Deposit LDP
10.1 Mae ffigur 8 uchod yn dangos y diagram allweddol ac yn nodi sut y caiff ardaloedd y cynllun eu hisrannu'n glystyrau dynodedig, gyda phob un yn cynnwys aneddiadau cydrannol fel y diffinnir yn y fframwaith aneddiadau ym Mholisi Strategol SP16. Mae'r clystyrau wedi isrannu ardal y cynllun yn chwe ardal ddaearyddol, y mae gan bob un ohonynt brif ganolfan neu ganolfan wasanaethau neu wedi'i gefnogi gan rwydwaith o aneddiadau eraill.
10.2 Mae'r clystyrau penodedig fel a ganlyn:
- Caerfyrddin a'i Hardaloedd Gwledig
- Ardal Llanelli a De Cwm Gwendraeth
- Aman a Phen Uchaf Cwm Gwendraeth
- Teifi
- Pen Uchaf Dyffryn Tywi
- Gorllewin Sir Gaerfyrddin
Caerfyrddin a'i Hardaloedd Gwledig
10.3 Mae clwstwr Caerfyrddin a'i Hardaloedd Gwledig wedi'i nodweddu gan ardal wledig ac mae'r aneddiadau yn amrywio o ganolfan ranbarthol Caerfyrddin i drefi marchnad a phentrefi bach a mawr mewn ardaloedd gwledig. Lleolir yr aneddiadau mewn tirweddau gwledig lle mai amaethyddiaeth yw'r brif economi.
10.4 Mae'n ganolog i'r Sir a'r rhanbarth, ac mae wedi'i leoli ar gyfres o lwybrau priffyrdd a rheilffyrdd strategol sydd wedi'u canoli ar dref farchnad hanesyddol Caerfyrddin. Fel canolfan ranbarthol gyda'i swyddogaethau cysylltiedig, mae Caerfyrddin yn dal i fod yn ffocws ar gyfer darparu tai a swyddi newydd a hefyd fel canolfan fanwerthu fywiog, ac mae'r sector cyhoeddus yn gyflogwr craidd. Bydd cyfleoedd twf yn y dyfodol yn canolbwyntio ar ddarparu cymysgedd ac amrywiaeth ehangach o safleoedd datblygu. Rhagwelir y bydd Caerfyrddin yn derbyn cyfran helaeth o ddatblygiad y clwstwr.
10.5 Mae rôl Caerfyrddin ar draws y rhanbarth ac mewn perthynas â'i chefnwlad yn cael ei hadlewyrchu drwy ei nodi fel 'ardal twf rhanbarthol' yn rhanbarth Canolbarth a De-orllewin Cymru fel y'i diffinnir yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft[30].
10.6 O amgylch y dref mae nifer o bentrefi gwledig â chysylltiadau da sy'n ymwneud â Chaerfyrddin fel yr anheddiad mwy, yn rhinwedd cysylltiadau ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus, a mynediad at wasanaethau a chyfleusterau. Mae'r rhain yn gwneud cyfraniad pwysig at y clwstwr ehangach gan weithredu'n aml fel mannau lle mae pobl yn byw ac yn gweithio.
10.7 Ymwelir yn eang â'r ardal ac mae ganddi nifer o atyniadau i dwristiaid gan gynnwys Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne, Fforest Brechfa sy'n cynnig llwybrau beicio mynydd a cherdded, Rheilffordd Stêm Gwili, a thraeth a chastell Llansteffan.
Ardal Llanelli a De Cwm Gwendraeth
10.8 Mae'r clwstwr hwn ar hyd morlin Llanelli yn cadw ffocws datblygiadol cryf, ac mae ei botensial adfywio'n cael ei gydnabod yn y Strategaeth Trawsnewidiadau, y Fargen Ddinesig a'r CDLl Mabwysiedig presennol. Mae hyn wedi'i gadarnhau ymhellach drwy'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft a nododd Lanelli yn benodol fel 'ardal twf cenedlaethol'.
10.9 Lleolir hon yn ne-ddwyrain y Sir, sy'n ardal drefol ei natur yn bennaf. Mae ganddi fynediad uniongyrchol i'r M4 a chysylltiadau rheilffyrdd cryf. Mae ei lleoliad ar lwybrau seilwaith allweddol, ei safle daearyddol a'i hagosrwydd at Abertawe yn sicrhau ei phwysigrwydd strategol nid yn unig i Sir Gaerfyrddin ond hefyd yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
10.10 Mae Llanelli yn dal i fod yn ffocws ar gyfer darparu tai yn yr ardal hon, ynghyd â phentrefi ar gyrion y dref. Mae'r canolfannau gwasanaethau sy'n rhan o'r clwstwr hwn yn elfennau allweddol yn y gwaith o ddarparu tai a swyddi newydd o ystyried eu perthynas gyffredinol â gweddill y clwstwr. Mae gan y clwstwr hwn y dwysedd poblogaeth uchaf yn y sir.
10.11 Er gwaethaf y cymeriad trefol ac ôl-ddiwydiannol sy'n aml yn gysylltiedig â'r ardal hon, mae cefndir gwledig iddi ac mae llawer o'r aneddiadau mwy yn darparu canolbwynt ar gyfer swyddi, gwasanaethau a thai yn ogystal â chefnogi'r aneddiadau a chymunedau gwledig hynny. Yn hyn o beth mae 'Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen'[31] yn nodi Cydweli fel un o'r deg tref wledig ym Mhennod 3. Mae hyn yn adlewyrchu nid yn unig rôl yr anheddiad ond yr amrywiaeth sy'n nodweddu ardal y clwstwr.
10.12 Mae'r ardal yn gyfrannwr cryf o safbwynt manwerthu, ac mae'r ddarpariaeth fanwerthu yn amrywio o ran maint yn aneddiadau'r clwstwr. Mae ei photensial o ran twristiaeth wedi'i nodi, gan gynnwys Cae Rasio Ffos Las yn Nhrimsaran a Llwybr Arfordirol y Mileniwm a Pharc Gwledig Pen-bre ar hyd ei harfordir deheuol.
10.13 Llanelli sydd â'r rhan fwyaf o gyfleoedd cyflogaeth mawr. Mae'r sector gweithgynhyrchu traddodiadol yn parhau i fod yn amlwg yn yr ardal hon, ond mae'r swyddi cyferbyniol a gynigir yn y Bynea, Dafen a Llynnoedd Delta yn adlewyrchu'r modd y mae sectorau'r ardal yn ehangu.
Aman a Phen Uchaf Cwm Gwendraeth
10.14 Er ei bod yn bennaf yn drefol ac yn ôl-ddiwydiannol, gellir nodweddu'r ardal yn rhannol gan gyfres o aneddiadau cydgysylltiedig. Mae'r broses o ddarparu tai a swyddi newydd wedi cael ei ganoli ar goridor yr A48, ac mae Cross Hands ac aneddiadau cyfagos yn ffocws allweddol. Mae hyn yn adlewyrchu ei safle ar ran allweddol o'r rhwydwaith strategol sy'n cysylltu Sir Gaerfyrddin â gweddill gorllewin Cymru a Sir Benfro, ond hefyd, yn allweddol, â Chaerdydd, Abertawe a Chanolbarth Cymru yn ogystal ag ar draws y ffin i Loegr. Mae wedi tyfu fel canolfan gan ganolbwyntio ar fuddsoddi mewn swyddi, tai a gwasanaethau. Mae Rhydaman yn ganolfan sefydledig yn sgil cael ei sefydlu fel sylfaen ddiwydiannol. Yn dilyn y dirywiad yn ei sylfaen gyflogaeth mae ei rôl o ran cefnogi'r cymunedau o'i hamgylch wedi datblygu – mae bellach yn chwarae rhan bwysig fel canolfan wasanaethau, gan ddarparu cyfleusterau manwerthu, cyflogaeth, addysg a hamdden.
10.15 Er gwaethaf y cymeriad trefol ac ôl-ddiwydiannol sy'n aml yn gysylltiedig â'r ardal hon, mae cefndir gwledig iddi ac mae llawer o'r aneddiadau mwy yn darparu canolbwynt ar gyfer swyddi, gwasanaethau a thai yn ogystal â chefnogi'r aneddiadau a chymunedau gwledig hynny. Yn hyn o beth, mae 'Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen'[32] yn nodi Cwmaman (sy'n cynnwys aneddiadau Glanaman a'r Garnant) a Cross Hands fel dwy o'r deg tref wledig ym Mhennod 3. Mae hyn yn adlewyrchu nid yn unig rôl yr aneddiadau ond yr amrywiaeth sy'n nodweddu ardal y clwstwr.
10.16 Datblygodd Glanaman/y Garnant o gwmpas y gweithgareddau diwydiannol a oedd yn gysylltiedig â'r gwaith tunplat a'r pyllau glo yn yr ardal. Fodd bynnag, mae'r anheddiad wedi'i leoli mewn cyd-destun gwledig yn bennaf rhwng y Mynydd Du a Mynydd y Betws.
10.17 Mae Cross Hands, sef hen gymuned lofaol, wedi datblygu yn ystod y degawdau diweddar drwy ei safle ar lwybr trafnidiaeth strategol yr A48. Fodd bynnag, mae hanes gwledig iddi ac ynghyd ag aneddiadau eraill sy'n rhan o Brif Ganolfan Rhydaman/Cross Hands (Polisi Strategol SP16) a'r rhai ar draws y clwstwr, mae'n rhyngweithio â'r cymunedau a'r aneddiadau gwledig.
10.18 Mae ardaloedd ôl-ddiwydiannol Dyffryn Aman a Chwm Gwendraeth (uchaf) yn cael eu hystyried yn gadarnleoedd ieithyddol allweddol o ran y Gymraeg ac maent yn elfennau allweddol o ran diffinio'r ymdeimlad o le a hunaniaeth ddiwylliannol. Mae'r aneddiadau hyn yn y Cymoedd yn cyflawni swyddogaeth fel canolfannau gwasanaethau lleol yn hytrach na bod yn brif ffocws ar gyfer datblygiadau newydd. Mae amgylchedd naturiol yr ardal yn cyfrannu at ei chymeriad hefyd, ac mae prosiect Caeau'r Mynydd Mawr yn elfen annatod o ran cyfryngu a chydbwyso galwadau croes.
10.19 Adlewyrchir cymeriad yr ardal sy'n wledig yn bennaf a'i dwysedd poblogaeth is wrth ddosbarthu'r aneddiadau yn yr ardal. Er nad yw'n cynnwys Prif Ganolfan haen 1, adlewyrchir y cyfraniad pwysig yn y Sir wrth nodi clwstwr ar draws yr ardal. Yn y cyswllt hwn cydnabyddir bod gan ardaloedd gwledig o'r fath a'u haneddiadau rôl bwysig ar draws sir amrywiol o ran darparu tai a swyddi a darparu gwasanaethau i'w cymunedau.
10.20 Mae Castellnewydd Emlyn yn cyflawni rôl fel canolfan wasanaethau bwysig ar gyfer yr ardal (yn enwedig o ran addysg, cyflogaeth a manwerthu lleol) yn hytrach na bod yn ffocws ar gyfer datblygiadau newydd. Nodir perthynas drawsffiniol agos yr ardal â'r cymunedau hynny yng Ngheredigion, ac felly hefyd rôl aneddiadau megis Llandysul, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi i gymunedau yn yr ardal hon. Cydnabyddir y berthynas hon mewn gwahanol ddogfennau polisi, ac mae'n ystyriaeth allweddol wrth ddosbarthu a chyflenwi tai yn y CDLl Adneuo. Cydnabyddir bod nifer o'r aneddiadau yn y clwstwr hwn yn dibynnu ar Gaerfyrddin fel y brif ganolfan ar gyfer manwerthu, gweinyddu, iechyd a chyfleoedd gwaith y tu allan i'r rhai sy'n aml yn gysylltiedig ag ardaloedd gwledig. Nid yw hyn, fodd bynnag, yn amharu ar ei botensial i ddatblygu i wasanaethu anghenion ei gymuned.
10.21 Mae safle gofodol yr ardal, ei chyfyngiadau ar ddatblygu a'i hanghenion o ran tai, yn adlewyrchu amrywiaeth y sir gyfan. Yn hyn o beth, mae'r cymeriad gwledig yn gofyn am ddull gwahanol o ddarparu tai a swyddi o gymharu â'r ardaloedd hynny sy'n fwy trefol yn bennaf. Mae'r cynllun yn ceisio ymateb i'r gwahaniaeth hwn a rôl yr ardal o ran derbyn twf.
10.22 Castellnewydd Emlyn a Llanybydder yw dwy o'r deg 'tref wledig '[33] sy'n adlewyrchu rôl a swyddogaeth yr aneddiadau a'u cyfraniad o fewn y gymuned ehangach ac ardal y clwstwr.
10.23 Adlewyrchir cymeriad yr ardal sy'n wledig yn bennaf a'i dwysedd poblogaeth is wrth ddosbarthu'r aneddiadau yn yr ardal. Er nad yw'n cynnwys Prif Ganolfan haen 1, adlewyrchir y cyfraniad pwysig yn y Sir wrth nodi clwstwr ar draws yr ardal. Yn y cyswllt hwn cydnabyddir bod gan ardaloedd gwledig o'r fath a'u haneddiadau rôl bwysig ar draws sir amrywiol o ran darparu tai a swyddi a darparu gwasanaethau i'w cymunedau.
10.24 Llandeilo, Llanymddyfri a Llangadog sy'n cyflawni rolau'r canolfannau gwasanaethau allweddol yn y clwstwr hwn, ac maent yn cefnogi'r ddarpariaeth gymdeithasol a'r ddarpariaeth o ran cyflogaeth, addysg a manwerthu lleol ar gyfer yr aneddiadau llai. Mae'r ardal wedi'i chysylltu'n dda â'r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach trwy'r A40, yr A476 a Rheilffordd Calon Cymru.
10.25 Gall ystyried sefyllfa ofodol yr ardal, ei chyfyngiadau ar ddatblygu (e.e. perygl o lifogydd ac ansawdd y dirwedd), ac anghenion tai fod o gymorth i ddeall a llywio unrhyw rôl a allai fod gan yr ardal yn y dyfodol o safbwynt datblygu. Mae lleoliad deniadol yr ardal yn cael ei ffurfio gan ddyffryn yr afon.
10.26 Er bod llawer o'r aneddiadau yn y clwstwr hwn yn dibynnu ar Gaerfyrddin neu Rydaman/Cross Hands fel y canolfannau mawr ar gyfer darpariaeth fwy o ran manwerthu a chyflogaeth, mae rôl a swyddogaeth Llandeilo a Llanymddyfri fel y nodwyd ym Mhennod 3 o 'Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen' fel dwy o'r deg 'tref wledig', yn adlewyrchu eu cyfraniad at ddarparu gwasanaethau, tai a swyddi wrth wasanaethu'r gymuned ehangach ac ardal y clwstwr. [34]
10.27 Adlewyrchir cymeriad yr ardal sy'n wledig yn bennaf a'i dwysedd poblogaeth is wrth ddosbarthu'r aneddiadau yn yr ardal. Er nad yw'n cynnwys Prif Ganolfan haen 1, adlewyrchir y cyfraniad pwysig yn y Sir wrth nodi clwstwr ar draws yr ardal. Yn y cyswllt hwn cydnabyddir bod gan ardaloedd gwledig o'r fath a'u haneddiadau rôl bwysig ar draws sir amrywiol o ran darparu tai a swyddi a darparu gwasanaethau i'w cymunedau.
10.28 Gyda'i gysylltiadau â gorllewin Cymru, mae datblygu yn y clwstwr hwn wedi canolbwyntio ar aneddiadau Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf yn draddodiadol. Yr aneddiadau hyn yn bennaf sy'n cyflawni rolau'r canolfannau gwasanaethau allweddol yn y clwstwr hwn, ac maent yn cefnogi'r ddarpariaeth gymdeithasol a'r ddarpariaeth o ran cyflogaeth, addysg a manwerthu lleol ar gyfer yr aneddiadau llai. Mae'r ardal wedi'i chysylltu'n dda â'r rhwydwaith trafnidiaeth ehangach trwy'r A40, yr A477 a'r rheilffordd rhwng Llundain ac Abergwaun. Hefyd mae gan ardal ogledd-orllewinol y clwstwr gysylltiadau da ar yr A478 â Cheredigion a Sir Benfro, gan integreiddio â'r rhanbarth ehangach.
10.29 Mae ei berthynas â Sir Benfro a'i arfordir deniadol yn golygu bod darpariaeth gref i dwristiaid wedi datblygu yn yr aneddiadau, gyda Thalacharn a Phentywyn yn gwneud cyfraniad pwysig at yr ymdeimlad cyffredinol o le ac at yr economi ymwelwyr. O ran twristiaeth, mae'r hyn a gynigir yn yr ardal gymeriad hon (sy'n seiliedig ar yr arfordir) at ei gilydd yn wahanol i'r dwristiaeth seiliedig ar weithgareddau a geir yn ardal wledig gogledd y Sir a'r atyniadau hynny ar raddfa fwy yn ardal Llanelli a De Cwm Gwendraeth.
10.30 Er bod llawer o'r aneddiadau yn y clwstwr hwn yn dibynnu ar Gaerfyrddin, neu dros y ffin i Sir Benfro, ar gyfer darpariaeth fwy o ran manwerthu a chyflogaeth, mae rôl a swyddogaeth Sanclêr a Hendy-gwyn ar Daf yn cael eu hadlewyrchu yn 'Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen' fel dwy o'r deg 'tref wledig' a nodwyd.[35] Mae hyn yn cydnabod eu cyfraniad at ddarparu gwasanaethau, tai a swyddi wrth wasanaethu'r gymuned ehangach ac ardal y clwstwr.
[30] Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020 – 2040: Drafft Ymgynghori
[31] Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen (Mehefin 2019): Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin. https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-sir-gâr-wledig-ymlaen/
[32] Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen (Mehefin 2019): Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin. https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-sir-gâr-wledig-ymlaen/
[33] Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen (Mehefin 2019): Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin. https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-sir-gâr-wledig-ymlaen/
[34] Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen (Mehefin 2019): Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin. https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-sir-gâr-wledig-ymlaen/
[35] Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen (Mehefin 2019): Adroddiad ac Argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin. https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-sir-gâr-wledig-ymlaen/