Deposit LDP

Daeth i ben ar 2 Hydref 2020
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

11 Polisïau

11.1 Yn yr adrannau a ganlyn, nodir y Polisïau Strategol a fydd yn sail i'r fframwaith ar gyfer gweithredu a chyflawni'r CDLl. Mae'r fformat a'r strwythur yn adlewyrchu elfennau craidd cynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy, a'r pedwar amcan llesiant neu'r themâu a nodir yng Nghynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin. Mae hyn yn golygu bod modd croesgyfeirio'r Polisïau Strategol i'r amcanion strategol a nodir yn y ddogfen hon, yn ogystal â'r nodau Llesiant perthnasol. Bydd y polisïau strategol felly wedi'u seilio ar y themâu a ganlyn:

  • Ymyrraeth Gynnar - Gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y cymorth cywir ar yr amser iawn, yn ôl yr angen
  • Pobl a Lleoedd Ffyniannus - Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i bobl a lleoedd yn ardaloedd trefol a gwledig ein sir.
  • Arferion Iach - Mae gan bobl ansawdd bywyd da, ac maen nhw'n gwneud dewisiadau iach ynglŷn â'u bywydau a'r amgylchedd.
  • Cysylltiadau Cryf - Pobl, lleoedd a sefydliadau y mae cysylltiad cryf rhyngddynt sy'n gallu addasu i newid

11.2 Cydnabyddir y ceir rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y themâu a'r polisïau'n gysylltiedig â hwy, felly dylid eu darllen ar y cyd â'i gilydd. Ceir testun esboniadol i gyd-fynd â phob polisi strategol.


Ymyrraeth Gynnar - Gwneud yn siŵr bod pobl yn cael y cymorth cywir ar yr amser iawn, yn ôl yr angen

11.3 Cydnabyddir y goblygiadau o ran llesiant unigolion, eu teuluoedd a'u cymunedau o fewn y Cynllun drwy ganolbwyntio ar greu lleoedd cynaliadwy a chynhwysol. Mae'r ymagwedd gysylltiedig hon ar draws yr holl themâu yn galluogi datrysiadau hirdymor er mwyn sicrhau bod cyfleoedd ar gael i gynnal a gwella llesiant.

11.4 Mae'n cydnabod bod lleoedd cynaliadwy yn cael eu creu drwy gydbwyso nodweddion ecogyfeillgar, economi ffyniannus a chynhwysiant cymdeithasol sy'n anelu i fod o fudd i genedlaethau'r dyfodol yn ogystal â thrigolion presennol.

11.5 Cydnabyddir bod y themâu a'r polisïau a ddyrennir iddynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd, ond nodwyd y canlynol o dan y thema hon:

  • Polisi Strategol - SP 1: Twf Strategol
  • Polisi Strategol - SP 2: Canolfannau Manwerthu a Chanol Trefi

11.6 Mae'r polisïau a ganlyn yn ceisio cefnogi cyflawniad amcanion strategol y Cynllun, ond hefyd yn creu cysylltiadau lefel uchel ac yn sicrhau y cydymffurfir yn fras â'r Nodau Llesiant.

Polisi Strategol - SP 1: Twf Strategol

Bydd y CDLl yn darparu ar gyfer twf economi gynaliadwy a gofynion tai yn y dyfodol drwy ddarparu:

  1. 10,160 o dai newydd i fodloni'r gofyniad tai a nodwyd o 8,835.
  2. Dyrannu isafswm o 77.93ha o dir cyflogaeth.

Mae'r ffocws ar adfywio a thwf yn adlewyrchu uchelgeisiau strategol craidd y Cyngor gan ddosbarthu datblygiad mewn modd cynaliadwy sy'n gyson â'r strategaeth ofodol a'r fframwaith aneddiadau.

11.7 Yr hyn sydd wrth wraidd y CDLl Diwygiedig hwn yw creu Sir gytbwys a chydlynol. Er mwyn cyflawni hyn, mae'n cydnabod bod rôl y Sir fel sbardun cryf ac economaidd ar gyfer twf yn lleol a hefyd yn rhanbarthol, yn rhoi lle canolog i Sir Gaerfyrddin mewn Cymru ffyniannus a chynaliadwy. Mae strategaeth twf y Cynllun wedi'i seilio ar egwyddorion datblygu cynaliadwy ac yn gyson â nodau a dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

11.8 Mae'r ymagwedd strategol yn adeiladu ar y pwyslais corfforaethol ar adfywio a'r cyfleoedd a gyflwynir drwy'r Fargen Ddinesig a thrwy gyfleoedd adfywio a buddsoddi eraill. Ar yr un pryd, y mae hefyd yn cydnabod y cyfleoedd a geir drwy'r economi wledig ac anghenion amrywiol cymunedau ledled y Sir. Mae'r strategaeth felly'n cydnabod rôl cyflogaeth o ran creu Sir ffyniannus - gyda thwf priodol o ran tai ynghyd â chyfleoedd am swyddi a chyflogaeth.

11.9 Yn rhan o'i bolisi corfforaethol, adfywio yw prif amcan y Cyngor. Adlewyrchir hyn drwy:

  • Fargen Ddinesig Bae Abertawe;
  • Trawsnewidiadau - Cynllun Adfywio ar gyfer Sir Gaerfyrddin; a
  • Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: Strategaeth Gorfforaethol Newydd y Cyngor 2018 - 2033.
  • Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen 2019

11.10 Mae'r ffocws hwn ar greu swyddi a buddsoddi yn seiliedig ar leoliad strategol Sir Gaerfyrddin a'i swyddogaeth ranbarthol o ran yr economi. Mae'r strategaeth hon felly'n ceisio cydnabod ac adlewyrchu hyn, a'r amcanion corfforaethol, drwy gefnogi a chreu lle sy'n ddeniadol i weithwyr a buddsoddwyr.

11.11 Drwy sicrhau bod ein gofynion o ran twf tai yn adlewyrchu, ac yn cefnogi, ein huchelgeisiau economaidd, mae'n galluogi ymagwedd gydgysylltiedig ac integredig er mwyn sicrhau na chaiff y gyd-swyddogaeth o sicrhau twf economaidd ei hystyried ar wahân i dai, ac fel arall.

11.12 Ar gyfer yr ymagwedd hon, mae angen datblygu cyfres gytbwys o amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd a ddatblygir o amcanestyniadau sail 2014 Llywodraeth Cymru, ond y cymhwysir uchelgeisiau Sir Gaerfyrddin i'w chymunedau iddynt. Gwneir hyn er mwyn sicrhau bod cyflenwad digonol o dai i gefnogi cyflawni ein huchelgeisiau economaidd a bodloni anghenion ein cymunedau.

11.13 Mae'r tueddiadau o ran poblogaeth ac aelwydydd, a bennwyd drwy amcanestyniadau sail 2014 Llywodraeth Cymru, yn deillio o'r patrymau demograffig a gafwyd yn ystod cyfnod o ddirwasgiad. Nid ydynt yn adlewyrchu uchelgeisiau cadarnhaol y Sir na'r Rhanbarth dros oes y cynllun. Yn ogystal â hyn, mae'n rhaid ystyried cyfraddau cwblhau tai dros y blynyddoedd cynt, sydd yn llawer uwch na gofynion amcanestyniad 2014 LlC. Bwriedir i'r strategaeth hon a'i lefelau twf fod yn uchelgeisiol ond yn gyflawnadwy, ac adlewyrchu amcanion ehangach na'r CDLl Diwygiedig hwn yn unig.

11.14 Bydd y Strategaeth hon yn ceisio dosbarthu twf drwy hierarchaeth aneddiadau cynaliadwy sy'n deillio o'r opsiwn gofodol a ffafrir. Mae'n cydnabod yr amrywiaeth ar draws y Sir a chyfoeth ei rhinweddau o ran yr amgylchedd, bioamrywiaeth a'i thirlun naturiol ac adeiledig. Wrth gyflawni'r strategaeth hon, y mae hefyd yn cydnabod cyfraniad ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin yn ogystal â'i hardaloedd trefol tuag at gyflawni ei gweledigaeth ar gyfer 'Un Sir Gâr'.

11.15 Byddwn yn cydweithio'n agos â phartneriaid, darparwyr seilwaith, datblygwyr, buddsoddwyr a chymunedau i gyflawni'r CDLl Diwygiedig a'i strategaeth, ei bolisïau a'i gynigion.

SG1: Adfywio a Safleoedd Defnydd Cymysg

Darperir ar gyfer dyraniadau defnydd cymysg ar y safleoedd a ganlyn:

Cyf. Safle.

Lleoliad a Defnyddiau Arfaethedig

PrC1/MU1

Gorllewin Caerfyrddin, Caerfyrddin

Cymysgedd o ddefnyddiau, yn cynnwys defnydd preswyl (darpariaeth ar gyfer 700 o dai newydd o fewn cyfnod y cynllun hwn), cyflogaeth, cyfleusterau cymunedol ac amwynder. Roedd Ffordd Gyswllt Gorllewin Caerfyrddin yn ddangosydd cyflawnadwyedd allweddol. Mae'r ffordd hon bellach wedi'i chwblhau ac ar agor.

PrC1/MU2

Pibwr-lwyd, Caerfyrddin

Yn cynnwys cymysgedd o ddefnyddiau sy'n adlewyrchu ei leoliad strategol a'i gyfraniad at Gaerfyrddin. Mae'r defnydd yn cynnwys cyflogaeth, hamdden masnachol, addysg yn gysylltiedig â Choleg Sir Gâr a phreswyl (ceir darpariaeth ar gyfer 245 o dai newydd).

PrC2 / MU1

Cyn Safle Gwaith yr Hen Gastell, Llanelli

Cymysgedd o ddefnyddiau yn canolbwyntio ar yr economi ymwelwyr, treftadaeth a hamdden. Ni wnaed lwfans preswyl.

PrC2 / MU2

Porth Trostre, Llanelli

Cymysgedd o ddefnyddiau sy'n adlewyrchu ei leoliad amlwg. Mae'r defnyddiau hynny'n cynnwys defnydd masnachol a phreswyl. Ceir darpariaeth ar gyfer 35 o dai newydd.

PrC3/MU1

Gwaith Brics Emlyn, Pen-y-groes

Darpariaeth i adfywio safle a ddatblygwyd o'r blaen. Mae Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands yn ddangosydd cyflawnadwyedd allweddol, ac yn cael ei hadeiladu ar hyn o bryd. Ceir darpariaeth i gyflawni datblygiad sy'n canolbwyntio ar y gymuned ynghyd â 177 o dai newydd.

SeC4 / MU1

Glannau Porth Tywyn

Cymysgedd o ddefnyddiau sy'n canolbwyntio ar ddarpariaeth manwerthu briodol, ynghyd â defnyddiau masnachol / twristiaeth cysylltiedig. Ni wnaed lwfans preswyl.

SeC16/MU1

Beechwood, Llandeilo

Yn cynnwys cymysgedd o ddefnyddiau sy'n adlewyrchu ei leoliad strategol a'i gyfraniad at Landeilo. Yn cynnwys cymysgedd o ddefnyddiau cyflogaeth, masnachol a manwerthu priodol. Mae'r safle yn rhan o ardal fwy a nodwyd yn barth perygl llifogydd C2. Bydd angen i geisiadau fodloni'r holl ofynion o ran hyn.

Tabl 3: Adfywio a Defnydd Cymysg

11.16 Bydd yr uchod a'r defnyddiau a nodwyd, lle bo'n briodol, yn cael eu hystyried ymhellach drwy'r Canllawiau Cynllunio Atodol ar ffurf briffiau datblygu. Bydd y briffiau hyn yn ymdrin yn fanylach â datblygu'r safleoedd, mewn modd cynhwysfawr a chydgysylltiedig, gan sicrhau bod cynigion wedi'u hintegreiddio o ran trefnu gwahanol elfennau fesul cam a darparu sbardunau cyflawnadwyedd allweddol fel seilwaith.

SG2: Safleoedd Wrth Gefn

Bydd Safleoedd Wrth Gefn yn cael eu rhyddhau i'w datblygu os na fydd y safleoedd a ddyrannwyd (a nodwyd o dan bolisïau HOM1, EME1 ac SG1) yn cyfrannu yn ôl y disgwyl at gyflawni strategaeth y Cynllun, neu lle bo angen ymateb i newid perthnasol a sylweddol i'r cyd-destun - gan gynnwys newidiadau i'r Polisi Cynllunio Cenedlaethol ymhlith newidiadau eraill.

Yr Awdurdod Cynllunio Lleol fydd yn penderfynu rhyddhau safle neu ddileu safle presennol sydd wedi'i ddyrannu oherwydd diffyg cyflawniad, a hynny'n unol â'r fframwaith monitro. Mae'n rhaid iddo hefyd fod yn destun penderfyniad sy'n deillio o gynnwys Adroddiad Adolygu'r CDLl.

Cyf. Safle:

Disgrifiad

SG2/1

Hen Lofa Morlais, Llangennech

Mae cyfraniad strategol posibl y safle, gan gynnwys cynigion yn seiliedig ar ddatblygiadau cyflogaeth a phreswyl yng nghyd-destun safle Bae Abertawe a Llanelli yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sydd ar ddod.

SG2/2

Tir ger Teras Arian, Porth Tywyn

Mae'r wefan yn cynnig potensial i ddarparu gofod cyflogaeth sy'n cynnwys elfen byw/gwaith.

SG2/3

Parth Cyflogaeth Cross Hands

Safle mewn man strategol yn gyfagos â chanolfan gyflogaeth sefydledig a all gynnwys unrhyw alw yn y dyfodol am unedau mawr dros 10,000 metr sgwâr. Mae'r safle'n agos at y cyfleusterau yn Cross Hands ac at y rhwydwaith priffyrdd strategol.

SG2/4

Hen Safle Ennis Caravans, Cross Hands

Mae'r safle hwn yn y Brif Ganolfan yn Cross Hands yn safle a ddatblygwyd o'r blaen ac yn cynnig cyfleoedd am ddatblygiadau preswyl yn y dyfodol. Mae'r penderfyniad i beidio â'i gynnwys fel dyraniad yn adlewyrchu amheuon ynghylch y gallu i gyflawni arno ar unwaith. Fodd bynnag, bydd ei gyfraniad posibl yn cael ei fonitro a'i adolygu, a'i gyfraniad yn y dyfodol yn cael ei ystyried yn unol â'r polisi hwn.

SG2/5

Safle Rheoli Gwastraff Nant-y-caws

Safle mewn man strategol a ddefnyddir eisoes i reoli gwastraff mewn modd cynaliadwy. Mae'n cynnig cyfle posibl yn y dyfodol i droi ynni yn wastraff a hefyd i fanteisio ar ynni adnewyddadwy. Gallai'r naill a'r llall fod o gymorth i greu cynllun ynni ar gyfer yr ardal. Gellid nodi cyfleoedd i'r dyfodol drwy ddatblygu prif gynllun ar gyfer y safle.

Tabl 4: Safleoedd Wrth Gefn

Mae'n rhaid i gynigion i ddatblygu ar Safleoedd Wrth Gefn, gan gynnwys yn rhan o ddatblygiad defnydd cymysg:

  1. gael eu cyflwyno'n unol â phrif gynllun cytunedig, a chan gydymffurfio â darpariaethau'r Cynllun hwn, a chynnwys yr holl Safle Wrth Gefn.
  2. sicrhau nad yw'r safle'n arwain at or ddarpariaeth a fyddai'n peryglu'r gallu i gyflawni ar safleoedd wedi'u dyrannu ac ar safleoedd cyflawnadwy.

11.17 Dylid darparu tystiolaeth benodol sy'n dangos yn glir, fel bo'r awdurdod cynllunio lleol yn fodlon, fod cynigion datblygu'n gyson â'r polisïau a ganlyn o fewn y CDLl:

  • PSD1: Cynaliadwyedd a Dylunio o Ansawdd Uchel
  • PSD2: Egwyddorion Prif Gynlluniau - Creu Cymdogaethau Cynaliadwy
  • PSD3: Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd
  • PSD4: Seilwaith Gwyrdd - Coed, Coetiroedd a Gwrychoedd
  • TRA1: Gwelliannau i'r Seilwaith Trafnidiaeth a Phriffyrdd
  • TRA2: Teithio Llesol
  • SP8: Seilwaith
  • INF1: Rhwymedigaethau Cynllunio

11.18 Bydd yr angen am safleoedd wrth gefn yn cael ei fonitro'n agos drwy'r defnydd o safleoedd wedi'u dyrannu yn rhan o fframwaith monitro'r Cynllun hwn, ac adroddir ar hynny drwy drefniadau'r Adroddiad Monitro Blynyddol. Os na fydd y safleoedd sydd wedi'u dyrannu (a nodwyd o dan bolisïau HOM1, EME1 ac EMP5) yn cyfrannu yn ôl y disgwyl at gyflawni strategaeth y Cynllun, bydd y Cyngor Sir yn penderfynu a ddylid defnyddio Safle Wrth Gefn wrth gyflwyno Adroddiad Adolygu'r CDLl.

11.19 Mae angen nodi amrywiaeth o safleoedd wrth gefn er mwyn sicrhau bod strategaeth y CDLl yn rhoi digon o hyblygrwydd os bydd datblygiad ar dir wedi'i ddyrannu ac ymrwymiadau presennol yn dod i stop. Cyfeirir hefyd at y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sydd ar ddod a'r posibilrwydd am Gynllun Datblygu Strategol (CDS).

11.20 Pwrpas y Polisi hwn yw sefydlu'r egwyddor o ddatblygiad defnydd cymysg (gan gynnwys tai) ar y safleoedd hyn a sbarduno'r farchnad i ddatrys materion a chyflwyno'r safleoedd lle bo angen.

SG3: Penrhyn Pen-bre

Cefnogir cynigion o ansawdd uchel sy'n cyfrannu at ddatgloi potensial y Penrhyn fel cyrchfan ar gyfer gwyliau, gweithgareddau a gwaith os ydynt yn parchu rôl a swyddogaeth yr ardal a'i naws am le.

Dylai cynigion adeiladu ar ddefnyddiau a nodweddion sy'n bodoli o fewn yr arfordir helaeth hwn er mwyn cydnabod rhinweddau naturiol yr ardal a'i rhinweddau adeiledig hanesyddol.

11.21 Mae'r Penrhyn yn cynnwys tua 1,780 o hectarau ar hyd yr A484 a choridor trafnidiaeth Llinell Reilffordd Llundain i Abergwaun. Mae'n ymestyn o gyrion tref hanesyddol Cydweli wrth geg Gwendraeth Fach tua'r gogledd. Mae'r A484, Llinell Reilffordd Llundain i Abergwaun a gwastatir Pinged yn ffinio â dwyrain y safle. Mae Parc Arfordirol y Mileniwm yn ffinio â de/de ddwyrain y safle.

11.22 Er bod y Penrhyn mewn lleoliad da i ddenu pecyn integredig a strategol o gynlluniau adfywio a buddsoddi, y mae hefyd mewn ardal ecolegol sensitif sy'n destun amrywiaeth o ystyriaethau o ran datblygu.

11.23 Mae amrywiaeth gyferbyniol o ddefnyddiau a nodweddion yn creu'r cyd-destun ar gyfer y naws am le. Mae'r rhain yn cynnwys Parc Gwledig Pen-bre i'r de, a'r cylchffordd rasio cerbydau modur a maes awyr i'r gogledd.

11.24 Mae'r ardal yn parhau i fod yn adodd allweddol i breswylwyr, ymwelwyr a bioamrywiaeth fel ei gilydd. O ran hynny, ni ellid cefnogi cynigion datblygu a fyddai'n amharu'n ormodol ar barhad yr adnodd i genedlaethau'r dyfodol.

11.25 Bydd y Cyngor yn llunio Canllawiau Cynllunio Atodol er mwyn ymhelaethu ar ddarpariaethau'r polisi hwn a chyfleoedd ar y Penrhyn yn y dyfodol.


Polisi Strategol - SP 2: Canolfannau Manwerthu a Chanol Trefi

Bydd cynigion am ddatblygiadau manwerthu yn cael eu hystyried yn unol â'r hierarchaeth manwerthu a ganlyn a'r darpariaethau isod:

Is-ranbarthol - Canol Tref Lefel Uwch

Caerfyrddin

Canol Trefi Lefel Ganol

Llanelli

Rhydaman

Canol Trefi Lefel Is

Porth Tywyn

Llandeilo

Llanymddyfri

Castellnewydd Emlyn

Sanclêr

Hendy-gwyn ar Daf

  1. Caniateir cynigion yn gysylltiedig â Chanol Tref Caerfyrddin os ydynt yn gyson â darpariaethau Polisi RTC1 (a'r canlynol lle bo'n briodol).
  2. Bydd bywiogrwydd, dichonadwyedd ac apêl ein canolfannau manwerthu yn cael ei gynnal a'i wella ynghyd â'r ystod o ddefnyddiau presennol ynddynt, gan gynnwys marchnadoedd lleol. Cefnogir cynigion sy'n ehangu ystod y defnydd ac yn annog cyfleoedd siopa, gwasanaeth, gwasanaeth cyhoeddus a chyflogaeth/busnes cyfleus a hygyrch.
  3. Caniateir cynigion am siopau cyfleustra ar raddfa briodol yn y Canol Trefi Lefel Ganol ac Is dynodedig os ydynt wedi'u lleoli oddi mewn i ffiniau diffiniedig canol y dref, neu'n syth wrth ymyl y ffiniau hynny, ac yn amodol ar y canlynol:
    1. Cyflwyno asesiad effaith i ddangos na fyddai'r cynnig yn cael unrhyw effaith andwyol ar fywiogrwydd a dichonadwyedd y ganolfan fanwerthu bresennol, a
    2. Thystiolaeth o fod wedi cymhwyso prawf dilyniannol wrth ddewis y safle.
  4. Cefnogir cynigion sydd, lle bo'n berthnasol:
    1. Yn darparu cyfleoedd i'r sectorau manwerthu a masnachol annibynnol;
    2. Cefnogi a pheidio tanseilio parhad swyddogaeth canol trefi lefel ganol fel canolfannau manwerthu;
    3. Hyrwyddo ac arallgyfeirio addysg, hamdden, cyfleusterau diwylliannol a'r economi gyda'r nos;
    4. Darparu ar gyfer creu gofodau cyhoeddus o ansawdd uchel a gwelliannau amgylcheddol gan gynnwys gwarchod a gwella cymeriad lleol unigryw yr amgylchedd adeiledig hanesyddol a naturiol, ac ymrwymiad i ddylunio o ansawdd uchel;
    5. Gwella lleoedd i gerddwyr, beicwyr a phobl anabl, gan wella trafnidiaeth gyhoeddus, hygyrchedd, mannau parcio i geir, arwyddion a'r strydlun;
    6. Gwarchod, gwella ac integreiddio i rwydwaith y seilwaith gwyrdd.

Y tu allan i'r canol trefi uchod, caniateir y mathau canlynol o ddarpariaeth manwerthu a siopa:

  1. Unedau warws manwerthu newydd nad ydynt ar gyfer bwyd (gan gynnwys canolfannau garddio, neuaddau arddangos ceir a siopau coffi prynu o'r car) a chyfleusterau hamdden priodol mewn parciau manwerthu dynodedig os ceir y canlynol i'w cefnogi:
    1. asesiad effaith yn dangos na fyddai'r cynnig yn niweidio canol trefi sefydledig;
    2. tystiolaeth o fod wedi mabwysiadu ymagwedd ddilyniannol sy'n dangos nad oes safleoedd addas a chynaliadwy ar gael mewn lleoliadau oddi mewn i ganol trefi diffiniedig neu'n union wrth eu hymyl;
    3. tystiolaeth o angen meintiol, ansoddol ac/neu angen arall perthnasol am y datblygiad;
    4. tystiolaeth o hygyrchedd y safle i ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy.
  2. Cynigion am ganolfan fanwerthu a masnach arbenigol o fewn safleoedd cyflogaeth;
  3. Cynigion am gyfleusterau siopa cyfleustra lleol mewn ardaloedd gwledig a threfol o fewn y ffiniau datblygu os yw eu graddfa'n briodol i'r anheddiad hwnnw. Bydd cynigion am ddatblygiadau manwerthu gwledig yn cael eu hystyried yn unol â pholisi RTC3.

11.26 Mae'r polisi'n ceisio cydnabod patrwm cyffredinol y ddarpariaeth mewn hierarchaeth draddodiadol o ganolfannau, sy'n amrywio rhwng mân ddarpariaeth leol a'r canolfannau mwy sy'n darparu dewis mwy dros ystod ehangach o gynnyrch. Mae'r canolfannau mwy hefyd yn gweithredu fel lleoliadau ar gyfer gweithgareddau cysylltiedig ym maes hamdden ac adloniant, gan gynnwys sinemâu a bwytai ac ati, ac ar gyfer defnydd swyddfa masnachol, gan gynnwys cyfreithwyr, cyfrifwyr a gwerthwyr tai ac ati.

11.27 At ei gilydd, mae'r ddarpariaeth leol yn cynrychioli nwyddau a gwasanaethau sydd eu hangen o ddydd i ddydd (eitemau cyfleustra), ac y gall trigolion wneud teithiau byr mynych i'w nôl, tra bo'r canolfannau mwy nid yn unig yn darparu'r cyfleusterau hynny, ond hefyd yn darparu eitemau mwy arbenigol (nwyddau cymharu) y bydd siopwyr yn chwilio amdanynt yn llai aml ac yn barod i deithio ymhellach i'w prynu. Yn draddodiadol, mae darpariaeth siopa wedi esblygu yn hierarchaeth o ganolfannau gyda dalgylchoedd yn gorgyffwrdd y naill a'r llall i adlewyrchu eu maint a'u pwysigrwydd.

11.28 O ran darpariaeth manwerthu, dyma'r patrwm sy'n nodweddu Sir Gaerfyrddin, gyda chanolfannau mwy Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman yn gwasanaethu dalgylchoedd mwy yn y gorffennol, gan gynnig ystod eang ac arbenigol o nwyddau ac eitemau.

11.29 Wrth ddiffinio hierarchaeth manwerthu, rhoddwyd sylw i rolau a swyddogaethau perthynol y trefi mwy a'r pentrefi bach. Cydnabyddir, yn hyn o beth, er bod ystod y ddarpariaeth siopa ar hyd a lled yr hierarchaeth yn chwarae rhan hanfodol, ym Mhrif Ganolfannau Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman y ceir ffocws gweithgarwch manwerthu canol tref. Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd fod pob un o'r canolfannau hyn yn cyflawni gwahanol rolau yng nghyd-destun eu cymunedau a'u swyddogaethau daearyddol ehangach. O ran hynny, mae canol tref Caerfyrddin yn cyflawni swyddogaeth is-ranbarthol tra bo canol trefi Rhydaman a Llanelli yn canolbwyntio mwy ar wasanaethu'r cymunedau o'u hamgylch.

11.30 Cydnabyddir fodd bynnag, er gwaethaf y gwahaniaethau cynhenid rhyngddynt, fod pob canol tref yn profi gwahanol heriau wrth i rôl y stryd fawr newid mewn ymateb i bwysau amrywiol y byd manwerthu. Yn hyn o beth, mae TAN4 yn cynnwys darpariaeth i gymhwyso polisïau priodol i'r canolfannau hynny ar sail eu nodweddion a'u cynaliadwyedd. Wrth ymateb i'r ymagwedd hon a gaiff ei hysgogi'n lleol, bydd amrywio'r hyn a ystyrir yn ganolfan lefel uwch a lefel is yn golygu bod modd ymateb yn fanylach ond yn fwy hyblyg ar sail eu gwahanol raddfeydd a nodweddion. Y mae hefyd yn galluogi'r Cynllun i ymateb i newid mewn amgylchiadau economaidd, a cheisio ymdrin ag amrywio mewn gweithgarwch manwerthu.

11.31 Wrth ddisgrifio nodweddion canolfannau manwerthu a masnachol lefel uwch, nodir yn TAN4 eu bod yn hygyrch i nifer fawr o bobl, a bod graddfa ac ystod amrywiol y defnyddiau sy'n bresennol yn adlewyrchu anghenion y boblogaeth - sydd fel arfer yn cynnwys mwy na'r gymuned leol. Nodweddir y canolfannau hynny fel arfer gan gyfuniad o siopau, swyddfeydd, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, sefydliadau bwyd a diod, gwestai, cyfleusterau addysg, adloniant a hamdden, sefydliadau dibreswyl yn ogystal â phreswyl. (TAN4 paragraff 4.2).

11.32 Ar y llaw arall, nodweddir canolfannau lefel is gan ddarpariaeth ar raddfa lai a llai o ddefnyddiau, gyda'r bwriad o wasanaethu anghenion y gymuned leol yn bennaf. Bydd y rhain fel arfer yn cynnwys siopau, gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, bwyd a diod, sefydliadau dibreswyl sydd ar lefel briodol, ond gall gynnwys defnyddiau eraill yn ddibynnol ar y ganolfan (TAN4 paragraff 4.3).

11.33 O ystyried statws blaenorol Llanelli a Rhydaman, mae'n glir bod eu strydoedd mawr wedi profi cyfnodau heriol a bod y naill a'r llall wedi cynnal eu swyddogaeth bwysig fel canolfannau manwerthu, er bod y swyddogaeth honno wedi gwanio rhywfaint. Wrth roi ystyriaeth bellach i'r posibiliadau ar eu cyfer hwy, ynghyd â Chaerfyrddin, o ran hierarchaeth manwerthu'r dyfodol, y mae'n bwysig ystyried sut y byddant yn datblygu a'u rôl yn y dyfodol, yn ogystal â'r modd y mae'r Cynllun yn ceisio ymateb i ddirywiad posibl yng nghanol y dref.

11.34 Er nad yw wedi'i hamddiffyn yn llwyr rhag yr heriau hynny, mae Caerfyrddin wedi cynnal rôl is-ranbarthol ac mae ganddi bresenoldeb cenedlaethol cryf ar ei stryd fawr ynghyd ag amrywiaeth o siopau lleol. Mae'r ganolfan yn parhau i wasanaethu ystod o anghenion i boblogaeth sydd y tu hwnt i'w chymuned leol. Yn hyn o beth, gellir ei galw'n rhwydd yn ganolfan fanwerthu lefel uwch ar sail y darpariaethau uchod.

11.35 O ran Llanelli a Rhydaman, ceir llai o gwmnïau cenedlaethol yng nghanol y dref, ac i raddau cynyddol mae'r cynnig yng nghanol y dref yn adlewyrchu canol tref sy'n gwasanaethu cymuned fwy lleol. Mae hyn, ynghyd â'r heriau'n gysylltiedig â throsiant unedau manwerthu, a phroblemau o ran cyfraddau unedau gwag, yn golygu bod angen ailwerthuso eu statws blaenorol fel canol trefi lefel uwch. Mae canol trefi Rhydaman a Llanelli, y naill a'r llall, wedi denu ymyraethau sylweddol o ran adfywio, ac mae Tasgluoedd wedi cael eu sefydlu i wynebu rhai o'r heriau a welir yn y ddwy ganolfan. Mae Gorchymyn Datblygu Lleol manwl hefyd wedi cael ei greu ar gyfer canol tref Llanelli.

11.36 Yn sgil y ddeinameg newidiol yng nghynnig manwerthu'r naill ganolfan a'r llall ceir mwy o ffocws ar yr angen i'r hierarchaeth a'r polisïau manwerthu gynnig ymateb wedi'i ysgogi'n lleol i'w problemau. O ganlyniad i hyn, mae'r hierarchaeth wedi cael ei sefydlu gyda pholisïau priodol er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol fathau o gyd-destunau manwerthu a masnachol yn nhair Prif Ganolfan y Cynllun. Bydd y rhain yn caniatáu ymagwedd fwy hyblyg o ran y modd y bydd y canolfannau hyn yn datblygu yn y dyfodol.

11.37 Mae trefi llai neu drefi marchnad Castellnewydd Emlyn , Llandeilo a Sanclêr, er enghraifft, gyda'u dalgylchoedd llai fel arfer yn bodloni anghenion lleol gyda rhywfaint o ddarpariaeth arbenigol. Bydd pentrefi mwy yn aml yn ychwanegu at hyn, gan ddarparu eitemau hanfodol i fodloni anghenion o ddydd i ddydd.

11.38 Yn debyg i lawer o ardaloedd, mae canolfannau siopa sy'n cynnwys warysau manwerthu mawr (gan gynnwys nwyddau swmpus) wedi cyfrannu at y newid mewn arferion manwerthu ac, mewn rhai achosion, wedi herio hyfywedd a rôl canol trefi presennol a sefydledig. Er bod yr heriau hyn wedi'u cydnabod, nodir hefyd y gallant greu cyfleoedd o ran ehangu'r cynnig manwerthu.

11.39 Mae strategaeth manwerthu'r CDLl yn adlewyrchu egwyddorion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol datblygu cynaliadwy sy'n tanategu'r Cynllun. Y mae hefyd yn ceisio adlewyrchu natur newidiol manwerthu a'r angen i ganol trefi traddodiadol addasu i gyd-fynd â'r newidiadau hynny. Mae'r Strategaeth yn ceisio:

  1. Gwarchod a gwella rôl canolfannau manwerthu er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn atyniadol fel canol trefi, cyrchfannau siopa, masnachol a hamdden, a gwarchod darpariaeth manwerthu leol sydd wedi'i sefydlu yn y sir, yn ogystal â'r busnesau lleol sydd wrth wraidd y ddarpariaeth honno. Yr her fydd cynnal eu cyfran o'r farchnad a sicrhau eu bod yn dal i allu cystadlu, gan ddeall anghenion pob canolfan a'i rôl a'i chyfraniad perthynol yn nhermau manwerthu;
  2. Lleoli darpariaeth manwerthu a'i llywio tuag at fannau cynaliadwy sy'n hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus neu ar lwybrau teithio llesol er mwyn lleihau'r angen i deithio;
  3. Mewn canolfannau lefel is llai, sicrhau bod gan gymunedau lleol fynediad rhesymol at ystod foddhaol o gyfleusterau a gwasanaethau stryd fawr, yn enwedig nwyddau cyfleustra (bwyd a hanfodion beunyddiol eraill); ac,
  4. Yn y pentrefi mwy, cynnal hyfywedd siop y pentref a chyfleusterau lleol eraill.

11.40 Yn Astudiaeth Manwerthu Gyfredol (2015) ar gyfer Sir Gaerfyrddin, archwiliwyd materion manwerthu ar draws y Sir, ac aseswyd y capasiti ar gyfer twf ar draws y sectorau manwerthu. Fe'i lluniwyd er mwyn darparu tystiolaeth yn gysylltiedig â ffurfio polisi, ac yn sail ar gyfer pennu hierarchaeth manwerthu ar gyfer ardal y Cynllun, er mwyn llywio penderfyniadau, fel sy'n ofynnol yn PCC. O ganlyniad i hynny, defnyddir yr egwyddor "canol trefi yn gyntaf" ar y cyd â dull dilyniannol o ddewis safleoedd i hyrwyddo canol trefi fel prif leoliadau cyfleusterau manwerthu, swyddfa, hamdden ac iechyd newydd. Nod hynny fydd creu mwy o resymau pam y dylai pobl ymweld â'r canolfannau, a chynnydd wedyn mewn gweithgarwch cymdeithasol ac economaidd a fydd yn cynnal eu hyfywedd.

11.41 Gan ganiatáu amrywio o fewn yr hierarchaeth, bydd disgwyl i fanwerthu barhau fel y prif weithgarwch ym mhob un o'r tair canolfan is-ranbarthol a chanolig. Fodd bynnag, nid yw hyn ond un o'r ffactorau a fydd yn cyfrannu at eu llesiant. Ni ellir gwahanu polisïau manwerthu oddi wrth swyddogaethau ehangach y trefi mwy fel canolfannau ar gyfer gwasanaethau a chyfleusterau eraill, gan gynnwys sefydliadau bwyd a diod (caffis, bwytai, tafarndai ac ati) a datblygiadau hamdden masnachol. Mae'r defnyddiau amrywiol hyn mewn yng nghanol trefi o gymorth i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn hyfyw ac - yn enwedig o ran defnyddiau hamdden a phreswyl - yn cyfrannu at fywiogrwydd economi lwyddiannus yn y nos, ac at eu rôl fel canol trefi byw.

11.42 Bydd darpariaeth y tu allan i'r canolfannau is-ranbarthol a chanolig, gan gynnwys siopau pentref lleol, yn gwneud cyfraniad pwysig at swyddogaeth manwerthu Sir Gaerfyrddin. Yn hyn o beth, mae'r canolfannau hynny sy'n bodloni angen am ddarpariaeth manwerthu gyfleus a mân anghenion siopa o ddydd i ddydd yn creu amrywiaeth sy'n gyson â'r amcanion o gynnal cymunedau a lleihau'r angen i deithio hyd yr eithaf. Gall yr aneddiadau hyn a'u cynnig manwerthu ategu swyddogaeth manwerthu aneddiadau sydd yn uwch i fyny'r hierarchaeth a chyfrannu hefyd at weithredu Strategaeth y Cynllun. Bydd yn ofynnol i gynigion manwerthu cyfleus y tu allan i ffiniau canol y dref mewn canolfannau o'r fath ddangos tystiolaeth briodol o'r angen am ddarpariaeth manwerthu er mwyn sicrhau nad ydynt yn tanseilio'r gweithgarwch manwerthu yng nghanol y trefi.

11.43 Mae polisïau'r CDLl hefyd yn ceisio sicrhau'r lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer datblygiadau manwerthu, anfanwerthol a hamdden wedi'u lleoli yn y lleoliadau mwyaf priodol. Fel arfer, bydd y lleoliadau mwyaf priodol mewn canolfannau presennol, sy'n hygyrch drwy amrywiaeth o fathau o drafnidiaeth, a gallant hyrwyddo teithiau cysylltiedig i ddefnyddiau eraill yn y ganolfan. Bydd yn ofynnol i ddatblygwyr chwilio'n fanwl am safleoedd mewn canolfannau cyn ystyried safleoedd mewn ardaloedd llai canolog.

11.44 Ceir arweiniad pellach o ran y polisi cynllunio cenedlaethol yn PCC: Rhifyn 10 - Pennod 4 Lleoedd Actif a Chymdeithasol ac yn TAN4 Manwerthu a Chanol Trefi.

11.45 Mae Rhifyn 10 PCC yn rhoi cydnabyddiaeth benodol i rôl siopau lleol, siopau pentref a thafarndai mewn cymunedau a'r effaith bosibl yn sgil eu colli. O ganlyniad i hynny, dylid cyfeirio at bolisi RTC3 isod.

11.46 Dylid ystyried cynigion am weithgarwch manwerthu yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin yn unol â pholisi RTC3.

11.47 Nid yw Canol Trefi bob amser yn gallu cynnwys siopau manwerthu neilltuol fel nwyddau swmpus, gan fod angen safleoedd ac adeiladau mawr ac oherwydd y goblygiadau o ran cynhyrchu traffig a pharcio. O ganlyniad i hynny, caniatawyd lleoliadau y tu allan i ganol y dref ar gyfer safleoedd gwerthu o'r fath, yn unol â chanllawiau cenedlaethol, naill ai ar ffurf unedau unigol neu gyda'i gilydd mewn parciau manwerthu. Yn wyneb y pwysau cynyddol am safleoedd gwerthu o'r fath, mae'r CDLl yn ceisio ymdrin â pharciau manwerthu ac yn diffinio'r meini prawf y dylid eu cymhwyso i ddatblygiadau arfaethedig. Yn hyn o beth. mae'r polisïau yn gysylltiedig â pharciau manwerthu yn hyrwyddo cydleoli cyfleusterau manwerthu priodol a lleihau casgliadau ar wahân o gyrchfannau manwerthu o fewn y Sir. Mae strategaeth o'r fath yn fwy cynaliadwy o ran trafnidiaeth, a bydd yn galluogi busnesau manwerthu i elwa ar apêl cydleoli darpariaeth.

11.48 Mae'r Cynllun yn cydnabod nad yw lleoliadau mewn canol trefi yn addas i gynnwys rhai mathau o gyfleusterau manwerthu a hamdden, ac y gall Canolfannau Rhanbarthol (Parciau Manwerthu) gyfrannu at fodloni'r angen hwn. Fodd bynnag ni ddylai graffa, natur na lleoliad datblygiad manwerthu danseilio apêl, bywiogrwydd a dichonadwyedd canol trefi presennol.

11.49 Dylid mabwysiadu dull dilyniannol sy'n golygu y dylid ffafrio lleoliadau mewn canol trefi presennol i ddechrau, fel y cânt eu rhestru yn yr hierarchaeth manwerthu ac, ar ôl hynny safleoedd sy'n union am y ffin â chanol trefi. Os nad oes safleoedd addas ar gael yn y lleoliadau hyn, dim ond wedyn y ceir ystyried datblygu mewn lleoliadau eraill nad ydynt yng nghanol y dref neu wrth ymyl canol y dref, gan gynnwys yn y canolfannau rhanbarthol presennol (parciau manwerthu) a ganlyn ymhlith lleoliadau eraill:

11.50 Canolfannau Rhanbarthol: (Parciau Manwerthu)

  • Ffordd Steffan a Pharc Pensarn, Caerfyrddin;
  • Parc Trostre a Pharc Pemberton, Llanelli;
  • Parc Manwerthu Cross Hands.
  • Parc Manwerthu Maes Yr Eithin, Cross Hands

11.51 Mae Caerfyrddin a Llanelli yn cynnwys darpariaeth manwerthu sylweddol ar barciau manwerthu y tu allan i'r canol trefi perthynol. Prif barciau manwerthu Caerfyrddin yw Heol Steffan a Pharc Pensarn, sy'n cynnwys safleoedd gwerthu amrywiaeth o nwyddau swmpus a nwyddau eraill.

11.52 Parc Trostre a Pharc Pemberton sy'n gwasanaethu Llanelli, ac mae Parc Trostre yn cynnwys nifer fawr o unedau wedi'u meddiannu'n bennaf gan siopau sy'n lluosogi'r stryd fawr. I'r gwrthwyneb, ffocws pennaf Parc Pemberton yw DIY, nwyddau trydanol a dodrefn, sy'n adlewyrchu cyfyngiad ar nwyddau swmpus nad yw'n weithredol ym Mharc Trostre.

11.53 Er bod y parc manwerthu yn Cross Hands yn llai na pharciau Caerfyrddin a Llanelli, mae'n cyflawni rôl bwysig drwy ategu'r ddarpariaeth canol tref yn Rhydaman, drwy gynnig nwyddau DIY, trydanol a dodrefn yn bennaf.

11.54 Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno asesiad effaith i ddangos na fyddai'r cynnig yn niweidio canol trefi sefydledig. Dylai'r asesiad hefyd ystyried effeithiau cronnus datblygiadau a gwblhawyd yn ddiweddar â safleoedd lle bo caniatâd cynllunio yn dal yn weithredol. Dylai'r asesiad amlinellu'r math o ddarpariaeth manwerthu a gynigir gan yr ymgeisydd, a'r modd y gallai hyn effeithio ar ddarpariaeth manwerthu sy'n cystadlu mewn canol trefi cyfagos, ac a allai arwain at wyro masnach o ganol y dref.

11.55 Bydd angen i gynigion newydd ddangos yn glir bod angen ychwanegol am unedau warws manwerthu newydd sy'n cynnig yr ystod o nwyddau a ragwelir.

RTC1: Canol Tref Caerfyrddin

Caniateir cynigion os byddant yn cynnal ac yn gwella bywiogrwydd, hyfywedd ac apêl Canol Tref Caerfyrddin.

Dylid lleoli defnyddiau manwerthu a hamdden perthnasol, sydd yn cynnal, yn gwella ac yn amrywio canol y dref mewn modd dilyniannol oddi mewn i Brif Ardal Fanwerthu Canol y Dref. Ni chaiff cynigion i ddatblygu ffryntiau manwerthu ar gyfer defnyddiau anfanwerthol oddi mewn i Brif Ardal Fanwerthu Canol y Dref ond eu caniatáu os bydd hynny'n cyfrannu at gynnal a gwella bywiogrwydd a dichonadwyedd swyddogaeth manwerthu'r ardal.

Bydd cynigion am ddefnyddiau manwerthu a chanol tref eraill, sy'n cefnogi twf canol y dref fel canol tref manwerthu is-ranbarthol (gan gynnwys defnyddiau hamdden, dinesig, diwylliannol, addysg, busnes, iechyd a phreswyl) yn Ardal Fanwerthu Eilaidd Canol y Dref ond yn cael eu caniatáu os nad ydynt yn:

  1. tanseilio swyddogaeth manwerthu canol y dref, neu'n amharu ar fywiogrwydd neu ddichonadwyedd yr ardal; nac
  2. yn golygu bod lefel y ffryntiau anfanwerthol ar loriau gwaelod yn amharu ar gymeriad a swyddogaeth manwerthu yr ardal.

Dylid ystyried darpariaethau Polisi Strategol SP2.

11.56 Mae'r CDLl diwygiedig yn ceisio cadarnhau rôl Caerfyrddin fel canolfan fanwerthu is-ranbarthol sy'n gwasanaethu dalgylchoedd ehangach ar gyfer manwerthu cymharol. Yn hyn o beth, mae ganddi hanes fel canol tref sy'n perfformio'n dda â chynnig manwerthu cryf. Yn hyn o beth mae'r polisi'n ceisio gwarchod ei rôl manwerthu gan adlewyrchu natur newidiol y stryd fawr ac arferion siopa.

11.57 Mae Caerfyrddin yn dref farchnad fawr ac yn gwasanaethu ystod eang o gymunedau yn lleol, ac yn y rhanbarth ehangach, gan gynnig cymysgedd o enwau cenedlaethol y stryd fawr a siopau manwerthu llai sy'n fwy lleol ac arbenigol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ychwanegodd datblygiad Rhodfa Santes Catrin at ei darpariaeth manwerthu a masnachol. Mae siop Debenhams yn ganolbwynt i'r datblygiad, ynghyd â sinema aml-sgrin sy'n ychwanegu at gynnig masnachol a hamdden y ganolfan ac at yr apêl i ymwelwyr.

11.58 Drwy ddynodi Prif Ardaloedd Manwerthu ac Ardaloedd Manwerthu Eilaidd yng nghanol y dref, mae'r polisi'n cydnabod rôl bwysig defnyddiau manwerthu (A1) a'r gyfran ohonynt yn yr ardaloedd hyn.

11.59 Y mae hefyd yn cydnabod budd sicrhau amrywiaeth o ddefnyddiau yng nghanol trefi. Fodd bynnag, os ceir gormod o ddarpariaeth anfanwerthol, yn enwedig ym Mhrif Ardal Fanwerthu Canol y Dref, gall hynny niweidio'r ardal gan leihau'r cynnig manwerthu a chreu 'ffryntiau marw', gan wneud y lle yn llai diddorol i siopwyr sy'n pasio a lleihau nifer yr ymweliadau. Mae'r polisi yn ceisio sicrhau bod y ffryntiad manwerthu yn cynnal apêl yr amrywiaeth gyfredol o ddefnyddiau.

11.60 Yn hyn o beth, manwerthu (A1) yw prif swyddogaeth Prif Ardal Fanwerthu Canol y Dref gydag Ardal Fanwerthu Eilaidd Canol y Dref yn cynrychioli'r prif ardaloedd lle dylid lleoli gwasanaethau eraill yng nghanol y dref sy'n gwneud yr ardal yn fwy diddorol a bywiog, fel hamdden, bwytai, gwasanaethau ariannol ac ati.

11.61 Ni ystyrir bod cynigion sy'n cynnwys newid defnydd ac/neu ailddatblygu ffryntiad llawr gwaelod ar gyfer defnydd preswyl yn gyson â lleoliad 'canol tref'.

11.62 Fel arfer, yr ardaloedd a ddiffinnir yn yw'r strydoedd hynny sy'n gyfagos â Phrif Ardal Fanwerthu Canol y Dref, neu'n cysylltu rhannau o'r ardal honno â'i gilydd. Wrth nodi'r ystyriaethau yn gysylltiedig â chynigion anfanwerthol, mae'r polisi'n caniatáu ac yn annog amrywiaeth o ddefnyddiau yng nghanol trefi y tu allan i Brif Ardal Fanwerthu Canol y Dref. Mae'r CDLl Diwygiedig yn ceisio taro cydbwysedd rhwng gwarchod cymeriad manwerthu cyffredinol canol y dref a darparu amrywiaeth o ddefnyddiau, Wrth wneud hynny, cydnabyddir bod presenoldeb masnachwyr annibynnol sy'n gweithredu o'r strydoedd mwy ymylol yn ychwanegu at ei gymeriad a'i hunaniaeth, ac y gall y rhain fod yn agored i gystadleuaeth. Fodd bynnag, cydnabyddir bod arallgyfeirio yn ei gwneud hi'n bosibl i ychwanegu defnyddiau eraill economaidd a buddiol sy'n ategu'r darpariaeth manwerthu, ac i gynnal adeiladwaith ac ymddangosiad strydoedd ac adeiladau a fyddai fel arall mewn perygl o ddirywio.

11.63 Mae'r potensial am arallgyfeirio priodol o fewn yr ardal fanwerthu yng nghanol y dref a alluogir drwy'r polisi hwn, yn galluogi'r ardaloedd hyn i gyfrannu at ei hapêl gyffredinol. Drwy gyflwyno darpariaeth manwerthu, hamdden a busnes ategol gyfrannu at apêl ehangach. Serch hynny, mae'r polisi'n cydnabod pwysigrwydd cael elfen fanwerthu gref, ac yn ceisio cynnal bywiogrwydd a dichonadwyedd cynnig manwerthu'r trefi.

RTC2: Gwarchod Siopau a Chyfleusterau Lleol

Ni fydd cynigion a fyddai'n arwain at golli siop neu wasanaeth lleol (gan gynnwys Tafarndai) y tu allan i Ganol Trefi a nodwyd ym Mholisi Strategol SP2 ond yn cael eu caniatáu yn yr achosion a ganlyn:

  1. Pe na bai'r golled honno'n niweidio ffabrig cymdeithasol ac economaidd y gymuned;
  2. Os oes siop neu wasanaeth o ddefnydd cydnaws tebyg ar gael i gwsmeriaid o fewn yr anheddiad neu o fewn pellter cerdded cyfleus.

Os na cheir darpariaeth arall, ni chaiff cynigion a fydd yn arwain at golli siop neu wasanaeth lleol ond eu caniatáu os yw pob ymdrech resymol i werthu neu osod y busnes dros gyfnod o 12 mis wedi methu.

11.64 Wrth geisio diffinio a chreu cymunedau cynaliadwy, mae'r Cynllun yn nodi ac yn cydnabod cyfraniad gwasanaethau lleol. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleusterau fel siopau, swyddfeydd post, tafarndai, gorsafoedd petrol, a fydd yn cyfrannu at hyfywedd aneddiadau a chymunedau yn y dyfodol, o ran darparu gwasanaeth ond hefyd drwy gynnig 'mannau cyfarfod' lle gall y gymuned ryngweithio a lle gellir cynyddu'r ymdeimlad o gymuned. Ar ben hynny, mae'r CDLl yn cefnogi darpariaeth manwerthu leol a'r budd economaidd a ddaw yn ei sgil yn y cymunedau.

11.65 Mae'r Cyngor hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol os ceir dibyniaeth gref arnynt yn lleol. Mae gwasanaethau o'r fath yn hollbwysig i sicrhau llesiant economaidd cymunedau a hefyd yn hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, yn enwedig ymhlith aelodau llai symudol y gymuned.

11.66 Cydnabyddir mai'r aneddiadau gwledig yw'r rhai sydd yn fwyaf agored i golli'r cyfleusterau hynny. Bydd ffactorau fel y galw am dir preswyl a gwerth uchel tir preswyl mewn ardaloedd gwledig yn aml yn arwain at bwysau gan berchnogion eiddo i newid neu ailddatblygu'r cyfleusterau hynny i ddibenion preswyl, hyd yn oed lle bo busnes yn ffynnu. Gall yr incwm o siop neu weithgarwch arall fod yn llai na'r hyn y gellir ei ennill o fath arall o ddatblygiad. Mae'r polisi hwn yn ceisio cymedroli'r pwysau i newid drwy sicrhau na chaniateir colli siop neu gyfleuster os yw'n ddichonadwy a bod lefel y rhent yn briodol, onid oes cyfleusterau eraill rhesymol ar gael.

11.67 Er bod y polisi yn ceisio gwarchod rhag colli cyfleusterau, ceir darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau hynny lle gellir dangos nad oes angen y cyfleusterau hynny mwyach, neu lle nad ydynt yn ddichonadwy.

11.68 I dibenion y polisi hwn, mae pellter cerdded yn unol â'r hyn a nodir yn y Llawlyfr Strydoedd: Yr Adran Drafnidiaeth /Cymunedau a Llywodraeth Leol/LlCC - 2007[1]. Nodir yn y Llawlyfr mai'r hyn sydd fel arfer yn nodweddu cymdogaethau cerddadwy yw ystod o gyfleusterau o fewn 10 munud (hyd at tua 800m) o bellter cerdded o ardaloedd preswyl, y gall preswylwyr eu cyrraedd yn rhwydd ar droed.

11.69 Gellir diffinio marchnata eiddo i ddibenion y polisi hwn fel hysbysebu mewn cyhoeddiad o fewn y diwydiant priodol neu, lle bo'n briodol, drwy werthwyr tai lleol am gyfnod rhesymol o amser ac am bris rhesymol.

RTC3: Manwerthu mewn Ardaloedd Gwledig

Caniateir cynigion am siopau graddfa fach ategol neu estyniadau ar siopau presennol y tu allan i ffiniau datblygu os ydynt yn cydymffurfio â'r canlynol:

  1. Os ydynt yn cynrychioli elfen sy'n israddol i weithgarwch busnes presennol ar y safle;
  2. Os na fyddant yn niweidio dichonadwyedd siopau pentref cyfagos i raddau sylweddol;
  3. Os na fyddant yn cael effaith andwyol ar gymeriad, gosodiad ac ymddangosiad yr ardal a'r dirwedd a, lle bo'n briodol, y dreflun, gyfagos;
  4. Os ydynt yn hygyrch drwy ddulliau teithio cynaliadwy;
  5. Os yw'r trefniadau mynediad a pharcio yn dderbyniol ac na fydd y datblygiad yn amharu ar ddiogelwch priffyrdd i raddau sylweddol.

11.70 Yn aml gall cynigion am siopau newydd mewn ardaloedd gwledig sy'n ychwanegol at ddefnyddiau eraill wneud cyfraniad pwysig i'r economi wledig. Bydd darpariaeth o'r fath, boed hynny ar ffurf siopau fferm (a fydd o gymorth i fodloni'r galw am gynnyrch ffres), siopau crefft a siopau'n gysylltiedig â gorsafoedd petrol, nid yn unig yn bodloni gofynion lleol ond hefyd yn ffynhonnell i greu swyddi.

11.71 Er bod potensial i'r ddarpariaeth honno wasanaethu cymunedau gwledig, mae'n rhaid iddi adlewyrchu ei chyd-destun gwledig. Yn hynny o beth, dylai'r siop fod yn gysylltiedig i fusnes presennol ac yn israddol i'r busnes hwnnw.

11.72 Cydnabyddir y gall siopau mewn ardaloedd gwledig greu cyfleoedd am swyddi ychwanegol a chefnogi arallgyfeirio economaidd yng nghefn gwlad yn ogystal â darparu gwasanaeth i gymunedau lleol.

11.73 Caiff y Cyngor geisio defnyddio amodau cynllunio i gyfyngu ar ystod y nwyddau a werthir neu i gyfyngu ar yr arwynebedd llawr lle bo'n briodol, er mwyn atal unrhyw niwed sylweddol i weithgarwch manwerthu cyfagos. Yn ogystal â hyn, bydd yn rhaid ystyried y potensial i'r cynnig weithredu ar sail dymhorol os nad yw'n ddymunol iddo weithredu drwy gydol y flwyddyn.

11.74 Fel y nodwyd, gall siopau sy'n ategol i ddefnyddiau eraill, fel siopau fferm a fydd o gymorth i ateb y galw am gynnyrch ffres, siopau crefft a siopau'n gysylltiedig â gorsafoedd petrol, chwarae rôl bwysig mewn ardaloedd gwledig drwy ddarparu ffynonellau newydd ar gyfer swyddi a gwasanaethau. Fodd bynnag, wrth asesu'r cynigion hynny bydd yn rhaid ystyried yr effaith bosibl ar ganolfannau manwerthu a masnachol cyfagos, ac yn enwedig ar siopau pentref[2]. Ystyrir defnyddio amodau cynllunio i gyfyngu ar ystod y nwyddau a werthir neu gyfyngu ar arwynebedd y llawr os yw hynny'n galluogi bwrw ymlaen â'r datblygiad.


Pobl a Lleoedd Ffyniannus - Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i bobl a lleoedd yn ardaloedd trefol a gwledig ein sir.

11.75 Cydnabyddir y problemau economaidd gymdeithasol gan gynnwys tlodi ac amddifadedd yn wynebu rhannau gwledig a threfol ein Sir yng ngweledigaeth "Un Sir Gâr" y Cynllun hwn. I'r perwyl hwn, mae'r Cynllun yn ceisio mynd i'r afael â'r problemau hyn drwy sicrhau bod pawb yn cael cymaint o gyfle ag sy'n bosibl i gynnal neu gynyddu eu ffyniant a'u hymdeimlad o lesiant.

11.76 Mae'r cyfleoedd hyn yn cynnwys darparu ar gyfer tai newydd, gan gynnwys tai fforddiadwy, a swyddi, yn ogystal â llywio buddsoddiad newydd a blaenoriaethau o ran seilwaith, gan barchu ffabrig cymdeithasol y Sir ar yr un pryd, gan gynnwys y Gymraeg, diwylliant Cymreig a'i naws am le.

11.77 Cydnabyddir bod y themâu a'r polisïau a ddyrennir iddynt yn gorgyffwrdd â'i gilydd, ond nodwyd y canlynol o dan y thema hon:

  • Polisi Strategol - SP 3: Darparu Tai Newydd
  • Polisi Strategol - SP 4: Tai Fforddiadwy
  • Polisi Strategol - SP 5: Safleoedd Strategol
  • Polisi Strategol - SP 6: Cyflogaeth a'r Economi
  • Polisi Strategol - SP 7: Y Gymraeg a Diwylliant Cymru
  • Polisi Strategol - SP 8: Seilwaith
  • Polisi Strategol - SP 9: Darpariaeth i Sipsiwn a Theithwyr
  • Polisi Strategol - SP 10: Yr Economi Ymwelwyr
  • Polisi Strategol - SP 11: Gwneud Lle, Cynaliadwyedd a Dylunio o Ansawdd Uchel

11.78 Mae'r polisïau a ganlyn yn ceisio cefnogi cyflawniad amcanion strategol y Cynllun, ond hefyd yn creu cysylltiadau lefel uchel ac yn sicrhau y cydymffurfir yn fras â'r Nodau Llesiant.


Polisi Strategol - SP 3: Dull Cynaliadwy o Ddarparu Tai Newydd

Er mwyn sicrhau bod y gofyniad tai cyffredinol o 8,835 o dai dros gyfnod y cynllun yn cael ei fodloni, darperir ar gyfer 10,160 o dai newydd yn unol â'r fframwaith aneddiadau er mwyn hyrwyddo creu a gwella cymunedau cynaliadwy.

Mae'r dull cynaliadwy o ddarparu tai newydd yn adlewyrchu'r egwyddorion a ganlyn:

  1. Creu lleoedd drwy'r fframwaith aneddiadau a nodwyd gan adlewyrchu cymeriad a chyd-destun y clwstwr neu'r anheddiad dan sylw;
  2. Dyrannu safleoedd ar gyfer tai newydd mewn aneddiadau sefydledig;
  3. Cefnogi datblygiadau preswyl ar hap-safleoedd priodol o fewn aneddiadau, gyda ffocws ar ailddefnyddio tir a ddatblygwyd o'r blaen; a
  4. Darparu cyfleoedd am dai fforddiadwy er mwyn bodloni angen a nodwyd yn lleol.

Caniateir cynigion o fewn y ffiniau datblygu diffiniedig yn amodol ar bolisïau a chynigion y Cynllun hwn. Ceir rhagdybiaeth yn erbyn datblygiadau tai amhriodol y tu allan i'r ffiniau diffiniedig onid ydynt yn ddarostyngedig i bolisïau'r Cynllun hwn.

11.79 Un o nodau'r Cynllun yw hwyluso darparu'r nifer a'r ystod ofynnol o dai newydd o ansawdd, a fydd yn bodloni anghenion tai a nodwyd ac yn hyrwyddo cymunedau cydlynus sydd yn ddeniadol, yn ddiogel, wedi'u cysylltu'n dda ac yn cynnig mynediad at gyfleusterau diwylliannol a hamdden, gwasanaethau cymunedol a chyfleoedd am gyflogaeth.

11.80 Cafodd Strategaeth y Cynllun a'i dull cynaliadwy o ddarparu tai newydd ei seilio ar egwyddorion datblygu cynaliadwy. Mae hyn yn gyson â nodau a dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a pholisi cynllunio cenedlaethol[3]. Mae'n canolbwyntio ar fodloni anghenion tai ar draws cymunedau amrywiol y Sir mewn modd sy'n gynaliadwy, yn parchu rhinweddau amgylcheddol y Sir a'i nodweddion o safbwynt diwylliant a'r Gymraeg.

11.81 Mae'r CDLl yn ceisio hyrwyddo naws am le drwy hyrwyddo cymunedau cydlynus sy'n ddeniadol, yn ddiogel, wedi'u cysylltu'n dda ac sy'n cynnig ystod o gyfleoedd i gael mynediad at wasanaethau, gan nodi cymeriad gwledig rhannau o'r Sir.

11.82 Mae ffigur gofyniad tai ar gyfer y Sir yn seiliedig ar amcanestyniad 10 mlynedd o Dwf y Boblogaeth a amlygwyd yn adroddiad Edge Analytics yn 2019[4]. Mae'r senario hon yn rhagfynegi gofyniad tai a fyddai'n cefnogi uchelgeisiau economaidd y Sir drwy gynorthwyo i greu swyddi, ac yn ceisio cyfrannu at ymdrin unwaith eto â'r diffyg cydbwysedd a achosir gan boblogaeth sy'n heneiddio yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r rhesymeg ar gyfer yr opsiwn hwn a ffafrir ar gyfer twf hefyd yn cynnwys ystyriaeth o gyfraddau adeiladu'r gorffennol yn y Sir dros y 12 mlynedd diwethaf, ac yn creu seiliau uchelgeisiol, ond cadarn, er mwyn cyflawni nodau strategol cyffredinol y Cyngor.

11.83 Mae'r Cynllun hwn yn cyfrifo nifer o gydrannau cyflenwi tai er mwyn bodloni'r angen am dai, ynghyd â hyblygrwydd (cynnydd) er mwyn sicrhau y bydd nod cyffredinol y polisi strategol i ddarparu tai newydd yn cael ei gyflawni. Mae'r cyflenwad tai yn cynnwys y cydrannau a ganlyn:

  • Dyraniadau Tai (5+ cartref)
    • Ymrwymiadau banc tir
    • Anheddau wedi'u Cwblhau
  • Darpariaeth ar gyfer hap-safleoedd
    • Cydran Safleoedd Bach (llai na 5 cartref)
    • Cydran ar Hap-safleoedd (5+ Cartref)
  • Hyblygrwydd (+15%)

Dyraniadau Tai

11.84 Cydran fwyaf y cyflenwad tai yw safleoedd a ddyrannwyd i'w datblygu'n breswyl. Caiff dyraniadau tai eu nodi mewn polisïau tai penodol neu eu cynnwys yn rhan o ddyraniadau defnydd cymysg.

11.85 Bydd y polisïau penodol yn ystyried y datblygiadau sydd wedi cael eu cychwyn neu yr ymrwymwyd iddynt ers dyddiad sylfaen y CDLl diwygiedig, a byddant yn cael eu monitro'n barhaus drwy'r gwaith a gyflawnir yn rhan o'r Gydastudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai (JHLA) a'r Trywydd Tai (Atodiad 7).

Hap-safleoedd

11.86 Mae'r ddarpariaeth ar gyfer hap-safleoedd wedi'i seilio ar y ffactorau a ganlyn:

  1. Cyfraniadau posibl o safleoedd sy'n cynnwys llai na phum annedd (safleoedd bach) o fewn yr aneddiadau diffiniedig.
  2. Lwfans annisgwyl trwy safleoedd o bum annedd neu fwy sydd yn draddodiadol wedi gwneud cyfraniad pwysig at gyflenwi tai yn Sir Gaerfyrddin.

11.87 Bydd datblygiadau ar hap-safleoedd yn cael eu hystyried ar sail eu rhinweddau unigol, ac yn erbyn polisïau a chynigion y Cynllun hwn. Cydnabyddir nad yw hi bob amser yn ymarferol nac yn briodol dyrannu pob safle i'w ddatblygu o fewn Prif Ganolfannau a Chanolfannau Gwasanaeth. Yn wir, mewn aneddiadau llai ceir safleoedd sy'n addas i'r datblygu yn aml nad ydynt wedi'u pennu fel dyraniadau - a bydd eu cyfraniad at y cyflenwad o dir ar gyfer tai wedi'i nodi drwy'r ddarpariaeth hap-safleoedd.


HOM1: Dyraniadau Tai

Dyrennir tir ar gyfer datblygiadau preswyl ar y safleoedd canlynol.

Cyf. Safle

Enw'r Safle

Cyfanswm yr Unedau yng Nghyfnod y Cynllun

Cyfanswm yr Unedau Fforddiadwy yng nghyfnod y Cynllun

Amserlen Darparu

Blwyddyn 1-5

Blwyddyn 6-10

Blwyddyn 11-15

Unedau y tu hwnt i Gyfnod y Cynllun

Clwstwr 1

Caerfyrddin

PrC1/h1

Hen Adeiladau'r Awdurdod Iechyd, Heol Pen-lan

8

0

1-5

PrC1/h2

Heol Maesyffynnon

29

8.7

1-5

PrC1/h3

113 Heol y Prior

37

37

1-5

PrC1/h4

Tir oddi ar Barc y Delyn

35

5.95

11-15

PrC1/h5

I'r dwyrain o Lôn Devereaux

10

1

6-10

PrC1/h6

Heol Dolgwili

26

4.4

6-10

PrC1/h7

Fferm Penybont, Heol Llysonnen

9

0

11-15

PrC1/h8

Heol Llansteffan

50

8.5

6-10

PrC1/h9

Mounthill

5

0

1-5

PrC1/h10

Brynhyfryd

20

3.4

1-5

6-10

PrC1/h11

Estyniad Rhiw Babell

12

0

1-5

PrC1/h12

Heol Castell Pigyn, Abergwili

35

5.95

6-10

PrC1/h13

Tir i'r de o Bant Glas, Heol Bronwydd

13

4

6-10

11-15

PrC1/h14

Heol Bronwydd (de)

23

6.9

1-5

PrC1/MU1

Gorllewin Caerfyrddin

700

84

6-10

11-15

PrC1/MU2

Pibwr-lwyd

245

49

11-15

Pont-iets / y Meinciau / Pont-henri

SeC2/h1

Heol Pisgwydd

19

3.8

1-5

6-10

SeC2/h2

Tir y tu ôl i Frynderi

7

2

1-5

6-10

SeC1/h3

Tir yn ffinio â Chapel y Tabernacl

11

1

1-5

6-10

SeC1/h4

Cae Canfas, Heol Llanelli

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

11-15

SeC1 / h5

Tir yn 8 Heol Llanelli

6

0

1-5

Glanyfferi

SeC1/h1

Llys Caradog

12

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

6-10

SeC1/h2

Tir y tu ôl i Barc y Ffynnon

12

1.2

6-10

Cynwyl Elfed

SuV1/h1

Ger Fronheulog

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

SuV1/h2

Tir ger Lleine

13

4

1-5

6-10

Llansteffan

SuV3 / h1

Tir y tu ôl i Faesgriffith

19

5

1-5

6-10

Bronwydd

SuV4/h1

Tir ar fferm Troed Rhiw

6

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

Cwm-ffrwd

SuV5/h1

Tir ym Maesglasnant

20

4

1-5

Llan-gain

SuV8/h1

I'r de o Ddôl y Dderwen

36

11

6-10

Peniel

SuV10/h1

I'r de o Pentre

10

0

1-5

SuV10 / h2

Aberdeuddwr/Pantyfedwen

38

6.5

6-10

Alltwallis

SuV11/h1

Tir yn Ysgol Alltwalis

12

1.2

1-5

Llanpumsaint

SuV12/h1

Ger Gwyn Villa

20

3.4

1-5

6-10

Rhydargaeau

SuV14/h1

Fferm Cefn

33

5.6

1-5

6-10

Llanarthne

SuV15 / h1

Ysgol Llanarthne

10

2

1-5

Capel Dewi

SuV16/h1

Heol Llwynddewi

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

6-10

Nantgaredig

SuV17 / h1

Cefn yr Hen Waith Saer, Heol yr Orsaf

30

5.1

6-10

Pontargothi

SuV18 / h1

Tir oddi ar yr A40, Pontargothi

15

3

1-5

Llanddarog

SuV19/h1

Tir gyferbyn â Neuadd y Pentref

16

3.2

1-5

SuV19/h2

Tir ger Haulfan a'r tu ôl i Haulfan

10

1

6-10

11-15

Porth-y-rhyd

SuV20 / h1

Tir ger Fferm Llwynhenri

6

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

Cyfanswm ar gyfer y Clwstwr

1646

Clwstwr 2

Llanelli

PrC2/h1

Beech Grove, y Pwll

10

1

6-10

PrC2 / h2

Hen Labordy Lôn Pen y Fai

10

2

1-5

PrC2/h3

Parc y Strade, Gorllewin Llanelli

94

0

1-5

PrC2/h4

Doc y Gogledd (gan gynnwys Pontrilas gynt)

210

42

6-10

11-15

PrC2/h5

The Avenue, Morfa

35

5.95

6-10

11-15

PrC2/h6

107 Heol yr Orsaf

7

0

1-5

PrC2/h7

13 Heol yr Orsaf

9

0

1-5

PrC2/h8

2-4 Teras Coleshill

9

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

PrC2/h9

3-5 Heol Goring

8

8

1-5

PrC2/h10

Tir ger The Dell, Ffwrnes

13

1.3

1-5

6-10

PrC2/h11

Brynmefys, Ffwrnes

54

10.8

1-5

6-10

PrC2/h12

Llys yr Hen Felin, Canol y Dref

27

27

1-5

PrC2/h13

Tir oddi ar Rodfa Frondeg

29

29

1-5

PrC2/h14

Cefn 22c, 22d a 22e Heol Llwynhendy

6

0

1-5

PrC2/h15

Heol Maesarddafen/Erw Las, Llwynhendy

94

18.8

1-5

6-10

PrC2/h16

Ynys Las, Llwynhendy

45

7.6

11-15

PrC2/h17

Ger 73 Parc Guto, Llwynhendy

10

1

1-5

6-10

PrC2/h18

Dylan, Trallwm

32

32

1-5

PrC2/h19

Genwen, y Bryn

260

51.4

1-5

PrC2 / h20

Harddfan, y Bryn

6

6

6-10

PrC2/h21

Maes y Bryn, y Bryn

34

34

1-5

PrC2/h22

Cwm y Nant, Dafen

280

56

6-10

11-15

PrC2 / h23

Porth Dwyrain Dafen

150

30

1-5

6-10

PrC2/SS1

Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant (safle strategol), De Llanelli

240

40.8

6-10

PrC2/MU2

Porth Trostre (defnydd cymysg)

35

5.95

11-15

Cydweli

SeC3/h1

Tir ger Brodawel

9

1.8

6-10

SeC3/h2

Tir oddi ar Stryd y Prior

20

3.4

11-15

SeC3/h3

Tir y tu ôl i Park View Drive

24

4.8

1-5

SeC3/h4

Tir yn Dinas Yard gynt

80

6

1-5

6-10

Porth Tywyn

SeC4/h1

Fferm Gwdig

105

21

1-5

6-10

SeC4/h2

Harbwr Porth Tywyn

364

36.4

6-10

11-15

SeC4/h3

Teras Glanmor

32

32

1-5

Pen-bre

Sec5 / h1

Garreglwyd

14

14

1-5

Sec5/h2

Fferm Cwrt

100

20

1-5

6-10

Yr Hendy / Fforest

SeC6/h1

Ger Clos Tŷ Gwyn

20

5

1-5

SeC6/h2

Tir rhwng Heol Clayton a Dwyrain Heol Bronallt

39

9.75

1-5

6-10

SeC6/h3

Coed y Bronallt

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

SeC6/h4

Ger Clos Benallt Fawr, Fforest

35

4

1-5

SeC6/h5

Garej Fforest

17

1.7

6-10

Llangennech

SeC7/h1

Box Farm

7

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

SeC7/h2

Aber Llwchwr

10

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

6-10

SeC7/h3

Golwg yr Afon

50

8.5

6-10

SeC7/h4

Gyferbyn â Pharc Morlais

35

5.95

6-10

SeC7/h5

Maesydderwen

5

5

1-5

6-10

Trimsaran / Carwe

SeC8/h1

Ffos Las

233

23.6

1-5

6-10

SeC8/h2

Tir y tu ôl i Gae Linda

50

8.5

1-5

6-10

Mynyddygarreg

SuV22 / h1

Tir gyferbyn â Pharc y Garreg

30

6

6-10

SuV22/h2

Tir ger Tŷ Newydd, Heol y Meinciau

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

SuV22/h3

Tir ar Heol Llangadog

12

1.2

6-10

11-15

Pum-hewl / Horeb

SuV23/h1

Clos y Parc

20

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

6-10

SuV23/h2

Ger Little Croft

25

4.25

6-10

Cyfanswm ar gyfer y Clwstwr

3059

Clwstwr 3

Rhydaman (gan gynnwys y Betws a Phen-y-banc)

PrC3/h1

Tir y tu ôl i 16-20 a 24-30 Heol y Betws

8

3

6-10

PrC3/h2

Hen Orsaf Betrol, Stryd y Gwynt

6

6

1-5

PrC3 / h3

Tir yng Ngwynfryn Fawr

28

28

1-5

PrC3/h4

Fferm Tirychen

150

10

6-10

11-15

PrC3/h5

Yr Hen Felin, Heol Pontaman

6

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

PrC3/h6

Tir sy'n ffinio â Maes Ifan, Ffordd Maescwarrau

19

1.8

6-10

11-15

Capel Hendre

PrC3/h7

Ystad Delfryn

15

1.2

1-5

Cefneithin

PrC3/h8

Tir oddi ar Heol y Parc

18

1.8

6-10

11-15

Cross Hands

PrC3/h9

Tir ger Maesyrhaf

9

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

PrC3/h10

Tir y tu ôl i Wernllwyn

30

5.1

11-15

PrC3 / h11

Tir i'r dwyrain o Heol Caerfyrddin

60

20

6-15

PrC3/h12

Tir sy'n ffinio â'r A48 a Heol y Parc

8

0

1-5

6-10

PrC3/h13

Tir ar Heol Cae Pownd

101

7

1-5

Drefach (Tymbl)

PrC3/h14

Nantydderwen

33

5.61

11-15

PrC3/h15

Tir oddi ar Heol Caegwyn

6

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

6-10

PrC3/h16

Uwch Gwendraeth

6

1

1-5

PrC3/h17

Rhan o dir Maesygwern, Heol Caegwyn

23

2.3

1-5

6-10

Gors-las

PrC3 / h18

Tir yn ffinio â Brynlluan

29

4.93

11-15

Llandybie

PrC3/h19

Tir oddi ar Lys y Nant

9

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

PrC3/h20

Tir i'r gogledd o Faes Piode

42

7.14

11-15

PrC3/h21

Maes Piode

8

8

1-5

Penygroes

PrC3/h22

Ger Pant y Blodau

79

8

1-5

6-10

PrC3/h23

Tir ar Heol Waterloo

15

0

1-5

PrC3/h24

Tir rhwng 123 a 137 Heol Waterloo

11

2

1-5

PrC3/h25

Tir oddi ar Heol y Gât

8

8

1-5

PrC3/MU1

Gwaith Brics Emlyn

177

35.4

6-10

11-15

Saron

PrC3/h26

Tir oddi ar Barc-y-Mynydd

16

1.5

6-10

11-15

PrC3/h27

Tir oddi ar Heol Nant-y-Ci

18

1.8

11-15

Tymbl

PrC3/h28

Tir ar safle Ffatri rhwng 22 a 28 Heol Bethesda

30

7.5

1-5

6-10

PrC3/h29

Garej Central

24

5

1-5

PrC3/h30

Tir oddi ar Heol Gwendraeth

9

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

Tŷ-croes

PrC3/h31

Tir yn Fforest-fach

17

1

1-5

PrC3/h32

Tir i'r de o Heol Tŷ-croes

62

37

1-5

6-10

Brynaman

SeC9/h1

Tir ar Heol Ardwyn

6

0

1-5

6-10

SeC9/h2

Heol y Gelynnen

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

11-15

Glanaman / y Garnant

SeC10/h1

Ysgol Gynradd Gymunedol y Garnant, Heol Ysgol Newydd

9

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

SeC10/h2

Tir yn gyfagos ag 13 Heol yr Esgob

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

SeC10/h3

Hen Ysgol Gynradd Glanaman

7

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

SeC10/h4

Hen Ysbyty Glanaman

28

28

1-5

6-10

Pontyberem / Bancffosfelen

SeC11/h1

Tir oddi ar Heol Llannon

55

11

1-5

6-10

SeC11/h2

Tir yn Ffynnon Fach

19

2

1-5

Llannon

SuV25/h1

Tir i'r gogledd o Glos Rebecca

47

3

1-5

6-10

Llanedi

SuV26/h1

Y tu ôl i 16 Y Garreg Lwyd

11

1

1-5

Carmel

SuV27/h1

Tir ger Tŷ Newydd

5

Cyfraniad Swm Cymudedig

11-15

Cwmgwili

SuV28/h1

Ger Coed y Cadno

18

2

1-5

Ystradowen

SuV30/h1

Tir oddi ar Bant y Brwyn

5

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

Cyfanswm ar gyfer y Clwstwr

1306

Clwstwr 4

Castellnewydd Emlyn

SeC12/h1

Trem y Ddôl

17

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

6-10

SeC12/h2

Heol Dewi

14

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

SeC12/h3

Tir y tu ôl i Ddolcoed

20

3.4

6-15

Llanybydder

SeC13/h1

Ger Y Neuadd

10

1

6-15

SeC13/h2

Heol y Dderi

30

5.1

11-15

SeC13/h3

Troedybryn

23

3.91

6-10

11-15

Pencader

SeC14 / h1

Garej Blossom

20

3.4

1-5

6-10

SeC14 / h2

Tir ger Maescader

24

4.08

6-10

11-15

SeC14/h3

Glanawmor

28

4.76

11-15

SeC14/h4

Bro'r Hen Ŵr

7

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

Dre-fach/Felindre

SuV31/h1

Parc Puw

12

1.2

6-10

SuV31/h2

Parc Meirios

10

1

11-15

Waungilwen

SuV32/h1

Gyferbyn â Springfield

6

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

6-10

Llangeler

SuV33/h1

Tir gyferbyn â Brogeler

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

11-15

Pentre-cwrt

SuV34/h1

Tir yn ffinio â Brynywawr

14

1.4

1-5

6-10

Saron/Rhos

SuV35/h1

Tir ger Arwynfa

35

5.95

1-5

6-10

Llanllwni

SuV36/h1

Cae Pensarn Helen

6

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

11-15

SuV36/h2

Tir ym Mryndulais

10

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

Cwm-ann

SuV37/h1

Y tu ôl i Swyddfa'r Post

20

4

1-5

6-10

SuV37/h2

Tir i'r de o Gae Coedmor

20

3.4

6-10

11-15

SuV37/h3

Tir ger Lleinau

10

1

6-10

Capel Iwan

SuV38/h1

Maes y Bryn

11

1.1

1-5

6-10

SuV38/h2

Tir ger Brynglas

5

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

Llanfihangel-ar-arth

SuV39/h1

Ger Yr Hendre

7

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

Tre-lech

SuV40/h1

Clos y Cynin

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

6-10

Pontyweli

SuV41/h1

Ger Crug yr Wyn

19

1.9

11-15

New Inn

SuV43/h1

Blossom Inn

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

11-15

Cyfanswm ar gyfer y Clwstwr

402

Clwstwr 5

Llanymddyfri

SeC15/h1

Tir i'r gogledd o Dan y Crug

12

1.2

1-5

6-10

SeC15/h2

Tir ger Bryndeilog, Rhodfa Tywi

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

11-15

Llandeilo

SeC16/h1

Ardal Gogledd Llandeilo

27

4.59

6-10

11-15

SeC16/h2

Maes Tomos

5

Cyfraniad Swm Cymudedig

11-15

SeC16/h3

Tir ger 28 Heol Caerfyrddin, Llandeilo

5

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

Llangadog

SeC17/h1

Tir gyferbyn ag Ysgol Gynradd Gymunedol Llangadog

16

1.6

1-5

6-10

SeC17/h2

Tir oddi ar Heol Pendref

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

Talyllychau

SuV47/h1

Tir yn ffinio â Ffynnon Dawel

7

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

Cwrt-henri

SuV48/h1

Tir ger Llys Glasfryn

16

1.6

1-5

6-10

Cwmifor

SuV51/h1

Gyferbyn â Neuadd y Pentref

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

6-10

Cyfanswm ar gyfer y Clwstwr

112

Clwstwr 6

Sanclêr / Pwll-trap

SeC18 / h1

Ger Brittania Terrace

60

12

6-10

11-15

SeC18/h2

Hen Ffatri Fenyn

45

13.5

6-10

SeC18/h3

Tir ger Cefn Maes

50

8.5

11-15

SeC18/h4

Tir ar Heol Llaindelyn

6

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

SeC18/h5

Tir ger Gwynfa, Heol yr Orsaf

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

SeC18/h6

Tir y tu ôl i Heol yr Orsaf

25

4.25

11-15

SeC18/h7

Tir ger Caeau Gardde Fields

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

SeC18/h8

Tir yng Nghae Glas

5

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

Hendy-gwyn ar Daf

SeC19/h1

Tir yn Park View, Trefechan

8

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

11-15

SeC19/h2

Tir yn Hufenfa Hendy-gwyn ar Daf

48

11.4

1-5

6-10

Talacharn

SeC20/h1

Pludds Meadow

24

2

1-5

6-10

SeC20/h2

Ger Ysgol Talacharn

42

13

6-10

SeC20/h3

Tir oddi ar Clifton Street

6

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

6-10

Glandy Cross

SuV55/h1

Tir y tu ôl i Faes-glas

9

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

SuV55/h2

Tir i'r gogledd o Dafarn Cross Inn

6

Cyfraniad Swm Cymudedig

6-10

Efail-wen

SuV56/h1

Tir y tu ôl i Dalar Wen

6

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

6-10

Meidrim

SuV58/h1

Tir ger Lôn Dewi

10

10

1-5

SuV58/h2

Tir oddi ar Heol Drefach

15

1.5

1-5

6-10

11-15

Bancyfelin

SuV59/h1

Maes y Llewod

17

4

1-5

SuV59/h2

I'r gogledd o Faes y Llewod

19

1.9

6-10

Llangynog

SuV60/h1

Tir yn College Bach

6

Cyfraniad Swm Cymudedig

1-5

6-10

Pentywyn

SuV61/h1

Tir ar Fferm Nieuport

10

1

6-10

Llanmilo

SuV63/h1

Tir yn Woodend

28

4

1-5

6-10

Cyfanswm ar gyfer y Clwstwr

461

Cyfanswm y Dyraniad Tai

6986

Tabl 5: Tabl Dyrannu Tai



11.88 Mae'r tir a ddyrannwyd ar gyfer tai a nodwyd drwy'r polisi hwn a thrwy ddarpariaethau eraill y Cynllun hwn yn ceisio bodloni'r gofynion tir ar gyfer tai yn y Sir. Wrth eu dosbarthu, cafodd y dyraniadau hynny eu llywio at aneddiadau mewn modd a oedd yn gyson â strategaeth gyffredinol y Cynllun ac egwyddorion cynaliadwyedd. Fodd bynnag, mae'r Cynllun yn ceisio cyflawni hyn drwy hierarchaeth strwythuredig a thrwy ddosbarthu twf mewn modd sy'n golygu bod mwyafrif y tir sydd ei angen ar gyfer y tai yng nghanolfannau cynaliadwy Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman/Cross Hands. Mae dyraniadau pellach wedi'u dosbarthu ar draws gweddill yr hierarchaeth.

11.89 Ystyriwyd capasiti safleoedd a ddyrannwyd fesul safle, yn hytrach na thrwy gymhwyso safon benodol. Yn sicr, gwelwyd dwysedd uwch ar safleoedd yn yr aneddiadau lefel uwch, gan ystyried y math o ddatblygwr a fyddai'n cyflwyno'r safle, cynllun safleoedd cyfagos, nodweddion y safle ei hun a ffactorau'n gysylltiedig â datblygu ar y safle. Bydd yr un egwyddorion yn cael eu hystyried mewn aneddiadau mwy gwledig a fydd yn cynnwys dwysedd is ar y cyfan.

11.90 Bwriedir i'r niferoedd ar safleoedd a amlygwyd ym Mholisi HOM1 fod yn niferoedd dangosol, a rhoddir ystyriaeth bellach i'r niferoedd hynny wrth gyflwyno ceisiadau. Bydd yn rhaid rhoi ystyriaeth hefyd i bolisïau a darpariaethau'r cynllun hwn, ac i egwyddorion dylunio eraill perthnasol.

11.91 I gyd-fynd â chynigion i ddatblygu safleoedd a ddyrannwyd ar gyfer tai a gyflwynir mewn ceisiadau am Ganiatâd Cynllunio Llawn neu ganiatâd ar gyfer Materion a Gadwyd yn Ôl, dylid cyflwyno cynllun o'r safle sydd wedi'i ddyrannu yn ei gyfanrwydd, er mwyn sicrhau bod y safle'n cael ei ddatblygu'n unol â'i botensial llawn. Dylid cyfeirio hefyd at bolisi PSD2 yn gysylltiedig â gofynion prif gynlluniau.

11.92 I ategu'r Cynllun ceir Cynllun Cyflawni Seilwaith sy'n rhoi manylion pellach ynghylch amserlennu, ariannu a chyflawni seilwaith sydd ei angen ar gyfer pob safle sydd wedi'i ddyrannu. Yn hyn o beth bydd yn ofynnol i gynigion gynnwys amserlen briodol er mwyn cyflawni'r gwaith fesul cam. Bydd hon nid yn unig wedi'i seilio ar y Cynllun Cyflawni Seilwaith, ond hefyd ar ofynion polisi a mesurau lliniarol yn gysylltiedig ag effeithiau posibl ar y Gymraeg ac ar fioamrywiaeth.,

HOM2: Tai oddi mewn i Ffiniau Datblygu

Caniateir cynigion am ddatblygiadau tai ar safleoedd heb eu dyrannu o fewn ffiniau datblygu anheddiad diffiniedig yn Haenau 1, 2 a 3, ar yr amod eu bod yn gyson â'r egwyddorion yn strategaeth, polisïau a chynigion y Cynllun.

11.93 Mae safleoedd a all gynnwys pum neu fwy o anheddau wedi'u cynnwys fel safleoedd tai wedi'u dyrannu yn y Cynllun (gweler Polisi HOM1). Fodd bynnag, o fewn ffiniau datblygu aneddiadau diffiniedig gallai cyfleoedd godi i ddatblygu ar safleoedd heb eu dyrannu. O fewn yr hierarchaeth aneddiadau, gelwir tir nad yw wedi'i ddyrannu yn hap-safle yn gysylltiedig â datblygiad tai. Dylai cynigion adlewyrchu cymeriad yr ardal a bod yn gyson â darpariaethau'r Cynllun.

HOM3: Tai mewn Pentrefi Gwledig

Yn yr aneddiadau hynny a nodir yn bentrefi gwledig o dan Bolisi SP16, caniateir cynigion am 1 i 4 annedd ar gyfer y canlynol:

  • safle mewnlenwi bach neu fwlch bach rhwng y ffurf adeiledig bresennol; neu,
  • estyniadau rhesymegol ac/neu gwblhau'r patrwm datblygu mewn modd sy'n cydweddu â chymeriad ffurf a thirlun y pentref; neu
  • addasu neu isrannu anheddau mawr.

Bydd ystyriaethau cynllunio eraill manwl a nodir ym mholisïau'r CDLl yn berthnasol wrth drafod y cynigion hynny.

Cyfeirir at y canllawiau ar blotiau derbyniol ym mhentrefi gwledig y Sir (gweler isod).

Ni chaiff cynigion sydd yn fwy na'r cap o 20% yn ychwanegol at nifer y tai presennol yn yr anheddiad, ar ddyddiad sylfaen y CDLl, onid ydynt yn cydymffurfio â Pholisi AHOM1 o ran darparu tai fforddiadwy.

11.94 Mae'r fframwaith aneddiadau ar gyfer ardal y Cynllun a nodir ym Mholisi Strategol SP16 yn cydnabod ac yn adlewyrchu amrywiaeth yr ardal a'i chymunedau. Wrth nodi'r Pentrefi Gwledig, mae'r Cynllun yn ceisio darparu ar gyfer yr aneddiadau hynny sy'n gwneud cyfraniad pwysig o fewn eu cymunedau.

11.95 Bydd y rhain yn aml yn aneddiadau a oedd yn y gorffennol wedi cynnwys gwasanaethau a chyfleusterau penodol sydd bellach, o bosib, wedi diflannu. Er y gellir dadlau bod eu rôl a'u swyddogaeth wedi lleihau, maent yn dal i gynrychioli cymuned sefydledig sy'n cynnig cyfleoedd am dai newydd graddfa fach a phriodol o fewn lleoliadau gwledig.

11.96 Mae'r rhan hon o fframwaith polisi gwledig y Cynllun yn ceisio sefydlu ymagwedd hyblyg ond rheoledig at ddarparu tai newydd o fewn yr aneddiadau hynny. Mae'r Cynllun yn ystyried peidio cymhwyso ffiniau datblygu, ac yn defnyddio asesiad sy'n seiliedig ar feini prawf i ddiffinio cyfleoedd tai graddfa fach mewn pentrefi gwledig. Drwy'r ymagwedd hon sicrheir y byddai'n cefnogi'r cymunedau gwledig ac yn bodloni'r angen am dai newydd yn rhannau gwledig o Sir Gaerfyrddin, ar raddfa ac mewn lleoliadau sy'n cynnal cymeriad hanfodol cefn gwlad.

11.97 Er mwyn adlewyrchu'r cymeriad gwledig ac atal lefelau twf annerbyniol a allai fod yn niweidiol, caniateir cap o 20% yn ychwanegol at nifer y tai presennol yn yr anheddiad, ar ddyddiad sylfaen y Cynllun.

11.98 Cyhoeddir canllawiau pellach ar ffurf Canllaw Cynllunio Atodol er mwyn cynorthwyo i ddehongli a chymhwyso'r uchod, a'r polisi. Bydd y canllaw yn rhan o gyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol i gefnogi ystyriaethau ynghylch dylunio a lleoli yn gyffredinol, ac yn galluogi cynigion i gyfrannu at ddatblygu cymunedau cydlynus a chynaliadwy, ac integreiddio'n effeithiol iddynt.

Canllawiau ar Blotiau Derbyniol

  1. Fel rheol, bydd safleoedd mewnlenwi o fewn y pentrefi gwledig hyn yn cael y flaenoriaeth ar leoliadau eraill (safleoedd lle ceir datblygiad adeiledig ar y naill ochr a'r llall yw'r safleoedd hyn fel arfer);
  2. Lle bo'n briodol, bydd safleoedd sy'n ffinio â phentref gwledig hefyd yn dderbyniol. Bydd yn ofynnol i safleoedd o'r fath ffinio ag un eiddo sy'n rhan o grŵp y pentref gwledig. Bydd yn ofynnol i bob cynnig sy'n ffinio â grŵp (yn wahanol i safleoedd mewn lenwi) ddangos y canlynol:
    • nodwedd ffisegol neu weledol bresennol sy'n creu ffin i'r grŵp - gan leihau pwysau am ddatblygiad hirgul neu flerdwf trefol annerbyniol;
    • os nad oes nodwedd o'r fath yn bodoli, gellid darparu nodwedd o'r fath ar yr amod ei bod yn cyd-fynd â chymeriad y grŵp o ran graddfa ac ymddangosiad;
  3. Ni fydd cynigion mewn caeau agored sy'n ffinio â grŵp, nad oes ganddynt unrhyw nodweddion ffisegol i'w hamgylchynu yn cael eu hystyried yn dderbyniol;
  4. Ni chaiff cynigion y tu hwnt i nodweddion ffisegol clir sy'n creu ffiniau cryf o amgylch grŵp (ee, priffyrdd, lleiniau sylweddol o goed, afonydd ac ati) yn cael eu hystyried yn dderbyniol.

HOM4 - Tai mewn Aneddiadau Gwledig Anniffiniedig

Caniateir cynigion newydd am dai sengl mewn pentrefannau, neu grwpiau o anheddau (fel y'u diffinnir yn y testun ategol isod), ac nad ydynt wedi'u dynodi o dan Bolisi Strategol SP16 os ydynt yn bodloni angen lleol am dai fforddiadwy, ac yn cydymffurfio â'r canlynol:

  1. Bod y safle yn fwlch bach na all ond cynnwys un uned breswyl rhwng anheddau presennol, neu fod y patrwm datblygu yn cael eu gwblhau mewn modd priodol;
  2. Bod y datblygiad ar raddfa sy'n gyson â chymeriad yr anheddiad;
  3. Na fydd y cynnig yn arwain at ddatblygu i'r dirwedd mewn modd ymwthiol, ac na fydd yn cyflwyno patrwm datblygu tameidiog, nac yn creu datblygiad hirgul annerbyniol sy'n groes i batrwm datblygu cyffredinol yr anheddiad neu'r grŵp o anheddau;
  4. Bod maint yr eiddo yn adlewyrchu'r angen penodol am annedd fforddiadwy yn nhermau maint y tŷ a nifer yr ystafelloedd gwely;
  5. Bod deiliadaeth yr annedd wedi'i chyfyngu i rai ac arnynt angen annedd fforddiadwy, wrth feddiannu am y tro cyntaf ac am byth wedi hynny.

Ni chaiff datblygiad ym mhob pentrefan neu grŵp o dai gynnwys mwy na 2 annedd sy'n bodloni'r angen am dai fforddiadwy yn lleol.

11.99 Gan ddarparu ar gyfer ein hardaloedd gwledig a'u cymunedau, mae'r polisi yn ceisio adlewyrchu'r rhan bwysig y gall tai fforddiadwy ei chwarae er mwyn bodloni anghenion penodol ardal leol. Y nod yw caniatáu datblygu yng nghefn gwlad ar raddfa ac mewn lleoliadau sy'n cynnal cymeriad hanfodol y Sir Gaerfyrddin wledig, gan ddarparu ar gyfer anghenion tai pobl leol.

11.100 Nodir hefyd fod angen cyflenwi'r ddarpariaeth honno yn erbyn agenda genedlaethol sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd â chreu lleoedd yn rhan greiddiol o hynny. Yn hyn o beth, cyfeirir at ddarpariaethau PCC Rhifyn 10, sy'n ei gwneud hi'n ofynnol arfer rheolaeth lem dros bob datblygiad preswyl nad yw wedi'i leoli ger aneddiadau presennol. Gan adlewyrchu darpariaethau polisi cenedlaethol, mae'r polisi felly'n mynnu bod anheddau i fodloni angen lleol am dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig yn cael eu cyfyngu i bentrefannau neu grwpiau o anheddau sefydledig. Y mae hefyd yn ceisio cyfyngu ar nifer posibl yr anheddau hynny, fel na cheir mwy na 2 annedd i fodloni angen lleol am dai fforddiadwy. Mae'r cyfyngiad hwn yn berthnasol i ganiatadau cynllunio presennol os ydynt yn dal yn ddilys yn dilyn dyddiad sylfaen y cynllun (1 Ebrill 2018).

11.101 Er bod sylfaen gadarn o dystiolaeth i gefnogi'r CDLl Diwygiedig, cydnabyddir bod manylion anghenion tai yn newid dros amser. Ar gyfer cynigion am dai fforddiadwy, bydd yn ofynnol cyflwyno tystiolaeth i ddangos yr angen penodol lleol a sicrhau bod y cynnig yn darparu tai o'r maint, o'r math ac o'r ddeiliadaeth sydd ei hangen. Ni chaiff cynigion i fodloni angen lleol tybiannol eu hystyried. Yn lle hynny, dylent fod yn gysylltiedig ag angen a nodwyd gan unigolion/teuluoedd o fewn yr ardal benodol.

11.102 Lle bônt ar gael, dylid defnyddio arolygon anghenion tai lleol i ddarparu'r dystiolaeth hon. Fel arall, gellir ystyried bod ffurfiau eraill ar dystiolaeth yn briodol, gan gynnwys Asesiadau Ardal Marchnad Dai Strategol, a chofrestrau anghenion/gosod tai lleol.

11.103 Bydd mesurau'n cael eu gorfodi i reoli meddiannaeth, er mwyn sicrhau bod manteision fforddiadwyedd yn cael eu cadw am byth i feddianwyr dilynol. Ceir diffiniad o Aneddiadau Gwledig Anniffiniedig a Thai sy'n Bodloni Anghenion Lleol yn y Rhestr Termau.

HOM5: Addasu neu Isrannu Anheddau Presennol

Caniateir cynigion i addasu neu isrannu anheddau priodol yn fflatiau neu'n anheddau amlbreswyl, os:

  1. Na fydd hynny'n arwain at or-ddwysáu'r defnydd;
  2. Oes mannau parcio addas ar gael, neu os darperir hynny;
  3. Bydd ansawdd pensaernïol, cymeriad ac ymddangosiad yr adeilad yn cael ei warchod, lle bo'n berthnasol, ac na chaiff ei leoliad ei niweidio i raddau annerbyniol.

11.104 Mae'r polisi hwn yn ceisio adlewyrchu potensial cyfleoedd i addasu anheddau presennol priodol yn lle adeiladu o'r newydd. Yn aml gall cyfleoedd o'r fath greu ystod a deis ychwanegol o fewn y stoc tai, a chynnig opsiynau eraill i berchnogion eiddo, lle nad yw meddiannaeth unigol mewn anheddau mwy yn briodol mwyach.

11.105 Dylai estyniadau fod yn israddol i'r annedd bresennol, a cydweddu â maint, math a chymeriad yr annedd bresennol, a pheidio ag achosi gorddatblygu (dylid cyfeirio at bolisi PSD10: Estyniadau). Lle bo'n briodol, anogir ailddefnyddio deunyddiau yn rhan o unrhyw ddatblygiad mewn cynigion.

HOM6: Tai Arbenigol

Caniateir cynigion am ddatblygiadau cartref gofal newydd ac estyniadau ar gyfleusterau tai arbenigol sefydledig oddi mewn i ffiniau datblygu aneddiadau diffiniedig presennol (Polisi SP16), neu'n gysylltiedig yn uniongyrchol â'r aneddiadau hynny os:

  1. Ydynt yn adlewyrchu anghenion y meddianwyr arfaethedig o ran sicrhau bod ganddynt fynediad diogel a chyfleus at siopau, gwasanaethau, cyfleusterau cymunedol a thrafnidiaeth gyhoeddus neu lwybrau teithio llesol; ac,
  2. Ydynt yn darparu llety addas a phriodol o ran ansawdd, dyluniad a math, yn ogystal â lefel briodol o gymorth a gofal i'r meddianwyr arfaethedig

Ni chaniateir cynigion am dai arbenigol y tu allan i'r ffiniau datblygu diffiniedig, neu heb fod yn gysylltiedig yn uniongyrchol â'r ffiniau hynny, os gellir dangos eu bod yn ddichonadwy ac yn gynaliadwy, ac:

  1. Lle bo'r cynnig yn ychwanegiad at gartref gofal presennol, a'i raddfa heb fod yn anghymesur; neu,
  2. Os yw'n golygu addasu eiddo presennol mewn modd priodol, sydd yn cyd-fynd ag anghenion y meddianwyr arfaethedig, ac yn gyson â maen prawf a) a b) uchod.

11.106 Gallai'r proffil oedran newidiol a'r symudiad parhaus a ragwelir dros gyfnod y cynllun tuag at boblogaeth sy'n heneiddio gynyddu'r angen am Dai Arbenigol. Bydd modd bodloni rhai gofynion am ddarpariaeth byw gyda chymorth neu anghenion cymorth drwy addasu tai presennol neu drwy gyfleusterau presennol. Er hynny, cydnabyddir bod angen i'r Cynllun gynnwys darpariaeth i ystyried yr angen am gartrefi gofal newydd. Gan hynny, mae'r polisi hwn yn ceisio darparu fframwaith ar gyfer ystyried cynigion, er mwyn sicrhau ystyriaeth briodol o anghenion y rhai y mae angen gofal arnynt.

11.107 I ddibenion y polisi hwn, mae'r diffiniad o Dai Arbenigol yn gysylltiedig â chartrefi nyrsio, tai gwarchod, cartrefi gofal ychwanegol neu ofal agos (warden), cyfleusterau ymddeol sy'n adlewyrchu anghenion gofal parhaus, a chyfleusterau eraill lle darperir gofal. Pan gynigir cartref gofal ar safle sydd wedi'i ddyrannu at ddefnydd preswyl yn y Cynllun, rhoddir ystyriaeth i natur y cynnig a'i addasrwydd ar gyfer y lleoliad arfaethedig. Bydd lefel annibyniaeth y preswylwyr yn ystyriaeth bwysig, ac ni fydd tai 'drws caeedig' fel arfer yn cael eu hystyried yn briodol.

11.108 Bydd cynnwys cartrefi gofal oddi mewn i'r ffiniau datblygu, neu gerllaw, yn sicrhau bod preswylwyr yn cael cyfle i integreiddio i'r gymuned, a bod datblygiadau yn rhan o'r ffurf drefol neu adeiledig. I ddibenion y polisi hwn, diffinnir cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol fel meddygfeydd teulu a siopau. Mae hygyrchedd y seilwaith a'r cyfleusterau hynny yn elfen bwysig ymhlith anghenion pobl.

HOM7: Adnewyddu Anheddau Adfeiliedig neu Anheddau wedi'u Gadael

Caniateir cynigion i adnewyddu anheddau adfeiliedig neu anheddau wedi'u gadael y tu allan i Ffiniau Datblygu anheddiad diffiniedig (Polisi SP16) os:

  1. Gellir dangos bod rhan sylweddol o'r strwythur gwreiddiol yn gadarn ac yn ddigon cyfan, gan olygu nad oes angen ond ychydig o waith adfer strwythurol;
  2. Bod yr adeilad yn arddangos ac yn cadw nodweddion pensaernïol o ansawdd digonol a deunyddiau traddodiadol heb golli gormod o gymeriad a hygrededd y strwythur gwreiddiol;
  3. Na cheir unrhyw effaith andwyol ar leoliad na hygrededd yr amgylchedd hanesyddol.

Mewn achosion eithriadol lle gellir dangos bod yr annedd wreiddiol wedi chwarae rhan gydnabyddedig a sylweddol yn hanes, diwylliant a datblygiad Sir Gaerfyrddin, gellir derbyn ffotograffau neu ddogfennau yn dystiolaeth o fanylion gwreiddiol yr annedd.

11.109 Drwy adnewyddu anheddau wedi'u gadael, gellir gwneud cyfraniad bach ond pwysig at anghenion ardal. Bydd gwerth pensaernïol nifer o anheddau adfeiliedig neu anheddau wedi'u gadael yn aml yn adlewyrchu'r arddull draddodiadol gynhenid, a dylid cydnabod hynny wrth gyflwyno cynigion ar eu cyfer. Dylai estyniadau, gofynion mynediad neu unrhyw agweddau eraill sy'n gysylltiedig â'r cynnig fod yn ystyriol o gymeriad yr adeilad gwreiddiol a'r tirlun. Bydd cynigion sy'n ceisio gwneud cyfraniad cadarnhaol at rinweddau tirweddol yr ardal yn cael eu hannog.

11.110 Os na fydd cynigion yn bodloni'r uchod (gan gynnwys ailadeiladu), fe'u hystyrir yn ddatblygiad mewn ardal o gefn gwlad agored, a gwneir penderfyniad yn eu cylch yn unol â hynny.

HOM8: Carafanau Preswyl

Caniateir cynigion ar gyfer carafanau preswyl unigol os:

  1. Oes angen y garafán fel llety dros dro i weithiwr hanfodol, mewn amaethyddiaeth coedwigaeth neu gyflogaeth arall briodol y mae'n rhaid iddo fyw yn y fan a'r lle yn hytrach na mewn anheddiad cyfagos; neu,
  2. Oes angen y garafán dros dro yn gysylltiedig â gwaith adeiladu annedd sengl ar blot hunanadeiladu, neu wrth adeiladu annedd sy'n cael ei chodi yn lle annedd flaenorol; ac,
  3. Bydd y garafán neu'r cartref symudol wedi'i leoli'n agos at adeiladau eraill lle bo modd, ac na fydd yn achosi unrhyw broblemau sylweddol o ran mynediad, parcio, seilwaith neu amwynder; ac,
  4. Na fyddant yn cael effaith andwyol annerbyniol ar amcanion ehangach y Cynllun o ran y dirwedd neu gadwraeth natur.

11.111 Bydd amodau'n cael eu gosod ynghylch lleoli carafán/cartref symudol sydd ei angen yn gysylltiedig â'r uchod, er mwyn sicrhau y bydd yn cael ei symud o'r safle pan na fydd angen ei defnyddio mwyach. Asesir hyd unrhyw ganiatâd dros dro yn erbyn manylion neilltuol pob cais. Bydd yr hyn a benderfynir o ran yr amserlen angenrheidiol ar gyfer lleoli carafanau / cartrefi symudol yn gysylltiedig ag adeiladu annedd hunanadeiladu wedi'i seilio ar hyd y gwaith adeiladu disgwyliedig.

HOM9: Datblygiad Preswyl Ategol

Cefnogir cynigion am lety preswyl ategol ar ffurf rhandy os:

  1. Bwriedir iddo gael ei ddefnyddio gan berthynas annibynnol yn unig, neu gan unigolyn sy'n ddibynnol ar yr aelwyd, lle bwriedir rhoi elfen o annibyniaeth; gan ddibynnu'n rhannol ar gyfleusterau'r brif annedd;
  2. Yw'n ategu'r brif annedd, gyda chyfyngiadau llym arno o ran maint, graddfa ac arwynebedd llawr er mwyn adlewyrchu anghenion y defnyddiwr;
  3. Yw wedi'i leoli ar gwrtil presennol y brif annedd, heb unrhyw ardal ar wahân o ardd, mynedfa ar wahân i gerbydau na man parcio ar wahân;
  4. Yw wedi'i gynllunio i fod yn israddol i'r brif annedd, ac yn parchu ac yn gwella cymeriad y brif annedd.

Dylai cynigion ar gyfer llety o'r fath fod wedi'u cysylltu'n ffisegol, ac wedi'u dylunio fel estyniad i'r brif annedd, gyda drws/drysau mewnol yn cysylltu'r brif annedd a'r rhandy.

Na fydd y llety ond yn cael ei ganiatáu os bydd y berchnogaeth arno yr un peth â pherchnogaeth y brif annedd. Bydd meddiannaeth yn y dyfodol yn gysylltiedig â pherchnogaeth fuddiol y brif annedd, drwy gyfrwng cytundeb A106 ac/neu Ymgymeriad Unochrog.

11.112 Gall llety preswyl ategol fod o ddefnydd werthfawr gan alluogi perthynas i fyw gyda'i deulu gan gadw rhywfaint o annibyniaeth. Fodd bynnag, mae angen lefel o reolaeth dros y llety hwnnw er mwyn sicrhau bod ei swyddogaeth o natur ategol, ac nad arwain at greu annedd hunangynhaliol ar wahân.

11.113 Dylai unrhyw gynnig adlewyrchu ei swyddogaeth ategol a pheidio cynnwys yr ystod lawn o gyfleusterau a gysylltir ag annedd annibynnol. Ni ddylid ychwaith ei ddylunio mewn modd a fyddai'n golygu y gellir ei addasu neu ei feddiannu fel annedd annibynnol. Dylid dylunio cynigion i adlewyrchu anghenion hanfodol a nodwyd gan y meddiannydd, gyda'r darpariaethau syml yn adlewyrchu natur ategol y rhandy. Ar gyfer un preswylydd byddai hyn fel arfer yn cynnwys un ystafell wely en-suite ac ardal fyw gyda chegin fach.

11.114 Bydd yn ofynnol i berchnogaeth y rhandy fod yr un peth â pherchnogaeth y brif annedd, a dylid cynnwys manylion ei feddianwyr gydag unrhyw gais, gan gynnwys perthynas y meddianwyr hynny ac/neu eu dibyniaeth â meddianwyr y brif annedd, a manylion ynghylch perchnogaeth y rhandy.

11.115 Ni chaniateir rhandy fel arfer ond ar ffurf estyniad i'r brif annedd. Bydd yn rhaid ystyried angen y deiliad mewn perthynas â maint unrhyw adeilad allanol y cynigir ei drawsnewid. Yn hyn o beth, mae'n bosibl na fydd hi ond yn dderbyniol addasu rhan o'r adeilad er mwyn sicrhau nad yw'r rhan sy'n cael ei haddasu ond yn darparu cyfleusterau cyfyngedig sy'n gymesur â'i phwrpas ategol.

11.116 Ni ddylai'r rhandy ddisodli defnydd presennol a fyddai'n golygu bod angen codi adeilad arall fel bo modd parhau â'r defnydd hwnnw. Ni ystyrir rhandy ar wahân wedi'i adeiladu o'r newydd ond os dangosir i raddau boddhaol nad yw estyniad nac addasu yn briodol nac yn bosibl, ac ni chaniateir hyn mewn lleoliadau y tu allan i ffiniau anheddiad diffiniedig.


Polisi Strategol - SP 4: Strategaeth Tai Fforddiadwy

Bydd y Cynllun yn sicrhau bod cymaint o dai fforddiadwy ag sy'n bosibl yn cael eu darparu hyd at 2033, drwy ddarparu isafswm o 1,600 o dai fforddiadwy. Bydd hyn o gymorth i ddatblygu a gwella cymunedau cynaliadwy a chytbwys.

11.117 Mae tai fforddiadwy yn fater allweddol i'w ystyried wrth baratoi'r CDLl Diwygiedig, yn enwedig er mwyn cyfrannu at ddatblygu cymunedau cynaliadwy, cytbwys a chydlynus.

11.118 Mae'r polisi hwn yn ceisio adlewyrchu'r gofynion a nodir yn TAN 2 - Cynllunio a Thai Fforddiadwy (2006) sy'n ceisio sefydlu trefniadau diogel 'er mwyn sicrhau eu bod o fewn cyrraedd i'r rheini sydd heb fod yn gallu fforddio tai ar y farchnad agored, gan gynnwys pobl sy'n eu meddiannu gyntaf a'r bobl sy'n dod ar eu hôl'.

11.119 Ceir dau brif fath o dai fforddiadwy, fel y'u diffinnir yn TAN2:

  • Tai Rhent Cymdeithasol: wedi'u darparu gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig; a
  • Thai Canolradd: lle bo'r prisiau neu'r rhent yn uwch na thai rhent cymdeithasol ond yn is na thai'r farchnad[5].

11.120 Wrth asesu'r angen am anheddau fforddiadwy, rhoddir sylw i'r Asesiad o'r Farchnad Dai Leol (LHMA) diweddaraf ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Yn LHMA 2019, nodir ymraniad 76% / 24% rhwng yr aelwydydd ac arnynt angen tai ar y farchnad a'r aelwydydd hynny ac arnynt angen tai fforddiadwy. I ddibenion yr LHMA, mae'r Sir wedi cael ei rhannu i 4 Ardal Gweithredu ar Dai Fforddiadwy, ac mae cyfran sylweddol o'r aelwydydd ac arnynt angen tai fforddiadwy yn Ardal Weithredu Llanelli (47%). Mae'r LHMA hefyd yn nodi math a maint y tai sydd eu hangen drwy'r Sir, ac mae gan Lanelli amrediad cyson o angen ar draws cartrefi 1, 2 a 3 ystafell wely. Yn gyffredinol ar draws yr Ardaloedd Gweithredu eraill, mae angen datblygu tai 2 a 3 ystafell wely er mwyn bodloni'r angen am dai fforddiadwy. Wrth ddadansoddi'r data hyn, gwelir cydberthynas gref rhwng lleoliad yr angen am dai fforddiadwy a dosbarthiad y twf tai arfaethedig a nodir yn strategaeth y CDLl a'r fframwaith aneddiadau (gweler polisi SP16).

11.121 Er bod y CDLl a'r system gynllunio yn ceisio cefnogi darparu tai fforddiadwy, nid yw ond un ymhlith amryw o fecanweithiau a ddefnyddir i fodloni'r angen hwn. Adlewyrchir hyn yng Nghynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016-2020 y Cyngor, sy'n pennu gweledigaeth pum mlynedd ar gyfer darparu tai fforddiadwy. Nodir cyfraniad y CDLl at y targed yn SP4 drwy:

  • Ddarparu tai fforddiadwy ar-safle fel canran o'r holl ddatblygiad, neu ar safleoedd a gaffaelir gan ddarparwyr tai cymdeithasol;
  • Tai fforddiadwy oddi ar y safle yn lle darpariaeth ar-safle;
  • Cyfrannu symiau wedi'u gohirio i gefnogi darpariaeth tai fforddiadwy; a
  • Thai i fodloni Anghenion Lleol.

11.122 Cyfeirir hefyd at Astudiaeth Astudiaeth Anghenion Gwledig Sir Gaerfyrddin 2019 sy'n nodi bod cyfran uwch o anheddau mwy yn yr ardaloedd gwledig, a bod hynny'n cyfrannu at brisiau tai uwch.[6]Mae'r CDLl yn anelu i gefnogi twf unedau mwy fforddiadwy mewn cymunedau gwledig, er mwyn hyrwyddo datblygiadau i brynwyr tro cyntaf neu rai ar aelwydydd incwm isel.

AHOM1: Darparu Tai Fforddiadwy

Cyfraniadau Ar-safle

Bydd angen cyfraniad ar-safle at dai fforddiadwy ar bob safle a ddyrannwyd ar gyfer tai'r farchnad ac ar hap-safleoedd sy'n cynnwys 10 neu fwy o dai, er mwyn bodloni'r targed ar gyfer tai fforddiadwy a nodwyd ym Mholisi SP4. Mae'r targed canrannol ar gyfer tai fforddiadwy yn seiliedig ar raddfa'r datblygiad:

  • bydd yn ofynnol i safleoedd sy'n cynnwys 10-19 o dai ddarparu cyfraniad tai fforddiadwy o 10-15%;
  • bydd yn ofynnol i safleoedd sy'n cynnwys 20-50 o dai ddarparu cyfraniad tai fforddiadwy o 17-23%;
  • bydd yn ofynnol i safleoedd sy'n cynnwys 51 o dai neu fwy ddarparu cyfraniad tai fforddiadwy o 20-25%.

Mae'r ganran uchaf ym mhob ystod yn berthnasol i safleoedd yn yr Ardal Gweithredu Tai Fforddiadwy a chanddynt yr incwm aelwydydd canolrifol uchaf; a'r ganran is yn berthnasol i'r Ardal Gweithredu Tai Fforddiadwy a chanddi'r incwm aelwydydd canolrifol isaf.

Pan fydd cynigion preswyl cyfagos a chysylltiedig yn peri bod cyfanswm y niferoedd yn cyrraedd neu'n mynd heibio'r trothwyon uchod, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau elfen o dai fforddiadwy sy'n seiliedig ar gymhwyso'r canrannau targed uchod i gyfanswm yr anheddau.

Bydd yn ofynnol i gynigion sicrhau bod yr annedd yn parhau i fod yn fforddiadwy am byth i'r holl feddianwyr dilynol.

Symiau Gohiriedig
Bydd angen swm gohiriedig tuag at dai fforddiadwy ar gyfer cynigion sy'n cynnwys 1-9 annedd. Bydd taliadau swm gohiriedig yn seiliedig ar arwynebedd y llawr (cost fesul metr sgwâr).

Bydd cynigion am anheddau sengl yn y categori annedd 3 ystafell wely i 4 unigolyn neu lai, sy'n cynnwys llai nag 84 metr sgwâr, wedi'u heithrio.

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, neu lle na ellir bodloni'r gofynion uchod oherwydd eu heffeithiau ar hyfywedd ariannol y cynnig, y ceir cytuno ar amrywiad fesul achos unigol.

11.123 Nod polisïau AHOM1 ac AHOM2 yw cynorthwyo'r Cyngor i fodloni ei angen am dai, ac yn enwedig i fodloni'r angen am dai fforddiadwy a nodwyd ym Mholisi SP4.

11.124 Mae'r polisi'n pennu'r cyfraniadau y dylid eu darparu ar gyfer tai fforddiadwy sy'n amrywio yn ôl graddfa'r datblygiad arfaethedig. Mae gofynion y polisi yn adlewyrchu canfyddiadau Astudiaeth Hyfywedd y CDLl Diwygiedig ac yn ystyried ffactorau eraill fel yr LHMA, cyfraddau darparu yn y gorffennol a'r angen am hyblygrwydd er mwyn caniatáu amrywio rhwng safleoedd.

11.125 Mae gofynion y Polisi ar gyfer cyfraniadau ar-safle yn berthnasol i bob datblygiad tai arfaethedig sydd wedi'i leoli o fewn ffiniau anheddiad, a chanddo'r capasiti i sicrhau cynnydd net o 10 neu fwy o anheddau newydd. Bydd y safleoedd hynny sydd y tu allan i ffiniau'r anheddiad yn ddarostyngedig i ofynion Polisi AHOM2.

11.126 Mae gofynion y polisi am symiau wedi'u gohirio yn berthnasol i holl gynigion arfaethedig y farchnad agored sy'n creu cynnydd net o 1-9 o anheddau newydd, ac eithrio anheddau sengl sydd wedi'u cynnwys yn categori tai 3 ystafell wely, 4 unigolyn nad yw ei arwynebedd llawr mewnol trigiadwy yn fwy nag 84 metr sgwâr.

11.127 Bydd y gymysgedd o anheddau y mae angen ei darparu ar bob safle o ran maint, math a deiliadaeth, yn amrywio yn ôl anghenion penodol yr ardal leol wrth gyflwyno'r cais. Yn rhan o hyn, bydd angen ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf am anghenion tai o'r LHMA, ynghyd ag unrhyw wybodaeth leol berthnasol, fel rhestr aros y Cyngor ac unrhyw unedau tai fforddiadwy a ddarparwyd yn ddiweddar o fewn yr ardal.


AHOM2: Tai Fforddiadwy - Safleoedd Eithriadau

Mewn amgylchiadau eithriadol, caniateir cynigion ar gyfer datblygiadau 100% o dai fforddiadwy ar safleoedd sy'n union wrth ymyl Ffiniau Datblygu aneddiadau diffiniedig (Haenau 1-3 ym Mholisi SP16), os ydynt yn bodloni gwir angen a nodwyd yn lleol (fel y diffinnir yn y Rhestr Termau) ac:

  1. Lle bo'r safle'n cynrychioli estyniad rhesymegol i'r ffiniau datblygu, ac ar raddfa sy'n briodol ac yn cydweddu â chymeriad yr anheddiad;
  2. Lle cedwir y budd yn gysylltiedig â'r fforddiadwyedd cychwynnol i'r holl feddianwyr dilynol;
  3. Lle bo maint, graddfa a dyluniad yr annedd yn gyson ag annedd fforddiadwy ac ar gael i bobl mewn grwpiau incwm isel neu ganolig;
  4. Nad oes unrhyw gynlluniau tai marchnad o fewn yr anheddiad ar gael, neu y rhagwelir y byddant ar gael, sy'n cynnwys gofyniad am dai fforddiadwy,

11.128 Rhoddir caniatâd cynllunio yn ddarostyngedig i amodau neu rwymedigaethau cynllunio sy'n sicrhau bod y tai fforddiadwy yn parhau i fod ar gael i fodloni'r angen lleol am dai fforddiadwy yn y dyfodol. Er eglurder, mae'n rhaid i safleoedd datblygu sy'n cynnwys 100% o dai fforddiadwy gydymffurfio â meini prawf y polisi hwn. Ni fydd safleoedd eithriadau ond yn cael eu caniatáu os oes tystiolaeth foddhaol ar gael i gefnogi'r ddarpariaeth.

11.129 Fel arfer, ni ddylid ystyried safleoedd eithriadau mewn anheddiad lle mae dyraniadau presennol yn cael eu cyflwyno, a lle bo elfen o fforddiadwyedd yn cael ei ddarparu yn rhan o'r datblygiad hwnnw. Bydd angen tystiolaeth i ddangos nad oes disgwyl i unrhyw gynlluniau ar safleoedd wedi'u dyrannu ddechrau o fewn cyfnod rhesymol.

11.130 Darperir gwybodaeth bellach drwy'r polisi cenedlaethol ar ffurf PCC, TAN2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy a TAN6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy. Bydd y Canllawiau Cynllunio Atodol sydd ar ddod yn ymhelaethu ac yn rhoi arweiniad pellach ar weithredu a dehongli tai fforddiadwy.


Polisi Strategol - SP 5: Safleoedd Strategol

Gan adlewyrchu eu cyfraniad at ofynion twf Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol, ac fel cydrannau allweddol ym Margen Ddinesig Bae Abertawe, mae dau Safle Strategol wedi cael eu nodi fel safleoedd sy'n gwneud cyfraniad pwysig at ddarparu twf yn gyffredinol dros gyfnod y Cynllun:

Y Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant, Llanelli (PrC2/SS1);

a'r Egin - Clwstwr Digidol Creadigol, Caerfyrddin (PrC1/SS1)

Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant, Llanelli

11.131 Bydd y Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau sy'n hyrwyddo a gwella llesiant, yn integreiddio datblygiad busnes, addysg, gofal iechyd, hamdden, twristiaeth, cymorth llesiant ac ymchwil i wyddorau bywyd mewn un lleoliad, ac yn creu budd cymdeithasol ac economaidd gweddnewidiol. Rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol ym mis Awst 2019 o dan gyfeirnod cais S/36948.

11.132 Bydd y pentref yn cynnwys sefydliad gwyddor bywyd sy'n cynnig lle i ddatblygu ac ymchwilio i ddyfeisiau meddygol a thechnolegau gofal iechyd newydd. Bydd y sefydliad hefyd yn cynnig gofodau swyddfa, labordy a gofodau clinigol ar gyfer cwmnïau rhanbarthol newydd sy'n tyfu yn ogystal â chyfleoedd i gychwyn busnes.

11.133 Ceir canolbwynt llesiant a fydd yn cynnwys canolfan hamdden, cyfleusterau chwaraeon awyr agored, cyfleoedd hamdden yn ogystal â gweithgareddau sy'n hyrwyddo llesiant. Ceir llety byw gyda chymorth, cartref gofal a thai'n benodol ar gyfer pobl â nam gwybyddol neu sy'n cael eu hailsefydlu'n feddygol. Gwnaed darpariaeth ar gyfer 240 o unedau 'Dosbarth Defnydd C3' o'r safle hwn o dan bolisi HOM1 y CDLl.

11.134 Ceir canolfan gwyddor bywyd a llesiant a fydd yn cynnwys ystod o wasanaethau llesiant o'r sector iechyd, y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector fel eu bod ar gael mewn un lleoliad. Bydd y ganolfan hefyd yn cynnwys cyfleoedd hyfforddi a ddatblygir mwyn ymateb i brinder sgiliau. [7]

11.135 Bydd y datblygiad hwn sy'n arwain y byd wedi'i leoli ar hyd arfordir Llanelli. Dyma fydd y prosiect adfywio mwyaf erioed yn Ne Orllewin Cymru, a'i nod yw gwella iechyd a llesiant pobl ledled y rhanbarth, gan greu hyd at 2,000 o swyddi o ansawdd uchel sy'n talu'n dda a rhoi hwb o £467 miliwn i'r economi dros 15 mlynedd. Bydd cysylltiadau rhyngddo a'r dirwedd naturiol, a bydd wedi'i gynnwys yn y dirwedd honno, wedi'i leoli o amgylch llyn dŵr croyw o fewn pellter cerdded i Barc Arfordirol y Mileniwm.[8]

11.136 Mae'r lleoliad arfordirol rhagorol yn ardal ôl-ddiwydiannol De Llanelli yn tystio i'r hen hanes o fentrau adfywio gan y Cyngor a'i bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

11.137 Wrth nodi'r cyd-destun strategol, mae'r prosiect hwn yn parhau i fod wedi'i ymwreiddio'n ddwfn mewn gwaith i hyrwyddo llesiant ar raddfa leol.

output

Ffigur 9: Cyngor Sir Caerfyrddin - dyfyniad o brif gynllun dangosol ar gyfer y pentref gwyddor bywyd a llesiant arfaethedig

Yr Egin - Clwstwr Digidol Creadigol, Caerfyrddin

11.138 Mae prosiect Yr Egin yn darparu clwstwr digidol a chreadigol newydd yng Nghaerfyrddin; mae'n darparu gofod cychwyn a datblygu busnes i gwmnïau digidol creadigol, ac yn hyrwyddo'r Gymraeg.

11.139 Y prosiect fydd pencadlys corff darlledu Cymraeg S4C a bydd yn darparu gofod i gychwyn a datblygu cwmnïau creadigol a digidol.

11.140 Drwy fanteisio ar gynigion seilwaith newydd Arfordir y Rhyngrwyd, bydd Yr Egin yn creu newid mawr a chadarnhaol yn economi greadigol a digidol Cymru.[9]

11.141 Ceir cyfleoedd niferus ac amrywiol yn sgil y prosiect hwn. O safbwynt gofodol, rhagwelir y bydd yn ailgadarnhau safle Caerfyrddin fel canolfan allweddol wrth borth Gorllewin Cymru chanolbwynt i'r cymunedau gwledig hynny tua'r gogledd.

output

Ffigur 10: Cyngor Sir Caerfyrddin – Prif Gynllun Safle Yr Egin


Polisi Strategol – SP 6: Cyflogaeth a'r Economi

Mae digon o dir wedi'i ddyrannu i ddarparu 77.93 hectar o dir ar gyfer cyflogaeth dros gyfnod y Cynllun yn unol â Fframwaith Aneddiadau'r Cynllun (Polisi SP16) ac egwyddorion cynaliadwyedd.

Mae'r dull cynaliadwy o ddarparu tir cyflogaeth yn adlewyrchu'r canlynol:

  1. Dyrannu a chyflawni:
    • Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli a hefyd
    • Yr Egin – Clwstwr Creadigol a Digidol, Caerfyrddin;
  2. Dyrannu tir cyflogaeth mewn lleoliad cynaliadwy sy'n gyson ag egwyddorion cynaliadwyedd y Cynllun;
  3. Diogelu safleoedd cyflogaeth presennol – gan gydnabod eu cyfraniad fel rhan o'r portffolio cyflogaeth i ddiwallu'r angen parhaus;
  4. Cefnogi datblygiadau cyflogaeth gynaliadwy a mentrau ar raddfa fach mewn aneddiadau haen is. Sicrhau y rhoddir cymorth i entrepreneuriaeth fel rhan o greu economi sy'n amrywiol ac yn tyfu;
  5. Caniatáu cyfleoedd cyflogaeth a mentrau gwledig ar raddfa fach yng nghefn gwlad i gefnogi cymunedau gwledig a chyflawni economi wledig amrywiol a chynaliadwy.

11.142 Dylai datblygiad safleoedd cyflogaeth yn y dyfodol, ac yn wir datblygiad economaidd yn y Sir yn y dyfodol gael ei ystyried yn y cyd-destun ehangach. Llofnodwyd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn 2017, gan sicrhau £1.3 biliwn i gynghorau Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Disgwylir y bydd y Fargen yn trawsnewid tirwedd economaidd yr ardal, yn rhoi hwb o £1.8 biliwn i'r economi leol, ac yn creu bron i 10,000 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.

11.143 Bydd y Fargen yn golygu tri phrosiect penodol i Sir Gaerfyrddin – y mae dau ohonynt yn ymwneud â datblygiadau ffisegol, sef y Pentref Iechyd a Gwyddor Bywyd yn Llynnoedd Delta, Llanelli a phrosiect y diwydiannau creadigol yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin. Mae'r trydydd prosiect yn ymwneud â menter sgiliau a thalent sydd wedi'i chanoli yn Sir Gaerfyrddin, ac sy'n cefnogi datblygiad sgiliau yn y rhanbarth.

11.144 Mae'r Cyngor wedi casglu tystiolaeth i ddarparu dealltwriaeth am yr angen o ran cyflogaeth yn y dyfodol yn anad dim yn y naw sector y rhoddir blaenoriaeth iddynt gan Lywodraeth Cymru.[10] Paratowyd tystiolaeth bellach ar y cyd â Chyngor Sir Penfro i sefydlu dadansoddiad meintiol o'r galw a ragwelir am safleoedd cyflogaeth ac fe'i hategwyd gan dystiolaeth o'r farchnad a chan gyflogwyr mewn perthynas â'r galw yn y farchnad.

11.145 Mae'r astudiaeth isranbarthol yn ceisio taro cydbwysedd rhwng ateb gofynion Nodyn Cyngor Technegol 23 ar Ddatblygu Economaidd (Chwefror 2014), a gosod pwyslais cryf ar hyblygrwydd, gwireddu twf sectorau a'r gallu i ateb y galw ar raddfa ranbarthol.

11.146 Mae TAN 23 yn ystyried 'efallai y bydd y targedau darparu tir yn uwch na'r galw disgwyliedig', i ddarparu ar gyfer y siawns i ateb y galw. Mae'r Canllawiau Ymarfer sy'n cyd-fynd â'r Nodyn Cyngor Technegol (Awst 2015) yn ystyried, lle gellir cyfiawnhau hynny, efallai y bydd y targedau darparu tir yn uwch na'r galw disgwyliedig, i ddarparu ar gyfer y siawns bod yr asesiadau'n rhy isel ac i sicrhau nad oes unrhyw gyfleoedd yn cael eu colli. Wrth gydnabod pwysigrwydd peidio â dibynnu dim ond ar ragolygon cyflogaeth pan eir ati i adnabod portffolio o dir cyflogaeth, mae'r astudiaeth yn pwysleisio galw a hyder busnesau brodorol i aros a thyfu, a dyhead gan randdeiliaid i warchod manteision lleoliadol ac asedau strategol ar gyfer twf yn y dyfodol.

11.147 Gan gydnabod yr uchod, mae'r astudiaeth wedi adnabod portffolio o safleoedd yn ardal yr astudiaeth yr ystyrir eu bod yn cynnig manteision strategol a chyfle i dyfu a chreu swyddi.

Hierarchaeth Cyflogaeth

11.148 Er bod y ffocws strategol yn gysylltiedig â Bargen Ddinesig Bae Abertawe a chamau posibl i greu swyddi 'â gwerth ychwanegol', bydd y CDLl yn darparu ystod o safleoedd a chyfleoedd ar gyfer mewnfuddsoddi ac adleoliadau posibl. Mae hyn yn cynnwys safleoedd posibl ar gyfer cyflogwyr mwy yn ogystal â safleoedd ar gyfer defnyddiau ar raddfa lai gyda'r fframwaith polisi hefyd yn darparu cyfle ar gyfer busnesau newydd ac i ddechrau busnesau.

11.149 Wrth ystyried lefel y dyraniadau tir cyflogaeth mewn perthynas â'r CDLl, rhoddwyd sylw pellach hefyd i ystod o ystyriaethau i sicrhau bod lefel y ddarpariaeth yn adlewyrchu nid dim ond ystod o safleoedd y gellir eu cyflawni ond hefyd ei bod yn seiliedig ar ddealltwriaeth gadarn am eu cymeriad ac ardaloedd y safleoedd.

11.150 Mae'r pwyslais ar Brif Ganolfannau nid dim ond yn adlewyrchu eu nodweddion cynaliadwyedd ond hefyd eu gwaddol hanesyddol. Mae hefyd (yn enwedig mewn perthynas â Llanelli) yn arwydd o'r cyfraddau diweithdra a lefelau amddifadedd cymharol uchel ac o ymrwymiad cryf i fynd i'r afael â'r problemau. Mae dosbarthiad tir cyflogaeth hefyd wedi'i alinio'n dda â'r lleoliadau cynaliadwy yn y Sir sy'n hygyrch gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu lwybrau teithio llesol sy'n lleihau i'r eithaf yr angen i deithio.

11.151 Mae'r tabl canlynol yn nodi'r ddarpariaeth tir cyflogaeth yn y polisi ac yn nodi lefelau cwblhau a safleoedd lle mae caniatâd cynllunio dilys.

A. Dyraniad yn y CDLl

B. Cwblhawyd

C. Cwblhawyd ond nid yn rhan o'r ffigwr dyranedig

D. Gyda chaniatâd cynllunio

E. Cyflenwad Gweddilliol

(A-B-D=E)

PC1 - Caerfyrddin

19.14

0

0

2.18

16.96

PC2 - Llanelli

15.77

0

0

0

15.77

PC3 – Rhydamman/Cross Hands

35.48

0

0

10.39

25.09

Canolfannau Gwasanaeth

7.54

0

0

3.93

3.61

Pentrefi Cynaliadwy

0

0

0

0

0

Pentrefi Gwledig

0

0

0

0

0

Cyfanswm

77.93

0

0

16.50

61.43

Tabl 6: Darpariaeth Tir Cyflogaeth

11.152 Dylid nodi bod y ddarpariaeth safleoedd cyflogaeth wedi'u dyrannu'n cynnwys tir nad yw'n weithredol gyda chyfle ar gyfer tirlunio, clustogfeydd a defnyddiau eraill tebyg.

EME1: Cyflogaeth – Diogelu Safleoedd Cyflogaeth

Bydd safleoedd a nodwyd at ddibenion cyflogaeth trwy bolisi SP6 a safleoedd cyflogaeth presennol yn cael eu diogelu ar gyfer y defnyddiau hynny (B1, B2, B8 a'r rhai a adnabuwyd trwy ddarpariaethau polisi perthnasol).

Yn eithriadol, bydd cynigion sy'n arwain at eu colli'n cael eu caniatáu dim ond lle gellir dangos:

  1. Nad oes angen y safle neu'r adeiladau mwyach neu nad yw'n addas mwyach ar gyfer defnydd cyflogaeth;
  2. Na allai'r defnydd arfaethedig gael ei leoli'n rhesymol yn rhywle arall yn unol â pholisïau'r Cynllun hwn;
  3. Bod tir neu adeiladau cyflogaeth sy'n ddigonol o ran eu nifer, eu hansawdd a'u hamrywiaeth y gellir eu dwyn ymlaen i ddiwallu anghenion cyflogaeth y Sir a'r ardal leol;
  4. Nad oes unrhyw ddefnyddiau cyflogaeth diwydiannol na busnes sy'n hyfyw yn economaidd ar gyfer y safle a'r adeiladau;
  5. Y byddai defnydd cyflogaeth yn anghydnaws â defnyddiau cyfagos/yn yr ardal o amgylch;
  6. Lle y bo'n berthnasol bod y defnyddiau arfaethedig yn ategu prif ddefnydd cyflogaeth yr ardal o amgylch ac na fydd yn achosi effaith annerbyniol ar weithrediadau busnesau presennol.

11.153 Mae'r polisi hwn yn ceisio sicrhau bod safleoedd cyflogaeth presennol yn cael eu gwarchod rhag defnyddiau eraill. Er mwyn cynnal cyflenwad digonol o dir cyflogaeth sy'n darparu ar gyfer ystod a dewis o ddefnyddiau posibl, mae'r polisi hwn yn ceisio gwarchod ardaloedd cyflogaeth diffiniedig rhag defnyddiau sydd mewn cystadleuaeth â chyflogaeth a ddylai fod mewn lleoliadau sy'n well ac, o bosibl, yn fwy priodol.

11.154 Gan gydnabod y pwysau ar ardaloedd cyflogaeth o du defnyddiau eraill (nad ydynt yn perthyn i Ddosbarth B), mae'r polisi'n derbyn y gall fod angen rhywfaint o hyblygrwydd mewn rhai achosion. Mae defnyddiau o'r fath yn aml yn ddefnyddiau dosbarth B rhannol sy'n cyfuno elfen fanwerthu ar raddfa fach â defnydd busnes, diwydiannol neu storio yn bennaf, neu'n ddefnyddiau sui generis. Derbynnir hefyd, wrth ddiwallu anghenion defnyddiau o'r fath, bod ardaloedd cyflogaeth yn aml yn debygol o fod yn fwy derbyniol na lleoliadau eraill megis ardaloedd preswyl, neu hyd yn oed canol trefi. Bydd disgwyl i unrhyw elfen fanwerthu fod yn atodol i'r prif ddefnydd, ac at ddibenion masnach yn hytrach na'r cyhoedd.

11.155 Lle y bo angen, bydd yn ofynnol i gynigion datblygu ymgorffori mesurau priodol i warchod amwynder eiddo cyfagos neu gerllaw. Gall mesurau o'r fath gynnwys nodi clustogfeydd a chynigion tirlunio addas.

11.156 Lle y bo'n briodol, bydd amodau cynllunio'n cael eu gosod i atal cyflogaeth rhag cael ei cholli fel y prif ddefnydd.

EME2 Cyflogaeth – Estyniadau a Dwysáu

Bydd cynigion ar gyfer estyniadau i fentrau cyflogaeth presennol a/neu i ddwysáu'r mentrau hynny'n cael eu caniatáu ar yr amod:

  1. Nad yw'r cynigion datblygu'n debygol o achosi niwed amgylcheddol na pheryglu cynigion ailddatblygu eraill;
  2. Nad yw'r cynnig yn estyn a/neu'n dwysau defnydd neu weithgarwch a allai arwain at faterion sy'n niweidiol i amwynderau defnyddiau cyfagos, neu nad ydynt yn gydnaws â'r defnyddiau hynny o bosibl;
  3. Bod y cynigion datblygu ar raddfa a ffurf briodol sy'n gydnaws â'u lleoliad;

Bydd cynigion i ehangu mentrau gwledig presennol yn cael eu cefnogi yn amodol ar y darpariaethau uchod a pholisïau a chynigion y Cynllun hwn.

11.157 Ni fydd cynigion sy'n ceisio estyn a/neu ddwysáu defnydd neu weithgaredd yn cael ystyriaeth ffafriol os nad ydynt yn gydnaws â defnyddiau o'u hamgylch, neu os ydynt yn debygol o arwain at faterion sy'n niweidiol i amwynder a fyddai'n peryglu cynigion ailddatblygu eraill.

11.158 Gall datblygiadau priodol i ehangu busnesau presennol gyfrannu'n sylweddol at yr economi leol, a bydd cefnogaeth i ailddatblygu safleoedd presennol lle bydd yn gwella ansawdd arwynebedd llawr cyflogaeth yn enwedig i ddiwallu anghenion cyflogaeth modern.

11.159 Mae'r polisi hwn yn gwneud darpariaethau ar gyfer, ac yn cefnogi, yr economi wledig a chynigion priodol i ehangu mentrau gwledig sefydledig.[11] Dylid cyfeirio hefyd at PCC a TAN23 Datblygu Economaidd.

EME3: Cynigion Cyflogaeth ar Safleoedd Dyranedig

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau cyflogaeth B1, B2 a B8 yn cael eu caniatáu ar y safleoedd cyflogaeth dyranedig canlynol lle maent yn cydymffurfio â'r defnydd arfaethedig o'r safle:

Cyf yn y CDLl

Enw'r Safle

Lleoliad

Dosbarth Defnydd

Ha.

PrC1/E1

Ystad Ddiwydiannol Cillefwr

Caerfyrddin

B1, B2, B8

4.62

PrC1/MU1

Gorllewin Caerfyrddin

Caerfyrddin

B1, B2, B8

4.53

PrC1/MU2

Pibwr-lwyd

Caerfyrddin

B1, B2, B8

8.95

PrC1/SS1

Yr Egin

Caerfyrddin

B2

1.04

PrC2/E1

Doc y Gogledd

Llanelli

B2

0.84

PrC2/E2

Dafen

Llanelli

B1, B2, B8

14.93

PrC3/E1

Dwyrain Cross Hands

Rhydaman / Cross Hands

B1, B2, B8

8.70

PrC3/E2

Parc Bwyd Gorllewin Cross Hands

Rhydaman / Cross Hands

B1,B2,B8

7.31

PrC3/E3

Parc Busnes Cross Hands

Rhydaman / Cross Hands

B1,B2,B8

4.73

PrC3/E4

Heol y Waun, Cross Hands

Rhydaman / Cross Hands

B1,B2,B8

1.09

PrC3/E5

Parc Menter, Cross Hands

Rhydaman / Cross Hands

B1,B2,B8

0.09

PrC3/E6

Ystad Ddiwydiannol Capel Hendre

Rhydaman / Cross Hands

B1,B2,B8

2.88

PrC3/E7

Parc Hendre, Capel Hendre1

Rhydaman / Cross Hands

B1,B2,B8

9.86

PrC3/E8

Ystad Ddiwydiannol Cilyrychen

Cilyrychen

B1,B2,B8

0.82

SeC4/E1

Dyfaty

Porth Tywyn

B1,B2,B8

3.28

SeC13/E1

Hen Ffowndri

Llanybydder

B1,B8

0.40

SeC16/MU1 & SeC16/E1

Ystad Ddiwydiannol Beechwood

Llandeilo / Rhosmaen

B1,B2,B8

1.25

SeC16/E2

Hen Neuadd y Farchnad

Llandeilo

B1

0.20

SeC18/E1

Parc Busnes Sanclêr

Sanclêr

B1,B8

0.44

SeC19/E1

Ystad Ddiwydiannol Hendy-gwyn ar Daf

Hendy-gwyn ar Daf

B1,B8

0.49

SeC19/E2

Tir i'r de o'r Hen Hufenfa

Hendy-gwyn ar Daf

B1,B2,B8

1.48

Cyfanswm

77.93

Tabl 7: Cynigion Cyflogaeth ar Safleoedd Dyranedig

Sylwer:

Safleoedd sy'n cynnig y potensial i fod yn gartref i Gyfleusterau Rheoli Gwastraff mewn Adeiladau. Gallai cyfanswm tybiannol o 20-30 ha o dir fod ar gael ar y safleoedd hyn. Wedi'u hychwanegu at y ffigwr hwn mae'r capasiti posibl a allai fod ar gael yn Safle Rheoli Gwastraff Nant-y-caws, yn ogystal â thir posibl a allai fod ar gael ar safleoedd cyflogaeth a gwastraff presennol a safleoedd eraill sydd heb eu dyrannu yn ystod cyfnod y Cynllun.

11.160 Mae'r cyfanswm yn y tabl uchod yn cynnwys ffigyrau tybiannol ar gyfer cyflogaeth defnydd B ar safleoedd Defnydd Cymysg (Polisi SG1) a safleoedd Strategol (Polisi SP5).

11.161 Lle y bo'n briodol bydd defnyddiau cyflogaeth ac atodol eraill yn cael eu caniatáu ar safleoedd cyflogaeth dyranedig lle mae'r datblygiad arfaethedig yn ategu ac yn gwella rôl y safle fel a nodir yn y tabl Dyrannu Safleoedd Cyflogaeth.

11.162 Mae Polisi EME3 hefyd yn ei gwneud yn bosibl darparu defnyddiau cyflogaeth atodol sydd y tu allan i'r dosbarthiadau defnydd B lle mae hyn yn gwella hyfywedd y safle ac yn ei gwneud yn bosibl datblygu safleoedd newydd. Mae defnyddiau atodol a allai fod yn ategol yn cynnwys meithrinfeydd dydd, canolfannau hyfforddi, ailgylchu gwastraff ac atgyweirio cerbydau. Bydd defnyddiau manwerthu'n cael eu hystyried yn erbyn polisïau manwerthu'r CDLl.

EME4: Cynigion Cyflogaeth ar Safleoedd Heb Eu Dyrannu

Bydd cynigion ar gyfer datblygu cyflogaeth ar safleoedd heb eu dyrannu, ond o fewn terfynau datblygu anheddiad diffiniedig yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. lle dangosir na all unrhyw safleoedd cyflogaeth presennol neu ddyranedig addas arall neu dir a ddatblygwyd yn flaenorol yn rhesymol dderbyn y cynnig;
  2. lle mae'r cynigion datblygu ar raddfa a ffurf briodol, a lle nad ydynt yn niweidiol i briod gymeriad ac edrychiad y treflun/ y dirwedd;
  3. lle mae'r datblygiad yn gydnaws â'i leoliad ac â defnyddiau cyfagos.

Bydd cynigion cyflogaeth y tu allan i derfynau datblygu anheddiad diffiniedig (Polisi SP16) yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Lle mae'r cynnig yn uniongyrchol gysylltiedig ag anheddiad neu bentrefan
  2. Lle caiff y cynnig ei ategu gan achos busnes sy'n dangos bod cyfiawnhad dros ei leoliad
  3. Lle mae'r cynnig yn briodol o ran graddfa a natur i'w leoliad;

11.163 Mae'n amlwg na fydd safleoedd cyflogaeth dyranedig yn briodol ar gyfer pob cynnig cyflogaeth. Felly mae Polisi EME4 yn cefnogi'r economi trwy ei gwneud yn bosibl, mewn ardaloedd trefol a gwledig, darparu cyfleoedd economaidd ar safleoedd heb eu dyrannu.

11.164 O fewn terfynau datblygu aneddiadau diffiniedig, mae'r polisi'n ei gwneud yn ofynnol i gynigion ddangos eu gofyniad lleoliadol trwy ddull dilyniannol o ddethol safleoedd. Yn y lle cyntaf, rhaid iddynt ystyried dyraniadau arfaethedig a phresennol i ddiwallu'r angen o ran cyflogaeth. Dim ond wedyn y dylid ystyried safleoedd heb eu dyrannu.

11.165 Ar gyfer cynigion y tu allan i derfynau datblygu anheddiad diffiniedig, rhaid iddynt ddangos eu bod yn uniongyrchol gysylltiedig ag anheddiad neu bentrefan, neu'n cael eu hategu gan achos busnes sy'n cyfiawnhau eu lleoliad. Mae'r Cynllun yn cydnabod bod gan fentrau ar raddfa fach rôl hanfodol yn yr economi wledig, a'u bod yn cyfrannu at gystadleurwydd a ffyniant lleol a chenedlaethol. Gall nifer o weithgareddau masnachol a gweithgynhyrchu ysgafn gael eu lleoli'n briodol mewn ardaloedd gwledig heb darfu mewn modd annerbyniol neu achosi unrhyw effeithiau niweidiol eraill. Yn hyn o beth, byddai datblygu busnesau bach yn mynd i'r afael ag unrhyw angen lleol am adeiladau cyflogaeth.

11.166 Cyfeirir at bolisïau RD3 Arallgyfeirio ar Ffermydd, RD4 Addasu ac Ailddefnyddio Adeiladau Gwledig ar gyfer Defnydd Dibreswyl ac EME5 Gweithio Gartref i gael gwybodaeth am gyfleoedd pellach ar gyfer ymgymeriadau cyflogaeth y tu allan i derfynau datblygu.

EME5: Gweithio Gartref

Bydd cynigion ar gyfer gweithio gartref (lle mae caniatâd cynllunio'n ofynnol) yn cael eu caniatáu lle gellir dangos y byddai'n gydnaws â defnyddiau tir cyfagos, ac na fyddai'n achosi unrhyw effeithiau niweidiol ar amwynder lleol a/neu gymeriad yr ardal.

11.167 Mae'r polisi'n ymwneud â busnesau bach sy'n gweithredu gartref gan ddarparu ar gyfer ystyriaethau sy'n deillio o'r duedd gynyddol ar gyfer gweithio gartref (yn awr ac yn y dyfodol).

11.168 Mae'r Cynllun hwn yn cydnabod y gall busnesau o'r fath fod â rôl bwysig o ran datblygu a chefnogi economi amrywiol ledled ardal y Cynllun. Cydnabyddir bod nifer o fusnesau bach yn cael eu dechrau gan unigolion sy'n gweithio yn eu cartrefi eu hunain, a bod achosion o'r fath yn debygol o gynyddu wrth i arloesi technolegol gynyddu. Wrth ystyried gweithio gartref yng nghyd-destun cynllunio, cydnabyddir nad yw'n ofynnol cael caniatâd cynllunio o anghenraid. Er enghraifft, ni fydd caniatâd cynllunio'n ofynnol fel arfer lle nad yw defnydd arfaethedig o ran o'r tŷ at ddibenion busnes yn achosi newid i gymeriad cyffredinol yr eiddo a'i ddefnydd fel annedd.

11.169 Ar y cyfan mae'r gofyniad am ganiatâd cynllunio'n deillio lle mae'r gweithgaredd busnes yn peidio â bod yn atodol i'w ddefnydd fel annedd neu lle mae cymeriad preswyl yr eiddo'n cael ei addasu. Lle mae busnesau o'r fath ar raddfa a dwyster sy'n golygu y byddai caniatâd cynllunio'n ofynnol, bydd y Cyngor yn rhoi ystyriaeth i oblygiadau'r cynnig ar gyfer eiddo cyfagos ac ar gyfer y trefniadau mynediad a pharcio tebygol a fyddai'n deillio o natur y cynnig.

11.170 Mae PCC yn rhoi anogaeth i dyfu hunangyflogaeth a microfusnesau mewn ardaloedd gwledig. Mae'r polisi'n ceisio mabwysiadu ymagwedd gefnogol tuag at weithio gartref a chynigion lle mae'n ofynnol cael caniatâd cynllunio (gan gynnwys newid defnydd).

11.171 Wrth ystyried cynigion ar gyfer mentrau gwledig dylid rhoi ystyriaeth i ddarpariaethau polisi cenedlaethol ar ffurf PCC a TAN6 a Pholisi EME4.


Polisi Strategol – SP 7: Y Gymraeg a Diwylliant Cymru

Mae'r Cynllun yn cefnogi cynigion datblygu sy'n diogelu, yn hyrwyddo ac yn gwella buddiannau'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn y Sir. Ni fydd cynigion datblygu sy'n cael effaith anfanteisiol ar fywiogrwydd a hyfywedd y Gymraeg a diwylliant Cymru'n cael eu caniatáu oni bai y gellir lliniaru'r effaith. Bydd disgwyl i'r holl gynigion datblygu y mae WL1 yn berthnasol iddynt nodi mesurau sy'n gwella buddiannau'r Gymraeg a diwylliant Cymru.

11.172 Mae gan y Gymraeg a diwylliant Cymru rôl bwysig ym mywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd preswylwyr ag ymwelwyr â Sir Gaerfyrddin. Mae cyfran y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn sylweddol uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru a chan hynny mae'n rhan arwyddocaol o wead cymdeithasol cymunedau'r Sir, gan ddarparu ymdeimlad cryf o le a hunaniaeth.

11.173 Ystyrir bod Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd yn ardal o sensitifrwydd ieithyddol. Mae Cyfrifiad 2011 yn dynodi bod 19.0% o boblogaeth Cymru'n gallu siarad Cymraeg, tra bo'r ffigwr cyfatebol yn Sir Gaerfyrddin yn 43.9%. O ran dadansoddiad daearyddol o gyfran y siaradwyr ledled y Sir, mae ar ei hisaf yn ward etholiadol Glan-y-môr lle mae 19.2% yn siarad Cymraeg, ac ar ei huchaf yn Chwarter Bach lle mae 68.7% yn siarad Cymraeg. Mae cyfran y siaradwyr Cymraeg yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol ar draws pob ward yn y Sir, ac am y rheswm hwn yn bennaf y mae Sir Gaerfyrddin yn ei chyfanrwydd yn cael ei hystyried yn sensitif yn ieithyddol. Hefyd, mae data'r Cyfrifiad diwethaf wedi dangos gostyngiad sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg ledled y Sir sy'n dangos natur fregus yr iaith yn Sir Gaerfyrddin.

11.174 Mae'r Cynllun yn ceisio 'hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru[12] ac mae'n cynnwys ymrwymiad i gyfrannu at nod hirdymor Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050[13]. I gyrraedd y nod hwn bydd y Cyngor yn cefnogi, hyrwyddo a gwella'r Gymraeg fel iaith gymunedol hyfyw trwy sicrhau bod cyfleoedd cyflogaeth a thai digonol a chymesur i gynnal cymunedau gwledig a threfol yn y Sir a thrwy roi fframwaith monitro effeithiol ar waith. Wrth wneud hynny, mae'r Cynllun yn ceisio sicrhau bod y boblogaeth leol yn cael y cyfle i aros yn Sir Gaerfyrddin yn hytrach na gadael i chwilio am gyfleoedd gwaith a thai, yn ogystal â'r cyfle i ddychwelyd. Trwy amcanu at dwf cynaliadwy, bydd y Cynllun hefyd yn cynyddu i'r eithaf y cyfleoedd i siaradwyr di-Gymraeg sy'n symud i mewn i'r Sir gael eu hintegreiddio i fywyd cymunedol ar raddfa a chyflymder na fydd yn tanseilio bywiogrwydd a hyfywedd y Gymraeg a diwylliant Cymru.

11.175 Mae'r angen i ddiogelu, hyrwyddo a gwella'r Gymraeg yn berthnasol i ddatblygiadau a gynigir ledled y Sir ac nid yw'n gyfyngedig i ardaloedd penodol yn y Sir. Bydd yn ofynnol i gynigion datblygu gydnabod statws swyddogol y Gymraeg ac ymrwymo i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

11.176 Mae polisïau penodol yn darparu canllawiau pellach i sicrhau bod datblygiadau ar raddfa ac o fath a chymeriad priodol yn cael eu cyflawni i ddiwallu anghenion y cymunedau. Ar ben hynny, bydd y CDLl Diwygiedig yn ceisio sicrhau bod datblygu'n digwydd ar gyflymder sy'n golygu y gellir eu hamsugno a'u cymhathu heb niweidio cymeriad y gymuned.

11.177 Mae'r Cynllun hefyd yn ceisio diogelu, hyrwyddo a gwella'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin trwy amcanion polisi perthnasol eraill, sef trwy ddarparu tai a thai fforddiadwy, hybu economi ffyniannus a chyfleoedd cyflogaeth a darparu a chadw cyfleusterau cymunedol, ymhlith eraill.

WL1: Y Gymraeg a Datblygiadau Newydd

Bydd yn ofynnol i'r holl gynigion datblygu ledled Sir Gaerfyrddin ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg.

Safleoedd Dyranedig

Bydd yn ofynnol i'r cynigion datblygu canlynol gyflwyno Cynllun Gweithredu Iaith, a hwnnw'n nodi'r mesurau a fydd yn cael eu cymryd i ddiogelu, hyrwyddo a gwella'r Gymraeg:

  1. Datblygiadau preswyl o 10 tŷ neu fwy yn y Prif Ganolfannau a'r Canolfannau Gwasanaethau;
  2. Datblygiadau preswyl o 5 tŷ neu fwy yn y Pentrefi Cynaliadwy; ac,
  3. Datblygiadau manwerthu, masnachol neu ddiwydiannol â chyfanswm arwynebedd llawr o 1,000 metr sgwâr neu fwy.

Hapsafleoedd

Bydd yn ofynnol bod y cynigion canlynol ar hapsafleoedd yn cyflwyno Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg i ategu cais cynllunio yn ogystal â Chynllun Gweithredu Iaith sy'n nodi'r mesurau a fydd yn cael eu cymryd i ddiogelu, hyrwyddo a gwella'r Gymraeg:

  1. Datblygiadau preswyl o 10 tŷ neu fwy yn y Prif Ganolfannau a'r Canolfannau Gwasanaethau;
  2. Datblygiadau preswyl o 5 tŷ neu fwy yn y Pentrefi Cynaliadwy; ac,
  3. Datblygiadau manwerthu, masnachol neu ddiwydiannol â chyfanswm arwynebedd llawr o 1,000 metr sgwâr neu fwy.

Bydd yn ofynnol bod cynigion nad ydynt yn gyson â dosbarthiad tai'r Cynllun (Atodiad 7) yn darparu cynllun fesul cyfnod sy'n nodi'r graddfeydd amser ar gyfer darparu'r tai a gynigir ar y safle, a dangos na fyddent yn cael effaith negyddol ar y Gymraeg na ellir ei lliniaru.

Bydd yn ofynnol i ddatblygiadau preswyl ar gyfer 10 tŷ neu fwy ar safleoedd dyranedig a hapsafleoedd gyfrannu'n gadarnhaol tuag at fywiogrwydd a hyfywedd grwpiau cymunedol Cymraeg a chyfleoedd i ddysgu Cymraeg.

11.178 Mae'r Cynllun Gweithredu Iaith Gymraeg yn nodi'r mesurau a fydd yn cael eu cymryd i ddiogelu, hyrwyddo a gwella'r Gymraeg. Dylai'r Cynllun Gweithredu Iaith Gymraeg nodi hefyd sut y mae'r datblygiad yn cynnig gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at grwpiau iaith Gymraeg y gymuned. Gallai hyn, ymhlith mesurau eraill, gynnwys rhoi cymorth a chyllid i sefydliadau a chyrff sy'n darparu gweithgareddau, cyfleusterau ac addysg ar gyfer siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, a chymorth a chyllid tuag at ddosbarthiadau Cymraeg. Bydd yn ofynnol bod Asesiadau o'r Effaith ar y Gymraeg yn nodi effeithiau disgwyliedig y datblygiad arfaethedig ar y Gymraeg yn y Sir. Mae canllawiau ynghylch sut i gynhyrchu Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg wedi'u cynnwys yn y Canllawiau Cynllunio Atodol ar y Gymraeg.[14]

11.179 Er y gellir rhoi cymorth i brosiectau trwy gyfraniadau ariannol, gellir ei roi trwy ddulliau eraill hefyd. Bydd caniatâd cynllunio'n cael ei roi gydag amodau neu'n amodol ar gytundebau cyfreithiol i sicrhau bod y mesurau lliniaru a gwella a gynigir yn y Cynllun Gweithredu'n cael eu rhoi ar waith. Bydd canllawiau pellach ar gynnwys Cynlluniau Gweithredu Iaith Gymraeg yn cael eu darparu trwy Ganllawiau Cynllunio Atodol.

11.180 Mae dosbarthiad tai'r CDLl wedi'i nodi yn Atodiad 7 y Cynllun. Mae effeithiau graddfa, lleoliad a chyfradd datblygu wedi cael eu hasesu yn unol â'r dosbarthiad y cytunwyd arno. O ganlyniad nid yw cynigion ar gyfer datblygiadau nad ydynt yn gyson â graddfeydd amser y dosbarthiad yn cael eu hasesu'n llawn. Felly bydd angen i gynigion o'r fath gael eu hategu gan gynllun fesul cyfnod sy'n nodi nifer yr anheddau a fydd yn cael eu cyflawni ym mhob blwyddyn ariannol. Mewn achosion o'r fath, gellir rhoi caniatâd cynllunio gydag amod i sicrhau bod anheddau'n cael eu cyflawni yn unol â'r cynllun fesul cyfnod lle ystyrir bod hynny'n angenrheidiol.

11.181 I osgoi amheuaeth, dylid nodi y dylai meini prawf a, b, d ac e uchod gael eu goleuo gan hierarchaeth aneddiadau'r CDLl fel a nodir ym Mholisi SP16. Mae Strategaeth y Cynllun yn darparu ar gyfer twf organig ar raddfa fach yn y Pentrefi Gwledig. Ystyrir bod datblygiad bob yn dipyn ar y raddfa hon yn gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at dwf cynaliadwy'r Gymraeg mewn cymunedau gwledig, a bod unrhyw effeithiau negyddol yn debygol o gael eu hamsugno gan y gymuned. Mae datblygiad ar unrhyw raddfa fwy yn annhebygol o fod yn gydnaws â Strategaeth y Cynllun, ac felly mae eu heffeithiau heb eu hasesu ac yn anhysbys. Os caiff cynigion o'r fath eu cyflwyno i gael eu hystyried, bydd angen cyflwyno asesiad llawn gyda hwy sy'n nodi eu heffeithiau tebygol ar y Gymraeg.

11.182 Mae'n ofynnol bod yr Arfarniad o Gynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol ar gyfer y CDLl yn asesu effeithiau tebygol y CDLl ar y Gymraeg. Gwneir hyn yn ailadroddol ar adegau allweddol trwy gydol y broses o gynhyrchu'r Cynllun. Caiff yr effeithiau disgwyliedig tebygol eu cyflwyno yn yr adroddiadau ar yr Arfarniad o Gynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael o fewn sail dystiolaeth y CDLl.

11.183 Mae'r CDLl yn darparu canllawiau pellach ynghylch darparu hysbysebion dwyieithog ym Mholisi PSD9 – Hysbysebion. Er mwyn hybu hunaniaeth ddiwylliannol ac i ddiogelu cymeriad ieithyddol lleol Sir Gaerfyrddin, bydd y Cyngor yn rhoi anogaeth i farchnata datblygiadau tai a masnachol newydd yn ddwyieithog yn ogystal a rhoi anogaeth i roi enwau Cymraeg i strydoedd a datblygiadau.


Polisi Strategol – SP 8: Seilwaith

Bydd datblygiadau'n cael eu cyfeirio at leoliadau cynaliadwy lle mae'r seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i gyflawni a chefnogi'r cynnig datblygu ar gael, neu'n gallu cael eu darparu.

Bydd angen i gynigion datblygu ddangos bod digon o gapasiti yn y seilwaith presennol i gyflawni a chefnogi'r datblygiad arfaethedig. Lle na ellir cyflawni hyn, bydd angen i gynigion ddangos bod trefniadau addas yn eu lle i ddarparu'r capasiti o ran seilwaith yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol i gyflawni a chefnogi'r datblygiad.

Lle mae seilwaith newydd neu well yn ofynnol nad yw'n rhan o raglen wella'r darparwr seilwaith efallai na fydd yn cael ei ganiatáu. Dan amgylchiadau o'r fath bydd yn ofynnol ei fod yn dangos yn foddhaol bod trefniadau a chyllid digonol ar gael i gyflawni'r seilwaith gofynnol.

Rhaid cyflawni seilwaith newydd neu well, neu gyfleusterau neu wasanaethau eraill i gefnogi gofynion y safle, mewn modd amserol i ddiwallu anghenion cymunedau cyn, neu o ddechrau, cyfnodau perthnasol.

11.184 Mae darparu seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau'n hanfodol i sicrhau bod polisïau a chynigion y Cynllun yn cael eu cyflawni. Mae seilwaith priodol yn allweddol i hwyluso datblygu ond mae hefyd yn angenrheidiol i gefnogi anghenion a galwadau parhaus datblygiad a chymunedau Sir Gaerfyrddin.

11.185 Efallai y bydd amrywiaeth o seilwaith yn ofynnol, a bydd y rhain yn amrywio'n fawr yn ôl y natur neu fath, graddfa, lleoliad a darpariaeth bresennol o ran seilwaith. Wrth ystyried anghenion cynigion datblygu gall y seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau canlynol fod yn ofynnol:

  • Ffyrdd a chyfleusterau trafnidiaeth eraill gan gynnwys trafnidiaeth gynaliadwy, trafnidiaeth gyhoeddus, llwybrau cerdded a beicio
  • Ysgolion a chyfleusterau addysgol a hyfforddi eraill
  • Tai Fforddiadwy
  • Iechyd
  • Mannau agored cyhoeddus a seilwaith gwyrdd
  • Amddiffynfeydd rhag llifogydd
  • Hamdden, chwaraeon ac adloniant
  • Gwasanaethau cyfleustodau
  • Bioamrywiaeth a diogelu a gwella'r amgylchedd
  • Cyfleusterau cymunedol
  • Seilwaith Digidol
  • Cymorth ar gyfer y Gymraeg
  • Cyfleusterau a gwasanaethau eraill yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol

11.186 Mae'r Cynllun yn ceisio sicrhau bod y seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau y mae eu hangen i gefnogi datblygu'n cael eu cyflawni mewn modd amserol cyn dechrau, neu ar ôl dechrau'r datblygiad, neu lle y bo'n briodol yn cael eu cyflawni fesul cam trwy'r broses ddatblygu. Mae'r Cynllun yn rhoi anogaeth i gyflawni seilwaith mewn modd cydgysylltiedig gan darfu cyn lleied â phosibl ar gymunedau presennol.

11.187 Bydd cyfraniadau tuag at seilwaith yn cael eu sicrhau trwy amodau neu Rwymedigaethau Cynllunio yn unol â'r fframwaith deddfwriaethol a pholisi a ddarperir.[15] Dylid cyfeirio at Bolisi INF1: Rhwymedigaethau Cynllunio.

11.188 Dylai datblygwyr ystyried Atodiad 7: Dosbarthiad Tai a'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar weithredu a chyflawni sy'n darparu gwybodaeth ychwanegol mewn perthynas â gofynion safleoedd allweddol y CDLl o ran cyflawni a seilwaith. Dylid rhoi ystyriaeth hefyd i ofynion Polisi PSD2: Uwchgynllunio. Anogir datblygwyr i gychwyn deialog gynnar gyda'r Cyngor er mwyn adnabod y seilwaith sy'n ofynnol i gyflawni a chefnogi cynllun arfaethedig.

INF1: Rhwymedigaethau Cynllunio

Lle y bo angen, bydd rhwymedigaethau cynllunio'n cael eu ceisio i sicrhau yr eir i'r afael yn llawn ag effeithiau datblygiadau er mwyn gwneud y datblygiad yn dderbyniol. Bydd cyfraniadau'n ofynnol i gyflawni neu gyllido gwelliannau i seilwaith, cyfleusterau cymunedol a gwasanaethau a chyfleusterau eraill er mwyn mynd i'r afael â gofynion neu effeithiau sy'n deillio o ddatblygiadau newydd.

Lle y bo'n berthnasol, bydd cyfraniadau hefyd yn cael eu ceisio tuag at gynnal a chadw darpariaeth o'r fath yn y dyfodol ac yn barhaus.

Mewn achosion lle ceir anghydfod ynghylch materion sy'n ymwneud â hyfywedd ariannol ateb y gofynion, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd dalu costau'r Cyngor am sicrhau arfarniad / asesiad annibynnol o hyfywedd ariannol.

11.189 Bydd gofynion rhwymedigaethau cynllunio'n ystyried hyfywedd ariannol datblygiad arfaethedig. Mewn achosion lle ceir anghydfod ynghylch effeithiau'r gofynion ar hyfywedd ariannol y cynllun, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd dalu costau sicrhau arfarniad annibynnol o hyfywedd, a hwnnw'n cael ei gwblhau gan drydydd parti sy'n meddu ar gymwysterau a chymeradwyaeth addas.

11.190 Bydd y rhwymedigaethau cynllunio sy'n ofynnol yn cael eu hystyried fesul achos unigol yn amodol ar natur y cynnig a'r gofynion sy'n deillio ohono. Efallai y bydd achosion lle na ellir sicrhau'r holl rwymedigaethau gofynnol oherwydd eu heffaith ar hyfywedd ariannol y cynllun. Mewn achosion o'r fath, bydd angen i'r blaenoriaethau o ran seilwaith ar gyfer y safle hwnnw gael eu hadnabod. Er bod y blaenoriaethau'n gallu amrywio yn ôl anghenion penodol pob safle a'u cymunedau dylid nodi bod gofynion Polisi NE4 Datblygu o fewn Ardal CCA Caeau Mynydd Mawr yn cael eu blaenoriaethu uwchlaw'r holl gyfraniadau eraill mewn perthynas â safleoedd o fewn Ardal y CCA. Ym mhob achos arall, ystyrir yn gyffredinol mai'r flaenoriaeth i'r Awdurdod fydd darparu tai fforddiadwy ac yn y rhan fwyaf o achosion bydd eu darparu'n cael ei flaenoriaethu uwchlaw cyfraniadau eraill.

INF2: Cymunedau Iach

Byd cynigion ar gyfer datblygiadau sy'n darparu ar gyfer teithio llesol, mannau gwyrdd a seilwaith defnyddiadwy hygyrch, ac sy'n ceisio lleihau anghydraddoldebau iechyd trwy annog pobl i ddilyn ffyrdd iach o fyw, gan fynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd a darparu cyfleusterau gofal iechyd hygyrch yn cael eu cefnogi.

Bydd yn ofynnol i gynigion ar gyfer datblygu a nodir o fewn y testun ategol isod gyflwyno Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn unol â'r dull dilyniannol.

11.191 Caiff y cysylltiadau rhwng iechyd a llesiant a chynllunio eu hadlewyrchu mewn deddfwriaeth a pholisi cynllunio cenedlaethol. Yn hyn o beth mae PCC yn ceisio darparu fframwaith i gyflawni cyfres o Ganlyniadau Cenedlaethol Creu Lleoedd Cynaliadwy. Mae'r dull cyfannol hwn o gynllunio a dylunio datblygiadau a mannau'n adlewyrchu ffocws ar ganlyniadau cadarnhaol sy'n hybu ffyniant, iechyd, hapusrwydd a llesiant pobl. Mae hybu iechyd a llesiant corfforol a meddyliol fel Canlyniad Hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach yn adlewyrchu'r cysylltiadau hyn rhwng iechyd, llesiant a chynllunio a'r angen i adlewyrchu unrhyw effeithiau posibl a all godi o'r broses gynllunio.

11.192 Gall Asesiad o'r Effaith ar Iechyd wneud cyfraniad gwerthfawr wrth gynnig neu wneud penderfyniadau ynghylch datblygiadau newydd. Gall tystiolaeth o'r effeithiau ar iechyd helpu'r system gynllunio i ddatblygu dulliau cryfach a mwy cydlynol o gynyddu iechyd a llesiant i'r eithaf[16]. Mae Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 yn nodi darpariaethau ar gyfer gwneud gwelliannau i iechyd gan gynnwys bod Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi strategaeth genedlaethol ar drechu gordewdra ac yn gwneud rheoliadau ynglŷn â chwblhau asesiadau o'r effaith ar iechyd gan gyrff cyhoeddus.

11.193 Mae Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd yn asesu effaith unrhyw newid neu ddiwygiad i bolisi, gwasanaeth, cynllun, gweithdrefn neu raglen ar iechyd y boblogaeth ac ar ddosbarthiad yr effeithiau hynny o fewn y boblogaeth, yn enwedig o fewn grwpiau agored i niwed. Mae cynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn cynhyrchu gwybodaeth am y modd y gellir lleihau effeithiau negyddol ar iechyd a rhoi anogaeth ar gyfer manteision i iechyd. Gall tystiolaeth o'r fath o effeithiau ar iechyd helpu'r system gynllunio i ddatblygu dulliau cryfach a mwy cydlynol o gynyddu iechyd a llesiant i'r eithaf.

11.194 Mae'n bwysig bod cynigion yn ystyried ystod eang o ffactorau sy'n gysylltiedig ag iechyd a llesiant fel rhan o lunio a pharatoi unrhyw gynllun neu ddatblygiad. Mae'n bwysig bod y rhain yn cael eu hystyried o'r dechrau un. O ganlyniad, anogir datblygwyr i ymgysylltu â'r awdurdod cynllunio lleol a rhanddeiliaid eraill, megis y Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) mor gynnar â phosibl yn y broses o baratoi cynigion datblygu. Dylid darparu Asesiad o'r Effaith ar Iechyd gydag unrhyw gais ar gyfer mwyngloddio brig.

Cymunedau Iach: Rhestr Wirio Ddilyniannol ar gyfer Asesu'r Effaith ar Iechyd

11.195 I roi cymorth i hybu iechyd a llesiant corfforol a meddyliol, dylai'r dull dilyniannol canlynol gael ei ystyried gan ddatblygwyr i bennu'r gofyniad ar gyfer, a chwmpas a chynnwys posibl Asesiad o'r Effaith ar Iechyd. Mae'r gofyniad hwn yn berthnasol i ddatblygiadau mawr a ddiffinnir mewn deddfwriaeth cynllunio fel:

  • Datblygiadau preswyl o 10 annedd neu fwy neu 0.5 hectar neu fwy;
  • Darparu adeilad neu adeiladau lle mae'r arwynebedd llawr a fydd yn cael ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu fwy; neu
  • Datblygiad ar safle sydd ag arwynebedd o 1 hectar neu fwy

11.196 Mae'r dull dilyniannol canlynol o ystyried yr angen i gwblhau Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn adlewyrchu'r canllawiau a nodir yn Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd – Canllaw Ymarferol[17].

  • CAM 1: Sgrinio – Mae penderfynu a ddylid cynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd yn bwrw golwg gychwynnol ar effeithiau posibl y cynnig ar y boblogaeth leol ac unrhyw grwpiau agored i niwed penodol a ddiffiniwyd ynddi. Dylai amlygu unrhyw risgiau neu fanteision posibl i iechyd ac unrhyw grwpiau y gallai'r cynnig effeithio'n arbennig arnynt. Mae canlyniad y broses sgrinio'n benderfyniad a ddylid cynnal Asesiad o'r Effaith ar Iechyd ai peidio ac, os felly, pa fath o Asesiad o'r Effaith ar Iechyd sy'n ofynnol. Dylai hefyd ddarparu esboniad o'r modd y daethpwyd i'r penderfyniad.
  • CAM 2: Ymarfer Cwmpasu – Pennu'r ffocws, dulliau a chynllun gwaith. Mae'r cam hwn yn golygu gofyn nifer o gwestiynau a gwneud nifer o benderfyniadau i gadarnhau'r amodau gorchwyl, rolau a chyfrifoldebau a'r cynllun y cytunwyd arno ar gyfer yr Asesiad o'r Effaith ar Iechyd.
  • CAM 3: Arfarniad o'r Dystiolaeth – Adnabod yr effeithiau ar iechyd. Hwn yw'r cam allweddol yn yr asesiad o'r effaith ar iechyd. Y diben yw casglu gwybodaeth am natur, maint, tebygolrwydd a dosbarthiad posibl effeithiau'r cynnig ar iechyd. Mae hefyd yn gyfle i awgrymu ffyrdd posibl o gynyddu i'r eithaf y manteision i iechyd a lleihau'r risgiau i'r eithaf, yn enwedig i'r rhai sydd â'r iechyd mwyaf bregus o bosibl neu'r grwpiau mwyaf difreintiedig yn y boblogaeth. Mae hefyd yn gyfle i adnabod ac awgrymu camau gweithredu a allai fynd i'r afael â 'bylchau' yn y cynnig neu'r cynllun.

Er nad yw Asesiad o'r Effaith ar Iechyd ynddo'i hun yn ddull ymchwil, mae'n tynnu ar ystod o ffynonellau gwybodaeth a dulliau o gasglu a dadansoddi data, y bydd rheolau a gweithdrefnau methodolegol priodol yn berthnasol iddynt.

  • CAM 4: Adrodd ac Argymhellion – Unwaith y mae'r dystiolaeth a'r data wedi cael eu casglu, dylid datblygu set o argymhellion, a'r rheiny wedi'u goleuo gan gamau blaenorol yr Asesiad o'r Effaith ar Iechyd. Dylai'r argymhellion hyn amcanu at gynyddu i'r eithaf unrhyw fanteision posibl i iechyd a llesiant a lliniaru effeithiau negyddol posibl. Gallant fod yn gyfle i 'lenwi' unrhyw fylchau a ganfuwyd yn y cynnig a mynd i'r afael o'r newydd ag unrhyw anghydraddoldebau iechyd (neu eraill) a all gael eu hachosi.

Mae angen i argymhellion fod:

  • Yn eglur a chryno
  • Yn realistig
  • Yn rhai y gellir eu cyflawni
  • Yn hydrin o ran eu nifer
  • Yn ddiduedd
  • Yn rhai sy'n adlewyrchu'r holl dystiolaeth a barn yr holl gynrychiolwyr
  • Yn rhai y cytunwyd arnynt drwy gonsensws

Dylid cyfeirio at ganllawiau ar ffurf CCA.

Ni fydd yr holl faterion sy'n ymwneud ag iechyd a llesiant yn berthnasol i bob math o ddatblygiad ac mae'r Cyngor yn cydnabod yr angen am ddull cytbwys o benderfynu ynghylch cynigion datblygu lle mae materion sy'n gysylltiedig ag iechyd yn un o nifer o ystyriaethau perthnasol. Bydd disgwyl i ddatblygwyr ddefnyddio'r dull dilyniannol a nodir uchod i nodi'r hyn sy'n berthnasol a sicrhau ei fod yn cael ei gynnwys yn y ddogfennaeth ategol a anfonir gydag unrhyw gynnig fel y bo'n briodol.

INF3: Band Eang a Thelathrebu

Bydd y Cyngor yn gweithio gyda'r diwydiant telathrebu a'r corff rheoleiddio cyfathrebu Ofcom i gynyddu i'r eithaf fynediad at fand eang cyflym iawn, llecynnau diwifr ac argaeledd darpariaeth symudol gwell ar gyfer yr holl breswylwyr a busnesau, gan eu cynorthwyo (lle y bo'n briodol) i gyflawni eu cynlluniau buddsoddi i fynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion mewn seilwaith.

Rhaid i ddatblygiadau pwysig newydd gael eu gwasanaethu gan gyswllt band eang cyflym iawn a dibynadwy â'r adeiladau.

Dylai datblygiadau llai ddarparu mynediad at y cyswllt cyflym iawn mwyaf hyfyw yn ogystal â dwythellau ychwanegol ar gyfer Cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad (FTTP) neu ddarpariaeth arall yn y dyfodol.

Bydd eithriadau'n cael eu gwneud lle mae ymgeiswyr wedi dangos trwy ymgynghori â darparwyr seilwaith band eang na fyddai hyn yn bosibl, yn ymarferol nac yn hyfyw yn economaidd. Mewn achosion o'r fath, gellid ceisio cyfraniad cyfwerth gan ddatblygwr tuag at waith oddi ar y safle a allai wneud mwy o fynediad yn bosibl yn y dyfodol.

11.197 Mae'r polisi'n ceisio adlewyrchu galwadau Cymru fodern ar gyfer rhwydweithiau cyfathrebu cyflym a chapasiti uchel dibynadwy. Yn hyn o beth mae'n ategu amcan Llywodraeth Cymru i gynnig band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru ac i roi cymorth i roi seilwaith symudol ar waith ledled y wlad[18]. Mae'n ceisio adlewyrchu cyd-destun seilwaith band eang fel gwasanaeth hanfodol ac un a all helpu i gefnogi a datblygu'r economi leol yn ogystal â chymunedau ffyniannus a chynhwysol.

11.198 Wrth roi'r polisi ar waith, dylid nodi bod BT Openreach a darparwyr eraill yn cynnig cyswllt band eang cyflym iawn ar gyfer pob datblygiad newydd, naill ai'n rhad ac am ddim, neu fel rhan o bartneriaeth a ariennir ar y cyd gan gynnwys partneriaethau a ariennir gan gymunedau. Bydd FTTP yn cael ei ddarparu'n rhad ac am ddim ar gyfer datblygiadau tai â chant neu fwy o anheddau. Efallai y bydd rhaid i ddatblygiadau llai na hyn ddarparu cyfraniadau i sicrhau cyswllt FTTP, neu efallai y byddant yn cael cysylltiadau copr am ddim.

11.199 Wrth roi cymorth i gyflawni ffeibr llawn, mae BT Openreach wedi pennu targedau ledled y DU, ac maent yn rhoi arweiniad a chymorth i ddatblygwyr ynghylch adeiladu rhwydweithiau FTTP llawn ar safleoedd preswyl neu breswyl/masnachol cymysg newydd.

11.200 Mae'r polisi hefyd yn cydnabod, mewn cyfran fach o achosion, na fydd yn bosibl darparu band eang ar gyfer datblygiadau newydd oherwydd eu lleoliad gwledig iawn. Felly mae'r polisi'n cynnwys y potensial i ddarparu swm o arian i gyfrannu tuag at ddatrysiad arall. Fodd bynnag, lle bynnag y bo'n bosibl dylai'r datrysiad gynnwys bod y datblygiad yn trefnu darpariaeth angenrheidiol ar gyfer seilwaith ar y safle i hwyluso'r gwelliannau.

11.201 Bydd darparu band eang cyflym iawn a dibynadwy mewn ardaloedd gwledig o gymorth i gyflawni strategaeth y Cynllun trwy ddarparu cyfleoedd ychwanegol i hybu'r economi wledig ac arallgyfeirio economaidd.

INF4: Trin Dŵr Gwastraff Llanelli Gwaredu Dŵr Wyneb

Bydd cynigion sy'n draenio i Waith Trin Dŵr Gwastraff Llanelli ac a ddiffinnir fel rhai pwysig dan Erthygl 2 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 yn ddarostyngedig i ofyniad i gael gwared â swm mesuradwy o ddŵr wyneb o'r system garthffosiaeth gyfunol fel a nodir yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol Cilfach Porth Tywyn.

11.202 Yn nalgylch Gwaith Trin Dŵr Gwastraff (GTDG) Llanelli, ceir pryderon bod cysylltu llifoedd dŵr budr a gaiff eu creu gan ddatblygiadau newydd yn cyflwyno risg o ddirywiad yn ansawdd dŵr Safle Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin (SMEBAC). Y rheswm dros hyn yw bod y mwyafrif o'r system garthffosiaeth yn ardal GTDG Llanelli yn gyfunol (dŵr wyneb a llifoedd dŵr budr).

11.203 Er bod Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) wedi cadarnhau bod digon o gapasiti yn GTDG Llanelli i gyflawni'r twf a nodir yn y Cynllun hwn, maent hefyd wedi gofyn am wneud datblygiadau perthnasol yn nalgylch GTDG Llanelli yn ddarostyngedig i ofyniad i gymryd mesur cydbwyso i dynnu dŵr gwastraff o'r system fel rhan o roi caniatâd cynllunio.

11.204 Ceir pryder bod cyflwyno llif dŵr budr ychwanegol yn gallu arwain at orlwytho GTDG Llanelli, yn ogystal â chynyddu amlder gollyngiadau o orlifoedd carthffosiaeth storm allan i SMEBAC yn ystod glaw sylweddol. Gall fod potensial ar gyfer problemau llifogydd lleol posibl o ganlyniad i'r materion hyn hefyd.

11.205 Paratowyd CCA Cilfach Porth Tywyn i ddarparu canllawiau penodol ynghylch ystyried cynigion datblygu perthnasol sydd wedi'u lleoli yn nalgylch GTDG Llanelli. Er bod Llanelli (Prif Ganolfan) a Phorth Tywyn (Canolfan Wasanaethau) wedi'u hadnabod fel ffocws ar gyfer twf yn y Cynllun hwn, maent hefyd yn ddarostyngedig i ystyriaethau amgylcheddol lefel uchel, yn anad dim ansawdd dŵr SMEBAC. Gellir cyfeirio hefyd at bolisi CCH3 yn y CDLl: Ansawdd Dŵr a Diogelu Adnoddau Dŵr.

11.206 Mae CCA Cilfach Porth Tywyn wedi'u seilio ar gonsensws ac yn ceisio darparu sicrwydd ar gyfer rhanddeiliaid a datblygwyr fel ei gilydd. Eu prif swyddogaeth yw rhoi cymorth i gyflawni twf fel a nodir yn y Cynllun hwn. Maent yn darparu mecanwaith ar gyfer y gofyniad i ddatblygiadau perthnasol gymryd mesurau cydbwyso i dynnu dŵr wyneb. Mae hyn wedi'i fwriadu i alluogi datblygiadau i gyfrannu tuag at wella'r sefyllfa ar y cyfan, gan leddfu pryderon y bydd cynigion yn cael eu gwrthwynebu gan randdeiliaid allweddol – yn anad neb DCWW a Cyfoeth Naturiol Cymru.

11.207 Ceir dull partneriaeth sydd wedi hen ennill ei blwyf mewn perthynas â'r mater hwn, gan gynnwys Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.

11.208 Mae'r CCA hefyd yn rhoi eglurhad ar achosion pan mai Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r ymgeisydd a'i fod yn ceisio defnyddio gwelliant dros ben y mae wedi'i gronni'n flaenorol ar y gofrestr tynnu dŵr wyneb.


Polisi Strategol – SP 9: Darpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

Mae'r safleoedd canlynol yn yr Awdurdod Lleol wedi'u dyrannu i ddiwallu'r angen dynodedig am Lety Sipsiwn a Theithwyr ac i alluogi Aelwydydd Sipsiwn a Theithwyr i ehangu yn y dyfodol:

Cyf y Safle:

Lleoliad

Math o Angen

PrC2/GT1

Tir ym Mhenyfan, Trostre, Llanelli

Preswyl

PrC/GT2

Penybryn (estyniad), Bynea, Llanelli

Preswyl

Tabl 8: Darpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

11.209 I ystyried y ddarpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn y dyfodol yn Sir Gaerfyrddin, mae'r Cyngor Sir wedi cwblhau dau Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr (ALlSaTh) sy'n nodi'r angen cyfredol sydd heb ei ddiwallu am leiniau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr yn y Sir. Gaeth yr Asesiad gwreiddiol ei gwblhau yn 2015 er mwyn ymhél a'r cyfnod hyd at 2031. Mae'r diweddariad yn 2019 yn sicrhau fod y Cynllun yn briodol o rhan anghenion Sipsiwn a Theithwyr am y cyfnod hyd at 2033.

11.210 Gwnaeth yr Asesiadau ystyried y fethodoleg a nodir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru ac mae'n nodi dau fath o asesiad o anghenion; mae'r cyntaf yn ystyried 5 mlynedd gyntaf cyfnod yr ALlSaTh; ac mae'r ail yn ystyried cyfnod yr ALlSaTh o 15 mlynedd yn ei gyfanrwydd.

11.211 Yn seiliedig ar asesiad Sipsiwn a Theithwyr 2019, yr angen cyfredol sydd heb ei ddiwallu 19 llain, tra bod amcangyfrif angen am 23 llain bellach am y 5 mlynedd cyntaf. Mae cyfran fawr o'r angen hwn wedi codi o aelwydydd sy'n byw mewn llety brics a morter, a thwf aelwydydd newydd o'r aelwydydd hyn. Mae cyfansoddiad yr angen hwn wedi'i leoli yn Llanelli, lle'r oedd nifer fawr o'r aelwydydd hyn wedi byw'n flaenorol ar y safle cyhoeddus ym Mhenybryn.

11.212 Gwnaed amcangyfrif hefyd ar gyfer aelwydydd Sipsiwn a Theithwyr newydd sy'n codi ym mlynyddoedd 6-15 o'r ALlSaTh. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, oedolion ifainc sy'n byw ar safleoedd presennol a fydd, ymhen amser, yn ffurfio'u haelwyd eu hunain ac felly y byddai angen eu llain eu hunain arnynt. Mae'r ALlSaTh yn amcangyfrif angen am 8 llain bellach ym mlynyddoedd 6-15, sy'n rhoi cyfanswm gofyniad o 31 o leiniau hyd at 2033.

11.213 Gwnaeth yr ALlSaTh fwrw golwg ar anghenion llety Sioemyn Teithiol yn Sir Gaerfyrddin hefyd. Canfu'r elfen hon o'r asesiad 9 llain awdurdodedig neu a oddefir ar gyfer Sioemyn Teithiol yn y sir. Wrth ystyried y rhagamcaniad ar gyfer y dyfodol, mae asesiad 2019 yn nodi gofyniad o 4 llain ychwanegol ym mhum mlynedd gyntaf yr asesiad.

11.214 Bydd y gofyniad am leiniau a'r defnydd ohonynt yn cael eu monitro fel rhan o fframwaith monitro'r cynllun hwn hefyd a byddir yn adrodd ar hynny trwy drefniadau'r Adroddiad Monitro Blynyddol.

GTP1: Llety Sipsiwn a Theithwyr

  1. Bydd cynigion ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr newydd, neu estyniadau i safleoedd awdurdodedig presennol o fewn terfynau datblygu anheddiad diffiniedig yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:
    1. Lle mae'r ystod angenrheidiol o gyfleusterau a gwasanaethau, gan gynnwys darpariaethau cymunedol, cymdeithasol ac addysgol presennol, a thrafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch neu'n gallu cael eu darparu'n rhwydd;
    2. Lle na fydd y cynnig yn cael unrhyw effeithiau niweidiol sylweddol ar amwynder preswylwyr a defnyddiau tir cyfagos;
    3. Lle mae'r safle'n gallu cael gwasanaethau dŵr, trydan, carthffosiaeth a gwaredu gwastraff;
    4. Lle nad oes effaith niweidiol ar ei amgylchoedd, y dirwedd/treflun na lleoliad a chyfanrwydd yr amgylchedd hanesyddol.
  2. Bydd safleoedd awdurdodedig newydd neu estyniadau i safleoedd awdurdodedig presennol y tu allan i derfynau datblygu aneddiadau diffiniedig yn cael eu caniatáu yn unol â'r uchod, lle gellir dangos nad oes unrhyw leiniau addas ar gael ar safleoedd awdurdodedig presennol, o fewn terfynau datblygu anheddiad diffiniedig (mewn perthynas â ble y mae'r angen wedi cael ei adnabod), neu lle nad oes cyfle i estyn y safleoedd hynny'n briodol.

Bydd cynigion ar gyfer safle tramwy neu deithiol yn cael eu hystyried lle mae ganddynt gysylltiadau da â'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol.

11.215 Mae'r polisi'n darparu'r fframwaith a'r cyd-destun ar gyfer ystyried ac asesu cynigion ar gyfer safleoedd newydd, ac estyniadau i safleoedd Sipsiwn a Theithwyr (ac ar gyfer Sioemyn Teithiol) gan adlewyrchu'r darpariaethau a ddiffinnir mewn deddfwriaeth sylfaenol[19].

11.216 Bydd yn ofynnol bod dyluniad unrhyw safleoedd yn rhoi ystyriaeth i ddarpariaethau'r Canllawiau Dylunio priodol gan Lywodraeth Cymru[20].

11.217 Bydd y canllawiau hyn yn ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ynghylch unrhyw geisiadau cynllunio a gyflwynir. Mewn perthynas ag unrhyw safle a ddatblygir gan gorff cyhoeddus, gan gynnwys yr awdurdod lleol, bydd darpariaethau Canllawiau Llywodraeth Cymru: Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn berthnasol.

11.218 Rhaid i gynigion ystyried mynediad ar gyfer cerbydau o'r briffordd gyhoeddus; yn ogystal â darpariaeth ar gyfer parcio, troi a gwasanaethau ar y safle; a diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer meddianwyr ac ymwelwyr.

11.219 Dylid gwneud gwaith tirlunio a phlannu coed a llwyni priodol er mwyn i safleoedd gydblethu â'u hamgylchoedd, rhoi strwythur a phreifatrwydd, a chynnal amwynder gweledol. Dylid osgoi tirlunio caled, waliau uchel, neu ffensys gormodol gan bod y rhain yn gallu ynysu safle oddi wrth y gymuned ehangach.

11.220 Bydd angen i gynigion roi sylw i seilwaith lleol a dangos bod y safle'n gallu darparu digon o gyfleusterau a mynediad at gyfleustodau. Dylai graddfa cynigion fod yn gymesur â'u hamgylchoedd ac â'r gymuned leol. Dylid ceisio arweiniad pellach o Ganllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch Dylunio Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.

11.221 Bydd disgwyl i geisiadau gynnwys tystiolaeth i ddangos bod y safle newydd neu'r estyniad i safle presennol yn ofynnol yn y lleoliad hwnnw. Dylai gwybodaeth o'r fath gynnwys tystiolaeth sy'n dangos diffyg argaeledd lleiniau parhaol neu dramwy addas ar safleoedd presennol, neu gyfle i estyn y safleoedd hynny i ddiwallu'r angen gofynnol.

11.222 Gwnaeth yr Asesiadau Llety Sipsiwn a Theithwyr (ALlSaTh) 2015 a 2019 asesu'r angen am safleoedd tramwy neu fannau aros brys ar gyfer y Gymuned Deithiol sydd naill ai'n teithio'n barhaol neu'n teithio am ran o'r flwyddyn. Gwnaeth yr asesiadau geisio dadansoddi cofnodion o safleoedd a gwersylloedd anawdurdodedig a chafodd data o'r Cyfrifiad Carafanau Teithwyr ei ystyried hefyd. Dangosodd dadansoddiad fod nifer cofnodedig y carafanau awdurdodedig ac anawdurdodedig yn Sir Gaerfyrddin wedi gostwng.

11.223 Cyflwynodd Llywodraeth Cymru fecanwaith monitro newydd i dracio a canfod gwersylloedd tramwy anghyfreithlon. Gwnaeth AMB 2018/19 nodi nifer o wersylloedd anghyfreithlon, ond nid oedd yr un ohonynt ar ddibenion tramwy. O ganlyniad nid yw'r data'n dynodi unrhyw batrwm eglur eto sy'n golygu ei bod yn ofynnol ymyrryd trwy adnabod safle tramwy. Dylid cyfeirio at fframwaith monitro'r cynllun.

11.224 Mewn perthynas â'r anghenion sy'n codi ar gyfer Sioemyn Teithiol fel a ddynodir trwy'r ALlSaTh, ar hyn o bryd nid oes cydberthynas ofodol â'r angen hwnnw a fyddai'n ei gwneud yn bosibl adnabod safle mewn lleoliad addas. Mae'r cynllun yn ceisio darparu'r hyblygrwydd priodol i ddiwallu'r angen hwnnw trwy ddarpariaethau'r polisi uchod a chyswllt â'r gymuned i adnabod unrhyw angen lleoliadol penodol.


Polisi Strategol – SP 10: Yr Economi Ymwelwyr

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau sy'n gysylltiedig â'r economi twristiaeth ac ymwelwyr yn cael eu cefnogi lle maent:

  1. yn arddangos egwyddorion dylunio a chreu lleoedd o ansawdd da;
  2. yn cyfrannu at ddiogelu a gwella'r amgylchedd naturiol;
  3. yn ychwanegu gwerth at ein heconomi ymwelwyr;
  4. mewn lleoliad cynaliadwy a phriodol.

11.225 Mae twristiaeth yn elfen allweddol o economi Sir Gaerfyrddin. Mae'n brif ffynhonnell cyflogaeth a refeniw sy'n cefnogi dros 6,176 o swyddi cyfwerth ag amser llawn naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Mae'n creu refeniw o fwy na £441m i economi'r Sir yn flynyddol.[21]

11.226 Mae'r Sir yn gartref i ystod eang o atyniadau, gan gynnwys Cae Ras Ffos Las, yr Ardd Fotaneg Genedlaethol a Pharc Gwledig Pen-bre. Sir Gaerfyrddin yw "canolbwynt beicio Cymru", gyda'r Strategaeth Feicio'n cyfleu dyheadau'r Cyngor i fod ar flaen y gad yn genedlaethol o ran darparu seilwaith a digwyddiadau beicio a datblygu beicio.[22]

11.227 Mae twristiaeth yn ddiwydiant deinamig a chanddo ddemograffig / sylfaen cwsmeriaid eang. Mae Sir Gaerfyrddin mewn sefyllfa dda i fanteisio ar botensial y sector o ystyried ei bod yn sir hardd sydd wedi'i lleoli o fewn pedair awr yn y car i Lundain ac o fewn cyrraedd rhwydd i Iwerddon mewn llong. Fodd bynnag, mae'r galwadau a'r tueddiadau bythol newidiol yn y sector yn darparu heriau o ran drafftio polisïau cynllunio defnydd tir dros 15 mlynedd. Mae'r arlwy dwristiaeth yn Sir Gaerfyrddin yn amrywio o'r nodweddion naturiol hynny megis hawliau tramwy / cerdded i atyniadau cenedlaethol uchel eu bri sydd wedi hen ennill eu plwyf. Mae twristiaeth treftadaeth a gweithgareddau'r Sir yn uchel ei bri, tra gallai ei hamgylchedd naturiol neilltuol apelio at y sector twristiaeth iechyd.

11.228 Mae SP10 yn pennu'r fframwaith ar gyfer dull polisi o fewn y CDLl Diwygiedig sy'n ddigon ymatebol a hyblyg i alw'r farchnad hyd at 2033, gan hefyd geisio gwarchod yr union gymunedau, tirwedd a threflun sy'n gwneud Sir Gaerfyrddin yn lle gwych i ymweld ag ef ac i'w fwynhau. Tra bo'r polisi strategol yn darparu'r cyd-destun trosfwaol, mae polisïau penodol yn darparu manylder. Mae hyn yn cynnwys egluro unrhyw rôl sydd gan derfynau anheddu aneddiadau diffiniedig o ran goleuo penderfyniadau ynghylch cynigion.

11.229 Wrth ddehongli SP10, dylid nodi bod datblygiadau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn cynnwys cyfleusterau newydd, yn ogystal ag estyniadau i gyfleusterau presennol.

11.230 Dylai estyniadau i gyfleusterau presennol fod yn israddol o ran graddfa a swyddogaeth i'r cyfleuster presennol a dylai cynigion sy'n gyfystyr ag estyniadau sylweddol gael eu hystyried yn ddatblygiadau newydd.

Ychwanegu Gwerth

11.231 Gall cynigion ychwanegu gwerth at economi ymwelwyr y Sir trwy gyfrannu at greu arlwy cyrchfannau a llety o ansawdd da trwy gydol y flwyddyn. Gallai manteision economaidd amrywio o gynnydd yn nifer yr ymwelwyr a diwrnodau ymwelwyr i greu swyddi, gan gyfrannu at gymysgedd ehangach o fathau o lety ac atyniadau – yn ogystal ag estyn y tymor twristiaeth y tu hwnt i fisoedd yr haf. Mae cyfleoedd i gynigwyr geisio alinio â'r blaenoriaethau corfforaethol hynny sy'n dod i'r amlwg a'u cefnogi, gan gynnwys dyheadau beicio'r Cyngor. Derbynnir y bydd gwerth ychwanegol yn gymesur â graddfa a natur y cynnig. Mae cynigion sy'n cyfrannu at ddatblygu rhwydwaith ehangach o atyniadau o fewn y Sir, gan felly gynyddu'r arlwy a'r cyfnod aros/gwario ar y cyfan, yn cynnig potensial amlwg i ychwanegu gwerth.

Parchu gwead cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y Sir

11.232 Mae pob rhan o'r Sir yn meddu ar nodweddion sy'n cyfrannu at yr ymdeimlad cyffredinol o le. Mae'r rhain yn cynnwys tirwedd, cadwraeth natur, gwead cymdeithasol a'r amgylchedd adeiledig. Mae'r rhain yn asedau y mae'n rhaid eu gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac ni allant gael eu peryglu'n ormodol gan ddatblygiadau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth.

11.233 Dylai fod pwyslais hefyd ar ansawdd da ym mhob agwedd ar gynigion, yn enwedig dylunio. Wrth ystyried derbynioldeb cynigion, bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i leoliad y safle, lleoliad adeiladau ar y safle, dyluniad a graddfa, mynediad at y prif rwydwaith priffyrdd a'r rhwydwaith priffyrdd craidd ac effaith unrhyw draffig a gaiff ei greu o ganlyniad. Ar ben hynny, mae i ba raddau y gall y safle gael ei wasanaethu gan drafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau cerdded a beicio yn ystyriaethau pwysig. Bydd graddfa a maint unrhyw gynigion yn ogystal â'u math yn cael eu harfarnu ochr yn ochr â'u lleoli a'u heffaith. Dylai cynigion adlewyrchu cymeriad ac ymddangosiad yr ardal gyda thirlunio a sgrinio priodol yn cael eu defnyddio fel y bo'n ofynnol.

Lleoliad cynaliadwy

11.234 Wrth gydnabod galw'r farchnad, dylai datblygiadau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth gael eu cyfeirio at leoliadau cynaliadwy. Cyfeirir at yr Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy ar gyfer Cynllunio[23]. Dylid rhoi sylw i strategaeth ofodol y CDLl wrth benderfynu ynghylch priodoldeb unrhyw leoliad. Yn hyn o beth bydd graddfa a natur y cynnig yn ystyriaethau pwysig, ac felly hefyd lleoliad adeiladau ar y safle, priodoldeb y cynnig a'i gyd-destun gofodol. Mae'r polisïau penodol yn darparu canllawiau pellach ynghylch rhoi'r dull gofodol hwn ar waith.

11.235 Dylai cynigion sy'n gysylltiedig â thwristiaid adlewyrchu cymeriad yr ardal a'r effeithiau ar gyffiniau'r safle fel rhan o ddull creu lleoedd. Dylai cydnabyddiaeth i'r ymdeimlad o le yng nghyffiniau'r cynnig fod yn ymhlyg yng nghyd-destun y dull seiliedig ar glystyrau sy'n grwpio'r fframwaith aneddiadau. Mewn termau gofodol byddai hyn yn dynodi bod y cynigion twristiaeth hynny ar raddfa fwy sy'n creu nifer o deithiau yn benthyca'u hunain i gael eu lleoli yn ne'r Sir lle mae'r seilwaith yn ei le i'w cefnogi.

11.236 Wrth nodi'r arlwy sefydledig sy'n arfordirol yn bennaf ac sy'n nodweddu de-orllewin y Sir, bydd angen rhoi sylw dyledus i unrhyw effaith ar y dirwedd sy'n deillio o unrhyw botensial ar gyfer gor-ddwysáu defnyddiau.

11.237 Mae ardaloedd gwledig y Sir mewn sefyllfa dda i dderbyn cynigion ar gyfer datblygiadau cynaliadwy ac o ansawdd da sydd ar raddfa briodol. Dylai cynigion barchu asedau'r Sir gan gefnogi cymunedau gwledig ffyniannus.

11.238 Rhaid i rai datblygiadau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, yn ôl eu hunion natur, gael eu lleoli yng nghefn gwlad. Mae'n bwysig nad yw'r datblygiadau hyn yn cael unrhyw effaith negyddol sylweddol ar y dirwedd, yr amgylchedd naturiol nac amwynder. O ran y polisïau manwl ar gyfer y CDLl Diwygiedig, mae'r pwyslais ar egluro'r 2 her a chyfle nodedig sy'n wynebu'r economi ymwelwyr yn Sir Gaerfyrddin sef atyniadau (rhywle i fynd) a llety (rhywle i aros).

VE1: Atyniadau a Chyfleusterau Ymwelwyr

  1. Bydd cynigion ar gyfer atyniadau a chyfleusterau o ansawdd da ar gyfer ymwelwyr, gan gynnwys estyniadau priodol i gyfleusterau presennol, yn cael eu caniatáu lle maent wedi'u lleoli mewn, neu lle maent yn uniongyrchol gysylltiedig ag, anheddiad diffiniedig (Polisi SP16).
  2. Bydd yr holl gynigion eraill sy'n ymwneud ag atyniadau a chyfleusterau o ansawdd da ar gyfer ymwelwyr nas ystyriwyd dan Bwynt 1 uchod yn cael eu caniatáu, lle maent yn amlwg yn ddibynnol ar briodoleddau penodol y safle / lleoliad yng nghefn gwlad. Dylai cynigion ddangos bod y dull dilyniannol canlynol wedi cael ei ddefnyddio lle mae addasu ac ailddefnyddio adeilad presennol wedi cael ei ystyried yn y lle cyntaf; yna tir a ddatblygwyd yn flaenorol; yna lleoliad maes glas.

Dylai'r holl gynigion adlewyrchu a pharchu rôl a swyddogaeth yr ardal a'i hymdeimlad o le, yn anad dim o ran graddfa, math, cymeriad, dyluniad, cynllun ac ymddangosiad.

Lle y bo'n briodol, dylai cynigion fod yn hygyrch gan ddefnyddio amryw ddulliau trafnidiaeth – yn enwedig dulliau trafnidiaeth cynaliadwy – megis cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus.

11.239 Mae'r polisi hwn yn cydnabod y cyfleoedd economaidd a gynigir gan y sector twristiaeth ond mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cynnal cyfanrwydd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y Sir. Ni ddylai fod unrhyw niwed cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol o ganlyniad i'r cynnig a rhaid bod lefelau hygyrchedd yn foddhaol.

11.240 Gall darparu ystod a dewis o atyniadau a chyfleusterau fod o gymorth i ddatgloi potensial economi ymwelwyr y Sir. Mae atyniadau 'ar gyfer diwrnodau glawog' yn cynnig potensial arbennig i wrthsefyll materion tymoroldeb, tra dylai cyfleoedd i greu swyddi gael eu cynyddu i'r eithaf hefyd. Mae cyfleusterau defnydd deuol – h.y. atyniadau sydd ar agor i deithwyr dydd a'r gymuned leol – yn cynnig manteision ehangach posibl. Mae cynigion sy'n ceisio alinio â rhwydwaith ehangach o atyniadau yn y Sir yn cynnig potensial i ehangu'r arlwy ar y cyfan yn ogystal â chynyddu hyd arosiadau a swm y gwariant ariannol yn economi ymwelwyr Sir Gaerfyrddin.

11.241 Dylai cynigion nad ydynt wedi'u lleoli o fewn, neu nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig ag, anheddiad a ddiffinnir ym Mholisi SP16 ddangos bod y lleoliad penodol yn hanfodol o ran hyfywedd a dichonoldeb y datblygiad. Bydd angen i'r ymgeisydd ddangos pam fod y lleoliad penodol yn hanfodol a pham fod y cynnig yn dibynnu i raddau helaeth ar briodoleddau'r safle. Gellid gwneud hyn trwy egluro sut y mae'r safle / cynnig wedi'i gysylltu'n weledol, yn swyddogaethol ac yn ofodol â nodwedd ddiffiniedig. Gallai hyn gynnwys nodweddion naturiol, hanesyddol, neu o waith dyn).

11.242 Dylai cynigion nad ydynt wedi'u lleoli o fewn, neu nad ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig ag, anheddiad a ddiffinnir ym Mholisi SP16 roi ystyriaeth yn gyntaf i ailddefnyddio neu estyn adeiladau presennol. Os na fydd unrhyw adeilad presennol i dderbyn y cynnig newydd, dylid defnyddio tir a ddatblygwyd yn flaenorol, gyda safleoedd maes glas yn olaf.

11.243 Lle y bo'n berthnasol, bydd y Cyngor yn gofyn i ymgeiswyr gyflwyno datganiad ategol twristiaeth. Mae datganiad o'r fath yn darparu mecanwaith i'r ymgeisydd ddangos aliniad polisi'r cynnig. Gall datganiad hefyd roi'r cyfle i ymgeisydd ddangos nodweddion economaidd y cynnig yn llawn (fel sy'n gymesur â maint/graddfa a.y.b.).

Polisi VE2: Llety Gwyliau Parhaol

  1. Bydd cynigion ar gyfer llety gwasanaeth o ansawdd da, gan gynnwys estyniadau priodol i lety presennol, yn cael eu caniatáu lle maent wedi'u lleoli o fewn, neu lle maent yn uniongyrchol gysylltiedig ag, anheddiad diffiniedig (Polisi SP16).
  2. Bydd cynigion ar gyfer llety â gwasanaeth a llety hunanarlwyo sydd wedi'u lleoli y tu allan i'r lleoliadau uchod yn cael eu caniatáu dim ond lle maent yn cynnwys ailddefnyddio ac addasu (gan gynnwys trosi) adeiladau presennol. Dylai cynigion ar gyfer ailddefnyddio ac addasu (gan gynnwys trosi) adeiladau presennol gydymffurfio â'r meini prawf canlynol:
    1. mae ffurf, trwch a dyluniad cyffredinol y cynnig, gan gynnwys unrhyw estyniadau, yn parchu cymeriad gwledig ac ymddangosiad yr adeilad;
    2. mae'r adeilad gwreiddiol yn gadarn yn strwythurol ac nid yw unrhyw waith ailadeiladu, a wneir yn angenrheidiol gan amodau strwythurol gwael a/ neu'r angen am agoriadau newydd mewn waliau, yn golygu ailadeiladu sylweddol;
    3. lle y bo'n berthnasol, mae'r cymeriad pensaernïol a'r deunyddiau traddodiadol wedi cael eu cadw ac nid yw'r cynnig yn arwain at golli cymeriad y strwythur gwreiddiol, neu fod adeiladwaith yr adeilad o ansawdd digonol i olygu nad oes angen ei adnewyddu'n sylweddol nac yn llwyr;
    4. mae'r cynnig yn cydymffurfio â meini prawf a), b) ac c) ym Mholisi RD4.

Dylai'r holl gynigion a nodir uchod adlewyrchu a pharchu rôl a swyddogaeth yr ardal a'i hymdeimlad o le, yn anad dim o ran graddfa, math, cymeriad, dyluniad, cynllun ac ymddangosiad – yn ogystal â'r defnyddiau hynny sydd eisoes wedi'u lleoli yng nghyffiniau'r safle.

11.244 Mae'r polisi hwn yn cydnabod manteision arlwy llety amrywiol o ran darparu ystod a dewis o leoedd i aros. Caiff cyfraniad posibl gwestai a llety arall â gwasanaeth sydd o ansawdd uchel o ran cynyddu ac ehangu economi sector gwasanaethau'r Sir ei nodi'n briodol. Gall hyn gynnig ystod o fanteision economaidd, gan hefyd alluogi'r Sir i ehangu ei harlwy ac apelio at ddemograffeg / sylfeini cwsmeriaid ehangach, a sicrhau mwy o wariant gan ymwelwyr a hynny am gyfnod hwy.

11.245 Mae'r polisi hwn yn berthnasol i amrywiaeth o wahanol fathau o westai o ansawdd da i lety gwely a brecwast bach.

11.246 Lle rhoddir caniatâd cynllunio ar gyfer llety gwyliau parhaol, bydd y Cyngor yn ystyried atodi amodau sy'n cyfyngu ar y defnydd fel mai defnydd fel llety gwyliau yn unig ydyw. Gellir defnyddio amodau meddiannaeth dymhorol hefyd i atal llety o'r fath rhag cael ei feddiannu'n barhaol ar sail breswyl.

11.247 Yn gyffredinol, ni fydd adeiladau sydd o adeiladwaith iwtilitaraidd modern is-safonol (gan gynnwys deunyddiau megis gwaith bloc concrit croen sengl, adeiladau ffrâm porth wedi'u gorchuddio â dalennau metel) neu adeiladau o ansawdd is-safonol a/neu ymddangosiad anghyson yn cael eu hystyried yn briodol ar gyfer eu troi'n llety gwyliau. Dylid cyfeirio hefyd at bolisi RD4: Addasu ac Ailddefnyddio Adeiladau Gwledig ar gyfer Defnydd Dibreswyl.

11.248 Lle y bo'n berthnasol, bydd y Cyngor yn gofyn i'r ymgeisydd gyflwyno datganiad ategol ar dwristiaeth. Mae datganiad o'r fath yn darparu mecanwaith i'r ymgeisydd ddangos aliniad polisi'r cynnig.

11.249 Cyfeirir at Bolisi RD3: Arallgyfeirio ar Ffermydd sy'n darparu'r fframwaith polisi ar gyfer prosiectau arallgyfeirio ar ffermydd sy'n ceisio gwneud cyfraniad cadarnhaol at yr economi wledig a'i chryfhau.

Polisi VE3: Safleoedd Carafanau, Gwersylla a Glampio Teithiol

Bydd cynigion ar gyfer safleoedd newydd, ac ar gyfer estyniadau, gwelliannau neu ddwysáu safleoedd presennol, yn cael eu caniatáu lle maent yn adlewyrchu ac yn parchu rôl a swyddogaeth yr ardal a'i hymdeimlad o le, yn ogystal â'r canlynol:

  1. lle maent o ansawdd da o ran dyluniad, cynllun ac ymddangosiad, a lle na fyddant yn cael effaith niweidiol annerbyniol ar y dirwedd a/neu'r treflun amgylchynol;
  2. lle na fyddant yn arwain at ardal ormodol o arwyneb solet, a lle gall yr unedau llety gael eu symud yn rhwydd oddi ar y safle;
  3. lle na fyddant yn arwain at or-grynodiad o safleoedd yn yr ardal;
  4. lle maent wedi'u lleoli'n addas mewn perthynas â'r prif rwydwaith priffyrdd a lle gellir darparu mynediad digonol heb niweidio'r amgylchedd naturiol ac adeiledig;
  5. lle defnyddir y llety at ddibenion teithio yn unig, gyda meddiannaeth yn gyfyngedig i ddefnydd ar gyfer gwyliau.

Dylai cynigion sy'n cynnwys angen am strwythurau atodol ddangos bod dull dilyniannol wedi cael ei ystyried, gan ddechrau ag ailddefnyddio adeiladau presennol, gyda'r angen i godi adeiladau newydd yn dilyn wedyn.

Bydd adeiladau newydd yn cael eu caniatáu dim ond lle maent yn briodol o ran eu lleoliad ar y safle, yr angen amdanynt a'u graddfa.

11.250 Mae'r polisi hwn yn cydnabod y dylid cefnogi cynigion priodol sydd o ansawdd da. Mae hyn yn cydnabod yr angen i ddarparu arlwy llety amrywiol o ran darparu ystod a dewis o leoedd i aros yn y Sir.

11.251 Mae'r polisi hwn yn darparu ar gyfer ystyried cynigion ar gyfer carafanau teithiol, pebyll, podiau ac unedau glampio, pebyll ar drelars a chartrefi / carafanau modur – h.y. llety ymwelwyr nad yw'n barhaol.

11.252 Wrth ymateb i dueddiadau sy'n dod i'r amlwg yn y sector, mae'r polisi hwn hefyd yn darparu ar gyfer ystyried unedau llety glampio. Efallai na fydd y rhain yn debyg i bebyll traddodiadol ac maent hefyd yn annhebygol o gyd-fynd â'r diffiniad statudol o garafán. Gall llety glampio gynnwys tipis, podiau, iyrtau, wigwamiau a.y.b. Er mwyn i uned o'r fath gael ei hystyried yn un nad yw'n barhaol, dylai fod ag angoriad / cyswllt ffisegol cyfyngedig â'r llawr a dylai fod yn dramwy a chreu effaith fach. Dylai'r uned fod yn hawdd i'w symud oddi ar y safle. Ni ystyrir bod defnyddio sylfeini concrit yn briodol, tra dylai unrhyw lwyfannau neu ddecin pren allu cael eu symud yn rhwydd oddi ar y safle. Dylai'r uned ddarparu llety sylfaenol ar gyfer gwyliau yn unig – e.e. cysgu, bwyta ac eistedd.

11.253 Bydd y Cyngor yn ystyried defnyddio amodau – gan gynnwys cyfyngu'r defnydd i ddefnydd fel llety gwyliau yn unig, neu gyfyngu ar gyfnod gweithredol y safle. Ceir disgwyliad bod y safle'n gallu cael ei adfer i'w gyflwr gwreiddiol a bod unrhyw unedau llety'n cael eu symud oddi ar y safle pan fo ar gau.

11.254 Er bod natur amharhaol cynigion a gaiff eu hystyried dan y polisi hwn yn golygu eu bod yn debygol o gael llai o effaith ar y dirwedd a'r amgylchedd nag unedau sefydlog, mae'n dal yn ofynnol iddynt gyd-fynd yn foddhaol â'r dirwedd a/neu'r treflun. Bydd angen i'r Cyngor fod wedi'i argyhoeddi nad oes unrhyw effaith niweidiol, yn enwedig o safbwynt capasiti'r dirwedd. Dylai fod pwyslais ar gynigion sydd wedi'u sgrinio'n dda lle gall unedau gael eu cymhathu'n rhwydd â'r dirwedd heb yr angen am ormod o nodweddion o waith dyn megis arwyneb solet a ffensys. Dylid rhoi sylw dyladwy i bolisïau'r CDLl SP11: Creu Lleoedd a Lleoedd Cynaliadwy a PSD1: Dylunio Cynaliadwy ac o Ansawdd Da.

11.255 Lle y bo'n berthnasol, bydd y Cyngor yn gofyn i ymgeiswyr gyflwyno datganiad ategol twristiaeth. Mae datganiad o'r fath yn darparu mecanwaith i'r ymgeisydd ddangos aliniad polisi'r cynnig. Yng nghyd-destun y polisi hwn, mae'n debygol y bydd y Cyngor yn ceisio cynllun tirlunio i'w gwneud yn bosibl arfarnu lleoliad adeiladau ar y safle, cynllun y safle, a sgrinio. Bydd hefyd yn galluogi'r ymgeisydd i ymhelaethu ar fanteision economaidd y cynnig (fel sy'n gymesur â maint/graddfa a.y.b.).

Polisi VE4: Safleoedd Carafanau Sefydlog a Chabannau Gwyliau

  1. Bydd cynigion ar gyfer Safleoedd Carafanau a Chabannau Gwyliau newydd yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:
    1. lle maent yn uniongyrchol gysylltiedig ag anheddiad diffiniedig (Polisi SP16) neu lle maent wedi'u lleoli mewn cyfleuster neu atyniad twristiaeth presennol perthnasol neu'n dangos perthynas ofodol a swyddogaethol â chyfleuster neu atyniad o'r fath;
    2. lle maent o ansawdd da yn ôl dyluniad, cynllun ac ymddangosiad, a lle na fyddant yn cael effaith niweidiol annerbyniol ar y dirwedd a/neu'r treflun o amgylch;
    3. lle na fyddant yn arwain at ddwysâd sylweddol ac annerbyniol yn y safleoedd a ddarperir yn yr ardal leol;
    4. lle maent mewn lleoliad addas mewn perthynas â'r prif rwydwaith priffyrdd ac y gellir darparu mynediad digonol.
  2. Bydd cynigion i wella ac estyn safleoedd presennol yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:
    1. lle bydd yn cynyddu bywiogrwydd, cynaliadwyedd ac ansawdd amgylcheddol y safle;
    2. lle na fyddant yn arwain at gynnydd annerbyniol yn nwyster unedau a/neu raddfa'r safle ar y cyfan.
    3. lle na fydd yn creu niwed annerbyniol i'r dirwedd a / neu'r treflun o amgylch;
    4. lle mae'n darparu (lle y bo'n briodol) ar gyfer gwelliant sylweddol yn ansawdd, ymddangosiad a lleoliad y safle ar y cyfan.

11.256 Mae'r polisi hwn yn cydnabod y dylid cefnogi cynigion priodol o ansawdd da. Mae hyn yn cydnabod yr angen i ddarparu arlwy llety amrywiol o ran darparu ystod a dewis o leoedd i aros yn y Sir.

11.257 Bydd y Cyngor yn ystyried cymhwyso amodau – gan gynnwys cyfyngu'r defnydd i ddefnydd fel llety gwyliau yn unig, neu gyfyngu ar gyfnod gweithredol y safle. Mae'n debygol mai ar achlysuron prin y bydd safleoedd yn meddu ar y nodweddion hynny a fyddai'n caniatáu iddynt aros ar agos ym misoedd y gaeaf.

11.258 Lle y bo'n briodol, bydd y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr safleoedd gynnal cofrestr gyfoes o enwau holl berchnogion/meddianwyr yr unedau sefydlog a'u prif gyfeiriad cartref er mwyn sicrhau nad yw'r unedau gwyliau'n dod yn brif fan preswylio'r perchennog/meddiannwr.

11.259 Yr egwyddor ddylunio danategol y dylid ei dilyn ar gyfer llety ymwelwyr sefydlog yw ansawdd da – yn anad dim o ran cynllun ac ymddangosiad. Dylai cynigion fod wedi'u lleoli mewn lleoliadau anymwthiol sydd wedi'u sgrinio'n addas gan nodweddion presennol y dirwedd a/neu lle gall yr unedau gael eu cymhathu'n rhwydd â'r dirwedd mewn ffordd nad yw'n achosi niwed sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd, y morlun neu'r treflun. Dylid rhoi sylw dyledus i bolisïau'r CDLl SP11: Creu Lleoedd a Lleoedd Cynaliadwy a PSD1: Dylunio Cynaliadwy ac o Ansawdd Da.

11.260 Dylai dangos perthynas ofodol a swyddogaethol â chyfleuster neu atyniad twristiaeth presennol perthnasol fod yn gymesur â maint a natur y cynnig. Ystyrir bod cynigion ar gyfer llety gwyliau sefydlog sydd o natur wasgaredig a digysylltiad yn hynod annhebygol o allu dangos y berthynas ofynnol.

11.261 Mae llawer o unedau sefydlog presennol wedi'u lleoli mewn ardaloedd sy'n sensitif yn weledol, yn enwedig ar hyd morlin Sir Gaerfyrddin. Mae'r polisi'n ceisio hybu gwelliannau ac uwchraddio safon llety ymwelwyr ar safleoedd presennol, a lleihau effaith y safleoedd hyn ar y dirwedd / morlun. Dylai cynigion o'r fath fodloni polisïau a darpariaethau'r Cynllun yn ei gyfanrwydd.

11.262 Mae'r polisi'n ceisio adlewyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn yr ystyr ei fod yn cydnabod y risgiau a achosir gan berygl llifogydd a / neu erydiad sy'n deillio o newid arfordirol. I'r perwyl hwn, dylid cyfeirio at bolisi'r CDLl NE7: Ardal Rheoli Newid Arfordirol o ran adleoliad posibl carafán/carafannau sefydlog, caban(nau) gwyliau neu uned(au) llety ymwelwyr arall barhaol/eraill parhaol.

11.263 Lle y bo'n berthnasol, bydd y Cyngor yn gofyn i ymgeiswyr gyflwyno datganiad ategol twristiaeth. Mae datganiad o'r fath yn darparu mecanwaith i'r ymgeisydd ddangos aliniad polisi'r cynnig. Yng nghyd-destun y polisi hwn, mae'n debygol y bydd y Cyngor yn ceisio cynllun tirlunio i'w gwneud yn bosibl arfarnu lleoliad adeiladau ar y safle, cynllun y safle, a sgrinio, yn ogystal â chynllun gwella ar gyfer estyniadau. Caiff materion capasiti'r dirwedd eu nodi hefyd. Dylai'r datganiad roi'r cyfle i'r ymgeisydd ymhelaethu ar fanteision economaidd y cynnig hefyd (fel sy'n gymesur â maint/graddfa).


Polisi Strategol – SP 11: Creu Lleoedd a Lleoedd Cynaliadwy

Er mwyn hwyluso datblygu cynaliadwy, dylai datblygiadau newydd gydnabod unigrywiaeth leol ac ymdeimlad o le, a bod wedi'i ddylunio i safonau uchel sy'n gallu addasu i'r newid yn yr hinsawdd.

Er mwyn cyflawni hyn, dylai pob datblygiad:

  1. Cyfrannu at greu lleoedd a mannau cyhoeddus deniadol, cydlynol, diogel sy'n gwella iechyd a llesiant neu ansawdd bywyd preswylwyr a chymunedau, gan gynnwys diogelu amwynder, tirlunio, tir y cyhoedd a darpariaeth mannau agored a hamdden;
  2. Dylai dyluniad, cynllun a chyfeiriadedd adeilad(au) arfaethedig a'r mannau rhyngddynt ac o'u hamgylch, greu amgylchedd deniadol, eglur, iach, hygyrch a diogel;
  3. Cadw a gwella'r rhwydwaith o seilwaith gwyrdd gan gynnwys lle y bo'n briodol ymgorffori cyfleoedd newydd i wella bioamrywiaeth a chysylltedd ecolegol (gan gynnwys ymgorffori nodweddion lleol);
  4. Gallu addasu i'r newid yn yr hinsawdd a chynyddu i'r eithaf gyfleoedd ar gyfer technegau adeiladu cynaliadwy, effeithlonrwydd adnoddau a chyfrannu tuag at garbon isel a chynhyrchu ynni adnewyddadwy.
  5. Defnyddio deunyddiau ac adnoddau sy'n briodol i'r ardal y mae wedi'i leoli ynddi;
  6. Arddangos a dangos dealltwriaeth glir am y dreftadaeth naturiol ac adeiledig bresennol, y cymeriad lleol presennol a'r ymdeimlad o le;
  7. Cyfrannu at Deithio Llesol a mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus neu greu cyfleoedd ar gyfer y rhain;
  8. Ystyried a, lle y bo'n briodol, ymgorffori cysylltiadau newydd a/neu wella cysylltiadau presennol â seilwaith cymdeithasol a chyfleusterau cymunedol hanfodol;
  9. Bod yn hygyrch ac integredig gan alluogi hydreiddedd a rhwyddineb symud sy'n hybu buddiannau cerddwyr, beicwyr a thrafnidiaeth gyhoeddus sy'n sicrhau rhwyddineb mynediad i bawb;
  10. Rhoi sylw i greu, trin a gwaredu gwastraff;
  11. Rheoli dŵr yn gynaliadwy, gan gynnwys ymgorffori systemau draenio trefol cynaliadwy (SuDS) yn nyluniad unrhyw gynigion datblygu.

11.264 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru. Ei amcan canolog yw hybu a darparu fframwaith ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru.

11.265 Mae un o elfennau allweddol yr agenda bolisi genedlaethol hon, a'r amcanion datblygu cynaliadwy sy'n ei thanategu, yn ymwneud â'r angen i gofleidio creu lleoedd fel rhan o'r broses o baratoi cynlluniau a gwneud penderfyniadau. Mae'r polisi cynllunio cenedlaethol yn nodi Lleoedd Cynaliadwy fel nod y system cynllunio defnydd tir yng Nghymru. Mae PCC yn nodi mai allbwn y system gynllunio ydynt yn hytrach na'r broses o'u cyflawni. Dylai'r holl benderfyniadau ynglŷn â datblygu, naill ai trwy ddewisiadau polisi cynlluniau datblygu neu benderfyniadau unigol ynglŷn â rheoli datblygu, geisio cyfrannu tuag at greu lleoedd cynaliadwy a llesiant gwell[24].

11.266 Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i hybu mathau mwy cynaliadwy o ddatblygu, ac mae ei chynllun datblygu cynaliadwy, Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned (2009) yn nodi ei dull o fynd ar drywydd datblygu cynaliadwy. Trwy'r system gynllunio yng Nghymru, gellir defnyddio dylunio da i gyflawni rôl bwysig o ran cyflawni mathau cynaliadwy o ddatblygu gyda'r CDLl Diwygiedig yn ymrwymedig i ganlyn arni â'r agenda creu lleoedd cynaliadwy trwy ei bolisïau sy'n cydnabod rôl datblygiadau newydd o ran eu potensial i gyfrannu at greu lleoedd, a nodweddion yr ardal. Mae'r dull hwn yn ceisio cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan hybu cynhwysiant cymdeithasol, cyfle cyfartal a mynediad ar gyfer pawb yn ogystal ag iechyd a llesiant ein cymunedau.

11.267 Er mwyn cyflawni dyluniad da a chreu ymdeimlad effeithiol o le mae gofyn deall y berthynas rhwng pob elfen o'r amgylchedd naturiol ac adeiledig. Mae dylunio'n elfen hanfodol o greu datblygu cynaliadwy, sydd ynddo'i hun yn flaenllaw yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

11.268 Mae'r Ddeddf yn golygu bod rhaid i gyrff cyhoeddus megis awdurdodau lleol weithio i sicrhau y dylai datblygiadau gydnabod a cheisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ardal.

11.269 Mae'r polisi'n integreiddio elfennau allweddol o greu lleoedd cynaliadwy sy'n cyfrannu at wireddu Gweledigaeth y Cynllun, sef creu cymunedau llewyrchus, cydlynol a chynaliadwy. Mae hefyd yn cydnabod rôl nodweddion amgylcheddol a hanesyddol a diwylliannol unigryw'r Sir o ran diffinio amgylchedd iach, diogel a llewyrchus. Mae rôl Seilwaith Gwyrdd a'i rwydwaith o fannau agored amlbwrpas yn elfen bwysig fel y mae ei ddarpariaethau ar gyfer iechyd a llesiant a chyfleoedd gwell ar gyfer Teithio Llesol ac mae'n hyrwyddo gwell.

11.270 Mae manteision amgylcheddol a chymdeithasol yn ogystal ag economaidd i greu datblygiad a ddyluniwyd yn dda. Mae dylunio amgylchedd o ansawdd da'n elfen hanfodol o gyflawni llewyrch economaidd gan y bydd yn fwy deniadol i fuddsoddwyr posibl yn ogystal ag apelio'n fwy at gwsmeriaid, gweithwyr allweddol a thwristiaid. Yn yr un modd, bydd adeiladau a lleoedd ar gyfer gwaith sydd wedi'u dylunio'n well yn arwain at gyflogeion mwy cynhyrchiol. Ar yr un pryd, bydd cymdogaethau sydd wedi'u dylunio'n dda'n creu cymunedau hapusach ac iachach a fydd yn fwy ymrwymedig i gynnal a chadw eu hamgylchoedd. Gallai'r manteision amgylcheddol gynnwys llai o lygredd trwy leihad yn y traffig, diogelu neu wella bioamrywiaeth, a gwarchod y dreftadaeth adeiledig. Mae'r holl fanteision hyn yn ganolog i gyflawni datblygu cynaliadwy ac i lewyrch economaidd hirdymor ardal.

11.271 Mae'r polisi hwn wedi'i fwriadu i sicrhau bod cynigion datblygu'n gallu cyflawni canlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol cadarnhaol, ac yn gallu lleihau rhai niweidiol i'r eithaf. Ynghyd â pholisïau mwy manwl a gaiff eu datblygu yn y CDLl Adneuo, bydd yn sail i'r holl benderfyniadau cynllunio, a bydd dangosyddion yn cael eu datblygu fel rhan o fframwaith monitro'r Cynllun i ddangos effeithiolrwydd y polisïau.

11.272 Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2020 (Atodlen 3) yn sefydlu Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (SAB) ac yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiadau newydd gynnwys nodweddion Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) sy'n cydymffurfio â safonau cenedlaethol.

11.273 Er bod y broses gydsynio ar gyfer Systemau Draenio Cynaliadwy yn rhan o gyfundrefn reoleiddiol ar wahân i gynllunio, mae'r Cynllun hwn yn cydnabod pwysigrwydd cynnwys ystyriaeth i Systemau Draenio Cynaliadwy fel rhan o'r cysyniad dylunio o'r dechrau un fel rhan o ddull creu lleoedd. Yn hyn o beth, mae'r Cynllun yn cydnabod bod Systemau Draenio Cynaliadwy yn gallu cael eu defnyddio'n effeithiol mewn ardaloedd gwledig a threfol i gefnogi datblygu ac ailddatblygu newydd, gan hefyd leihau perygl llifogydd dŵr wyneb a chreu cyfleoedd ar gyfer ansawdd dŵr gwell, cynefinoedd cyfoethog bio-amrywiol a mannau hamdden cymunedol newydd.

11.274 Cynghorir datblygwyr i gysylltu â Chorff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy y Cyngor ar adeg amserol er mwyn egluro a chwmpasu'r gofynion.[25]


PSD1: Dylunio Cynaliadwy ac o Ansawdd Da

Dylai cynigion datblygu ddangos bod amcanion dylunio a chynaliadwyedd safle benodol yn cael eu cyflawni'n effeithiol. Dylai datblygiadau gyflawni datrysiadau dylunio o ansawdd sy'n briodol i'r safle penodol, yr ardal leol a natur y datblygiad.

Dylai cynigion ddangos y canlynol yn glir:

  1. Dealltwriaeth gadarnhaol am nodweddion lleol trwy ystyried: y dirwedd; yr amgylchedd adeiledig; a'r cyd-destun hanesyddol a diwylliannol. Dylai hyn fod yn sail lawn i gyflawni dyluniad o ansawdd da, sy'n gwella ac yn ymateb i'r nodweddion dynodedig, gan gynnwys:
    1. cynllun y safle a chynllun dylunio'r dirwedd;
    2. ffurf, graddfa, dimensiynau, deunyddiau a manylion yr holl elfennau adeiledig ac arwynebau.
  2. Lle gall materion ansadrwydd tir gael eu goresgyn yn foddhaol mewn modd amgylcheddol dderbyniol sy'n cyfyngu i'r eithaf ar gloddio a llenwi ac yn defnyddio topograffeg bresennol y safle.
  3. Datrysiadau dylunio o ansawdd da sy'n cyflawni datrysiadau mewn perthynas ag adeiladau a mannau a'u cydberthnasau, ac yn cyflawni cynllun effeithiol, diogel a chynhwysol ar gyfer y safle a defnydd effeithlon o arwynebedd y safle;
  4. Na fydd y datblygiad yn arwain at effeithiau niweidiol sylweddol i amwynder defnyddiau tir, eiddo a phreswylwyr cyfagos na'r gymuned; a bod unrhyw effeithiau niweidiol posibl wedi cael eu hosgoi, eu lleihau i'r eithaf a'u lliniaru.
  5. Tirweddau ac amgylcheddau adeiledig sydd:
    1. yn cadw, yn gwarchod ac yn integreiddio'r dirwedd, yr amgylchedd adeiledig a'r rhwydwaith ecolegol a seilwaith gwyrdd presennol
    2. yn gwella'r amwynder gweledol a chymeriad ac yn creu tir y cyhoedd deniadol ag ymdeimlad eglur o le.
    3. yn lleihau effeithiau gweledol niweidiol posibl i'r eithaf
  6. Bod y datblygiad yn cyflawni neu'n cyfrannu at y canlynol:
    1. cysylltiadau diogel ac effeithlon â rhwydweithiau mynediad presennol gan gynnwys teithio llesol a'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus;
    2. llwybrau mynediad eglur ac arwynebau sy'n hybu hygyrchedd effeithiol ar gyfer pawb a rhwyddineb symud i mewn i'r safle a thrwyddo;
    3. darparu safonau priodol ar y safle gan gynnwys parcio a gwasanaethau.
  7. Bod y datblygiad yn cyflawni mesurau cynaliadwy a chydnerth ar gyfer trin a gwaredu dŵr wyneb a dŵr budr; sydd wedi'u hintegreiddio'n llawn â chynllun y safle ac yn cynyddu i'r eithaf y cyfleoedd i ddarparu gwerth ychwanegol trwy swyddogaethau sy'n cyflawni amcanion polisi ar gyfer y dirwedd, ecoleg a seilwaith gwyrdd
  8. Bod datrysiadau dylunio'n gallu cael eu cyflawni trwy gydol oes y datblygiad arfaethedig.
  9. Ei fod yn cynnwys, lle y bo'n berthnasol, darpariaeth ar gyfer rheoli a dileu rhywogaethau goresgynnol yn briodol

11.275 Mae'r cynllun hwn a'r polisi'n ceisio sicrhau bod cynigion datblygu'n arddangos egwyddorion dylunio cynaliadwy ac o ansawdd da sy'n adlewyrchu'r cyd-destun lleol. Mae dylunio o ansawdd da'n ganolog i'n huchelgeisiau ar gyfer creu cymunedau llewyrchus, cydlynol a chynaliadwy. Rhan bwysig o hyn yw sefydlu dull adfywio seiliedig ar ddylunio sy'n darparu ar gyfer datblygiadau a dyluniadau o ansawdd da mewn ffordd sy'n cydnabod unigrywiaeth lleol, a'r berthynas rhwng y ffurf adeiledig bresennol a datblygiadau newydd.

11.276 Mae'r Cynllun yn ceisio adlewyrchu darpariaethau polisi cenedlaethol a'r ffaith bod datblygu cynaliadwy wedi'i wreiddio o fewn y cynllun gan gydnabod y dylai tai a datblygiadau newydd gael eu darparu mewn ffordd sy'n gyson ag egwyddorion cynaliadwyedd. Mae materion megis cynllun, graddfa, ffurf, trwch, uchder, dwysedd, deunyddiau a manylion penodol (gan gynnwys y paled lliwiau) yn elfennau pwysig. Fodd bynnag, cydnabyddir nad yw'r rhain yn gallu bod yn gyfarwyddol ac y byddant yn amrywio ar draws datblygiadau ac ardal y Cynllun.

11.277 Ni ddylai creu dyluniad da fod yn gyfyngedig i ymddangosiad ffisegol adeiladau yn unig ac ni fydd manylion strwythurol penodol ar eu pennau eu hunain yn creu lle cynaliadwy. Yn hytrach, mae'r cymysgedd posibl o ddefnyddiau mewn datblygiad a/neu adeiladau, mannau (gan gynnwys bylchau a golygfeydd pwysig) a'r gymuned ehangach yn berthynol i'w gilydd yr un mor bwysig er mwyn i'r datblygiad gyflawni'r ymdeimlad o le a ddymunir.

11.278 Mae'r polisi hwn ar y cyd ag SP11: Creu Lleoedd a Lleoedd Cynaliadwy, PSD3: Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a PSD2: Egwyddorion Uwchgynllunio – Creu Cymdogaethau Cynaliadwy ynghyd â pholisïau eraill yn y cynllun yn pennu fframwaith trosfwaol ar gyfer ansawdd dylunio da mewn cynigion datblygu, cadwraeth a gwella yn y Sir.

11.279 Dylai adeiladau hanesyddol, treflun a thirwedd y Sir gael eu trin fel ased a'u gwarchod a'u gwella'n gadarnhaol er budd preswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Ceir canllawiau pellach ynghylch datblygu a gwarchod hunaniaethau hanesyddol a diwylliannol ym Mholisi Strategol SP14.

11.280 Dylai cynigion adlewyrchu'r angen i warchod nodweddion yr ardal ac amwynder y rhai sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac yn ymweld â hi. Dylai lleoliad adeiladau ar y safle a natur defnyddiau gael eu hystyried yng ngoleuni eu potensial i achosi niwsans annerbyniol. Gall ystyriaethau i amwynder ymwneud â phob math o ddatblygiad ledled y Sir. O ganlyniad, mae'r polisi'n ceisio parchu a, lle y bo'n briodol, gwarchod amwynder preswylwyr presennol.

11.281 Bydd lleoliad adeiladau ar y safle, cynllun a dyluniad manwl datblygiad yn aml yn hollbwysig i lwyddiant ymdrechion i ddarparu dewisiadau gwirioneddol yn lle teithio mewn car. Gall lleoliadau da ar gyfer safleoedd a datblygiadau wedi'u dylunio'n dda gynyddu eglurder safleoedd a mynediad at lwybrau cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus gan felly leihau maint traffig a chyflymder ceir. Mae'r Cynllun hwn, a strategaethau eraill, yn sicrhau bod datblygiadau newydd yn cyflawni cynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, gan greu lleoedd sy'n gydlynol ac yn gymdeithasol gynhwysol sy'n atgyfnerthu hunaniaeth leol.

11.282 Mae dyluniad o ansawdd gwael nid yn unig yn gallu tanseilio cymeriad, nodweddion ac ymddangosiad ardal, ond mae hefyd yn gallu effeithio ar amwynder preswylwyr presennol a'u hansawdd bywyd. Dylai datrysiadau dylunio ystyried effeithiau o'r fath mewn perthynas ag: effaith weledol, colli golau, edrych drosodd/preifatrwydd, aflonyddwch a goblygiadau tebygol symudiadau traffig neu ystyriaethau gweithredol.

11.283 Dylai cynigion ystyried ansawdd bywyd meddianwyr posibl y datblygiad hefyd. Ystyrir bod maint mannau byw yn bwysig hefyd o ran cynnal safon byw briodol gan gynnwys darparu ar gyfer amgylcheddau iach a deniadol i fyw ynddynt. Dylid nodi y bydd ystyriaethau o'r fath yn berthnasol i addasiadau lle mae potensial ar gyfer gor-ddwysáu defnydd a hynny'n arwain at amodau byw cyfyng.

11.284 Lle y bo'n briodol, dylid cyflwyno Datganiad Dylunio a Mynediad (DAS) gyda cheisiadau cynllunio. Dylai'r Datganiad Dylunio a Mynediad gynnwys y manylion sy'n angenrheidiol i sicrhau bod y cais a'r ystyriaethau dylunio ar gyfer unrhyw ddatblygiad yn cael eu mynegi'n llawn gan roi sylw i ddarpariaethau polisi a'u cyd-destun.

11.285 Bydd yn ofynnol i gynigion ar gyfer datblygiadau sydd â thros 100 o dai roi sylw i ddarpariaethau Polisi PSD2: Egwyddorion Uwchgynllunio – Creu Cymdogaethau Cynaliadwy. Bydd CCA yn ymhelaethu ymhellach ar y polisi gan gynnwys arweiniad penodol ar Egwyddorion Creu Lleoedd a Dylunio. Bydd Seilwaith Gwyrdd a'i rwydwaith o fannau agored amlbwrpas yn rhan annatod o unrhyw ddatrysiad dylunio effeithiol. O ganlyniad bydd disgwyl i gynigion roi sylw dyledus i Bolisi PSD3: Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd.

11.286 Mae gwyliadwriaeth naturiol yn ystyriaeth bwysig wrth sicrhau lleoedd diogelach a datblygiadau a chymunedau mwy cynhwysol.

11.287 Mae'r Cynllun yn cydnabod y gall tir ansad ddigwydd am nifer o resymau, er eu bod yn aml yn perthyn i'r categorïau canlynol:

  1. Effeithiau ceudodau tanddaearol – boed â tharddiad naturiol neu o ganlyniad i waith cloddio neu beirianneg sifil;
  2. Llethrau ansad – gall y rhain fod yn naturiol (e.e. morlinau sy'n erydu) neu o waith dyn (megis chwareli, trychfeydd neu argloddiau) neu,
  3. Cywasgiad tir – gall hyn fod â tharddiad naturiol oherwydd priddoedd mawn, llifwaddodol, aberol neu forol; neu o ganlyniad i weithgareddau dynol e.e. tir gwneud, tirlenwi neu lofeydd brig wedi'u hadfer; a thir sy'n symud o ganlyniad i gleiau sy'n crebachu ac yn chwyddo.

11.288 Yn yr ardaloedd hynny lle mae ansadrwydd tir yn hysbys, rhaid cyflwyno adroddiad cwmpasu gyda chynigion datblygu, a hwnnw'n nodi natur yr ansadrwydd (posibl). Dylai'r adroddiad fod yn ddigon manwl er mwyn i'r awdurdod lleol ac unrhyw asiantaeth statudol arall gadarnhau:

  1. nad oes bygythiad posibl i ddatblygiad fynd yn ei flaen;
  2. na ellir goresgyn problemau ansadrwydd; neu
  3. y gellid rhoi mesurau ar waith i oresgyn problemau dynodedig. Bydd yn ofynnol cyflwyno adroddiad sadrwydd manwl gyda'r cais sydd:
    1. Wedi'i lunio gan "berson cymwysedig", yn fwyaf priodol arbenigwr geotechnegol sy'n gallu dangos profiad arbenigol perthnasol o asesu a gwerthuso ansadrwydd; ac
    2. Yn adnabod y mesurau sy'n ofynnol i liniaru'r risg(iau) d(d)ynodedig.

11.289 Mae'n bwysig bod cynigion yn cael eu dylunio ar gyfer oes y datblygiad. Dylai cynigion nodi cyfrifoldeb am gynnal a chadw, a'r trefniadau cyllido ar gyfer cynnal a chadw dros oes y datblygiad arfaethedig.

PSD2: Egwyddorion Uwchgynllunio – Creu Cymdogaethau Cynaliadwy

Ar gyfer cynigion lle mae'r datblygiad yn un ar gyfer 50 o dai neu fwy, bydd gofyniad i gyflwyno 'uwchgynllun' cynhwysfawr ac integredig ar gyfer y safle cyfan a hwnnw'n dangos dull cydlynol a chydgysylltiedig o greu cymdogaethau yn unol ag egwyddorion creu lleoedd a dylunio da. Dylid ystyried yr egwyddorion arweiniol canlynol (lle y bo'n briodol):

  1. Dadansoddiad o ddwyseddau ar draws y safle sy'n adlewyrchu nodweddion ffisegol y safle a chymeriad ac ymddangosiad y gymuned o amgylch. Bydd disgwyl i ddatblygiadau dwysedd uwch ddwyn perthynas uniongyrchol â choridorau trafnidiaeth gyhoeddus ac adlewyrchu safle'r anheddiad yn y fframwaith aneddiadau (Polisi Strategol SP16);
  2. Sut y byddant yn cyfrannu at ddarparu dewisiadau trafnidiaeth cynaliadwy gan gynnwys teithio llesol a hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus;
  3. Sut y mae'r cynnig yn integreiddio ac yn cysylltu'n effeithiol â'r gymuned o amgylch gan gynnwys cysylltiadau o fewn a thrwy'r safle ar gyfer dewisiadau trafnidiaeth gynaliadwy. Dylai cynigion geisio sefydlu eglurder a chysylltedd da o fewn y safle ac o ran cysylltu â'r ardal ehangach;
  4. Darparu cyfleusterau i ddiwallu anghenion cymdeithasol a chymunedol y datblygiad a, lle y bo'n briodol, yr ardal ehangach;
  5. Cynnwys datrysiadau ymatebol sy'n adlewyrchu'r cyd-destun lleol a'r cyfleoedd ar gyfer technegau adeiladu cynaliadwy;
  6. Integreiddio'r rhwydwaith o seilwaith gwyrdd a mannau agored cysylltiedig i ddarparu amgylchedd cydlynol ac integredig ar gyfer pobl, bywyd gwyllt a mannau agored ar gyfer chwaraeon, hamdden a chwarae;
  7. Integreiddio ffurf y dirwedd, bioamrywiaeth a nodweddion adeiledig a hanesyddol o fewn ac o amgylch y safle i mewn i'r datblygiad mewn modd sympathetig. Bydd disgwyl i gynigion edrych tuag at allan y tu hwnt i ffiniau'r safle (ac nid dim ond o fewn y safle) i ddatblygu cymdogaethau cynaliadwy o ansawdd da;
  8. Cynllun fesul cyfnod ar gyfer cyflawni'r datblygiad ynghyd â darparu seilwaith ategol mewn modd amserol;
  9. Adlewyrchu hunaniaeth ieithyddol a diwylliannol y Sir a chyfrannu tuag at ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg;
  10. Cynnwys datrysiadau arloesol a chreadigol mewn perthynas ag effeithlonrwydd adnoddau, datblygu carbon isel a chreu ynni adnewyddadwy;
  11. Integreiddio nodweddion y safle sy'n codi o Systemau Draenio Cynaliadwy fel rhan o'r datblygiad ac ystyried y gwerth neu swyddogaethau ychwanegol y gall y rhain eu darparu.

11.290 Mae'r polisi'n nodi uwchgynllunio fel un o'r gofynion ar gyfer datblygiadau o ran cyflawni dull creu lleoedd cyfannol ar gyfer yr holl safleoedd dyranedig a hapsafleoedd â 50 neu fwy o dai. Bydd angen cytuno ar uwchgynllun ar gyfer yr holl safleoedd a ddyrannwyd ar gyfer 50 o dai neu fwy cyn rhoi caniatâd cynllunio mewn perthynas â'r safleoedd hynny.

11.291 Mae'r polisi'n cydnabod y manteision a all godi o uwchgynllunio effeithiol nid dim ond o ran ansawdd yr amgylchedd a'r ymdeimlad o le y gall ei greu, ond hefyd fel cyfle i integreiddio'r holl ystyriaethau a gofynion datblygiadol perthnasol yn un mynegiad ar y ffurflen gynigion.

11.292 Gan ddefnyddio'r dull hwn bydd cynigion yn gallu mynegi mewn ffordd eglur a chydlynol sut y gall ffactorau megis seilwaith newydd neu wella seilwaith presennol ychwanegu gwerth ar gyfer preswylwyr presennol a darpar breswylwyr, gan ffurfio a rhoi arweiniad ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol. Bydd dull o'r fath yn darparu mwy o sicrwydd ac yn integreiddio cyfleoedd ar gyfer byw cysylltiedig, strydoedd eglur, dilyniant o fannau agored a Seilwaith Gwyrdd a datblygiadau sy'n cyd-fynd â'u hamgylchoedd.

11.293 Dylai cynigion uwchgynllunio ystyried a chynllunio ar gyfer cyflwyno'r datblygiad fesul cyfnod mewn modd effeithiol ac integredig gan ystyried gwahanol gymysgeddau o ddeiliadaethau a darpariaeth addas o ran cyfleusterau ar adegau priodol yn natblygiad safle. Bydd hyn yn sicrhau bod datblygiad yn cael ei gynllunio'n gynhwysfawr gyda chymunedau cydlynol a chynaliadwy'n ganolog iddo.

11.294 Dylai'r uwchgynllun gael ei ystyried ar adeg y cais cynllunio amlinellol gyda'i baramedrau a'i gynnwys yn cael eu cytuno, y dylai materion a gadwyd yn ôl at y dyfodol fod yn gyson â hwy.

PSD3: Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd

Bydd yn ofynnol i gynigion datblygu integreiddio, gwarchod a chynnal a chadw asedau SG presennol a gwella maint, ansawdd, cysylltedd a natur amlbwrpas y rhwydwaith seilwaith gwyrdd. Lle na ellir osgoi colli neu ddifrod i seilwaith gwyrdd blaenorol, bydd yn ofynnol rhoi mesurau lliniaru a chydbwyso ar waith.

Hyd y bo'n ymarferol, dylai'r holl ddatblygiadau geisio cynyddu i'r eithaf swm y seilwaith gwyrdd ar y safle, yn ogystal â chydgysylltiad seilwaith gwyrdd o fewn ac o amgylch y safle â'r rhwydwaith seilwaith gwyrdd ehangach. Dylent hefyd gymryd cyfleoedd i gyflawni natur amlbwrpas trwy ddwyn swyddogaethau seilwaith gwyrdd ynghyd.

Bydd yn ofynnol i'r holl ddatblygiadau mawr gyflwyno Asesiad Seilwaith Gwyrdd.

11.295 Nod y polisi hwn yw sicrhau bod asedau seilwaith gwyrdd Sir Gaerfyrddin yn cael eu gwerthfawrogi, eu gwarchod, eu gwella a'u rheoli trwy rwydwaith seilwaith gwyrdd. Ar raddfa'r dirwedd gall asedau seilwaith gwyrdd gynnwys ecosystemau llwyr megis gwlypdiroedd, coetiroedd, rhostiroedd a dyfrffyrdd. Ar raddfa leol, gallant gynnwys parciau, caeau, llwybrau troed, Hawliau Tramwy Cyhoeddus, llwybrau beicio, tir comin a gerddi. Ar raddfeydd llai, gall ymyriadau trefol unigol megis coed stryd, ymylon ffyrdd, a thoeau gwyrdd oll gyfrannu at rwydweithiau seilwaith gwyrdd.

11.296 Bydd yn ofynnol i Asesiad Seilwaith Gwyrdd ddangos:

  1. lleoliad, ansawdd a chyflwr yr holl asedau SG ac elfennau a nodweddion tirwedd ac ecolegol presennol ar, ac ar bwys, y safle, a'r rhai sy'n ddarostyngedig i:
    1. effeithiau posibl o ganlyniad i'r datblygiad, a manylion sut y mae'r effeithiau wedi cael eu hosgoi a'u lleihau i'r eithaf trwy fesurau dylunio a gwarchod penodol.
    2. effeithiau na ellir eu hosgoi o ganlyniad i'r datblygiad, a manylion sut y mae'r effeithiau wedi cael eu lliniaru, neu eu cydbwyso o fewn cynllun y datblygiad arfaethedig a'r cynllun dylunio tirwedd ar ei gyfer;
  2. datrysiadau dylunio effeithiol sy'n cynyddu i'r eithaf gyfleoedd i: wella ansawdd a maint asedau SG ac elfennau a nodweddion tirwedd ac ecolegol presennol; ac yn ei gwneud yn bosibl creu asedau SG ac elfennau a nodweddion tirwedd ac ecolegol newydd, i wella cysylltedd a natur amlbwrpas y rhwydwaith SG

11.297 Pan fo wedi'i gynllunio, ei ddylunio ac yn cael ei reoli'n dda, mae gan seilwaith gwyrdd y potensial i ddwyn ystod eang o fanteision i bobl a byd natur. Trwy ystyried y swyddogaethau niferus y mae ased SG yn gallu eu darparu ar yr un pryd â'i gilydd, gall leihau costau'n sylweddol i unigolion, busnesau a chyrff cyhoeddus, gan hefyd wella ansawdd bywyd ac iechyd preswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr â Sir Gaerfyrddin.

11.298 Mae'r swyddogaethau hyn y gall seilwaith gwyrdd eu darparu'n perthyn yn fras i'r themâu canlynol:

output

Ffigur 11: Seilwaith Gwyrdd

Bioamrywiaeth: Gall SG wella cysylltedd rhwng ardaloedd natur presennol, gan leihau darniad a cholled cynefinoedd a chynyddu cydnerthedd ecolegol. Bydd cynigion datblygu'n gwarchod ac yn gwella bioamrywiaeth ar safleoedd, a rhwydweithiau cynefinoedd o fewn ac ar bwys y safle. Dylai hyn gynnwys adnabod ffyrdd o leihau i'r eithaf neu wrthdroi darniad cynefinoedd a gwella cysylltedd cynefinoedd trwy hybu coridorau byd natur ac adnabod cyfleoedd i adsefydlu tir, rheoli tirwedd a chreu cynefinoedd newydd neu well.

Ymdeimlad o le:Mae ymgorffori nodweddion SG mewn datblygiad newydd yn elfen bwysig o ddull creu lleoedd Llywodraeth Cymru a gall gyfrannu at yr ymdeimlad unigryw o le mewn ardal neu anheddiad. Mae cadw nodweddion presennol mewn cynigion yn helpu i greu lleoedd sy'n unigryw ac yn gallu helpu i leddfu effaith newid trwy greu ymdeimlad o barhad sy'n cydnabod hunaniaeth leol. Mae seilwaith gwyrdd yn hanfodol i greu lleoedd ac felly rhaid iddo fod yn rhan o'r broses o ddylunio datblygiad o'r dechrau un, yn hytrach na chael ei ddarostwng i dir 'dros ben'.

Y Newid yn yr Hinsawdd: Gall SG chwarae rhan hollbwysig mewn ymdrechion i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, ei liniaru ac addasu iddo, a bydd ganddo rôl fwyfwy pwysig i ddiogelu ardaloedd trefol a gwledig rhag y newid yn yr hinsawdd. Mae'r rhain yn cynnwys dal a storio carbon, gwella gwres a lleihau perygl llifogydd yn ogystal â lliniaru gostyngiadau mewn ansawdd aer a dŵr a achoswyd gan y newid yn yr hinsawdd. Hyd y bo'n bosibl, dylai datblygiadau geisio cynyddu'r manteision hyn i'r eithaf, a dylid ystyried blaenoriaethu manteision yn y meysydd canlynol:

  • O fewn parthau llifogydd a adnabuwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, darparu capasiti ar gyfer storio dŵr os ceir llifogydd
  • Yn y Prif Ganolfannau, darparu rhyddhad rhag tymheredd uchel trwy fwy o orchudd canopi a defnydd effeithlon o arwynebau i gynyddu i'r eithaf y seilwaith gwyrdd a ddarperir gan gynnwys trwy doeau gwyrdd a waliau gwyrdd.
  • Mewn ardaloedd lle mae iechyd trigolion yn wael ar gyfartaledd, darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol.
  • Mewn Parthau Rheoli Ansawdd Aer, darparu mesurau i waredu llygryddion aer trwy blannu coed a deiliant addas.

Bydd cynigion datblygu hefyd yn integreiddio Systemau Draenio Cynaliadwy brodorol yn nyluniad seilwaith gwyrdd a dylent, hyd y gellir, sicrhau bod darpariaeth Systemau Draenio Cynaliadwy yn amlbwrpas.

Iechyd a Llesiant: Gall seilwaith gwyrdd fod yn fodd effeithiol i wella iechyd a llesiant, trwy gysylltu anheddau, gweithleoedd a chyfleusterau cymunedol a darparu mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd da. Dylai datblygiadau geisio cynyddu'r manteision i'r eithaf a, lle y bo'n briodol, defnydd y cyhoedd o seilwaith gwyrdd, gyda phwyslais ar hybu cymunedau iachach. Bydd cynigion datblygu'n cyrraedd safonau lleol o ran hygyrchedd, ansawdd a maint mannau agored, a byddant wedi'u dylunio fel eu bod yn diwallu anghenion y gymuned. Bydd cynigion datblygu yn cynnal a gwella ansawdd a chysylltedd rhwydweithiau mynediad, gan integreiddio llwybrau teithio llesol (gan gysylltu gweithleoedd, ysgolion, cyfleusterau cymunedol a hybiau trafnidiaeth gyhoeddus) a llwybrau hamdden i mewn i seilwaith gwyrdd.

Yr Economi: Mae gwarchod a buddsoddi mewn Seilwaith Gwyrdd yn gallu cefnogi llwyddiant economaidd a thwf cynaliadwy. Gall SG ddenu mewnfuddsoddiad, gan wneud ardal leol yn fwy deniadol i fusnesau ac ymwelwyr. Gall hefyd arbed arian i ddatblygwyr gan bod gan asedau SG y potensial i ateb nifer o ofynion mewn datrysiad amlbwrpas, e.e. man agored a Systemau Draenio Cynaliadwy. I'r perwyl hwn dylai datblygiadau geisio adnabod a chynyddu i'r eithaf ansawdd, defnydd a natur amlbwrpas darpariaeth seilwaith gwyrdd ar y safle.

11.299 O ganlyniad bydd canllawiau pellach ar Seilwaith Gwyrdd fel rhan o ddatblygu'n cael eu paratoi fel CCA i ategu'r agenda creu lleoedd a chreu amgylcheddau byw sydd o ansawdd da ac yn fioamrywiol.

PSD4: Seilwaith Gwyrdd – Coed, Coetiroedd a Pherthi

Dylai cynigion ar gyfer datblygu gadw ac estyn gorchudd coed lle mae'n bwysig i'r amwynder, yr amgylchedd naturiol a'r ffurf adeiledig. Dylai cynigion gadw coed, coetir a pherthi presennol a, lle na ellir osgoi eu colli, dylent ddarparu rhai priodol yn eu lle drwy'r datblygiad i gyd.

Lle collir coed ar safle am na ellir osgoi hynny, bydd yn ofynnol plannu coed yn eu lle ar y safle yn ôl cyfradd o ddwy goeden newydd am bob coeden a gollwyd. Rhoddir cefnogaeth ac anogaeth i blannu coed newydd, ychwanegol fel rhan o ddatblygiadau newydd hefyd.

Ni fydd cynigion datblygu'n cael eu caniatáu lle maent yn cael effaith niweidiol ar goed, coetiroedd a pherthi sydd:

  1. Wedi'u diogelu gan Orchymyn Diogelu Coed (TPO);
  2. Yn goetiroedd hynafol gan gynnwys coed hynafol a hynod unigol;
  3. Yn bwysig i leoliad a chymeriad ardal gadwraeth.

Dylid cyflwyno gwybodaeth arolygu coed gyda phob cais cynllunio, lle mae coed yn bresennol ar y safle. Dylai'r wybodaeth arolygu coed gynnwys mesurau gwarchod, lliniaru a rheoli.

11.300 Mae'r polisi'n cydnabod y cyfraniad pwysig y gall coed, coetiroedd a pherthi ei wneud tuag at yr amgylchedd a'n cymunedau. Mae gan goed a choetiroedd rôl bwysig o fewn ardal y cynllun ac maent yn rhan annatod o'r dirwedd a chymeriad trefol a hefyd yn darparu cynefin ac yn cynyddu cydnerthedd yn wyneb y newid yn yr hinsawdd.

11.301 Mae eu cyfraniad o fewn y ffurf drefol yn cael ei gydnabod yn arbennig. Maent yn helpu i drapio llygryddion aer, darparu cysgod, amsugno dŵr glaw a hidlo sŵn. Maent hefyd yn darparu ardaloedd helaeth o gynefin ar gyfer byd natur, yn enwedig coed aeddfed. Mae rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd Sir Gaerfyrddin yn adlewyrchu pwysigrwydd haenau yn y tir trefol ac o fewn ein trefi a'n pentrefi – mewn mannau cyhoeddus a phreifat, ar hyd dyfrffyrdd a llwybrau llinol a, ac mewn ardaloedd amwynder.

11.302 Rydym yn ystyried bod eu cadw a phlannu rhai newydd yn rhan bwysig o greu cymunedau cydlynol ac iach mewn cyd-destun gwledig a thirweddol gwerthfawr a bioamrywiol. Dylid cyflwyno arolwg coed gyda phob cais cynllunio lle mae coed yn bresennol ar y safle. Dylai hyn gynnwys mesurau gwarchod, lliniaru a rheoli. Rhaid rhoi mesurau rheoli priodol ar waith i warchod coed, coetiroedd a/neu berthi sydd newydd eu plannu ac sydd eisoes yn bodoli.

11.303 Mae'r polisi'n adlewyrchu'r cysylltiadau trwy greu lleoedd o ansawdd a Seilwaith Gwyrdd o ansawdd. O ganlyniad bydd canllawiau pellach ar Goed a phlannu fel rhan o ddatblygiadau newydd yn cael eu paratoi fel CCA i ategu'r agenda creu lleoedd a chreu amgylcheddau byw bioamrywiol o ansawdd da.

11.304 Dylai coed newydd a gaiff eu plannu fod o rywogaeth sy'n frodorol i'r safle, ac o aeddfedrwydd sy'n berthynol i'r safle a hynny wrth fodd y Cyngor.

PSD5: Datblygu a'r Economi Gylchol

Bydd yn ofynnol i gynigion datblygu ddangos, trwy gyflwyno cynllun rheoli deunyddiau naturiol, sut y cyfyngwyd i'r eithaf ar y gwastraff a gynhyrchir a sut y bydd unrhyw wastraff a gynhyrchir yn cael ei reoli er mwyn cadw adnoddau mewn defnydd am gyhyd â phosibl yn y canlynol:

  1. cynllun a dyluniad y datblygiad;
  2. unrhyw gam dymchwel ac adeiladu;
  3. o ran unrhyw gyfleoedd i ddefnyddio gwastraff ar gyfer ei ailddefnyddio a'i ailgylchu;
  4. o ran unrhyw gyfleoedd i ddefnyddio gwastraff gweddillol fel ffynhonnell tanwydd.

11.305 Elfen allweddol o fewn PCC Rh10 yw'r symudiad tuag at gofleidio economi fwy cylchol yng Nghymru. Mae economi gylchol yn un sy'n ceisio cadw deunyddiau, cynnyrch a chydrannau mewn defnydd am gyhyd ag y bo modd. Ceir manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd i weithredu yn y fath fodd, yn fwyaf nodedig y cynnydd yng ngwerth a chynhyrchiant deunyddiau, arbedion ariannol i'r sector adeiladu ac atal gwastraff.

11.306 Er mwyn hwyluso gofynion y polisi hwn, bydd angen cyflwyno cynllun rheoli deunyddiau naturiol gyda chynigion datblygu. Dylai'r Cynllun nodi'r holl ddeunyddiau naturiol ar y safle cyn y datblygiad, gall y rhain fod yn adeiladau presennol i'w dymchwel neu'r tir naturiol y byddir yn tarfu arno. Dylai esbonio sut y bwriedir cyfyngu i'r eithaf ar y gwastraff a fydd yn cael ei gynhyrchu o'r deunyddiau hyn a bod y dyluniad a'r cynllun wedi rhoi ystyriaeth lawn i sicrhau bod cydbwysedd rhwng torri a llenwi mor agos â phosibl at fod yn niwtral.

11.307 Rhoddir anogaeth ar gyfer cynigion datblygu sy'n cynnwys nodweddion dylunio a deunyddiau sy'n galluogi hyblygrwydd a'r gallu i addasu drwy gydol oes dylunio adeilad ac a fydd yn galluogi'r deunyddiau i gael eu hailddefnyddio ar ôl ei ddadadeiladu.

11.308 Lle y bo'n briodol, rhoddir anogaeth i ddefnyddio deunyddiau o ffynonellau lleol, deunyddiau amgen neu ddeunyddiau wedi'u hailgylchu, gan gynnwys ailddefnyddio ac ailgylchu agregau eilaidd, gwastraff adeiladu, dymchwel a chloddio, lludw gwaelod llosgydd a deunyddiau priodol eraill wedi'u hailgylchu.

11.309 Yn anochel, mae ar safleoedd adeiladu angen rhywfaint o weithrediadau peirianneg torri a'u llenwi. Fel rhan o'r broses o drin y safle, dylid asesu'r cydbwysedd torri a llenwi rhwng y deunyddiau a gloddiwyd er mwyn osgoi creu gwastraff na ellir ei ailddefnyddio'n effeithiol oherwydd diffyg cyfleusterau storio addas. Fel rhan o'r cynllun rheoli adnoddau naturiol dylai datblygwyr ddylunio cynigion i sicrhau cydbwysedd mewn cloddwaith sy'n ceisio lleihau'r gwaith torri a llenwi i'r eithaf neu a allai ddarparu ar gyfer adfer tir mewn rhannau eraill o'r ardal.

11.310 Bydd yr Awdurdod Cynllunio yn rhoi anogaeth ar gyfer dulliau arloesol o ailgylchu, yn enwedig y rhai sy'n dwyn manteision niferus megis lleihau costau ynni ac allyriadau cysylltiedig. Gall hyn gynnwys yr arfer o ailgylchu ar y safle lle mae safleoedd mwynau yn y cwestiwn ac ailgylchu gwastraff adeiladu a dymchwel ar y cyd â defnyddiau addas eraill, megis o fewn iardiau cyflenwyr adeiladwyr.

11.311 O dan amgylchiadau lle nad yw'n bosibl ailddefnyddio neu ailgylchu'r gwastraff, bydd angen i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth i ddangos ble y caiff y gwastraff gweddillol ei waredu. Mae'r opsiynau y byddir yn rhoi anogaeth ar ei cyfer yn cynnwys y potensial i ddefnyddio'r gwastraff fel ffynhonnell tanwydd, megis mewn adfer ynni effeithlon iawn o wastraff, o bosibl yn gysylltiedig â systemau gwresogi ardal.

PSD6: Cyfleusterau Cymunedol

Bydd cynigion ar gyfer cyfleusterau cymunedol newydd a gwell, gan gynnwys cyfleusterau iechyd ac addysg, yn cael eu cefnogi lle maent yn cyd-fynd â'r canlynol:

  1. Byddai'n hygyrch iawn i'r gymuned leol y bwriedir iddo'i gwasanaethu gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio;
  2. Mae o fewn, neu'n uniongyrchol gysylltiedig ag anheddiad a nodwyd ym Mholisi SP16: Dosbarthu Cynaliadwy;
  3. Ni fyddai'n creu niwed gormodol i'r amwynderau gerllaw eiddo preswyl;
  4. Ni fyddai'n amharu ar gymeriad ac ymddangosiad yr ardal;
  5. Ni fydd yn arwain at broblemau parcio neu draffig annerbyniol;
  6. Fe'i dyluniwyd gyda hyblygrwydd a chyfaddaster priodol i ddarparu ar gyfer defnyddiau cymunedol ychwanegol heb beryglu ei brif ddefnydd bwriadedig.

11.312 Mae darparu ystod o gyfleusterau cymunedol sy'n hygyrch i gynifer o bobl â phosibl yn hanfodol o ran sicrhau cymunedau cynaliadwy. Mae cyfleusterau o'r fath yn werthfawr nid dim ond o ran yr amwynder y maent yn ei ddarparu, ond maent hefyd yn bwysig o ran creu cyflogaeth a denu pobl i fyw mewn ardal. Mae cyfleusterau cymunedol yn cyfrannu'n sylweddol at lesiant, ansawdd bywyd, mwynhad a chynwysoldeb aneddiadau a chymunedau o fewn y sir. Yn hyn o beth, dylai'r posibilrwydd o'u colli gael ei ystyried yn ofalus o gofio'r effeithiau canlyniadol o ran cynaliadwyedd a hunaniaeth gymunedol. Lle bynnag y bo'n ymarferol, dylid ystyried diogelu a chadw cyfleusterau cymunedol a mabwysiadu dulliau ymatebol i helpu i'w cadw.

11.313 Mae'r polisi uchod hefyd yn cydnabod y potensial y bydd datblygu lle mae'n digwydd yn rhoi straen ar gyfleusterau presennol. O ganlyniad, mae digonolrwydd cyfleusterau presennol fel gofal iechyd yn ystyriaeth bwysig. O ganlyniad, mae'r polisi yn ceisio sicrhau bod cyfleusterau digonol yn cael eu darparu i ateb galwadau cymunedau lleol yn y dyfodol.

11.314 Mae'r polisi yn ceisio hybu'r potensial ar gyfer defnydd deuol o gyfleusterau, yn enwedig lle byddai'r gweithgarwch ychwanegol yn helpu i ehangu'r ddarpariaeth gwasanaethau a gwella hyfywedd a defnydd. Gallai cadarnhau hyfywedd cyfleuster, yng nghyd-destun nodweddion demograffig cyfnewidiol, cyflwr a gwaith cynnal a chadw a phatrymau newidiol o ran y galw olygu nad yw rhai cyfleusterau yn ateb y gofynion mwyach. Mewn amgylchiadau o'r fath, gallai ffurfiau amgen o ddarpariaeth a defnydd fod yn briodol. Dylai penderfyniad o'r fath gael ei oleuo, lle y bo'n briodol, gan dystiolaeth leol, y darparwr cyfleuster/gwasanaeth a'r gymuned leol.

11.315 Mae hybu hygyrchedd i hamdden ac adloniant ffurfiol ac anffurfiol yn ystyriaeth bwysig ar gyfer y CDLl. Mae meysydd chwaraeon, rhandiroedd, parciau ac amwynderau naturiol ehangach fel dyfrffyrdd a choetiroedd yn darparu cyfleoedd ar gyfer manteision iechyd posibl ac yn ychwanegu at yr ymdeimlad o le mewn cymuned, yn ogystal ag integreiddio seilwaith gwyrdd yn y ffurf drefol.

11.316 Mae ganddynt hefyd y potensial i liniaru achosion ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, a gallant ddarparu mannau ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol a chydlyniant cymunedol. Dylid cyfeirio at bolisi PSD7 mewn perthynas â Hamdden a Mannau Agored.

11.317 Mae'r berthynas rhwng mynediad at gyfleusterau gofal iechyd a datblygiadau newydd yn cael ei chydnabod a dylid cyfeirio at Bolisi INF2: Cymunedau Iach.

11.318 Byddir yn rhoi cefnogaeth i ddarparu cyfleusterau cymunedol lle maent yn cyd-fynd â Pholisi Strategol SP16: Dosbarthu Cynaliadwy – Fframwaith Aneddiadau. Caiff lleoliad cynigion ar gyfer darparu cyfleusterau addysgol ac iechyd newydd ei gefnogi ar safleoedd sydd o fewn ac yn union ar bwys terfynau aneddiadau diffiniedig lle maent yn gyson â strategaeth a pholisïau'r CDLl hwn.

11.319 Gall y Cyngor geisio cyfraniadau gan ddatblygwyr trwy rwymedigaethau cynllunio i liniaru effeithiau datblygiadau penodol, ac i hwyluso'r broses o gyflawni polisïau a chynigion y Cynllun.

PSD7: Diogelu Mannau Agored

Bydd darpariaeth yn cael ei gwneud i ddiogelu mannau agored a, lle bo'n bosibl, i wella'u hygyrchedd.

Bydd cynigion sy'n arwain at golli mannau agored presennol yn cael eu caniatáu dim ond dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Os dangosir bod darpariaeth sydd o leiaf o werth cyfatebol ar gael o fewn yr anheddiad, neu leoliad sy'n ddigon hygyrch; a,
  2. Lle na fyddai'n achosi nac yn gwaethygu diffyg mannau agored; neu,
  3. Lle byddai ail-ddatblygu rhan fach o'r safle yn ei gwneud yn bosibl cadw a gwella'r rhan fwyaf o'r cyfleuster; neu,
  4. Lle mae cyfraniad ariannol boddhaol at ddarpariaeth gydbwyso yn cael ei ddarparu fel cyfleuster arall derbyniol.

11.320 Rhoddir diffiniadau o fannau agored ac eglurhad o safonau hygyrchedd y Sir yn Asesiad Mannau Agored Sir Gaerfyrddin a cheir gwybodaeth ychwanegol hefyd yn Asesiad Seilwaith Gwyrdd Sir Gaerfyrddin. At ddibenion y cynllun hwn, diffinnir mannau agored fel ardaloedd sy'n cynnwys caeau chwarae, ardaloedd chwarae plant â chyfarpar, cyfleusterau chwaraeon awyr agored, hamdden anffurfiol a mannau amwynder neu chwarae (h.y. mannau gwyrdd naturiol, mannau chwarae a mannau agored cyhoeddus).

11.321 Mae'r ddarpariaeth mannau agored a nodwyd yn y Sir yn cael ei mapio a'i hasesu yn Asesiad Mannau Agored Sir Gaerfyrddin. Dylid nodi, fodd bynnag, y gall fod ardaloedd ychwanegol o fannau agored nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn yr Asesiad sy'n gwneud cyfraniad gwerthfawr tuag at ddarparu mannau agored o fewn y gymuned. Er na chaiff yr ardaloedd hyn eu mapio fel rhan o'r CDLl, byddent yn cael eu diogelu serch hynny o dan y polisi hwn os ystyrir bod hynny'n briodol.

11.322 Er bod diogelu mannau agored presennol yn agwedd allweddol ar y polisi uchod, mae hefyd yn rhoi rhywfaint o hyblygrwydd. Mae'n bosibl y bydd ystyried nodweddion demograffig cyfnewidiol, cyflwr a bywiogrwydd y ddarpariaeth bresennol, ac unrhyw batrymau newidiol mewn angen, yn golygu nad yw mannau agored presennol yn ateb y gofynion mwyach. Efallai y bydd darpariaeth dros ben yn cael ei nodi neu gall fod cyfle i wella'r ddarpariaeth bresennol i ddiwallu anghenion y gymuned leol drwy ddatblygiad. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae'r polisi yn ceisio darparu ar gyfer gwella neu newid darpariaeth o fewn yr anheddiad fel a lle y bo'n briodol.

11.323 Pan fydd gan gynigion y potensial i gael effaith sylweddol a niweidiol ar ddarpariaeth bresennol, bydd angen i'r ymgeisydd ddangos bod darpariaeth amgen ar gael i gyrraedd y safonau hygyrchedd. Dylid cyfeirio at yr Asesiad Mannau Agored at y diben hwn; dylid ystyried nifer y mannau agored, eu lleoliad a'u math wrth nodi darpariaeth amgen o 'werth cyfatebol'. O ran y patrymau newidiol mewn angen a defnydd, dylid ystyried ymgynghori â Chyngor Chwaraeon Cymru, ochr yn ochr â Gwasanaethau Hamdden a Pharciau 'r Cyngor, y Cynghorau Tref a Chymuned perthnasol, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau a sefydliadau eraill sydd â chyfrifoldeb am ddarparu a chynnal a chadw mannau agored yn yr ardal. Dylid nodi mai cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd darparu digon o wybodaeth i ddangos bod y cynnig yn cydymffurfio â'r polisi hwn.

11.324 Mae'r mannau agored hyn yn gwneud cyfraniad pwysig i Seilwaith Gwyrdd y Sir trwy ddarparu ardaloedd ar gyfer hamdden, lleihau effaith y newid yn yr hinsawdd, gwella iechyd a llesiant a gwella bioamrywiaeth a chysylltedd, ymhlith manteision eraill. Dylid ystyried polisi PSD3: Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd a'r angen i gynyddu i'r eithaf y seilwaith gwyrdd o fewn safle a chyflawni natur amlddefnydd trwy ddod â swyddogaethau seilwaith gwyrdd at ei gilydd.

PSD8: Darparu Mannau Agored Newydd

Bydd angen i bob datblygiad preswyl newydd â deg neu fwy o dai gyfrannu at fannau agored yn unol â safonau mannau agored y Cyngor.

Os na ellir bodloni'r safonau ar y safle, neu os oes digon o ddarpariaeth bresennol eisoes ar gael i wasanaethu'r datblygiad, yna byddir yn ceisio swm gohiriedig lle y bo'n briodol.

11.325 Mae Asesiad Mannau Agored Sir Gaerfyrddin yn nodi'r ddarpariaeth bresennol o ran mannau agored ledled ardal y cynllun a'r safonau y dylai'r cyngor a datblygwyr anelu at eu cyflawni. Mae'r polisi hwn yn fodd i gyflawni'r safonau hyn sy'n ystyried maint, swyddogaeth a hygyrchedd y ddarpariaeth. Ceir manylion pellach yn yr Asesiad Mannau Agored.

11.326 Wrth benderfynu a oes angen cyfraniad ai peidio, bydd angen ystyried maint, hygyrchedd, ansawdd a'r math o ddarpariaeth mannau agored. Lle y bo diffyg presennol o fewn cymuned a bod y datblygiad arfaethedig yn debygol o waethygu'r sefyllfa yna bydd angen cyfraniad. Yn yr un modd, bydd angen cyfraniad mewn amgylchiadau lle byddai'r datblygiad arfaethedig yn arwain at ddiffyg.

11.327 O ran y Mannau Gwyrdd Naturiol, y Mannau Chwarae a'r Mannau Agored Cyhoeddus a ddarperir, mae'r Cyngor yn cymhwyso'r safonau canlynol:

Mannau Gwyrdd Naturiol

  1. Ni ddylai unrhyw berson fod yn byw mwy na 400m1 ardal agosaf o Fan Gwyrdd Naturiol (o leiaf 0.5ha).
  2. Dylai fod o leiaf un Man Gwyrdd Naturiol o 20ha neu fwy, o fewn 2km i bob cartref.
  3. Dylai fod o leiaf un safle Man Gwyrdd Naturiol o 100ha neu fwy, o fewn 5km i bob cartref.
  4. Dylai fod o leiaf un safle Man Gwyrdd Naturiol o 500ha neu fwy, o fewn 10km i bob cartref.
  5. Dylai fod o leiaf 2ha o Fannau Gwyrdd Naturiol am bob 1000 o'r boblogaeth.

Mannau Chwarae

  1. Dylai fod o leiaf 2.4ha o Fan Chwarae am bob 1000 o'r boblogaeth
  2. Dylai o leiaf 1.6ha o'r 2.4ha fod yn Gyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored
  3. Dylai o leiaf 0.8ha o'r 2.4ha fod yn Gyfleusterau Chwarae i Blant
  4. Dylai pawb fod yn byw o fewn 1,200m i Gyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored
  5. Dylai pawb fod yn byw o fewn 400m2 i Gyfleusterau Chwarae i Blant

Mannau Agored Cyhoeddus

  1. Dylai fod o leiaf 0.8ha o Barciau a Gerddi am bob 1000 o'r boblogaeth
  2. Dylai fod o leiaf 0.6ha o Fannau Gwyrdd Amwynder am bob 1000 o'r boblogaeth
  3. Dylai pawb fod o fewn 700m i Barc neu Ardd ffurfiol
  4. Dylai pawb fod o fewn 480m i Fan Gwyrdd Amwynder

11.328 Yn ogystal â'r safonau meintiol a hygyrchedd, dylid ystyried ansawdd y ddarpariaeth bresennol, gan ystyried ei chyflwr, ei gofynion ar gyfer cynnal a chadw yn y dyfodol a'i haddasrwydd ar gyfer pob aelod o'r gymuned.

11.329 Mewn sefyllfaoedd lle gellir bodloni'r safonau drwy ddarpariaeth bresennol o ran mannau agored sydd o ansawdd addas, yna bydd angen datganiad ategol gan yr ymgeisydd i ddangos tystiolaeth o hyn. O dan amgylchiadau o'r fath, gall y Cyngor ofyn am swm gohiriedig tuag at gynnal a chadw neu uwchraddio darpariaeth mannau agored gerllaw sydd eisoes yn bodoli lle ystyrir bod angen hynny.

11.330 Mae'n bosibl y bydd sefyllfaoedd lle na ellir bodloni'r safonau, er enghraifft, lle na all y safle ymdopi'n ymarferol â darparu mannau agored ar y safle oherwydd cyfyngiadau ffisegol neu ddylunio, neu lle byddai hynny'n golygu bod y datblygiad yn gwbl anymarferol. O dan amgylchiadau o'r fath, dylai'r datblygwr ddarparu datganiad ategol i egluro pam na ellir cadw at y safonau ar y safle a gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol geisio symiau gohiriedig tuag at gynnal a chadw'r man agored presennol yn lle hynny. Dylid cyfeirio at Bolisi INF1 o ran rhwymedigaethau cynllunio a chyfraniadau datblygwyr.

11.331 Cydnabyddir y gall fod ardaloedd ychwanegol o fannau agored nad ydynt yn cael eu hadlewyrchu yn yr Asesiad sy'n gwneud cyfraniad gwerthfawr at ddarparu mannau agored o fewn y gymuned, a gall hyn fod yn arbennig o berthnasol i ardaloedd a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau hamdden anffurfiol. Hefyd, er bod ardaloedd o fannau agored wedi'u categoreiddio fel mathau penodol o ddarpariaeth, cydnabyddir eu bod ar adegau yn gallu cyflawni swyddogaethau mathau eraill o fannau agored. O dan amgylchiadau o'r fath, gellir ystyried eu bod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at sawl math o fan agored.

11.332 Pan fo darparu mannau agored yn rhan o gais cynllunio, dylai'r ymgeisydd nodi sut y cafodd y gwaith o reoli a chynnal a chadw unrhyw ddarpariaeth mannau agored yn y dyfodol ei ystyried. Dylid cyfeirio at Bolisi PSD1 am arweiniad pellach.

PSD9: Hysbysebion

Bydd cynigion ar gyfer hysbysebion (sy'n ddarostyngedig i reolaeth gynllunio) yn cael eu rheoli'n llym a disgwylir iddynt gydymffurfio â'r canlynol:

  1. Bod eu dyluniad, eu graddfa, eu deunyddiau a'u lleoliad ar y safle yn rhoi ystyriaeth lawn i'r adeilad, y strwythur neu'r tir lle cânt eu harddangos;
  2. Nad oes unrhyw effeithiau niweidiol ar y dirwedd / treflun, na lleoliad a chyfanrwydd yr amgylchedd hanesyddol;
  3. Nad ydynt yn beryglus i ddiogelwch y cyhoedd, yn enwedig pan ydynt wedi'u lleoli ar ffyrdd;
  4. Eu bod yn diogelu'r Gymraeg ac yn ei hyrwyddo'n gadarnhaol trwy ddarparu arwyddion dwyieithog. Dylid hefyd ystyried darpariaethau polisi SP7 – Y Gymraeg.

Ni ddylai cynigion ar gyfer hysbysfyrddau posteri ac arwyddion hysbysebion arwain at luosogi neu grynhoi arwyddion sy'n dderbyniol yn unigol yng nghefn gwlad.

Bydd disgwyl i ddatblygiadau a strydoedd newydd fod ag enwau Cymraeg.

11.333 Er mwyn hybu hunaniaeth ddiwylliannol ardal y Cynllun, bydd y Cyngor yn cefnogi a hybu darpariaeth arwyddion gwybodaeth, hysbysfyrddau a byrddau gwybodaeth, arddangosiadau ac arwyddion hysbysebu ar gyfer atyniadau a chyfleusterau twristiaeth dwyieithog Cymraeg a Saesneg. Bydd datblygwyr preifat cyfleusterau twristiaeth a hamdden hefyd yn cael eu hannog i roi cyhoeddusrwydd i'w mentrau busnes trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd yn ofynnol i hysbysebion ddarparu brand neu enw'r cwmni yn ddwyieithog; fodd bynnag, bydd yn ofynnol i'r holl eiriau ategol neu ychwanegol a ddarperir ar arwyddion yn y parth cyhoeddus a gynigir mewn cais cynllunio gael eu darparu'n ddwyieithog.

11.334 Byddir yn rhoi anogaeth i gyflwyno cynigion ar gyfer arwyddion a hysbysebion dwyieithog sy'n ceisio cyfuno sawl hysbyseb hanfodol o fewn un arwydd.

PSD10: Estyniadau

Bydd cynigion ar gyfer estyn anheddau preswyl presennol / dosbarth defnydd C3 (y mae caniatâd cynllunio yn ofynnol ar eu cyfer) boed yn adeiladau, yn strwythurau eraill neu'n ddefnydd tir penodol yn gorfod cydymffurfio â'r canlynol:

  1. Mae maint yr estyniad arfaethedig yn isradd i, neu'n gydnaws â, maint, math a chymeriad y datblygiad presennol, ac nad yw'n arwain at or-ddatblygu'r safle, nac yn arwain at ardaloedd parcio, ardaloedd amlbwrpas, ardaloedd troi ar gyfer cerbydau, ardaloedd amwynder neu ardaloedd gerddi sy'n llai ac annigonol;
  2. Mae ymddangosiad allanol (gan gynnwys deunyddiau a ddefnyddir) yr estyniad arfaethedig o ran dyluniad yn cyd-fynd ag ymddangosiad y datblygiad presennol ac yn ei ategu;
  3. Nid oes unrhyw effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd naturiol, y dirwedd / treflun na lleoliad a chyfanrwydd yr amgylchedd hanesyddol;
  4. Mae'n hybu egwyddorion creu lleoedd fel a nodir ym mholisi SP11;
  5. Nid yw'r estyniad arfaethedig yn effeithio'n niweidiol ar yr amgylchedd lleol ac amwynderau datblygiadau cyfagos;
  6. Mae'r defnydd y bwriedir ei wneud o'r estyniad arfaethedig yn gydnaws â'r adeilad, strwythur neu ddefnydd tir presennol.

11.335 Dylai cynigion fod yn rhai o safon uchel o ran dyluniad ac yn barchus o ran eu lleoliad ar y safle, eu maint a'r defnydd o ddeunyddiau i ategu cymeriad ac ymddangosiad yr adeilad neu'r strwythur presennol a'i amgylchoedd ac yn briodol i ddefnydd yr adeilad presennol.

11.336 Lle mae dyluniad y datblygiad presennol yn wael, bydd y Cyngor yn mynnu bod ansawdd dyluniad a/neu ddeunyddiau unrhyw estyniad yn well. Dylid ystyried darpariaethau Polisi SP11: Creu Lleoedd a Lleoedd Cynaliadwy a PSD1: Dylunio Cynaliadwy ac o Ansawdd Da.

PSD11: Llygredd Sŵn

Caniateir cynigion a fydd yn arwain at effaith niweidiol o ganlyniad i lygredd sŵn lle gellir dangos y caiff mesurau lliniaru priodol eu rhoi ar waith, a'u hymgorffori yn y datblygiad er mwyn lleihau'r effeithiau niweidiol i'r eithaf.

Bydd datblygiadau sy'n sensitif i sŵn yn cael eu caniatáu lle na fydd defnydd presennol sy'n cynhyrchu sŵn yn effeithio'n niweidiol arnynt.

11.337 Mae'r cysyniad o seinweddau yn cydnabod eu rôl gadarnhaol o ran creu ymdeimlad o le, yn hytrach na chanolbwyntio ar sŵn fel math o lygredd yn unig.[26]

11.338 Dylai'r pwyslais fod ar ystyried effaith bosibl seinweddau ar ddatblygiadau arfaethedig (ac yn ei thro effaith bosibl datblygiadau arfaethedig ar seinweddau) ar adeg gynnar. I'r perwyl hwn, mae'r Cynllun hwn yn rhoi pwyslais ar ystyriaeth ddyledus gan randdeiliaid i'r materion hyn fel rhan annatod o'r broses ddylunio o'r cychwyn cyntaf. Fel y cyfryw, ni ddylid ystyried y materion hyn yn ystyriaethau 'technegol' sy'n cael sylw ar wahân neu fel 'ychwanegiad' yn ddiweddarach yn esblygiad y dyluniad / cais cynllunio.

11.339 Mae'r cynllun hwn yn cofleidio egwyddor asiant newid sydd wedi'i wreiddio mewn polisi Cenedlaethol[27]. I'r perwyl hwn, mae'r Cynllun hwn yn cydnabod pa mor bwysig ydyw bod cychwynnwr newid yn ystyried effaith bosibl y cynnig datblygu ar dderbynyddion y newid.

11.340 Wrth nodi budd economaidd posibl cynigion sy'n gysylltiedig ag economi'r nos, ni ddylai iechyd a llesiant trigolion lleol gael eu peryglu'n ormodol. Gall dull creu lleoedd, sy'n ceisio meithrin consensws ar adeg gynnar, fod yn fodd i gyfryngu'r buddiannau hyn a allai wrthdaro â'i gilydd.

11.341 At hynny, dylai datblygiadau sy'n sensitif i sŵn fel tai, ysgolion ac ysbytai yn agos at y seilwaith trafnidiaeth gael eu dylunio, lle bynnag y bo'n bosibl, mewn modd sy'n cyfyngu ar lefelau sŵn o fewn y datblygiad ac o'i amgylch.[28] Lle y bo'n briodol, dylid rhoi mesurau lliniaru effeithiol a phriodol ar waith, a'u hymgorffori yn y datblygiad i leihau'r effeithiau i'r eithaf.

11.342 Gall seilwaith gwyrdd fod yn fodd effeithiol i wella iechyd a llesiant, trwy gysylltu anheddau, gweithleoedd a chyfleusterau cymunedol a darparu mannau gwyrdd hygyrch o ansawdd da. Dylid cyfeirio at bolisi PSD3: Rhwydweithiau Seilwaith Gwyrdd.

11.343 Gall newidiadau i seinweddau hefyd effeithio ar rywogaethau sy'n sensitif i darfu gan sŵn. Fel bob amser, dylai cynigion fodloni polisïau a darpariaethau'r Cynllun yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, gellir cyfeirio'n benodol at Bolisi Strategol 13 – Cynnal a Gwella'r Amgylchedd Naturiol (yn fwyaf nodedig mewn perthynas â safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol i gadwraeth natur).

PSD12: Llygredd Golau ac Aer

Caniateir cynigion a fydd yn arwain at effaith anfanteisiol yn sgîl llygredd golau a / neu aer lle gellir dangos y caiff mesurau lliniaru priodol eu rhoi ar waith, a'u hymgorffori yn y datblygiad er mwyn lleihau'r effeithiau niweidiol i'r eithaf.

Golau

11.344 Mae polisi cenedlaethol yn cydnabod yr effeithiau negyddol y gall llygredd golau eu cael ar bobl, bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau. Yn hyn o beth, mae PCC yn mynnu bod awdurdodau yn mabwysiadu polisïau o ran goleuadau a rheoli llygredd golau[29].

11.345 Mae rhannau o Sir Gaerfyrddin yn dal i fod yn gymharol annatblygedig gyda goleuadau'n cael effaith gyfyngedig ar awyr y nos. Wrth ddehongli'r polisi hwn, dylai unrhyw oleuadau gael eu dylunio a'u hystyried yn ofalus er mwyn lleihau'r effaith ar ardaloedd cyfagos i'r eithaf. Dylid cyfeirio hefyd at Fap Ardaloedd Tawel Cymru, 2009.

11.346 Ym mhob datblygiad, (ac mewn mannau cyhoeddus yn enwedig) dylai fod rheolaeth sensitif ar olau, a dylid cadw amlygiad i lygredd yn yr aer mor isel ag sy'n rhesymol ymarferol.

11.347 Gall llygredd golau gael effeithiau negyddol ar rywogaethau sy'n arbennig o sensitif i aflonyddwch. Yn yr un modd, gall llawer o rywogaethau a chynefinoedd fod yn sensitif i lygredd aer. Fel bob amser, dylai cynigion fodloni polisïau a darpariaethau'r Cynllun yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, gellir cyfeirio'n benodol at Bolisi Strategol 13 – Cynnal a Gwella'r Amgylchedd Naturiol (yn fwyaf nodedig mewn perthynas â Safleoedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol i Gadwraeth Natur).

11.348 Mae cyfleoedd penodol i gydnabod a chofleidio seilwaith gwyrdd fel rhan o ddull creu lleoedd. Yn hyn o beth, dylid cyfeirio at Bolisi PSD3: Rhwydweithiau Seilwaith Gwyrdd.

Aer

11.349 Cydnabyddir ansawdd yr aer a'i oblygiadau ar gyfer yr amgylchedd, iechyd ac ansawdd bywyd trwy ganllawiau cenedlaethol.[30] Adlewyrchir hyn hefyd yn amcanion yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ac adroddiad sgrinio'r Arfarniad Rheoliadau Cynefinoedd.

11.350 Er bod ansawdd yn dda ar y cyfan yn y Sir, mae tair Ardal Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) ddynodedig – un yn Llandeilo, un yn Llanelli ac un yng Nghaerfyrddin. Gellir cyfeirio at Gynllun(iau) Gweithredu'r Cyngor, tra dangosir ffiniau'r ARhAAoedd hyn ar Fap Cyfyngiadau'r Cynllun hwn.

11.351 Dylai datblygwyr fod yn ymwybodol o bwysigrwydd ymgysylltu'n gynnar â'r Cyngor, yn enwedig o ran y gofyniad posibl i gynnal Asesiad Ansawdd Aer. Er nad yw'r cynllun hwn yn gyfarwyddol o ran yr achosion pan fydd angen asesiad o'r fath, ystyrir bod graddfa a lleoliad y cynnig yn benderfynyddion allweddol yn hyn o beth.

11.352 Dylai unrhyw Asesiad Ansawdd Aer amlygu'r mesurau lliniaru gofynnol fel bod unrhyw risgiau i amwynder a bioamrywiaeth yn cael eu cyfryngu'n briodol. Dylai'r broses o nodi mesurau lliniaru o'r fath geisio adlewyrchu'r cyfleoedd a ddarperir gan y seilwaith gwyrdd fel rhan o ddull creu lleoedd. Dylid cyfeirio at bolisi PSD3: Rhwydweithiau Seilwaith Gwyrdd.

11.353 Dylid nodi nad yw'r gofyniad posibl i gynnal Asesiad Ansawdd Aer yn gyfyngedig i safleoedd o fewn neu ar bwys ARhAAoedd y Sir. Bydd y cynigion yn cael eu hystyried ar sail pob achos unigol; fodd bynnag, ar gyfer cynigion sydd wedi'u lleoli mewn ARhAAoedd mae Swyddogion Rheoli Datblygu'r Cyngor yn debygol o ymgynghori ag Ymarferwyr Iechyd yr Amgylchedd yn y Cyngor yn rheolaidd. Cynghorir ymgeiswyr i ymgysylltu'n amserol â'r Cyngor a chyfeirio at ganllawiau perthnasol fel y bo'n briodol.

11.354 Mae'r Cynllun hwn yn cydnabod y gydberthynas bosibl rhwng ansawdd aer a chyfanrwydd safleoedd yn y Sir sydd o bwysigrwydd rhyngwladol i gadwraeth natur. Mae llawer o'r safleoedd hyn yn cynnwys cynefinoedd sy'n sensitif i ansawdd aer sy'n dirywio.

11.355 Fel bob amser, dylai cynigion fodloni polisïau a darpariaethau'r Cynllun yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, gellir cyfeirio'n benodol at Bolisi Strategol 13 – Cynnal a Gwella'r Amgylchedd Naturiol (yn fwyaf nodedig mewn perthynas â safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol i gadwraeth natur) yn ogystal â Pholisi INF 2 – Cymunedau Iach. Mae cyfleoedd penodol i gydnabod a chofleidio seilwaith gwyrdd fel rhan o ddull creu lleoedd. Yn hyn o beth, dylid cyfeirio at Bolisi PSD3: Rhwydweithiau Seilwaith Gwyrdd.

PSD13: Tir Halogedig

Caniateir cynigion lle y dangosir y gall unrhyw risg wirioneddol neu bosibl gael ei lliniaru'n briodol fel nad oes unrhyw effaith niweidiol weddillol ar iechyd pobl a'r amgylchedd.

11.356 Mae gan Sir Gaerfyrddin etifeddiaeth ddiwydiannol gyfoethog ac amrywiol, gan gynnwys ystod eang o ddiwydiannau megis mwyngloddio, gweithgynhyrchu alcam, gwaith nwy, a thanerdai. Gallai pob un o'r prosesau hyn fod wedi halogi'r ddaear, dyfroedd daear neu dderbynyddion sensitif eraill. Mae'r Cyngor wedi nodi nifer o safleoedd a all fod wedi'u halogi o hyd, neu lle nad oes tystiolaeth i gadarnhau bod adferiad digonol wedi digwydd. Yn yr ardaloedd hyn, efallai y bydd angen ymchwilio ymhellach. Ar adeg ysgrifennu, deellir bod Strategaeth Archwilio Tir Halogedig yn y broses o gael ei hadolygu a'i diweddaru gan y Cyngor.

11.357 Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb i nodi tir halogedig a sicrhau ei fod yn cael ei reoli mewn modd priodol, fel a nodir yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

11.358 Bydd angen i'r Cyngor fod wedi'i argyhoeddi bod y risgiau mewn perthynas â'r safle datblygu arfaethedig wedi cael eu deall yn llawn a bod modd adfer y safle i'r safonau angenrheidiol[31]. Ni ddylai'r gwaith ddechrau ar y safle hyd nes y bydd gwaith adfer priodol wedi'i gwblhau. Bydd yr effeithiau posibl ar amgylcheddau hanesyddol a naturiol yn cael eu hystyried wrth benderfynu ar unrhyw gynnig, a dylid cyflwyno gwybodaeth briodol gydag unrhyw gais.

11.359 Mae tir halogedig yn cael ei ddiffinio o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 Adran 78A (2) fel: 'Any land which appears to the local authority in whose area it is situated to be in such a condition, by reason of substances in, on or under the land, that

  • significant harm is being caused or there is a significant possibility of such harm being caused; or
  • pollution of controlled waters is being, or is likely to be, caused.'

11.360 Lle y bo'n briodol, rhoddir sylw dyledus i effaith unrhyw weithrediad adfer ar amgylcheddau naturiol a hanesyddol gyda'r manteision cymharol a'r angen am y cynnig yn cael eu pwyso a'u mesur yn erbyn pwysigrwydd cymharol diddordeb hanesyddol neu naturiol y safle.

11.361 Cynghorir ymgeiswyr i ymgysylltu'n amserol â'r Cyngor wrth nodi unrhyw ofynion fel rhan o gynigion datblygu, o ran adnabod risg a mesurau rheoli / lliniaru.


Arferion Iach – Mae gan bobl ansawdd bywyd da, ac maent yn gwneud dewisiadau iach ynglŷn â'u bywydau a'u hamgylchedd.

11.362 Er y cydnabyddir bod gorgyffwrdd rhwng y themâu ac aseinio polisïau, mae'r canlynol wedi'u nodi o dan y thema hon:

  • Polisi Strategol – SP 12: Datblygu Gwledig
  • Polisi Strategol – SP 13: Cynnal a Gwella'r Amgylchedd Naturiol
  • Polisi Strategol – SP 14: Diogelu a Gwella'r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol

11.363 Mae'r polisïau canlynol yn ceisio cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion strategol y Cynllun, ond maent hefyd yn darparu cysylltiadau lefel uchel a cydymffurfiaeth eang â'r Nodau Llesiant.

Polisi Strategol – SP 12: Datblygu Gwledig

Mae'r Cynllun yn cefnogi cynigion datblygu a fydd yn cyfrannu at gynaliadwyedd cymunedau gwledig y Sir. Dylai cynigion datblygu mewn ardaloedd gwledig ddangos eu bod yn cefnogi rôl yr aneddiadau gwledig yn yr hierarchaeth aneddiadau i ddiwallu anghenion tai, cyflogaeth a chymdeithasol cymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin.

Bydd cynigion datblygu yng nghefn gwlad y tu hwnt i'r aneddiadau dynodedig yn cael eu cefnogi lle maent yn cyd-fynd â pholisïau'r Cynllun hwn.

11.364 Mae gan aneddiadau gwledig y Sir rôl bwysig o ran gwella cynaliadwyedd yr ardal ehangach y maent wedi'u lleoli ynddi yn ogystal â chynaliadwyedd cyffredinol y Sir. Mae strategaeth a hierarchaeth aneddiadau'r Cynllun yn adlewyrchu rôl arwyddocaol cymunedau gwledig trwy gefnogi twf ar raddfa gymesur a all wneud cyfraniad cadarnhaol tuag at gynaliadwyedd hirdymor yr economi wledig a chymunedau gwledig.

11.365 Gall datblygu cymesur a sensitif ddarparu'r lefel o dwf y mae ei hangen i gadw a gwella'r gwasanaethau a'r cyfleusterau a ddarperir yn aneddiadau gwledig y Sir. Gall hefyd ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg mewn ardaloedd gwledig a gwella cyfleoedd cyflogaeth yng nghefn gwlad. Fodd bynnag, mae'r cynllun yn ceisio sicrhau nad yw datblygu a thwf yn cael effeithiau negyddol ar gynaliadwyedd cymuned. Yr allwedd i hyn yw sicrhau na chaniateir datblygu ar raddfa na chyfradd a fyddai'n effeithio ar allu'r gymuned i amsugno ac addasu i dwf a newid. Mae hyn yn hanfodol wrth ystyried yr effeithiau y gall datblygu eu cael ar y seilwaith lleol, bywiogrwydd y Gymraeg a chynaliadwyedd cefn gwlad a'r amgylchedd naturiol.

11.366 Yn hanesyddol mae polisi cynllunio cenedlaethol wedi ceisio cyfyngu ar ddatblygiadau diangen mewn lleoliadau cefn gwlad, yn bennaf er mwyn atal twf gwasgaredig ac anghynaliadwy a gwneud y defnydd gorau o seilwaith, adnoddau a gwasanaethau sydd ar gael yn fwy cyffredin mewn ardaloedd trefol sefydledig.

11.367 Er bod yr egwyddor hon yn dal i fod yn berthnasol a chymwys, mae mwy o gydnabyddiaeth i gefn gwlad fel lle gwaith, fel cartref i lawer, a lle i ymweld ag ef i eraill ac ecosystem hanfodol i bawb. Mae'r Cynllun yn ymrwymedig i fynd i'r afael â chymunedau gwledig a diogelu eu hanghenion. I'r perwyl hwn sefydlodd y Cyngor Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig gyda'r nod o asesu anghenion cymunedau gwledig a chymryd camau cadarnhaol i fynd i'r afael â'r rhain. Mae'r Cynllun yn cefnogi nodau'r Grŵp Gorchwyl yn bennaf trwy bolisïau sy'n ymwneud â darparu tai a thai fforddiadwy; yr economi a chyflogaeth; y Gymraeg a'r amgylchedd naturiol. Bydd angen i gynigion datblygu ddangos eu bod yn cyd-fynd â'r polisïau hyn yn ogystal â darpariaethau polisi cynllunio cenedlaethol.

11.368 Mae PCC Rhifyn 10 yn cydnabod bod cefn gwlad yn adnodd deinamig ac amlbwrpas. Mae'n nodi, yn unol â datblygu cynaliadwy a'r egwyddorion cynllunio cenedlaethol, y dylid ei warchod a'i wella lle y bo'n bosibl. Fodd bynnag, mae hefyd yn adlewyrchu'r angen i gydbwyso hyn yn erbyn anghenion economaidd, cymdeithasol a hamdden cymunedau lleol ac ymwelwyr.

11.369 Mae PCC yn nodi y bydd meithrin y gallu i addasu a chydnerthedd yn nod allweddol ar gyfer lleoedd gwledig yn wyneb her sylweddol cynnal ffyniant cymunedau ac argaeledd gwasanaethau yn ogystal â chyfrannu at y nod llesiant cenedlaethol Cymunedau Cydlynus.

11.370 Ceir cydnabyddiaeth glir bod ardaloedd gwledig yn arddangos heriau o ran mynediad at ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy a'r disgwyliad yn PCC o ran mynediad at gysylltiadau teithio llesol a chysylltiadau swyddogaethol cynaliadwy. Caiff hyn ei adlewyrchu yn natblygiad yr hierarchaeth aneddiadau yn gyffredinol.

11.371 Mae'r ddealltwriaeth hon am amrywiaeth yn cael ei hadlewyrchu ym Mholisi Cynllunio Cymru yn yr ystyr ei fod yn ystyried gofynion trafnidiaeth gynaliadwy. Mae para 4.1.16 yn cydnabod bod angen adlewyrchu gwahanol ddulliau o ymdrin â thrafnidiaeth gynaliadwy wrth ddiffinio twf mewn aneddiadau gwledig.

11.372 Mae 'r CDLl Diwygiedig hwn yn cydnabod yr amrywiaeth sy'n bodoli o fewn y Sir a'r angen i adlewyrchu hyn yn ei ddull strategol. Mae'r Strategaeth Ofodol yn nodi hierarchaeth aneddiadau ond mae'n ei gosod o fewn fframwaith aneddiadau wedi'i grwpio o dan chwe chlwstwr. Bydd y rhain, a dosbarthiad twf, yn canolbwyntio ar egwyddorion cynaliadwy, ond byddant hefyd yn cydnabod priod rôl, swyddogaeth a chyfraniad aneddiadau o fewn clystyrau penodol.

Yr Economi Wledig

11.373 Mae polisi cenedlaethol yn cydnabod bod economi wledig gref yn hanfodol i gynnal cymunedau gwledig cynaliadwy a ffyniannus. Yn hyn o beth, mae sefydlu mentrau newydd ac ehangu busnesau presennol yn hanfodol i dwf a sefydlogrwydd ardaloedd gwledig.

11.374 Dylid rhoi sylw i effaith datblygiadau o'r fath, ond fel a nodir yn PCC, gellir lleoli llawer o weithgareddau gweithgynhyrchu masnachol ac ysgafn mewn ardaloedd gwledig heb achosi aflonyddwch annerbyniol neu effeithiau niweidiol eraill.

11.375 Er bod ffocws o hyd ar adnabod neu ddyrannu safleoedd i ddiwallu angen am gyflogaeth, cydnabyddir hefyd y bydd angen cyfleoedd ar gyfer cynigion ar raddfa fach lle nad yw'r angen yn cael ei ddiwallu gan ddyraniadau penodol. Mae'r mentrau hyn ar raddfa fach yn gwneud cyfraniad pwysig i'r economi wledig.

11.376 Dylid cyfeirio at ddarpariaethau polisi SP6 a'i fynegiant o ddosbarthiad cynaliadwy darpariaeth tir cyflogaeth.

Anheddau Menter Wledig

11.377 Fel a nodir trwy bolisi cenedlaethol mae angen annedd menter wledig lle mae'n 'galluogi gweithwyr mentrau gwledig i fyw yn eu gweithle neu ger eu gweithle'. Mae hyn yn cynnwys annog pobl iau i reoli busnesau fferm a chefnogi arallgyfeirio ar ffermydd sefydledig.

11.378 Nid rôl na bwriad y CDLl Diwygiedig yw ailadrodd darpariaethau polisi cynllunio cenedlaethol. O ganlyniad, dylid cyfeirio at ddarpariaethau PCC a Nodyn Cyngor Technegol 6 (TAN6)[32] wrth benderfynu ar geisiadau ar gyfer anheddau menter wledig newydd. Mae polisi cenedlaethol yn datgan yn glir y dylid archwilio cynigion o'r fath yn ofalus i sicrhau bod gwir angen.

11.379 Dylai ceisiadau ar gyfer anheddau menter wledig gael eu hategu gan arfarniad o anheddau menter wledig, a dim ond os yw'n darparu tystiolaeth bendant o'r angen am yr annedd y caiff caniatâd ei roi.

11.380 Er mwyn sicrhau bod anheddau menter wledig yn cael eu cadw at y diben a fwriadwyd mae PCC para 4.2.37 yn ei gwneud yn ofynnol bod amod sy'n cyfyngu ar feddiannaeth ar yr eiddo yn cael ei ddefnyddio a bod yr annedd yn cael ei dosbarthu fel tŷ fforddiadwy (diffiniad a nodir yn Nodyn Cyngor Technegol 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy). Lle y bo'n briodol rhoddir ystyriaeth hefyd i ddefnyddio cytundeb cyfreithiol (adran 106) fel modd i gadw diben yr eiddo fel Annedd Fenter. Bydd hyn yn sicrhau bod yr annedd yn parhau i fod ar gael i ddiwallu'r angen lleol am dai fforddiadwy pe bai ei chyfiawnhad gwreiddiol yn dod i ben.

11.381 Mewn amgylchiadau lle ceir cais cynllunio i godi amodau meddiannaeth amaethyddol presennol neu lle cymerir camau gorfodi am beidio â chydymffurfio â'r amod, rhoddir ystyriaeth i ddisodli amod meddiannaeth amaethyddol gyda'r amod annedd menter wledig a nodir yn TAN6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy[33].

11.382 Bydd yn ofynnol bod cynigion ar gyfer Datblygiadau Un Blaned yng nghefn gwlad yn darparu ar gyfer anghenion sylfaenol y meddianwyr o ran incwm, bwyd, ynni a thrin gwastraff dros gyfnod o 5 mlynedd[34]. Dylai unrhyw gynnig gael ei ategu gan gynllun rheoli seiliedig ar dystiolaeth; yn yr achosion hynny lle na ellir dangos hyn, caiff unrhyw gynnig ei ystyried yn erbyn polisïau a darpariaethau'r CDLl hwn a'r polisi cenedlaethol mewn perthynas â datblygiadau yng nghefn gwlad. Byddir yn cyfeirio at ddarpariaethau TAN6 ac mewn perthynas â gofynion y Canllaw Ymarfer Datblygiadau Un Blaned[35].

11.383 Wrth asesu addasrwydd safle ar gyfer Datblygiad Un Blaned, bydd disgwyl i'r ymgeisydd ystyried ei effaith bosibl ar y dirwedd a bioamrywiaeth, y gallu iddo gael ei sgrinio'n effeithiol yn ogystal â bod yn ddigon agos at Lwybrau Teithio Llesol neu drafnidiaeth gyhoeddus.

RD1: Annedd yn Lle Un Bresennol yng Nghefn Gwlad Agored

Caniateir cynigion i ddisodli anheddau presennol yng nghefn gwlad ar yr amod:

  1. nad yw'r annedd bresennol yn ffermdy, bwthyn nac adeilad arall traddodiadol sy'n bwysig i gymeriad gweledol a chynhenid y dirwedd;
  2. nad yw'r annedd wreiddiol wedi cael ei dymchwel, ei gadael nac wedi mynd â'i phen iddi ac nad yw bellach yn ymddangos fel annedd;
  3. bod dyluniad yr annedd newydd o ffurf, swmp, maint a graddfa sy'n parchu ei lleoliad;
  4. nad yw'r cynnig yn gofyn am estyniad annerbyniol i'r ardd breswyl sefydledig bresennol;

Dylai'r cynigion ar gyfer unrhyw dai allan fod yn gymedrol o ran maint ac wedi'u lleoli'n sensitif a dylai fod modd cyflawni garej a lle storio ategol digonol ar gyfer yr annedd.

Caniateir cynigion mewn perthynas â disodli ffermdy, bwthyn neu adeilad arall traddodiadol sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau maen prawf a) uchod dim ond lle mae'r ymgeisydd yn rhoi digon o dystiolaeth i ddangos nad yw ailddefnyddio'r adeilad yn hyfyw yn economaidd neu ei fod mewn cyflwr strwythurol sy'n rhwystr i'w ailddefnyddio'n effeithiol.

11.384 Mae'r polisi'n cydnabod ac yn adlewyrchu cymeriad gwledig y Sir ac ystod a chyflwr y stoc dai. Mae'n ceisio rhoi cyfle a chwmpas i ddarparu anheddau newydd mewn ffordd sy'n sicrhau bod y Sir yn cadw ei chymeriad traddodiadol, gan hefyd beidio â thanseilio nodweddion arbennig Sir Gaerfyrddin wledig.

11.385 Dylid rhoi ystyriaeth benodol i dderbynioldeb effaith weledol cynigion ar y dirwedd. Yn hyn o beth, ni ddylai ei raddfa a'i ddyluniad (gan gynnwys maint y cwrtil preswyl) fod yn anfanteisiol i gymeriad ac ansawdd yr ardal.

RD2: Addasu ac Ailddefnyddio Adeiladau Gwledig ar gyfer Defnydd Preswyl

Bydd cynigion ar gyfer addasu ac ailddefnyddio adeiladau gwledig addas at ddefnydd preswyl yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. lle ceir tystiolaeth foddhaol nad yw defnyddio'r adeilad ar gyfer cyflogaeth neu fusnes yn ddichonadwy;
  2. lle mae'r defnydd presennol wedi dod i ben ac na fyddai ei ailddefnyddio yn arwain at yr angen am adeilad ychwanegol;
  3. lle mae ffurf, swmp a dyluniad cyffredinol y cynnig, gan gynnwys unrhyw estyniadau, yn parchu cymeriad gwledig ac ymddangosiad yr adeilad;
  4. lle mae'r cynnig, gan gynnwys ei gwrtil a'i drefniadau mynediad, ar yr un raddfa â'r dirwedd o'i gwmpas, ac yn cyd-fynd â hi ac nad yw'n golygu bod angen darparu seilwaith ac adeiladau atodol hyll ac ymwthiol;
  5. lle mae'r adeilad yn gallu cynnwys mannau byw ac atodol digonol (gan gynnwys garejis). Dylai cynigion ar gyfer estyniadau fod yn gymesur ac yn adlewyrchu graddfa, cymeriad ac ymddangosiad yr adeilad gwreiddiol;
  6. lle mae'r adeilad gwreiddiol yn strwythurol gadarn ac nad yw unrhyw waith ailadeiladu, y mae'n rhaid ei wneud oherwydd amodau strwythurol gwael a/neu'r angen am agoriadau newydd yn y waliau, yn golygu ailadeiladu sylweddol;[36]
  7. lle y bo'n berthnasol, lle mae'r cymeriad pensaernïol a'r deunyddiau traddodiadol wedi'u cadw ac nad yw'r cynnig yn arwain at golli cymeriad y strwythur gwreiddiol, neu fod adeiladwaith yr adeilad o ansawdd digonol fel nad oes angen ei adnewyddu ar raddfa eang neu sylweddol.

Yn gyffredinol, ni fydd cynigion sy'n ymwneud ag adeiladau sydd o adeiladwaith iwtalitaraidd modern is-safonol yn cael eu hystyried yn briodol ar gyfer addasu preswyl.

11.386 Dim ond os gellir dangos y gwnaed pob ymdrech rhesymol i barhau â defnydd busnes/masnachol neu weithgaredd cymunedol neu sefydlu hynny, fel a nodir ym maen prawf a) uchod, y caniateir ailddefnyddio ac addasu (gan gynnwys trosi) adeilad diwydiannol, masnachol, amaethyddol neu adeilad arall yng nghefn gwlad ar gyfer defnydd preswyl.

11.387 Gellir ystyried cynigion preswyl yn ffafriol lle maent yn rhan o gynllun arfaethedig ar gyfer ailddefnydd busnes. Gellir gosod amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y gwaith sy'n angenrheidiol i sefydlu'r busnes/menter yn cael ei gwblhau cyn i'r elfen breswyl gael ei meddiannu. At hynny, gellir defnyddio amod neu rwymedigaeth gynllunio sy'n clymu'r uned breswyl wrth weithrediad y fenter hefyd fel y bo'n briodol.

11.388 Dim ond yr adeiladau hynny sydd o ansawdd pensaernïol priodol a/neu sy'n ymgorffori deunyddiau traddodiadol a gaiff eu hystyried. Yn gyffredinol, ni fydd cynigion ar gyfer adeiladau o saernïaeth fodern, iwtalitaraidd fel unedau ffrâm porth, strwythurau dros dro neu rai sy'n defnyddio deunyddiau fel gwaith bloc concrit, metel neu orffeniadau cladin dalennog eraill yn cael eu hystyried yn briodol i'w haddasu.

11.389 Bydd angen i'r Cyngor fod wedi'i argyhoeddi y gellir sicrhau mannau byw a storio (gan gynnwys garddio) digonol heb yr angen am estyniadau sylweddol i'r adeilad. Yn gyffredinol, ni fydd cynigion i ehangu unedau yn y dyfodol yn cael eu hystyried yn briodol. Yn yr un modd, bydd y Cyngor yn ystyried tynnu'n ôl yr hawliau datblygu a ganiateir arferol i adeiladu estyniadau ac adeiladau atodol.

11.390 Dylid cyfeirio at y CCA mewn perthynas ag Addasu ac Ailddefnyddio Adeiladau Gwledig.

RD3: Arallgyfeirio ar Ffermydd

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau arallgyfeirio ar ffermydd sy'n cryfhau'r economi wledig yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Mae'n gydnaws â phrif weithgareddau amaethyddol y fferm weithiol bresennol, ac yn eu hategu a'u cefnogi;
  2. Mae ar raddfa ac o natur sy'n briodol i weithrediad presennol y fferm;
  3. Mae'n rhoi sylw priodol i'r seilwaith priffyrdd a thrafnidiaeth;
  4. Ni fyddai'n cael effaith niweidiol ar gymeriad, lleoliad ac ymddangosiad yr ardal a'r dirwedd amgylchynol.

Dylai cynigion roi blaenoriaeth i addasu adeiladau presennol addas ar y fferm weithiol. Lle gellir cyfiawnhau hynny, caniateir adeiladau newydd os ydynt wedi'u hintegreiddio â'r fferm weithiol bresennol, neu'n gysylltiedig â hi, a heb fod yn anfanteisiol i briod gymeriad ac ymddangosiad yr ardal a'r dirwedd o'i hamgylch.

11.391 Mae arallgyfeirio mewn ardaloedd gwledig yn aml yn gallu ychwanegu at ffrydiau incwm a hyfywedd economaidd ffermydd, cryfhau'r economi wledig ac ychwanegu at gyfleoedd cyflogaeth ehangach.

11.392 Bwriedir i gynigion arallgyfeirio ar ffermydd ategu a chefnogi parhad y gweithgarwch ffermio presennol. Ynghyd â'r cynigion, dylid cyflwyno tystiolaeth sy'n rhoi manylion y cyfiawnhad dros y defnydd a'i berthynas â'r gweithgarwch ffermio presennol.

11.393 Lle mae cynnig yn cynnwys siopau fferm, yn aml mae'n rhaid iddynt fewnforio nwyddau sy'n dod o bosibl oddi wrth gyflenwyr lleol eraill. Wrth benderfynu ar gynigion a wneir o dan y polisi hwn, rhoddir ystyriaeth i gyfyngu ar y mathau eang o gynnyrch a werthir ac i'r nifer a werthir. Rhoddir ystyriaeth hefyd i raddfa'r gweithrediad, yn arbennig lle byddai defnydd anghyfyngedig yn arwain at effaith anffafriol ar fywiogrwydd a hyfywedd gweithgareddau manwerthu cyfagos.

11.394 wrth ystyried cynigion ar gyfer arallgyfeirio ar ffermydd, cydnabyddir bod eu cyd-destun gwledig yn golygu na allant gael eu gwasanaethu'n dda gan drafnidiaeth gyhoeddus bob amser. O ganlyniad, er y bydd ei argaeledd yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth ystyried natur a graddfa'r cynnig, cydnabyddir y potensial ar gyfer cynigion arallgyfeirio penodol na ellir ond eu cyrraedd mewn car preifat. Dylai cynigion o'r fath ystyried yr hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy.

11.395 Lle y bo'n briodol, bydd cytundebau cyfreithiol yn cael eu defnyddio i glymu adeiladau amaethyddol wrth y tir os yw ailddefnydd yn gysylltiedig ag arallgyfeirio ar ffermydd lle mae'n debygol y bydd yr uned amaethyddol yn cael ei darnio.

RD4: Addasu ac Ailddefnyddio Adeiladau Gwledig ar gyfer Defnydd Dibreswyl

Bydd cynigion i addasu adeiladau gwledig at ddefnydd busnes yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. lle mae'r adeilad yn addas ar gyfer y defnydd penodol;
  2. lle mae digon o dir a lle storio ynghlwm ar gyfer anghenion swyddogaethol y defnydd arfaethedig (gan gynnwys darpariaeth parcio);
  3. lle na fyddai ei addasu a'i ddefnydd arfaethedig, neu'r defnydd o dir cyfagos ar gyfer darparu mynediad, cyfleusterau parcio, adeileddau atodol, cyfleusterau neu le storio ar y safle yn arwain at effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal, defnyddiau cyfagos neu effaith ar hyfywedd defnyddiau tebyg o fewn yr ardal leol;
  4. lle mae'r adeilad presennol yn gadarn yn strwythurol ac yn addas yn swyddogaethol ar gyfer y defnydd arfaethedig;
  5. lle mae unrhyw estyniad yn adlewyrchu graddfa'r adeilad gwreiddiol.

11.396 Mae Polisi Cynllunio Cenedlaethol yn cydnabod cyfraniad hanfodol economi wledig gref i gefnogi cymunedau gwledig cynaliadwy a ffyniannus. Mae'n ceisio darparu agenda gadarnhaol ar gyfer y potensial i ailddefnyddio adeiladau presennol mewn ardaloedd gwledig at ddibenion busnes.

RD5: Cyfleusterau Marchogol

Bydd cynigion datblygu ar gyfer stablau, cyfleusterau marchogol neu ddefnyddio tir ar gyfer gweithgareddau marchogol yn cael eu caniatáu dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. lle mae'r cyfleuster wedi'i grwpio o fewn cyfadeilad fferm presennol, neu wedi'i leoli mor agos â phosibl at adeiladau presennol;
  2. lle bydd y defnydd arfaethedig o ddwyster sy'n briodol i'w amgylchedd a'i leoliad;
  3. lle na fydd y datblygiad yn cael effaith niweidiol ar y dirwedd nac ar fuddiannau cadwraeth natur; a
  4. lle gellir darparu mynediad a lleoedd parcio addas ar gyfer blychau ceffylau a'r lefel o arfaethedig o weithgarwch masnachol;
  5. lle mae gan gyfleusterau masnachol fynediad addas at y rhwydwaith priffyrdd.

11.397 Mae cynigion ar gyfer stablau a chyfleusterau marchogol cysylltiedig fel arfer yn gysylltiedig â lleoliad cefn gwlad. Fel arfer bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer datblygu stablau, oni bai bod y ceffylau'n rhan o'r gweithgarwch amaethyddol, neu fod y stabl o fewn cwrtil annedd (sy'n adlewyrchu hawliau datblygu a ganiateir posibl).

11.398 Bydd cynigion nad ydynt yn cael unrhyw effaith niweidiol ar y dirwedd a/neu effaith amgylcheddol niweidiol yn cael eu cefnogi. Yn hyn o beth, bydd disgwyl i gynigion ddangos sut y mae'r datblygiad yn cyd-fynd â'i leoliad cefn gwlad a'r sylw y mae'n ei roi i'r fframwaith aneddiadau a'i leoliad, gan gynnwys adeiladau presennol.

11.399 Dylai codi ménage ar gyfer defnydd domestig preifat gael ei ddylunio fel nad yw'n cael effaith niweidiol ar y dirwedd, ei fod yn dwyn perthynas dda ag adeiladau presennol, a'i fod ar raddfa briodol.

11.400 Ystyrir bod stablau a ménages masnachol yn briodol fel busnesau gwledig lle gellir darparu ar eu cyfer heb niwed i gymeriad yr ardal, a'u bod yn cael eu hystyried yn dderbyniol yn nhermau priffyrdd.

Polisi Strategol – SP 13: Cynnal a Gwella'r Amgylchedd Naturiol

Bydd disgwyl i gynigion ar gyfer datblygu ddiogelu a gwella amgylchedd naturiol y Sir.

Rhaid i gynigion adlewyrchu'r rôl sydd gan amgylchedd sy'n gysylltiedig yn ecolegol o ran diogelu a gwella bioamrywiaeth, diffinio'r dirwedd, cyfrannu at Lesiant ac egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Dylid ystyried pob cynnig datblygu yn unol â Pholisi Cenedlaethol (PCC a TAN5) lle byddai cynnig ar gyfer datblygu yn arwain at effaith niweidiol sylweddol ar safle dynodedig Ewropeaidd. Ni chaniateir datblygiad a fyddai'n arwain at effeithiau amgylcheddol niweidiol annerbyniol.

11.401 Mae gan Sir Gaerfyrddin amgylchedd naturiol cyfoethog ac amrywiol gyda nifer o safleoedd dynodedig a rhywogaethau a warchodir. Mae'r polisi hwn yn ceisio cydnabod ansawdd a gwerth yr amgylchedd naturiol a thirweddau ar draws ardal y cynllun, a'u rôl hanfodol o ran diffinio hunaniaeth, cymeriad ac unigrywiaeth y Sir. Mae cydnabyddiaeth i rinweddau sylweddol seilwaith gwyrdd ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth a rhwydweithiau ecolegol yn ymhlyg. Cyfeirir at y polisi Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd PSD3.

11.402 Mae diogelu a gwella'r elfennau hyn yn elfen bwysig o'r Strategaeth, sy'n ceisio adlewyrchu nid dim ond y dynodiadau rhyngwladol a chenedlaethol hynny, ond hefyd gyfraniad safleoedd a thirweddau ar y lefel leol. Bydd y CDLl hefyd yn ceisio gwarchod a gwella adnoddau naturiol megis geoamrywiaeth ac ansawdd dŵr, pridd ac aer.

11.403 Mae'r polisi hwn hefyd yn cydnabod elfennau'r amgylchedd naturiol sy'n aml yn gydgysylltiedig a'u cyfraniad at gynnal a gwella bioamrywiaeth, yn ogystal â chreu mannau deniadol a chydlynus ar gyfer cymunedau, a llesiant poblogaeth Sir Gaerfyrddin.

11.404 Mae gwarchod a gwella cysylltedd, a'r cyfraniad a wna i ansawdd tirwedd, amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin, yn ystyriaeth bwysig. O ganlyniad, bydd effaith bosibl y Cynllun, ei bolisïau, a'i gynigion ar fuddiannau cadwraeth natur, gwerth amwynder, ansawdd dŵr/pridd/aer, hydroleg, daeareg a chyfundrefnau geomorffolegol yn parhau i lywio'r broses o lunio'r cynllun.

11.405 Mae Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd wedi'i gynnal i asesu effeithiau'r Cynllun ar safleoedd a warchodir gan Ewrop, gan gynnwys y rhai sy'n cael eu hystyried ar gyfer eu dynodi.

11.406 Er bod y Cynllun yn cydnabod yr angen am ddatblygiad newydd at ddibenion cymdeithasol ac economaidd, lle y bo'n briodol bydd y Cyngor yn ceisio diogelu nodweddion amgylcheddol Sir Gaerfyrddin. Mae'r Cynllun hefyd yn ceisio sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei ddiogelu a'i wella trwy bolisi manwl.

11.407 Hefyd, a chan adlewyrchu'r dyletswyddau a osodir ar Awdurdodau Lleol, mae'r Cynllun yn rhoi sylw i ddynodiad y Parc Cenedlaethol a'r diben y'i dynodwyd ar ei gyfer, lle gall effeithio ar ystyriaeth i gynigion cynllunio.

NE1: Dynodiadau Rhanbarthol a Lleol

Caniateir cynigion ar gyfer datblygu a fydd yn arwain at niwed annerbyniol i Warchodfa Natur Leol, neu Safleoedd Daearegol/Geomorffolegol o Bwys Rhanbarthol dim ond lle gellir dangos:

  1. bod amgylchiadau eithriadol, lle mae'r rhesymau dros y datblygiad neu'r newid i ddefnydd tir yn amlwg yn drech na'r angen i warchod buddiannau bioamrywiaeth a chadwraeth natur y safle;
  2. y gellir lleihau unrhyw niwed annerbyniol cyn belled ag y bo modd yn unol â'r hierarchaeth liniaru, trwy
    1. sicrhau mesurau osgoi, lleihau neu liniaru effeithiol; neu,
    2. lle nad yw hyn yn ymarferol, y gellir rhoi mesurau cydbwyso digonol ar waith sydd o werth ecolegol tebyg i'r hyn a gollir trwy ddatblygu neu o werth ecolegol mwy.
  3. Os yw'n briodol, bydd dynodi safleoedd o'r fath yn cael ei gefnogi.

11.408 Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol a Safleoedd Daearegol/Geomorffolegol o Bwys Rhanbartholyn nodi ardaloedd sydd o bwysigrwydd lleol ar gyfer cadwraeth natur a gwerth daearegol, a gallant gynnwys safleoedd sy'n cynnwys amrywiaeth o fathau o gynefinoedd neu sy'n cynnal ystod o rywogaethau. Gall diogelu'r safleoedd hyn wneud cyfraniad pwysig i ddyletswydd y Cyngor o dan Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r nodweddion hyn hefyd yn werthfawr o ran eu cyfraniad i ansawdd yr amgylchedd lleol ac o ran ei gwneud yn bosibl addasu a bod yn gydnerth yn wyneb y newid yn yr hinsawdd.

11.409 O dan amgylchiadau lle gallai'r angen am ddatblygiad wrthbwyso'r angen i ddiogelu safle penodol, yna bydd effaith yn cael ei hosgoi, ei lleihau i'r eithaf a'i lliniaru hyd y bo'n bosibl. Pan fydd effeithiau gweddillol yn parhau, caiff mesurau eu rhoi ar waith i sicrhau bod darpariaeth cynefinoedd bywyd gwyllt amgen neu fesurau creu cynefinoedd yn cael eu darparu er mwyn sicrhau nad oes colled net yng ngwerth cadwraeth yr ardal neu'r nodwedd ar y cyfan. Lle y bo'n briodol, bydd yr awdurdod yn ystyried defnyddio amodau a/neu rwymedigaethau cynllunio i ddarparu mesurau lliniaru a/neu gydbwyso priodol.

11.410 Mae Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Gwerth Cadwraeth Natur yn cynnig potensial sylweddol fel adnodd bioamrywiaeth. Er nad oes unrhyw Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Gwerth Cadwraeth Natur wedi'u nodi yn ardal y Cynllun, mae mynd ati'n frwd i archwilio dynodiadau o'r fath yn dal yn un o amcanion yr awdurdod. Bydd unrhyw ddynodiad ar gyfer Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Gwerth Cadwraeth Natur yn y dyfodol yn unol â'r CCA sy'n dod i'r amlwg ac sy'n nodi'r fethodoleg ddiwygiedig ar gyfer eu hadnabod. Bydd y CCA hyn yn cael eu cynhyrchu ar yr un pryd ag y bydd y Cynllun yn cael ei fabwysiadu.

NE2: Bioamrywiaeth

Dylai cynigion ar gyfer datblygu geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth.

Ni chaniateir cynigion ar gyfer datblygu lle y byddent yn cael effaith niweidiol ar rywogaethau, cynefinoedd a nodweddion y rhoddir blaenoriaeth i'w gwarchod a nodweddion o brif bwysigrwydd cydnabyddedig i warchod bioamrywiaeth a chadwraeth natur, (sef y rhai a ddiogelir gan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac eithrio lle gellir dangos:

  1. Bod amgylchiadau eithriadol, lle mae'r rhesymau dros y datblygiad neu dros newid defnydd tir yn amlwg yn drech na'r angen i ddiogelu buddiannau bioamrywiaeth a chadwraeth natur y safle; a,
  2. y gellir lleihau unrhyw niwed annerbyniol cyn belled ag y bo modd yn unol â'r hierarchaeth liniaru, twy
    1. sicrhau mesurau osgoi, lleihau neu liniaru effeithiol; neu,
    2. lle nad yw hyn yn ymarferol, y gellir rhoi mesurau cydbwyso digonol ar waith sydd o werth ecolegol tebyg i'r hyn a gollir trwy ddatblygu neu o werth ecolegol mwy.

11.411 Mae'r polisi hwn yn ceisio sicrhau bod y cynefinoedd a'r rhywogaethau a nodir yn Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cael eu diogelu'n addas rhag datblygu niweidiol a bod y Cyngor yn cyflawni ei rwymedigaeth i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau. Dylid cyfeirio'n llawn at y CCA Cadwraeth Natur a Bioamrywiaeth. Mae'r CCA hyn yn cynnwys canllawiau i ddatblygwyr a dylent fod o gymorth i weithredu'r polisi hwn a'r CDLl. Lle y bo'n berthnasol, bydd rôl cynefinoedd ac ardaloedd cysylltiedig fel llwybrau cysylltedd, 'rhwydweithiau ecolegol' neu 'rwydweithiau coridor anifeiliaid' yn cael ei hystyried (dylid cyfeirio at Bolisi NE3).

11.412 Lle y bo angen, dylai cynlluniau rheoli sy'n manylu ar faterion megis mesurau lliniaru gael eu cynhyrchu fel rhan o unrhyw gais, a'u cytuno gyda'r awdurdod cyn y rhoddir caniatâd. Dylai trefn fonitro y cytunwyd arni gael ei chyflwyno gyda'r mesurau lliniaru arfaethedig. Gall mesurau lliniaru gynnwys dylunio ac amserlennu gwaith yn ofalus, gan ystyried datblygu fesul cyfnod fel bod amseriad unrhyw waith yn tarfu gyn lleied â phosibl.

11.413 Lle y bo angen, dylai cynigion datblygu geisio gwella bioamrywiaeth. Pan fo angen gwella bioamrywiaeth a lle na chynigir hynny fel rhan o gais, rhoddir pwysau sylweddol ar ddiffyg hynny, ac oni bai bod ystyriaethau perthnasol sylweddol eraill yn nodi fel arall bydd angen gwrthod caniatâd[37]. Bydd yn ofynnol bod cynigion datblygu'n asesu priodoleddau cydnerthedd ecosystemau yn unol â'r fframwaith a amlinellir ym mharagraff 6.4.9 o PCC10 a bydd disgwyl iddynt ddiogelu a gwella'r priodoleddau hyn ar ôl datblygu.

11.414 O dan amgylchiadau eithriadol, gallai'r angen am ddatblygiad wrthbwyso'r angen i ddiogelu safle penodol. Mewn achosion o'r fath, bydd effaith yn cael ei hosgoi, ei lleihau i'r eithaf a'i lliniaru hyd y bo'n bosibl a phan fydd effeithiau gweddillol yn parhau, caiff mesurau eu rhoi ar waith i sicrhau bod darpariaeth cynefinoedd bywyd gwyllt amgen neu fesurau creu cynefinoedd yn cael eu darparu er mwyn sicrhau nad oes colled net ym mioamrywiaeth yr ardal neu'r nodwedd ar y cyfan.

11.415 Bydd lleoliad a graddfa datblygiad, gan gynnwys natur y cynefinoedd ar y safle a'r ardal gyfagos yn ystyriaeth yn natur unrhyw reolaeth y mae ei hangen.

11.416 Dylai effeithiau posibl datblygiad, naill ai'n unigol neu'n gronnol, gael eu hystyried yn ofalus wrth benderfynu ar unrhyw gynnig. Yn hyn o beth, gall effaith sŵn, dirgryndod, draenio, goleuadau, traffig ac ystyriaethau o ran ansawdd aer ddwyn goblygiadau yn ystod y broses adeiladu neu ar ôl cwblhau unrhyw ddatblygiad.

11.417 Bydd y defnydd o amodau cynllunio a/neu rwymedigaethau cynllunio yn cael ei ystyried lle bo hynny'n briodol.

NE3: Coridorau, Rhwydweithiau a Nodweddion Unigryw

Bydd disgwyl i gynigion datblygu gynnal a gwella coridorau, rhwydweithiau a nodweddion unigryw ecolegol. Cefnogir cynigion sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer cadw nodweddion o'r fath a'u rheoli'n briodol.

Bydd cynigion sy'n arwain at effaith niweidiol ar gysylltedd neu gyfanrwydd coridorau, rhwydweithiau neu nodweddion unigryw ecolegol yn cael eu caniatáu dim ond dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Bod amgylchiadau eithriadol, lle mae'r rhesymau dros y datblygiad neu dros newid defnydd tir yn amlwg yn drech na'r angen i ddiogelu buddiannau bioamrywiaeth a chadwraeth natur y safle; a,
  2. y gellir lleihau unrhyw niwed annerbyniol cyn belled ag y bo modd yn unol â'r hierarchaeth liniaru, twy
    1. sicrhau mesurau osgoi, lleihau neu liniaru effeithiol; neu,
    2. lle nad yw hyn yn ymarferol, y gellir rhoi mesurau cydbwyso digonol ar waith sydd o werth ecolegol tebyg i'r hyn a gollir trwy ddatblygu neu o werth ecolegol mwy.

11.418 Mae'r polisi hwn yn ceisio sicrhau bod coridorau, rhwydweithiau a nodweddion unigryw ecolegol yn cael eu diogelu a'u rheoli'n briodol. Mae'r rhain yn cynnwys nodweddion sydd, oherwydd eu strwythur llinol a pharhaus neu eu swyddogaethau fel 'camau graddol' neu 'goridorau bywyd gwyllt', yn hanfodol ar gyfer lleihau darniad cynefinoedd a rhoi anogaeth ar gyfer mudo a gwasgariad ecolegol neu gyfnewid genetig. Gall diogelu'r nodweddion hyn wneud cyfraniad pwysig i ddyletswydd y Cyngor o dan Adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae'r rhain hefyd yn werthfawr o ran eu cyfraniad i ansawdd yr amgylchedd lleol ac o ran ei gwneud yn bosibl addasu a bod yn gydnerth yn wyneb y newid yn yr hinsawdd.

11.419 Mae'r nodweddion a fydd yn cyfrannu yn cynnwys: llwyni, ffosydd a chloddiau, waliau cerrig, nentydd, lleiniau cysgodi o goed, coetiroedd, hen goed, parcdiroedd, lonydd gwyrdd, coridorau afonydd, llynnoedd, pyllau, ymylon ffyrdd, neu fosaig cynefinoedd neu rwydweithiau o gynefinoedd eraill sy'n bwysig yn lleol gan gynnwys corsydd mawn, gweundir, gwlypdiroedd, morfeydd heli, twyni tywod a glaswelltiroedd sy'n gyforiog o rywogaethau.

11.420 Mae darparu cysylltedd ecolegol yn un o wasanaeth ecosystemau pwysig y Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd ac mae ei ddiogelu a/neu ei wella yn gyson â Pholisi PSD3 Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd. Wrth nodi'r nodweddion hyn a rhoi'r polisi hwn ar waith, dylid cyfeirio at yr Asesiad Seilwaith Gwyrdd a'r gwaith mapio cysylltiedig.

NE4: Datblygu yn Ardal CCA Caeau Mynydd Mawr

Caniateir cynigion os ydynt yn cyd-fynd ag ymrwymiad y Cyngor i hyrwyddo ac i gyfrannu at gyflawni Amcanion Cadwraeth Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr (ACA CMM) yn unol â'r Rheoliadau Cynefinoedd. Bydd yn ofynnol bod cynigion sydd wedi'u lleoli o fewn Ardal y CCA yn cyfrannu tuag at gynyddu ansawdd a maint y cynefin sydd ar gael ar gyfer Britheg y Gors o fewn Ardal y CCA. Diffinnir Ardal y CCA ar y map cynigion.

Er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, ac er mwyn lliniaru colled cynefinoedd ategol posibl a chysylltedd ar gyfer glöyn byw brith y gors a allai ddeillio o'r datblygiad, bydd y Cyngor (lle y bo'n berthnasol) yn ceisio sicrhau Rhwymedigaethau Cynllunio (yn unol â pholisi INF1 yn y CDLl a darpariaethau'r CCA ar gyfer ACA CMM) gan ddatblygiadau perthnasol o fewn ardal y CCA.

11.421 Gall datblygiadau fynd ymlaen yn ardal CCA Caeau Mynydd Mawr ar yr amod na fydd unrhyw effaith sylweddol debygol amlwg ar Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau Mynydd Mawr (ACA CMM). I'r perwyl hwn, bydd y Cyngor (lle bo'n briodol) yn ceisio cyfraniadau gan ddatblygwyr i ariannu gwaith y Cyngor i gyflawni prosiect rheoli cynefinoedd y Cyngor yn ardal y CCA. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghanllawiau Cynllunio Atodol Caeau Mynydd Mawr (CCA ACA CMM).

11.422 O ran darparu sicrwydd a ffocws gofodol, mae CCA CMM yn egluro disgwyliadau ar bob parti. Mae'r CCA yn darparu mecanwaith i ddatblygwyr geisio lliniaru effaith eu cynigion ar yr ACA trwy gyfrannu at brosiect rheoli cynefinoedd CMM y Cyngor. Er mwyn sicrhau bod y CDLl yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Cynefinoedd, bydd y Cyngor (lle y bo'n briodol) yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau rhwymedigaethau mewn perthynas ag ACA Caeau Mynydd Mawr ar gyfer cynigion sydd wedi'u lleoli o fewn Ardal CCA CMM. Gall y Cyngor hefyd (lle bo'n briodol) ofyn am wybodaeth fanwl bellach gan ddatblygwyr er mwyn goleuo'r broses o benderfynu ar geisiadau cynllunio.

11.423 Nodir Ardal CCA Caeau Mynydd Mawr ar y Map cynigion. Mae 'r CCA yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn. Er nad yw'r CCA yn dadlau o blaid dull haearnaidd / cyffredinol o gyfrifo swm y cyfraniadau gan ddatblygwyr sy'n ofynnol gan y Cyngor, mae'n nodi rhestr codi tâl y mae'n rhaid iddi fod yn fan cychwyn ar gyfer pob trafodaeth. Dylid cyfeirio at y CCA o ran unrhyw gyfraniadau arfaethedig 'mewn nwyddau'.

11.424 Yn eithriadol, ac yn gwbl unol â darpariaethau'r CCA, gall y swm y cytunwyd arno fel cyfraniad fod yn amodol ar drafodaeth.

NE5: Rheolaeth Arfordirol

Bydd cynigion ar gyfer cynlluniau rheoli arfordirol yn cael eu caniatáu, ar yr amod:

  1. Bod cyfiawnhad priodol dros yr angen am y datblygiad;
  2. Bod y datblygiad yn gydnaws â'r amgylchedd o'i gwmpas;
  3. Ei fod yn diogelu, yn gwella ac, os yw'n briodol, yn creu cysyllteddau cerdded â Llwybr Arfordir Cymru a'r rhwydwaith llwybrau troed;
  4. Na fydd y cynllun yn arwain at gynnydd mewn erydiad, llifogydd nac ansadrwydd tir.

Bydd cynigion yn cael eu hannog i ddarparu llwybrau Teithio Llesol ychwanegol i gysylltu cymunedau a llwybrau presennol â Llwybr Arfordir Cymru.

11.425 Mae gan gynlluniau amddiffyn yr arfordir rôl bwysig o ran diogelu poblogaeth, asedau ac adnoddau'r Sir rhag llifogydd llanwol ac erydu. Mae'r polisi hwn yn ceisio sicrhau bod cynlluniau rheoli arfordirol yn cael eu llunio mewn lleoliadau priodol, ac nad ydynt yn cael effaith niweidiol ar y dirwedd o'u hamgylch. Bydd yn ofynnol i gynlluniau roi sylw i ddiogelu rhywogaethau a chynefinoedd yn unol â Pholisi Strategol SP13.

11.426 Bydd anogaeth yn cael ei rhoi i gynnwys cyfleusterau hamdden a mynediad cyhoeddus priodol o fewn cynlluniau.

11.427 Ni chaniateir cynlluniau rheoli arfordirol newydd at ddibenion galluogi datblygiad newydd mewn ardaloedd lle ceir perygl llifogydd neu erydu arfordirol.

11.428 Bydd disgwyl i gynigion ystyried cynnwys Cynllun Rheoli Traethlin De Cymru (Trwyn Larnog i Benrhyn y Santes Ann) (CRhT2). Mae'r CRhT yn ceisio lleihau'r peryglon hyn i bobl ac i'r amgylcheddau datblygedig, hanesyddol a naturiol, ac yn nodi sut y dylid rheoli'r arfordir yn y dyfodol trwy nifer o bolisïau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol hirdymor cynaliadwy ar gyfer yr arfordir.

11.429 Cyfeirir yn benodol at Bolisi NE7: Ardal Rheoli Newid Arfordirol a'i gyd-destun mewn perthynas â datblygiadau o fewn, neu yr effeithir arnynt gan, bolisïau 'dim ymyriad gweithredol' ac 'adlinio a reolir' yn y CRhT.

11.430 Mae'r cynigion sydd yn y CDLl hwn wedi'u paratoi gan roi sylw dyledus i'r polisïau a nodir yn CRhT2.

NE6: Datblygu Arfordirol

  1. Bydd cynigion ym mhob lleoliad arfordirol yn cael eu caniatáu dim ond ar yr amod:
    1. Eu bod wedi cymryd i ystyriaeth faterion sy'n gysylltiedig â newid arfordirol;
    2. Na fyddant yn niweidio'r forwedd mewn modd annerbyniol trwy raddfa, màs a dyluniad amhriodol.
  2. Bydd cynigion datblygu mewn lleoliadau arfordirol sydd heb eu datblygu yn cael eu caniatáu dim ond ar yr amod:
    1. Bod angen eu lleoli mewn lleoliad arfordirol;
    2. Eu bod yn rhan o gynllun rheoli arfordir angenrheidiol;
    3. Nad ydynt yn cynyddu'r risg o erydu, llifogydd neu ansadrwydd tir;
    4. Na fyddent yn arwain at yr angen am fesurau newydd i ddiogelu'r arfordir;
    5. Eu bod yn diogelu ac yn gwella'r dirwedd, y morlun, bioamrywiaeth a'r amgylchedd hanesyddol.

11.431 Mae gan Sir Gaerfyrddin ardal helaeth o forlin, sy'n ymestyn o aber Afon Llwchwr i Marros. Gellir diffinio'r ardal arfordirol fel ardaloedd lle mae'r tir a'r môr cyfagos yn cael eu hystyried yn gyd-ddibynnol ar ei gilydd.

11.432 Anaml y bydd yr arfordir sydd heb ei ddatblygu yn cael ei ystyried fel y lleoliad mwyaf priodol ar gyfer datblygu, a dylai unrhyw gynigion ystyried cynnwys SMP2, yn ogystal â pholisïau eraill y Cynllun.

11.433 Mae materion sy'n gysylltiedig â newid arfordirol yn cynnwys: risgiau erydu, llifogydd, ansadrwydd tir, y dulliau a ffefrir i fynd i'r afael â risgiau o'r fath, a'r effeithiau ar fioamrywiaeth a chydnerthedd ecolegol.

11.434 Cyfeirir at bolisi NE7: Ardal Rheoli Newid Arfordirol a'i gyd-destun mewn perthynas â datblygiadau o fewn, neu yr effeithir arnynt gan, bolisïau 'dim ymyriad gweithredol' ac 'adlinio a reolir' CRhT2.

NE7: Ardal Rheoli Newid Arfordirol

Mae'r Ardal Rheoli Newid Arfordirol (CCMA) wedi'i diffinio fel yr ardaloedd hynny lle mae CRhT2 yn nodi polisi o 'ddim ymyriad gweithredol' ac 'adlinio rheoledig'.

Ni ddylai cynigion ar gyfer datblygu sydd wedi'u lleoli o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol a nodwyd gael effaith niweidiol ar gyfraddau newid arfordirol mewn mannau eraill, a byddant yn amodol ar y canlynol:

1. Datblygiad Preswyl Newydd

Ni chefnogir cynigion ar gyfer unrhyw ddefnydd preswyl o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol.

2. Adleoli Anheddau Preswyl Presennol

Bydd cynigion i adleoli anheddau preswyl presennol o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol yn cael eu caniatáu o dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Lle mae'r datblygiad yn disodli annedd barhaol yr effeithir arni neu a fygythir gan erydiad a/neu berygl llifogydd arfordirol o fewn 20 mlynedd i ddyddiad y cynnig; a
  2. Lle mae'r annedd a adleolwyd wedi ei lleoli o fewn pellter priodol i'r tir o ran Yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol a gwybodaeth arall yn y Cynllun Rheoli Traethlin, ac lle mae mewn lleoliad sydd:
    1. yn achos annedd amaethyddol, o fewn y daliad fferm neu o fewn neu'n union wrth ymyl aneddiadau presennol, neu
    2. o fewn neu'n union wrth ymyl aneddiadau presennol yn agos at y lleoliad y cafodd ei dadleoli ohono;
    3. yn achos carafán/carafanau sefydlog, caban(nau) gwyliau neu uned(au) llety ymweld parhaol eraill - o fewn, gerllaw neu o fewn pellter derbyniol i'r safle presennol.
  3. Bod safle'r annedd bresennol yn cael ei glirio o unrhyw adeiladau neu daclau preswyl ac yn cael ei wneud yn ddiogel; a,
  4. Bod yr annedd newydd yn debyg o ran maint i'r hyn y mae wedi'i bwriadu i'w ddisodli; ac,
  5. Bod y cynnig yn cydnabod y priod ymdeimlad o le o fewn yr ardal ac na ddylai gael effaith niweidiol ar dirwedd, treflun, morlun a/neu fioamrywiaeth yr ardal

3. Adeiladau Di-breswyl

Bydd cynigion ar gyfer y mathau canlynol o ddatblygiadau dibreswyl newydd yn cael eu caniatáu o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol a ragwelir fel rhai sydd mewn perygl o newid arfordirol, yn amodol ar Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd ac Asesiad Sadrwydd derbyniol:

  1. datblygiad sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r ardal arfordirol (e.e. cytiau traeth, caffis, ystafelloedd te, siopau, llety gwyliau ar osod byr, safleoedd carafanau teithiol a sefydlog, safleoedd gwersylla, gweithgareddau hamdden); a
  2. datblygiad sy'n cynnig manteision economaidd a chymdeithasol sylweddol i'r gymuned; a
  3. lle gellir dangos na fydd unrhyw risg gynyddol i fywyd, neu unrhyw risg sylweddol i eiddo.

Caniateir ailddatblygu, neu estyniadau i, eiddo dibreswyl presennol neu ddwysáu defnydd tir dibreswyl presennol ar safleoedd o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol, lle gellir dangos trwy Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd ac Asesiad Sadrwydd addas na fydd risg fwy o gwbl i fywyd, nac unrhyw risg sylweddol i eiddo (lle y bo'n briodol).

4. Estyniadau i Anheddau a Seilwaith Presennol

Bydd cynigion ar gyfer y mathau canlynol o ddatblygiadau yn cael eu caniatáu yn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol, yn amodol ar Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd a/neu Asesiad Sadrwydd addas:

  1. Estyniadau preswyl cyfyngedig sydd â chysylltiad agos â graddfa bresennol yr eiddo;
  2. Datblygiad atodol o fewn cwrtil preswyl anheddau presennol;
  3. Bydd seilwaith cymunedol a seilwaith arall allweddol (gan gynnwys ffyrdd), y mae'n ofynnol eu lleoli o fewn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol i ddarparu'r budd a fwriadwyd ar gyfer y gymuned ehangach, yn cael eu caniatáu lle mae cynlluniau clir i reoli effaith newid arfordirol ar y cynnig a'r gwasanaethau a ddarperir ganddo.

11.435 Fel gyda pholisi RE6, dylid ystyried CRhT2 sy'n gosod ystod o bolisïau ar gyfer y morlin, sef 'cadw'r llinell', 'dim ymyriad gweithredol' neu 'adlinio rheoledig', fesul cyfnod polisi (sef: hyd at 2025, 2026 - 2055, a 2056 - 2105).

11.436 Gellir gweld y CRhT2 yn www.southwalescoast.org. Mae PCC yn nodi y dylai Awdurdodau Lleol helpu i leihau perygl llifogydd ac effaith erydu arfordirol trwy osgoi datblygu amhriodol mewn ardaloedd sydd dan fygythiad.

11.437 Mae'r Ardal Rheoli Newid Arfordirol yn cynrychioli lle mae'r polisi CRhT2 a dderbynnir ar gyfer 'dim ymyriad gweithredol' neu 'adlinio rheoledig' yn ystod cyfnod y cynllun.

11.438 Nid ystyrir bod datblygiad preswyl newydd yn addas yn yr Ardal Rheoli Newid Arfordirol. Mae hyn yn adlewyrchu lefel y perygl o erydu arfordirol a llifogydd yn yr ardaloedd hyn. Bydd gweithredu'r dull hwn yr un mor berthnasol i gynigion i newid defnydd adeiladau parhaol eraill i lety preswyl ac anheddau yn lle rhai blaenorol, ac mae'n rhan o ymagwedd ragofalus a arweinir gan yr ystyriaethau polisi a nodir yn y CRhT2.

11.439 Mae'r math o ddefnydd preswyl y mae hyn yn berthnasol iddo yn cynnwys anheddau unigol, fflatiau uwchlaw eiddo masnachol presennol, tai gwarchodol, llety myfyrwyr, hosteli, tai a rennir i bobl anabl, cartrefi nyrsio a chartrefi gofal, addysg breswyl, carafannau sefydlog a chabannau gwyliau (gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â hamdden a thwristiaeth) lle maent wedi'u cysylltu â seilwaith ac yn rhan o safle a chanolfannau hyfforddi sefydledig a wasanaethir yn llawn.

11.440 Bydd amodau cynllunio yn cael eu cymhwyso, neu bydd rhwymedigaeth gynllunio yn cael ei sicrhau lle bo angen: cyfyngu ar fywyd cynlluniedig datblygiad neu ddefnydd tymhorol; dileu datblygiad sydd â therfyn amser arno neu anheddau presennol pan ddaw'r defnydd i ben; adolygu caniatadau cynllunio perthnasol; rheoli meddiannaeth ar annedd a adleolwyd.

11.441 Er mwyn galluogi cymunedau arfordirol i addasu i newid arfordirol, mae'r Polisi yn hwyluso adleoli a disodli anheddau parhaol i leoliadau amgen sy'n ddiogel rhag erydu arfordirol. Mae'n ceisio sicrhau bod cymunedau arfordirol yn parhau i fod yn gynaliadwy trwy gynnal lefelau'r stoc dai a lleihau'r risg i bobl ac eiddo.

11.442 Lle y mae angen caniatâd ar gyfer estyniad i eiddo preswyl, fe'i cefnogir lle gellir dangos bod y manteision i'r perchentywr yn drech nag unrhyw gynnydd yn y risg i'r eiddo. Fodd bynnag, rhaid ystyried llesiant y meddianwyr, y perygl i fywyd o ganlyniad i lifogydd, neu erydiad.

11.443 Bydd datblygiadau dibreswyl yn amodol ar yr amserlen a ragwelir ar gyfer colli'r eiddo o ganlyniad i erydu arfordirol. Byddai hyn yn berthnasol i gynigion ar gyfer defnyddiau megis cyfleusterau cymunedol, defnydd busnes, meysydd chwaraeon a chaeau chwarae. Dylai'r asesiad risg ystyried y buddiannau'n llawn yn erbyn y risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio eiddo a allai fod yn gyfyngedig ei oes.

11.444 Lle y bo'n briodol, gellir defnyddio caniatâd cynllunio am gyfnod cyfyngedig i reoli oes arfaethedig datblygiad newydd. Byddai hyn yn caniatáu rheolaeth dros ddyfodol y datblygiad a'r perygl posibl i eiddo a phobl lle bo hynny'n briodol.


Polisi Strategol – SP 14: Diogelu a Gwella'r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol

Dylai cynigion datblygu warchod neu wella amgylchedd adeiledig a hanesyddol y Sir, ei hasedau diwylliannol, treflun a thirwedd a, lle y bo'n briodol, eu lleoliad.

Bydd disgwyl i gynigion hyrwyddo dylunio o ansawdd da sy'n atgyfnerthu cymeriad lleol ac yn parchu ac yn gwella nodweddion diwylliannol a hanesyddol ardal y cynllun.

11.445 Mae gan Sir Gaerfyrddin dreftadaeth adeiledig hanesyddol a diwylliannol gyfoethog ac amrywiol gydag ystod o Ardaloedd Cadwraeth, Adeiladau Rhestredig a Henebion Cofrestredig. Mae cydnabod treftadaeth adeiledig ardal y Cynllun a'i chadwraeth yn hanfodol i ddarparu ymdeimlad o hanes, cymeriad, ac ymdeimlad o le.

11.446 Mae ardal y Cynllun hefyd yn cynnwys safleoedd a nodweddion archeolegol sydd wedi'u darganfod, ac sydd eto i'w darganfod. Nod y Polisi a'r Cynllun, ar y cyd â deddfwriaeth sylfaenol ar yr amgylchedd adeiledig ac adeiladau hanesyddol, yw diogelu cyfanrwydd diwylliannol y r aneddiadau, nodweddion ac adeiladau hanesyddol yn ardal y Cynllun. Lle y bo'n berthnasol, mae hefyd yn ceisio cyfrannu at wella'r amgylchedd hanesyddol ac adeiledig. Mae hyn yn cydnabod bod ein hasedau hanesyddol yn adnoddau anadnewyddadwy a bod eu cadwraeth yn darparu manteision cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol.

11.447 Dylai adeiladau hanesyddol, treflun a thirwedd y Sir gael eu hystyried yn asedau a chael eu gwarchod a'u gwella'n gadarnhaol er budd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Effeithir ar y rhain nid dim ond gan newid ac esgeulustod ond hefyd newidiadau i'w lleoliad. Gan hynny, mae hyn yn ystyriaeth bwysig wrth wneud penderfyniadau ar gynigion a allai gael effaith.

11.448 Mae llawer o elfennau o amgylchedd adeiledig a hanesyddol y Sir yn cael eu diogelu trwy ddeddfwriaeth neu ddarpariaethau polisi eraill, a chan hynny nid oes angen polisïau i ymdrin â hwy yn y CDLl diwygiedig. Felly nid yw'r Cynllun yn cynnwys polisïau mewn perthynas â nodweddion ar y dreftadaeth adeiledig megis Henebion Cofrestredig gan eu bod yn cael eu diogelu'n ddigonol mewn mannau eraill.

11.449 Fodd bynnag, ceir agweddau sy'n ymwneud â diogelu'r amgylchedd hanesyddol y gellir mynd i'r afael â hwy drwy'r CDLl diwygiedig, yn enwedig y rhai sy'n ymwneud â nodweddion lleol ac adeiladau lleol.

11.450 Mae canllawiau a deddfwriaeth eglur mewn perthynas â'r canlynol i'w cael o fewn PCC: Rhifyn 10 – Pennod 6: Gwarchod yr Amgylchedd Hanesyddol, a Pholisi SP13 – Cynnal a Gwella'r Amgylchedd Naturiol

11.451 Naturiol sy'n cydnabod pwysigrwydd ardaloedd a nodweddion o'r fath yn y Sir:

  • Parciau a Gerddi Hanesyddol[38] - Mae llawer o barciau a gerddi yn hanesyddol arwyddocaol ac wedi'u rhestru yn y Gofrestr Parciau a Gerddi Hanesyddol yng Nghymru. Mae'r ardaloedd hyn hefyd wedi'u diffinio ar Fap Cynigion y CDLl;
  • Tirweddau hanesyddol[39]
  • Gweddillion archeolegol[40]
  • Datblygiadau Galluogi[41] - mae PCC yn nodi'r darpariaethau y byddai cynnig galluogi yn cael ei ystyried drwyddynt
  • Henebion Cofrestredig – caiff y rhain eu diffinio ar y Map Cynigion

11.452 Bydd yr awdurdod yn paratoi CCA fel y bo'n briodol a lle bo angen mewn perthynas â'r Amgylchedd Hanesyddol ac Adeiledig.

Polisi BHE1: Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth

  1. Caniateir cynigion mewn perthynas ag adeilad rhestredig dim ond os ydynt yn cyd-fynd â'r canlynol:
    1. Bydd yn ofynnol i gynigion ar gyfer newid a/neu estyn adeilad rhestredig, neu ei gwrtil sicrhau bod y cymeriad pensaernïol arbennig, neu'r diddordeb hanesyddol, yn cael ei gadw neu ei wella;
    2. Caniateir newid defnydd adeilad rhestredig, neu ei gwrtil dim ond pan fo'n cyfrannu at gadw adeilad neu ei ailddefnyddio'n gynaliadwy, gan osgoi effaith niweidiol ar ei gymeriad, ei ddiddordeb arbennig neu ei gyfanrwydd strwythurol;
    3. Caniateir cynigion ar gyfer dymchwel adeilad rhestredig yn llwyr neu'n sylweddol dim ond pan fo'r cyfiawnhad cryfaf a thystiolaeth argyhoeddiadol bod y cynnig yn angenrheidiol;
    4. Mae'n rhaid i gynigion sydd â pherthynas â lleoliad adeilad rhestredig, neu sy'n effeithio ar ei leoliad, sicrhau bod y lleoliad yn cael ei warchod neu ei wella.
  2. Caniateir datblygiadau o fewn neu'n gyfagos at ardal gadwraeth, lle y byddent yn gwarchod neu'n gwella cymeriad neu ymddangosiad yr ardal gadwraeth, neu ei lleoliad.
  3. Dylai datblygiadau newydd mewn ardaloedd cadwraeth fod â dyluniad o safon uchel sy'n ymateb i nodweddion a phriodweddau arbennig yr ardal.

11.453 Lle mae cynnig yn un ar gyfer adeilad newydd o fewn ardal gadwraeth, dylai roi sylw i'r canlynol:

  • Golygfeydd, fistâu, strydluniau, toeau, coed, mannau agored, bylchau a nodweddion eraill pwysig sy'n cyfrannu at gymeriad neu ymddangosiad yr ardal gadwraeth;
  • Ffiniau hanesyddol arwyddocaol neu elfennau eraill sy'n cyfrannu at y ffurf sefydledig ar ddatblygu;
  • Y berthynas â'r adeiladau, mannau presennol, a ffurf anheddu sydd eisoes yn bodoli;
  • Graddfa, taldra a dwysedd, dyluniad pensaernïol, a deunyddiau.

BHE2: Cymeriad y Dirwedd

Dylai cynigion datblygu ymwneud â thirwedd benodol a nodweddion gweledol yr ardal leol, gan sicrhau y cynhelir cyfanrwydd cyffredinol cymeriad y dirwedd trwy:

  1. nodi, diogelu a, lle y bo'n briodol, gwella'r dirwedd unigryw a'r dreftadaeth hanesyddol, ddiwylliannol, ecolegol a daearegol, gan gynnwys elfennau naturiol a rhai o waith dyn sy'n gysylltiedig â chymeriad presennol y dirwedd;
  2. diogelu dynodiadau tirwedd rhyngwladol a chenedlaethol;
  3. gwarchod unigrywiaeth, ymdeimlad o le a lleoliad lleol;
  4. parchu a gwarchod nodweddion penodol ar y dirwedd, ac integreiddio egwyddorion creu lleoedd a seilwaith gwyrdd;
  5. gwarchod golygfeydd a fistâu allweddol o'r dirwedd.

11.454 Nodweddir Sir Gaerfyrddin gan adnoddau tirwedd amrywiol ac o ansawdd da ac ardaloedd o werth gweledol nodedig. Mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth o ddynodiadau tirwedd rhyngwladol a chenedlaethol.

11.455 Mae priodoleddau tirwedd allweddol y Sir yn amrywiol ac yn cynnwys ardaloedd ucheldirol, gwastatiroedd arfordirol a dyffrynnoedd afonydd o werth tirwedd a phwysigrwydd ecolegol uchel. Mae'r rhain yn darparu manteision amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol sylweddol ac yn helpu i greu ymdeimlad o le.

11.456 Mae'r Polisi yn ceisio diogelu, cynnal a, lle y bo'n briodol, gwella cymeriad ac ansawdd tirwedd Sir Gaerfyrddin gyda'r nodweddion hynny sy'n cyfrannu at gymeriad unigryw'r Sir yn cael mesurau gwarchod ar lefelau priodol gyda'u harwyddocâd yn cael ei amlygu gan ddefnyddio adnodd LANDMAP Cyngor Cefn Gwlad Cymru gynt.

Sylwer: Adnodd tirwedd sy'n seiliedig ar System Gwybodaeth Ddaearyddol yw LANDMAP lle caiff nodweddion tirwedd, ei phriodweddau a dylanwadau ar y dirwedd eu cofnodi a'u gwerthuso i greu set ddata sy'n gyson yn genedlaethol.

11.457 Bydd y polisi, felly, yn cael ei gefnogi gan Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA) ar Asesiad Cymeriad Tirwedd LANDMAP. Bydd y CCA hyn yn adeiladu ar y gwaith a wnaed a'r darpariaethau polisi o ran Creu Lleoedd a Seilwaith Gwyrdd wrth ddatblygu cyfres integredig o ddogfennau canllaw i lywio cynigion datblygu.

11.458 Bydd y CCA hyn yn nodi ac yn disgrifio ardaloedd a mathau o gymeriad tirwedd nodedig ledled ardal y cynllun.

11.459 Yn hyn o beth pwrpas y polisi yw adlewyrchu hynodrwydd, nodweddion a sensitifrwydd penodol cydrannau tirwedd y sir.


Cysylltiadau Cryf - Pobl, lleoedd a sefydliadau sydd wedi'u cysylltu'n gryf ac sy'n gallu addasu i newid

11.460 Mae'r CDLl Diwygiedig hwn yn ceisio deall a chydnabod rôl cymuned ac ymdeimlad o le trwy geisio dosbarthu datblygiadau newydd mewn modd sy'n cydnabod ac yn parchu rôl a swyddogaeth ein aneddiadau.

11.461 Trwy ddosbarthu twf mewn modd cynaliadwy mae'n cydnabod gwerth cysylltedd. Mae'r Cynllun yn ceisio helpu i greu cymunedau cysylltiedig sy'n gydnerth, yn ffyniannus ac yn gallu meithrin llesiant ymysg trigolion.

11.462 Trwy greu Sir gydnerth, gysylltiedig a chynaliadwy, mae'r Cynllun yn ceisio adlewyrchu'r heriau sy'n wynebu ein cymunedau a'r angen i ymateb yn gadarnhaol. Mae'n pennu fframwaith i gyfrannu at fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ac yn datblygu strategaeth ac agenda bolisi sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cynaliadwy, gan gydnabod amrywiaeth y Sir ar yr un pryd.

11.463 Er y cydnabyddir bod gorgyffwrdd rhwng y themâu ac aseiniad polisïau, nodwyd y canlynol o dan y thema hon:

  • Polisi Strategol – SP 15: Y Newid yn yr Hinsawdd
  • Polisi strategol – SP 16: Dosbarthiad Cynaliadwy – Fframwaith Aneddiadau
  • Polisi strategol – SP 17: Trafnidiaeth a Hygyrchedd
  • Polisi strategol – SP 18: Adnoddau Mwynol
  • Polisi strategol – SP 19: Rheoli Gwastraff

11.464 Mae'r polisïau canlynol yn ceisio cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion strategol y cynllun, ond maent hefyd yn darparu cysylltiadau lefel uchel a cydymffurfiaeth eang â'r Nodau Llesiant.

Polisi strategol – SP 15: Y Newid yn yr Hinsawdd

Lle mae cynigion datblygu yn ymateb i'r newid yn yr hinsawdd, yn gydnerth yn wyneb y newid yn yr hinsawdd, yn addasu iddo ac yn lleihau ei achosion ac effeithiau, cânt eu cefnogi. Yn benodol, caiff cynigion eu cefnogi lle maent:

  1. Yn cyfrannu at leihau allyriadau carbon trwy adlewyrchu egwyddorion trafnidiaeth gynaliadwy a lleihau i'r eithaf yr angen i deithio, yn enwedig mewn ceir modur preifat;
  2. Yn osgoi neu, lle y bo'n briodol, yn lleihau i'r eithaf y berygl llifogydd gan gynnwys ymgorffori mesurau fel Systemau Draenio Cynaliadwy a dyluniadau sy'n gydnerth yn wyneb llifogydd;
  3. Yn hybu'r hierarchaeth ynni trwy leihau'r galw am ynni, hybu effeithlonrwydd ynni a chynyddu'r cyflenwad o ynni adnewyddadwy;
  4. Yn ymgorffori atebion priodol ar gyfer dylunio sy'n ymateb i'r hinsawdd gan gynnwys cyfeiriadedd, cynllun, dwysedd ac atebion carbon isel (gan gynnwys dulliau dylunio ac adeiladu) ac sy'n defnyddio dulliau adeiladu cynaliadwy lle y bo'n ymarferol;
  5. Yn cyfrannu tuag at ddiogelu a gwella asedau a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd fel dalfeydd carbon

Bydd cynigion ar gyfer datblygu sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd sy'n wynebu perygl llifogydd yn cael eu gwrthod oni bai eu bod yn cydymffurfio â darpariaethau Polisi Cynllunio Cymru a TAN 15.

11.465 Mae'r angen i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn her sylfaenol os yw datblygu cynaliadwy a'r rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yn mynd i gael eu cyflawni. Bydd y goblygiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n deillio o'r newid yn yr hinsawdd yn ddwys a bydd methu â mynd i'r afael ag ef yn golygu bod unrhyw ymdrech i gynllunio ar gyfer cynaliadwyedd yn aflwyddiannus.

11.466 Mae'r hinsawdd newidiol a'r effeithiau i Gymru a ragwelir gan Raglen Effeithiau Hinsawdd y DU (UKCIP) yn cyflwyno heriau difrifol i'r system gynllunio. Wrth fynd i'r afael â hwy, mae Polisi Cynllunio Cymru (PCC) yn nodi cyfres o amcanion y dylid eu hystyried wrth baratoi cynllun datblygu.

11.467 Mae'r CDLl yn categoreiddio aneddiadau yn hierarchaeth sy'n adlewyrchu eu cynaliadwyedd cymharol ac yn ystyried yr hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy. Mae dyhead y Cynllun i leihau'r angen i deithio, yn enwedig mewn car modur preifat, a'i rôl gyfrannol tuag at hwyluso strategaeth trafnidiaeth integredig yn ceisio cyfeirio datblygiadau at leoliadau priodol sy'n cyflawni hyn.

11.468 Mae effaith bosibl perygl llifogydd yn un o'r ystyriaethau pwysig wrth asesu priodoldeb safleoedd i'w cynnwys yn y CDLl. Yn hyn o beth, mabwysiedir dull rhagofalus wrth nodi safleoedd i'w cynnwys yn y Cynllun. Wrth ystyried unrhyw gynigion mewn perthynas â llifogydd rhoddir sylw i ddarpariaethau Polisi Cynllunio Cymru a TAN15: Datblygu a Pherygl Llifogydd sy'n rhoi canllawiau ar asesu datblygiadau sy'n wynebu perygl llifogydd.

11.469 Bydd angen i gynigion yr effeithir arnynt gan berygl llifogydd gyflwyno Asesiad o Ganlyniadau Llifogydd fel rhan o unrhyw gais cynllunio a bydd y Cyngor yn ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Os yw perygl llifogydd yn effeithio'n rhannol ar safle, bydd angen i'r datblygwr ystyried effaith y perygl ar y gallu i ddatblygu gweddill y safle. Lle y bo'n briodol, dylent wneud y gwaith tystiolaethol angenrheidiol (gan gynnwys asesiad o ganlyniadau llifogydd a/neu arolwg topograffigol) i raddau sydd wrth fodd Cyfoeth Naturiol Cymru. Dylid rhoi sylw i bolisi CCH4: Rheoli ac Osgoi Perygl Llifogydd a gynhwysir yn y Cynllun hwn.

11.470 Bydd disgwyl i ddatblygiadau ddangos egwyddorion dylunio da i hyrwyddo defnydd effeithlon o adnoddau, gan gynnwys lleihau gwastraff a'r llygredd a gynhyrchir i'r eithaf, a chynyddu effeithlonrwydd ynni a defnydd effeithlon o adnoddau eraill i'r eithaf. Dylid cyfeirio at bolisi SP19 mewn perthynas â gwastraff a'r hierarchaeth gwastraff a lleihau gwastraff i'r eithaf.

11.471 Bydd disgwyl i gynigion datblygu wneud defnydd llawn a phriodol o dir. Dylai effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd fod yn ganolog i'r broses ddylunio, gan gynnwys y cyfraniad y gall lleoliad, dwysedd, cynllun a ffurf adeiledig ei wneud tuag at ddatblygiadau sy'n ymateb i'r hinsawdd.

11.472 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio'r system gynllunio i optimeiddio ynni adnewyddadwy a chynhyrchu ynni carbon isel. Mae PCC yn nodi y gall Awdurdodau Cynllunio Lleol wneud darpariaeth gadarnhaol trwy ystyried y cyfraniad y gall eu hardal ei wneud tuag at ddatblygu a hwyluso ynni adnewyddadwy a charbon isel, a galluogi'r cyfraniad hwn i gael ei gyflawni. Pennwyd targedau ynni adnewyddadwy gan Lywodraeth Cymru; un targed yw bod Cymru'n cynhyrchu 70% o'r trydan a ddefnyddir o ynni adnewyddadwy erbyn 2030.

11.473 Rhoddir anogaeth ar gyfer cynigion/defnyddiau tir ac arferion rheoli tir lle maent yn helpu i ddiogelu ac amddiffyn dalfeydd carbon (gan gynnwys mawn). Bydd dull o'r fath yn gwella cydnerthedd yn wyneb effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ac yn lleihau'r ffactorau sy'n achosi'r newid yn yr hinsawdd trwy ddiogelu dalfeydd carbon a thrwy fod yn ffynhonnell ynni cynaliadwy.

11.474 Mae PCC yn nodi canllawiau clir o ran y gofynion ar gyfer datblygiadau sy'n ymateb i'r hinsawdd ac adeiladau cynaliadwy. Dylid cyfeirio at y Cyfarwyddyd Ymarfer – Cynllunio ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy (Llywodraeth Cymru, 2014).

CCH1: Ynni Adnewyddadwy

Caniateir cynigion ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel a seilwaith cysylltiedig, naill ai ar eu pen eu hunain, yn gronnol neu ar y cyd â datblygiad presennol, cymeradwy neu arfaethedig, cyn belled â'u bod yn cyd-fynd â'r canlynol:

  1. Ni fydd y datblygiad yn arwain at niwed amlwg i safleoedd a rhywogaethau a warchodir yn statudol, a chynefinoedd a rhywogaethau a nodir yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd;
  2. Ni fydd y datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar ffyrdd, na diogelwch rheilffyrdd ac awyrennau; ymyrraeth electromagnetig â gosodiadau cyfathrebu, systemau radar neu reoli traffig awyr, systemau cyfathrebu'r gwasanaethau brys neu systemau telathrebu eraill;
  3. Ni fydd cynigion yn achosi perygl neu niwsans afresymol i, ac yn effeithio ar amwynderau trigolion cyfagos neu aelodau eraill o'r cyhoedd, ac ni fyddant yn arwain at golli mynediad y cyhoedd at yr ardal mewn modd annerbyniol;
  4. Dylid cyflwyno mesurau lliniaru priodol i gyd-fynd â chynigion, gan gynnwys adfer tir yn foddhaol ar ôl datgomisiynu.
  1. Cynigion ar gyfer Ffermydd Gwynt ar Raddfa Fawr:

    Caniateir ffermydd gwynt ar raddfa fawr o 25MW a throsodd o fewn Ardaloedd Chwilio Strategol ac ar eu pwys, ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf a i d.

  2. Cynigion mewn Ardaloedd Chwilio Lleol:

    Bydd cynigion ar gyfer ffermydd gwynt rhwng 5MW a 25MW, a datblygiadau solar rhwng 5MW a 50MW yn cael eu caniatáu mewn Ardaloedd Chwilio Lleol dynodedig, ar yr amod eu bod yn bodloni meini prawf a i d.

  3. Cynigion y Tu Allan i Ardaloedd Chwilio Strategol ac Ardaloedd Chwilio Lleol:

    Ni ddylai cynigion y tu allan i ardaloedd chwilio fod yn niweidiol i ddiben yr ardaloedd hyn a dylent gydymffurfio â'r meini prawf canlynol, a meini prawf a i d.

  1. Ni chaiff y datblygiad effaith annerbyniol ar amwynder gweledol na chymeriad y dirwedd trwy: nifer, graddfa, maint, dyluniad a lleoliad y tyrbinau a'r seilwaith cysylltiedig;
  2. Na fydd y datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar ardaloedd a ddynodwyd oherwydd gwerth eu tirwedd;
  3. Ni ddylai datblygiadau tyrbinau gwynt gael effeithiau cronnol annerbyniol mewn perthynas â thyrbinau gwynt presennol, y rhai sydd â chaniatâd neu sy'n cael eu cynnig.

11.475 Mae'r Polisi hwn yn berthnasol i bob datblygiad ynni adnewyddadwy a charbon isel y mae angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer, ac mae'n nodi'r meini prawf y bydd cynigion yn cael eu hasesu yn eu herbyn. Mae'r datblygiadau hyn yn cynnwys ffermydd gwynt ar y tir, tyrbinau gwynt, technoleg solar, biomas, ynni o wastraff, pŵer trydan dŵr a gwres a phŵer cyfunedig.

11.476 Mae'r Polisi hwn yn ategu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwyddau ffosil ac i fynd ati'n frwd i reoli'r newid i economi carbon isel.

Asesiad Ynni Adnewyddadwy

11.477 Cwblhawyd Asesiad Ynni Adnewyddadwy i oleuo a darparu tystiolaeth ar gyfer y polisi hwn ac er mwyn nodi'r potensial ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn yr ardal. Mae dull yr Asesiad Ynni Adnewyddadwy wedi dilyn yr hyn a nodir gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn helpu i gyrraedd y targedau a nodir yn PCC10. Mae'r Asesiad Ynni Adnewyddadwy yn cynnwys asesiad strategol lefel uchel o'r potensial ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel ar wahanol raddfeydd mewn gwahanol leoliadau.

11.478 Mae tablau 9 a 10 yn manylu ar y cyfraniadau ynni adnewyddadwy realistig y gellid eu gwneud tuag at fodloni cyfran o gyfanswm y galw am ynni o fewn yr Awdurdod.


Technoleg Ynni

Ffactor Capasiti Tybiedig

Potensial Mwyaf* 20033

Presennol

Targed Ychwanegol** 2033

Cyfanswm y Capasiti Gosodedig 2033 (MW)

Cyfanswm yr Ynni a Gynhyrchir 2033 (MWh)

Capasiti Trydanol (MWe)

Ynni a Gynhyrchir (MWh)

Capasiti Gosodedig (MW)

Ynni a Gynhyrchir (MWh)

Capasiti Gosodedig (MW)

Ynni a Gynhyrchir (MWh)

Ynni Gwynt (presennol yn cynnwys Ardaloedd Chwilio Strategol)

0.27

164.1

388,129

164.1

388,129

0

0

164.1

388,129

Cnwd Ynni Bio-màs (Gwres a Phŵer Cyfunedig)

0.9

18.4

144,857

0

0

0

0

0

0

Ynni o Wastraff gyda Gwres a Phŵer Cyfunedig

0.9

0.7

5,751

0

0

0

0

0

0

Ynni dŵr

0.37

6.7

21,860

6.6

21,304

0.1

417

6.7

21,721

Nwy Tirlenwi

0.6

2.3

11,826

2.3

11,826

0

0

2.3

11,826

Ffermydd Solar Ffotofoltäig

0.1

283.2

248,097

126.5

110,851

60

52,560

186.5

163,411

Arall gan gynnwys gwastraff bwyd, slyri anifeiliaid, gwasarn dofednod, slwtsh carthion, a nwy carthion (Treulio Anaerobig gyda Gwres a Phŵer Cyfunedig)

0.42

3.3

12,046

1.0

3,679

1.3

4,857

2.3

8,536

Adeilad Integredig

0.1

52.7

46,133

29.4

25,792

4.6

4,068

34.1

29,860

Cyfanswm

-

531

878,700

330

561,534

66

61,902

396

623,483

Galw am ynni trydanol 2008

923,148

Galw rhagamcanol am ynni trydanol

917,389

Canran y galw am drydan a atebir gan adnodd ynni adnewyddadwy

61%

68%

* Dyma'r adnodd mwyaf, mae'n cynnwys capasiti presennol a 100% o'r potensial.

** Targedau wedi'u seilio ar ganran y potensial mwyaf namyn yr hyn sy'n cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd.

Tabl 9: Crynodeb o'r Adnoddau ar gyfer Trydan Adnewyddadwy

Technoleg Ynni

Ffactor Capasiti Tybiedig

Potensial Mwyaf * 2033

Presennol

Targed Ychwanegol ** 2033

Cyfanswm y Capasiti Gosodedig

Cyfanswm yr Ynni a Gynhyrchir

Capasiti Gwres

(MWt)

Ynni a Gynhyrchir (MWh)

Capasiti Gosodedig (MWt)

Ynni a Gynhyrchir (MWh)

Capasiti Gosodedig (MWt)

Ynni a Gynhyrchir (MWh)

2033 (MW)

2033 (MWh)

Bio-màs Presennol

0.5

36.7

160,953

0

0

0

0

0

0

Boeleri Bio-màs, Pren

0.5

36.3

159,197

0

0

0

0

0

0

Ynni o Wastraff gyda Gwres a Phŵer Cyfunedig

0.5

1.5

6,390

0

0

0

0

0

0

Arall gan gynnwys slyri anifeiliaid, gwasarn dofednod, slwtsh carthion a nwy carthion (Treulio Anaerobig gyda Gwres a Phŵer Cyfunedig)

0.5

3.7

15,990

0.2

986

2.0

8,736

2.2

9,722

Nwy Tirlenwi (gyda Gwres a Phŵer Cyfunedig)

0.5

0

0

0

0

0

0

0

0

Adeilad Integredig

0.2

89.9

157,440

35.0

61,292

11.0

19,230

46.0

80,522

Cyfanswm

35.2

62,278

13.0

27,966

48.2

90,244

Galw am ynni gwres 2008

2,130,266

Galw rhagamcanol am ynni trydanol

1,493,795

Canran y galw thermol a atebir gan adnodd ynni adnewyddadwy

3%

6%

* Dyma'r adnodd mwyaf, mae'n cynnwys capasiti presennol a 100% o'r potensial.

** Targedau wedi'u seilio ar ganran y potensial mwyaf namyn yr hyn sy'n cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd.

Tabl 10: Crynodeb o'r Adnoddau ar gyfer Gwres Adnewyddadwy

Ardaloedd Chwilio Strategol

11.479 TAN 8: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy yn diffinio Ardaloedd Chwilio Strategol ac ystyrir mai'r ardaloedd hyn yw'r lleoliadau mwyaf priodol ar gyfer datblygu ffermydd gwynt ar raddfa fawr. Mae gan Sir Gaerfyrddin ddwy Ardal Chwilio Strategol, Ardal G: Coedwig Brechfa ac Ardal E: Pontardawe. Derbynnir yr egwyddor o ddatblygiadau tyrbinau gwynt ar raddfa fawr a newid cysylltiedig yn y dirwedd o fewn Ardaloedd Chwilio Strategol.

11.480 Gellir disgrifio Coedwig Brechfa fel ardal helaeth o goedwigoedd di-dor, sy'n amrywio o blanhigfeydd coniffer ar draws llwyfandiroedd ucheldirol i goetiroedd llydanddail hynafol mewn dyffrynnoedd serth, cul. Mae'r goedwig yn goedwig weithiol ac yn safle poblogaidd ar gyfer hamdden awyr agored. Mae dwy fferm wynt yn weithredol o fewn y goedwig ar hyn o bryd, sef Alltwalis a Gorllewin Brechfa. Dylid cyfeirio ffermydd gwynt pellach ar raddfa fawr i'r Ardal Chwilio Strategol hon, a chânt eu cefnogi ar yr amod eu bod yn cyd-fynd â meini prawf iv – vii.

11.481 Mae Ardal E: Pontardawe wedi'i lleoli i raddau helaeth o fewn ffiniau gweinyddol Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Mae fferm wynt Mynydd y Betws, sydd wedi'i lleoli o fewn Sir Gaerfyrddin bellach yn gweithredu o fewn rhan o Ardal E: Pontardawe.

Ardaloedd Chwilio Lleol

11.482 Mae'r Asesiad Ynni Adnewyddadwy wedi asesu'r potensial i'r Awdurdod ddarparu ynni adnewyddadwy, ac mae wedi dod i'r casgliad y gallai cynhyrchu trydan ar raddfa fwy o ynni solar ac ynni'r gwynt fod yn ddichonadwy mewn rhannau o'r awdurdod. Nodir yr ardaloedd hyn yn yr Asesiad Ynni Adnewyddadwy, ac fe'u hanodir ar y Map Cynigion fel Ardaloedd Chwilio Lleol. Mae Ardaloedd Chwilio Lleol yn cael eu nodi trwy gymhwyso cyfres o dybiaethau a thrwy gynnal ymarfer mapio a ddefnyddiodd haenau o gyfyngiadau. Ystyrir mai'r ardaloedd hyn yw'r ardaloedd â'r cyfyngiadau lleiaf ar allu o fewn yr Awdurdod er mwyn darparu ynni.

11.483 Mae pedair Ardal Chwilio Leol Solar Ffotofoltäig wedi eu clustnodi fel rhai addas ar gyfer cynlluniau rhwng 5MW a 50MW. Clustnodir Ardaloedd Chwilio Lleol er mwyn annog datblygwyr i ymchwilio ymhellach i'r potensial i gael ffermydd solar yn yr ardaloedd hyn. Bydd angen asesiadau safle-benodol pellach i gynorthwyo unrhyw gais cynllunio ar gyfer datblygiadau o'r fath.

LSA S1

LSA S2

LSA S3

LSA S4

11.483 Ni fydd tir o fewn Ardaloedd Chwilio Lleol yn cael ei ddiogelu ar gyfer cynhyrchu ynni; fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i ddatblygiadau o'r fath lle ceir buddiannau sy'n cystadlu ar yr un pryd.

Technolegau Eraill

11.484 Er bod yr Asesiad Ynni Adnewyddadwy yn cydnabod mai technolegau gwynt a solar sydd â'r potensial mwyaf i gyflenwi ynni adnewyddadwy o fewn y Sir, bydd cynigion ar gyfer technolegau ynni adnewyddadwy eraill, gan gynnwys biomas, ynni o wastraff, pŵer trydan dŵr a nwy tirlenwi hefyd yn cael eu hystyried yn ffafriol, yn amodol ar fodloni darpariaethau'r polisi hwn.

Ystyriaethau Lleoliadol

11.485 Wrth asesu effaith gronnol cynigion, bydd unrhyw niwed annerbyniol i'r dirwedd, effaith weledol, sŵn, ecoleg a dŵr wyneb a dŵr daear hefyd yn cael ei ystyried yn erbyn datblygiadau ynni adnewyddadwy a charbon isel eraill.

11.486 Dylid ystyried amwynder preswylwyr a meddianwyr eiddo cyfagos, a dylid lleihau unrhyw niwsans posibl sy'n deillio o'r datblygiad a'i seilwaith cysylltiedig i'r eithaf. Ni chaniateir cynigion a fyddai'n arwain at niwsans annerbyniol o ganlyniad i weithredu datblygiad o'r fath, megis sŵn, risg i ddiogelwch, ymyrryd â signalau radio, telathrebu neu awyrennau, cysgodion symudol o dyrbinau gwynt a phelydrau a golau tanbaid o baneli solar.

11.487 Bydd angen i gynigion sicrhau nad ydynt yn achosi problemau o ran diogelwch ar y priffyrdd nac yn cael effaith niweidiol ar y rhwydwaith priffyrdd o ganlyniad i draffig adeiladu a chynnal a chadw. Wrth leoli datblygiad, dylid diogelu llwybrau ceffylau a llwybrau troed presennol heb unrhyw golled barhaol i'w hyd a'u hansawdd. Bydd angen dargyfeirio hawliau tramwy cyhoeddus dros dro ac yn briodol yn ystod y cyfnod adeiladu. Rhoddir anogaeth i wella cyfleusterau hamdden presennol a darparu rhai newydd.

11.488 Bydd Canllawiau Cynllunio Atodol yn cael eu cynhyrchu i ymhelaethu ar ddarpariaethau'r polisi hwn.

Polisi CCH2 – Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan

Bydd yn ofynnol i gynigion datblygu gynnwys gosod soced trydan sy'n addas ar gyfer gwefru cerbydau trydan

  1. Datblygiadau Preswyl

Tai

Lle darperir garej, dreif neu fan parcio wedi'i neilltuo gyda thai, dylid darparu un Uned Gwefru Cerbyd Trydan* i bob annedd.

Fflatiau (mannau parcio heb eu neilltuo)

Os oes gan ddatblygiad fflatiau fannau parcio integredig (dan do neu mewn cwrt parcio), dylai'r cynigion gynnwys o leiaf un man parcio pwrpasol gydag Uned Gwefru Cerbydau Trydan yn Gyflym i wasanaethu'r datblygiad.

  1. Datblygiadau Dibreswyl

Ar gyfer datblygiadau dibreswyl lle darperir mannau parcio ceir, dylai o leiaf 10% o'r mannau hynny fod â phwynt gwefru Cerbyd ag Allyriadau Isel Iawn. Dylid darparu pwyntiau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan lle mae'r rhwydwaith trydan lleol yn gallu cefnogi hyn yn dechnegol.

11.489 Mae polisi cenedlaethol ar ffurf Polisi Cynllunio Cymru'n gosod agenda sy'n ceisio symud tuag at newid i ddulliau trafnidiaeth ar y ffyrdd sy'n cynhyrchu allyriadau isel neu ddim allyriadau. Yn hyn o beth, mae'n cydnabod rôl pwyntiau gwefru trydanol o ran cyflawni'r newid hwnnw[[1]].

11.490 Wrth arddel y farn hon mae'n argymell mabwysiadu ymagwedd gynaliadwy sy'n cydbwyso anghenion byrdymor yn erbyn amcanion hirdymor mewn perthynas ag ystyriaethau megis lleihau amlygiad y cyhoedd i lygredd yn yr awyr, llygredd sŵn ac ati fel rhan o'r gwaith o baratoi cynlluniau datblygu.

11.491 Fel a adlewyrchir yn ffigur 12 isod, mae polisi Llywodraeth Cymru yn nodi hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy mewn perthynas â datblygiadau newydd. Mae'r hierarchaeth hon yn cydnabod rôl Cerbydau ag Allyriadau Isel Iawn o ran datgarboneiddio trafnidiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig[[2]].

output

Ffigur 12: Yr Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy ar gyfer Cynllunio

11.492 Mae'r CDLl hwn yn cydnabod amrywiaeth cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin gan nodi'n arbennig y nodweddion gwledig yn bennaf sy'n nodweddu llawer o'i hardal. Fel a adlewyrchir ym Mholisi Cynllunio Cymru, mae ardaloedd o'r fath yn aml yn galw am wahanol ymagweddau lle mae trafnidiaeth gynaliadwy yn y cwestiwn ac mae angen i ddatblygiadau newydd adlewyrchu amgylchiadau lleol. Er enghraifft, wrth ddatblygu strategaeth y CDLl, rhoddwyd ystyriaeth i'r potensial ar gyfer twf mewn ardaloedd gwledig ac mae'r broses o nodi safleoedd wedi rhoi sylw i'r hierarchaeth, gan gynnwys mesurau i annog y defnydd o Gerbydau ag Allyriadau Isel Iawn. Yn hyn o beth, mae'r polisi uchod yn rhoi ffocws clir ar fynediad i gerbydau o'r fath fel amcan polisi cadarnhaol ar gyfer datblygiadau ledled yr awdurdod, gan gynnwys mewn cymunedau gwledig.

11.493 Mae'r Cynllun yn cydnabod effeithiau'r newid yn yr hinsawdd a'r newid i ddatgarboneiddio gyda'r angen i hybu mynediad at ddulliau trafnidiaeth amgen yn unol â darpariaethau polisi cenedlaethol. Mae 35% o drigolion Sir Gaerfyrddin yn byw mewn ardaloedd gwledig gyda 65% o'r arwynebedd tir wedi'i ddynodi'n wledig. Mae natur wledig llawer o Sir Gaerfyrddin felly wedi bod yn ystyriaeth allweddol wrth ddatblygu'r strategaeth a dosbarthiad y twf.

11.494 Mae natur wledig yn her arbennig ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, gyda'r poblogaethau gwasgaredig yn y rhan fwyaf o ardaloedd a chymunedau gwledig, yn cael eu gwasanaethu gan wasanaeth amlder isel.

11.495 Er y cydnabyddir y gall hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy ac yn wir datgarboneiddio trafnidiaeth yn y pen draw gael ei gyflawni mewn llawer o ardaloedd trefol rhaid iddo beidio â datgymalu'r cysylltiadau rhwng cymunedau trefol a gwledig ymhellach[[3]]. Mewn perthynas â'n cymunedau o fewn ardaloedd gwledig mae'r Cynllun yn ceisio cyflawni datblygu cynaliadwy mewn ffordd sy'n cyfeirio at ddulliau trafnidiaeth newydd ac amgen ac yn eu hintegreiddio gan gynnwys hyrwyddo cerbydau ag allyriadau isel iawn. Lle mae gan gartref fan parcio wedi'i neilltuo ar ffurf garej neu ddreif/man parcio, fel gofyniad lleiaf dylid darparu soced 16 Amp naill ai mewn garej neu'n agos at fan parcio penodol wedi'i neilltuo ar gyfer ceir. Os nad oes garej, dylid darparu soced allanol ar y wal.

11.496 Dylai cynigion ar gyfer datblygiadau dibreswyl a masnachol gynnwys, fel y gofyniad lleiaf, bwyntiau gwefru ar gyfer 10% o'r mannau parcio ceir. Wrth weithredu'r gofyniad hwn, rhoddir sylw i ddarpariaethau PCC, Rhifyn 10: Paragraff 4.1.39. Nodyn: soced 32 Amp. Mae unedau gwefru annibynnol masnachol yn darparu 2 wefrydd.

CCH3: Ansawdd Dŵr a Diogelu Adnodau Dŵr

Caniateir cynigion ar gyfer datblygu lle nad ydynt yn peryglu neu'n arwain at ddirywiad yn yr adnodd dŵr neu ansawdd y dyfroedd a reolir. Lle bo hynny'n briodol, bydd disgwyl i gynigion gyfrannu at wella ansawdd dŵr.

Bydd cyrsiau dŵr yn cael eu diogelu trwy barthau neu goridorau clustogi ecolegol i ddiogelu agweddau megis cynefinoedd a rhywogaethau afonol, ansawdd dŵr, a darparu ar gyfer cynhwysedd gorlifdir. Caniateir cynigion lle nad ydynt yn cael effaith niweidiol ar gadwraeth natur, pysgodfeydd, mynediad ar gyfer y cyhoedd, neu ddefnyddio'r afonydd yn y Sir at ddibenion hamdden sy'n ymwneud â dŵr.

Rhaid i gynigion datblygu ddefnyddio adnoddau dŵr yn effeithlon a, lle bo'n briodol, cyfrannu at welliannau i ansawdd dŵr. Rhaid gweithredu Systemau Draenio Cynaliadwy lle y bo'n briodol ac mae gofyn cael cymeradwyaeth drwy'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy.

11.497 Mae dŵr fel adnodd yn hynod werthfawr ac mae materion fel llygryddion, atal llifogydd, dŵr daear a diogelu a gwella ecosystemau dyfrol i gyd yn ystyriaethau pwysig a adlewyrchir gan ddeddfwriaeth a chanllawiau. Mae'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (2000/60/EC) yn nodi'r gofynion mewn perthynas â'r amgylchedd dŵr a dylid rhoi ystyriaeth lawn i'w chynnwys.

11.498 Gall llygredd dŵr ac ansawdd dŵr gwael o ganlyniad i hyn fod o un ffynhonnell, neu o ffynonellau gwasgaredig, megis o ddŵr ffo amaethyddol a threfol. Mae'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr wedi rhoi'r cyfle i weithio gyda sefydliadau partner, yn enwedig Cyfoeth Naturiol Cymru, i gydnabod yr angen i wella'r amgylchedd dŵr cyfan a hybu defnydd cynaliadwy o ddŵr er budd pobl a byd natur. Paratowyd Cynlluniau Rheoli Basn Afon sy'n nodi amcanion a safonau amgylcheddol, a rhaglen o fesurau ar gyfer eu cyflawni.

11.499 Mae Dwr Cymru Welsh Water (DCWW) yn gyfrifol am gyflenwi a thrin dŵr o fewn y Sir. Mae DCWW yn parhau i ateb galw cynyddol am wasanaethau carthffosiaeth trwy fecanweithiau deddfwriaethol a rheoleiddiol, a buddsoddi yn y cyflenwad/galw fel a nodir o fewn y Rhaglen Rheoli Asedau. Bydd y buddsoddiad trwy'r Rhaglen Rheoli Asedau yn cefnogi twf ac adfywio yn y dyfodol.

11.500 Mewn perthynas â Safle Morol Ewropeaidd Bae ac Aberoedd Caerfyrddin (SMEBAM), dylid cyfeirio at Bolisi INF4. Paratowyd CCA Cilfach Tywyn i ymhelaethu ar y Cynllun hwn. Mae'n ceisio cydbwyso ystyriaethau amgylcheddol a datblygiadol gyda'r bwriad o hwyluso'r gwaith o gyflawni twf o fewn y CDLl diwygiedig hyd at 2033.

11.501 Mae'r gydnabyddiaeth bod ystyriaethau amgylcheddol yn gysylltiedig â thwf yn un gysyniadau allweddol datblygu cynaliadwy. O gofio bod yr Awdurdod eisoes wedi ystyried effaith dyraniadau ac ymrwymiadau'r Cynllun a bod y gallu i gyflawni wedi'i gadarnhau, mae 'r Polisi hwn yn syml yn fodd i archwilio materion ar lefel prosiectau neu geisiadau fesul safle, fel a lle y bo'n briodol. Mae'r Polisi hwn yn ceisio rhoi modd i'r Awdurdod ystyried rhinweddau'r cynigion a gyflwynir o fewn cyfnod y cynllun nad ydynt wedi'u nodi yn y Cynllun ar hyn o bryd.

11.502 Gellir gwella ansawdd dŵr trwy nifer o fesurau gan gynnwys dylunio, adeiladu a gweithredu systemau carthffosiaeth yn effeithiol, defnyddio gwlypdiroedd neu fannau gwyrdd ar gyfer lliniaru llifogydd, a defnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy. Byddai hyrwyddo arferion da amaethyddol hefyd yn cyfrannu at welliannau mewn ansawdd. Lle bo hynny'n briodol ac yn gymwys i'r system gynllunio, mae'r Cynllun hwn yn nodi mesurau y gellir eu gweithredu.

11.503 Dylai cynigion geisio ymgorffori technegau arbed dŵr, lle bynnag y bo'n bosibl, gan gynnwys cynaeafu dŵr glaw ac ailgylchu dŵr llwyd.

11.504 Mae'r gofynion adnoddau dŵr ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn cael eu cyflenwi'n gyfan gwbl gan DCWW, ac mae'r Sir yn gorwedd o fewn system defnydd cysylltiadol Tywi (Parth Adnoddau Dŵr Tywi). Mae'r Cynllun Rheoli Adnoddau diweddaraf gan DCWW yn darogan y bydd gan Barth Adnoddau Dŵr Tywi warged trwy gydol cyfnod y CDLl, yn seiliedig ar y cynnydd a ragwelir yn niferoedd yr aelwydydd yn Sir Gaerfyrddin o 14.6% rhwng 2014 a 2039, gyda chynnydd o 82,751 i 89,532 rhwng 2018 a 2033. Mae'r rhagolwg twf cyffredinol hwn yn fwy na'r twf y darperir ar ei gyfer yn y CDLl.

11.505 Bydd angen mynd ati'n barhaus i fonitro materion sy'n ymwneud ag echdynnu a chyflenwad dŵr, er mwyn sicrhau bod y twf a nodir yn y CDLl hwn yn gymesur ag argaeledd yr adnodd, y tu hwnt i'r mesurau diogelu a ddarperir trwy'r polisi hwn.

11.506 Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gydag ac ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru a DCWW ar gynigion datblygu fel y bo'n briodol. Bydd y Cyngor hefyd yn ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru ar gynigion datblygu yng nghyffiniau coridorau afonydd ac aberoedd. Dylai darpar ddatblygwyr ofyn am gyngor a chydsyniad Cyfoeth Naturiol Cymru pan fo hynny'n briodol. Os yw cynigion yn ymwneud â phrif afon neu gwrs dŵr cyffredin, dylid ymgorffori'r gofyniad am ddull clustogi priodol sy'n ffinio â'r ddwy lan mewn unrhyw gynigion i ddiogelu ac annog bioamrywiaeth leol.

11.507 Fel bob amser, dylai cynigion fodloni polisïau a darpariaethau'r Cynllun yn ei gyfanrwydd. Fodd bynnag, gellir cyfeirio'n benodol at Bolisi Strategol 13 – Cynnal a Gwella'r Amgylchedd Naturiol, yn fwyaf nodedig mewn perthynas â safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer cadwraeth natur. Mae cyfleoedd penodol i gydnabod a chofleidio seilwaith gwyrdd fel rhan o ddull creu lleoedd.

CCH4: Rheoli Perygl ac Osgoi Llifogydd

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir cynigion ar gyfer datblygiadau sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd lle ceir perygl llifogydd dynodedig, sef:

  1. Mewn ardaloedd sy'n wynebu perygl llifogydd afonol, glaw, arfordirol ac o gronfeydd dŵr, lle gellir dangos bod y datblygiad yn bodloni'r profion cyfiawnhau a nodir mewn Polisi Cenedlaethol[42] a lle caiff ei ategu gan ddatganiad tystiolaethol technegol cadarn.
  2. Lle na fyddai'n cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd amddiffynfeydd presennol rhag llifogydd afonol, glaw neu arfordirol, neu na fyddai'n rhwystro mynediad at amddiffynfeydd presennol ac amddiffynfeydd yn y dyfodol at ddibenion cynnal a chadw a gwaith brys;
  3. Lle na fyddai'r datblygiad yn arwain at gynnydd annerbyniol mewn perygl llifogydd ar y safle neu yn rhywle arall; neu,
  4. Mewn ardaloedd sy'n wynebu perygl llifogydd o ffynonellau lleol, caiff strategaeth ddraenio ei chyflwyno sy'n dangos wrth fodd y Cyngor y gellir rheoli neu leddfu'r effeithiau.

Dylai cynigion geisio ymgorffori mesurau lliniaru perygl llifogydd sy'n effeithiol ac yn gydnaws â'r amgylchedd, fel Systemau Draenio Cynaliadwy.

Dylid ymgorffori cynigion lle mae'r posibilrwydd o ailgysylltu gorlifdiroedd yn y datblygiad i sicrhau y manteisir i'r eithaf ar gyfleoedd, ac na cheir effaith niweidiol ar y gallu i storio a llif dŵr mewn gorlifdiroedd.

11.508 Mae'r mwyafrif o aneddiadau yn Sir Gaerfyrddin wedi eu lleoli ger afonydd neu'r arfordir. Mae hyn yn adlewyrchu'r patrwm datblygu hanesyddol ac er na all y cynllun ddylanwadu ar batrymau gofodol y gorffennol, gall helpu i lywio'r penderfyniadau gyda llesiant cenedlaethau'r dyfodol mewn golwg.

11.509 Er bod dealltwriaeth am lifogydd afonol a llanwol a chydnabyddiaeth iddynt wedi bod yn ymhlyg mewn arfer cynllunio ers blynyddoedd lawer, ceir ymwybyddiaeth gynyddol bellach o ffynonellau llifogydd eraill – yn enwedig dŵr wyneb. Gall y ffynonellau eraill hyn effeithio ar aneddiadau nad ydynt yn agos at afon neu'r arfordir.

11.510 Mae'r polisi, a chyfeiriad strategol y Cynllun, yn cydnabod ac yn adlewyrchu'r angen am ddull cynaliadwy o ymdrin â pherygl llifogydd. Gan hynny, mae'r Cynllun hwn yn blaenoriaethu diogelu'r gorlifdir annatblygedig neu ddirwystr rhag datblygu ac yn ceisio atal effeithiau cronnol datblygiad cynyddrannol[43]. Fodd bynnag, mae hefyd yn ceisio cydnabod bod dynameg perygl llifogydd yn gymhleth ac yn ymestyn y tu hwnt i'r goblygiadau ar y safle o ran lleoli datblygiad unigol.

11.511 Mae'r Cynllun yn rhoi sylw i ddarpariaethau polisi cynllunio cenedlaethol ar berygl llifogydd a defnyddiwyd dull rhagofalus wrth lunio polisïau sy'n nodi dynodiadau defnydd tir a chynigion safle benodol. Mae'r Cynllun hefyd yn ceisio cydnabod natur ddynamig perygl llifogydd ond hefyd eu cyfraniad hanfodol i nodweddion amgylcheddol, bioamrywiaeth, rhwydwaith seilwaith gwyrdd, a gwerth tirwedd cynhenid y Sir.

11.512 Cydnabyddir cyfraniad prosesau sianeli naturiol ac mae'r polisi'n rhoi anogaeth i ailgysylltu gorlifdiroedd. O ganlyniad, dylid cynllunio datblygiadau, yn arbennig seilwaith newydd, mewn ffordd nad yw'n arwain at golled net yng ngallu storio gorlifdiroedd, yn rhwystro llifoedd dŵr nac yn cynyddu perygl llifogydd mewn mannau eraill[44]. Dylid rhoi sylw i Weithio gyda Photensial Ail-gysylltu Gorlifdiroedd Prosesau Naturiol (WWNP)[45].

11.513 Nodir polisi cenedlaethol mewn perthynas â pherygl llifogydd yn Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu a Pherygl Llifogydd (2004). Nodir yr ardaloedd lle ceir perygl llifogydd afonol a llanwol ar y Mapiau Cyngor Datblygu sy'n cyd-fynd â'r nodyn. Caiff yr ardaloedd hyn eu categoreiddio'n 4 parth, sef Parth A, Parth B, ac yn fwyaf nodedig Parthau C1 ac C2 sy'n fwy tueddol o brofi llifogydd.

11.514 Bydd datblygiadau mewn ardaloedd lle ceir perygl mawr o lifogydd yn cael eu hystyried dim ond lle gellir dangos y gall y safle gydymffurfio â'r gofynion cyfiawnhau ac asesu a nodir yn TAN 15. Dim ond datblygiadau sydd dan lai o fygythiad fydd yn cael eu caniatáu o fewn Parth C2. Lle cynigir datblygiad mewn ardal o berygl llifogydd dynodedig, rhaid cyflwyno datganiad technegol i gyd-fynd ag ef er mwyn bodloni darpariaethau TAN15 a dangos yn glir y bydd y datblygiad newydd yn lliniaru bygythiad a chanlyniadau llifogydd.

CCH5: Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel mewn Datblygiadau Newydd

Caiff cynigion datblygu sy'n cysylltu â ffynonellau ynni adnewyddadwy presennol, rhwydweithiau gwresogi ardal, neu sy'n defnyddio technoleg carbon isel eu cefnogi.

Bydd yn ofynnol i gynigion datblygu sy'n cynnwys: datblygiad preswyl o 100 o dai neu fwy; neu ddatblygiad gyda chyfanswm arwynebedd llawr o 1000metr sgwâr neu fwy; gyflwyno Asesiad Ynni i benderfynu ar ddichonoldeb ymgorffori cynllun o'r fath, a lle y bo'n ymarferol, byddai'n ofynnol iddynt weithredu'r cynllun.

Bydd datblygiadau mawr sy'n defnyddio ynni sylweddol yn cael eu hannog i hwyluso'r broses o ddatblygu Rhwydweithiau Gwresogi ac Oeri Ardal arfaethedig, a/neu gysylltu â hwy.

11.515 Mae'r polisi hwn yn ceisio rhoi anogaeth i ymgorffori ynni adnewyddadwy a charbon isel ym mhob datblygiad newydd.

11.516 Bydd Asesiad Ynni yn ymchwilio i'r potensial i ymgorffori a defnyddio technoleg carbon isel, neu i ddefnyddio ffynonellau presennol ynni adnewyddadwy neu rwydweithiau gwresogi ardal. Bydd yn ofynnol bod asesiadau'n dangos sut y gall y datblygiad wneud cyfraniad tuag at lefelau uwch o gynhyrchu ynni o ffynonellau adnewyddadwy neu garbon isel.

11.517 Bydd arweiniad pellach yn cael ei ddarparu yn y Canllawiau Cynllunio Atodol Ynni Adnewyddadwy a Charbon Isel.

CCH6: Y Newid yn yr Hinsawdd – Plannu Coedwigoedd, Coetiroedd a Choed

Rhoddir cefnogaeth i gynigion i greu a diogelu coetiroedd, coedwigoedd, lleiniau a choridorau coed newydd lle maent yn ceisio hybu'r gwaith o gyflawni uchelgeisiau cenedlaethol a lleol o ran y newid yn yr hinsawdd a datgarboneiddio.

Bydd cynigion ar gyfer plannu coed sy'n ceisio cyfrannu at leihau perygl llifogydd yn cael eu cefnogi hefyd.

11.518 Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi targed i gynyddu'r gorchudd coetir yng Nghymru o leiaf 2,000 hectar y flwyddyn o 2020. Mae'r polisi hwn yn ceisio adlewyrchu'r amcan cenedlaethol hwn a'r ymrwymiad i greu coedwig genedlaethol. Ceir cyfleoedd i greu cysylltiadau â seilwaith gwyrdd, ymgorffori cyfleusterau teithio llesol a gwella cyfleoedd twristiaeth a hamdden, yn ogystal â hybu gwell bioamrywiaeth, cysylltedd a chydnerthedd ecosystemau.

11.519 Mae coed, coedwigoedd a choetiroedd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ecosystemau, megis gwella ansawdd aer, darparu effaith oeri a chysgod yn yr haf, lleihau sŵn, dal a storio carbon a chynyddu cydnerthedd yn wyneb yl newid yn yr hinsawdd. Mae coed, coedwigoedd a choetiroedd hefyd yn cynnig gwerth esthetig ac amwynder, a gallant weithredu fel nodweddion ar y dirwedd yn ein haneddiadau a chefn gwlad agored. Maent yn cyfrannu at gadwraeth natur ac yn cynyddu bioamrywiaeth, ac yn aml mae iddynt werth hanesyddol a hamdden. Maent hefyd yn helpu i greu ymdeimlad o 'lesiant'.

11.520 Gall plannu coed, coetiroedd a choedwigoedd fod o gymorth i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â pherygl llifogydd, gan roi ateb peirianegol meddal y gellir ei gyflawni ar wahân neu ar y cyd â seilwaith caled (strwythurau o waith dyn).

11.521 Mae coed yn cael eu cydnabod fel ffactor sy'n lleihau perygl llifogydd o'r brig i'r gwaelod. Mae'r dail yn lleihau llifogydd mewn dwy ffordd: anweddu; ac, arafu cyfradd llif y dŵr i mewn i afonydd. Ar yr un pryd mae'r gwreiddiau'n helpu i ddraenio dŵr gan leihau'r swm sy'n cyrraedd yr afon, gan hefyd ddal pridd yn ei le sy'n lleihau'r pridd sy'n cyrraedd yr afon gan effeithio ar ei llif. Bydd disgwyl i gynigion ddangos sut y byddant yn cyfrannu at liniaru perygl llifogydd.

11.522 Mae'r Cynllun yn cefnogi plannu math, graddfa, dyluniad, cyfansoddiad oedran a chymysgedd rhywogaethau sy'n briodol i'r ardal leol. Bydd yn ofynnol i gynigion ystyried yr effaith ar dirwedd neu werth cadwraeth natur ardal neu ei threftadaeth hanesyddol adeiledig. Os bydd effaith yn niweidiol, ni fydd y cynnig yn cael ei gefnogi.


Polisi Strategol – SP16: Dosbarthiad Cynaliadwy – Fframwaith Aneddiadau

Caiff y ddarpariaeth o ran twf a datblygiad ei chyfeirio at leoliadau cynaliadwy yn unol â'r Fframwaith Gofodol canlynol.

Clwstwr 1

Clwstwr 2

Clwstwr 3

Clwstwr 4

Clwstwr 5

Clwstwr 6

Haen 1 – Prif Ganolfan

Caerfyrddin

  • Llanelli
  • Rhydaman/

Crosshands

Haen 2 – Canolfan Gwasanaethau

  • Pont-iets /

Y Meinciau /

Pont-henri

  • Glanyfferi
  • Cydweli
  • Porth Tywyn
  • Pen-bre
  • Yr Hendy / Fforest
  • Llangennech
  • Trimsaran/
  • Carwe
  • Brynaman
  • Glanaman /

Y Garnant

  • Pontyberem /

Bancffosfelen

  • Castell-newydd Emlyn
  • Llanybydder
  • Pencader
  • Llanymddyfri
  • Llandeilo / Rhosmaen / Ffair-fach
  • Llangadog
  • Sanclêr/ Pwll-trap
  • Hendy Gwyn ar Daf
  • Talacharn

Haen 3 – Pentrefi Cynaliadwy

  • Cynwyl Elfed
  • Llan-y-bri
  • Llansteffan
  • Bronwydd
  • Cwm-ffrwd
  • Llangyndeyrn
  • Brechfa
  • Llangain
  • Idole / Pentrepoeth
  • Peniel
  • Alltwalis
  • Llanpumsaint
  • Llandyfaelog
  • Rhydargaeau
  • Llanarthne
  • Capel Dewi
  • Nantgaredig
  • Pontargothi
  • Llanddarog
  • Porth-y-rhyd
  • Cwmduad
  • Mynyddygarreg
  • Pump-hewl / Horeb
  • Llan-saint / Broadway
  • Carmel
  • Cwmgwili
  • Foelgastell
  • Ystradowen
  • Llannon
  • Llanedi
  • Drefach / Felindre
  • Waungilwen
  • Llangeler
  • Pentre-cwrt
  • Saron/Rhos
  • Llanllwni
  • Cwm-ann
  • Capel Iwan
  • Llanfihangel-ar-arth
  • Tre-lech
  • Pont-tyweli
  • Cenarth
  • New Inn
  • Caio
  • Ffarmers
  • Llansawel
  • Talyllychau
  • Cwrt-henri
  • Llanfynydd
  • Llanwrda
  • Cwmifor
  • Salem
  • Abergorlech
  • Llanboidy
  • Glandy Cross
  • Efail-wen
  • Llangynin
  • Meidrim
  • Bancyfelin
  • Llangynog
  • Pentywyn
  • Llanddowror
  • Llanmilo

Clwstwr 1

Clwstwr 2

Clwstwr 3

Clwstwr 4

Clwstwr 5

Clwstwr 6

Haen 4 – Pentrefi Gwledig

(Dim terfynau datblygu)

  • Hermon
  • Aber-nant
  • Blaen-y-coed
  • Bancycapel
  • Nant-y-caws
  • Croesyceiliog
  • Crwbin
  • Felin-gwm Uchaf
  • Felin-gwm Isaf
  • Llanegwad
  • Pontantwn
  • Nebo
  • Talog
  • Pen-y-bont
  • Y Felin Wen
  • Pont-newydd
  • Pont-ar-sais
  • Cynheidre
  • Pedair-hewl
  • Penymynydd
  • Capel Seion
  • Derwydd
  • Heol Ddu
  • Maes-y-bont
  • Milo
  • Pant-llyn
  • Pentregwenlais
  • Temple Bar
  • Cefn-bryn-brain
  • Rhosaman
  • Drefach (Llandyfan)
  • Stag and Pheasant
  • Mynyddcerrig
  • Pen-boyr
  • Drefelin
  • Cwm-pen-graig
  • Cwmhiraeth
  • Pentrecagal
  • Gwyddgrug
  • Dolgran
  • Bancyffordd
  • Bryn Iwan
  • Pencarreg
  • Ffaldybrenin
  • Crug-y-bar
  • Cwm-du
  • Ashfield Row
  • Felindre (Llangadog)
  • Cynghordy
  • Gelli Aur
  • Derwen-fawr
  • Trap
  • Maenordeilo
  • Pen-y-banc
  • Felindre, (Dryslwyn)
  • Dryslwyn
  • Rhydcymerau
  • Waunystrad Meurig
  • Bethlehem
  • Capel Isaac
  • Llangathen
  • Llansadwrn
  • Rhandir-mwyn
  • Porth-y-rhyd
  • Pumsaint
  • Cil-y-cwm
  • Cwmfelin Mynach
  • Cwm-bach
  • Blaen-waun
  • Llanglydwen
  • Cwmfelin-boeth
  • Cross Inn
  • Llansadurnen
  • Broadway
  • Rhos-goch
  • Llanfallteg

Tabl 11: Hierarchaeth Aneddiadau


11.523 Mae'r Cynllun yn ceisio dosbarthu twf a datblygiad yn ofodol ar draws y Sir, gydag aneddiadau'n cael eu dyrannu i un o 6 chlwstwr o fewn yr hierarchaeth. Mae'r dull seiliedig ar glystyrau'n hyblyg o ran dosrannu twf newydd ac mae'n osgoi unrhyw dybiaeth bod rhaid i bob anheddiad ym mhob haen gyfrannu at dwf. Rhoddwyd sylw hefyd i aneddiadau trawsffiniol, a sut y maent yn effeithio ar rôl a swyddogaeth aneddiadau ffiniol Sir Gaerfyrddin. Mae'r rhain yn cynnwys: Pontarddulais, Llanbedr Pont Steffan, Adpar, Arberth a Llandysul. Cyfeirir at y sail dystiolaeth mewn perthynas â dosbarthiad tai.

11.524 Er y bydd y rhan fwyaf o'r datblygiadau'n cael eu cyfeirio at haenau uchaf yr hierarchaeth aneddiadau, cydnabyddir amrywiaeth y Sir a rhoddir sylw i dai mewn ardaloedd gwledig, a gwerth ardaloedd o'r fath o fewn y Sir. O fewn pentrefi gwledig (Haen 4) ac aneddiadau nas diffiniwyd, bydd datblygiadau tai newydd yn gyfyngedig i gyfleoedd ar raddfa fach. Cyfeirir at bolisi HOM3 a HOM4 y Cynllun hwn.

11.525 Er bod yr uchod yn cyfeirio'n benodol at dwf preswyl, bydd y fframwaith aneddiadau, ar y cyd â pholisïau penodol, hefyd yn rhoi arweiniad wrth ystyried lleoliadau cynaliadwy priodol – gyda mynediad at wasanaethau a chyfleusterau – a graddfa datblygiadau eraill (gan gynnwys cyflogaeth).

11.526 Mae'r canlynol yn nodi amlinelliad dangosol o natur datblygiadau sy'n debygol fesul haen gan gynnwys eu graddfa a'u math:

Prif Ganolfannau

Safleoedd Strategol

Ardaloedd Cyflogaeth mawr a bach

Dyraniadau Tai

Safleoedd tai bach (o dan 5 tŷ);

Darpariaeth Tai Fforddiadwy ar safleoedd â 5 uned neu fwy

Cyfleoedd tai ar hap

Canolfannau Gwasanaethau:

Ardaloedd Cyflogaeth ar Raddfa Fach

Dyraniadau Tai

Darpariaeth Tai Fforddiadwy ar safleoedd â 5 uned neu fwy

Safleoedd tai bach (o dan 5 tŷ);

Cyfleoedd tai ar hap

Pentrefi Cynaliadwy:

Dyraniadau Tai

Tai fforddiadwy ar safleoedd o 5 uned neu fwy

Safleoedd tai bach (o dan 5 tŷ);

Cyfleoedd tai ar hap

Cynlluniau Eithriadau Gwledig ar Raddfa Fach ar gyfer Tai Fforddiadwy sy'n ffinio â ffiniau aneddiadau

Pentrefi Gwledig (Dim Terfynau Datblygu):

Safleoedd bach – tai drwy fewnlenwi neu estyniadau/cwblhau rhesymegol.

Cynlluniau Eithriadau Gwledig ar Raddfa Fach ar gyfer Tai Fforddiadwy

Aneddiadau Gwledig Nas Diffiniwyd:

Tai fforddiadwy anghenion lleol a Chynlluniau Eithriadau Gwledig ar Raddfa Fach ar gyfer Tai Fforddiadwy.

SD1: Terfynau Datblygu

Caiff terfynau datblygu eu diffinio ar gyfer yr aneddiadau hynny a nodwyd fel prif ganolfannau, Canolfannau Gwasanaethau a Phentrefi Cynaliadwy o fewn Polisi Strategol SP16.

Caniateir cynigion o fewn Terfynau Datblygu diffiniedig, yn amodol ar bolisïau a chynigion y Cynllun hwn, polisïau cenedlaethol ac ystyriaethau cynllunio perthnasol eraill.

11.527 Wrth baratoi'r Cynllun hwn, diffiniwyd terfynau datblygu ar draws pob anheddiad o fewn Haenau 1, 2 a 3 er mwyn:

  • Atal datblygiadau amhriodol yng nghefn gwlad a rhoi sicrwydd ac eglurder o ran ble y gellir ystyried bod cynigion eithriadau (ar bwys terfynau) yn briodol;
  • Atal cyfuno aneddiadau (neu rannau ar wahân o'r un anheddiad), datblygiad hirgul neu ddatblygiad tameidiog.
  • Nodi'r ardaloedd hynny lle byddai cynigion datblygu yn cael eu caniatáu (gweler uchod); a,
  • Hybu defnydd effeithiol a phriodol o dir gan ganolbwyntio twf o fewn aneddiadau diffiniedig.

11.528 Ni yw'r holl dir ar Fap Cynigion a Mapiau Mewnosod wedi'i adnabod ar gyfer datblygiad penodol, nac yn ddarostyngedig i bolisi penodol. Gall ardaloedd sylweddol o dir ymddangos fel tir heb ei anodi yn y Cynllun. Caiff cynigion ar gyfer datblygu eu hystyried ar sail eu rhinweddau unigol yn erbyn darpariaethau'r CDLl hwn, ac ystyriaethau perthnasol eraill.


Polisi Strategol – SP 17: Trafnidiaeth a Hygyrchedd

Er mwyn sicrhau datblygu sy'n gynaliadwy ac y gellir ei gyflawni, mae angen rhwydwaith trafnidiaeth integredig, hygyrch, dibynadwy, effeithlon, diogel a chynaliadwy i danategu'r broses gyflawni. Felly, mae'r Cynllun yn cyfrannu at ddarparu system trafnidiaeth gynaliadwy a seilwaith cysylltiedig trwy:

  1. Lleihau'r angen i deithio, yn enwedig mewn cerbyd modur preifat;
  2. Mynd i'r afael â chynhwysiant cymdeithasol trwy wella mynediad at gyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau;
  3. Cefnogi a, lle y bo'n berthnasol, gwella dewisiadau eraill yn lle'r car modur, megis trafnidiaeth gyhoeddus (gan gynnwys cyfleusterau parcio a theithio a hybu'r arfer o fabwysiadu cynlluniau teithio) a theithio llesol trwy feicio a cherdded;
  4. Ail-orfodi swyddogaeth a rôl aneddiadau yn unol â'r fframwaith aneddiadau
  5. Hyrwyddo defnydd effeithlon o'r rhwydwaith trafnidiaeth;
  6. Gwella hygyrchedd mannau cyflogaeth, tai, gwasanaethau, cyfleusterau a chynigion sy'n creu teithiau sylweddol mewn lleoliadau sydd â mynediad at seilwaith trafnidiaeth priodol;
  7. Ymgorffori datrysiadau dylunio a mynediad o fewn datblygiadau i hyrwyddo hygyrchedd;
  8. Darparu llwybrau cerdded a beicio, gan gysylltu â rhwydweithiau teithio llesol a seilwaith gwyrdd;
  9. Darparu datrysiadau technolegol newydd trwy Bwyntiau Gwefru Cerbydau ag Allyriadau Isel Iawn mewn datblygiadau newydd; a,
  10. Mabwysiadu ymagwedd gynaliadwy tuag at ddyluniad, swyddogaeth a chynllun datblygiadau newydd, gan gynnwys darparu lefelau priodol o leoedd parcio.

11.529 Mae'r CDLl a'r Polisi yn cydnabod y rôl symud, cysylltedd, eglurder a'u cysylltiadau trafnidiaeth cysylltiedig, yn enwedig ar draws Sir mor amrywiol â Sir Gaerfyrddin. Mae strategaeth y CDLl yn adlewyrchu ac yn hyrwyddo egwyddorion cynaliadwyedd a hygyrchedd gwasanaethau a chyfleusterau hanfodol gyda'r nod o sicrhau aneddiadau hyfyw, hunangynhaliol a chymunedau cynaliadwy, gan gynyddu cynhwysiant cymdeithasol, cydlyniant cymunedol ac amrywiaeth a ffyniant economaidd. Mae'r fframwaith aneddiadau'n adlewyrchu cynaliadwyedd aneddiadau a'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy trwy leoli'r rhan fwyaf o ddatblygiadau lle y lleolir gwasanaethau, swyddi, siopau a chyfleusterau hamdden, ond gan gydnabod hefyd amrywiaeth y Sir a'i chymunedau gwledig, gan gynnwys yr ardaloedd gwledig. Mae'r Sir a'i rhwydwaith trafnidiaeth yn amrywiol, gyda'r rhwydwaith yn cysylltu pobl a gwasanaethau, gan gynnwys y briffordd, trafnidiaeth gyhoeddus, llwybrau i gerddwyr a beicwyr a hawliau tramwy cyhoeddus (gan gynnwys llwybrau ceffylau).

11.530 Wrth gyflawni'r uchod, mae'r strategaeth yn rhoi sylw i'r rhwydwaith priffyrdd a rheilffyrdd ynghyd â hygyrchedd trafnidiaeth gyhoeddus a'r potensial ar gyfer twf mewn aneddiadau sy'n adlewyrchu eu lefelau hygyrchedd. Mewn aneddiadau trefol adlewyrchir natur eu cysylltedd ac amlder trafnidiaeth drwy'r hierarchaeth aneddiadau. Fodd bynnag, hyd yn oed o fewn rhai o'r aneddiadau hyn, mae anghysondeb o ran argaeledd rhwydwaith teithio llesol. Ar draws yr ardaloedd mwy gwledig a'u cymunedau, mae diffyg mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a'r cysylltiadau a gynigir drwy rwydweithiau teithio llesol yn anochel yn fwy tameidiog; o ganlyniad mae angen cydbwyso hyn yn erbyn cyfraniad posibl datblygiad tuag at gynnal y gymuned honno ac economi wledig yr ardal.

11.531 Bydd y Cynllun yn ceisio rhoi arweiniad i leoli datblygiadau yn rhannau gwledig y Sir o fewn aneddiadau diffiniedig, a'r cyffiniau, yn hytrach na lleoliadau gwasgaredig yng nghefn gwlad ac eithrio lle y bo hynny'n unol â pholisïau'r cynllun hwn.

11.532 Mae'r Polisi yn tynnu sylw at yr angen i wella ac ehangu Teithio Llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus fel rhan o gynigion ar gyfer datblygu. Mae hyn yn adlewyrchu'r newid i ffwrdd oddi wrth ddefnyddio'r car modur preifat. Fodd bynnag, mae'r Polisi hefyd yn ceisio adlewyrchu'r potensial o ran lleihau allyriadau niweidiol trwy gyflwyno Pwyntiau Gwefru Cerbydau ag Allyriadau Isel Iawn mewn datblygiadau newydd (dylid cyfeirio at Bolisi: CCH2).

11.533 Mae hyn yn rhannol yn ceisio ymateb i amrywiaeth y Sir, hygyrchedd a'r nod o leihau'r angen i deithio (a lleihau allyriadau CO2) ac mae hyn yn dal i fod yn her i ran helaeth o Sir Gaerfyrddin. Mae'r her hon yn arbennig o amlwg wrth fynd i'r afael â'r angen i gynnal ardaloedd gwledig, a sicrhau nad yw eu cymunedau yn dioddef allgáu cymdeithasol. Rhaid i hyn hefyd ymwneud â derbyn yn realistig bod y car modur yn parhau i fod yn ddull teithio pwysig mewn ardaloedd o'r fath.

11.534 Efallai y bydd modd lleihau teithio i'r eithaf hefyd drwy strategaeth trafnidiaeth integredig a datblygu cymunedau hunangynhaliol (gan gynnwys argaeledd gwasanaethau a chyfleusterau) ac argaeledd dewisiadau amgen trwy fentrau priodol fel 'Bwcabus'. Cydnabyddir y bydd datblygu trafnidiaeth gyhoeddus fel dewis amgen dichonadwy a hygred yn lle defnyddio'r car preifat yn helpu i leihau tagfeydd ar goridorau trafnidiaeth allweddol. Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd, wrth i dechnoleg ddatblygu, y bydd effaith bosibl neu fel arall y car preifat ei hun yn newid.

11.535 Mae'r CDLl yn ceisio hyrwyddo atebion cadarnhaol sy'n hybu mynediad at newidiadau technolegol, gan gynnwys pwyntiau gwefru trydan, i hybu gostyngiad mewn allyriadau niweidiol a gwella cynhwysiant cymdeithasol a hygyrchedd.

11.536 Lle nodir bod ar gynllun angen sylw pellach mewn perthynas â dichonoldeb, dylunio a gwaith paratoi, nid yw wedi'i nodi yn y CDLl. Mae hyn yn adlewyrchu'r posibilrwydd o ddiffyg arwyddion clir o ran cyflawni.

11.537 Cydnabyddir rôl y Sir fel canolfan feicio yng Nghymru a chaiff Strategaeth Beicio'r Cyngor ei hystyried a lle y bo'n briodol ei hadlewyrchu wrth i'r CDLl fynd rhagddo. Yn hyn o beth, cydnabyddir rôl y rhwydwaith beicio fel sbardun economaidd ac ased hamdden a thwristiaeth. Yn yr un modd, cydnabyddir ei gyfraniad at hyrwyddo hygyrchedd a manteision i'n cymunedau hefyd, yn ogystal â chyfraniad y rhwydwaith llwybrau cyhoeddus a llwybrau ceffylau.

11.538 Mae'r tabl canlynol yn nodi'r rhwydwaith o brif ffyrdd, gan gynnwys cefnffyrdd, a'r rhwydwaith craidd. Nodir y llwybrau hyn ar y map cyfyngiadau fel coridorau ar gyfer symud.

Y Rhwydwaith Prif Ffyrdd a'r Rhwydwaith Craidd

Y Rhwydwaith Prif Ffyrdd (mae'n cyfateb â'r rhwydwaith Strategol dynodedig):

M4

A484

A40 (T)

A48

A476

B4310

A4138

A477 (T)

B4335

A474

A4878

B4336

A483 (T)

A4069

B4459

A48 (T)

A482

B4039

A486

A485

B4317

Y Rhwydwaith Ffyrdd Craidd (mae'n cyfateb â'r rhwydwaith Priffyrdd dynodedig):

A4066

B4304

B4556

A4068

B4306

B4301

B4299

B4300

B4303

B4333

B4328

B4314

B4310

B4312

B4297

B4337

B4308

B4302

B4368

TRA1: Gwelliannau i'r Seilwaith Trafnidiaeth a Phriffyrdd

Bydd llwybrau trafnidiaeth, gwelliannau i drafnidiaeth a chyfleusterau seilwaith cysylltiedig sy'n cyflawni amcanion blaenoriaethau'r Cynllun Trafnidiaeth ar y Cyd ar gyfer De-orllewin Cymru (2015 – 2020) yn cael eu cefnogi.

Bydd y gwelliannau i'r seilwaith priffyrdd fel rhan o Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands yn cael eu diogelu gyda'r llwybr wedi'i nodi ar y map cynigion.

Bydd cynigion sy'n cynnal ac yn gwella'r rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy integredig hefyd yn cael eu cefnogi pan fyddant yn cyd-fynd â pholisïau a darpariaethau'r Cynllun hwn. Caniateir cynigion datblygu nad ydynt yn peryglu gweithrediad effeithlon unrhyw welliant neu gynllun a nodwyd.

11.539 Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nodi bod Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands yn brosiect cysylltedd Trawsnewidiol ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

11.540 Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran darparu Ffordd Gyswllt Economaidd Cross Hands gyda Cham 1 yn agor fel rhan o hwyluso Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands. Mae cam pellach rhwng Heol Llandeilo a Phen-y-groes yn cael ei adeiladu ac mae bron â chael ei gwblhau. Mae'r cam olaf rhwng Heol y Llew Du a Phen-y-groes wedi cael caniatâd cynllunio ac mae'n gyfle i hwyluso datblygiad pellach ar hen safle Gwaith Brics Emlyn ym Mhen-y-groes. Mae'r cynllun hwn yn cynnwys cloddwaith, draeniau, goleuadau, arwyddion a.y.b. cysylltiedig ynghyd ag adeiladwaith hwylustod a gwaith lliniaru amgylcheddol cysylltiedig.

11.541 Bydd y Ffordd Gyswllt Economaidd yn lleddfu tagfeydd ar Gylchfan yr A48 yn Cross Hands sy'n rhan o'r Rhwydwaith Traws-Ewropeaidd (TENS) yn ogystal â gwella diogelwch ar y gyffordd "chwe ffordd" yng Ngors-las. Bydd y cynllun yn darparu cyswllt allweddol ar y rhwydwaith priffyrdd â Llandeilo fel rhan o'r gefnffordd rhwng Abertawe a Manceinion.

11.542 Agorwyd y ffordd gyswllt newydd o ffordd ddeuol yr A40 i Ffordd y Coleg ger Parc Dewi Sant a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant ym mis Mawrth 2019. Gwnaeth hyn alluogi mynediad i safleoedd addysg a chyflogaeth yn ogystal â darparu seilwaith ar gyfer twf tai yn y dyfodol a hwyluso datblygiad Yr Egin (S4C) (gweler Polisi SP5: Safleoedd Strategol).

11.543 Mae 2il Gam Ffordd Ddosbarthu Rhydaman wedi'i nodi fel rhan o gynnig hirdymor i gynorthwyo adfywio economaidd ardaloedd ehangach Rhydaman a Dyffryn Aman. Er nad yw'r CDLl yn diogelu nac yn nodi'r llwybr hwn, mae'n cydnabod ei statws o fewn y Cynllun Trafnidiaeth ar y Cyd a bydd y Cyngor yn monitro unrhyw gynnydd tuag at ei gyflawni. Mae diffyg arwyddion clir o gyflawni ac aliniad diffiniedig yn golygu nad yw'n cael ei nodi o fewn y Cynllun nac ar y map cynigion.

11.544 Mae cynlluniau pellach a nodwyd o fewn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer Sir Gaerfyrddin 2015 – 2020 yn cynnwys y cynlluniau hynny a restrwyd ar gyfer 2020 – 2030 a byddant yn cael eu hadolygu yng ngoleuni diweddariadau ar gynnydd sy'n deillio o'r Cynllun Trafnidiaeth ar y Cyd a strategaethau yn y dyfodol:

  • Seilwaith Adfywio Economaidd Rhydaman (Stryd y Gwynt/Tir-y-dail) – Gwelliannau i'r gyffordd (cwblhawyd 2019)
  • Coridorau a Chyfnewidfeydd Trafnidiaeth Strategol Sir Gaerfyrddin-gwelliannau parhaus i'r prif Goridorau Bysiau.
  • Cysylltiadau Cerdded a Beicio Sir Gaerfyrddin – Datblygiad parhaus rhwydwaith cynhwysfawr o Gysylltiadau Cerdded a Beicio fel Llwybr Beicio Dyffryn Aman, llwybrau cyflogaeth Sir Gaerfyrddin a'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol i wella mynediad at gyflogaeth, addysg a gwasanaethau eraill yn ogystal â rhoi anogaeth ar gyfer twristiaeth a ffyrdd iach o fyw.
  • Mynediad yr A4138 i Lanelli sy'n cynnwys cyfleuster Parcio a Theithio/Rhannu Llanelli/M4 – yn amodol ar ddylunio pellach a gweithredu'r opsiynau a ffefrir o 2019/20.
  • Coridor Trafnidiaeth Dyffryn Tywi (Llwybr Beicio Dyffryn Tywi) -Llwybr beicio gyda chysylltiadau ag atyniadau allweddol gan gynnwys trefi marchnad Caerfyrddin a Llandeilo gyda dull graddol o weithredu a'r cam cychwynnol wrthi'n cael ei adeiladu.
  • Cyfnewidfa Drafnidiaeth Integredig Llanelli – yn ardaloedd Heol yr Orsaf/Heol Copperworks, mae hwn yn ganolbwynt allweddol ar gyfer cyfnewid trafnidiaeth rhwng nifer o ddulliau gan gynnwys gorsaf reilffordd y Dref, llwybrau bysiau masnachol allweddol a chyfleuster parcio a theithio (rheilffyrdd).
  • Canolfannau Teithio Cynaliadwy – gall gynnwys seilwaith gwefru cerbydau trydan, parthau cartrefi wedi'u targedu, gwelliannau i gyfnewidfeydd, rheseli beiciau a llwybrau teithio cynaliadwy sy'n canolbwyntio ar gyflogaeth
  • Mynediad i Barc Gwledig Pen-bre – Adnewyddu/uwchraddio'r ffordd un lôn bresennol dros y Bont Reilffordd sy'n gwasanaethu Parc Sirol Pen-bre ar hyn o bryd.

TRA2: Teithio Llesol

Bydd cynigion sy'n gwella mynediad ar gyfer cerddwyr a beicwyr trwy ymgorffori'r canlynol yn y safle, a/neu wneud cyfraniadau ariannol tuag at ddarparu gwasanaethau oddi ar y safle, yn cael eu cefnogi:

  1. Llwybrau cerdded a beicio hydraidd, eglur, uniongyrchol, cyfleus, deniadol a diogel sy'n cysylltu'r datblygiad â: aneddiadau cyfagos; nodau trafnidiaeth gyhoeddus; cyfleusterau cymunedol; ardaloedd masnachol a chyflogaeth; cyfleusterau twristiaeth; a chyfleoedd hamdden;
  2. Gwelliannau, cysylltiadau a/neu estyniadau i: y rhwydwaith llwybrau troed a hawliau tramwy cyhoeddus presennol (gan gynnwys llwybrau ceffylau); y rhwydwaith a llwybrau beicio; Llwybrau Diogel i'r ysgol; a llwybrau sy'n rhan o'r Rhwydwaith Seilwaith Gwyrdd; ac
  3. Cyfleusterau sy'n annog pobl i gerdded a beicio, gan gynnwys: arwyddion priodol; mannau diogel a chyfleus i barcio beiciau; a chyfleusterau newid a chyfleusterau cysylltiedig.

Bydd disgwyl i gynigion sy'n cael effaith niweidiol sylweddol ar hawliau tramwy cyhoeddus neu lwybrau presennol a trwy Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 gyfrannu at y gwaith o gyflawni Cynllun Teithio Llesol y Cyngor.

11.545 Rhaid i gynigion datblygu geisio sicrhau'r hygyrchedd mwyaf posibl wrth gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, trwy roi blaenoriaeth i ddarparu seilwaith priodol ar y safle a, lle y bo angen, lliniaru effeithiau trafnidiaeth drwy ddarparu mesurau oddi ar y safle, megis datblygu llwybrau teithio llesol, seilwaith sy'n rhoi blaenoriaeth i fysiau a chymorth ariannol i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus[46].

11.546 Mae'r Cynllun yn ceisio hyrwyddo hygyrchedd dulliau trafnidiaeth amgen er mwyn helpu i leihau'r defnydd o geir, ac i gynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd gyfreithiol o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i ddatblygu, gwella a chynnal rhwydweithiau cerdded a beicio lleol. Anogir cynigion i ddefnyddio Safonau arfer da, gan gynnwys Safonau Dylunio'r Ddeddf Teithio Llesol a chanllawiau perthnasol eraill i sicrhau bod yr egwyddorion dylunio yn adlewyrchu ac yn cyflawni Teithio Llesol. Dylid hefyd ystyried Canllaw Dylunio Priffyrdd y Cyngor.

11.547 Wrth ddefnyddio'r polisi hwn dylid rhoi sylw i ddarpariaethau'r CDLl o ran creu lleoedd a Seilwaith Gwyrdd. Yn hyn o beth, mae'r Cynllun yn pwysleisio ymrwymiad i amgylcheddau a dylunio o ansawdd, gyda theithio llesol a cherdded a beicio yn gydrannau pwysig.

11.548 Dylai cynigion mewn ardaloedd gwledig adlewyrchu'r deilliannau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol a, lle y bo'n bosibl, cynnig cysylltiadau teithio llesol da â chanol aneddiadau er mwyn lleihau'r angen i deithio mewn car ar gyfer siwrneiau lleol[47].

TRA3: Rheilffordd Gwili

Bydd cynigion yn cael eu caniatáu lle nad ydynt yn peryglu'r canlynol mewn perthynas â rheilffordd Gwili:

  1. Estyn rheilffordd Gwili tua'r Gogledd i Lanpumsaint;
  2. Darparu gorsaf newydd yng Nglangwili, Caerfyrddin.

11.549 Bydd cynigion ar gyfer Rheilffordd Gwili yn cael eu hystyried yng ngoleuni eu heffaith ar amodau traffig lleol, ar ansawdd yr amgylchedd a'r gofynion o ran seilwaith.

11.550 Mae Rheilffordd Gwili yn atyniad pwysig i dwristiaid a bydd y Cyngor yn cefnogi'r cynigion hirdymor i estyn y rheilffordd tua'r Gogledd i lanpumsaint yn y pen draw a darparu gorsaf newydd fel a nodir o fewn y Polisi.

11.551 Dangosir yr ardaloedd a'r llwybrau a ddiogelir ar y Map Cynigion.

TRA4: Coridorau Rheilffyrdd Segur

Cefnogir cynigion ar gyfer datblygiadau nad ydynt yn peryglu ailddefnyddio coridorau rheilffyrdd segur at ddibenion datblygiadau hamdden a rheilffyrdd posibl yn y dyfodol.

11.552 Mae gan ardal y Cynllun nifer o hen reilffyrdd sy'n cynnig manteision sylweddol o ran gweithgareddau hamdden gan gynnwys llwybrau beicio, llwybrau troed a llwybrau ceffylau. Mae hefyd angen ystyried y posibilrwydd o ailddefnyddio llwybrau rheilffyrdd yn y dyfodol wrth ystyried cynigion, a allai effeithio ar barhad ac argaeledd y llwybr.

TRA5: Safonau Priffyrdd a Mynediad mewn Datblygiad

Bydd cynigion ar gyfer datblygu yn cael eu caniatáu lle maent:

  1. Yn ymgorffori'r safonau mynediad angenrheidiol sy'n adlewyrchu dosbarthiad ac amodau'r ffordd;
  2. Yn cynnwys llain gwelededd priodol a nodweddion dylunio sy'n angenrheidiol i sicrhau diogelwch ar y briffordd a bod rhwyddineb symud yn cael ei gynnal, a'i wella lle y bo'n ofynnol;
  3. Yn peidio â chreu lefelau annerbyniol o draffig sy'n cael effaith anfanteisiol ar y rhwydwaith ffyrdd cyfagos, ar ddiogelwch ar y briffordd, neu a fyddai'n achosi niwed sylweddol i amwynder preswylwyr.
  4. Yn peidio ag arwain at dagfeydd oddi ar y safle o ran parcio neu ddarparu gwasanaethau.

11.553 Lle y mae cynnig datblygu yn debygol o godi materion sy'n ymwneud â chapasiti priffyrdd y rhwydwaith, mae'n bosibl y bydd angen cyfraniadau i hwyluso gwaith priodol fel rhan o roi unrhyw ganiatâd.

11.554 Wrth ddefnyddio'r polisi hwn, dylid cyfeirio hefyd at Bolisi PSD1: Dylunio Cynaliadwy ac o Ansawdd Da ac at gynnwys y Canllaw Dylunio Priffyrdd a fydd yn cael ei fabwysiadu fel CCA.


Polisi Strategol SP 18: Adnoddau Mwynol

Bydd adnoddau mwynol dynodedig y Sir yn cael eu rheoli'n gynaliadwy trwy:

  1. Sicrhau cyflenwad trwy gynnal banc tir digonol o gronfeydd agregau a ganiateir (o leiaf 10 mlynedd ar gyfer creigiau mâl caled, ac o leiaf 7 mlynedd ar gyfer tywod a graean) trwy gydol cyfnod y cynllun;
  2. Rhoi anogaeth ar gyfer defnydd effeithlon a phriodol o fwynau o ansawdd da a chynyddu i'r eithaf y potensial ar gyfer ailddefnyddio ac ailgylchu mwynau addas fel dewis yn lle agregau crai a dynnwyd;
  3. Diogelu ardaloedd sydd â mwynau o bwysigrwydd economaidd oddi tanynt lle gellid eu gweithio yn y dyfodol i sicrhau nad yw adnoddau o'r fath yn cael eu sterileiddio'n ddiangen gan fathau eraill o ddatblygiad;
  4. Defnyddio clustogfeydd i leihau'r gwrthdaro rhwng datblygu mwynau a datblygiadau sensitif;
  5. Sicrhau adferiad priodol a all sicrhau manteision amgylcheddol a chymunedol penodol.

11.555 Bydd y CDLl yn ceisio sicrhau bod y Sir yn darparu adnoddau mwynol i ddiwallu anghenion y gymdeithas a bod adnoddau o'r fath yn cael eu diogelu rhag eu sterileiddio. Wrth wneud hynny, mae'r CDLl yn ceisio sicrhau bod cydbwysedd priodol yn cael ei daro rhwng y gofyniad sylfaenol hwn, yr angen i sicrhau defnydd doeth o'r adnoddau hyn y mae pen draw iddynt, a diogelu amwynder presennol a'r amgylchedd.

11.556 Mae gan Sir Gaerfyrddin amrywiaeth eang o adnoddau mwynol o ganlyniad i'w daeareg gymhleth. Y brif nodwedd yn ne'r Sir yw ehangder brigiadau'r Mesurau Glo, sydd â Chalchfaen Carbonifferaidd yn ffinio â hwy i'r Gogledd. Chwarela calchfaen yw'r mwyaf o'r diwydiannau mwyngloddio yn y sir. O dan rhannau gogleddol y Sir mae creigiau hŷn o'r oes Ordofigaidd a Silwraidd, cerrig tywod, cerrig clai a llechi yn bennaf. Mae arwyddocâd economaidd y rhain yn amrywio.

11.557 Mae Datganiad Technegol Rhanbarthol De Cymru 2014 yn nodi'r cyfraniad y dylai pob awdurdod lleol cyfansoddol ei wneud tuag at ateb y galw rhanbarthol am agregau (yn greigiau mâl caled a thywod a graean). Mae ffigyrau banc tir y sir ar gyfer creigiau mâl yn fwy o lawer na'r gofynion sylfaenol a nodir yn Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (MTAN) 1: Agregau, ac o ganlyniad nid oes gofyniad i ddyrannu safleoedd newydd ar gyfer datblygiadau mwynau. Mae'r sefyllfa o ran y banc tir ar gyfer tywod a graean yn wahanol gan bod y dosraniadau a'r dyraniadau ar gyfer tywod a graean ar y tir o fewn Sir Gaerfyrddin wedi cael eu cyfuno â Sir Benfro, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Cheredigion. Mae'r Datganiad Technegol Rhanbarthol yn dweud bod tanddarpariaeth o 2.94 m o ran y cronfeydd tywod a graean o fewn ardal Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro (gan gynnwys y Parc Cenedlaethol) ar gyfer y cyfnod hyd at 2033 ac y dylai'r awdurdodau hyn weithio gyda'i gilydd i fynd i'r afael â'r diffyg a nodi safleoedd penodol.

11.558 Mae Cynghorau Sir Caerfyrddin a Phenfro wedi ceisio mynd i'r afael â'r prinder mewn cronfeydd tywod a graean yn ddiweddarach yng nghyfnod y Cynllun Diwygiedig ac maent yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni hyn trwy ddynodi safle(oedd) posibl.

11.559 Mae cyfarwyddyd clir gan Lywodraeth Cymru i osgoi parhau i gloddio a defnyddio tanwyddau ffosil. Felly, nid yw'r Awdurdod yn cynnig diogelu adnoddau glo. Mae'n ofynnol i'r Cyngor hysbysu Llywodraeth Cymru os ceir cynigion ar gyfer gweithrediadau glo neu betrolewm nad yw o blaid eu gwrthod.

MR1: Cynigion Mwynau

Caniateir cynigion ar gyfer cloddio am fwynau lle mae yna angen cenedlaethol, rhanbarthol neu leol profedig am y mwynau na ellir ei ddiwallu o ffynonellau presennol nac o ddeunydd eilaidd neu wedi'i ailgylchu, a lle na fyddent yn arwain at unrhyw effeithiau niweidiol sylweddol ar iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd, amwynder lleol a'r rhwydwaith trafnidiaeth lleol. Caiff ceisiadau ar gyfer cynigion mwynau eu hasesu yn erbyn y meini prawf canlynol:

  1. Mae llwybrau mynediad a thrafnidiaeth addas wedi'u hadnabod ac mae'r potensial ar gyfer cludo mwynau drwy ddulliau heblaw ar y ffordd wedi'i asesu'n ddigonol;
  2. Dangosir bod sŵn o fewn lefelau derbyniol;
  3. Mae'r dulliau ymarferol gorau wedi'u nodi i reoli llwch, mwg, mygdarth ac i sicrhau nad yw gweithrediadau'n achosi dirywiad mewn ansawdd aer yn lleol nac yn cael effaith annerbyniol ar iechyd y cyhoedd;
  4. Mae ffrwydro'n cael ei reoli o fewn lefelau derbyniol;
  5. Mae effeithiau posibl ar adnoddau dŵr daear, adnoddau dŵr wyneb a chyflenwadau dŵr wedi'u nodi a dangoswyd eu bod o fewn lefelau derbyniol;
  6. Nid oes unrhyw effeithiau niweidiol annerbyniol ar safleoedd o bwysigrwydd cadwraeth natur, ac mae effeithiau niweidiol ar safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol, diwylliannol a thirwedd wedi'u nodi a phrofwyd eu bod yn fach iawn;
  7. Mae mesurau lliniaru effeithiol a gynigir i leihau i'r eithaf unrhyw effeithiau posibl o ganlyniad i ymsuddiant neu dir ansad wedi'u nodi a'u dangos mewn ffordd sydd wrth fodd y Cyngor;
  8. Nid yw effaith niweidiol ar gymeriad y dirwedd ac amwynder gweledol yn sylweddol;
  9. Mae cyfleoedd i ailddefnyddio a/neu ailgylchu gwastraff mwynau yn cael eu cynyddu i'r eithaf;
  10. Mae cynigion boddhaol wedi'u cyflwyno ar gyfer adfer y safle, ei dirlunio, ei ddefnyddio a gofalu amdano ar ôl y gweithrediadau cloddio.

11.560 Diben y polisi yw cadw cydbwysedd rhwng ateb galw cenedlaethol am fwynau a lleihau'r effeithiau niweidiol posibl a allai ddeillio o weithrediadau o'r fath. Gall cloddio am fwynau gael effaith gadarnhaol ar ardaloedd a chymunedau lleol trwy ddarparu ffynhonnell cyflogaeth a chyfrannu at yr economi leol, ond ar yr un pryd rhaid rhoi mesurau ar waith i ddiogelu iechyd ac amwynder lleol a'r amgylchedd rhag unrhyw effeithiau negyddol a allai ddeillio o hynny. Dylid rhoi ystyriaeth arbennig i'r posibilrwydd o effeithiau ar ddŵr daear ac adnoddau dŵr a hefyd i iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd (gan gynnwys y dirwedd/treflun a dynodiadau hanesyddol), amwynder lleol, y rhwydwaith trafnidiaeth lleol a pharamedrau amgylcheddol eraill.

11.561 Mae'n hanfodol cynllunio gweithrediadau mwynau sy'n amgylcheddol dderbyniol o'r cychwyn cyntaf. Gall y defnydd o reolaethau cynllunio, megis amodau, rhwymedigaethau cyfreithiol, a monitro a gorfodi sicrhau rheolaeth effeithiol ar weithrediadau ar safleoedd mwynau. Dylid defnyddio'r rheolaethau lle maent yn angenrheidiol ac yn berthnasol i'r amgylchiadau unigol dan ystyriaeth. Bydd lefelau derbyniol o effaith yn amrywio ar wahanol safleoedd mwynau a byddant yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Yr awdurdod fydd yn penderfynu ar y rhain mewn perthynas â phob cais cynllunio unigol.

MR2: Clustogfeydd Mwynau

Gwnaed darpariaeth ar gyfer Clustogfeydd o amgylch pob safle sydd â chaniatâd cynllunio presennol ar gyfer cloddio am fwynau.

Fel arfer, ni chaniateir datblygiadau sensitif newydd nad ydynt yn ymwneud â mwynau o fewn y clustogfeydd a nodwyd. Mae'r holl glustogfeydd wedi'u nodi ar y map cynigion.

11.562 Defnyddir clustogfeydd i ddarparu ardaloedd gwarchod o amgylch gweithfeydd mwynau a ganiateir lle dylid gwrthsefyll datblygiadau newydd a fyddai'n sensitif i effeithiau niweidiol, gan gynnwys ardaloedd preswyl, ysbytai, ysgolion. Bydd dynodi clustogfeydd yn sicrhau bod canllawiau clir ar agosrwydd gweithrediadau mwynau at ddefnyddiau tir sensitif, a bod effaith bosibl gwaith mwynau yn cael ei gydnabod ac y cynllunnir ar ei chyfer yn yr ardal o gwmpas y gweithrediadau mwynau.

11.563 Nodir pellteroedd clustogfeydd o 200m (o leiaf) o amgylch chwareli creigiau caled a 100m (o leiaf) o amgylch safleoedd cloddio tywod a graean yn MTAN1: Agregau,[48] a nodir clustogfeydd o 500m o amgylch safleoedd cloddio glo yn MTAN2: Glo.[49] Caiff eithriadau i'r pellteroedd hyn eu hystyried yn unol â'r darpariaethau a nodir yn MTAN 1 a 2.

MR3: Diogelu Mwynau

Ni roddir caniatâd cynllunio ar gyfer cynigion datblygu lle byddent yn sterileiddio adnoddau agregau a nodwyd yn yr ardaloedd diogelu mwynau (ardaloedd chwilio) ar y map cynigion yn barhaol oni bai:

  1. Y gall yr ymgeisydd ddangos bod cloddio'r mwynau yn anymarferol, yn aneconomaidd neu'n amgylcheddol annerbyniol (gan gynnwys peryglu amwynder ac ystyriaethau cymdeithasol); neu
  2. Mae'r adnodd mwynau eisoes wedi cael ei gloddio; neu
  3. Gellir cloddio'r mwynau yn foddhaol cyn i'r datblygiad ddigwydd; neu
  4. Mae'r datblygiad o natur dros dro a gellir ei gwblhau ac adfer y safle o fewn yr amserlen y mae'n debygol y bydd angen y mwynau; neu,
  5. Ni fyddai natur a lleoliad y datblygiad yn cael unrhyw effaith sylweddol ar y posibilrwydd o gloddio'r adnodd.

11.564 Mae PCC yn pwysleisio'r pwysigrwydd diogelu adnoddau mwynol sy'n diwallu anghenion cymdeithas yn awr ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, nid yw hyn o reidrwydd yn awgrymu rhagdybiaeth o blaid gweithio'r dyddodion mwynol, dim ond bod lleoliad y mwynau'n hysbys. Mae'r ardaloedd wedi'u diogelu a nodir ar y Map Cynigion yn ymwneud â Map Diogelu Agregau Arolwg Daearegol Prydain ar gyfer De-orllewin Cymru.

11.565 Dim ond os gall y datblygwr fodloni unrhyw un o'r meini prawf uchod y caniateir i ddatblygiadau fynd rhagddynt ar ardaloedd a ddiogelir. O'i ystyried gyda pholisïau perthnasol eraill yn y Cynllun (yn arbennig MPP1), ni fydd mwyngloddio'n briodol o fewn nac ar bwys terfynau datblygu aneddiadau. Fodd bynnag, mewn achosion lle cynigir mathau eraill o ddatblygiadau mewn ardaloedd o'r fath (a bod adnodd mwynau sy'n deilwng o gael ei ddiogelu wedi'i adnabod), dylid ystyried cloddio'r adnodd ymlaen llaw fel rhan o'r cais gan sicrhau nad yw unrhyw weithrediad yn cael unrhyw effeithiau niweidiol annerbyniol ar yr amgylchedd, iechyd dynol ac amwynder lleol.

11.566 O ran agregau (creigiau caled, a thywod a graean) a nodwyd ac a ddiogelwyd ar y map cynigion, ni fydd cloddio am adnoddau mwynol yn dderbyniol yn gyffredinol o fewn 200 metr i aneddiadau a nodwyd yn y CDLl (ar gyfer craig galed) ac o fewn 100 metr (ar gyfer tywod a graean).

11.567 Ar hyn o bryd nid oes unrhyw lanfeydd morol o fewn y Sir. Bydd cynigion posibl ar gyfer y dyfodol, lle y bônt yn dderbyniol, yn cael eu gwarchod i ddiogelu llwybr(au) cyflenwi tywod a graean yn yr ardal. Bydd safle gweithredol Llanelli Sands ym Mhorth Tywyn (ynghyd â'r 'safle glanio morol' cysylltiedig) yn cael ei ddynodi ar y map cynigion, ac o fewn Atodiad 4 ar safleoedd mwynau presennol a'i ddiogelu yn unol â hynny.


Polisi strategol – SP 19: Rheoli Gwastraff yn Gynaliadwy

Gwneir darpariaeth i hwyluso'r broses o reoli gwastraff yn gynaliadwy trwy:

  1. Dyrannu tir digonol, priodol i ddarparu ar gyfer rhwydwaith integredig o gyfleusterau rheoli gwastraff;
  2. Cefnogi cynigion ar gyfer rheoli gwastraff sy'n cynnwys rheoli gwastraff yn unol â'r safle a nodir yn yr hierarchaeth wastraff;
  3. Cefnogi cynigion sy'n ystyried cysyniad y gosodiad priodol agosaf ac egwyddorion agosrwydd a hunan-gynhaliaeth[50];
  4. Cefnogi cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd mewn adeiladau ar safleoedd diwydiannol presennol a rhai sydd wedi'u neilltuo (defnydd B2) y nodir eu bod yn addas ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff;
  5. Cydnabod y gall fod angen lleoli mathau penodol o gyfleuster gwastraff y tu allan i derfynau datblygu aneddiadau;
  6. Sicrhau bod darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer rheoli gwastraff yn gynaliadwy ym mhob datblygiad newydd, gan gynnwys sicrhau cyfleoedd i leihau'r gwastraff a gynhyrchir i'r eithaf.

Rhaid i gynigion datblygu sicrhau:

  1. Nad oes unrhyw effeithiau niweidiol, sylweddol ar iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd, amwynder lleol na'r rhwydwaith trafnidiaeth lleol;
  2. Bod y cynnig yn gydnaws ag unrhyw ddefnyddiau neu weithgareddau cyfagos.

Bydd cydleoli cyfleusterau rheoli gwastraff er mwyn gallu datblygu rhwydweithiau gwres yn cael ei gefnogi, yn amodol ar y meini prawf uchod; a

Rhaid i gynigion sy'n ymwneud â gwastraff gael eu hategu gan Asesiad Cynllunio Gwastraff priodol.

11.568 Nodir y materion cynllunio y mae'n rhaid eu hystyried wrth baratoi ceisiadau ar gyfer datblygiadau gwastraff yn Atodiad C o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 21 Gwastraff (2014). Bydd angen i geisiadau ddangos sut y bydd y cynnig yn cyfrannu at gyflawni'r amcanion yn y Strategaeth Wastraff Genedlaethol Tuag at Ddyfodol Diwastraff a'r Cynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd. Dylid cyflwyno Asesiad Cynllunio Gwastraff gyda phob cais am gyfleuster gwastraff a ddosberthir yn gyfleuster gwaredu, adfer neu ailgylchu. Dylai'r Asesiad Cynllunio Gwastraff fod yn briodol ac yn gymesur â natur, maint a graddfa'r datblygiad arfaethedig. Mae rhagor o gyngor i'w gael yn Atodiad B o TAN 21 Gwastraff.

11.569 Bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut mae eu cynnig datblygu wedi mynd i'r afael â'r hierarchaeth wastraff. Bydd angen cyfiawnhau gwyro oddi wrth yr hierarchaeth wastraff trwy ddefnyddio Asesiad Cylch Oes. Bydd angen dogfennu hyn fel rhan o'r Asesiad Cynllunio Gwastraff a gyflwynir gan yr ymgeisydd.

11.570 Er ei bod yn anodd rhagweld yn gywir beth fydd yr anghenion yn y dyfodol o ran trin ac adfer gwastraff cymysg gweddillol, a gwaredu gwastraff, mae'r Cynllun Sector Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd yn nodi'r angen parhaus bod mwy o wastraff cymysg gweddillol na ellir ei ailgylchu yn cael ei adfer. Felly, mae angen datblygu mwy o gyfleusterau trin ac adfer gwastraff gweddillol a sicrhau y cynhelir digon o gapasiti gwaredu ar lefel sy'n briodol i gefnogi nodau cyffredinol Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Cyfeirir at yr Adroddiadau Monitro Cynllunio Gwastraff blynyddol ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru (fel a nodir yn TAN 21) sy'n rhoi gwybodaeth ac argymhellion ar weithio trawsffiniol, yn enwedig o ran sut y mae gwastraff gweddillol y rhanbarth yn cael ei reoli ac a oes digon o gapasiti tirlenwi ar ôl.

11.571 Gall safleoedd cyflogaeth cyffredinol (defnyddiau B2) fod yn addas ar gyfer llawer o'r cyfleusterau gwastraff 'mewn adeiladau' yn y dyfodol. Byddai'r cyfleusterau hyn yn darparu ar gyfer gwastraff diwydiannol a masnachol yn ogystal â gwastraff a gesglir gan yr awdurdod lleol. O gofio'r angen i ddargyfeirio gwastraff i ffwrdd o safleoedd tirlenwi, caniateir y cyfleoedd a gynigir gan gyfleusterau ynni o wastraff mewn adeiladau i harneisio ynni ar gyfer gwres a/neu bŵer o wastraff trefol gweddillol ar yr amod eu bod yn gydnaws â defnyddiau cyfagos ac yn bodloni'r meini prawf a nodir uchod. Rhoddir anogaeth ar gyfer cynigion sy'n cynnwys gwres a phŵer cyfunedig a allai gyfrannu tuag at gynlluniau gwresogi ardal ar gyfer datblygiadau mawr. Rhestrir y safleoedd hynny sydd â'r potensial i ddarparu ar gyfer cyfleusterau gwastraff mewn adeiladau ym Mholisi: SP6. Mae hyn yn ychwanegol at y cyfleusterau rheoli gwastraff presennol o fewn y Sir sydd wedi eu rhestru yn Atodiad 8. Mae llawer o'r rhain, megis safle rheoli gwastraff Nant-y-caws, wedi hen ennill eu plwyf ac yn debygol o barhau i chwarae rhan o fewn cyfnod y Cynllun.

11.572 Rhoddir anogaeth ar gyfer cynigion sy'n ymwneud ag ailgylchu ac ailddefnyddio gwastraff adeiladu a dymchwel anadweithiol yn ogystal â gwastraff mwynol a diwydiannol. Safleoedd mwynau gweithredol presennol (a nodir ar Fapiau Cynigion y CDLl, ac a restrir yn Atodiad 4), neu safleoedd adeiladu priodol, fydd y lleoliadau a ffefrir. Gallai dyraniadau tir cyflogaeth B2 fod yn opsiynau hefyd, er enghraifft lle y gall gorsafoedd trosglwyddo gwastraff neu gyfleusterau adfer deunyddiau mewn adeiladau sy'n gallu ymdrin â gwastraff o'r fath weithredu. Bydd cydnawsedd â defnyddiau cyflogaeth presennol yn ffactor tyngedfennol wrth asesu cynigion ar gyfer ailgylchu gwastraff anadweithiol ar safleoedd B2.

11.573 Nid yw safleoedd cyflogaeth B2 yn lleoliadau addas ar gyfer mathau penodol o weithrediadau gwastraff 'awyr agored', yn enwedig tirlenwi neu gompostio rhes agored. Mae mathau eraill o gyfleusterau gwastraff, megis safleoedd amwynder dinesig, hefyd weithiau yn fwy addas ar gyfer lleoliadau i ffwrdd o ardaloedd adeiledig. Gellir ystyried bod cynigion ar gyfer compostio rhes agored yn addas fel rhan o gynlluniau arallgyfeirio ar ffermydd.

WM1 Rheoli Gwastraff yn Gynaliadwy a Datblygiadau Newydd

Rhaid i gynigion datblygu sicrhau bod darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer rheoli gwastraff yn gynaliadwy ym mhob datblygiad newydd, gan gynnwys storio, ailgylchu a thrwy sicrhau cyfleoedd i leihau'r gwastraff a gynhyrchir i'r eithaf.

11.574 Mae gan ddatblygiadau newydd y cyfle i wneud cyfraniad tuag at gyrraedd y targedau a nodir yn Strategaeth Wastraff Genedlaethol Cymru Tuag at Ddyfodol Diwastraff trwy ymgorffori cyfleusterau a mannau digonol ar gyfer casglu, compostio ac ailgylchu deunyddiau gwastraff yn eu dyluniad. Bydd defnyddio dull o'r fath hefyd yn helpu i annog pobl i ailgylchu yn y cartref, yn y gwaith ac mewn mannau cyhoeddus.

11.575 Mae nifer o faterion allweddol y bydd angen mynd i'r afael â hwy mewn cysylltiad â rheoli gwastraff sy'n berthnasol i bob math o ddatblygiad:

  • Gwahanu gwastraff ar gyfer ei ailgylchu: bydd ymgorffori cyfleusterau ailgylchu yn helpu i sicrhau bod dargyfeirio gwastraff yn hawdd ac yn gyfleus i'w weithredu;
  • Mynediad: Mae'n bwysig cynllunio mynediad hawdd a chyfleus ar gyfer defnyddwyr cyfleusterau gwastraff a'r rhai sy'n casglu gwastraff. Bydd hyn hefyd yn helpu i hyrwyddo ailgylchu ac yn gwneud darparu gwasanaethau gwastraff mewn modd darbodus yn fwy cyraeddadwy;
  • Llygredd: Mae'n hanfodol bod unrhyw ddyluniad a chynllun yn ystyried effaith bosibl y cyfleusterau hyn ar eiddo cyfagos, o ran arogleuon posibl, sŵn a denu fermin;
  • Diogelwch: Rhaid mynd i'r afael â diogelwch yn ystod y cam dylunio er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith negyddol ar iechyd pobl;
  • Effaith weledol: Mae'n bwysig lleihau effaith weledol biniau gwastraff ac ailgylchu a sicrhau nad ydynt yn amharu ar ansawdd amwynder a thirwedd yr ardal.

11.576 Mae'r Cyngor yn awyddus i weithio gyda datblygwyr i weld dulliau arloesol o reoli gwastraff (gan gynnwys triniaeth ar y safle lle y bo'n ymarferol) yn cael eu hymgorffori mewn datblygiadau preswyl newydd a datblygiadau eraill.

11.577 Dylai datblygwyr sicrhau bod digon o le wedi'i ymgorffori yn eu datblygiad ar gyfer lleoli cynwysyddion gwastraff ar ymyl y palmant ar ddiwrnodau casglu, ac nad oes grisiau, cyrbau na rhwystrau eraill ar y llwybr rhwng yr ardal storio a'r man casglu. Rhaid i safonau dyluniad a chynllun ffyrdd ystyried gofynion mynediad y Cyngor o ran cerbydau casglu gwastraff.

11.578 Mae'n ofynnol i bob busnes fod â chyfleusterau gwahanu a storio digonol ar gyfer gwastraff. Rhaid i'r man storio ateb gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer mynediad, golau ac awyru a hefyd bod yn ddiogel i atal fandaliaeth a thipio anghyfreithlon. Argymhellir hefyd y dylid datblygu unrhyw fannau storio mewn ymgynghoriad â'r darparwr gwasanaethau arfaethedig. Bydd disgwyl i safleoedd masnachol ailgylchu hefyd, felly mae'n debygol y bydd angen biniau/cynwysyddion storio lluosog.

WM2: Cynigion Tirlenwi

Dim ond os gallant gyd-fynd â'r canlynol y caiff cynigion ar gyfer safleoedd tirlenwi newydd eu caniatáu:

  1. Mae angen capasiti ychwanegol o fewn rhanbarth De-orllewin Cymru (rhaid darparu tystiolaeth i ddangos o ble y daw'r deunydd):
  2. Mae'r cynnig yn cydymffurfio â'r hierarchaeth wastraff, cysyniad y gosodiad priodol agosaf a hunangynhaliaeth;
  3. Ni fyddai unrhyw effaith niweidiol sylweddol ar y canlynol:
    1. Y dreftadaeth naturiol, a'r amgylchedd diwylliannol a hanesyddol;
    2. Daeareg a hydroddaeareg y safle;
    3. Dyfroedd a reolir, gan gynnwys ansawdd a maint dŵr;
    4. Amwynderau meddianwyr cyfagos, gan gynnwys effeithiau symudiad traffig a chynhyrchu sŵn, llwch, mygdarth ac arogleuon;
    5. Y rhwydwaith priffyrdd lleol, gan gynnwys mynediad, a diogelwch ar y briffordd;
    6. Diogelwch y cyhoedd, iechyd a llesiant;
    7. Amwynder gweledol y safle a'r cyffiniau;
    8. Seilwaith a gwasanaethau cyfleustodau cyhoeddus; a
    9. Tir amaethyddol o ansawdd da (Graddau 1, 2 neu 3a)

Bydd angen i'r dull adfer ac ôl-ofal, a'r defnydd ar ôl tirlenwi fod yn rhan o'r cynnig tirlenwi a chael ei gwblhau o fewn oes unrhyw ganiatâd a roddir.

11.579 Mae gan Lywodraeth Cymru nod hirdymor i roi'r gorau i dirlenwi cyn belled ag y bo modd. Mae Tuag at Ddyfodol Diwastraff yn pennu terfynau ar gyfanswm y gwastraff trefol gweddillol a'r gwastraff diwydiannol a masnachol a anfonir i safleoedd tirlenwi. Fodd bynnag, cydnabyddir y bydd gwaredu i safleoedd tirlenwi yn parhau yn y tymor byr a chanolig. Mae hyn yn rhannol oherwydd y ffordd y mae gwastraff yn cael ei gasglu, capasiti'r seilwaith sydd ar waith ar hyn o bryd i ymdrin â gwastraff, a bodolaeth gwastraff etifeddol (fel asbestos) a gweddillion llosgi, lle nad oes unrhyw ddewis diogel arall yn bodoli ar hyn o bryd heblaw gwaredu i safleoedd tirlenwi yn y pen draw.

11.580 Bob blwyddyn, cynhyrchir Adroddiad Monitro Cynllunio Gwastraff ar gyfer Rhanbarth De-orllewin Cymru sy'n nodi faint o gapasiti tirlenwi (lle gwag) sy'n weddill o fewn y rhanbarth yn ei gyfanrwydd. Y lefel (a nodir yn TAN 21 Gwastraff) o le gwag ym mhob rhanbarth yr ystyrir ei bod yn ddigonol ac y dylid ei chynnal yw 5/7 o flynyddoedd. Er bod yr Adroddiad Monitro Cynllunio Gwastraff diweddaraf ar gyfer y cyfnod 2018/19 yn nodi capasiti digonol, os bydd y sefyllfa'n newid mewn blynyddoedd dilynol, yna bydd angen ystyried lleoliadau posibl ar gyfer safle tirlenwi newydd a fyddai'n gwasanaethu gofynion y rhanbarth.

11.581 Mae gan y safle tirlenwi olaf sy'n dal i fodoli yn Sir Gaerfyrddin, yn Nant-y-caws, gapasiti ar ôl ond nid yw'n weithredol ar hyn o bryd. Nid yw'n glir a fydd na phryd y bydd y sefyllfa hon yn newid yn ystod cyfnod y Cynllun. O ran gwastraff a gesglir gan yr awdurdod lleol, mae'r elfen weddillol yn cael ei gwaredu ar hyn o bryd mewn safleoedd tirlenwi, a chyfleusterau trin gwastraff eraill, y tu allan i'r Sir (o fewn a'r tu allan i ranbarth De-orllewin Cymru).

11.582 Caiff cynigion ar gyfer safleoedd tirlenwi newydd eu gwerthuso yng nghyd-destun y meini prawf a nodir uchod a chan roi sylw i ystyriaethau cynllunio manwl a nodir yn TAN 21 Gwastraff – Atodiad C. Caiff y cynigion eu hasesu'n ofalus i sicrhau nad yw safleoedd tirlenwi yn peri risg ddifrifol i iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd a defnyddiau cyfagos.

11.583 Lle y bo hynny'n briodol ac yn ymarferol, efallai y bydd yn ofynnol i ddatblygwyr ymrwymo i Gytundeb A106 i sicrhau bod y cynigion yn cynnwys mesurau i gynhyrchu ynni o nwy tirlenwi lle y gallai methan ddianc i'r atmosffer fel arall. Bydd gwneud yn siŵr bod y broses o adfer ac ôl-ofalu am safle (neu gell) tirlenwi yn cael ei chwblhau i safon y cytunwyd arni gan y Cyngor yn cael ei sicrhau trwy gytundeb A106 hefyd. Rhaid cwblhau'r gwaith tirlunio terfynol erbyn dyddiad terfyn y caniatâd cynllunio.

11.584 Rhaid cyflwyno Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ar gyfer pob cais sy'n dod o dan Atodlen 1 o'r Rheoliadau Asesu'r Effaith Amgylcheddol a, lle y bo'n briodol, gofynnir am hynny ar gyfer unrhyw ddatblygiad sy'n dod o fewn Atodlen 2.

WM3: Tir Amaethyddol – Gwaredu Gwastraff Anadweithiol

Caniateir cynigion ar gyfer dodi deunyddiau gwastraff anadweithiol a fewnforiwyd i wella tir amaethyddol o radd isel dim ond dan yr amgylchiadau canlynol:

  1. Lle gellir dangos bod y gwelliant a geisir yn rhesymol angenrheidiol at ddibenion amaethyddiaeth o fewn y daliad;
  2. Lle mae swm y gwastraff i'w ddodi yn cyfateb â'r lleiafswm y mae ei angen i gyflawni'r gwelliant a geisir;
  3. Lle mae trefniadau ar waith i wahanu a gwaredu unrhyw wastraff nad yw'n anadweithiol a gafwyd mewn camgymeriad;
  4. Lle mae maint, trwch a thriniaeth wyneb terfynol y dyddodiad yn gydnaws â'r dirffurf o'i gwmpas.

11.585 Diben gwaredu gwastraff anadweithiol trwy ei ddodi ar dir fferm a mannau eraill yn y gorffennol, ar sawl achlysur, fu gwaredu gwastraff yn y ffordd rataf bosibl ac osgoi talu treth tirlenwi, yn hytrach na gwella ansawdd tir amaethyddol neu hwyluso datblygiadau angenrheidiol eraill.

11.586 Y prif ddiben y dylai'r cynnig ei ateb yn amlwg yw gwella ansawdd tir yn hytrach na gwaredu gwastraff. Yn hyn o beth, dylai swm y gwastraff i'w ddodi gyfateb â'r lleiafswm sydd ei angen i gyflawni'r gwelliant arfaethedig. Lle nad yw hyn yn wir, bydd y Cyngor yn ystyried y cynnig o dan Bolisi WM1 uchod.

11.587 Yn gyffredinol, daw gwastraff anadweithiol o weithrediadau adeiladu, dymchwel a chloddio a gall gynnwys deunyddiau fel priddoedd, briciau a choncrit. Gellir categoreiddio defnydd buddiol o'r gwastraff hwn ar gyfer gwella tir amaethyddol, lle bo angen hynny, fel gweithrediad adfer gwastraff. Gellir diffinio adfer gwastraff fel unrhyw weithred y mae ei brif ganlyniad yn golygu sicrhau bod gwastraff yn ateb diben defnyddiol trwy ddisodli deunyddiau eraill a fyddai fel arall wedi cael eu defnyddio i gyflawni swyddogaeth benodol, neu baratoi gwastraff i gyflawni'r swyddogaeth honno, yn y gwaith neu'r economi ehangach.

11.588 Dylai'r ymgeisydd ddangos wrth fodd yr Awdurdod bod y datblygiad gwastraff arfaethedig yn 'weithred adfer'. Bydd yr Awdurdod yn penderfynu a oes gwir angen am y datblygiad, ynteu a yw'r gweithgaredd mewn gwirionedd yn un ar gyfer 'gwaredu' gwastraff i dir am unrhyw reswm arall. Yr ystyriaeth allweddol ar gyfer 'gweithrediadau adfer' yw y byddai'r datblygiad wedi digwydd beth bynnag, hyd yn oed pe na bai'r gwastraff ar gael. Os nad yw hyn yn wir, yna byddai'r gweithrediad yn cael ei ddosbarthu fel gweithrediad gwaredu.

11.589 Rhaid i'r cynnig ddangos bod swm y gwastraff a gaiff ei ddefnyddio'n cyfateb â'r lleiafswm y mae ei angen ac y byddai unrhyw newidiadau i'r dirffurf o ganlyniad yn gydnaws â'r ardal. Dylai'r datblygiad barchu buddiannau cadwraeth natur ac amwynder y safle a'r ardal gyfagos, gan gynnwys cymeriad y dirwedd ac amwynder gweledol.


[2] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 - paragraff 4..3.42

[3] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10

[4]Edge Analytics - Adendwm Rhagolwg o Boblogaeth ac Aelwydydd Sir Gaerfyrddin 2019

[5] Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 2: Cynllunio a Thai Fforddiadwy 2006 - Paragraff 5.2

[6]Astudiaeth Anghenion Gwledig Sir Gaerfyrddin 2019

[7]https://www.bargenddinesigbaeabertawe.cymru/prosiectau/pentref-gwyddor-bywyd-a-llesiant/ /

[8]https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/datblygu-a-buddsoddiad/llynnoedd-delta/#.XeQ8_3d2tPY

[9]https://www.bargenddinesigbaeabertawe.cymru/prosiectau/yr-egin-canolfan-s4c/

[10] Astudiaeth Sectorau Cyflogaeth (ESS) 2016

[11] (TAN 6 Para 3.1.3)

[12] Amcanion Llesiant Sir Gaerfyrddin 2018-18

[13] Cymraeg 2050 Miliwn o Siaradwyr, Llywodraeth Cymru (2017)

[14] Canllawiau Cynllunio Atodol Cyngor Sir Caerfyrddin ar y Gymraeg (2014)

[15] Rheoliadau'r Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y'u diwygiwyd); Polisi Cynllunio Cymru; Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 13/97 Rhwymedigaethau Cynllunio

[16] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 (paragraff 3.24)

[17] Asesiad o'r Effaith ar Iechyd: Canllaw Ymarferol – Uned Gymorth Asesu'r Effaith ar Iechyd Cymru

[18] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 – Paragraff 5.2.2

[19] Deddf Tai (Cymru) 2014

[20] Cylchlythyr Llywodraeth Cymru 005/2018: Cynllunio ar gyfer Safleoedd Sipsiwn, Teithwyr a Sioemyn

[21] https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/twristiaeth/ystadegau-a-thueddiadau/#.Xfi3wuRXWM8

[22] https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/twristiaeth/blaenoriaethau-twristiaeth/beicio/#.Xfi31-RXWM8

[23] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 - Adran 4

[24] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 – Paragraff 2.2

[25] Tudalennau Gwe Cyngor Sir Caerfyrddin – Systemau Draenio Cynaliadwy - https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/gwasanaethaur-cyngor/cynllunio/corff-cymeradwyo-draenio-cynaliadwy-sab/#.Xfi39uRXWM8

[26] Datganiad Ysgrifenedig Llywodraeth Cymru: Cynllun gweithredu sŵn a seinweddau 2018-2023

[27] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 – Paragraff 7.23

[28] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 – Paragraff 6.7.19

[29] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 – Paragraff 6.8.

[30] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 – Paragraff 6.7

[31] Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 10 Paragraffau 6.9.19

[33] TAN6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy - Paragraff 4.13.1

[34] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 – Paragraff 4.2.39

[36] Nodyn Cyngor Technegol 1: Datblygu Economaidd – Paragraff 3.2.1

[37] Llythyr oddi wrth y Prif Swyddog Cynllunio - Canllawiau ar sicrhau gwelliannau i fioamrywiaeth mewn cynigion datblygu 2019.

[38] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 – Paragraffau 6.1.18 a 6.1.19. Ceir rhagor o wybodaeth am ystyried parciau a gerddi hanesyddol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio yn Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol (https://gov.wales/topics/planning/policy/tans/tan-24/?lang=cy) a Canllawiau arfer gorau cadw: Rheoli Newid i Barciau a Gerddi Hanesyddol Cofrestredig yng Nghymru (http://cadw.gov.wales/docs/cadw/publications/ historicenvironment/20170531Managing%20Change%20to%20Registered%20Historic%20Parks%20&%20Gardens%20in%20Wales%20 26922%20CY.pdf).

[39] Ceir rhagor o wybodaeth am y gofrestr o dirweddau hanesyddol a'i defnydd wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio yn Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol. https://gov.wales/topics/planning/policy/tans/tan-24/?lang=cy

[40] Ceir rhagor o wybodaeth am ystyried olion archeolegol trwy'r broses gynllunio, gan gynnwys asesiadau desg, gwerthuso caeau ac ystyried gweddillion archeolegol nas rhagwelwyd, yn Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol. https://gov.wales/topics/planning/policy/tans/tan-24/?lang=cy

[41] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 – Paragraffau 6.1.30 - 6.1.32.

[[1]]1 Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 – Paragraff 6.78

[[2]]2 Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 – paragraff 4.1.11

[[3]]3 Ail-egnïo Cymru: Datgarboneiddio Trafnidiaeth yng Nghymru – Y Sefydliad Materion Cymreig (Mehefin 2018)

www. iwa. Cymru/wp-cynnwys/llwythiadau/2018/06/IWA_Decarbonising_Transport-01.pdf

[42] Fel a nodir yn Nodyn Cyngor Technegol 15 (2004) – Mapiau Cyngor Datblygu

[43] Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 10: Paragraff 6.6.25

[44] Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 10: Paragraff 6.6.26

[45] http://lle.gov.wales/catalogue/item/WWNPFloodplainReconnectionPotentialWales/?lang=cy

[46] Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 10: Paragraff 4.110

[47] Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 10: Paragraff 3.35

[48] Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 1: Agregau

[49] Nodyn Cyngor Technegol Mwynau 2: Glo

[50] Erthygl 16 Cyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yr UE, 2008

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig