Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

Daeth i ben ar 14 Ebrill 2023
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

8. Twf Strategol a Dewisiadau Gofodol

Opsiynau Twf

8.1 Er mwyn llywio cyfeiriad twf poblogaeth ac aelwydydd yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol dros gyfnod CDLl Diwygiedig 2018-2033, mae'r Cyngor wedi cynnal adolygiad o batrymau demograffig a ffurfio aelwydydd ar gyfer ardal y cynllun. Cyhoeddwyd Papur Rhagolygon Poblogaeth ac Aelwydydd (2018) fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir, a chyhoeddwyd atodiad pellach (2019) gyda'r CDLl Adneuo 1af. Nododd y papurau hyn ofyniad twf o 8,835 o anheddau yn ystod cyfnod y Cynllun. Roedd hyn yn seiliedig ar senario amcanestyniad 10 mlynedd amgen ac roedd yn defnyddio cyfradd swyddi gwag o 3.4%.

8.2 Mae'r 2il CDLl Adneuo yn defnyddio amcanestyniadau is-genedlaethol Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar 2018 fel y brif set o amcanestyniadau, ac mae gwaith tystiolaethol wedi'i baratoi i gael dealltwriaeth bellach o ganlyniadau senario demograffig yr opsiynau twf dan arweiniad y boblogaeth a than arweiniad cyflogaeth yng ngoleuni amgylchiadau sy'n newid. Mae pob senario yn cael ei ystyried yn erbyn cyfradd anheddau gwag o 3.8% yng ngoleuni cofnodion Treth Gyngor a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru..

8.3 Mae Papur Twf Poblogaeth a Thwf Economaidd 2022 yn rhoi cryn bwyslais ar y cysylltiadau rhwng twf poblogaeth a thwf cyflogaeth amcangyfrifiedig. Cydberthynir hyn gan adnabod sut mae twf y boblogaeth a gwahaniaethau yn y gweithlu a demograffeg yn cynnal cyfleoedd gwaith a thwf economaidd. Ystyrir penawdau'r casgliad cyfan o opsiynau twf demograffig isod.

Senario a Ffefrir y CDLl Adneuo 1af

8.4 Mae'r prif ffigurau ar gyfer y senario Twf Poblogaeth dros 10 mlynedd a ddefnyddiwyd fel yr opsiwn twf a ffefrir ar gyfer y Cynllun Adneuo 1af yn cael eu nodi yn y tabl isod.

Twf Poblogaeth dros 10 mlynedd (Adroddiad Atodiad 2019)

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +15,115

Amcanestyniad o'r newid yn yr aelwydydd rhwng 2018-2033: +8,538

Gofyniad tai newydd: 8,835 o dai

Gwerth Creu Swyddi: 354 o swyddi y flwyddyn

Casgliad

Mae'r senario hon bellach yn seiliedig ar wybodaeth wedi dyddio a ddefnyddiodd amcanestyniadau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar 2014 fel man cychwyn.

2il CDLl Adneuo

8.5 Mae'r tablau canlynol yn rhoi crynodeb o'r opsiynau twf aelwydydd a ystyriwyd fel rhan o'r dystiolaeth wedi'i diweddaru.

Amcanestyniad Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2018

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +6,197

Gofyniad tai newydd: + 291 y flwyddyn

Gofyniad tai newydd yn ystod cyfnod y cynllun: 4,359 o dai

Gwerth creu swyddi y flwyddyn: +201

Casgliad:

Byddai defnyddio'r duedd hon o ran twf ar gyfer CDLl Diwygiedig Sir Gaerfyrddin yn cael effaith anffafriol ar uchelgeisiau strategol y Cyngor o safbwynt economaidd a chymdeithasol. Byddai'r senario twf cartrefi a thwf swyddi o'r prif amcanestyniad yn seiliedig ar 2018 yn arwain at lawer llai o dwf nag a nodwyd yn y cyfraddau adeiladu hanesyddol ers 2007. Byddai hyn yn arwain at y fod gofyniad tai blynyddol 42% yn is na'r duedd hanesyddol ar ôl cwblhau.

O ystyried yr effeithiau negyddol posibl a amlygir uchod, ni ystyrir ei bod yn ddoeth defnyddio prif amcanestyniad Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2018 ar gyfer y CDLl Diwygiedig.

Ni fyddai defnyddio'r senario hwn yn cyflawni gweledigaeth ac amcanion strategol y Cynllun.

Amrywiolyn "Poblogaeth Uchel" Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar 2018

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +9,460

Gofyniad tai newydd: + 378 y flwyddyn

Gofyniad tai newydd yn ystod cyfnod y cynllun: 5,670 o dai

Gwerth creu swyddi y flwyddyn: +257

Casgliad:

Mae'r senario hwn yn defnyddio prif amcanestyniad Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar 2018 ond yn ychwanegol mewnbynnau ffrwythlondeb uchel, disgwyliad oes a rhagdybiaethau mudo i'r model. Mae'r gofyniad tai newydd yn sylweddol is na chyfradd y ddarpariaeth a gofnodwyd yn y tueddiadau hanesyddol. Byddai hyn yn arwain at y fod gofyniad tai blynyddol 24.5% yn is na'r duedd hanesyddol ar ôl cwblhau.

Byddai'r ffigur creu swyddi (er yn fwy na'r prif Amcanestyniad) yn dal i ddangos twf economaidd gwannach.

O ystyried yr effeithiau negyddol posibl a amlygir uchod, ni ystyrir ei bod yn ddoeth defnyddio'r senario Amcanestyniad Uchel fel yr opsiwn twf ar gyfer y CDLl diwygiedig. Ni fyddai'n cyflawni gweledigaeth ac amcanion strategol y cynllun.

Amcanestyniad sy'n seiliedig ar duedd deng mlynedd

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +14,468

Gofyniad tai newydd: + 588 y flwyddyn

Gofyniad tai newydd yn ystod cyfnod y cynllun: 8,822

Gwerth creu swyddi y flwyddyn: +276

Casgliad:

Mae'r senario hwn yn ail-sylfaenu prif amcanestyniad Llywodraeth Cymru i gymryd dwy flynedd arall o ddata hysbys i ystyriaeth ac yn cynyddu hyd y cyfnod tueddiad i 10 mlynedd.

At ei gilydd, byddai defnyddio'r senario hwn yn darparu rhagolwg cadarnhaol a darpariaeth briodol ar gyfer codi tai yn y sir. Byddai hyn yn arwain at fod y gofyniad tai blynyddol 17.3% yn uwch na'r duedd hanesyddol ar ôl cwblhau. Byddai'n caniatáu'r hyblygrwydd i yrru twf tai cynaliadwy ac yn cyfrannu at gefnogi uchelgeisiau economaidd y sir.

Amcanestyniad sy'n seiliedig ar duedd pymtheng mlynedd

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +15,854

Gofyniad tai newydd: + 618 y flwyddyn

Gofyniad tai newydd yn ystod cyfnod y cynllun: 9,272

Gwerth creu swyddi y flwyddyn: +353

Casgliad:

Mae'r senario hwn yn ail-sylfaenu prif amcanestyniad Llywodraeth Cymru i gymryd dwy flynedd arall o ddata hysbys i ystyriaeth ac yn cynyddu hyd y cyfnod tueddiad i 15 mlynedd.

At ei gilydd, byddai defnyddio'r senario hwn yn darparu rhagolwg cadarnhaol ar gyfer twf tai a chreu swyddi. Byddai hyn yn arwain at fod y gofyniad tai blynyddol 23.3% yn uwch na'r duedd hanesyddol ar ôl cwblhau. Ystyrir fodd bynnag bod y gofyniad o 618 o dai newydd y flwyddyn ychydig yn fwy na photensial twf tai'r Cynllun.

Byddai defnyddio'r senario hwn yn cynorthwyo o ran cyflawni Gweledigaeth ac Amcanion Strategol y Cynllun

Senario dan arweiniad cyflogaeth sylfaenol

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +16,407

Gofyniad tai newydd: + 662 y flwyddyn

Gofyniad tai newydd yn ystod cyfnod y cynllun: 9,933

Gwerth creu swyddi y flwyddyn: +337

Casgliad:

Mae'r senario hwn yn defnyddio data sylfaenol Experian a'r prif amcanestyniad i gyfateb y swyddi a gaiff eu creu i dwf aelwydydd.

Er y byddai'r senario hwn yn uchelgeisiol o ran hyrwyddo dyheadau economaidd, byddai gosod gofyniad twf mor uchel drwy'r senario dan arweiniad cyflogaeth sylfaenol yn arwain at strategaeth twf na ellir ei chynnal na'i chyflawni. Byddai'r senario hwn yn arwain at fod y gofyniad tai blynyddol 32.1% yn uwch na'r duedd hanesyddol ar ôl cwblhau

Ni fyddai'r senario hwn yn cyflawni gweledigaeth ac amcanion strategol y cynllun.

Prif amcanestyniad wedi'i ail-sylfaenu

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +17,635

Gofyniad tai newydd: + 697 y flwyddyn

Gofyniad tai newydd yn ystod cyfnod y cynllun: 10,461

Gwerth creu swyddi y flwyddyn: +401

Casgliad:

Mae'r senario hwn yn ail-sylfaenu prif amcanestyniad Llywodraeth Cymru i gymryd dwy flynedd arall o ddata hysbys i ystyriaeth ond mae'n cadw hyd y cyfnod tueddiad i 5 mlynedd.

Er y byddai'r senario hwn yn uchelgeisiol o ran hyrwyddo dyheadau economaidd, byddai gosod gofyniad twf mor uchel yn arwain at strategaeth twf na ellir ei chyflawni, yn enwedig o ystyried y byddai'n arwain at fod y gofyniad tai blynyddol 39.1% yn uwch na'r duedd hanesyddol ar ôl cwblhau.

Nodi'r Opsiwn Twf Strategol a Ffefrir

8.6 Mae nodi'r opsiwn twf strategol a ffefrir wedi deillio o ystyried yr amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd uchod, o ganlyniad i ymgysylltu cyn-adneuo, a'r angen i gael canlyniad cytbwys, gan gynnwys strategaethau a chynlluniau eraill megis, ond heb eu cyfyngu i, y rhai a ganlyn:

  • Llywodraeth Cymru – Polisi Cynllunio Cymru
  • Cynllun Adfywio Strategol y Cyngor 2015 – 2030 – Trawsnewidiadau
  • Bargen Ddinesig Bae Abertawe
  • Strategaeth Gorfforaethol Newydd y Cyngor 2018 – 2023
  • Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin: Y Sir Gâr a Garem 2018-2033;
  • Amcanion Llesiant y Cyngor
  • Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy y Cyngor; a
  • Asesiad o'r Farchnad Dai Leol[38];
  • Dogfen y cyngor 'Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf;
  • Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen; a
  • Cynllun Adfer Economaidd Sir Gaerfyrddin (Ebrill 2021).

8.7 Cynigir defnyddio'r amcanestyniad deng mlynedd o Adroddiad Tai a Thwf Economaidd (Twf Poblogaeth) Turley a defnyddio cyfradd eiddo gwag Treth y Cyngor o 3.8% i danategu gofynion twf yn y dyfodol ar gyfer y CDLl diwygiedig hwn. Mae hyn yn rhoi amcanestyniad o gynnydd poblogaeth cyffredinol o 14,468 gyda'r gofyniad ar gyfer 8,822 o gartrefi newydd dros gyfnod y CDLl diwygiedig sef 2018-2033. Mae hyn yn cyfateb i 588 o gartrefi newydd y flwyddyn. Bydd y senario hwn yn helpu i gyflawni amcanion Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor o ran adfywio a chreu swyddi.

8.8 Byddai defnyddio'r opsiwn hwn a ffefrir yn gwneud cynnydd cadarnhaol o ran uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer darparu tai fforddiadwy ledled y sir.

Opsiynau Gofodol

8.9 Mae'r adran hon yn amlinellu nifer o opsiynau gofodol posibl a nodwyd i lywio dethol ein fframwaith gofodol yn y dyfodol a sut y gallai twf yn y dyfodol gael ei ddosbarthu ar draws y sir ar gyfer cyfnod y cynllun.

8.10 Mae'r gwaith o ystyried yr opsiynau strategol yn rhan bwysig o baratoi'r CDLl ac mae'n un o ofynion y broses Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol.

8.11 Mae pob opsiwn gofodol wedi bod yn destun ymgysylltu er mwyn asesu a gwerthuso ei briodoldeb gyda nod o sefydlu neu ddatblygu opsiwn a ffefrir. Mae eu cynnwys yn adlewyrchu'r angen i ystyried deddfwriaeth, polisi cynllunio cenedlaethol a strategaethau lleol a rhanbarthol wrth gydnabod nodweddion, asedau a materion sy'n gyffredin yn Sir Gaerfyrddin ac yn ffurfio dull gweithredu strategol sy'n cyflawni'r weledigaeth ac yn hyrwyddo a llywio datblygiad ar gyfer y sir.

8.12 Wrth ddatblygu'r opsiynau, rhoddwyd ystyriaeth hefyd i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r amcanion llesiant a ddatblygwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

8.13 Dylid nodi bod creu opsiynau yn un o ofynion pwysig cyfarwyddeb yr Asesiad Amgylcheddol Strategol. Cafodd yr opsiynau strategol eu hasesu yn ôl yr Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol o fewn Adroddiad Cychwynnol yr Arfarniad Cynaliadwyedd - Asesiad Amgylcheddol Strategol. Mae hyn yn ffurfio elfen bwysig yn y broses o ddewis yr opsiwn strategol mwyaf priodol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

8.14 Mae'r opsiynau a nodir yn rhagdybio bod datblygiadau tai heb gyfleoedd cyflogaeth yn yr un lleoliad eang, ac fel arall, yn llai cynaliadwy ac y dylid eu hosgoi. Yn yr un modd, mae angen i welliannau seilwaith gyd-fynd â datblygiadau newydd, gan gynnwys gwelliannau i rwydweithiau trafnidiaeth, cyfleustodau, seilwaith gwyrdd a glas, iechyd, addysg a chyfleusterau cymdeithasol. O ganlyniad, caiff y term 'datblygu' ei ddefnyddio yn yr Opsiynau Gofodol ar gyfer Twf i gyfeirio at y cydbwysedd rhwng tai, gwaith a'r seilwaith ategol.

8.15 Nid oes yr un opsiwn o reidrwydd yn cael ei ystyried fel yr un a ffefrir wrth baratoi a thrafod ac mae lle a hyblygrwydd i'r opsiynau hyn gael eu haddasu er mwyn ystyried ffactorau ychwanegol. Cydnabyddir y gallai'r opsiwn a ffefrir gyfuno elfennau o fwy nag un opsiwn.

8.16 Mae'r tablau isod yn rhoi esboniad o bob un o'r opsiynau gofodol wrth iddynt gael eu hystyried. Ar ôl hyn, nodir Opsiwn Gofodol a Ffefrir.

Opsiwn 1 – Cynllun Datblygu Lleol Cyfredol

Disgrifiad

Defnyddio'r hierarchaeth aneddiadau er mwyn caniatáu dosbarthiad cymesurol o ddatblygiadau yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd.

Mynegiant Gofodol / Aneddiadau yr Effeithir arnynt

Mae'r opsiwn hwn yn seiliedig ar yr hierarchaeth aneddiadau pedair haen.

Asesiad Cryno

Mae'r dewis hwn yn canolbwyntio twf mewn modd cymesur ar draws hierarchaeth a gaiff ei thanategu gan egwyddorion cynaliadwyedd. Drwy wneud hyn, mae'r opsiwn hwn:

  • Yn rhoi anogaeth i wasgaru cyflogaeth, tai a mathau eraill o ddatblygiad rhwng aneddiadau a nodwyd a grwpiau neu glystyrau pentrefi mewn modd sy'n adlewyrchu eu graddfa bresennol, eu poblogaeth a'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd ar gael yno.
  • Yn adlewyrchu amrywiaeth y sir ac mae twf yn cael ei ddosrannu yn briodol i ardaloedd trefol a gwledig.
  • Yn canolbwyntio mwyafrif y twf cyflogaeth yn y trefi a'r pentrefi mwyaf.

Casgliad

Mae'r opsiwn hwn yn cynrychioli parhad o'r strategaeth CDLl bresennol ac felly mae cyfeiriad at ganlyniadau'r adroddiad monitro ac adolygu blynyddol. Er bod y ddau yn nodi llwyddiannau wrth weithredu'r strategaeth, maent hefyd yn nodi gwendidau o ran cyflawni twf mewn agweddau o'r hierarchaeth aneddiadau.

Cydnabyddir y bu elfennau o'r strategaeth yn llwyddiannus, ond mae hefyd yn glir y gallai fod angen adolygiad a dull gweithredu diwygiedig i fynd i'r afael nid yn unig â'r gwendidau ond hefyd y newidiadau cyd-destunol.

Opsiwn 2 – Opsiwn Seilwaith a Rhwydwaith Trafnidiaeth

Disgrifiad

Yn seilio'r rhan fwyaf o'r twf yn yr ardaloedd sydd gerllaw'r prif rwydwaith priffyrdd a rheilffyrdd lle mae seilwaith ar gael i gefnogi'r datblygiad arfaethedig.

Mynegiant Gofodol / Aneddiadau yr Effeithir arnynt

Mae'r opsiwn hwn yn nodi aneddiadau a choridorau allweddol ar hyd y prif lwybrau ac ardaloedd trafnidiaeth lle y mae seilwaith neu y cynllunnir seilwaith er mwyn derbyn y lefelau twf gofynnol.

Asesiad Cryno

Mae'r opsiwn hwn yn edrych ar ddarpariaeth bresennol y seilwaith cyfleustodau a'r rhwydwaith priffyrdd ar draws y sir ac mae'n anelu at ganolbwyntio'r rhan fwyaf o dwf mewn ardaloedd sydd â'r capasiti ar gyfer twf. Mae'r dewis hwn yn ceisio annog twf yn yr ardaloedd lle gellir darparu ar ei gyfer yn fwyaf ymarferol trwy:

  • Annog twf ar hyd llwybrau trafnidiaeth allweddol a chyffyrdd yr M4, yr A40, yr A48, yr A484, yr A474 a'r A485 a hefyd mewn mannau sy'n hygyrch i ddulliau trafnidiaeth eraill gan gynnwys y rhwydwaith rheilffyrdd, y rhwydwaith beicio a chysylltiadau cerddwyr.
  • Annog twf mewn ardaloedd lle mae naill ai capasiti cyfredol neu gapasiti a gynllunnir ar gyfer cyflenwi a thrin dŵr a dŵr gwastraff.
  • Annog twf mewn ardaloedd lle ceir digon o wasanaethau a chyfleusterau i gynnal y cymunedau.

Casgliad

Mae'r opsiwn hwn yn cysylltu twf a'r strategaeth aneddiadau yn uniongyrchol â'r seilwaith sydd ar gael. Er y byddai hyn yn cyfyngu ar y potensial ar gyfer twf mewn ardaloedd gwledig, cydnabyddir bod y berthynas rhwng datblygiad a'r ddarpariaeth seilwaith briodol yn elfen sy'n angenrheidiol fel rhan o unrhyw opsiwn a gaiff ei ddethol.

Opsiwn 3 – Opsiwn Gwasgariad

Disgrifiad

Dim sail resymegol neu strwythur ar gyfer dosbarthu twf; byddai datblygu yn cael ei wasgaru ar draws y Sir.

Mynegiant Gofodol / Aneddiadau yr Effeithir arnynt

Gellid effeithio ar yr holl aneddiadau'n gyfartal o dan yr opsiwn hwn am nad oes unrhyw strategaeth i nodi dosbarthiad twf. Fodd bynnag, byddai hyn yn debygol o arwain at lefelau twf sydd ar lefel gymharol gyfartal ar draws aneddiadau'r sir.

Asesiad Cryno

Mae'r dewis hwn yn dosbarthu tai, cyflogaeth a mathau eraill o ddatblygiadau mewn modd eang rhwng aneddiadau'r Sir, gan gynnwys aneddiadau trefol a gwledig fel ei gilydd. Mae'n caniatáu i aneddiadau dyfu'n raddol heb o reidrwydd ystyried y gwasanaethau neu'r cyfleusterau sydd ar gael nac ychwaith yr effaith y gallai twf ei chael ar y cymunedau presennol a'u gallu i ddarparu ar gyfer twf a'i dderbyn.

O'i gymharu â strategaeth y CDLl mabwysiedig presennol, byddai'r dewis hwn yn arwain at gyfeirio cyfran uwch o dwf y Sir i'r ardaloedd gwledig a chyfran is i'r ardaloedd trefol presennol.

Casgliad

Mae hwn yn opsiwn sy'n anghynaliadwy ar y cyfan ac yn opsiwn na ellir ei gyflenwi - ac yn un a fyddai o ganlyniad yn annhebygol o fodloni'r mesurau angenrheidiol fel rhan o'r broses Arfarniad Cynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol. Fodd bynnag, mae'r opsiwn hwn drwy ei ddull cyffredinol o ddosbarthu twf yn canolbwyntio twf ychwanegol mewn ardaloedd gwledig.

Cydnabyddir y bydd angen i'r opsiwn a ffefrir a gaiff ei ddethol roi ystyried priodol i ystyriaethau gwledig.

Dewis 4 - Dewis dan Arweiniad y Gymuned

Disgrifiad

Byddai datblygiad yn cael ei wasgaru o fewn ardaloedd cymunedol mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r rôl mae aneddiadau yn ei chwarae o fewn yr ardaloedd hynny a'r ardal ddaearyddol ehangach.

Mynegiant Gofodol / Aneddiadau yr Effeithir arnynt

Byddai'r rhan fwyaf o'r twf yn canolbwyntio ar y tair ardal ganlynol: Caerfyrddin a'r ardal gyfagos; Llain Arfordirol Llanelli; ac ardal Rhydaman / Cross Hands.

Asesiad Cryno

Mae'r dewis hwn yn canolbwyntio ar rôl aneddiadau yn eu hardal a'u cymuned ehangach, sy'n cydnabod y berthynas a'r gyd-ddibyniaeth rhwng aneddiadau ac yn ystyried sut mae'r cymunedau lleol yn gweithio ac yn byw.

Bydd yr opsiwn hwn yn annog twf yn yr ardaloedd hynny sydd yn chwarae rôl sylweddol yn y gymuned ehangach; mae hyn yn debygol o fod drwy ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau yn hytrach na graddfa bresennol yr anheddiad neu'r niferoedd poblogaeth presennol. Byddai'r dewis hwn hefyd yn ceisio adlewyrchu anghenion y cymunedau, gan gynnwys eu galw am dai. Mae hyn yn cydnabod nodweddion unigol pob anheddiad ac mae'n ceisio nodi'r rôl y mae aneddiadau yn ei chwarae yn eu hardal ac ar draws y sir.

Dylai'r opsiwn hwn adlewyrchu dealltwriaeth o anghenion cymunedau lleol a sicrhau bod twf yn digwydd mewn ardaloedd lle mae ei angen, er mwyn cefnogi cymunedau a'u dyheadau ar gyfer twf yn y dyfodol a materion parhaus yn ymwneud â chynaliadwyedd cyfleusterau a gwasanaethau. Mae hyn yn debygol o arwain at ddyrannu safleoedd llai a chyfeirio cyfran uwch o dwf i aneddiadau llai.

Casgliad

Mae'r opsiwn hwn yn ceisio bod yn fwy ymatebol i agweddau unigol y sir a'i chymunedau. Er y byddai ffocws canfyddedig y twf mewn canolfannau sefydledig, mae'n rhoi cyfle i adlewyrchu dosbarthiad ehangach.

Mae adborth yn awgrymu y byddai angen i'r opsiwn fod yn briodol gytbwys i sicrhau bod twf yn cael ei ddosbarthu mewn ffordd briodol y gellir ei chyflawni.

Opsiwn 5 – Opsiwn Dylanwad Dinas Ranbarth Bae Abertawe

Disgrifiad

Mae'n canolbwyntio twf i alinio â'r ardaloedd a nodwyd ar gyfer prosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mynegiant Gofodol / Aneddiadau yr Effeithir arnynt

Byddai'r rhan fwyaf o'r twf yn canolbwyntio ar ardaloedd Llanelli a Chaerfyrddin gyda'r rheini sydd yn yr ardaloedd cyfagos hefyd yn derbyn cyfran o'r twf.

Asesiad Cryno

Mae'r dewis hwn yn canolbwyntio ar y prosiectau a'r buddsoddiad a gynllunnir fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac yn sianelu twf i gyd-fynd â'r ardaloedd daearyddol hyn. Y prosiectau a gynigir ar gyfer Sir Gaerfyrddin yw:

  • Pentre Awel, Llanelli. Pentref yw hwn a fydd yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau i hyrwyddo a gwella llesiant. Bwriedir iddo fod yn gyfleuster amlochrog sy'n cyfuno datblygiad busnesau, addysg, gofal iechyd, hamdden, twristiaeth, cymorth llesiant ac ymchwil mewn gwyddorau bywyd mewn un lleoliad; ac
  • Yr Egin, Caerfyrddin. Byddai'r cyfleuster hwn yn ganolfan greadigol, ddigidol a chyfryngau newydd i'w lleoli ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae'r Dewis hwn yn debygol o arwain at ganolbwyntio'r rhan fwyaf o'r twf yng Nghaerfyrddin a Llanelli a'r ardaloedd cyfagos; fodd bynnag, efallai mai ychydig iawn o dwf y bydd yr aneddiadau ymhellach i ffwrdd o Gaerfyrddin a Llanelli yn ei weld. Mae'n bosibl y bydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer buddsoddiadau deilliedig a gweithgareddau seiliedig ar entrepreneuriaeth trwy adeiladu ar flaenoriaethau'r Fargen Ddinesig.

Casgliad

Mae'r opsiwn hwn yn cynnwys, ac yn cael ei lywio gan y cyfleoedd a gyflwynwyd drwy'r Fargen Ddinesig. Mae'n canolbwyntio ar leoliadau'r ddau brif brosiect o fewn Sir Gaerfyrddin ac felly byddai'n llai cynhwysol ar gyfer gweddill y sir.

Fodd bynnag, dylid cydnabod bod adlewyrchu potensial y Fargen Ddinesig i gyflawni newid gwirioneddol yn hanfodol ar gyfer unrhyw opsiwn a ffefrir.

Opsiwn 6 – Opsiwn wedi'i Arwain gan y Farchnad

Disgrifiad

Yn canolbwyntio twf yn yr ardaloedd sydd wedi profi'n fwyaf poblogaidd gyda'r farchnad dai dros y blynyddoedd diweddar.

Mynegiant Gofodol / Aneddiadau yr Effeithir arnynt

Byddai twf yn cael ei ganolbwyntio ar haen uchaf yr hierarchaeth aneddiadau sydd gan y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, sy'n cynnwys ardaloedd Caerfyrddin, Llanelli, Rhydaman a Cross Hands.

Asesiad Cryno

Bydd yr opsiwn hwn yn anelu at ddiwallu anghenion a dyheadau'r diwydiant datblygu drwy nodi safleoedd ac ardaloedd sydd fwyaf atyniadol yn economaidd i'w datblygu. Mae'r dewis hwn yn edrych ar lwyddiant marchnad aneddiadau'r sir ers 2008 ac yn dosrannu twf yn unol â chyfraddau cyflawni'r gorffennol.

Mae cyfraddau cyflawni'r gorffennol yn dangos bod y rhan fwyaf o'r twf wedi digwydd yn ardaloedd Llanelli, gyda chryn dipyn o ddatblygu hefyd yn digwydd yn ardal dwf Caerfyrddin ac mewn rhannau o ardal dwf Rhydaman/Cross Hands.

Gellid dehongli'r dull hwn fel 'cynllunio ar sail niferoedd'. Byddai'n ceisio cyfeirio twf yn unol â chyfraddau cyflawni uchaf y gorffennol ac yn cymhwyso'r duedd hon er mwyn nodi lleoliad datblygiadau yn y dyfodol. Byddai darpariaeth cyflogaeth y dyfodol yn adlewyrchu'r defnydd a wneir o dir cyflogaeth ar hyn o bryd, a byddai perthynas agos rhwng hynny a dosraniad y tai.

Casgliad

Byddai'r opsiwn hwn drwy ei ffocws ar y farchnad, tra bo'n gyflawnadwy mewn dehongliad gor-syml, yn agored i ystyriaethau a chyfyngiadau eraill a byddai'n gwaredu'n sylweddol ar unrhyw ddylanwad lleol. Ni chaiff ei ystyried yn opsiwn cyflawnadwy yn ymarferol ond mae'n cyfeirio'n glir at rôl y farchnad a'r diwydiant datblygu o ran cyfrannu at gynllun cadarn a chyflawnadwy.

Yn anochel, bydd rôl y farchnad yn cyfrannu at ddatblygiad yr opsiwn a ffefrir.

Yr Opsiwn Gofodol a Ffefrir

8.17 Mae datblygu'r opsiwn a ffefrir wedi dod i'r amlwg o ystyried yr opsiynau gofodol ac ystyriaethau eraill, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • yr amcanion llesiant
  • cynnwys yr Adroddiadau Monitro Blynyddol a'r Adroddiad Adolygu ac
  • y prosesau ymgysylltu, yn arbennig drwy'r Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol

8.18 Wrth ddatblygu'r opsiwn gofodol a ffefrir, derbyniwyd bob amser y byddai amrywiaethau posibl ar y opsiynau strategol a nodwyd, gan gynnwys opsiwn a fyddai'n ystyried cymysgedd o'r canlyniadau cadarnhaol o nifer o'r opsiynau hynny. Gan ystyried yr uchod, a chan gyfeirio at y materion, amcanion a gweledigaeth a drafodwyd eisoes yn y Strategaeth a Ffefrir, daeth opsiwn hybrid i'r amlwg fel y dull gweithredu mwyaf priodol o ran cyflenwi strategaeth ofodol gytbwys a chynaliadwy ar gyfer yr holl gymunedau ar draws y sir.

8.19 O ganlyniad, mae'r opsiwn hybrid canlynol wedi dod i'r amlwg sy'n adlewyrchu nifer o nodweddion o'r opsiynau a nodwyd uchod. Daw hyn yn rhannol o'r sylwadau a dderbyniwyd fel rhan o'r broses ymgysylltu.

Opsiwn a Ffefrir – Strategaeth Twf Cynaliadwy a Chymuned Gytbwys

8.20 Mae'r opsiwn hybrid hwn yn adeiladu ar y dull gweithredu y tynnwyd sylw ato drwy Opsiwn Strategol 4 – Dan Arweiniad y Gymuned, ond mae'n cael gwared ar y dull gweithredu cyfarwyddol o ran nodi cymeriad ardaloedd yn y sir. Fodd bynnag, bydd y strategaeth hon yn cadw dull gweithredu sy'n adlewyrchu rôl a swyddogaeth yr aneddiadau a bydd yn ceisio bod yn ymatebol o ran sut mae'n aseinio twf i ardaloedd trefol a gwledig yn y sir.

  • Bydd yr opsiwn yn cydnabod ac adlewyrchu manteision buddsoddi a manteision economaidd i'r Sir a'i chymunedau drwy'r Fargen Ddinesig, a chyfleoedd eraill economaidd.
  •  Bydd yn ceisio darparu cyfleoedd i ardaloedd gwledig, gan sicrhau bod amrywiaeth y sir a'i chymunedau yn cael ei chydnabod.
  • Bydd yn cydnabod drwy gyflenwi twf cynaliadwy fod angen iddo gael ei gefnogi gan argaeledd amrediad o seilwaith priodol.
  • Bydd yn cydnabod y dylai twf fod yn gyflawnadwy ac wedi'i deilwra i anghenion y gymuned a galw ar y farchnad.


[38] Cafodd asesiad rhanbarthol o'r farchnad dai leol ei gynnal, a fydd yn llywio'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig wrth iddo fynd rhagddo drwy'r broses baratoi.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig