Deposit LDP
Atodiad 2
Cyd-destun Strategol Rhanbarthol a Lleol
Roedd yn nodi er bod y CDLl yn rhan allweddol o'r darlun strategol o fewn y sir ac yn rhanbarthol, nid yw'n sefyll ar wahân i gynlluniau a strategaethau eraill. Roedd nifer o'r rhain yn darparu canllawiau ar gyfer paratoi'r Cynllun, ac roedd eraill yn rhan o gyfres strategol o ddogfennau sy'n llywio sut y bydd y rhanbarth a'r sir yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf.
Rhanbarthol
Dinas-ranbarth Bae Abertawe
Mae Sir Gaerfyrddin yn rhan o Ddinas-ranbarth Bae Abertawe sydd hefyd yn cwmpasu ardaloedd Awdurdodau Lleol Sir Benfro, Dinas a Sir Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Wrth ddod â busnesau, Llywodraeth Leol ac ystod o bartneriaid eraill ynghyd, mae'r Dinas-ranbarth wedi cyhoeddi Strategaeth Adfywio Economaidd Dinas-ranbarth Bae Abertawe 2013–2030.
Bargen Ddinesig Bae Abertawe
Cafodd Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gwerth £1.3 biliwn, ei llofnodi ym Mawrth 2017, a disgwylir y bydd yn arwain at gynnydd parhaol o £1.8 biliwn yng ngwerth ychwanegol gros Dinas-ranbarth Bae Abertawe a bydd yn creu bron 10,000 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.
Y Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd arfaethedig ar hyd arfordir Llanelli fydd y prosiect adfywio mwyaf erioed yn Ne-orllewin Cymru a'i nod yw gwella iechyd a llesiant pobl ar draws y rhanbarth.
Mae prosiect diwydiant creadigol yn Yr Egin yng Nghaerfyrddin yn ceisio manteisio ar gynigion seilwaith newydd Arfordir y Rhyngrwyd. Bydd Yr Egin yn creu newid mawr a chadarnhaol yn economi greadigol a digidol Cymru.
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd - Cynlluniau Datblygu Strategol a Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru
Mae'r ymgynghoriad drafft ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (Awst 2019) yn cyfeirio at dri rhanbarth sy'n ffocws ar gyfer polisi Llywodraeth Cymru a buddsoddi yn y dyfodol. Mae Sir Gaerfyrddin wedi'i chynnwys o fewn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae Bae Abertawe a Llanelli wedi'u nodi fel ffocws ar gyfer twf, ac mae Caerfyrddin wedi'i nodi fel un o'r canolfannau rhanbarthol.
Cynlluniau Datblygu Awdurdodau Cyfagos
Mae'r Cyngor yn cysylltu'n rheolaidd ac yn agos â'r awdurdodau cyfagos, yn unigol ac ar y cyd, ar lefel ranbarthol (trwy Grŵp Cynllunio Rhanbarthol De Orllewin Cymru) i sicrhau bod eu Cynlluniau Datblygu Lleol yn alinio â'i gilydd.
Mae'r Cynllun wedi cael ei baratoi gan ystyried awdurdodau cyfagos, a, lle bo'n briodol, mewn cydweithrediad â nhw. Mae hyn wedi cynnwys casglu tystiolaeth ac ymchwil ar draws y rhanbarth ehangach ond hefyd ar lefel is-ranbarthol rhwng yr awdurdodau hynny sy'n cynnal Adolygiadau o'r Cynlluniau Datblygu Lleol.
Mae rhai ffactorau'n golygu nad oes modd cael cydymffurfiaeth lwyr ond roedd trafodaethau adeiladol a rhannu gwybodaeth a phrofiad yn lleihau'r perygl y byddai polisïau'n gwrthdaro ac yn sicrhau lefel briodol o integreiddio.
Mabwysiadodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ei Gynllun Datblygu Lleol ym mis Ionawr 2016 a bydd yn paratoi'r adroddiad am ei adolygiad cyntaf yn fuan. Mae dialog parhaus wedi sicrhau bod dealltwriaeth o'r dulliau ac o gyfeiriad y fframweithiau polisi. Bydd cynnydd yr adolygiad i Gynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot yn cael ei fonitro a'i ystyried yn briodol yn ôl yr angen.
Mabwysiadodd Dinas a Sir Abertawe ei Gynllun Datblygu Lleol ym mis Chwefror 2019. Mae mabwysiadu CDLl Abertawe yn ddiweddar yn caniatáu ystyried eu polisïau a'u cynigion, ynghyd â'r gallu i ymateb (ac integreiddio) fel sy'n briodol wrth baratoi CDLl Diwygiedig Sir Gaerfyrddin. Bydd cyswllt parhaus yn sicrhau cyd-ddealltwriaeth o'r dulliau ac mae dialog penodol wedi bod ar faterion sy'n ymwneud â Safle Morol Ewropeaidd Bae Caerfyrddin a'r Aberoedd.
Mabwysiadodd Cyngor Sir Powys ei Gynllun Datblygu Lleol ym mis Ebrill 2018. Bydd y Cyngor yn parhau i archwilio perthnasoedd strategol fel rhan o ragolygon rhanbarthol strategol. Caiff unrhyw adolygiad o Gynllun Datblygu Lleol Powys yn y dyfodol ei fonitro a'i ystyried yn briodol.
Mae sesiynau gwrandawiad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gyfer ei Gynllun Datblygu Lleol newydd wedi gorffen bellach. Mae CDLl newydd Awdurdod y Parc yn cyd-fynd yn fras â strwythur anheddiad hierarchaidd a chysondeb yn y dull polisi cynllunio bras gyda Sir Gaerfyrddin. Bydd y Cyngor yn parhau i fonitro cynnydd y Cynllun tuag at fabwysiadu ac yn gweithio'n agos gydag Awdurdod y Parc i sicrhau dealltwriaeth barhaus o faterion a chysondeb. Mae dull rhagweithiol tuag at weithio rhanbarthol ac is-ranbarthol yn hanfodol mewn materion polisi, casglu tystiolaeth ac ystyriaethau strategol.
Mabwysiadodd Cyngor Sir Penfro ei Gynllun Datblygu Lleol ym mis Chwefror 2013. Ystyrir bod cysondeb ac aliniad bras o ran y dull o safbwynt strategol a pholisi. Mae'r weledigaeth a'r fframwaith gofodol ar gyfer hierarchaeth o aneddiadau yn gyson yn gyffredinol. Ceir hefyd aliniad bras rhwng dull a maint y datblygiad a thwf. Mae rôl Caerfyrddin fel canolfan ranbarthol yn cael ei chydnabod gan y naill ochr a'r llall gyda chyfatebolrwydd aneddiadau yn cael ei ddatblygu a'i ddeall drwy Gynllun Gofodol Cymru. Mae Cyngor Sir Penfro wrthi'n paratoi ei Gynllun Datblygu Lleol, ag amserlen debyg i Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r aliniad bras a amlinellir uchod yn para. Mae dull rhagweithiol tuag at weithio rhanbarthol ac is-ranbarthol yn hanfodol mewn materion polisi, casglu tystiolaeth ac ystyriaethau strategol.
Mabwysiadodd Cyngor Sir Ceredigion ei Gynllun Datblygu Lleol ym mis Ebrill 2013. Tra ystyrir bod strategaethau aneddiadau perthnasol Ceredigion a Sir Gaerfyrddin ychydig yn wahanol i'w gilydd, mae cydweddoldeb cyffredinol â'r gweledigaethau priodol. Mae ymrwymiad i barchu a chynnal amrywiaeth ac ansawdd y cynllun, i leihau'r angen i deithio, ac i gynaliadwyedd a chreu lleoedd cynaliadwy. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn y broses o baratoi CDLl newydd, ag amserlen debyg i Gyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r aliniad bras a amlinellir uchod yn para. Mae dull rhagweithiol tuag at weithio rhanbarthol ac is-ranbarthol yn hanfodol mewn materion polisi, casglu tystiolaeth ac ystyriaethau strategol.
Mabwysiadodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei Gynllun Datblygu Lleol ym mis Rhagfyr 2013. Bernir nad oes problemau trawsffiniol clir o ran aneddiadau. Mae Awdurdod y Parc wrthi'n paratoi ei GDLl newydd ac mae'r Strategaeth a Ffefrir wedi cael ei chyhoeddi yn haf 2019. Mae dull rhagweithiol tuag at weithio rhanbarthol ac is-ranbarthol yn hanfodol mewn materion polisi, casglu tystiolaeth ac ystyriaethau strategol. Rhoddir ystyriaeth briodol i oblygiadau'r cynigion yng ngorllewin y Parc - yn enwedig o ran lefel y tai a ddosrennir.
Byddwn ni, drwy aelodaeth Grŵp Cynllunio Rhanbarthol De-orllewin Cymru, yn parhau i weithio'n agos, yn enwedig o ran deall a datblygu'r cysyniad a'r cyfleoedd i gael Cynllun Datblygu Strategol ar draws y rhanbarth. Mae nifer o gyfarfodydd â ffocws wedi cael eu cynnal i bwyso a mesur a deall ei gyd-destun thematig a gofodol posibl.
Cydgynllun Trafnidiaeth ar gyfer De-orllewin Cymru (2015-20):
Mae hwn yn cyflwyno'r weledigaeth, yr amcanion a strategaeth hirdymor ar gyfer cyfnod o 20 mlynedd a rhaglen bum mlynedd o brosiectau. Mae'r Cynllun yn cwmpasu'r rhanbarth sydd yn dod o fewn ardaloedd gweinyddol Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro, a Dinas a Sir Abertawe.
Partneriaeth Twristiaeth De-orllewin Cymru (SWWTP)
Roedd Partneriaeth Twristiaeth De-orllewin Cymru yn gyfrifol am gyflwyno'r strategaeth twristiaeth genedlaethol ar lefel ranbarthol. Daeth y Bartneriaeth i ben yn 2014, ond mae Croeso Cymru yn parhau i gynnal ei ymrwymiad parhaus i Reoli Cyrchfannau trwy Dimau Ymgysylltu Rhanbarthol.
Adroddiad(au) Monitro Cynllunio Gwastraff Rhanbarth De-orllewin Cymru:
Caiff yr adroddiadau hyn eu llunio yn unol â TAN21: Gwastraff a'u bwriad yw coladu ac asesu data sydd ar gael ar bob gwastraff sy'n cronni, y lle gwag sydd ar gael mewn safleoedd tirlenwi a rheoli gwastraff gweddilliol yn y rhanbarth er mwyn monitro tueddiadau ac yn y pen draw, monitro perfformiad yn erbyn y targedau a osodir yn Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Mae hefyd yn asesu cynnydd y meysydd a gwmpesir gan bolisi gwastraff mewn Cynlluniau Datblygu Lleol, yn ogystal â darparu gwybodaeth am gynlluniau rheoli gwastraff / adennill adnoddau awdurdodau lleol ar hyn o bryd, a'r rhai fydd yn cael eu caffael yn y dyfodol.
Cynllun Rheoli Basn Afon Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru (2015-2021), Cyfoeth Naturiol Cymru 2015
Mae'r Cynllun Rheoli Basn Afon ar gyfer Ardal Basn Afon Gorllewin Cymru wedi'i baratoi o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Mae'n disgrifio cyflwr presennol yr ardal basn afon a'r hyn a gyflawnwyd ers 2009; yn manylu ar y Rhaglen o Gamau ar gyfer gwella'r amgylchedd dŵr erbyn 2021, ac yn darparu amcanion y corff dŵr.
Lleol
Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin
Cymeradwywyd y Cynllun ar 2 Mai 2018. Bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio mewn partneriaeth i fynd i'r afael â rhai o'r materion allweddol sy'n effeithio ar lesiant dinasyddion a chymunedau Sir Gaerfyrddin. Cyfeirir at adran "cipolwg" Sir Gaerfyrddin sy'n nodi ystyriaethau o ran Demograffeg, Economi, Iechyd a Llesiant, yr Amgylchedd a Diwylliant. Y pedwar amcan llesiant yw:
- Arferion Iach - Mae gan bobl ansawdd bywyd da, ac maent yn gwneud dewisiadau iach ynglŷn â'u bywydau a'u hamgylchedd;
- Ymyrraeth Gynnar - Sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn; pan fydd ei angen arnynt;
- Cysylltiadau Cryf - Pobl, llefydd a sefydliadau sydd â chysylltiadau cryf sydd yn gallu addasu i newid; a
- Pobl a Lleoedd Ffyniannus – Uchafu'r cyfleoedd ar gyfer pobl a lleoedd mewn ardaloedd trefol a gwledig o'n sir.
Strategaeth Gorfforaethol – Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin
Dyma Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2018 – 2023 (cymeradwywyd 2018 – diweddarwyd 2019). Mae'n pennu i ba gyfeiriad fydd y Cyngor yn mynd dros y pum mlynedd nesaf, gan gynnwys ei amcanion gwella a llesiant fel y'u diffinnir gan ddeddfwriaeth (gweler ffigur 1 drosodd). Mae hefyd yn cyfeirio at brosiectau a rhaglenni allweddol y Bwrdd Gweithredol ar gyfer y pum mlynedd nesaf, cyfres o bron 100 o brosiectau a flaenoriaethwyd.
Mae'r strategaeth yn amlinellu gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y dyfodol drwy 15 o amcanion o dan bedair thema allweddol, i gefnogi trigolion i: ddechrau'n dda, byw'n dda a heneiddio'n dda mewn amgylchedd iach, diogel a llewyrchus. Mae'r 15 o Amcanion Llesiant yn cwmpasu'r amrywiaeth eang o Wasanaethau sydd gan y Cyngor er mwyn sicrhau llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol.
Cynigion a basiwyd gan y Cyngor
Mae'r cynigion hynny sy'n berthnasol i'r CDLl diwygiedig a basiwyd gan y Cyngor yn ddiweddar yn cynnwys datgan argyfwng hinsawdd ynghyd â chanolbwyntio ar gynllunio a'r iaith Gymraeg.
Trawsnewidiadau: Cynllun Adfywio Strategol ar gyfer Sir Gâr – 2015 – 2030
Mae'n nodi strategaeth adfywio Sir Gaerfyrddin, gan adeiladu ar y cyfleoedd ar gyfer twf a buddsoddiad. Mae hyn yn ei dro yn dangos bod Sir Gaerfyrddin yn elfen hyderus, uchelgeisiol a chysylltiedig o Ddinas-ranbarth Bae Abertawe.
Ein Hymrwymiad i Dai Fforddiadwy 2015 – 2020 a Chynllun Cyflawni Tai Fforddiadwy 2016-2020
Cyhoeddodd y Cyngor ei weledigaeth bum mlynedd ar gyfer cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn 2015 ac, yn 2016, aeth ati i nodi ein rhaglen uchelgeisiol gyntaf i ddarparu dros 1000 o dai fforddiadwy ychwanegol ar draws y Sir. Ym mis Medi 2019 dechreuodd y bedwaredd flwyddyn o ddarparu tai fforddiadwy ac yn ystod y tair blynedd gyntaf mae'r Cyngor wedi bod yn llwyddiannus iawn oherwydd mae bron 700 o dai wedi cael eu codi, gan sicrhau bod y Cyngor ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed o 1000.
Mae'r ardaloedd gweithredu tai fforddiadwy fel a ganlyn: Trefi Gwledig a Threfi Marchnad Sir Gaerfyrddin; Rhydaman a Dyffryn Aman; Caerfyrddin a'r Gorllewin; a Llanelli a'r cylch.
Ffigur 1 - Strategaeth Gorfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin
Adeiladu Mwy o Dai Cyngor - 'Ein huchelgais a'n cynllun gweithredu'.
Yn ei gyfarfod ym mis Medi 2019, cymeradwyodd y Cyngor raglen fuddsoddi uchelgeisiol o bron £150m a fydd yn darparu dros 900 o dai Cyngor newydd. Mae'r cynllun hwn yn ceisio cydymffurfio â'r Cynllun Cyflawni Tai Fforddiadwy a darparu hyd yn oed mwy o dai fforddiadwy yn y Sir. Caiff y tai eu hadeiladu gan ddefnyddio amrywiaeth o fodelau cyflawni, a bydd y rhaglen adeiladu tai newydd yn dilyn yr ardaloedd gweithredu tai fforddiadwy.
Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin
Mae'r adroddiad yn cynnwys 55 o argymhellion, ac mae chwe argymhelliad wedi'u rhestru o dan yr adran "cynllunio a thai." Wrth gadarnhau ymwybyddiaeth o gyfraniad pwysig ardaloedd gwledig y Sir ar lefel gorfforaethol, ceir argymhellion sy'n berthnasol i'r CDLl Diwygiedig yn uniongyrchol ac felly ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd yr adroddiad hwn o ran llywio'r CDLl Diwygiedig.
Moderneiddio'r Rhaglen Addysg.
Yn 2005, mabwysiadodd y Cyngor ei Raglen Moderneiddio Addysg (RhMA). Nod y RhMA yw sicrhau bod y rhwydwaith o ysgolion yn diwallu anghenion y presennol a'r dyfodol, a'i fod yn gwneud hynny mewn ffordd strategol ac mewn ffordd sy'n effeithiol yn weithredol. Trwy wneud hyn, mae'r RhMA yn nodi gofynion ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol i sicrhau darpariaeth addas a digonol o ran lleoedd mewn ysgolion ac mae'n nodi cynlluniau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol mewn modd cydgysylltiedig a strwythuredig.
Mae RhMA y Cyngor yn ddull strategol uchelgeisiol a blaengar sy'n darparu cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf ledled y sir. Wrth ddatblygu'r Papur Rôl a Swyddogaeth hwn, rhoddwyd ystyriaeth i'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud, ac mae hefyd yn ystyried y gwaith sydd wedi'i raglennu ar gyfer y dyfodol.