Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 8 Chwefror 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

2. Beth yw'r Strategaeth a Ffefrir?

2.1 Mae'r Strategaeth a Ffefrir yn rhan o set o ddogfennau y mae'n ofynnol ein bod yn eu paratoi fel rhan o'r broses o gynhyrchu'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Mae'n cynrychioli cyfnod cynnar ond pwysig wrth baratoi'r cynllun ac mae'n dilyn cyhoeddiad y Cytundeb Cyflawni, fel y'i cymeradwyir gan Lywodraeth Cymru ar 28 Mehefin 2018.[3]

2.2 Diben y Strategaeth a Ffefrir hon yw gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer Sir Gaerfyrddin (heb gynnwys yr ardal honno sy'n gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) a'r amcanion strategol a pholisïau defnydd tir strategol er mwyn cyflawni'r weledigaeth honno.

2.3 Bydd yn darparu'r cyfeiriad strategol ar gyfer datblygu a defnyddio tir hyd at 2033. Y mae'r strategaeth hefyd yn dweud wrthym faint o ddatblygu sydd ei angen a ble y mae'n debygol o ddigwydd yn gyffredinol. Fodd bynnag, nid y Cynllun Datblygu Lleol llawn yw'r Strategaeth a Ffefrir hon; yn hytrach, mae'n nodi egwyddorion strategol eang ar gyfer datblygu yn ein hardal. Enw'r cynllun llawn yw'r Cynllun Datblygu Lleol Adneuo a bydd yn cynnwys polisïau manwl a phenodol yn ogystal â mapiau o aneddiadau, terfynau datblygu, a dyraniadau ar gyfer safleoedd penodol (safleoedd tai) ac ati.

output

Ffigur 1

2.4 Mae gwybodaeth bellach ynghylch camau paratoi'r Cynllun Datblygu Lleol ar gael o fewn y Cytundeb Cyflawni neu ar dudalennau gwe'r cyngor.

2.5 Dylid darllen ac ystyried y Strategaeth a Ffefrir hon fel cyfanwaith, gan ystyried darpariaethau Polisi Cynllunio Cymru a'r Nodiadau Cyngor Technegol perthnasol.


Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig