Matters Arising Changes 2026
2. Ymgynghoriad
2.1Gellir gweld Atodlen y Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd a’r dogfennau ategol ar-lein ac mewn llyfrgelloedd yn ystod oriau agor arferol.
Mae dogfennau ymgynghori’r Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Atodlen y Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd (y ddogfen hon);
- Atodiad i’r Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ISA); a
- Atodiad i’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA).
2.2Dylid darllen y Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd ar y cyd â’r dogfennau canlynol:
- Pwyntiau Gweithredu Sesiynau Gwrandawiad y CDLl diwygiedig;
- Datganiad Ysgrifenedig yr Ail Adneuo o’r CDLl;
- Mapiau Cynigion y CDLl Adneuo; a
- Yr Adroddiad Safleoedd Ychwanegol.
2.3Rhaid i sylwadau ar y cam hwn o'r archwiliad o'r CDLl fod yn ymwneud â'r Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd yn unig. Ni dderbynnir sylwadau sy'n ceisio ychwanegu at sylwadau blaenorol a wnaed yn yr Ail Gam Adneuo neu unrhyw wrthwynebiadau newydd i elfennau eraill o'r Cynllun. Rhaid i bob sylw nodi'r Newid yn sgil Materion a Godwyd neu'r ddogfen ategol y mae'n ymwneud â hi (gan gynnwys rhifau cyfeirnod lle bo hynny'n berthnasol) a nodi'n glir a yw'r Newid yn sgil Materion a Godwyd yn cael ei ategu neu ei wrthwynebu. Rhaid i bob sylw hefyd gael ei ategu gan esboniad a rhesymiad priodol, gan gynnwys sut y dylid newid y Cynllun i'w wneud yn gadarn (os yn berthnasol).
2.4Bydd yr ymgynghoriad ar y Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd yn digwydd dros gyfnod o 6 wythnos. Mae'r cyfnod ymgynghori yn dechrau ar 11/05/2026 ac yn dod i ben ar 26/06/2026 (11.59pm). Gellir gwneud sylwadau ar-lein neu drwy lawrlwytho'r ffurflen sylwadau (dogfen Word) ac anfon y ffurflen wedi'i chwblhau drwy e-bost i blaen.gynllunio@sirgar.gov.uk neu drwy bostio copi caled i'r cyfeiriad isod: Polisi Strategol a Chreu Lleoedd, Neuadd y Sir, Caerfyrddin SA31 1JP.
2.5Caiff sylwadau a wneir yn briodol ar y Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd eu hanfon ymlaen at yr Arolygwyr i’w hystyried. Caiff y sylwadau hyn eu hystyried gan yr Arolygwyr wrth ddrafftio’r Adroddiad ysgrifenedig ar Archwiliad y CDLl diwygiedig. Caiff sylwadau ac enwau’r sawl sy’n cyflwyno sylwadau eu cyhoeddi ond bydd gwybodaeth bersonol bellach yn cael ei dileu. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynghylch yr ymgynghoriad hwn at y tîm Polisi Strategol a Llunio Lleoedd ar 01267 228818 neu blaen.gynllunio@sirgar.gov.uk. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â'r Archwiliad o'r CDLl at Swyddog y Rhaglen, Corinne Sloley ar GCSloley@sirgar.gov.uk