Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin
Atodiad 1 - Cyd-destun - Canllawiau a Pholisi Cynllunio Cenedlaethol a Deddfwriaethol
Mae'r gofyniad statudol i baratoi a mabwysiadu Cynllun Datblygu ar gyfer ardal weinyddol Sir Gaerfyrddin wedi'i nodi o dan y ddeddfwriaeth, a chyhoeddir canllawiau penodol gan Lywodraeth Cymru ar yr agweddau gweithdrefnol ar baratoi'r Cynllun a'i gynnwys. Mae hyn yn cynnwys:
- Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (fel y'i diwygiwyd)
- Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol, Cymru) 2005
- Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
- Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
- Llawlyfr y Cynllun Datblygu Lleol – Rhifyn 3
Mae dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Yn ei dro mae cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i fodloni'r gofyniad hwn.
Mae datblygu cynaliadwy yn rhan ganolog o strategaeth yr 2il Gynllun Adneuo. Yn hyn o beth, dylid ystyried gofynion:
- Rheoliadau Asesiad Amgylcheddol Strategol 2004;
- Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a
- Deddf Cydraddoldeb 2010
Mae pob un o'r uchod wedi bod yn allweddol wrth lunio'r Cynllun ac wedi dylanwadu ar ei gynnwys.
Yn ogystal â'r fframwaith deddfwriaethol uchod, rhoddir ystyriaeth i Bolisïau a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol wrth baratoi'r Cynllun, yn ogystal â dogfennau thematig strategol eraill gan gynnwys y canlynol:
- Polisi Cynllunio Cymru
- Nodiadau Cyngor Technegol (TANs)
- Nodiadau Cyngor Technegol Mwynau (MTANs)
- Cymru'r Dyfodol: y Cynllun Cenedlaethol 2040
- Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru 2019
- Cylchlythyrau Llywodraeth Cymru
- Strategaeth Drafnidiaeth Cymru
- Adfywio'r Economi: Cyfeiriad Newydd
- Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Fframwaith Adfywio Newydd
- Strategaeth Amgylcheddol ar gyfer Cymru
- Cynllun Rheoli Traethlin
- Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned - Y Cynllun Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Cymru
- Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer Cymru
- Gweithio i Sicrhau Dyfodol Iachach i Gymru
- Strategaeth Genedlaethol Ffyniant i Bawb
- Tuag at Ddyfodol Diwastraff - Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned: Strategaeth Wastraff Gyffredinol Cymru (2010)
- Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
- Deddf Tai (Cymru) 2014
- Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016
- Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
- Deddf Cymru (2017
- Llywodraeth Cymru - Pobl, Lleoedd, Dyfodol - Cynllun Gofodol Cymru
- Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
- Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000
- Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2017
Rhanbarthol
- Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe 2013 - 2030:
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2017
- Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru
- Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd ar gyfer De-orllewin Cymru (2015-20):
- Adroddiad(au) Monitro Cynlluniau Gwastraff Rhanbarth De-orllewin Cymru:
- Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr Cymru
- Cynllun Rheoli Basn Afon - Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru
- Datganiad Ardal De-orllewin Cymru
- Datganiad Technegol Rhanbarthol ar gyfer Gweithgor Agregau Rhanbarthol De Cymru 2il Adolygiad 2020
- Dadansoddiad o'r Farchnad ac Ymyriadau Posibl: Adroddiad i Lywodraeth Cymru, Mawrth 2020
Lleol
- Cyngor Sir Caerfyrddin - Strategaeth Gorfforaethol
- Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf
- Cynllun Llesiant Lleol Sir Gaerfyrddin
- Trawsnewidiadau: Cynllun Adfywio Strategol Sir Gaerfyrddin
- Cynllun Darparu Tai fforddiadwy 2016 - 2020: Cyflenwi mwy o gartrefi i bobl Sir Gaerfyrddin
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Adfer a Chyflawni Economaidd Sir Gaerfyrddin (Ebrill 2021)
- Cyngor Sir Caerfyrddin - Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr
- Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) Sir Gaerfyrddin
- Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol
- Cynllun Rheoli Risg Llifogydd ar gyfer Ardal Basn Afonydd Gorllewin Cymru
- Cynllun Gweithredu Carbon Sero Net
- Cyngor Sir Caerfyrddin - Y Cynllun Heneiddio'n Dda
- Cyngor Sir Caerfyrddin - Strategaeth Pobl Hŷn 2015-2025
- Cyngor Sir Caerfyrddin - Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
- Cyngor Sir Caerfyrddin – Adroddiad Blynyddol ar Ofal Cymdeithasol