Deposit LDP

Daeth i ben ar 2 Hydref 2020

4. Sir Gaerfyrddin – Cyd-destun Strategol

Trosolwg

4.1 Mae Sir Gaerfyrddin yng nghanol de-orllewin Cymru. Mae ganddi gysylltiadau cryf ag economïau ehangach tua'r dwyrain ac i mewn i Loegr, ond hefyd tua'r gorllewin i Sir Benfro ac Iwerddon, yn ogystal â chanolbarth a gogledd Cymru. Mae gan Sir Gaerfyrddin sylfaen economaidd ddeinamig, sy'n adlewyrchu'i chanolfannau cyflogaeth cadarn yn ogystal â'i heconomi wledig bwysig. Mae'r sir wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu buddsoddiad, ac mae'n gosod adfywio fel ei blaenoriaeth gorfforaethol gyntaf.

4.2 Nodweddir y sir gan ei threfi a'i phentrefi amrywiol, parciau cyflogaeth mawr, canolfannau manwerthu rhanbarthol, economi wledig amlwg, a thirweddau ucheldirol, aberol ac arfordirol deniadol. Mae'r Gymraeg a'i diwylliant hefyd yn agweddau pwysig ar hunaniaeth a chymeriad Sir Gaerfyrddin ac mae'r sir yn amlwg fel cadarnle ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

4.3 O fewn y sir, ceir ysgogwyr economaidd allweddol, gan gynnwys y buddsoddiadau yn Cross Hands sy'n ymwneud â'r parc bwyd a safle cyflogaeth Dwyrain Cross Hands. Mae arwyddo'r fargen ddinesig gwerth £1.3 biliwn yn 2017 a'r cynnydd wrth gyflawni'r prosiectau cysylltiedig – clwstwr creadigol Yr Egin yng Nghaerfyrddin a'r prosiect Llesiant a Gwyddor Bywyd yn Llanelli – yn atgyfnerthu pwysigrwydd strategol a rhanbarthol Sir Gaerfyrddin. Mae Sir Gaerfyrddin yn sir sydd â chymeriad amrywiol gyda'r economi amaethyddol a thirwedd yr ardaloedd gwledig yn cael eu cyfosod â'r ardal drefol ac ôl-ddiwydiannol yn y de-ddwyrain.

4.4 Fodd bynnag, gan mai sir wledig yw hi gan fwyaf, mae'r dwysedd poblogaeth yn isel, sef 78 o bobl i bob cilometr sgwâr, o gymharu â 140 o bobl i bob cilometr sgwâr yng Nghymru gyfan. Mae'r prinder poblogaeth hwn yn adlewyrchu'r cymunedau gwledig yn bennaf yn hytrach na'r hyn a welir yn ne a dwyrain y sir, lle mae 65% o'r boblogaeth yn byw ar 35% o'r tir.

4.5 Mae prif ganolfannau trefol y Sir yn cynnwys Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman / Cross Hands. Mae Caerfyrddin, oherwydd ei leoliad daearyddol canolog, yn gwasanaethu anghenion cefnwlad gwledig y sir yn ogystal â'r rhanbarth ehangach o ran agweddau fel manwerthu. Mae gan Lanelli a Rhydaman / Cross Hands dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog ond maent yn parhau yn gyfranwyr pwysig i'w cymunedau ehangach, gan weithredu fel canolbwyntiau ar gyfer cyflogaeth a thai.

4.6 Mae gan y sir nifer fawr o aneddiadau sy'n adlewyrchu maint ac amrywiaeth y sir. Maent yn amrywio o ran maint a rôl ac maent yn aml yn gwneud cyfraniadau nodedig i anghenion a gofynion eu cymunedau a'r ardaloedd cyfagos. Mae nifer o'r aneddiadau a'r pentrefi yn hunangynhaliol o ran cyfleusterau a gwasanaethau, gan gyflawni rôl wasanaethu ehangach yn aml. Fodd bynnag, mae rhai aneddiadau llai eraill yn brin o wasanaethau a chyfleusterau. Mae anghenion preswylwyr yn yr ardaloedd olaf hyn yn cael eu diwallu fel arfer gan y prif ganolfannau ac, mewn rhai achosion, gan yr aneddiadau llai eraill â gwasanaethau.

Llesiant a Datblygu Cynaliadwy

4.7 Mae'r cynllun hwn wedi'i baratoi gan roi ystyriaeth lawn i gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a dyletswyddau'r Cyngor i weithio tuag at saith nod llesiant Cymru a'r angen i gyfrannu at ddatblygu a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy (gweler Ffigur 1).

output

Ffigur 1: Saith Nod Llesiant Cenedlaethol

4.8 Mae'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol hefyd yn cyflwyno 'Pum Ffordd o Weithio' ac mae angen i gyrff cyhoeddus ddangos eu bod wedi cydymffurfio â'r rhain wrth gyflawni eu dyletswydd datblygu cynaliadwy.

output

Ffigur 2: Pum Ffordd o Weithio

4.9 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi mai dull a arweinir gan gynllun yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau datblygu cynaliadwy (trwy'r system gynllunio) a'i bod yn hanfodol bod cynlluniau'n cael eu mabwysiadu a'u hadolygu. Yn y cyswllt hwn, mae deddfwriaeth yn sicrhau rhagdybiaeth o blaid datblygu cynaliadwy yn unol â'r cynllun datblygu oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall i sicrhau bod materion cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol yn gytbwys ac yn integredig.

4.10 Fel y nodwyd uchod, bu'r CDLl Adneuo yn destun Arfarniad Cynaliadwyedd a oedd yn ymgorffori Asesiad Amgylcheddol Strategol er mwyn gwella i ba raddau y mae'r cynllun yn cyflawni ac yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy, i'r graddau y mae hynny'n bosibl trwy'r system cynllunio defnydd tir. Proses ailadroddol drwy gydol paratoi'r Cynllun yw'r Arfarniad Cynaliadwyedd, ac adlewyrchir hyn yn strategaeth, polisïau a chynigion twf y cynllun.

4.11 Datblygu cynaliadwy yw datblygiad sy'n bodloni anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i fodloni eu hanghenion hwy. Gellir dehongli'r cysyniad mewn sawl ffordd, ond yn y bôn mae'n ymagwedd at ddatblygu sy'n ceisio cydbwyso anghenion gwahanol, sy'n aml yn cystadlu â'i gilydd, ag ymwybyddiaeth o gyfyngiadau amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol.

4.12 Er bod ystyriaethau amgylcheddol yn ganolog i egwyddor datblygu cynaliadwy, mae hefyd yn ymwneud â sicrhau cymdeithas gref, iach a chyfiawn, a diwallu anghenion pawb yn awr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys hyrwyddo llesiant personol, cydlyniant cymdeithasol a chreu cyfle cyfartal.

4.13 Mae'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gyflawni datblygu cynaliadwy ac yn ei gwneud yn ofynnol i wella pob un o'r pedair agwedd ar lesiant: cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.

4.14 Edrychodd Asesiad Llesiant Sir Gaerfyrddin (Mawrth 2017) ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn Sir Gaerfyrddin trwy wahanol gyfnodau bywyd ac mae'n rhoi crynodeb o'r canfyddiadau allweddol. Mae canfyddiadau'r asesiad hwn yn sail i'r amcanion a'r camau gweithredu a nodir yn y Cynllun Llesiant ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Gallwch weld yr Asesiad drwy'r ddolen gyswllt ganlynol: www.ysirgaragarem.cymru

Mae Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin yn amlinellu amcanion lleol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y Sir a'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd er mwyn eu cyflawni. Mae Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2018-2023, ac mae'r amcanion a'r camau gweithredu a nodwyd yn edrych ar gyflwyno hyn yn y tymor hwy sef hyd at 20 mlynedd.

4.15 Bydd Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin yn canolbwyntio ar gyflawni pedwar amcan:

output

Ffigur 3: Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin: Pedwar Amcan

Y Cyd-destun Cynllunio Strategol

4.16 Mae'r Cynllun Adneuo yn rhan o fframwaith Polisi a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol perthnasol eraill, a pholisïau a strategaethau rhanbarthol a lleol eraill. Mae'r rhain yn cael eu nodi yn Atodiadau'r cynllun.

4.17 Yn benodol dylid nodi Polisi Cynllunio Cymru Rhifyn 10 sy'n gosod polisïau cynllunio defnydd tir cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Mae'n cael ei ategu gan Nodiadau Cyngor Technegol (TANs); cyngor gweithredol mewn cylchlythyron; a llythyrau egluro polisi.

4.18 Nid yw Polisi a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol yn cael eu hailadrodd ym mholisïau'r cynllun, ond mae'n rhaid eu hystyried wrth ddatblygu cynigion ac wrth ystyried ceisiadau cynllunio.

4.19 Mae'r CDLl Adneuo yn ystyried Cynllun Gofodol Cymru sy'n darparu cyd-destun polisi cyffredinol ar gyfer cynllunio gofodol a datblygu yng Nghymru. Cyhoeddwyd y Cynllun gyntaf yn 2004 a'i ddiweddaru yn 2008, a'i nod yw sicrhau bod cynigion ledled Cymru yn cael eu hintegreiddio a'u bod yn gynaliadwy gyda'r camau gweithredu unigol yn cefnogi ei gilydd ac yn cydymffurfio â'r weledigaeth gyffredin ar gyfer yr ardal.

4.20 Lleolir Sir Gaerfyrddin mewn tair ardal a nodwyd yng Nghynllun Gofodol Cymru:

  • Sir Benfro - Yr Hafan;
  • Bae Abertawe - Y Glannau a'r Cymoedd Gorllewinol; a
  • Canolbarth Cymru.

4.21 Mae Cynllun Gofodol Cymru yn dal i fod yn ystyriaeth berthnasol wrth baratoi'r CDLl.

4.22 Fodd bynnag, cyfeirir ato yng nghyd-destun paratoi'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol i Gymru, a fydd yn disodli Cynllun Gofodol Cymru. Yn hyn o beth, dylid nodi y bydd yr ymgynghoriad ar ddrafft y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn dod i ben ar 1 Tachwedd 2019. Bwriedir cyhoeddi'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol mabwysiedig ym mis Medi 2020 a chaiff ei gynnwys ei ystyried ymhellach wrth i'r cynllun symud ymlaen at gael ei fabwysiadu.

4.23 Mae'r cynllun wedi ystyried yr amcanion rhanbarthol strategol fel y'u nodir ar hyn o bryd yng Nghynllun Gofodol Cymru ond hefyd yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sy'n cael ei ddatblygu, a bydd yn parhau i wneud hynny. Yn hyn o beth, mae'r ddau yn cyd-fynd â'r dull strategol a nodir drwy Ddinas-ranbarth Bae Abertawe a lansiwyd yn 2013.

4.24 Mae Dinas-ranbarth Bae Abertawe wedi dod ag ardal eang, amrywiol a gwrthgyferbyniol ynghyd gyda phwyslais ar ysgogi buddsoddiad a chyfleoedd i greu swyddi. Cafodd hyn ei ddatblygu ymhellach drwy lofnodi'r Fargen Ddinesig gwerth £1.3 biliwn yn 2017 gan gadarnhau ymhellach uchelgeisiau'r rhanbarthau a phwysigrwydd strategol a rhanbarthol Sir Gaerfyrddin.

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cael ei harwain gan y pedwar awdurdod lleol yn y rhanbarth, sef Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro, ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a phartneriaid o'r sector preifat.

4.25 Mae cyfanswm y pecyn buddsoddi yn cynnwys cyllid o £241 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, £396 miliwn o gyllid cyhoeddus arall a £637 miliwn gan y sector preifat. Yn ystod y 15 mlynedd nesaf, bydd y Fargen Ddinesig yn ceisio rhoi hwb o £1.8 biliwn i'r economi ranbarthol ac yn creu bron i 10,000 o swyddi newydd o safon.

4.26 Mae prosiectau'r Fargen Ddinesig yn seiliedig ar themâu allweddol sef Cyflymu'r Economi, Gwyddor Bywyd a Llesiant, Ynni, a Gweithgynhyrchu Clyfar. Caiff pob prosiect ei ategu gan seilwaith digidol o'r radd flaenaf a menter Sgiliau a Thalentau a fydd yn rhoi llwybr i bobl leol gael y swyddi a gaiff eu creu.

4.27 Mae uchelgeisiau'r rhanbarth a'r Fargen Ddinesig yn cael eu hadlewyrchu yn rhagolygon strategol y Cyngor ei hun. Yn y cyswllt hwn mae cynllun adfywio'r Cyngor yn ceisio darparu fframwaith strategol ar gyfer cyflawni prosiectau adfywio ledled y Sir gan adeiladu ar y dull dan arweiniad partneriaeth wrth greu cymunedau sy'n fywiog yn economaidd[14].

output

Ffigur 4: Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Cymdeithasol a Diwylliannol

4.28 Mae bron 6% o gyfanswm poblogaeth Cymru yn byw yn Sir Gaerfyrddin, sef 186,452 o bobl. Ers 2001, mae poblogaeth y Sir wedi tyfu o ganlyniad i 12,800 o bobl ychwanegol, sef cynnydd o 7.4% mewn 16 mlynedd. Cofnodwyd y twf mwyaf mewn poblogaeth cyn 2008, gyda'r blynyddoedd ers hynny yn dangos twf ar lefel is.

4.29 Y prif ffactor sydd wedi dylanwadu ar y newid i boblogaeth Sir Gaerfyrddin ers 2001/2002 yw mewnfudo, lle mae mwy o bobl wedi symud i'r sir nag sydd wedi gadael. Mae'r twf yn y boblogaeth hefyd yn cael ei ystyried yn erbyn newid naturiol y sir, lle mae nifer y marwolaethau wedi bod yn fwy na nifer y genedigaethau bob blwyddyn ers 2001/2002.

4.30 Mae patrymau mudo allan o Sir Gaerfyrddin wedi gweld nifer mawr o grŵp oedran 15–19 yn gadael y sir. Yn bennaf, mae hyn yn adlewyrchu'r nifer o fyfyrwyr sy'n gadael y sir er mwyn manteisio ar gyfleoedd addysg uwch. Cafwyd cynnydd mewn pobl sy'n symud i mewn i'r sir o fewn grŵp oedran teulu ifanc 30–44 a grŵp oedran 0–14. Cafwyd cynnydd hefyd yn y grŵp oedran dros 65, sydd wedi cyfrannu at broffil poblogaeth sy'n heneiddio yn Sir Gaerfyrddin.

4.31 Ers cychwyn y broses Cynllun Datblygu Lleol yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pedwar amcanestyniad poblogaeth ac aelwydydd. Mae ystadegau mudo net uchel (yn fewnol ac yn rhyngwladol) wedi dylanwadu ar amcanestyniadau Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2006 a 2008. Nododd yr ystadegau hyn dwf sylweddol ar gyfer Sir Gaerfyrddin (fel yr adlewyrchir yn y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig). Fodd bynnag, roedd amcanestyniadau Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar y cyfnod 2011-2014 yn adleisio cyfnod ôl-ddirwasgiad a ddangosai duedd mewnfudo is. O ganlyniad mae gofyniad twf disgwyliedig mewn aelwydydd llawer yn is ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

4.32 Mae amcanestyniadau aelwydydd Llywodraeth Cymru, sy'n seiliedig ar 2014, yn amcangyfrif nad yw maint aelwydydd ar gyfartaledd yn lleihau cymaint ag yr oedd amcanestyniadau blaenorol wedi'u hawgrymu. Mae'r amcangyfrif uwch hwn ynglŷn â maint aelwydydd ynghyd â'r newidiadau o ran twf y boblogaeth o fewn y sir wedi arwain at ofyniad twf disgwyliedig mewn aelwydydd sy'n llawer is na'r hyn a nodwyd yn y CDLl mabwysiedig presennol. Mae'r CDLl Diwygiedig hwn yn ceisio gosod yr amcanestyniadau hyn yng nghyd-destun Sir Gaerfyrddin a datblygu cyfres o amcanestyniadau ar gyfer newid a thwf sy'n adlewyrchu anghenion a dyheadau Sir Gaerfyrddin a'i chymunedau.

4.33 Ceir amrywiadau sylweddol ar draws y Sir o ran dangosyddion amddifadedd cymdeithasol, gan gynnwys mynediad at gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol, iechyd ac addysg; ac ansawdd tai. Mewn rhai cymunedau, mae diffyg canolbwynt cymdeithasol a/neu gyfleusterau allweddol i weithredu fel ffocws cymunedol. Mae gan eraill ystod o wasanaethau a chyfleusterau sy'n cyfrannu at fywyd cymunedol bywiog. Mae angen dosbarthiad mwy cytbwys. Mae hyn i ryw raddau yn adlewyrchu cymeriad gwledig y Sir. Yn y cyd-destun hwn, mae llawer o gymunedau gwledig yn defnyddio cyfleusterau mewn anheddiad cyfagos neu ganolfannau lefel uwch. Mae hyn yn adlewyrchu patrwm o fywyd gwledig sydd bellach yn gyffredin ledled Cymru. Mae'r angen i adlewyrchu'r patrwm hwn a chydnabod bod angen cynnal cymunedau gwledig o'r fath yn ffactor allweddol ar draws y Sir ac yn y cynllun hwn.

4.34 Gyda 78,048 o siaradwyr Cymraeg ymhlith ei phoblogaeth, Sir Gaerfyrddin yw'r sir â'r nifer fwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru ac mae ganddi'r bedwaredd gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg, sef 43.9% (data Cyfrifiad 2011). Felly, mae ffocws strategol clir ar y rôl ganolog y mae'n ei chwarae yn Sir Gaerfyrddin a'i chymunedau.

4.35 Mae'r llun isod yn dangos dosbarthiad siaradwyr Cymraeg fesul ward etholiadol fel y'i cofnodwyd yn nata Cyfrifiad 2011. Er nad oes crynhoad amlwg o siaradwyr Cymraeg mewn unrhyw ardal benodol, mae'n amlwg bod nifer o wardiau â chyfran uwch o siaradwyr Cymraeg yn Nyffryn Aman a Chwm Gwendraeth a leolir yn y clwstwr a nodwyd fel 'Aman a Gwendraeth Uchaf'.

cid:image007.jpg@01D5B686.275655A0

Ffigur 5: % y siaradwyr Cymraeg yn Wardiau Etholiadol Sir Gaerfyrddin (ffigurau Cyfrifiad 2011)

4.36 Fodd bynnag, nodir bod cyfran y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn gostwng yn raddol ers troad y ganrif ddiwethaf ac mae gostyngiad yng nghyfran y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin wedi'i gofnodi gan bob Cyfrifiad ers 1901. Yn fwy diweddar, yn ystod y cyfnod rhwng Cyfrifiadau 1991 a 2011, mae canran y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin wedi gostwng o 54.9% i 43.9%. O ganlyniad, ac o ystyried pwysigrwydd yr iaith Gymraeg, gan gynnwys o ran y gwead cymdeithasol, ar draws ein cymunedau mae'n bwysig ei bod yn cael ei chydnabod a'i diogelu.

Economaidd

4.37 Mae uchelgeisiau corfforaethol y Cyngor ar gyfer twf ac adfywio, fel y nodwyd yn ei strategaeth adfywio a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, yn dangos potensial i greu o leiaf 5,295 o swyddi newydd. Mae hyn yn dangos bod y Sir yn uchelgeisiol a'i bod mewn man strategol ger y porth i orllewin Cymru ac yn ganolog i'r Fargen Ddinesig.

4.38 Yn wir, dylid ystyried datblygiad economaidd y Sir yn y dyfodol yn y cyd-destun ehangach. Llofnodwyd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn 2017, gan sicrhau £1.3 biliwn ar gyfer cynghorau Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Rhagwelir y bydd y fargen yn trawsnewid tirwedd economaidd yr ardal, yn rhoi hwb i'r economi, ac yn creu bron 10,000 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.

4.39 Hefyd cydnabyddir y potensial hwn o ran twf yn rhannol yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sy'n cael ei ddatblygu, ac mae hyn yn cynnwys de-orllewin y sir sydd hefyd yn rhan o Ardal Twf Cenedlaethol y De-orllewin. Ffocws hwn yw Bae Abertawe ac ardal Llanelli yn ogystal â thref eilaidd Caerfyrddin[15].

4.40 Mae angen economi wledig fywiog i gefnogi twf cyffredinol y Sir, ac i helpu i gynnal bywyd cymunedol. Mae twristiaeth gynaliadwy yn ffordd allweddol o sicrhau'r twf hwn a darparu swyddi lleol o ansawdd da, yn yr un modd â chyfleoedd a gynigir drwy gynlluniau arallgyfeirio ffermydd.

4.41 Mae angen cyfleoedd tir cyflogaeth ar gyfer amrywiaeth o fentrau a buddsoddiadau posibl, o fusnesau lleol ar raddfa fach i ardaloedd datblygu strategol ar raddfa fawr a allai apelio at fewnfuddsoddwyr. Gellir darparu cyfleoedd o'r fath drwy dir cyflogaeth presennol a thrwy ddyraniadau cynaliadwy newydd mewn lleoliadau priodol.

4.42 Gan fod swyddi'r sector cyhoeddus yn cael eu gorgynrychioli yn y Sir, bydd gofyn i'r swyddi ychwanegol sydd eu hangen dros gyfnod y cynllun gael eu darparu drwy ddatblygiadau sy'n hyrwyddo ac yn arallgyfeirio twf ar draws sectorau, ac sy'n ailgyfeirio'r economi tuag at sectorau sy'n seiliedig ar wybodaeth, o ansawdd uchel â gweithwyr medrus.

4.43 Yn sgil y gwahoddiad am safleoedd ymgeisio ar gyfer y CDLl, cyflwynwyd dros 40 o safleoedd ar gyfer cyflogaeth neu ddefnydd cymysg. Er bod rhai o'r rhain yn ddyraniadau yn y CDLl cyntaf ac wedi'u dwyn ymlaen i'r CDLl Diwygiedig, gallai eraill fod yn briodol fel safleoedd 'wrth gefn' heb eu dyrannu a allai, os ydynt yn briodol ac yn gynaliadwy, fod yn lleoliadau ar gyfer cyflogaeth a swyddi newydd yn y dyfodol.

Yr Amgylchedd

4.44 Mae cyfoeth amgylchedd naturiol, adeiledig a diwylliannol Sir Gaerfyrddin yn ystyriaeth ofodol bwysig wrth gynllunio ar gyfer dyfodol y sir, yn arbennig o ran y potensial ar gyfer twf a lleoli datblygiadau. Mae Sir Gaerfyrddin yn enwog, ac yn haeddiannol felly, am ei harfordir godidog, ei haberoedd tawel, ei dyffrynnoedd coediog, serth a'i hucheldiroedd garw. Mewn sawl man yn y sir ceir clytwaith o goetiroedd a chaeau wedi'u ffinio gan gloddiau sydd, yn aml iawn, o bwysigrwydd hanesyddol. Mae'r môr a gwely'r môr o amgylch arfordir Sir Gaerfyrddin hefyd yn gyfoethog mewn rhywogaethau, rhai ohonynt o gryn bwysigrwydd economaidd. Mae harddwch naturiol y sir yn ffactor pwysig y mae'r diwydiannau twristiaeth a hamdden lleol yn dibynnu arno. Mae bioamrywiaeth felly'n hanfodol i lesiant corfforol, economaidd ac ysbrydol pawb sy'n byw ac yn gweithio yn Sir Gaerfyrddin.

4.45 Mae ardal y cynllun lleol yn cynnwys safleoedd sydd wedi'u dynodi ar lefel ryngwladol er mwyn diogelu a gwella cynefinoedd a rhywogaethau pwysig, yn ogystal â thirweddau trawiadol a threfi a phentrefi hanesyddol unigryw. Ceir hefyd nifer o safleoedd dynodedig o bwysigrwydd cadwraeth natur a bioamrywiaeth, gan gynnwys 8 Ardal Cadwraeth Arbennig, 3 Ardal Gwarchodaeth Arbennig, 1 safle Ramsar, 81 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, 5 Gwarchodfa Natur Genedlaethol, 5 Gwarchodfa Natur Leol a 7 tirwedd gofrestredig.

4.46 Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn cwmpasu rhyw 17,088 hectar, ac yn amrywio o ran maint, o gaeau bach i ardaloedd mawr o ochrau mynydd ac afonydd hir. Maent yn cynnwys cynefinoedd fel coetiroedd hynafol, dolydd sy'n llawn blodau, gwlyptiroedd yn ogystal â chwareli segur. Maent yn cynnal planhigion a rhywogaethau o anifeiliaid nad ydynt yn cael eu gweld yn aml yn y cefn gwlad ehangach.

4.47 Dangosir pwysigrwydd treftadaeth adeiledig y sir gan y 27 ardal gadwraeth, 366 o Henebion Cofrestredig (sy'n amrywio o nodweddion cynhanesyddol i nodweddion ôl-ganoloesol/modern sydd â diddordeb hanesyddol diwylliannol) a nifer mawr o adeiladau rhestredig.

4.48 Amaethyddiaeth yw prif nodwedd ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin ac mae'r diwydiant amaeth a ffermio llaeth a defaid yn arbennig yn golygu bod y Sir yn un o'r ardaloedd amaethyddol pwysicaf yng Nghymru. Caiff tua 203,700 ha o dir yn Sir Gaerfyrddin ei ddosbarthu'n dir amaethyddol, a dosberthir y rhan fwyaf ohono yn radd 3a a 4, gyda darn bach o dir gradd 2 yn ne-ddwyrain y Sir.

Cysylltiadau

4.49 Mae Sir Gaerfyrddin mewn lleoliad da ar y rhwydwaith priffyrdd strategol, gyda'r cysylltiadau i'r gorllewin yn cysylltu â'r porthladdoedd fferi i Iwerddon, sydd gyda'r M4 yn ffurfio rhan o'r Rhwydwaith Traws-Ewropeaidd. Caiff y cyswllt rhwng y dwyrain a'r gorllewin ei bwysleisio ymhellach gan reilffordd Gorllewin Cymru sy'n ymestyn o Abertawe (a'r rhwydwaith rheilffyrdd ehangach) i Sir Benfro trwy Gaerfyrddin a Llanelli. Mae rheilffordd Gorllewin Cymru hefyd yn rhan o'r Rhwydwaith Traws-Ewropeaidd sy'n cysylltu â'r porthladdoedd fferi i Iwerddon yn Sir Benfro. Mae rheilffordd Calon Cymru, sy'n ymestyn o Abertawe trwy rannau dwyreiniol y Sir hyd at Amwythig, yn cynnig manteision trafnidiaeth ychwanegol er bod y gwasanaeth yn gyfyngedig.

4.50 Mae'r Sir yn cael ei gwasanaethu hefyd gan nifer o ffyrdd dosbarth A yn ogystal â ffyrdd dosbarth B, gyda phob un yn elfen bwysig o'r rhwydwaith priffyrdd. Mae ein prif rwydwaith priffyrdd yn cynnwys cefnffordd yr A48, sy'n arwain at ac oddi wrth draffordd yr M4 gyda'i chysylltiadau trwy dde-ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae cefnffyrdd yr A40 a'r A483, ar y llaw arall, yn cysylltu â chanolbarth a gogledd Cymru yn ogystal â chanolbarth a gogledd Lloegr. Darperir mynediad at ganolbarth Cymru ac ymlaen ymhellach i ogledd Cymru gan yr A484 a'r A485.

4.51 Mae'r canlynol yn dangos natur y rhwydwaith ffyrdd, gan gynnwys lefel y ddarpariaeth a fodlonir gan ffyrdd Dosbarth B ac is. Mae hyn, yn rhannol, yn adlewyrchu pa mor wledig yw'r sir ac mae'n pwysleisio'r heriau wrth ddarparu strategaeth integredig gynaliadwy ar gyfer yr ardal.

Rhwydwaith Ffyrdd Sir Gaerfyrddin – Hyd y Ffordd (Km)

Traffordd (M4)

5

Dosbarth A (Cefnffyrdd)

147

Dosbarth A (Sirol)

247

Dosbarth B ac C

1,579

Ffyrdd Bach ag Wyneb

1,496

Tabl 1

4.52 Gwasanaethir yr ardal yn gyffredinol dda gan drafnidiaeth gyhoeddus trwy'r rhwydwaith bysiau, er bod lefel ac amlder y gwasanaeth yn amrywio yn ôl lleoliad a chyrchfan. Yn ogystal, mae nifer o wasanaethau sy'n gweithredu ar sail 'galw a theithio' mewn ardaloedd gwledig a 'Bwcabus' yn Nyffryn Teifi – mae gwasanaethau o'r fath yn cynnig buddiannau hygyrchedd ychwanegol i'r ardaloedd hyn.




[14] Cynllun adfywio strategol ar gyfer Sir Gaerfyrddin 2015-2030 – Trawsnewidiadau - https://www.sirgar.llyw.cymru/media/1212394/cynllun-adfywio-strategol-ar-gyfer-sir-ga-r-2015-2030.pdf

[15] Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020 – 2040 (Drafft Ymgynghori)

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig