Deposit LDP
5. Nodi Materion
5.1 Mae angen i'r CDLl Diwygiedig fod yn strategol, yn gryno ac yn unigryw ar gyfer ein sir. Mae canolbwyntio ar y materion allweddol sy'n wynebu ein sir wedi'n helpu i gyflawni hyn.[16] Wrth baratoi'r CDLl Diwygiedig, rydym wedi ceisio adolygu a diweddaru ein dealltwriaeth o'r materion perthnasol.
5.2 Cesglir y materion allweddol ynghyd o dan y nodau llesiant cenedlaethol. Golygai hyn fod y materion wedi'u fframio o fewn cyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.[17] Mae hyn yn sicrhau bod buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn cael eu gwreiddio yn y broses o wneud Cynlluniau.
5.3 Mae adroddiad cwmpasu'r Arfarniad Cynaliadwyedd, yn ogystal â'r gwaith a wnaed gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel rhan o broses "Y Sir Gâr a Garem",[18] wedi llywio'r materion. Mae Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin 2018–2033[19] hefyd wedi bod yn agwedd allweddol ar y gwaith hwn.
5.4 Rydym wedi ymgysylltu ac ymchwilio'n helaeth fel rhan o'r sgwrs ynghylch creu materion. Mae hyn yn cynnwys aelodau etholedig, cynghorau tref a chymuned, y Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol, adolygiad o bolisi, adroddiad adolygu'r CDLl, amcanion/strategaethau corfforaethol, arolygon ar-lein a phroses yr Arfarniad Cynaliadwyedd.[20]
5.5 Rydym yn deall lle'r ydym ar hyn o bryd fel sir a lle'r ydym i gyd am gyrraedd. Mae hyn wedi golygu bod modd cydsynio ynghylch y materion hynny y gall cynllun gofodol / defnydd tir geisio'u hateb hyd at 2033.
5.6 Mae'r 33 mater cryno fel a ganlyn. Nodir rhagor o fanylion yn y Papur Pwnc – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion:[21]
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe sydd werth £1.3 biliwn, gyda phrosiectau wedi'u nodi yn Llanelli a Chaerfyrddin.
- Amrywiol raddau o fywiogrwydd yn ein canolfannau trefi manwerthu
- Mae angen twf priodol mewn ardaloedd gwledig (gan gynnwys cyfleoedd am waith)
- Economi ymwelwyr fywiog sydd â'r potensial i dyfu.
- Peryglon llifogydd a'r heriau a gyfyd yn sgil newydd yn yr hinsawdd
- Dynodiadau bioamrywiaeth yn amrywio o lefel ryngwladol i lefel leol.
- Ôl troed ecolegol sydd ar hyn o bryd yn fwy na'r lefelau cynaliadwy.
- Nodweddion tirwedd neu drefwedd cyfoethog.
- Poblogaeth sy'n heneiddio a'r boblogaeth iau yn allfudo.
- Adroddwyd bod 60% o oedolion dros bwysau neu'n ordew.
- Mae bywyd cymunedol, addysg a'r gwasanaethau cyhoeddus yn dynodi llesiant mewn ardaloedd gwledig.
- Mae harddwch, tawelwch, mannau gwyrdd agored ac awyr iach hefyd yn cyfrannu at hapusrwydd mewn ardaloedd gwledig.
- Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Llandeilo.
- "Ein Newid Mawr yn y GIG" ac unrhyw oblygiadau.
- Amddifadedd gwledig a threfol.
- Mae mwy nag 1 ym mhob 3 o aelwydydd yn byw mewn tlodi.
- Targed y Cyngor o ddarparu 1,000 o dai fforddiadwy.
Sir Gaerfyrddin o gymunedau cydlynus
- Prinder tai newydd yn cael eu hadeiladu mewn rhai Canolfannau Gwasanaeth a Chanolfannau Gwasanaethau Lleol.
- Prinder cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai a'r angen am gymysgedd o dai.
- Mae newidiadau yn yr amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd yn dynodi y bydd nifer y tai y bydd eu hangen hyd at 2033 gryn dipyn yn llai.
- Safleoedd tai nad ydynt yn cael eu datblygu a'u gwireddu.
- Sir o natur wledig yn bennaf lle mae 60% o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig.
- Sicrhau bod y seilwaith yn gallu cynnal datblygiadau, gan gynnwys priffyrdd.
- Yr angen i hyrwyddo a defnyddio mathau eraill o drafnidiaeth.
- Diffyg cyfleoedd gwaith, band eang a gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig.
- Angen gwerthfawrogi'r ymdeimlad o le - sir o gyferbyniadau.
Sir Gaerfyrddin â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
- Adeiladau segur ledled y Sir.
- Angen mesur effaith datblygu ar y Gymraeg.
- Angen tai fforddiadwy yn ein cymunedau er mwyn cadw teuluoedd ifanc.
- Safleoedd archaeolegol pwysig a nodweddion hanesyddol.
- Y nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Sir Gaerfyrddin sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
- Ystyriaethau cenedlaethol a rhanbarthol datblygol, gan gynnwys Brexit, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a Chynlluniau Datblygu Strategol. Cyhoeddwyd Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 10) ym mis Rhagfyr 2018.
- Angen hyrwyddo effeithlonrwydd ynni mewn datblygiadau arfaethedig a'r rhai sy'n bodoli eisoes.
[16] Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol Llywodraeth Cymru – Argraffiad 2, Awst 2015, Adran 6.1.1
[17] Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
[19] http://www.ysirgaragarem.cymru/media/8332/cynllun-llesiant-sir-gar-terfynol-mai-2018.pdf
[20] Mae gwybodaeth fanwl, gan gynnwys yr ymgysylltu a wnaed, wedi'i nodi yn y Papur Pwnc – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion.
[21] Nodir manylion manwl yn y Papur Pwnc – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion.