Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 8 Chwefror 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

10. Strategaeth Newydd

10.1 Mae'r strategaeth yn anelu at gyflawni'r weledigaeth a'r amcanion strategol a mynd i'r afael â materion allweddol a nodir o fewn y Strategaeth a Ffefrir hon. Bydd y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, wrth iddo fynd rhagddo i gael ei fabwysiadu, yn amlinellu sut y bydd y newidiadau o fewn Sir Gaerfyrddin dros gyfnod y cynllun yn cael eu rheoli a chynllunio ar eu cyfer. Drwy ei bolisïau a'i gynigion, bydd y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn ceisio darparu ar gyfer y newidiadau hyn a'r lefelau perthynol o dwf, a nodi lle y bydd twf o'r fath yn dderbyniol. Caiff hyn ei gyflawni drwy nodi safleoedd ar gyfer defnyddiau tir penodol wrth warchod a gwella buddiannau amgylcheddol, tirwedd ac adeiladau hanesyddol cyfoethog y sir. Bydd yr elfennau manwl hyn yn cael eu cynnwys o fewn y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo.

10.2 Mae paratoi'r Strategaeth a Ffefrir hon wedi'i lywio gan arweiniad cenedlaethol a rhanbarthol, gyda chynlluniau a strategaethau ar bob lefel yn cyfrannu, lle y bo'n briodol, at ddatblygiad sail dystiolaeth a gwybodaeth ddatblygol. Mae ymgysylltu hefyd wedi chwarae rhan ganolog o ran paratoi'r Strategaeth a Ffefrir hon (gan gynnwys llunio materion a'r opsiynau strategol).

Dull Gweithredu Gofodol Newydd

10.3 Mae Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018 - 2033 yn cydnabod yr amrywiaeth sy'n bodoli o fewn y sir a'r angen i adlewyrchu hyn yn ei ddull gweithredu strategol. Mae'r Strategaeth Ofodol yn nodi hierarchaeth aneddiadau ond mae'n ei gosod o fewn fframwaith aneddiadau wedi'i grwpio o dan chwe chlwstwr. Bydd y rhain, a dosbarthiad twf, yn canolbwyntio ar egwyddorion cynaliadwy ond byddant hefyd yn cydnabod rôl, swyddogaeth a chyfraniad aneddiadau o fewn clystyrau penodol, wrth gydnabod a diogelu a gwella'r agweddau ac amgylcheddau gwerthfawr hynny.

10.4 Bydd pob clwstwr yn adlewyrchu'r amrywiaeth sy'n bodoli rhyngddo a'i aneddiadau priodol. Bydd twf yn cael ei ddosbarthu yn unol â chanolfannau a nodwyd wrth gydnabod rôl gyfannol twf ac amrywiaeth leol ar gyfer cyflawni i Sir Gaerfyrddin.

10.5 Mae'r ardaloedd twf strategol yn adlewyrchu'r ffurf drefol gyfredol yn Llanelli, Rhydaman / Cross Hands a Chaerfyrddin gyda'u cymwysterau cynaliadwyedd priodol a gyrwyr economaidd cryf o safbwynt galw ar y farchnad a chyflenwi. Mae'r tri hyn yn ffurfio rhan o'r chwe chlwstwr a, thra y byddant yn derbyn cyfran briodol o'r twf a ragwelir, bydd dull gweithredu cytbwys i'r dosbarthiad.

10.6 Bydd ardaloedd eraill yn cynnwys ffocws ar dwf lleol ac arallgyfeiriad. Mae'r ardaloedd hyn yn rhai lle y bydd twf yn adlewyrchu'r gymuned wrth ddeall y disgwyliadau cyflawni ehangach sy'n gysylltiedig â llunio cynllun (e.e. polisi ac arweiniad cenedlaethol). Yn aml, drwy ymgorffori ardaloedd sy'n fwy gwledig o ran cymeriad, mae ardaloedd o'r fath yn chwarae rôl gyfannol, nid yn unig o ran bywyd bob dydd eu cymunedau, ond maent hefyd yn hanfodol i Sir Gaerfyrddin fywiog a llewyrchus.

10.7 Mae adfywio a chreu swyddi yn elfennau pwysig ar draws y sir. Bydd safleoedd a ddynodwyd a'r defnydd o bolisïau yn darparu fframwaith ar gyfer darparu cyfleoedd cyflogaeth a chreu swyddi. Bydd hyn yn ceisio darparu dull gweithredu cadarnhaol i helpu'r ardaloedd hyn i ddiwallu eu potensial llawn ac adeiladu ar y cyfleoedd o fewn holl gymunedau Sir Gaerfyrddin. Felly mae'r strategaeth wedi'i gwreiddio'n gadarn o fewn ethos "Un Sir Gâr" fel yr amlinellir yn y weledigaeth.

10.8 Bydd y cynllun yn defnyddio dyraniadau a chyfyngiadau datblygu lle y bo'n briodol, yn ogystal â defnyddio polisïau a meini prawf i sicrhau bod y datblygiad cywir yn y man cywir, yn ychwanegol at atal datblygiadau annerbyniol o fewn cymunedau Sir Gaerfyrddin.

10.9 Ar draws ardal y cynllun, bydd cyffredinedd polisïau, ond gallai fod amrywiadau penodol i ganiatáu ar gyfer dull gweithredu polisi ymatebol.

Twf Cyflawnadwy

10.10 Mae'r strategaeth newydd yn ceisio darparu twf cytbwys wedi'i ganoli ar ddiwallu anghenion y cymunedau a chyflenwi amcanion strategol ac adfywio'r cyngor a'r rhanbarth.

10.11 Bydd y Cynllun Datblygu Lleol hwn yn rhoi'r cyfle i gyflenwi 9,887 o gartrefi dros gyfnod y cynllun. Mae hyn yn cyfateb i 659 o gartrefi y flwyddyn o 2018 i 2033. Byddai hyn yn caniatáu ar gyfer darparu cartrefi newydd mewn ffordd gynaliadwy sy'n cefnogi dyheadau ein cymunedau ac yn darparu hyblygrwydd priodol i ymateb i amcanion tai fforddiadwy'r cyngor. Bydd yr agenda uchelgeisiol hon ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn caniatáu i'r cynllun adeiladu ar oddeutu'r 500 o gartrefi sy'n cael eu darparu y flwyddyn o dan y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiedir ar hyn o bryd.

10.12 Mae'r strategaeth newydd yn sicrhau bod digon o gyfle'n bodoli i fwyhau darpariaeth fforddiadwy i gefnogi anghenion gwledig a threfol, wrth ddarparu sail gref ar gyfer darparu darpariaeth marchnad dai gyflawnadwy.

10.13 Mae'r strategaeth newydd yn rhoi cyfle i wrthbwyso demograffeg y sir drwy gadw ac ymfudo oedolion iau i'r sir, a mynd i'r afael â rhai o'r problemau y gellid eu canfod o boblogaeth sy'n heneiddio.

10.14 Bydd dull gweithredu o'r fath yn cael ei gefnogi gan amgylchedd economaidd cryf gyda chyflenwi isafswm o 5,295 o swyddi dros gyfnod y cynllun yn elfen bwysig ohono. Mae hyn yn adlewyrchu amcanion twf a chreu swyddi o fewn Strategaeth Adfywio'r cyngor, a thrwy Fargen Dinas Ranbarth Bae Abertawe.

10.15 At hynny, bydd cefnogi dull gweithredu cadarnhaol tuag at dwf o fewn Sir Gaerfyrddin yn darparu cyfle pellach i'r demograffig iau i fyw a gweithio o fewn y sir.

10.16 Drwy gyflenwi'r nifer o dai a nodir uchod, mae'r Strategaeth a Ffefrir hon yn cynnwys hyblygrwydd ychwanegol fel rhan o'i chyflenwi (ymgodiad) i sicrhau cyflawni twf cynaliadwy a goresgyn unrhyw broblemau cyflawnadwy annisgwyl posibl. Mae 6% o hyblygrwydd drwy 593 o gartrefi pellach wedi'i gynnwys. Mae hyn yn cyfateb i gyflenwad tai o 10,480 ac anheddau i gyflenwi'r 9,887 o gartrefi.

Datblygu Cynaliadwy, Llesiant a'r Newid yn yr Hinsawdd

10.17 Drwy gynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy ar gyfer Sir Gaerfyrddin, mae'r Strategaeth a Ffefrir hon yn ceisio adlewyrchu a hyrwyddo egwyddorion datblygu cynaliadwy ac ymgorffori'r dyletswyddau sy'n deillio o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015. Mae gan y system gynllunio gefndir hirsefydlog o hyrwyddo datblygu cynaliadwy ac, o ran hynny, bydd y Strategaeth a Ffefrir hon a'r Cynllun Datblygu Lleol wrth iddo fynd ati i gael ei fabwysiadu yn ceisio gwella llesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cymunedau. Bydd hefyd fel rhan o'r agenda hon yn chwarae ei ran mewn mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, gan adlewyrchu cyfraniad y system gynllunio yn gyfan gwbl.

10.18 Mae'r Cynllun Datblygu Lleol yn ceisio rhoi fframwaith polisi ar waith sy'n mynd i'r afael ag achosion ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd o fewn ein cymunedau drwy fabwysiadu egwyddorion a datblygu cynaliadwy.

10.19 Bydd y Cynllun Datblygu Lleol yn hyrwyddo egwyddorion cynaliadwyedd drwy wneud y canlynol:

  • Diogelu a gwella bioamrywiaeth, trefweddau a thirweddau.
  • Lleihau'r galw a'r defnydd o ynni drwy hwyluso cyflenwi adeiladau a chartrefi carbon niwtral, gan gynnwys hyrwyddo'r defnydd effeithlon o adnoddau, gan gynnwys cyfeirio datblygiad i dir a ddatblygwyd yn flaenorol, lle bynnag y bo'n bosibl.
  • Dosbarthu a lleoli datblygiad yn unol â'r fframwaith aneddiadau gyda golwg ar leihau dibyniaeth heb ei hangen ar geir modur preifat. Bydd yn hyrwyddo dewisiadau teithio amgen 'gwyrdd' a chynaliadwy, gan adeiladu ar ddatblygiadau mewn technoleg, ac yn hyrwyddo hygyrchedd dulliau teithio amgen.
  • Hyrwyddo rheoli gwastraff yn gynaliadwy.
  • Hyrwyddo rheoli dŵr yn gynaliadwy (gan gynnwys sicrhau cyflenwad cynaliadwy o adnoddau dŵr ac ansawdd dŵr, hyrwyddo dulliau draenio cynaliadwy a mynd i'r afael â phroblemau llifogydd). Mae hyn yn cynnwys lleihau bregusrwydd cymunedau drwy sicrhau nad yw gwaith datblygu yn cael ei leoli mewn ardaloedd mewn perygl o lifogydd.
  • Hyrwyddo gwella llesiant a chynhwysiant cymdeithasol drwy gefnogi cymunedau iach, hygyrch a chydlynol.
  • Cefnogi'r gwaith o ddatblygu economi wydn a hwyluso twf priodol yn y dyfodol.
  • Hyrwyddo a diogelu'r Gymraeg a'i diwylliant.
Strategaeth Newydd - Elfennau Allweddol

10.20 Mae elfennau allweddol y strategaeth fel a ganlyn:

  • Darparu ar gyfer 10,480 o gartrefi newydd er mwyn cyflenwi'r gofyniad o 9,887 o gartrefi.
  • Darparu cyfleoedd i gyflenwi isafswm o 5,295 o swyddi newydd yn y sir i gefnogi'r uchelgeisiau strategol ar gyfer adfywio economaidd a chyflogaeth o fewn y sir a'r rhanbarth.
  • Darparu digon o dir cyflogaeth i gefnogi twf economaidd a chreu swyddi.
  • Hyrwyddo fframwaith aneddiadau sy'n cefnogi cydlyniad rhwng aneddiadau a chymunedau.
  • Dosbarthu datblygiad yn unol â'r hierarchaeth aneddiadau, gan adlewyrchu nodweddion cynaliadwyedd a swyddogaethol yr aneddiadau, eu gwasanaethau a chyfleusterau yn ogystal â'u gallu i addasu ar gyfer twf.
  • Parchu a gwella rhinweddau amgylcheddol cyfoethog ac amrywiol y sir.
  • Adlewyrchu anghenion ardaloedd gwledig a'r economi wledig.
  • Cydnabod cymeriad diwylliannol ac ieithyddol y sir.
  • Cyfrannu at gyflenwi cyfleoedd ffisegol ac adfywio cymdeithasol a darparu ar gyfer amrediad amrywiol a chydlynol o aneddiadau a chymunedau.
  • Adlewyrchu'r amrywiaeth ar draws y sir, ac o fewn ei haneddiadau a chymunedau.
  • Darparu ar gyfer cyflogaeth drwy safleoedd a ddynodwyd a thrwy ddarpariaethau polisi ar draws y sir, gan gydnabod yr angen i gynnal a gwella economïau gwledig.
  • Canolbwyntio newidiadau manwerthu mewn canolfannau a sefydlwyd wrth ddarparu cyfleoedd ar gyfer darpariaeth drwy'r hierarchaeth mewn ffordd a fydd yn cynorthwyo o ran gwella hygyrchedd i wasanaethau a chyfleusterau a helpu i gyflenwi aneddiadau a chymunedau hyfyw, hunangynhaliol a chynaliadwy.
  • Cydnabod cyfraniad 'tir a ddatblygwyd yn flaenorol' a'i ddefnyddio fel y bo'n briodol wrth gydnabod cyd-destun gwledig yn bennaf y sir.
  • Darparu cyfleoedd ar gyfer economi ymwelwyr y sir.
  • Gwarchod a gwella rhinweddau naturiol, hanesyddol a chadwraeth adeiladau Sir Gaerfyrddin a'i thirweddau o werth uchel.
  • Cyfrannu at rwydwaith trafnidiaeth integredig o fewn y sir a'r rhanbarth. Yn ceisio gwneud defnydd effeithlon o'r rhwydwaith heolydd a rheilffyrdd presennol drwy ystyried y gall y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus roi'r cyfle ar gyfer atgyfnerthu a gwella'r gwasanaeth, gan felly gynnal a gwella hygyrchedd. Hyrwyddo cyfleoedd i ddefnyddio a chael mynediad at ddulliau trafnidiaeth amgen, gan gynnwys cerdded a beicio.

output

Ffigur 4

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig