Strategaeth a Ffefrir
Rhestr Termau
Adroddiad Adolygu |
Yr adroddiad statudol gofynnol dan adran 69 Deddf 2004 a/neu Reoliad 41 gyda'r nod o ddod i gasgliad ar weithdrefn adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol ac sydd i'w ddilyn yn seiliedig ar asesiad clir o'r hyn a ystyriwyd a'r hyn mae angen ei newid a pham, yn seiliedig ar dystiolaeth. |
Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd |
Dogfen y mae'n ofynnol ei pharatoi fel rhan o'r broses o arfarnu cynaliadwyedd i ddisgrifio ac arfarnu'r effeithiau sylweddol tebygol ar gynaliadwyedd o weithredu'r CDLl, sydd hefyd yn bodloni'r gofyniad am yr Adroddiad Amgylcheddol o dan Reoliadau'r Asesiad Amgylcheddol Strategol. O dan adran 62(6) o'r Ddeddf, mae'n ofynnol i bob Awdurdod Cynllunio Lleol baratoi adroddiad o ganfyddiadau Arfarniad o Gynaliadwyedd y CDLl. Caiff Adroddiad yr Arfarniad o Gynaliadwyedd ei gynhyrchu'n gyntaf yn ystod cam y Strategaeth a Ffefrir (a elwir yn Adroddiad Interim yr Arfarniad o Gynaliadwyedd), yna ymhelaethir arno yn ystod cam y Cynllun Adneuo a chaiff y fersiwn terfynol ei gynhyrchu ochr yn ochr â'r Datganiad Mabwysiadu. |
Adroddiad Monitro Blynyddol |
Bydd yr adroddiad yn asesu i ba raddau y mae polisïau yn y CDLl yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus (Rheoliad 37 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005). |
Amcan/ Amcan Strategol |
Datganiad o'r hyn a fwriedir, gan nodi i ba gyfeiriad y dymunir newid o ran tueddiadau. |
Amwynder |
Elfen neu elfennau cadarnhaol sy'n cyfrannu at gymeriad cyffredinol ardal, neu fwynhad ohoni. Er enghraifft, tir agored, coed, adeiladau hanesyddol a'r cydberthynas rhyngddynt, neu ffactorau llai diriaethol fel llonyddwch. |
Ardal Cadwraeth Arbennig |
Safleoedd o bwysigrwydd cadwraethol rhyngwladol a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru o dan y Gyfarwyddeb Ewropeaidd ar Warchod Cynefinoedd Naturiol a Phlanhigion ac Anifeiliaid Gwyllt. Hefyd mae yna ymgeiswyr Ardal Cadwraeth Arbennig, y dylid eu hystyried, o dan bolisi'r Llywodraeth, yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig llawn wrth ymchwilio i effeithiau defnydd tir. |
Ardaloedd Cadwraeth |
Ardal a ddynodir gan yr awdurdod cynllunio lleol, o dan Ddeddfwriaeth, sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, â chymeriad neu olwg y mae'n ddymunol ei gadw neu ei wella. |
Ardal Gwarchodaeth Arbennig |
Mae Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ar gyfer Adar Gwyllt o dan Gyfarwyddeb y Cyngor Ewropeaidd ar Warchod Adar Gwyllt (79/4C9/EEC) yn darparu ar gyfer gwarchod a rheoli'r holl rywogaethau adar gwyllt sy'n bodoli'n naturiol. |
Ardoll Seilwaith Cymunedol |
Tâl cynllunio yw Ardoll Seilwaith Cymunedol, a gyflwynwyd gan Ddeddf Cynllunio 2008 fel offeryn i awdurdodau lleol helpu i gyflwyno seilwaith i gefnogi datblygu eu hardal. Daeth i rym ar 6 Ebrill 2010 drwy Reoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010. |
Arfarniad o Gynaliadwyedd |
Offeryn ar gyfer arfarnu polisïau a chynigion i sicrhau eu bod yn adlewyrchu amcanion datblygu cynaliadwy (h.y. ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd). O dan Adran 62(6) o'r Ddeddf, mae'n ofynnol i bob Awdurdod Cynllunio Lleol gynnal Arfarniad o Gynaliadwyedd y CDLl. Mae'r math hwn o arfarniad yn ymgorffori'n llawn ofynion Cyfarwyddeb yr Asesiad Amgylcheddol Strategol. |
Asesiad Amgylcheddol Strategol |
Term generig a ddefnyddir yn rhyngwladol i ddisgrifio asesiad amgylcheddol fel y'i cymhwysir at bolisïau, cynlluniau a rhaglenni. O dan Reoliadau'r Asesiad Amgylcheddol Strategol, mae'n ofynnol cynnal "asesiad amgylcheddol ffurfiol o gynlluniau a rhaglenni penodol, gan gynnwys y rhai ym maes cynllunio a defnydd tir". |
Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd |
Y sgrinio a'r asesu priodol o opsiynau sy'n ofynnol dan Ran 6 Pennod 8 Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 (fel y'u diwygiwyd) (y Rheoliadau Cynefinoedd). Proses ailadroddol gydnabyddedig sy'n helpu i benderfynu'r effaith sylweddol debygol ar gynllun neu raglen a (lle y bo'n briodol) asesu effeithiau negyddol ar gyfanrwydd safle Ewropeaidd. Mae angen i awdurdod cymwys ymgymryd â'r asesiad o ran cynlluniau neu brosiectau sy'n debygol o gael effaith sylweddol (yn unigol ac ar y cyd â chynlluniau a phrosiectau eraill) ar 'safle Ewropeaidd' (gweler paragraff 5.1.2 TAN5) neu, fel mater o bolisi, 'safle Ewropeaidd' arfaethedig neu safle Ramsar dan ddarpariaethau Erthygl 6(3) Cyfarwyddeb Ewropeaidd 92/43/ECC (y Gyfarwyddeb Cynefinoedd), Rheoliadau 61 a 102 Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau (fel y'u diwygiwyd) 2010, a Rheoliad 25 Rheoliadau Cadwraeth Forol Alltraeth (Cynefinoedd Naturiol, &c.) 2007. |
Atodol |
Lle bo'r defnydd o'r tir neu'r adeiladau'n wahanol i'r prif ddefnydd ac yn llai pwysig ac yn cael ei ganiatáu oherwydd ei gysylltiad â'r prif ddefnydd. |
Awdurdod Cynllunio Lleol |
Awdurdod cynllunio sy'n gyfrifol am baratoi Cynllun Datblygu Lleol. |
Bioamrywiaeth |
Yr amrywiadau ymysg organebau byw o bob ffynhonnell, gan gynnwys anifeiliaid, planhigion, adar, pryfed a physgod, a'r cynefinoedd maent yn rhan ohonynt. |
Cadernid |
Er mwyn cael ei fabwysiadu, rhaid i Gynllun Datblygu Lleol gael ei nodi'n 'gadarn' gan yr arolygydd archwilio (adran 64 Deddf 2004). Caiff profion a gwiriadau cadernid eu nodi ym Mholisi Cynllunio Cymru. |
Cam Cyn-adneuo |
Yn Llawlyfr y CDLl, cyfeirir ato fel cam Dewisiadau Strategol a Strategaeth a Ffefrir y broses o baratoi'r Cynllun. |
Canllawiau Cynllunio Atodol |
Gwybodaeth atodol mewn perthynas â'r polisïau mewn CDLl. Nid ydynt yn rhan o'r cynllun datblygu ac ni chânt eu harchwilio'n annibynnol ond mae'n rhaid iddynt fod yn gyson â'r cynllun a chyda pholisi cynllunio cenedlaethol. Gallant gael eu datblygu i ystyried agweddau unigol neu thematig ar y cynllun a'r dyraniadau safleoedd, gan gynnwys prif gynlluniau. |
Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol |
Mae cofrestr o safleoedd ymgeisiol yn cael ei pharatoi ar ôl galw am safleoedd ymgeisiol gan yr awdurdod cynllunio lleol. |
Cyflawniadau |
Caniatadau cynllunio ar gyfer datblygiadau sydd wedi'u hadeiladu neu wedi eu rhoi ar waith. |
Cyfuniad |
Cyfuno neu gysylltu ddau anheddiad ar wahân neu wahanol elfennau anheddiad. |
Cymeriad |
Term yn ymwneud ag Ardaloedd Cadwraeth neu Adeiladau Rhestredig, ond hefyd â golwg unrhyw leoliad gwledig neu drefol o ran ei dirwedd neu batrwm y strydoedd a mannau agored, sydd yn aml yn rhoi hunaniaeth unigryw i'r gwahanol fannau. |
Cymuned |
Pobl sy'n byw mewn ardal ddaearyddol a ddiffinnir, neu sy'n rhannu diddordebau eraill ac felly'n ffurfio cymunedau o ddiddordeb. |
Cynefin |
Ardal o ddiddordeb o ran cadwraeth natur. |
Cynllun Cynnwys y Gymuned |
Mae hwn yn nodi cynllun y prosiect a pholisïau'r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer cynnwys cymunedau lleol, gan gynnwys busnesau, wrth baratoi Cynlluniau Datblygu Lleol. Cyflwynir y Cynllun Cynnwys y Gymuned i Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Cytundeb Darparu i'w gytuno. |
Cynllun Datblygu Lleol |
Y cynllun datblygu statudol ofynnol ar gyfer pob ardal awdurdod cynllunio lleol yng Nghymru dan Ran 6 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.Cynllun defnydd tir sy'n destun archwiliad annibynnol, a fydd yn llunio'r cynllun datblygu statudol ar gyfer ardal awdurdod cynllunio at ddibenion y Ddeddf. Dylai gynnwys gweledigaeth, strategaeth, polisïau ardal eang ar gyfer mathau o ddatblygu, dyraniadau tir, a, lle y bo angen, polisïau a chynigion ar gyfer ardaloedd allweddol o newid a diogelu. Rhaid i bolisïau a dyraniadau gael eu dangos yn ddaearyddol ar y Map Cynigion sy'n ffurfio rhan o'r cynllun. |
Cynllun Datblygu Strategol |
Strategol Gwneir darpariaeth o dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 ar gyfer paratoi Cynlluniau Datblygu Strategol yn rhanbarthol. Bydd Cynlluniau Datblygu Strategol yn ystyried y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol gan ymateb i faterion strategol yn rhanbarthol. |
Cynllun Gofodol Cymru |
Cynllun sydd wedi'i baratoi ac wedi'i gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 60 y Ddeddf, sy'n gosod fframwaith strategol i lywio datblygiadau ac ymyriadau polisïau yn y dyfodol, p'un a yw'r rhain yn ymwneud â rheoli cynllunio defnydd tir ffurfiol ai peidio. O dan adran 62(5)(b) y Ddeddf, mae'n rhaid i awdurdod cynllunio lleol ystyried Cynllun Gofodol Cymru wrth baratoi CDLl. |
Cynllun Integredig Sengl |
Yn rhyddhau dyletswyddau statudol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ('Diben a Rennir – Cyflwyno ar y Cyd', LlC 2012), gan gynnwys strategaethau cymunedol; wedi'i baratoi gan Fwrdd Gwasanaethau Lleol. Gweler 'Cynlluniau Llesiant Lleol', a fydd yn disodli Cynlluniau Integredig Sengl. |
Cynllun Mabwysiedig |
Cam olaf proses paratoi Cynllun Datblygu Lleol – pan ddaw'r Cynllun Datblygu Lleol yn Cynllun Datblygu statudol o dan y Ddeddf. |
Cynllun Morol |
Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru a baratowyd o dan Ddeddf Mynediad Morol ac Arfordirol 2009. |
Cynllun Llesiant Lleol |
O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, caiff Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus eu sefydlu ar gyfer pob ardal awdurdod lleol; bwriedir y bydd pob un yn paratoi Cynllun Llesiant i ddisodli'r Cynllun Integredig Sengl erbyn mis Ebrill 2018 (adran 39). |
Cytundeb Cyflenwi |
Dogfen sy'n cynnwys amserlen yr ACLl ar gyfer paratoi'r CDLl ynghyd â'i Gynllun Cynnwys Cymunedau, a gyflwynir i Lywodraeth Cymru er mwyn iddi gytuno arni. |
Cytundeb Adran 106 |
Gweler y Rhwymedigaethau Cynllunio. |
Dangosydd Cyd-destunol |
Dangosydd a ddefnyddir i fonitro newidiadau yn y cyd-destun lle mae'r cynllun yn cael ei roi ar waith neu ei baratoi. |
Datblygu Consensws |
Proses o gynnal deialog cynnar â grwpiau buddiant a dargedir er mwyn deall safbwyntiau perthnasol a chytuno ar gam gweithredu. |
Datblygiad Hirgul |
Estyniad llinellol i aneddiadau, gan gynnwys datblygu ffryntiad ar hyd ffyrdd dynesu, sy'n achosi i ddatblygiad ymwthio i gefn gwlad yn ddiangen. |
Datblygiad Mewnlenwi |
Datblygu bwlch bach rhwng adeiladu sy'n bodoli eisoes. Er mwyn ei ystyried yn ddatblygiad mewnlenwi, rhaid bod perthynas rhyngddo a maint a chymeriad yr anheddiad penodol. |
Datganiad o Dir Cyffredin |
Diben y Datganiad o Dir Cyffredin yw sefydlu prif feysydd o gytundeb rhwng dau barti neu fwy ar fater penodol. |
Defnydd Cymysg |
Datblygiadau neu gynigion sy'n cynnwys mwy nag un math o ddefnydd ar yr un safle. |
Dogfennau Cyn-adneuo |
Mae'r rhain yn cynnwys y weledigaeth, yr opsiynau strategol, y strategaeth ddewisol, y polisïau allweddol, yr adroddiad ar yr arfarniad o gynaliadwyedd, y gofrestr o safleoedd ymgeisiol, a'r adroddiad adolygu (os yw'n briodol). |
Dogfennau wedi'u Hadneuo |
Mae'r rhain yn cynnwys y Cynllun Datblygu Lleol wedi'i adneuo, yr adroddiad ar yr arfarniad o gynaliadwyedd, yr adroddiad ymgynghori cychwynnol, y gofrestr o safleoedd ymgeisiol, yr adroddiad adolygu (os yw'n berthnasol), ac unrhyw ddogfennau cefnogi perthnasol. |
Dwysedd |
Yn achos datblygiad preswyl, mesuriad o naill ai nifer yr ystafelloedd cyfanheddol i bob hectar neu nifer yr anheddau i bob hectar. |
Dyraniadau Safle Benodol |
Dyraniadau safleoedd (cynigion) ar gyfer defnydd penodol neu gymysg neu ddatblygiad. Bydd polisïau'n nodi unrhyw ofynion penodol ar gyfer cynigion unigol. Caiff y dyraniadau eu dangos ar fap cynigion y CDLl. |
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol |
Gwneir darpariaeth dan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 er mwyn paratoi Fframwaith Datblygu Cenedlaethol. Wedi'i baratoi gan Lywodraeth Cymru, bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn gosod fframwaith defnydd tir 20 mlynedd i Gymru a bydd yn disodli Cynllun Gofodol presennol Cymru. |
Gwarchodfa Natur Genedlaethol |
Ardal a ddynodwyd oherwydd ei bwysigrwydd cenedlaethol yn nhermau cadwraeth natur ac a reolir trwy gytundebau gwarchodfa natur ar y cyd gyda thirfeddianwyr ac ati. |
Gwaelodlin/ Gwaelodlin Cyn Newid |
Disgrifiad o gyflwr presennol ardal er mwyn mesur newid yn ei erbyn. |
Lliniaru |
Mesurau i osgoi, lleihau neu wneud yn iawn am effeithiau negyddol sylweddol. |
Mabwysiedig |
Cadarnhad derfynol bod y cynllun datblygu yn bolisi cynllunio defnydd tir gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. |
Maes Chwarae |
Tir â maes neu feysydd ar gyfer gemau. |
Man Agored |
Yr holl fannau o werth cyhoeddus, gan gynnwys ardaloedd cyhoeddus a dirweddwyd, caeau chwarae, parciau a mannau chwarae, ac nid tir yn unig, ond hefyd mannau â dŵr fel afonydd, camlesi, llynnoedd a chronfeydd sy'n gallu cynnig cyfleoedd ar gyfer chwaraeon a hamdden neu'n gallu bod yn amwynder gweledol ac yn hafan i fywyd gwyllt. |
Nodyn Cyngor Technegol (TAN) |
Dogfen wedi'i seilio ar bwnc penodol a gyhoeddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i atodi Polisi Cynllunio Cymru. |
Partneriaid |
Adrannau awdurdodau lleol/parciau cenedlaethol a chyrff statudol eraill lle bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn helpu i gyflwyno rhai o nodau eu strategaethau. Efallai y disgwylir i bartneriaid gyfrannu at ffurfio rhannau perthnasol o'r Cynllun Datblygu Lleol. |
Polisi Cynllunio Cymru |
Mae Polisi Cynllunio Cymru'n nodi polisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer cynllunio defnydd tir. Caiff ei atodi gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol. Rhoddir cyngor gweithdrefnol trwy gylchlythyrau a llythyrau egluro polisi. |
Polisïau Penodol |
Cyfres o bolisïau sy'n seiliedig ar feini prawf a fydd yn sicrhau bod pob datblygiad yn yr ardal yn bodloni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y Strategaeth. |
Ramsar |
Safle gwlyptir o bwysigrwydd rhyngwladol i gadwraeth natur. Awdurdodir y dynodiad gan Gonfensiwn Ramsar 1971, trwy'r hwn y bydd Llywodraethau Ewropeaidd sy'n ymrwymo iddo yn addo gwarchod ardaloedd o'r fath. |
Rhanddeiliaid |
Buddiannau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan y Cynllun Datblygu Lleol (a/neu Asesiad Amgylcheddol Strategol) – cymryd rhan drwy gyrff cynrychiolaethol yn bennaf. |
Rhwymedigaeth Gynllunio |
Cytundeb cyfreithiol rhwng ymgeisydd a'r awdurdod cynllunio lleol i sicrhau bod datblygiad yn cael ei gyflawni mewn ffordd benodol. Cyfeirir ati hefyd fel Cytundeb Adran 106. |
Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Caiff Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig eu pennu gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan Ddeddfwriaeth i warchod planhigion ac anifeiliaid a nodweddion daearegol neu ffisiograffigol o ddiddordeb arbennig. |
Sail Dystiolaeth |
Dehongli data gwaelodlin neu wybodaeth/ddata arall i ddarparu'r sail ar gyfer polisi cynllunio. |
Safle Ymgeisiol |
Safleoedd ymgeisiol yw'r rhai a enwebir gan unrhyw un i'w hystyried gan yr awdurdod cynllunio lleol mewn Cynllun Datblygu Lleol newydd. |
Seilwaith |
Yn cynnwys gwasanaethau fel ffyrdd, cyfleusterau trafnidiaeth, cyflenwadau dŵr, carthffosiaeth a chyfleusterau trin dŵr gwastraff cysylltiedig, cyfleusterau rheoli gwastraff, cyflenwadau ynni (trydan a nwy) a rhwydweithiau dosbarthu a'r seilwaith telathrebu. Mae'r seilwaith meddal yn cynnwys TGCh a thelathrebu. |
Strategaeth Gymunedol Integredig |
Yn ofynnol gan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Rhan 2: Adrannau 37–46) gyda'r nod o wella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd yn eu hardaloedd. Fe'i cyfeirir ato hefyd fel 'Cynllun Integredig Sengl'. |
Tai Fforddiadwy |
Tai a ddarperir i'r rhai nad yw'r farchnad agored yn
diwallu eu hanghenion. Dylai tai fforddiadwy: |
Tai'r Farchnad Agored |
Tai preifat i'w rhentu neu werthu lle pennir y pris yn y farchnad agored. (TAN2: Rhestr Termau) |
Terfynau Datblygu |
Cyfyngiad a nodir i ddiffinio ardal o anheddiad lle mae datblygu'n dderbyniol mewn egwyddor yn unol ag ystyriaeth fanwl o ddarpariaeth amgylcheddol, amwynder, mynediad, gwasanaeth cyhoeddus ac ystyriaethau eraill. Ardaloedd y tu allan i'r cyfyngiadau a ystyrir fel cefn gwlad agored. |
Tir a Ddatblygwyd o'r Blaen |
Tir ac arno strwythur parhaol, neu y bu strwythur parhaol arno (ac eithrio adeiladau amaethyddol neu goedwigaeth) ynghyd â seilwaith wyneb sefydlog. Gweler hefyd y Diffiniad o Dir a ddatblygwyd o'r blaen ym Mholisi Cynllunio Cymru, Argraffiad 9. |
Tir Cyflogaeth |
Tir a ddefnyddir at ddibenion cyflogaeth gan un neu ragor o'r canlynol: swyddfeydd, gweithgynhyrchu, ymchwil a datblygu, storio a dosbarthu (gweler hefyd Dosbarthiadau Defnydd). |
Ymgysylltu |
Proses sy'n annog trafodaethau sylweddol mewn cymuned. Ymgais rhagweithiol i gynnwys unrhyw grŵp penodol o bobl / adran o'r gymuned. |
Ymgynghoriad |
Proses ffurfiol lle gwahoddir sylwadau ar bwnc arbennig neu gasgliad o bynciau neu ddogfen ddrafft. |
Ymrwymiadau |
Tir nas datblygwyd â chaniatâd cynllunio cyfredol neu dir sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. |