Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

Daeth i ben ar 14 Ebrill 2023
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Sut i gael golwg ar yr 2il CDLl Diwygiedig Adneuo a rhoi sylwadau arno

Mae'r ymgynghoriad ar yr 2il CDLl Diwygiedig Adneuo hwn yn gam pwysig yn y broses o gynllunio ar gyfer dyfodol Sir Gaerfyrddin. Mae'n gyfle pwysig i unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y bydd Sir Gaerfyrddin a'i chymunedau yn datblygu ac yn tyfu yn y blynyddoedd sydd i ddod, a dod i ddeall polisïau a chynigion y Cynllun a rhoi sylwadau arnynt.

Dylid nodi bod y ddogfen hon yn cynrychioli ail fersiwn Adneuo o'r CDLl Diwygiedig ac yn disodli'r fersiwn honno a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar 29 Ionawr 2020. Ni fydd unrhyw sylwadau a gyflwynwyd mewn perthynas â'r Cynllun Adneuo gwreiddiol yn cael eu hystyried na'u cyflwyno fel rhan o'r ymgynghoriad hwn. O ganlyniad, dylid ailgyflwyno unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn flaenorol fel rhan o'r ymgynghoriad hwn. Ni fydd sylwadau blaenorol yn cael eu hystyried mwyach ac ni fyddant yn cael eu cyflwyno i'r Arolygydd i'w hystyried yn yr archwiliad yn gyhoeddus.

Mae gan y CDLl, fel rhan o'r system gynllunio, rôl sylfaenol i'w chwarae o ran sicrhau datblygu cynaliadwy a chreu cymunedau iach, cydlynus ac economaidd hyfyw a bywiog. Mae'n rhaid i'r cynllun helpu yn y broses o gydbwyso ac integreiddio amcanion sy'n tynnu'n groes er mwyn diwallu'r anghenion datblygu presennol ar yr un pryd â diogelu rhai'r dyfodol. Mae'r Cynllun yn cydnabod anghenion ei ardal ac yn ceisio cyfrannu tuag at gyflawni datblygiad cynaliadwy drwy osod polisïau a chynigion sy'n adlewyrchu amcanion cynaliadwyedd. Mae hefyd yn ceisio diogelu'r amgylchedd drwy arwain a hwyluso penderfyniadau buddsoddi a darparu gwasanaethau a seilwaith.

Mae'n bwysig nodi nad yw'r CDLl yn 'cynllunio ar gyfer popeth', a'i fod yn rhan o gyfres ehangach o strategaethau a rhaglenni buddsoddi. Fodd bynnag, mae yna agweddau yn ymwneud â'r Cynllun na allant orchymyn na rheoli, gan gynnwys buddsoddiadau a chynlluniau hirdymor gan gyrff cyhoeddus eraill.

Wrth ddefnyddio'r cynllun hwn a rhoi sylwadau ar ei gynnwys, y dull a ffefrir yw drwy borth ymgynghori ar-lein y CDLl sydd ar dudalen we'r CDLl Diwygiedig.[1] Mae'r porth yn rhyngweithiol ac yn eich galluogi i weld y cynllun a rhoi sylwadau arno wrth ichi ei ddarllen. Drwy ddefnyddio'r porth, gall ymatebwyr sicrhau bod eu sylwadau yn cael eu cyflwyno'n gyflym a byddant yn gallu gweld sylwadau eraill sydd wedi'u cyflwyno (wrth iddynt gael eu cyhoeddi).

Mae copïau o'r 2il CDLl Adneuo hwn ynghyd â'r dogfennau ymgynghori ategol ar gael i'w harchwilio yng nghanolfannau gwasanaethau cwsmeriaid y Cyngor ac ym mhob llyfrgell gyhoeddus yn ystod yr oriau agor a hysbysebwyd.

Mae ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad ar gael ar gais i'r rhai nad ydynt yn gallu defnyddio'r porth ar-lein.

Gofynnir ichi gyflwyno eich sylwadau drwy'r porth ar-lein. Neu dylech anfon ffurflenni ymgynghori wedi'u cwblhau at:

blaen.gynllunio@sirgar.gov.uk

Neu postiwch nhw at:

Y Rheolwr Blaen-gynllunio, Lle a Chynaliadwyedd, Adran Lle a Seilwaith, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin, SA31 1LE

Rhaid cyflwyno sylwadau erbyn 4:30pm ar 14 Ebrill 2023. Nid ystyrir unrhyw sylwadau a gyflwynir ar ôl y dyddiad hwn.

Mae rhagor o ganllawiau a gwybodaeth ar gael ar dudalen we'r CDLl neu gan yr adain Blaen-gynllunio drwy ffonio 01267 228818 neu anfon e-bost at blaengynllunio@sirgar.gov.uk.


Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig