Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 8 Chwefror 2019

Rhagair

Fel yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol am gynllunio strategol, rwy'n falch o gyflwyno'r fersiwn ddrafft o'r Strategaeth Cyd-adneuo ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin er mwyn ymgynghori â'r cyhoedd, ynghyd ag Adroddiad Cychwynnol yr Arfarniad Cynaliadwyedd / Asesiad Amgylcheddol Strategol a'r Adroddiad Sgrinio Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.

Ers i'r Cyngor benderfynu cychwyn ar y gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig, rydym wedi bod yn gwrando ar farn amrywiaeth o randdeiliaid a phartneriaid. Er fy mod yn parhau'n ffyddiog fod rhannau o'r Cynllun Datblygu Lleol Presennol / Mabwysiedig yn llwyddiannus, mae'n bwysig deall yr hyn sydd angen ei ailystyried eto fel rhan o'r broses adolygu.

Bu pwyslais cryf ar feithrin ymgysylltu a chonsensws yn unol â'r Cytundeb Cyflawni'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig. Mae hyn yn cynnwys cyfarfodydd y Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol, Seminar y Cynghorau Tref a Chymuned ac ymgynghoriad ar-lein.

Rwy'n falch iawn ein bod wedi sefydlu'r Fforwm Datblygwyr, sydd wedi rhoi llwyfan i drafod ag amrywiaeth o ddatblygwyr ac adeiladwyr tai. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi rhoi cymorth gwerthfawr o ran casglu tystiolaeth, adborth ar yr ymgynghoriad ac wedi cymryd rhan yn y broses o lunio'r cynllun hyd yn hyn.

Er ein bod yn ystyried amrywiaeth o raglenni, polisïau a chynlluniau, mae'r fersiwn ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo yn gam cyntaf pwysig o ran cytuno ar fodd lleol ac unigryw o lywio'r ffordd y defnyddir tir yn y dyfodol yn ein Sir hyd at 2033. Felly, mae'r Cynllun yn ystyried nodweddion a rhinweddau unigryw ein Sir ac rwy'n falch iawn o nodi ei fod yn cyd-fynd â Chynllun Llesiant Sir Gaerfyrddin a dogfennau strategol eraill.

O ran twf, mae'r fersiwn ddrafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo yn ceisio cydnabod amrywiaeth ein Sir a'i chymunedau, wrth gydnabod yr angen am dwf cytbwys. Mae'n ceisio darparu 9,887 o gartrefi ac yn rhoi cyfle i greu o leiaf 5,295 o swyddi ledled y Sir erbyn 2033. Y bwriad yw gwneud hyn drwy fframwaith aneddiadau, sy'n seiliedig ar chwe 'chlwstwr' pendant mewn hierarchaeth o aneddiadau. Mae hyn yn caniatáu i'r twf gael ei ddosbarthu mewn modd gynaliadwy ac ymatebol.

Bellach mae fy meddwl yn troi at yr ymgynghoriad ffurfiol a byddwn yn annog cynifer ohonoch â phosibl i gyflwyno sylwadau. Bydd yr holl sylwadau a gyflwynir yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cyngor llawn. Er ei fod yn gynnar yn y broses, mae'n bwysig ein bod yn clywed eich holl safbwyntiau os ydym am gyflawni ein nod o lunio cynllun defnydd tir a all helpu i wireddu ein gweledigaeth am "Un Sir Gâr" - boed hynny yn ardaloedd trefol neu wledig ein Sir.

Mair Stephens

Y Cynghorydd Mair Stephens

Dirprwy Arweinydd y Cyngor

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig