Object
Safleoedd Ymgeisio a Gyflwynwyd / Candidate Site Submissions
Representation ID: 1309
Received: 07/02/2019
Respondent: Mr Gethin Thomas
Representation Summary:
Mi fyddai'r datblygiad yma yn creu mwy o drafnidiaeth ar sgwar y Capel
sydd yn barod yn drwm gan draffig ar wahanol gyfnodau o'r dydd. A ydych
wedi ystyried y problemau a geir yma yn sgil loriau o'r chwarel leol?Pan fo gwasanaethau amrywiol yn Y Capel mae llif y traffig yn ofid ac yn berygl.
Cymuned agos sydd yma ac mi fyddai datblygiad yn niweidiol.
A ydy isadeiledd yr ardal yn ddigonol i gwrdd a'r gofynion?
Beth fyddai effaith hyn ar yr iaith Gymraeg gan gofio hefyd am yr holl
ddatblygiad tai sydd o dan ystyriaeth ym mhentref cyfagos Drefach?