Object

Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions

Representation ID: 805

Received: 06/02/2019

Respondent: Mrs Janet Thomas

Representation Summary:

Hoffwn ddatgan fy ngwrthwynebiad i ddatbygu'r tir hwn yn bennaf am nad oes restr aros am dai yn Llanddarog ac mae'r ysgol gynradd yn llawn. Byddai cynnydd ym mhoblogaeth y pentref yn rhoi gwasgfa ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus megis iechyd. Mae'r datblygiadau sydd ynghlwm â'r safleoedd ymgeisio yn Llanddarog ar raddfa drefol, yn afresymol ac yn hurt o ystyried yr effeithiau ar natur y pentref, yr amgylchedd, y llif traffig a'r gwasanaethau carthffosiaeth. Gwell fyddai gwella ansawdd trigolion Is-y-llan drwy ddarparu parc chwarae i'r plant ar y tir hwn.