Deposit LDP

Daeth i ben ar 2 Hydref 2020
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

8. Twf Strategol ac Opsiynau Gofodol

Opsiynau Twf Strategol

8.1 Er mwyn llywio cyfeiriad twf poblogaeth ac aelwydydd yn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol dros gyfnod CDLl Diwygiedig 2018-2033, mae'r Cyngor wedi cynnal adolygiad o batrymau demograffig a ffurfio aelwydydd ar gyfer ardal y cynllun. Cyhoeddwyd Papur Rhagolygon Poblogaeth ac Aelwydydd (2018) fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir, a chyhoeddir atodiad pellach (2019) gyda'r CDLl Adneuo hwn. Mae'r atodiad hwn yn darparu rhagor o ganlyniadau senarios demograffig o ran opsiynau a arweinir gan y boblogaeth ac opsiynau a arweinir gan gyflogaeth yng ngoleuni amgylchiadau newidiol. Mae pob senario yn cael ei ystyried yn erbyn cyfradd anheddau gwag Cyfrifiad 2011, yn ogystal â chyfradd anheddau gwag amrywiol y cyfrifir o gofnodion y dreth gyngor Sir Gaerfyrddin, a gyfrifir fel 3.4%. Penderfynwyd mai'r gyfradd anheddau gwag hon yw'r ffigur mwyaf priodol i'w ddefnyddio o fewn y senarios demograffig.

8.2 Mae'r Papur Rhagolygon Poblogaeth ac Aelwydydd hefyd yn nodi'r cysylltiadau rhwng twf poblogaeth a thwf cyflogaeth amcangyfrifiedig. Cydberthynir hyn gan adnabod sut mae twf y boblogaeth a gwahaniaethau yn y gweithlu a demograffeg yn cynnal cyfleoedd gwaith a thwf economaidd. Ystyrir y casgliad cyfan o opsiynau twf demograffig isod.

Amcanestyniad Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar 2014 (Adroddiad 2018)

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +3,207

Amcanestyniad o'r newid yn yr aelwydydd rhwng 2018-2033: +3,254

Gofyniad tai newydd: 3,367 o dai

Gwerth Creu Swyddi y flwyddyn: -55 o swyddi

Casgliad

Byddai defnyddio'r duedd hon o ran twf ar gyfer CDLl Sir Gaerfyrddin yn cael effaith anffafriol ar uchelgeisiau strategol y Cyngor o safbwynt economaidd a chymdeithasol. Yn ogystal, o ystyried yr effeithiau negyddol posibl a amlygir uchod, nid ystyrir ei bod yn ddoeth defnyddio amcanestyniad Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2014 . Ni fyddai defnyddio'r senario hwn yn cyflawni Gweledigaeth ac Amcanion Strategol y Cynllun.

Amcanestyniad (ymfudiad cyfartalog dros 10 mlynedd) Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar 2014

(Adroddiad 2018)

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +10,842

Amcanestyniad o'r newid yn yr aelwydydd rhwng 2018-2033: +6,322

Gofyniad tai newydd: 6,542 o dai

Gwerth Creu Swyddi: 198 o swyddi y flwyddyn

Casgliad

O ystyried yr effeithiau negyddol posibl a amlygir uchod, nid ystyrir ei bod yn ddoeth defnyddio dau senario amrywiol amcanestyniad Llywodraeth Cymru (ymfudiad cyfartalog dros 10 mlynedd) sy'n seiliedig ar 2014 fel yr opsiwn twf ar gyfer y CDLl Diwygiedig. Ni fyddai'n cyflawni Gweledigaeth ac Amcanion Strategol y Cynllun.

Byddai'r ddau senario gwahanol yn cyfyngu ar uchelgeisiau economaidd Sir Gaerfyrddin o ran creu swyddi a chadw oedolion iau i fyw a gweithio yn y sir.

Twf Poblogaeth Tymor Byr (Adroddiad 2018)

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +10,691

Amcanestyniad o'r newid yn yr aelwydydd rhwng 2018-2033: +6,807

Gofyniad tai newydd: 7,044 o dai

Gwerth Creu Swyddi: 126 o swyddi y flwyddyn

Casgliad

O ystyried yr effeithiau negyddol posibl a amlinellwyd uchod, nid ystyrir yn ddoeth defnyddio'r amcanestyniad twf poblogaeth tymor byr fel opsiwn twf ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir. Ni fyddai'n cyflawni Gweledigaeth ac Amcanion Strategol y Cynllun.

Twf Poblogaeth dros 10 mlynedd (Adroddiad 2018)

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +11,755

Amcanestyniad o'r newid yn yr aelwydydd rhwng 2018-2033: +6,992

Gofyniad tai newydd: 7,236 o dai

Gwerth Creu Swyddi: 178 o swyddi y flwyddyn

Casgliad

Er bod darparu 497 neu 482 o anheddau y flwyddyn yn debyg i'r hyn a ddarparwyd ers 2007, nid yw'n cynnig yr hyblygrwydd i ddefnyddio'r blynyddoedd hynny pan oedd darparu tai a'r farchnad dai yn fwy bywiog. Ers 2015, mae'r gyfradd darparu tai ar gyfartaledd wedi bod yn 545 o anheddau y flwyddyn a byddai cyfyngu ar y gofyniad tai drwy'r senario hwn yn cyfyngu ar uchelgeisiau economaidd Sir Gaerfyrddin o ran creu swyddi a darparu cyfleoedd i oedolion iau fyw a gweithio yn y Sir. Ni fyddai'r senario hwn yn cyflawni gweledigaeth ac amcanion strategol y cynllun.

Twf Poblogaeth Tymor Hir (Adroddiad 2018)

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +17,567

Amcanestyniad o'r newid yn yr aelwydydd rhwng 2018-2033: +9,555

Gofyniad tai newydd: 9,887 o dai

Gwerth Creu Swyddi: 353 o swyddi y flwyddyn

Casgliad

At ei gilydd, byddai defnyddio'r senario hwn yn darparu rhagolwg cadarnhaol a darpariaeth briodol ar gyfer codi tai yn y sir. Byddai'n caniatáu'r hyblygrwydd i yrru twf tai cynaliadwy ac yn cefnogi uchelgeisiau economaidd y sir.

Er y bydd defnyddio senario â thwf uwch yn y boblogaeth yn golygu bod pobl 15-19 yn dal i adael y sir, mae mwy'n dychwelyd yn y garfan oedran 20-24 sy'n arwain at ragolwg demograffig cytbwys ar gyfer y sir yn y dyfodol.

Byddai defnyddio'r senario hwn yn cynorthwyo o ran cyflawni Gweledigaeth ac Amcanion Strategol y Cynllun.

Senario Twf Poblogaeth cyn y Dirwasgiad (Adroddiad 2018)

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +26,811

Amcanestyniad o'r newid yn yr aelwydydd rhwng 2018-2033: +13,616

Gofyniad tai newydd: 14,090 o dai

Gwerth Creu Swyddi: 632 o swyddi y flwyddyn

Casgliad

Byddai defnyddio senario'r amcanestyniad hwn ar gyfer y CDLl Diwygiedig yn gymesurol â'r strategaeth twf yn y CDLl mabwysiedig. Er y byddai'r senario hwn yn uchelgeisiol o ran hyrwyddo dyheadau economaidd, byddai gosod gofyniad twf mor uchel drwy'r senario twf poblogaeth cyn y dirwasgiad yn arwain at strategaeth twf na ellir ei chynnal na'i chyflawni.

Ni fyddai'r senario hwn yn cyflawni gweledigaeth ac amcanion strategol y cynllun.

Twf Poblogaeth Tymor Hir (Adroddiad Atodiad 2019)

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +17,881

Amcanestyniad o'r newid yn yr aelwydydd rhwng 2018-2033: +9,726

Gofyniad tai newydd: 10,065 o dai

Gwerth Creu Swyddi: 439 o swyddi y flwyddyn

Casgliad

Byddai defnyddio'r amcanestyniad hwn yn darparu rhagolwg cadarnhaol a darpariaeth briodol ar gyfer codi tai yn y sir. Mae'r cynnydd mewn mudo i Sir Gaerfyrddin a welwyd yn amcangyfrifon canol blwyddyn 2018 yn cynyddu rhyw ychydig ar yr amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd o'r hyn a ystyriwyd yn adroddiad senario Twf Poblogaeth Tymor Hir 2018. Nid yw'r niferoedd gofyniad tai yn wahanol iawn i'r rhai a fernid fel yr opsiwn a ffafriwyd yn y Strategaeth a Ffefrir, a byddai'n caniatáu'r hyblygrwydd i ysgogi twf cynaliadwy mewn tai ac i gefnogi uchelgeisiau economaidd y sir.

Er y bydd defnyddio senario â thwf uwch yn y boblogaeth yn golygu bod pobl 15-19 yn dal i adael y sir, mae mwy'n dychwelyd yn y garfan oedran 20-24 sy'n arwain at ragolwg demograffig cytbwys ar gyfer y sir yn y dyfodol.

Byddai defnyddio'r senario hwn yn cynorthwyo o ran cyflawni Gweledigaeth ac Amcanion Strategol y Cynllun

Twf Poblogaeth dros 10 mlynedd (Adroddiad Atodiad 2019)

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +15,115

Amcanestyniad o'r newid yn yr aelwydydd rhwng 2018-2033: +8,538

Gofyniad tai newydd: 8,835 o dai

Gwerth Creu Swyddi: 354 o swyddi y flwyddyn

Casgliad

At ei gilydd, byddai defnyddio'r senario hwn yn darparu rhagolwg cadarnhaol a darpariaeth briodol ar gyfer codi tai yn y sir. Byddai'n caniatáu'r hyblygrwydd i yrru twf tai cynaliadwy ac yn cefnogi uchelgeisiau economaidd y sir. Mae'r berthynas rhwng creu swyddi a chynnydd yn y boblogaeth yn fwy cadarnhaol na'r senario a nodwyd yn y Strategaeth a Ffefrir gan fod y gofyniad o ran aelwydydd yn is, gyda thwf cyfrannol y boblogaeth oedran gweithio yn uwch.

Er y bydd defnyddio senario â thwf uwch yn y boblogaeth yn golygu bod pobl 15-19 yn dal i adael y sir, mae mwy'n dychwelyd yn y garfan oedran 20-24 sy'n arwain at ragolwg demograffig cytbwys ar gyfer y sir yn y dyfodol.

Byddai defnyddio'r senario hwn yn cynorthwyo o ran cyflawni Gweledigaeth ac Amcanion Strategol y Cynllun.

Twf Poblogaeth Tymor Byr (Adroddiad Atodiad 2019)

Amcanestyniad o'r newid yn y boblogaeth rhwng 2018-2033: +14,133

Amcanestyniad o'r newid yn yr aelwydydd rhwng 2018-2033: +8,474

Gofyniad tai newydd: 8,769 o dai

Gwerth Creu Swyddi: 288 o swyddi y flwyddyn

Casgliad

At ei gilydd, byddai defnyddio'r senario hwn yn darparu rhagolwg cadarnhaol a darpariaeth briodol ar gyfer codi tai yn y sir. Byddai'n caniatáu'r hyblygrwydd i hybu twf cynaliadwy o ran tai, ac mae'n cael llai o effaith ar gefnogi uchelgeisiau economaidd y sir na senarios eraill. Ni fyddai gwerth creu swyddi o 288 o swyddi y flwyddyn, neu 4,320 o swyddi dros gyfnod y CDLl yn bodloni uchelgeisiau Cynllun Adfywio'r Cyngor.

Mae'r senario Twf Poblogaeth yn y Tymor Byr yn 2019 llawer yn uwch na'r hyn a ystyriwyd yn adroddiad 2018 gan ei fod yn defnyddio 4 blynedd o ddata yn hytrach na 6 blynedd. Mae hyn yn dangos pa mor anwadal yw rhagdybiaeth ar sail tueddiadau dros gyfnod byrrach o amser.

Ni fyddai'r senario hwn yn cyflawni gweledigaeth ac amcanion strategol y cynllun.

8.3 Ystyriwyd dau opsiwn arall fel sail ar gyfer ystyried twf tai yn y Sir. Canolbwyntiodd y rhain ar senarios a arweinir gan gyflogaeth, sef: Cymhareb Gymudo Sefydlog a Chymhareb Gymudo yn Gostwng. Roedd y rhain yn ceisio darparu opsiynau twf yn seiliedig ar ofyniad meincnod o ran swyddi sy'n dod o Astudiaeth Sectoraidd Cyflogaeth Sir Gaerfyrddin.

8.4 Byddai defnyddio'r senarios a arweinir gan gyflogaeth yn arwain at strategaeth dwf na ellir ei chyflawni na'i chynnal ar gyfer y Sir a byddai'r ddau opsiwn yn darparu mwy o dai na'r gofyniad twf a nodir yn y CDLl mabwysiedig (19,690 a 17,396 o anheddau yn y drefn honno).

8.5 Er y byddai'r senarios hyn yn uchelgeisiol o ran hyrwyddo dyheadau economaidd, byddai gosod gofyniad twf mor uchel yn arwain at strategaeth twf na ellir ei chyflawni na'i chynnal. Ni fyddai'r senario hwn yn cyflawni gweledigaeth ac amcanion strategol y cynllun.

Nodi'r Opsiwn Twf Strategol a Ffefrir

8.6 Mae nodi'r opsiwn twf strategol a ffefrir wedi deillio o ystyried yr amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd uchod, o ganlyniad i ymgysylltu cyn-adneuo, a'r angen i gael canlyniad cytbwys, gan gynnwys strategaethau a chynlluniau eraill megis, ond heb eu cyfyngu i, y rhai a ganlyn:

  • Llywodraeth Cymru - Polisi Cynllunio Cymru;
  • Cynllun Adfywio Strategol y Cyngor 2015 – 2030 – Trawsnewidiadau;
  • Bargen Ddinesig Bae Abertawe;
  • Strategaeth Gorfforaethol Newydd y Cyngor 2018 – 2023;
  • Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin: Y Sir Gâr a Garem 2018-2033;
  • Amcanion Llesiant y Cyngor;
  • Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy y Cyngor; ac
  • Asesiad o'r Farchnad Dai Leol[26] a
  • Cynllun y Cyngor: Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf.

8.7 Cynigir defnyddio'r senario twf poblogaeth 10 mlynedd o Adroddiad Edge Analytics 2019 a defnyddio'r gyfradd anheddau gwag amgen o 3.4% i danategu gofynion twf yn y dyfodol ar gyfer y CDLl Diwygiedig hwn. Mae'r senario hwn yn nodi'r twf poblogaeth ac aelwydydd y tu allan i ardal Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn rhoi amcanestyniad o gynnydd poblogaeth cyffredinol o 15,115 (8.1%), gyda'r gofyniad ar gyfer 8,835 o dai newydd dros gyfnod y CDLl Diwygiedig o 2018-2033. Mae hyn yn cyfateb i 589 o dai newydd y flwyddyn. Bydd y senario hwn yn helpu i gyflawni amcanion Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor o ran adfywio a chreu swyddi.

8.8 Byddai defnyddio'r opsiwn hwn a ffefrir yn gwneud cynnydd cadarnhaol o ran uchelgeisiau'r Cyngor ar gyfer darparu tai fforddiadwy ledled y sir.

Opsiynau Gofodol

8.9 Mae'r canlynol yn amlinellu nifer o opsiynau gofodol posibl a nodwyd i lywio dethol ein fframwaith gofodol yn y dyfodol a sut y gallai twf yn y dyfodol gael ei ddosbarthu ar draws y sir ar gyfer cyfnod y cynllun.

8.10 Mae'r gwaith o ystyried yr opsiynau strategol yn rhan bwysig o baratoi'r CDLl ac mae'n un o ofynion y broses Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol.

8.11 Mae pob opsiwn gofodol wedi bod yn destun ymgysylltu er mwyn asesu a gwerthuso ei briodoldeb gyda nod o sefydlu neu ddatblygu opsiwn a ffefrir. Mae eu cynnwys yn adlewyrchu'r angen i ystyried deddfwriaeth, polisi cynllunio cenedlaethol a strategaethau lleol a rhanbarthol wrth gydnabod nodweddion, asedau a materion penodol sy'n gyffredin yn Sir Gaerfyrddin ac yn ffurfio dull gweithredu strategol sy'n cyflawni'r weledigaeth ac yn hyrwyddo a llywio datblygiad ar gyfer y sir.

8.12 Wrth ddatblygu'r opsiynau, rhoddwyd ystyriaeth hefyd i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r amcanion llesiant a ddatblygwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

8.13 Dylid nodi bod creu opsiynau yn un o ofynion pwysig cyfarwyddeb yr Asesiad Amgylcheddol Strategol. Cafodd yr opsiynau strategol eu hasesu yn ôl yr Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol o fewn Adroddiad Cychwynnol yr Arfarniad Cynaliadwyedd - Asesiad Amgylcheddol Strategol. Mae hyn yn ffurfio elfen bwysig yn y broses o ddewis yr opsiwn strategol mwyaf priodol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

8.14 Mae'r opsiynau a nodir yn rhagdybio bod datblygiadau tai heb gyfleoedd cyflogaeth yn yr un lleoliad eang, ac fel arall, yn llai cynaliadwy ac y dylid eu hosgoi. Yn yr un modd, mae angen i welliannau seilwaith gyd-fynd â datblygiadau newydd, gan gynnwys gwelliannau i rwydweithiau trafnidiaeth, cyfleustodau, seilwaith gwyrdd, iechyd, addysg a chyfleusterau cymdeithasol. O ganlyniad, caiff y term 'datblygu' ei ddefnyddio yn yr Opsiynau Gofodol ar gyfer Twf i gyfeirio at y cydbwysedd rhwng tai, gwaith a'r seilwaith ategol.

8.15 Nid oes yr un opsiwn o reidrwydd yn cael ei ystyried fel yr un a ffefrir wrth baratoi a thrafod ac mae lle a hyblygrwydd i'r opsiynau hyn gael eu haddasu er mwyn ystyried ffactorau ychwanegol. Cydnabyddir y gallai'r opsiwn a ffefrir gyfuno elfennau o fwy nag un opsiwn.

8.16 Mae'r tablau isod yn rhoi esboniad o bob un o'r opsiynau gofodol wrth iddynt gael eu hystyried. Ar ôl hyn, nodir Opsiwn Gofodol a Ffefrir.

Opsiwn 1 – Opsiwn y CDLl Presennol

Disgrifiad

Defnyddio'r hierarchaeth aneddiadau er mwyn caniatáu dosbarthiad cymesurol o ddatblygiadau yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd.

Mynegiant Gofodol / Aneddiadau yr Effeithir arnynt

Mae'r opsiwn hwn yn seiliedig ar yr hierarchaeth aneddiadau pedair haen.

Asesiad Cryno

Mae'r opsiwn hwn yn canolbwyntio twf mewn modd cymesur ar draws hierarchaeth a gaiff ei thanategu gan egwyddorion cynaliadwyedd. Wrth wneud hynny, mae'r opsiwn hwn:

  • Yn rhoi anogaeth i wasgaru cyflogaeth, tai a mathau eraill o ddatblygiad rhwng aneddiadau a nodwyd a grwpiau neu glystyrau pentrefi mewn modd sy'n adlewyrchu eu graddfa bresennol, eu poblogaeth a'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd ar gael yno.
  • Yn adlewyrchu amrywiaeth y Sir ac yn dosrannu twf yn briodol i ardaloedd trefol a gwledig.
  • Yn sicrhau bod y rhan fwyaf o dwf cyflogaeth yn digwydd yn y trefi a phentrefi mwy o faint.

Casgliad

Mae'r opsiwn hwn yn cynrychioli parhad o'r strategaeth CDLl bresennol ac felly mae cyfeiriad at ganlyniadau'r adroddiad monitro ac adolygu blynyddol. Er bod y ddau yn nodi llwyddiannau wrth weithredu'r strategaeth, maent hefyd yn nodi gwendidau o ran cyflawni twf mewn agweddau o'r hierarchaeth aneddiadau.

Cydnabyddir y bu elfennau o'r strategaeth yn llwyddiannus, ond mae hefyd yn glir y gallai fod angen adolygiad a dull gweithredu diwygiedig i fynd i'r afael nid yn unig â'r gwendidau ond hefyd y newidiadau cyd-destunol.

Opsiwn 2 - Opsiwn Seilwaith a Rhwydwaith Trafnidiaeth

Disgrifiad

Yn seilio'r rhan fwyaf o'r twf yn yr ardaloedd sydd gerllaw'r prif rwydwaith priffyrdd a rheilffyrdd lle mae seilwaith ar gael i gefnogi'r datblygiad arfaethedig.

Mynegiant Gofodol / Aneddiadau yr Effeithir arnynt

Mae'r opsiwn hwn yn nodi aneddiadau a choridorau allweddol ar hyd y prif lwybrau ac ardaloedd trafnidiaeth lle y mae seilwaith neu y cynllunnir seilwaith er mwyn derbyn y lefelau twf gofynnol.

Asesiad Cryno

Mae'r opsiwn hwn yn edrych ar ddarpariaeth bresennol y seilwaith cyfleustodau a'r rhwydwaith priffyrdd ar draws y sir ac mae'n anelu at ganolbwyntio'r rhan fwyaf o dwf mewn ardaloedd sydd â'r capasiti ar gyfer twf. Mae'r opsiwn hwn yn ceisio annog twf yn yr ardaloedd lle gellir darparu ar ei gyfer yn fwyaf ymarferol trwy:

  • Annog twf ar hyd llwybrau trafnidiaeth allweddol a chyffyrdd yr M4, yr A40, yr A48, yr A484, yr A474 a'r A485 a hefyd mewn mannau sy'n hygyrch i ddulliau trafnidiaeth eraill gan gynnwys y rhwydwaith rheilffyrdd, y rhwydwaith beicio a chysylltiadau cerddwyr.
  • Annog twf mewn ardaloedd lle ceir naill ai capasiti ar hyn o bryd i gyflenwi a thrin dŵr a dŵr gwastraff neu gynlluniau ar gyfer gwneud hyn.
  • Annog twf mewn ardaloedd lle ceir digon o wasanaethau a chyfleusterau i gynnal y cymunedau.

Casgliad

Mae'r opsiwn hwn yn cysylltu twf a'r strategaeth aneddiadau yn uniongyrchol â'r seilwaith sydd ar gael. Er y byddai hyn yn cyfyngu ar y potensial ar gyfer twf mewn ardaloedd gwledig, cydnabyddir bod y berthynas rhwng datblygiad a'r ddarpariaeth seilwaith briodol yn elfen sy'n angenrheidiol fel rhan o unrhyw opsiwn a gaiff ei ddewis.

Opsiwn 3 - Yr Opsiwn Gwasgaru

Disgrifiad

Dim sail resymegol neu strwythur ar gyfer dosbarthu twf; byddai datblygu yn cael ei wasgaru ar draws y sir.

Mynegiant Gofodol / Aneddiadau yr Effeithir arnynt

Gellid effeithio ar yr holl aneddiadau'n gyfartal o dan yr opsiwn hwn am nad oes unrhyw strategaeth i nodi dosbarthiad twf. Fodd bynnag, byddai hyn yn debygol o arwain at lefelau twf sydd ar lefel gymharol gyfartal ar draws aneddiadau'r sir.

Asesiad Cryno

Mae'r opsiwn hwn yn dosbarthu tai, cyflogaeth a mathau eraill o ddatblygiadau mewn modd eang rhwng aneddiadau'r Sir, gan gynnwys aneddiadau trefol a gwledig fel ei gilydd. Mae'n caniatáu i aneddiadau dyfu'n raddol heb o reidrwydd ystyried y gwasanaethau neu'r cyfleusterau sydd ar gael nac ychwaith yr effaith y gallai twf ei chael ar y cymunedau presennol a'u gallu i ddarparu ar gyfer twf a'i dderbyn.

O'i gymharu â strategaeth y CDLl mabwysiedig presennol, byddai'r opsiwn hwn yn arwain at gyfeirio cyfran uwch o dwf y Sir i'r ardaloedd gwledig a chyfran is i'r ardaloedd trefol presennol.

Casgliad

Mae hwn yn opsiwn sy'n anghynaliadwy ar y cyfan ac yn opsiwn na ellir ei gyflenwi - ac yn un a fyddai o ganlyniad yn annhebygol o fodloni'r mesurau angenrheidiol fel rhan o'r broses Arfarniad Cynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol. Fodd bynnag, mae'r opsiwn hwn drwy ei ddull cyffredinol o ddosbarthu twf yn canolbwyntio twf ychwanegol mewn ardaloedd gwledig.

Cydnabyddir y bydd angen i'r opsiwn a ffefrir a gaiff ei ddewis roi ystyried priodol i ystyriaethau gwledig.

Opsiwn 4 - Opsiwn dan Arweiniad y Gymuned

Disgrifiad

Byddai datblygiad yn cael ei wasgaru o fewn ardaloedd cymunedol mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r rôl mae aneddiadau yn ei chwarae o fewn yr ardaloedd hynny a'r ardal ddaearyddol ehangach.

Mynegiant Gofodol / Aneddiadau yr Effeithir arnynt

Byddai'r rhan fwyaf o'r twf yn canolbwyntio ar y tair ardal ganlynol: Caerfyrddin a'r ardal gyfagos; Llain Arfordirol Llanelli; ac ardal Rhydaman / Cross Hands.

Asesiad Cryno

Mae'r opsiwn hwn yn canolbwyntio ar rôl aneddiadau yn eu hardal a'u cymuned ehangach, sy'n cydnabod y berthynas a'r gyd-ddibyniaeth rhwng aneddiadau ac yn ystyried sut mae'r cymunedau lleol yn gweithio ac yn byw.

Bydd yr opsiwn hwn yn annog twf yn yr ardaloedd hynny sydd yn chwarae rôl sylweddol yn y gymuned ehangach; mae hyn yn debygol o fod drwy ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau yn hytrach na graddfa bresennol yr anheddiad neu'r niferoedd poblogaeth presennol. Byddai'r opsiwn hwn hefyd yn ceisio adlewyrchu anghenion y cymunedau, gan gynnwys eu galw am dai. Mae hyn yn cydnabod nodweddion unigol pob anheddiad ac mae'n ceisio nodi'r rôl y mae aneddiadau yn ei chwarae yn eu hardal ac ar draws y sir.

Dylai'r opsiwn hwn adlewyrchu dealltwriaeth o gymunedau lleol a sicrhau bod twf yn digwydd mewn ardaloedd lle mae ei angen, er mwyn cefnogi cymunedau a'u dyheadau ar gyfer twf yn y dyfodol a materion parhaus yn ymwneud â chynaliadwyedd cyfleusterau a gwasanaethau. Mae hyn yn debygol o arwain at ddyrannu safleoedd llai a chyfeirio cyfran uwch o dwf i aneddiadau llai.

Casgliad

Mae'r opsiwn hwn yn ceisio bod yn fwy ymatebol i agweddau unigol y sir a'i chymunedau. Er y byddai ffocws canfyddedig y twf mewn canolfannau sefydledig, mae'n rhoi cyfle i adlewyrchu dosbarthiad ehangach.

Mae adborth yn awgrymu y byddai angen i'r opsiwn fod yn briodol gytbwys i sicrhau bod twf yn cael ei ddosbarthu mewn ffordd briodol y gellir ei chyflawni.

Opsiwn 5 - Opsiwn ar sail Dylanwad Dinas-ranbarth Bae Abertawe

Disgrifiad

Mae'n canolbwyntio twf i alinio â'r ardaloedd a nodwyd ar gyfer prosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mynegiant Gofodol / Aneddiadau yr Effeithir arnynt

Byddai'r rhan fwyaf o'r twf yn canolbwyntio ar ardaloedd Llanelli a Chaerfyrddin gyda'r rheini sydd yn yr ardaloedd cyfagos hefyd yn derbyn cyfran o'r twf.

Asesiad Cryno

Mae'r opsiwn hwn yn canolbwyntio ar y prosiectau a'r buddsoddiad a gynllunnir fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac yn sianelu twf i gyd-fynd â'r ardaloedd daearyddol hyn. Y prosiectau a gynigir ar gyfer Sir Gaerfyrddin yw:

  • Y Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant, Llanelli. Pentref yw hwn a fydd yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau i hyrwyddo a gwella llesiant. Bwriedir iddo fod yn gyfleuster amlochrog sy'n cyfuno datblygiad busnesau, addysg, gofal iechyd, hamdden, twristiaeth, cymorth llesiant ac ymchwil mewn gwyddorau bywyd mewn un lleoliad; ac
  • Yr Egin, Caerfyrddin. Byddai'r cyfleuster hwn yn ganolfan greadigol, ddigidol a chyfryngau newydd i'w lleoli ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Mae'r opsiwn hwn yn debygol o arwain at ganolbwyntio'r rhan fwyaf o'r twf yng Nghaerfyrddin a Llanelli a'r ardaloedd cyfagos; fodd bynnag, efallai mai ychydig iawn o dwf y bydd yr aneddiadau ymhellach i ffwrdd o Gaerfyrddin a Llanelli yn ei weld. Mae'n bosibl y bydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer buddsoddiadau deilliedig a gweithgareddau seiliedig ar entrepreneuriaeth trwy adeiladu ar flaenoriaethau'r Fargen Ddinesig.

Casgliad

Mae'r opsiwn hwn yn cynnwys, ac yn cael ei lywio gan y cyfleoedd a gyflwynwyd drwy'r Fargen Ddinesig. Mae'n canolbwyntio ar leoliadau'r ddau brif brosiect yn Sir Gaerfyrddin ac felly byddai'n llai cynhwysol ar gyfer gweddill y sir.

Fodd bynnag, dylid cydnabod bod adlewyrchu potensial y Fargen Ddinesig i gyflawni newid gwirioneddol yn hanfodol ar gyfer unrhyw opsiwn a ffefrir.

Opsiwn 6 - Opsiwn dan Arweiniad y Farchnad

Disgrifiad

Yn canolbwyntio twf yn yr ardaloedd sydd wedi profi'n fwyaf poblogaidd gyda'r farchnad dai dros y blynyddoedd diweddar.

Mynegiant Gofodol / Aneddiadau yr Effeithir arnynt

Byddai twf yn cael ei ganolbwyntio ar haen uchaf yr hierarchaeth aneddiadau sydd gan y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig, sy'n cynnwys ardaloedd Caerfyrddin, Llanelli, Rhydaman a Cross Hands.

Asesiad Cryno

Bydd yr opsiwn hwn yn anelu at ddiwallu anghenion a dyheadau'r diwydiant datblygu drwy nodi safleoedd ac ardaloedd sydd fwyaf atyniadol yn economaidd i'w datblygu. Mae'r opsiwn hwn yn edrych ar lwyddiant marchnad aneddiadau'r sir ers 2008 ac yn dosrannu twf yn unol â chyfraddau cyflawni'r gorffennol.

Mae cyfraddau cyflawni'r gorffennol yn dangos bod y rhan fwyaf o'r twf wedi digwydd yn ardaloedd Llanelli, gyda chryn dipyn o ddatblygu hefyd yn digwydd yn ardal dwf Caerfyrddin ac mewn rhannau o ardal dwf Rhydaman/Cross Hands.

Gellid dehongli'r dull hwn fel 'cynllunio ar sail niferoedd'. Byddai'n ceisio cyfeirio twf yn unol â chyfraddau cyflawni uchaf y gorffennol ac yn cymhwyso'r duedd hon er mwyn nodi lleoliad datblygiadau yn y dyfodol. Byddai darpariaeth cyflogaeth y dyfodol yn adlewyrchu'r defnydd a wneir o dir cyflogaeth ar hyn o bryd, a byddai perthynas agos rhwng hynny a dosraniad y tai.

Casgliad

Byddai'r opsiwn hwn drwy ei ffocws ar y farchnad, tra bo'n gyflawnadwy mewn dehongliad gor-syml, yn agored i ystyriaethau a chyfyngiadau eraill a byddai'n gwaredu'n sylweddol ar unrhyw ddylanwad lleol. Ni chaiff ei ystyried yn opsiwn cyflawnadwy yn ymarferol ond mae'n cyfeirio'n glir at rôl y farchnad a'r diwydiant datblygu o ran cyfrannu at gynllun cadarn a chyflawnadwy.

Yn anochel, bydd rôl y farchnad yn cyfrannu at ddatblygiad yr opsiwn a ffefrir.

Yr Opsiwn Gofodol a Ffefrir

8.17. Mae datblygiad yr opsiwn a ffefrir wedi deillio o ystyried yr opsiynau gofodol ac ystyriaethau eraill, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i'r canlynol:

  • yr amcanion llesiant
  • cynnwys yr Adroddiadau Monitro Blynyddol a'r Adroddiad Adolygu ac
  • y prosesau ymgysylltu, yn arbennig drwy'r Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol.

8.18 Wrth ddatblygu'r opsiwn a ffefrir, derbyniwyd bob amser y byddai amrywiaethau posibl ar y opsiynau strategol a nodwyd, gan gynnwys opsiwn a fyddai'n ystyried cymysgedd o'r canlyniadau cadarnhaol o nifer o'r opsiynau hynny. Gan ystyried yr uchod, a chan gyfeirio at y materion, amcanion a gweledigaeth a drafodwyd eisoes yn y Strategaeth a Ffefrir, daeth opsiwn hybrid i'r amlwg fel y dull gweithredu mwyaf priodol o ran cyflenwi strategaeth ofodol gytbwys a chynaliadwy ar gyfer yr holl gymunedau ar draws y sir.

8.19 O ganlyniad, daeth yr opsiwn hybrid canlynol i'r amlwg, sy'n adlewyrchu nifer o nodweddion o'r opsiynau a nodwyd uchod. Daw hyn yn rhannol o'r sylwadau a dderbyniwyd fel rhan o'r broses ymgysylltu.

Yr Opsiwn a Ffefrir - Strategaeth Cymunedau Cytbwys a Thwf Cynaliadwy

8.20 Mae'r opsiwn hybrid hwn yn adeiladu ar y dull gweithredu y tynnwyd sylw ato drwy Opsiwn Strategol 4 – Dan Arweiniad y Gymuned, ond mae'n cael gwared ar y dull gweithredu cyfarwyddol o ran nodi cymeriad ardaloedd yn y sir. Fodd bynnag, bydd y strategaeth hon yn cadw dull gweithredu sy'n adlewyrchu rôl a swyddogaeth yr aneddiadau a bydd yn ceisio bod yn ymatebol o ran sut mae'n aseinio twf i ardaloedd trefol a gwledig yn y sir.

  • Bydd yr opsiwn yn cydnabod ac yn adlewyrchu buddsoddiad a buddiannau economaidd i'r sir a'i chymunedau drwy'r Fargen Ddinesig, a chyfleoedd economaidd eraill.
  • Bydd yn ceisio darparu cyfleoedd i ardaloedd gwledig, gan sicrhau bod amrywiaeth y sir a'i chymunedau yn cael ei chydnabod.
  • Bydd yn cydnabod drwy gyflenwi twf cynaliadwy fod angen iddo gael ei gefnogi gan argaeledd amrediad o seilwaith priodol.
  • Bydd yn cydnabod y dylai twf fod yn gyflawnadwy ac wedi'i deilwra i anghenion y gymuned a galw ar y farchnad.

[26] Mae asesiad rhanbarthol o'r farchnad dai leol yn cael ei gynnal, a fydd yn llywio'r CDLl Diwygiedig wrth iddo fynd rhagddo drwy'r broses baratoi.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig