Gwrthwynebu

Ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo Diwygiedig Sir Gaerfyrddin

ID sylw: 5429

Derbyniwyd: 14/04/2023

Ymatebydd: Mr Gerwyn Rhys

Cydymffurfio â’r gyfraith? Heb nodi

Cadarn? Heb nodi

Crynodeb o'r Gynrychiolaeth:

Ysgrifennaf i gofrestru fy ngwrthwynebiad llwyr i gynnwys Safle SuV20/h1 yng CDLl. Roedd gwrthwynebiad chwyrn i’r safle hwn gan bobl y pentref nôl yn 2014. Bryd hynny cafodd y safle ei wrthod yn unfrydol gan Ymgynghorydd Cynllunio Annibynnol ac Arolygydd Cynllunio Annibynnol. Cafodd y safle hefyd ei wrthod gan Adain Blaen-gynllunio’r Cyngor ar ôl gwneud ‘asesiadau trylwyr’. Roedd y pryderon ynghylch y safle ar y pryd yn cynnwys y ffaith bod rhan o’r safle ar barth llifogydd a bod yna eisoes broblemau’n ymwneud â llif dŵr glaw ar y safle a chapasiti’r system garthffosiaeth. Nid yw’r problemau hyn wedi diflannu nac wedi newid. Po fwyaf o ddatblygu fydd yn digwydd yn y pentref, y mwyaf o straen fydd ar y seilwaith carthffosiaeth a dŵr glaw, sydd eisoes yn methu ymdopi. Yn 2021 cafodd carthion heb eu trin eu rhyddhau i afon Gwendraeth Fach 77 o weithiau, gan Dŵr Cymru, o’r bibell ym Mhontfaen – dim ond un enghraifft yw hyn. Mae’r safle ger Llwyn Henri yn aml yn ddirlawn ar ôl glaw trwm ac yn aml gwelir llynnoedd o ddŵr yn sefyll arno, ac mae dŵr hefyd yn llifo i lawr y ffordd fach sy’n mynd heibio i fynedfa Llwyn Henri (hen heol Gelli-ddu Fach) – byddai unrhyw ddatblygu ar y safle hwn yn golygu colli amsugfa ddŵr naturiol a gwerthfawr a byddai’n anochel yn arwain at waethygu problemau llifogydd a charthffosiaeth yn y pentref.

I write to register my absolute opposition to the inclusion of the SuV20/h1 Site in the LDP. There was vehement opposition to this site from the people of the village back in 2014. At that time the site was unanimously rejected by an Independent Planning Consultant, an Independent Planning Inspector and the Forward Planning Section after 'thorough assessments' were made. Concerns about the site at the time included the fact that part of the site was on a flood zone and that there were already issues with rainwater flow at the site and sewerage system capacity. These problems have not gone away or changed. The more development takes place in the village, the more strain there will be on the sewerage and rainwater infrastructure, which is already unable to cope. In 2021 untreated sewage was discharged into the River Gwendraeth Fach 77 times, by Welsh Water, from the pipeline at Pontfaen – this is just one example. The site near Llwyn Henri is often devastated after heavy rains and lakes of water are often seen standing on it, and water also flows down the minor road passing the entrance to Llwyn Henri (the former Gelli-ddu Fach road) – any development on this site would mean the loss of a valuable natural water absorber and would inevitably lead to exacerbation of flooding and sewerage problems in the village.

Newid wedi’i awgrymu gan ymatebydd:

Tynnu oddi ar y cynllun.

Remove from the Plan.

Testun llawn:

Annwyl Syr/Fadam,
Parthed: Safle SuV20/h1 (tir ger fferm Llwyn Henri)
Ysgrifennaf i gofrestru fy ngwrthwynebiad llwyr i gynnwys Safle SuV20/h1 yng Nghynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Gaerfyrddin 2018 – 2033. Roedd gwrthwynebiad chwyrn i’r safle hwn gan bobl y pentref nôl yn 2014. Bryd hynny cafodd y safle ei wrthod yn unfrydol gan Ymgynghorydd Cynllunio Annibynnol ac Arolygydd Cynllunio Annibynnol. Cafodd y safle hefyd ei wrthod gan Adain Blaen-gynllunio’r Cyngor ar ôl gwneud ‘asesiadau trylwyr’. Roedd y pryderon ynghylch y safle ar y pryd yn cynnwys y ffaith bod rhan o’r safle ar barth llifogydd a bod yna eisoes broblemau’n ymwneud â llif dŵr glaw ar y safle a chapasiti’r system garthffosiaeth. Nid yw’r problemau hyn wedi diflannu nac wedi newid. Po fwyaf o ddatblygu fydd yn digwydd yn y pentref, y mwyaf o straen fydd ar y seilwaith carthffosiaeth a dŵr glaw, sydd eisoes yn methu ymdopi. Yn 2021 cafodd carthion heb eu trin eu rhyddhau i afon Gwendraeth Fach 77 o weithiau, gan Dŵr Cymru, o’r bibell ym Mhontfaen – dim ond un enghraifft yw hyn. Mae’r safle ger Llwyn Henri yn aml yn ddirlawn ar ôl glaw trwm ac yn aml gwelir llynnoedd o ddŵr yn sefyll arno, ac mae dŵr hefyd yn llifo i lawr y ffordd fach sy’n mynd heibio i fynedfa Llwyn Henri (hen heol Gelli-ddu Fach) – byddai unrhyw ddatblygu ar y safle hwn yn golygu colli amsugfa ddŵr naturiol a gwerthfawr a byddai’n anochel yn arwain at waethygu problemau llifogydd a charthffosiaeth yn y pentref.

Yn ychwanegol, mae’r map yn dangos newid yn ffin y pentref ar hyd ffordd y B4310. Yn ôl y map mae ffin ddeheuol y pentref wedi symud ymhellach i’r De – lle’r oedd yn gorffen gydag Awelfryn mae’r map newydd yn cynnwys darn o’r cae o flaen Tŷ Cynheidre. Beth yw’r rheswm am hyn a beth allai’r goblygiadau fod o ran y math o ddatblygu a allai gael ei ganiatáu yma?

Yn gywir

Atodiadau:


Ein hymateb:

Yn anghytuno, mae dyraniad y safle o fewn y CDLl at ddibenion preswyl wedi cael ei ystyried yn llawn drwy'r fethodoleg asesu safle. Fel rhan o'r broses asesu hon paratowyd pro fforma safle manwl.

Disagree, the allocation of the site within the LDP for residential purposes has been subject to full consideration through the site assessment methodology. As part of this assessment process a detailed site pro forma has been prepared.