Strategaeth a Ffefrir
1. Cyflwyniad
1.1 Mae'r cyngor yn gyfrifol am baratoi a chadw'r Cynllun Datblygu Lleol yn gyfredol.[1] Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn trefnu'r polisïau cynllunio, gan ddosbarthu safleoedd ar gyfer mathau gwahanol o ddatblygiad. Mae'r cyngor hefyd yn gyfrifol am reoli datblygiadau, sy'n cynnwys prosesu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio gan ddefnyddio'r Cynllun Datblygu Lleol i arwain a rheoli datblygiad trwy ddarparu'r sail ar gyfer penderfyniadau cyson a chlir. Er mwyn diwallu'r cyfrifoldebau uchod, rydym wrthi'n paratoi Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig. Unwaith y ceir ei fabwysiadau, byddwn yn defnyddio'r Cynllun Datblygu Lleol hwn ar gyfer asesu ceisiadau cynllunio hyd at 2033, ond byddwn yn parhau i fonitro ac adolygu'i gynnwys er mwyn sicrhau ei fod yn parhau'n addas a'i fod yn gweithio yn ôl y disgwyl.
1.2 Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn cael effaith uniongyrchol ac ystyrlon ar bobl a chymunedau Sir Gaerfyrddin ac ymwelwyr hefyd. Bydd yn siapio datblygiadau'r dyfodol yn y sir ynghyd â'i rhinweddau amgylcheddol, gan gael dylanwad economaidd a chymdeithasol arni. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn ymateb i ofynion economi sy'n tyfu ac o bwysigrwydd rhanbarthol, gan ddarparu swyddi, tai, seilwaith a chyfleusterau cymunedol newydd. Bydd y cynllun hefyd yn sicrhau bod llesiant ei gymunedau yn cael ei gynnal, a bod effeithiau'r datblygiad a'r defnydd o dir yn cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy. Bydd yn arwain rhaglenni ariannu a buddsoddi, cynlluniau a strategaethau eraill, cymunedau a thirfeddianwyr wrth ddarparu ar gyfer gwelliant a diogelwch ein hamgylchedd a rhinweddau amgylcheddol. Wrth wneud hyn, mae'n darparu rhywfaint o sicrwydd a hyder ynghylch pa fath o ddatblygiad fydd yn cael ei ganiatáu neu beidio, ac ym mha leoliadau, yn ystod cyfnod y cynllun.
1.3 Mae gan y rhan honno o Sir Gaerfyrddin sy'n gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei chynllun datblygu ei hun.
1.4 Er mwyn sicrhau bod y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadir yn bresennol yn aros yn gyfredol, cynhaliwyd adolygiad ynglŷn â'i gynnwys a chyhoeddwyd y canlyniadau yn yr Adroddiad Adolygu.[2] Er bod yr adolygiad hwn wedi canfod bod nifer o agweddau'r Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig yn gweithredu'n effeithiol, gwnaeth hefyd nodi bod problemau mewn perthynas â rhannau o'r cynllun a'i strategaeth. Dangosodd yr Adroddiad Adolygu nad oedd rhannau o'r strategaeth hon yn cael eu cyflwyno yn ôl y disgwyl a bod angen ystyried lefel a dosbarthiad gofodol twf ymhellach. Daeth i'r casgliad fod angen i ni ddechrau paratoi Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig i gymryd lle'r cynllun a fabwysiadir yn bresennol. Disgwylir y bydd y cynllun diwygiedig, sef Cynllun Datblygu Lleol 2018 – 2033, yn disodli'r cynllun a fabwysiadir yn bresennol ym mis Rhagfyr 2021.
[1] Mae Deddf Cynllunio a Phryniant Gorfodol 2004 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Lleol 2005 yn gosod y fframwaith a chyd-destun cyfreithiol ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu Lleol yng Nghymru.