Deposit LDP

Daeth i ben ar 2 Hydref 2020
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

9. Strategaeth Newydd

9.1 Mae'r strategaeth yn anelu at gyflawni'r weledigaeth a'r amcanion strategol a mynd i'r afael â'r materion allweddol a nodwyd yn Strategaeth a Ffefrir y CDLl. Bydd y CDLl Diwygiedig, wrth iddo fynd rhagddo i gael ei fabwysiadu, yn amlinellu sut y bydd y newidiadau yn Sir Gaerfyrddin dros gyfnod y cynllun yn cael eu rheoli a sut y cynllunnir ar eu cyfer. Drwy ei bolisïau a'i gynigion, bydd y CDLl Diwygiedig yn ceisio darparu ar gyfer y newidiadau hyn a'r lefelau perthynol o dwf, a nodi lle y bydd twf o'r fath yn dderbyniol. Caiff hyn ei gyflawni drwy nodi safleoedd ar gyfer defnyddiau tir penodol wrth warchod a gwella buddiannau amgylcheddol, tirwedd ac adeiladau hanesyddol cyfoethog y sir.

9.2 Mae'r broses o baratoi'r CDLl Adneuo wedi'i llywio gan arweiniad cenedlaethol a rhanbarthol, gyda chynlluniau a strategaethau ar bob lefel yn cyfrannu, lle y bo'n briodol, at ddatblygu sylfaen dystiolaeth a gwybodaeth ddatblygol. Mae ymgysylltu hefyd wedi chwarae rhan ganolog wrth baratoi'r CDLl Adneuo hwn.

Dull Gweithredu Gofodol Newydd

9.3 Mae'r CDLl Diwygiedig yn cydnabod yr amrywiaeth a geir yn y Sir a'r angen i adlewyrchu hyn yn ei ymagwedd strategol. Mae'r Strategaeth Ofodol yn nodi hierarchaeth aneddiadau ond yn ei gosod o fewn fframwaith aneddiadau sydd wedi'i grwpio o dan chwe chlwstwr. Bydd y clystyrau hyn a'r dosbarthiad twf yn canolbwyntio ar egwyddorion cynaliadwy ond byddant hefyd yn cydnabod rôl, swyddogaeth a chyfraniad pob anheddiad yn ei glwstwr penodol. Caiff twf ei ddosbarthu yn unol â hynny i ganolfannau a nodwyd, ac mae rôl aneddiadau llai yn Sir Gaerfyrddin o ran sicrhau twf lleol a chynaliadwy hefyd wedi cael ei nodi.

9.4 Mae'r ardaloedd twf strategol yn adlewyrchu'r ffurf drefol gyfredol yn Llanelli, Rhydaman/Cross Hands a Chaerfyrddin gyda'u cymwysterau cynaliadwyedd priodol ac ysgogwyr economaidd cryf o safbwynt galw yn y farchnad a chyflenwi. Mae'r tair ardal twf hyn wedi'u dynodi'n brif ganolfannau ac er y byddant yn derbyn cyfran briodol o'r twf a ragwelir, bydd ymagwedd gytbwys at y dosbarthiad.

9.5 Bydd ardaloedd eraill yn cynnwys ffocws ar dwf lleol ac arallgyfeirio. Mae'r ardaloedd hyn yn rhai lle y bydd twf yn adlewyrchu'r gymuned wrth ddeall y disgwyliadau cyflawni ehangach sy'n gysylltiedig â llunio cynllun (e.e. polisi ac arweiniad cenedlaethol). Yn aml, drwy ymgorffori ardaloedd sy'n fwy gwledig o ran cymeriad, mae ardaloedd o'r fath yn chwarae rôl gyfannol, nid yn unig o ran bywyd bob dydd eu cymunedau, ond maent hefyd yn hanfodol i Sir Gaerfyrddin fywiog a llewyrchus.

9.6 Mae adfywio a chreu swyddi yn elfennau pwysig ledled y Sir. Bydd safleoedd a ddynodwyd a'r defnydd o bolisïau yn darparu fframwaith ar gyfer darparu cyfleoedd cyflogaeth a chreu swyddi. Bydd hyn yn ceisio darparu dull gweithredu cadarnhaol i helpu'r ardaloedd hyn i ddiwallu eu potensial llawn ac adeiladu ar y cyfleoedd o fewn holl gymunedau Sir Gaerfyrddin. Felly mae'r strategaeth wedi'i gwreiddio'n gadarn o fewn ethos "Un Sir Gâr" fel yr amlinellir yn y weledigaeth.

9.7 Bydd y cynllun yn defnyddio dyraniadau a chyfyngiadau datblygu lle y bo'n briodol, yn ogystal â defnyddio polisïau a meini prawf i sicrhau bod y datblygiad cywir yn y man cywir, yn ychwanegol at atal datblygiadau annerbyniol o fewn cymunedau Sir Gaerfyrddin.

9.8 Ar draws ardal y cynllun, bydd cyffredinedd polisïau, ond gallai fod amrywiadau penodol i ganiatáu ar gyfer dull gweithredu polisi ymatebol.

Twf Cyflawnadwy

9.9 Mae'r strategaeth newydd yn ceisio sicrhau twf cytbwys sy'n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion ein cymunedau ac yn cyflawni amcanion strategol ac adfywio'r Cyngor a'r rhanbarth.

9.10 Bydd y CDLl hwn yn rhoi'r cyfle i gyflenwi 8,835 o dai dros gyfnod y cynllun. Mae hyn yn cyfateb i 589 o dai y flwyddyn o 2018 i 2033. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer darparu tai newydd mewn ffordd gynaliadwy sy'n cefnogi dyheadau ein cymunedau ac yn darparu hyblygrwydd priodol i ymateb i amcanion tai fforddiadwy'r cyngor. Bydd yr agenda hon ar gyfer Sir Gaerfyrddin, sy'n uchelgeisiol ond yn gyflawnadwy, yn caniatáu i'r cynllun adeiladu ar oddeutu'r 536 o dai sy'n cael eu darparu y flwyddyn o dan y CDLl mabwysiedig presennol[27].

9.11 Drwy ddarparu nifer y tai a nodir uchod, mae'r Strategaeth a Ffefrir hon yn cynnwys hyblygrwydd ychwanegol fel rhan o'i chyflenwi (ymgodiad) i sicrhau twf cynaliadwy a goresgyn unrhyw broblemau cyflawni annisgwyl posibl. Mae 15% o hyblygrwydd drwy 1,325 o dai pellach wedi'i gynnwys. Mae hyn yn cyfateb i gyflenwad tai o 10,160 o anheddau i gyflenwi'r 8,835 o dai.

9.12 Mae'r strategaeth newydd yn sicrhau bod digon o gyfle i ddarparu cynifer o dai fforddiadwy â phosibl i gefnogi anghenion gwledig a threfol, wrth ddarparu sail gref ar gyfer darpariaeth marchnad dai gyflawnadwy.

9.13 Mae'r strategaeth newydd yn rhoi cyfle i wrthbwyso demograffeg y sir drwy gadw ac ymfudo oedolion iau i'r sir, a mynd i'r afael â rhai o'r problemau y gellid eu canfod o boblogaeth sy'n heneiddio.

9.14 Bydd dull gweithredu o'r fath yn cael ei gefnogi gan amgylchedd economaidd cryf ac mae cyflenwi isafswm o 5,295 o swyddi dros gyfnod y cynllun yn elfen bwysig ohono. Mae hyn yn adlewyrchu'r amcanion twf a chreu swyddi yn Strategaeth Adfywio'r cyngor, a thrwy Fargen Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

9.15 At hynny, bydd cefnogi dull gweithredu cadarnhaol tuag at dwf yn Sir Gaerfyrddin yn darparu cyfle pellach i'r demograffig iau fyw a gweithio yn y sir.

Cymunedau Gwledig

9.16 Mae gan aneddiadau ac agweddau gwledig y Sir ran bwysig i'w chwarae o ran gwella cynaliadwyedd ardal ddaearyddol ehangach y Sir. Mae strategaeth a fframwaith aneddiadau'r cynllun yn adlewyrchu'r rôl sylweddol y mae cymunedau gwledig yn ei chwarae trwy gefnogi twf ar raddfa gymesur sy'n gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at gydlyniant a chynaliadwyedd hirdymor cymunedau gwledig a'r economi wledig.

9.17 Fodd bynnag, mae'r cynllun yn cydnabod bod angen i leoliad a lefel y twf mewn ardaloedd a chymunedau gwledig fod yn gymesur ac yn briodol, ac y byddai lefel ormodol o ddatblygiad yn niweidiol i ardaloedd o'r fath. Wrth roi sylw i rai o'r effeithiau hyn yn y CDLl Diwygiedig, mae'r Cyngor wedi cynnal Asesiad o Anghenion Tai Gwledig sy'n ceisio cydbwyso twf yn erbyn rhai o'r materion allweddol sy'n wynebu aneddiadau gwledig. Felly mae'r cynllun yn ceisio sicrhau lefel o dwf sydd ei hangen i gynnal a gwella'r gwasanaethau a'r cyfleusterau a ddarperir yn aneddiadau gwledig y sir.

9.18 Mae'r cynllun hefyd yn cydnabod y gall datblygu, os caiff ei leoli a'i gyflawni ar y raddfa briodol, hefyd hyrwyddo ardaloedd Cymraeg eu hiaith a gwella cyfleoedd cyflogaeth mewn ardaloedd gwledig.

9.19 Bydd y cynllun yn ceisio rheoli graddfa neu gyfradd y twf i sicrhau bod yr effeithiau ar y seilwaith lleol, bywiogrwydd y Gymraeg, a chynaliadwyedd cefn gwlad a'r amgylchedd naturiol yn cael eu hymgorffori a'u lleddfu'n foddhaol.

Yr Economi Wledig

9.20 Mae cydnabyddiaeth glir bod economi wledig gref yn hanfodol er mwyn cynnal cymunedau gwledig cynaliadwy a bywiog.

9.21 Mae mentrau newydd ac ehangu busnesau sy'n bodoli eisoes yn bwysig o ran cyfrannu at dwf a sefydlogrwydd ardaloedd gwledig. Gellir cynnal llawer o weithgareddau masnachol a gweithgynhyrchu ysgafn mewn ardaloedd gwledig heb beri aflonyddwch annerbyniol nac effeithiau andwyol eraill. Fodd bynnag, mae'n rhaid i raddfa defnydd o'r fath fod yn briodol hefyd. Mae'r cynllun yn ceisio cydnabod y gwerthoedd hyn.

Adfywio a'r Economi

9.22 Mae Sir Gaerfyrddin wedi bod yn sir sy'n ystyried adfywio a thwf economaidd fel rhan annatod o'i huchelgeisiau strategol ac mae'n parhau i wneud hynny. Mae ei hanes llwyddiannus o ysgogi a denu buddsoddiad wedi arwain at ddenu cyfres o ddatblygiadau sylweddol i'r Sir, yn enwedig y rhai mwyaf diweddar, sef y cynnig gwyddor bywyd a llesiant yn Llanelli a datblygiad Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

9.23 Yn ogystal ag ysgogi gwelliannau yn y canolfannau cyflogaeth traddodiadol, mae cyfleoedd o'r fath wedi rhoi bod i ddatblygiadau masnachol sylweddol, meysydd cyhoeddus newydd, gwelliannau i adeiladau a seilwaith newydd gan wella darpariaeth a gwead cymunedau'r Sir.

9.24 Er bod llawer o'r ymyriadau hyn wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol o ran creu sir gynaliadwy ac amrywiol yn economaidd, mae'n golygu nad oes unrhyw gyfleoedd i'r Sir orffwys ar ei rhwyfau. Yn wir, mae'r amgylchedd heriol ym maes manwerthu sy'n effeithio ar rai o'n canol trefi yn golygu bod angen amrywio'r dull gweithredu gan adlewyrchu newid i ganolfannau 'byw' ac amrywiol. Mae hyn wedi cael ei grisialu yng nghanol tref Llanelli lle mae gwaith y Tasglu fel rhan o ddull ehangach sy'n canolbwyntio ar adfywio wedi arwain at gyflwyno Gorchymyn Datblygu Lleol.

9.25 O ran manwerthu, mae'r cynllun yn cydnabod y rôl ranbarthol bwysig sydd gan Gaerfyrddin a bydd yn ceisio sicrhau y caiff ei bywiogrwydd a'i hyfywedd eu cynnal a'u gwella.

9.26 Bydd y cynllun yn adlewyrchu cyfraniad pwysig canolfannau manwerthu eraill ond hefyd y swyddogaeth bwysig y mae darpariaeth nwyddau cymharol a chyfleus lai yn ei chyflawni ar draws set amrywiol o aneddiadau a chymunedau.

9.27 Bydd y cynllun yn ceisio sicrhau bod cymaint o fuddsoddiad a chynifer o swyddi â phosibl yn cael eu creu ar draws amrywiaeth o sectorau a hynny heb fod yn gyfyngedig i gyflogaeth draddodiadol ond hefyd o fewn y sectorau twristiaeth a gwasanaethu. Yn hyn o beth mae'r cynllun yn ceisio darparu fframwaith cadarnhaol ar gyfer creu sylfaen economaidd well gyda chyfleoedd priodol ar gyfer twf masnachol a chyflogaeth.

9.28 Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddefnyddio dulliau cadarnhaol megis Gorchmynion Datblygu Lleol lle bo hynny'n ddoeth ac yn briodol i hwyluso a galluogi cyfleoedd adfywio a datblygu economaidd.

Datblygu Cynaliadwy, Llesiant a'r Newid yn yr Hinsawdd

9.29 Drwy gynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy ar gyfer Sir Gaerfyrddin, mae hyn yn ceisio adlewyrchu a hyrwyddo egwyddorion datblygu cynaliadwy ac ymgorffori'r dyletswyddau sy'n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Mae gan y system gynllunio gefndir hirsefydlog o hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac, o ran hynny, bydd y Strategaeth a Ffefrir hon a'r CDLl wrth iddo fynd ati i gael ei fabwysiadu yn ceisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cymunedau. Bydd hefyd fel rhan o'r agenda hon yn chwarae ei ran mewn mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, gan adlewyrchu cyfraniad y system gynllunio yn gyfan gwbl.

9.30 Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ceisio rhoi fframwaith polisi ar waith sy'n mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd yn ein cymunedau drwy fabwysiadu egwyddorion a datblygu cynaliadwy.

9.31 Bydd y CDLl yn hyrwyddo egwyddorion cynaliadwyedd drwy wneud y canlynol:

  • Diogelu a gwella bioamrywiaeth, trefluniau a thirweddau.
  • Lleihau'r galw a'r defnydd o ynni drwy hwyluso cyflenwi adeiladau a thai carbon niwtral, gan gynnwys hyrwyddo'r defnydd effeithlon o adnoddau, gan gynnwys cyfeirio datblygiad i dir a ddatblygwyd yn flaenorol, lle bynnag y bo'n bosibl.
  • Dosbarthu a lleoli datblygiad yn unol â'r fframwaith aneddiadau gyda golwg ar leihau dibyniaeth heb ei hangen ar geir modur preifat. Bydd yn hyrwyddo dewisiadau teithio amgen 'gwyrdd' a chynaliadwy, gan adeiladu ar ddatblygiadau mewn technoleg, ac yn hyrwyddo hygyrchedd dulliau teithio amgen.
  • Hyrwyddo rheoli gwastraff yn gynaliadwy.
  • Hyrwyddo rheoli dŵr yn gynaliadwy (gan gynnwys sicrhau cyflenwad cynaliadwy o adnoddau dŵr ac ansawdd dŵr, hyrwyddo dulliau draenio cynaliadwy a mynd i'r afael â phroblemau llifogydd). Mae hyn yn cynnwys lleihau bregusrwydd cymunedau drwy sicrhau nad yw gwaith datblygu yn cael ei leoli mewn ardaloedd mewn perygl o lifogydd.
  • Hyrwyddo gwella llesiant a chynhwysiant cymdeithasol drwy gefnogi cymunedau iach, hygyrch a chydlynol.
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu economi wydn a hwyluso twf priodol yn y dyfodol. a
  • Hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg a'i diwylliant.

9.32 Mae'r CDLl Diwygiedig yn cydnabod rôl y system gynllunio o ran sicrhau bod datblygiadau yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd, datgarboneiddio cymdeithas a datblygu economi gylchol. Yn hyn o beth, ystyr economi gylchol yw un sy'n ceisio cadw deunyddiau, cynhyrchion a chydrannau mewn defnydd am gyn hired â phosibl, ac mae ei hegwyddorion yn un o elfennau allweddol Polisi Cynllunio Cymru 10. Rhoddir sylw i fanteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ymagwedd o'r fath, ac yn fwyaf penodol cynnydd yng ngwerth a chynhyrchiant deunyddiau, arbedion ariannol i'r sector adeiladu ac atal gwastraff.

Creu Lleoedd, Seilwaith a Chymunedau Cydlynus

9.33 Mae twf ein cymunedau yn cynnig cyfle cadarnhaol i ddatblygu a chyflwyno cyfres gydlynol wedi'i chynllunio o ddatblygiadau sy'n canolbwyntio ar anghenion cymunedau a darparu lleoedd lle bydd pobl, yn y pen draw, yn byw, yn gweithio ac yn treulio eu hamser hamdden. Dim ond drwy ddull cadarnhaol o'r fath y gallwn greu amgylchedd â chyfleoedd economaidd a fydd yn golygu bod modd cadw ein pobl ifanc.

9.34 Mae'r CDLl yn ceisio cynnal a gwella cymunedau presennol yn ogystal â chreu datblygiadau newydd a chynaliadwy. Mae'r cysyniad hwn o greu lleoedd wedi'i sefydlu ym Mholisi Cynllun Cymru a bydd yn egwyddor arweiniol allweddol o ran twf ein sir a'i chymunedau yn y dyfodol. Yn y cyswllt hwn dylid ystyried creu lleoedd yn rhan o agenda gynaliadwy sy'n cynnwys pawb sydd â diddordeb proffesiynol neu bersonol yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau, gwneud penderfyniadau a darparu datblygiadau sy'n cyfrannu at greu a gwella lleoedd cynaliadwy[28].

9.35 Mae'r cynllun yn cydnabod y canlynol:

output

Ffigur 7: Beth yw Creu Lle?[29]

9.36 Mae'r Sir yn cefnogi rhwydwaith mannau gwyrdd eang, sy'n hanfodol ar gyfer llesiant economaidd, amgylcheddol a chymunedol. Mae Seilwaith Gwyrdd yn cyfeirio at ddefnyddio elfennau o'r amgylchedd naturiol, megis nodweddion ecolegol, mannau gwyrdd, mannau agored a systemau rheoli dŵr er budd cymdeithasol, economaidd ac iechyd amgylcheddol ardal. Er bod y dull Seilwaith Gwyrdd yn nodi'r amgylchedd naturiol fel ased y gall datblygwyr ei ddefnyddio i sicrhau twf economaidd, mae hefyd yn darparu'r modd i allu diogelu a gwella'r 'asedau' hyn. Mae'r cynllun yn ceisio gosod agenda gadarnhaol y gellir cydnabod gwerth Seilwaith Gwyrdd i'r Sir a'i chymunedau drwyddi. Yn hyn o beth, ystyrir bod systemau seilwaith gwyrdd yn elfennau allweddol wrth sicrhau datblygu cynaliadwy.

9.37 Mae enghreifftiau o 'asedau' seilwaith gwyrdd yn cynnwys, er enghraifft, parciau a gerddi, mannau gwyrdd amwynder (e.e. mannau chwarae a chaeau chwaraeon), rhandiroedd, mynwentydd, mannau gwyrdd trefol, coridorau gwyrdd (e.e. afonydd, camlesi, llwybrau beicio), safleoedd o werth ecolegol, daearegol a thirwedd, a mannau gwyrdd swyddogaethol megis systemau draenio trefol cynaliadwy a mannau storio llifogydd.

9.38 Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn darparu cyd-destun ar gyfer darparu seilwaith gwyrdd amlswyddogaethol. Gall gyfrannu'n sylweddol at reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, ac yn arbennig o ran cynnal a gwella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau.

9.39 Mae Polisi Cynllunio Cymru 10 yn pwysleisio y dylai'r system gynllunio ddiogelu a gwella asedau a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd. Mae'r cynllun yn mabwysiadu dull strategol a rhagweithiol o ymdrin â seilwaith gwyrdd a bioamrywiaeth drwy lunio stocrestrau a mapiau cyfredol o'r seilwaith gwyrdd presennol ac asedau a rhwydweithiau ecolegol, ac integreiddio polisïau yn y cynllun.

9.40 Mae'r cynllun yn ceisio cydnabod amrywiaeth gyfoethog Sir Gaerfyrddin gan gydnabod y gall hyn hefyd beri heriau o ystyried nodweddion gwledig y sir. Bydd y cynllun yn cymryd golwg gytbwys, gan roi sylw priodol i rinweddau'r anheddiad o ran cynaliadwyedd, neu fel arall, yn ogystal â'r seilwaith addas sydd ar gael, gan gynnwys mannau agored a darpariaeth hamdden. Lle mae'r seilwaith yn annigonol ar hyn o bryd, neu fod yr ansawdd yn wael, nid yw hyn bob amser yn gyfiawnhad dros wrthwynebu datblygiad. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, gall datblygiad newydd fod y ffordd fwyaf realistig o fynd i'r afael â diffygion neu anghydraddoldebau o'r fath.

9.41 Bydd y Cyngor yn defnyddio rhwymedigaethau cynllunio ynghyd â threfniant cydweithredol agos â darparwyr seilwaith, i weithio gyda datblygwyr i sicrhau dull cydgysylltiedig o ddarparu'r seilwaith ategol angenrheidiol.

9.42 Mae effaith hygyrchedd trafnidiaeth a chyfyngiadau yn y rhwydwaith trafnidiaeth ffyrdd yn ystyriaeth bwysig wrth greu cymunedau cydlynus a chynaliadwy. Mae hygyrchedd drwy ddulliau teithio cynaliadwy, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded, yn rhoi cyfle i gymunedau ddewis defnyddio dulliau Teithio Llesol a dulliau mwy cynaliadwy. Gall hyn helpu i sicrhau bod cysylltedd ar gael ond ei fod yn cael ei ystyried yng nghyd-destun sir wledig a gofodol amrywiol yn bennaf. Nodir y gydnabyddiaeth y bydd ardaloedd o'r fath yn parhau i ddibynnu'n fawr ar gar preifat, ond cydnabyddir y gall y cynllun hwn ddarparu ymyriadau i helpu i hwyluso newid i ymagwedd fwy cynaliadwy at drafnidiaeth. Yn hyn o beth, caiff y gwelliannau mewn technoleg ar gyfer Cerbydau Allyriadau Isel Iawn eu nodi a'u hadlewyrchu yn y cynllun hwn.

9.43 Mae'r berthynas rhwng trafnidiaeth a phroblemau llygredd yn ystod yr oriau brig mewn ardaloedd penodol wedi cael ei chydnabod drwy ddynodi Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer. Bydd ystyriaethau o'r fath ac agweddau ehangach ar lygredd yn cael eu hystyried drwy ddarpariaethau'r cynllun hwn a byddant yn ystyriaethau mewn cynigion datblygu.

9.44 Mae sicrhau bod systemau telathrebu modern, cyflym, diogel a fforddiadwy ar gael yn rhan fwyfwy hanfodol o fywydau modern. Yn benodol, mae'r cynllun hwn yn nodi ac yn cydnabod yr effaith y mae mynediad gwael i fand eang cyflym a diogel yn ei chael ar gynwysoldeb a chreu cymunedau ffyniannus ac economaidd hyfyw. Yn wir, mae hyn yn cael ei gydnabod yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.

9.45 Mae Dŵr Cymru yn gyfrifol am gyflenwi a thrin dŵr yn y Sir. Mae Dŵr Cymru yn fodlon ar lefel y twf a nodir yn y cynllun hwn, ond mae wedi gofyn ei bod yn ofynnol i ddatblygiadau mwy yn ardal Llanelli gymryd camau lliniaru i gael gwared ar ddŵr wyneb o'r system garthffosiaeth fel rhan o'r broses o roi'r caniatâd cynllunio. O ganlyniad, mae'r cynllun hwn yn cynnwys ymyriad polisi penodol i'r perwyl hwn. Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff y polisi ei roi ar waith wedi'i nodi yn y Canllawiau Cynllunio Atodol.

9.46 Mae'r cynllun yn cydnabod y duedd a'r effeithiau sy'n gysylltiedig â pherygl llifogydd ar draws y Sir a'r angen i fabwysiadu dull cynaliadwy o reoli ac osgoi perygl llifogydd O ganlyniad, mae polisïau a chynigion y cynllun yn trafod ac yn darparu fframwaith mewn modd priodol ar gyfer ystyried materion o'r fath ochr yn ochr â'r rhai a nodir mewn polisi cynllunio cenedlaethol.

Rhinweddau Amgylcheddol ac Ardaloedd i'w Gwarchod

9.47 Mae'r CDLl yn canolbwyntio datblygiadau ar aneddiadau sefydledig, gan gydnabod yr angen i warchod cefn gwlad, ac ar yr un pryd yn sicrhau darpariaeth briodol ar gyfer rhai defnyddiau penodol (gan gynnwys cynigion eithriadau) os bernir bod lleoliad gwledig yn hanfodol.

9.48 Mae'n ceisio gwarchod a gwella gwerth Sir Gaerfyrddin o ran cadwraeth natur a bioamrywiaeth, gan gynnwys ei chyfuniad gwych o gynefinoedd a rhywogaethau. Mae hefyd yn ceisio gwarchod a gwella amgylchedd adeiledig a hanesyddol y sir, y nodweddion hynny sy'n cyfrannu at ei chymeriad a thirweddau'r ardal sydd o ansawdd uchel.

9.49 Yn hyn o beth mae'r cynllun yn cydnabod pwysigrwydd gwarchod a gwella'r amgylchedd, boed yr amgylchedd naturiol neu'r amgylchedd adeiledig hanesyddol. Cydnabyddir gwerth dynodiadau cenedlaethol a rhyngwladol a hefyd y mannau hynny sydd o werth lleol. Mae'r angen i gydbwyso gofynion twf yn erbyn yr angen i warchod a gwella'r rhinweddau amgylcheddol yn her ganolog ac yn un y mae'r Strategaeth yn ceisio mynd i'r afael â hi.

9.50 Mae'r cynllun hefyd yn adlewyrchu'r angen i ddiogelu natur unigryw a chymeriad ardaloedd yn y sir. Yn hyn o beth, mae rôl creu lleoedd a sut mae datblygiadau yn cysylltu â'u hamgylchoedd yn nodwedd gref o'r cynllun hwn.

Strategaeth Newydd - Elfennau Allweddol

9.51 Mae elfennau allweddol y strategaeth fel a ganlyn:

  • Darparu 10,160 o dai newydd er mwyn cyflenwi'r gofyniad o 8,835 o dai.
  • Darparu cyfleoedd i gyflenwi isafswm o 5,295 o swyddi newydd yn y Sir i gefnogi'r uchelgeisiau economaidd a chyflogaeth strategol ac adfywio o fewn y sir a'r rhanbarth.
  • Darparu digon o dir cyflogaeth i gefnogi twf economaidd a chreu swyddi.
  • Hyrwyddo fframwaith aneddiadau sy'n cefnogi cydlyniad rhwng aneddiadau a chymunedau.
  • Dosbarthu datblygiad yn unol â'r hierarchaeth aneddiadau, gan adlewyrchu nodweddion cynaliadwyedd a swyddogaethol yr aneddiadau, eu gwasanaethau a chyfleusterau yn ogystal â'u gallu i addasu ar gyfer twf.
  • Parchu a gwella rhinweddau amgylcheddol cyfoethog ac amrywiol y sir.
  • Adlewyrchu anghenion ardaloedd gwledig a'r economi wledig.
  • Cydnabod cymeriad diwylliannol ac ieithyddol y sir.
  • Cyfrannu at gyflenwi cyfleoedd ffisegol ac adfywio cymdeithasol a darparu ar gyfer amrediad amrywiol a chydlynol o aneddiadau a chymunedau.
  • Adlewyrchu'r amrywiaeth ar draws y sir, ac o fewn ei haneddiadau a'i chymunedau.
  • Darparu ar gyfer cyflogaeth drwy safleoedd a ddynodwyd a thrwy ddarpariaethau polisi ar draws y sir, gan gydnabod yr angen i gynnal a gwella economïau gwledig.
  • Canolbwyntio newidiadau manwerthu mewn canolfannau a sefydlwyd wrth ddarparu cyfleoedd ar gyfer darpariaeth drwy'r hierarchaeth mewn ffordd a fydd yn cynorthwyo o ran gwella hygyrchedd i wasanaethau a chyfleusterau a helpu i gyflenwi aneddiadau a chymunedau hyfyw, hunangynhaliol a chynaliadwy.
  • Cydnabod cyfraniad 'tir a ddatblygwyd yn flaenorol' a'i ddefnyddio fel y bo'n briodol wrth gydnabod cyd-destun gwledig yn bennaf y sir.
  • Darparu cyfleoedd ar gyfer economi ymwelwyr y sir.
  • Gwarchod a gwella rhinweddau naturiol, hanesyddol a chadwraeth adeiledig Sir Gaerfyrddin a'i thirweddau o werth uchel; a,
  • Cyfrannu at rwydwaith trafnidiaeth integredig yn y sir a'r rhanbarth. Yn ceisio gwneud defnydd effeithlon o'r rhwydwaith ffyrdd a rheilffyrdd presennol drwy ystyried y gall y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus roi'r cyfle ar gyfer atgyfnerthu a gwella'r gwasanaeth, gan felly gynnal a gwella hygyrchedd. Hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer teithio llesol - drwy gael mynediad at ddulliau eraill o deithio, gan gynnwys cerdded a beicio.


[27]Data cwblhau 2015-2018 (Adroddiad Monitro Blynyddol 2017-2018 y CDLl Mabwysiedig)

[28] Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10 – paragraff 2.6

[29] Ffynhonnell: Polisi Cynllunio Cymru: Rhifyn 10

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig