Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

Daeth i ben ar 14 Ebrill 2023
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Atodiad 2 Cyd-destun Strategol Rhanbarthol a Lleol

Roedd yn nodi er bod y CDLl yn rhan allweddol o'r darlun strategol o fewn y sir ac yn rhanbarthol, nid yw'n sefyll ar wahân i gynlluniau a strategaethau eraill. Roedd nifer o'r rhain yn darparu canllawiau ar gyfer paratoi'r Cynllun, ac roedd eraill yn rhan o gyfres strategol o ddogfennau sy'n llywio sut y bydd y rhanbarth a'r sir yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf.

Rhanbarthol

Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Mae Sir Gaerfyrddin yn rhan o Ddinas-ranbarth Bae Abertawe sydd hefyd yn cwmpasu ardaloedd awdurdodau lleol Sir Benfro, Dinas a Sir Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Wrth ddod â busnesau, Llywodraeth Leol ac ystod o bartneriaid eraill ynghyd, mae'r Dinas-ranbarth wedi cyhoeddi Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe 2013–2030.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Llofnodwyd Bargen Ddinesig Bae Abertawe ym mis Mawrth 2017. Disgwylir i'r Fargen Ddinesig arwain at gynnydd parhaol yn ei werth ychwanegol gros o £1.8 biliwn i Ddinas-ranbarth Bae Abertawe a bydd yn cynhyrchu bron 10 mil o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.

Pentre Awel, Llanelli fydd y prosiect adfywio mwyaf erioed yn Ne-orllewin Cymru a'i nod yw gwella iechyd a llesiant pobl ar draws y rhanbarth.

Mae prosiect diwydiant creadigol yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin yn ceisio manteisio ar gynigion seilwaith newydd Arfordir y Rhyngrwyd. Bydd Yr Egin yn creu newid mawr a chadarnhaol yn economi greadigol a digidol Cymru.

Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol De-orllewin Cymru

Ers cyhoeddi Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn 2013, mae'r cyd-destun economaidd a pholisi wedi newid yn sylweddol ar lefel Cymru a'r DU. Mae hyn wedi dod i ffocws penodol yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd ac effaith y pandemig covid-19. Erbyn hyn mae'r dirwedd gyd-destunol newidiol hon hefyd yn cynnwys dyfodiad y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol newydd, a pharatoi Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol newydd gan Lywodraeth Cymru. Roedd y Fframweithiau hyn yn amlinellu gweledigaethau a blaenoriaethau lefel uchel ar gyfer pob rhanbarth yng Nghymru.

Er mwyn ymateb i amgylchiadau sy'n newid, lluniodd y pedwar awdurdod lleol yn Ne-orllewin Cymru, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Gynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol newydd a fydd yn disodli'r hen Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

Mae comisiwn y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol yn cynnwys:

  • Dadansoddi'r sylfaen dystiolaeth yn drylwyr o ran economi, marchnad lafur a seilwaith y rhanbarth i bennu ei gryfderau, ei wendidau, ei gyfleoedd a'i fygythiadau
  • Dehongli'r cyd-destun polisi strategol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol
  • Datblygu nodau ac amcanion strategol manwl sy'n ymateb i gyfleoedd economaidd y rhanbarth ac sy'n ategu'r weledigaeth ranbarthol a rennir fel y'i nodir yn y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol
  • Paratoi Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol sy'n cynnwys camau y mae angen eu cymryd i gyflawni'r weledigaeth a'r amcanion

Mae'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol yn ategu Fframwaith Economaidd Rhanbarthol newydd Llywodraeth Cymru (REF) ac mae'n darparu haen bellach o fanylion gan amlinellu'r amcanion a'r camau gweithredu a fydd yn cyflawni yn erbyn gweledigaeth uchelgeisiol y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd - Cynlluniau Datblygu Strategol a Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru

Mae Cymru'r Dyfodol yn cyfeirio at bedwar rhanbarth sy'n ffocws ar gyfer polisi Llywodraeth Cymru a buddsoddi yn y dyfodol. Mae Sir Gaerfyrddin wedi'i chynnwys yn rhanbarth Gorllewin Cymru. Mae Bae Abertawe a Llanelli wedi'u nodi fel rhan o dwf cenedlaethol, ac mae Caerfyrddin wedi'i nodi fel un o'r canolfannau rhanbarthol.

Byddwn ni, drwy aelodaeth Grŵp Cynllunio Rhanbarthol De-orllewin Cymru, a thrwy'r rhaglenni gwaith ar y cyd sy'n gysylltiedig â threfniadau Cyd-bwyllgor Corfforaethol y De-orllewin yn parhau i weithio'n agos, yn enwedig o ran deall a datblygu'r cysyniad a'r cyfleoedd i gael Cynllun Datblygu Strategol ar draws y rhanbarth.

Cydgynllun Trafnidiaeth ar gyfer De-orllewin Cymru (2015-20):

Mae hwn yn cyflwyno'r weledigaeth, yr amcanion a strategaeth hirdymor ar gyfer cyfnod o 20 mlynedd a rhaglen bum mlynedd o brosiectau. Mae'r Cynllun yn cwmpasu'r rhanbarth sydd yn dod o fewn ardaloedd gweinyddol Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Dinas a Sir Abertawe.

Partneriaeth Twristiaeth De-orllewin Cymru (SWWTP)

Roedd Partneriaeth Twristiaeth De-orllewin Cymru yn gyfrifol am gyflwyno'r strategaeth twristiaeth genedlaethol ar lefel ranbarthol. Daeth y Bartneriaeth i ben yn 2014, ond mae Croeso Cymru yn parhau i gynnal ei ymrwymiad parhaus i Reoli Cyrchfannau trwy Dimau Ymgysylltu Rhanbarthol.

Adroddiad(au) Monitro Cynlluniau Gwastraff Rhanbarth De-orllewin Cymru:

Caiff yr adroddiadau hyn eu llunio yn unol â TAN21: Gwastraff a'u bwriad yw coladu ac asesu data sydd ar gael ar bob gwastraff sy'n cronni, y lle gwag sydd ar gael mewn safleoedd tirlenwi a rheoli gwastraff gweddilliol yn y rhanbarth er mwyn monitro tueddiadau ac yn y pen draw, monitro perfformiad yn erbyn y targedau a osodir yn Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Mae hefyd yn asesu cynnydd y meysydd a gwmpesir gan bolisi gwastraff mewn Cynlluniau Datblygu Lleol, yn ogystal â darparu gwybodaeth am gynlluniau rheoli gwastraff / adennill adnoddau awdurdodau lleol ar hyn o bryd, a'r rhai fydd yn cael eu caffael yn y dyfodol.

Cynllun Rheoli Basn Afon Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru (2015-2021), Cyfoeth Naturiol Cymru 2015

Mae'r Cynllun Rheoli Basn Afon ar gyfer Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru wedi'i baratoi o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae'n disgrifio cyflwr presennol yr ardal basn afon a'r hyn a gyflawnwyd ers 2009; yn manylu ar y Rhaglen o Gamau ar gyfer gwella'r amgylchedd dŵr erbyn 2021 ac yn darparu amcanion y corff dŵr.

Cynlluniau Datblygu Awdurdodau Cyfagos

Mae'r Cyngor mewn cyswllt rheolaidd ac agos â'r awdurdodau cyfagos, yn unigol ac ar y cyd, ar lefel ranbarthol (trwy Grŵp Cynllunio Rhanbarthol De-orllewin Cymru) i sicrhau bod eu Cynlluniau Datblygu Lleol yn cyd-fynd â'i gilydd.

Mae'r Cynllun wedi cael ei baratoi gan ystyried awdurdodau cyfagos, a, lle bo'n briodol, mewn cydweithrediad â nhw. Mae hyn wedi cynnwys casglu tystiolaeth ac ymchwil ar draws y rhanbarth ehangach ond hefyd ar lefel is-ranbarthol rhwng yr awdurdodau hynny sy'n cynnal Adolygiadau o'r Cynlluniau Datblygu Lleol.

Mae rhai ffactorau'n golygu nad oes modd cael cydymffurfiaeth lwyr ond roedd trafodaethau adeiladol a rhannu gwybodaeth a phrofiad yn lleihau'r perygl y byddai polisïau'n gwrthdaro ac yn sicrhau lefel briodol o integreiddio.

Mabwysiadodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ei Gynllun Datblygu Lleol ym mis Ionawr 2016 ac mae wedi dechrau paratoi ei Gynllun newydd. Mae deialog parhaus wedi sicrhau bod dealltwriaeth o'r dulliau ac o gyfeiriad y fframweithiau polisi, gan gynnwys trwy drefniadau rhanbarthol a chwmpas a chynnydd y Cynllun Datblygu Strategol. Bydd cynnydd yr adolygiad i Gynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot yn cael ei fonitro a'i ystyried yn briodol yn ôl yr angen.

Mabwysiadodd Dinas a Sir Abertawe ei Gynllun Datblygu Lleol ym mis Chwefror 2019. Mae mabwysiadu CDLl Abertawe yn caniatáu ystyried eu polisïau a'u cynigion, ynghyd â'r gallu i ymateb (ac integreiddio) fel sy'n briodol wrth baratoi CDLl Diwygiedig Sir Gaerfyrddin. Bydd cyswllt parhaus yn sicrhau cyd-ddealltwriaeth o'r dulliau priodol gan gynnwys trwy drefniadau rhanbarthol a chwmpas a chynnydd y Cynllun Datblygu Strategol. Mae deialog benodol wedi'i chynnal ar faterion yn ymwneud â Safle Morol Ewropeaidd Bae Caerfyrddin a'r Aberoedd.

Mabwysiadodd Cyngor Sir Powys ei CDLl ym mis Ebrill 2018 ac mae wedi dechrau ar y gwaith o baratoi ei Gynllun newydd. Bydd y Cyngor yn parhau i archwilio perthnasoedd strategol. Caiff unrhyw adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Powys yn y dyfodol ei fonitro a'i ystyried yn briodol.

Mae CDLl mabwysiedig Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cyd-fynd yn fras â strwythur anheddiad hierarchaidd a chysondeb yn y dull polisi cynllunio bras gyda Sir Gaerfyrddin. Bydd cyswllt parhaus yn sicrhau cyd-ddealltwriaeth o'r dulliau priodol gan gynnwys trwy drefniadau rhanbarthol a chwmpas a chynnydd y Cynllun Datblygu Strategol. Mae dull rhagweithiol tuag at weithio rhanbarthol ac is-ranbarthol yn hanfodol mewn materion polisi, casglu tystiolaeth ac ystyriaethau strategol.

Mabwysiadodd Cyngor Sir Penfro ei Gynllun Datblygu Lleol ym mis Chwefror 2013. Ystyrir bod cysondeb ac aliniad bras o ran y dull o safbwynt strategol a pholisi. Ar ôl dechrau paratoi eu CDLl diwygiedig, mae cyhoeddi canllawiau CNC ar lygredd ffosffad mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol gwarchodedig wedi effeithio'n andwyol ar yr amserlen tuag at fabwysiadu'r Cynllun. Ceir aliniad bras rhwng dull a maint y datblygu a thwf. Mae modd cymharu'r amserlen ar gyfer paratoi eu Cynllun yn fras ag un Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r aliniad bras a amlinellir uchod yn para. Mae dull rhagweithiol tuag at weithio rhanbarthol ac is-ranbarthol yn hanfodol mewn materion polisi, casglu tystiolaeth ac ystyriaethau strategol, gan nodi'n arbennig faterion cyffredin ar draws y rhanbarth megis ffosffadau.

Mabwysiadodd Cyngor Sir Ceredigion ei Gynllun Datblygu Lleol ym mis Ebrill 2013. Tra ystyrir bod strategaethau aneddiadau perthnasol Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol i'w gilydd, mae cydweddoldeb cyffredinol â'r gweledigaethau priodol. Mae ymrwymiad i barchu a chynnal amrywiaeth ac ansawdd y cynllun, i leihau'r angen i deithio, ac i gynaliadwyedd a chreu lleoedd cynaliadwy. Dechreuodd Cyngor Sir Ceredigion baratoi CDLl newydd. Mae Covid wedi cael effaith andwyol ar baratoi eu CDLl diwygiedig ynghyd â chyhoeddi canllawiau CNC yn ddiweddar ar lygredd ffosffad mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol gwarchodedig. Mae'r aliniad bras a amlinellir uchod yn para. Mae dull rhagweithiol tuag at weithio rhanbarthol ac is-ranbarthol yn hanfodol mewn materion polisi, casglu tystiolaeth ac ystyriaethau strategol, gan nodi'n arbennig faterion cyffredin ar draws y rhanbarth megis ffosffadau.

Mabwysiadodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei Gynllun Datblygu Lleol ym mis Rhagfyr 2013. Bernir nad oes problemau trawsffiniol clir o ran aneddiadau. Mae Awdurdod y Parc wrthi'n paratoi eu CDLl newydd. Mae cyhoeddi canllawiau CNC ar lygredd ffosffad mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig afonol gwarchodedig wedi effeithio'n andwyol ar y gwaith o baratoi eu CDLl diwygiedig. Mae dull rhagweithiol tuag at weithio rhanbarthol ac is-ranbarthol yn hanfodol mewn materion polisi, casglu tystiolaeth ac ystyriaethau strategol, gan nodi'n arbennig faterion cyffredin ar draws y rhanbarth ar faterion megis ffosffadau. Rhoddir ystyriaeth briodol i oblygiadau'r cynigion yng ngorllewin y Parc - yn enwedig o ran lefel y tai a ddosrennir.

Lleol

Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin

Mae'r Cynllun hwn yn amlinellu sut y bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol sy'n effeithio ar lesiant dinasyddion a chymunedau Sir Gaerfyrddin. Cyfeirir at adran "cipolwg" Sir Gaerfyrddin sy'n nodi ystyriaethau o ran Demograffeg, Economi, Iechyd a Llesiant, yr Amgylchedd a Diwylliant. Y pedwar amcan llesiant yw:

  • Arferion Iach - Mae gan bobl ansawdd bywyd da, ac maen nhw'n gwneud dewisiadau iach ynglŷn â'u bywydau a'r amgylchedd;
  • Ymyrraeth Gynnar - Sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn; pan fydd ei angen arnynt;
  • Cysylltiadau Cryf - Pobl, lleoedd a sefydliadau y mae cysylltiad cryf rhyngddynt sy'n gallu addasu i newid; a
  • Pobl a Lleoedd Ffyniannus – Uchafu'r cyfleoedd ar gyfer pobl a lleoedd mewn ardaloedd trefol a gwledig o'n sir

Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin - Strategaeth Gorfforaethol Newydd y Cyngor 2018-2023

Dyma Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2018 – 2023 (cymeradwywyd 2018 – diweddarwyd 2019). Mae'n pennu i ba gyfeiriad fydd y Cyngor yn mynd dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys ei amcanion gwella a llesiant fel y'u diffinnir gan ddeddfwriaeth (gweler ffigur 1 drosodd). Mae hefyd yn cyfeirio at brosiectau a rhaglenni allweddol y Bwrdd Gweithredol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, cyfres o bron 100 o brosiectau a flaenoriaethwyd.

Mae'r strategaeth yn amlinellu gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y dyfodol drwy 15 o amcanion o dan bedair thema allweddol, i gefnogi trigolion i: ddechrau'n dda, byw'n dda a heneiddio'n dda mewn amgylchedd iach, diogel a llewyrchus. Mae'r 15 o Amcanion Llesiant yn cwmpasu'r amrywiaeth eang o Wasanaethau sydd gan y Cyngor er mwyn sicrhau llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol.

Cynigion a basiwyd gan y Cyngor

Mae'r cynigion hynny sy'n berthnasol i'r CDLl diwygiedig a basiwyd gan y Cyngor yn ddiweddar yn cynnwys datgan Argyfwng Hinsawdd ac Argyfwng Natur ynghyd â chanolbwyntio ar gynllunio a'r iaith Gymraeg.

Cynllun Adfer a Chyflawni Economaidd Sir Gaerfyrddin

Mae Cynllun Adfer Economaidd y Cyngor (Ebrill 2021) yn nodi rhyw 30 o gamau gweithredu i gefnogi adferiad economi Sir Gaerfyrddin yn sgil effeithiau cymdeithasol ac economaidd y pandemig COVID-19 a Brexit. Mae'n nodi blaenoriaethau'r Cyngor ar gyfer cefnogi Busnes, Pobl a Lleoedd. Gyda'r cymorth hwn gall economi Sir Gaerfyrddin ymadfer cyn gynted â phosibl i ddod yn un sy'n fwy cynhyrchiol nag yr oedd o'r blaen, yn fwy cyfartal, yn fwy gwyrdd, yn iachach, a chyda chymunedau mwy cynaliadwy.

Trawsnewidiadau: Cynllun Adfywio Strategol Sir Gaerfyrddin – 2015 – 2030

Mae'n nodi strategaeth adfywio Sir Gaerfyrddin, gan adeiladu ar y cyfleoedd ar gyfer twf a buddsoddiad. Mae hyn yn ei dro yn dangos bod Sir Gaerfyrddin yn elfen hyderus, uchelgeisiol a chysylltiedig o Ddinas-ranbarth Bae Abertawe.

Ein Hymrwymiad i Dai Fforddiadwy 2015 – 2020 a Chynllun Cyflawni Tai Fforddiadwy 2016-2020

Cyhoeddodd y Cyngor ei weledigaeth bum mlynedd ar gyfer cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn 2015 ac, yn 2016, aeth ati i nodi ein rhaglen uchelgeisiol gyntaf i ddarparu dros 1000 o dai fforddiadwy ychwanegol ar draws y Sir. Ym mis Medi 2019 dechreuodd y bedwaredd flwyddyn o ddarparu tai fforddiadwy ac yn ystod y tair blynedd gyntaf mae'r Cyngor wedi bod yn llwyddiannus iawn oherwydd mae bron 700 o dai wedi cael eu codi, gan sicrhau bod y Cyngor ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed o 1000.

Mae'r ardaloedd gweithredu tai fforddiadwy fel a ganlyn: Trefi Gwledig a Threfi Marchnad Sir Gaerfyrddin; Rhydaman a Dyffryn Aman; Caerfyrddin a'r Gorllewin; a Llanelli a'r cylch.

Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin

Ffigur 1 - Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin

Darlun sy'n dangos y Strategaeth Gorfforaethol. Gellir crynhoi gweledigaeth y Cyngor fel a ganlyn: 


Mae’n rhaid byw bywyd, gadewch i ni ddechrau, dda, byw’n dda a heneiddio’n dda, mewn amgylchedd iach, diogel a llewyrchus. 
Amcanion Dechrau'n Dda:

  1. Help i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a gwella eu profiadau yn gynnar mewn bywyd.
  2. Helpu plant i ddilyn ffyrdd iach o fyw.
  3. Cefnogi a gwella cynnydd a chyflawniad ar gyfer pob dysgwr.
  4. Lleihau nifer yr oedolion ifanc and ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant 

Amcanion byw'n dda:

  1. Trechu tlodi drwy wneud popeth o fewn ein gallu i'w atal, gan helpu pobl I gael gwaith a gwella bywydau'r rheiny sy'n byw mewn tlodi.
  2. Creu mwy o swyddi a thwf ledled y sir,
  3. Cynyddu faint o dai rhent a thai fforddiadwy sydd ar gael.
  4. Helpu pobl i fyw bywydau iach (mynd i'r afael ag ymddygiad peryglus a gordewdra).
  5. Cefnogi cysylltiadau da â ffrindiau, y teulu a chymunedau mwy diogel

Amcanion Heneiddio'n Dda:

  1. Cefnogi'r nifer cynyddol o bobl hŷn er mwyn iddynt gadw’n hurddas a’u hannibyniaeth wrth iddynt heneiddio.
  2. Ymagwedd ledled yy Cyngor tuag at gefnogi Heneiddio'n Dda yn Sir Gaerfyrddin.

Amcanion yr Amgylchedd Iach, Diogel a Llewyrchus:

  1. Gofalu am yr amgylchedd nawr ac ar gyfer y dyfodol.
  2. Gwella seilwaith a chysylltedd y priffyrdd a thrafnidiaeth.
  3. Hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.
  4. Adeiladu gwell Cyngor a Gwneud gwell defnydd o adnoddau.

Adeiladu Mwy o Dai Cyngor - 'Ein huchelgais a'n cynllun gweithredu'.

Yn ei gyfarfod ym mis Medi 2019, cymeradwyodd y Cyngor raglen fuddsoddi uchelgeisiol o bron £150m a fydd yn darparu dros 900 o dai Cyngor newydd. Mae'r cynllun hwn yn ceisio cydymffurfio â'r Cynllun Cyflawni Tai Fforddiadwy a darparu hyd yn oed mwy o dai fforddiadwy yn y Sir. Caiff y tai eu hadeiladu gan ddefnyddio amrywiaeth o fodelau cyflawni, a bydd y rhaglen adeiladu tai newydd yn dilyn yr ardaloedd gweithredu tai fforddiadwy.

Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin

Mae'r adroddiad yn cynnwys 55 o argymhellion, ac mae chwe argymhelliad wedi'u rhestru o dan yr adran "cynllunio a thai." Wrth gadarnhau ymwybyddiaeth o gyfraniad pwysig ardaloedd gwledig y Sir ar lefel gorfforaethol, ceir argymhellion sy'n berthnasol i'r CDLl Diwygiedig yn uniongyrchol ac felly ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd yr adroddiad hwn o ran llywio'r CDLl Diwygiedig.

Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen

Mae'r adroddiad hwn yn garreg filltir arwyddocaol i'r awdurdod gan mai dyma'r tro cyntaf erioed y datblygwyd strategaeth bellgyrhaeddol i adfywio ein cymunedau gwledig yn Sir Gaerfyrddin. Cafodd yr adroddiad terfynol ei gymeradwyo yn y Cyngor Llawn ar 11 Medi 2019.

Diben y fenter Deg Tref yw cefnogi adferiad economaidd a thwf trefi gwledig ledled y Sir. Sefydlwyd y fenter fel ymateb uniongyrchol i Gynllun Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen sy'n nodi nifer o argymhellion allweddol i helpu i adfywio Sir Gaerfyrddin wledig.

Rhan allweddol o'r rhaglen yw datblygu cynlluniau twf economaidd i hyrwyddo agenda o newid ar gyfer pob un o'r trefi perthnasol a'u cefnwlad ehangach: Cross Hands, Cwmaman, Cydweli, Talacharn, Llandeilo, Llanymddyfri, Llanybydder, Castellnewydd Emlyn, San Clêr a Hendy-gwyn ar Daf.

Y Rhaglen Moderneiddio Addysg

Yn 2005 mabwysiadodd y Cyngor ei Raglen Moderneiddio Addysg. Nod y RhMA yw sicrhau bod y rhwydwaith o ysgolion yn diwallu anghenion y presennol a'r dyfodol, a'i fod yn gwneud hynny mewn ffordd strategol ac mewn ffordd sy'n effeithiol yn weithredol. Trwy wneud hyn, mae'r RhMA yn nodi gofynion ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol i sicrhau darpariaeth addas a digonol o ran lleoedd mewn ysgolion ac mae'n nodi cynlluniau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol mewn modd cydgysylltiedig a strwythuredig.

Mae Rhaglen Moderneiddio Addysg y Cyngor yn ddull strategol uchelgeisiol a blaengar sy'n darparu cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf ledled y Sir. Wrth ddatblygu'r Papur Rôl a Swyddogaeth hwn, rhoddwyd ystyriaeth i'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud, ac mae hefyd yn ystyried y gwaith sydd wedi'i raglennu ar gyfer y dyfodol.

Y Gymraeg

"Caiff pwysigrwydd y Gymraeg yng ngwead cymdeithasol cymunedau'r Sir ei adlewyrchu yn ei harwyddocâd ar lefel gorfforaethol o fewn y Cyngor. Yn hyn o beth mae'r isod o bwys arbennig:

  1. Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-2020;
  2. Hysbysiad Cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg (Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011) (dyddiad cyhoeddi 30/9/2015) a Chynllun Gweithredu Safonau'r Gymraeg (2020/2021); a
  3. Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg 2016-2021.

Gellir gweld y dogfennau hyn i gyd ar wefan y Cyngor.

Carbon Sero-net erbyn 2030

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd fel cydnabyddiaeth o'r rôl bwysig y mae'n rhaid iddo ei chwarae o ran lleihau ei allyriadau nwyon tŷ gwydr ei hun ymhellach a darparu'r arweiniad i annog trigolion, busnesau a sefydliadau eraill i gymryd camau i leihau eu hôl troed carbon eu hunain.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig