Deposit LDP

Daeth i ben ar 2 Hydref 2020
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

Atodiad 1

Cyd-destun - Canllawiau a Pholisi Cynllunio Cenedlaethol a Deddfwriaethol

Mae'r gofyniad statudol i baratoi a mabwysiadu Cynllun Datblygu ar gyfer ardal weinyddol Sir Gaerfyrddin wedi'i nodi o dan y ddeddfwriaeth, a chyhoeddir canllawiau penodol gan Lywodraeth Cymru ar yr agweddau gweithdrefnol ar baratoi'r Cynllun a'i gynnwys. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (fel y'i diwygiwyd)
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol, Cymru) 2005
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
  • Llawlyfr y Cynllun Datblygu Lleol

Mae dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i hyrwyddo datblygu cynaliadwy. Yn ei dro mae cyfrifoldeb ar Awdurdodau Lleol i fodloni'r gofyniad hwn.

Mae datblygu cynaliadwy yn rhan ganolog o strategaeth y Cynllun Adneuo. Yn hyn o beth, dylid ystyried gofynion:

  • Rheoliadau Asesiad Amgylcheddol Strategol 2004;
  • Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a
  • Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae pob un o'r uchod wedi bod yn allweddol wrth lunio'r Cynllun ac wedi dylanwadu ar ei gynnwys.

Yn ogystal â'r fframwaith deddfwriaethol uchod, rhoddir ystyriaeth i Bolisïau a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol wrth baratoi'r Cynllun, yn ogystal â dogfennau thematig strategol eraill gan gynnwys y canlynol:

  • Polisi Cynllunio Cymru
  • Nodiadau Cyngor Technegol (TANs)
  • Nodiadau Cyngor Technegol Mwynau (MTANs)
  • Cylchlythyrau Llywodraeth Cymru
  • Strategaeth Drafnidiaeth Cymru
  • Adfywio'r Economi: Cyfeiriad Newydd
  • Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Fframwaith Adfywio Newydd
  • Strategaeth Amgylcheddol ar gyfer Cymru
  • Cynllun Rheoli Traethlin
  • Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned - Y Cynllun Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Cymru
  • Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer Cymru
  • Gweithio i Sicrhau Dyfodol Iachach i Gymru
  • Strategaeth Genedlaethol Ffyniant i Bawb
  • Tuag at Ddyfodol Diwastraff - Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned: Strategaeth Wastraff Gyffredinol Cymru (2010)
  • Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
  • Deddf Tai (Cymru) 2014
  • Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016
  • Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013
  • Deddf Cymru 2017
  • Llywodraeth Cymru - Pobl, Lleoedd, Dyfodol - Cynllun Gofodol Cymru
  • Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000
  • Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2017

Rhanbarthol

  • Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe 2013 - 2030:
  • Bargen Ddinesig Bae Abertawe 2017
  • Cynllun Trafnidiaeth Lleol ar y Cyd ar gyfer De-orllewin Cymru (2015-20):
  • Adroddiad Monitro Cynllunio Gwastraff ar gyfer Rhanbarth De-orllewin Cymru:
  • Cynllun Rheoli Adnoddau Dŵr Cymru
  • Cynllun Rheoli Basn Afon Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru

Lleol

  • Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf
  • Cynllun Llesiant Lleol Sir Gaerfyrddin
  • Trawsnewidiadau: Cynllun Adfywio Strategol Sir Gaerfyrddin
  • Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy 2016 - 2020: Cyflenwi mwy o gartrefi i bobl Sir Gaerfyrddin:
  • Astudiaeth Cyflogaeth Sectorol Sir Gaerfyrddin
  • Cyngor Sir Caerfyrddin - Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr
  • Cynllun Gwella Hawliau Tramwy (CGHT) Sir Gaerfyrddin
  • Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol
  • Cynllun Rheoli Risg Llifogydd ar gyfer Ardal Basn Afonydd Gorllewin Cymru
  • Cyngor Sir Caerfyrddin - Y Cynllun Heneiddio'n Dda
  • Cyngor Sir Caerfyrddin - Strategaeth Pobl Hŷn 2015-2025
  • Cyngor Sir Caerfyrddin - Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg
  • Cyngor Sir Caerfyrddin – Adroddiad Blynyddol ar Ofal Cymdeithasol
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig