Object

Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions

Representation ID: 435

Received: 03/02/2019

Respondent: Mrs Barbara Jones

Representation Summary:

Nid wyf yn gwrthwynebu'r safle hwn ei hun, mae hanner y safle eisoes wedi'i gynnwys o fewn y Cynllun Datblygu Lleol presennol ac yn destun cais cynllunio cyfredol W/38125. Rwyf innau a mwyafrif trigolion Llan-gain yn gwrthwynebu defnyddio Dôl-y-dderwen fel mynedfa i'r safle. Mae'n safle sylweddol a byddai'r traffig ychwanegol yn achosi dirywiad difrifol yn amodau byw trigolion Dôl-y-dderwen oherwydd natur gyfyng y ffordd bresennol. Mae ateb cyfleus ar gael, sef gosod amod cynllunio I'r datblygwr orfod ehangu Heol-y-llan, sy'n arwain yn uniongyrchol at y safle o'r B4312, yn fynedfa iddo. Rhowch les trigolion o flaen elw datblygwyr.