Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

Daeth i ben ar 14 Ebrill 2023
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

12. Monitro a Gweithredu

Gweithredu

12.1. Wrth weithredu'r CDLl diwygiedig, bydd y Cyngor yn parhau i weithio ar y cyd â phartneriaid mewnol ac allanol, sefydliadau a'r sector preifat i weithredu cynigion datblygu newydd, gan gynnwys cynlluniau cyflogaeth a thai. Mae'r fframwaith monitro yn nodi'r cyrff a'r asiantaethau sy'n debygol o gyfrannu at gyflawni agweddau penodol ar y Cynllun.

12.2. Er mwyn cyflawni datblygiadau newydd, mae bodolaeth seilwaith priodol, gan gynnwys cyflenwad dŵr, carthffosiaeth, draenio tir, nwy, trydan a thelathrebu, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod polisïau a chynigion y Cynllun yn cael eu cyflawni. Mewn rhai achosion, lle mae angen seilwaith newydd neu well ar gyfer datblygiadau newydd, gellir darparu hyn drwy waith a drefnwyd gan gwmnïau cyfleustodau. Lle mae angen gwelliannau seilwaith i ddarparu ar gyfer datblygiadau newydd ond nad ydynt wedi'u rhaglennu i ddigwydd o fewn amserlen y datblygiad, bydd angen i'r darpar ddatblygwyr ddarparu neu feddiannu'r seilwaith sydd ei angen i ganiatáu i'r datblygiad fynd yn ei flaen.

12.3. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau nad yw datblygiadau newydd yn rhoi pwysau sylweddol ar y seilwaith presennol ac nad ydynt yn effeithio'n sylweddol ar ansawdd yr amgylchedd. Bydd y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â'r asiantaethau hyn a darparwyr gwasanaeth eraill, cwmnïau cyfleustodau a'r sector preifat, er mwyn sicrhau'r ddarpariaeth seilwaith angenrheidiol ar yr adeg orau posibl i symud tuag at gyflawni amcanion y Cynllun. Bydd hyn yn sicrhau mesurau priodol i liniaru'r effeithiau andwyol sylweddol y byddai datblygiadau newydd yn eu cael ar yr amgylchedd naturiol. Lle bo angen, bydd Canllawiau Cynllunio Atodol a Briffiau Datblygu yn darparu gwybodaeth fanylach am ofynion seilwaith a chydweithio i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni.

12.4. Bydd amgylchiadau economaidd allanol yn dylanwadu'n fawr ar allu'r sector cyhoeddus a'r sector preifat i gyflawni datblygiadau newydd a gwelliannau cysylltiedig i'r seilwaith. Am y rheswm hwn, mae cyflymdra datblygiadau dros gyfnod y cynllun yn debygol o amrywio.

12.5. Bydd y Cyngor hefyd yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ar draws y rhanbarth er mwyn sicrhau cysondeb rhwng y CDLl hwn a'u strategaethau ac wrth ddatblygu trefniadau strategol rhanbarthol, ac i ganfod a lleihau effeithiau cyfunol tebygol cynigion y Cynllun hwn.

12.6. Mae'r bennod hon yn cymryd y polisïau strategol a nodir yn y CDLl Diwygiedig hwn ac yn nodi'r mecanweithiau ar gyfer eu gweithredu. Mae'n amlinellu'r partneriaid a'r asiantaethau, yn fewnol ac yn allanol, a fydd yn cyfrannu at eu gweithredu, a lle bo'n briodol bydd yn amlinellu'r offer a ddefnyddir, megis Canllawiau Cynllunio Atodol a Briffiau Datblygu, ac ati.

12.7. Caiff y broses o weithredu'r Cynllun hwn ei monitro'n barhaus a lle bo'n briodol caiff mecanweithiau ychwanegol eu hystyried i sicrhau bod y prosesau gorau ar waith a bod y wybodaeth briodol yn cael ei defnyddio i lywio'r broses o'i weithredu.

Monitro

12.8. Mae'r adran hon yn amlinellu fframwaith monitro a fydd yn cael ei ddefnyddio yn ddull o fesur gweithrediad polisïau a chynigion y CDLl Diwygiedig. Mae'r fframwaith yn cynnwys cyfres o ddangosyddion perfformiad craidd a lleol sydd â'r nod o fonitro effeithiau a llwyddiant polisïau'r CDLl.

12.9. Bydd y wybodaeth a gesglir drwy'r fframwaith monitro yn cael ei chyflwyno yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol y mae'n ofynnol iddo gwmpasu'r flwyddyn ariannol flaenorol a chael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn ar ôl mabwysiadu'r CDLl. Yr Adroddiad Monitro Blynyddol yw'r prif ddull o fesur gweithrediad a llwyddiant polisïau'r Cynllun a bydd yn adrodd ar faterion sy'n effeithio ar amcanion y Cynllun. Bydd yr Adroddiad Monitro Blynyddol hefyd yn dadansoddi effeithiolrwydd a pherthnasedd parhaus polisïau'r Cynllun yng ngoleuni polisi cenedlaethol a newidiadau amgylchiadol. Gallai canfyddiadau'r Adroddiad Monitro Blynyddol arwain at newidiadau i bolisïau er mwyn gwella eu heffeithiolrwydd ac, mewn achosion mwy eithafol, gallai arwain at adolygu rhan o'r Cynllun neu'r Cynllun cyfan. Bydd yr adroddiad yn nodi canlyniadau'r fframwaith monitro a bydd y data a gesglir, lle bo angen, yn darparu naratif cyd-destunol mewn perthynas â phob canfyddiad.

12.10. Beth bynnag yw canfyddiadau'r Adroddiad Monitro Blynyddol, bydd yn ofynnol i'r Cyngor gynnal adolygiad ddim mwy na 4 blynedd o'r dyddiad mabwysiadu. Gallai hyn arwain at lunio Cynllun newydd/diwygiedig neu newid agweddau ar y Cynllun.

12.11. Mae'r Rheoliadau CDLl yn rhagnodi'r dangosydd canlynol sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth ac y mae'n rhaid ei gynnwys yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol:

  • Nifer yr anheddau fforddiadwy ac anheddau marchnad gyffredinol ychwanegol net a adeiladwyd yn ardal yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

12.12. Mae Tabl 29 o'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Rhifyn 3 yn nodi dangosyddion allweddol ychwanegol sy'n berthnasol i'r Cynllun.

12.13. Nodir y dangosyddion hyn sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru yn y fframwaith monitro. Defnyddir dangosyddion cyd-destunol hefyd yn yr Adroddiad Monitro Blynyddol i werthuso ai'r Cynllun sydd ddim yn cyflawni'r targedau neu a oes ffactorau allanol (e.e. yr economi neu newidiadau o ran ffynonellau cyllid) sydd y tu allan i reolaeth y system gynllunio ac sy'n dylanwadu ar ganlyniadau'r fframwaith.

12.14. Fel yr adlewyrchir yn yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig, mae Rheoliadau'r Asesiad Amgylcheddol Strategol (Erthygl 17) yn mynnu bod effeithiau amgylcheddol sylweddol y Cynllun yn cael eu monitro er mwyn gallu lliniaru unrhyw effeithiau andwyol annisgwyl. Er mwyn osgoi dyblygu rhwng y gwaith monitro a wnaed ar gyfer yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (gan ymgorffori'r Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol) a'r CDLl diwygiedig, mae rhai dangosyddion wedi'u cyfuno ar gyfer y ddwy broses er mwyn hwyluso eglurder. Dangosir hyn ym Mhennod 8 o adroddiad yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig.

12.15. Mae'r opsiynau canlynol ar gael i'r Cyngor mewn cysylltiad â phob un o'r dangosyddion a'u sbardunau. Bydd yr Adroddiad Monitro Blynyddol yn asesu difrifoldeb y sefyllfa sy'n gysylltiedig â phob dangosydd ac yn argymell ymateb priodol.

Tabl 12: Monitro Canlyniadau

Parhau i Fonitro (Gwyrdd)

Lle mae'r dangosyddion yn awgrymu bod polisïau'r CDLl yn cael eu gweithredu'n effeithiol ac nad oes rheswm dros eu hadolygu.

Angen Hyfforddiant ar Swyddogion / Aelodau (Glas)

Lle mae'r dangosyddion sy'n gysylltiedig â cheisiadau cynllunio yn awgrymu nad yw polisïau'n cael eu gweithredu fel y'u bwriadwyd ac mae angen rhagor o hyfforddiant ar swyddogion neu Aelodau.

Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) / Briffiau Datblygu sydd eu hangen (Porffor)

Er y bydd y Cyngor yn paratoi CCA a Briffiau Datblygu drwy gydol cyfnod y Cynllun, gall dangosyddion awgrymu y dylid rhoi canllawiau pellach i ddatblygwyr ar sut y dylid dehongli polisi yn gywir. Yn ogystal, os na fydd safleoedd yn cael eu cyflwyno fel y rhagwelwyd, bydd y Cyngor yn ymgysylltu â datblygwyr/tirfeddianwyr i gyflwyno Briffiau Datblygu ar safleoedd allweddol er mwyn helpu i gychwyn y broses ddatblygu.

Ymchwil Polisi / Ymchwiliad (Melyn)

Lle mae'r dangosyddion monitro yn awgrymu nad yw polisïau'r CDLl mor effeithiol â'r bwriad, gwneir rhagor o ymchwil, gan gynnwys y defnydd o ddangosyddion cyd-destunol (fel yr amlinellir uchod) a chymariaethau ag awdurdodau lleol eraill ac ystadegau cenedlaethol lle bo'n briodol, yn sail i unrhyw benderfyniad i adolygu'r polisi'n ffurfiol.

Adolygu Polisi (Oren)

Lle mae'r dangosyddion monitro yn awgrymu y byddai newidiadau i'r CDLl yn fuddiol, bydd y Cyngor yn ystyried addasu'r Cynllun fel y bo'n briodol. Gall hyn arwain at adolygu polisïau'r Cynllun.

Adolygu'r Cynllun (Coch)

Lle mae'r dangosyddion monitro yn awgrymu nad yw'r Cynllun a'i strategaeth yn cael eu gweithredu. Gall ymchwiliad i'r rhesymau dros beidio â'u gweithredu arwain at adolygiad ffurfiol o'r Cynllun.

Amcanion y CDLl a'r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig

Polisi

Cyfeirnod y Dangosydd:

Dangosydd Monitro

Targed

Pwynt Sbarduno

Ffynhonnell

Polisi Strategol - SP1: Twf Strategol

SO3, SO10

ISA1, ISA10, ISA15

SP1

SP4

HOM1 HOM2 HOM3

MI. 1

Dangosydd sy'n ofynnol gan y Ddeddfwriaeth:

Nifer yr anheddau marchnad agored a chartrefi fforddiadwy ychwanegol net a adeiladwyd yn ardal y Cynllun.

Darparu cyfanswm o 8,822 o anheddau yn ystod cyfnod y Cynllun - yn seiliedig ar gyfradd gwblhau flynyddol o 588 o unedau a 126 o unedau fforddiadwy y flwyddyn.

Cyflawni islaw cyfradd adeiladu flynyddol / targed y Cynllun am o leiaf ddwy flynedd yn olynol.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO3, SO12

ISA10, ISA14

SP1

MI. 2

Dangosydd Lleol:

Creu swyddi.

Monitro er gwybodaeth.

Dim targed.

Dim sbardun.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO1, SO2, SO3, SO13

ISA1, ISA2, ISA12, ISA14

SP1

SG3

MI. 3

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar Benrhyn Pen-bre.

Mabwysiadu'r CCA erbyn Rhagfyr 2025.

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

Polisi Strategol – SP 2: Adwerthu a Chanol Trefi

SO4

ISA1, ISA6, ISA14

SP2

MI. 4

Dangosydd Lleol: Unedau Adwerthu Gwag mewn eiddo masnachol

Cyfraddau unedau gwag mewn eiddo masnachol o fewn ffin ddiffiniedig canol tref.

Lefelau unedau gwag yn cynyddu

Archwiliad o Adwerthu a Chanol Trefi

Polisi Strategol – SP 3: Dosbarthu Cynaliadwy – Fframwaith Aneddiadau

SO6, SO10

ISA1, ISA10

SP3

SP4

MI. 5

Dangosydd Allweddol:

Cyfran y tai a ganiatawyd ar ddyraniadau fesul haen o'r hierarchaeth aneddiadau

Dosbarthiad anheddau i fod yn unol â'r cyfrannau a bennir yn y Cynllun

Gwyriad +/- 10% o'r dosbarthiad disgwyliedig o ddyraniadau o fewn yr haenau am o leiaf ddwy flynedd yn olynol

Cyngor Sir Caerfyrddin

Polisi Strategol – SP4: Dull Cynaliadwy o Ddarparu Cartrefi Newydd

SO10

ISA10, ISA15

SP1

SP4

HOM1

MI. 6

Dangosydd Allweddol:

Lefel y tai a gwblhawyd (preifat a fforddiadwy) wedi'i monitro yn erbyn y

Gyfradd Adeiladu Flynyddol a Ragwelir (AABR).

.

Lefelau cwblhau blynyddol yn unol â'r taflwybr tai.

Lefelau cwblhau blynyddol yn disgyn islaw'r lefelau a nodir yn y taflwybr tai am o leiaf ddwy flynedd yn olynol.

SO10

ISA10, ISA15

SP1

SP4

HOM1

MI. 7

Dangosydd Allweddol:

Cyfanswm cronnus y tai a gwblhawyd wedi'u monitro yn erbyn y gyfradd cwblhau gronnus a ragwelir.

Cyfanswm cronnus a gwblhawyd yn unol â'r taflwybr tai

Mae'r lefelau cwblhau cronnus yn disgyn islaw'r lefelau a nodir yn y taflwybr tai am o leiaf ddwy flynedd yn olynol.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO6, SO10

ISA10, ISA15

SP4

HOM1

MI. 8

Dangosydd Lleol:

Nifer yr anheddau a gyflawnwyd ar Ddyraniadau Tai.

Darparu 6,824 o anheddau ar safleoedd a ddyrannwyd.

Cyfanswm nifer yr unedau tai newydd a adeiladwyd ar safleoedd a ddyrannwyd sy'n disgyn islaw'r gofyniad blynyddol am 2 flynedd yn olynol.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO6, SO10

ISA10, ISA15

SP4

HOM2

MI. 9

Dangosydd Lleol:

Lwfans Safleoedd bach (llai na 5 uned) – Nifer yr anheddau a gyflawnwyd yn haenau 1 - 3.

Cyrraedd y targed arfaethedig o 1,575 o anheddau ar safleoedd bach

20% o +/- 105 o anheddau a ganiateir yn flynyddol ar safleoedd bach yn haenau 1 - 3.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO10

ISA10, ISA15

SP4

MI. 10

Dangosydd Lleol:

Lwfans Hap-safleoedd – nifer yr anheddau a gyflawnwyd ar hap-safleoedd (ac eithrio lwfans safleoedd bach).

Cyrraedd y targed arfaethedig o 1,305 o anheddau ar hap-safleoedd mawr.

20% +/- 87 annedd a ganiateir yn flynyddol ar hap-safleoedd (+5).

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO10

ISA1, ISA10, ISA11, ISA15

SP4

HOM3

MI. 11

Dangosydd Lleol:

Cynnydd net yn nifer y tai newydd mewn Pentrefi Gwledig (Haen 4).

Ni ddylai nifer y tai marchnad agored ym mhob Pentref Gwledig fod yn fwy na'r cap o 10% uwchlaw nifer y tai sy'n bodoli eisoes yn yr anheddiad, fel yr oedd ar ddyddiad sylfaen y CDLl.

Mae'r cynnydd net mewn tai marchnad agored mewn Pentref Gwledig yn fwy na'r cap o 10% uwchlaw nifer y tai sy'n bodoli eisoes yn yr anheddiad, fel yr oedd ar ddyddiad sylfaen y CDLl.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO10

ISA1, ISA10, ISA11, ISA15

SP4

HOM3

MI. 12

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar Dai mewn Pentrefi Gwledig

Mabwysiadu CCA erbyn Hydref/Tachwedd 2024

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Polisi Strategol – SP 5: Strategaeth Tai Fforddiadwy

SO10

ISA6, ISA10, ISA12, ISA15

SP5

HOM4 AHOM1 AHOM2

MI. 13

Dangosydd Allweddol:

Lefel y tai fforddiadwy a gwblhawyd a fonitrwyd yn erbyn targed cyffredinol y cynllun.

Darparu cyfanswm o 1,900 o dai fforddiadwy erbyn 2033.

Darparu 126 o dai fforddiadwy yn flynyddol.

Mae'r ddarpariaeth yn disgyn islaw cyfradd adeiladu flynyddol / targed y Cynllun am o leiaf ddwy flynedd yn olynol

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO10

ISA6, ISA10, ISA12, ISA15

SP5

HOM4 AHOM1 AHOM2

MI. 14

Dangosydd Allweddol:

Deiliadaeth tai fforddiadwy a gwblhawyd.

Rhaniad deiliadaeth (rhentu cymdeithasol a chanolradd) yn unol â'r angen a nodwyd yn yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol.

Heb gyflawni'r rhaniad deiliadaeth a nodwyd dros 2 flynedd yn olynol o leiaf.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO10

ISA6, ISA10, ISA12, ISA15

SP5

AHOM1 AHOM2

MI. 15

Dangosydd Allweddol:

Tueddiadau yn y ffactorau allweddol sy'n dylanwadu ar amodau a hyfywedd y farchnad, megis prisiau tai, gwerth tir, costau adeiladu.

Mae'r gofynion polisi yn adlewyrchu'r amgylchiadau economaidd presennol a hyfywedd ariannol.

Prisiau tai cyfartalog yn cynyddu neu'n gostwng 5% uwchlaw'r lefelau sylfaen a gafwyd dros 1 flwyddyn.

Priswyr y Cyngor

SO10

ISA10, ISA12, ISA15

SP5

AHOM1

HOM1

MI. 16

Dangosydd Allweddol:

Cyflawni'r polisi tai fforddiadwy - trothwyon a thargedau canran ar gyfer pob safle tai a ddyrennir sydd wedi cael caniatâd.

Dylai cyfran y tai fforddiadwy a ganiateir ar ddyraniadau preswyl fod yn unol â Pholisi AHOM1.

Cyfran y tai fforddiadwy a ganiateir ar ddyraniadau preswyl nad ydynt yn unol â Pholisi AHOM1.

Cyngor Sir Caerfyrddin.

SO10

ISA6, ISA10, ISA12, ISA15

SP4

AHOM1 AHOM2

MI. 17

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar Dai Fforddiadwy.

Mabwysiadu CCA erbyn Hydref/Tachwedd 2024

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Polisi Strategol – SP 6: Safleoedd Strategol

SO3, SO12

ISA12, ISA13, ISA14

SP4

SP6

SP7

MI. 18

Dangosydd Allweddol:

Pentre Awel – Darparu elfen dai'r safle.

Cyflawni elfen amhreswyl y safle.

Lefelau cwblhau blynyddol yn unol â'r taflwybr tai.

Rhoi caniatâd ar gyfer y rhan o'r safle nad yw ar gyfer tai yn ystod cyfnod y Cynllun.

Lefelau cwblhau blynyddol yn disgyn islaw'r lefelau a nodir yn y taflwybr tai.

Ni chafwyd caniatâd ar gyfer yr elfen amhreswyl cyn yr adolygiad cyntaf o'r Cynllun.

Cyngor Sir Caerfyrddin

Y Fargen Ddinesig

SO3, SO12

ISA11, ISA12, ISA13, ISA14

SP6

SP7

MI. 19

Dangosydd Allweddol:

Cyflawni datblygiad Yr Egin.

Rhoi caniatâd i'r safle yn ystod cyfnod y Cynllun.

Ni chafwyd caniatâd cyn yr adolygiad cyntaf o'r Cynllun.

Cyngor Sir Caerfyrddin

Y Fargen Ddinesig

Polisi Strategol – SP 7: Cyflogaeth a'r Economi

SO3, SO12

ISA10, ISA14

SP1

SP6

SP7

SG1

MI. 20

Dangosydd Allweddol:

Tir cyflogaeth a ddefnyddiwyd yn erbyn dyraniadau cyflogaeth.

Tir cyflogaeth a ganiatawyd (ha) ar safleoedd cyflogaeth a ddyrennir.

Dim caniatâd ar ddyraniadau tir cyflogaeth am o leiaf ddwy flynedd yn olynol

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO3, SO12

ISA10, ISA13, ISA14

SP1

SP6

SP7

SG1

MI. 21

Dangosydd Allweddol:

Twf swyddi

Twf swyddi Dosbarth Defnydd B yn unol â'r strategaeth.

Dim caniatâd i ddatblygiadau sy'n creu swyddi Dosbarth Defnydd B mewn blwyddyn.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO3, SO12

ISA10, ISA14

EME1

MI. 22

Dangosydd Lleol:

Tir cyflogaeth a gollir i ddefnyddiau tir eraill (yn cynnwys safleoedd cyflogaeth arfaethedig a/neu safleoedd presennol a nodwyd)

Dim colled i ddefnyddiau eraill oni bai y gellir cyfiawnhau hynny drwy bolisi'r CDLl.

Caniatâd a roddir ar gyfer defnydd heblaw am gyflogaeth nad yw'n unol â pholisi'r CDLl.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO3, SO12

ISA14

EME4

MI. 23

Dangosydd Lleol:

Caniatâd cynllunio ar gyfer defnydd cyflogaeth y tu allan i safleoedd cyflogaeth arfaethedig neu safleoedd presennol a nodwyd, lle mae'n groes i ddarpariaethau Polisi EME4.             

Sicrhau bod defnydd cyflogaeth y tu allan i safleoedd cyflogaeth arfaethedig a/neu safleoedd presennol a nodwyd yn unol â Pholisi EME4.

Caniatâd cynllunio ar gyfer defnydd cyflogaeth ar dir y tu allan i safleoedd cyflogaeth arfaethedig a/neu safleoedd presennol a nodwyd lle mae'n groes i Bolisi EME4.

Cyngor Sir Caerfyrddin

Polisi Strategol – SP 8: Y Gymraeg a Diwylliant Cymru

SO11

ISA1, ISA11

SP8

WL1

MI. 24

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar y Gymraeg a datblygiadau newydd.

Mabwysiadu CCA erbyn Hydref/Tachwedd 2024

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO11

ISA11

SP8

WL1

MI. 25

Dangosydd Lleol:

Ceisiadau cynllunio sy'n cael eu cefnogi gan Gynlluniau Gweithredu Iaith Gymraeg neu Asesiadau o'r Effaith ar yr Iaith Gymraeg

Ceisiadau cynllunio sy'n cael eu cefnogi gan ddogfennau perthnasol yn unol â Pholisi WL1.

Ceisiadau cynllunio nad ydynt yn cael eu cefnogi gan ddogfennau perthnasol yn unol â Pholisi WL1.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO11

ISA11, ISA15

SP8

WL1

MI. 26

Dangosydd Lleol:

% y siaradwyr Cymraeg yn y Sir

Cynyddu'r gyfran o siaradwyr Cymraeg yn y Sir.

Dim sbardun. Monitro ar gyfer gwybodaeth gyd-destunol.

Cyfrifiad Cyngor Sir Caerfyrddin

Swyddfa Ystadegau Gwladol

Data Llywodraeth Cymru

Polisi Strategol – SP 9: Seilwaith

SO1, SO2, SO14

ISA1, ISA2, ISA5

SP9

INF4

MI. 27

Dangosydd Allweddol:

Cyflawni seilwaith allweddol sy'n sail i strategaeth y cynllun.

Monitro datblygiad seilwaith newydd, megis gwelliannau i ffyrdd a rheilffyrdd, cyfleustodau, a gwelliannau bioamrywiaeth.

Dim sbardun. Monitro ar gyfer gwybodaeth gyd-destunol. Cyfeirio at ddangosyddion eraill o fewn y fframwaith hwn.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO1, SO14

ISA1, ISA2, ISA5

SP9

INF4

MI. 28

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar Gilfach Tywyn.

Mabwysiadu CCA erbyn Hydref/Tachwedd 2024

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO14

ISA1

SP7

INF1

MI. 29

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar Rwymedigaethau Cynllunio.

Mabwysiadu CCA erbyn Hydref/Tachwedd 2024

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO2, SO14

ISA1, ISA12

SP7

INF2

MI. 30

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd

Mabwysiadu CCA erbyn Haf 2025

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

Polisi Strategol – SP 10: Darpariaeth Sipsiwn a Theithwyr

SO10

ISA10, ISA15

SP10

GTP1

MI. 31

Dangosydd Allweddol:

Safleoedd / lleiniau Sipsiwn a Theithwyr ar safleoedd a ddyrennir

Darparu'r lleiniau gofynnol a nodwyd yn yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr. I'w gyflawni yn unol â'r angen a nodwyd.

Ni sicrhawyd caniatâd cynllunio ar safle a ddyrannwyd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO10

ISA10, ISA15

SP10

GTP1

MI. 32

Dangosydd Lleol:

Safleoedd / lleiniau Sipsiwn a Theithwyr a adeiladwyd ar safleoedd nas dyrannwyd

Dim targed

Rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a/neu safle i deithwyr.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO10

ISA10, ISA15

SP10

GTP1

MI. 33

Dangosydd Lleol:

Yr angen am safleoedd tramwy Sipsiwn a Theithwyr

Ni chofnodwyd unrhyw safle Sipsiwn a Theithwyr anawdurdodedig mewn un anheddiad am 3 blynedd yn olynol

Cofnodwyd 1 safle Sipsiwn a Theithwyr anawdurdodedig mewn un anheddiad am 3 blynedd yn olynol

Cyngor Sir Caerfyrddin

Polisi Strategol – SP 11: Yr Economi Ymwelwyr

SO13

ISA1, ISA14

SP11

VE1

VE2

VE3

VE4

MI. 34

Dangosydd Lleol:

Cyfanswm effaith economaidd twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin

Dim targed

Dim sbardun. Monitro ar gyfer gwybodaeth gyd-destunol

Adroddiad STEAM a baratowyd gan GTS UK (Adroddiad Blynyddol Marchnata a'r Cyfryngau Cyngor Sir Caerfyrddin)

SO13

ISA1, ISA14

SP11

VE1

VE2

VE3

VE4

MI. 35

Dangosydd Lleol: Llunio CCA ar Wersylla Moethus Amgen

Mabwysiadu CCA erbyn Hydref/Tachwedd 2024

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd

Polisi Strategol – SP 12: Creu Lleoedd a Lleoedd Cynaliadwy

SO9

ISA1, ISA8, ISA9, ISA12, ISA15

SP12

MI. 36

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar Greu Lleoedd a Lleoedd Cynaliadwy

Mabwysiadu CCA erbyn Hydref/Tachwedd 2024

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd

SO9, SO11

ISA1, ISA11

SP12

PSD9

MI. 37

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar hysbysebion (canllawiau ar ofynion dwyieithog)

Mabwysiadu CCA erbyn Haf 2025

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO1, SO2, SO7, SO9

ISA1, ISA2, ISA3, ISA4, ISA5, ISA6, ISA7, ISA8, ISA9, ISA12, ISA15

SP12

PSD3 PSD4

MI. 38

Dangosydd Lleol:

Darparu Seilwaith Gwyrdd a Glas yn y Sir.

Dim targed

Dim sbardun. Monitro at ddibenion gwybodaeth.

Cyngor Sir Caerfyrddin

ISA1, ISA2, ISA3, ISA4, ISA5, ISA6, ISA7, ISA8, ISA9, ISA12, ISA15

SP12

PSD3 PSD4

MI. 39

Dangosydd Lleol: Llunio CCA ar Rwydweithiau a Datblygu Seilwaith Gwyrdd a Glas

Mabwysiadu CCA erbyn Haf 2025

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd

SO2, SO4

ISA1, ISA9, ISA12, ISA15

SP12

PSD7

MI. 40

Dangosydd Lleol:

Maint y mannau agored a nodwyd ac a gollwyd oherwydd datblygiadau.

Ni ddylid colli unrhyw fannau agored a nodwyd oherwydd datblygiadau ac eithrio lle mae hynny'n unol â Pholisi PSD7

Mae mannau agored a nodwyd yn cael eu colli yn groes i ddarpariaethau Polisi PSD7.

SO1

SP12

PSD12

MI. 41

Dangosydd Lleol: Llunio CCA ar Lygredd Golau

Mabwysiadu erbyn Rhagfyr 2025

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd

Polisi Strategol – SP 13: Datblygu Gwledig

SO5

ISA1, ISA8

SP13

RD4

MI. 42

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar addasu ac ailddefnyddio adeiladau gwledig at ddefnydd preswyl

Mabwysiadu CCA erbyn Hydref/Tachwedd 2024

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd

Polisi Strategol – SP 14: Cynnal a Gwella'r Amgylchedd Naturiol

SO1, SO9

ISA1, ISA2

SP14

NE4

MI. 43

Dangosydd Lleol:

Parhau i weithio tuag at sicrhau o leiaf 100 ha o gynefin addas ar gyfer Britheg y Gors ym mhrosiect CCA Caeau'r Mynydd Mawr.

Cynnydd ym mhob cyfnod Adroddiad Monitro Blynyddol yn arwynebedd y cynefin a reolir mewn cyflwr addas

Dim cynnydd yn arwynebedd y cynefin a reolir mewn cyflwr addas am 4 cyfnod Adroddiad Monitro Blynyddol yn olynol.

Grŵp Llywio Prosiect Caeau'r Mynydd Mawr.

Cyngor Sir Caerfyrddin - System Rheoli Gwella Perfformiad (PIMS).

SO1, SO9

ISA1, ISA2

SP14

NE4

MI. 44

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar Gaeau'r Mynydd Mawr.

Mabwysiadu Canllawiau Cynllunio Atodol erbyn Hydref / Tachwedd 2024

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO1, SO9

ISA1, ISA2, ISA9

SP14

PSD4

MI. 45

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar goed a phlannu fel rhan o ddatblygiadau newydd.

Mabwysiadu CCA erbyn Haf 2025.

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO1, SO9

ISA1, ISA2

SP14

NE1

MI. 464

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SINC).

Mabwysiadu CCA erbyn Hydref/Tachwedd 2024

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO1, SO9

ISA1, ISA2

SP14

NE2

MI. 47

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar Gadwraeth Natur a Bioamrywiaeth.

Mabwysiadu CCA erbyn Hydref/Tachwedd 2024

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO1, SO9

ISA1, ISA2

SP14

BHE2

MI. 48

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar Gymeriad y Dirwedd.

Mabwysiadu CCA erbyn Haf 2025.

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

Polisi Strategol – SP 15: Diogelu a Gwella'r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol

SO5

ISA1, ISA8

SP15

MI. 49

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar Archaeoleg

Mabwysiadu CCA erbyn Hydref/Tachwedd 2024

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO5

ISA1, ISA8

SP15

MI. 50

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar yr Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol

Mabwysiadu'r CCA erbyn Rhagfyr 2025

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Cyngor Sir Caerfyrddin

Polisi Strategol – SP 16: Newid yn yr Hinsawdd

SO7

ISA1, ISA4

SP16

CCH5

MI. 51

Dangosydd Allweddol:

Faint o ddatblygiadau agored iawn i ddifrod (yn ôl TAN15 paragraff 5.1 - categori datblygu) a ganiateir mewn parthau perygl llifogydd C2 nad ydynt yn bodloni holl brofion TAN15 (paragraff 6.2 i-v).

Dim ceisiadau wedi'u caniatáu ar gyfer datblygiad agored iawn i ddifrod mewn parth perygl llifogydd C1 a C2 yn groes i gyngor CNC.

1 cais wedi'i ganiatáu ar gyfer datblygiad agored iawn i ddifrod mewn parth perygl llifogydd C2 yn groes i gyngor CNC.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO7

ISA1, ISA4

SP16

CCH1

MI. 52

Dangosydd Lleol:

Llunio CCA ar Ynni Adnewyddadwy.

Mabwysiadu'r CCA erbyn Rhagfyr 2025

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

SO7

ISA1, ISA4

SP16

CCH1

MI. 53

Dangosydd Lleol:

Cynyddu faint o ynni a gwres a gynhyrchir yn y Sir o ffynonellau adnewyddadwy.

Cynnydd blynyddol yn y capasiti a ganiateir o ran ynni a gwres adnewyddadwy a ganiateir.

Dim ceisiadau cynllunio ar gyfer ynni adnewyddadwy wedi'u caniatáu mewn un flwyddyn.

Cyngor Sir Caerfyrddin

SO1

ISA1, ISA2, ISA5, ISA7

SP16

MI. 54

Dangosydd Lleol: Llunio CCA ar Ansawdd Dŵr – Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonol Gwarchodedig

Mabwysiadu CCA erbyn Hydref/Tachwedd 2024

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

SO7, SO8

ISA1, ISA4, ISA14

SP16

CCH3

MI. 55

Dangosydd Lleol: Llunio CCA ar Gerbydau Trydan a Cherbydau Allyriadau Isel Iawn mewn Datblygiadau

Mabwysiadu CCA erbyn Haf 2025

Methu â symud ymlaen yn unol â'r amserlen a nodwyd.

Polisi Strategol – SP 17: Trafnidiaeth a Hygyrchedd

SO8

ISA6

TRA1

MI. 56

Dangosydd Lleol: Cynnydd tuag at weithredu'r cynllun ffyrdd a nodwyd

Gweithredu yn unol â'r amserlenni cyflawni

Nid yw'r cynllun ffyrdd a nodwyd wedi'i gyflawni yn unol â'r amserlenni cyflawni

Awdurdod Priffyrdd Lleol

SO7, SO8

ISA4, ISA6, ISA12, ISA15

SP17

TRA2

MI. 57

Dangosydd Lleol: Faint o seilwaith cerdded a beicio wedi cael caniatâd cynllunio.

Cynnydd yn nifer y cynlluniau a ganiateir.

Dim sbardun. Monitro ar gyfer gwybodaeth gyd-destunol

Awdurdod Priffyrdd Lleol

Awdurdod Cynllunio Lleol

SO8

ISA6

TRA1

MI. 58

Dangosydd Lleol: Gweithredu Cynlluniau Ffyrdd Llywodraeth Cymru – gan gynnwys Ffordd Osgoi Llandeilo

Monitro er gwybodaeth

Dim targed

Dim sbardun. Monitro ar gyfer gwybodaeth gyd-destunol

Llywodraeth Cymru

Polisi Strategol – SP 18: Adnoddau Mwynol

SO7

ISA6

SP18

MR1

MI. 59

Dangosydd Lleol:

Faint o fanc tir craig galed sydd

Cadw banc tir o 10 mlynedd o leiaf ar gyfer craig galed

Llai na 10 mlynedd o fanc tir craig galed.

Gweithredwyr

Polisi a Chanllawiau Cynllunio

Polisïau'r CDLl

Rheoli datblygu a'r broses o wneud penderfyniadau.

SO7

ISA6

SP18

MR1

MI. 60

Dangosydd Lleol:

Faint o fanc tir tywod a graean sydd

Cadw banc tir o 7 mlynedd o leiaf ar gyfer tywod a graean.

Llai na 7 mlynedd o fanc tir tywod a graean.

Gweithredwyr

Polisi a Chanllawiau Cynllunio

Polisïau'r CDLl

Rheoli datblygu a'r broses o wneud penderfyniadau.

SO7

ISA6

MR2

MI. 61

Dangosydd Lleol:

Datblygiadau sterileiddio a ganiateir o fewn clustogfeydd mwynau.

Dim datblygiadau sterileiddio parhaol o fewn clustogfeydd mwynau.

Caniateir 5 datblygiad sterileiddio parhaol o fewn clustogfeydd mwynau yn groes i'r Polisi dros 3 blynedd yn olynol.

Polisi a Chanllawiau Cynllunio

Polisïau'r CDLl

Rheoli datblygu a'r broses o wneud penderfyniadau.

SO7

ISA6

MR3

MI. 62

Dangosydd Lleol:

Datblygiadau sterileiddio a ganiateir o fewn ardaloedd diogelu mwynau.

Ni chaniateir datblygiadau sterileiddio parhaol o fewn ardal diogelu mwynau.

Caniateir 5 datblygiad sterileiddio parhaol o fewn ardal diogelu mwynau dros 3 blynedd yn olynol.

Polisi a Chanllawiau Cynllunio

Polisïau'r CDLl

Rheoli datblygu a'r broses o wneud penderfyniadau.

Polisi Strategol – SP 19: Rheoli Gwastraff

SO7

ISA6

SP19

MI. 63

Dangosydd Lleol:

Monitro achosion o ganiatâd cynllunio ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff

Cynnal digon o gapasiti i ddiwallu anghenion lleol

Gwybodaeth a nodir yn yr Adroddiadau Monitro Blynyddol - Cynllunio Gwastraff Canolbarth a De-orllewin Cymru

Polisi a Chanllawiau Cynllunio

Polisïau'r CDLl

Rheoli datblygu a'r broses o wneud penderfyniadau

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig