Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 8 Chwefror 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

11. Polisïau Strategol

11.1 Mae'r adrannau canlynol yn amlinellu'r polisïau strategol sy'n ffurfio'r fframwaith ar gyfer gweithredu a chyflenwi'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae'r fformat a'r strwythur yn adlewyrchu elfennau craidd cynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy, a'r pedwar amcan neu thema llesiant fel y'u nodwyd yng Nghynllun Llesiant Sir Gâr. Mae hyn yn caniatáu i'r polisïau strategol groesgyfeirio â'r amcanion strategol a amlinellwyd yn y ddogfen hon yn ogystal â'r nodau llesiant perthnasol. Bydd y polisïau strategol felly yn cael eu nodi gyda seren (*) yn y ffyrdd canlynol:

  • *Ymyrraeth Gynnar – Gwneud yn siŵr fod pobl yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir, a phan fydd ei angen arnynt.
  • **Pobl a Lleoedd Llewyrchus – Mwyhau'r cyfleoedd ar gyfer pobl a lleoedd mewn rhannau trefol a gwledig o'r sir.
  • ***Arferion Iach – Mae gan bobl ansawdd bywyd da, ac maent yn gwneud dewisiadau iach ar gyfer eu bywydau ac amgylchedd.
  • ****Cysylltiadau Cryf – Pobl, lleoedd a sefydliadau sydd â chysylltiadau cryf sy'n gallu addasu i newid.

11.2 Cydnabyddir y bydd rhywfaint o orgyffwrdd rhwng y themâu unigol a'r polisïau ac felly dylent gael eu darllen ar y cyd â'i gilydd. Mae testun esboniadol gyda phob polisi strategol.

*Ymyrraeth Gynnar – Gweud yn siŵr fod pobl yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir, a phan fydd ei angen arnynt

11.3 Mae'r goblygiadau ar gyfer llesiant unigolion, eu teuluoedd a chymunedau yn cael eu cydnabod o fewn y Strategaeth a Ffefrir hon drwy ganolbwyntio ar greu lleoedd cynaliadwy a chynhwysol. Mae hyn, fel rhan o ddull gweithredu cysylltiedig ar draws yr holl themâu, yn caniatáu ar gyfer datrysiadau hirdymor i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i gynnal a gwella llesiant.

11.4 Mae'n cydnabod bod lleoedd cynaliadwy yn cael eu creu o gydbwysedd o nodweddion sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd, yn fywiog yn economaidd ac yn gymdeithasol gynhwysol, sy'n anelu at fod o fudd nid yn unig i'r preswylwyr cyfredol ond i genedlaethau'r dyfodol hefyd.

11.5 Er y cydnabyddir bod gorgyffwrdd rhwng y themâu ac aseinio polisïau, mae'r canlynol wedi cael eu nodi o dan y thema hon:

  • Polisi Strategol - PS 1: Twf Strategol
  • Polisi Strategol - PS 2: Canolfannau Manwerthu a Chanol Trefi

11.6 Dylid nodi y bydd polisïau penodol yn cael eu datblygu fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo a byddant yn cael eu nodi o fewn cyd-destun y thema berthnasol fel y bo'n briodol.

11.7 Mae'r polisïau canlynol yn ceisio cefnogi cyflenwi amcanion strategol y cynllun, ond maent hefyd yn darparu cysylltiadau lefel uchel a chydymffurfiaeth gyffredinol â'r nodau llesiant.

*Polisi Strategol – PS 1: Twf Strategol

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn darparu ar gyfer twf yr economi a gofyniad tai yn y dyfydol drwy ddarparu's canlynol:

  1. 10,480 o gartrefi newydd I ddiwallu'r gofyniad tai a nodwyd o 9,887
  2. Isafswm o 5,295 o swyddi newydd

Mae'r ffocws ar adfywio a thwf yn adlweyrchu uchelgeisiau strategol craidd y cyngor, gyda datblygu wedi'I ddosbarthu mewn ffordd gynaliadwy sy'n gyson â'r strategaeth ofodol a'r hierarchiaeth aneddiadau.

11.8 Mae'r Strategaeth a Ffefrir hon yn rhoi lle canolog i'r nod o greu sir deg a chydlynol. Mae'n cydnabod rôl y sir fel ysgogwr cryf ac economaidd ar gyfer twf lleol a rhanbarthol i gyflawni hyn, a bod hyn yn gosod Sir Gaerfyrddin wrth wraidd Cymru ffyniannus a chynaliadwy.

11.9 Mae'r strategaeth yn adeiladu ar y pwyslais corfforaethol ar adfywio a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil y Fargen Ddinesig, wrth gydnabod hefyd y cyfleoedd a gyflwynir drwy'r economi wledig ac anghenion amrywiol cymunedau ledled y sir. Er nad yw'r strategaeth, felly, yn cael ei harwain yn gyfan gwbl gan gyflogaeth, mae'n cydnabod yn gryf y rhan y mae cyflogaeth yn ei chwarae wrth greu sir ffyniannus - gyda thwf priodol mewn tai ynghyd â swyddi a chyfleoedd am gyflogaeth.

11.10 Gwnaeth y cyngor, yn rhan o'i bolisi corfforaethol, bennu adfywio fel ei brif amcan. Caiff hyn ei adlewyrchu drwy'r canlynol:

  • Bargen Ddinesig Bae Abertawe
  • Trawsnewidiadau: Cynllun Adfywio ar gyfer Sir Gâr
  • Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: Strategaeth Gorfforaethol Newydd y Cyngor 2018 - 2033

11.11 Mae'r ffocws hwn ar greu swyddi a buddsoddi wedi'i seilio ar leoliad strategol Sir Gaerfyrddin a'i rôl economaidd yn y rhanbarth. Mae'r Strategaeth a Ffefrir ddrafft hon, felly, yn ceisio cydnabod ac adlewyrchu hyn, a'r amcanion corfforaethol, wrth gefnogi a chreu lle deniadol i weithwyr a buddsoddwyr.

11.12 Mae lefel twf swyddi a'i pherthynas â'r gofyniad o ran tai yn y cynllun wedi'u cydnabod wrth ddatblygu'r Strategaeth a Ffefrir ddrafft hon. Mae sicrhau bod ein gofynion o ran twf tai yn adlewyrchu, ac yn cefnogi, ein huchelgeisiau economaidd yn caniatáu ar gyfer dull cydlynus ac integredig sy'n sicrhau nad yw'r rôl a rennir o dwf economaidd ar wahân i dai, ac fel arall.

11.13 Mae'r dull hwn yn mynnu datblygu set gytbwys o amcanestyniadau o ran y boblogaeth ac aelwydydd sy'n herio amcanestyniadau Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2014. Diben hwn yw sicrhau bod nifer digonol o dai i gefnogi'r gwaith o gyflawni ein huchelgeisiau economaidd ac anghenion ein cymunedau.

11.14 Mae tueddiadau'r boblogaeth ac aelwydydd, a osodwyd trwy amcanestyniadau Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2014, yn deillio o batrymau demograffig yn ystod cyfnod o ddirwasgiad. Nid ydym yn cytuno eu bod yn adlewyrchu uchelgeisiau cadarnhaol y sir na'r rhanbarth dros gyfnod y cynllun (na chyfraddau nifer y tai sydd wedi cael eu cwblhau dros y blynyddoedd cyn hynny). Bwriedir i'r strategaeth ddrafft hon a'i lefelau twf fod yn uchelgeisiol ond yn gyflawnadwy, ac adlewyrchu amcanion sy'n ehangach na'r Cynllun Datblygu Lleol hwn yn unig.

11.15 Bydd y Strategaeth a Ffefrir ddrafft hon yn ceisio dosbarthu twf drwy hierarchaeth aneddiadau gynaliadwy sy'n deillio o'r opsiwn gofodol a ffefrir. Mae hyn yn cydnabod rôl ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin, yn ogystal â'r ardaloedd trefol, a'u cyfraniad at gyflawni'r strategaeth hon a'i gweledigaeth ar gyfer 'Un Sir Gâr.

11.16 Byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid, darparwyr seilwaith, datblygwyr a buddsoddwyr, a chymunedau wrth gyflawni'r Cynllun Datblygu Lleol a'i strategaeth, polisïau a chynigion.

*Polisi Strategol – PS 2: Canolfannau Manwerthu a Chanol Trefi

Bydd cynigion ar gyfer datblygu manwerthu yn cael eu hystyried yn unol â'r hierarchaeth manwerthu ganlynol.

Rhoddir caniatâd ar gyfer cynigion lle maent yn cynnal ac yn gwella bywiogrwydd, hyfywedd a dengarwch ein canolfannau manwerthu. Dylent amddiffyn a hyrwyddo hyfywedd a bywiogrwydd y canolfannau manwerthu a ddiffinnir, gan gefnogi'r gwaith o gyflawni darpariaeth manwerthu briodol (nwyddau cymharol a chyfleus) a chyfleusterau hamdden, adloniant, swyddfa a diwylliannol.

Cefnogir cynigion ar gyfer cyfleusterau siopa cyfleus bychain lleol mewn ardaloedd gwledig a threfol lle maent yn cyd-fynd â'r fframwaith aneddiadau.

11.17 Mae'r ddarpariaeth manwerthu yn y sir fel y'i nodwyd trwy'r hierarchaeth manwerthu isod yn adlewyrchu'r rôl y mae canolfannau o'r fath yn ei chwarae wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol sydd ar gael yn hawdd i breswylwyr, yn ddelfrydol trwy ddewis modd cludiant, wrth gynnig cyfle hefyd i gael mynediad at ystod eang o nwyddau a gwasanaethau eraill nad ydynt yn hanfodol o fewn pellteroedd rhesymol.

11.18 Mae hyn yn cydnabod patrwm cyffredinol y ddarpariaeth mewn hierarchaeth draddodiadol o ganolfannau sy'n amrywio o'r ddarpariaeth leol fach i'r canolfannau mwy ac sy'n cynnig mwy o ddewis dros ystod cynhyrchion ehangach. Mae'r canolfannau mwy hefyd yn gweithredu fel lleoliadau ar gyfer gweithgareddau perthynol ym maes hamdden ac adloniant, gan gynnwys sinemâu a bwytai ac ati, ac at ddefnyddiau swyddfeydd masnachol, gan gynnwys cyfreithwyr, cyfrifyddion ac asiantau eiddo ac ati.

11.19 Yn gyffredinol, mae'r ddarpariaeth leol yn cynrychioli nwyddau a gwasanaethau sydd eu hangen o ddydd i ddydd (nwyddau cyfleus) a'r rhai y byddai trigolion yn gwneud teithiau byr amdanynt yn rheolaidd, tra bo'r canolfannau mwy nid yn unig yn darparu cyfleusterau o'r fath ond hefyd eitemau mwy arbenigol (nwyddau cymharol) nad oes pobl yn chwilio amdanynt mor aml ac y mae siopwyr yn barod i deithio'n bellach i'w cael. Yn draddodiadol, mae'r ddarpariaeth siopa wedi datblygu mewn hierarchaeth o ganolfannau gyda dalgylchoedd sy'n gorgyffwrdd, gan adlewyrchu eu maint a'u pwysigrwydd.

11.20 Dyma'r patrwm o ddarpariaeth manwerthu sy'n nodweddu Sir Gaerfyrddin, gyda'r canolfannau mwy o faint, sef Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman, yn gwasanaethu dalgylchoedd helaeth gydag ystod eang ac arbenigol o nwyddau ac eitemau. Mae'r trefi neu drefi marchnad llai, er enghraifft, Castellnewydd Emlyn, Llandeilo a Sanclêr, gyda'u dalgylchoedd llai sy'n fwy lleol, fel arfer yn diwallu anghenion lleol gyda rhywfaint o ddarpariaeth arbenigol. Mae'r ddarpariaeth hon yn cael ei hategu'n aml gan bentrefi mwy sy'n cynnig eitemau hanfodol sydd eu hangen i ddiwallu anghenion o ddydd i ddydd.

11.21 Fel mewn nifer o ardaloedd, mae cyfleusterau siopa y tu allan i ganolfannau gyda warysau manwerthu mawr (gan gynnwys nwyddau swmpus) wedi cyfrannu at newidiadau o ran tueddiadau manwerthu ac, mewn rhai achosion, wedi herio bywiogrwydd a rôl canol trefi presennol a sefydledig. Er bod yr heriau hyn yn cael eu cydnabod, nodir hefyd y gallant gyflwyno cyfleoedd i ehangu'r cynnig o ran manwerthu.

11.22 Mae strategaeth fanwerthu'r Cynllun Datblygu Lleol yn adlewyrchu egwyddorion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol datblygu cynaliadwy sy'n tanategu'r cynllun. Mae hefyd yn ceisio adlewyrchu natur newidiol manwerthu a'r angen i ganol trefi traddodiadol addasu i newidiadau o'r fath. Nod y strategaeth yw:

  1. Amddiffyn a gwella rolau prif ganolfannau Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman wrth wasanaethu dalgylchoedd eang ar gyfer siopa am nwyddau cymharol (dillad, esgidiau, dyfeisiau electronig ac ati) ac eitemau arbenigol er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddeniadol fel canol trefi a chyrchfannau siopa. Yr her fydd cynnal eu hysbryd cystadleuol a'u cyfran o'r farchnad wrth gydnabod anghenion pob canolfan a'i rôl a chyfraniad priodol o ran manwerthu.
  2. Mewn canolfannau eraill, llai o faint, sicrhau bod gan gymunedau lleol fynediad rhesymol at ystod foddhaol o gyfleusterau a gwasanaethau stryd fawr, yn enwedig nwyddau cyfleus (bwyd ac eitemau eraill sydd eu hangen o ddydd i ddydd).
  3. Yn y pentrefi mwy, cynnal hyfywdra siop y pentref a chyfleusterau lleol eraill.

11.23 Ymchwiliodd Astudiaeth Fanwerthu ddiweddaredig (2015) Sir Gaerfyrddin i faterion manwerthu ledled y sir, gan asesu'r gallu ar gyfer twf ar draws y sectorau manwerthu, ac fe'i paratowyd i ddarparu tystiolaeth mewn perthynas â llunio polisïau ac arwain y broses benderfynu.

11.24 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i ni nodi hierarchaeth manwerthu ar gyfer ardal y cynllun. Oherwydd hyn, bydd egwyddor "canol trefi yn gyntaf" ynghyd â dull dilyniannol ar gyfer dethol safleoedd yn cael ei defnyddio i hyrwyddo canol trefi fel y prif leoliadau ar gyfer cyfleusterau manwerthu, swyddfa, hamdden ac iechyd newydd. Drwy wneud hyn, y nod bydd creu rhagor o resymau o ran pam y dylai pobl ymweld â chanolfannau o'r fath gyda chynnydd canlyniadol mewn gweithgaredd cymdeithasol ac economaidd, gan gadw eu hyfywedd o ganlyniad i hyn. Mae'r Hierarchaeth Fanwerthu wedi'i hamlinellu yn y tabl isod ac mae'n cynnwys tair haen. Mae'r haen uwch yn cynnwys canol trefi traddodiadol lle mae canol tref adnabyddadwy gydag amrywiaeth eang o ddefnyddiau megis cyfleusterau manwerthu, hamdden, swyddfa, diwylliannol a thrafnidiaeth. Mae'r haen ganol yn cynnwys nifer o'r lleoliadau hynny yr ystyrir eu bod yn Ganolfannau Gwasanaethu. Mae canolfannau o'r fath yn cynnwys canolfannau manwerthu llai a grwpiau arbennig o leoliadau ar gyfer manwerthu a dibenion eraill. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo yn nodi canol trefi yn y ddwy haen hyn gyda pholisïau penodol mewn perthynas â gweithgaredd manwerthu o fewn y prif ganolfannau. Yr haen isaf yw canolfannau lleol, sy'n amrywio o baredau siopa bach a leolir yn aml mewn ardaloedd preswyl yn bennaf, i glystyrau rhydd ar gyfer manwerthu a dibenion eraill mewn canol aneddiadau neu bentrefi.

Prif Ganolfannau:

Caerfyrddin

Llanelli

Rhydaman




Canolfannau Gwasanaethu:

Porth Tywyn

Llandeilo

Llanymddyfri

Castellnewydd Emlyn

Sanclêr

Hendy-gwyn ar Daf




Darpariaeth Leol (Canolfannau Gwasanaethu):

Llanybydder

Cydweli

Glanaman/Garnant

Trimsaran

Pontyberem

Pont-iets

Brynaman

Talacharn

Llangadog

Glanyfferi

Hendy


11.25 Mae'r cynllun yn cydnabod nad oes modd cynnwys rhai mathau o gyfleusterau manwerthu a hamdden mewn modd addas o fewn lleoliadau canol trefi ac y gall canolfannau rhanbarthol (parciau manwerthu) chwarae rhan wrth ddiwallu'r angen hwn. Fodd bynnag, dylai'r dull dilyniannol gael ei fabwysiadu, sy'n golygu y dylai'r dewis a ffefrir yn gyntaf fod ar gyfer lleoliadau canol trefi presennol fel y rhestrir yn yr hierarchaeth manwerthu, a safleoedd sy'n union gyfagos i ganol trefi yn dilyn hynny. Os nad oes unrhyw safleoedd addas yn y lleoliadau hyn, dim ond wedyn y caiff datblygu yn y canolfannau rhanbarthol presennol canlynol (parciau manwerthu) ei ystyried. Mae'r dull hwn yn adlewyrchu'r canllawiau a amlinellir o fewn TAN4 - Datblygu Manwerthu a Masnachol, sydd hefyd yn nodi, 'Ni ddylai parciau manwerthu y tu allan i ganolfannau y mae eu datblygiad wedi cael ei seilio'n llwyr ar fanwerthu gael eu cynnwys fel arfer yn yr hierarchaeth leol':

11.26 Canolfannau Rhanbarthol: (Parciau Manwerthu)

  • Ffordd Steffan, Caerfyrddin
  • Parc Pensarn, Caerfyrddin
  • Parc Trostre
  • Parc Pemberton, Llanelli
  • Parc Manwerthu Cross Hands

11.27 Rydym yn cydnabod bod rôl canol trefi a phatrymau manwerthu traddodiadol yn newid ac, oherwydd hyn, bydd canol trefi a ffiniau manwerthu cynradd ac eilaidd fel y cawsant eu nodi yn y gorffennol yn cael eu hadolygu a'u hailwampio lle bo hynny'n briodol. Mae'r gydnabyddiaeth hon o'r patrwm manwerthu newidiol a'r potensial ar gyfer hyblygrwydd wrth gynnal deiliadaeth a nifer yr ymwelwyr yn rhan o'r gwaith o greu amgylcheddau bywiog sy'n fyw.

**Pobl a Lleoedd Ffyniannus – Uchafu'r cyfleoedd ar gyfer pobl a lleoedd mewn ardaloedd trefol a gwledig o'n sir

11.28 Mae cydnabod y materion (gan gynnwys tlodi ac amddifadedd) sy'n wynebu rhannau gwledig a threfol o'n sir o fewn y Strategaeth a Ffefrir hon yn ymhlyg fel rhan o'i hethos "Un Sir Gâr". I'r perwyl hwn, mae'r Strategaeth a Ffefrir hon yn ceisio mynd i'r afael â'r materion hyn drwy uchafu'r cyfleoedd i bawb gynnal a/neu gynyddu eu hymdeimlad o lesiant.

11.29 Mae'r cyfleoedd hyn yn cynnwys y ddarpariaeth ar gyfer cartrefi newydd (gan gynnwys cartrefi fforddiadwy) a swyddi, yn ogystal â llywio'r blaenoriaethau buddsoddi a seilwaith newydd - wrth barchu hefyd ffabrig cymdeithasol y sir ar yr un pryd (gan gynnwys y Gymraeg) a'i hymdeimlad o le.

11.30 Er y cydnabyddir bod gorgyffwrdd rhwng y themâu ac aseinio polisïau, mae'r canlynol wedi cael eu nodi o dan y thema hon:

  • Polisi Strategol - PS 3: Darparu Cartrefi Newydd
  • Polisi Strategol - PS 4: Cartrefi Fforddiadwy
  • Polisi Strategol - PS 5: Safleoedd Strategol
  • Polisi Strategol - PS 6: Cyflogaeth a'r Economi
  • Polisi Strategol - PS 7: Y Gymraeg a'i Diwylliant
  • Polisi Strategol - PS 8: Seilwaith
  • Polisi Strategol - PS 9: Darpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr
  • Polisi Strategol - PS 10: Economi Ymwelwyr
  • Polisi Strategol - PS 11: Creu Lleoedd, Cynaliadwyedd a Dylunio o Ansawdd Uchel

11.31 Dylid nodi y bydd polisïau penodol yn cael eu datblygu fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo a chaiff y rhain eu nodi'n briodol o fewn cyd-destun y thema berthnasol.

11.32 Nod y polisïau canlynol yw ategu'r gwaith o gyflawni amcanion strategol y cynllun, ond maent hefyd yn darparu cysylltiadau lefel uchel a chydymffurfiaeth fras â'r nodau llesiant.

**Polisi Strategol – PS 3: Darparu Catrefi Newydd

Er mwyn sicrhau bod y gofyniad cyffredinol ar gyfer taqi o 9,887 o gartrefi dros gyfnod y cynllun (2018-2033) yn cael ei fodloni, gwneir darpariaeth ar gyfer 10,480 o gartrefi o gartrefi newydd yn unol â'r fframwaith aneddiadau

11.33 Nod sylfaenol y cynllun yw hwyluso'r gwaith o ddarparu'r nifer ac amrywiaeth o gartrefi newydd o ansawdd da sydd eu hangen, a fydd yn diwallu'r anghenion o ran tai a nodwyd ar gyfer ein cenedlaethau yn y dyfodol.

11.34 Mae'r ffigwr mewn perthynas â nifer y tai sydd eu hangen ar gyfer y sir wedi'i seilio ar y senario amcanestyn o dwf poblogaeth dros yr hirdymor. Mae'r senario hon yn amcanestyn gofyniad tai a fyddai'n cefnogi uchelgeisiau economaidd y sir drwy gefnogi creu swyddi, ac yn mynd i'r afael eto ag anghydbwysedd poblogaeth sy'n heneiddio yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r sail resymegol dros ddefnyddio'r opsiwn twf a ffefrir hwn hefyd yn ystyried cyfraddau adeiladu'r gorffennol yn y sir dros y deng mlynedd flaenorol ac yn caniatáu ar gyfer sail uchelgeisiol, ond cadarn, i gyflawni nodau strategol cyffredinol y cyngor.

11.35 Mae'r Strategaeth a Ffefrir ddrafft hon yn ystyried nifer o gyfranwyr amrywiol i ddiwallu'r angen hwn o ran tai, ynghyd â hyblygrwydd (codiad) i sicrhau bod nod cyffredinol y polisi strategol o ddarparu cartrefi newydd yn cael ei gyflawni. Mae'r cyflenwad tai yn cynnwys yr elfennau canlynol: [21]

  • Dyraniadau Tai (dros bump o gartrefi)
  • Lwfans Hap-safle ac Adfywio
  • Cydran Safle Bychan (llai na phump o gartrefi)
  • Cydran Hap-safle (pump neu fwy o gartrefi)
  • Hyblygrwydd (6%)

Dyraniadau Tai

11.36 Ffynhonnell allweddol wrth fodloni'r gofyniad a nodwyd mewn perthynas â thir ar gyfer tai yw safleoedd sydd wedi'u clustnodi ar gyfer datblygiad preswyl yn y Cynllun Datblygu Lleol. Bydd y dyraniadau tai hyn yn cael eu nodi yn y polisïau tai penodol, neu eu cynnwys fel rhan o ddyraniadau defnydd cymysg.

11.37 Bydd y polisïau penodol yn ystyried y datblygiadau sydd wedi dechrau / cael eu derbyn ers dyddiad cychwyn y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, a byddant yn cael eu monitro drwy'r gwaith a gyflawnir fel rhan o'r Gyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai.

Hap-safleoedd

11.38 Mae'r lwfans hap-safle yn cynnwys y ddau ffactor isod:

  • Mae'r cyntaf yn ymwneud â chyfraniadau posibl safleoedd sy'n cynnwys llai na phum annedd (safleoedd bach) o fewn yr aneddiadau diffiniedig.
  • Yn ail, bydd lwfans hap-safle drwy safleoedd o bump neu fwy o anheddau, sydd yn draddodiadol wedi gwneud cyfraniad pwysig i'r gwaith o ddarparu tai o fewn Sir Gaerfyrddin. Efallai y bydd hap-safleoedd presennol sy'n cyfrannu at y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig yn cael eu hystyried fel dyraniadau tai o fewn y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, cyn belled â bod y cartrefi yn cael eu cwblhau ar ôl dyddiad cychwyn y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, a bod tystiolaeth yn cael ei darparu i ddangos y gellir eu cyflawni.

**Polisi Strategol – SP4: Cartrefi Fforddiadwy

Bydd y cynllun hefyd yn uchafu'r nifer o gartrefi fforddiadwy a ddarperir hyd at 2033 drwy ddarparu XXXX o gartrefi fforddiadwy.[22]

11.39 Mae tai fforddiadwy yn cynrychioli mater allweddol i'w ystyried wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, yn arbennig o ran cyfrannu at y gwaith o ddatblygu cymunedau cynaliadwy a chytbwys.

11.40 Mae'r polisi yn ceisio adlewyrchu'r gofynion a amlinellir yn TAN2 – Cynllunio a Thai Fforddiadwy, sy'n ceisio gosod mecanweithiau i sicrhau bod tai fforddiadwy yn hygyrch i'r rhai nad ydynt yn gallu fforddio tai'r farchnad, ar gyfer y meddianwyr cyntaf a'r rhai sy'n dilyn.

11.41 Wrth asesu'r angen am anheddau fforddiadwy, rhoddir ystyriaeth briodol i'r asesiad mwyaf diweddar o'r farchnad dai leol yn Sir Gaerfyrddin. Fodd bynnag, er bod yr asesiad hwn yn nodi lefel y tai sydd ei hangen, ni ddisgwylir y bydd y system gynllunio yn darparu ar gyfer y diffyg hwn ar ei phen ei hun, ac ni ddisgwylir y dylai wneud hyn chwaith.

11.42 Bydd y cynllun hefyd yn ystyried Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy'r cyngor ar gyfer 2016–2020, sy'n amlinellu gweledigaeth bum mlynedd ar gyfer darparu tai fforddiadwy, a disgwylir i'r rhaglen ddechreuol ddarparu dros 1,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol dros ei gyfnod o bum mlynedd. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig a'r system gynllunio yn cyfrannu'n sylweddol at y targed hwn drwy fecanweithiau tai fforddiadwy amrywiol, yn ogystal â mecanweithiau drwy bolisïau a strategaethau eraill. Gall y Cynllun Datblygu Lleol gefnogi'r nodau o gyflawni'r targed hwn drwy wneud y canlynol:

  • Darparu tai fforddiadwy ar y safle fel canran o'r datblygiad cyffredinol, neu ar safleoedd sy'n dod i law darparwyr tai cymdeithasol
  • Cyfraniadau ar ffurf symiau gohiriedig gan drydydd partïon i gefnogi'r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy
  • Tai angen lleol

11.43 Dylai lleoliad y cartrefi fforddiadwy ymwneud â'r angen a nodwyd a bod yn unol â strategaeth ofodol y cynllun. Dylai cynigion roi sylw i ystyriaethau o ran lleoliad, gan gynnwys mynediad diogel a chyfleus i fannau agored, addysg, cyflogaeth a gwasanaethau eraill.

**Polisi Strategol – PS 5: Safleoedd Strategol

Wrth adlewyrchu eu cyfraniad at ofynion y dyfodol o ran twf ar gyfer Sir Gaerfyrddin ac fel cydrannau allweddol Bargen Ddinesig Bae Abertawe, mae dau safle strategol wedi cael eu nodi am eu bod yn gwneud cyfraniad pwysig i'r ddarpariaeth gyffredinol ar gyfer twf yn ystod cyfnod y cynllun:

  • Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant Llanelli
  • Yr Egin – Clwstwr Digidol Creadigol, Caerfyrddin

Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant Llanelli

11.44 Bydd y Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant yn creu pentref ffisegol sy'n darparu cyfleusterau a gwasanaethau sy'n hyrwyddo a gwella llesiant ac integreiddio datblygiad busnes, addysg, gofal iechyd, hamdden, twristiaeth, cymorth ar gyfer llesiant ac ymchwil ym maes y gwyddorau bywyd mewn un lleoliad, ac yn darparu buddiannau cymdeithasol ac economaidd trawsnewidiol.

11.45 Bydd y pentref yn cynnwys sefydliad gwyddorau bywyd sy'n darparu lle i gynnal ymchwil a gwaith datblygu mewn perthynas â dyfeisiau meddygol newydd a thechnolegau gofal iechyd. Bydd y sefydliad hefyd yn cynnig swyddfa fawr, labordy a gofod clinigol ar gyfer datblygu a chwmnïau rhanbarthol newydd, yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer busnesau sy'n cychwyn.

11.46 Bydd hwb llesiant a fydd yn cynnwys canolfan hamdden, cyfleusterau chwaraeon awyr agored, cyfleoedd hamdden a gweithgareddau hyrwyddo llesiant. Bydd byw â chymorth, cartref gofal, a thai pwrpasol ar gyfer pobl sydd â nam gwybyddol neu sy'n cael adferiad meddygol.

11.47 Bydd canolfan gwyddorau bywyd a llesiant lle y bydd amrywiaeth o wasanaethau llesiant o'r sectorau iechyd, cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector ar gael mewn un lleoliad. Bydd y ganolfan hefyd yn cynnig cyfleoedd hyfforddiant, a fydd yn cael eu datblygu i fodloni'r diffygion mewn sgiliau. Bydd cyfleoedd i ymlacio er mwyn gwella llesiant.[23]

11.48 Bydd y pentref hwn, sydd o'r radd flaenaf, yn cael ei leoli ar hyd arfordir Llanelli. Dyma fydd y prosiect adfywio mwyaf erioed yn ne-orllewin Cymru, a'i nod yw gwella iechyd a llesiant pobl ledled y rhanbarth, gan greu hyd at 2,000 o swyddi o ansawdd uchel sy'n talu'n dda a rhoi hwb aruthrol o £467 miliwn i'r economi dros 15 mlynedd. Bydd yn cael ei gydgysylltu a'i integreiddio o fewn y dirwedd naturiol, o amgylch llyn dŵr croyw, ac o fewn pellter cerdded Parc Arfordir y Mileniwm.[24]

11.49 Mae'r lleoliad arfordirol rhagorol yn ardal de Llanelli ôl-ddiwydiannol yn dyst i fentrau adfywio hirsefydlog y gorffenol gan y cyngor a'i bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

11.50 Wrth nodi'r cyd-destun strategol, mae'r prosiect hwn wedi'i wreiddio'n gadarn yn y gwaith o hyrwyddo llesiant ar lefel leol. Mae'r cyfle i wella llesiant ymhlith y cenedlaethau presennol hynny a rhai'r dyfodol sy'n byw yn y cymunedau cyfagos, yn ogystal â galluogi cyflawni datblygiad ffisegol clodfawr, yn gwbl gydnaws â strategaeth y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.

Yr Egin – Clwstwr Digidol Creadigol, Caerfyrddin

11.51 Bydd y prosiect Egin yn creu clwstwr digidol newydd a chreadigol yng Nghaerfyrddin, yn cynnig gofod i gwmnïau creadigol a digidol gychwyn busnesau a datblygu, ac yn hyrwyddo'r Gymraeg.

11.52 Bydd y prosiect yn adeiladu hwb newydd creadigol, digidol ac i'r cyfryngau ar Gampws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin. Dyma fydd cartref sianel deledu Cymraeg S4C a bydd yn cynnig gofod i gwmnïau digidol a chreadigol gychwyn busnesau a datblygu.

11.53 Bydd y cyfleuster yn creu clwstwr o fusnesau yn y diwydiant creadigol a digidol, gan annog cydweithio, cynnig cyfleusterau cyffredin a chreu cyfleoedd ar gyfer rhannu dysgu.

11.54 Drwy fanteisio ar gynigion seilwaith newydd Arfordir y We, bydd yr Egin yn creu newid mawr a chadarnhaol i economi greadigol a digidol Cymru[25].

11.55 Mae'r cyfleoedd a ddaw drwy'r prosiect hwn yn niferus ac yn amrywiol. O ran gofod, rhagwelir y bydd yn cadarnhau rôl Caerfyrddin fel canolfan allweddol ar y ffordd i orllewin Cymru, ac yn ganolbwynt ar gyfer y cymunedau gwledig hynny tua'r gogledd.

**Polisi Strategol – PS 6: Cyflogaeth a'r Economi

Dyrennir tir digonol a phriodol er mwyn darparu cyfleoedd ar gyfer swyddi dros gyfnod y cynllun (ffigur i'w fesur yn unol â strategaeth ofodol / fframwaith aneddiadau'r cynllun

11.56 Dylai'r gwaith o ddatblygu safleoedd cyflogaeth yn y dyfodol, ac yn wir datblygiad economaidd y sir yn y dyfodol, gael ei ystyried yn y cyd-destun ehangach. Llofnodwyd Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn 2017, gan sicrhau £1.3 biliwn ar gyfer cynghorau Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro. Rhagwelir y bydd y Fargen Ddinesig yn trawsnewid tirwedd economaidd yr ardal, yn cynnig hwb o £1.8 biliwn i'r economi leol, ac yn creu bron i 10,000 o swyddi newydd dros y 15 mlynedd nesaf.

11.57 Bydd y Fargen Ddinesig yn dod â thri phrosiect penodol ar gyfer Sir Gaerfyrddin - Pentref Llesiant a Gwyddorau Bywyd yn Llynnoedd Delta, Llanelli; prosiect diwydiant creadigol yn yr Egin, Caerfyrddin; a menter sgiliau a thalentau a fydd yn cefnogi gwaith i ddatblygu sgiliau.

11.58 Comisiynwyd Astudiaeth Cyflogaeth Sectoraidd gan y cyngor yn 2016, a oedd yn canolbwyntio, o ran y Cynllun Datblygu Lleol, ar gynnig dealltwriaeth o ran anghenion cyflogaeth yn y dyfodol mewn perthynas â'r naw sector â blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Drwy wneud hyn, roedd yr astudiaeth yn ceisio adolygu'r ddarpariaeth tir ar gyfer swyddi a'r ffigyrau o ran swyddi, gan gyflwyno ffigwr yn dilyn hynny o ran y maint o dir cyflogaeth y byddai ei angen dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.

11.59 Canfu'r Astudiaeth Cyflogaeth Sectoraidd y byddai angen darparu hyd at 127 hectar o dir cyflogaeth yn Sir Gaerfyrddin erbyn 2032 er mwyn darparu ar gyfer y 18,681 o swyddi newydd rhagweledig sydd eu hangen. Datblygwyd y gronfa ddata (a'r model rhagweld) ar gyfer yr Astudiaeth Cyflogaeth Sectoraidd gyda'r ymarferoldeb i brofi nifer o senarios gwahanol. Mae gwaith dilynol o ran modelau twf poblogaeth a gynhaliwyd fel rhan o'r strategaeth ofodol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn rhagweld y byddai nifer llai o swyddi newydd yn ofynnol dros gyfnod y cynllun, a bod hyn yn golygu y bydd angen llai o dir at ddibenion cyflogaeth.

11.60 Felly, er bod y ffigwr o 127 hectar yn uchelgeisiol, mae'n cydnabod er hynny fod dosbarthiad y cyfleoedd am gyflogaeth ledled y sir yn hanfodol wrth gefnogi nodau ac amcanion dyheadau economaidd y sir fel y'u nodir yn Cynllun Adfywio Strategol ar gyfer Sir Gâr 2015-2030 - Trawsnewidiadau.

11.61 Er bod yr astudiaeth yn pwysleisio'r ffocws strategol newydd sy'n gysylltiedig â'r Fargen Ddinesig Bae Abertawe newydd, gall safleoedd newydd a leolir y tu allan i haenau uchaf yr hierarchaeth gyfrannu'n sylweddol at yr aneddiadau a chymunedau y maent yn eu gwasanaethu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle y byddai cyfleoedd i fusnesau newydd gychwyn ac i fusnesau presennol ehangu yn cael eu rhwystro'n ddifrifol gan nad oes safleoedd nac adeiladau priodol ar gael.

11.62 O ran cyflogaeth sectoraidd, y sectorau a nodwyd yw'r naw 'sector â blaenoriaeth' a nodwyd gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn ogystal â niferoedd pennawd y swyddi ym mhob sector, mae'n bwysig cydnabod hefyd y bydd rhai sectorau yn creu nifer sylweddol o swyddi 'gwerth ychwanegol' yn y sectorau â blaenoriaeth. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer y 2,500 o swyddi gwyddorau bywyd rhagweledig gan ei bod yn debygol y bydd y rhain yn creu meintiau sylweddol o gyfoeth economaidd ychwanegol yn lleol o'u cymharu â swyddi mewn sectorau mwy traddodiadol megis adeiladu.

11.63 Er mwyn bodloni'r potensial hwn, byddai angen ystod a dewis o safleoedd, gyda chyfran uchel o dir yn cael ei chlustnodi yn y canolfannau mwy, ond hefyd yn estyn i ardaloedd gwledig er mwyn cynnal yr ardaloedd hyn drwy helpu i greu cymunedau ac aneddiadau hunangynhaliol a hyfyw.

11.64 O ganlyniad, bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn darparu amrywiaeth o safleoedd ar gyfer buddsoddi mewnol ac adleoliadau posibl drwy'r dyraniadau tir cyflogaeth. Bydd y rhain yn darparu ystod a dewis priodol i ddiwallu anghenion amrywiaeth o gyflogwyr posibl. Mae hyn yn cynnwys safleoedd posibl ar gyfer cyflogwyr mwy yn ogystal â safleoedd i ddarparu ar gyfer defnyddiau ar raddfeydd llai, gyda fframwaith y polisi'n darparu cwmpas ar gyfer busnesau newydd a'r rhai sy'n cychwyn hefyd.

11.65 Dylid nodi bod safleoedd cyflogaeth a ddyrennir, ac felly cyfanswm y ddarpariaeth ar gyfer tir, yn cynnwys tir anweithredol y bydd modd ei dirlunio a'i ddefnyddio fel tir clustog ac at ddibenion eraill o'r fath.

**Polisi Strategol - PS 7:Y Gymraeg a'i Diwylliant

Mae'r cynllun yn cefnogi cynigion datblygu sy'n diogelu ac yn hyrwyddo buddiannau'r Gymraeg a'i diwylliant yn y sir. Ni fydd cynigion datblygu sy'n cael effaith niweidiol ar fywiogrwydd a hyfywedd y Gymraeg a'i diwylliant yn cael eu derbyn oni bai y bydd modd o liniaru'r effaith.

11.66 Mae'r Gymraeg a'i diwylliant yn chwarae rhan bwysig ym mywyd cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd preswylwyr Sir Gaerfyrddin a'i hymwelwyr. Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn sylweddol uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru ac, oherwydd hyn, mae'n rhan sylweddol o ffabrig cymdeithasol cymunedau'r sir, gan gynnig ymdeimlad o le a hunaniaeth gref.

11.67 Nod y cynllun yw 'hyrwyddo'r Gymraeg a'i diwylliant' [26] ac mae hefyd yn ymrwymedig i gyfrannu at nod hirdymor Llywodraeth Cymru o sicrhau 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.[27] Er mwyn cyflawni'r nod hwn, bydd y cyngor yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg drwy sicrhau bod cyfleoedd digonol a chymesur ar gyfer cyflogaeth a thai er mwyn cynnal cymunedau gwledig a threfol y sir. Drwy wneud hyn, mae'r cynllun yn ceisio sicrhau bod y boblogaeth leol yn aros yn Sir Gaerfyrddin yn lle gorfod gadael i chwilio am gyfleoedd ar gyfer swyddi a thai.

11.68 Mae'r angen i ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg yn berthnasol i ddatblygiadau arfaethedig ledled y sir ac nid yw'n gyfyngedig i ardaloedd penodol yn y sir. Bydd angen i gynigion datblygu gydnabod statws swyddogol y Gymraeg ac ymrwymo i drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.

11.69 Bydd polisïau penodol yn darparu rhagor o arweiniad i sicrhau bod datblygu o'r raddfa, math a chymeriad priodol yn cael ei gyflawni i ddiwallu anghenion y cymunedau. Yn ogystal â hyn, bydd yn anelu at sicrhau bod datblygu'n mynd rhagddo ar raddfa y gellir ei hamsugno a'i chymhathu heb niweidio cymeriad y gymuned.

11.70 Mae'r cynllun hefyd yn ceisio diogelu a hyrwyddo'r Gymraeg yn Sir Gaerfyrddin trwy amcanion polisi perthnasol eraill, yn bennaf drwy ddarparu tai a thai fforddiadwy, hyrwyddo economi fywiog a chyfleoedd cyflogaeth, a darparu a chadw cyfleusterau cymunedol.

**Polisi Strategol - PS 8:Seilwaith

Bydd angen i ddatblygiadau gael eu cyfeirio at leoliadau lle mae'r seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i gyflawni a chefnogi'r cynnig datblygu ar gael.

Bydd angen i gynigion datblygu ddangos bod digon o gapasiti gan y seilwaith presennol i gyflawni a chefnogi'r datblygiad arfaethedig. Lle nad oes modd o gyflawni hyn, bydd angen i gynigion ddangos bod trefniadau priodol ar waith i ddarparu'r capasiti o ran seilwaith yr ystyrir ei fod yn angenrheidiol i gyflawni a chefnogi'r datblygiad.

Efallai y bydd rhwymedigaethau cynllunio yn cael eu ceisio er mwyn sicrhau bod y seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau sydd eu hangen i gyflawni a chefnogi'r datblygiad yn cael eu darparu.

11.71 Mae darparu seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau priodol yn hanfodol er mwyn sicrhau bod polisïau a chynigion y cynllun yn cael eu cyflawni. Mae seilwaith priodol yn allweddol i hwyluso'r gwaith o ddatblygu ond mae hefyd yn angenrheidiol i gefnogi anghenion a galwadau parhaus datblygiadau a chymunedau Sir Gaerfyrddin.

11.72 Bydd gofynion datblygiadau o ran seilwaith yn amrywio'n sylweddol yn ôl eu lleoliad, y ddarpariaeth bresennol o ran seilwaith, y raddfa a'r math. Wrth ystyried anghenion cynigion datblygu, gall y seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau canlynol fod yn ofynnol:

  • Ffyrdd a chyfleusterau trafnidiaeth eraill, gan gynnwys trafnidiaeth gynaliadwy
  • Ysgolion a chyfleusterau addysgol eraill
  • Tai fforddiadwy
  • Iechyd
  • Mannau agored cyhoeddus a seilwaith gwyrdd
  • Amddiffynfeydd llifogydd
  • Hamdden a chwaraeon
  • Gwasanaethau cyfleustod
  • Bioamrywiaeth a diogelu'r amgylchedd
  • Cyfleusterau cymunedol
  • Seilwaith Digidol
  • Cyfleusterau a gwasanaethau eraill yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol

11.73 Bydd gofynion y rhwymedigaethau cynllunio yn ystyried hyfywedd ariannol datblygiad arfaethedig. Mewn achosion pan fo anghydfod ynghylch yr effaith y mae'r gofynion yn ei chael ar hyfywedd ariannol y cynllun, bydd gofyn i'r ymgeisydd dalu'r costau i sicrhau gwerthusiad hyfywedd annibynnol, wedi'i gynnal gan drydydd parti cymwys a chymeradwy.

11.74 Nod y cynllun yw sicrhau bod y seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau sydd eu hangen i gefnogi'r datblygiad yn cael eu darparu mewn da bryd cyn, neu wrth gychwyn, y datblygiad, neu'n raddol drwy'r broses ddatblygu lle bo hynny'n briodol. Mae'r cynllun yn annog bod y gwaith o ddarparu seilwaith yn cael ei gynnal mewn ffordd gydlynol, gan amharu i'r graddau lleiaf posibl ar gymunedau presennol.

11.75 Caiff cyfraniadau i seilwaith eu sicrhau drwy rwymedigaethau cynllunio yn unol â'r fframwaith cyfreithiol a pholisi a ddarperir.[28]

**Polisi Strategol – PS 9: Darpariaeth ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

Bydd tir yn cael i ddiwallu'r angen a nodwyd ar gyfer llety sipsiwn a theithwyr ac i ganiatáu ar gyfer ehangiad posibl o gartrefi sipsiwn a theithwyr yn y dyfodol.

11.76 Er mwyn ystyried y ddarpariaeth ar gyfer sipsiwn a theithwyr yn y sir yn y dyfodol, mae'r cyngor sir wedi ymgymryd â chyhoeddi Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr sy'n nodi'r angen sydd heb ei ddiwallu ar hyn o bryd ar gyfer lleiniau sipsiwn a theithwyr yn y sir. Ystyriodd yr asesiad y fethodoleg a amlinellir yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru, ac mae'n amlinellu dau fath o asesiadau angen: mae'r cyntaf yn ystyried cyfnod pum mlynedd cyntaf yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr ac mae'r ail yn ystyried cyfnod llawn 15 mlynedd yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr.

11.77 Yn seiliedig ar yr asesiad hwn, mae'r ddarpariaeth amcangyfrifiedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn y pum mlynedd gyntaf yn 29 o leiniau ychwanegol. Mae cyfran uchel o'r angen hwn yn deillio o bobl sy'n byw mewn cartrefi brics a mortar, a thwf aelwydydd newydd o fewn yr aelwydydd hyn. Mae'r angen hwn wedi'i ganolbwyntio yn Llanelli, lle roedd nifer sylweddol o'r aelwydydd hyn yn byw ar y safle cyhoeddus ym Mhen-y-bryn yn y gorffennol.

11.78 Mae rhagamcan wedi'i wneud hefyd o ran aelwydydd sipsiwn a theithwyr newydd a fydd yn dod rhwng Blwyddyn 6 a Blwyddyn 15 yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, oedolion ifanc sy'n byw ar safleoedd presennol a fydd, mewn amser, yn ffurfio eu haelwydydd eu hunain, sy'n golygu y byddai angen lleiniau personol arnynt. Mae'r Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr yn rhagweld y bydd angen deg o leiniau ychwanegol rhwng Blwyddyn 6 a Blwyddyn 15, sy'n golygu cyfanswm o 39 o leiniau hyd at 2031.

11.79 Bydd tystiolaeth ychwanegol yn cael ei darparu a fydd yn ystyried y gofyn o ran lleiniau ar gyfer dwy flynedd olaf cyfnod y cynllun.

11.80 Fe wnaeth yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr hefyd edrych ar anghenion llety siewmyn teithiol o fewn Sir Gaerfyrddin. Roedd yr elfen hon o'r asesiad yn nodi 8 o leiniau llain a awdurdodwyd neu a oddefir, ac 1 llain heb ei ganiatáu ar gyfer siewmyn teithiol yn y sir. Wrth ystyried yr amcanestyniad ar gyfer y dyfodol, mae'r asesiad yn nodi bod angen 5 llain ychwanegol yn ystod pum mlynedd gyntaf yr asesiad.

11.81 Yn unol â Deddf Tai 2014 (Cymru), mae'n rhaid i'r cyngor gynnal Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr newydd bob pum mlynedd. Caiff y gofyniad a nifer y lleiniau sy'n cael eu derbyn eu monitro'n agos drwy gydol cyfnod yr Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr, a bydd yr angen am leiniau ychwanegol yn cael ei adolygu yn hwyrach yn ystod cyfnod y cynllun drwy'r fframwaith monitro.

11.82 Bydd polisïau penodol yn seiliedig ar feini prawf i gefnogi'r gwaith o ddatblygu llety ar gyfer sipsiwn a theithwyr yn cael eu hystyried yn y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo.

**Polisi Strategol – PS 10:Yr Economi Ymwelwyr

Bydd cynigion ar gyfer datblygiadau sy'n ymwneud â thwristiaeth yn cael eu cefnogi os ydynt:

  1. yn ychwanegu gwerth at ein heconomi hymwelwyr
  2. yn diogelu ein ffabrig cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
  3. wedi'u lleoli mewn man cynaliadwy

11.83 Mae twristiaeth yn elfen allweddol o economi Sir Gaerfyrddin. Mae'n ffynhonnell cyflogaeth a refeniw o bwys, yn cynnal dros 6,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Mae'n cyfrannu dros £434 miliwn o refeniw i economi'r sir bob blwyddyn (Adroddiad Tueddiadau STEAM 2017).[29]

11.84 Mae'r sir yn gartref i amrywiaeth eang o atyniadau, gan gynnwys Cwrs Rasys Ffos Las, y Gerddi Fotaneg Genedlaethol a Pharc Gwledig Pen-bre. Sir Caerfyrddin yw "hwb beicio Cymru", ac mae'r Strategaeth Feicio yn mynegi dyheadau'r cyngor i fod yn arweinydd cenedlaethol o ran darparu digwyddiadau a datblygiadau seilwaith beicio.[30]

11.85 Mae twristiaeth yn ddiwydiant dynamig gyda sylfaen ddemograffig/cwsmeriaid eang. Mae Sir Gaerfyrddin mewn sefyllfa dda i fanteisio ar botensial y sector gan ei bod yn sir brydferth y gellir ei chyrraedd o Lundain mewn llai na phedair awr mewn car a'i bod yn hawdd ei chyrraedd o Iwerddon drwy deithio dros y môr. Fodd bynnag, mae'r galw a'r tueddiadau sy'n newid drwy'r amser o fewn y sector yn cyflwyno heriau o ran drafftio polisïau cynllunio defnydd tir 15 mlynedd.

11.86 Mae'r polisi strategol hwn yn gosod y fframwaith ar gyfer dull polisi yn y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig sy'n ddigon ymatebol a hyblyg i ymateb i'r galw hyd at 2033, wrth geisio amddiffyn hefyd y cymunedau, tirweddau a threfluniau hynny sy'n gwneud Sir Gaerfyrddin yn lleoliad delfrydol i'w fwynhau ac ymweld ag ef. Er bod y polisi strategol yn darparu'r cyd-destun trosfwaol, y polisïau penodol fydd yn darparu'r manylion. Byddai hyn yn cynnwys egluro unrhyw rôl y mae terfynau'r aneddiadau diffiniedig yn ei chwarae wrth lywio'r penderfyniadau a wneir mewn perthynas â'r cynigion.

11.87 Wrth ddehongli'r polisi hwn, dylid nodi bod datblygiadau sy'n ymwneud â thwristiaeth yn cynnwys rhai newydd, yn ogystal ag estyniadau i gyfleusterau presennol. Dylai estyniadau i'r cyfleusterau presennol fod yn israddol o ran eu graddfa a'u swyddogaeth mewn perthynas â'r cyfleuster presennol a dylai cynigion sy'n cynnwys estyniadau sylweddol gael eu dehongli fel datblygiadau newydd.

Ychwanegu Gwerth

11.88 Gall cynigion ychwanegu gwerth at economi ymwelwyr y sir drwy gyfrannu at greu cyrchfan a llety amrywiol, o ansawdd uchel, trwy gydol y flwyddyn. Gallai'r buddiannau economaidd amrywio o gynnydd yn nifer yr ymwelwyr a diwrnodau ymwelwyr i greu swyddi, gan gyfrannu at gymysgedd ehangach o lety ac atyniadau gwahanol - yn ogystal ag estyn y tymor twristiaeth y tu hwnt i fisoedd yr haf. Mae cyfleoedd i gynigwyr geisio alinio â'r blaenoriaethau corfforaethol hynny sy'n dod i'r amlwg, a'u cefnogi, gan gynnwys dyheadau'r cyngor o ran beicio. Derbynnir y bydd gwerth ychwanegol yn gymesur â graddfa a natur y cynnig.

Parchu ffabrig cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y sir

11.89 Mae dull "Un Sir Gâr" yn tanategu'r polisi hwn. Mae gan holl rannau'r sir rinweddau sy'n cyfrannu at yr ymdeimlad cyffredinol o le. Mae'r rhain yn cynnwys tirwedd, cadwraeth natur, ffabrig cymdeithasol a'r amgylchedd adeiledig. Mae'r rhain yn asedau y mae'n rhaid eu diogelu ar gyfer ein cenedlaethau yn y dyfodol ac ni ellir eu peryglu yn ormodol gan ddatblygiadau sy'n ymwneud â thwristiaeth.

11.90 Dylai fod yn bwyslais hefyd ar ansawdd uchel ym mhob agwedd ar gynigion, yn enwedig dylunio. Wrth ystyried pa mor dderbyniol yw cynigion, rhoddir ystyriaeth o ran eu lleoliad, y safle a bennir, dyluniad a graddfa, mynediad at y rhwydwaith o brif ffyrdd a ffyrdd craidd, ac effaith unrhyw draffig canlyniadol. Yn ogystal â hyn, mae'r graddau o ran pa mor hygyrch yw'r safle ar drafnidiaeth gyhoeddus a thrwy gerdded a beicio yn ystyriaethau pwysig. Bydd graddfa, maint a math unrhyw gynigion yn cael eu harfarnu, ynghyd â'r safle a bennir a'r effaith. Dylai cynigion adlewyrchu cymeriad ac ymddangosiad yr ardal, gyda defnydd priodol o dirweddu a sgrinio yn ôl y gofyn.

Lleoliad cynaliadwy

11.91 Dylai datblygiadau sy'n ymwneud â thwristiaeth gael eu cyfeirio at leoliadau cynaliadwy. Dylid ystyried strategaeth ofodol y Cynllun Datblygu Lleol wrth benderfynu ar briodolrwydd unrhyw leoliad. Yn hyn o beth, bydd graddfa a natur y cynnig yn ystyriaethau pwysig, ynghyd â'i leoliad, ei briodoldeb a'i gyd-destun gofodol. Bydd y polisïau penodol yn darparu arweiniad pellach, mwy penodol o ran gweithredu'r dull hwn sy'n seiliedig ar ystyriaethau gofodol.

11.92 Dylai cynigion mewn perthynas â thwristiaeth adlewyrchu cymeriad yr ardal a'r effeithiau ar gyffiniau'r safle fel rhan o ddull sy'n seiliedig ar greu lleoedd. Dylai cydnabyddiaeth o'r ymdeimlad o le o fewn cyffiniau'r cynnig fod ymhlyg o fewn cyd-destun y dull sy'n seiliedig ar glystyrau, sy'n grwpio'r fframwaith aneddiadau.

11.93 Yn nhermau gofodol, byddai hyn yn dangos bod y cynigion twristiaeth ar raddfa fwy hynny, sy'n cynhyrchu llawer o deithiau, yn addas i gael eu lleoli yn ne'r sir lle mae'r seilwaith ar waith i'w cefnogi.

11.94 Wrth nodi'r cynnig sefydledig, sy'n arfordirol yn bennaf, sy'n nodweddu ardal dde-orllewin y sir, bydd angen rhoi sylw dyledus i unrhyw effaith ar y dirwedd o ganlyniad i unrhyw bosibilrwydd o'i defnyddio'n rhy ddwys.

11.95 Mae ardaloedd gwledig y sir mewn sefyllfa dda i dderbyn cynigion cynaliadwy o ansawdd uchel sydd ar raddfa briodol. Dylai cynigion barchu asedau'r sir wrth gefnogi cymunedau gwledig bywiog ar yr un pryd.

11.96 Mae'n rhaid i rai datblygiadau sy'n ymwneud â thwristiaeth, oherwydd eu natur, gael eu lleoli yng nghefn gwlad. Mae'n bwysig nad yw'r datblygiadau hyn yn cael unrhyw effaith negyddol sylweddol ar y dirwedd, yr amgylchedd naturiol neu amwynderau.

**Polisi Strategol - PS 11:Creu Lleoedd, Cynaliadwyedd a Dylunio o Ansawdd Da

Er mwyn hwyluso datblygu cynaliadwy, dylai datblygiadau newydd gydnabod nodweddion lleol unigryw a'r ymdeimlad o le, a dylid eu cynllunio yn unol â safonau uchel sy'n gallu addasu i'r newid yn yr hinsawdd.

Er mwyn cyflawni hyn, dylai'r holl ddatblygiadau wneud y canlynol:

  1. Cyfrannu tuag at greu lleoliadau a mannau cyhoeddus deniadol a diogel, sy'n gwella llesiant cymunedau, gan gynnwys diogelu amwynderau, tirweddu, tir y cyhoedd, a darparu mannau agored a hamdden
  2. Cadw a, lle bo hynny'n briodol, ymgorffori seilwaith gwyrdd newydd sy'n annog cyfleoedd i wella bioamrywiaeth a chysylltedd ecolegol
  3. Bod yn hyblyg i newid yn yr hinsawdd, a defnyddio deunyddiau ac adnoddau sy'n briodol i'r ardal y mae wedi'i lleoli ynddi
  4. Arddangos dealltwriaeth glir o'r dreftadaeth naturiol ac adeiledig bresennol, cymeriad lleol ac ymdeimlad o le
  5. Bod yn hygyrch ac yn integredig, gan ganiatáu athreiddedd a rhwyddineb symud
  6. Ystyried y broses o gynhyrchu, trin a gwaredu ar wastraff
  7. Rheoli dŵr yn gynaliadwy, gan gynnwys ymgorffori systemau draenio trefol (SDCau) o fewn cynigion datblygu lle bo hynny'n bosibl.

11.97 Mae Polisi Cynllunio Cymru'n gosod polisïau cynllunio defnydd tir Llywodraeth Cymru. Ei brif nod yw hyrwyddo a darparu fframwaith ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru. Un o'r ffactorau allweddol o ran cyflawni hyn yw hyrwyddo cynaliadwyedd drwy ddylunio da.

11.98 Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i hyrwyddo ffurfiau mwy cynaliadwy o ddatblygu, a'i chynllun datblygu cynaliadwy, Cymru'n Un: Un Blaned (2009), yn amlinellu ei dull o ran datblygu cynaliadwy. Drwy'r system gynllunio yng Nghymru, gellir defnyddio dylunio da i chwarae rôl fawr wrth gyflawni ffurfiau cynaliadwy o ddatblygu ac mae Polisi Cynllunio Cymru a TAN12: Dylunio yn darparu arweiniad o ran sut y gallai'r system gynllunio yng Nghymru gyflawni hyn.

11.99 Mae cyflawni dyluniad da a chreu ymdeimlad o le effeithiol yn mynnu dealltwriaeth o'r berthynas rhwng holl elfennau'r amgylchedd naturiol ac adeiledig. Mae dylunio yn gydran hanfodol wrth greu datblygiadau cynaliadwy, sydd ei hun ar flaen y gad o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

11.100 Mae'r Ddeddf yn golygu bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus megis awdurdodau lleol weithio i sicrhau y dylai datblygiadau gydnabod a cheisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ardaloedd.

11.101 Mae buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ynghlwm wrth greu datblygiad sydd wedi'i ddylunio'n dda. Mae dylunio amgylchedd o ansawdd uchel yn gynhwysyn hanfodol ar gyfer cyflawni ffyniant economaidd gan y bydd yn fwy deniadol i fuddsoddwyr posibl yn ogystal ag apelio mwy i gwsmeriaid, gweithwyr allweddol a thwristiaid. Yn yr un modd, bydd adeiladau a mannau gweithio sydd wedi'u dylunio'n well yn arwain at weithwyr mwy cynhyrchiol. Ar yr un pryd, bydd cymdogaethau sydd wedi'u cynllunio'n well yn creu cymunedau hapusach ac iachach a fydd yn fwy ymroddedig i gynnal eu hamgylchiadau. Efallai y bydd y manteision economaidd yn cynnwys llai o lygredd drwy leihau traffig, amddiffyn neu wella bioamrywiaeth, a chadw'r dreftadaeth adeiledig. Mae'r holl fuddiannau hyn yn ganolog ar gyfer cyflawni datblygu cynaliadwy a ffyniant economaidd hirdymor ardal.

11.102 Nod y polisi hwn yw sicrhau y gall cynigion datblygu gyflawni canlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol cadarnhaol, a lleihau rhai niweidiol. Bydd hyn, ynghyd â'r polisïau mwy manwl a fydd yn cael eu datblygu fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo, yn ffurfio sail yr holl benderfyniadau cynllunio, a bydd dangosyddion yn cael eu datblygu fel rhan o fframwaith monitro'r cynllun er mwyn dangos effeithiolrwydd y polisïau.

***Arferion Iach - Mae gan bobl ansawdd bywyd da, ac maent yn gwneud dewisiadau iachus am eu bywydau a'u hamgylchedd

11.103 Mae'r goblygiadau llesiant sy'n deillio o gyflyrau iechyd a disgwyliad oes amrywiol yn cael eu cydnabod o fewn y Strategaeth a Ffefrir hon a thrwy ei phwyslais ar amddiffyn a gwella amgylchedd adeiledig a hanesyddol y sir, yn ogystal â'i hamgylchedd naturiol.

11.104 Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn croesawu'r potensial ar gyfer llesiant a ddaw o ganlyniad i'n hamgylchedd naturiol a mynediad at ein mannau gwyrdd, yn enwedig os yw hyn yn cael ei wneud mewn ffordd gysylltiedig. Nodir hefyd fod mannau o'r fath yn cynnig cyfle i feddalu effaith ein hinsawdd newidiol.

11.105 Er y cydnabyddir bod gorgyffwrdd rhwng y themâu a'r ffordd mae'r polisïau wedi cael eu haseinio, mae'r canlynol wedi cael eu nodi o dan y thema hon:

  • Polisi Strategol - PS 12: Datblygu Gwledig
  • Polisi Strategol - PS 13: Diogelu a Gwella'r Amgylchedd Naturiol
  • Polisi Strategol - PS 14: Diogelu a Gwella'r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol

11.106 Dylid nodi y bydd polisïau penodol yn cael eu datblygu fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo a bydd y rhain, fel sy'n briodol, yn cael eu nodi o fewn cyd-destun y thema berthnasol.

11.107 Nod y polisïau canlynol yw cefnogi'r gwaith o gyflawni amcanion strategol y cynllun, ond maent hefyd yn darparu cysylltiadau lefel uchel a chydymffurfiaeth fras â'r nodau llesiant.

***Polisi Strategol - PS 12:Datblygu Gwledig

Mae'r cynllun yn cefnogi cynigion datblygu a fydd yn cyfrannu at gynaliadwyedd cymunedau gwledig y sir. Dylai cynigion datblygu mewn ardaloedd gwledig ddangos eu bod yn cefnogi rôl yr aneddiadau gwledig yn yr hierarchaeth aneddiadau, er mwyn diwallu anghenion tai, cyflogaeth a chymdeithasol cymunedau gwledig Sir Gaerfyrddin.

11.108 Mae gan aneddiadau gwledig y sir ran bwysig i'w chwarae o ran gwella cynaliadwyedd yr ardal ddaearyddol ehangach lle y maent wedi'u lleoli, yn ogystal â chynaliadwyedd cyffredinol y sir. Mae strategaeth a hierarchaeth aneddiadau'r cynllun yn adlewyrchu'r rôl sylweddol y mae cymunedau gwledig yn ei chwarae trwy gefnogi twf ar raddfa gymesur sy'n gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol tuag at gynaliadwyedd hirdymor yr economi a chymunedau gwledig.

11.109 Gall datblygu cymesur ac ystyriol sicrhau'r lefel o dwf sydd ei hangen i gynnal a gwella'r gwasanaethau a'r cyfleusterau a ddarperir yn aneddiadau gwledig y sir. Mae hefyd yn gallu gweithredu i ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg mewn ardaloedd gwledig a gwella cyfleoedd i gael swydd mewn ardaloedd gwledig. Er hynny, mae'r cynllun yn ceisio sicrhau nad yw datblygu a thwf yn effeithio'n negyddol ar gynaliadwyedd cymuned. Mae sicrhau nad yw datblygiad yn cael ei gymeradwyo ar raddfa neu gyfradd a fyddai'n effeithio ar allu cymuned i amsugno ac addasu i dwf a newid yn allweddol i hyn. Mae hyn yn hanfodol wrth ystyried yr effeithiau y gall datblygiad eu cael ar y seilwaith lleol, bywiogrwydd y Gymraeg, a chynaliadwyedd cefn gwlad a'r amgylchedd naturiol.

11.110 Mae'r cyngor yn ymrwymedig i ddiogelu a mynd i'r afael ag anghenion cymunedau gwledig ac, i'r perwyl hwn, mae wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig sydd â'r nod o asesu anghenion cymunedau gwledig a chymryd camau cadarnhaol i roi sylw iddynt. Mae'r cynllun yn cefnogi nodau'r grŵp gorchwyl drwy ei strategaeth a'i bolisïau, yn benodol drwy bolisïau sy'n ymwneud â darparu tai a thai fforddiadwy, yr economi a chyflogaeth, y Gymraeg a'r amgylchedd naturiol; bydd angen i gynigion datblygu ddangos eu bod yn cyd-fynd â'r polisïau hyn yn ogystal â darpariaethau polisïau cynllunio cenedlaethol.[31]

***Polisi Strategol – PS 13:Diogelu a Gwella'r Amgylchedd Naturiol

Disgwylir i gynigion ar gyfer datblygiadau amddiffyn a gwella amgylchedd naturiol y sir.

Rhaid i gynigion adlewyrchu'r rôl a gyflawnir gan amgylchedd sydd wedi'i gysylltu'n ecolegol o ran amddiffyn a gwella bioamrywiaeth, diffinio'r dirwedd, creu ymdeimlad o le a chyfrannu at ymdeimlad o lesiant.

11.111 Mae gan Sir Gar amgylchedd naturiol cyfoethog ac amrywiol, gyda nifer o safleoedd wedi'u dynodi a rhywogaethau gwarchodedig. Mae'r polisi yma yn ceisio adnabod safon a gwerth yr amgylchedd naturiol a thirweddau ar draws ardal y Cynllun, a'i rôl sylfaenol yn diffinio hunaniaeth, cymeriad a gwahanolrwydd y Sir.

11.112 Mae amddiffyn a gwella'r elfennau hyn yn ffurfio rhan bwysig o'r strategaeth, sy'n ceisio adlewyrchu nid yn unig y dynodiadau rhyngwladol a chenedlaethol hynny, ond hefyd cyfraniad safleoedd a thirweddau ar y lefel leol. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol hefyd yn ceisio cadw a gwella adnoddau naturiol megis geoamrywiaeth, dŵr, pridd ac ansawdd yr aer.

Mae'r polisi hwn hefyd yn cydnabod cydrannau'r amgylchedd naturiol, sy'n aml yn rhyngysylltiedig, a'u cyfraniad tuag at gynnal a gwella bioamrywiaeth, yn ogystal â chreu mannau deniadol a chydlynol ar gyfer cymunedau a llesiant poblogaeth Sir Gaerfyrddin.

11.113 Mae diogelu a gwella cysylltedd, a'r cyfraniad mae'n ei wneud i ansawdd tirwedd, amgylchedd a bioamrywiaeth Sir Gaerfyrddin yn ystyriaeth bwysig. O ganlyniad i hyn, bydd effaith bosibl y cynllun a'i bolisïau a'i gynigion ar fuddiannau cadwraeth natur, gwerth amwynderau, ansawdd dŵr/pridd/aer, hydroleg, daeareg a chyfundrefnau geomorffolegol yn parhau i lywio'r broses gynllunio.

11.114 Cynhaliwyd Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd er mwyn asesu effeithiau'r cynllun ar safleoedd a ddiogelir dan gyfraith Ewrop, gan gynnwys y rhai sydd ar y cam ymgeisiol yn y broses ddynodi.

11.115 Er bod y cynllun yn cydnabod yr angen am ddatblygiadau newydd at ddibenion cymdeithasol ac economaidd, bydd y cyngor hefyd yn ceisio diogelu rhinweddau amgylcheddol Sir Gaerfyrddin lle bo hynny'n briodol. Byddwn yn ceisio sicrhau bod yr amgylchedd naturiol yn cael ei amddiffyn a'i wella drwy bolisïau manwl.

11.116 Yn ogystal â hyn, ac wrth adlewyrchu'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol, byddwn yn ystyried y dynodiad Parc Cenedlaethol a'r pwrpas y cafodd ei ddynodi ar ei gyfer, lle y gallai hyn effeithio ar y broses o ystyried cynigion cynllunio.

***Polisi Strategol – PS 14:Diogelu a Gwella'r Amgylchedd Adeiledig a Hanesyddol

Dylai cynigion datblygu ddiogelu neu wella amgylchedd adeiledig a hanesyddol y sir, ei hasedau diwylliannol, trefweddol a thirweddol, a, lle bo hynny'n briodol, eu lleoliad.

Disgwylir i gynigion hyrwyddo dyluniadau o ansawdd uchel sy'n atgyfnerthu cymeriad yr ardal leol ac yn parchu ac yn gwella nodweddion diwylliannol a hanesyddol ardal y cynllun.

11.117 Mae gan Sir Gaerfyrddin dreftadaeth adeiledig hanesyddol a diwylliannol gyfoethog ac amrywiol, gydag amrediad o ardaloedd cadwraeth, adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig ac ati. Mae cydnabod treftadaeth adeiledig ardal y cynllun a'i diogelu yn hanfodol, gan ddarparu teimlad o hanes, cymeriad ac ymdeimlad o le.

11.118 Mae ardal y cynllun hefyd yn cynnwys safleoedd a nodweddion archeolegol, gan gynnwys llawer nad ydynt wedi cael eu darganfod hyd yn hyn. Nod y polisi a'r cynllun, ynghyd â deddfwriaeth sylfaenol ar yr amgylchedd adeiledig ac adeiladau hanesyddol, yw diogelu cyfanrwydd aneddiadau hanesyddol, nodweddion ac adeiladau o fewn ardal y cynllun, a, lle bo hynny'n berthnasol, cyfrannu at wella'r amgylchedd hanesyddol ac adeiledig. Mae hyn yn cydnabod bod ein hasedau hanesyddol yn adnoddau unigryw, a bod eu gwarchod yn darparu manteision cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol.

11.119 Mae asedau hanesyddol o'r fath yn cynnwys:

  • adeiladau rhestredig
  • ardaloedd cadwraeth
  • parciau, gerddi a thirweddau hanesyddol
  • asedau nad ydynt wedi cael eu dynodi sy'n ychwanegu at gymeriad yr ardal

11.120 Dylai adeiladau, trefwedd a thirwedd hanesyddol y sir gael eu hystyried yn asedau a'u diogelu a'u gwella mewn modd cadarnhaol er budd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae cymeriad y sir, sy'n arbennig ac yn aml yn amrywiol, gyda'i chefn gwlad heb ei ddifetha, ei threftadaeth ddiwydiannol a'i thoreth o drefi a phentrefi hanesyddol, yn adlewyrchu'r newidiadau a welwyd dros yr oesoedd, gan gysylltu'r gorffennol â'r presennol a chynnal hunaniaeth ddiwylliannol wahanol yr ardal. Nid yn unig mae nodweddion a strwythurau o'r fath yn cael eu heffeithio gan newid ac esgeulustod, ond hefyd gan newidiadau i'w lleoliad. O'r herwydd, mae'n bwysig ystyried hyn wrth wneud penderfyniadau ynglŷn â chynigion mae'n bosibl y byddant yn cael effaith.

11.121 Mae'n rhaid cydnabod yr angen am ddatblygiadau priodol newydd ledled y sir ac, yn hyn o beth, bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn ceisio cyfarwyddo a rheoli twf posibl mewn modd sy'n parchu pwysigrwydd yr amgylchedd adeiledig a hanesyddol.

****Cysylltiadau Cadarn –Pobl, llefydd a sefydliadau sydd wedi'u cysylltu'n gadarn ac sy'n gallu addasu i newid

11.122 Mae'r Strategaeth a Ffefrir hon yn cydnabod pwysigrwydd cymunedau ac ymdeimlad o le trwy geisio dosbarthu datblygiadau newydd mewn modd sy'n cydnabod ac yn parchu rôl a swyddogaeth ein haneddiadau.

11.123 Trwy ddosbarthu twf mewn modd cynaliadwy ac mewn ffordd sy'n cydnabod ein llwybrau cysylltedd allweddol, gall y Strategaeth a Ffefrir hon gynorthwyo wrth greu cymunedau cysylltiedig sy'n gydnerth ac yn fywiog ac sy'n gallu meithrin llesiant ymhlith eu trigolion.

11.124 Er y cydnabyddir bod gorgyffwrdd rhwng y themâu a'r ffordd mae'r polisïau wedi cael eu haseinio, mae'r canlynol wedi cael eu haseinio o dan y thema hon:

  • Polisi Strategol - PS 15: Newid yn yr Hinsawdd
  • Polisi Strategol - PS 16: Dosbarthu Cynaliadwy - Fframwaith Aneddiadau
  • Polisi Strategol - PS 17: Trafnidiaeth a Hygyrchedd
  • Polisi Strategol - PS 18: Adnoddau Mwynau
  • Polisi Strategol - PS 19: Rheoli Gwastraff

11.125 Dylid nodi y bydd polisïau penodol yn cael eu datblygu fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo, ac y byddant yn cael eu nodi o fewn cyd-destun y thema berthnasol fel sy'n briodol.

11.126 Nod y polisïau canlynol yw ategu'r gwaith o gyflawni amcanion strategol y cynllun, ond maent hefyd yn darparu cysylltiadau lefel uchel a chydymffurfiaeth fras â'r nodau llesiant.

****Polisi Strategol – PS 15: Newid yn yr Hinsawdd

Pan fydd cynigion datblygu yn ymateb i achosion ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, yn eu gwrthsefyll, yn ymaddasu iddynt ac yn eu lleihau, byddant yn cael eu cefnogi. Yn benodol, bydd cynigion yn cael eu cefnogi os ydynt yn gwneud y canlynol:

  1. Adlewyrchu egwyddorion trafnidiaeth gynaliadwy a lleihau'r angen i deithio, yn arbennig mewn ceir modur preifat
  2. Osgoi neu, lle bo'n briodol, lleihau perygl llifogydd, gan gynnwys ymgorffori mesurau megis systemau draenio cynaliadwy a dyluniadau sy'n gwrthsefyll llifogydd
  3. Hybu'r hierarchaeth ynni trwy leihau'r galw am ynni, hybu effeithlonrwydd ynni a chynyddu'r cyflenwad o ynni adnewyddadwy
  4. Ymgorffori datrysiadau dylunio priodol sy'n ymateb i'r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys lleoliad, cynllun, dwysedd a datrysiadau carbon isel (gan gynnwys dyluniad a dulliau adeiladu), a defnyddio dulliau adeiladu cynaliadwy lle mae hynny'n ymarferol.

Gwrthwynebir cynigion ar gyfer datblygiadau sydd wedi'u lleoli mewn mannau lle mae perygl llifogydd oni bai eu bod yn unol â darpariaethau Polisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 15 (TAN15).

11.127 Mae'r angen i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn peri her sylfaenol os bwriedir cyflawni datblygu cynaliadwy a'r rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Bydd y goblygiadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n dod o ganlyniad i'r newid yn yr hinsawdd yn ddifrifol, a bydd methu â mynd i'r afael â nhw yn golygu na fydd unrhyw ymdrechion i gynllunio ar gyfer cynaliadwyedd yn llwyddiannus.

11.128 Bydd yr hinsawdd sy'n newid a'r effeithiau ar Gymru a ragwelir gan Raglen Effeithiau Hinsawdd y DU yn peri heriau difrifol ar gyfer y system gynllunio gyfredol. Wrth fynd i'r afael â nhw, mae Polisi Cynllunio Cymru yn amlinellu cyfres o amcanion y dylid eu hystyried wrth baratoi cynllun datblygu.

11.129 Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn categoreiddio aneddiadau yn ôl hierarchaeth sy'n adlewyrchu eu cynaliadwyedd cymharol. Mae dyhead y cynllun i leihau'r angen i deithio, yn enwedig mewn ceir modur preifat, a'i rôl o gyfrannu at y gwaith o hwyluso strategaeth drafnidiaeth integredig, yn ceisio cyfeirio datblygiadau at leoliadau priodol sy'n helpu i gyflawni hyn.

11.130 Mae effaith bosibl perygl llifogydd yn fater pwysig i'w ystyried wrth asesu priodoldeb safleoedd i'w cynnwys yn y Cynllun Datblygu Lleol. Yn hyn o beth, bydd dull rhagofalus yn cael ei ddefnyddio i nodi safleoedd i'w cynnwys yn y cynllun. Wrth ystyried unrhyw gynigion yng nghyd-destun llifogydd, rhoddir sylw i ddarpariaethau Polisi Cynllunio Cymru a TAN15: Datblygu a Pherygl Llifogydd, sy'n rhoi cyngor ar asesu datblygiadau lle mae perygl llifogydd.

11.131 Bydd yn ofynnol i gynigion sy'n cael eu heffeithio gan berygl llifogydd gyflwyno asesiad canlyniadau llifogydd fel rhan o unrhyw gais cynllunio a bydd y cyngor yn ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru. Lle mae rhan o safle'n cael ei heffeithio gan berygl llifogydd, bydd angen i'r datblygwr ystyried effaith perygl llifogydd ar ddatblygu gweddill y safle. Lle bo hynny'n briodol, dylai gynnal yr holl waith tystiolaeth angenrheidiol (gan gynnwys asesiad canlyniadau llifogydd a/neu arolwg topograffig) at foddhad Cyfoeth Naturiol Cymru.

11.132 Disgwylir i ddatblygiadau ddangos egwyddorion dylunio da i hybu defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon, gan gynnwys lleihau gwastraff a llygredd, a chynyddu effeithlonrwydd ynni a'r defnydd effeithiol o adnoddau eraill cymaint â phosibl. Dylid cyfeirio at Bolisi Strategol PS 19 mewn perthynas â gwastraff, yr hierarchaeth gwastraff a lleihau gwastraff.

11.133 Disgwylir i gynigion datblygu ddefnyddio tir yn llawn ac mewn modd priodol. Dylai effeithiau posibl y newid yn yr hinsawdd fod yn ganolog i'r broses ddylunio, gan gynnwys y cyfraniad y gall y lleoliad, y dwysedd, y cynllun a'r ffurf adeiledig ei wneud tuag at ddatblygiadau sy'n ymateb i'r newid yn yr hinsawdd.

11.134 Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio'r system gynllunio i fanteisio i'r eithaf ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi y gall awdurdodau cynllunio lleol wneud cyfraniad cadarnhaol trwy ystyried y cyfraniad y gall eu hardal ei wneud tuag at ddatblygu a hwyluso ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel, a galluogi'r cyfraniad hwn i gael ei gyflawni. Mae targedau ynni adnewyddadwy wedi cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru. Un yw y dylai Cymru gynhyrchu 70% o'r trydan mae'n ei ddefnyddio o ynni adnewyddadwy erbyn 2030.

11.135 Bydd cynigion/defnydd tir ac arferion rheoli tir yn cael eu hannog lle maent yn helpu i sicrhau a diogelu dalfeydd carbon (gan gynnwys mawn). Bydd dull o'r fath yn gwella cydnerthedd rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd, ac yn lleihau achosion newid yn yr hinsawdd trwy ddiogelu dalfeydd carbon ac fel ffynhonnell ynni cynaliadwy.[32]

11.136 Mae Polisi Cynllunio Cymru yn gosod canllawiau clir mewn perthynas â'r gofynion ar gyfer datblygiadau sy'n ymateb i'r hinsawdd ac adeiladau cynaliadwy. Dylid cyfeirio at y Canllaw Ymarferol – Cynllunio ar gyfer Adeiladau Cynaliadwy (Llywodraeth Cymru, 2014).


****Polisi Strategol – PS 16: Dosbarthu Cynaliadwy – Fframwaith Aneddiadau

Bydd y gwaith o ddarparu twf a datblygiadau'n cael ei gyfeirio at leoliadau cynaliadwy yn unol â'r fframwaith gofodol canlynol.


Clwstwr 1

Clwstwr 2

Clwstwr 3

Clwstwr 4

Clwstwr 5

Clwstwr 6

Haen 1 – Prif Ganolfannau

  • Caerfyrddin
  • Llanelli
  • Rhydaman/Crosshands

Haen 2 – Canolfannau Gwasanaethau

  • Pont-iets/Meinciau/Pont-henri
  • Porth Tywyn
  • Pen-bre
  • Fforest/Hendy
  • Llangennech
  • Trimsaran/Carwe
  • Brynaman
  • Glanaman/Garnant
  • Pontyberem/Bancffosfelen
  • Castell Newydd Emlyn
  • Llanybydder
  • Pencader
  • Llanymddyfri
  • Llandeilo
  • Llangadog
  • Sanclêr/ Pwll Trap
  • Hendy-gwyn ar Daf
  • Talacharn
  • Cydweli
  • Glanyfferi

Haen 3 – Pentrefi Cynaliadwy

  • Cynwyl Elfed
  • Llan-y-bri
  • Llansteffan
  • Bronwydd
  • Cwm-ffrwd
  • Llangyndeyrn
  • Brechfa
  • Llan-gain
  • Idole/Phentrepoeth
  • Peniel
  • Alltwalis
  • Llanpumsaint
  • Llandyfaelog
  • Rhydargaeau
  • Llanarthne
  • Capel Dewi
  • Nantgaredig
  • Pontargothi
  • Llanddarog
  • Porthyrhyd
  • Cwmduad
  • Mynyddygarreg
  • Pum Heol/Horeb
  • Llansaint/Broadway
  • Carmel
  • Cwmgwili
  • Foelgastell
  • Ystradowen
  • Drefach/Felindre
  • Waungilwen
  • Llangeler
  • Pentrecwrt
  • Saron/Rhos
  • Llanllwni
  • Cwm-ann
  • Capel Iwan
  • Llanfihangel –ar-arth
  • Tre-lech
  • Pontyweli
  • Cenarth
  • New Inn
  • Caeo
  • Ffarmers
  • Llansawel
  • Rhydcymerau
  • Talyllychau
  • Cwrt Henri
  • Llanfynydd
  • Llanwrda
  • Cwmdu
  • Cwmifor
  • Salem
  • Abergorlech
  • Llanboidy
  • Glandy Cross
  • Efailwen
  • Llangynin
  • Meidrim
  • Bancyfelin
  • Llangynog
  • Pentywyn
  • Llanddowror
  • Llanmilo
  • Llan-non
  • Llanedi

Haen 4– Pentrefi Gwledig (dim terfynau datblygu)

  • Hermon
  • Abernant
  • Blaen-y-coed
  • Bancycapel
  • Nant-y-caws
  • Croesyceiliog
  • Crwbin
  • Felingwm Uchaf
  • Felingwm Isaf
  • Llanegwad
  • Pontantwn
  • Nebo
  • Talog
  • Pen-y-bont
  • Whitemill
  • Pont-Newydd
  • Pontarsais
  • Cynheidre
  • Pedair Heol
  • Capel Seion
  • Derwydd
  • Heol Ddu
  • Maes-y-bont
  • Milo
  • Pantllyn
  • Pentregwenlais
  • Temple Bar
  • Cefnbrynbrain
  • Rhosamman
  • Drefach (Llandyfan)
  • Stag and Pheasant
  • Mynyddcerrig
  • Penboyr
  • Drefelin
  • Cwmpengraig
  • Cwmhiraeth
  • Pentrecagal
  • Gwyddgrug
  • Dolgran
  • Banc-y-ffordd
  • Bryn Iwan
  • Pencarreg
  • Ffaldybrenin
  • Crugybar
  • Cwm-du
  • Ashfield Row
  • Felindre (Llangadog)
  • Cynghordy
  • Golden Grove
  • Broad Oak
  • Trapp
  • Manordeilo
  • Penybanc
  • Felindre, (Dryslwyn)
  • Dryslwyn
  • Rhydcymerau
  • Waunystrad Meurig
  • Bethlehem
  • Capel Isaac
  • Llangathen
  • Llansadwrn
  • Rhandirmwyn
  • Porthyrhyd
  • Pumsaint
  • Siloh
  • Cilycwm
  • Cwmfelin Mynach
  • Cwmbach
  • Blaenwaun
  • Llanglydwen
  • Cwmfelin Boeth
  • Cross Inn
  • Llansadurnen
  • Broadway
  • Red Roses
  • Llanfallteg

11.137 Mae'r cynllun yn ceisio dosbarthu twf a datblygiadau'n ofodol ledled y sir, gan ystyried y strategaeth ofodol a'r fframwaith gofodol a pholisïau cenedlaethol.[33] Mae hyn yn pwysleisio'r angen am strategaeth aneddiadau i ddarparu'r sail ar gyfer patrwm gofodol o ddatblygiadau tai, gan gydbwyso anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Er y bydd y rhan fwyaf o'r datblygiadau'n cael eu cyfeirio at haenau uchaf yr hierarchaeth aneddiadau, cydnabyddir amrywiaeth y sir a rhoddir ystyriaeth i dai mewn ardaloedd gwledig a gwerth ardaloedd o'r fath i'r sir, ei chymunedau ac i'r economi.

11.138 Mae'r cynllun yn ceisio dosbarthu'r twf mewn ffordd sy'n adlewyrchu amrywiaeth y clystyrau o aneddiadau ac mewn modd cynaliadwy. Bydd yn ystyried rôl a swyddogaeth yr aneddiadau, ond mae hefyd yn derbyn ei bod yn bosibl na fydd rhai aneddiadau, oherwydd y gwasanaethau a'r cyfleusterau sydd ar gael, yr opsiynau mwyaf priodol ar gyfer yr holl dwf. Mae'n bosibl y bydd hyn yn adlewyrchu nifer o ffactorau, nid cyfyngiadau amgylcheddol yn unig ond hefyd hanes darparu twf mewn aneddiadau o'r fath. Yn ogystal, mae dylanwadau trawsffiniol ac agosrwydd i aneddiadau cyfagos yn ffactorau sy'n dylanwadu i raddau amrywiol. Mae'r rhain yn cynnwys: Pontarddulais, Llanbedr Pont Steffan, Adpar, Arberth a Llandysul.

11.139 Bydd y dull yn osgoi unrhyw ragdybiaeth fod rhaid i bob anheddiad ym mhob haen gyfrannu at dwf; yn hytrach, bydd yn ystyried yr aneddiadau ar sail eu rhinweddau, wrth ystyried eu cynaliadwyedd a'u safle o fewn y fframwaith. Felly, nid yw'n ceisio dyrannu datblygiadau yn ofodol o fewn yr hierarchaeth trwy ddefnyddio dosbarthiad cyfrannol neu gwotâu yn unig.

11.140 Mae'r strategaeth yn derbyn mai'r prif ganolfannau fydd prif ffocws y twf, a bydd ei union ddosbarthiad ledled y sir yn ymatebol, ac ni fydd yn cael ei gyfyngu gan ddosbarthiad cyfrannol caeth. Ystyrir maint a chymeriad yn ogystal â rôl yr anheddiad.

11.141 Mae'r canlynol yn amlinellu dosraniad dangosol twf preswyl fesul haen; bydd hyn yn cael ei ddatblygu ymhellach wrth i'r cynllun fynd trwy ei gamau paratoadol:

  • Prif Ganolfannau 50–55%,
  • Canolfannau Gwasanaethau 15–20%,
  • Pentrefi Cynaliadwy 15–20%,
  • Pentrefi Gwledig 15–20% ac,
  • Aneddiadau Gwledig heb eu Diffinio < 1%.

11.142 Bydd gan bentrefi gwledig ddarpariaeth ar gyfer cyfleoedd tai ar raddfa fach sy'n canolbwyntio ar fewnlenwi ac estyniadau rhesymegol, yn ogystal ag eithriadau gwledig bach ar gyfer tai fforddiadwy. Mae hyn yn rhoi lle ar gyfer darpariaeth tai ar farchnad gyfyngedig.

11.143 O fewn yr aneddiadau gwledig heb eu diffinio, bydd datblygiadau tai newydd yn cael eu cyfyngu i gyfleoedd bach lle mae tai fforddiadwy'n cael eu darparu i ddiwallu anghenion lleol. Bydd cynigion o'r fath yn canolbwyntio ar fewnlenwi a chyfleoedd ar gyfer estyniadau rhesymegol. Ni fydd datblygiadau'r ddwy haen hyn yn cael eu cyfyngu, a bydd cynigion yn cael eu hystyried trwy bolisïau sy'n seiliedig ar feini prawf.

11.144 Er bod yr uchod yn cyfeirio'n benodol at dwf preswyl, bydd y fframwaith aneddiadau, ar y cyd â pholisïau penodol, hefyd yn arwain y gwaith o ystyried lleoliadau priodol a maint datblygiadau eraill (gan gynnwys cyflogaeth).

11.145 Mae'r canlynol yn rhoi amlinelliad dangosol o natur y datblygiadau sy'n debygol fesul haen, gan gynnwys eu maint a'u math. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu datblygu fel rhan o'r cynllun adneuo, fel y bydd y polisïau sy'n seiliedig ar feini prawf penodol sydd eu hangen i gefnogi'r gwaith o ystyried cynigion megis eithriadau gwledig a phentrefi gwledig diffiniedig:

Prif Ganolfannau:

Safleoedd strategol

Ardaloedd cyflogaeth mawr a bach

Dyraniadau tai

Safleoedd tai bach (o dan bum cartref)

Darpariaeth tai fforddiadwy ar safleoedd â phum uned neu fwy

Cyfleoedd tai ar hap-safleoedd

Canolfannau Gwasanaethau:

Ardaloedd cyflogaeth bach

Dyraniadau tai

Darpariaeth tai fforddiadwy ar safleoedd â phum uned neu fwy

Safleoedd tai bach (o dan bum cartref)

Cyfleoedd tai ar hap-safleoedd

Pentrefi Cynaliadwy:

Dyraniadau tai

Tai fforddiadwy ar safleoedd â phum uned neu fwy

Safleoedd tai bach (o dan bum cartref)

Cyfleoedd tai ar hap-safleoedd

Cynlluniau Eithriadau Gwledig Bach ar gyfer tai fforddiadwy sy'n gyffiniol â ffiniau aneddiadau

Pentrefi Gwledig (dim terfynau datblygu):

Safleoedd bach – tai trwy fewnlenwi neu estyniadau rhesymegol/cwblhau

Cynlluniau Eithriadau Gwledig Bach ar gyfer tai fforddiadwy

Aneddiadau Gwledig heb eu Diffinio:

Tai i ddiwallu anghenion lleol a Chynlluniau Eithriadau Gwledig Bach ar gyfer tai fforddiadwy

****Polisi Strategol – PS 17: Trafnidiaeth a Hygyrchedd

Mae datblygiadau cynaliadwy a chyflawnadwy yn gofyn am rwydwaith trafnidiaeth integredig, hygyrch, dibynadwy, effeithlon, diogel a chynaliadwy i danategu'r gwaith o'u cyflawni. Felly, mae'r cynllun yn cyfrannu at y gwaith o ddarparu system drafnidiaeth gynaliadwy a rhwydwaith cysylltiedig trwy wneud y canlynol:

  1. a Lleihau'r angen i deithio, yn arbennig mewn ceir modur preifat
  2. b Rhoi sylw i gynhwysiant cymdeithasol trwy gynyddu mynediad at gyflogaeth, gwasanaethau a chyfleusterau
  3. c Cefnogi a, lle bo hynny'n berthnasol, gwella opsiynau ar wahân i'r car modur, megis trafnidiaeth gyhoeddus (gan gynnwys cyfleusterau parcio a theithio ac annog y defnydd o gynlluniau teithio) a theithio llesol trwy feicio neu gerdded
  4. d Ailorfodi swyddogaeth a rôl aneddiadau yn unol â'r fframwaith aneddiadau
  5. e Hybu'r defnydd effeithiol o'r rhwydwaith trafnidiaeth
  6. f Gwella mynediad at gyflogaeth, tai, gwasanaethau a chyfleusterau mewn lleoliadau sydd â mynediad at seilwaith trafnidiaeth priodol – gan gynnwys cynigion cynhyrchu teithiau sylweddol
  7. g Ymgorffori datrysiadau dylunio a mynediad o fewn datblygiadau i hyrwyddo hygyrchedd. Darparu llwybrau cerdded a beicio, gan gysylltu â rhwydweithiau teithiol llesol a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd
  8. h Mabwysiadu dull cynaliadwy ar gyfer dyluniad, swyddogaeth a chynllun y datblygiad newid, gan gynnwys darparu lefelau priodol o barcio

11.146 Mae'r strategaeth yn adlewyrchu ac yn hyrwyddo egwyddorion cynaliadwyedd a mynediad at wasanaethau a chyfleusterau hanfodol, gyda'r nod o gyflawni aneddiadau hyfyw, hunangynhaliol a chymunedau cynaliadwy, ac o ganlyniad cynyddu cynhwysiant a chydlyniad cymdeithasol. Mae'r fframwaith aneddiadau yn adlewyrchu cynaliadwyedd aneddiadau lle mae gwasanaethau, swyddi a chyfleusterau siopa a hamdden wedi'u lleoli, wrth gydnabod amrywiaeth y sir a'i chymunedau, gan gynnwys yr ardaloedd gwledig.

11.147 Wrth gyflawni'r uchod, mae'r strategaeth yn ystyried y rhwydwaith priffyrdd a'r rhwydwaith rheilffyrdd, ynghyd â mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a'r potensial ar gyfer twf aneddiadau sy'n adlewyrchu lefelau o hygyrchedd (i'w ystyried fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo).

11.148 Oherwydd amrywiaeth y sir, mae hygyrchedd a'r nod o leihau'r angen i deithio (a lleihau allyriadau CO2) yn parhau i fod yn heriol i ran fawr o Sir Gaerfyrddin. Mae'r her hon yn enwedig o amlwg wrth roi sylwi i'r angen i gynnal ardaloedd gwledig a sicrhau nad yw eu cymunedau'n profi allgáu cymdeithasol. Rhaid bod hyn hefyd yn gysylltiedig â bod yn realistig wrth dderbyn y ffaith fod y car modur yn parhau i fod yn ffordd bwysig o deithio mewn ardaloedd o'r fath.

11.149 Mae'n bosibl hefyd y gellir lleihau teithio trwy strategaeth drafnidiaeth integredig a datblygu cymunedau hunangynaliadwy (gan gynnwys argaeledd gwasanaethau a chyfleusterau) ac argaeledd opsiynau amgen trwy fentrau priodol megis 'Bwcabus'. Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd, wrth i dechnoleg ddatblygu, y bydd effaith bosibl y car modur, neu ddiffyg effaith, yn newid.

11.150 Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn ceisio hyrwyddo datrysiadau sy'n annog mynediad at newidiadau technolegol mewn modd cadarnhaol, gan gynnwys pwyntiau gwefru trydanol, hyrwyddo lleihau allyriadau niweidiol, a gwella cynhwysiant cymdeithasol a hygyrchedd.

11.151 Bydd cynlluniau ffyrdd sy'n cael eu nodi o fewn y cynllun trafnidiaeth perthnasol, lle bo digon o sicrwydd, yn cael eu nodi o fewn y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo ac yn cael eu diogelu lle bo hynny'n briodol. Lle y nodir bod angen rhagor o ddichonoldeb, dylunio a pharatoi ar gynllun, mae'n bosibl na fydd yn cael ei nodi yn y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo, gan fod hyn yn adlewyrchu diffyg dangosyddion clir posibl ar gyfer cyflawni.

11.152 Cydnabyddir rôl y sir fel canolfan ar gyfer beicio yng Nghymru, a bydd cyhoeddi'r Strategaeth Feicio yn cael ei ystyried a, lle bo hynny'n briodol, bydd y strategaeth yn cael ei hadlewyrchu wrth i'r Cynllun Datblygu Lleol fynd rhagddo. Yn hyn o beth, cydnabyddir rôl y rhwydwaith beicio fel ysgogydd economaidd ac ased hamdden a thwristiaeth. Yn yr un modd, mae ei gyfraniad at y gwaith o hyrwyddo hygyrchedd a manteision i'n cymunedau hefyd yn cael ei gydnabod – fel y mae'r hyn a gynigir trwy'r rhwydwaith llwybrau troed a llwybrau ceffyl.

****Polisi Strategol – PS 18: Adnoddau Mwynau

Bydd adnoddau mwynau'r sir a nodwyd yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy trwy wneud y canlynol:

  1. Sicrhau cyflenwadau trwy gynnal banc tir digonol o gronfeydd agregau a ganiateir (craig galed, tywod a graean) trwy gydol cyfnod y cynllun
  2. Annog y defnydd effeithlon a phriodol o fwynau o ansawdd uchel, a manteisio i'r eithaf ar y potensial i ailddefnyddio ac ailgylchu mwynau addas yn lle ddefnyddio agregau sydd wedi cael eu mwyngloddio o'r newydd
  3. Diogelu ardaloedd uwchben mwynau o bwysigrwydd economaidd, lle y gellid eu mwyngloddio yn y dyfodol, i sicrhau nad yw adnoddau o'r fath o reidrwydd yn cael eu niwtraleiddio gan fathau eraill o ddatblygu
  4. Defnyddio clustogfeydd i leihau'r gwrthdaro rhwng datblygu mwynau a datblygiadau sensitif
  5. Sicrhau adferiad priodol sy'n gallu darparu manteision amgylcheddol a chymunedol penodol.

11.153 Dylai'r Cynllun Datblygu Lleol sicrhau bod y sir yn darparu adnoddau mwynau i ddiwallu anghenion y gymdeithas a bod adnoddau o'r fath yn cael eu diogelu rhag cael eu niwtraleiddio. Wrth wneud hyn, mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ceisio cydbwysedd priodol rhwng y gofyniad sylfaenol hwn, yr angen i sicrhau bod yr adnoddau cyfyngedig hyn yn cael eu defnyddio mewn modd darbodus, a bod mwynderau cyfredol a'r amgylchedd yn cael eu diogelu.

1.154 Mae gan Sir Gaerfyrddin amrediad eang o adnoddau mwynau o ganlyniad i'w daeareg gymhleth. Y brif nodwedd yn ne'r sir yw ehangder helaeth brigiad yr haenau glo, wedi'u hymylu i'r gogledd gan galchfaen Carbonifferaidd. Mae chwarelu calchfaen yn un o'r diwydiannau tynnu mwyaf yn y sir. Mae rhannau gogleddol y sir uwchben creigiau hŷn o'r oes Ordofigaidd a'r oes Silwraidd, yn bennaf tywodfeini, cerrig clai a llechi. Mae arwyddocâd economaidd y rhain yn amrywiol.

1.155 Mae Datganiad Technegol Rhanbarthol De Cymru 2014 yn amlinellu'r cyfraniad y dylai pob awdurdod sy'n aelod ei wneud tuag at ddiwallu'r galw rhanbarthol am agregau (craig galed, tywod a graean). Mae ail Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol (AMR, 2016/17) yn nodi bod ffigurau'r sir ar gyfer banc tir, ar gyfer craig galed, tywod a graean, yn uwch o gryn dipyn na'r ffigurau gofynnol a amlinellir yn Nodyn Cyngor Technegol Mwynau (MTAN) 1: Agregau, ac, o ganlyniad, nid yw'n ofynnol dyrannu safleoedd newydd ar gyfer datblygu mwynau.

****Polisi Strategol – PS 19: Rheoli Gwastraff

Gwneir darpariaeth i hwyluso rheoli gwastraff mewn modd cynaliadwy trwy wneud y canlynol:

  1. Dyrannu digon o dir priodol i ddarparu ar gyfer rhwydwaith integredig o gyfleusterau rheoli gwastraff
  2. Cefnogi cynigion ar gyfer rheoli gwastraff sy'n cynnwys rheoli gwastraff yn unol â'r blaenoriaethau a amlinellir o fewn yr hierarchaeth gwastraff
  3. Cefnogi cynigion ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff newydd o fewn adeiladau ar safleoedd diwydiannol sy'n bodoli eisoes a rhai sydd wedi cael eu dyrannu sy'n addas ar gyfer cyfleusterau rheoli gwastraff
  4. Cydnabod ei bod yn bosibl y bydd angen lleoli rhai cyfleusterau gwastraff y tu i allan i ffiniau datblygu aneddiadau
  5. Sicrhau y gwneir darpariaeth ar gyfer rheoli gwastraff mewn modd cynaliadwy ym mhob datblygiad newydd, gan gynnwys sicrhau cyfleoedd i leihau'r gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu.

11.156 Mae'r system ar gyfer rheoli gwastraff a chynllunio gwastraff yn mynd trwy drawsnewidiad cyflym. Bydd targedau ar gyfer lleihau gwastraff ac ailgylchu yn gofyn am ddulliau newydd ar gyfer rheoli gwastraff, ynghyd â chynnydd sylweddol yn nifer y cyfleusterau er mwyn galluogi gweithredu'r dulliau hyn a chyrraedd y targedau.

11.157 Yn unol â'r ddogfen strategaeth gwastraff drosfwaol i Gymru, Tuag at Ddyfodol Diwastraff, a Pholisi Cynllunio Cymru, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu dull cynaliadwy ar gyfer rheoli gwastraff, gan gynnwys cefnogi cynigion ar gyfer gweithrediadau gwastraff sy'n symud rheoli gwastraff i fyny'r hierarchaeth gwastraff, a nodi tir priodol i hwyluso rhwydwaith integredig a chynaliadwy o gyfleusterau gwastraff.

11.158 Mae datblygiadau technolegol a newidiadau i ddeddfwriaeth, polisïau ac arferion yn golygu bod cyfleusterau rheoli gwastraff o fewn adeiladau bellach i'w gweld yr un peth o'r tu allan ag unrhyw uned ddiwydiannol arall, ac yn cynnwys dulliau o ddadwneuthur neu gynhyrchu ynni nad ydynt yn wahanol i ddulliau diwydiannol modern. Mae addasrwydd safleoedd diwydiannol B2 wedi cael ei dderbyn mewn egwyddor ac mae'n rhoi rhagor o opsiynau ar gyfer safleoedd posibl.

11.159 Yn ôl Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 21, mae angen i awdurdodau cynllunio lleol gydweithio gyda'i gilydd i fonitro'r cynnydd tuag at sefydlu rhwydwaith integredig a digonol er mwyn gwaredu ar wastraff ac adfer gwastraff trefol cymysg. O ganlyniad, mae'r sir wedi cael ei rhannu yn dri rhanbarth ac mae'n ofynnol i bob un baratoi Adroddiad Monitro Cynllunio Gwastraff blynyddol.

11.160 Un o brif rolau'r Adroddiad Monitro Cynllunio Gwastraff yw cyflwyno data i alluogi'r gwaith o fonitro sut mae'r gwastraff gweddilliol sy'n codi'n cael ei reoli, yn benodol y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at opsiynau ar wahân i safleoedd tirlenwi, er mwyn asesu perfformiad y rhanbarth yn erbyn y targedau a osodir yn y strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff. Dylai'r wybodaeth a'r dadansoddiadau a gyflwynir yn yr adroddiadau roi sail i awdurdodau lleol (a sefydliadau eraill) gymryd camau i ymdrin â'r gwastraff sy'n codi yn eu hardal nhw. Dylai'r adroddiadau hefyd roi sail wybodaeth i gynorthwyo'r diwydiant rheoli gwastraff i wneud penderfyniadau allweddol ynglŷn â buddsoddi.

11.161 Wrth ffurfio cynigion datblygu, dylid ystyried y goblygiadau ar gyfer gwastraff. Dylai lleoliad a maint datblygiadau ystyried argaeledd a chapasiti cyfleusterau rheoli gwastraff yn yr ardal. Yn hyn o beth, ni ddylai cynigion arwain at greu teithiau ychwanegol diangen.



[21] Caiff y tabl ei lenwi fel rhan o'r waith o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo.

[22] Bydd y lefel o gartrefi fforddiadwy a ddarperir yn cael ei llenwi fel rhan o'r gwaith o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo.

[23] http://www.swanseabaycitydeal.wales/life-science-and-well-being/life-science-and-well-being-village/

[24]https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/busnes/datblygu-a-buddsoddiad/llynnoedd-delta/#.W9GVrUv0mUk

[25] http://www.swanseabaycitydeal.wales/economic-acceleration/yr-egin-creative-digital-cluster/

[26] Amcanion Llesiant Sir Gaerfyrddin 2017/18

[27] Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg, Llywodraeth Cymru (2017)

[28] Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y'u diwygiwyd); Polisi Cynllunio Cymru; Cylchlythyr Swyddfa Cymru 13/97 Rhwymedigaethau Cynllunio

[31] Polisi Cynllunio Cymru; Nodyn Cyngor Technegol 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy (Gorffennaf 2010)

[33] Polisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 9)

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig