Deposit LDP

Daeth i ben ar 2 Hydref 2020

6. Gweledigaeth ar gyfer 'Un Sir Gâr'

6.1 Mae angen tanategu'r CDLl Diwygiedig gyda gweledigaeth a strategaeth gryno a hirdymor. Er mwyn cyflawni hyn, mae gweledigaeth glir wedi'i datblygu sydd wedi'i hadeiladu ar sail consensws. Mae'r Weledigaeth Strategol yn nodi sut y bwriedir datblygu, newid neu warchod y sir hyd at 2033.[22]

6.2 Mae gweledigaeth y CDLl Diwygiedig yn cynnwys y weledigaeth a nodir yn Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor "Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin - y 5 mlynedd nesaf - 2018-2023"[23]. Er nad oes gweledigaeth i fanteisio ar Gynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin, mae gweledigaeth y CDLl Diwygiedig yn adlewyrchu ei bedwar amcan llesiant, sef (1) Arferion Iach (2) Ymyrraeth Gynnar (3) Cysylltiadau Cryf a (4) Phobl a Lleoedd Ffyniannus.

6.3 Mae testun ategol Amcan Llesiant 4 wedi'i ymgorffori yng ngweledigaeth y CDLl Diwygiedig oherwydd pwyslais yr amcan hwn ar "wneud y gorau o gyfleoedd i bobl a lleoedd mewn rhannau trefol a gwledig o'n sir fel ei gilydd". Mae hyn yn ymateb i'r pwyslais cryf ar gydnabod ardaloedd gwledig o fewn y sgyrsiau a geir ynghylch nodi materion. Mae gweledigaeth y CDLl Diwygiedig yn cydnabod ac yn dathlu'r ffaith fod ein sir yn gyferbyniol a'i bod yn ysbrydoli ymdeimlad o le.

6.4 Mae ymagwedd "Un Sir Gâr" yn cydnabod yr angen i gydbwyso gofynion a buddiannau sy'n tynnu'n groes i'w gilydd ac yn darparu cyfle ar gyfer consensws a pherchenogaeth a rennir ar y CDLl Diwygiedig. Mae gweledigaeth y CDLl Diwygiedig hefyd yn cydnabod Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gan osod y cywair cadarnhaol a chyraeddadwy ar gyfer y cynllun yn ogystal â chaniatáu uchelgais priodol.

Un Sir Gâr

Bydd Sir Gaerfyrddin 2033 yn lle i ddechrau, byw a heneiddio'n dda mewn amgylchedd iach, diogel a ffyniannus, lle caiff ei nodweddion diwylliannol ac amgylcheddol cyfoethog (gan gynnwys yr iaith Gymraeg) eu gwerthfawrogi a'u parchu o safbwynt preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Bydd ganddi gymunedau ffyniannus, cydlynus a chynaliadwy a fydd yn rhoi mwy o gyfleoedd, ymyriadau a chysylltiadau i bobl, lleoedd a sefydliadau yn rhannau gwledig a threfol ein Sir.

Bydd ganddi economi gref sy'n adlewyrchu ei safle fel ysgogwr hyderus ac uchelgeisiol ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe.


[22] Polisi Cynllunio Cymru, Rhifyn 9 (Adran 2.2.1) a Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol Llywodraeth Cymru – Argraffiad 2 – Awst 2015, Adran 6.1.1

[23]https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-ymlaen-yn-sir-gaerfyrddin-y-5-mlynedd-nesaf/

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig