Strategaeth a Ffefrir

Daeth i ben ar 8 Chwefror 2019
Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.

3. Beth sydd yn y Strategaeth a Ffefrir?

3.1 Mae fformat a strwythur y Strategaeth a Ffefrir wedi ceisio adlewyrchu elfennau craidd cynaliadwyedd, ynghyd â'r pedwar amcan llesiant sydd wedi'u cynnwys o fewn Cynllun Llesiant Sir Gâr.[4] Bydd y polisïau strategol yn dilyn y strwythur hwn, gan groesgyfeirio at yr amcanion perthnasol yn y cynllun, yn ogystal â'r nodau llesiant perthnasol.

3.2 Bydd y Strategaeth a Ffefrir Ddrafft ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, gyda'r nod o gysylltu â chymunedau, y cyhoedd, partneriaid, datblygwyr a grwpiau buddiant. NID yw'r canlynol wedi'u cynnwys o fewn y Strategaeth a Ffefrir:

  • Dyraniadau sy'n benodol i safleoedd neu derfynau datblygu / ffiniau aneddiadau, er enghraifft safleoedd tai neu gyflogaeth. Nodir y rhain yn y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo.
  • Polisïau cynllunio manwl neu benodol – polisïau ychwanegol a mwy penodol i gefnogi'r polisïau strategol. Cynhwysir y rhain yn y Cynllun Datblygu Lleol Adneuo.
  • Gwerthusiad manwl o'r safleoedd ymgeisiol a gyflwynwyd – mae'r gofrestr o safleoedd ymgeisiol ar gael i'w gweld fel y mae'r fethodoleg ar gyfer asesu safleoedd, y byddwn yn ei defnyddio er mwyn ystyried addasrwydd pob safle.

3.3 Mae Arfarniad o Gynaliadwyedd y Strategaeth a Ffefrir Ddrafft wedi'i gyhoeddi fel dogfen ar wahân ynghyd ag adroddiad sgrinio'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Mae'r ddwy ddogfen hyn ar gael ar gyfer ymgynghori a chroesawir sylwadau am eu cynnwys.


Am gyfarwyddiadau ar sut I ddefnyddio’r system ac I wneud sylwadau, gwelwch ein canllaw cymorth.
back to top Yn ôl i’r brig