Strategaeth a Ffefrir
4. Dylanwadau ar y Cynllun
4.1 Er bod y Cynllun Datblygu Lleol yn chwarae rôl allweddol wrth siapio penderfyniadau a lleoliad a natur datblygiadau o fewn y sir, mae'n cael ei baratoi a'i weithredu o fewn y fframwaith cenedlaethol sydd wedi ei osod gan ddeddfwriaeth a Pholisi Cynllunio Cymru[5] a Nodiadau Cyngor Technegol cysylltiedig.[6]
4.2 Mae'r broses ar gyfer paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol wedi'i gosod o fewn rheoliadau statudol, a chynhwysir arweiniad gweithdrefnol ychwanegol o fewn y Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol fel y'i paratowyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd paratoad a chynnwys y Cynllun Datblygu Lleol yn cael eu hasesu wrth ystyried tri phrawf o gadernid,[7] sef:
- A yw'r cynllun yn ffitio?
- A yw'r cynllun yn briodol?
- A fydd y cynllun yn cyflawni?
4.3 Bydd cam olaf y gwaith o baratoi'r cynllun yn cael ei gyflawni gan yr arolygydd cynllunio (fel y'i penodir gan Lywodraeth Cymru). Bydd yr arolygydd yn archwilio'r Cynllun Datblygu Lleol gan ystyried y tri phrawf hyn er mwyn asesu ei gadarnrwydd. Cyhoeddir canfyddiadau'r archwiliad yn Adroddiad yr Arolygydd, a bydd cynnwys ac argymhellion yr adroddiad hwn yn rhwymedig ar yr awdurdod.
4.4 Wrth i'r cyngor gynllunio ar gyfer y dyfodol, bydd rhaid i ni hefyd weithio gyda, ac ymateb i, bartneriaid amrywiol, asiantaethau eraill, cyrff cyllido a'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau er mwyn llywio, arwain a gweithredu rhaglenni a chynigion. Er bod gan y Cynllun Datblygu Lleol rôl ganolog wrth lywio polisïau, rhaglenni a strategaethau buddsoddi ar draws amrediad o asiantaethau a chyrff yn y dyfodol, bydd hefyd wedi cael ei ddylanwadu gan ac yn adlewyrchu'r rheini sy'n cefnogi'r gwaith o gyflawni ei bolisïau a chynigion.
4.5 Mae nifer o ddogfennau a strategaethau pwysig yn ymwneud â Sir Gaerfyrddin. Lle bo'n briodol, rydym wedi paratoi'r cynllun fel ei fod yn adlewyrchu'r fath ddogfennau a chynlluniau sy'n perthyn i sefydliadau eraill, gan gynnwys ein hawdurdodau cynllunio cyfagos, a pholisïau a strategaethau cenedlaethol a rhanbarthol – a byddwn hefyd yn gwneud hyn yn y dyfodol. Byddwn yn gweithio gyda'n cymdogion ac eraill wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol fel sy'n briodol.
4.6 Cafwyd nifer o newidiadau cyd-destunol sylweddol mewn deddfwriaeth Gymreig ers mabwysiadu'r Cynllun Datblygu Lleol presennol. Mae'r rhain yn cynnwys cyhoeddi Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ond yn fwyaf arwyddocaol, efallai, yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r ddeddf hon yn cynrychioli newid mawr, ac mae'n ofynnol fod y cynllun yn cyfrannu at ei nod o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru wrth weithredu datblygu cynaliadwy. Bydd y cynllun yn ystyried y nodau a'r amcanion llesiant cenedlaethol yn ogystal ag amcanion llesiant y cyngor ei hun[8] yn ei bolisïau a'i gynigion.
4.7 Wrth baratoi ei Strategaeth Gorfforaethol Newydd, cyfunodd y cyngor y cynlluniau canlynol mewn un ddogfen a fydd yn tanategu nifer o agweddau o'r Cynllun Datblygu Lleol wrth symud ymlaen:
- Mae'n disodli Strategaeth Gorfforaethol 2015–20.
- Mae'n ymgorffori ein Hamcanion Gwella fel sy'n ofynnol gan Fesur Llywodraeth Leol 2009.
- Mae'n cynnwys ein Hamcanion Llesiant fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Am y tro cyntaf yng Nghymru, gall pob corff cyhoeddus rhannu a gweithio tuag at yr un weledigaeth ac amcanion, ac mae ein Hamcanion Llesiant wedi'u gosod er mwyn mwyhau ein cyfraniad tuag at y rhain.
- Mae'n cynnwys prosiectau a rhaglenni allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer y pum mlynedd nesaf fel y nodir yn 'Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf'.
4.8 Mae'r Strategaeth a Ffefrir Ddrafft hon hefyd yn adlewyrchu adroddiad cwmpasu'r arfarniad o gynaliadwyedd,[9] gan ystyried yr holl ffactorau perthnasol a gafodd eu nodi yn llawn ac yn ofalus. Wrth barhau â'r broses o baratoi'r cynllun, bydd yr arfarniad o gynaliadwyedd a'r gofynion ar gyfer creu'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn ein cynorthwyo wrth ddatblygu'r Cynllun Datblygu Lleol mewn modd sy'n sicrhau ei fod yn ystyried y gwerthoedd cynaliadwyedd ac amgylcheddol hyn.
4.9 Bydd newidiadau cyd-destunol o'r fath, canfyddiadau'r Adroddiad Adolygu a newidiadau mewn tystiolaeth yn bwysig wrth lywio'r gwaith o baratoi'r cynllun, a'i gyfeiriad strategol trwy'r Strategaeth a Ffefrir Ddrafft hon ond hefyd ei gyfeiriad ar lefel polisi manwl.
4.10 Mae gwaith cysylltu helaeth wedi cael ei wneud – ac yn cael ei wneud o hyd – i greu a chodi ymwybyddiaeth a chyfathrebu ag amrediad eang o sefydliadau ac unigolion. Mae'r wybodaeth, materion a thystiolaeth sy'n codi o gyfathrebiadau o'r fath wedi bod yn amhrisiadwy yn y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, a byddant yn parhau i sicrhau bod y gwaith o baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol mor wybodus a chydsyniol â phosibl.
[7] Er mwyn i Gynllun Datblygu Lleol gael ei fabwysiadu, mae'n rhaid i'r arolygydd sy'n ei archwilio benderfynu ei fod yn 'gadarn' (Adran 64 o
Ddeddf Cynllunio a Phryniant Gorfodol 2004). Nodir profion cadarnrwydd a gwiriadau yn Rhifyn 9 o Bolisi Cynllunio Cymru a Chytundeb Cyflawni'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig sydd wedi'i gymeradwyo.
[8] Diffinnir y 15 amcan llesiant yn Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: Strategaeth Gorfforaethol Newydd y Cyngor 2018 – 2023 (https://www.sirgar.llyw.cymru/media/1214853/strategaeth-gorfforaethol.pdf)