Gwrthwynebu
Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin
ID sylw: 5311
Derbyniwyd: 14/04/2023
Ymatebydd: Mr Gerwyn Rhys
Cydymffurfio â’r gyfraith? Heb nodi
Cadarn? Heb nodi
Mae’r map yn dangos newid yn ffin y pentref ar hyd ffordd y B4310 (cyfeirnod safle AS2/139/002). Yn ôl y map mae ffin ddeheuol y pentref wedi symud ymhellach i’r De – lle’r oedd yn gorffen gydag Awelfryn mae’r map newydd yn cynnwys darn o’r cae o flaen Tŷ Cynheidre. Beth yw’r rheswm am hyn a beth allai’r goblygiadau fod o ran y math o ddatblygu a allai gael ei ganiatáu yma?
The map shows a change in the village boundary along the B4310 road (site ref. AS2/139/002). According to the map the southern boundary of the village has moved further South – where it ended with Awelfryn the new map includes a section of the field in front of Ty Cynheidre. What is the reason for this and what might the implications be for the type of development that might be allowed here?
Dim byd yn cael ei ddatgan
Nothing stated
Annwyl Syr/Fadam,
Parthed: Safle SuV20/h1 (tir ger fferm Llwyn Henri)
Ysgrifennaf i gofrestru fy ngwrthwynebiad llwyr i gynnwys Safle SuV20/h1 yng Nghynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018 – 2033. Roedd gwrthwynebiad chwyrn i’r safle hwn gan bobl y pentref nôl yn 2014. Bryd hynny cafodd y safle ei wrthod yn unfrydol gan Ymgynghorydd Cynllunio Annibynnol ac Arolygydd Cynllunio Annibynnol. Cafodd y safle hefyd ei wrthod gan Adain Blaen-gynllunio’r Cyngor ar ôl gwneud ‘asesiadau trylwyr’. Roedd y pryderon ynghylch y safle ar y pryd yn cynnwys y ffaith bod rhan o’r safle ar barth llifogydd a bod yna eisoes broblemau’n ymwneud â llif dŵr glaw ar y safle a chapasiti’r system garthffosiaeth. Nid yw’r problemau hyn wedi diflannu nac wedi newid. Po fwyaf o ddatblygu fydd yn digwydd yn y pentref, y mwyaf o straen fydd ar y seilwaith carthffosiaeth a dŵr glaw, sydd eisoes yn methu ymdopi. Yn 2021 cafodd carthion heb eu trin eu rhyddhau i afon Gwendraeth Fach 77 o weithiau, gan Dŵr Cymru, o’r bibell ym Mhontfaen – dim ond un enghraifft yw hyn. Mae’r safle ger Llwyn Henri yn aml yn ddirlawn ar ôl glaw trwm ac yn aml gwelir llynnoedd o ddŵr yn sefyll arno, ac mae dŵr hefyd yn llifo i lawr y ffordd fach sy’n mynd heibio i fynedfa Llwyn Henri (hen heol Gelli-ddu Fach) – byddai unrhyw ddatblygu ar y safle hwn yn golygu colli amsugfa ddŵr naturiol a gwerthfawr a byddai’n anochel yn arwain at waethygu problemau llifogydd a charthffosiaeth yn y pentref.
Yn ychwanegol, mae’r map yn dangos newid yn ffin y pentref ar hyd ffordd y B4310. Yn ôl y map mae ffin ddeheuol y pentref wedi symud ymhellach i’r De – lle’r oedd yn gorffen gydag Awelfryn mae’r map newydd yn cynnwys darn o’r cae o flaen Tŷ Cynheidre. Beth yw’r rheswm am hyn a beth allai’r goblygiadau fod o ran y math o ddatblygu a allai gael ei ganiatáu yma?
Yn gywir
Mae'r safle wedi'i gynnwys o fewn terfynau datblygu er mwyn caniatáu ar gyfer y potensial ar gyfer datblygiadau ar raddfa fach. Byddai unrhyw gynigion gan gynnwys eu maint a'u dyluniad yn fater i'w ystyried yn llawn yn y cam cais cynllunio
The site has been included within development limits to allow for the potential to accommodate small scale development. Any proposals including its scale and design would be a matter to be fully considered at a planning application stage