Testun llawn:
Annwyl Syr/Fadam,
Parthed: Safle SuV20/h1 (tir ger fferm Llwyn Henri)
Ysgrifennaf i gofrestru fy ng...
Annwyl Syr/Fadam,
Parthed: Safle SuV20/h1 (tir ger fferm Llwyn Henri)
Ysgrifennaf i gofrestru fy ngwrthwynebiad llwyr i gynnwys Safle SuV20/h1 yng Nghynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018 – 2033. Roedd gwrthwynebiad chwyrn i’r safle hwn gan bobl y pentref nôl yn 2014. Bryd hynny cafodd y safle ei wrthod yn unfrydol gan Ymgynghorydd Cynllunio Annibynnol ac Arolygydd Cynllunio Annibynnol. Cafodd y safle hefyd ei wrthod gan Adain Blaen-gynllunio’r Cyngor ar ôl gwneud ‘asesiadau trylwyr’. Roedd y pryderon ynghylch y safle ar y pryd yn cynnwys y ffaith bod rhan o’r safle ar barth llifogydd a bod yna eisoes broblemau’n ymwneud â llif dŵr glaw ar y safle a chapasiti’r system garthffosiaeth. Nid yw’r problemau hyn wedi diflannu nac wedi newid. Po fwyaf o ddatblygu fydd yn digwydd yn y pentref, y mwyaf o straen fydd ar y seilwaith carthffosiaeth a dŵr glaw, sydd eisoes yn methu ymdopi. Yn 2021 cafodd carthion heb eu trin eu rhyddhau i afon Gwendraeth Fach 77 o weithiau, gan Dŵr Cymru, o’r bibell ym Mhontfaen – dim ond un enghraifft yw hyn. Mae’r safle ger Llwyn Henri yn aml yn ddirlawn ar ôl glaw trwm ac yn aml gwelir llynnoedd o ddŵr yn sefyll arno, ac mae dŵr hefyd yn llifo i lawr y ffordd fach sy’n mynd heibio i fynedfa Llwyn Henri (hen heol Gelli-ddu Fach) – byddai unrhyw ddatblygu ar y safle hwn yn golygu colli amsugfa ddŵr naturiol a gwerthfawr a byddai’n anochel yn arwain at waethygu problemau llifogydd a charthffosiaeth yn y pentref.
Yn ychwanegol, mae’r map yn dangos newid yn ffin y pentref ar hyd ffordd y B4310. Yn ôl y map mae ffin ddeheuol y pentref wedi symud ymhellach i’r De – lle’r oedd yn gorffen gydag Awelfryn mae’r map newydd yn cynnwys darn o’r cae o flaen Tŷ Cynheidre. Beth yw’r rheswm am hyn a beth allai’r goblygiadau fod o ran y math o ddatblygu a allai gael ei ganiatáu yma?
Yn gywir
[dangos mwy]