Object
Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions
Representation ID: 809
Received: 06/02/2019
Respondent: Mrs Janet Thomas
Representation Summary:
Nid yw datblygiad dwys yn addas i'r pentref sydd yn nodedig am ei adeiladau hanesyddol a'i gymeriad unigryw. Byddai mynediad o'r brif ffordd i wasanaethu dros ugain o dai yn agos i gilfan a ddefnyddir gan fysus a chan rieni wrth hebrwng eu plant i'r ysgol gyfagos yn beryglus iawn. Nid oes restr aros am dai yn Llanddarog ac mae'r ysgol gynradd yn llawn. Mae angen diogelu'r tir amaethyddol a'r cynefinoedd naturiol hyn nid codi tai dialwamdanynt fyddai yn andwyo natur y pentref a'r amgylchedd ac yn gosod pwysau ychwanegol ar y system garthffosiaeth a'r llif traffig.