Strategaeth a Ffefrir
5. Sir Gaerfyrddin – Cyd-destun Strategol
5.1 Mae Sir Gaerfyrddin yng nghanol de-orllewin Cymru. Mae ganddi gysylltiadau cryf ag economïau ehangach tua'r dwyrain ac i mewn i Loegr, ond hefyd tua'r gorllewin i Sir Benfro ac Iwerddon, yn ogystal â chanolbarth a gogledd Cymru. Mae gan Sir Gaerfyrddin sylfaen economaidd deinamig, sy'n adlewyrchu'i chanolfannau cyflogaeth cadarn yn ogystal â'i heconomi wledig bwysig. Mae'r sir wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu buddsoddiad, ac mae'n gosod adfywio fel ei blaenoriaeth gorfforaethol gyntaf.
5.2 Nodweddir y sir gan ei threfi a phentrefi amrywiol, parciau cyflogaeth mawr, canolfannau manwerthu rhanbarthol, economi wledig amlwg, a thirweddau ucheldirol, aberol ac arfordirol deniadol. Mae'r Gymraeg a'i diwylliant hefyd yn agweddau pwysig ar hunaniaeth a chymeriad Sir Gaerfyrddin ac mae'r sir yn amlwg fel cadarnle ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
5.3 O fewn y sir, ceir ysgogwyr economaidd allweddol, gan gynnwys y buddsoddiadau yn Cross Hands sy'n ymwneud â'r parc bwyd a safle cyflogaeth Dwyrain Cross Hands. Mae arwyddo'r fargen ddinesig gwerth £1.3 biliwn yn 2017 a'r cynnydd wrth gyflawni'r prosiectau cysylltiedig – clwstwr creadigol Yr Egin yng Nghaerfyrddin a'r prosiect Llesiant a Gwyddorau Bywyd yn Llanelli – yn atgyfnerthu pwysigrwydd strategol a rhanbarthol Sir Gaerfyrddin. Mae Sir Gaerfyrddin yn sir sydd â chymeriad amrywiol gyda'r economi amaethyddol a thirwedd yr ardaloedd gwledig yn cael eu cyfosod â'r ardal drefol ac ôl-ddiwydiannol yn y de-ddwyrain.
5.4 Fel sir wledig yn bennaf, mae dwysedd y boblogaeth yn isel gyda 78 o bobl yn byw fesul cilomedr sgwâr, sy'n cymharu â 140 o bobl fesul cilomedr sgwâr ar gyfer Cymru yn gyffredinol. Mae'r prinder poblogaeth hwn yn adlewyrchu'r cymunedau gwledig yn bennaf yn hytrach na'r hyn a welir yn ne a dwyrain y sir, lle mae 65% o'r boblogaeth yn byw ar 35% o'r tir.
5.5 Mae prif ganolfannau trefol y sir yn cynnwys Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman / Cross Hands. Mae Caerfyrddin, oherwydd ei leoliad daearyddol canolog, yn gwasanaethu anghenion cefnwlad gwledig y sir yn ogystal â'r rhanbarth ehangach o ran agweddau fel manwerthu. Mae gan Lanelli a Rhydaman / Cross Hands dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog ond maent yn parhau yn gyfranwyr pwysig i'w cymunedau ehangach, gan weithredu fel canolbwyntiau ar gyfer cyflogaeth a chartrefi.
5.6 Mae gan y sir nifer fawr o aneddiadau sy'n adlewyrchu maint ac amrywiaeth y sir. Maent yn amrywio o ran maint a rôl ac maent yn aml yn gwneud cyfraniadau nodedig i anghenion a gofynion eu cymunedau a'r ardaloedd cyfagos. Mae nifer o'r aneddiadau a'r pentrefi yn hunangynhaliol o ran cyfleusterau a gwasanaethau, gan gyflawni rôl wasanaethu ehangach yn aml. Fodd bynnag, mae rhai aneddiadau llai eraill yn brin o wasanaethau a chyfleusterau. Mae anghenion preswylwyr yn yr ardaloedd olaf hyn yn cael eu diwallu fel arfer gan y prif ganolfannau ac, mewn rhai achosion, gan yr aneddiadau llai eraill â gwasanaethau.
5.7 Mae cyfoeth amgylchedd naturiol a diwylliannol Sir Gaerfyrddin yn ystyriaeth ofodol bwysig wrth gynllunio ar gyfer dyfodol y sir, yn enwedig o ran twf posib ac wrth leoli datblygiadau. Mae ardal y cynllun yn cynnwys safleoedd sydd wedi'u dynodi ar lefel ryngwladol er mwyn diogelu a gwella gwerth cadwraeth natur pwysig, yn ogystal â thirweddau trawiadol a threfi a phentrefi hanesyddol unigryw. Dangosir pwysigrwydd treftadaeth adeiledig y sir gan y 27 ardal gadwraeth, 366 o Henebion Cofrestredig (sy'n amrywio o nodweddion cynhanesyddol i nodweddion ôl-ganoloesol/modern sydd â diddordeb hanesyddol diwylliannol) a nifer mawr o adeiladau rhestredig. Mae hefyd nifer o safleoedd dynodedig ar gyfer cadwraeth natur a phwysigrwydd bioamrywiaeth, gan gynnwys 8 Ardal Cadwraeth Arbennig, 3 Ardal Gwarchodaeth Arbennig, 1 safle Ramsar, 90 Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, 5 Gwarchodfa Natur Genedlaethol, 5 Gwarchodfa Natur Leol a 7 tirwedd gofrestredig.
5.8 Mae amaethyddiaeth yn dominyddu'r dirwedd wledig yn Sir Gaerfyrddin, gyda'r diwydiant amaeth, a ffermio gwartheg godro a defaid yn enwedig, yn sefydlu'r sir fel un o'r ardaloedd amaethyddol mwyaf pwysig yng Nghymru. Mae rhyw 203,700 hectar o dir o fewn Sir Gaerfyrddin wedi'i ddosbarthu fel tir amaethyddol ac mae'r mwyafrif yn cael ei ddosbarthu fel Gradd 3a a 4 gyda chyfran fechan o dir Gradd 2 yn ne-ddwyrain y sir.
5.9 Mae Sir Gaerfyrddin yn gartref i tua 6% o gyfanswm poblogaeth Cymru, gyda 186,452 o bobl. Ers 2001, mae poblogaeth y sir wedi tyfu o ganlyniad i 12,800 o bobl ychwanegol, sef cynnydd o 7.4% mewn 16 mlynedd. Cofnodwyd y twf mwyaf mewn poblogaeth cyn 2008, gyda'r blynyddoedd ers hynny yn dangos twf ar lefel is.
5.10 Y prif ffactor sydd wedi dylanwadu ar y newid i boblogaeth Sir Gaerfyrddin ers 2001/02 yw mewnfudo, lle mae mwy o bobl wedi symud i'r sir nag sydd wedi gadael. Mae'r twf yn y boblogaeth hefyd yn cael ei ystyried yn erbyn newid naturiol y sir, lle mae nifer y marwolaethau wedi rhagori ar nifer y genedigaethau bob blwyddyn ers 2001/02.
5.11 Mae patrymau mudo allan o Sir Gaerfyrddin wedi gweld nifer mawr o grŵp oedran 15–19 yn gadael y sir. Yn bennaf, mae hyn yn adlewyrchu'r nifer o fyfyrwyr sy'n gadael y sir er mwyn manteisio ar gyfleoedd addysg uwch. Cafwyd cynnydd mewn pobl sy'n symud i mewn i'r sir o fewn grŵp oedran teulu ifanc 30–44 a grŵp oedran 0–14. Cafwyd cynnydd hefyd yn y grŵp oedran dros 65, sydd wedi cyfrannu at broffil poblogaeth sy'n heneiddio yn Sir Gaerfyrddin.
5.12 Ers cychwyn y broses Cynllun Datblygu Lleol yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pedwar amcanestyniad poblogaeth ac aelwydydd. Mae amcanestyniadau Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2006 a 2008 wedi'u dylanwadu gan ystadegau mudo net uchel (yn fewnol ac yn rhyngwladol), a wnaeth nodi twf sylweddol ar gyfer Sir Gaerfyrddin (fel yr adlewyrchir yn y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig). Fodd bynnag, gwnaeth amcanestyniadau Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2011 a 2014 adlewyrchu cyfnod ôl-ddirwasgiad, a wnaeth nodi tueddiad mewnfudo is ac, o ganlyniad, gofyniad twf disgwyliedig mewn aelwydydd sydd llawer yn is ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
5.13 Wrth edrych ymlaen at y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig ar gyfer 2018-2033, mae amcanestyniadau diweddaraf Llywodraeth Cymru, sy'n seiliedig ar 2014, yn amcangyfrif nad yw maint aelwydydd ar gyfartaledd yn lleihau cymaint ag yr oedd amcanestyniadau blaenorol wedi'u hawgrymu. Mae'r amcangyfrif uwch hwn ynglŷn â maint aelwydydd ynghyd â'r newidiadau mewn twf y boblogaeth o fewn y sir wedi arwain at ofyniad twf disgwyliedig mewn aelwydydd sydd llawer yn is na'r hyn a nodwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig presennol.
Cysylltiadau
5.14 Mae Sir Gaerfyrddin mewn lleoliad da ar y rhwydwaith priffordd strategol, gyda chysylltiadau tua'r gorllewin yn darparu dolenni i borthladdoedd fferïau Iwerddon, sydd, gyda'r M4, yn ffurfio rhan o'r Rhwydwaith Traws-Ewropeaidd. Pwysleisir y ddolen dwyrain–gorllewin hon ymhellach gan Reilffordd Gorllewin Cymru, sy'n ymestyn o Abertawe (a'r rhwydwaith rheilffordd ehangach) i Sir Benfro trwy Gaerfyrddin a Llanelli. Mae Rheilffordd Gorllewin Cymru hefyd yn ffurfio rhan o'r Rhwydwaith Traws-Ewropeaidd sy'n cysylltu â phorthladdoedd fferïau Iwerddon yn Sir Benfro. Mae Rheilffordd Calon Cymru, sy'n ymestyn o Abertawe trwy rannau dwyreiniol y sir i'r Amwythig, yn cynnig buddiannau trafnidiaeth ychwanegol, er bod hynny'n seiliedig ar wasanaeth cyfyngedig.
5.15 Gwasanaethir y sir hefyd gan nifer o ffyrdd Dosbarth A yn ogystal â nifer o ffyrdd Dosbarth B, gyda'r ddau fath yn cynrychioli cydrannau pwysig o'r rhwydwaith priffyrdd. Mae ein prif rwydwaith priffyrdd yn cynnwys cefnffordd yr A48, sy'n arwain at ac oddi wrth draffordd yr M4 gyda'i chysylltiadau trwy dde-ddwyrain Cymru a thu hwnt. Mae cefnffyrdd yr A40 a'r A483, ar y llaw arall, yn cysylltu â chanolbarth a gogledd Cymru yn ogystal â chanolbarth a gogledd Lloegr. Darperir mynediad at ganolbarth Cymru ac ymlaen ymhellach i ogledd Cymru gan yr A484 a'r A485.
5.16 Mae'r canlynol yn dangos natur y rhwydwaith ffyrdd, gan gynnwys lefel y ddarpariaeth a fodlonir gan ffyrdd Dosbarth B ac is. Mae hyn, yn rhannol, yn adlewyrchu pa mor wledig yw'r sir ac mae'n pwysleisio'r heriau wrth ddarparu strategaeth integredig gynaliadwy ar gyfer yr ardal.
Rhwydwaith Ffyrdd Sir Gaerfyrddin – Hyd y Ffordd (Km) |
|
Traffordd (M4) |
5 |
Dosbarth A (Cefnffordd) |
147 |
Dosbarth A (Ffordd Sirol) |
247 |
Dosbarth B ac C |
1,579 |
Is-ffordd ag wyneb caled |
1,496 |
Tabl 1
5.17 Gwasanaethir yr ardal yn gyffredinol dda gan drafnidiaeth gyhoeddus trwy'r rhwydwaith bysiau, er bod lefel ac amlder y gwasanaeth yn amrywio yn ôl lleoliad a chyrchfan. Yn ogystal, mae nifer o wasanaethau sy'n gweithredu ar sail 'galw a theithio' mewn ardaloedd gwledig a 'Bwcabus' yn Nyffryn Teifi – mae gwasanaethau o'r fath yn cynnig buddiannau hygyrchedd ychwanegol i'r ardaloedd hyn.