Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

Daeth i ben ar 14 Ebrill 2023
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

5. Nodi Materion

5.1 Mae angen i'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig fod yn strategol, yn gryno ac yn unigryw ar gyfer ein sir. Mae canolbwyntio ar y materion allweddol sy'n wynebu ein sir wedi'n helpu i gyflawni hyn.[28] Wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, rydym wedi ceisio adolygu a diweddaru ein dealltwriaeth o'r materion perthnasol.

5.2 Cesglir y materion allweddol ynghyd o dan y nodau llesiant cenedlaethol. Golygai hyn fod y materion wedi'u fframio o fewn cyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.[29] Mae hyn yn sicrhau bod buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn cael eu gwreiddio yn y broses o wneud Cynlluniau.

5.3 Mae adroddiad cwmpasu'r Arfarniad Cynaliadwyedd, yn ogystal â'r gwaith a wnaed gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel rhan o broses "Y Sir Gâr a Garem",[30] wedi llywio'r materion. Mae Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin 2018–2033[31] hefyd wedi bod yn agwedd allweddol ar y gwaith hwn.

5.4 Rydym wedi ymgysylltu ac ymchwilio'n helaeth fel rhan o'r sgwrs ynghylch creu materion. Mae hyn yn cynnwys aelodau etholedig, cynghorau tref a chymuned, y Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol, adolygiad o bolisi, adroddiad adolygu'r CDLl, amcanion/strategaethau corfforaethol, arolygon ar-lein a phroses yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig.[32]

5.5 Rydym yn deall lle'r ydym ar hyn o bryd fel Sir a lle'r ydym i gyd am gyrraedd. Mae hyn wedi golygu bod modd cydsynio ynghylch y materion hynny y gall cynllun gofodol / defnydd tir geisio'u hateb hyd at 2033. Fodd bynnag, ategwyd hyn gan gyfres o faterion lefel uchel sydd wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i newidiadau cyd-destunol sydd wedi codi ers cyhoeddi fersiwn Adneuo 1af y Cynllun.

5.6 Mae'r 33 mater cryno fel a ganlyn. Nodir rhagor o fanylion yn y Papur Pwnc – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion:[33]

Sir Gaerfyrddin Ffyniannus

  1. Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.24 biliwn, yn cynnwys prosiectau a nodwyd yn Llanelli a Chaerfyrddin.
  2. Lefelau amrywiol o fywiogrwydd a phrysurdeb yn ein trefi adwerthu
  3. Mae angen twf priodol mewn ardaloedd gwledig (gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth)
  4. Economi ymwelwyr fywiog sydd â'r potensial i dyfu.

Sir Gaerfyrddingydnerth

  1. Risgiau o lifogydd a'r heriau y mae Newid Hinsawdd yn eu cyflwyno
  2. Dynodiadau bioamrywiaeth yn amrywio o lefel ryngwladol i lefel leol.
  3. Ôl troed ecolegol sy'n croesi lefelau cynaliadwy ar hyn o bryd.
  4. Nodweddion tirwedd neu drefwedd cyfoethog.

Sir Gaerfyrddin iachach

  1. 9. Poblogaeth sy'n heneiddio a phobl ifanc yn mudo o'r Sir.
  2. Adroddwyd bod 60% o oedolion dros bwysau neu'n ordew.
  3. Mae bywyd cymunedol, addysg a'r gwasanaethau cyhoeddus yn dynodi llesiant mewn ardaloedd gwledig.
  4. Mae harddwch, heddwch a thawelwch, man gwyrdd helaeth ac awyr iach hefyd yn cyfrannu at hapusrwydd mewn ardaloedd gwledig
  5. Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Llandeilo.
  6. "Y newid mawr i'n GIG" ac unrhyw oblygiadau.

Sir Gaerfyrddin fwy cyfartal

  1. Amddifadedd gwledig a threfol.
  2. Mae mwy nag 1 ym mhob 3 o aelwydydd yn byw mewn tlodi.
  3. Targed y Cyngor i ddarparu 1,000 o dai fforddiadwy (I gael ei ddiweddaru i adlewyrchu targed diweddaraf y Cyngor).

Sir Gaerfyrddin o gymunedau cydlynus

  1. Dim digon o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu mewn rhai Canolfannau Gwasanaethau a Chanolfannau Gwasanaethau Lleol.
  2. Prinder cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai a'r angen am gymysgedd o dai: (Sylwer: mae'r gofyniad i gael cyflenwad pum mlynedd o dir wedi'i ddisodli gan baratoi Tafluniad Tir Tai fel y'i ceir o fewn y Cynllun hwn).
  3. Mae newidiadau yn y rhagfynegiadau poblogaeth ac aelwydydd yn dangos fod angen llawer llai o gartrefi hyd at 2033.
  4. Safleoedd tai ddim yn cael eu dynodi a'u hadeiladu
  5. Sir o natur wledig yn bennaf lle mae 60% o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig.
  6. Gofalu y gall capasiti seilwaith gefnogi datblygiadau, gan gynnwys priffyrdd.
  7. Yr angen i hyrwyddo a dod o hyd i ffurfiau amgen o drafnidiaeth.
  8. Diffyg cyfleoedd gwaith, band eang a gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig.
  9. Angen gwerthfawrogi'r ymdeimlad o le - sir o gyferbyniadau.

Sir Gaerfyrddin â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

  1. Adeiladau segur ledled y Sir.
  2. Angen mesur effaith datblygu ar y Gymraeg.
  3. Mae angen tai fforddiadwy yn ein cymunedau er mwyn cadw teuluoedd ifanc
  4. Safleoedd archaeolegol a nodweddion hanesyddol o bwys
  5. Y nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.

Sir Gaerfyrddin sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

  1. Ystyriaethau cenedlaethol a rhanbarthol datblygol, gan gynnwys Brexit, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (Cymru'r Dyfodol; y cynllun cenedlaethol 2040 – cyhoeddwyd 24 Chwefror 2021) a Chynlluniau Datblygu Strategol. Cyhoeddwyd Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 11) ym mis Rhagfyr 2018.
  2. Angen hyrwyddo effeithlonrwydd ynni mewn datblygiadau arfaethedig a'r rhai sy'n bodoli eisoes.

5.7 Materion Cyd-destunol wedi'u Diweddaru

Mae'r materion cyd-destunol canlynol wedi dod i'r amlwg yn dilyn cyhoeddi'r Cynllun Adneuo 1af ac maent yn cynnwys materion sydd, er eu bod y tu hwnt i reolaeth y Cynllun, wedi effeithio ar y gwaith o'i baratoi ac ar ei gynnwys. Bydd y rhain yn cael eu hystyried yng nghynnwys y Cynllun hwn a'i ddogfennau a'i dystiolaeth ategol:

UCI 1 Ymateb i gyhoeddi Canllawiau CNC ar Lefelau Ffosffad mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Afonol gwarchodedig.

UCI 2 Cydnabod ac adlewyrchu'r effeithiau sy'n deillio o Covid-19.

UCI 3 Datganiad gan y Cyngor o Argyfwng Hinsawdd.

UCI 4 Datganiad gan y Cyngor o Argyfwng Natur.

UCI 5 Menter Deg Tref.


[28] Llawlyfr Cynllun Datblygu Lleol Llywodraeth Cymru – Rhifyn 3

[29] Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

[31] http://www.ysirgaragarem.cymru/media/8332/cynllun-llesiant-sir-gar-terfynol-mai-2018.pdf

[32] Mae gwybodaeth fanwl, gan gynnwys yr ymgysylltu a wnaed, wedi'i nodi yn y Papur Pwnc – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion.

[33] Nodir manylion manwl o fewn y Papur Pwnc – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig