Deposit LDP
13. Rhestr Termau
Cynllun Mabwysiedig |
Dyma gam olaf y broses o baratoi Cynllun Datblygu Lleol - lle daw'r Cynllun Datblygu Lleol yn Gynllun Datblygu statudol, at ddibenion y Ddeddf. |
Mabwysiadu |
Cadarnhad terfynol yr Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) o'r cynllun datblygu fel ei bolisi cynllunio defnydd tir. |
Tai fforddiadwy |
Tai a ddarperir i'r rheiny nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y farchnad agored. Dylai tai fforddiadwy: fodloni anghenion aelwydydd cymwys, gan gynnwys eu bod ar gael ar gost ddigon isel iddynt allu eu fforddio, ac a bennir gan ystyried incwm lleol a phrisiau tai lleol; ac
yn cynnwys darpariaeth i wneud i'r cartref aros yn
fforddiadwy ar gyfer aelwydydd cymwys yn y dyfodol,
neu os yw cartref yn peidio â bod yn fforddiadwy neu
fod y perchnogion yn cynyddu cyfran eu perchentyaeth
fel eu bod yn berchen ar y cartref yn llawn, yn
gyffredinol dylid ailddefnyddio unrhyw gymhorthdal i
ddarparu tai fforddiadwy eraill. Caiff hyn ei rannu'n ddau is-gategori: tai rhent cymdeithasol - a ddarperir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig lle mae lefelau rhent yn ystyried rhenti canllaw a rhenti meincnod Llywodraeth y Cynulliad; a tai canolradd - lle mae'r prisiau neu'r rhenti yn uwch na'r rheiny ar gyfer tai rhent cymdeithasol ond islaw prisiau neu renti tai ar y farchnad. Gall hyn gynnwys cynlluniau rhannu ecwiti (er enghraifft Cymorth Prynu). Mae tai canolradd yn wahanol i dai cost isel y farchnad, nad yw Llywodraeth y Cynulliad yn ystyried eu bod yn dai fforddiadwy at ddibenion y system cynllunio defnydd tir. (TAN 2: Geirfa). |
Ardal Rheoli Ansawdd Aer |
Lleoliadau a nodwyd lle mae'r Cyngor yn credu nad yw'n debygol y bydd amcanion ansawdd aer cenedlaethol yn cael eu cyflawni a lle mae angen gwelliannau. Mae'r Cyngor dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgan drwy orchymyn safleoedd o'r fath fel Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer. |
Amwynder |
Elfen gadarnhaol neu elfennau sy'n cyfrannu at gymeriad cyffredinol ardal neu'r mwynhad a geir ohoni. Er enghraifft, tir agored, coed, adeiladau hanesyddol a'r gydberthynas rhyngddynt, neu ffactorau llai diriaethol megis llonyddwch. |
Treulio Anerobig |
Prosesau lle mae bacteria yn torri deunydd organig i lawr yn niffyg aer, gan gynhyrchu bio-nwy. |
Coetir Hynafol |
Tir y bu gorchudd coetir parhaus arno ers i fapiau cywir gael eu cynhyrchu am y tro cyntaf. |
Ategol |
Lle mae'r defnydd o dir neu adeiladau yn wahanol i'r defnydd sylfaenol ac yn llai pwysig ac yn cael ei ganiatáu oherwydd eu cysylltiad â'r prif ddefnydd. |
Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB) |
Bydd hyn yn asesu i ba raddau y mae polisïau yn y cynllun datblygu lleol yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus (Rheoliad 37 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) 2005). |
Llinell Sylfaen/Llinell Sylfaen Cyn Newid |
Disgrifiad o gyflwr presennol ardal y dylid mesur newid yn ei erbyn. |
Bioamrywiaeth |
Yr amrywioldeb ymhlith organebau byw o bob ffynhonnell gan gynnwys anifeiliaid, planhigion, adar, pryfed a physgod, a'r cynefinoedd y maent yn rhan ohonynt. |
Tir llwyd |
Gweler y diffiniad ar gyfer Tir a Ddatblygwyd o'r Blaen |
Cymeriad |
Term sy'n ymwneud ag Ardaloedd Cadwraeth neu Adeiladau Rhestredig, ond hefyd ag ymddangosiad unrhyw leoliad trefol neu wledig o ran ei dirwedd, ei drefwedd neu gynllun strydoedd a mannau agored, yn aml gan roi i leoedd eu hunaniaeth unigryw eu hunain. |
Safle Ymgeisio |
Safleoedd Ymgeisio yw'r rheiny a enwebir gan unrhyw un i'w hystyried gan yr ACLl fel dyraniadau mewn CDLl sy'n datblygu. |
Cofrestr Safleoedd Ymgeisio |
Cofrestr o safleoedd ymgeisio a baratowyd yn dilyn galwad gan yr ACLl am safleoedd ymgeisio. |
Dinas-ranbarth |
Gweler Dinas-ranbarth Bae Abertawe. |
Newid yn yr Hinsawdd |
Newidiadau hirdymor mewn tymheredd, dyodiad, gwynt a phob agwedd arall ar hinsawdd y ddaear. Yn aml ystyrir eu bod o ganlyniad i weithgarwch dynol a'r defnydd o danwydd ffosil. |
Cyfuno |
Uno neu gyfuno dau anheddiad ar wahân, neu gyfuno gwahanol rannau o anheddiad. |
Ymrwymiadau |
Tir heb ei ddatblygu sydd â chaniatâd cynllunio cyfredol neu dir sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. |
Cymuned |
Pobl sy'n byw mewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig, neu sy'n rhannu buddiannau eraill ac sydd felly'n ffurfio cymunedau o fuddiant. |
Yr Ardoll Seilwaith Cymunedol |
Tâl cynllunio yw'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, a gyflwynwyd gan Ddeddf Cynllunio 2008 fel modd i awdurdodau cynllunio lleol helpu i ddarparu seilwaith i gefnogi datblygiad eu hardal. Daeth i rym ar 6 Ebrill 2010 trwy Reoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010. Tâl y gall awdurdodau lleol ei godi ar ddatblygiadau newydd yn eu hardal i ariannu seilwaith strategol i gefnogi'r datblygiad. |
Cynllun Cynnwys Cymunedau |
Mae'n nodi cynllun a pholisïau prosiect yr ACLl ar gyfer cynnwys cymunedau lleol, gan gynnwys busnesau, wrth baratoi cynlluniau datblygu lleol. Cyflwynir y Cynllun Cynnwys Cymunedau i Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Cytundeb Cyflawni i gytuno arno. |
Swm Cyfnewid |
Symiau yw'r arian a dderbynnir gan ddatblygwyr ac a glustnodwyd i'w ddefnyddio, ar gyfer datblygu neu i wneud gwaith cynnal a chadw ar/oddi ar y safle. Er enghraifft, darparu seilwaith, darparu a chynnal a chadw mannau agored, ac ati. |
Cwblhau |
Caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd wedi'i adeiladu neu sydd bellach yn cael ei ddefnyddio'n weithredol. |
Adeiladu Consensws |
Proses o gynnal deialog gynnar gyda grwpiau buddiant a dargedir er mwyn deall safbwyntiau perthnasol a chytuno ar gamau gweithredu. |
Ardal Gadwraeth |
Ardal a ddynodwyd gan yr ACLl o dan ddeddfwriaeth sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig y dymunir cadw neu wella ei chymeriad neu ei hymddangosiad. |
Ymgynghori |
Proses ffurfiol lle gwahoddir sylwadau ar bwnc penodol neu gyfres o bynciau, neu ddogfen ddrafft. |
Dangosydd Cyd-destunol |
Dangosydd a ddefnyddir i fonitro newidiadau yn y cyd-destun y caiff y cynllun ei weithredu neu ei baratoi ynddo. |
Dyfroedd Rheoledig |
Mae'n cynnwys afonydd, llynnoedd, pyllau, nentydd, camlesi, dyfroedd arfordirol, aberoedd a dŵr daear. |
Cefn Gwlad |
Tir sydd y tu allan i'r aneddiadau diffiniedig, fel y'i nodir ar y Map Cynigion, ac mae'n cynnwys grwpiau bach o anheddau sydd wedi'u gwasgaru ar draws y Sir. |
Aneddiadau Diffiniedig |
Yr aneddiadau hynny a nodwyd ym Mholisi Strategol SP16: Dosbarthu Cynaliadwy – Fframwaith Aneddiadau. |
Cytundeb Cyflawni |
Dogfen sy'n cynnwys amserlen yr ACLl ar gyfer paratoi'r CDLl ynghyd â'i Gynllun Cynnwys Cymunedau, a gyflwynir i Lywodraeth Cymru er mwyn cytuno arni. |
Dwysedd |
Yn achos datblygiad preswyl, mesuriad naill ai o nifer yr ystafelloedd y gellid byw ynddynt fesul hectar (neu erw) neu nifer yr anheddau fesul hectar (neu erw). |
Adneuo |
Y term a ddefnyddir ar gyfer y broses o gyhoeddi polisïau manwl y Cynllun a'r cynigion ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd. Gosod y Cynllun "ar adnau". |
Dogfennau Adneuo |
Mae'r rhain yn cynnwys y CDLl Adneuo, yr Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd, yr adroddiad ymgynghori cychwynnol, y gofrestr safleoedd ymgeisio, yr Adroddiad Adolygu (os yn briodol), ac unrhyw ddogfennau ategol perthnasol. |
Datganiad Dylunio a Mynediad |
Mae'r gofyniad i gael Datganiad Dylunio a Mynediad a chynnwys dogfennau o'r fath yn ffurfio rhan o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016. Mae Datganiadau Dylunio a Mynediad yn cyd-fynd â rhai ceisiadau a rhaid iddynt, ymhlith pethau eraill, esbonio'r egwyddorion a'r cysyniadau dylunio a gymhwyswyd i'r datblygiad, dangos y camau a gymerwyd i arfarnu cyd-destun y datblygiad a sut y mae dyluniad y datblygiad yn rhoi ystyriaeth i'r cyd-destun hwnnw, yn esbonio'r polisi neu'r dull a fabwysiadwyd o ran mynediad a sut y caiff polisïau sy'n ymwneud â mynediad yn y cynllun datblygu eu hystyried, ac egluro sut yr aethpwyd i'r afael â materion penodol a allai effeithio ar fynediad i'r datblygiad. |
Terfynau Datblygu |
Llinell a dynnir er mwyn diffinio ardal anheddiad lle mae datblygu'n dderbyniol mewn egwyddor, yn amodol ar roi ystyriaeth fanwl i'r amgylchedd, amwynder, mynediad, darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ac ystyriaethau eraill. Ystyrir ardaloedd y tu allan i'r terfynau fel cefn gwlad agored. |
Uniongyrchol Gysylltiedig |
Safleoedd sy'n gysylltiedig yn ffisegol, yn swyddogaethol ac yn weledol ag anheddiad a ddiffinnir ym Mholisi Strategol SP16. |
Gwytnwch Ecosystemau |
Gallu ecosystemau i ymdopi â phwysau, aflonyddwch a newid – naill ai trwy eu gwrthsefyll, trwy adferiad neu trwy addasu iddynt. Mae cyflawni gwytnwch ecosystemau yn ymwneud â gweithio ar raddfeydd mwy, hyrwyddo cysylltiadau swyddogaethol rhwng mannau naturiol, sicrhau bod ganddynt amrywiaeth naturiol uchel, eu bod mewn cyflwr da ac yn cynyddu mewn maint. Mae bioamrywiaeth yn elfen sylfaenol hanfodol o bob ecosystem wydn. Mae gan bob ecosystem weithredol a gwydn fioamrywiaeth nodweddiadol sy'n iach ac sy'n fynych yn gyfoethog. |
Tir Cyflogaeth |
Tir a ddefnyddir at ddibenion cyflogaeth gan un neu fwy o'r canlynol: swyddfeydd, gweithgynhyrchu, ymchwil a datblygu, storio a dosbarthu (gweler hefyd Dosbarthiadau Defnydd). |
Ymgysylltu |
Proses sy'n annog ystyriaeth sylweddol mewn cymuned. Ymgais ragweithiol i gynnwys unrhyw grŵp penodol o bobl/rhan o'r gymuned. |
Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol |
Gwerthuso canlyniadau amgylcheddol tebygol datblygiad ac ystyried sut y gellid lleihau difrifoldeb yr effeithiau. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr ar gyfer mathau penodol o ddatblygiad, sy'n aml yn gynlluniau mwy o faint, gyflwyno Datganiad Amgylcheddol i gyd-fynd â chais cynllunio, er mwyn nodi canfyddiadau'r broses Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol fel y gellir penderfynu a ddylid rhoi caniatâd ar sail fwy gwybodus. |
Sylfaen Dystiolaeth |
Dehongli gwybodaeth sylfaenol neu wybodaeth/data arall i ddarparu'r sail ar gyfer polisi'r cynllun. |
Afonol |
Yn ymwneud â chwrs dŵr megis afon, ffrwd neu nant. |
Llifogydd Afonol |
Llifogydd o afonydd. |
Geoamrywiaeth |
Yr amrywiaeth o ddeunyddiau, ffurfiau a phrosesau sy'n ffurfio ac yn siapio'r Ddaear. Mae'n cynnwys daeareg, creigiau a'u proses o newid a geomorffoleg, tirffurfiau a thopograffeg. |
Daearegol |
Yn ymwneud â strwythur a sylwedd ffisegol y ddaear. |
Geomorffolegol |
Nodweddion ffurf neu arwyneb y ddaear |
Seilwaith Gwyrdd |
Y rhwydwaith o ofod gwyrdd aml-swyddogaethol, sy'n cwmpasu tir a dŵr (gofod glas). Mae'r ardaloedd Seilwaith Gwyrdd yn cynnwys nodweddion presennol a rhai newydd (wedi'u creu) mewn ardaloedd gwledig a threfol fel ei gilydd. Mae'r rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd yn darparu amrywiaeth eang o Wasanaethau Ecosystem gan gynnwys manteision amgylcheddol ac ansawdd bywyd i gymunedau lleol. |
Safle maes glas |
Tir na adeiladwyd arno erioed. |
Glampio |
Dull moethus o wersylla heb fod yn barhaol. |
Dŵr daear |
Dŵr sydd wedi treiddio i mewn i'r strata tanddaearol, gan gynnwys priddoedd, a gall ffurfio pyllau neu nentydd tanddaearol, a all ollwng uwchlaw'r ddaear ond yn is i lawr y dalgylch. |
Cynefin |
Ardal sydd o ddiddordeb o safbwynt cadwraeth natur. |
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd |
Y broses o fynd ati'n briodol i sgrinio ac asesu'r opsiynau sy'n ofynnol o dan Ran 6 Pennod 8 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (fel y'u diwygiwyd) (y Rheoliadau Cynefinoedd) - proses ailadroddol gydnabyddedig sy'n helpu i bennu'r effeithiau tebygol ar gynllun neu raglen a (lle bo'n briodol) asesu effeithiau andwyol ar uniondeb safle Ewropeaidd. Mae'n ofynnol i'r asesiad gael ei gynnal gan awdurdod cymwys gyda golwg ar gynlluniau neu brosiectau sy'n debygol o gael effaith arwyddocaol (ar eu pennau eu hunain ac yn gyfunol â chynlluniau a phrosiectau eraill) ar "safle Ewropeaidd" (gweler paragraff 5.1.2 o TAN 5), neu fel mater polisi, mae "safle Ewropeaidd" neu safle Ramsar arfaethedig, o dan ddarpariaethau Erthygl 6 (3) o Gyfarwyddeb y Gymuned Ewropeaidd 92/43/ECC (y Gyfarwyddeb Cynefinoedd), rheoliadau 61 a 102 o'r Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (fel y'u diwygiwyd) 2010, a rheoliad 25 o Reoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol &c) 2007. |
Tai Amlfeddiannaeth |
Mae tŷ amlfeddiannaeth yn eiddo a feddiennir gan dri neu fwy o denantiaid nad ydynt yn byw gyda'i gilydd fel aelwyd teulu unigol, sy'n rhannu amwynderau sylfaenol megis cegin, ystafell ymolchi neu gyfleusterau toiled ond sydd ag ystafelloedd gwely ar wahân. Mae'r term yn ymwneud ag ystafelloedd gwely, fflatiau heb fod yn hunangynhwysol, tai a rennir a thai llety. |
Datblygiad Mewnlenwi |
Datblygu bwlch bach rhwng adeiladau sy'n bodoli eisoes. I fod yn gymwys fel datblygiad mewnlenwi, rhaid i'r datblygiad arfaethedig fod yn unol â maint a chymeriad yr anheddiad penodol. |
Seilwaith |
Mae'n cynnwys gwasanaethau fel ffyrdd, cyfleusterau trafnidiaeth, cyflenwadau dŵr, carthffosiaeth a'r cyfleusterau trin dŵr gwastraff cysylltiedig, cyfleusterau rheoli gwastraff, cyflenwadau ynni (trydan a nwy) a rhwydweithiau dosbarthu a seilwaith telathrebu. Mae seilwaith meddal yn cynnwys TGCh a thelathrebu. |
Y Strategaeth Gymunedol Integredig |
Mae'n ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Rhan 2: Adrannau 37-46) gyda'r nod o wella lles cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd eu hardaloedd. Cyfeirir ati hefyd fel "Cynllun Integredig Sengl". |
Landmap |
Asesiad tirwedd Cymru gyfan a drefnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Cymru. Cyflwynwyd yn 1997 a chafodd ei ddiweddaru yn 2003. Mae methodoleg a phroses sicrhau ansawdd LANDMAP yn sicrhau adnodd sy'n gyson yn genedlaethol ar gyfer cynllunio tirweddau a gwneud penderfyniadau. Caiff gwybodaeth LANDMAP ei chasglu mewn ffordd strwythuredig a thrylwyr sy'n cael ei diffinio gan bum pennod methodolegol, sef y Dirwedd Ddaearegol, Cynefinoedd y Dirwedd, y Dirwedd Weledol a Synhwyraidd, y Dirwedd Hanesyddol a'r Dirwedd Ddiwylliannol. |
Tirwedd |
Ardal, fel y'i hystyrir gan bobl, y mae ei chymeriad yn ganlyniad i weithredu a rhyngweithio rhwng ffactorau naturiol a/neu ddynol. |
Adeiladau Rhestredig |
Caiff adeiladau eu 'rhestru' oherwydd yr ystyrir eu bod o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig ac o ganlyniad, fod angen mesurau arbennig i'w diogelu. Mae rhestru yn diogelu'r adeilad cyfan, y tu mewn a'r tu allan, ac o bosibl yr adeiladau cyfagos hefyd os cawsant eu hadeiladu cyn 1af Gorffennaf 1948. Y prif ddiben yw diogelu'r adeilad a'r hyn sydd o'i gwmpas rhag newidiadau, a fyddai'n peri newid o bwys o ran pwysigrwydd hanesyddol neu bensaernïol arbennig yr adeilad neu ei union leoliad. |
Ardal Leol ar gyfer Chwarae (LAP) |
Fel arfer, ardaloedd bach o fannau agored wedi'u tirweddu ar gyfer plant ifanc sy'n agos i'r man lle mae'r plant yn byw. |
Ardal Leol â Chyfarpar ar gyfer Chwarae (LEAP) |
Ardal chwarae a hamdden â chyfarpar (anffurfiol). |
Awdurdod Cynllunio Lleol |
Awdurdod cynllunio sy'n gyfrifol am baratoi CDLl. |
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) |
Y cynllun datblygu statudol gofynnol ar gyfer pob ardal awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Cynllun defnydd tir sy'n destun archwiliad annibynnol, a fydd yn ffurfio'r cynllun datblygu statudol ar gyfer ardal awdurdod cynllunio lleol at ddibenion y Ddeddf. Dylai gynnwys gweledigaeth, strategaeth, polisïau ar draws yr ardal ar gyfer mathau o ddatblygiadau, dyraniadau tir, a pholisïau a chynigion ar gyfer ardaloedd allweddol o newid a gwarchodaeth lle bo angen. Rhaid dangos polisïau a dyraniadau yn ddaearyddol ar y Map Cynigion sy'n rhan o'r cynllun. |
Tai Angen Lleol |
Bydd yr holl dai fforddiadwy newydd sydd ar gyfer angen lleol yn cael eu cyfyngu i'r rheiny sy'n gallu dangos bod angen iddynt fyw yn yr ardal a bod angen tŷ fforddiadwy arnynt. Yn ymarferol rhaid i'r preswylydd fodloni un o'r meini prawf canlynol:
(a) Yn gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd neu wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd o fewn pum mlynedd i ddyddiad ei gais; (b) Wedi rhoi'r gorau yn ddiweddar i breswylio mewn llety a ddarperir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dilyn marwolaeth priod neu bartner sifil y person hwnnw, neu y bydd ei hawl i wneud hynny yn dod i ben, os - (i) yw'r priod neu'r partner sifil wedi gwasanaethu yn y lluoedd rheolaidd; a (ii) bod ei farwolaeth i'w briodoli (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) i'r gwasanaeth hwnnw; neu c) Ei fod yn gwasanaethu neu wedi gwasanaethu yn y lluoedd wrth gefn ac yn dioddef o anaf difrifol, salwch neu anabledd y gellir ei briodoli (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) i'r gwasanaeth hwnnw, a chyfyngir hefyd ar dai ar gyfer angen lleol fforddiadwy i:
Mae angen iddynt symud o lety sy'n cael ei rannu, sydd dros dro, sy'n orlawn neu sydd â pheryglon sylweddol. Dylid rhoi sylw i'r ddeddfwriaeth tai berthnasol, neu Mae angen cartref arno o ganlyniad i adael llety clwm, neu Mae'n berson hŷn neu anabl ac mae angen iddo symud i lety mwy addas oherwydd cyflyrau meddygol. |
Cynllun Llesiant Lleol |
O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 bydd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael eu sefydlu ar gyfer pob ardal awdurdod lleol; y bwriad yw y bydd pob un yn paratoi Cynllun Llesiant i ddisodli'r Cynllun Integredig Sengl erbyn Ebrill 2018 (a. 39). |
Cynllun Morol |
Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a baratowyd o dan Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. |
Tai'r Farchnad |
Tai preifat i'w rhentu neu eu gwerthu lle caiff y pris ei osod ar y farchnad agored. (TAN2: Geirfa). |
Lliniaru |
Mesurau i osgoi, lleihau neu wrthbwyso effeithiau andwyol arwyddocaol. |
Defnydd Cymysg |
Datblygiadau neu gynigion sy'n cynnwys mwy nag un math o ddefnydd ar un safle. |
Maes Chwarae Amlddefnydd |
Ardal amlbwrpas yn yr awyr agored wedi'i gwneud o facadam, arwyneb polymerig, neu laswellt artiffisial ac mae wedi'i chynllunio i'w defnyddio ar gyfer amrywiaeth o wahanol chwaraeon a gemau gan gynnwys pêl-droed, hoci, rygbi, criced, a thenis. |
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol |
Gwneir darpariaeth o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ar gyfer paratoi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Caiff y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ei baratoi gan Lywodraeth Cymru a bydd yn pennu fframwaith defnydd tir 20 mlynedd i Gymru, a bydd yn disodli Cynllun Gofodol Cymru sy'n bodoli ar hyn o bryd. |
Gwarchodfa Natur Genedlaethol |
Ardal sydd wedi'i dynodi oherwydd ei phwysigrwydd cenedlaethol i gadwraeth natur ac a gaiff ei rheoli drwy gytundebau gwarchodfa natur ar y cyd â thirfeddianwyr ac ati. |
Adnoddau Naturiol |
Deunyddiau sydd i'w cael yn naturiol sy'n ddefnyddiol i ddyn. Maent yn cynnwys mwynau, coed, tir, ecosystemau, ac ati. |
Ardal â Chyfarpar Cymdogaeth ar gyfer Chwarae |
Lle chwarae â chyfarpar i blant a phobl ifanc. |
Aneddiadau Gwledig Anniffiniedig |
Aneddiadau gwledig anniffiniedig yw'r rheiny sy'n cynnwys grŵp o dai annedd presennol sy'n ffurfio pentrefan/anheddiad nad yw wedi'i ddiffinio ym Mholisi SP16. |
Amcan/Amcan Strategol |
Datganiad o'r hyn a fwriedir, gan nodi'r cyfeiriad a ddymunir ar gyfer newid mewn tueddiadau. |
Mannau Agored |
Pob gofod o werth cyhoeddus, gan gynnwys ardaloedd wedi'u tirweddu'n gyhoeddus, meysydd chwarae, parciau a mannau chwarae, ac sydd nid yn unig yn cynnwys tir, ond hefyd ardaloedd o ddŵr megis afonydd, camlesi, llynnoedd a chronfeydd dŵr, sy'n gallu cynnig cyfleoedd ar gyfer chwaraeon a hamdden neu sydd hefyd yn gallu gweithredu fel amwynder gweledol a hafan i fywyd gwyllt. |
Cyrsiau Dŵr Cyffredin |
Yr holl gyrsiau dŵr nad ydynt yn brif afon ddynodedig, ac y mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am eu rheoleiddio. |
Partneriaid |
Adrannau lleol/awdurdodau Parc Cenedlaethol eraill a chyrff statudol lle bydd y CDLl yn helpu i gyflawni rhai o amcanion eu strategaethau. Efallai y bydd disgwyl i bartneriaid gyfrannu at lunio rhannau perthnasol o'r CDLl. |
Llunio lleoedd |
Proses ac offeryn i ddylunio a rheoli'r amgylchfyd cyhoeddus ar y cyd i greu mannau o ansawdd y mae pobl am fyw a gweithio ynddynt, sy'n apelgar, yn hygyrch, yn ddiogel ac yn cefnogi rhyngweithio cymdeithasol ac amwynderau. |
Cyfnod y Cynllun |
Y cyfnod o amser y mae cynllun yn ei gwmpasu sef hyd at 2033. |
Rhwymedigaeth Gynllunio |
Cytundeb cyfreithiol rhwng ymgeisydd a'r awdurdod cynllunio lleol i sicrhau bod datblygiad yn cael ei wneud mewn ffordd benodol. Cyfeirir ati hefyd fel Cytundeb Adran 106. |
Polisi Cynllunio Cymru |
Mae Polisi Cynllunio Cymru yn pennu polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cynulliad Cymru. Caiff ei ategu gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol. Darperir cyngor gweithdrefnol drwy gylchlythyrau a llythyrau egluro polisi. |
Meysydd Chwarae |
Tir sydd wedi'i osod yn llain neu'n lleiniau ar gyfer gemau. |
Glawog |
Yn ymwneud â glawiad - cynnydd mewn glaw, sy'n gallu achosi llifogydd dŵr wyneb cyn mynd i mewn i gyrsiau dŵr a'r system ddraenio. |
Llifogydd glaw |
Llifogydd o ddŵr wyneb. Mae hyn yn digwydd pan fydd glaw trwm yn dirlenwi systemau draenio ac ni allant dderbyn rhagor o ddŵr. |
Dogfennau Cyn-adneuo (CDLl) |
Mae'r rhain yn cynnwys y weledigaeth, yr opsiynau strategol, y strategaeth a ffefrir, polisïau allweddol, yr Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd, y gofrestr o safleoedd ymgeisio, Adroddiad Adolygu (os yn briodol). |
Cam Cyn-adneuo |
Yn y Llawlyfr CDLl, y cyfeirir ato fel yr Opsiynau Strategol a'r cam Strategaeth a Ffefrir o baratoi CDLl. |
Tir a Ddatblygwyd o'r Blaen |
Gweler y diffiniad o dir a ddatblygwyd o'r blaen a geir ym Mholisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10 - paragraff 3.51. |
Rhywogaethau a Warchodir |
Rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid a gaiff eu diogelu o dan ddeddfau a rheoliadau penodol. |
Hawliau Tramwy Cyhoeddus |
Llwybrau y mae gan y cyhoedd hawl i'w tramwyo. Mae Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn cynnwys llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd. |
Ramsar |
Safle gwlyptir sydd o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer cadwraeth natur. Mae'r dynodiad yn cael ei alluogi gan Gonfensiwn Ramsar 1971 lle mae Llywodraethau Ewropeaidd sy'n cymryd rhan yn ymrwymo i ddiogelu ardaloedd o'r fath. |
Safleoedd Daearegol / Geomorffolegol o Bwysigrwydd Rhanbarthol (RIGs) |
Safleoedd gwyddor daear a ddynodwyd yn lleol, sy'n cael eu dewis gan ddefnyddio meini prawf y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. |
Ynni Adnewyddadwy |
At ddibenion polisi cynllunio, diffinnir ynni adnewyddadwy fel y ffynonellau ynni hynny, ac eithrio tanwydd ffosil neu danwydd niwclear, sydd ar gael yn yr amgylchedd yn barhaus ac mewn modd cynaliadwy. Mae'r rhain yn cynnwys gwynt, dŵr, haul, ynni geothermol a deunydd o blanhigion (biomas). Ynni carbon isel yw'r term a ddefnyddir i ymdrin â thechnolegau sy'n defnyddio ynni'n effeithlon (ond nid yw'n cynnwys niwclear). |
Gwastraff Gweddilliol |
Mae gwastraff gweddilliol yn parhau ar ôl i ddeunydd y gellir ei ailgylchu neu ei gompostio gael ei dynnu o'r ffrwd wastraff. |
Adroddiad Adolygu |
Yr adroddiad statudol gofynnol o dan Adran 69 o Ddeddf 2004 a/neu Reoliad 41; i ddod i gasgliad ynghylch y weithdrefn adolygu CDLl sydd i'w dilyn yn seiliedig ar asesiad clir o'r hyn a ystyriwyd a'r hyn sydd angen ei newid a pham, yn seiliedig ar dystiolaeth. |
Datblygiad Hirgul |
Estyniad llinellol aneddiadau, gan gynnwys datblygiadau ar y tu blaen ar hyd ffyrdd dynesu, gan arwain at fod datblygiadau yn ymwthio'n ddiangen i gefn gwlad. |
Coridor Afonol |
Y rhan o'r gorlifdir sydd agosaf at y sianel ddŵr ac a ddylanwadir yn fawr gan y nant/afon. Mae'r nant/afon a'r coridor yn rhyngweithio â'i gilydd mewn ffordd sy'n fuddiol i'r ddwy ochr. |
Menter Wledig |
Busnesau sy'n gysylltiedig â'r tir gan gynnwys amaethyddiaeth, coedwigaeth a gweithgareddau eraill sy'n cael eu mewnbynnau sylfaenol o'r safle, megis prosesu cynhyrchion amaethyddol, coedwigaeth a mwynau ynghyd â gweithgareddau rheoli tir a gwasanaethau ategol (gan gynnwys contractio amaethyddol), twristiaeth a mentrau hamdden. |
Heneb Gofrestredig |
Safleoedd archaeolegol neu adeiladau hanesyddol o bwysigrwydd cenedlaethol, a gaiff eu hamddiffyn rhag newid anawdurdodedig drwy ddeddfwriaeth sylfaenol. |
Cytundeb Adran 106 |
Gweler Rhwymedigaethau Cynllunio. |
Cynllun Integredig Sengl |
Cyflawni dyletswyddau statudol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ("Cydamcanu – Cydymdrechu", LlC 2012), gan gynnwys Strategaethau Cymunedol; a gaiff eu paratoi gan Fwrdd Gwasanaethau Lleol. Gweler "Cynlluniau Llesiant Lleol" sydd i ddisodli Cynlluniau Integredig Sengl. |
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) |
Caiff Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig eu hysbysu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) o dan ddeddfwriaeth i roi amddiffyniad i blanhigion, anifeiliaid a nodweddion daearegol neu ffisiolegol o ddiddordeb arbennig. |
Dyraniadau Safle-benodol |
Dyraniadau safleoedd (cynigion) ar gyfer defnydd penodol neu ddefnydd cymysg neu ddatblygiad. Bydd polisïau yn nodi unrhyw ofynion penodol ar gyfer cynigion unigol gyda'r dyraniadau a ddangosir ar fap cynigion y CDLl. |
Cadernid |
Er mwyn i Gynllun Datblygu Lleol gael ei fabwysiadu, rhaid i'r Arolygydd sy'n ei archwilio benderfynu ei fod yn 'gadarn' (Adran 64 o Ddeddf 2004). Nodir profion a gwiriadau cadernid ym Mholisi Cynllunio Cymru. |
Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) |
Safleoedd o bwysigrwydd cadwraeth rhyngwladol a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru o dan y Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar Warchod Cynefinoedd Naturiol a Phlanhigion ac Anifeiliaid Gwyllt. Yn ogystal, ceir safleoedd ymgeisio ACA a ddylai, fel mater o bolisi'r Llywodraeth, gael eu hystyried fel ACA llawn wrth archwilio effeithiau defnydd tir. |
Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) |
Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer Adar Gwyllt o dan y Gymuned Ewropeaidd. Mae Cyfarwyddeb y Cyngor ar Warchod Adar Gwyllt (79/4C9/EEC) yn diogelu a rheoli pob rhywogaeth o adar gwyllt sy'n digwydd yn naturiol. |
Polisïau Penodol |
Cyfres o bolisïau yn seiliedig ar feini prawf a fydd yn sicrhau bod pob datblygiad yn yr ardal yn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y Strategaeth. |
Rhanddeiliaid |
Buddiannau y mae'r CDLl (a/neu'r Asesiad Amgylcheddol Strategol) yn effeithio'n uniongyrchol arnynt - trwy gyrff cynrychioliadol yn gyffredinol. |
Datganiad o Dir Cyffredin |
Diben Datganiad o Dir Cyffredin yw sefydlu'r prif feysydd lle ceir cytundeb rhwng dau neu ragor o bartïon ar fater penodol. |
Cynllun Datblygu Strategol |
Gwneir darpariaeth o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu Strategol ar lefel ranbarthol. Bydd y Cynllun Datblygu Strategol yn ystyried y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ac yn ymateb ar lefel ranbarthol i faterion strategol. |
Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS) |
Term a ddefnyddir yn rhyngwladol i ddisgrifio asesiad amgylcheddol fel y caiff ei gymhwyso i gynlluniau a rhaglenni. Mae proses AAS yn deillio o ddeddfwriaeth Ewropeaidd a chaiff ei diffinio ar lefel Ewropeaidd -Cyfarwyddeb 2001/42/EC. Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 (Rheoliadau AAS) yn gofyn am "asesiad amgylcheddol ffurfiol o gynlluniau a rhaglenni penodol, gan gynnwys y rheiny ym maes cynllunio a defnydd tir". |
Amcanion Strategol |
Cyfres o fwriadau cyffredinol sy'n ymhelaethu ar y Weledigaeth ac sy'n canolbwyntio ar gyflawni'r Cynllun. |
Canllawiau Cynllunio Atodol |
Maent yn ffurfio dogfen/gwybodaeth atodol mewn perthynas â'r polisïau mewn CDLl. Nid yw Canllawiau Cynllunio Atodol yn ffurfio rhan o'r cynllun datblygu ac nid ydynt yn destun archwiliad annibynnol ond rhaid iddynt fod yn gyson â'r Cynllun ac â pholisi cynllunio cenedlaethol. Gellir eu datblygu i ystyried agweddau unigol neu thematig ar y Cynllun a dyrannu safleoedd gan gynnwys prif gynlluniau. |
Arfarniad Cynaliadwyedd |
Offeryn ar gyfer arfarnu polisïau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu amcanion datblygu cynaliadwy (h.y. ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd). Mae'n ofynnol i bob ACLl, yn ôl Adran 62 (6) o Ddeddf 2004, ymgymryd ag Arfarniad Cynaliadwyedd o'r CDLl. Mae'r math hwn o Arfarniad Cynaliadwyedd yn ymgorffori gofynion y Rheoliadau AAS yn llawn. |
Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd |
Dogfen y mae'n ofynnol ei chynhyrchu fel rhan o'r broses Arfarnu Cynaliadwyedd i ddisgrifio ac arfarnu'r effeithiau arwyddocaol tebygol ar gynaliadwyedd wrth weithredu'r CDLl, sydd hefyd yn bodloni'r gofyniad am Adroddiad Amgylcheddol o dan y Rheoliadau AAS. Mae Adran 62 (6) o Ddeddf 2004 yn ei gwneud yn ofynnol i bob ACLl baratoi adroddiad o ganfyddiadau'r Arfarniad Cynaliadwyedd o'r CDLl. Cynhyrchir yr Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd yn gyntaf yn ystod y cam Strategaeth a Ffefrir (yr Adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd Interim), ehangir arno yn y cam CDLl Adneuo a'i gwblhau ochr yn ochr â'r Datganiad Mabwysiadu. |
Nodiadau Cyngor Technegol (TAN) |
Dogfen yn seiliedig ar bynciau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i ategu Polisi Cynllunio Cymru. |
Gweledigaeth |
Mae'n diffinio diben craidd y Cynllun. |
Cynllun Gofodol Cymru |
Cynllun a baratowyd ac a gymeradwywyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Adran 60 o Ddeddf 2004, sy'n nodi fframwaith strategol i lywio datblygiadau ac ymyriadau polisi yn y dyfodol, p'un a yw'r rhain yn ymwneud â rheoli cynlluniau defnydd tir yn ffurfiol ai peidio. O dan Adran 62 (5) (b) o Ddeddf 2004, rhaid i awdurdod cynllunio lleol roi sylw i Gynllun Gofodol Cymru wrth baratoi CDLl. |
Atodiadau
Atodiad 1: Cyd-destun - Canllawiau Polisi Cynllunio Cenedlaethol a Deddfwriaethol
Atodiad 2: Cyd-destun Strategol Rhanbarthol a Lleol
Atodiad 3: Canllawiau Cynllunio Atodol
Atodiad 4: Safleoedd Mwynau
Atodiad 5: Llwybrau Teithio Llesol
Atodiad 6: Asesiad Polisi
Atodiad 7: Dosbarthiad Tai
Atodiad 8: Cyfleusterau Rheoli Gwastraff