Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 8 Chwefror 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

8. Amcanion Strategol

8.1 Cafodd amcanion strategol y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig presennol eu defnyddio fel man cychwyn ar gyfer adnabod amcanion strategol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.

8.2 Roedd ymddangosiad amrediad o ysgogwyr cyd-destunol a pholisi ers 2014, yn fwyaf nodedig Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a llofnodi Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn 2017, yn golygu bod angen adolygu amcanion strategol y Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig. Roedd hefyd angen sicrhau bod amcanion strategol y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn cydblethu â materion allweddol a gweledigaeth y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.

8.3 Mae amcanion llesiant Cynllun Llesiant Sir Gâr wedi'u defnyddio er mwyn grwpio amcanion strategol y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig. Mae hyn yn sicrhau bod dehongliad lleol o lesiant yn cael ei gydblethu â'r amcanion strategol a strategaeth y cynllun o'r cychwyn cyntaf. Er nad ydynt yn cael eu nodi'n uniongyrchol fel amcanion strategol y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn eu rhinwedd eu hun, mae amcanion llesiant y cyngor, fel y'u hamlinellir o fewn Strategaeth Gorfforaethol "Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf 2018–2023", wedi chwarae rôl lywio. Mae'r Papur Pwnc – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion yn cynnwys asesiadau cytunedd rhwng amcanion strategol y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, amcanion strategol y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig ac amcanion llesiant y cyngor, ac amcanion strategol y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn erbyn fframwaith yr Arfarniad o Gynaliadwyedd.

8.4 Mae amcanion strategol y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn ddigon dyheadol ac uchelgeisiol ond gellir hefyd eu cyflawni o fewn cyd-destun cynllunio gofodol. Maent yn ymateb i ac yn cyflawni materion allweddol y cynllun, gan ddarparu llwyfan ar gyfer cyflawni'i weledigaeth. Maent yn darparu llwyfan ar gyfer cynllun cadarn, yn arbennig o ran eu haddasrwydd, priodoldeb a chyflawnadwyedd[18]

8.5 Mae'r amcanion strategol yn cael eu croesgyfeirio â mater perthnasol y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig ac maent hefyd yn destun dadansoddiad o ran a ydynt yn amcanion CAMPUS (Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol).

8.6 Mae amcanion strategol y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig isod.

Arferion Iach – Mae gan bobl ansawdd bywyd da, a'u bod yn gwneud dewisiadau iachus am eu bywydau a'u hamgylchedd.

AS1 Sicrhau bod yr amgylchedd naturiol, gan gynnwys cynefinoedd a rhywogaethau, yn cael ei ddiogelu a'i wella.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

6, 7, 12, 13, 26, 32

Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol,

Uchelgeisiol a Synhwyrol

AS2 Cynorthwyo gyda'r gwaith o ehangu a hyrwyddo cyfleoedd llesiant trwy fynediad at gyfleusterau cymunedol a hamdden yn ogystal â'r cefn gwlad.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

10, 11, 12, 15, 22, 26, 32

Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol,

Uchelgeisiol a Synhwyrol

AS5 Diogelu a gwella'r amgylchedd adeiledig a hanesyddol a hyrwyddo pobl i ailddefnyddio adeiladau segur mewn modd priodol.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

8, 26, 27, 30, 32

Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol,

Uchelgeisiol a Synhwyrol

Ymyrraeth Gynnar – Sicrhau bod pobl yn derbyn y cymorth cywir ar yr adeg gywir, pan fydd ei angen arnynt

AS3 Cynorthwyo wrth ehangu a hyrwyddo cyfleoedd addysg a hyfforddi sgiliau ar gyfer pawb.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

11, 15, 16, 22, 25, 26, 32

Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol,

Uchelgeisiol a Synhwyrol


AS4 Sicrhau bod egwyddorion cyfle cyfartal a chynhwysiant cymdeithasol yn cael eu cynnal trwy hyrwyddo mynediad at gymysgedd amrywiol o wasanaethau cyhoeddus, gofal iechyd, siopau, cyfleusterau hamdden a chyfleoedd gwaith o ansawdd uchel, yn ogystal â chanol trefi bywiog.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

2, 3, 9, 11, 14,16,18, 22, 25, 26, 32

Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol,

Uchelgeisiol a Synhwyrol

Cysylltiadau Cryf – Pobl, lleoedd a sefydliadau wedi'u cysylltu'n gryf sy'n gallu addasu i newid

AS6 Sicrhau bod egwyddorion cynaliadwyedd gofodol yn cael eu cynnal trwy gyfeirio datblygiadau at leoliadau cynaliadwy sydd â mynediad at wasanaethau a chyfleusterau a, lle bynnag y bo modd, annog ailddefnyddio tir sydd wedi cael ei ddatblygu yn y gorffennol.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

5, 7, 13, 22, 23, 26, 32

Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol,

Uchelgeisiol a Synhwyrol

AS7 Gwneud cyfraniad sylweddol tuag at fynd i'r afael ag achos y newid yn yr hinsawdd ac addasu i'w effaith, gan gynnwys hyrwyddo defnydd effeithlon a diogelu adnoddau.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

5, 7, 13, 24, 26, 32, 33

Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol,

Uchelgeisiol a Synhwyrol

AS8 Cyfrannu at y gwaith o ddarparu system drafnidiaeth hygyrch, integredig a chynaliadwy, gan gynnwys cysylltiadau â dulliau trafnidiaeth amgen.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

22, 23, 24, 26, 32

Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol,

Uchelgeisiol a Synhwyrol

Pobl a Llefydd Llewyrchus – Mwyhau'r cyfleoedd i bobl a llefydd yn rhannau trefol a gwledig ein sir

AS9 Diogelu a gwella cymeriad amrywiol, gwahanolrwydd, diogelwch a bywiogrwydd cymunedau'r sir trwy hyrwyddo dull sy'n seiliedig ar greu lleoedd ac ymdeimlad o le.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

8, 26, 28, 31, 32

Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol,

Uchelgeisiol a Synhwyrol

AS10 Darparu cymysgedd priodol o dai o ansawdd uchel ledled y sir ar sail egwyddorion datblygu cymdeithasol-economaidd cynaliadwy a chyfle cyfartal.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

3, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 26, 28, 29, 32

Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol,

Uchelgeisiol a Synhwyrol

AS11 Cynorthwyo yn y gwaith o ddiogelu, gwella a hyrwyddo'r Gymraeg a hunaniaeth ddiwylliannol, asedau a gwead cymdeithasol unigryw'r sir.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

3, 17, 18, 20, 26, 28, 29, 31, 32

Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol,

Uchelgeisiol a Synhwyrol

AS12 Annog buddsoddi ac arloesedd mewn ardaloedd gwledig a threfol trwy wneud darpariaeth ddigonol i ddiwallu anghenion cyflogaeth a chyfrannu at gyflawni Bargen Ddinesig Bae Abertawe ar lefel ranbarthol.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

1, 2, 3, 4, 15, 16, 23, 25, 26, 32

Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol,

Uchelgeisiol a Synhwyrol

AS13 Gwneud darpariaeth ar gyfer mentrau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth sy'n gynaliadwy ac o ansawdd uchel trwy gydol y flwyddyn.

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

4, 25, 26, 32

Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol,

Uchelgeisiol a Synhwyrol

AS14 Adlewyrchu'r gofynion sy'n gysylltiedig â'r gwaith o gyflawni datblygiadau newydd, mewn perthynas â seilwaith caled a meddal (gan gynnwys band eang).

Y materion Cynllun Datblygu Lleol sy'n cael sylw

23, 24, 25, 26, 32

Cyflawnadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol a Phenodol,

Uchelgeisiol a Synhwyrol

Tabl 2

output

Ffigur 3


[18] Paragraff 8.2.1.2 o Lawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol Llywodraeth Cymru – Rhifyn 2

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig