Object

Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions

Representation ID: 2836

Received: 08/02/2019

Respondent: Norah Heseltine

Representation Summary:

Rwy'n byw gyferbyn a mynediad y safle mewn golwg, ac wedi bod yno ers dros hanner can mlynedd. O'r llofft edrychaf allan ar gaeau gwyrdd, ac mi fydde'n ofnadwy I edrych ar stad mawr o dai newydd fydde allan o dai newydd fydde allan o gymeriad yn y pentref. Mae'n achosi pryder ofnadwy I mi feddwl am y traffic fydde'n troi o flaen fy nhy, ac rwy'n siwr byddem yn cael tipyn o drafferth I groesi'r ffordd. Ar hyn o bryd, llwybyr cyhoeddus sydd o fy mlaen, rwy'n ei defnyddio fel nifer yn y pentref ac mae'n hwylys I berchnogin cwn. Mae'r llwybyr wedi bod yno ers rwy'n cofio ac mae'r bywyd gwyllt sydd y'w gweld ar hyd y llwybyr, yn adar ac yn flodau gwyllt yn bleser gweld, ac yn yr hedref, rwy'n aml caglu mwyar yn y cyffiniau. Os bydde heol yno yn hytrach na llwybyr mi fydde'n ymharu ac yn dileu y bywyd gwyllt fel mae'n sefyll, ac mi fydde cerdded ar hyd heol I ddod at y llwybyr yn beryglys I blant yn enwedig. Mae Ysgol Bro Brynach yn ffinio a'r safle, ac mi fydde yno beryglon I'r plant a'r rhieni. Bydde'r traffic a'r golau'n amharri arnaf ac mae pryder ofnadwy gennyf ynglyn a'r gwaith adeiledu a loriau trymion yn teithio drwy'r pentref ar hyd yr heol fechan.