Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin
2. Beth yw'r Cynllun Adneuo?
2.1 Mae'r 2il CDLl Diwygiedig Adneuo yn rhan o set o ddogfennau y mae'n ofynnol ein bod yn eu paratoi fel rhan o'r broses o gynhyrchu'r CDLl Diwygiedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Mae'n gam hanfodol wrth baratoi'r Cynllun Datblygu ar gyfer Sir Gaerfyrddin ac mae'n dilyn cyhoeddiad y Cytundeb Cyflawni Diwygiedig fel y'i cymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ar 25 Awst 2022[4] a'r Strategaeth a Ffefrir Cyn-adneuo a gyhoeddwyd at ddibenion ymgynghori ym mis Rhagfyr 2018.
2.2 Mae'r 2il CDLl Adneuo hwn yn datblygu'r gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn o ran casglu tystiolaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid a gwaith Cyn-adneuo, gan gynnwys yr hyn sydd yn y Strategaeth a Ffefrir, ac yn ceisio datblygu'r cyfeiriad strategol drwy bolisïau a chynigion mwy manwl o ran defnydd tir (gan gynnwys dyrannu tir i'w ddatblygu).
2.3 Mae'r CDLl Adneuo yn cynnwys datganiad ysgrifenedig sy'n manylu ar ei bolisïau a'i gynigion a map cynigion ar sail ddaearyddol. Mae ei strwythur a'i fformat yn fras fel a ganlyn:
- Rhagarweiniad: Gwybodaeth gefndir gyffredinol am CDLl Sir Gaerfyrddin gan gynnwys amlinellu rôl yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (yn ymgorffori'r Arfarniad Cynaliadwyedd/ Asesiad Amgylcheddol Strategol) a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn y broses o lunio'r cynllun.
- Cyd-destun Polisi: Yn nodi'r ffordd mae'r CDLl yn alinio â'r cyd-destun polisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, ac yn rhoi sylw iddo.
- Prif Faterion ac Ysgogwyr: Yn amlinellu materion a nodwyd mewn perthynas â'r CDLl.
- Gweledigaeth ac Amcanion Strategol: Yn cyflwyno Gweledigaeth y CDLl a'r Amcanion Strategol cysylltiedig, gan gyfleu'r math o le y rhagwelir y dylai Sir Gaerfyrddin fod. Rôl yr Amcanion Strategol yw gosod y cyd-destun ar gyfer gwireddu'r weledigaeth.
- Strategaeth a Pholisïau Strategol: Yn amlinellu cyfeiriad strategol y CDLl sydd, ynghyd â'r fframwaith gofodol ac aneddiadau a'r polisïau strategol, yn rhoi'r cyd-destun ar gyfer polisïau manwl a phenodol.
- Polisïau Penodol: Polisïau manwl sy'n ymdrin â meysydd polisi penodol ac yn darparu polisïau cyffredinol ar gyfer rheoli datblygiadau y caiff pob cynnig ar gyfer datblygiad yn y sir ei asesu yn unol â hwy. Mae'r polisïau hyn yn nodi dyraniadau defnydd tir at ddibenion preswyl, cyflogaeth a dibenion eraill, ardaloedd a ddynodir i gael gwarchodaeth arbennig, a pholisïau (gan gynnwys polisïau meini prawf) sy'n llywio'r defnydd tir a datblygiadau yn ardal y cynllun. Maent yn creu sylfaen gadarn ar gyfer ystyried ceisiadau ac apeliadau cynllunio mewn ffordd resymegol a chyson. Mae'r polisïau wedi'u halinio â'r polisïau strategol ac yn cynnwys cyfiawnhad rhesymedig.
- Gweithredu a Monitro: Yn nodi ac yn cynnwys targedau allweddol a manylion am berfformiad y cynllun a mesurau i'w fonitro.
Gwybodaeth dechnegol a chefndir sy'n rhoi manylion i gefnogi cynnwys y cynllun, neu i ddarparu gwybodaeth i helpu i'w ddehongli. - Map Cynigion ar Sail Ddaearyddol - Mae'r Map Cynigion ynghyd â mapiau mewnosod o aneddiadau neu ardaloedd datblygu penodol yn nodi polisïau a chynigion ar sail ddaearyddol.
2.4 Mae gwybodaeth bellach ynghylch camau paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol ar gael o fewn y Cytundeb Cyflawni neu ar dudalennau gwe'r Cyngor.
2.5 Dylid darllen ac ystyried yr 2il Gynllun Adneuo hwn fel cyfanwaith, gan ystyried darpariaethau Polisi Cynllunio Cymru a'r Nodiadau Cyngor Technegol perthnasol.
2.6 Cafodd y CDLl Adneuo hwn ei baratoi gan roi sylw i ddogfennau a strategaethau gofodol a thematig eraill a gynhyrchwyd ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol, ynghyd â'r rheiny â phwyslais lleol. Cydnabu'r broses o baratoi'r cynllun y pwys a roddwyd ar gydnawsedd a synergedd corfforaethol, ynghyd â'r angen i ystyried y berthynas rhwng y CDLl a'r Cynllun Llesiant[5]. Mae'r CDLl hefyd yn rhan annatod o Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor[6].
2.7 Mae Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ISA) o'r CDLl Adneuo wedi'i gyhoeddi fel dogfen ar wahân ynghyd ag Adroddiad yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Mae'r ddwy ddogfen hyn ar gael ar gyfer ymgynghori a chroesawir sylwadau am eu cynnwys. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain fel a ganlyn:
(1) Yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig
2.8 Mae cwblhau Arfarniad Cynaliadwyedd yn ofyniad statudol ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol o dan Adran 62(6) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005[7] [8] a chanllawiau cysylltiedig. Mae Cyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) Ewropeaidd 2001/42[9], a droswyd yn gyfraith yng Nghymru trwy Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004[10], hefyd nodi gofyniad gorfodol i ymgymryd ag AAS ar bob cynllun datblygu. Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Baratoi Cynlluniau[11] Datblygu Lleol yn nodi bod yn rhaid i Arfarniad Cynaliadwyedd integreiddio gofynion Rheoliadau Asesiad Amgylcheddol Strategol, ac mae'n dadlau ymhellach am ddull Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig.
2.9 Felly, ymgorfforwyd y gofynion cyfunol ar gyfer Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol yn y gofynion a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015[12], Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016[13], Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20[14][15], ac ystyriaethau o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, [16]o fewn un Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig, nad yw'n gynhwysfawr, sy'n galluogi asesiad mwy tryloyw, cyfannol, a chytbwys o oblygiadau cynaliadwyedd yr opsiynau twf, yr amcanion, y polisïau, a'r cynigion a gynhwysir yn y CDLl diwygiedig.
2.10 Mae'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig wedi hwyluso archwiliad trylwyr ac ailadroddol o'r materion cynaliadwyedd, yr heriau, a'r cyfleoedd sy'n wynebu Sir Gaerfyrddin. Wrth wneud hynny, mae wedi'i blethu â'r broses o baratoi'r CDLl hwn ac roedd yn ganolog i'r gwaith o ddatblygu'r Materion a'r Amcanion, yn ogystal â nodi strategaeth, ac i'r CDLl.
2.11 Mae'r camau allweddol o baratoi'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (sy'n ymgorffori Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol) i'w gweld o fewn Adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r Cynllun hwn.
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
2.12 Yn unol â'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd (92/43/EEC)[17], mae'n ofynnol i awdurdodau cymwys gynnal Asesiad Priodol pan fydd cynllun defnydd tir, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag effeithiau cynlluniau neu brosiectau eraill, yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar un neu ragor o safleoedd dynodedig Ewropeaidd.
2.13 Wrth baratoi'r CDLl hwn, mae'r Cyngor wedi ymdrechu i addasu'r cynllun er mwyn sicrhau na fyddai effaith andwyol ar gyfanrwydd safleoedd dynodedig Ewropeaidd. Mae'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn ymdrin â'r canlynol:
- Pennu effeithiau arwyddocaol tebygol cynllun datblygu ar Safleoedd Ewropeaidd lle bo'n berthnasol;
- Edrych ar ba bolisïau/cynlluniau sy'n galw am Asesiad Priodol a sut y caiff ei gynnal;
- Cyflawni'r Asesiad Priodol, os oes angen; a
- Defnyddio "prawf cyfanrwydd y safle" er mwyn penderfynu a oes gan gynlluniau datblygu neu elfennau ynddynt unrhyw atebion amgen neu a oes rhesymau hanfodol dros fwrw ymlaen â'r datblygiad er budd y cyhoedd.
2.14 Mae'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn cael ei baratoi ochr yn ochr â'r CDLl fel proses ailadroddol ac integredig. Mae'n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o lunio'r CDLl a'i bolisïau a'i ddarpariaethau. Yn hyn o beth, mae'r CDLl yn cyflwyno polisïau a chynigion sy'n sicrhau bod gofynion y rheoliadau'n cael eu bodloni ac nad oes effaith andwyol ar gyfanrwydd y safleoedd dynodedig Ewropeaidd.
[4] https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/cynllunio/cynllun-datblygu-lleol-2018-2033/cytundeb-cyflawni/#.XeUt1-RXWM2
[5] Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin: Y Sir Gâr a Garem – 2018 – 2023 https://www.ysirgaragarem.cymru/media/8332/cynllun-llesiant-sir-gar-terfynol-mai-2018.pdf
[6] Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: Strategaeth Gorfforaethol Newydd y Cyngor 2018 – 2023 https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/strategaeth-gorfforaethol-y-cyngor-2018-2023/
[11] https://gov.wales/sites/default/files/publications/2020-03/development-plans-manual-edition-3-march-2020.pdf