Deposit LDP

Daeth i ben ar 2 Hydref 2020
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

7. Yr Amcanion Strategol

7.1 Cafodd amcanion strategol y CDLl Mabwysiedig presennol eu defnyddio fel man cychwyn i nodi'r amcanion strategol ar gyfer y CDLl Diwygiedig.

7.2 Roedd ymddangosiad amrediad o ysgogwyr cyd-destunol a pholisi ers 2014, yn fwyaf nodedig Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a llofnodi Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn 2017, yn golygu bod angen adolygu amcanion strategol y CDLl Mabwysiedig. Roedd hefyd angen sicrhau bod amcanion strategol y CDLl Diwygiedig yn cydblethu â materion allweddol a gweledigaeth y CDLl Diwygiedig.

7.3 Mae amcanion llesiant Cynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin wedi cael eu defnyddio i grwpio Amcanion Strategol y CDLl Diwygiedig. Mae hyn yn sicrhau bod dehongliad lleol o lesiant yn cael ei blethu yn yr amcanion llesiant a strategaeth y Cynllun o'r dechrau.

Er nad ydynt yn cael eu nodi'n uniongyrchol fel amcanion strategol y CDLl Diwygiedig yn eu rhinwedd eu hun, mae amcanion llesiant y Cyngor, fel y'u hamlinellir yn Strategaeth Gorfforaethol "Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf 2018–2023", wedi chwarae rôl lywio[24].

7.4 Mae amcanion strategol y CDLl Diwygiedig yn ddigon uchelgeisiol ond mae modd hefyd eu cyflawni yng nghyd-destun cynllunio gofodol. Maent wedi'u seilio ar faterion allweddol y Cynllun ac yn ymateb iddynt, ac maent yn darparu platfform ar gyfer gwireddu'r weledigaeth. Maent yn darparu llwyfan ar gyfer cynllun cadarn, yn arbennig o ran eu haddasrwydd, priodoldeb a chyflawnadwyedd [25]

7.5 Mae'r amcanion strategol yn cael eu croesgyfeirio â mater perthnasol y CDLl Diwygiedig ac maent hefyd yn destun dadansoddiad o ran a ydynt yn amcanion CAMPUS (Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol).


7.6 Mae amcanion strategol y CDLl Diwygiedig isod.

Arferion Iach - Mae gan bobl ansawdd bywyd da, ac maent yn gwneud dewisiadau iach ynglŷn â'u bywydau a'u hamgylchedd.

AS1 Sicrhau bod yr amgylchedd naturiol, gan gynnwys cynefinoedd a rhywogaethau, yn cael ei ddiogelu a'i wella.

Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r CDLl

6, 7, 12, 13, 26, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Uchelgeisiol

AS2 Cynorthwyo i ehangu a hyrwyddo cyfleoedd llesiant trwy fynediad i gyfleusterau cymunedol a hamdden yn ogystal â chefn gwlad.

Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r CDLl

10, 11, 12, 15, 22, 26, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Uchelgeisiol

AS5 Diogelu a gwella'r amgylchedd adeiledig a hanesyddol a hyrwyddo'r arfer o ailddefnyddio adeiladau segur yn briodol.

Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r CDLl

8, 26, 27, 30, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Uchelgeisiol

Ymyrraeth Gynnar - Sicrhau bod pobl yn cael y cymorth iawn ar yr adeg iawn; pan fydd ei angen arnynt.

AS3 Helpu i ehangu a hyrwyddo cyfleoedd am addysg a hyfforddiant sgiliau i bawb.

Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r CDLl

11, 15, 16, 22, 25, 26, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Uchelgeisiol

AS4 Sicrhau bod egwyddorion cyfle cyfartal a chynhwysiant cymdeithasol yn cael eu cynnal drwy hyrwyddo mynediad i wasanaethau cyhoeddus, gofal iechyd, siopau, cyfleusterau hamdden a chyfleoedd gwaith amrywiol ac o ansawdd uchel, yn ogystal â chanol trefi bywiog.

Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r CDLl

2, 3, 9, 11,14,16,18, 22, 25, 26, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Uchelgeisiol

Cysylltiadau Cryf - Pobl, lleoedd a sefydliadau y mae cysylltiad cryf rhyngddynt, sy'n gallu addasu i newid.

AS6 Sicrhau bod egwyddorion cynaliadwyedd gofodol yn cael eu cynnal trwy gyfeirio datblygiadau i leoliadau cynaliadwy sydd â mynediad i wasanaethau a chyfleusterau, a rhoi anogaeth i ailddefnyddio tir a ddatblygwyd o'r blaen lle bynnag y bo hynny'n bosibl.

Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r CDLl

5, 7,13, 22, 23, 26, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Uchelgeisiol

AS7 Gwneud cyfraniad sylweddol tuag at fynd i'r afael ag achos newid yn yr hinsawdd ac addasu ei effeithiau, gan gynnwys hyrwyddo ynni adnewyddadwy a'r defnydd effeithlon o adnoddau a'u diogelu.

Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r CDLl

5, 7,13, 24, 26, 32, 33

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Uchelgeisiol

AS8 Cyfrannu at ddarparu system drafnidiaeth integredig a chynaliadwy sydd ar gael i bawb, gan gynnwys cysylltiadau â dulliau trafnidiaeth amgen.

Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r CDLl

22 ,23 , 24, 26, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Uchelgeisiol

Pobl a Lleoedd Ffyniannus - Gwneud y gorau o gyfleoedd i bobl a lleoedd mewn rhannau trefol a gwledig o'n sir fel ei gilydd.

AS9 Diogelu a gwella cymeriad amrywiol, nodweddion unigryw, diogelwch a bywiogrwydd cymunedau'r Sir drwy hyrwyddo dull o greu lle ac ymdeimlad o le.

Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r CDLl

8, 26, 28, 31, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Uchelgeisiol

AS10 Darparu rhif a cymysgedd priodol o dai o ansawdd ledled y Sir, yn seiliedig ar egwyddorion datblygu economaidd-gymdeithasol cynaliadwy a chyfleoedd cyfartal.

Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r CDLl

3, 17, 18,19, 20, 21, 22, 23, 26,28, 29, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Uchelgeisiol

AS11 Helpu i warchod, gwella a hyrwyddo'r Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol unigryw'r Sir ynghyd â'i hasedau a'i gwead cymdeithasol.

Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r CDLl

3, 17, 18, 20, 26, 28, 29, 31, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Uchelgeisiol

AS12 Annog buddsoddiad ac arloesedd mewn ardaloedd gwledig a threfol trwy sicrhau darpariaeth ddigonol i ddiwallu'r angen am waith a chyfrannu ar lefel ranbarthol tuag at gyflawni Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r CDLl

1, 2, 3, 4, 15, 16, 23, 25, 26, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Uchelgeisiol

AS13 Darparu ar gyfer mentrau twristiaeth cynaliadwy o ansawdd uchel drwy gydol y flwyddyn.

Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r CDLl

4, 25, 26, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Uchelgeisiol

AS14 Adlewyrchu'r gofynion sy'n gysylltiedig â chyflwyno datblygiadau newydd, o safbwynt seilwaith caled a meddal (gan gynnwys band eang).

Mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r CDLl

23, 24, 25, 26, 32

Cyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol, Synhwyrol

Uchelgeisiol

Tabl2

output

Ffigur 6


[24]Mae'r Papur Pwnc – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion yn cynnwys asesiadau cydnawsedd rhwng amcanion strategol y CDLl Diwygiedig ac amcanion llesiant y Cyngor, ac amcanion strategol y CDLl Diwygiedig yn erbyn fframwaith yr Arfarniad Cynaliadwyedd.

[25] Paragraff 8.2.1.2 o Lawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol Llywodraeth Cymru – Argraffiad 2

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig