisi ei roi ar waith wedi'i nodi yn y Canllawiau Cynllunio Atodol.
9.48 Mae'r Cynllun yn cydnabod y duedd a'r effeithiau sy'n gysylltiedig â pherygl llifogydd ar draws y Sir a'r angen i fabwysiadu dull cynaliadwy o reoli ac osgoi perygl llifogydd O ganlyniad, mae polisïau a chynigion y Cynllun yn trafod ac yn darparu fframwaith mewn modd priodol ar gyfer ystyried materion o'r fath ochr yn ochr â'r rhai a nodir mewn polisi cynllunio cenedlaethol.
Rhinweddau Amgylcheddol ac Ardaloedd i'w Gwarchod
9.49 Mae'r CDLl hwn yn canolbwyntio datblygiadau o fewn aneddiadau sefydledig, gan gydnabod yr angen i warchod cefn gwlad, ac ar yr un pryd yn sicrhau darpariaeth briodol ar gyfer rhai defnyddiau penodol (gan gynnwys cynigion eithriadau) os bernir bod lleoliad gwledig yn hanfodol.
9.50 Mae'n ceisio gwarchod a gwella gwerth Sir Gaerfyrddin o ran cadwraeth natur a bioamrywiaeth, gan gynnwys ei chyfuniad gwych o gynefinoedd a rhywogaethau. Mae hefyd yn ceisio gwarchod a gwella amgylchedd adeiledig a hanesyddol y Sir, y nodweddion hynny sy'n cyfrannu at ei chymeriad a thirweddau'r ardal sydd o ansawdd uchel.
(1) 9.51 Yn hyn o beth mae'r cynllun yn cydnabod pwysigrwydd gwarchod a gwella'r amgylchedd, boed yr amgylchedd naturiol neu'r amgylchedd adeiledig hanesyddol. Cydnabyddir gwerth dynodiadau cenedlaethol a rhyngwladol a hefyd y mannau hynny sydd o werth lleol. Mae'r angen i gydbwyso gofynion twf yn erbyn yr angen i warchod a gwella'r rhinweddau amgylcheddol yn her ganolog ac yn un y mae'r Strategaeth yn ceisio mynd i'r afael â hi.
9.52 Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru 'gyngor cynllunio interim' i sicrhau nad yw'r capasiti amgylcheddol yn dirywio ymhellach. Mae'r 'cyngor' hwn yn ymwneud â phob Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afonol y mae ei dalgylch yn ymestyn i Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys Afon Teifi, Afon Tywi, Afon Gwy ac Afon Cleddau. Ar hyn o bryd mae ar drydydd fersiwn y canllawiau.
9.53 Fel Awdurdod Cynllunio Lleol, mae'n ofynnol i'r Cyngor ystyried y cyngor a roddir gan CNC wrth wneud penderfyniadau cynllunio (ar gyfer ceisiadau cynllunio unigol ac ar gyfer y CDLl hwn). Mae'r Cyngor yn cymryd ymagwedd mor rhagweithiol â phosibl tuag at y mater hwn ac mae wedi rhoi cyfres o ddulliau ar waith gan gynnwys cyfrifydd maetholion a chanllawiau lliniaru.
9.54 Mae'r cyfrifydd yn galluogi datblygwyr/ymgeiswyr ac ati i gyfrifo lefel y ffosffad a gynhyrchir gan ddatblygiad ac felly ddyfeisio cynlluniau lliniaru priodol. Caiff hyn yn ei dro ei gefnogi gan ganllawiau lliniaru manwl i'w cynorthwyo i nodi dulliau posibl. Ni hefyd oedd y cyntaf i sefydlu a chynnal Bwrdd Rheoli Maetholion yng Nghymru (ar gyfer Afon Tywi) ac rydym hefyd yn aelodau o Fyrddau Rheoli Maetholion Afon Cleddau ac Afon Teifi a ffurfiwyd yn ddiweddar.
9.55 Bydd y Cynllun yn cael ei gefnogi gan ystod o ddulliau gan gynnwys Strategaethau Lleihau Ffosfforws y Dalgylch a fydd yn nodi ystod o fesurau lliniaru, yn ogystal â mesurau ehangach sydd y tu allan i gylch gwaith y Cyngor ac sy'n dod o dan gyrff cyfrifol eraill mewn perthynas â'r amgylchedd afonol ehangach. Bydd y rhain yn gysylltiedig â chyfres o gerrig milltir cyflawni sydd wedi'u cynllunio i sicrhau bod camau lliniaru addas yn cael eu rhoi ar waith yn y fath fodd ag sy'n gymorth i ryddhau datblygiadau yn y Cynllun.
9.56 Mae'r cynllun hefyd yn adlewyrchu'r angen i ddiogelu natur unigryw a chymeriad ardaloedd yn y Sir. Yn hyn o beth, mae rôl creu lleoedd a sut mae datblygiadau yn cysylltu â'u hamgylchoedd yn nodwedd gref o'r cynllun hwn.
Strategaeth Newydd - Elfennau Allweddol
9.57 Mae elfennau allweddol y strategaeth fel a ganlyn:
- Darparu 9,704 o dai newydd er mwyn cyflenwi'r gofyniad o 8,822 o dai.
- Darparu cyfleoedd i gyflenwi isafswm o 4,140 o swyddi newydd yn y Sir gan gyfrannu at yr uchelgeisiau economaidd a chyflogaeth strategol ac adfywio o fewn y Sir a'r rhanbarth yn ogystal ag amcanion adfywio'r Cyngor i gyflenwi 5,295 o swyddi;
- Darparu digon o dir cyflogaeth i gefnogi twf economaidd a chreu swyddi.
- Hyrwyddo fframwaith aneddiadau sy'n cefnogi cydlyniad rhwng aneddiadau a chymunedau.
- Dosbarthu datblygiad yn unol â'r hierarchaeth aneddiadau, gan adlewyrchu nodweddion cynaliadwyedd a swyddogaethol yr aneddiadau, eu gwasanaethau a chyfleusterau yn ogystal â'u gallu i addasu ar gyfer twf.
- Parchu a gwella rhinweddau amgylcheddol cyfoethog ac amrywiol y sir.
- Adlewyrchu anghenion ardaloedd gwledig a'r economi wledig.
- Cydnabod cymeriad diwylliannol ac ieithyddol y Sir ac adlewyrchu'r Rhybudd o Gynnig y cytunwyd arno gan y Cyngor Sir ar 10 Gorffennaf 2019 mewn perthynas â'r Gymraeg;
- Cyfrannu at gyflenwi cyfleoedd ffisegol ac adfywio cymdeithasol a darparu ar gyfer amrediad amrywiol a chydlynol o aneddiadau a chymunedau.
- Adlewyrchu'r amrywiaeth ar draws y sir, ac o fewn ei haneddiadau a chymunedau.
- Darparu ar gyfer cyflogaeth drwy safleoedd a ddynodwyd a thrwy ddarpariaethau polisi ar draws y sir, gan gydnabod yr angen i gynnal a gwella economïau gwledig.
- Canolbwyntio newidiadau adwerthu mewn canolfannau a sefydlwyd wrth ddarparu cyfleoedd ar gyfer darpariaeth drwy'r hierarchaeth mewn ffordd a fydd yn cynorthwyo o ran gwella hygyrchedd i wasanaethau a chyfleusterau a helpu i gyflenwi aneddiadau a chymunedau hyfyw, hunangynhaliol a chynaliadwy.
- Darparu a gweithredu strategaeth liniaru strategol ar lefel Cynllun i fynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig â llygredd Ffosffad mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonol gwarchodedig. Integreiddio dulliau sy'n canolbwyntio ar atebion gan gynnwys darparu mesurau lliniaru, dulliau masnachu credyd a gwaith y Byrddau Rheoli Maetholion;
- Cydnabod cyfraniad 'tir a ddatblygwyd yn flaenorol' a'i ddefnyddio fel y bo'n briodol wrth gydnabod cyd-destun gwledig yn bennaf y sir.
- Darparu cyfleoedd ar gyfer economi ymwelwyr y sir.
- Gwarchod a gwella rhinweddau naturiol, hanesyddol, a chadwraeth adeiledig Sir Gaerfyrddin a'i thirweddau o werth uchel;
- Cyfrannu at ddatganiadau Hinsawdd a Natur ar Lefel Genedlaethol a Lleol; a
- Cyfrannu at rwydwaith trafnidiaeth integredig yn y sir a'r rhanbarth. Yn ceisio gwneud defnydd effeithlon o'r rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd presennol drwy ystyried y gall y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus roi'r cyfle ar gyfer atgyfnerthu a gwella'r gwasanaeth, gan felly gynnal a gwella hygyrchedd. Hyrwyddo cyfleoedd teithio llesol – trwy gael mynediad at ddulliau trafnidiaeth amgen, gan gynnwys cerdded a beicio.
[39]Data cwblhau 2015 – 2018 (Adroddiad Monitro Blynyddol 2017 - 2018 y CDLl Mabwysiedig)
[40] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11
[41] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11