Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 8 Chwefror 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

6. Nodi Materion

6.1 Mae angen i'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig fod yn strategol, yn gryno ac yn unigryw ar gyfer ein sir. Mae canolbwyntio ar y materion allweddol sy'n wynebu ein sir wedi'n helpu i gyflawni hyn. [10] Wrth baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, rydym wedi ceisio adolygu a diweddaru ein dealltwriaeth o'r materion perthnasol.

6.2 Cesglir y materion allweddol ynghyd o dan y nodau llesiant cenedlaethol. Golygai hyn fod y materion wedi'u fframio o fewn cyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.[11] Mae hyn yn sicrhau bod buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol wedi'u hymgorffori yn y broses o lunio'r cynllun.

6.3 Mae adroddiad cwmpasu'r arfarniad o gynaliadwyedd, yn ogystal â'r gwaith a wnaed gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel rhan o broses "Y Sir Gâr a Garem",[12] wedi llywio'r materion. Mae Cynllun Llesiant Sir Gâr 2018–2023[13] hefyd wedi bod yn agwedd allweddol o'r gwaith hwn.

6.4 Rydym wedi ymgysylltu ac ymchwilio'n helaeth fel rhan o'r sgwrs ynghylch creu materion. Mae hyn yn cynnwys aelodau etholedig, cynghorau tref a chymuned, y Fforwm Rhanddeiliaid Allweddol, adolygiad o bolisi, adroddiad adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol, amcanion/strategaethau corfforaethol, arolygon ar-lein a phroses yr arfarniad o gynaliadwyedd.[14]

6.5 Rydym yn deall lle'r ydym ar hyn o bryd fel sir a lle'r ydym i gyd am gyrraedd. Mae hyn wedi'n caniatáu i gydsynio ynghylch y materion hynny y gall cynllun gofodol / defnydd tir geisio'u hateb hyd at 2033.

6.6 Mae'r 33 mater crynodeb fel a ganlyn. Nodir manylion pellach o fewn y Papur Pwnc – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion:[15]

Sir Gâr Lewyrchus
  1. Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £1.3 biliwn, gyda phrosiectau a nodwyd yn Llanelli a Chaerfyrddin.
  2. Egni a bywiogrwydd amrywiol yng nghanol ein trefi manwerthu.
  3. Mae angen twf priodol mewn ardaloedd gwledig (gan gynnwys cyfleoedd cyflogaeth).
  4. Economi ymwelwyr fywiog â'r potensial i dyfu.
Sir Gâr Gydnerth
  1. Perygl llifogydd a'r heriau a gyflwynir gan y newid yn yr hinsawdd.
  2. Dynodiadau bioamrywiaeth sy'n amrywio o'r lefel ryngwladol i'r lefel leol.
  3. Ôl-troed ecolegol sy'n fwy na lefelau cynaliadwy ar hyn o bryd.
  4. Rhinweddau tirwedd neu drefwedd cyfoethog.
Sir Gâr Iachach
  1. Poblogaeth sy'n heneiddio.
  2. Adroddwyd bod 60% o oedolion dros bwysau neu'n ordew.
  3. Mae bywyd cymunedol, addysg a gwasanaethau cyhoeddus yn dynodi llesiant mewn ardaloedd gwledig.
  4. Mae harddwch, llonyddwch a thawelwch, gofodau gwyrdd agored ac awyr iach hefyd yn cyfrannu at hapusrwydd mewn ardaloedd gwledig.
  5. Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer yng Nghaerfyrddin, Llanelli a Llandeilo.
  6. "Ein newid GIG mawr" ac unrhyw oblygiadau.
Sir Gâr sy'n Fwy Cyfartal
  1. Amddifadedd gwledig a threfol.
  2. Mae mwy nag un ym mhob tri o gartrefi yn byw mewn tlodi.
  3. Targed y cyngor o ddarparu 1,000 o gartrefi fforddiadwy.
Sir Gâr o Gymunedau Cydlynus
  1. Diffyg cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu mewn rhai canolfannau gwasanaeth a chanolfannau gwasanaeth lleol.
  2. Diffyg cyflenwad pum mlynedd mewn tir ar gyfer tai a'r angen am gymysgedd o dai.
  3. Mae newidiadau mewn rhagolygon ar gyfer y boblogaeth ac aelwydydd yn dangos bod angen llai o gartrefi hyd at 2033.
  4. Nid yw safleoedd tai yn cael eu dwyn ymlaen er mwyn adeiladu arnynt.
  5. Sir sy'n bennaf wledig lle mae 60% o'r boblogaeth yn byw mewn ardaloedd gwledig.
  6. Sicrhau bod gan y seilwaith y gallu i gefnogi datblygiad, gan gynnwys priffyrdd.
  7. Yr angen i hybu a chael mynediad at ffyrdd amgen o drafnidiaeth.
  8. Diffyg cyfleoedd cyflogaeth, band eang a gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig.
  9. Y mae angen gwerthfawrogi'r ymdeimlad o le – sir gyferbyniol.
Sir Gâr â Diwylliant Bywiog Lle mae'r Gymraeg yn Ffynnu
  1. Adeiladau segur ar draws y sir.
  2. Yr angen i fesur effaith datblygu ar y Gymraeg.
  3. Yr angen am dai fforddiadwy o fewn ein cymunedau er mwyn cadw ein teuluoedd ifanc.
  4. Safleoedd archeolegol a nodweddion hanesyddol pwysig.
  5. Y nifer mwyaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Sir Gâr sy'n Gyfrifol yn Fyd-eang
  1. Ystyriaethau cenedlaethol a rhanbarthol sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys Brexit, y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, Cynlluniau Datblygu Strategol a'r adolygiad o Bolisi Cynllunio Cymru (Rhifyn 10).
  2. Yr angen i hyrwyddo effeithlonrwydd ynni mewn datblygiadau arfaethedig a phresennol.


[10] Llawlyfr ar Gynlluniau Datblygu Lleol Llywodraeth Cymru – Ail Argraffiad, Awst 2015, Adran 6.1.1

[11] Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

[13] http://www.ysirgaragarem.cymru/media/8332/cynllun-llesiant-sir-gar-terfynol-mai-2018.pdf

[14] Mae gwybodaeth fanwl, gan gynnwys yr ymgysylltu a wnaed, wedi'i nodi yn y Papur Pwnc – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion.

[15] Nodir manylion manwl o fewn y Papur Pwnc – Materion, Gweledigaeth ac Amcanion.

Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig