Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin
(1) 3. Dylanwadau ar y Cynllun
Trosolwg
3.1 Er bod y CDLl yn chwarae rôl allweddol wrth lunio penderfyniadau a lleoliad a natur datblygiadau yn y Sir, mae'n cael ei baratoi a'i weithredu o fewn y fframwaith cenedlaethol sydd wedi ei osod gan ddeddfwriaeth a Pholisi Cynllunio Cymru[18] a Nodiadau Cyngor Technegol cysylltiedig. [19]
3.2 Mae'r broses ar gyfer paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol wedi'i gosod o fewn rheoliadau statudol, a chynhwysir arweiniad gweithdrefnol ychwanegol o fewn y Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol fel y'i paratowyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd gwaith paratoi a chynnwys y CDLl yn cael eu hasesu wrth ystyried tri phrawf o gadernid,[20] sef:
- A yw'r cynllun yn ffitio?
- A yw'r cynllun yn briodol?
- A fydd y cynllun yn cyflawni?
3.3 Bydd cam olaf y gwaith o baratoi'r Cynllun yn cael ei gyflawni gan yr arolygydd cynllunio (fel y'i penodir gan Lywodraeth Cymru). Bydd yr Arolygydd yn archwilio'r CDLl gan ystyried y tri phrawf hyn er mwyn asesu ei gadernid. Bydd canfyddiadau'r archwiliad yn cael eu cyhoeddi yn adroddiad yr arolygydd, y bydd yr awdurdod yn rhwym i'w gynnwys a'i argymhellion.
3.4 Wrth i'r Cyngor gynllunio ar gyfer y dyfodol, bydd yn rhaid i ni hefyd weithio gyda phartneriaid amrywiol, asiantaethau eraill, cyrff cyllido a'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau ac ymateb iddynt, a hynny er mwyn llywio, arwain a gweithredu rhaglenni a chynigion. Er bod gan y Cynllun Datblygu Lleol rôl ganolog wrth lywio polisïau, rhaglenni a strategaethau buddsoddi ar draws amrediad o asiantaethau a chyrff yn y dyfodol, bydd hefyd wedi cael ei ddylanwadu gan ac yn adlewyrchu'r rheini sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni ei bolisïau a chynigion.
3.5 Mae nifer o ddogfennau a strategaethau pwysig yn ymwneud â Sir Gaerfyrddin. Lle bo'n briodol, rydym wedi paratoi'r cynllun fel ei fod yn adlewyrchu'r fath ddogfennau a chynlluniau sy'n perthyn i sefydliadau eraill, gan gynnwys ein hawdurdodau cynllunio cyfagos, a pholisïau a strategaethau cenedlaethol a rhanbarthol – a byddwn hefyd yn gwneud hyn yn y dyfodol. Byddwn yn gweithio gyda'n cymdogion ac eraill wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol fel sy'n briodol.
3.6 Cafwyd nifer o newidiadau cyd-destunol sylweddol mewn deddfwriaeth Gymreig ers mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol presennol. Mae'r rhain yn cynnwys cyhoeddi Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ond yn fwyaf arwyddocaol, efallai, yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddeddf hon yn newid mawr, ac mae'n ofynnol bod y cynllun yn cyfrannu at ei nod o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru wrth weithredu datblygu cynaliadwy. Mae hyn wedi ysgogi newidiadau mewn polisi cynllunio cenedlaethol fel y nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru wrth gyhoeddi Rhifyn 11 yn Chwefror 2021. Rhoddwyd sylw hefyd i Ddatganiad Ardal De-orllewin Cymru (SWWAS). Lluniwyd y Datganiad yn 2020 yng nghyd-destun datganiad Llywodraeth Cymru o Argyfyngau Hinsawdd a Natur. Mae'r ddau fater hyn yn gysylltiedig ac maent ynddynt eu hunain yn symptomau o reolaeth anghynaladwy ar adnoddau naturiol. Mae angen dull systemau cyfan arnynt, ac fel y cyfryw mae'r ddau fater yn ymddangos ar draws holl themâu SWWAS:
- Lleihau anghydraddoldebau iechyd
- Sicrhau dulliau cynaliadwy o reoli tir
- Gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth a'i gwella
- Thema drawsbynciol: Addasu i newid yn yr hinsawdd a'i leihau
3.7 Datblygiad pwysig pellach yn y system gynllunio a chynlluniau datblygu yng Nghymru yw mabwysiadu Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040[21]. Hwn yw cynllun datblygu Cymru, yn y bôn, ac mae'n gosod y cyfeiriad ar gyfer gwaith datblygu yng Nghymru rhwng 2020 a 2040. Mae'n cynrychioli'r haen uchaf fel rhan o'r hierarchaeth cynlluniau datblygu ac wrth gael ei baratoi mae wedi llywio ac yn dilyn ei fabwysiadu mae wedi llywio'r gwaith o baratoi'r CDLl Diwygiedig.
(1) 3.8 Mae'n ofynnol i'r CDLl Diwygiedig gydymffurfio â chynnwys Cymru'r Dyfodol.
3.9 Bydd y cynllun yn ystyried y nodau a'r amcanion llesiant cenedlaethol a chynnwys Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin, yn ogystal ag amcanion llesiant y Cyngor ei hun yn ei bolisïau a'i gynigion.[22][23]
3.10 Wrth baratoi ei Strategaeth Gorfforaethol Newydd, cyfunodd y Cyngor y cynlluniau canlynol mewn un ddogfen a fydd yn tanategu nifer o agweddau ar y CDLl yn y dyfodol:
- Mae'n disodli Strategaeth Gorfforaethol 2015–20.
- Mae'n ymgorffori ein Hamcanion Gwella fel sy'n ofynnol gan Fesur Llywodraeth Leol 2009.
- Mae'n cynnwys ein Hamcanion Gwella, yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Am y tro cyntaf yng Nghymru, ceir gweledigaeth a rennir a set o nodau i bob corff cyhoeddus weithio tuag atynt. Bwriad ein Hamcanion Llesiant yw cyfrannu cymaint â phosibl at y rhain;
- Mae'n cynnwys prosiectau a rhaglenni allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer y pum mlynedd nesaf fel y nodir yn 'Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf.
3.11 Mae'r cynllun, wrth gydnabod yr amrywiaeth a geir yn Sir Gaerfyrddin, hefyd yn rhoi ystyriaeth bwysig i nifer o gynlluniau a mentrau'r Cyngor sydd wedi eu hanelu'n benodol at y materion sydd yn effeithio ar ein hardaloedd gwledig, yn enwedig mewn perthynas â chanfyddiadau Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig y Cyngor a'i 55 o argymhellion. Mae adroddiad Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen yn ystyried y materion sy'n effeithio ar gymunedau gwledig yn Sir Gaerfyrddin ac yn nodi camau gweithredu y gall y Cyngor, mewn partneriaeth â sefydliadau a chyrff cyhoeddus eraill, eu cymryd i ymdrin â'r materion er mwyn cefnogi adfywio gwledig yn y blynyddoedd i ddod. [24].
3.12 Nododd y Grŵp Gorchwyl nifer o feysydd allweddol sy'n dylanwadu ar y materion sy'n wynebu cymunedau gwledig yn Sir Gaerfyrddin fel a ganlyn, ac mae'r rhain wedi'u hadlewyrchu yng nghanfyddiadau'r adroddiad:
- Datblygu Economaidd
- Cynllunio a Thai
- Addysg a Sgiliau
- Band Eang a Sgiliau Digidol
- Twristiaeth
- Trafnidiaeth a Phriffyrdd
- Amaethyddiaeth a Bwyd
- Cydnerthu Cymunedol, Mynediad at Wasanaethau a'r Trydydd Sector
- Ynni Adnewyddadwy
- Yr Amgylchedd a Gwastraff
- Y Ffordd Ymlaen
3.13 Roedd un o'r argymhellion allweddol a ddeilliodd o adroddiad Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen yn ymwneud ag adnewyddu Deg Tref yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin. Mae rhan o'r fenter hon wedi cynnwys gweithio gyda'r cymunedau a'r rhanddeiliaid lleol mewn deg tref wledig a nodir (a'u cymunedau cyfagos) i ddatblygu cynlluniau unigol sy'n ceisio darparu gweledigaeth strategol hirdymor i sicrhau eu cynaliadwyedd economaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Y deg tref wledig a nodwyd yw:
- Llanymddyfri
- Llandeilo
- Sanclêr
- Hendy-gwyn ar Daf
- Castellnewydd Emlyn
- Talacharn
- Cwmaman
- Llanybydder
- Cydweli
- Cross Hands
3.14 Mae'r 2il Gynllun Adneuo hwn hefyd yn adlewyrchu adroddiad cwmpasu'r Arfarniad Cynaliadwyedd, [25]gan ystyried yr holl ffactorau perthnasol a gafodd eu nodi yn llawn ac yn ofalus. Wrth barhau â'r broses o baratoi'r cynllun, bydd yr arfarniad o gynaliadwyedd a'r gofynion ar gyfer creu'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn ein cynorthwyo wrth ddatblygu'r Cynllun Datblygu Lleol mewn modd sy'n sicrhau ei fod yn ystyried y gwerthoedd cynaliadwyedd ac amgylcheddol hyn.
3.15 Mae newidiadau cyd-destunol o'r fath, canfyddiadau'r Adroddiad Adolygu a newidiadau mewn tystiolaeth wedi bod yn hanfodol wrth lywio'r gwaith o baratoi'r Cynllun Diwygiedig, a'i gyfeiriad strategol trwy'r Strategaeth a Ffefrir hon ond hefyd ei gyfeiriad ar lefel polisi manwl yn yr 2il Gynllun Adneuo hwn.
3.16 Mae gwaith cysylltu helaeth wedi cael ei wneud – ac yn cael ei wneud o hyd – i greu a chodi ymwybyddiaeth a chyfathrebu ag amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion. Mae'r wybodaeth, materion a thystiolaeth sy'n codi o gyfathrebiadau o'r fath wedi bod yn amhrisiadwy yn y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, a byddant yn parhau i sicrhau bod y gwaith o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol mor wybodus a chydsyniol â phosibl.
[18] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 11 https://gov.wales/sites/default/files/publications/2021-02/planning-policy-wales-edition-11_0.pdf
[19] https://gov.wales/technical-advice-notes
[20] Er mwyn i Gynllun Datblygu Lleol gael ei fabwysiadu, mae'n rhaid i'r arolygydd sy'n ei archwilio benderfynu ei fod yn 'gadarn' (Adran 64 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004). Nodir profion cadernid a gwiriadau yn Rhifyn 11 o Bolisi Cynllunio Cymru a Chytundeb Cyflawni'r CDLl Diwygiedig sydd wedi'i gymeradwyo.
[21] https://gov.wales/sites/default/files/publications/2021-02/future-wales-the-national-plan-2040.pdf
[22] Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin: Y Sir Gâr a Garem – 2018 - 2023
[23] Diffinnir y 15 amcan llesiant yn Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: Strategaeth Gorfforaethol Newydd y Cyngor 2018 – 2023 https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/strategaeth-gorfforaethol-y-cyngor-2018-2023/
[24] Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen (Mehefin 2019): Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin. https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-sir-gâr-wledig-ymlaen/
[25] https://www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/planning/local-development-plan-2018-2033/sustainability-appraisal-and-habitats-regulations-assessment/#.YqM4-ajMKUk