Matters Arising Changes 2026
1.1Mae Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig (CDLl diwygiedig) Sir Gaerfyrddin 2018-2033 ar hyn o bryd yn destun Archwiliad Cyhoeddus. Mae'r Cyngor wedi llunio Atodlen Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd (MACs) yn bennaf o ganlyniad i Bwyntiau Gweithredu yn deillio o Sesiynau Gwrandawiad yr Archwiliad a gynhaliwyd ym mis Hydref a Thachwedd 2024, a Medi 2025. Mae angen y newidiadau hyn i wneud y Cynllun yn gadarn. Cytunwyd ar yr holl newidiadau hyn yn sgil materion a godwyd gyda'r Arolygydd. Caiff y newidiadau yn sgil materion a godwyd eu cyflwyno at ddibenion ymgynghori ac mae manylion y trefniadau ymgynghori i'w gweld isod. Dylid darllen y ddogfen hon ar y cyd â'r Pwyntiau Gweithredu wedi'u diweddaru sydd ar gael ar wefan yr Archwiliad.
Mathau o Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd
1.2Caiff y Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd eu rhannu'n ddau gategori:
- Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd (ar gyfer ymgynghori). Y Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd yw'r prif newidiadau arfaethedig i'r Cynllun. Maent yn cynnwys newidiadau o amrywiol sylwedd sy'n ymwneud â geiriad polisïau, testun esboniadol a'r map cynigion. Mae'r Cyngor o'r farn bod y newidiadau hyn yn angenrheidiol i ddangos bod y CDLl diwygiedig yn gadarn ac mae'r Arolygydd wedi'u cytuno arnynt. Mae'r newidiadau hyn yn defnyddio'r rhagddodiad 'MAC' ac maent wedi'u rhifo'n unigol.
- Mân Newidiadau Golygyddol (er gwybodaeth). Mae'r Mân Newidiadau Golygyddol (MECs) yn newidiadau i'r Cynllun nad ydynt yn effeithio ar ystyr na gweithrediad polisi. Maent yn bennaf yn cynnwys mân newidiadau argraffyddol, ail-rifo polisïau a newidiadau golygyddol cyffredinol eraill i'r datganiad ysgrifenedig. Cyflwynir y Mân Newidiadau Golygyddol er gwybodaeth yn unig a gellir dod o hyd iddynt fel dogfen ar wahân ar dudalen we Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd. Ni wahoddir sylwadau ar y MECs.
1.3Mae rhai o'r newidiadau a nodwyd yn yr atodlen yn golygu bod angen newidiadau mapio i'r Map Cynigion a'r Mapiau Mewnosod. Mae'r rhain yn dangos newidiadau i ffiniau, cywiriadau ffeithiol neu gynnwys gwybodaeth ychwanegol ar Fap Cynigion y CDLl a'r Mapiau Mewnosod. Dim ond newidiadau i fapiau sy'n ymwneud â materion cadernid sy'n cael eu cynnwys yn y Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd (a wahaniaethir fel Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd - Mapiau), caiff eraill, sy'n newidiadau ffeithiol, eu cynnwys yn yr atodlen Mân Newidiadau Golygyddol.
1.4Cyflwynir y ddau fath o newidiadau a nodir uchod mewn atodlenni ar wahân. Caiff y newidiadau eu cyflwyno ar ffurf tabl ac mae gan bob newid:
- rhif cyfeirnod unigryw;
- y rhan o'r CDLl diwygiedig y mae'n berthnasol iddi e.e. rhif polisi neu rif paragraff;
- y newid ei hun gyda'r testun y cynigir ei ddileu yn
goch â llinell drwyddoa'r testun newydd arfaethedig yn wyrdd; a - ffynhonnell neu darddiad y newid megis y cyfeirnod Pwynt Gweithredu ynghyd â'r rheswm dros y newid.
Mae'r atodlen Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd yn defnyddio cyfeiriadau safleoedd presennol fel y nodwyd yn yr Ail CDLl Diwygiedig Adneuo a'r dogfennau Ymgynghoriad Safleoedd Ychwanegol. Bydd y cyfeirnodau safleoedd yn cael eu hadolygu i sicrhau eu bod yn rhedeg mewn trefn ac yn gyson, gan ystyried dileu safleoedd a nodwyd fel ymrwymiadau a chynnwys safleoedd ychwanegol. At ddibenion ymgynghori ar y Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd, mae'r cyfeirnodau safle gwreiddiol yn cael eu cadw er hwylustod cyfeirio a defnyddioldeb y darllenydd.
1.5Efallai y bydd angen newidiadau canlyniadol pellach i destun y CDLl diwygiedig hefyd o ganlyniad i'r Newidiadau yn sgil Materion a Godwyd a nodwyd yn yr atodlen.