Deposit LDP

Daeth i ben ar 2 Hydref 2020
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

2. Beth yw'r Cynllun Adneuo?

2.1 Mae'r CDLl Diwygiedig Adneuo hwn yn rhan o set o ddogfennau y mae'n ofynnol ein bod yn eu paratoi fel rhan o'r broses o gynhyrchu'r CDLl Diwygiedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Mae'n gam hanfodol wrth baratoi'r Cynllun Datblygu ar gyfer Sir Gaerfyrddin ac mae'n dilyn cyhoeddiad y Cytundeb Cyflawni fel y'i cymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ar 28 Mehefin 2018[3] a'r Strategaeth a Ffefrir Cyn-adneuo a gyhoeddwyd at ddibenion ymgynghori ym mis Rhagfyr 2018.

2.2 Mae'r CDLl Adneuo hwn yn datblygu'r gwaith sydd wedi cael ei wneud hyd yn hyn o ran casglu tystiolaeth, ymgysylltu â rhanddeiliaid a gwaith Cyn-adneuo, gan gynnwys yr hyn sydd yn y Strategaeth a Ffefrir, ac yn ceisio datblygu'r cyfeiriad strategol drwy bolisïau a chynigion mwy manwl o ran defnydd tir (gan gynnwys dyrannu tir i'w ddatblygu).

2.3 Mae'r CDLl Adneuo yn cynnwys datganiad ysgrifenedig sy'n manylu ar ei bolisïau a'i gynigion a map cynigion ar sail ddaearyddol. Mae ei strwythur a'i fformat yn fras fel a ganlyn:

  • Cyflwyniad:Gwybodaeth gefndir gyffredinol am CDLl Sir Gaerfyrddin gan gynnwys amlinellu rôl yr Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn y broses o lunio'r cynllun.
  • Cyd-destun Polisi: Yn nodi'r ffordd mae'r CDLl yn alinio â'r cyd-destun polisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, ac yn rhoi sylw iddo.
  • Materion ac Ysgogwyr Allweddol: Yn amlinellu materion a nodwyd mewn perthynas â'r CDLl.
  • Gweledigaeth ac Amcanion Strategol: Yn cyflwyno Gweledigaeth y CDLl a'r Amcanion Strategol cysylltiedig, gan gyfleu'r math o le y rhagwelir y dylai Sir Gaerfyrddin fod. Rôl yr Amcanion Strategol yw gosod y cyd-destun ar gyfer gwireddu'r weledigaeth.
  • Strategaeth a Pholisïau Strategol: Yn amlinellu cyfeiriad strategol y CDLl sydd, ynghyd â'r fframwaith gofodol ac aneddiadau a'r polisïau strategol, yn rhoi'r cyd-destun ar gyfer polisïau manwl a phenodol.
  • Polisïau Penodol: Polisïau manwl sy'n ymdrin â meysydd polisi penodol ac yn darparu polisïau cyffredinol ar gyfer rheoli datblygiadau y caiff pob cynnig ar gyfer datblygiad yn y sir ei asesu yn unol â hwy. Mae'r polisïau hyn yn nodi dyraniadau defnydd tir at ddibenion preswyl, cyflogaeth a dibenion eraill, ardaloedd a ddynodir i gael gwarchodaeth arbennig, a pholisïau (gan gynnwys polisïau meini prawf) sy'n llywio'r defnydd tir a datblygiadau yn ardal y cynllun. Maent yn creu sylfaen gadarn ar gyfer ystyried ceisiadau ac apeliadau cynllunio mewn ffordd resymegol a chyson. Mae'r polisïau wedi'u halinio â'r polisïau strategol ac yn cynnwys cyfiawnhad rhesymedig.
  • Gweithredu a Monitro:Yn nodi ac yn cynnwys targedau allweddol a manylion am berfformiad y cynllun a mesurau i'w fonitro.
    Gwybodaeth dechnegol a chefndir sy'n rhoi manylion i gefnogi cynnwys y cynllun, neu i ddarparu gwybodaeth i helpu i'w ddehongli.
  • Map Cynigion ar Sail Ddaearyddol - Mae'r Map Cynigion ynghyd â mapiau mewnosod o aneddiadau neu ardaloedd datblygu penodol yn nodi polisïau a chynigion ar sail ddaearyddol.

2.4 Mae gwybodaeth bellach ynghylch camau paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol ar gael o fewn y Cytundeb Cyflawni neu ar dudalennau gwe'r cyngor.

2.5 Dylid darllen ac ystyried y Cynllun Adneuo hwn fel cyfanwaith, gan ystyried darpariaethau Polisi Cynllunio Cymru a'r Nodiadau Cyngor Technegol perthnasol.

2.6 Cafodd y CDLl Adneuo hwn ei baratoi gan roi sylw i ddogfennau a strategaethau gofodol a thematig eraill a gynhyrchwyd ar lefelau cenedlaethol a rhanbarthol, ynghyd â'r rheiny â phwyslais lleol. Cydnabu'r broses o baratoi'r cynllun y pwys a roddwyd ar gydnawsedd a synergedd corfforaethol, ynghyd â'r angen i ystyried y berthynas rhwng y CDLl a'r Cynllun Llesiant[4]. Mae'r CDLl hefyd yn rhan annatod o Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor[5].

2.7 Mae Arfarniad Cynaliadwyedd o'r CDLl Adneuo wedi'i gyhoeddi fel dogfen ar wahân ynghyd ag Adroddiad yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Mae'r ddwy ddogfen hyn ar gael ar gyfer ymgynghori a chroesawir sylwadau am eu cynnwys. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain fel a ganlyn:

Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol

2.8 Mae cynnal yr Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol yn rhan annatod o'r gwaith o baratoi'r CDLl ac mae'n orfodol o dan ddarpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Mae'r Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol wedi ystyried effeithiau cymdeithasol ac economaidd y CDLl yn ogystal â'r agweddau amgylcheddol ac wedi ystyried amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys iechyd (gan gynnwys iechyd meddwl) a'r iaith Gymraeg. Yn unol â Chyfarwyddeb Asesu Amgylcheddol Strategol yr Undeb Ewropeaidd (2001/42/EC) ac fel rhan o'r broses o baratoi'r CDLl, mae'n ofynnol i'r Awdurdod gynnal asesiad amgylcheddol ffurfiol o gynlluniau a rhaglenni sy'n debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd.

2.9 Mae'r Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol yn hwyluso archwiliad trwyadl o'r materion, heriau a chyfleoedd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd (gan gynnwys problemau amgylcheddol fel sy'n ofynnol gan y Gyfarwyddeb Asesu Amgylcheddol Strategol) y mae Sir Gaerfyrddin yn eu hwynebu. Wrth wneud hynny, mae wedi'i blethu â'r broses o baratoi'r CDLl hwn ac roedd yn ganolog i'r gwaith o ddatblygu'r Materion a'r Amcanion, yn ogystal â nodi strategaeth, ac i'r CDLl.

2.10 Gellir gweld y camau allweddol wrth baratoi'r Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol yma.

Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

2.11 Yn unol â Chyfarwyddeb Ewropeaidd 92/43/EEC (y Gyfarwyddeb Cynefinoedd) mae'n ofynnol i awdurdodau cymwys (y Cyngor yn yr achos hwn) gynnal Asesiad Priodol pan fydd cynllun defnydd tir, naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd ag effeithiau cynlluniau neu brosiectau eraill, yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar un neu ragor o safleoedd dynodedig Ewropeaidd.

2.12 Wrth baratoi'r CDLl hwn, mae'r Cyngor wedi ymdrechu i addasu'r cynllun er mwyn sicrhau na fyddai effaith andwyol ar gyfanrwydd safleoedd dynodedig Ewropeaidd. Mae'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn ymdrin â'r canlynol:

  • Pennu effeithiau arwyddocaol tebygol cynllun datblygu ar Safleoedd Ewropeaidd lle bo'n berthnasol;
  • Edrych ar ba bolisïau/cynlluniau sy'n galw am Asesiad Priodol a sut y caiff ei gynnal;
  • Cyflawni'r Asesiad Priodol, os oes angen; a,
  • Defnyddio "prawf cyfanrwydd y safle" er mwyn penderfynu a oes gan gynlluniau datblygu neu elfennau ynddynt unrhyw atebion amgen neu a oes rhesymau hanfodol dros fwrw ymlaen â'r datblygiad er budd y cyhoedd.

2.13 Mae'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn cael ei baratoi ochr yn ochr â'r CDLl fel proses ailadroddol ac integredig. Mae'n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o lunio'r CDLl a'i bolisïau a'i ddarpariaethau. Yn hyn o beth, mae'r CDLl yn cyflwyno polisïau a chynigion sy'n sicrhau bod gofynion y rheoliadau'n cael eu bodloni ac nad oes effaith andwyol ar gyfanrwydd y safleoedd dynodedig Ewropeaidd.

2.14 Gellir gweld y camau allweddol wrth baratoi'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yma.



[4] Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin: Y Sir Gâr a Garem 2018-2023 http://www.ysirgaragarem.cymru/media/8332/cynllun-llesiant-sir-gar-terfynol-mai-2018.pdf

[5] Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: Strategaeth Gorfforaethol Newydd y Cyngor 2018 – 2023 https://www.sirgar.llyw.cymru/media/1214849/strategaeth-gorfforaethol.pdf

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig