Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 8 Chwefror 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

7. Gweledigaeth ar gyfer 'Un Sir Gâr'

7.1 Mae angen tanategu'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig gyda gweledigaeth a strategaeth gryno a hirdymor. Er mwyn cyflawni hyn, mae gweledigaeth glir wedi'i datblygu sydd wedi'i hadeiladu ar sail consensws. Mae gweledigaeth y Strategaeth a Ffefrir Ddrafft hon yn nodi sut y bwriedir datblygu, newid neu warchod y sir hyd at 2033.[16]

7.2 Mae gweledigaeth y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn ymgorffori'n uniongyrchol y weledigaeth a nodir yn Strategaeth Gorfforaethol y cyngor "Symud Ymlaen yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf 2018–2023".[17] Er nad oes gweledigaeth yng Nghynllun Llesiant Sir Gâr y gellir ei defnyddio'n uniongyrchol, mae gweledigaeth y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn adlewyrchu'i bedwar amcan llesiant, sef (1) Arferion Iach (2) Ymyrraeth Gynnar (3) Cysylltiadau Cadarn a (4) Pobl a Llefydd Llewyrchus.

7.3 Mae testun ategol Amcan Llesiant 4 wedi'i ymgorffori yng ngweledigaeth y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig oherwydd pwyslais yr amcan hwn ar "fwyhau cyfleoedd ar gyfer pobl a llefydd yn rhannau trefol a gwledig ein sir". Mae hyn yn ymateb i'r pwyslais cryf ar gydnabod ardaloedd gwledig o fewn y sgyrsiau a geir ynghylch nodi materion. Mae gweledigaeth y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn cydnabod ac yn dathlu'r ffaith fod ein sir yn gyferbyniol a'i bod yn ysbrydoli ymdeimlad o le.

7.4 Mae ymagwedd "Un Sir Gâr" yn cydnabod yr angen dros gloriannu gofynion a buddiannau sy'n gwrthgyferbynnu ac yn darparu llwyfan ar gyfer consensws a rhannu perchnogaeth y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig. Mae gweledigaeth y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig hefyd yn cydnabod Bargen Ddinesig Bae Abertawe, gan osod y cywair cadarnhaol a digon uchelgeisiol ar gyfer y Strategaeth a Ffefrir Ddrafft hon.

Un Sir Gâr

Bydd Sir Gaerfyrddin yn 2033 yn lle i ddechrau, byw a heneiddio'n dda o fewn amgylchedd iach, diogel a llewyrchus, lle gwerthfawrogir a pharchir ei rhinweddau diwylliannol ac amgylcheddol cyfoethog.

Bydd ganddi gymunedau llewyrchus, cydlynol a chynaliadwy sy'n darparu cyfleoedd, ymyriadau a chysylltiadau ychwanegol ar gyfer pobl, lleoedd a sefydliadau yn ardaloedd gwledig a threfol ein sir.

Bydd ganddi economi gadarn sy'n adlewyrchu'i safle fel ysgogydd hyderus ac uchelgeisiol ar gyfer Rhanbarth Dinesig Bae Abertawe.


[16] Polisi Cynllunio Cymru, Rhifyn 9 (Adran 2.2.1) a Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol Llywodraeth Cymru – Rhifyn 2 – Awst 2015, Adran 6.1.1

[17]https://www.sirgar.llyw.cymru/cartref/cyngor-a-democratiaeth/strategaethau-a-chynlluniau/symud-ymlaen-yn-sir-gaerfyrddin-y-5-mlynedd-nesaf/

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig