Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 8 Chwefror 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

9. Twf Strategol ac Opsiynau Gofodol

Opsiynau Twf Strategol

9.1 Er mwyn llywio cyfeiriad twf poblogaeth ac aelwydydd o fewn Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol, mae'r cyngor wedi cynhyrchu Papur Rhagolwg Poblogaeth ac Aelwydydd sy'n amlygu senarios amrywiol ar gyfer opsiynau twf sy'n cael eu harwain gan y boblogaeth a chyflogaeth ar gyfer cyfnod diwygiedig 2018–2033 y Cynllun Datblygu Lleol. Mae pob senario yn cael ei ystyried yn erbyn graddfa gwacter Cyfrifiad 2011, yn ogystal â graddfa gwacter amrywiol y cyfrifir o gofnodion y dreth gyngor Sir Gaerfyrddin, a gyfrifir fel 3.4%.

9.2 Mae'r Papur Rhagolwg Poblogaeth ac Aelwydydd hefyd yn nodi'r cysylltiadau rhwng twf poblogaeth a thwf cyflogaeth amcangyfrifiedig. Cydberthynir hyn gan adnabod sut mae twf y boblogaeth a gwahaniaethau yn y gweithlu a demograffeg yn cynnal cyfleoedd gwaith a thwf economaidd.

Amcanestyniad Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2014

9.3 Ceir man cychwyn ar gyfer dadansoddi canlyniadau twf yn y dyfodol ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2014. Yr amcanestyniadau sy'n seiliedig ar 2014 yw'r rhai diweddaraf sydd ar gael. Maent yn ymgorffori amcangyfrif poblogaeth canol blwyddyn 2014 yr ONS, ynghyd â rhagdybiaethau ffrwythlondeb, marwolaeth a mudo sy'n seiliedig ar gyfnod hanesyddol o bum mlynedd cyn 2014.

9.4 Mae'r amcanestyniadau sy'n seiliedig ar 2014 llawer yn is na'r amcangyfrif a geir ym mhob un o'r amcanestyniadau blaenorol gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn am eu bod yn seiliedig ar gyfnod pum mlynedd lle gwelwyd mewnfudo net is, yn enwedig wrth ystyried effaith y dirwasgiad, ac nid yw maint aelwydydd wedi lleihau mor gyflym a thybiwyd yn flaenorol. Byddai'n gweld twf canran uchel mewn pobl 65+, a fyddai'n darparu her go iawn ar gyfer cyflenwi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol o fewn y sir.

9.5 Gwelwyd graddfa ar gyfer adeiladu tai o fewn Sir Gaerfyrddin ers 2007 o 493 o dai'r flwyddyn (ar gyfartaledd). Byddai mabwysiadu'r amcanestyniad sy'n seiliedig ar 2014 fel y Strategaeth a Ffefrir yn arwain at lefel twf llawer is, gyda chyfartaledd o 231 o anheddau'r flwyddyn wrth ddefnyddio graddfa gwacter y Cyfrifiad, neu 224 o anheddau'r flwyddyn wrth ddefnyddio'r raddfa gwacter amgen sy'n ofynnol ar gyfer cyfnod diwygiedig 2018–2033 y Cynllun Datblygu Lleol.

9.6 Cydnabyddir bod cyswllt rhwng darparu ar gyfer tai newydd a swyddi newydd. Byddai'r amcanestyniad sy'n seiliedig ar 2014 yn atal cyfleoedd datblygu ar gyfer y sir yn y dyfodol a byddai'n golygu na fyddai'r ymgyrch gorfforaethol ar gyfer twf cyflogaeth newydd yn cael ei bodloni a byddai'n gwrthdaro ag elfennau eraill strategaeth y Cynllun Datblygu Lleol.

9.7 Byddai'r senario hon yn cael effaith sylweddol ar y gweithlu o fewn Sir Gaerfyrddin, gan arwain at all-lif net o weithwyr a thrigolion i ffwrdd o'r sir. Byddai'r senario hon yn amcangyfrif gwerth creu swyddi negyddol o -55 y flwyddyn.

Casgliad

9.8 Byddai defnyddio'r tueddiad hwn ar gyfer twf fel y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn cael effaith anffafriol ar uchelgeisiau strategol y cyngor o safbwynt economaidd a chymdeithasol. Yn ogystal, o ystyried yr effeithiau negyddol posibl a amlygir uchod, nid yw'n cael ei ystyried yn ochelgar i ddefnyddio amcanestyniad Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2014 yn Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.

9.9 Ni fyddai defnyddio'r senario hon yn cyflawni gweledigaeth ac amcanion strategol y cynllun.

Opsiynau Amcanestyniadau Eraill

9.10 Mae'r papur rhagolwg yn amlygu pum opsiwn senario demograffig arall ar gyfer twf poblogaeth ac aelwydydd ar gyfer Sir Gaerfyrddin – gyda phob un yn ystyried ystadegau amrywiol i lywio tueddiad twf posibl o fewn y sir.


Newid 2018–2033

Cyfartaledd fesul blwyddyn

Cyfanswm twf mewn aelwydydd (fersiwn y Cyfrifiad)

Cyfanswm twf mewn aelwydydd (fersiwn amgen)

Senario

Newid i'r boblogaeth

Newid i'r Boblogaeth %

Newid i'r aelwydydd

Newid i'r aelwydydd %

Mudo net

Aneddiadau (fersiwn y Cyfrifiad)

Aneddiadau (fersiwn amgen)

Twf poblogaeth cyn y dirwasgiad

26,811

14.2%

13,616

16.6%

2,028

969

939

14,529

14,090

Twf poblogaeth hirdymor

17,567

9.4%

9,555

11.7%

1,423

680

659

10,195

9,887

Twf poblogaeth deng mlynedd

11,755

6.3%

6,992

8.6%

1,043

497

482

7,461

7,236

Twf poblogaeth tymor byr

10,691

5.7%

6,807

8.4%

997

484

470

7,263

7,044

Llywodraeth Cymru 2014 (ymfudo dros ddeng mlynedd ar gyfartaledd)

10,842

5.8%

6,322

7.7%

921

450

436

6,746

6,542

Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar 2014

3,207

1.7%

3,254

4.0%

546

231

224

3,472

3,367

Tabl 3

Amcanestyniad Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar 2014 (ymfudo deng mlynedd ar gyfartaledd)

9.11 Mae'r amcanestyniad hwn yn defnyddio tybiaethau newid naturiol Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2014 ond mae hefyd yn ystyried y cyfnod ymfudo deng mlynedd rhwng 2003/04 a 2012/13. Mae'r duedd hon yn defnyddio cyfnod ymfudo cyn y dirwasgiad, ac ar ôl y dirwasgiad, a fyddai'n gweld newid poblogaeth ac aelwydydd o 5.8% a 7.7% yn y drefn honno yn ystod cyfnod y cynllun o 2018–2033. Mae'r gofyniad tai o fewn y senario hon (cyfradd gwacter Cyfrifiad 2011) yn cyfateb i 450 o anheddau y flwyddyn, a fyddai'n llai na'r hyn sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin ar sail flynyddol gyfartalog. Mae hyn yn cyfateb i 6,746 o anheddau dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol o 2018–2033. Gan ystyried yr amcanestyniad hwn yn erbyn y gyfradd gwacter amrywiol o 3.4%, mae'r gofyniad anheddau o fewn y senario hon yn lleihau i 436 o anheddau y flwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i 6,542 o anheddau dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol o 2018–2033.

9.12 Byddai'r senario hon yn amcangyfrif creu 198 o swyddi ychwanegol y flwyddyn, sy'n llawer llai na'r hyn a ystyrir o fewn Cynllun Adfywio Strategol Sir Gaerfyrddin.

Casgliad

9.13 O ystyried yr effeithiau negyddol posib a amlinellir uchod, nid ystyrir ei fod yn ddoeth defnyddio dwy senario amrywiol amcanestyniad Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2014 (ymfudo deng mlynedd ar gyfartaledd) fel yr opsiwn twf ar gyfer Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig). Ni fyddai'n cyflawni gweledigaeth ac amcanion strategol y cynllun.

9.14 Byddai'r ddwy senario wahanol yn cyfyngu ar uchelgeisiau economaidd Sir Gaerfyrddin o ran creu swyddi a chadw oedolion iau i fyw a gweithio o fewn y sir.

Twf Poblogaeth Tymor Byr

9.15 Mae'r senario twf poblogaeth tymor byr yn defnyddio rhan o ddata amcanestyniad ymfudo Llywodraeth Cymru sy'n seiliedig ar 2014, ond mae hefyd yn defnyddio tair blynedd o ddata hyd at 2016/17. Mae'r senario hon yn cynyddu canran newid poblogaeth ac aelwydydd o'r hyn a oedd yn yr amcanestyniad yn seiliedig ar 2014, ond mae'r all-lif o'r rheini sydd yn y garfan 15–19 oed yn cynyddu. Mae'r duedd twf poblogaeth tymor byr yn cynyddu'r mewnlif ymfudo net o bob oedran o 30+ oed, ond byddai'n dal i weld newid canran poblogaeth negyddol o fewn y carfannau o dan 65 oed.

9.16 Gan ddefnyddio cyfradd gwacter Cyfrifiad 2011, byddai'r senario hon, ar gyfartaledd, yn cyflenwi 484 o anheddau y flwyddyn o fewn y cyfnod Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, neu 470 o anheddau y flwyddyn o dan y gyfradd gwacter amrywiol. Mae hyn yn cyfateb i 7,263 o anheddau a 7,044 o anheddau y flwyddyn dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn y drefn honno. Mae hyn yn sylweddol llai na'r hyn sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn flynyddol yn Sir Gaerfyrddin. Er bod mewnlif net yn y carfannau 30+ oed, byddai'r gyfradd twf yn arafach ac yn cyfyngu ar botensial economaidd yr awdurdod. Mae hyn yn atgyfnerthu rhai o'r problemau y tynnwyd sylw atynt o ran uchelgais economaidd a chael carfannau oedran cytbwys o fewn y sir.

9.17 O ran y cyswllt rhwng newid poblogaeth a chreu swyddi, byddai'r senario hon yn cefnogi creu 126 o swyddi ychwanegol y flwyddyn, ond byddai'n brin o'r targedau a amlinellwyd yng Nghynllun Adfywio Strategol Sir Gaerfyrddin.

Casgliad

9.18 O ystyried yr effeithiau negyddol posibl a amlinellwyd uchod, ni chaiff ei ystyried yn ddoeth defnyddio'r amcanestyniad twf poblogaeth tymor byr fel opsiwn twf ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir. Ni fyddai'n cyflenwi gweledigaeth ac amcanion strategol y cynllun.

Twf Poblogaeth dros Ddeng Mlynedd

9.19 Mae'r amcanestyniad twf poblogaeth dros ddeng mlynedd yn defnyddio tuedd ymfudo'r ddeng mlynedd flaenorol, sy'n ystyried dwy flynedd gyntaf y cyfnod cyn y dirwasgiad, ond mae'r rhan fwyaf o'r data ymfudo ers 2008. Mae'r duedd hon yn cynnig safbwynt ychydig yn fwy optimistaidd na'r hyn a ystyriwyd yn y data ymfudo deng mlynedd o'r amcanestyniad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014, ac mae'n debyg i'r senario twf poblogaeth tymor byr. Mae'r senario hon yn nodi allfudo net y rheini yn y carfannau 15–19 a 25–29 oed, gyda mewnfudo net cymharol yn y carfannau 30+ oed.

9.20 Gan ddefnyddio cyfradd gwacter Cyfrifiad 2011, byddai'r senario hon, ar gyfartaledd, yn darparu 497 o anheddau y flwyddyn o fewn cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig o 2018–2033, gyda'r gyfradd gwacter amrywiol yn amlinellu darpariaeth o 482 o anheddau y flwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i 7,461 o anheddau a 7,236 o anheddau y flwyddyn dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn y drefn honno.

9.21 O ran y cyswllt rhwng newid poblogaeth a chreu swyddi, byddai'r senario hon yn cefnogi creu 178 o swyddi ychwanegol y flwyddyn, ond byddai'n brin o'r targedau a amlinellwyd yng Nghynllun Adfywio Strategol Sir Gaerfyrddin, a dim ond yn cwmpasu'r gofynion swyddi a nodwyd ym Margen Ddinesig Bae Abertawe o fymryn.

Casgliad

9.22 Er bod cyflenwi 497 neu 482 o anheddau y flwyddyn yn debyg i'r hyn a gyflenwyd ers 2007, nid yw'n cynnig yr hyblygrwydd i ddefnyddio'r blynyddoedd hynny pan oedd cyflenwi tai a'r farchnad dai yn fwy bywiog. Ers 2015, mae'r gyfradd cyflenwi tai ar gyfartaledd wedi bod yn 545 o anheddau y flwyddyn a byddai cyfyngu ar y gofyniad tai drwy'r senario hon fel y Strategaeth a Ffefrir yn cyfyngu ar uchelgeisiau economaidd Sir Gaerfyrddin o ran creu swyddi a darparu cyfleoedd i oedolion iau fyw a gweithio o fewn y sir. Ni fyddai'r senario hon yn cyflawni gweledigaeth ac amcanion strategol y cynllun.

Twf Poblogaeth Hirdymor

9.23 O dan y senario twf poblogaeth hirdymor, amcangyfrifir llifau ymfudo net uwch (+1,423 o bobl y flwyddyn ar gyfartaledd), gan arwain at newid poblogaeth (9.4%) a thwf anheddau dilynol o 680 o anheddau y flwyddyn (cyfradd gwacter Cyfrifiad 2011) neu 659 o anheddau y flwyddyn (cyfradd gwacter amrywiol). Mae hyn yn cyfateb i 10,195 o anheddau a 9,887 o anheddau y flwyddyn dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn y drefn honno.

9.24 Mae hyn yn uwch na'r hyn a amcangyfrifwyd o dan y senario twf poblogaeth tymor byr a senario Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar 2014. Tra bo'r senario twf poblogaeth hirdymor yn casglu'r llifau ymfudo net sylweddol uwch dros y cyfnod 2001/02 – 2007/08 yn ei rhagdybiaethau, mae'r ymfudo net sylweddol ac is a gofnodwyd yn 2016/17 yn cael effaith wanychol ar ei rhagdybiaethau ymfudo.

9.25 Mae'r garfan oedran ymfudo net a newid poblogaeth o fewn y senario hon yn dangos rhagolwg llawer mwy cadarnhaol. Mae ymfudo net cadarnhaol ymhob carfan oedran ar wahân i 15–19 oed, ond mae gostyngiad yn y newid poblogaeth rhwng y garfan 25–34 oed a'r garfan 50–59 oed. Byddai'r senario twf poblogaeth hirdymor yn darparu rhagolwg mwy optimistaidd o ran ceisio cyflawni'r targedau a amlinellwyd yng Nghynllun Adfywio Strategol Sir Gaerfyrddin, gyda mwy o gynnydd poblogaeth yn cefnogi creu tua 353 o swyddi ychwanegol y flwyddyn.

Casgliad

9.26 At ei gilydd, byddai defnyddio'r senario hon fel y Strategaeth a Ffefrir yn rhoi rhagolwg cadarnhaol ac yn cynnig darpariaeth briodol ar gyfer cyflenwi tai o fewn y sir. Byddai'n caniatáu'r hyblygrwydd i yrru twf tai cynaliadwy ac yn cefnogi uchelgeisiau economaidd y sir.

9.27 Tra byddai defnyddio senario gyda thwf poblogaeth uwch yn gweld parhad o ran pobl 15–19 oed yn gadael y sir, mae mwy yn dychwelyd o fewn y garfan 20–24, oed sy'n arwain at ragolwg demograffig cytbwys ar gyfer y sir yn y dyfodol.

9.28 Byddai defnyddio'r senario hon yn cynorthwyo o ran cyflawni gweledigaeth ac amcanion strategol y cynllun.

Senario Twf Poblogaeth cyn y Dirwasgiad

9.29 Mae'r senario twf poblogaeth cyn y dirwasgiad yn seiliedig ar gyfraddau ymfudo mewnol a rhagdybiaethau llifau ymfudo rhyngwladol ar gyfer y cyfnod cyn dirwasgiad 2008 (2001/02 – 2007/08), lle y cofnodwyd llifau mewnfudo uwch i Sir Gaerfyrddin. O ganlyniad, mae'r amcangyfrif ymfudo net yn y dyfodol ar ei uchaf o dan y senario twf poblogaeth cyn y dirwasgiad. Gan ddefnyddio cyfradd gwacter Cyfrifiad 2011, byddai'r senario hon, ar gyfartaledd, yn cyflenwi 969 o anheddau y flwyddyn o fewn cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig o 2018–2033, gyda'r gyfradd gwacter amrywiol yn cynnig darpariaeth o 939 o anheddau y flwyddyn. Mae hyn yn cyfateb i 14,529 o anheddau a 14,090 o anheddau dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn y drefn honno.

9.30 Tra byddai defnyddio senario gyda thwf poblogaeth uwch yn gweld parhad o ran pobl 15–19 oed yn gadael y sir, mae mwy yn dychwelyd o fewn y garfan 20–24 oed, sy'n arwain at ragolwg demograffig cytbwys ar gyfer y sir. Byddai newid poblogaeth sylweddol hefyd a fyddai'n gweld cynnydd o 40% yn y garfan 65+ oed, tra byddai 82% o gynnydd yn y garfan 80+ oed.

9.31 Byddai senario twf poblogaeth cyn y dirwasgiadyn darparu rhagolwg cadarnhaol o ran ceisio cyflawni'r targedau a amlinellwyd yng Nghynllun Adfywio Strategol Sir Gaerfyrddin a Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gyda chynnydd poblogaeth uwch yn cefnogi creu tua 632 o swyddi y flwyddyn.

Casgliad

9.32 Byddai defnyddio'r amcanestyniad hwn fel y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn gymesurol â'r strategaeth twf o fewn y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig a fabwysiadwyd. Tra byddai'r senario hon yn uchelgeisiol o ran gyrru dyheadau economaidd, byddai gosod gofyniad twf mor uchel drwy'r senario twf poblogaeth cyn y dirwasgiad yn arwain at strategaeth twf na ellir ei chynnal na'i chyflawni.

9.33 Ni fyddai'r senario hon yn cyflawni gweledigaeth ac amcanion strategol y cynllun.

Senarios wedi'u Harwain gan Gyflogaeth – Cyfradd Gymudo Sefydlog a Chyfradd Gymudo Ostyngol

9.34 Mae'r Papur Rhagolwg Poblogaeth ac Aelwydydd yn nodi dwy senario wedi'u harwain gan gyflogaeth fel sail ar gyfer ystyried twf poblogaeth o fewn y sir. Daw'r gofynion meincnodi swyddi o Astudiaeth Cyflogaeth Sectorol Sir Gaerfyrddin, sy'n nodi, er mwyn mwyafu gallu economaidd y sir, y byddai angen creu 1,245 o swyddi y flwyddyn mewn naw sector â blaenoriaeth.[19]

9.35 Er mwyn cyflawni'r targed o 1,245 o swyddi y flwyddyn a nodwyd yn yr Astudiaeth Cyflogaeth Sectorol, byddai angen i dwf poblogaeth o fewn y sir fod yn sylweddol. Byddai angen i'r twf poblogaeth o fewn y senarios cyfradd gymudo sefydlog a chyfradd gymudo ostyngol gyfateb i 42,050 a 36,481 o unigolion yn y drefn honno. Gan drosglwyddo hyn i'r nifer o anheddau a fyddai'n ofynnol yn ystod cyfnod y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, byddai hyn yn cyfateb i 1,354 a 1,196 o anheddau y flwyddyn gan ddefnyddio cyfradd gwacter amrywiol Cyfrifiad 2011. Byddai hyn yn cyfateb i 20,303 a 17,938 o anheddau dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.

9.36 Gan ddefnyddio'r gyfradd gwacter o 3.4%, byddai hyn yn cyfateb i'r senario cyfradd gymudo sefydlog, sy'n nodi 1,313 o anheddau y flwyddyn, neu 19,690 o anheddau dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, tra bo'r senario cyfradd gymudo ostyngol yn nodi 1,160 o anheddau y flwyddyn neu 17,396 o anheddau y flwyddyn dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.

Casgliad

9.37 Byddai defnyddio'r senarios wedi'u harwain gan gyflogaeth fel y Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig a'r gofyniad twf uchel a amlinellir oddi mewn iddo yn arwain at strategaeth twf na ellir ei chyflawni na'i chynnal ar gyfer y sir. Y gofyniad twf tai a nodwyd yn y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd yw 1,013 o anheddau y flwyddyn, ac un o'r rhesymau dros gynnal adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol oedd er mwyn ailystyried y gofyniad tai hwn am nad oedd y targedau twf tai yn cael eu cyflawni.

9.38 Tra byddai'r senarios hyn yn uchelgeisiol o ran gyrru dyheadau economaidd, byddai gosod gofyniad twf mor uchel yn arwain at strategaeth twf na ellir ei chyflawni na'i chynnal.

9.39 Ni fyddai'r senario hon yn cyflawni gweledigaeth ac amcanion strategol y cynllun.

Adnabod yr Opsiwn Twf Strategol a Ffefrir

9.40 Mae adnabod yr opsiwn twf strategol a ffefrir wedi deillio o ystyried yr amcanestyniadau poblogaeth ac aelwydydd uchod, o ganlyniad i ymgysylltu cyn adneuo, a'r angen i gael canlyniad cytbwys, gan gynnwys strategaethau a chynlluniau eraill megis, ond heb eu cyfyngu i, y rhai a ganlyn:

  • Llywodraeth Cymru – Polisi Cynllunio Cymru
  • Cynllun Adfywio Strategol y Cyngor 2015 – 2030 – Trawsnewidiadau
  • Bargen Ddinesig Bae Abertawe
  • Strategaeth Gorfforaethol Newydd y Cyngor 2018 – 2023
  • Cynllun Llesiant Sir Gâr: y Sir Gâr a Garem 2018 – 2033
  • Amcanion Llesiant y Cyngor
  • Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy y Cyngor
  • Asesiad o'r Farchnad Dai Leol[20]a

Dogfen y cyngor 'Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf

9.41 Cynigir defnyddio'r senario twf poblogaeth hirdymor a defnyddio'r gyfradd gwacter amgen o 3.4% i danategu gofynion twf yn y dyfodol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig hwn. Mae'r senario hon yn rhoi amcanestyniad o gynnydd poblogaeth cyffredinol o 17,567 (9.4%), gyda'r gofyniad ar gyfer 9,887 o gartrefi newydd dros gyfnod y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig o 2018-2033. Mae hyn yn cyfateb i 659 o gartrefi newydd y flwyddyn. Bydd y senario hon yn cynorthwyo cyflawni Bargen Ddinesig Bae Abertawe a Strategaeth Gorfforaethol ac amcanion adfywio a chreu swyddi y cyngor.

9.42 Byddai defnyddio'r opsiwn hwn a ffefrir yn gwneud cynnydd cadarnhaol o ran uchelgeisiau'r cyngor ar gyfer cyflenwi tai fforddiadwy ar draws y sir.

9.43 Bydd y Strategaeth a Ffefrir drwy'r opsiwn twf hwn yn ceisio cefnogi cyflenwi isafswm o 5,295 o swyddi ychwanegol dros gyfnod y cynllun.

Opsiynau Gofodol

9.44 Mae'r canlynol yn amlinellu nifer o opsiynau gofodol posibl a nodwyd i lywio dethol ein fframwaith gofodol yn y dyfodol a sut y gallai twf yn y dyfodol yna gael ei ddosbarthu ar draws y sir ar gyfer cyfnod y cynllun.

9.45 Mae ystyried yr opsiynau strategol yn rhan bwysig o baratoi Cynllun Datblygu Lleol ac mae'n ofyniad ar gyfer y broses arfarniad o gynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol.

9.46 Mae pob opsiwn gofodol wedi bod yn destun ymgysylltu er mwyn asesu a gwerthuso ei briodoldeb gyda nod o sefydlu neu ddatblygu opsiwn a ffefrir. Mae eu cynnwys yn adlewyrchu'r angen i ystyried deddfwriaeth, polisi cynllunio cenedlaethol a strategaethau lleol a rhanbarthol wrth gydnabod nodweddion, asedau a materion sy'n gyffredin yn Sir Gaerfyrddin ac yn ffurfio dull gweithredu strategol sy'n cyflawni'r weledigaeth ac yn hyrwyddo a llywio datblygiad ar gyfer y sir.

9.47 Yn ystod datblygu'r opsiynau, rhoddwyd ystyriaeth hefyd i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r amcanion llesiant a ddatblygwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin a'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.

9.48 Dylid nodi bod creu opsiynau yn rhan bwysig o'r Gyfarwyddeb Asesiad Amgylcheddol Strategol. Cafodd yr opsiynau strategol eu hasesu yn ôl yr arfarniad o gynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol o fewn Adroddiad Cychwynnol yr Arfarniad o Gynaliadwyedd - Asesiad Amgylcheddol Strategol. Mae hyn yn ffurfio elfen bwysig yn y broses o ddethol yr opsiwn strategol mwyaf priodol ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

9.49 Mae'r opsiynau a nodwyd yn tybio y byddai datblygu tai heb gyfleoedd cyflogaeth yn yr un lleoliad yn fras, ac i'r gwrthwyneb, yn llai cynaliadwy ac y dylid eu hosgoi. Yn debyg, mae angen i welliannau seilwaith gael eu halinio gyda datblygiadau newydd, gan gynnwys gwelliannau i rwydweithiau trafnidiaeth, cyfleustodau, seilwaith gwyrdd, iechyd, addysg a chyfleusterau cymdeithasol. O ganlyniad, mae'r ymadrodd 'datblygiad' yn cael ei ddefnyddio yn yr opsiynau gofodol ar gyfer twf er mwyn cyfeirio at y cydbwysedd o dai, cyfleoedd cyflogaeth a'r seilwaith cysylltiedig.

9.50 Nid oes yr un opsiwn o reidrwydd yn cael ei ystyried fel yr un a ffefrir wrth baratoi a thrafod ac mae lle a hyblygrwydd i'r opsiynau hyn gael eu haddasu er mwyn ystyried ffactorau ychwanegol. Cydnabyddir y gallai'r opsiwn a ffefrir gyfuno elfennau o fwy nag un opsiwn.

9.51 Mae'r tablau isod yn rhoi esboniad o bob un o'r opsiynau gofodol wrth iddynt gael eu hystyried. Dilynir hyn gan opsiwn gofodol a ffefrir ar gyfer ei ystyried fel rhan o'r Strategaeth a Ffefrir hon.

Opsiwn 1 – Cynllun Datblygu Lleol Cyfredol

Disgrifiad

Defnyddio'r hierarchaeth aneddiadau er mwyn caniatáu ar gyfer dosbarthiad cymesurol o ddatblygiadau yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd.

Mynegiad Gofodol / Aneddiadau a Effeithir

Mae'r opsiwn hwn yn seiliedig ar yr hierarchaeth aneddiadau pedair haen.

Crynodeb o'r Asesiad

Mae'r opsiwn hwn yn canolbwyntio twf yn gymesurol ar draws hierarchaeth sydd wedi'i thanategu gan egwyddorion cynaliadwyedd. Drwy wneud hyn, mae'r opsiwn hwn:

  • Yn annog gwasgariad cyflogaeth, tai a mathau eraill o ddatblygiad i aneddiadau a grwpiau neu glystyrau o bentrefi a nodwyd mewn ffordd sy'n adlewyrchu eu graddfa, poblogaeth ac argaeledd cyfleusterau a gwasanaethau presennol.
  • Yn adlewyrchu amrywiaeth y sir ac mae twf yn cael ei ddosrannu yn briodol i ardaloedd trefol a gwledig.
  • Yn canolbwyntio mwyafrif y twf cyflogaeth yn y trefi a'r pentrefi mwyaf.

Pethau Cadarnhaol

  • Yn lleihau'r nifer o deithiau a phellteroedd teithiau.
  • Yn adlewyrchu'r ddarpariaeth gyfredol ac argaeledd cyfleusterau.
  • O fantais i gynhwysiant cymdeithasol drwy fynediad at drafnidiaeth, gwasanaethau a chyfleusterau.
  • Dosbarthiad twf cymesur, gan adlewyrchu'r dosbarthiad poblogaeth cyfredol.
  • Ar y cyfan, mae'n gyson â pholisïau cynllunio cenedlaethol cyfredol a datblygol.

Pethau Negyddol

  • Nid yw'n ystyried y galw ar y farchnad yn ddigonol.
  • Nid yw'r dyraniadau tai newydd a gafodd eu dosrannu cyn hyn i ail a thrydydd haenau'r hierarchaeth aneddiadau wedi cyflenwi yn unol â strategaeth y cynllun.
  • Nid yw'n adlewyrchu'n llawn rôl yr aneddiadau yn eu cyd-destun ehangach.
  • Mae'n gosod pwysau ar gymunedau yn yr ardaloedd hynny sydd yn hanesyddol wedi derbyn y datblygiadau mwyaf.
  • Nid yw'n rhoi hyblygrwydd a chyfleoedd ar gyfer datblygu gwledig ar raddfa fach.

Casgliadau

Mae'r opsiwn hwn yn cynrychioli parhad o'r strategaeth Cynllun Datblygu Lleol bresennol ac felly mae cyfeiriad at ganlyniadau'r adroddiad monitro ac adolygu blynyddol. Tra bo'r ddau yn nodi llwyddiannau wrth weithredu'r strategaeth, maent hefyd yn nodi gwendidau o ran cyflawni twf mewn agweddau o'r hierarchaeth aneddiadau.

Cydnabyddir y bu elfennau o'r strategaeth yn llwyddiannus, ond mae hefyd yn glir y gallai fod angen adolygiad a dull gweithredu diwygiedig i fynd i'r afael nid yn unig â'r gwendidau ond hefyd y newidiadau cyd-destunol.

Opsiwn 2 – Opsiwn Seilwaith a Rhwydwaith Trafnidiaeth

Disgrifiad

Yn seilio'r mwyafrif o'r twf yn yr ardaloedd sydd gerllaw'r prif rwydwaith priffyrdd a rheilffyrdd lle mae seilwaith ar gael i gefnogi'r datblygiad arfaethedig.

Mynegiad Gofodol / Aneddiadau a Effeithir

Mae'r opsiwn hwn yn nodi aneddiadau a choridorau allweddol ar hyd y prif lwybrau ac ardaloedd trafnidiaeth lle y mae seilwaith mewn lle neu y cynllunnir iddo fod mewn lle er mwyn cynnwys y lefelau twf gofynnol.

Crynodeb o'r Asesiad

Mae'r opsiwn hwn yn edrych ar ddarpariaeth bresennol y seilwaith cyfleustodau a'r rhwydwaith priffyrdd ar draws y sir ac mae'n anelu at ganolbwyntio'r rhan fwyaf o dwf mewn ardaloedd sydd â'r capasiti ar gyfer twf. Mae'r opsiwn hwn yn ceisio annog twf yn yr ardaloedd lle y gellir ei gynnwys yn ddichonadwy drwy:

  • Annog twf ar hyd llwybrau a chyffyrdd trafnidiaeth allweddol yr M4, A40, A48, A484, A474 ac A485 yn ogystal â lleoliadau eraill sy'n hygyrch i ddulliau trafnidiaeth eraill, gan gynnwys y rhwydwaith rheilffyrdd, y rhwydwaith beicio a chysylltiadau i gerddwyr.
  • Annog twf mewn ardaloedd lle mae naill ai capasiti cyfredol neu gapasiti a gynllunnir ar gyfer cyflenwi a thrin dŵr a dŵr gwastraff.
  • Annog twf mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau a chyfleusterau digonol i gefnogi'r cymunedau.

Pethau Cadarnhaol

  • Argaeledd y seilwaith priffyrdd.
  • Mae'r rhwydwaith priffyrdd wedi'i halinio'n agos â'r prif ardaloedd trefol yn y sir.
  • Mae cysylltiadau cyfleus i aneddiadau trawsffiniol.
  • Yn canolbwyntio adnoddau a chyllid i ganolfannau a choridorau penodedig, gan alluogi datblygu yn yr ardaloedd hynny.
  • Yn canolbwyntio twf mewn ardaloedd sydd â seilwaith trafnidiaeth da, gan felly cyflenwi patrwm twf cynaliadwy.
  • Yn canolbwyntio twf ar drefi, trefi marchnad a phentrefi mwyaf y sir yn ogystal â'r ardaloedd twf a nodwyd yn flaenorol.
  • Mae argaeledd seilwaith yn rhoi lefel o sicrwydd i ddatblygwyr o ran y costau a'r amserlenni ar gyfer cyflenwi safleoedd dynodedig.
  • Gallai'r strategaeth hon fod yn ymatebol i leoliad newidiol darpariaeth gofal iechyd yn y sir drwy annog twf mewn ardal darpariaeth gofal iechyd newydd.
  • Bydd argaeledd seilwaith yn gofyn am lai o liniaru o ran effeithiau datblygu a thwf.

Pethau Negyddol

  • Efallai na fydd yn diwallu anghenion tai a chyflogaeth rhai cymunedau oherwydd mai'r prif hysbysydd ar gyfer y strategaeth fyddai'r ddarpariaeth a chapasiti seilwaith.
  • Gallai problemau capasiti priffyrdd gyfyngu ar gyflawni'r strategaeth yn y lleoliadau penodedig.
  • Gallai gael ei lywio a'i gyfyngu gan fuddsoddiad seilwaith yn hytrach na llywio a gyrru'r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddiad mewn seilwaith.
  • Gallai fod diffyg ar gyfer delio â phroblemau capasiti seilwaith a phriffyrdd anrhagweledig.
  • Gallai roi pwysau ar yr amgylchedd naturiol, yn arbennig mewn ardaloedd sydd wedi derbyn y mwyaf o ddatblygiad yn hanesyddol.
  • Efallai na fydd darpariaeth ac argaeledd seilwaith yn alinio ag anghenion cymunedau lleol a'r hyn mae'r farchnad yn galw amdano.
  • Efallai na fydd yn adlewyrchu egwyddorion cynaliadwyedd.
  • Nid yw'n ystyried lle mae angen cyfleoedd tai a chyflogaeth.
  • Mae'n canolbwyntio ar goridorau a phrin yw'r ystyriaeth ar gyfer y patrwm aneddiadau presennol.
  • Nid yw'n darparu ar gyfer cyfleoedd twf mewn aneddiadau gwledig.

Casgliadau

Mae'r opsiwn hwn yn cysylltu twf a'r strategaeth aneddiadau yn uniongyrchol ag argaeledd y seilwaith. Er y byddai hyn yn cyfyngu ar y potensial ar gyfer twf mewn ardaloedd gwledig, cydnabyddir bod y berthynas rhwng datblygiad a'r ddarpariaeth seilwaith briodol yn elfen sy'n angenrheidiol fel rhan o unrhyw opsiwn a gaiff ei ddethol.

Opsiwn 3 – Opsiwn Gwasgariad

Disgrifiad

Dim sail resymegol neu strwythur ar gyfer dosbarthu twf; byddai datblygu yn cael ei wasgaru ar draws y sir.

Mynegiad Gofodol / Aneddiadau a Effeithir

Gallai'r holl aneddiadau gael eu heffeithio yn gyfartal o dan yr opsiwn hwn am nad oes unrhyw strategaeth i nodi dosbarthiad twf. Fodd bynnag, byddai hyn yn debygol o arwain at lefelau twf sydd ar lefel gymharol gyfartal ar draws aneddiadau'r sir.

Crynodeb o'r Asesiad

Mae'r opsiwn hwn yn dosbarthu tai, cyflogaeth a ffurfiau datblygu eraill ar sail eang rhwng aneddiadau o fewn y sir, yn drefol ac yn wledig. Mae hefyd yn caniatáu i aneddiadau dyfu'n raddol heb o reidrwydd ystyried argaeledd gwasanaethau neu gyfleusterau na'r effaith y gallai twf ei chael ar y cymunedau presennol a'u capasiti i gynnwys ac amsugno twf.

O'i gymharu â'r strategaeth ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadir ar hyn o bryd, byddai'r opsiwn hwn yn gweld cyfran uwch o dwf y sir yn cael ei chyfeirio at yr ardaloedd gwledig a chyfran llai i'r ardaloedd trefol presennol.

Pethau Cadarnhaol

  • Mae'n lliniaru pwysau datblygu ar ardaloedd trefol drwy annog datblygiad newydd tuag at bentrefi a chanolfannau gwledig.
  • Mae aneddiadau gwledig sy'n tyfu yn gallu cynnal gwasanaethau a chyfleusterau yn well.
  • Gallai datblygiadau preswyl ar raddfa fwy ddarparu cyfleoedd ychwanegol ar gyfer tai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.
  • Mae twf gwasgaredig yn caniatáu hyblygrwydd i ymateb i gyfyngiadau sy'n benodol i ardal drwy wasgaru datblygiad ar draws mwy o leoliadau.
  • Mae'n ymateb i anghenion datblygu cymunedau trefol a gwledig.

Pethau Negyddol

  • Nid yw'n ystyried anghenion yr ardaloedd.
  • Angen rhyddhau tir maes glas.
  • Gallai twf aneddiadau mewn ardaloedd sensitif fod yn niweidiol.
  • Byddai diffyg hygyrchedd at drafnidiaeth gyhoeddus yn arwain at gynnydd yn y nifer o deithiau car a'u hyd.
  • Mae lefelau uchel o fuddsoddiad o ran seilwaith, gwasanaethau a chyfleusterau yn ofynnol.
  • Gallai gyfrannu at allgau cymdeithasol yn sgil cynnydd mewn costau ynni a theithio.
  • Nid yw'n ystyried y galw ar y farchnad.
  • Mae'n annhebygol o gyfateb i egwyddorion cynaliadwyedd a'r polisi cynllunio cenedlaethol.
  • Gallai o bosib effeithio ar gymeriad a diwylliant ardaloedd gwledig.
  • Gallai effeithio ar gyflenwi gwasanaethau drwy batrwm datblygu anghynaliadwy.

Casgliadau

Mae hwn yn cynrychioli opsiwn sy'n anghynaliadwy ar y cyfan ac yn opsiwn na ellir ei gyflenwi - ac yn un a fyddai o ganlyniad yn annhebygol o fodloni'r mesurau angenrheidiol fel rhan o'r broses arfarniad o gynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol. Fodd bynnag, mae'r opsiwn hwn drwy ei ddull cyffredinol o ddosbarthu twf yn canolbwyntio twf ychwanegol mewn ardaloedd gwledig.

Cydnabyddir y bydd angen i'r opsiwn a ffefrir a gaiff ei ddethol roi ystyried priodol i ystyriaethau gwledig.

Opsiwn 4 – Opsiwn wedi'i Arwain gan y Gymuned

Disgrifiad

Byddai datblygiad yn cael ei wasgaru o fewn ardaloedd cymunedol mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r rôl mae aneddiadau yn ei chwarae o fewn yr ardaloedd hynny a'r ardal ddaearyddol ehangach.

Mynegiad Gofodol / Aneddiadau a Effeithir

Byddai mwyafrif y twf yn canolbwyntio ar y tair ardal ganlynol: Caerfyrddin a'r ardal gyfagos, ardal arfordirol Llanelli, ac ardal Rhydaman / Cross Hands.

Crynodeb o'r Asesiad

Mae'r opsiwn hwn yn canolbwyntio ar rôl aneddiadau o fewn eu cymdogaeth a'u cymuned ehangach, gan gydnabod y perthnasau a'r rhyngddibyniaeth rhwng aneddiadau, ac yn ystyried sut mae'r cymunedau lleol yn byw a gweithio.

Bydd yr opsiwn hwn yn annog twf yn yr ardaloedd hynny sydd yn chwarae rôl sylweddol yn y gymuned ehangach; mae hyn yn debygol o fod drwy ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau yn hytrach na graddfa bresennol yr anheddiad neu'r niferoedd poblogaeth presennol. Byddai'r opsiwn hwn hefyd yn ceisio adlewyrchu anghenion cymunedau, gan gynnwys eu galw ar gyfer tai. Mae hyn yn cydnabod nodweddion unigol pob anheddiad ac mae'n ceisio adnabod y rôl mae aneddiadau yn ei chwarae o fewn eu cymdogaeth a ledled y sir.

Dylai'r opsiwn hwn adlewyrchu dealltwriaeth o anghenion cymunedau lleol a chanolbwyntio twf mewn ardaloedd lle mae'n angenrheidiol i gefnogi cymunedau a'u dyheadau ar gyfer twf yn y dyfodol a chynaliadwyedd parhaus cyfleusterau a gwasanaethau. Mae hyn yn debygol o arwain at ddyrannu safleoedd llai a chyfeirio cyfran uwch o dwf tuag at aneddiadau llai.

Pethau Cadarnhaol

  • Mae'n darparu cydbwysedd rhwng ardaloedd trefol a gwledig cyferbyniol y sir, sy'n adlewyrchu egwyddorion cynaliadwyedd.
  • Byddai twf wedi'i ddosrannu yn adlewyrchu'r rôl mae aneddiadau yn ei chwarae o fewn eu cymunedau.
  • Mae'n cefnogi'r defnydd parhaus o gyfleusterau a gwasanaethau cymunedol mewn ardaloedd gwledig a threfol.
  • Mae'n rhoi'r potensial i gefnogi cadw pobl iau o fewn yr anheddiad.
  • Gallai arwain at fwy o gyfleoedd buddsoddi mewn ardaloedd gwledig.
  • Gallai ganiatáu ar gyfer dull gweithredu hyblyg i dwf ar raddfa fach mewn cymunedau gwledig.
  • Mae'n rhoi'r potensial i ddosrannu twf mewn ffordd sy'n cydnabod a pharchu nodweddion aneddiadau.
  • Gallai gyfrannu at gynhwysiant cymdeithasol mewn ardaloedd gwledig drwy annog twf a buddsoddiad mewn gwasanaethau a chyfleusterau, gan fyfyrio ar a gorfodi rôl canolfannau trefol presennol, lle y bo'n briodol.

Pethau Negyddol

  • Gallai arwain at ddatblygiad mewn lleoliadau sy'n amgylcheddol anghynaliadwy.
  • Gallai arwain at dwf anghymesur mewn ardaloedd gwledig.
  • Gallai datblygiad mewn ardaloedd gwledig greu teithiau car sylweddol a fyddai'n groes i egwyddorion cynaliadwyedd.
  • Nid yw'n glir a fyddai twf a ddyrennir i rai aneddiadau o fewn ardaloedd gwledig, yn arbennig trefi marchnad, yn digwydd o ystyried mai cyfyngedig yw'r twf llwyddiannus a fu o fewn yr ardaloedd hyn yn y gorffennol; gallai hyn beryglu cyflawni'r cynllun.

Casgliadau

Mae'r opsiwn hwn yn ceisio bod yn fwy ymatebol i agweddau unigol y sir a'i chymunedau. Er y byddai ffocws canfyddedig y twf mewn canolfannau sefydledig, mae'n rhoi cyfle i adlewyrchu dosbarthiad ehangach.

Mae adborth yn awgrymu y byddai angen i'r opsiwn fod yn briodol gytbwys i sicrhau bod twf yn cael ei ddosbarthu mewn ffordd briodol y gellir ei chyflawni.

Opsiwn 5 – Opsiwn Dylanwad Dinas Ranbarth Bae Abertawe

Disgrifiad

Mae'n canolbwyntio twf i alinio â'r ardaloedd a nodwyd ar gyfer prosiectau Bargen Ddinesig Bae Abertawe.

Mynegiad Gofodol / Aneddiadau a Effeithir

Byddai'r rhan fwyaf o'r twf yn canolbwyntio ar ardaloedd Llanelli a Chaerfyrddin gyda'r rheini sydd yn yr ardaloedd cyfagos hefyd yn derbyn cyfran o'r twf.

Crynodeb o'r Asesiad

Roedd yr opsiwn hwn yn canolbwyntio ar y prosiectau a'r buddsoddiad a gynlluniwyd fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe ac mae'n sianeli twf i alinio â'r ardaloedd daearyddol hyn. Y prosiectau a gynigir ar gyfer Sir Gaerfyrddin yw:

  • Pentref Gwyddorau Bywyd a Llesiant, Llanelli. Mae'r cyfleuster hwn yn bentref sy'n darparu cyfleusterau a gwasanaethau sy'n hyrwyddo a gwella llesiant. Bwriedir iddo fod yn gyfleuster amlweddog sy'n integreiddio datblygu busnes, addysg, gofal iechyd, hamdden, twristiaeth, cymorth gwell iechyd ac ymchwil yn y gwyddorau bywyd mewn un lleoliad.
  • Yr Egin, Caerfyrddin. Byddai'r cyfleuster hwn yn ganolfan greadigol, ddigidol a chyfryngau newydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae'r opsiwn hwn yn debygol o weld y rhan fwyaf o'r twf yn cael ei ganolbwyntio yng Nghaerfyrddin a Llanelli a'r ardaloedd cyfagos, ond gallai aneddiadau sydd ymhellach i ffwrdd o Gaerfyrddin a Llanelli o bosibl weld twf prin iawn. Gallai ddarparu cyfleoedd ar gyfer buddsoddiadau deilliedig a gweithgareddau sy'n seiliedig ar entrepreneuriaeth drwy adeiladu ar flaenoriaethau'r Fargen Ddinesig.

Pethau Cadarnhaol

  • Mae'n debygol o arwain at greu swyddi sylweddol.
  • Byddai'r ymrwymiad a roddwyd eisoes i fuddsoddiad sylweddol yn y prosiectau hyn yn gwella cyflawnadwyedd yr opsiwn hwn.
  • Byddai datblygiad yn adeiladu ar, ac yn elwa oddi wrth, fuddsoddiad ac adnoddau sylweddol a ganolbwyntiwyd i hwyluso cyflawnadwyedd Bargen Ddinesig Bae Abertawe.
  • Byddai cyfleoedd cyflogaeth a datblygiad preswyl yn y dyfodol yn cael eu halinio'n dda, a ddylai gyfrannu at batrwm datblygu mwy cynaliadwy.
  • Byddai'n caniatáu ar gyfer ystyriaeth barhaus o'r patrwm aneddiadau presennol.

Pethau Negyddol

  • Twf cyfyngedig o bosibl wedi'i ganolbwyntio ar yr ardal ogleddol o'r sir.
  • Mae'n cyfyngu ar ddatblygiad y tu allan i ganolfannau trefol.
  • Mae'n cynyddu'r potensial ar gyfer gor-ddatblygu ardaloedd trefol, gan arwain at ganolbwyntio a 'gorlenwi trefol'.
  • Gallai anghenion datblygu arwain at bwysau ar ardaloedd gwyrdd trefol.
  • Mae'n gosod pwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus trefol.
  • Byddai'n cyfyngu ar gynigion o fewn ardaloedd gwledig gydag effeithiau posibl ar ddarpariaeth gwasanaethau lleol a lefel y boblogaeth.
  • Byddai'r ardaloedd sydd ymhelaf o'r ardaloedd prosiect yn debygol o ddibynnu ar ddarpariaeth a chyflymder band eang er mwyn elwa ar fuddsoddiad yn yr ardaloedd hyn.

Casgliadau

Mae'r opsiwn hwn yn cofleidio, ac yn cael ei lywio, gan y cyfleoedd a gyflwynwyd drwy'r Fargen Ddinesig. Mae'n canolbwyntio ar leoliadau'r ddau brif brosiect o fewn Sir Gaerfyrddin ac felly byddai'n llai cynhwysol ar gyfer gweddill y sir.

Fodd bynnag, dylid cydnabod bod adlewyrchu potensial y Fargen Ddinesig i effeithio newid gwirioneddol yn hanfodol ar gyfer unrhyw opsiwn a ffefrir.

Opsiwn 6 – Opsiwn wedi'i Arwain gan y Farchnad

Disgrifiad

Yn canolbwyntio twf yn yr ardaloedd sydd wedi profi'n fwyaf poblogaidd gyda'r farchnad dai dros y blynyddoedd diweddar.

Mynegiad Gofodol / Aneddiadau a Effeithir

Byddai twf yn cael ei ganolbwyntio ar haen uchaf yr hierarchaeth aneddiadau sydd gan y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd, sy'n cynnwys ardaloedd Caerfyrddin, Llanelli, Rhydaman a Cross Hands.

Crynodeb o'r Asesiad

Bydd yr opsiwn hwn yn anelu at ddiwallu anghenion a dyheadau'r diwydiant datblygu drwy nodi safleoedd ac ardaloedd sydd fwyaf atyniadol yn economaidd i'w datblygu. Mae'r opsiwn hwn yn edrych ar lwyddiant marchnad aneddiadau o fewn y sir ers 2008 ac mae'n dosrannu twf yn unol â chyfraddau cyflawni yn y gorffennol.

Mae'r cyfraddau cyflawni yn y gorffennol yn nodi bod y rhan fwyaf o'r twf wedi digwydd yn ardal Llanelli gyda chryn dipyn o ddatblygu hefyd yn cael ei gyfeirio at ardal dwf Caerfyrddin a rhannau o ardal dwf Rhydaman / Cross Hands.

Gallai'r dull gweithredu hwn gael ei ddehongli fel 'cynllunio yn seiliedig ar niferoedd'. Byddai'n ceisio cyfeirio twf yn unol â'r cyfraddau cyflawni uchaf yn y gorffennol a chymhwyso'r duedd hon i nodi'r lleoliad ar gyfer datblygiad yn y dyfodol. Byddai darpariaeth cyflogaeth yn y dyfodol yn adlewyrchu'r defnydd cyfredol o dir cyflogaeth a byddai'n cysylltu'n agos â dosbarthiad tai.

Pethau Cadarnhaol

  • Ffocws ar gyflawni drwy rymoedd y farchnad gyda'r ymglymiad lleiaf gan y sector cyhoeddus.
  • Byddai datblygiadau newydd yn cysylltu'n dda â'r seilwaith trafnidiaeth presennol a'r gwasanaethau a chyfleusterau presennol.
  • Yn debygol o ganiatáu ar gyfer hyfywedd a phroffidioldeb ariannol.
  • Yn darparu cartrefi yn yr ardaloedd sy'n boblogaidd gyda'r mwyafrif ac felly byddai'n perfformio'n dda o ran y cyflenwad o dai a'r galw amdanynt.

Pethau Negyddol

  • O ystyried agosrwydd a hygyrchedd ardal Llanelli i ffin y sir gyda Sir Abertawe, gallai'r opsiwn hwn gynyddu'r cyflenwad o dai i ddiwallu'r galw o'r tu allan i ardal y cynllun.
  • Yn amodol ar dueddiadau'r farchnad ac wedi'i ddylanwadu gan ffyniant a dirwasgiad economaidd.
  • Mae'r opsiwn hwn yn canolbwyntio twf mewn aneddiadau trefol presennol a byddai'n llai tebygol o gydnabod rôl yr ardaloedd gwledig.
  • Gallai gyfrannu at dagfeydd ar hyd y rhwydwaith priffyrdd yn yr ardaloedd a nodwyd ar gyfer cyfran uwch o dwf, yn arbennig yn ardal Llanelli.
  • Efallai na fydd yn ddigon hyblyg i ymateb i newidiadau mewn galw ar y farchnad, yn arbennig mewn ymateb i newidiadau yn y lleoliadau a ffefrir.
  • Byddai'r opsiwn gofodol yn cael ei lywio gan gyfraddau adeiladu yn y gorffennol, ond efallai na fydd hwn yn adlewyrchiad gwirioneddol o'r hyn mae'r farchnad yn galw amdano o ystyried y gallai fod awydd i adeiladu a byw mewn lleoliadau eraill ond gallai cyfyngiadau a hyfywedd ariannol rwystro cyflenwi safleoedd yn y lleoliadau hyn.
  • Mae'n rhoi pwysau ar gymunedau yn yr ardaloedd hynny sydd yn hanesyddol wedi derbyn y datblygiadau mwyaf.
  • Mae'n rhoi pwysau ar ardaloedd gwyrdd yn yr ardaloedd a nodwyd i gynnwys y rhan fwyaf o'r twf.

Casgliadau

Byddai'r opsiwn hwn drwy ei ffocws ar y farchnad, tra bo'n gyflawnadwy mewn dehongliad gor-syml, yn agored i ystyriaethau a chyfyngiadau eraill a byddai'n gwaredu'n sylweddol ar unrhyw ddylanwad lleol. Ni chaiff ei ystyried yn opsiwn cyflawnadwy yn ymarferol ond mae'n cyfeirio'n glir at rôl y farchnad a'r diwydiant datblygu o ran cyfrannu at gynllun cadarn a chyflawnadwy.

Yn anochel, bydd rôl y farchnad yn cyfrannu at ddatblygiad yr opsiwn a ffefrir.


Adnabod yr Opsiwn Gofodol a Ffefrir

9.52 Mae datblygiad yr opsiwn a ffefrir wedi deillio o ystyried yr opsiynau gofodol ac ystyriaethau eraill, gan gynnwys ond heb eu cyfyngu i'r canlynol:

  • amcanion llesiant
  • cynnwys yr adroddiadau monitro blynyddol ac Adroddiad Adolygu
  • y prosesau ymgysylltu, yn arbennig drwy'r Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol

9.53 Drwy ddatblygu'r opsiwn a ffefrir, roedd bob amser derbyniad y byddai amrywiaethau posibl ar yr opsiynau strategol a nodwyd, gan gynnwys opsiwn a fyddai'n ystyried cymysgedd o'r canlyniadau cadarnhaol o nifer o'r opsiynau hynny. Gan ystyried yr uchod, a chan gyfeirio at y materion, amcanion a gweledigaeth a drafodwyd eisoes yn y Strategaeth a Ffefrir, daeth opsiwn hybrid i'r amlwg fel y dull gweithredu mwyaf priodol o ran cyflenwi strategaeth ofodol gytbwys a chynaliadwy ar gyfer yr holl gymunedau ar draws y sir.

9.54 O ganlyniad, daeth yr opsiwn hybrid canlynol i'r amlwg, sy'n adlewyrchu nifer o nodweddion o'r opsiynau a nodwyd uchod. Daw hyn yn rhannol o'r sylwadau a dderbyniwyd fel rhan o'r broses ymgysylltu.

Opsiwn a Ffefrir – Strategaeth Twf Cynaliadwy a Chymuned Gytbwys

9.55 Mae'r opsiwn hybrid hwn yn adeiladu ar y dull gweithredu y tynnwyd sylw ato drwy Opsiwn Strategol 4 – Wedi'i Arwain gan y Gymuned, ond mae'n cael gwared ar y dull gweithredu cyfarwyddol o ran nodi cymeriad ardaloedd o fewn y sir. Fodd bynnag, bydd y strategaeth hon yn cadw dull gweithredu sy'n adlewyrchu rôl a swyddogaeth yr aneddiadau a bydd yn ceisio bod yn ymatebol o ran sut mae'n aseinio twf i ardaloedd trefol a gwledig yn y sir.

  • Bydd yr opsiwn yn cydnabod ac adlewyrchu buddsoddiad a buddiannau economaidd i'r sir a'i chymunedau drwy'r Fargen Ddinesig, a chyfleoedd economaidd eraill.
  • Bydd yn ceisio darparu cyfleoedd i ardaloedd gwledig, gan sicrhau bod amrywiaeth y sir a'i chymunedau yn cael ei chydnabod.
  • Bydd yn cydnabod drwy gyflenwi twf cynaliadwy fod angen iddo gael ei gefnogi gan argaeledd amrediad o seilwaith priodol.
  • Bydd yn cydnabod y dylai twf fod yn gyflawnadwy ac wedi'i deilwra i anghenion y gymuned a galw ar y farchnad.


[19]https://www.sirgar.llyw.cymru/media/1212934/astudiaeth-cyflogaeth-sectorol-2017.pdf

[20] Mae asesiad rhanbarthol o'r farchnad dai leol yn cael ei gynnal, a fydd yn llywio'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig wrth iddo fynd rhagddo drwy'r broses baratoi.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig