Deposit LDP

Daeth i ben ar 2 Hydref 2020
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

1. Cyflwyniad

1.1 Mae'r Cyngor yn gyfrifol am baratoi a chadw'r Cynllun Datblygu Lleol yn gyfredol.[1] Mae'r CDLl yn trefnu'r polisïau cynllunio, gan ddosbarthu safleoedd ar gyfer mathau gwahanol o ddatblygiad. Mae'r Cyngor hefyd yn gyfrifol am reoli datblygiadau, sy'n cynnwys prosesu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio gan ddefnyddio'r CDLl i arwain a rheoli datblygiad trwy ddarparu'r sail ar gyfer penderfyniadau cyson a chlir. Er mwyn cyflawni'r cyfrifoldebau uchod, rydym wrthi'n paratoi CDLl Diwygiedig. Ar ôl iddo gael ei fabwysiadu, byddwn yn defnyddio'r CDLl hwn ar gyfer asesu ceisiadau cynllunio hyd at 2033, ond byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu'i gynnwys er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n addas a'i fod yn gweithio yn ôl y disgwyl.

1.2 Mae'r CDLl yn cael effaith uniongyrchol ac ystyrlon ar bobl a chymunedau Sir Gaerfyrddin ac ymwelwyr hefyd. Bydd yn llywio datblygiadau'r dyfodol yn y sir ynghyd â'i rhinweddau amgylcheddol, gan gael dylanwad economaidd a chymdeithasol arni. Bydd y CDLl yn ymateb i ofynion economi sy'n tyfu ac o bwysigrwydd rhanbarthol, gan ddarparu swyddi, tai, seilwaith a chyfleusterau cymunedol newydd. Bydd y cynllun hefyd yn sicrhau bod llesiant ei gymunedau yn cael ei gynnal, a bod effeithiau'r datblygiad a'r defnydd o dir yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy. Bydd yn arwain rhaglenni ariannu a buddsoddi, cynlluniau a strategaethau eraill, cymunedau a thirfeddianwyr wrth ddarparu ar gyfer gwelliant a diogelwch ein hamgylchedd a rhinweddau amgylcheddol. Wrth wneud hyn, mae'n darparu rhywfaint o sicrwydd a hyder ynghylch pa fath o ddatblygiad fydd yn cael ei ganiatáu neu beidio, ac ym mha leoliadau, yn ystod cyfnod y cynllun.

1.3 Mae gan y rhan honno o Sir Gaerfyrddin sy'n gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei chynllun datblygu ei hun.

1.4 Wrth sicrhau bod y CDLl mabwysiedig yn parhau i fod yn gyfredol, cafodd ei gynnwys ei adolygu a chyhoeddwyd y canlyniadau yn yr Adroddiad Adolygu[2]. Er bod yr adolygiad hwn wedi canfod bod nifer o agweddau'r CDLl mabwysiedig yn gweithredu'n effeithiol, nododd fod problemau hefyd mewn perthynas â rhannau o'r cynllun a'i strategaeth. Dangosodd yr Adroddiad Adolygu nad oedd rhannau o'r strategaeth hon yn cael eu cyflawni fel y bwriadwyd, a bod angen rhoi ystyried bellach i lefel y twf a'i ddosbarthiad gofodol. Daeth i'r casgliad ein bod yn dechrau paratoi CDLl Diwygiedig yn lle'r cynllun mabwysiedig presennol. Disgwylir y bydd CDLl Diwygiedig 2018 – 2033 yn disodli'r cynllun mabwysiedig presennol ym mis Rhagfyr 2021.



[1]Mae Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2005 yn gosod y fframwaith a chyd-destun cyfreithiol ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig